Rhesswmmau yscrythurawl yn profi mae dyledswydd pob maeth o wrandawyr (oddieithr y rhai sydd yn byw ar elusenau) yw cyfrannu yn ol eu gallu o bethu da'r byd hwn tuag at gynhaliaeth cyssurus eu gweinidogion, au athrawion / o waith Mr. Thomas Gouge yr hwn yn ddiweddar a gymerth boen yn Gariadus i lefau cymru.

About this Item

Title
Rhesswmmau yscrythurawl yn profi mae dyledswydd pob maeth o wrandawyr (oddieithr y rhai sydd yn byw ar elusenau) yw cyfrannu yn ol eu gallu o bethu da'r byd hwn tuag at gynhaliaeth cyssurus eu gweinidogion, au athrawion / o waith Mr. Thomas Gouge yr hwn yn ddiweddar a gymerth boen yn Gariadus i lefau cymru.
Author
Gouge, Thomas, 1605-1681.
Publication
[Llundain] :: Printiedig yn Llundain gan Tho. Whitledge a W. Everingham,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Clergy -- Salaries, etc. -- Early works to 1800.
Church finance -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A41656.0001.001
Cite this Item
"Rhesswmmau yscrythurawl yn profi mae dyledswydd pob maeth o wrandawyr (oddieithr y rhai sydd yn byw ar elusenau) yw cyfrannu yn ol eu gallu o bethu da'r byd hwn tuag at gynhaliaeth cyssurus eu gweinidogion, au athrawion / o waith Mr. Thomas Gouge yr hwn yn ddiweddar a gymerth boen yn Gariadus i lefau cymru." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A41656.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 18, 2024.

Pages

Page [unnumbered]

Page 3

Rhesswmmau Yscrythurawl, Yn profi mae DYLEDSWYDD Pob maeth o Wrandawyr

(Oddieithr y rhai sydd yn byw ar Elusen∣au) yw cyfrannu yn ol eu gallu o bethu da'r byd hwn tuag at Gynhali∣aeth cyssurus eu Gweinidogion, au Athrawion.

YCyntaf sydd yn 1 Cor. 9.14. Ym mha∣le y mae 'r Apostol yn dangos yn Eglûr, Mae Ordinhâd Christ yw, i'r rhai sy'n pregethu yr Efengyl, fyw wrth yr Efengyl, hynny yw trwy feddiannu cyfran o bethau dâ eu gwrandawyr, yr hyn a ddylei y cyfriw i roddi i'r rhai sydd yn pregethu 'r Efengyl iddynt.

Os Gofynnir pa le y traethoedd, Ac yr Arlwyoedd Crist y cyfriw Ordeinhâd?

Page 4

Yr wyf yn Atteb: Yn Math. 10.9, 10. Ym mhale Crist wrth ddanfon allan ei deu∣ddeg Apostolion i bregethu yr Efengyl, y Ddywedodd wrthynt, Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau: Nac ys∣cripan i'r daith, neu ddwy bais, nac escidiau, na ffon, canys teilwng i'r gweithŵr ei fwyd. Ym∣mhale wrth arian, aur, ac efydd y wahardd∣wyd iddynt baratoi iw taith, mae i ni ddeall pob maeth a'r aur, arian, neu efydd cymerad∣yw ymhlith Marchanad-wŷr, ac wrth yr yscrip∣pan, mae i ni ddeall, pob maeth a'r luniaeth yr hyn oeddyd arferol o'i ddwyn mewn ys∣crippannau, neu Gôdau ymddaithuddion ar eu Taith. Er y dylaeu dynion yn ymdaich ar eu hachosion eu hunain, baratoi petheu anghen∣rhaid iw Taith; etto yr Apostolion yn myn∣ed ar Ngeus, neu waith Crist er llesshâd ysprydol eraill, a waherddir i baratoi y faeth betheu trostynt eu hunain, o herwydd y rhess∣wm y mae ein iachawdwr yn y roddi, gan ddywedyd canys ttilwng i'r gwethiwr ei fwyd, hynny yw cnhaliaeth ddigonol; Bwyd y gymmeryr ymma am bob peth anghenrheidiol i'r bywyd pressennol, fel y mae y gair bara, yn y pedwerydd arch o weddi yr Arglwydd iw ddeall, am bob peth sydd Anghen-rhaid tuag at gynhaliaeth bywyd.

