Y Bibl Cyssegr-lan sef yr Hen Destament a'r Newydd.
About this Item
- Title
- Y Bibl Cyssegr-lan sef yr Hen Destament a'r Newydd.
- Publication
- Printedig yn Llùndain :: Gan Bonham Norton a Iohn Bill, printwyr i Adderchoccaf fawrhydi y Brenhin,
- 1620.
- Rights/Permissions
-
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
- Link to this Item
-
http://name.umdl.umich.edu/A13183.0001.001
- Cite this Item
-
"Y Bibl Cyssegr-lan sef yr Hen Destament a'r Newydd." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A13183.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 17, 2025.
Pages
Page [unnumbered]
APOCRYPHA.
❧ I. ESDRAS.
PENNOD. I.
1 Gorchymmyn Iosias i'r Offeiriaid a'r Leuiaid. 7 Cadw Pasc mawr. 32 Mawr gwyn am farwolaeth Iosiah. 34 Pwy a ddaeth ar ei ôl ef. 53 Distrywio 'r Deml, ar ddinas, a'r bobl: 56 A chaethgludo 'r llaill i Babilon.
A * 1.1 Iosias a gad∣wodd [ŵyl] y Pasc iw Arglwydd yn Ierusalem, ac a offrymmodd yr [oen] Pasc ar y pedwerydd dydd ar ddêc o'r mîs cyntaf,
2 Ac a gyfleodd yr Offeiriaid yn eu beunyddawl orchwyliaethau, wedi eu dilladu mewn gwiscoedd lleision, yn nhŷ yr Arglwydd.
3 Ac efe a ddywedodd wrth y Lefiaid, sanctaidd wenidogion Israel, am iddynt hwy eu sancteiddio eu hunain i'r Argl∣wydd, i osod Arch sanctaidd yr Arglwydd yn y tŷ a adeiladasei y brenin Salomon mab Dafydd:
4 [Gan ddywedyd,] na fydded hi mwyach yn faich i chwi ar yscwydd: gwasanaeth∣wch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a gofelwch am ei bobl ef Israel, ac ymba∣rottowch drwy eich teuluoedd, yn ôl eich dosparthiadau, fel yr scrifennodd Dafydd brenin Israel, ac yn ôl mawredd Salomon ei fab ef. * 1.2
5 A sefwch yn y Deml, yn ôl dosparthiad teulu eich tadau chwi y Lesiaid, ger bron eich brodyr meibion Israel.
6 Mewn trefn offrymmwch y Pasc, a pharatowch yr aberthau i'ch brodyr: a chedwch y Pasc yn ôl gorchymmyn yr Ar∣glwydd, drwy [law] Moses.
7 A Iosias a roddodd i'r bobl oedd yn bresennol ddeng-mîl ar hugain o wyn a mynnod, a thair mil o eidionnau: hyn o gyfoeth y brenin a roddwyd i'r bobl, ac i'r Offeiriaid, ac i'r Lefiaid, yn ôl yr addewid.
8 Yna Helcias, a Zacharias, a ‖ 1.3 Syelus, llywodraeth-wŷr y Deml, a roddasant i'r offeiriaid tu ag at y Pasc ddwy fil, a chwe chant o ddefaid, a thry-chant o eidionnau.
9 Iechonias hefyd, a Samaias, a Natha∣nael ei frawd, a Sabaias, ac Ochiel, a Io∣ram, milwriaid, a roddasant i'r Lefiaid ynghyfer y Pasc, bum mîl o ddefaid, a seith∣gant * 1.4 o eidionnau.
10 Pan orphennwyd hyn yn drefnus, yr Offeiriaid a'r Lefiaid a safasant drwy yr llwythau, a chanddynt fara croyw,
11 Yn ôl dosparthiadau teuluoedd eu tadau, yngŵydd y bobl, i offrymmu i'r Arglwydd, fel y mae yn scrifennedic yn llyfr Moses: ac felly y gwnaethant y * 1.5 borau.
12 A hwy a rostiasant yr [oen] Pasc wrth dân, * 1.6 yn ôl y ddefod, a'r offrymmau a ferwasant gyd â phêr-aroglau, mewn pe∣dyll, a chrochanau; ac a'i rhoddasant ger bron yr holl bobl.
13 Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac iw brodyr yr Offeiriaid meibion Aaron.
14 Canys yr Offeiriaid a offrymment y brasder hyd yr hwyr: a'r Lefiaid a bara∣toent iddynt eu hunain, ac iw brodyr yr Offeiriaid, meibion Aaron.
15 A'r cantorion sanctaidd, meibion Asaph oedd yn eu cyflê, yn ôl gorchymmyn * 1.7 Da∣fydd, sef Asaph, Zacharias, Ieduthun, gweledydd y brenin.
16 A'r porthorion oedd ym mhob porth, ni chaent hwy ymado o'i gwasanaeth, ca∣nys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy.
17 Felly y gorphennwyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw:
18 Gan gynnal y Pasc, ac offrymmu poeth offrymmau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymmyn y brenin Iosias.
19 Felly meibion Israel, y rhai oedd bresennol, a gynhaliasant y Pasc yr amser hwnnw; a gŵyl y bara croyw, dros saith niwrnod.
20 Ac ni chynhaliasid Pasc fel hwnnw yn Israel, er amser Samuel y Prophwyd.
21 Ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel y cyffelyb Basc ac a gynhaliodd Io∣sias, a'r Offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r Idde∣won, a holl Israel, a'r rhai oedd bresennol o drigolion Ierusalem.
Page [unnumbered]
22 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrna∣siad Iosias y cynhaliwyd y Pasc hwnnw.
23 A gweithredoedd Iosias oeddynt vniawn ger bron ei Arglwydd, â chalon gyflawn o dduwioldeb.
24 Ac am y pethau a ddigwyddasant yn ei amser ef, y maent hwy yn scrifenne∣dic o'r blaen, o ran y rhai a bechasant, ac a fuant annuwiol yn erbyn yr Argl∣wydd, rhagor pôb cenhedl a theyrnas, gan ei dristâu ef yn dirfawr, fel y cy∣fododd geiriau yr Arglwydd yn erbyn Israel.
25 Wedi darfod i Iosias y pethau hyn, y digwyddodd i * 1.8 Pharao brenin yr Aipht, ddyfod i ryfela yn erbyn Carcha∣mis ar Euphrates; a Iosias a aeth iw gy∣farfod ef.
26 Ond brenin yr Aipht a anfonodd atto ef, gan ddywedyd, beth sydd i mi a wnelwyf â thi, frenin Iudæa?
27 Nid yn dy erbyn di i'm gyrrodd yr Arglwydd Dduw, ond fy rhyfel i sydd ar Euphrates, ac yn awr yr Arglwydd sydd gyd â mi, a'r Arglwydd sydd gydâ mi, yn peri i mi fryssio: ymado â mi, ac na wrth∣wyneba yr Arglwydd.
28 Ond ni throei Iosias ei gerbyd oddi wrtho ef, eithr efe a ymdacclodd i ymladd ag ef, heb ystyried geiriau Ieremi y Proph∣wyd, o enau yr Arglwydd.
29 Ac efe a fyddinodd yn ei erbyn yn nyffryn Megido, a'r tywysogion a ddae∣thant i wared at frenin Iosias.
30 A'r brenin a ddywedodd wrth ei wei∣sion, dygwch fi allan o'r gâd, canys yr yd∣wyf yn llesg iawn: ac yn ebrwydd ei wei∣sion a'i dygasant ef allan o'r gâd:
31 Yna efe a escynnodd iw ail cerbyd, ac wedi iddo ddychwelyd i Ierusalem, efe a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau.
32 A thrwy holl Iuda y galarwyd am Iosias, a Ieremi y Prophwyd a alar-na∣dodd am Iosias, a'r llywodraeth-wŷr, a'i gwragedd a wnaethant gwynfan mawr am Iosias, hyd y dydd heddyw: ac fe aeth hynny yn ddefod i'w wneuthur yn oestad ym mhlith holl genedl Israel.
33 Y mae y pethau hyn yn scrifenne∣dic yn llyfr historiâu brenhinoedd Iuda; a phob gweithred a'r a wnaeth Iosias, a'i ogoniant, a'i ŵybodaeth ynghyfraith yr Arglwydd, a'r pethau a wnaethei efe o'r blaen, a'r pethau [a yspysswyd] y pryd hyn, sy scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Is∣rael, a Iudæa.
34 A'r bobl a gymmerasant * 1.9 Ioachas fab Iosias, ac a'i vrddasant ef yn frenin yn llê Iosias ei dâd, pan oedd efe yn dair blwydd ar hugain o oed.
35 Ac efe a deyrnasodd yn Iudæa, ac yn Ierusalem dri mîs: ac yna brenin yr Aipht a'i tynnodd ef ymmaith o deyrnasu yn Ie∣rusalem.
36 Ac efe a drethodd ar y wlad gan ta∣lent o arian, ac vn dalent o aur.
37 A brenin yr Aipht a wnaeth Ioacim ei frawd ef yn frenin Iudæa, a Ierusalem.
38 Ac efe a rwymodd Ioachim a'r llywo∣draeth-wŷr: ac efe a ddaliodd Zaraces ei frawd, ac a'i dug ef ymmaith i'r Aipht.
39 Ioacim oedd bum mlwydd ar hugain, pan * 1.10 ddechreuodd efe deyrnasu yn Iudæa, a Ierusalem, ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd.
40 Am hynny Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fynu yn ei erbyn ef, ac a'i rhwymodd ef â chadwyn brês, ac a'i dug ef ymmaith i Babilon.
41 Yna Nabuchodonosor a gymmerth o lestri sanctaidd yr Arglwydd, ac a'i dug hwynt ymmaith, ac a'i rhoddes yn ei Deml ei hun, o fewn Babilon.
42 Ond ei holl weithredoedd ef, a'i ha∣logedigaeth, a'i anwiredd, sydd yn scrifenne∣dic yn Grhoniclau y brenhinoedd.
43 A Ioacim ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef: a deu-naw mlwydd oed oedd efe, pan vrddwyd ef yn frenin.
44 A thri mis, a deng-nhiwrnod y teyr∣nasodd efe yn Ierusalem: ac yntef a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd.
45 Felly ym mhen y flwyddyn, Nabucho∣donosor a anfonodd, ac a'i dug ef i Babi∣lon, gyd â llestri sanctaidd yr Arglwydd.
46 Ac a wnaeth Zedecias yn frenin Iudæa a Ierusalem, pan oedd efe yn vn mlwydd ar hugain o oed; ac efe a deyrna∣sodd vn mlynedd ar ddêc.
47 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, ac nid ofnodd y geiriau a ddywedasei Ieremi y Prophwyd * 1.11 wrtho, o enau yr Arglwydd.
48 Ac yn ôl iddo ef fod wedi ei dyngu i Nabuchodonosor, efe a dyngodd anu∣don i Enw yr Arglwydd, ac a wrthryfe∣lodd, ac a galedodd ei warr a'i galon, ac a drosseddodd gyfreithiau Arglwydd Dduw Israel.
49 A phennaethiaid y bobl, a'r Offeiri∣aid a wnaethant lawer o anwiredd yn er∣byn y cyfreithiau, ac a ragorasant ar holl frynti yr holl genhedloedd, ac a halogasant Deml yr Arglwydd, yr hon a gyssegrasid yn Ierusalem.
50 Er hynny Duw eu tadau a ddanfo∣nodd ei gennad iw galw hwy drachefn, am iddo fod yn eu harbed hwynt, a'i Da∣bernacl ei hun.
51 Ond hwyntwy a watwarent ei gen∣nadau ef, a'r dydd yr ymddiddanei yr Argl∣wydd â hwynt, hwy a watwarent ei Broph∣wydi ef.
52 O'r diwedd, efe a ddigllonodd wrth ei bobl am eu camweddau mawrion, ac efe a barodd i frenhinoedd y Caldeaid ddyfod i fynu yn eu herbyn hwynt.
53 Y rhai hyn a laddasant eu gwŷr ieuaingc a'r cleddyf o fewn angylchoedd eu Teml sanctaidd, ac ni pharchasant na gŵr ieuangc, na morwyn, na hen-wr, na phlen∣tyn, yn eu plith hwynt.
Page [unnumbered]
54 Eithr efe a'i rhoddes hwynt oll yn eu dwylo hwy, a holl lestri sanctaidd yr Arglwydd, mawrion a bychain, a llestri Arch Duw; a thrysorau y brenin a gym∣merasant hwy, ac a ddygasant ymmaith i Babilon.
55 A hwy a loscasant Deml yr Argl∣wydd, ac a dorrasant i lawr furiau Ieru∣salem, ac a loscasant ei thyrau â thân.
56 Difwynasant hefyd ei holl bethau gwerth-fawr, ac a'i dinistriasant: ac efe a ddug ymmaith y rhai a weddillasei y cle∣ddyf, i Babilon.
57 Y rhai a fuant yn gaeth-weision iddo ef, ac iw feibion, nes teyrnasu o'r Persiaid; fel y cyflawnid * 1.12 gair yr Arglwydd, [yr hwn a ddywedasei efe] drwy enau Ie∣remi.
58 Fel y mwynhaei y wlâd ei Sabbo∣thau, yr holl amser y bu hi yn ddiffaeth∣wch, ac y gorphywysei hyd oni chyflawn∣wyd deng mhlynedd a thrugain.
PEN. II.
1 Duw yn cynnhyrfu Cyrus i adeiladu 'r Deml; 5 ac yntau yn rhoi cennad i'r Iudde∣won i ddychwelyd, ac i roi peth tu ac at y gwaith: 11 Ac yn rhoi yn ei hôl y llestri a ddygasid oddi yno. 25 Artaxerxes yn gwa∣rafun i'r Iuddewon adeiladu.
YN y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus brenin y * 1.13 Persiaid, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Ieremi,
2 Yr Arglwydd a anno∣godd yspryd Cyrus brenin y Persiaid, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a [hynny] mewn scrifen.
3 Gan ddywedyd; fel hyn y dywed Cy∣rus brenin y Persiaid; Arglwydd Israel, sef yr Arglwydd goruchaf a'm gwnaeth i yn frenin ar yr holl fyd,
4 Ac a orchymynnodd i mi adeila∣du iddo dŷ yn Ierusalem, yr hon sydd yn Iudæa.
5 [Am hynny] od oes nêb o honoch chwi o'i bobl ef, bydded yr Arglwydd [sef] ei Arglwydd gyd ag ef, ac eled i fynu i Ie∣rusalem, yr hon sydd yn Iudæa, ac adei∣laded dŷ Arglwydd Israel: canys ‖ 1.14 efe yw 'r Arglwydd sydd yn presswylio yn Ieru∣salem.
6 A phwy bynnac sydd yn cyfanneddu y lleoédd hynny o'i hamgylch, cynnorthwyed [y rhai sydd yno] ef ag aur, ac ag arian,
7 A rhoddion, â meirch, ac anifeiliaid, gyd ag addunawl offrymmau i Deml yr Arglwydd, yr hon sydd yn Ierusalem.
8 Yna pennaethiaid teuluoedd Iudæa, a llwyth Beniamin, a'r Offeiriaid, a'r Le∣siaid a gyfodasant, a chymmeint oll ac y cynhyrfodd yr Arglwydd eu meddwl i fy∣ned i fynu, ac i adeiladu tŷ ir Arglwydd yn Ierusalem.
9 A'r rhai oedd o'i hamgylch hwynt a'i cynnorth wyasant ym mhob peth, ag ari∣an, ac ag aur, â meirch, ac anifeiliaid, ac â llawer iawn o addunawl roddion, y rhai yr oedd eu meddwl wedi eu cynhyrfu [at hynny.]
10 Brenin Cyrus hefyd a ddug allan lestri sanctaidd yr Arglwydd, y rhai a ddy∣gasei Nabuchodonosor ymmaith o Ieru∣salem, ac a'i cyssegrasei yn nheml ei eulyn∣nod.
11 A phan ddug Cyrus brenin y Persiaid hwynt allan, efe a'i rhoddodd hwynt at Mithridates ei dryssorydd,
12 Iw rhoddi hwynt i ‖ 1.15 Sanabassar rhaglaw Iudæa.
13 Dymma eu rhifedi hwynt: mil o gaw∣giau aur, a mil o gawgiau arian, o noiau arian i'r ebyrth naw ar hugain, déc ar hu∣gain o phiolau aur, ac o arian ‖ 1.16 ddwy sil, pedwar cant a dêc, a mil o lestri eraill.
14 Felly yr holl lestri aur ac arian, y rhai a ddygasid ymmaith, oedd ‖ 1.17 bum mil, a phed∣war-cant, a naw a thrugain.
15 A Sanabassar a'i dug hwynt gyd â'r [rhai a aethant] o gaethiwed Babilon i Ierusalem.
16 * 1.18 Ond yn amser Artaxerxes brenin y Persiaid; Belemus, a Mithridates, a Tha∣belius, a ‖ 1.19 Rathumus, a Beeltethmus, a ‖ 1.20 Semelius yr scrifennydd, ac eraill o'i cyd∣swydd-wŷr hwynt, y rhai oedd yn aros yn Samaria, ac mewn lleoedd eraill, a scri∣fennasant atto y llythyr hwn, yn erbyn y rhai oedd yn presswylio yn Iudæa, a Ieru∣salem: AT Y BRENIN ARTAXERXES [EIN] HARGLVVYDD,
17 Dy weision di, Rathumus scrifen∣nydd historiau, a Semelius yr scrifen∣nydd, ac eraill o'i cyd-gynghor-wŷr, a'r barnwŷr sydd yn Coelosyria, ac yn Phe∣nice:
18 Bydded hyspys i'n harglwydd fre∣nin, fod yr Iddewon a ddaethant oddi wrthych chwi attom ni i Ierusalem, (y ddinas wrthryfelgar ddrygionus honno) yn adeiladu y farchnad-lê, ac yn adne wy∣ddu ei muriau hi, ac yn gosod sylfaenau y Deml.
19 Yn awr os adeiledir y ddinas hon, ac adnewyddu ei muriau hi, ni wrthodant yn vnic dalu teyrn-ged, eithr hwy a wrthwy∣nebant frenhinoedd.
20 O herwydd bod y pethau sydd yn perthynu i'r Deml yn myned rhagddynt, ni thybiasom fod yn weddaidd gollwng heibio y fath beth:
21 Eithr ei ddangos ef i'n harglwydd y brenin, modd y gellech di, o rhyngei fodd i ti, chwilio yn llyfrau dy dadau,
22 A thi a gei yn y Croniclau, y pethau sy scrifennedig am y pethau hyn, fel y ce∣ffych ŵybod fod y ddinas hon yn gwrthry∣fêla, ac yn gwneuthur blinder i frenhin∣oedd, ac i ddinasoedd,
23 A bod yr Iddewon yn wrthryfel∣gar, ac yn magu terfyscau ynddi erioed; o herwydd yr hwn beth y darfu dinistrio y ddinas hon.
Page [unnumbered]
24 Am hynny yn awr, ô Arglwydd fre∣nin, yr ydym ni yn hyspysu i ti, os adei∣ledir y ddinas hon, ac os cyweirir ei muri∣au hi, ni bydd i ti ffordd i fyned i Coelosy∣ria, nac i Phenice.
25 Yna y brenin a scrifennodd drachefn at Rathumus yr historia-wr, ac at Beel∣tethmus, ac at Semelius yr scrifennydd, ac at eraill o'i cyd-swydd-wŷr, a thrigoli∣on Samaria, Syria, a Phenice, yn y wedd hon.
26 Myfi a ddarllennais y llythyr a ddan∣fonasoch attaf: am hynny mi a orchymyn∣nais chwilio, ac fe a gafwyd, fod y ddi∣nas hon erioed yn gwrthwynebu brenhi∣noedd,
27 A bod ei phobl yn gwneuthur terfys∣coedd a rhyfeloedd, a bod brenhinoedd cry∣fion a chedyrn yn teyrnasu yn Ierusalem, y rhai oedd yn teyrnasu, ac yn mynnu teyrn-ged o Coelosyria, a Phenice.
28 O herwydd hynny y gorchymynnais yn awr wahardd i'r gwŷr hyn adeiladu y ddinas, a gwilied rhac gwneuthur o ho∣nynt ddim mwyach,
29 Ac na chaffei y gweithwyr drygionus hynny fyned rhagddynt, ym-mhellach, i flino'r brenhin.
30 Ac wedi i Rathumus, a Semelius yr scrifennydd, ac eraill eu cyd-swydd-wŷr, ddarllen y pethau a scrifennasei y brenin Artaxerxes, yna hwy a ddaethant ar ffrŵst i Ierusalem, a byddin o wŷr meirch, a ‖ 1.21 sawdwyr lawer, ac a ddechreuasant rwy∣stro yr adeiladwŷr, fel y peidiodd adeilad∣aeth y Deml yn Ierusalem, hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius brenin y Persiaid.
PEN. III.
4 Tri yn ymryson am y goreu, mewn yma∣droddion doethion: 9 Ac yn rhoi ar farn y Brenin: 13 A'r cyntaf o honynt yn dan∣gos mor nerthol yw gwin.
A Phan oedd Darius yn teyr∣nasu, efe a wnaeth wledd fawr iw holl ddeiliaid, ac iw holl deulu, ac i holl ly wodraeth-wŷr Media a Phersia,
2 Ac i'r holl bennaethiaid, a'r blaeno∣riaid, a'r swydd-wŷr oedd tano ef, o India hyd Ethiopia, drwy gant a saith ar hu∣gain o daleithiau.
3 Ac wedi iddynt fwyta ac yfed, a'i di∣goni, hwy a aethant ymmaith: a'r brenin Darius a aeth iw stafell, ac a gyscodd [ychydig,] ac a ddeffrôdd.
4 Yna y try-wŷr ieuaingc, y rhai oedd yn cadw corph y brenin a ddywedasant y naill wrth y llall,
5 Dyweded pob vn o honom ni air godidog, a'r neb a orchfygo, ac y gweler ei air yn ddoethach nâ'r lleill, Darius y brenin a ddyry iddo ef fawr roddion, yn arwydd o fuddugoliaeth,
6 Sef gwisco porphor, ac yfed mewn llestri aur, a chyscu mewn dillad goreuraid, a cherbyd a ffrwynau o aur, a gwisc pen o sidan, a chadwyn am ei wddf.
7 Ac efe a gaiff eistedd yn nessaf at Da∣rius, o herwydd ei ddoethineb, ac efe a el∣wir yn gâr i Ddarius.
8 Yna pob vn a scrifennodd ei air, ac a'i seliodd; a hwy a'i rhoddasant tan oben∣nydd y brenin Darius.
9 Ac a ddywedasant, pan ddeffrô yr brenin y rhoddir iddo yr scrifen, a phwy bynnac y barno y brenin a thri thywy∣sog Persia, fod ei air yn ddoethaf, efe a gaiff y fuddugoliaeth, fel yr scrifenn∣wyd.
10 Un a scrifennodd, trechaf yw gwîn.
11 Y llall a scrifennodd, trechaf y bre∣nin.
12 Y trydydd a scrifennodd, trechaf yw gwragedd; ond vwch law pob peth, gwiri∣onedd a orchfyga.
13 A phan ddeffrôdd y brenin, hwy a gymmerasant eu scrifennau, ac a'i rhodda∣sant iddo, ac efe a'i darllennodd hwynt.
14 Ac efe a yrrodd i alw am holl ben∣defigion Persia, a Media, a'r pennaethi∣aid, a'r blaenoriaid, a'r lly wodraeth-wŷr, a'r swydd-wŷr,
15 Ac efe a eisteddodd yn y frawd-lê, a'r scrifennau a ddarllennwyd ger eu bron hwynt.
16 Yna efe a ddywedodd, gelwch y gwŷr ieuaingc, fel y mynegont eu geiriau eu hunain, felly hwy a'i gal wasant hwy, a hwythau a ddaethant i mewn.
17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, hyspys∣wch i ni yr scrifennau: yna y cyntaf a ddechreuodd, yr hwn a ddywedasei am nerth y gwîn,
18 Ac a ddywedodd fel hyn, ô chwy∣chwi wŷr, mor nerthol yw gwîn, yr hwn sydd yn twyllo pob dŷn a'r a'i hyfo.
19 Y mae efe yn gwneuthur yr vn meddwl gan y brenin a chan yr ymddifad, gan y caeth a'r rhydd, gan y tlawd a'r cy∣foethog.
20 Y mae efe yn troi pob meddwl i ddig∣rifwch a llawenydd, fel na chofio dŷn na thristwch na dylêd:
21 Ac y mae efe yn gwneuthur pob calon yn hael, ac ni feddwl am fremn na phennaeth, ac efe a bair adrodd y cwbl wrth dalentau.
