Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 18, 2024.

Pages

Page 173

PEN. XVII. (Book 17)

Y rhai sydd yn ail fedyddio ydynt euog o lawer o bechodau trwy wneuthur felly. (Book 17)

NI a welsom yn ol yr ysgrythu∣rau mae dyledswydd eglur yw bedydd plant y ffyddloniaid, ae ni a attebasom mewn byrr y gwrthresym∣mau yn ei erbyn, ni a ddangoswn yn y bennod hon, mor fawr yw pe∣chod y rhai a demptir i wadu'r be∣dydd a dderbyniasant pan oeddent blant bychain, ac i gymmeryd eu be∣dyddio drachefn. Mae llawer o bobl heb adnabod er joed natur eu bedydd cyntaf, yn cael eu gwyrdroi i ymwr∣thod âg ef, ac yn tybied eu bod yn rhyngu bodd i Dduw trwy wneuthur felly. Eithr y maent yn syrthio i brofedigaeth a magl diafol, yr hwn yw awdur amryfusedd a thad y cel∣wydd.

1. Y maent yn euog o bechod mawr, gan iddynt esgeuluso gwneuthur jawn ddefnydd o'i bedydd Cyntaf▪

Page 174

Mae bedydd plant yn eu gosod tan addunedau parhaus ir Arglwydd, ac y maent yn rhwym i adnewyddu eu haddunedau, ac i gymmeryd yr Ar∣glwydd i fod yn Dduw iddynt, cyn gynted ac y delont i oedran a synwyr. Eithr pa mor ychydic sydd yn gw∣neuthur felly? Mae y rhan fwyaf o blant pan ddelont i oedran naill ai yn anwybodol, ai yn anystyriol o addunedau eu bedydd. Yr achos o hyn mewn mesur mawr yw esgeulus∣dra gweinidogion, a phennau teuluo∣edd, yn Catecheisio ac yn dyscu i blant brif-byngciau'r grefydd Gristnogol. Yn y Cyflwr dall anwybodol hwn y mae y rhan fwya yn byw lawer o flynyddoedd wedi dyfod i oedran, heb unwaith adnewyddu cyfammod eu Bedydd mewn difrifwch: Yna pan ddechreuo yr Arglwydd ddeffroi eu cydwybodau hwynt, a'u hargyoeddi o bechod, y maent yn deimladwy na ddarfu iddynt ddwyn ffrwythau addas oi bedydd cyntaf; ar hyn y mae Satan yn eu temptio i fwrw'r bai ar eu bedydd, megis pe buasei hwnnw yn ddrwg, pan y dylent feio yn gw∣bl arnynt eu hunain, am esgeuluso

Page 175

adnewyddu a chyflawni addunedau eu bedydd, yr hyn a allant ac a ddy∣lent wneuthur heb adnewyddu eu bedydd. Yr ydwyfi yn appelio at gydwybodau y rhai a ail-fedyddiwyd onid yw'r peth fel hyn? Gadawent iw cydwybodau ddywedyd; a hwy ai argyhoeddant or esgeulusdra pe∣chadurus hwn, na ddarfu iddynt er joed jawn ddefnyddio eu bedydd Cyntaf, pe derbyniasent leshad oddi∣wrth y cyntaf ni ymwrthodasent âg ef byth.

2. Maent yn euog o bechod mawr trwy halogi ordinhád Christ. Nid pe∣chod bychan yw halogi pethau San∣ctaidd, er i rai wneuthur felly mewn anwybodaeth. Ordinhad sanctaidd yw bedydd, yr hon ni ddylid eu der∣byn ond unwaith. Eph. 4. 4. un Arglwydd, un ffydd, un bedydd. Gan hynny y rhai a adnewyddant eu be∣dydd sy'n cymmeryd enw yr Arglwydd Dduw yn ofer, ac nid dieuog gan yr* 1.1 Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer▪ Y mae enw'r Arglwydd ar ei holl ordinhadau, ac yn briodol ar yr Ordinhad o fedydd. Canys be∣dyddir ni yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r

Page 176

yspryd glan. Ac ni ddylid cymme∣ryd yr enw sanctaidd hwn yn ofer.

3. Y maent yn euog o Anghredi∣niaeth, oddieithr i Dduw i ddywe∣dyd wrthynt mewn cnifer o eiriau bedyddiwch eich plant, ni chredant ddim. Y mae ffydd yn edrych ar bob amnaid o eiddo'r Arglwydd, ac yn casclu ei feddwl ef oddiwrth yr ymddangosiad lleiaf oi ewyllys ef. Yr oedd y wraig ar ddifer-lif waed yn credu os cae hi yn unig gyffwrdd a gwisc yr Arglwydd Jesu, y byddei hi jach, er nad oedd ganthi nac adde∣wid, na gorchymmyn, na siampl neullduol iw hannog i wneuthur felly, etto y mae hi yn credu digo∣nolrwydd ei allu a'i drugaredd ef. Y neb nid ydynt yn credu helaethrwydd y Cyfammod Gras, ar hawl sydd gan blant y ffyddloniaid i sél y Cy∣fammod, y maent trwy anghredinia∣eth yn pechu yn erbyn yr Addewid, ar gorchymmyn, ac yn erbyn siamplau lawer.

Y mae'r wraig o Ganaan yn dy∣fod yn hyf ai phlentyn at Ghrist i* 1.2 dderbyn lleshád oddiwrtho, er nad oedd hi mewn Cyfammod gweledig

Page 177

â Duw, ac y mae Christ yn Canmol ei ffydd hi, ac yn derbyn ei merch hi: Mae ei ffydd hi yn torri trwy'r holl rwystrau. Nid oedd hi yn un o ddefaid colledig tu Israel, nid oedd hi yn un or plant, ond yn hytrach yn cael eu chyfri ymhlith y Cwn y rhai* 1.3 sydd oddiallan; etto ni chymmerei hi neccád, eithr gweddiodd, dadleu∣odd, credodd, a gorchfygodd. Y mae hi yn credu, ac y mae Christ yn jachau ei merch er mwyn ei ffydd hi. Y mae gennym ni fwy o anno∣giaeth i gredu y bydd i Ghrist i dderbyn ein plant ni. Yr ydym ni yn ddefaid o dŷ Israel, yn blant i* 1.4 Dduw, ac oni ddylem ni i gredu dros ein plant y bydd i Ghrist eu derbyn hwynt? a ydyw ef yn am∣harottach i gyfrannu bendithion ys∣prydol nac yr oedd i gyfrannu ben∣dithion tymhorol i Blant y ffyddlo∣niaid? os mawr oedd ei ffydd hi, yr hon yn erbyn gobaith a gredodd tan o∣baith, onid mawr yw dy anghredi∣niaeth di, yr hwn wyt yn dinistrio seiliau gobaith mewn perthynas ith blant. O na fydded iti ammeu adde∣wid Duw trwy anghrediniaeth, eithr* 1.5

Page 178

ymnertha yn y ffydd gan roddi gogoni∣ant i Dduw.

4. Y maent yn euog o falchder, y mae yspryd issel yn ymddarostwng i bob maeth o ddatcuddiad o ewyllys Duw. Fe adawodd Duw amryw bethau yn dywyll yn yr ysgrythurau, fel y byddei i ni i chwilio hwynt, a barnu yn issel am danom ein hunain, y rhai ydym yn gwybod pethau o ran yn unig, ac yn gweled trwy ddrych mewn dammeg. Onid balchder mawr ydyw i ddyn gwael gymmeryd arno i ddyscu Duw pa fodd i ddywedyd yn ei air? Dyweded yr Arglwydd ei feddwl yn eglurach ynghylch bedydd plant, ac onid e ni chredwn ni ddim, medd rhai. Onid Syniad balchder calon Dyn ydyw hyn? Y mae'r ga∣lon issel yn chwilio'r ysgrythurau, yn ystyried cyssondeb y naill scrythur ar llall, yn credu cyd-gordiad yr Hen Destament a'r Newydd, ac yn ofni pob llwybr di ammwy. Y mae llawer o wirioneddau megis trysor dirgel wedi guddio ymmaes yr scry∣thurau, yr hwn y mae'r gostyngedic yn ei chwilio, ac yn ei gaffael, eithr

Page 179

y mae'r balch yn ei ddiystyru, ac yn dyfod yn fyrr o honaw.

Nid wyfi yn dywedyd mae pobl feilchion yw y rhai sydd yn erbyn bedydd plant, eithr mae balchder y galon sydd yn gwneuthur iddi ym∣rysson âr cyfryw wirioneddau nid y∣dynt or un eglurháu a gwirioneddau eraill. Balchder calon Joan wnaeth iddo ddywedyd, Oni chaf weled yn ei * 1.6 ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ol yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf i. Felly dywed rhai, oni ddangoswch chwi i ni ryw orchymyn neu siampl eglur o fedydd plant, ni chredwn ni mae o Dduw mae: Eithr pe ni bae na gorchym∣myn na siampl (er bod y ddau am fedydd plant) os bydd Canlyniad scrythurol yn dangos y dylid eu be∣dyddio, mae hynny yn ddigon i fod∣loni yspryd issel ymofyngar am y gwirionedd. Fe gaeodd Christ saf∣nau* 1.7 y Sadduceaid ynghylch yr Adgy∣fodiad trwy ganlyniad scrythurol.

