Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 17, 2024.

Pages

Page 80

PEN. VIII. (Book 8)

Yn profi y dylid bedyddio plant, o her∣wydd i Grist iw bendithio. (Book 8)

V. Rheswm.

MAR. 10. 13, 14, 15, 16. A* 1.1 hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe a hwynt, [fel y rhoddei ei ddwylo arnynt ac y gwe∣ddiei, Mat. 19. 13.] ar dyscyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. Ar Jesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch iddynt; canys ei∣ddo y Cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn-bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe au cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac ai bendi∣thiodd.

Mae Matthew, Mark, a Luke yn gosod ar lawr yr histori hon yng∣hylch derbynniad plant bychain,

Page 81

ai groesaw at yr Arglwydd Jesu Ghrist.

Yn yr ysgrythur hynod hon, ysty∣riwn,

1. Pwy a ddygpwyd at yr Ar∣glwydd Jesu. Dywed y Text mae plant bychain oeddent, y cyfryw a gymmerir mewn breichiau. Yr ydym yn troi'r un gair (〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉) yn fach∣gennyn am Joan fedyddiwr, pan oedd* 1.2 newydd eni. Yr un gair a droir dyn bach am Grist pan oedd wyth niwr∣nod oed.

Mae Luc yn eu galw (〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉)* 1.3 plant bychain. Y gair a arferir am Joan fedyddiwr ynghroth ei fam. Yr un enw a roddir i Grist pan rwy∣mwyd ef mewn cadachau yn y pre∣seb.

Mae'n eglur gan hynny nad oedd y plant a ddygpwyd (fel y mae'n de∣bygol gan eu rhieni duwiol) at Grist ond bychain jawn, nid oe∣ddent o oedran i ddyfod eu hunain atto ef, nac i broffessu eu ffydd yn∣tho ef.

2. Pa ham y dygwyd hwynt at Ghrist? fel y rhoddei ei ddwylo ar∣nynt, ac y gweddiei. Yr oedd y rhai

Page 82

ai dygodd at Christ yn credu y ga∣llent dderbyn bendith trwy arddodiad dwylo, a gweddiau Christ. Er nad oedd y plant bychain yn deall yn bresennol beth ydoedd Christ yn ei wneuthur iddynt, etto trwy addysc eu rhieni gallent wybod yn ol hyn. Ni wyddei Petr beth oedd meddwl Christ yn golchi ei draed ef, ac etto nid oedd y weithred yn ofer. Y peth yr wyfi yn ei wneuthur, ni wyddost* 1.4 ti yr awrhon; eithr ti a gei wybod yn ol hyn.

Fel yr oedd y rhieni hyn yn dy∣fod ai plant at Ghrist iw bendithio, felly yr ydym ninnau yn eu dwyn at Ghrist trwy fedydd i dderbyn ei fen∣dith ef. Pa'm na allant dderbyn ben∣dith oddiwrtho yr awron megis yn nyddiau ei gnawd? a gyfyngwyd ei ymyscaroedd ef tuag attynt? Onid yr un yw efe heddyw, ddoe ac yn dra∣gywydd?* 1.5 Os ydyw Christ yn eu gwneuthur yn gyfrannogion oi erfy∣niau, ac yn eiriol trostynt, nid y∣dynt hwy or byd, canys nid yw yn gweddio tros y byd, ond tros y rhai a* 1.6 roddodd y tad iddo, canys eiddo ef ydynt. As os nid yw plant y ffydd∣loniaid

Page 83

o'r byd, ond yn eiddo Christ, gadewch iddynt ddyfod atto, a der∣byn ei nod ef, sef bedydd.

3. Y discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. Mae'n debygol na wnaethont felly o eisiau cariad at blant, nid oeddent mor galon-galed a hynny, ond o herwydd nad oedd plant yn deall yr hyn a w∣neid iddynt, a bod gan Ghrist ddi∣gon o waith ynghylch rhai mewn oedran, fel nad oedd gantho amser i ymdrin â phlant bychain.