22 A phan fyddont wedi yfed, nid argo∣fiant garu na chyfeillion na brodyr, ac wedi hynny ar fyrder y tynnant gleddyfau
23 Ac wedi iddynt ddadebru o'r gwîn, ni ddaw yn eu côf beth a wnaethant.
24 Oh hawŷr, onid trechaf yw gwîn, yr hwn sydd yn peri y cyfryw bethau? ac we∣di iddo ef ddywedyd felly, efe a dawodd.
PEN. IV.
1 Yr ail yn dangos mor nerthol yw Brenin, 14 A'r trydydd mor nerthol yw gwragedd; 33 a'r Gwirionedd: 41 A hwnnw yn cael ei
Page [unnumbered]
farnu yn ddoethaf, 47 ac yn cael llythyrau gan y Brenin i adeiladu Ierusalem: 58 ac yn moliannu Duw, ac yn mynegi i'w frodyr beth a wnaethai efe.
YNa yr ail, yr hwn a ddywe∣dasei am nerth y brenin, a ymadroddodd,
2 Oh chwychwi wŷr, onid trechaf yw dynion, y rhai sydd yn llywodraethu môr a thir, a'r hyn oll sydd ynddynt?
3 Ond y mae y brenin yn gryfach, ac yn rheoli y cwbl, efe sydd yn arglwyddiae∣thu arnynt hwy: a'r hyn oll a archo efe iddynt, hwy a'i gwnânt.
4 Od eirch efe iddynt ryfela y naill ar y llall, hwy a wnânt hynny: os denfyn efe hwynt yn erbyn y gelynion, hwy a ânt, ac a dorrant i lawr fynyddoedd, mu∣riau, a thyrau.
5 Hwy a laddant, ac a leddir, ac ni thor∣rant orchymmyn y brenin: os gorchfygant, i'r brenin y dygant y cwbl, yn gystal yr anrhaith a phob peth arall:
6 A'r sawl nid elo i derfysc, ac i ryfel, eithr llafurio yr ddaiar; wedi iddynt ei hau, hwy a'i medant, ac a'i dygant i'r bre∣nin, ac a gymhellant y naill y llall i dalu teyrn-ged i'r brenin.
7 Ac etto nid yw efe ond vn dyn; od eirch efe ladd, fe a leddir; od eirch efe ar∣bed, fe a arbedir,
8 Od eirch efe daro, hwy a darawant, od eirch efe ddiffeithio, hwy a ddiffeithi∣ant; od eirch efe adeiladu, hwy a adei∣ladant;
9 Od eirch efe dorri i lawr, hwy a dorr∣ant, od eirch efe blannu, hwy a blannant.
10 Felly ei holl bobl a'i holl luoedd, sydd yn vfyddhau iddo ef: ac yn y cyfamser efe a eistedd i lawr, ac a fwytty, ac a ŷf, ac a huna.
11 Canys y rhai hyn a'i cadwant ef o amgylch ogylch; ac ni dichon nêb fyned ymmaith iw negessau ei hun, ac ni by∣ddant anufydd iddo mewn dim.
12 Oh chwychwi wyr, ond trechaf y bre∣nin, gan ei fod efe yn cael y cyfryw rwysc? Ar hynny efe a dawodd.
13 Yna y trydydd, yr hwn a ddywedasei am wragedd, a gwirionedd, (hwnnw oedd Zorobabel) a ddechreuodd ymadroddi.
14 O chwychwi wŷr, nid y brenin mawr, na llaweroedd o ddynion, na gwîn, sydd drechaf: pwy ynteu a feistrola arnynt hwy, a phwy a'i gorchfyga hwynt? ond y gwragedd?
15 Gwragedd a escorasant a r y brenin, ac ar yr holl bobl sydd yn llywodraethu môr a thir.
16 Ac o honynt hwy y ganwyd hwynt; a hwyntwy a fagasant y rhai a blannodd y gwinwŷdd, o ba rai y gwneir y gwîn.
17 Hwyntwy hefyd sy yn gwneuthur dillad i ddynion, ac yn gwneuthur gwŷr yn anrhydeddus, ac ni ddichon gwŷr fod heb y gwragedd.
18 Pe casclent aur ac arian, a phob peth gwerth-fawr, oni charent hwy wraig lân bryd-weddol?
19 Oni ymadawent hwy â'r rhai hynny oll, ac oni ymroddent iddi hi, gan lygadrythu arni? a phawb a ddewisei ei chael hi o flaen aur, ac arian, a phob peth gwerth-fawr?
20 Dŷn a ymedy a'i dâd a'i magodd, ac a'i wlâd, ac a ymlyn wrth ei wraig.
21 Ac efe a anturia ei hoedl dros ei wraig, ac ni feddwl am dâd, na mam, na gwlâd.
22 Wrth hyn y gellwch ŵybod mai gwragedd sy yn meistroli arnoch chwi: onid ydych chwi yn llafurio, ac yn poeni, ac er hynny yn rhoddi, ac yn dwyn y cwbl i'r gwragedd?
23 Gŵr a gymmer ei gleddyf, ac a â allan i ladd, ac i ledrata, ac i fordwyo ar fôr, ac afonydd,
24 Efe a edrych ar lew, ac a gerdd yn y tywyllwch, ac wedi hynny efe a ddwg gwbl o'i ledrad, a'i drais, a'i anrhaith at ei gariad.
25 Am hynny gŵr a gâr ei wraig ei hun yn fwy nâ'i dâd, neu ei fam.
26 Ie llawer a aethant allan o'i pwyll o herwydd gwragedd, a llaweroedd a ae∣thant yn weision er mwyn gwragedd.
27 Llawer hefyd a gyfrgollwyd, ac a gy∣feiliornwyd, ac a bechasant, er mwyn gwragedd.
28 Ac yn awr oni choeliwch chwi fi? ond mawr yw'r brenin yn ei allu? onid yw pob teyrnas yn ofni cyffwrdd ag ef?
29 [Etto] mi a'i gwelais ef, ac Apame, gor∣dderch y Brenin, merch Bartacus ardder∣chog, yn eistedd ar ddeheu-law yr Brenin,
30 Ac yn cymmeryd y goron oddi am ben y Brenin, ac yn ei rhoddi am ei [phen] ei hun, ac yn cernodio 'r brenin à'i llaw asswy,
31 Ac ynteu yn safn-rhythu, ac yn edrych arni, ac os chwarddei hi arno ef, yntef a chwarddei: ac os dîg fyddei hi wrtho ef, yna y gwenieithiei efe iddi hi, i gael ei chymmod.
32 Oh chwi wŷr, ond trechaf yw'r gwra∣gedd, gan eu bod hwy yn gwneuthur fel hyn?
33 Yna 'r brenin a'r tywysogiôn a edry∣chasant bawb ar ei gilydd: ac yntef a dde∣chreuodd ymadrodd am y gwirionedd.
34 O chwi wŷr, onid nerthol yw gwra∣gedd? mawr yw y ddaiar, ac vchel yw 'r nef, a buan yw 'r haul yn ei gwrs: canys efe a drŷ o amgylch y nêf mewn vn dydd, ac a réd eil-waith iw lê ei hun.
35 Ond mawr yw efe, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn? am hynny y mae 'r gwirionedd yn fwy, ac yn gryfach nâ dim oll.
36 Yr holl ddaiar sydd yn galw am wi∣rionedd, a'r nef sydd yn ei bendithio: a phob peth sydd yn yscwyd, ac yn crynu [rhagddi,] ac nid oes dim anghyfiawn gyd â hi.
37 Drygionus yw gwîn, drygionus yw yr brenin, a drygionus yw 'r gwragedd, a holl feibion dynion sydd ddrygionus, a'i
Page [unnumbered]
holl weithredoedd sy anwir, ac nid oes yn∣ddynt wirionedd, eithr yn eu hanwiredd y darfyddant.
38 Ond y gwirionedd sydd yn aros, ac sydd nerthol yn dragywydd, ac sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn oes oesoedd.
39 Gyd à hi nid oes derbyn wyneb, na gwobr: eithr y mae hi yn gwneuthur cyf∣iawnder, ac yn ymgadw rhag anghyfiawn∣der a drygioni, a phawb a ganmolant ei gweithredoedd hi.
40 Ac nid oes yn ei barn hi ddim anghyf∣iawn, ac y hi yw 'r cadernid, a'r deyrnas, a'r gallu, a'r mawredd, drwy yr holl oesoedd: bendigedic fyddo Duw y gwirio∣nedd.
41 Ar hynny efe a beidiodd a llefaru. Yna yr holl bobl a lefasant, ac a ddywedasant, mawr yw gwirionedd, a threchaf.
42 Yna y dywedodd y Brenin wrtho ef, gofyn y peth a fynnych heb law yr hyn sydd yn scrifennedic, ac ni a'i rhoddwn ef i ti, am dy gael di yn ddoethaf, a thi a gei eistedd yn nessaf attafi, ac yn gâr i mi i'th elwir.
43 Yna efe a ddywedodd wrth y Brenin, cofia yr adduned a addunaist y dydd y dae∣thost i'r frenhiniaeth, sef ar i ti adeiladu Ierusalem,
44 A danfon eil-waith y llestri a ddy∣gasid ymmaith o Ierusalem, y rhai a roddasei Cyrus o'r naill-tu, pan addunodd efe ddinistrio Babilon, a danfon hwy yno drachefn.
45 Titheu hefyd a addunaist adeiladu y Deml a loscodd yr Edomiaid, pan ddestry∣wiodd y Caldeaid Iudea.
46 Ac yn awr, ô arglwydd frenin, dymma y peth yr ydwyf yn ei ddeisyf, ac yn ei ofyn gennyt, ac dymma y mawredd a gei∣siafi gennit: am hynny yr ydwyf yn dy∣muno arnat gyflawni yr adduned a addu∣nedaist â'th enau dy hun, i Frenin y nêf.
47 Yna Darius y brenin a gyfododd i fynu, ac a'i cusanodd ef, ac a roddodd iddo lythyrau at bawb o'i drysor-wŷr, a'i lywo∣draeth-wŷr, a'r blaenoriaid, a'r swydd-wŷr, ar iddynt hwy ei hebrwng ef yn ddiogel, a'r sawl oedd gyd ag ef yn myned i fynu i adeiladu Ierusalem.
48 Ac efe a scrifennodd lythyrau at holl lywodraethwŷr Coelosyria a Phenice, ac at y rhai oedd yn Libanus, ar iddynt hwy gludo coed Cedr o Libanus i Ierusa∣lem, ac adeiladu y ddinas gyd ag ef.
49 Ac efe a scrifennodd am yr holl Iddewon, y rhai oedd yn myned i fy∣nu o'i deyrnas ef i Iudæa, ynghylch eu rhydd-did, sef na byddei i vn penn∣aeth, na swyddog, na llywodraeth-wr; na thrysorwr, fyned trwy nerth i'w drysau hwynt.
50 Ac i'r holl wlad yr oeddynt hwy yn ei pherchennogi fod yn rhydd oddi wrth deyrn-ged, a bod i'r Edomiaid roddi iddynt hwy y pen-trefydd yr oeddynt yn eu dal o'r eiddo yr Iddewon,
51 A rhoddi vgain o dalentau bob blwy∣ddyn tu ag at adeiladaeth y Deml, hyd oni ddarfyddei ei hadeiladu hi,
52 A deg eraill o dalentau bob blwydd∣yn, i gynnal y poeth offrymmau ar yr allor beunydd, (fel yr oedd y gorchymmyn i off∣rwm dau ar bymthec.)
53 A bod i bawb a'r a elei o Babilon i adeiladu y ddinas, gael rhydd-did yn gy∣stal iddynt eu hunain, ac iw plant, a'r holl Offeiriaid a'r a aethent ymmaith.
54 Ac efe a scrifennodd am gyfreidiau, a gwiscoedd yr Offeiriaid, y rhai y gwasa∣naethent ynddynt.
55 Ac efe a scrifennodd am iddynt hwy roddi i'r Lefiaid eu cyfreidiau, nes gorphen y tŷ, ac adeiladu Ierusalem.
56 Efe hefyd a scrifennodd am iddynt hwy roddi ‖ 1.22 dognau, a chyflog i'r rhai oedd yn gwilied y ddinas.
57 Ac efe a anfonodd o Babilon yr holl lestri a roddasei Cyrus o'r naill-tu: a pheth bynnac a archasei Cyrus, efe a or∣chymmynnodd ei wneuthur, a'i anfon i Ie∣rusalem.
58 A phan aeth y gŵr ieuangc allan, efe a dderchafodd ei wyneb i fynu i'r nef tu a Ierusalem, ac a ddiolchodd i Frenin nef,
59 Gan ddywedyd, oddi wrthit ti y mae y fuddugoliaeth, oddi writhit ti y mae y doethineb, ac eiddot ti yw 'r gogoniant, a minneu yw dy wâs di.
60 Bendigedic wyt ti, yr hwn a roddaist i mi ddoethineb, clodforaf di ô Arglwydd [Dduw ein] tadau.
61 Felly efe a gymmerth y llythyrau, ac a aeth ymmaith, ac a ddaeth i Babilon, ac a fynegodd iw holl frodyr.
62 A hwy a fendithiasant Dduw eu tadau, o herwydd iddo roddi iddynt hwy rydd-deb ac esmwythdra,
63 I fyned i fynu, ac i adeiladu Ierusa∣lem, a'r Deml, yr hon a elwir ar ei enw ef: a hwy a lawenychasant ag offer cerdd, ac â gorfoledd, tros saith niwrnod.
PEN. V.
4 Enwau a rhifedi yr Iuddewon a ddychwe∣lasant adref. 50 Gosod yr Allor yn ei lle. 57 Gosod sylfeini 'r Deml. 73 Rhwystro 'r gwaith tros amser.
WEdi * 1.23 y pethau hyn y dethol∣wyd pennaethiaid tai eu ta∣dau, yn ôl eu llwythau, i fy∣ned i fynu a'i gwragedd, a'i meibion, a'i merched, a'i gweision, a'i morwynion, a'i hanifeiliaid.
2 [A'r brenin] Darius a anfonodd fil o wŷr meirch gyd â hwynt, iw hebrwng hwynt yn ddiogel i Ierusalem, ynghyd ag [offer] cerdd, tympanau, a phibellau.
3 A'i holl frodyr hwynt oedd yn canu â hwynt; felly y gwnaeth efe iddynt fyned i fynu gyd â hwynt.
Page [unnumbered]
4 Ac dymma henwau y gwŷr a aethant i fynu yn ôl eu teuluoedd, wrth eu llwy∣thau, yn ôl eu pennau cenedl.
5 Yr Offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron, Iesus [mab] Iosedec, [fab] Saraias, a Ioacim [mâb] Zoroba∣bel [fab] Salathiel, o dylwyth Da∣fydd, o genhedlaeth Phares, o lwyth Iuda.
6 ‖ 1.24 Yr hwn a lefarodd eiriau doethion wrth Ddarius brenin y Persiaid, yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef, ar y mis Nisan, hwnnw yw y mîs cyntaf.
7 Ac dymma hwy o Iuda, y rhai a ddae∣thant i fynu o gaethiwed y gaeth-glud, y rhai a gaeth-gludasei Nabuchodonosor bre∣nin Babilon, i Babilon.
8 A hwy a ddychwelasant i Ierusa∣lem, ac i gyrrau eraill Iuda, pob vn iw ddinas ei hun, y rhai a ddaethent gyd â Zorobabel, a Iesus, Nehemias, ‖ 1.25 Zachari∣as, Resaias, Enenius, Mardocheus, Beel∣sarus, ‖ 1.26 Aspharasus, ‖ 1.27 Reelius, Roimus, [a] Baana, eu blaenoriaid hwynt.
9 Eu rhifedi hwynt o'r genedl, a'i blaenoriaid: meibion ‖ 1.28 Phoros, dwy fil, a chant [a] deuddec a thrugain; meibi∣on ‖ 1.29 Saphat, ‖ 1.30 pedwar cant, [a] deuddec a thrugain.
10 Meibion Ares, saith gant, vn ar bym∣thec * 1.31 a deugain.
11 Meibion Phaath Moab, dwy fil, wyth gant, a deuddec.
12 Meibion Elam, mîl, deucant, pedwar ar ddec a deugain: meibion ‖ 1.32 Zathi, naw cant, pump a deugain: meibion ‖ 1.33 Corbe, saith gant a phump: meibion Bani, chwe chant, ac wyth a deugain.
13 Meibion Bebai, chwechant, tri ar hugain: meibion ‖ 1.34 Asgad, tair mil, dau cant, a dau ar hugain.
14 Meibion Adonicam, chwe chant, saith a thrugain: meibion ‖ 1.35 Bagoi, dwy fil, chwech a thrugain: meibion Adin, pedwar cant, pedwar ar ddec a deugain.
15 Meibion ‖ 1.36 Aterhezias, deuddec a phed∣war vgain: meibion Ceilan, ac Azetas, saith a thrugain: mebion Azuran, pedwar cant, deuddec ar hugain.
16 Meibion Ananias, cant ac vn: mei∣bion Arom, deuddec ar hugain, a meibion ‖ 1.37 Bassa, try-chant, tri ar hugain: meibion Arsiphurith, cant a dau.
17 Meibion Meterus, tair mîl, a phump: meibion ‖ 1.38 Bethlomon, cant a thri ar hugain.
18 Hwynt hwy o Netopha, pymthec a deugain: hwyntau o Anathoth, cant, tri ar bymthec a deugain: hwynt o ‖ 1.39 Bethsamos, dau a deugain.
19 Hwynt o ‖ 1.40 Ciriathiarius, pump ar hugain: hwynt o Caphiras, a Beroth, saith gant, tri a deugain: hwynt hwy o Pirath, saith gant.
20 Hwynt o Chadias, ac Ammidioi, ped∣war cant, dau ar hugain: hwynt o ‖ 1.41 Cyra∣ma, a ‖ 1.42 Gabdes, chwe chant, vn ar hugain.
21 Hwynt o ‖ 1.43 Michmas, cant, dau ar hu∣gain: hwynt o ‖ 1.44 Bethel, deuddec a deu∣gain: meibion ‖ 1.45 Nephis, cant, dêc a deugain, a chwech.
22 Meibion ‖ 1.46 Calamolan, ac Onus, saith gant, pump ar hugain: meibion Ierechus, dau cant, pump a deugain.
23 Meibion ‖ 1.47 Sanaah, tair mîl, trychant, a dec ar hugain.
24 Yr Offeiriaid, meibion ‖ 1.48 Iedu fâb Iesus, ym mhlith meibion Sanasib, naw cant, deuddec a thrugain: meibion ‖ 1.49 Meruth, mîl, deuddec a deugain.
25 Meibion ‖ 1.50 Pasur, mîl, saith a deugain: meibion ‖ 1.51 Harim, ‖ 1.52 mîl, a dêc a thrugain.
26 Y Lefiaid, meibion ‖ 1.53 Iesue, Cadmiel, Banuas, a Suias, pedwar ar ddêc a thru∣gain.
27 Y meibion [y rhai oedd] gantorion sanctaidd, meibion Asaph, cant, wyth ar hugain.
28 Y porthorion, meibion Salum, mei∣bion a 1.54 Iatal, meibion Talmon, meibion b 1.55 Dacobi, meibion c 1.56 Teta, meibion d 1.57 Sami, y cwbl [oedd] gant, pedwar ar bymthec ar hugain.
29 Gwenidogion y Deml, meibion e 1.58 Esau, meibion f 1.59 Asipha, meibion Tabaoth, meibi∣on g 1.60 Ceras, meibion h 1.61 Sud, meibion i 1.62 Pha∣leas, meibion Labana, meibion k 1.63 Hagaba.
30 Meibion l 1.64 Accub, meibion Vta, mei∣bion Cetab, meibion Agab, meibion m 1.65 Su∣bai, meibion Anan, meibion n 1.66 Cathua, mei∣bion o 1.67 Gedur.
31 Meibion p 1.68 Raia, meibion q 1.69 Daisan, meibion r 1.70 Necoda, meibion Chaseba, meibi∣on s 1.71 Gazera, meibion t 1.72 Azias, meibion u 1.73 Phi∣nees, meibion Asara, meibion x 1.74 Bastai, mei∣bion y 1.75 Asana, meibion z 1.76 Meunim, meibion Naphison, meibion a 1.77 Accub, meibion Acu∣pha, meibion b 1.78 Assur, meibion Pharacim, meibion c 1.79 Basaloth.
32 Meibion d 1.80 Mehida, meibion Coutha, meibion e 1.81 Charea, meibion f 1.82 Barcus, meibi∣on g 1.83 Aserar, meibion Thomoi, meibion h 1.84 Na∣sith, meibion Atipha.
33 Meibion gweision Salomon, meibion i 1.85 Sophereth, meibion k 1.86 Pharada, meibion l 1.87 Ioeli, meibion m 1.88 Lozon, meibion n 1.89 Isdael, meibion o 1.90 Sapheth.
34 Meibion p 1.91 Agia, meibion Phacareth, meibion q 1.92 Sabie, meibion Sarophie, meibi∣on Masias, meibion Gar, meibion Adus, meibion Subah, meibion Apherra, meibi∣on Barodis, meibion Sabat, meibion Alom.
35 Holl wenidogion y Deml, a meibion gweision Salomon oedd drychant, a deu∣ddec a thrugain.
36 Y rhai hyn a ddaethant i fynu o Thelmeleth, a Thelharsa: Caralathar, ac Alar, yn eu harwain hwynt.
37 Ac ni fedrent hwy ddangos eu teu∣luoedd, nai bonedd, pa fodd yr oeddynt o Israel: meibion ‖ 1.93 Dalaias, meibion ‖ 1.94 Tobia, meibion ‖ 1.95 Necodan, chwe chant, [a] deuddec a deugain.
Page [unnumbered]
38 Ac o'r Offeiriaid y rhai oedd yn offeiriadu, ac heb eu cael, meibiôn ‖ 1.96 Ho∣baia, meibion ‖ 1.97 Accoz, meibion ‖ 1.98 Adus, yr hwn a gymmerasei [iddo] yn wraig Augia, [vn] o ferched Berzelus.
39 Ac a alwyd ar ei enw ef: ac scrifen y genhedl hon a geisiwyd ym mysc yr achau, ond ni's cafwyd, ac am hynny y gwaharddwyd iddynt offeiriadu.
40 Canys ‖ 1.99 Nehemias, ac Atharias, a ddy∣wedasant wrthynt na chaent hwy fod yn gyfrannogion o'r pethau cyssegredic, oni gy∣fodei Arch-offeiriad wedi ei wisco ag ‖ 1.100 addysc a gwirionedd.
41 Felly hwynt oll o Israel, o'r rhai oeddynt ddeuddeng-mlwydd a thros hyn∣ny, oeddynt o gyfrif yn ddeugain mil, heb law gweision a morwynion, dwy fil try∣chant a thri vgain.
42 ‖ 1.101 Eu gweision a'i llaw-forwynion [oeddynt] saith mîl, try chant, a saith a deugain: a'r cantorion, a'r cantoresau, dau cant, pump a deugain.
43 Pedwar cant, a phymthec ar hu∣gain o gamelod, saith mil ac vn a'r bym∣thec ar hugain o feirch, dau cant a phump a deugain o fulod, * 1.102 pum mil a phum cant, a phump ar hugain o ‖ 1.103 anifei∣liaid arferol â'r iau.
44 A [rhai] o'i llywiawd-wŷr hwynt yn ôl eu teuluoedd, pan ddaethant i Deml Dduw yn Ierusalem, a addunasant adei∣ladu y tŷ yn ei le ei hun, yn ôl eu gallu.
45 A rhoddi i dryssor y gwaith fil o bun∣nau o aur, a phum mîl o bunnau o arian, a chant o wiscoedd Offeiriaid.
46 Felly yr Offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r bobl a drigasant yn Ierusalem, ac yn y wlad: a'r cantorion, a'r porthorion, a holl Israel yn eu pentrefydd.
47 Ond pan ddaeth y seithfed mis, pan oedd pawb o feibion Israel ar yr eiddo ei hun, hwy a ymgasclasant i gyd o vn-frŷd mewn lle amlwg, ‖ 1.104 wrth y porth cyntaf, yr hwn sydd tua 'r dwyrain.
48 Yna Iesus mab Iosedec, a'i frodyr yr Offeiriaid, a Zorobabel mab Salathiel a'i frodyr, gan godi i fynu, a baratoesant allor Duw Israel.
49 I offrymmu poeth offrymmau arni, megis y ‖ 1.105 mae yn scrifennedic yn llyfr Mo∣ses gŵr Duw.
50 Ac yno yr ymgasclodd ‖ 1.106 yn eu herbyn hwynt [rai] o holl genhedloedd y wlad, ond hwynt hwy a drefnasant yr allor yn ei chyfle, am fod holl genhedloedd y wlad yn elynion iddynt: a hwy a offrymmasant ebyrth wrth yr amser, a phoeth offrymmau i'r Arglwydd, forau a hwyr.
51 Hwy a gadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn orchymmynnedic * 1.107 yn y gy∣fraith, ac [a offrymmasant] ebyrth beunydd. fel yr oedd yn ddyledus:
52 Ac wedi hynny yr offrymmau gwa∣stadol, ac offrymmau y Sabbothau, a'r newydd-loerau, a'r holl wyliau sanctaidd.
53 A'r rhai oll a'r a ‖ 1.108 wnaethent addu∣ned i Dduw a ddechreuasant offrymmu aberthau i Dduw, o'r dydd cyntaf o'r seith∣fed mîs, er nad adeiladasid etto Deml Dduw.
54 A hwy a roddasant i'r seiri maen, ac i'r seiri pren, arian, a bwyd, a diod, yn llawen.
55 A [hwy a roddasant] geir i'r Sido∣niaid, ac i'r Tyriaid, i ddwyn cedr-wydd o Libanus, y rhai a gludid yn gludeiri∣au i borthladd Ioppe, fel y gorchymmyn∣nasid iddynt gan Cyrus frenin y Per∣siaid.
56 Ac yn yr ail flwyddyn, ar yr ail mîs ar ôl ei ddyfod i Deml Dduw yn Ierusalem, y dechreuodd Zorobabel mab Salathiel, a Iesus mab Iosedec, a'i brodyr, a'r Offeiri∣aid, a'r Lefiaid, a'r holl rai a'r a ddaethent i Ierusalem allan o gaethiwed [Babilon:]
57 A hwy a sylfaenasant dŷ Dduw ar y dydd cyntaf o'r ail mîs, yn yr ail flwyddyn ar ôl eu dychwelyd hwy i Iudea, a Ierusalem.
58 ‖ 1.109 A hwy a osodasant y Lefiaid, [y rhai oedd] tros vgain-mlwydd oed, ar waith yr Arglwydd. A Iesus, a'i feibion, a'i frodyr, a Chadmiel ei frawd, a meibion Madiabun, gyd â meibion Ioda fâb Eliadun, a'i mei∣bion, a'i brodyr, i gŷd yn Lefiaid, o vn-frŷd a ddilynasant, gan wneuthur y gwaith yn nhŷ Dduw: felly y gweith-wŷr a adeilada∣sant Deml yr Arglwydd.
59 A'r Offeiriaid a safasant wedi eu gwisco yn eu gwiscoedd, ag [offer] cerdd, ac ag vdcyrn, a'r Lefiaid meibion Asaph â symbalau,
60 Yn canu, ac yn moliannu yr Argl∣wydd, fel yr ordeiniasei Dafydd brenin Israel.
61 A hwy a ganasant ganiadau yn llafar, er moliant i'r Arglwydd; o herwydd bod ei drugaredd a'i ogoniant yn dragywydd yn holl Israel.
62 * 1.110 Yna yr holl bobl a leisiasant mewn vdcyrn, ac a waeddasant â llêf vchel, dan gyd-foliannu yr Arglwydd, am godi i fynu dŷ yr Arglwydd.
63 * 1.111 Rhai hefyd o'r Offeiriaid, a'r Lefi∣aid, a'r pennaethiaid, yr Henuriaid, y rhai a welsent y tŷ cyntaf, a ddaethant [at] adeiladaeth hwn, drwy wylofain a nâd fawr.
64 Llawer hefyd ag vdcyrn, ac â llawen∣ydd mawr a waeddasant â llêf vchel,
65 Fel na ellid clywed yr vdcyrn gan ‖ 1.112 nâd y bobl: etto yr oedd y dyrfa yn fawr, yn lleisio mewn vdcyrn, fel y clywid ym mhell.
66 Am hynny, pan glybu gelynion llwyth Iuda, a Beniamin hynny, hwy a ddae∣thant i gael gwybod beth yr oedd sain yr vdcyrn [yn ei arwyddoccau.]
67 Yna y gwybuant mai y rhai a ddae∣thei o'r caethiwed a adeiladent y Deml i Arglwydd Dduw Israel.
68 Am hynny hwy a aethant at Zorobabel, a Iesus, ac at vennaethiaid y teuluoedd,
Page [unnumbered]
gan ddywedyd wrthynt, ni a adeiladwngyd â chwi hefyd.
69 Canys yr ydym ni yn vfyddhau i'ch Arglwydd chwi, fel yr ydych chwi∣thau, ac yn aberthu iddo ef, er dyddiau ‖ 1.113 Asbazareth brenin Assyria, yr hwn a'n dug ni ymma.
70 Yna Zorobabel, a Iesus, a phennae∣thiaid teuluoedd Israel a ddywedasant wrthynt, ni pherthyn i chwi, ac i ni gyd∣adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw ni.
71 Nyni ein hunain a adeiladwn i Argl∣wydd Dduw Israel, fel y gorchymynnodd Cyrus brenin Persia i ni.
72 Er hynny pobl y wlad yn pwyso yn drwm ar y rhai oedd yn Iudæa, a rwy∣strasant iddynt adeiladu.
73 A thrwy eu cynllwyn, a therfyscoedd, a denu pobl hwy a luddiasant orphen yr adeiladaeth, tra fu brenin Cyrus yn fyw: felly y rhwystrwyd hwynt rhac adeiladu dros yspaid ‖ 1.114 dwy flynedd, hyd deyrnasiad Darius.
PEN. VI.
1 Y Prophwydi yn annog y bobl i adeiladu'r Deml: 8 A rhai yn ceisio gan Darius lestair ei hadeiladu: 27 Ac yntau yn gwneuthur ei oreu ar beri ei hadeiladu hi; 32 ac yn bygwth y rhai a'i rhwystrai.
AC yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius, Agge∣us a Zacharias mab Ido, y Prophwydi, a brophwy∣dasant i'r Iddewon, yn Iu∣dæa, a Ierusalem, yn enw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn oedd arnynt.
2 Yna Zorobabel mab Salathiel, a Iesus mab Iosedec a safasant i fynu, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Ierusalem: prophwydi yr Arglwydd oedd gyd â hwynt, [ac] yn eu cynnorth∣wyo.
3 * 1.115 Yn y cyfamser hwnnw ‖ 1.116 Sisinnes llywiawdr Syria a Phenice, a ‖ 1.117 Sathra∣buzanes a'i gyfeillion a ddaethant attynt hwy, ac y ddy wedasant wrthynt,
4 Drwy orchymmyn pwy'r ydych chwi yn adeiladu y tŷ hwn, a'r adeilad ymiua, ac yn gwneuthur yr holl bethau eraill? a phwy yw 'r gweith-wyr sydd yn gwneu∣thur y pethau hyn?
5 Etto Henuriaid yr Iddewon a gaw∣sent ffafor: gan i'r Arglwydd ymweled â'r caethiwed.
6 Ac ni rwystrwyd hwynt i adeiladu, nes hyspyssu i Ddarius y pethau hyn, a chael atteb [oddi wrtho ef.]
7 Coppi y llythyrau a scrifennodd, ac a anfonodd Sisinnes lly wia wdr Syria a Phenice, a Sathrabuzanes, a'i cyfeillion, rheol-wŷr yn Syria a Phenice, at Ddari∣us, Annerch i Frenin Darius,
8 Bydded y cwbl yn hyspys i'n hargl∣wydd frenin, pan ddaethom ni i wlâd Iu∣dæa, a myned i mewn i ddinas Ierusa∣lem, ni a gawsom yn ninas Ierusalem Henuriaid yr Iddewon, y rhai oedd o'r gaeth-glud;
9 Yn adeiladu tŷ i'r Arglwydd, mawr a newydd, o gerric nâdd a gwerthfawr, a'r coed wedi eu gosod eusus ar y mag∣wyrydd.
10 Ac yr ydys yn gwneuthur y gwaith hwn ar frŷs, ac y mae y gwaith yn my∣ned rhagddo yn llwyddianus yn eu dwylo hwynt, ac â phôb gogoniant, a diwyd∣rwydd y gweithir ef:
11 Yna ni a ofynnasom i'r Henuriaid hyn, gan ddywedyd, drwy orchymyn pwy yr ydych chwi yn adeiladu y tŷ hwn, ac yn sylfaenu y gwaith ymma?
12 Am hynny fel yr yspysem i ti mewn scrifen, nyni a ofynnasom iddynt, pwy oedd y gweith-wŷr pennaf, ac a geisiasom ganddynt henwau eu gwŷr pennaf yn scri∣fennedig.
13 Ond hwy a'n hattebasant ni, Gwei∣sion ydym ni i'r Arglwydd, yr hwn a greawdd y nefoedd a'r ddaiar.
14 Ac am y tŷ hwn, efe a adeiladwyd er ys llawer o flynyddoedd gan frenin o Is∣rael, mawr a chadarn, ac a orphennwyd.
15 Ond pan annogodd ein tadau ni Dduw i ddigllonedd, [a phan] bechasant yn erbyn Arglwydd Israel, [yr hwn sydd] yn y nefoedd, efe a'i rhoddes hwynt yn nwylo Nabuchodonosor brenin Babilon y Caldeaid,
16 Y rhai a dynnasant y tŷ i lawr, ac a'i lloscasant ef, ac a gaeth-gludasant y bobl i Babilon.
17 Ond yn y flwyddyn gyntaf o deyr∣nasiad Cyrus ar wlad Babilon, y bre∣nin Cyrus a scrifennodd am adeiladu y tŷ hwn.
18 A'r llestri sanctaidd o aur, ac o ari∣an, y rhai o ddygasei Nabuchodonosor allan o'r tŷ yn Ierusalem, ac a'i gosodasei yn ei Deml ei hun, Cyrus y brenin a'i dug hwynt drachefn allan o'r Deml yn Babi∣lon, ac a'i rhoddodd hwynt i ‖ 1.118 Zorobabel, ac i Sanabassarus y llywiawdr:
19 Gan orchymmyn iddo ef ddwyn ym∣maith y llestri hynny, a'i gosod hwynt o fewn y Deml yn Ierusalem, ac adeiladu Teml yr Arglwydd yn ei chyfle.
20 A phan ddaeth Sanabassarus hwnnw ymma, efe a sylfaenodd dŷ yr Arglwydd yn Ierusalem, ac er y pryd hynny hyd yr awr hon, yr ydys yn ei adeiladu, ac m's gor∣phennwyd ef etto.
21 Ac yn awr, o rhynga bodd i'r bre∣nin, chwilier ym∣mysc cof-lyfrau brenin Cyrus:
22 Ac o cheir, bod adeiladaeth tŷ yr Ar∣glwydd yn Ierusalem, wedi ei gwneuthur drwy gydtundeb brenin Cyrus, ac os rhynga bodd i'r arglwydd ein brenin, hy∣spysed i ni am y peth hyn.
Page [unnumbered]
23 Yna y brenin Darius a orchymyn∣nodd chwilio ym mysc y cof-lyfrau yn Ba∣bilon, ac fe a gafwyd yn Ecbatana, y llŷs sydd yngwlad Media, fan lle yr oedd y pethau hyn yn scrifennedig.
23 Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus, y brenin Cyrus a orchymmynnodd adeiladu tŷ yr Arglwydd yn Ierusalem, lle yr aberthant â thân gwastadol.
25 Vchder yr hwn fydd drugain cu∣fydd, a'i lêd yn drugain cufydd, a thair rhês o gerric nâdd, ac vn rhês o goed newydd o'r wlad honno, a'r draul a roddir o dŷ brenin Cyrus.
26 A'r llestri sanctaidd o dŷ yr Argl∣wydd, yn aur ac yn arian, y rhai a gym∣merth Nabuchodonosor ymmaith o'r tŷ yn Ierusalem, ac a'i dûg i Babilon, a roddid trachefn i'r tŷ yn Ierusalem, ac a osodid yn y fan lle yr oeddynt.
27 Hefyd efe a orchymynnodd i Si∣sinnes llywiawdr Syria a Phenice, ac i Sathrabuzanes a'i cyfeillion, ac i'r rhai oedd wedi eu gosod yn llywodraeth-wŷr yn Syria a Phenice, wilied nad ymmyr∣rent â'r fan honno, eithr gadel i Zorobabel gwâs yr Arglwydd, a llywydd Iudæa, ac i henuriaid yr Iddewon, adeiladu tŷ yr Ar∣glwydd yn y fan honno.
28 Myfi a orchymmynnais hefyd ei adeiladu ef yn gyfan eil-waith, ac iddynt hwy fod yn astud i gynnorthwyo y rhai oedd o gaeth-glud yr Iddewon, nes gor∣phen tŷ yr Arglwydd,
29 A rhoddi dogn allan o deyrn-ged Coelosyria a Phenice, yn ddyfal, i'r gwŷr hyn, tu ag at ebyrth i'r Arglwydd, ac i Zo∣robabel y llywydd, tu ag at fustych, a hyr∣ddod, ac ŵyn.
30 Yd hefyd, halen, gwîn, ac olew; a hynny yn oestadol bob blwyddyn heb ymofyn ymmhellach, fel y tystiolaetho yr Offeiriaid sydd yn Ierusalem, fod yn ei dreulio beunydd,
31 Fel yr offrymmont bennydd i Dduw goruchaf tros y brenin, a thros ei blant, ac y gweddiont gyd â'i heinioes hwynt.
32 Efe orchymmynnodd hefyd am bwy bynnac a drosseddei ddim a'r a ddywed∣pwyd, neu a'r a scrifennwyd vchod, neu a ddirmygei ddim o hynny, gymmeryd pren allan o'i dŷ ef ei hun, a'i grogi ef arno, a bod ei gyfoeth ef yn eiddo y bre∣nin.
33 Am hynny yr Arglwydd, yr hwn yr ydys yn galw ar ei enw yno, a dde∣strywio bob brenin, a chenhedl a'r a estynno ei law i luddias, neu i wneuthur niwed i dŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn Ierusalem.
34 Myfi y brenin Darius a orchymmyn∣nais wneuthur yn ddiwyd yn y pethau hyn.
PEN. VII.
1 Sisinnes ac eraill yn gyrru 'r adeilad ym mlaen. 5 Gorphen y Deml, a'i chyssegru, 10 Cadw 'r Pâsc.
YNa * 1.119 Sisinnes llywydd Coelo∣syria a Phenice, a Sathrabu∣zanes a'i cyfeillion, yn canlyn gorchymmynion brenin Da∣rius,
2 Yn ddyfal iawn a olygasant ar y gwaith sanctaidd, gan gynnorthwyo He∣nuriaid yr Iddewon, a llywodraeth-wŷr y Deml.
3 Ac felly y gwaith sanctaidd a lwy∣ddodd, pan ydoedd Aggeus a Zacharias y Prophwydi yn prophwydo.
4 Felly hwy a orphennasant y pethau hyn drwy orchymmyn Arglwydd Dduw Israel, ac o gydtundeb Cyrus, a Darius, ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.
5 Ac fel hyn y gorphennwyd y tŷ sanc∣taidd ar y ‖ 1.120 trydydd ar hugain o'r mis Adar, yn y chweched flwyddyn i Darius frenin y Persiaid.
6 A phlant Israel, a'r Offeiriaid, a'r Lefiaid, ac eraill o'r gaeth-glud a chwan∣negwyd attynt, a wnaethant yn ôl yr hyn sydd scrifennedic yn llyfr Moses.
7 Ac i gyssegru Teml yr Arglwydd, hwy a offrymmasant gant o fustych, deu-cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn,
8 A deuddec gafr tros pethod holl Is∣rael, yn ôl rhifedi ‖ 1.121 pennaethiaid llwythau Israel.
9 Ar Offeiriaid, a'r Lefiaid a safasant wedi ymwisco yn eu gwiscoedd yn ôl eu ‖ 1.122 teuluoedd, yngwasanaeth Arglwydd Dduw Israel, yn ôl llyfr Moses, a'r por∣thorion hefyd wrth bôb porth.
10 A phlant Israel gyd â'r rhai a ddae∣thent allan o'r caethiwed, a gynhaliasant y Pasc y pedwerydd dydd ar ddec o'r mîs cyntaf, wedi i'r Offeiriaid, a'r Lefiaid ym∣sancteiddio.
11 Ni sancteiddiasid holl feibion y gae∣thiwed ynghyd, eithr y Lefiaid a gyd-sanc∣teiddiasid oll.
12 Felly hwy a offrymmasant y Pasc tros holl feibion y gaeth-glud, a thros eu brodyr yr Offeiriaid, a throstynt eu hu∣nain.
13 Yna holl blant Israel, y rhai a ddae∣thent o'r caethiwed a twytasant, sef y rhai oll a'r a ymnailltuasent oddi wrth ffieidd-dra pobl y wlad, ac a geisiasant yr Arglwydd.
14 A hwy a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod, gan lawenychu ger bron yr Arglwydd.
15 O herwydd iddo ef droi ‖ 1.123 cyngor bre∣nin Assyria tu ag attynt hwy, i nerthu eu dwylo hwynt yngwaith Arglwydd Dduw Israel.
PEN. VIII.
1 Esdras yn dwyn gorchymmyn y Brenin i adeiladu. 8 Copi o'r gorchymmyn. 28 Y mae 'n dangos henwau a rhifedi y rhai a ddaethai gydag ef: 61 a'i daith: 71 yn gofidio am bechodau 'r bobl; 96 ac yn tyngu 'r Offei∣riaid i yrru ymmaith eu gwragedd dieithr.
Page [unnumbered]
AC wedi y pethau hyn, pan oedd Artaxerxes brenin y Persiaid yn teyrnasu, y daeth Esdrasmab Saraias, fâb ‖ 1.124 Eze∣rias, fab Helcias, fab Sa∣lum.
2 Fâb Saduc, fâb Achitob, fâb Ama∣rias, fâb ‖ 1.125 Ozias, fab ‖ 1.126 Memeroth, fab Zaraias, fâb ‖ 1.127 Sanias, fâb Boccas, fâb Abi∣sun, fâb Phinees, fab Eleazar, fâb Aaron yr Offeiriad ‖ 1.128 pennaf.
3 Yr Esdras hwn a aeth i fynu o Babilon, fel scrifennydd parod iawn ynghyfraith Moses, yr hon a roddasid drwy Dduw Israel.
4 Y brenin hefyd a roddodd iddo ef an∣rhydedd; canys efe a gafodd ffafor ger ei fron ef, yn ei holl ddymuniadau.
5 Gyd ag ef hefyd yr aeth i fynu rai o blant Israel, o'r Offeiriaid, o'r Lefiaid, o'r cantorion sanctaidd, ac o'r porthorion, a ‖ 1.129 gwenidogion y Deml, i Ierusalem.
6 ‖ Yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes, ar y pummed mis (hon ydoedd y seithfed flwyddyn i'r brenin) canys hwy a aethant o Babilon y dydd cyntaf o'r mîs cyntaf, ac a ddaethant i Ierusalem, fel y rhoddodd yr Arglwydd rwydd-deb iddynt yn eu taith.
7 O herwydd yr oedd gan Esdras gy∣farwyddyd mawr, fel na adawodd efe heibio ddim o Gyfraith, a gorchymyni∣on yr Arglwydd, ond efe a ddyscodd i holl Israel y deddfau a'r barnedigae∣thau.
8 Felly coppi y gorchymmyn a scrifen∣nwyd oddiwrth Artaxerxes y Brenin, ac a ddaeth at Esdras yr Offeiriad, a dar∣llennydd Cyfraith yr Arglwydd; yw hwn sydd yn canlyn.
9 Y BRENIN ARTAXERXES at Es∣dras yr Offeiriad, a darllennydd cyfraith yr Arglwydd, yn anfon annerch.
10 Yn gymmeint am bod i yn bwriadu gwneuthur yn raslawn, myfi a orchymyn∣nais i'r neb a fynnent, ac a ewyllysient o genedl yr Iddewon, ac o'r Offeiriaid, ac o'r Lefiaid, y rhai sydd yn ein brenhiniaeth ni, gael myned gyd â thi i Ierusalem;
11 Am hynny cynnifer ac a ewyllysiant hynny, ymadawant gyd â thi, fel y gwel∣wyd yn dda gennifi, a'm saith gyfeill, y cynghor-wŷr.
12 Fel yr edrychont ar y pethau sydd yn Iudea, a Ierusalem yn gyttûn, â'r hyn sydd ynghyfraith yr Arglwydd:
13 Ac y dygont i Arglwydd Israel i Ierusalem y rhoddion a addunais i, mi a'm cyfeillion, a'r holl aur, a'r arian a gaffer yngwlad Babilon, i'r Arglwydd yn Ierusalem,
14 Gyd â'r hyn a roddodd y bobl he∣fyd i Deml yr Arglwydd eu Duw yn Ie∣rusalem: ac y cascler arian, ac aur, tu ag at fustych, a hyrddod, ac ŵyn, a phethau yn perthynu at hynny,
15 Fel yr offrymmont ebyrth i'r Argl∣wydd, ar allor yr Arglwydd eu Duw, yr hon sydd yn Ierusalem.
16 A pha beth bynnac a'r a ewyllysiech di a'th frodyr * 1.130 â'r arian ac â'r aur, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw.
17 A'r llestri sanctaidd, y rhai a rodd∣wyd i ti tu ag at gyfraid Teml dy Dduw, yr hon sydd yn Ierusalem, tydi a'i gosodi hwynt ger bron dy Dduw yn Ierusalem.
18 A pha beth bynnac arall a'r a feddy∣liech di tu ag at gyfraid Teml dy Dduw, ti a'i rhoddi ef allan o dryssor y brenin.
19 Ac myfi brenin Artaxerxes a orchy∣mynais i dryssor-wŷr Syria a Phenice, am iddynt hwy roddi yn rhwydd i Esdras yr Offeiriad, a darllennydd cyfraith y Duw Goruchaf, beth bynnac a'r a anfono efe am dano,
20 Hyd gan talent o arian: a he∣fyd hyd gan ‖ 1.131 corus o ŷd, a chan tun∣nell o wîn, a phethau eraill yn ddian∣dlawd.
21 Gwneler pôb peth i'r Goruchaf Dduw yn ddyfal, yn ôl cyfraith Dduw, fel na ddelo digofaint ar frenhiniaeth y brenin a'i feibion.
22 Hefyd yr ydwyf yn gorchymmyn i chwi, na cheisioch na theyrn-ged, na threth gan yr Offeiriaid, na'r Leuiaid, na'r canto∣rion sanctaidd, na'r porthorion, na gweni∣dogion y Deml, nac oddi ar weith-wŷr y Deml hon, ac na byddo awdurdod i neb i drethu dim arnynt hwy.
23 A thitheu Esoras, yn ôl doethineb Duw, gosod farn-wŷr a llywiawdwyr, fel y barnont drwy holl Syria a Phenice, ‖ 1.132 y rhai oll sydd ddyscedic ynghyfraith dy Dduw, a'i rhai annyscedic ynddi a ddysci di:
24 * 1.133 A chosper yn ddyfal y rhai oll a'r a droseddant Gyfraith dy Dduw a'r bre∣nin, pa vn bynnag ai trwy farwolaeth, ai rhyw gospedigaeth arall, trwy ddirwy o arian, neu garchar.
25 Yna Esdras yr scrifennydd a ddy∣wedodd, Bendigedic fyddo vnig Argl∣wydd Dduw fy nhadau, yr hwn a ro∣ddodd y meddwl ymma ynghalon y bre∣nin, i ogoneddu ei dŷ ef, yr hwn sydd yn Ierusalem,
26 Ac a'm hanrhydeddodd i yngolwg y brenin, a'i gynghoriaid, a'i holl gyfeillion ef, a'r pendefigion.
27 Am hynny yr oeddwn i yn gyssurus drwy gynnorthwy yr Arglwydd fy Nuw; ac a gesclais wŷr o Israel, i fyned i fynu gyd â mi.
28 Ac dymma y blaenoriaid, yn ôl eu teuluoedd a'i rhagor-fraint, y rhai a ae∣thant i fynu gyd â mi o Babilon yn nheyr∣nasiad brenin Artaxerxes.
29 O feibion Phinees, Gerson: o feibion Ithamar, ‖ 1.134 Gamael: o feibion Dafydd, ‖ 1.135 Lettus ‖ 1.136 mab Sechaniah?
30 O feibion Pharez, Zacharias, a chyd
Page [unnumbered]
ag ef y cyfrifwyd can-ŵr a dêc a deu∣gain.
31 O feibion Pahath, Moab; Eliao∣nias mâb ‖ 1.137 Zacaias: a chyd ag ef ddeucant o wŷr.
32 O feibion ‖ 1.138 Zatho, Sechenias mab Iezelus, a chyd ag ef dry-chant o wŷr: o feibion Adin, Obeth mab Ionathan, a chyd ag ef ‖ 1.139 ddeu-cant a dêc a deugain o wŷr.
33 O feibion Elam, Iosias mab ‖ 1.140 Go∣tholias: a chyd ag ef ddeng-ŵr a thru∣gain.
34 O feibion Saphatias, ‖ 1.141 Zaraias mab Michael: a chyd ag ef ‖ 1.142 ddeng-ŵr a thrugain.
35 O feibion Ioab, ‖ 1.143 Abadias mab ‖ 1.144 Ie∣zelus: a chyd ag ef ‖ 1.145 ddeuddeng-ŵr a dau cant
36 O feibion Banid, ‖ 1.146 Assalimoth mab Iosaphias: a chyd ag ef drugein-ŵr a chant.
37 O feibion Babi, Zacharias mab Be∣bai: a chŷd ag ef wyth-wŷr ar hugain,
38 O feibion ‖ 1.147 Astath, Iohannes [mab] ‖ 1.148 Acatan: a chyd ag ef ddeng-ŵr a chant.
39 O feibion Adonicam y diwethaf, ac dymma eu henwau hwynt, Eliphalet, Ie∣uel, a ‖ 1.149 Samaias, a chydâ hwynt, * 1.150 ddeng∣wr a thriugain:
40 O feibion Bago, Vthi fab Istalcurus, a chydag ef ddeng-wr a thriugain.
41 Ac mi a gesclais y rhai hyn ynghyd, wrth yr afon a elwir Theras, lle y gwer∣syllasom dri diwrnod; ac mi a fwriais olwg arnynt.
42 Ond pan na chefais yno 'r vn o'r Offeiriaid, na'r Lefiaid;
43 Yna mi a anfonais at Eleazar, ac ‖ 1.151 Iduel, a ‖ 1.152 Masman,
44 Ac Alnathan, a Mameias, a ‖ 1.153 Iori∣bas, a Nathan, Eunatan, Zacharias, a Mosolamon, pennaethiaid a gwyr dysce∣dig.
45 Ac mi a erchais iddynt fyned at Sade∣us y pennaeth, yr hwn oedd yn y drysorfa:
46 Ac a orchymmynnais iddynt ddywe∣dyd wrth Dadeus, ac wrth ei frodyr, a'r trysorwyr oedd yno, anfon i mi rai i offei∣riadu yn nhŷ 'r Arglwydd.
47 A hwy a ddygasant i ni drwy law nerthol yr Arglwydd, wŷr dyscedic o feibi∣on ‖ 1.154 Moli mab Lefi fâb Israel, ‖ 1.155 Asebebia a'i feibion, a'i frodyr, y rhai oedd dri ar bymthec:
48 Ac Asebia, ac Annuus, ac Osaias ei frawd, o feibion Channuneus, a'i mebion hwy oedd vgein-ŵr.
49 Ac o weision y Deml, y rhai a or∣deiniasei Dafydd, a'r gwŷr pennaf, i wa∣sanaeth y Lefiaid, [sef] gweision y Deml, vgain, a dau cant o rhifedi enwau y rhai a ddangoswyd.
50 Ac yna mi a gyhoeddais ympryd i'r gwŷr ieuaingc ger bron ein Harglwydd, i ddeisyf ganddo ef daith lwyddiannus i ni, ac i'r rhai oedd gyd â ni, i'n plant, ac i'r anifeiliaid.
51 Canys yr oedd yn gywilydd gennif ofyn i'r brenin wŷr traed, a gwŷr meirch, a rhai i'n tywyso yn ddiogel yn erbyn ein gwrth-wyneb-wŷr.
52 O herwydd ni a ddywedasem wrth y brenin y byddei nerth yr Arglwydd ein Duw ni gyd â'r neb a'i ceisient ef, iw cyn∣nal hwynt ym mhob ffordd.
53 A ni a weddiasom ar ein Harglwydd eil-waith, o herwydd y pethau hyn: ac ni a'i cawsom ef yn ras-lawn i ni.
54 Yna myfi a nailltueis o'r rhai pennaf o'r offeiriaid ddeuddeng-ŵr: ‖ 1.156 Esebrias, ac Asanias, a dêc o'i brodyr gyd â hwynt.
55 Ac mi a bwysais iddynt hwy yr aur, a'r arian, a llestri sanctaidd tŷ yr Arglwydd, y rhai a roddasei y brenin, a'i gynghoriaid, a'r tywysogion, a holl Israel.
56 Ac mi a bwysais ac a roddais iddynt chwe chant, a dêc a deugain o dalentau arian, a llestri arian o gan talent, a chan talent o aur,
57 Ac vgain o lestri aur, a ‖ 1.157 ddeuddec o lestri prês, o brês gloyw yn discleirio fel aur.
58 Ac mi a ddywedais wrthynt, yr ydych chwi yn sanctaidd i'r Arglwydd, a'r llestri hefyd ydynt sanctaidd, a'r aur, a'r arian sydd yn adduned i'r Arglwydd, Arglwydd ein tadau.
59 Gwiliwch, a chedwch hwynt hyd oni roddoch hwynt i bennaethiaid yr offei∣riaid, a'r Lefiaid, a thywysogion teuluoedd Israel yn Ierusalem, o fewn stafelloedd tŷ ein Duw ni.
60 Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai a dderbyniasant yr arian, a'r aur, a'r llestri, a'i dygasant hwy i Ierusalem, i Deml yr Arglwydd.
61 Ac ni a ymadawsom oddi wrth afon Theras y deuddecfed [dydd] o'r mîs cyntaf, ac a ddaethom i Ierusalem drwy nerthol law ein Harglwydd, yr hon oedd gyd â ni: a'r Arglwydd a'n gwaredodd ni o ddechreu ‖ 1.158 ein taith rhag ein gelynion: ac felly ni a daethom i Ierusalem.
62 Ac wedi ein bôd ni yno dri-diau, ar y pedwerydd dydd y rhoddwyd yr arian pwysedic, a'r aur, yn nhŷ ein Harglwydd ni, i ‖ 1.159 Marmoth yr offeiriad, mab Iri,
63 A chyd ag ef yr oedd Eleazar [mâb] Phinees: a chyd â hwynt yr oedd Iosabad [mâb] Iesu, a ‖ 1.160 Moeth mâb Sabban, y Le∣fiaid: y cwbl [a roddwyd iddynt] tan rifedi, a phwys.
64 A'i holl bwys hwynt a scrifennwyd yr awr honno.
65 Hefyd y rhai a ddaethent o'r gaeth∣glud a offrymmasant ebyrth i Arglwydd Dduw Israel, [sef] deuddec o fustych tros holl Israel, vn ar bymthec a phedwar vgain o hyrddod,
66 ‖ 1.161 Deuddec a thrugain o ŵyn, ddeu∣ddec o eifr yn aberth hedd, y cwbl yn aberth i'r Arglwydd.
67 A hwy a roddasant orchymmyn y bre∣nin i ddistain y brenin, ac i lywiawdwŷr
Page [unnumbered]
Coelosyria a Phenice, y rhai a anrhyde∣ddasant y bobl, a Theml Dduw.
68 Wedi gwneuthur y pethau hyn, y llywiawdwŷr a ddaethant attafi, gan ddy∣wedyd,
69 Cenedl Israel, y tywysogion, a'r Offei∣naid, a'r Lefiaid, ni fwriasant ymmaith [oddi wrthynt] bobl ddieithr y wlád, nac aflendid y Cenhedloedd, [sef] y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Iebusiaid, a'r Moabiaid, yr Aiphtiaid, a'r Edomiaid.
70 * 1.162 Canys hwy a briodasant eu mer∣ched hwy, hwynt hwy a'i meibion, a'r hâd sanctaidd a gymmyscwyd à phobl ddieithr y wlâd, a'r llywiawd-wyr, a'r pennaethiaid a fuant gyfrannogion o'r anwiredd ymma, er dechreuad y peth.
71 A phan glywais y pethau hyn, mi a rwygais fy nillad, a'r wisc sanctaidd, ac a dynnais flew fy mhen, a'm barf, ac a eiste∣ddais i lawr yn drwm, ac yn drîst.
72 Yna y rhai oll oeddynt wedi eu cyn∣hyrfu drwy air Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant attafi, tra 'r oeddwn i yn ŵylo am yr anwiredd, ond myfi a eisteddais yn drist iawn hyd y prydnhawnol aberth.
73 Yna myfi a gyfodais o ymprydio, a'm dillad, a'r wisc sanctaidd wedi eu rhwygo, ac a benlinais, ac a estynnais [fy] nwylo at yr Arglwydd,
74 Ac a ddywedais, ô Arglwydd, gwradwyddus a chywilyddus ydwyf ger dy fron di.
75 Canys ein pechodau ni a amlhasant tros ein pennau ni, a'n amryfusedd ni a gyrhaeddodd hyd y nêf.
76 Canys er amser ein tadau, ni a fu∣om, ac ydym mewn pechod mawr, hyd y dydd hwn.
77 Ac am ein pechodau ni, a'n tadau, nyni a'n brodyr, a'n brenhinoedd, a'n hoffei∣riaid, a roddwyd i fynu i frenhinoedd y ddaiar, i'r cleddyf, ac i gaethiwed, ac yn sclyfaeth drwy gywilydd, hyd y dydd hwn,
78 Ac yn awr y dangoswyd peth truga∣redd i ni gennit ti, o Arglwydd, fel y gade∣wid i ni wreiddyn, ac enw yn dy gyssegr∣fa:
79 Ac i ddadcuddio goleuni i ni yn nhŷ yr Arglwydd ein Duw, ac i roddi i ni ‖ 1.163 fwyd yn amser ein caethiwed:
80 Ie pan oddem ni mewn caethiwed, ni wrthododd ein Harglwydd mo honom ni, eithr efe a'n gwnaeth ni yn gymmera∣dwy ger bron brenhmoedd Persia, fel y rho∣ddasant hwy fwyd i ni:
81 Ac yr anrhydeddasant Deml ein Har∣glwydd ni, ac y cyweiriasant anrheithiol leoedd Sion, ac y rhoddasant i ni drigfa siccr yn Iudea, ac yn Ierusalem.
82 Ac yn awr ô Arglwydd, beth a ddywe∣dwn ni sy yn cael y pethau hyn? canys nyni a drosseddasom dy orchymynion di, y rhai a roddaist ti [i ni,] drwylaw dy wei∣sion y Prophwydi, gan ddywedyd;
83 Fod y wlàd, yr hon yr ydych chwi yn myned iw hetifeddu, yn halogedic drwy aflendid dieithriaid y wlad, y rhai a'i llan∣wasant hi â'i haflendid.
84 Am hynny yn awr na chyssylltwch eich merched â'i meibion hwynt, ac na chymmerwch eu merched hwy i'ch mei∣bion chwithau.
85 Ac na cheisiwch heddychu â hwynt byth, fel i'ch gwneler yn gryfion, ac y caffoch chwi fwyta daioni y wlâd, a'i gadel hi i'ch meibion ar eich ôl chwi yn ettifeddi∣aeth.
86 Yr hyn oll hefyd a'r a ddaeth i ben, a wnaed i ni o blegit ein drwg weithredoedd ni, a'n pechodau mawrion: canys tydi, Arglwydd, a yscafnheaist ein pechodau ni,
87 Ac a roddaist i ni y cyfryw wreiddyn: [ond] nyni a droesom yn ein hôl, gan dorri dy gyfraith di, [ac] a ymgymmyscasom ag aflendid pobl y wlâd.
88 ‖ 1.164 Oni ddylit ti fod yn ddigllon wrthym ni, i'n dinistrio ni, fel na adewit i ni, na gwreiddyn, na hâd, nac enw?
89 Tydi ô Arglwydd Israel ydwyt eir∣wîr: canys gadawyd i ni wreiddyn y dydd heddyw.
90 Ac yn awr wele ni ger dy fron di yn ein pechodau, canys ni allwn ni sefyll o'th flaen di yn hwy, o herwydd y pethau hyn.
91 A phan oedd Esdras yn gweddio, ac yn cyffessu, ac yn ŵylo, ac yn gorwedd ar y llawr o flaen y Deml, yna tyrfa fawr a ymgasclasant atto ef o Ierusalem, o wŷr, a gwragedd, a phlant: canys yr oedd ga∣lar mawr ym mysc y dyrfa.
92 Yna Iechonias mab Ieelus, vn o fei∣bion Israel a waeddodd, ac a ddywedodd, ô Esdras, nyni a bechasom yn erbyn yr Ar∣glwydd Dduw, [o achos] i ni briodi gwra∣gedd dieithr o genhedloedd y wlàd, ac yn awr * 1.165 holl Israel a dderchafwyd.
93 Tyngwn lw i'r Arglwydd, ar yrru ym∣maith ein holl wragedd sydd o'r cenhedloedd, ynghŷd âi plant:
94 Fel yr ordeiniaist di, a'r holl rai sydd yn vfyddhau cyfraith yr Arglwydd.
95 Cyfod i fynu a gwna hyn: canys i ti y perthyn hyn, a ni a fyddwn gyd â thi: gwna yn wrol.
96 Yna Esoras a gyfododd, ac a wnaeth i holl bennaethiaid yr Offeiriaid, a'r Lefi∣aid, a holl Israel, dyngu y gwnaent hwy * 1.166 felly: a hwy a dyngasant.
PEN. IX.
1 Esdras yn casclu 'r holl bobl ynghyd: 10 a hwythau yn gyrru ymaith y gwragedd diei∣thr. 20 Enwau a rhifedi y rhai a wnaeth hynny. 40 Darllain Cyfraith Moses ger bron yr holl bobl: 44 A hwythan yn wylo, ac yn cael dwyn ar gof iddynt yr Vchel-wyl.
YNa Esdras a gyfododd o gyntedd y Deml, [ac] a aeth i stafell Ioanan mab Eli∣asib:
2 Ac a arhosodd yno, ac ni fwytaodd fwyd, ac nid
Page [unnumbered]
yfodd ddwfr, eithr wylodd tros anwireddau mawrion y dyrfa.
3 Ac fe a gyhoeddwyd drwy holl Iu∣dea, a Ierusalem, am i'r holl rai a'r a oeddynt ó'r gaeth-glud, ymgasclu ynghyd i Ierusalem,
4 A phwy bynnac ni chyfarfyddei yno o fewn dau ddydd neu dri, fel y gorchym∣mynnasei yr Henuriaid oedd yn llywodrae∣thu, eu hanifeiliaid hwy a attafaelid i gy∣fraid y Deml, ac yntef a ‖ 1.167 fwrid allan o blith y rhai oedd o'r gaeth-glud.
5 Yna yr holl rai a'r a oeddynt o lwyth Iuda a Beniamin, a ddaethant ynghyd o fewn tridiau i Ierusalem, ar y nawfed mis, ar yr vgainfed [dydd] o'r mîs.
6 A'r holl dyrfa yn crynu o achos y dryg-hin y pryd hynny, a eisteddasant yn ehangder y Deml.
7 Yna Esdras a gyfododd, ac a ddywe∣dodd wrthynt hwy, chwi a drosseddasoch y gyfraith; o herwydd i chwi briodi, estrone∣sau, ac felly amlhau pechodau Israel.
8 Yn awr gan hynny cyfaddefwch, a rhoddwch ogoniant i Arglwydd Dduw ein tadau:
9 A gwnewch ei ewyllys ef, ac ymnaill∣tuwch oddi wrth genhedloedd y wlàd, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
10 Yna yr holl dyrfa a waeddasant, ac a ddywedasant â llef vchel, nyni a wnawn fel y dywedaist ti.
11 Ond o herwydd bod y gynnulleidfa yn fawr, a'i bôd hi yn ddryg-hin, fel na allom ni sefyll allan, ac o herwydd na ellir gor∣phen y gwaith ymma mewn vn diwrnod, neu ddau, gan i lawer o honom ni bechu yn yr achos ymma:
12 Am hynny arhosed pennaethiaid y dyrfa, a deued yr holl rai o'n trigfannau ni, a'r y sy ganddynt wragedd dieithr, ar yr am∣ser nodedic.
13 A [deued] gyd â hwynt, y rheol-wŷr, a'r barn-wŷr allan o bôb lle, hyd oni lony∣ddom ddigofaint yr Arglwydd yn ein her∣byn, am y peth hyn.
14 Yna Ionathan mab Azael, ac Ezecias mab Theocanus, a gymmerasant y matter ymma arnynt: a Mosolam, a Leuis, a Sa∣batheus a'i cynnorthwyodd hwynt:
15 A'r rhai oedd o'r gaeth-glud a wnaeth∣ant ar ôl hyn oll.
16 Ac Esdras yr Offeiriad a ddetholodd iddo y gwŷr pennaf o'u teuluoedd, erbyn eu henwau oll: ac ar a y dydd cyntaf o'r decfed mîs, hwy a gyd-eisteddasant i holi yr achos.
17 Felly achos y rhai a briodasent wra∣gedd dieithr a dducpwyd i ben, y dydd cyntaf o'r mîs cyntaf,
18 Ac o'r Offeiriaid a ddaethent ynghyd, ac a briodasent wragedd dieithr, y cafwyd yno:
19 O feibion Iesus fâb Iosedec, a'i frodyr, ‖ 1.168 Matthelas, ac Eleazar, ‖ 1.169 Ioribus, a ‖ 1.170 Ioa∣danus:
20 Y rhai a roddasant eu dwylo ar droi ymmaith eu gwragedd, ac offrymmu hwrdd, yn iawn am eu hamryfusedd.
21 Ac o febion Emmer, Ananias, a Zab∣deus, ac a 1.171 Eanes, a b 1.172 Sameius, a c 1.173 Hierel, ac d 1.174 Azarias,
22 Ac o feibion e 1.175 Phaisur, Elionas, Mas∣sias, Ismael, a Nathanael, ac f 1.176 Ocidelus, a g 1.177 Thalsas.
23 Ac o'r Lefiaid, Iosabad, a Semis, a h 1.178 Cholius, yr hwn a elwid i 1.179 Calitas, a k 1.180 Pha∣theus, a Iudas, a Ionas.
24 O'r cantorion sanctaidd, l 1.181 Eleazurus, Bacchurus.
25 O'r porthorion, Salumus, a m 1.182 Thol∣banes.
26 O'r rhai o Israel, o feibion n 1.183 Pho∣ros, o 1.184 Hiermas, ac p 1.185 Edias, a Melchias, a q 1.186 Maelus, ac Eleazar, ac r 1.187 Asibias, a Baa∣nias.
27 O feibion Ela, Matthanias, Zacha∣rias, a s 1.188 Hierielus, a Hieremoth, ac t 1.189 Aedias.
28 Ac o feibion u 1.190 Zamoth, x 1.191 Eliadas, y 1.192 Eli∣simus, z 1.193 Othonias, Iarimoth, a a 1.194 Sabba∣tus, a b 1.195 Sardeus.
29 O feibion Bebai, Ioannes, ac Ana∣nias, a c 1.196 Iosabad, ac d 1.197 Amatheis.
30 O feibion e 1.198 Mani, f 1.199 Olamus, g 1.200 Ma∣muchus, h 1.201 Iedeus, Iasubus, i 1.202 Iasael, a Hie∣remoth.
31 ‖ 1.203 Ac o feibion Adi, Naathus, a Moosias, Lacunus, a Naidus, a Mathanias, a Sess∣hel, a Balunus, a Manasseas.
32 Ac o feibion Annas, Elionas, ac Ase∣as, a Melchias, a Sabbeus, a Simon Chosameus.
33 Ac o feibion Asom, k 1.204 Atanelus, a l 1.205 Mat∣thias, a m 1.206 Banaia, Eliphalet, a Manasses, a Semi.
34 Ac o feibion Maani, Ieremias, Momdis, Omaerus, Iuel, Mabdai, a Phe∣lias, ac Anos, Carabasion, ac Enasibus, a Mamninatanaimus, Eliasis, Bannus, Eliali, Samis, Selenias, Nathanias: ac o feibion Ozora, Sesis, Esril, Azailus, Sa∣matus, Zambis, Iosiphus,
35 Ac o feibion Ethma, Mazitias, Za∣badias, Edes, Iuel, Banaias.
36 Yr holl rai hyn a briodasent wragedd dieithr, a hwy a'i gyrrasant hwy âi plant ymmaith.
37 A'r Offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r rhai oedd o Israel a drigasant yn Ierusalem, ac yn y wlâd, y dydd cyntaf o'r seithfed mîs; felly plant Israel oedd yn trigo yn eu ‖ 1.207 triglaoedd.
38 Yna yr holl dyrfa a ddaethant ynghyd, o vn frŷd, i'r fan ehang o'r porth sanctaidd tua 'r dwyrain;
39 A hwy a ddywedasant wrth Esdras yr Offeiriad, a'r darllennydd, am iddo ddwyn cyfraith Moses, yr hon a roddasei Arglwydd Dduw Israel.
40 Yna Esdras yr Arch-offeiriad a ddug y gy∣fraith at yr holl dyrfa, yn wŷr ac yn wragedd, ac at yr holl Offeiriaid, fel y clywent hwy y gyfraith, y dydd cyntaf o'r seithfed mîs.
41 Ac efe a ddarllennodd yn y lle ehang o flaen y porth sanctaidd, o'r boreu hyd han∣ner dydd, o flaen gwŷr a gwragedd: a'r holl dyrfa a wrandawsant ar y gyfraith yn ddy∣fal.
Page [unnumbered]
42 Felly Esdras yr Offeiriad, a darllen∣nydd y gyfraith, a safodd i fynu mewn pul∣pud o goed, yr hwn ydoedd wedi ei ddarpa∣ru [i hynny.]
43 A Matathias, Sammus, Ananias, A∣zarias, Urias, ‖ 1.208 Ezecias, a ‖ 1.209 Balasamus, a safasant yn ei ymyl ar y llaw ddehau,
44 Ac ar ei law asswy ef ‖ 1.210 Phaldaius, Misael, Melchias, ‖ 1.211 Lothasubus, a * 1.212 Nae∣barias.
45 Yna Esdras a gymmerth lyfr y Gy∣fraith, o flaen y dyrfa, canys yr oedd efe yn eistedd ‖ 1.213 yn anrhydeddus yn y lle pennaf, yn eu gŵydd hwynt oll.
46 A thra oeddefe yn agoryd y gyfraith, hwy a safasant oll yn eu huniawn sefyll: ac Esdras a fendithiodd yr Arglwydd Dduw Goruchaf, Duw y lluoedd Holl-alluog.
47 A'r holl bobl a attebasant, Amen, a chan godi eu dwylo, a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr Arglwydd.
48 A Iesus, Anus, Sarabias, Adi∣nus, Iacubus, Sabateus, ‖ 1.214 Auteas, Ma∣ianeas, a Chalitas, Azarias, a Ioazabdus, ac Ananias, a Biatus, y Leuiaid, a ddysca∣sant Gyfraith yr Arglwydd, gan wneu∣thur iddynt hefyd ei deall hi.
49 ‖ 1.215 y llefarodd Attharates wrth Esdras yr Arch-offeiriad, a'r darllennydd, ac wrth y Leuiaid oedd yn dyscu 'r dyrfa, sef wrth bawb, gan ddywedyd,
50 Y dydd hwn sydd sanctaidd i'r Argl∣wydd, canys hwy a wylasant bawb, pan glywsant y Gyfraith.
51 Ewch chwithau a bwyttewch y bras, ac yfwch y melus, ac anfon wch ran ‖ 1.216 i'r rhai nid oes dim ganddynt.
52 Canys y dydd hwn sydd sanctaidd i'r Arglwydd, ac na fyddwch chwi drist; canys yr Arglwydd a'ch dwg chwi i anrhy∣dedd.
53 Felly y Leuiaid a gyhoeddasant yr holl bethau hyn i'r bobl, gan ddywedyd; Y dydd hwn sydd sanctaidd i'r Arglwydd, na thristewch.
54 Yna hwy a aethant ymaith bob vn, i swytta, ac i yfed, ac i wneuthur yn llawen, ac i roddi rhan i'r rhai nid oedd dim gan∣ddynt, ac i wledda.
55 O herwydd iddynt ddeall y geiriau y dyscasid hwy ynddynt, a'r rhai yr oeddynt wedi ymgynnull o'i hachos.
AIL LLYFR ESDRAS.
PENNOD. I.
1 Gorchymmyn i Esdras geryddu 'r bobl. 24 Duw yn bygwth eu bwrw hwy ymaith; 35 a rhoi eu tai hwynt i bobl a fyddai iddynt mwy o râs ná hwynt hwy.
A I L llyfr y Pro∣phwyd * 1.217 Esdras fab Saraias, fab Azarias, fab Hel∣chias, fab ‖ 1.218 Sada∣nias, fab Sadoc, fab Achitob,
2 Fab Achia, fab Phinees, fab Heli, fab Amari∣as, fab Aziei, fab Marimoth, fab Arna, fab Ozias, fab Bo∣rith, fab Abisei, fab Phinees, fab Eleazar,
3 Fab Aaron, o lwyth Lefi, yr hwn a fu gaeth yngwlad y Mediaid, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin y Persiaid.
4 A gair yr Arglwydd a ddaeth attasi, gan ddywedyd,
5 * 1.219 Dôs ymmaith, a mynega i'm pobl eu pechodau, ac iw plant eu hanwireddau a wnaethant i'm herbyn, fel y mynegont i blant eu plant.
6 Am i bechodau eu tadau hwynt aml∣hau ynddynt hwy, canys hwy am, gollyng∣asant dros gôf, ac a offrymasant i dduwi∣au dieithr.
7 Onid myfi a'i dug hwynt o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed? cr hynny hwyntwy a'm hannogasant i ddigofaint, ac a ddiystyra∣sant fy nghynghorion.
8 Tyn wallt dy ben, a bwrw yr holl ddrygioni arnynt hwy, achos ni buant vfydd i'm cyfraith: ond pobl wrth-ryfelgar ydynt.
9 Pa hŷd y cyd-ddygaf â'r rhai y gwneu∣thum cymmaint o ddaioni erddynt?
10 * 1.220 Llawer o frenhinoedd a ddifethais i er eu mwyn hwy, Pharao a'i weision, a'i holl lu a darewais i i lawr.
11 Yr holl genhedloedd a ddifethais i o'i blaen hwynt, ac yn y * 1.221 dwyrain yr anrheithi∣ais bobl dwy dalaith, [sef] Tyrus a Sidou, ac a leddais eu holl elynion hwynt.
12 Llefara ditheu wrthynt gan ddywe∣dyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd,
13 * 1.222 Mi a'ch arweiniais chwi drwy 'r môr, ac a roddais i chwi heol eang a diogel o'r dechreuad, mi * 1.223 a roddais i chwi Moses yn dywysog, ac Aaron yn Offeiriad.
14 * 1.224 Rhoddais i chwi oleuni mewn co∣lofn o dân, a rhyfeddodau mawrion a wnae∣thym
Page [unnumbered]
yn eich plith: er hynny chwi a'm gollyngasoch i dros gof, medd yr Arglwydd.
15 Fel hyn y dywed yr Holl-alluoc Ar∣glwydd, * 1.225 y sofl-ieir oedd yn arwydd i chwi; rhoddais i chwi bebyll yn amddeffyn, etto grwgnach a wnaethoch ynddynt.
16 Ac nid ymlawenhasoch yn fy Enw i am ddinistr eich gelynion, ond grwgnach yn wastad yr ydych, hyd y dydd heddyw.
17 Mae 'r daioni a wneuthym i chwi? * 1.226 oni waeddasoch chwi arnaf, pan oeddych newynog a sychedig yn yr anialwch.
18 Gan ddywedyd, pa ham y dygaisti ni i'r anialwch hwn i'n lladd? gwell a fuasci i ni wasanaethu 'r Aiphtiaid, nâ ma∣rw yn yr amalwch hwn.
19 Y pryd hynny y tosturiais wrth eich galar, a rhoddais i chwi Manna iw fwyt∣ra, ac felly y bwyttasoch * 1.227 fara Angelion.
20 * 1.228 Pan oedd syched arnoch, oni holl∣tais y graig, a'r dwfr a ddylifodd i'ch di∣wallu chwi? ac mi a'ch cyscodais rhag y gwrês â dail y coed.
21 Rhennais yn eich plith wlâd ffrwyth∣lon, a bwriais allan o'ch blaen chwi y Canaaneaid, y Phereziaid, a'r Philistiaid: * 1.229 beth mwy a wnaf eroch chwi, medd yr Arglwydd?
22 Fel hyn y dywed yr Holl-alluoc Ar∣glywydd, pan oeddych yn yr anialwch, * 1.230 ‖ 1.231 wrth ddwfr chwerw 'r Amoriaid, yn sychedic, ac yn cablu fy Enw.
23 Ni roddais i chwi dân am eich cabl, ond bwrw pren a wneuthym i'r dwfr, a gwneuthur yr afon yn groyw.
24 Pa beth a wnaf i ti Iacob? * 1.232 tydi Iuda nid vfyddheit i mi: mi a droaf at genhedloedd eraill, ac a roddaf iddynt hwy fy Enw, fel y cadwont fy nghysreithiau.
25 Gan i chwi fy ngwrthod, minneu a'ch gwrthodaf chwithau, pan ddymunoch ar∣naf fod yn drugarog wrthych, ni's trugar∣háf wrthych.
26 Pan * 1.233 alwoch arnaf ni's gwrandaw∣af chwi, canys chwi a halogasoch eich dwy∣lo â gwaed, a'ch traed sydd gyflym i ladd celain.
27 Nid myfi a wrthodasoch chwi, ond eich hunain, medd yr Arglwydd.
28 Fel hyn y dywed yr Holl-alluog Ar∣glwydd, oni ddeisyfiais arnoch, fel [y deisyf] tâd ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu fammaeth ar ei rhai bych∣ain,
29 Fod o honoch yn bobl i mi, ‖ 1.234 a min∣neu yn Dduw i chwithau, fôd o honoch yn blant i mi, a minneu yn dâd i chwi∣thau?
30 * 1.235 Mi a'ch cesclais chwi ynghyd, me∣gis y cascl yr iâr ei chywion dan ei haden∣ydd: ond yn awr beth a wnaf i chwi? mi a'ch bwriaf allan o'm golwg.
31 Pan * 1.236 offrymmoch i mi, mi a drôf fy wyneb oddiwrthych, canys mi a wrthodais eich gŵylieu arbennic, eich lleuadau new∣ydd, a'ch enwaediadau.
32 Danfonais attoch fy ngwasanaeth∣wŷr y prophwydi, y rhai a ddaliasoch, ac a laddasoch, a drylliasoch eu cyrph hwynt yn ddarniau, eu gwaed hwy a ofynnaf fi ar eich dwylo chwi, medd yr Arglwydd.
33 Fel hyn y dywed yr Holl-alluoc Argl∣wydd: eich tŷ chwi sydd yn anghyfannedd, mi a'ch bwriaf chwi allan, fel y gwna y gwynt y sofl.
34 A'ch plant ni chenhedlant, ca∣nys fy ngorchymmyn i a ddiystyrasant, a'r hyn oedd ddrwg ger fy mron i a wnae∣thant.
35 Eich tai a roddaf i 'r bobl a ddêl, y rhai er na's clywsant sôn am danaf, etto a gredant ynofi, i'r rhai ni ddangosais arwy∣ddion, er hynny hwy a wnânt yr hyn a or∣chymynnais iddynt.
36 Ni welsant Brophwydi, er hynny hwy a gosiant eu pechodau, ac a'u cyffesant.
37 Yn dŷst yr ŵyf yn galw grâs y bobl a ddaw, y rhai y gorfoledda eu plant mewn llawenydd, ac er na's gwelant fi â'i lly∣gaid corphorawl, etto yn yr yspryd hwy a gredant y peth yr ŵyfi yn ei ddywedyd.
38 Ac yn awr frawd, ystyr pa ogoniant; a gwêl y bobl sydd yn dyfod o'r dwy∣rain.
39 I'r rhai y rhoddaf iw harwein A∣braham, Isaac, ac Iacob, Ozeas, Amos, a Micheas, Ioel, Abdias, a Ionas,
40 Nahum, ac Abacuc, Sophonias, Ag∣geus, Zachari, a Malachi, yr hwn a clwir hefyd * 1.237 Angel yr Arglwydd.
PEN. II.
1 Duw yn achwyn rhag ei bobl: 10 Ac euo yn peri i Esdras eu cyssuro hwy. 34 Am iddynt hwy wrthod, y gelwir y Cenhedloedd 43 Esdras yn gweled mab Duw, a'r rhai a goronir ganddo ef.
FEl hyn y dywed yr Argl∣wydd, mi a ddygais y bobl hyn o gaethiwed, ac a ro∣ddais iddynt fy ugorchymy∣nion drwy fy ngweision y Prophwydi, y rhai ni wran∣dawent, ond diystyru fy nghynghorion i a wnaethant.
2 Y fam a'u dûg a ddywed wrthynt, ewch ymmaith blant, canys gweddw yd∣wyf, a gwrthodedig.
3 Mi a'ch megais chwi drwy lawen∣ydd, ond mi a'ch collais chwi drwy alar a thrymder: canys chwi a bechasoch ger bron yr Arglwydd eich Duw, ac a wnaethoch y peth oedd ddrwg yn ei olwg ef.
5 A pha beth a wnaf i chwi y pryd hyn? gweddw ydwyf a gwrthodedic; ewch i ffordd, fy mhlant, a gofynnwch drugaredd gan yr Arglwydd.
5 A minneu (ô dâd) a alwaf arnat ti am dystiolaeth yn erbyn mam y plant hyn, y rhai ni chadwent fy nghyfam∣mod.
Page [unnumbered]
6 Fely dygech hwy i wradwydd, a'i mam i anrhaith, fel na byddo heppil o honynt hwy.
7 Gwascarer hwynt ar lêd ym mhlith y cenhedloedd, bwrier eu henwau hwy ym∣maith oddi ar y ddaiar: canys diystyrasant ‖ 1.238 fy nghyfammod.
8 Gwae tydi Assur yr hwn a guddi ynot yr anghyfiawn: tydi bobl anwir, cofia beth a wnaethym i Sodoma a Gomora. * 1.239
9 Eu tîr a droed yn briddellau pŷg, ac yn dyrrau o ludw: felly hefyd y gwnaf i'r sawl ni'm gwrandawant, medd yr Argl∣wydd Holl-alluoc.
10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth Esdras, dy wed i'm pobl y rhoddaf iddynt deyrnas Ierusalem, yr hon a roeswn i Is∣rael.
11 Eu gogoniant hwy hefyd a gymmeraf i mi, a rhoddaf i'r rhai hyn bebyll tragy wy∣ddol, y rhai a ddarparaswn iddynt hwy.
12 Hwy a gânt bren y bywyd yn en∣naint o arogl peraidd; ni lafuriant, ac ni ddeffygiant.
13 Cerddwch, a chwi a dderbyniwch; gweddiwch am ychydig ddyddiau, fel y byrrhaer hwynt; paratowyd y deyrnas i chwi eusus. Gwiliwch.
14 Cymmer yn dystiolaeth y nef a'r ddaiar, canys myfi a ddrylliais y drwg, ac a wneu∣thum y da: canys byw wyfi, medd yr Argl∣wydd.
15 Tydi fam, cofleidia dy blant, a ‖ 1.240 mâg hwynt drwy lawenydd, gwna eu traed yn siccr fel colofn, canys tydi a ddewisais i, medd yr Arglwydd.
16 A'r meirw a adgyfodaf i o'i lleoedd, ac a'i dygaf allan o'r beddau: canys adna∣bum ‖ 1.241 fy En w yn Israel.
17 Tydi fam y plant, nac ofna; canys de∣wisais di, medd yr Arglwydd.
18 A danfonaf i'th gynnorthwyo Esay, a Ieremi fy ngwasanaeth-wŷr, wrth gyngor y rhai y sancteiddiais, ac y darperais i ti ddeuddec pren, yn llawn o amryw ffrwy∣thau.
19 A'r vn rhifedi o ffynhonnau yn llifeirio olaeth a mêl: a saith o fynyddoedd maw∣rion yn dwyn rhos a Lili, â'r rhai y llan∣waf dy blant â llawenydd.
20 Gwna gyfiawnder i'r weddw, barn i'r ymddifad, dyro i'r tlawd, amddeffyn yr ymddifad, dillada 'r noeth.
21 Iachâ y drylliedig, a'r gwan; na wat∣war y cloff, amddeffyn yr anafus, a gâd i'r dall ddyfod i olwg fy nisclairdeb.
22 Cadw hên ac ieuangc o fewn dy gae∣rau.
23 * 1.242 Pa le bynnac y caffech y marw, cym∣mer hwynt, a chladd, ac mi a roddaf i ti yr eisteddle bennaf yn fy ad-gyfodiad.
24 Gorphywys, ô fy mhobl, a chymmer dy esmwythdra, canys dy lonyddwch di a ddaw.
25 Mâg dy blant, ti fammaeth dda, a chryfhâ eu traed hwynt.
26 Ni dderfydd am neb o'th wasanaeth∣wŷr a roddais i ti, canys ceisiaf hwynt o fysc dy rifedi di.
27 Na ddeffygia, canys pan ddél dyddiau blinder ac ing, eraill a ŵylant, ac a alarant, ond tydi a fyddi lawen a diwall.
28 Y cenhedloedd a genfigennant wrthit, er hynny ni's gallant wneuthur dim yn dy erbyn di, medd yr Arglwydd.
29 Fy nwylaw i a'th wascoda di, fel na welo dy blant vffern.
30 Y mlawenhâ, tydi fam gyd â'th blant, canys mi a'th achubaf di, medd yr Argl∣wydd.
31 Cofia dy blant, y rhai sydd yn cyscu, canys mi a'i dygaf hwynt o gyrrau 'r ddai∣ar, a byddaf drugarog wrthynt, canys tru∣garog yd wyf, medd yr holl-alluog Arglwydd.
32 Cofleidia dy blant, hyd oni ddelwyf i ddangos trugaredd iddynt, canys y mae fy ffynhonnau yn myned trosodd, a'm grâs ni phalla.
33 Myfi Esdras a gefais orchymyn gan yr Arglwydd ar fynydd Oreb, i fyned at Is∣rael: ond pan ddaethum attynt hwy, hwy a'm diystyrasant, ac a ddirmygasant or∣chymmyn yr Arglwydd.
34 Ac am hynny y dy wedaf wrthych chwi genhedloedd, y rhai a glywch, ac a ddeell∣wch; Edrychwch am eich bugail, efe a rydd i chwi orphywysdra dragywyddol, canys yr hwn a ddaw ar ddiwedd y bŷd sydd ger llaw.
35 Byddwch barod i wobr y deyrnas, canys y goleuni tragywyddawl a lewyr∣cha arnoch byth.
36 Ffowch rhag cyscod y bŷd hwn, der∣byniwch lawenydd eich gogoniant: ty∣stiolaethaf fy achub-wr yn gyhoedd.
37 O derbyniwch, rhodd a roddir i chwi, a byddwch lawen, gan ddiolch i'r hwn a'ch galwodd i'r deyrnas nefol.
38 Codwch, a sefwch, gwelwch rifedi y rhai a nodwyd ‖ 1.243 yngwledd yr Arglwydd:
39 Y rhai a ymadawsant â chyscod y bŷd, ac a dderbyniasant wiscoedd gogone∣ddus gan yr Arglwydd.
40 Cymmer dy rifedi, ô Sion, cae ar dy rai gwynion, y rhai a gadwasant gyfraith yr Arglwydd.
41 Cyflawnwyd rhifedi dy blant, y rhai yr ŵyt yn hiraethu am danynt, dymuna nerth yr Arglwydd, fel y sancteiddier dy bobl, y rhai a alwyd o'r dechreuad.
42 * 1.244 Myfi Esdras a welais ar fynydd Si∣on, dyrfa o bobl, allan o rifedi, a hwyntwy i gyd oeddynt yn moli 'r Arglwydd ar gerdd.
43 Ac yn eu canol hwynt yr oedd gŵr ieu∣angc tal o gorpholaeth, yn vwch nâ 'r lleill oll, ar efe a osodes goronau ar bennau pob vn o honynt, ac efe a dderchafwyd yn fwy, a hynny oedd ryfedd iawn gennifi.
44 Yna y gofynnais i'r Angel, gan ddy∣wedyd, beth yw y rhai hyn, Arglwydd?
45 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrthif, dymma y rhai a ddioscasant y dillad marwol, ac a wiscasant yr anfarwol, ac a gyfaddefasant Enw Duw, yn awr y coron∣ir hwynt, ac y derhyniant balm-wydd.
Page [unnumbered]
46 Ac mi a ddywedais wrth yr Angel, pwy yw yr gwr ieuangc sydd yn eu coroni hwynt, ac yn rhoddi palm-wŷdd yn eu dwylo?
47 A chan atteb efe a ddywedodd wrthif, Mab Duw yw efe, yr hwn a gyfaddefasant hwy yn y bŷd; yna y dechreuais inneu eu canmol hwynt yn fawr, y rhai a safasent mor bybyr wrth Enw yr Arglwydd.
48 Yna y ddywedodd yr Angel wrthif, dôs ymmaith a dangos i'm pobl pa fath be∣thau, a pha gymmaint o ryfeddodau yr Ar∣glwydd Dduw a welaist ti.
PEN. III.
1 Esdras yn flin arno: 13 ac yn cydnabod pe∣chodau 'r bobl: 28 ac yn achwyn fod y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt hwy, er eu bod yn fwy eu drygioni nâ hwynt hwy.
Y Ddecfed flwyddyn ar hugain yn ól destrywio y ddinas, yr oeddwn i o fewn Babilon yn gorwedd ar fy ngwely yn drallodus, a'm meddyliau oedd yn dyfod i fynu ar fy nghalon.
2 Canys mi a welais anghyfannedd∣dra Sion, a golud trigolion Babilon.
3 A'm hyspryd a gynnhyrfwyd yn ddir∣fawr, a mi a ddechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau llawn o ofn, ac a ddy we∣ddais,
4 O Arglwydd lywydd, ti a ddywedaist yn y dechreu, pan osodaist y ddaiar, (a hynny dy hun yn vnic) ac a roddaist orchymmyn i'r bobl,
5 Ac a * 1.245 roddaist gorph i Adda di-enaid, yr hwn oedd waith dy ddwylo, ac a anedlaist ynddo anadl einioes, ac efe a wnaed yn fyw gerdy fron di.
6 A thi a'i dygaist ef i baradwys, yr hon a blannasei dy ddeheulaw di, cyn dyfod o'r ddaiar rhagddi erioed:
7 A gorchymynnaist iddo ef garu dy ffordd di, yr hon a drosseddodd efe; ac allan o law ti a ordeiniaist ynddo ef farwolaeth, ac yn ei genhedlaethau ef, o'r rhai y daeth cenhedloedd, llwythau, pobloedd, a thy∣lwythau aneirif.
8 A * 1.246 phob cenedl a rodiodd wrth ei he∣wyllys ei hun, a hwy a wnaethant bethau rhyfedd yn dy olwg di, ac a ddiystyrasant dy orchymynion.
9 Ond * 1.247 yn ôl ennyd o amser, ti a ddygaist y diluw ar vchaf presswylwŷr y bŷd, ac a'i difethaist hwynt.
10 Ac fe ddigwyddodd ym mhawb o ho∣nynt, fel yr oedd marwolaeth i Addaf, felly yr oedd y Diluw i'r rhai hyn.
11 Etto vn o honynt a adewaisti, sef Noah a'i deulu, o'r hwn y daeth pob dyn cyfiawn. * 1.248
12 A digwyddodd, pan ddechreuodd y rhai oedd yn presswylio ar y ddaiar amlhau, a phan oedd iddynt lawer o blant, a phan oeddynt yn bobl lawer, hwy a ddechreuasant wneuthur mwy o anwiredd nâ'r rhai cyn∣taf.
13 A digwyddodd, pan oeddynt yn byw mor annuwiol ger dy fron di, * 1.249 ddewis o ho∣not it ŵr o honynt a elwid * 1.250 Abraham.
14 A hwnnw a geraisti, a dangosaist iddo ef yn vnic dy ewyllys;
15 A gwnaethost ag ef gyfammod tragy∣wyddol, gan addo iddo, na wrthodit byth ei hâd ef.
16 A thi a roddaist iddo ef * 1.251 Isaac, ac i Isaac y rhoddaist * 1.252 Iacob ac Esau, a Iacob a ddewisaist i ti, * 1.253 a gwrthodaist Esau, ac felly Iacob a aeth yn genedl fawr.
17 Yna pan arweiniaist ei hâd ef allan o'r Aipht, * 1.254 ti a'i dygaist hwynt i fynu i fy∣nydd Sina,
18 A chan ogwyddo 'r nefoedd, ti a siccr∣heaist y ddaiar, ac a gynnhyrfaist yr holl fyd, ac a wnaethost i'r dyfnderoedd grynu, ac a drallodaist ddynion yr oes honno.
19 A'th ogoniant a aeth drwy bedwar porth, tân, daiar-gryn, gwynt, ac oerni, fel y gellit roddi cyfraith i hâd Iacob, ‖ 1.255 a diwyd∣rwydd i genhedlaeth Israel.
20 Ac ni thynnaist oddi wrthynt hwy ga∣lon ddrwg, fel y gallei dy gyfraith di ddwyn ffrwyth ynddynt hwy.
21 Canys yr Adda cyntaf yn dwyn calon * 1.256 ddrwg, a droseddodd ac a orchfygwyd, a phawb a'r a anwyd o honaw ef ydynt felly.
22 Fel hyn yr arhosodd gwendid, a'r gy∣fraith hefyd ynghalon y bobl, ynghŷd â drygioni 'r gwreiddyn, fel yr ymadawodd, yr hyn oedd dda, ac yr arhosodd y drwg.
23 Ac felly 'r amseroedd a gerddasant, a'r blynyddoedd a ddarfuant, yna y * 1.257 codaist i fynu iti wâs a elwid Dafydd,
24 * 1.258 Ac a beraist iddo adeiladu dinas i'th Enw di, ac offrwm it yno thûs ac aberthau.
25 A hyn a wnaethpwyd dros lawer o flynyddoedd; yna prefswyl-wŷr y ddinas a ymadawsant â thi;
26 Gan wneuthur ym mhob peth fel y gwnaethai Adda a'i holl genhedlaethau, ca∣nys calon ddrwg oedd ganddynt hwythau hefyd.
27 Ac felly y rhoddaist dy ddinas i ddwy∣lo dy elynion.
28 A wnant hwy sydd yn presswylio yn Babilon ddim gwell, fel y caent hwy am hynny lywodraeth ar Sion?
29 Canys pan ddaethum yno, a gweled drygioni aneirif, yna fy enaîd a welodd la∣wer o drosedd wŷr yn y ddecfed flwyddyn ar hugain hon, a'm calon a ddeffygiodd.
30 Canys gwelais fely cyd-ddygaist ti â hwynt yn pechu, ac yr arbedaist y drwg wei∣thred wŷr; ac y difethaist dy bobl dy hun, ac y cedwaist dy elynion, ac ni's dangosaist hyn.
31 Ni fedrafi ‖ 1.259 feddwl pa fodd y gellir gadel y ffordd hon; ai gwell gan hynny ydynt hwy o Babilon, nâ hwy o Sion?
32 Neu a oes bobl iw cael a'th edwyn di heb law Israel? neu pa genhedlaeth a gre∣dodd i'th gyfammodau di, fel Iacob?
33 Ac er hynny ni's gwelir mo'i gwobr
Page [unnumbered]
hwynt, ac nid oes ffrwyth iw llafur hwy: canys aethym y ma a thraw drwy 'r cenhed∣loedd, a gwelaf hwynt yn oludog, ac ni's meddyliant am dy orchymynion di.
34 Am hynny, pwysa mewn clorian ein pechodau ni, a'r eiddynt hwythau hefyd sy yn presswylio yn y bŷd: ac ni cheffir dy Enw yn vn-lle ond yn Israel.
35 Neu pa bryd ni phechodd yn dy olwg di y rhai sydd yn presswylio ar y ddaiar? neu pa bobl a gadwodd felly dy orchymymon?
36 Tydi a gei wybod erbyn ei enw mai Israel a gadwodd dy orchymynion; ac nid y Cenhedloedd:
PEN. IIII.
1 Yr Angel yn dangos mor ddiddeall oedd Es∣dras ym marnedigaethau Duw: 13 ac yn ei gynghori nad ymyrro at bethau a fo vwch nâ'i gyrraedd: 23 Ac er hynny Esdras yn gofyn llawer o gwestiwnau, ac yn cael atteb iddynt.
A'R Angel, yr hwn a ddan∣fonwyd attaf, yr hwn yr oedd ei enw Vriel, a'm hattebodd,
2 Ac a ddywedodd, Fe aeth dy galon yn rhy-bell yn y bŷd hwn, ac a yowyt ti yn meddwl ymgyffred ffordd y Goruchaf?
3 Yna y dywedais inneu, gwir fy Argl∣wydd; ac efe a'm hattebodd, gan ddywedyd, fe a'm hanfonwyd i ddangos i ti dair ffordd, aci roddi tri chyffelybrwydd o'th flaen di.
4 Os dangosi i mi vn o honynt, minneu a ddangosaf i titheu y ffordd yr ewyllyssi gael ei gweled: a dangosaf it o ba lê y mae yr galon ddrwg.
5 A mi a ddywedais, dywed fy Arglwydd, yna y dywedodd efe wrthif, dôs pwysa i mi bwys y tân, neu fesur i mi 'r awel wynt, neu alw yn ei ôl y dydd a aeth heibio.
