Page 189
PEN. XVIII. (Book 18)
Yn dangos dyledswyddau rhieni tuag at eu plant, mewn perthynas iw be∣dydd hwynt. (Book 18)
PE bae rhieni yn gwneuthur eu dyledswydd tuag at eu plant, ac yn dangos iddynt pa fodd i jawn ddefnyddio eu bedydd, fe fyddei mwy o dduwioldeb a sobreiddrwydd yn y wlad, ac anaml y fyddei y rhai a wa∣dent eu bedydd. Gedwch imi ymres∣symu ychydic â chwi, y rhai ydych yn rieni i blant.
Onid oes gan eich plant chwi en∣eidiau gwerthfawr, iw cadw neu iw colli yn dragywydd? Onid yw'r en∣eidiau hyn yn rhy werthfawr iw co∣lli? pe bae eich plant chwi yn colli un oi haelodau neu synhwyrau, oni flinei hynny eich meddyliau chwi, ac oni ddylei colledigaeth eu heneidiau hwynt i'ch blino chwi? yr ydych yn ofalus i gasclu cyfoeth iddynt, och! Pa lesád i ddŷn os ynnill ef yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa