PEN. XIX. (Book 19)
Am ddyledswyddau y plant a fedyddi∣wyd. (Book 19)
I. BEndithiwch yr Arglwydd am ragorfreintiau eich bedydd. Y mae Duw wedi eich cymmeryd iw Gyfammod gydâ eich rhieni, Efe a'ch rhagflaenodd chwi â bendithion da∣ioni, ac a'ch gwnaeth yn agos, y rhai oeddych trwy natur ymhell, nid ydych ohwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodi∣aid,* 1.1 ond yn gyd-ddinasyddion ar sainct, ac o deulu Dduw.
1. Yr ydych chwi tan y rhaglunia∣eth rasol honno sydd yn gwilio tros eglwys Dduw. Canys yr ydych yn aelodau o honi. Isa. 27. 2, 3. Ps. 125. 2. Zech. 2. 5. Y mae rhagluniaeth Duw yn fwy neullduol tuac at ei eglwys na thuac at eraill sydd oddi allan. Yr ydych chwi tan y rhagluniaeth hon, ac nid tan y rhagluniaeth gyffredinol