6 Yna yr attebais ac y dywedais, pa ddyn a all wneuthur hynny; fel y gofynnit i mi y fath bethau?
7 Ac efe a ddywedodd wrthif, pe gofyn∣nwn i ti pa faint o drigfannau sy ynghanol y môr, neu pa rifedi o aberoedd sydd yn ne∣chreu y dyfnder, neu pa gymmaint o ffyn∣honnau sydd oddi ar y ffurfafen, neu pa le y mae terfynau paradwys:
8 Ond antur ti a ddywedit wrthif, nid aethum i erioed i'r dyfnder, naci vffern, ac ni ddringais i'r nefoedd.
9 Ac yn awr ni ofynnais i ti ond yn vnic am y tân, a'r gwynt, a'r dydd a dreuliaist, ac am bethau ni's gellir dy naillduo di oddiwrthynt, er hynny ni fedri di roddi i mi atteb am danynt.
10 Ac efe a ddywedodd wrthif eil-waith, nid adwaenost yr eiddot ty hun, na'r pethau a dyfasant gyd â thi:
11 A pha fodd y gall dy lestr di ymgyffred ffordd y Goruchaf? a'r hŷd yn awr wedi ei lygru oddi allan, ddeall ‖ 1.260 y llygredigaeth fydd yn amlwg yn fy ngolwg i?
12 A dywedais wrtho ef, gwell a fuasei i ni na buasem, nâ bod i ni fyw mewn an∣wireddau, a ddioddef heb ŵybod pa ham.
13 Efe a'm hattebodd, ac a ddywedodd; mi a aethum i goed mawr ar faes, * 1.261 a'r prennau oedd yn ymgynghori,
14 Gan ddywedyd, Deuwch, awn i ym∣ladd a'r môr, hyd oni chilio efe rhagom, fel y gallom wneuthur mwy o goedydd.
15 A llifeiriaint y môr hefyd yr vn modd a ymgynghorasant, gan ddywedyd, Deu∣wch, awn i fynu a darostyngwn goedydd y maes, fel y gallom wneuthur i ni wlâd arall yno hefyd.
16 A gwnaethbwyd bwriad y coed yn ofer, canys tân a ddaeth ac a'i lloscodd ef.
17 Hefyd bwriad llifeiriant y môr a ballodd, canys y tywod a safodd, ac a'i rhwystrodd ef.
18 Pe byddit ti yn farn-wr rhwng y ddau hyn, pa vn a gyfiawnheit ti, neu pa vn a gondemnit ti?
19 Mi a attebais gan ddywedyd, yn wîr ofer oedd eu hamcanion ill dau, canys y tir a roddwyd i'r coed, ac y mae hefyd i'r môr le i fwrw ei donnau.
20 Yna i'm hattebodd gan ddywedyd, ti a fernaist yn gyfiawn, ond pa ham na ferni dy hun hefyd?
21 Canys fel y rhoddwyd y tîr i'r coed, a'r môr iw donnau: yn yr vn modd * 1.262 y rhai a dri∣gant ar y ddaiar ni ddeallant ddim ond y pethau sydd ar y ddaiar; a'r hwn sydd yn aros vwch law y nefoedd yn vnic, a gaiff ddeall y pethau sydd goruwch vchder y ne∣foedd.
22 Yna yr attebais gan ddywedyd, at∣tolwg Arglwydd, rhodder i mi ddeall.
23 Canys nid oedd yn fy mrŷd i ymofyn yn fanwl am bethau vchel, ond am y pethau sy yn myned heibio i ni beunydd, hynny yw, pa ham y rhoddwyd Israel yn wrad∣wydd i'r Cenhedloedd, a pha ham y rhodd∣wyd y bobl a geraisti i genhedloedd anwir, a pha ham y difethwyd cyfraith ein tadau, ac y dirymwyd yr ammodau scrifennedic:
24 Ac yr ydym ni yn myned o'r byd fel cei∣liogod rhedyn, a'n henioes nid yw ddim ond ofn a braw, ac ni haeddwn ni drugaredd.
25 Pa beth a wna efe gan hynny iw Enw, ar yr hwn i'n gelwir? am y pethau hyn yr ymofynnais.
26 Yna efe a'm hattebodd gan ddywe∣dyd, pa mwyaf yr ymofynnech, rhyfeddach fydd gennit, canys mae 'r byd ar frŷs i ymado,
27 Ac ni fedr efe ddeall y pethau a adda∣wyd i'r rhai cyfiawn yn yr amser sydd yn dyfod; canys llawn yw 'r byd o anghy∣fiawnder a gwendid.
28 Ond am y pethau yr ymofynnaist â mi, mi a ddywedaf i ti; drygioni a hau∣wyd, ond ni ddaeth ei ddinistr ef etto.
29 Oni ddymchwelir yr hyn a hauwyd, ac onid â y fan lle yr hauwyd y drwg heibio, yna ni ddaw 'r hyn a hauwyd â daioni.
30 Canys grawn yr hâd drwg a hau∣wyd ynghalon Adda o'r dechreu, a pha gym∣mainto
Page [unnumbered]
o anwiredd a ddug efe hyd yn hyn? a pha gymmaint a ddwg efe etto, ‖ 1.263 oni ddêl amser dyrnu.
31 Ystyria ynot dy hun, pa gymmaint ffrwyth o anwiredd y mae grawn yr hâd drwg wedi ei ddwyn.
32 A phan dorrer y ty wys, y rhai sy allan o rifedi, pa lawr dyrnu ei faint a lanwant hwy?
33 Yna yr attebais gan ddywedyd, pa fodd, a pha bryd y bydd hyn? pa ham y mae ein blynyddoedd yn ychydig, ac yn ddrwg?
34 Ac efe a'm hattebodd gan ddywedyd, na phrysura di yn vwch nâ'r Goruchaf; ca∣nys yn ofer y prysuri i fod vwch ei law ef; canys dy vchder a aeth yn fawr.
35 Oni ymofynnodd eneidiau y rhai cyfiawn am y pethau hyn yn eu stafellau, gan ddywedyd? pa hŷd y gobeithiaf fel hyn? pa bryd y daw ffrwyth ein llawr dyrnu, a'n gwobr ni?
36 ‖ 1.264 Ieremiel yr Arch-angel a attebodd hynny gan ddywedyd, pan gyflawner rhi∣fedi 'r had ynoch, canys efe a bwyssodd y byd mewn clorian,
37 Wrth fesur y mesurodd efe 'r amser∣oedd, ac wrth rifedi y rhifodd efe 'r amser∣oedd; ac ni chynhyrfa efe, ac ni symmuda hwynt, nes cyflawni'r mesur hwnnw.
38 Yna yr attebais, gan ddywedyd, ô Ar∣glwydd lywydd, yr ydym ni oll yn llawn anwiredd.
39 Ac ysgatfydd er ein mwyn ni, y mae na lanwyd yscuboriau y rhai cyfiawn, o achos pechodau y rhai sydd yn aros ar y ddaiar.
40 Ac efe a'm hattebodd i gan ddywedyd, dos ymmaith, a gofyn i wraig feichiog, pan gyflawner ei naw-mis hi, a all ei chroth hi gadw 'r etifedd yn hwy o'i mewn hi?
41 Ac mi a ddywedais, na all Arglwydd: ac efe a ddywedodd wrthif, yn y bedd y mae ystafelloedd eneidiau yn debyg i groth gwraig.
42 Canys fel y pryssura gwraig wrth escor i ddiangc oddi wrth angen y drafael, felly y pryssura y lleoedd hyn, i roddi drachefn yr hyn a roddwyd yno.
43 Dangosir it o'r dechrau y pethau a ewyllysi gael eu gweled.
44 Yna yr attebais gan ddywedyd, os cefais ffafor yn dy olwg di, ac od yw bossibl, ac os ydwyf gymmwys i hynny;
45 Dangos i mi, ai mwy sydd i ddyfod nag a aeth heibio, neu a bassiodd mwy nag sydd i ddyfod.
46 Mi a wn beth a bassiodd, ond ni wn i beth sydd i ddyfod.
47 Ac efe a ddywedodd wrthif, sâf di o'r tu dehau, ac mi a ddeonglaf y gyffelybiaeth i ti.
48 Ac felly mi a sefais, ac wele, mi a wel∣wn ffwrn boeth yn myned heibio o'm blaen; a digwyddodd, pan aeth y fflam hei∣bio, i mi edrych, ac wele, y mwg oedd yn parhau.
49 Yn ôlhyn fe aeth heibio o'm blaen i gwmwl yn llawn o ddwfr, ac efe a ollyng∣odd i lawr gur-law mawr, a phan ddarfu y cur-law, y defnynnau a barhasant.
50 Yna y dywedodd efe wrthif ystyria ynot ty hun: megis y mae 'r glaw yn fwy nâ'r defnynnau, a'r tân yn fwy nâ'r mwg; ond y defnynnau a'r mwg sydd yn aros ar ôl; felly y rhagora y mesur a aeth heibio,
51 Yna y dymunais gan ddywedyd, a dy∣bygit ti y byddwn i byw hyd y dyddiau hynny? neu pa beth a ddigwydd yn y dy∣ddiau hynny?
52 Efe a'm hatebodd i, gan ddywedyd, am yr arwyddion a ofynnaist i mi, mi a fe∣draf ddywedyd peth iti; ond am dy enioes, ni'm danfonwyd i ddangos iti, ac ni's me∣draf.
PEN. V.
1 Arwydd yr amserau a ddae: 23 Y mae yn gofyn paham y mae Duw, ac yntau heb dde∣wis ond vn bobl, yn bwrw y rhai hynny ymaith: 30 Ac yn cael dangos iddo fod barnedigaethau Duw yn anchwiliadwy: 46 ac nad yw Duw yn gwneuthur y cwbl ar vnwaith.
AC am yr arwyddion, wele, y dyddiau a ddaw, pan ddalier trigolion y ddaiar ‖ 1.265 yn rhifedi mawr, a ffordd y gwirio∣nedd a guddir, a'r tîr a fydd di-ffrwyth o ffydd.
2 A * 1.266 drygioni a chwanega yn fwy nâ'r hyn a weli di yn awr, neu 'r hyn a glywaist er ystalm
3 A'r wlâd yr hon a weli di yn awr a gwreiddyn iddi, a gei di ei gweled yn ddi∣symmwth yn anghyfannedd.
4 Ond os y Goruchaf a rydd i ti hoedl, ti a gei weled yn ôl y trydydd vdcorn, y ty∣wynna 'r haul yn ddisymmwth y nôs, a'r lleuad dair gwaith yn y dydd.
5 A gwaed a ddifera o'r coed, a'r garrec a lefara, a'r bobl a drallodir.
6 A'r neb ni ddisgwyl presswylwŷr y ddai∣ar am dano, a deyrnasa: a'r adar a newi∣diant drigfannau.
7 A môr Sodom a fwrw allan byscod, ac a rua 'r nôs, yn ddieithr i lawer: ond pawb a gaiff glywed ei lais ef.
8 A phethau fydd allan o drefn yn llawer lle, a'r tân a yrrir allan drachefn yn fynych, a'r anifeiliaid gwylltion a newidiant tu lleoedd, a'r gwragedd mis-glwyfus a esco∣rant ar anghenfilod:
9 A dwfr hallt a geir yn y croyw, a chyfeillion a ddestrywiant bôb vn ei gi∣lydd, a'r synhwyr a guddir, a deall a naill∣tuir i le dirgel:
10 A llawer a'i cais, ac ni's cânt, ac ang∣hyfiawnder, ac anniweirdeb, a amlheir ar y ddaiar.
11 A'r naill wlâd a ofyn i'r llall, gan ddy∣wedyd, a aeth cyffawnder, yr hon a wna ddyn yn gyfiawn, trwot ti? A hitheu a ddy∣wed, Na ddo.
Page [unnumbered]
12 Y pryd hynny y gobeithia pobl, ac ni's caffant ddim; llafuriant, a'i ffyrdd ni lwydda.
13 Cefais gennad i ddangos it y cyfryw arwyddion: os tydi a weddii eil-waith, ac os ŵyli fel yn awr, ac os ymprydi saith ni∣wrnod, ti a gei glywed pethau mwy nâ hyn.
14 Yna mi a ddeffroais, ac fe aeth trwy fy holl gorph ofn dirfawr, a'm meddwl a drall∣odwyd, fel y llewygodd.
15 A'r Angel, yr hwn a ddaeth i ymddi∣ddan â mi, a'm daliodd i, ac a'm cyssurodd, ac a'm gosododd ar fy nhraed.
16 A digwyddodd yr ail nôs, i Salathiel tywysog y bobl ddyfod attaf, gan ddywedyd, pa le y buosti? a pha ham y mae morr drwm yr olwg arnat?
17 Oni ŵyddosti ddarfod gorchymmyn Israel i ti yngwlad eu caethiwed?
18 Cyfod gan hynny, a bwytta fara, ac na âd ddim o honom ni, fel bugail a ada∣wai ei ddefaid yn nwylo bleiddiaid creu∣lawn.
19 Yna y dywedais wrtho, dôs ymaith oddi wrthif, ac na thyred attafi; ac efe a glybu yr hyn a ddywedais, ac a aeth oddi wrthif.
20 A mi a ymprydiais saith niwrnod gan alaru ac ŵylo, fel y gorchymynnodd yr Ang∣el Vriel i mi.
21 Ac ym mhen y saith niwrnod, meddyli∣au fy nghalon oedd yn flinion aruthr wrthif eil-waith.
22 A'm henaid a gymmerodd drachefn ys∣pryd deall, ac mi a ddechreuais draethu yma∣droddion ger bron y Goruchaf,
23 A dywedais, ô Arglwydd lywydd, o holl goed y ddaiar, ac o'i holl brennau, ti a ddewisaist vn win-wydden yn vnic.
24 O holl diroedd yr holl fyd, ti a ddewi∣saist i ti vn pydew; ac o'i holl flodau ef, vn lili.
25 Ac o holl ddyfnderau y mor, ti a len∣waist vn afon; ac o'r holl ddinasoedd a adei∣ladwyd, ti a sancteiddiaist Sion it dy hun.
26 Ac o'r holl ehediaid a grewyd, ti a hen∣waist it vn golommen, ac o'r holl anifeliaid a wnaed, ti a ddarperaist it vn ddafad.
27 Ac ym mysc holl liaws pobloedd, ti a ennillaist it vn genedl; a rhoddaist i'r gen∣hedl honno a geraist, gyfraith sydd gymme∣radwy gan bawb.
28 Ac yn awr Arglwydd, pa ham y rho∣ddaist i fynu yr vn genedl hon i lawer? ac y gosodaist eraill ar yr vn gwreiddyn, a pha ham y gwasceraist dy vnic bobl, ym mhlith llaweroedd?
29 A'r rhai a wrth wynebasant dy adde∣widion, ac ni chredasant dy gyfammodau, a'i sathrasant hwy i lawr.
30 Os gan gasâu y caseaist dy bobl, dy ddwylaw di a ddylei eu cospi hwynt.
31 Ac wedi i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd yr Angel attaf, yr hwn a ddae∣thei attaf y nôs o'r blaen,
32 Ac efe a ddywedodd wrthif, gwrando arnaf, a mi a'th ddyscaf, ystyr y peth a draeth∣wyf, ac mi a ddangosaf it fwy.
33 Ac mi a ddywedais wrtho, dywet fy Arglwydd, ac efe a ddywedodd wrthif, yr yd∣wyt yn fawr trallod dy feddwl er mwyn Is∣rael; a ŵyt ti yn caru y bobl hynny yn well nag y mae 'r hwn a'i gwnaeth hwynt?
34 A dywedais, nac ŵyf, Arglwydd, ond o wir ofid y lleferais, canys fy arennau a'm penydiant bob awr, wrth geisio deall ffordd y Goruchaf, ac wrth chwilio am ran o'i far∣nedigaethau ef.
35 Ac efe a ddywedodd wrthif, ni elli di hynny, a dywedais inneu, pa ham Arglw∣ydd? i ba beth i'm ganwyd? neu pa achos na bu groth fy mam yn fedd i mi, fel na chaws∣wn weled poen Iacob, a blinder hâd Israel?
36 Ac efe a ddywedodd wrthif, rhifa i mi y pethau sydd etto heb ddyfod, cascl ynghŷd y defnynnau sydd ar lêd, a gwna 'r llyssiau gwywon yn leision eilchwyl.
37 Agor i mi y lleoedd cauedig, a dwg allan i mi y gwyntoedd a gaewyd ynddynt, dan∣gos i mi lun lleferydd, ac yna y dangosaf i titheu y peth yr wyt yn ymboeni iw weled.
38 Ac mi a ddywedais, ô Arglwydd ly∣wydd, pwy a all ŵybod y pethau hyn, ond y neb nid yw ei drigfa ym mhlith dynion?
39 A minneu anoeth ydwyf; pa fodd wrth hynny y gallaf ddywedyd am y pethau y go∣fynnaist i mi?
40 Ac efe a ddywedodd wrthif, fel na's me∣dri wneuthur vn o'r pethau hyn a henwyd, felly ni elli gael allan fy marn i, neu 'r care∣digrwydd a addewais i'm pobl yn y diwedd.
41 Yna mi a ddywedais, wele ô Arglwydd, cyfagos wyt ti at y rhai a fyddant yn y di∣wedd, a pha beth a wna y rhai a fu o'm blaen i▪ neu ninneu (y rhai ydym yr awron,) neu y rhai a ddaw ar ein hôl ni?
42 Ac efe a ddywedodd wrthif, cyffelybaf fy marn i fodrwy; fel nad oes annibendod o'r diwethaf, felly nid oes brysurdeb o'r cyntaf.
43 Minneu a attebais gan ddywedyd, oni allasit ti wneuthur y rhai sydd wedi eu gwneuthur, a'r rhai sydd yn awr, a'r rhai a ddaw, ar vn-waith; fel y dangosit dy farn yn gynt?
44 Ac efe a'm hattebodd, gan ddywedyd, ni all y creadur bryssuro vwch law y cre∣awdr, ac ni all y bŷd gynnwys ar vn-waith y rhai â wneir ynddo ef.
45 A minneu a ddywedais, fel y dywedaist i'th wâs, mai tydi yr hwn a fywhei bob peth, a roddaist fywyd ar vn-waith i'r crea∣dur a wnaethost, a'r creadur a'i dioddefodd; felly y gallei efe gynnwys y rhai sydd yn awr ar vn-waith.
46 Ac efe a ddywedodd wrthif, gofyn i groth gwraig, a dywet wrthi. os ŵyt ti yn dwyn plant, pa ham na wnei di hynny ar vnwaith, ond y naill ar ôl y llall? dymuna arni gan hynny ddwyn dêc ar vn-waith.
47 A mi a ddywedais, ni ddichon hi; eithr rhaid iddi wneuthur hynny wrth yspaid amser.
48 Ac efe a ddywedodd wrthif, Felly min∣neu a roddais groth y ddaiar i'r rhai a hau∣wyd ynddi, yn eu hamseroedd.
Page [unnumbered]
49 Canys, megis na ddichon dŷn bach ieuangc ddwyn i'r byd y pethau a berthy∣nant i'r oedrānus, felly y trefnais i y bŷd, yr hwn a wneuthum.
50 Ac mi a ofynnais, ac a ddywedais, gan it yn awr roddi i mi y ffordd, myfi a àf rha∣gof i lefaru o'th flaen di: canys ein mam ni, yr hon a ddywedaist i mi, ei bod yn ieuangc sydd yn awr yn heneiddio.
51 Efe a'm hattebodd i gan ddywedyd, go∣fyn i wraig sydd yn planta, a hi a ddywed i ti.
52 Dywet wrthi hi, pa ham nad yw y plant a ddygaist yn awr, debyg i'r rhai o'r blaen, ond yn llai o gorpholaeth?
53 A hitheu a'th ettyb, vn fath sydd ar y rhai a anwyd ynghryfder ieuengtid, a math arall ar y rhai a anwyd yn amser oedran, pan oedd y groth yn pallu.
54 Ystyria ditheu gan hynny, fel yr ydych chwi yn llai o gorpholaeth nâ'r rhai a fu o'ch blaen chwi.
55 Ac felly y mae y rhai a ddaw ar eich ôl chwi yn llai nâ chwithau, megis creaduriaid yn dechreu heneiddio, ac wedi myned tros gryfder ieuengtid.
56 A dywedais, attolwg it Arglwydd, os cefais ffafor yn dy olwg di, dangos i'th wâs drwy bwy yr ymweli a'th greadur.
PEN. VI.
1 Bod arfaeth Duw yn dragywyddol. 8 Y can∣lyn y byd a ddaw, yn y man ar ôl hwn. 13 Pa beth a ddigwydd yn y diwedd. 31 Addaw iddo fwy o wybodaeth: 3 Ac yntau yn cy∣frif gweithredoedd y creaduriaid; 57 ac yn cwyno nad oes ran o'r byd i'r rhai y gwnaed ef er eu mwyn.
AC efe a ddywedodd wrthif, yn y dechreuad pan wnaethpwyd y ddaiar, cyn gosod terfynau y bŷd cyn chwythu o'r gwyntoedd,
2 Cyn clywed trwst y tara∣nau, cyn gweled disclairdeb y mellt, cyn go∣sod seiliau Paradwys,
3 Cyn gweled y blodau prydferth, cyn siccrhau y nerthoedd symmudadwy, cyn cas∣clu ynghyd y lliaws aneirif o Angelion,
4 Cyn derchafu vchelderau yr awyr, cyn henwi mesuroedd y ffurfafen, cyn gwresogi y ffumerau yn Sion:
5 Ac o flaen chwilio am y blynyddoedd presennol, a chyn troi dychymygiadau y rhai sydd y pryd hyn yn pechu, cyn selio y rhai a gadwasant y ffydd yn dryssor.
6 Y pryd hynny yr ystyriais y pethau hyn, a gwnaethbwyd hwynt oll trwofi yn vnic, ac nid trwy arall: a'i diwedd hwynt fydd he∣fyd trwofi, ac nid trwy neb arall.
7 Yna yr attebais gan ddywedyd, beth fydd gwahaniad yr amseroedd? a pha bryd y bydd diwedd y cyntaf, a dechreuad yr hwn sydd yn canlyn?
8 Ac efe a ddywedodd wrthif, o Abraham hyd Isaac, pan anwyd iddo ef Iacob ac Esau, * 1.267 llaw Iacob ‖ 1.268 o'r dechreu a ddaliodd sodl Esau:
9 Canys Esau yw diwedd y byd hwn, a Iacob yw dechreu y byd sydd i ddyfod.
10 Llaw dyn sydd rhwng sodl a llaw, na ofyn i mi mwy, Esdras.
11 Yna 'r attebais gan ddywedyd, ô Argl∣wydd lywydd, os cefais ffafor yn dy olwg di,
12 Attolwg dangos i'th wâs ddiwedd dy arwyddion, y rhai y dangosaist i'm ran o honynt y nos ddiwethaf.
13 Ac efe a'm hattebodd gan ddywedyd, cy∣fot ar dy draed, a gwrando lef gref soniarus.
14 Daw fel ‖ 1.269 daiar-gryn, ond y lle yr yd∣wyt yn sefyll arno nid yscog.
15 Gan hynny pan lefaro efe, na ofna di, canys am y diwedd y mae y gair, ac am syl∣faen y ddaiar y deellir ef.
16 A pha ham? oblegid y mae 'r ymadrodd am y pethau hyn yn crynu, ac yn cynhyrfu: canys efe a ŵyr y bydd rhaid newid diwedd y pethau hyn.
17 A digwyddodd pan glywais, mi a go∣dais ar fy nhraed, ac a wrandewais, ac wele lef yn llefaru, a'i sŵn ydoedd fel swn llawer o ddyfroedd.
18 A hi a ddywedodd, wele, y dyddiau sydd yn dyfod, y dechreuaf nessau i ymweled à phresswylwŷr y ddaiar,
19 Ac y dechreuaf ymofyn am danynthwy, pa beth ydynt hwy a wnaethant niwed yn anghyfiawn â'i hanghyfiawnder, a pha brŷd y cyfla wnir cystudd Sion.
20 A phan ‖ 1.270 selier y byd yr hwn a ddechreu fyned heibio, yna y gwnafi yr arwyddion hyn, y llyfrau a agorir o flaen y ffurfafen, a phawb a gaiff weled ar vnwaith.
21 A phlant blwyddiaid a lefarant â'ille∣ferydd, gwragedd beichiogion a escorant ar blant cyn eu hamser, ar ben y tri-mis neu'r pedwar-mis, a byw fyddant, a chyfodir hwynt i synu.
22 Ac yn ddisymmwth yr ymddengys y mannau a hauwyd, fel y mannau ni's hau∣wyd, a'r celloedd llawn a geir yn wâg yn ddisymmwth.
23 A'r vdcorn a gân, a phawb pan ei clyw∣ant, a ofnant yn ddisymmwth.
24 A'r pryd hynny yr ymladd cyfeillion â'i gilydd fel gelynion, a'r ddaiar a ofna, a'r rhai a drigant ynddi, a llygaid y ffynhonnau a sa∣fant, ac ni redant dros dair awr.