Yr ail Rhesswm a ellir y gymeryd Oddiwrth y rheol gyffredinol O uniondeb, oblegid beth all fod uniawnach, neu gyfiawnach, nac i'r rhai sydd yn derbyn pethau ysrydol (er llessâd, a daioni ysprydol iw heneidiau anfarwol, oddi∣wrth eu gweinidogion) gyfrannu iddynt bethau

Page 5

anghen∣rheidiol tuag at eu cynhaliaeth Corph∣orawl yma. Y Rhesswm hyn y mae yr Apost∣ol yn ei arfer yn 1 Cor. 9.11. Os nyni (medd ef) a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol? Megis pe dywedasei, os nyni a droeliasom ein amser, a'n grym, yn egluro, a chyfrannu dirgelwch yr Efengyl i chwi, er mwyn eich daioni ysprydol, onid ydyw yn beth uniawnaf, a chyfiawnhaf a all fod, y chwitheu ymadel a chyfran och peth∣au daiarol, er ein cyssur, a'n cynhaliaeth corph∣orawl ninneu? Ar yr un rhyw achos y dywed yr un Apostol yn y Gal. 6.6. A chyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair, â'r hwn sydd yn ei ddyscu ym mhob peth da, hynny yw, yn ei holl feddiannau bydol fel y mae 'r gair yn y Groeg yn arwyddocau; yr hwn sydd yn derbyn lessâd o addsysc ysprydol oddiwrth arall, a ddylai gyfrannu i anghenion, ac eisieu y cyfriw un o'r hyn oll a feddo.

Gan fod y ddyledswydd hon, o gyfranu ein pethau daiarol i'r rheini sydd yn gweini i ni bethau ysprydol, môr eglur wedi ei orch∣ymyn yn yr yscrythur sanctaidd, fel gan Grist ei hun, felly hefyd gan ei Apostolion ef, nid allwn ni gyfrif y peth hyn, megis gwedi ei adel, i'n ewyllys, neu'n meddwl ein hunain, i roddi, neu ballu fal y gwelom yn dda; ond ei fod yn rhwym ddyled, yr hwn ni allir ei esceuluso gan neb o un gradd ond y rhai sydd yn byw ar Elusenau, heb fod yn euog o bechod ffiaidd yn erbyn Duw.

Page 6

Yn drydydd, At y Rhesswmmau Yscrythur∣awl hyn, mifi a roddaf un a ellir y gymer∣yd oddiwrth ddioddefiadau gweinidogion er eich mwyn chwi, onid yn erbyn diseawdwyr pobl Dduw y mae llid, a digllonedd dynion drwg fwyaf? onid ydynt arferol o ddywedyd? Taro y bugail, a'r praidd a wascerir, pa sawl un o'r cyfriw a espeiliwyd oi perheu? Ac a fwriwyd i garchar er eich mwyn chwi, eneidau pa rai oedd anwylach iddynt, na'u pethau, neu eu Rhyddid eu hunain? Y ddywedyd y gwir, (ar y cysris hyn) gweithred o gyfiawnder, cystal a gor••••wyl o drugaredd yw eu cynorthwyo, au helpu hwy, y rhai amriw ffyrdd, sydd yn dioddef er eich mwyn chwi.

Yn gymmaint a bod llawer o wrthwediad∣au yngeneuau amriw bobl, y rhai sydd yn eu Rhwystro i gyflawni yn gydwybol y ddyled∣swydd hon, mi a ymdrecha y atteb y rhai pennaf o honynt.

1. Rhai a ddywedant fod eu Carraid yn sawr, gwraig, a llawer o blant, i ofalu trosi∣ynt, a Pharatoi iddynt.

Atteb. 1. Mae'n rhaid cydnabod y dylaei rhieni baratoi tros eu plant, cyn belled ag y gallant gyda chydwybod dda; Ond gwybydd∣ed y cyfriw fod yr un Apostol ac sydd yn Gorchymyn iddynt ofalu a pharatoi tros eu teulu, yn erchi hefyd iddynt roddi cyfran o'u pethau daiarol i'r rhai sydd yn gweini iddynt hwythau mewn pethau ysprydol.

Page 7

2. Nid oes gwell ffordd i dynnu, a rhwymo bendith Duw ar eich plant, na thrwy roddi cyfran o'ch eiddo i'r sainct a gweinidogion Duw; oblegid fel y mae y Psalmydd yn dy∣wedyd yn y Psal. 37.26. Hâd y Trugarog a fendithir; wrth yr hyn y mae i ni ddeall y bydd y drugaredd, a haelioni tuag at eraill, (yn enwedigol gweinidogion Duw) rwymo bendith yr Hollalluog at ei hâd hwynt.

Yn Ail, Y mae rhai yn dadleu eu tlodi, gan ddywedyd nad oes ganthynt fodd y gyf∣rannu tuag ddiffigion eraill.

