Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 18, 2024.

Pages

Page 68

PEN. VII. (Book 7)

Yn profi y dylid bedyddio plant y ffydd∣loniaid o herwydd eu bod yn san∣cteidd, 1 Cor. 7. 14. (Book 7)

Rheswm IV.

OS yw plant y ffyddloniaid yn sanctaidd, mae bedydd yn perthyn iddynt; canys addef pawb fod sancteiddrwydd yn rhoddi hawl i fedydd, os addefant bod ffydd, yn rhoddi hawl, yr hon yw gwreiddyn sancteiddrwydd mewn rhai o oe∣dran.

Eithr pa fodd y dengys eu bod yn sanctaidd? Mae'r yspryd glan yn dywedyd felly. 1 Cor. 7. 14. Pe amgen aflan yn ddiau fyddei eich plant, eithr yn awr sanctaidd ydynt. Mae'r Apostl yn y geiriau hyn yn atteb i amheuaeth rhai or Corinthiaid a gre∣dent, a oedd gyfreithlon iddynt drigo yn y stát briodas gydâ rhai di-gred.* 1.1 Nid heb achos yr oeddent yn am∣mheu hyn, o herwydd i Ezra orchy∣myn

Page 69

bwrw ymaith wragedd eulun a∣ddolgar ynghyd ai plant. Mae Paul* 1.2 yn atteb, na ddylent wneuthur felly yn awr.

1. O herwydd y sancteiddir y gwr digred trwy'r wraig sy'n credu, ar wraig ddigred a sancteiddir trwy'r gwr syn credu.

2. Mae'r plant a enir yn y Cy∣fryw stat yn sanctaidd, fel pe bae'r ddau yn credu.

Eithr y questiwn yw, ymha ysty∣riaeth y maent yn sanctaidd. Siccr yw, mae nid meddwl yr Apostol yw, bod y cyfryw blant yn blant cyfreithlon yn unig, ac nid yn fastardiaid, Ca∣nys ni chymmerir y gair sanctaidd mewn un lle yn yr scrythur yn yr ystyriaeth hon, ac y mae plant y pa∣ganiaid digred yn blant Cyfreithlon, nid bastardiaid monynt. Mae prio∣das yn ran o gyfraith natur, ac yn anrhydeddus ymhawb. Ai bastardi∣aid yw pawb nid ydynt yn credu? pwy yn ei gwbl synwyr a ddywed mae hyn yw meddwl yr Apostol, Os y gwr ar wraig sydd ddigred mae'r plant yn fastardiaid, eithr os un o ho∣nynt sydd yn credu mae'r plant yn gy∣freithlon.

Page 70

Diau fod Duw yn yr scrythur hon yn gosod allan ryw ra∣gorfraint priodol i blant y ffydloni∣aid, yr hwn nid yw yn perthyn i blant eraill. Nid ydynt hwy aflan fel eraill, eithr y maent yn sanctaidd.

Fel y byddo i ni ddeall meddwl yr yspryd glan, ni ystyriwn beth yw iddynt fod yn aflan yn yr ysgrythur, a beth yw bod yn sanctaidd. 1. Beth yw bod yn aflan? Att. Rhai a∣flan yw,

1. Rhai allan o gyfammod Duw. Am hynny medd yr Arglwydd, Isa. 52. 1. Ni ddaw o'th fewn mwy ddi∣enwaededic, nac aflan. Plant dien∣waededic heb nôd yr Arglwydd ar∣nynt, aflan oeddent, yr oeddent allan o gyfammod Duw; fel hyn yr oedd plant y Cenhedloedd digred yn aflan, ac nid oedd enwaediad, sél Cyfam∣mod Duw, yn perthyn iddynt. Yr un modd y mae plant y Twrciaid, ar Iddewon, ar Paganiaid di-gred yn aflan yr awrhon, o herwydd eu bod allan o gyfammod, ac nid yw be∣dydd, sél y Cyfammod, yn per∣thyn iddynt. Os oedd y dienwae∣dedic yn aflan, y mae'r di-fedydd yn

Page 71

aflan, canys daeth bedydd yn lle'r enwaediad, fel y profasom or blaen.