25 A phwy bynnac a ddiango rhag y pe∣thau hyn oll a ddangosais i ti, a fydd cad∣wedic, ac a gaiff weled fy iechydwriaeth, a diwedd eich byd chwi.
26 Y rhai a dderbyniwyd a welant, y rhai ni phorfasant angeu er pan eu ganwyd hwynt, a chalon y presswylwŷr a newidir, ac a droir i feddwl arall.
27 Canys bwrir ymmaith ddrygioni, a diffoddir twyll.
28 A ffydd a flagura, a llygredigaeth a orchfygir, gwirionedd yr hon a fu cyhyd yn ddiffrwyth, a ddangosir.
29 A phan ymddiddanodd efe â myfi, wele, mi a edrychais, bob ychydig ac ychydig, ar yr hwn yr oeddwn i yn sefyll ger ei fron.
30 Ac efe a ddywedodd y geiriau hyn
Page [unnumbered]
wrthif, mi a ddaethum i ddangos it amser y nos sydd yn dyfod.
31 Os tydi a weddii etto ychwaneg, ac a ymprydi saith niwrnod drachefn, myfi a fy∣negaf i ti liw ‖ 1.271 dydd, fwy nag a glywais.
32 Canys y Goruchaf a glywodd dy lefe∣rydd, y Galluog a welodd dy vniondeb, ac a welodd y diweirdeb oedd gennit o'th ieu∣engtid.
33 Ac am hyn efe a'm hanfonodd i ddan∣gos it y pethau hyn oll, ac i ddywedyd wrthit, bydd gyssurus, ac nac ofna.
34 Ac na phryssura gydâ 'r amseroedd a aeth heibio, i feddwl oferedd, fel na phryssu∣rech oddi wrth yr amseroedd diwethaf.
35 Ac yn ôl hyn yr wylais drachefn, ac yr ymprydiais saith niwrnod eraill, fel y gallwn gyflawni y tair wythnos a ddywe∣dasei efe wrthif.
36 A'r wythfed nôs yr oedd fy nghalon yn flin o'm mewn drachefn, a mi a ddechreuais lefaru ger bron y Goruchaf.
37 Canys fy yspryd a enynnodd yn ddir∣fawr, a'm henaid oedd mewn caledi.
38 A mi a ddywedais, ô Arglwydd, ti a ddy∣wedaist o ddechrau y creadigaeth, y dydd cyntaf, gan ddywedyd * 1.272 fel hyn, Gwneler nef a daiar, a'th air a aeth yn waith perffaith.
39 A'r amser hwnnw yr ydoedd yr Yspryd, a'r tywyllwch oedd o amgylch, a distaw∣rwydd; a sain lleferydd dŷn'nid oedd wedi ei lunio etto.
40 Yna y gorchymynnaist i oleuni dis∣clair ddyfod allan o'th dryssorau, fel yr ym∣ddangosei dy waith di.
41 Yr ail dydd y gwnaethost yspryd y ffur∣fafen, a gorchymynnaist iddo ef ymrannu, a gwneuthur dosparth rhwng y dyfroedd, fel y gallei y naill ran fyned i fynu, a'r rhan arall aros i wared.
42 A'r trydydd dydd y gorchymynnaist i'r dyfroedd ymgasclu yn seithfed ran y ddaiar; chwe rhan a sychaist ac a ged waist, fel y by∣ddei i rai o'r rhai'n, wedi eu plannu gan Dduw a'i llafurio, dy wasanaethu di.
43 Canys cyn gynted ac yr aeth dy air di allan, yr oedd y gwaith wedi ei wneuthur.
44 Canys yn ddisymmwth yr oedd ffrwyth mawr ac aneirif, a llawer ac amryw felusdra i'r blâs, a llysieuau o ddigoll liwiau, ac aro∣glau o arogl rhyfeddol, a hyn a wnaeth∣pwyd y trydydd dydd.
45 * 1.273 Y pedwerydd dydd y gorchymyn∣naist i'r haul dywynnu, ac i'r lleuad lewyr∣chu, ac i'r sêr fod mewn trefn.
46 A * 1.274 gorchymynnaist iddynt wasanae∣thu y dyn, yr hwn oedd i'w wneuthur.
47 * 1.275 A'r pummed dyddy dywedaist wrth y seithfed ran, lle yr ydoedd y dyfroedd wedi ymgasclu ynghyd, am iddi ddwyn creaduri∣aid byw, adar, a physcod; ac felly y bu.
48 Y dwfr mud, ac heb fyw ynddo, wrth amnaid Duw, a ddygodd bethau byw, fel y gallei pob cenedl foliannu dy weithredoedd rhyfedd di.
49 Yna ti a ordeiniaist ddau greadur byw, y naill a elwaist ‖ 1.276 Enoch, a'r llall Leuiathan.
50 A didolaist y naill oddi wrth y llall: canys y seithfed ran, lle yr ydoedd y dyfr∣oedd wedi ymgynnull, ni's gallei eu dal hwynt ill dau.
51 A thi a roddaist i Enoch y naill ran, yr hon a sych wyd y trydydd dydd, fel y gallei efe aros yno, lle y mae mil o fryniau.
52 Ond i Lefiathan y rhoddaist y seithfed ran, yr hon sydd wlŷb, a ched waist ef iw ddife∣tha gan y neb a fynnech, a phan fynnech.
53 A'r chweched dydd y gorchymynnaist i'r ddaiar ddwyn allan o'th flaen di, anifeili∣aid, bwyst-filod, ac ymlusciaid:
54 Ac ar ôl y pethau hyn Adda hefyd, yr hwn a ordeiniaist yn dywysog ar dy holl greaduriaid, ac o honaw ef y daethom ni oll, a'r bobl a ddewisaisti hefyd.
55 Hyn oll a ddywedais ger dy fron di, ô Arglwydd, am i ti wneuthur y byd er ein mwyn ni.
56 Am y bobl eraill, y rhai hefyd sydd yn dyfod o Addaf, ti a ddywedaist nad ydynt ddim, ond eu bod yn debyg i boeryn; a thi a gyffelybaist eu golud hwy i ddefnyn yn syr∣thio oddiwrth lestr.
57 Am hynny yn awr, ô Arglwydd, wele, y cenhedloedd hyn, y rhai a gyfrif∣wyd erioed megis diddim, a ddechreua∣sant arglwyddiaethu arnom ni a'n dife∣tha.
58 A ninnau dy bobl di, (yr hwn a elwaist yn gyntaf-anedig i ti, yn vnig-anedig, a'r hwn a'th gâr di yn gu) a roddwyd iw dwylo hwynt.
59 Ac os gwnaethbwyd y byd er ein mwyn ni, pa ham nad ydym ni yn meddian∣nu etifeddiaeth gydâ 'r byd? Pa hyd y pery hyn?
PEN. VII.
4 Cyfyng yw'r ffordd. 12 Pa bryd y gwnaed hi yn gyfyng. 28 Y bydd marw pawb, ac y cyfodant drachefn. 33 Yr eistedd Christ i farnu. 46 Na wnaeth Duw Baradwys yn ofer, 62 A'i fod yn drugarog.
A Phan ddarfu i mi ddy∣wedyd y geiriau hyn, dāfonwyd attaf yr Ang∣el a ddanfonasid attaf y nosweithiau o'r blaen:
2 A dy wedodd wrthif, cyfod Esdras, a gwran∣do y geiriau y daethym iw mynegi i ti.
3 A dywedais inneu, dy wed fy Nuw, ac efe a ddywedodd wrthif, y môr a osodwyd mewn lle ehang, fel y byddo efe yn ddwfn, ac yn fawr.
4 Eithr bwrw fôd mynediad cyfyng i mewn iddo, ac yn debyg i afon.
5 Pwy wrth hynny a allei fyned i'r môr, i edrych arno ef, ac iw lywodraethu ef? os efe nid ai drwy 'r lle cyfyng, pa fodd y ga∣llei efe ddyfod i'r lle ehang?
6 Hefyd trachefn; Dinas a adeiladwyd ac a osodwyd ar faes gwastad, ac y mae hi yn llawn o bob peth da.
Page [unnumbered]
7 Y mynediad i mewn iddi sydd gûl, wedi ei osod mewn lle ‖ 1.277 enbyd i syrthio, fel pe byddei dân ar y llaw ddehau, a dwfr dwfn ar y llaw asswy:
8 Ac vn llwybr yn vnic rhyngddynt ill dau, sef rhwng y tân a'r dwfr, [cyn lleied] ac na's gall ond vn dŷn fyned yno ar vn∣waith.
9 Yr awron, pe rhoddid y ddinas hon i ŵr yn etifeddiaeth, os efe nid â fyth trwy y perigl a osodwyd o'i blaen hi, pa fodd y der∣byn ef yr etifeddiaeth hon?
10 A dy wedais, felly y mae Arglwydd, ac efe a ddywedodd wrthif, felly hefyd y mae rhan Israel:
11 Canys er eu mwyn hwy y gwnaethum i y bŷd: a phan dorrodd Adda fy ngorchymy∣nion i, yna yr ordeiniwyd y peth sydd yn awr wedi ei wneuthur.
12 Yna y gwnaethbwyd mynediadau i mewn i'r byd hwn yn gyfyng, yn llawn tri∣stwch, a llafur; yn ychydig, yn ddrwg, yn llawn perigl a phoen.
13 Canys dechreuad y byd ‖ 1.278 hynaf oedd ehang a diberigl, ac yn dwyn ffrwyth an∣farwol.
14 Gan hynny, os y rhai sy fyw nid ymeg∣niant i fyned i mewn drwy 'r cyfyng a'r ofer bethau hyn, ni's gallant byth dderbyn y pe∣thau a roddwyd i gadw iddynt.
15 Wrth hynny, pa ham i'th aflonyddi dy hun, gan dy fod yn llygredic? a pha ham y cynhyrsi, gan dy fod yn farwol?
16 Pa ham nad ŵyt yn ystyried yn dy ga∣lon y peth sydd i ddyfod, yn hytrach nâ'r peth sydd bresennol?
17 Attebais innau, a dywedais, ô Argl∣wydd lywydd, wele ti a ordeniaist drwy dy * 1.279 gyfraith i'r rhai cyfiawn feddiannu y pe∣thau hyn, ac i'r anghyfiawn fethu.
18 Er hynny y cyfiawn a ddioddefant gy∣fyngder, ac a obeithiant ehangder: a'r sawl a wnaeth anghyfiawnder a ddioddefasant gyfyngder, ac ni chânt weled ehangder.
19 Ac efe a ddywedodd wrthif, nid oes farn-ŵr vwch law Duw, na neb yn deall yn well nâ'r Goruchaf.
20 Canys llawer a gollir yn y bywyd hwn, o achos diystyru cyfraith Dduw, yr hon sydd wedi ei gosod o'i blaen hwynt.
21 Canys gan orchymmyn y gorchymyn∣nodd Duw i'r rhai a ddaeth, îe fel y daeth∣ant, pa beth a wnaent i fyw, a pha beth a gadwent, fel na's ceryddid hwynt.
22 Er hynny nid vfyddhasant iddo ef, ond dywedyd a wnaethant yn ei erbyn ef, a meddwl oferedd.
23 A chan eu hamgylchu eu hun â'u bei∣au, hwy a ddywedasant am y Goruchaf nad oedd efe, ac ni adnabuant ei ffyrdd ef?
24 Ond ei gyfraith ef a ddiystyrasant, a gwadasant ei gyfammodau ef, ac ni buant ffyddlon yn ei gyfreithiau ef, ac ni chyflaw∣nasant ei weithredoedd ef,
25 Am hyn Esdras, i'r gwag y mae y pethau gweigion, ac i'r llawn y pethau llaw∣nion.
26 Ac wele, yr amser a ddaw, y cyflaw∣nir yr arwyddion a ddywedais i ti, a'r brio∣das-ferch a ymddengys, a hi a welir yn dy∣fod allan, yr hon sydd yn awr wedi ei thyn∣nu oddi ar y ddaiar.
27 A phawb a'r a ddiango oddi wrth y drygioni vchod, a gaiff weled fy rhyfeddo∣dau i.
28 Canys fy mab Iesu, a'r rhai sydd gyd ag ef a ddatcuddir, a'r rhai a adewir a lawenychant o fewn pedwar-cant o flyny∣ddoedd.
29 Yn ôl y blynyddoedd hyn y bydd marw fy mab Crist, a phob dyn byw.
30 A'r byd a droir i'r hên ddistawrwydd saith niwrnod, fel yn y ‖ 1.280 barnedigaethau cyntaf; fel na adawer neb.
31 A digwydd yn ôl saith niwrnod, y cyf∣odir y byd hwn sydd etto heb ddeffro, a'r peth llygredic a fydd marw.
32 A'r ddaiar a ddyry drachefn y rhai sydd yn cyscu ynddi, a'r llwch y rhai sydd yn aros ynddo mewn distawr wydd; a'r cell∣oedd, yr eneidiau a roddwyd iddynt hwy.
33 A cheir gweled y Goruchaf ar orsedd∣faingc barn, a phob trueni a â ymmaith, a dioddefgarwch a gaiff ddiben.
34 Ond barn yn vnig a erys, y gwirio∣nedd a saif, a ffydd a gryfhâ:
35 A'r weithred a ganlyn, a'r gwobr a ddangosir, a'r gweithredoedd da a fyddant mewn grym, a gweithredoedd drwg ni ly∣wodraethant.
36 Ac mi a ddywedais, yn gyntaf * 1.281 Abra∣ham a weddiodd dros y Sodomiaid, a * 1.282 Mo∣ses dros y tadau a bechasant yn yr ania∣lwch:
37 A Iesus ar ei ôl yntef tros Israel, yn amser ‖ 1.283 Achan.
38 A * 1.284 Salomon, a Dafydd dros y dinistr, a Salomon dros y rhai oedd i ddyfod i'r Cyssegr.
39 A * 1.285 Helias dros y rhai a gawsant law, a thros y marw, er cael o honaw fyw.
40 Ac * 1.286 Ezechias dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer dros laweroedd.
41 Felly yn aŵr gan fôd llygredigaeth wedi tyfu, ac anwiredd wedi amlhau, a gweddio o'r cyfiawn tros ar annuwiol: pa ham na bydd felly yr awron hefyd?
42 Ac efe a'm hattebodd gan ddywedyd, nid y bywyd presennol hwn yw 'r diwedd, lle mae gogoniant lawer yn aros; am hyn∣ny y gweddiasant dros y gweniaid.
43 Eithr dydd y farn a fydd diwedd yr amser hwn, a dechreuad yr anfar woldeb sydd i ddyfod, yn yr hwn y diflannodd pob llygredigaeth:
44 Y dibennwyd anghymedroldeb, y tor∣rwyd ymmaith anffyddlondeb, y tyfodd cyf∣iawnder, ac y blagurodd gwirionedd.
45 Y pryd hynny, ni's gall neb achub yr hwn a gollwyd, na gorthrymmu y neb a orchfygodd.
46 Ac mi a attebais gan ddywedyd, dymma 'r gair a ddywedais yn gyntaf, ac yn ddiwethaf, mai gwell a fuasei na ro∣ddasid
Page [unnumbered]
y ddaiar i Adda; neu pan rodd∣wyd hi, lesteir iddo bechu.
47 Canys pa lessâd i ddynion fyw yn y byd presennol hwn mewn trymder, ac yn ôl marwolaeth disgwil am gospedigaeth?
48 O dydi Adda, pa beth a wnaethost? er * 1.287 i ti bechu, nid yw hynny yn gwymp i ti dy hun yn vnic, ond i ninnau oll, y rhai a ddaethom o honot ti.
49 Canys pa les i ni, os addawyd i ni amser tragywyddawl, a ninnau wedi gwneuthur y gweithredoedd a ddygant i farwolaeth?
50 Ac er addo i ni obaith tragywyddawl: minnau wedi myned yn annuwiol iawn a wnaethpwyd yn ofer?
51 Ac er darparu i ni drigfannau iechyd a diogelwch, a ninnau yn byw yn annu∣wiol?
52 Ac er darparu gogoniant y Goru∣chaf, i amddeffyn y rhai a fuant fyw yn ‖ 1.288 ddioddefgar, a ninnau yn rhodio ar hyd y ffyrdd annuwiolaf o gwbl?
53 Ac er dangos i ni baradwys a'i ffrwyth yn parhau yn dragywyddol, yn yr hwn y mae ‖ 1.289 diogelwch a meddiginiaeth: a ninnau heb gael myned i mewn iddo?
54 Canys rhodio a wnaethom mewn lleoedd amhawddgar.
55 Ac er disclairio o wynebau y rhai a arferasant ddirwest, yn oleuach nà'r sêr, a'n hwynebau ninnau yn dduach nâ'r tywyll∣wch?
56 Canys tra fuom fyw, ac yn gwneu∣thur anwiredd, ni feddyliasom ni y caem ddioddef am hynny yn ôl marwolaeth.
57 Ac efe a attebodd gan ddywedyd, dym∣ma ‖ 1.290 ddull yr ymdrech a ymdrecha 'r dyn a aner ar y ddaiar;
58 Fel os gorchfygir ef, y caffo ddioddef yr hyn a ddywedaist; ond os efe a orchfyga, y caffo dderbyn y peth a ddywedaf.
59 Canys hon yw 'r enioes, am yr hon y dywedodd Moses, pan ddaeth efe at y bobl gan ddywedyd, * 1.291 dewis i ti enioes, fel y byddech byw.
60 Er hynny ni choeliasant ef, na'r Proph∣wydi ar ei ôl ef, na minneu ychwaith, yr hwn a ddywedais wrthynt:
61 Na byddai y fath drymder yn eu dinistr hwy, ac y bydd llawenydd ar y rhai a berfwadiwyd i iechydwriaeth.
62 Mi a attebais gan ddywedyd, gwn Arglwydd, mai trugarog y gelwir y Go∣ruchaf, am iddo fod yn drugarog i'r rhai ni ddaethant etto i'r byd,
63 Ac yn drugarog wrth y rhai hefyd a droant at ei gyfraith ef:
64 A'i fôd yn ddioddefgar, ac yn hir-ym∣marhous wrth y rhai a bechasant, megis * 1.292 wrth ei greaduriaid:
65 A'i fod yn hael; canys y mae yn ba∣rod i roddi, lle mae rhaid:
66 A'i fôd yn fawr ei drugaredd, canys y mae yn amlhau ei drugareddau fwy-fwy, tu ac at y rhai presennol, a'r rhai a bassi∣odd, a'r rhai a ddaw.
67 Canys os efe ni amlhà ei drugare∣ddau, ni pharhaei y byd gyd à'r rhai a eti∣feddant ynddo.
68 Hefyd, efe a faddeu, canys oni wnai efe felly oi ddaioni, fel y byddei i'r rhai a wnaethant anwireddau, gael esmwyth∣dra oddi wrthynt, ni fyddei fyw y ddec∣filfed ran o ddynion.
69 Ac oni bai iddo ef (yr hwn sydd farn∣wr) faddeu i'r rhai a ‖ 1.293 iachawyd drwy ei air ef, a dileu eu haml ‖ 1.294 ymrysonion,
70 Ys gatfydd ychydig iawn a adewid mewn lliaws aneirif.
PEN VIII.
1 Llawer a grewyd, ac ychydig fydd cadwe∣dig. 6 Y mae yn gofyn pa ham y mae Duw yn difetha ei waith ei hun; 26 ac yn gwe∣ddio Duw ar iddo edrych ar y bobl sydd yn ei wasanaethu ef yn voic. 41 Duw yn atteb nad yw pob hâd yn dyfod at Dduw: 52 Ac mai iddo ef a'i gyffelyb y darparwyd gogoniant.
AC efe a'm hattebodd gan ddywedyd, y Goruchaf a wnaeth y byd hwn i lawer, ond y byd addaw i ychydig.
2 Esdras, dangosaf i ti gyffelybrwydd, fel pan ofynnech i'r ddaiar, hi∣theu a'th ettyb ei bôb hi yn rhoddi llawer o bridd, o'r hwn y gwneir llestri pridd, ond ychydig o'r hwn y daw 'r aur allan: felly y mae am waith y byd hwn.
3 * 1.295 Llawer a wnaethbwyd, ond ychy∣dig a fydd cadwedig.
4 Yna yr atebais gan ddywedyd, ô fy enaid, llwngc di synhwyr, a thraflyngca ddeall:
5 Canys cytunaist i wrando, ac ewyllys∣gar ydwyt i brophwydo: canys nid oes i ti yspaid hwy nag yn vnic i fyw.
6 O Arglwydd, oni roddi di gennad i'th wâs i erfyn arnat, ‖ 1.296 ar i ti roddi hâd i'n calon, a llafur-waith i'n deall, fel y del ffrwyth o honaw, pa fodd y gall pôb dyn llygredic fyw; a'r y sydd yn dwyn lle dŷn?
7 Canys ti wyt vnic, a ninnau oll ydym waith dy ddwylaw di, fel y dywe∣daist.
8 Canys pan lunier y corph ynghroth y fam, a phan roddech aelodau iddo, ‖ 1.297 dy greadur a gedwir mewn tàn a dwfr, a naw mîs y dioddef dy waith dy greadur a luniwyd ynddi.
9 Ond y peth sydd yn cadw, a'r peth a gedwir, a ddiangant ill dau: a phan ddelo yr amser, y groth a gadwed a ddyry y pe∣thau a dyfodd ynddi.
10 Canys ti a orchymynnaist allan o aelo∣dau y corph, sef o'r bronnau, roddi llaeth, yr hwn yw ffrwyth y bronnau:
11 Fel y gallo y peth a luniwyd gael ei fagu dros amser, hyd oni threfnech ef i'th drugaredd.
12 Megaist ef drwy dy gyfiawnder, mei∣thrinaist
Page [unnumbered]
ef yn dy gyfraith, a cheryddaist ef â'th farn.
13 A thi a'i marwoleithi ef fel dy grea∣dur, ac a'i bywhei ef fel dy waith.
14 Os destrywi gan hynny y peth a * 1.298 lu∣niwyd drwy gymmaint o boen, wrth dy orchymmyn di hawdd oedd gadw y peth a wnaethbwyd.
15 Gan hynny Arglwydd, mi a lefaraf (am bob dŷn yn gyffredinol goreu y gwy∣ddosti) am dy bobl di, tros y rhai yr yd∣wyf yn drist,
16 Ac am dy etifeddiaeth, dros y rhai yr ydwyf yn galaru, ac am Israel, am yr hwn yr ydwyf yn drist, ac am Iacob, er mwyn yr hwn i'm trallodir.
17 Am hynny y dechreuaf weddio ger dy fron di drosof fy hun, a throstynt hwy∣thau: canys mi a welaf ein ‖ 1.299 beiau ni, y rhai sy yn trigo yn y wlâd.
18 Ond mi a glywais gyflymdra y barn∣wr sydd yn dyfod.
19 Am hynny gwrando fy lleferydd, a deall fy ngeiriau, a pharablaf ger dy fron di; Dymma ddechreu geiriau Esdras cyn ei gymmeryd ef i fynu; a mi a ddywe∣dais,
20 O Arglwydd, tydi 'r hwn ydwyt yn presswylio mewn tragwyddoldeb, yr hwn wyt o'r vchelder yn gweled pethau yn y nefoedd, ac yn yr awyr,
21 Eisteddle 'r hwn ni's gellir ei phrisio, a'i ogoniant ni's gellir ei gynnwys, o flaen yr hwn y mae 'r lluoedd Angelion yn sefyll dan grynu,
22 (Gwasanaeth y rhai sydd mewn gwynt a thân) yr hwn y mae ei air yn wîr, a'i ymadroddion yn ddianwadal, yr hwn y mae ei orchymyn yn gadarn, a'i or∣dinhâd yn ofnadwy,
23 Yr hwn y mae ei olwg yn sychu 'r dyfnder, a'i ddigllonedd yn gwneuthur i'r mynyddoedd doddi, i'r hyn y mae y gwirio∣nedd yn dwyn tystiolaeth:
24 O gwrando weddi dy wâs, ac ysty∣ria â'th glustiau ddeisyfiad dy greadur,
25 Canys tra fyddwyf byw y llefaraf, a thra medrwyf ddeall yr attebaf.
26 Nac edrych ar bechodau dy bobl; ond ar y rhai sy yn dy wasanaethu mewn gwi∣rionedd.
27 Na phrissia ar ddrwg amcanion y Cenhedloedd: ond ar ddymuniad y rhai sy yn cadw dy dystiolaethu mewn cystuddi∣au.
28 Na feddwl am y rhai a rodiodd yn ffuantus ger dy fron di; ond cofia y rhai yn ôl dy ewyllys a adnabuant dy ofn di.
29 Nac ewyllysia ddifetha y rhai a ym∣ddygasant yn anifeiliaidd: ond edrych ar y rhai a dyscasant dy gyfraith di yn ber∣ffaith.
30 Na chymmer ddigofaint wrth y rhai a gyfrifir yn waeth nag anifeiliaid: ond câr di y rhai a ymddiriedant yn wastadol yn dy gyfiawnder a'th ogoni∣ant di.
