Page V
Y Rhagymadrodd.
Y Cymro hawddgar!
Y Llyfr bychan hwn a ddwyn ar gof iti dy Addunedau cyntaf, sef addunedau dy fedydd. Tros y rhain yr ydwyf yn dadleu. Mi a fernais mae anghenrhaid oedd i mi scrifennu attat ith siccrhau yn y gwirionedd presennol, Mae Duw yn ein bedydd yn ein tywys ger llaw y dyfroedd tawel, pechod yw i un awel dymestlog i chwythu ar∣nynt, ai cyffroi i fod yn ddyfroedd Mas∣sah a Moribah, yn ddyfroedd profedi∣gaeth a chynnen. Bedydd yw dy∣froedd meddiginiaethol y Gyssegr, pechod ydyw fod y cyfryw archollion yn ein plith y rhai nid yw rhinwedd y dyfroedd hyn yn eu jachau.
Y mae pedair o farnau gwahanol ynghylch bedydd.
1. Rhai a wadant fedydd dwfr yn gwbl, megis y Sociniaid ar Quaquers, a rhai eraill. Yn erbyn y rhai'n mi a bro∣fais barhad bedydd dwfr, yn yr ail ben∣nod or llyfr hwn.