Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 18, 2024.

Pages

Page [unnumbered]

Page I

At y gwir barchedic Mr. Samuel Jones Gweinidog yr Efengyl, yn Shir For∣gannwg.

EIddo chwiyw'r llyfr hwn ar am∣ryw achosion, eithr yn enwedi∣gol o herwydd i chwi fy annog trwy daer ymbil i amddeffyn y gwirionedd presennol, sydd yn dal allan hawl plant bychain i ragorfreintiau y Cy∣fammod Newydd. Gwirionedd wedi ei oruwch-adeliadu ar sail y prophwydi ar Apostolion, yn gyfoed ar Cyfam∣mod o ras, yr hwn a wnaethpwyd âg Adda ac ai hâd. Gwirionedd a dra∣ddodwyd cyn y gyfraith, a amlygwyd tan y gyfraith, ac a siccrhawyd tan orchwyliaeth yr Efengyl.

Gwirionedd a dderbyniwyd yn gy∣ffredinol yn y brif eglwys Apostolaidd, ac a barhaodd yn ddiwrthyneb hyd yr oes ddiwethaf. Gwirionedd yr hwn yw sylfaen jechydwriaeth yr han∣ner mwyaf o eglwys Dduw Canys os yw plant y ffyddloniaid allan o Gy∣fammod, y maent heb Dduw ac heb* 1.1 obaith. Diammeu ŷdyw fod y Cyfam∣mod Cyntaf yn eu condemnio, o her∣wydd

Page II

euogrwydd y pechod gwreiddi∣ol, ac os heb hawl y maent ir Cyfam∣mod gras, y mae digofaint Duw yn aros arnynt. Eithr na atto Duw i ni dybied fod mwy o rinwedd yn yr A∣dda cyntaf i gondemnio, nac sydd yn yr ail-Adda i gadw: pe safasei yr A∣dda cyntaf, nyni a'n plant a safasem hefyd, a ydyw ffydd yn yr Ail Adda yn gwneuthur cyflwr ein plant ni yn waeth nac y buasei ef trwy ufudd-dod yr Adda cyntaf? Bu galar, ac wylo∣fain,* 1.2 ac ochain mawr yn Rama, Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oeddent? Onid oes a∣chos mwy i holl eglwysi Duw ar y ddaiar i alaru âg wylofain tost a chwe∣rw, pe bae un hanner o honynt gwe∣di eu torri oddiwrth Gyfammod je∣chydwriaeth? Eithr bendigedic fyddo y Duw anghyfnewidiol a geir-wir, y mae cadarn sail ei Gyfammod ef yn sefyll, ac ni all holl nerthodd y ty∣w llwch ei dadymchwelyd.

Sir, Fy ewyllys am dymuniad i oedd ar i chwi, yr hwn y mae gen∣nych dafod y dyscedic, i fod yn Ddad∣leuwr cryf tros y gweiniaid hynny y rhai ni allant ddadleu trostynt eu hu∣nain,

Page III

ond trwy wylofain a dagrau. Dy∣wedais,* 1.3 dyddiau a draethant, a lliaws o fly∣nyddoedd a ddyscant ddoethineb, wele, dis∣gwyliais wrth eich geiriau, clust-ymwran∣dewais am eich rhesymmau; eithr pan na allech chwi (o herwydd rhesymmau nad rhaid eu henwi) gymmeryd y gwaith yn llaw, ac nid oedd arall ai cymmerei, we∣di disgwylo honof, ymroais yn ol mesur y ddawn a dderbynniais gan yr Arglwydd i sefyll ar yr adwy, er amddeffyn y Cy∣fammod tragywyddawl a wnaeth Duw â r ffyddloniaid, ac i hâd. Credais, am hyn∣ny* 1.4 y lleferais. Mawr yw'r gwirionedd, ac efe a orfydd. Mae'r un gorchymmyn yn ein rhwymo i gyflawni, ac i amddeffyn addunedau ein bedydd. Tadau ydym, ac y mae cyfraith natur yn dyscu i ni am∣ddeffyn meddiannau ein plant: Goruch∣wiliwyr ydym ar dŷ Dduw, ac ni a ddy∣lem roddi achles ir egwan ar gorthrym∣medic: Bugeiliaid ydym, a'n dyledswydd yw gofalu am wyn y praidd, rhag i neb eu bwrw allan or gorlan, ai gwneuthur yn ysclyfaeth ir llew rhuadwy. Adeiladwyr, a milwyr ydym, a rhaid i ni adeiladu muriau Caersalem, gan weithio âg un llaw yn y gwaith, ac â'r llaw arall yn dal* 1.5 arf, ac nid oes i ni wrthod y meini by∣chain hynny, a dderbyniodd y Tad ir hén adeiliad, a dderbyniodd y mab ir a∣deiliad newydd, ac a dderbynnir gan yr* 1.6

Page IV

yspryd glan, yr hwn sydd yn eu gwneu∣thur* 1.7 yn feini bywiol or Gaersalem uchod. Or meini hyn (a deflir gan rai allan or* 1.8 ddinas i le aflan,) y mae Duw yn codi plant i Abraham.* 1.9

Fel na byddo i mi chwanegu terfynnu llythr, yr wyf yn attolwg arnoch ar gyd∣ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau, ar i Dduw fendithio y llyfr hwn, i ddyfod ar cyfeiliornus ir jawn, i adeiladu'r gwan, i sefydlu'r amheyus, ac i ddwyn ar gof i bawb addunedau ei bedydd.

Rhynged bodd i chwi, wr mwyn, dderbyn y rhodd wael hon megis tystio∣laeth ddiochgar o'm rhwymedigaeth i chwi; ac os bydd y traethawd hwn yn gymmeradwy i'ch barn fanwl ddi-duedd chwi, ni all lai na bod felly i bawb or doeth ar dyscedic. Duw a dywallto ar∣noch fesur dauddyblyg oi yspryd, ac a fendithio eich llafur yn cyflawni ac yn cynnal y weinidogaeth; felly y gweddia

eich brawd anheilwng yn yr Efengyl, James Owen.

Llundain, Hy∣dref . 1693.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.