2. Rhai aflan yw y rhai a gae∣wyd allan oddiwrth ragorfreintiau eglwys Dduw. Nid oedd i neb a∣flan ddyfod ir gynnulleidfa, er nad oedd eu haflendid ond aflendid Cere∣monaidd.* 1.3 Caewyd Miriam o'r tu allan ir gwersyll pan ydoedd tan a∣flendid gwahan-glwyfus. Yr oedd yr Iddewon yn cyfrif yr holl genhed∣loedd dienwaededic yn aflan, ac yn neullduo oddiwrthynt. Am hynny nid ae Petr i bregethu'r Efengyl ir Cenhedloedd, nes i Dduw ei ber∣swadio ef trwy weledigaeth na Chy∣frifei mor Cenhedloedd yn aflan mwyach, o herwydd dattod Ca∣nolsur* 1.4 y gwahaniaeth rhwng y Cen∣hedloedd ar Iddewon. Fel hyn yr addef Peter pan ddaeth at Cornelius.* 1.5 Chwi a wyddoch mae anghyfreithlon yw i wr o Iddew ymwascu, neu ddyfod at alltud; eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin, neu yn a∣flan. Yr oedd Petr yn cyfri'r Cen∣hedloedd dienwaedic yn aflan, hynny yw, allan o eglwys Dduw, a'i rha∣gorfreintiau, eithr yr awrhon mae'n

Page 72

deall fod ymhob cenhedl y neb sydd yn* 1.6 ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder yn gymmeradwy ganddo ef, ac am hyn∣ny nad yw'r Cyfryw yn aflan, ac a∣llan o eglwys Duw.

Yr hyn a ddywed yr Apostl Peter am Cornelius, nad oedd iw gyfri yn aflan mwyach, y mae Paul yn ei ddy∣wedyd am blant y ffyddloniaid, nad ydynt yn aflan; ac am hynny fel y derbyniodd Peter Gornelius i eglwys Dduw trwy fedydd, gan ddysgu iddo ffordd yr Arglwydd yn fany∣lach, felly y dylid derbyn plant y ffyddloniaid i eglwys Dduw trwy fe∣dydd, canys nid ydynt aflan, ac iw cae allan o eglwys Dduw.

Y rhai a gaeyd allan tan y gy∣fraith o herwydd rhyw aflendid, nis derbynnit drachefn nes eu golchi a dwfr. Felly plant bychain o her∣wydd* 1.7 llygredigaeth naturiol ydynt aflan, eithr trwy gyfammod Duw, a golchiad dwfr, megis arwydd or Cyfammod, hwy a lanheir.

Fel hyn y gwelwn ni beth yw bod yn aflan, sef bod allan o gyfammod Duw, a bod heb ddim hawl i ra∣gorfreintiau eglwys Dduw. Yn yr

Page 73

ystyriaeth hon nid yw plant y ffydd∣loniaid yn aflan, fel y mae plant y rhai digred.

Q. Beth yw iddynt fod yn sancta∣idd?

Atteb. 1. Bod yn sanctaidd yw bod mewn Cyfammod â Duw. Pob peth a neullduwyd i Dduw sanctaidd ydyw. Am hynny pethau wedi neull∣duo* 1.8 ir Arglwydd a elwir yn sancta∣idd, yn, yr ystyriaeth hon yr oedd y Dabernacl, y Deml, ar llestri oedd ynthynt yn sanctaidd. Felly amse∣rau a neullduid ir Arglwydd sanctaidd oeddent, yn yr ystyriaeth hon mae'r Sabbath yn sanctaidd, o herwydd ei fod wedi neullduo i addoliad a gwa∣sanaeth Duw. Yr un modd perso∣nau wedi neullduo i Dduw, sancta∣idd oeddent, fel hyn yr oedd yr offei∣riaid* 1.9 ar Leviaid yn sanctaidd. Je yr oedd holl genhedl yr Iddewon yn sanctaidd, o‘herwydd eu bod wedi neullduo oddiwrth genhedloedd eraill i fod yn bobl gyfammodol i Dduw. A chwi a fyddwch i mi yn frenhinia∣eth* 1.10 o offeiriaid ac yn genhedlaeth san∣ctaidd. Pobl sanctaidd ydwyt ti ir* 1.11 Arglwydd dy Dduw. Yn yr ystyria∣eth

