Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 17, 2024.

Pages

Page 121

PEN. XII. (Book 12)

Mae gan blant hawl i fedydd, o her∣wydd i Joan fedyddio plant yn ol arferiad eglwys yr Iddewon. (Book 12)

IX. Rheswm.

OS bedyddiodd Joan blant by∣chain, mae bedydd yn per∣thyn iddynt yn wastadol, Canys yr un oedd sylwedd bedydd Joan, a be∣dydd yr Apostolion. Yr oedd ef yn bedyddio i enw Christ i ddyfod, yr oeddent hwythau yn bedyddio i enw Christ yr hwn oedd wedi dyfod.

Eithr yr hyn yr ydym iw brofi yn y bennod hon yw i Joan fedyddio plant bychain. I amlygu hyn, ysty∣riwn,

1. Ni ddaeth Joan Fedyddiwr i ddirymmu Cyfammod Abraham, ond yn hytrach i gyflawni ef. Gy∣fammod Abraham oedd, y byddei Duw yn Dduw iw bobl ac iw had. Yr oedd holl eglwys weledig yr Idde∣won yn y Cyfammod hwn. Mae

Page 122

Joan yn eu rhybuddio na ymddirie∣dont* 1.1 i ragorfreintiau y Cyfammod hwn trwy fyw yn annuwiol; eithr nid ydyw mewn un lle yn dirymmu y Cyfammod hwn, ond yn hytrach yn ei siccrhau, gan ddywedyd y cy∣fyd Duw blant eraill i Abraham, os ni ddug yr Iddewon ffrwythau addas i edifeirwch.

Fe ddaeth i fedyddio hád Abra∣ham, y rhai oeddent oll ynghyfam∣mod Duw, nid yn unig y rhieni, ond y plant hefyd. Ac am hynny yr oedd gan y plant yr un hawl i fe∣dydd ac oedd gan y rhieni, o her∣wydd eu bod yn hád Abraham. Yr oedd ei fedydd ef or un helaethrwydd ac enwaediad, megis yr oedd yr holl wlad tan yr Enwaediad, felly y mae Joan yn eu derbyn iw fedydd, ni wrthododd ef neb a ddeuei iw fe∣dydd ef, eithr derbyniodd Bublica∣nod, Sadducceiaid, Pharisaeaid, ▪sef* 1.2 cenhedlaeth gwiberod, ac a ydyw de∣bygol iddo wrthod plant bychain?

Yr oedd Joan yn rag-flaenor Christ, ac am hynny ni ddaeth ef i ddirym∣mu'r Cyfammod, yr hwn yr oedd Christ ei hun yn dyfod iw gyflawni.

Page 123

Efe a gynnorthwyodd ei was Israel, gan* 1.3 gofio ei drugaredd, fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham ai had yn dragy∣wydd.* 1.4 Gwnaed Jesu Ghrist yn wei∣nidog ir Enwaediad, er mwyn gwirio∣nedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion a wnaethpwyd ir tadau.* 1.5 Felly os daeth Christ i gyflawni cy∣fammod Abraham, ni ddaeth Joan fedyddiwr i ddirymmu mo honaw, ac am hynny yr oedd yn rhwym i fedyddio'r plant gydâ eu rhieni.

2. Fe ddaeth Joan i baratoi ffordd ir Arglwydd. Diben ei fedydd ef oedd rhwymo yr holl bobl i gredu yn yr Arglwydd Jesu, yr hwn oedd ar ddy∣fod. Joan yn ddiau a fedyddiodd â* 1.6 bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, sef yn Ghrist Jesu.

Nid oedd ffydd yn ammod o fe∣dydd Joan, eithr yn ddiben o ho∣naw, yr oedd ei fedydd ef yn gosod rhwymedigaeth neullduol ar holl hád Abraham i dderbyn Christ pan yr ymddangosei ef. Canys nid oedd Joan ei hun yn ei adnabod ef ar y* 1.7 dechreuad.