Yr oedd ganthynt feddyliau dir∣mygus am blant bychain, fel y mae gan rai hyd y dydd hwn. Fe all gwir ddiscyblion fod yn rhwystr i blant bychain ddyfod at Ghrist. Nid yw'n canlyn fod pob peth yn ddrwg yr hyn y mae rhai pobl dda yn ei farnu felly. Mae'r discyblion yn ceryddu eraill mewn Zél anystyriol pan yr oeddent yn haeddu cerydd eu hunain. Yr oeddent yn tybied eu bod yn an∣rhydeddu Christ, pan ddywedont wrth y bobl am gadw ei plant gar∣tref, ac na flinent mo'r athro, eithr y mae Christ yn jachawdwr i blant

Page 84

hefyd, ac nid yw yn diystyru y rhai a ddygir atto, am hynny

4. Bu Ghrist anfodlon wrth ei ddiscyblion, 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉, yr oedd we∣di sorri wrthynt, neu yr oedd yn ddigllon wrthynt, fel y troir y gair mewn lleoedd eraill. Mat. 20. 24. Lu. 3. 14. Mae'r gair yn arwy∣ddocau y cyfryw flinder, a galar ac* 1.7 sydd yn torri'r galon. I ddangos i ni mor fawr oedd Cariad Christ at blant bychain, a bod y rhai a rwy∣strant blant i ddyfod atto yn cyffroi ei ddigofaint yn eu herbyn. Yr y∣dym yn darllain i Ghrist 'geryddu ei ddiscyblion ar achosion eraill, yn enwedigol Petr, eithr ni ddywedir mewn un lle gyffroi ei ddigofaint yn eu herbyn, ond yn yr achos hwn, am blant bychain. Am hynny nid pechod bychan iw eu rhwystro i ddy∣fod at Ghrist i dderbyn ei fendith ef.

5. Ceryddodd ei ddiscyblion, gan ddywedyd, gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch i∣ddynt. Ni allei plant ddadleu tro∣stynt eu hunain, mae Christ yn dad∣leu trostynt, ac yn dysgu iw ddiscy∣blion

Page 85

i fod yn dynerach eu barn am blant bychain o hyn allan. Mae di∣frifwch ei yspryd yn ymddangos, gan ei fod yn dywedyd yr un peth ddwy waith. Gedwch iddynt ddyfod attafi, na waherddwch iddynt.

Ni buasei yr Arglwydd Jesu mor ddigllon wrth ei ddiscyblion, ac mor ewyllysgar i dderbyn plant by∣chain, oddieithr eu bod yn anwyl iddo. Gwyddei Christ eu bod yng∣hyfammod Duw, a'i bod tan en∣waediad, sél y Cyfammod, ac na ddaeth efe iw bwrw allan o gyfam∣mod Duw, ond yn hytrach i chwa∣negu eu rhagorfreintiau. Megis pe dywedasei, derbyniodd fy nhad hwynt, cyn fy nyfodiad ir cnawd, gadewch iddynt ddyfod attaf finnau hefyd, yr hwn a gymmerais eu natur hwynt ar∣naf. Ni wrthodafi mor rhai a dder∣byniodd fy nhad.

6. Mae efe yn rhoddi'r rheswm pa ham y mynnei iddynt ddyfod atto ef. Canys eiddo y cyfryw rai yw teyr∣nas Dduw. Mar. 10. 14. Neu teyrnas nefoedd, Mat. 19. 14. Nid yn unig eiddo'r rhai sydd debyg i blant bychain, eithr eiddo y Cyfryw