5. Y mae y rhai sydd yn erbyn bedydd plant, ac yn derbyn ail-fe∣dydd yn euog o anghariad mawr.* 1.8 Cariad yw diwedd y gorchymmyn, cy∣flawnder

Page 180

y gyfraith yw cariad, je,* 1.9 cyflawnder yr Efengyl hefyd yw ca∣riad. Ac am hynny ni a ddylem fod yn eiddigus o bob Opiniwn sydd yn dinistrio cariad. Duw Cariad yw, ar gwirioneddau hynny sy o Dduw y maent yn gyttun â chariad; eithr y mae'r Opiniwn sydd yn gwadu bedydd plant yn Opiniwn anghariadus jawn attynt. Onid barn anghariadus yw'r hon sydd yn eu bwrw allan o deulu Dduw, o ba un y buont yn aelodau rai miloedd o fly∣nyddoedd? Onid barn anghariadus yw'r hon sydd yn eu esgymuno allan o eglwys Dduw, a hynny yn ddia∣chos, cyn iddynt wneuthur dim i haeddu'r farn galed hon? Onid barn anghariadus yw'r hon sydd yn nec∣cau iddynt yr un lle yn y Cyfammod gras tan yr Efengyl, ac oedd ganthynt tan y gyfraith? Onid anghariadus yw'r farn honno sydd yn gwneuthur eu cyflwr yn waeth ar ol dyfodiad Christ nac ydoedd or blaen? Mewn byrr, onid anghariadus yw'r farn* 1.10 honno sydd yn neccau iddynt ran yn yr addewid, yr hon yw unig sylfaen eu jechydwriaeth hwynt? Onid yw

Page 181

Duw yn Dduw i hâd y ffyddloniaid, pa obaith a allwn i gael o'u jechy∣dwriaeth?

6. Y mae'r Sawl sydd yn erbyn bedydd plant, ac yn ei adnewyddu mewn oedran yn euog o anniolchga∣rwch mawr tuag at Dduw. Ni a wyddom mae pechod mawr yngo∣lwg yr Arglwydd yw anniolchga∣rwch.* 1.11 Mae anniolchgarwch am fendithion tymhorol yn cyffroi ei ddigofaint ef, pa faint mwy am fen∣dithion a rhagorfreintiau ysprydol. Ennynnodd llid yr Arglwydd yn er∣byn plant Israel o herwydd iddynt ddiystyru'r Manna, yr hwn ydoedd yn arwydd o fendithion ysprydol. Ac a dybiwn ni na ddigia Duw wrthym os byddwn anniolchgar am ragorfreintiau ein jeuengctid? Os y∣dyw efe mor rasol a'n derbyn iw gy∣fammod pan oeddem yn blant by∣chain, onid anniolchgarwch mawr y∣dyw i ni ddiystyru ein genedigaeth∣fraint? Mae'r scrythur yn gosod nód o wradwydd ar Esau, am iddo ddi∣ystyru* 1.12 ei anedigaeth fraint, oh na fydded i ni fod yn debyg iddo, rhag i ni golli'r fendith, Fe allei dywedi

Page 182

di, gwerthodd Esau ei enedigaeth∣fraint am un saig o fwyd, am hynny collodd y fendith. Gwir yw, efe a wnaeth felly, am hynny mwy oedd ei bechod. Eithr gochel di fod yn debyg iddo gan ddiystyru dy anediga∣eth-fraint am un achos neu gilydd. Ar ba achlysur bynnag yr wyt yn gwneuthur felly, y mae dy bechod yn aros; er nad ydyw or un radd ai bechod ef, y mae or un natur, sef diystyrwch a dirmyg o'th enedigaeth∣fraint.