Page 124

Yr oedd plant megis eraill yn rhwym ei dderbyn ef fel y deuent i oedran, ac o herwydd bod bedydd yn arwydd or rhwymedigaeth hyn∣ny, yr oedd yn perthyn iddynt hwy megis iw rhieni. Ni pharaod Joan i fedyddio oddi eithr tair blynedd, ac am hynny os ni fedyddiwyd plant yr Iddewon gan Joan, ni fedyddi∣wyd mo honynt hwy oll â bedydd Joan, ac os felly nid oeddent hwy tan yr un rhwymedigaeth i dderbyn Christ, ac yr oedd eu tadau. Os Ordinhád Duw oedd bedydd Joan i* 1.8 osod pawb tan rwymedigaeth i dder∣byn yr Arglwydd Jesu tan boen damnedigaeth, ni adawodd Joan blant bychain heb fedydd, oddi eithr i ni feddwl, na fynnei ef ei rhwymo hwynt i gredu yn Ghrist, ond eu gadael iw dewisiad eu hun pan ddeu∣ent i oedran, naill ai i dderbyn, neu i wrthod Christ. Na atto Duw i ni feddwl fod Joan mor anffyddlon yn ei weinidogaeth.

A oedd yr enwaediad yn rhwymo plant i gredu ynghrist? os gallent dderbyn rhwymedigaeth enwaediad, pa faint mwy y gallent, ac y dylent

Page 125

dderbyn rhwymedigaeth bedydd, yr hwn a Ordeiniodd Duw trwy orch∣wyliaeth neullduol i ddarparu ir Ar∣glwydd bobl barod.* 1.9

3. Yr oedd plant bychain yn am∣ser Joan yn aelodau o eglwys Dduw, ni all neb ammeu hynny, o herwydd bod enwaediad, sel y Cyfammod ar∣nynt. Yr oedd holl hád Abraham yr amser hwnnw yn eglwys weledig i Dduw, ai unig eglwys ef ar y ddai∣ar oeddent hwy. Nid oeddent allan or eglwys cyn ei bedyddio, ni dder∣byniwyd monynt i eglwys Dduw trwy fedydd, megis rhai nad oeddent o honi or blaen. Eithr bedyddiwyd yr holl wlad, o herwydd eu bod yn aelodau gweledig o eglwys Dduw. Ac o herwydd bod plant bychain yn aelodau o'r eglwys weledig, yr ydo∣edd bydydd Joan yn perthyn iddynt.

Ni ddaeth Joan i dynnu i lawr eglwys yr Iddewon, neu i gyfyngu eu sylfaenau hi; y mae ef yn dywe∣dyd fod y fwyall wedi ei gosod ar* 1.10 wreiddyn y prennau; eithr ni thor∣rodd ef i lawr yr un gangen. Y mae yn bwgwth y bydd i Ghrist lwyr lanhau i lawr dyrnu, a llosai yr us a* 1.11

Page 126

than, eithr ni fwrodd ef neb allan oedd ar y llawr dyrnu. Ac am hynny derbyniodd blant megis eraill iw fedydd, o herwydd eu bod yn ae∣lodau o eglwys Dduw.

4. Nid oes ammeu na ddygodd y rhieni eu plant gydâ hwynt i fedydd Joan. Canys, 1. Yr ydoedd Duw wedi gorchymmyn iddynt ddwyn eu plant ir gynnulleidfa i fyned tan* 1.12 gyfammod Duw. Deut. 29. 9, 10, 11, 12. 2. Yr oedd eu Zeal hwynt yn fawr am ragorfreintiau eu plant. Act. 15. 1, 2—. Ac am hynny pe* 1.13 gwrthodasei Joan eu plant, ni ddae∣thent mor ewyllysgar iw fedydd ef. 3. Hwy a ddygasant eu plant at Ghrist. Ac am hynny dygasant eu* 1.14 plant gydâ hwynt at fedydd Joan. 4. Peth arferol oedd bedydd plant yn eglwys yr Iddewon lawer cant o flynyddoedd cyn amser Joan. Yr oedd bedydd yn beth adnabyddus iddynt, ac am hynny pan ddanfo∣nodd y Cyngor o Gaersalem i holi Jo∣an, nid ydynt yn ammeu ei fedydd ef, ond ei awdurdod ef i fedyddio. Pa bam yr wyti yn bedyddio▪ Mae* 1.15 Moses Ben Maimon, yr hwn a gas∣clodd