Page 74

hon yr oedd nid yn unig y rhieni, ond y plant yn sanctaidd. Had san∣ctaidd oeddent, wedi neullduo i Dduw gydâ eu tadau. Os oedd yr holl genhedlaeth, yr holl bobl yn sanctaidd, yr oedd eu plant felly,* 1.12 Canys rhan fawr or bobl oeddent. Ac yr oeddent ynghyfammod Duw megis eu tadau, ac yr oedd nod y Cyfammod arnynt. Am hynny gel∣wir yr holl genhedlaeth, sef y rhieni* 1.13 ar plant, yn had sanctaidd, ai cnawd yn gnawd cyssegredic, Jer. 11. 15. O herwydd enwaedu arno, ai neull∣duo i Dduw. Gelwir eu plant yn had sanctaidd. Onid un [wraig] a wnaeth efe? ar yspryd yngweddill* 1.14 gantho; a pha ham un? i geisio had duwiol. Yr had a enir ir ffyddloni∣aid mewn priodas gyfreithlon had Duwiol, had sanctaidd ydyw. Mae Duw yn galw'r cyfryw, ei blant ef,* 1.15 a blantwyd iddo ef.

Fel yr oedd gynt, felly mae dan y Testament newydd, gelwir y rhai a neullduwyd ir Arglwydd trwy fe∣dydd yn genhedl sanctaidd, felly dy∣wed Pedr wrth yr Iddewon a greda∣sei.* 1.16 Yr ydych chwi yn frenhinol offei∣riadaeth,

Page 75

yn genhedl sanctaidd, yn bobl* 1.17 briodl i Dduw. Y mae yn ei galw wrth yr un enwau anrhydeddus ac a roddodd Duw iddynt or blaen. Felly mae'r Apostl Paul yn galw'r Christno∣gion* 1.18 yn sainct yn ei lythurau at eg∣lwysi'r Cenhedloedd; o herwydd eu bod wedi eu neullduo trwy Gyfam∣mod, a rhwymedigaeth bedydd i fod yn eiddo'r Arglwydd. Ac y mae nid yn unig y rhieni a gredant, ond eu plant hefyd yn sainct, fel y dywed yr Apostl, Eithr yn awr sanctaidd* 1.19 ydynt.

Yr ydym yn barnu rhai mewn oe∣dran yn sanctaidd o herwydd eu bod wedi ymneullduo ir Arglwydd mewn proffes o sancteiddrwydd, er ei bod yn rhy fynych yn broffes ra∣grithiol; ac oni farnwn ni blant y ffyddloniaid yn sanctaidd, y rhai y mae Duw yn ei galw felly? Yr y∣dym ni yn barnu rhai o oedran yn sanctaidd, mewn barn o gariad, er ein bod yn fynych yn camgymme∣ryd, ac yn newid ein barn am da∣nynt; a pha ham na farnwn mor gariadus am blant y ffyddloniaid eu bod yn sanctaidd, gan fod Duw we∣di

Page 76

eu neullduo iddo ef i hun mewn cyfammod o ras? wrth farnu rhai o oedran yn sanctaidd yr ydym yn ym∣ddiried i'n barn ein hunain, ond pan ydym yn barnu plant ffyddloniaid yn sanctaidd, yr ydym yn ymddiried i farn Duw, yr hwn sydd yn eu galw yn sanctaidd yn ei air, ac yn eu cynhwyso yn yr un addewid a'u tadau. A siccr ydyw, y sancteiddir llawer o honynt oi mebyd trwy ras yr adenedigaeth fel y cawn ni weled yn y man, ac ni ellir dywedyd am yr un o honynt yn eu mebyd ein bod yn siccr na ailanwyd mono, fel y gellir dywedyd am rai o oedran fydd yn byw yngwrthwyneb iw proffes.

2. Bod yn sanctaidd yw bod yn aelodau o eglwys Dduw. Fel y mae* 1.20 y rhai aflan allan or eglwys, felly y sanctaidd ydynt aelodau o eglwys Dduw. Gelwir holl aelodau'r eg∣lwys weledig yn sainct.

Ni all neb ammeu nad oedd plant y ffyddloniaid yn aelodau o eglwys Dduw cyn ddyfodiad Christ, ni ddaeth Christ i bwrw hwynt allan: fel y profasom or blaen. Mae Mr. Tombs, (yr hwh a scrifennodd yn erbyn be∣dydd

Page 77

plant) yn addef os yw plant yn aelodau or eglwys weledig y dy∣lid eu bedyddio. Canys bedydd yw'r drws trwy yr hwn y deuir i mewn i eglwys Dduw.

Y rhai a ddywedant nad ydynt yn aelodau or eglwys a ddylent ddan∣gos scrythur eglur i ni am eu bwrw allan. Dangosent os gallant un eglwys o amser Adda hyd yr oes ddiwethaf, or hon nid oedd plant bychain yn aelodau, os oedd plant iddi. By∣dded iddynt enwi un Patriarch, un Prophwyd, un Apostl, neu athro oedd yn erbyn hawl plant bychain i fod yn aelodau or eglwys, o dde∣chreuad y byd hyd yr oes ddiwethaf. Os bwrwyd hwynt allan pa fodd y digwyddodd nad oes un gair yn yr scrythur yn són am hynny? Ga∣lwch am scrythur oddiwrth y rhai a fynnant siglo eich ffydd chwi yng∣hylch y rhagorfraint hwn.

Yr oedd yr Iddewon a gredent yn* 1.21 ddigllon iawn wrth Paul am ei fod yn erbyn enwaedu ar eu plant, pa fodd y tramgwyddasent; pe buasei Paul yn bwrw eu plant allan or eg∣lwys, ac yn eu gosod yn yr un cy∣flwr

Page 78

a phlant y rhai digred. Nid yw neb yn rhoddi hynny yn ei erbyn ef, achwynasent yn ddiau arno pe dysca∣sei'r cyfryw athrawiaeth.

Os nid yw plant y ffyddloniaid yn aelodau o eglwys Dduw, y ma∣ent yn aelodau o deyrnas Satan, yr* 1.22 hwn yw tywysog y byd. Os ydynt allan or eglwys pa obaith o jechy∣dwriaeth iddynt? Nid oes jechydw∣riaeth allan o eglwys Dduw. Eti∣feddiaeth* 1.23 yr eglwys yw'r Addewidi∣on, nid yw'r addewidion yn perthyn ir rhai oddiallan, ac am hynny os yw plant oddiallan ymhlith y Cwn,* 1.24 pa, addewid a berthyn iddynt? A ph'le nid oes addewid, nid oes go∣baith o jechydwriaeth, Canys yr addewid yw sylfaen gobaith. Beth a ddywedwch chwi rieni tyner wrth y pethau hyn? Oni ewyllysiech fod eich plant yn gadwedig? oni ddy∣munech alaru am y rhai sy'n marw o honynt yn eu mebyd tan obaith eu bod yn happus, ac nid tristau megis eraill, y rhai nid oes ganthynt obaith.* 1.25 O na fwrwch monynt allan o eglwys Dduw, allan o gyfammod jechydw∣riaeth! Eich plant anwyl ydynt,

Page 79

plant eich cyrph, plant eich addune∣dau, o dangoswch iddynt drugaredd Duw. Mae eglwys Duw yn ewy∣llysgar iw derbyn, o na rwygwch mo honynt oddiwrth y corph dirgel hwnnw o ba un y maent yn aelodau. Noah a baratodd Arch i achub ei blant, canys gwyddei nad oedd je∣chydwriaeth allan or Arch, yr hon oedd yn arwydd o eglwys Dduw: ac a bydd i chwi daflu eich plant a∣llan or Arch a baratodd Duw iddynt? O na fyddwch mor greulon iw he∣neidiau hwynt, y rhai ewyllysiech yn dda iw Cyrph. Derbyniwch* 1.26 hwynt i Arch Duw fel yr achubir hwynt trwy ddwfr. Na neccewch arwydd sancteiddrwydd ir rhai a fer∣nir gan Dduw ei hun yn sanctaidd.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.