Page 86

blant bychain, sef plant y ffyddloni∣aid* 1.8 sydd mewn cyfammod a Duw, Eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. Y cyfryw rai, yw y rhai hyn. Eiddo y rhai hyn yw teyrnas nefoedd, felly cymmerir y gair, Gal. 5. 23. Heb.* 1.9 13. 16. Jo. 3. 8. Ac mewn am∣ryw leoedd eraill. Ac eglur yw, mae felly y dylem ddeall yr Ar∣glwydd Jesu ynghylch plant bychain, Canys pa ham yr oedd yn ddigllon wrth ei Apostolion am eu rhwystro i ddyfod atto, pa ham y bendithiodd hwynt, oddi eithr bod ganthynt hawl i deyrnas nefoedd? Onid gwyr∣droi rheswm Christ y mae y rhai a fynnei iddo ddywedyd fel hyn, ge∣dwch i blant bychain ddyfod attafi, canys nid eiddont hwy yw teyrnas ne∣foedd, ond eiddo y rhai sydd debyg iddynt.

Yn ol yr Opinion ffol hwn nid oes i blant bychain ddim a wnelont a theyrnas nefoedd. Rhaid i ni fod yn* 1.10 debyg i golomennod, i ddefaid, je mewn rhai pethau i seirph, eithr ni chymmerodd Christ y rhai hyn yn ei freichiau, ac nis bendithiodd, ac nis dywedodd am danynt, Eiddo y

Page 87

cyfryw yw teyrnas nefoedd, fel y gw∣naeth â phlant bychain.

Q. Beth yw teyrnas nefoedd? Att. Wrth deyrnas nefoedd y mae ini ddeall naill a theyrnas gras, ai yn∣teu teyrnas gogoniant.

1. Weithiau wrth deyrnas nefo∣edd y mae i ni ddeall teyrnas gogoni∣ant. Os eiddo plant bychain yw* 1.11 teyrnas gogoniant, os caent hwy i derbyn ir nefoedd, y mae bedydd yn perthyn iddynt. I bwy y per∣thyn bedydd os yw etifeddion teyrnas nefoedd yn anheilwng o honaw?

2. Weithiau wrth deyrnas nefo∣edd y mae i ni ddeall teyrnas gras, sef* 1.12 eglwys weledig Dduw ar y ddaiar. Hwn yw un or enwau priodol a ro∣ddir i eglwys Dduw tan yr Efengyl, nid ydym yn ddarllen am dani tan yr enw o deyrnas nefoedd yn yr holl hén Destament, datcuddiwyd teyr∣nas nefoedd trwy'r Efengyl. Hi a nessaodd trwy weinidogaeth Christ a'i Apostolion. Felly teyrnas nefoedd yw eglwys Dduw tan yr Efengyl, o'r eglwys efangylaidd hon y mae plant y ffyddloniaid yn aelodau. Ei∣dont hwy yw teyrnas nefoedd, fel y dy∣wed

Page 88

Christ. Eiddont hwy oedd teyr∣nas, neu eglwys Dduw cyn dyfod Christ, yr oeddent yn aelodau o ho∣ni, ac yr oedd ganthynt hawl iw rhagorfreintiau: Y mae Christ yn siccrhau eu hawl i deyrnas nefoedd, sef ir eglwys Efangylaidd ai rhagor∣freintiau, ni ddaeth efe iw bwrw a∣llan o eglwys Dduw, eithr i siccr∣hau hwynt yn eu hen ragorfreintiau, megis aelodau o'r eglwys weledig. Ac os ydynt aelodau or eglwys wele∣dig, megis y mae yn siccr eu bod hwynt, fe ddylid eu derbyn i mewn trwy ddrws bedydd.

7. Efe au cymmerodd hwy yn ei freichiau. Yr ydoedd y weithred hon yn arwydd oi gariad ef attynt. Y rhai dderbynniodd Christ yn ei freichiau a ddylei'r eglwys dderbyn yn ei monwes. Os yw efe yn eu cofleidio megis tad iddynt, oni ddy∣lei* 1.13 ei briod ef eu cofleidio megis mam dyner iddynt. Iddi hi y perthyn eu golchi au meithrin. Rhagddywedir am blant eglwys y Cenhedloedd, yna y sugnwch, ar ei hystlys hi i'th ddygir,* 1.14 ac ar ei gliniau i'ch diddenir. Ni fyn∣nei Duw ir eglwys Gristionogol fod

Page 89

yn fwy annaturiol iw phlant nac oedd eglwys yr Iddewon.