Page 127

ynghyd ddefodau hen Eglwys* 1.16 yr Iddewon, yn dywedyd, Trwy dri pheth yr aeth Israel tan gyfammod, trwy enwaediad, bedydd ac aberth. Drachefn, nidyw neb yn broselyt, nes enwaedu arno, ai fedyddio.

Rabbi Hona a ddywed▪ y maent yn be∣dyddio* 1.17 plant bychain trwy drefnid y Cyn∣gor. Chwanega'r gwyr doethion, os nid oes gantho dad, ai ddwyn gan ei fam iw wneuthur yn broselyt, hwy ai be∣dyddiant, o herwydd nad oes un prose∣lyt heb enwaediad a bedydd. Wrth y tystiolaethau hyn, ac amryw eraill a allwn ni eu henwi, y mae yn eglur fod bedydd plant yn beth Cyffredi∣nol ymhlith yr Iddewon, a hynny yw un achos nad yw'r Testament Newydd yn són yn helaethach am fedydd plant, o herwydd bod yr ar∣feriad o honaw mor gyffredinawl yn Eglwys yr Iddewon. Nid yw Christ ai Apostolion mewn un lle yn eu ce∣ryddu am wneuthur felly, fel y ma∣ent am olchiadau eraill. Yr oedd yr arferiad hwn o fedyddio plant yn guttun ac ewyllys Duw, ac wedi parhau yn yr Eglwys honno oddiar amser Jacob, fel y barna Rabbi's

Page 128

yr Iddewon, ac y nodasom or blaen.

Am hynny yn ddi-ddadl dygpwyd plant bychain i fedydd Joan, yr hwn oedd yn rhwym iw derbyn ai bedyddio, fel y profasom or blaen.

5. Bedyddiodd Joan blant by∣chain, Canys efe a fedyddiodd yr holl wlad yn gyffredinawl, or hon yr oedd plant bychain yn rhan fawr. Ni wrthododd ef neb a ddaeth, neu a ddycpwyd atto. Mat. 3. 5. 6. Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem, a holl Judaea, ar holl wlad o amgylch yr Jorddonen, a hwy a fedyddiwyd gan∣ddo ef yn yr Jorddonen. Act. 13. 24. Gwedi i Joan rag-bregethu bedydd edifeirwch i holl bobl Israel. Os be∣dyddiodd ef Jerusalem, a holl Ju∣daea, ar holl wlad o amgylch yr Jor∣ddonen, ar holl bobloedd, y mae yn siccr iddo fedyddio plant bychain, oddi eithr i ni dybied nad oedd dim plant yn Jerusalem, nac yn holl Ju∣daea. Gobeithio nad rhaid i ni bro∣fi fod rhai plant bychain yn yr holl wlad, fel yr ydys yn galw arnom ni i bron fod rhai yn y teuluoedd Cy∣fain a fedyddiodd yr Apostolion. Os

Page 129

oes rhai teuluoedd heb blant ynthynt, nid oes yr un ddinas gyfanneddol heb blant, a phe digwyddei fod y Cyfryw ddinas, nid oes yr un wlad gyfanneddol heb blant ynthi. Ac am hynny os bedyddiodd Joan yr holl wlad, ar holl bobl, efe a fedy∣ddiodd blant hefyd.