7. Yr wyti yn euog o bechod mawr trwy wneuthur ymranniad ynghorph Christ. Y mae un Corph, ac un be∣dydd,* 1.13 ac ni ellir gwahanu mo ho∣nynt, gan hynny trwy wadu dy fe∣dydd cyntaf, yr wyti yn torri undeb y Corph hwnnw, i'ba un y mae Christ yn ben; yr wyti yn dy dorri dy hun oddiwrth yr winwydden, ac yn cri∣no megis cangen anffrwythlon, yr hon ni bydd hi ddim gwell er ei dwfrhau drachefn. Yr wyt yn dy dorri dy hun, nid oddiwrth y Gyn∣nulleidfa hon neu arall yn unig, ond oddiwrth yr Eglwys Gatholic gyffre∣dinol o bob oes a gwlad ar wyneb y

Page 183

ddaiar, yr hon sydd wedi ei glanhau* 1.14 â'r olchfa ddwfr, trwy'r gair, ac yn parhau mewn undeb bedydd. A gelli di feddwl mae pechod bychan yw hwn, iti dy rwygo dy hun oddiwrth gorph Christ? Er bod dyfroedd lle∣drad yn felus yr awr hon, a bara cudd yn beraidd, gwybydd a gwél mai drwg a chwerw fydd yn y di∣wedd, iti dy fwrw dy hun allan o eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.

Y mae'r ymranniad hwn yn rhy debyg i ymranniad yr hen Ddonatisti∣aid gynt, y rhai a ymneullduent o∣ddiwrth holl eglwys Dduw, ac a hae∣rent mae eu plaid ddirmygus hwynt oedd unig eglwys Dduw, ac ir diben hynny yr oeddent yn ail fedyddio* 1.15 pawb a ddeuei attynt, nid o herwydd eu bod wedi eu bedyddio yn blant, ond o herwydd eu bod wedi eu be∣dyddio gan bechaduriaid, fel yr oe∣ddent hwy yn cyfrif pawb oedd or jawn ffydd.

Ni bydd anfuddiol i ni ystyried barn y brif eglwys ynghylch ail fe∣dyddio. Fel hyn y dywed Opta∣tus.

Page 184

Et quid vobis visum est, non post* 1.16 nos, sed post Trinitatem, baptisma gemi∣nare? Pa ham yr ydych yn ail fedy∣ddio, nid ar ein hól ni, ond ar ol y Drindod?

Quieunque à vobis se rebaptizari con∣senserit,* 1.17 rsurget quidem, sed nudus, quia à Nuptiali veste à vobis se expoli∣ari permisit. Pwy bynnag sydd yn cael ei ail fedyddio gennych chwi, efe a ad∣gyfyd yn ddiau, eithr yn noeth, o her∣wydd iddo adel i chwi ei ddiosci, ai yspeilio o'i wisc briodas.

Y mae Austin yn dywedyd, Reve∣ra* 1.18 enim fieri potest, ut sceleratior sit re∣baptizator totius hominis, quam solius Corporis interemptor. Y mae'n bossibl y gall yr hwn sydd yn ail fedyddio'r holl ddyn, fod yn waeth na'r hwn a laddo'r Corph yn unig.

Drachefn, Rebaptizare hæreticum* 1.19 hominem omnino peccatum est; rebapti∣zare autem Catholicum, scelus est im∣manissimum. Pechod ydyw ail fedyddio haeretic, eithr ail fedyddio Catholic, neu un yn undeb yr Eglwys gyffredinol, drygioni erchyll ydyw * 1.20.

Os yw neb yn barnu'r geiriau hyn yn eiriau caled, ystyrient mae geiri∣au

Page 185

Austin ydynt, ac nid fyngeiriau i; yr ydwyf yn ei gosod i lawr i ddan∣gos barn yr hen eglwys ynghylch ail fedyddio.

8. Y. maent yn euog o bechod mawr trwy roddi tramgwydd i lawer a fedyddiwyd yn blant, gan eu temptio i dybied nad ydynt tan addu∣nedau i Dduw, ac nad yw eu bedydd yn eu rhwymo i fuchedd newydd. Os bydd i bobl i barnu eu hunain yn rhŷdd oddiwrth rwymedigaeth eu be∣dydd, oh pa mor noeth ydynt i bro∣fedigaethau Satan! y maent etto i ddewis eu harglwydd, ac oh mor an∣hawdd iw perswadio'r cyfryw i gym∣meryd jau Christ arnynt. Y mae'n hawsach plannu'r Efengyl ymhlith rhai sydd tan addunedau i Dduw nac ymhlith eraill; am hynny plannwyd yr Efengyl yn gyntaf ymhlith yr Idde∣won, ac ymhlith y rhai or Cenhed∣loedd oedd tan addunedau ir gwir Dduw, megis yr Eunuch, a Chorneli∣us, a Lydia, ac amryw eraill.