Atteb. 1. Y rhesswm hyn o'th tlodi, yr wyfi yn ofni nad yw ond lliw. O herwydd nad ydwyt heb fodd i dreulio ar dy felus chwanteu, gyda'th gyfeillion, a'th Gymydogion mewn Tafarndai, ac ar achosion gwael eraill, ac etto nid ymadewi â dim tuag at gynhaliaeth dy weinidog, pe rhoddit i'th weinidog gymaint ac yr ydwyt yn y dreulio i gyflawni dy drach∣whant, ni roddit iddo achos y achwyn o her∣wydd dy galedwch; ond oh mor ofydus y fydd dy gyfrif yn nydd y farn pan dygir a'r gof itti gymaint a dreuliaist mewn Tafarndai, ac i gyflawni dy drachwhantau, a'th bless∣erau cnawdol, ac môr lleied y roddaist i'th ddyscawdwr!

Atteb. 2. Beth os yw dy gyflwr mor issel yn y byd, fel ac yr ydwyt yn cael dy gyfrif ym∣mysc y rhai isselaf o ddynion; etto gwybydd fod yr Apostol yn gorchymyn ir fath rhai tlodion hynny ac sydd yn byw wrth eu poen,

Page 8

au llafur, weithio fellu fel y bo ganthynt fodd iw gyfrannu, i atteb anghenrheidieu gweision Duw, Eph. 4.28. Cymmered boen (medd yr Ap∣ostol) gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu i'r hwn y mae angen arno, 2 Cor. 8.2, 3. Pwy a allei ddad∣leu mwy tros ei thlodi na'r weddw dlawd honno yn, Mar. 12.43. Yr hon a fwriodd y mewn yr hyn oll a feddei, pan nad oedd hynny ond dwy hat∣ling, yr hyn yw ffyrling, haelioni yr hon y mae Crist yn ei ganmol cymaint; y mae'r yspryd Glan hefyd yn crybwyll yn 1 Bren. 17.12, &c. Am y weddw dlawd o Sarepta yr hon mewn amser prinder, a newyn a borth∣odd y prophwyd Elias: caredigrwydd yr hon a Obrwyodd yr Arglwydd yn ddirfawr, trwy y rhyfeddol gynnydd a roddes ef ar ei ychydig flawd, ai olew hi, yr hyn a barhâodd iw chynhaliaeth hi, au thylwyth dros holl am∣ser y newyn.

Yn Drydydd, Rhai a ddywed os rhoddant mor rhwydd, a mynych, ac y gosyn achosion y cyfryw, eu gallant fod mewn dyffig eu hun∣ain cyn marw.

Atteb. Y gwrthwediad hyn, pryder diwraidd yw, yn tarddu o galon amheus ac anghredi∣niol, yngwrthwyneb i amriw addewidion yngair Duw, megis y lle hynny yn y Dihar. 11.24. Rhyw un a wascar ei dda ac fe a chwanegir iddo, a rhyw un arall a arbed mwy nac a weddai, ac a syrth i dlodi, wrth wascaru mae i ni ddeall, rhoddi rhan o'n pethau Da i'r tlodion, yr hon yw'r ffordd Siwraf, a diogelaf i lwyddo, ac arbed mwy nac a weddei iw'r ffordd fawr i dlodi. Adnod y 25. Yr enaid hael a frasheir:

Page 9

A'r neb a ddwfrhâo a ddwfrheir yntau hefyd. Wrth yr enaid hael mae i ni ddeall y gŵr trugarog, yr hwn a frasheir hynny yw a lwydda yn y byd, neu a gynnydda mewn golud. Ac medd ein iachawdwr yn Math. 10.42. A phyw bynnag a roddo iw yfed i un o'r rhai bychain hyn, phio∣leid o ddwfr oer yn unig, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe moi wobr. Megis pe dywedasei, fe obrwyr yn ddirfawr y weithred leiaf o drugar∣edd a wneler i weinidog Crist, yn cystal yn y byd hwn, ac yn y byd y ddaw, ac yn Luc. 6.38. Medd efe, Rhoddwch, a rhoddir i chwi: Messur da, dwysedig ac wedi ei escwyd, ac yn myned trossodd, a rhoddant yn eich monwes: Canys â'r un messur ac y mesurwch, y mesurir i chwi drachefn. Ymma y mae Christ yn rhoi megis bil o'u law, neu yn entro mewn Bond, na fydd dyni∣on ar golled am yr hyn a roddont er ei fwyn ef, ond y caent yw Talu gyda llawer o ragoriaeth, gan dderbyn mwy i mewn o fen∣dithion wedu eu escwyd, ac yn myned trossodd; Ar ba achos y mae'r Apostol (yn 2 Cor. 9.6.) yn dywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd yn brin, (a'r hwn sydd yn hau yn helaeth a fêd yn helaeth. Felly ynteu pa fwyaf a roddir, mwyaf a dderbynnir gan Duw; pa le y mae'r dyn y sydd dlottach o herwydd yr hyn a rodd∣odd i'r seinctiau tlodion, a gweinidogion Duw? Ond megis Ffynhonau o ddyfroedd byw, pa fwyaf a dynnir o honynt, rhwyddach a rhedant; felly golud y Trugarogion; yn arferol, (neu o'r lleiaf yn fynych) a gynnydda trwy ei ddospar∣thiad; fel y pûmp torth haidd, a'r ychydig byscod wrth eu torri, au rhannu, neu Olew y wraig weddw yn y stên, wrth ei dywallt allan.