Os dywed neb, nad yw'r Efan∣gylwyr yn enwi plant bychain, gwir yw, yr un modd y gallaf finnau ddy∣wedyd, nid ydynt yn enwi na gwyr na gwragedd, nac jefangc na hén, etto diammeu ydyw i Joan fedyddio y naill ar llall.

Gwrthdd. Y rhai a fedyddiodd Joan a gyffesodd eu pechodau yr hyn ni allei plant i wneuthur, Mat. 3. 6.

Atteb. Nid yw'r Text yn dywe∣dyd pa fath oedd y Gyffes hon, ai mewn gair, ai ynteu mewn gweithred. Yr oedd eu darostyngiad i fedydd yn gyffes ar weithred eu bod yn aflan, a bod arnynt eisiau eu golchi. Nid yw debygol mae Cyffes mewn geiriau edd, Canys ni allei un gwr dder∣byn Cyffes neullduol gan yr holl wlad. Os mewn geiriau yr oeddent yn Cyffesu, y mae yn debygol i rai i

Page 130

wneuthur Cyffes yn enw eraill, fel y gwnae yr Offeiriad yn enw yr holl bobl. Fel hyn y gallei y rhieni gy∣ffesu* 1.18 pechod trostynt eu hunain, a∣thros eu plant; ac yr ydoedd Duw yn derbyn y Cyfryw gyffes oddiwrth y ffyddloniaid tros eu plant. Ac* 1.19 am hynny y mae Duw yn gorchy∣myn caselu y plant sydd yn sugno ar y bronnau i ymddangos ger ei fron ef ar ddydd ympryd. Gwaith dydd ym∣pryd* 1.20 yw Cyffesu pechod, yr hyn ni allei plant yn sugno ar y bronnau i wneuthur, etto mae Duw yn gor∣chymyn i rhieni gyflwyn eu plant ger bron yr Arglwydd, ac yn der∣byn eu Cyffes hwynt tros eu plant.

Gwrthdd. Y rhai a fedyddiodd Jo∣an a ddaeth atto ef. Ni allei plant* 1.21 ddyfod.

Att. Hwy a allent ddyfod atto ef er ei eraill eu dwyn hwynt. Mae Christ yn dyweyd am y plant by∣chain a ddygpwyd atto ef, gadewch i blant bychain ddyfod attafi.* 1.22

Num. 20. 1. A meibion Israel sef yr holl gynnulleidfa a ddaethant i ani∣alwch Sin. Yr oedd miloedd o blant yn y gynnulleidfa hon, ac am hynny

Page 131

hwy a ddaethant gydâ ei tadau, Ca∣nys ni adawsant monynt ar eu hol. Mae Christ yn dywedyd am y gyn∣nulleidfa hynny o bedair mil heb law gwragedd a phlant a borthodd ef yn y diffaethwch, i rai o honynt ddyfod o bell. Yr oedd plant yn eu plith* 1.23 hwynt, ac etto daethant hwy megis eu rhieni at Ghrist, ac am hynny nid yw yn Canlyn na fedyddiodd Jo∣an blant bychain, er bod y scrythur yn dywedyd, i'r rhai a fedyddiwyd gantho ef ddyfod atto ef.

Oddiwrth y Cyfan y mae yn Can∣lyn i Joan fedyddio plant bychain gydâ eu rhieni, ac am hynny y dylid eu bedyddio yr awrhon megis gynt, Canys ni wnaeth Duw ddim gwaha∣niaeth* 1.24 rhyngom ni ar Iddewon, ond bod ein ragorfreintiau ni yn helaeth∣ach ac yn ysgafnach tan yr Efengyl. Gweinidogaeth a bedydd Joan oedd dechreu Efengyl Jesu Ghrist, ac am* 1.25 hynny o herwydd iddo ef fedyddio plant bychain, y mae bedydd yn per∣thyn iddynt ymhob oes tan yr Efen∣gyl. See more of this Subject in Jo∣shua Exel's Serious Inquiry.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.