Page 166
PEN. XVI. (Book 16)
Y gwrthresymmau yn erbyn bedydd plant bychain, ac attebion perthnassol iddynt. (Book 16)
FEL hyn y profasom trwy'r scry∣thurau, a thrwy resymmau scry∣thurol y dylid bedyddio plant y ffydd∣loniaid. Os edrychwn ar y gwirio∣nedd hwn yngoleuni'r scrythurau u∣chod fe ddiflanna y gwrthresymmau o honynt eu hunain. Etto er mwyn y rhai gweinion mi a osodaf ar lawr y rhai cryfaf o honynt.
1. Gwrthreswm, Nid oes un gor∣chymyn na siampl yn yr ysgrythur am fedyddio plant bychain.
Att. Nid oes un gorchymyn neull∣duol mewn cnifer o eiriau yn enwi bedydd plant, ac nid yw hynny ang∣henrheidiol; eithr y mae gorchymyn Cyffredinol, yr hyn sydd ddigon. Gorchmynnir ir Apostolion fedyddio yr holl genhedloedd, o ba rai mae plant yn rhan fawr. Os oes gorchymyn am fedyddio'r rhieni, mae gorchy∣myn