Page 10

I ddiweddu hyn trwy air o gyngor, i'th bar∣atoi, a'th gymhwyso i gyflawni y ddyledswydd angemheidiol hon, gyda llawenydd calon, ac yspryd rhwydd, gossod a'r nailltu ryw rhan o'th olud bob dydd yr Arglwydd, o'r hyn a enillaist yn yr wythnos o'r blaen, yn ol y modd y llwyddwyd ti gan Duw: hyn yw'r gorchymyn y mae'r Apostol Paul trwy gyfa∣rwydd-deb yr yspryd Glân yn ei roddi yn 1 Cor. 16.1, 2. Hefyd am y gascl i'r Sainct megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia felly gwn∣ewch chwithau. Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un o honocb rhodded hebio yn ei ymyl gan dryssori fel y llwyddodd Duw ef. Hynny yw yn ol y modd neu'r messur y bendithiodd Duw ef, Gossoded o'r nailltu gyfran, tuag at anghen∣rheidiau y seinctiau tlodion, a Gweinidogion Duw.

Y rheol hon a fynwn i'r rhai sydd yn byw∣wrth eu llasur, neu gwaith beunyddiol ed∣rych atti, yn enwedigol, ped fae y cyfryw ond gossod yn eu hymyl, un geiniog yn yr wyth∣nos hwy a allent mewn quarter blwyddyn roddi Swllt iw Gweinidog.

Eithr llafurwyr, a chreftwyr eraill y rhai sydd yn gwerthu ar oed, a tryst y rhai ni all∣ant wybod cystal beth yw eu hennill yn yr wythnos, mi ai cynghorwn wrth fwrw eu cyf∣rif, yn niwedd y flwyddyn, i ossod yn eu hymyl gyfran tuag at weithredoedd o drugar∣edd, yn ol y modd y Llwyddodd Duw hwy yn y flwyddyn honno, fel y maent yn disgwyl Bendith Duw ar eu poen yn y flwyddyn y Ddyfod.

Page 11

Fe all llawer y rhai sydd yn dyfal ddilyn gweinidogaeth yr Efengyl, am hynny eu gw∣enheithio eu hunain a thyb da o gyflwrau eu heneidiau, a Simlrwydd eu crefydd, au Proffes; etto gwybydded y cyfryw yn siccr, os nid ydynt yn rhwydd gyfrannu (yn ol eu gallu) tuag at gynhaliaeth eu gweinidogion, nad yd∣yw eu crefydd, au proffes ond ffurfiol, a rhag∣rithiol; o herwydd gwîr grefydd, yn ddiau a wna ddynion yn Elusengar yr hyn beth sydd gynhwysedig yn Jag. 1.27. Lle y mae 'r Apostol yn traethu fod crefydd bur, a Dihal∣ogedig yn cynnwys yn fawr mewn gweithredoedd o drugaredd. Ac y mae'r Apostol Paul yn dy∣wedyd yn eglur yn Col. 3.12. Fod Etholedi∣gion Duw i wisco am danynt ymscaroedd trugar∣eddau, oddiwrth yr hyn y gallwn gasclu, mae priodolaeth sydd yn wastadol yn perthyn i wir Gristion, yw bod yn Elusengar yn ol eu allu; os edrychwch i'r yscrythur, ni ddar∣llenwch am neb gwir Dduwiol, heb fod mewn rhyw fessur yn Elusengar; canys pwy bynnag sydd trwy wir, a bywiol ffydd, gwedi eu plannu ynGrist, ni allant lai na dwyn, a dangos allan ffrwythau o Drugaredd, a Thosturi, ie o Gariad, a Haelioni.

TERFYN.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.