8. Efe a roddes ei ddwylo arnynt. Yr oedd arddodiad dwylo yn arwy∣ddocau 3 o bethau yn y Testament newydd,

1. Jacháad clefydau. Nid ir di∣ben* 1.15 hyn y gosododd Christ ei ddwy∣lo arnynt, Ni buasei'r Apostolion mor greulon ai rhwystro i ddyfod at Grist i jachau eu clefydau.

2. I neullduo rhai ir weinidoga∣eth.* 1.16 Nid ir diben hwn y gosododd Christ ei ddwylo arnynt.

3. Yr oeddid yn arddodi dwylo er Conffirmasiwn ar ol bedydd, peth arferol ymhlith yr Apostolion oedd arddodi dwylo ar y rhai a fedyddid fel y derbynnient yr yspryd glan.* 1.17 Ac o herwydd bod arddodiad dwylo yn canlyn bedydd, gosodir y ddau ynghyd. Heb. 6. 2. i athrawiaeth bedyddiau, ac arddodiad dwylo. Ir diben hwn gan hynny y mae'n deby∣gol i Ghrist osod ei ddwylo arnynt iw conffirmio, trwy dderbyn yr ys∣pryd glan. Nid oes ini dybied mae ofer oedd yr arwydd hon, yr ydoedd yn rhinweddol i gyfrannu bendith

Page 90

ysprydol. Os gall plant bychain dderbyn yr yspryd glan (fel y mae'n siccr y gallant, Lu. 1. 15, 44.) pwy a all lluddias dwfr, fel na fedyddier* 1.18 y rhai sydd yn derbyn yr yspryd glan, fel ninnau.

Gwrthddywediad, Nid diben Christ oedd rhoddi'r yspryd glan trwy ar∣ddodiad dwylo, Canys nid oedd yr ys∣pryd* 1.19 glan wedi ei roddi etto.

Atteb, Gwir yw, nid oedd wedi ei roddi yn ei ddoniau rhagorol, fel y rhoddwyd ef ir Apostolion ar ol es∣gynniad Christ i'r nefoedd, eithr yr* 1.20 oedd wedi ei roddi o ddechreuad y byd yn ei rasusau safadwy ir Ethole∣digion, ac os rhoddodd Christ ei ys∣pryd i blant bychain megis yspryd sancteiddrwydd iw hail eni, mae hynny yn ddigon, ie mae hynny yn fwy na'r donian rhyfeddol a gafodd eraill, Canys grasusau safadwy yr ys∣pryd yw'r pethau gwell hynny sydd* 1.21 ynglyn wrth jechydwriaeth.

9. Efe a'i bendithiodd hwynt. Hyn oedd diben y rhai ai dygent atto ef, fel y byddei iddynt dderbyn ben∣dith oddiwrtho ef, hwy a wyddent fod plant ynghyfammod Abraham, a

Page 91

bod Duw yn Dduw iddynt hwy me∣gis ac yr oedd iw rhieni; megis y cyfryw blant oedd ynghyfammod Duw, ac yn perthyn i deyrnas nefoedd, y mae Christ yn eu derbyn, ac yn eu ben∣dithio, â bendithion ysprydol yn ddi∣ammeu, yn ol natur y Cyfammod ar deyrnas yr oeddent yn perthyn iddynt.

Y neb y mae efe yn eu bendithio bendigedig ydynt, nid yw eu fendi∣thion ef yn ofer. Nid ydym yn dar∣llen iddo roddi ei ddwylo ar neb iw bendithio ond ar blant bychain, ac ar ei Apostolion; gan hynny yr oedd y* 1.22 naill ar llall yngyfrannogion o ragor∣freintiau priodol.

Os ydyw plant bychain yn der∣byn bendithion ysprydol oddiwrth yr Arglwydd Jesu, pwy a all neccau be∣dydd iddynt, yn arwydd or bendi∣thion hynny?