Y rhai sydd yn rhoddi tramgwydd yn enwedigol i bobl jevaingc, gan eu perswadio nad yw eu bedydd yn eu rhwymo, a ddylent ystyried eu bod

Page 186

yn achlusur o'u dinistr hwynt. Ni a ddylem fod yn ddiachos tramgwydd i'r* 1.21 Iddewon, ac i'r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw.

9. Y mae bedyddio trwy drochi'r holl gorph mewn dwfr oer yn y gw∣ledydd oerion hyn▪ yn dorriad or chwe∣ched gorchymmyn, Na ladd. Canys y mae'n siccr na all llawer o gyrph ty∣ner afiachus ddioddef eu trochi mewn dwfr oer yn amser gayaf heb berigl o'i bywyd, yn enwedigol pan byddo hi yn rhew ac yn eira. Nid oes i ni demptio'r Arglwydd, gan dybied y bydd iddo ef wneuthur gwrthiau beu∣nyddiol i gadw ein bywyd ni. Y mae efe yn arferol yn gweithio trwy foddion gosodedic. Yn y Cyfryw a∣chos a hwn y mae Mr. Cradock yn* 1.22 barnu y dylei'r Penswyddog rwystro trochi pobl er niweid iw ddeiliaid.

Gwrthdd. Hwy a allant aros hyd yr haf.

Att. Dangoswch ryw scrythur am* 1.23 hynny. Y mae rheol a siampl yr ys∣grythur yn y gwrthwyneb yn gor∣chymmyn bedyddio rhai cyn gynted ac y gwneur hwynt yn ddiscyblion.

10. Y mae'r ffurf hon o fedydd

Page 187

trwy drochi pobl yn noeth, neu yn agos i noeth yn dorriad or seithfed gorchymmyn, Na wna odineb. Y* 1.24 mae'r gorchymmyn hwn yn gwrafun nid yn unig y weithred o odineb, ond pob achlysur, ac annogiad i hynny. Y mae pob gweithred aflednais ac an∣foesol yn radd o odineb. Y mae ca∣lon dyn yn dwyllodrus, ac yn ddrwg* 1.25 diobaith, am hynny y dylid goche∣lyd pob achlysur o bechod. Syrthiodd Dafydd i odineb trwy ganfod Bath∣sheba yn ymolchi.

Fel hyn y gwelwn ni na fynnei Duw i bobl fod yn noeth yn y gyn∣nulleidfa,* 1.26 neu yn hanner noeth, Ca∣nys nid oes dim llawer o wahaniaeth rhwng y ddau.

Eithr y rhai sy yn ail fedyddio trwy drochi pobl yn gyhoeddus, sy'n diosg y rhan fwya oi dillad. Y mae'r bedyddiwr ar hwn, neu'r hon a fe∣dyddier yn agos i noeth: Yr hyn a all fod yn brofedigaeth i'r neb a fedy∣ddier, ac ir rhai a fyddo yn edrych; ac os ni chraffa'r brofedigaeth ar y gweinidog, yr hwn sydd wedi am∣gylchu â chig a gwaed megis eraill, y mae'r cyfryw ymddygiad o flaen

Page 188

cynnulleidfa gymmyscedig yn dyfod âg ef tan wradwydd, ac yn gwneu∣thur addoliad Duw yn ddirmygus.

Eithr os rhaid trochi yr holl gorph mewn dwfr, fel y maent hwy yn dy∣wedyd y rhaid, pa reol sydd ganthynt allan or scrythur i fedyddio'r dillad gydâ'r corph? Mae'r ychydic ddillad sydd am danynt yn cael eu trochi yn y dwfr cyn trochi'r Corph, felly ac y maent yn gyntaf yn bedyddio'r di∣llad, a thrwy'r dillad yn bedyddio'r Corph. Y rhai a ddywedant mae hon yw'r unig ffordd o fedyddio, a ddylent ddangos scrythur eglur am dani.

Felly y gallwn weled pa ddrwg sydd yn yr arferiad hon o ail∣fedyddio mewn oedran y rhai a fedyddiwyd eusus yn blant. Oh na bae Duw yn deffroi cydwybodau pobl'i fod yn deimladwy or pechodau hyn! Os wyti wedi gwadu dy fedydd cyntaf, Cofia o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gw∣na y gweithredoedd cyntaf. Adnewydda dy addunedau cyntaf, ac ymwrthod âth ail fedydd, yr hwn sydd yn dy wneuthur yn euog o gnifer o bechodau newydd, yn lle dy olchi oddiwrth dy ben bechodau.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.