Gosodwn y pethau hyn ynghyd, ac fe fydd eglur fod bedydd yn per∣thyn i blant y ffyddloniaid.

Gwrthdd. Mae'r scrythur hon yn gweithio ynom ni feddyliau anrhy∣deddus am blant y ffyddloniaid, ac am eu rhagorfreintiau, sef eu bod

Page 92

yn anwyl gan Ghrist, bod teyrnas nefoedd yn perthyn iddynt, eu bod yn fendigedig, &c. eithr nid ydym ni yn darllen i Ghrist eu bedyddio hwynt.

Atteb. 1, Ni fedyddiodd Christ ei hun neb. Joan. 4. 2. Pe buasei yn bedyddio neb, nid oes ammeu na fe∣dyddiasei efe blant bychain, Canys y mae'n dangos mwy o ofal drostynt, mwy o gariad iddynt, a mwy o ba∣rodrwydd i derbyn hwynt, nac y mae tuag at un radd arall o ddynion.

2. Nid oedd raid i bedyddio hwynt yr awrhon, Canys yr oeddent wedi eu bedyddio or blaen gan Joan Fedyddiwr, fel y profwn ni yn y man. Ac am hynny y mae Christ yn gosod ei ddwylo arnynt i bendi∣thio hwynt, Yr oedd arddodiad dwylo yn canlyn bedydd, fel y pro∣fasom or blaen (Act. 18. 17. Heb. 6. 2.) ac yr addef llawer or rhai sydd yn erbyn bedydd plant, Canys gosodant ddwylo ar y rhai y ma∣ent wedi eu hail-fedyddio. Ni a∣llant hwy ddangos un siampl yn yr holl Destament newydd i Ghrist neu∣ei Apostolion roddi en ddwylo ar neb

Page 93

cyn eu bedyddio, oddi eithr ar rai clei∣fion i iachau hwynt. Ac os felly, yr oedd y plant hyn wedi eu bedy∣ddio pan osododd Christ ei ddwylo arnynt. Ni ddycpwyd hwynt atto ef iw jachau, nid yw'r scrythur yn son am ddim clefydau oedd arnynt, ond yn hytrach i dwyn hwynt at Ghrist fel y gweddiei ef trostynt, ac y bendithiei ef hwynt.

3. Pe digwyddasei fod y plant hyn heb eu bedyddio, mae Christ trwy ei ymresymmiad, ai ymddy∣giad attynt yn dangos fod bedydd yn perthyn iddynt. Mae yn en cofleidio, yn gosod ei ddwylo arnynt, yn eu ben∣dithio, ac yn dywedyd o'r cyfryw y mae terynas nefoedd, nid yn unig or rhai hyn, ond or Cyfryw ac oeddent hwy, sef o blant y ffyddloniaid hyd ddiwedd y byd y mae teyrnas nefoedd. Je y maent hwy nid yn unig yn aelodau eu hunain o deyrnas nefoedd, eithr yn siamplau o ddiniweidrwydd, a gostyngeiddrwydd i bawb eraill, rhaid iddynt fod fel plant bychain, os ant i mewn i deyrnas nefoedd.* 1.23 Teyrnas Dduw tan yr Efengyl a w∣neir i fynu o blant, ac o rai sydd de∣byg

Page 94

iddynt, o blant megis yr aelodau puraf o honi, heb eu llygru gan be∣chodau gweithredol, ac o rai mewn oedran sydd yn marwhau'r llygredi∣gaethau hynny a dyfodd gydâ hwynt; or cyfryw rai mae teyrnas nefoedd.

Hyn am yr ysgrythur hynod hon sydd yn gosodd allan ymddygiad Christ at blant bychain, yr hon sydd mor gyflawn yn dal allan eu hawl hwynt i fedydd, ac y mae hi yn ddigonol yn unig i siccrhau yr pwngc hwn, pe ni bae un arall yn yr holl feibl.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.