31 Canys yr ydym ni a'n tadau ‖ yn ny∣chu o gyfryw glefydau; eithr o'n hathos ni bechaduriaid y gelwir di yn druga∣rog.
32 Canys od oes ewyllys gennit i drug∣arhau wrthym, fe a'th elwir yn drugarog, sef wrthym ni, y rhai sy heb weithredoedd cyfiawnder.
33 Canys y cyfiawn, y rhai sy ganddynt lawer o weithredoedd da ynghadw gyd á thi, o'i gweithredoedd ei hun a dderbyniant wobr.
34 Ond pa beth yw dŷn i ti i ddigio wrtho? neu pa beth yw cenhedlaeth lygredig, i ti i fôd morr chwerw wrthi?
35 * 1.300 Canys yn wir, nid oes vn ym mhlith y rhai a aned, heb wneuthur dry∣gioni, ac nid oes vn ym mhlith y rhai cy∣fiawn, heb wneuthur ar fai.
36 Canys yn hyn ô Arglwydd, y dango∣sir dy gyfiawnder a'th ddaioni di, os byddi drugarog wrth y rhai nid oes ganddynt ‖ 1.301 olud o weithredoedd da.
37 Yna i'm hattebodd gan ddywedyd, peth a ddywedaist yn dda, a hynny a gyf∣lawnir yn ôl dy eiriau.
38 Canys yn wir, nid ystyriaf weithre∣doedd y rhai a bechasant cyn marwolaeth, cyn barn, cyn destryw:
39 * 1.302 Ond mi a lawenychaf am weithre∣doedd a meddyliau y cyfiawn, ac a goslaf eu pererindod hwy, a'r iechydwriaeth, a'r gwobr a gànt.
40 Fel y dywedais yn awr, felly y dig∣wydd.
41 Canys fel y mae 'r llafurwr yn hau llawer o hâd ar y ddaiar, ac yn plannu llawer o breniau, ac atto nid yw y peth a hauwyd yn dda yn ei amser, yn dyfod i fynu, na'r cwbl a'r o blannwyd yn gwreiddio; felly y mae am y rhai a hauwyd yn y byd, ni byddant oll gad∣wedic.
42 Yna yr attebais, ac y dywedais, os cefais râs, gâd i'm lefaru.
43 Fel y mae hâd y llafurwr yn colli, oni ddaw efe i fynu, ac oni dderbyn y glaw mewn amser cyfaddas, neu os daw gor∣mod glaw arno, a'i lygru ef:
44 Felly hefyd y derfydd am ddyn, yr hwn a wnaeth dy ddwylaw di, ac a elwir dy ddelw di, am dy fod yn debyg iddo, er mwyn yr hwn y gwnaethost bôb peth, a chyffely∣baist ef i hâd y llafur-wr.
45 Na fydd ddigllon wrthym, ond arbed dy bobl, a chymmer drugaredd ar dy eti∣feddiaeth dy hun: canys trugarog ydwyt wrth dy greadur.
46 Yna efe a'm hattebodd gan ddy∣wedyd, y pethau presennol sy i'r rhai presennol, a phethau i ddyfod i'r rhai a ddaw.
47 Canys y mae llawer i ti yn ôl etto, fel y gallech garu fy nghreadur yn fwy nag yr wyfi: ond mi a neseais lawer gwaith attat ti, ac atto yntef, ond ni [nes∣seais] erioed at yr anghyfiawn.
Page [unnumbered]
48 Ac yn hyn hefyd yr ydwyt yn rhyfedd ger bron y Goruchaf;
49 Am i ti dy ddarostwng dy hun, fel yr oedd weddus i ti, ac ni's tybiaist dy hun yn deilwng i gael gogoniant mawr ym mhlith y rhai cyfiawn.
50 Canys llawer o drueni mawr sydd i'r rhai a erys yn y byd yn yr amser di∣wethaf, am iddynt rodio mewn balchder mawr.
51 Ond dysc di drosot ty hun, a chwilia am y gogoniant i'r rhai sydd debyg i ti.
52 Canys i chwi yr agorwyd parad∣wys, y plannwyd pren y bywyd, y darpar∣wyd yr amser a ddaw, y paratowyd he∣laethrwydd, yr adeiladwyd dinas, ac y ca∣niatawyd gorphwysdra, îe daioni a doethi∣neb perffaith.
53 Gwreiddyn drygioni a seliwyd i fy∣nu rhagoch chwi, gwendid a gwyfyn a guddiwyd rhagoch, a llygredigaeth a ffôdd i vffern iw hangofio.
54 Galar a aeth ymmaith, a thryssor tragwyddoldeb a ddangosir yn y diwedd.
55 Ac am hynny nac ymofyn mwy am rifedi y rhai colledig.
56 Canys pan gawsant rydd-did hwy a ddibrissiasant y Goruchaf, diystyrasant ei gy∣fraith, a gwrthodasant ei ffyrdd ef.
57 Heb law hynny, hwy a fathrasant ei rai cyfiawn ef.
58 * 1.303 Ac a ddywedasant yn eu calonnau, nid oes vn Duw, a hynny er eu bod yn gwybod y bydd rhaid iddynt farw.
59 Canys fel y darparwyd i chwi y pe∣thau a ddywedais, felly y darparwyd idd∣ynt hwythau syched a llafur: canys nid oedd ei ewyllys ef, ddarfod am ddynion.
60 Ond y rhai a wnaethbwyd a haloga∣sant Enw y neb a'i gwnaeth hwy, ac a fu∣ant anniolchgar i'r hwn a ddarparodd iddynt fywyd.
61 Ac am hynny y mae fy marn i ger llaw.
62 Ni ddangosais i y pethau hyn i bawb, ond i ti, ac i ychydic, cyffelyb i ti; yna yr attebais, gan ddywedyd▪
63 Wele, Arglwydd, yn awr y dangosaist liaws y rhyfeddodau, y rhai a ddechreui eu gwneuthur yn yr amserau diwethaf: ond pa bryd, ni ddangosaist i mi.
PEN. IX.
7 Pwy a fydd cadwedig, a phwy ni'bydd. 39 Y mae 'r holl fyd yr awr hon yn llygredig: 22 Etto y mae Duw yn achub rhai. 33 Y mae 'n achwyn fod y rhai a gadwant gyfr∣aith Dduw yn cyfrgolli: 38 Ac yn gweled gwraig yn cwynfan yn y maes.
YNa efe a'm hattebodd gan ddywedyd, mesura 'r amser yn ddyfal ynddo ei hun: a phan welech y naill ran i'r arwyddion a ddangosais i ti o'r blaen, wedi dyfod,
2 Yna y cei ddeall, mai 'r gwir amser yw, yn yr hwn y dechreu y Goruchaf ym∣weled â'r byd, yr hwn a wnaeth efe.
3 A phan weler * daiar-gryn-feydd, a chynnwrf pobl yn y bŷd;
4 Yna y cei yn ddiau ddeall, ddarfod i'r Goruchaf ddywedyd am y pethau hynny, ar yr amser a fu o'th flaen di, sef, o'r de∣chreuad.
5 Canys fel y mae i bôb peth a'r y sydd yn y bŷd, ddechreu a diwedd, a'r diwedd sydd eglur:
6 Felly y mae hefyd i amseroedd y Go∣ruchaf eglur ddechreuad, mewn rhyfeddo∣dau a nerth, a diweddiad, mewn gweithred∣oedd ac arwyddion.
7 A phob vn a'r a gadwer, ac a allo ddi∣angc wrth ei weithredoedd, a ffydd, drwy 'r hon y credasoch,
8 A achubir oddi wrth y peryglon hyn∣ny, ac a gaiff weled fy iechydwriaeth yn fy nhîr i, ac yn fy nherfynau; canys sancteiddi∣ais hwynt i mi o'r dechreuad.
9 Yna y bydd y rhai a gam-arferasant fy ffyrdd i mewn cyflwr gresynol; a'r sawl a'i taflodd hwynt ymmaith yn ddiystyr, a gânt drigo mewn poenau.
10 Canys y rhai a dderbyniasant dyrnau da yn eu bywyd, ac ni's adnabuant fi:
11 A'r sawl a alarodd ar fy nghyfraith, tra ydoedd iddynt rydd-did, a phan oedd iddynt etto le agored i edifarhau, ni's dea∣llasant, ond a'i diystyrasant:
12 Rhaid i'r rhai hynny gael ei ŵybod yn ôl marwolaeth trwy boen.
13 Am hynny na ofala di pa fodd y cos∣pir yr annuwiol, a pha bryd; ond ymofyn pa fodd y cedwir y cyfiawn, y rhai biau 'r byd, ac er mwyn y rhai y crewyd y bŷd.
14 Yna yr attebais, gan ddywedyd,
15 Dywedais o'r blaen, ac yr ŵyf yn dy∣wedyd, ac a'i dywedaf hefyd rhag llaw, fôd mwy o'r rhai colledig nag o'r rhai cadwe∣dig;
16 Fel y mae tonn yn fwy na defnyn.
17 Ac efe a'm hattebodd gan ddywedyd, fel y mae 'r maes, felly y mae 'r hâd: fel y mae 'r llyssiau, felly y mae eu lliwiau he∣fyd: fel y mae 'r gweithiwr, felly y mae 'r gwaith: ac fel y mae 'r llafur-wr, felly y mae ei lafur hefyd: canys amser byd yd∣oedd.
18 ‖ 1.304 Ac yr awron, pan ddarperais i y bŷd, yr hwn ni wnaethid etto, sef iddynt hwy i drigo ynddo, y rhai y sy yr awron yn fyw, ni ddywedodd nêb yn fy erbyn i.
19 Canys y pryd hynny pôb vn a vfydd∣haei, ond yn awr y mae moddau y rhai a * 1.305 grewyd yn y bŷd hwn a wnaethpwyd, we∣di eu llygru trwy hâd di-ball, a thrwy gy∣fraith anchwiliadwy, yn eu rhyddhau eu hunain.
20 Felly mi a ystyriais y bŷd, ac wele yr ydoedd perygl, o herwydd y dychymygion, a ddaethent iddo ef.
21 A gwelais, ac a'i harbedais ef yn ddir∣fawr, a chedwais i mi vn gronyn o'r swpp,
Page [unnumbered]
a phlanhigyn o genedl fawr.
22 Darfydded gan hynny am y lliaws a anwyd yn ofer, a bydded fy yngronyn a'm planhigyn yn gadwedig; canys trwy boen fawr y gwneuthum ef yn ber∣tfaith.
23 Er hynny os gorphywysi saith ni∣wrnod etto ychwaneg (ond nac ymprydia ynddynt.)
24 Eithr dôs i faes o lysiau, heb dŷ ar∣no, a bwytta yn vnic o lysiau 'r maes; na phrawf gîg, nac ŷf wîn, ond bwytta lysiau yn vnic.
25 A gweddia ar y Goruchaf yn wasta∣dol, yna mi a ddeuaf i ymddiddan â thi.
26 Felly mi a aethym ymmaith i'r maes a elwir Ardath, fel y gorchymynnodd efe i mi, ac yno yr eisteddais ym mysc y llysi∣au, ac y bwytteais lysieu 'r maes, a'r bwyd hwnnw a'm digonodd.
27 Ym mhen y saith niwrnod mi a ei∣steddais ar y glas-wellt, a'm calon oedd yn flîn o'm mewn, fel o'r blaen:
28 Ac mi a agorais fy ngenau, ac a dde∣chreuais ymddiddan â'r Goruchaf, gan ddy∣wedyd,
29 O Arglwydd, ti yr hwn ŵyt yn dy ddangos dy hun i ni, tydi a ddangoswyd i'n * 1.306 tadau yn yr anialwch, mewn lle nid oes nêb yn ‖ 1.307 sengi arno, mewn lle llwm, pan ddaethant allan o'r Aipht:
30 Ac a leferaist, gan ddywedyd, Cly w fi, ô Israel, ac ystyria fy ngeiriau, tydi hâd Iacob.
31 Canys wele fi yn hau fy nghyf∣raith ynoch, a hi a ddŵg ffrwyth ynoch, a chwi a anrhydeddir ynddi yn dragwy∣ddol.
32 Ond ein tadau y rhai a dderbynia∣sant y gyfraith, ni's cadwasant hi, ac ni chanlynasant dy ordeiniadau: ac er na ddi∣flannei ffrwyth dy gyfraith, ac ni's gallei, canys eiddot ti oedd;
33 Etto y nêb a'i derbyniodd, a gollwyd, am na's cadwent y pethau a hauesid yn∣ddynt.
34 Ac wele, y mae arfer pan dderbynio 'r ddaiar hâd, neu 'r môr long, neu ryw leftr fwyd neu ddiod, fôd, pan ddarffo am y peth yr hauwyd ef ynddo, neu y bwriwyd ef iddo,
35 I'r peth hwnnw hefyd a hauwyd, neu a fwriwyd ynddo, neu a dderbyni∣wyd, ddarfod am dano, a bôd heb aros gyd â mi: ond gyd â ni, nid felly y digwydd∣odd.
36 Canys nyni, y rhai a dderbyniasom y gyfraith, a gollir trwy bechod, a'n ca∣lon hefyd yr hon a'i derbyniodd hi.
37 Er hynny ni dderfydd am y gyfraith, ond aros y mae hi yn ei grym.
38 A phan ddywedais y pethau hyn yn fy nghalon, mi a edrychais o'm hôl, ac ar fy llaw ddehau y gwelwn wraig yn galaru, yn gweiddi yn vchel, ac yn drom ei chalon, a'i dillad wedi rhwygo, a lludw oedd cen∣ddi ar ei phen.
39 Yna y bwriais y meddyliau oedd gen∣nif o'r blaen heibio, ac a droais atti hi,
40 Ac a ddywedais wrthi, pa ham yr wyti yn wylo? a pha ham yr ydwyt môr drist dy galon?
41 A hi a ddywedodd wrthif, arglwydd, gâd fi yn llonydd, fel y gallwyf alaru dro∣sof fy hun, a chwanegu fy ngalar; canys wyf yn drist iawn fy nghalon, ac wedi fy nwyn yn isel iawn.
42 Ac mi a ddywedais wrthi, beth a ddar∣fu i ti? dywed i mi.
43 Hitheu a ddywedodd wrthif, myfi dy wasanaeth-wraig a fum hesb, ac heb planta, er bod i mi wr ddeng-mhlynedd ar hugain.
44 A'r deng-mhlynedd ar hugain hyn, yr ydwyf yn gweddio nôs a dydd, a phob awr, ar y Goruchaf.
45 Ar ben y deng-mhlynedd ar hugain, Duw a'm gwrandawodd i dy wasanaeth∣wraig, efe a edrychodd ar fy nghystudd, efe a ystyriodd fy mlinder, ac a roddes i mi fâb: a mi a fum lawen am dano ef, ac fe∣lly yr oedd fy ngŵr hefyd, a'm holl gymmy∣dogion, ac ni a roesom anrhydedd mawr i'r Goruchaf.
46 A mi a'i megais ef drwy boen fawr.
47 Felly pan dyfodd efe, a dyfod i oedran gwreicca, mi a wneuthym wledd.
PEN. X.
1 Y mae 'n cyssuro 'r wraig a welodd ef yn cwynfan yn y maes: 24 Hithau yn difan∣nu o'i olwg ef, a dinas yn ymddangos yn ei lle hi. 40 Yr Angel yn dangos beth yw 'r gweledigaethau hyn yn y maes.
AC felly y digwyddodd i'm mab, pan aeth efe iw stafell briodas, efe a syrthiodd i lawr, ac a fu farw.
2 Yna ni oll a ddiffodda∣som y canhwyllau, a'm holl gymmydogion a godasant i fynu i'm cyssuro i: yna a gorphywysais i hyd y nôs yr ail dydd.
3 A phan ddarfu iddynt hwy oll beidio â'm cyssuro, fel y cawn lonydd; yna y cyfo∣dais o hŷd nos, ac y ffoais, ac a ddaethum i'r maes hwn, fel y gweli di:
4 Ac y mae yn fy mryd nad elwyf yn fy ôl i'r ddinas, ond aros ymma, heb na bwyt∣ta nac yfed, ond galaru yn wastadol, ac ym∣prydio, hyd oni byddwyf farw.
5 Yna y gollyngais ymmaith ‖ 1.308 y my∣fyrdod oedd ynof, ac a leferais wrthi hi yn ddigllon gan ddywedyd,
6 Tydi ffolog vwch law pawb eraill, oni weli di ein galar ni, a pha beth a ddig∣wydd i ni?
7 Fely mae Sion ein mam ni yn llawn tristwch, ac fel y dygwyd hi hyd lawr, ac y mae hi yn galaru yn anianol?
8 Gan ein bôd ni oll yn awr mewn trymder, ac yn cŵyno, canys trist ydym oll: wyt ti cyn drymmed ar ôl vn mab?
Page [unnumbered]
9 Gofyn i'r ddaiar, a hi a ddywed i ti, mai hi a ddylei alaru am gwymp cym∣maint ac y sydd yn tyfu arni.
10 Canys o'r dechreuad, pob dŷn a ddaeth o honi hi, ac o honi y daw yr holl rai eraill: ac wele, y maent oll agos yn rhodio i dde∣stryw, a'r lliaws o honynt a ‖ 1.309 ddadwrei∣ddir.
11 Pwy wrth hynny a ddylei alaru mwy nag y hi, yr hon a gollodd gymmaint o ri∣fedi? ac nid tydi'r hon nid wyt yn drist ond am vn?
12 Ond pe dywedit wrthif, nid yw fy ngalar debyg i alar y ddaiar: canys mi a gollais ffrwyth fy nghroth, yr hwn a ddygais i'r bŷd drwy boen, ac a ymddygum drwy dristwch.
13 Ond y ddaiar yn ôl arfer y ddaiar: oblegid y gynnulleidfa bresennol sydd yn myned iddi drachefn, fel y daeth o honi.
14 Am hynny y dywedaf wrthit, fel y dy∣gaist i'r bŷd drwy drafael; felly y ddaiar he∣fyd o'r dechreuad a roddes ei ffrwyth, sef dyn, i'r hwn a'i gwnaeth hi.
15 Ac am hynny, cadw dy drymder i tidy him, a'r peth a ddigwyddodd i ti, a dioddef yn wrol.
16 Canys os berni di arfaeth Duw yn gyflawn, ac os derbyni ei gyngor, dy fâb mewn amser a gei, a chlôd ym mysc gwra∣gedd.
17 Dôs gan hynny ymmaith i'r ddinas at dy ŵr.
18 A hitheu a ddywedodd wrthif, ni wnaf fi mo hynny: nid âfi i'r ddinas, ond ymma y byddaf farw.
19 Felly mi a chwedleuais fwy â hi, ac a ddywedais,
20 Paid â hynny, cymmer gyngor gennifi: pa sawl cwymp a gafodd Si∣on? bydd gyssurus o herwydd tristwch Ierusalem.
21 Canys ti a weli fod ein Cyssegr ni yn anialwch, ein Hallor wedi ei thorri, a'n Teml wedi ei hanrheithio,
22 Ein psaltringau a fwriwyd i lawr, ein cân a ddistawyd, ein llawenydd a aeth ymmaith, ein canhwyllau a ddiffoddwyd, Arch ein cyfammod ni a ddygwyd oddi ar∣nom, ein sanctaidd bethau a halogwyd, a'r henw a henwir arnom a halogwyd agos, ein plant a wradwyddwyd, ein Hoffei∣riaid a loscwyd, ein Lefiaid a gaeth∣gludwyd, ein morwynion a anrheithiwyd, ein gwragedd a dreisiwyd, ein gwŷr cy∣fiawn a dducpwyd ymmaith, ein rhai bychain a ddifethwyd, ein gwŷr ieuaingc a gaethiwyd, a'n gwŷr cryfion a wanha∣wyd;
23 A sel Sion, yr hyn sydd fwyaf dim, a gollodd ei pharch: canys rhoddwyd hi yn nwylo y rhaf a'n casaant.
24 Ac am hynny, bwrw heibio dy drym∣der mawr, a'th fynych alar, fel y byddo 'r Galluog yn drugarog wrthit, ac y rho∣ddo y Goruchaf i ti esmwythdra, a gor∣phywysdra oddi wrth dy lafur.
25 Ac fel yr oeddwn yn ymddiddan â hi, wele, ei hwyneb hi a ddiscleiriodd yn ddi∣symmwth, a'i phryd a dywynnodd: ac mi a ofnais, ac a fyfyriais beth a allei hynny fôd.
26 Ac yn y man hi a lefarodd yn gref, ac yn ofnadwy, hyd oni chrynodd y ddaiar gan nâd y wraig.
27 A mi a edrychais, ac wele, nid ym∣ddangosodd y wraig i mi mwy: ond yr oedd dinas wedi ei hadeiladu, a lle ehang a ymddangosodd o'r sylfeini: yna yr ofnais, ac y gwaeddais â llef vchel, gan ddywe∣dyd,
28 Pale y mae * 1.310 Vriel yr angel, yr hwn a ddaeth attaf yn y dechrau? canys gwna∣eth i mi syrthio mewn llawer llewyg, a'm diwedd a ddychelwyd i lygredigaeth, a'm gweddi i gerydd.
29 A minneu yn dywedyd y geiriau hyn, efe a ddaeth attaf, ac a edrychodd arnaf.
30 Ac wele yr oeddwn i yn gorwedd fel vn marw, a'm deall wedi ei ddwyn oddi ar∣naf: ac efe a'm cymmerth i erbyn fy llaw ddehau, ac a'm cyssurodd, ac a'm gosododd ar fy nhraed, ac a ddywedodd wrthif,
31 Beth a ddarfu i ti? pa ham y mae dy feddwl, a deall dy galon mor drallodus? a pha ham yr wyt yn drist?
32 A minneu a ddywedais, am i ti fy ng∣wrthod i, a mi a wneuthym yu * 1.311 ôl dy eiriau di, euthym i'r maes, ac wylais, ac wele, mi a welais, ac etto y gwelaf bethau ni's medraf eu hadrodd.
33 Ac efe a ddywedodd wrthif, saf ar dy draed fel gŵr, ac mi a roddaf i ti gyngor.
34 Yna y dywedais, llefara di wrthifi fy Arglwydd, yn vnic na wrthod fi, rhag i mi farw yn ofer fy ngobaith.
35 Canys mi a welais bethau ni's adwae∣nwn, a chlywais bethau ni's gŵyddwn.
36 Neu ydyw fy synwyr yn fy nhwyllo? neu fy enaid yn breuddwydio?
37 Yn awr attolwg i ti, dangos i'th wâs am y ‖ 1.312 weledigaeth hon.
38 Yna efe a'm hattebodd gan ddywedyd, gwrando arnaf, a mi a'th ddyscaf, ac a ddangosaf i ti pa ham yr wyt yn ofni: ca∣nys y Goruchaf a ddangosodd i ti lawer o ddirgelwch.
39 Y Goruchaf a welodd fod dy ‖ 1.313 ffordd di yn vniawn; canys yr ydwyt yn cymmeryd trymder yn wastadol tros dy bobl, ac yn gwneuthur galar mawr am Sion.
40 Ac am hynny, deall y weledigaeth a welaist ychydig o'r blaen, sydd fel hyn:
41 Ti a welaist wraig yn galaru, ac a ddechreuaist ei chyssuro hi.
42 Eithr yn awr, ni's gweli mwy lun y wraig ond ymddangosodd i ti ddinas wedi ei hadeiladu:
43 A lle y dywedodd i ti am farwolaeth mab, hyn yw'r ‖ 1.314 peth sydd iw ddeall,
44 Y wraig hon a welaist ti, yw Sion: a lle
Page [unnumbered]
y dywedodd i ti, (yr hon a weli yn awr fel dinas wedi ei hadeiladu.)
45 Lle y dywedodd wrthit ei bod ddeng∣mhlynedd ar hugain yn hesb: dyna 'r deng∣mhlynedd ar hugain, yn y rhai ni offrym∣mid offrwm ynddi.
46 Ond yn ôl deng-mhlynedd ar hu∣gain, Salomon a adeiladodd y ddinas, ac a offrymmodd offrymmau: ac yna 'r hesb a ddûg fâb.
47 A lle y dywedodd hi i ti, mi a'i me∣gais ef drwy boen: hynny oedd presswylio yn Ierusalem.
48 Ond lle y dywedodd hi i ti, syrthi∣odd a bu farw fy mab, wrth ddyfod iw sta∣fell briodas: dyna yr cwymp a ddaeth i Ie∣rusalem.
49 Ac wele, ti a welaist ei llun hi, ac am ei bod yn galaru am ei mab ti a dde∣chreuaist roddi cyssur iddi hi, ac o'r pethau hyn a ddigwyddodd, hyn sydd raid ei ddan∣gos i ti.
50 Canys yn awr y Goruchaf sydd yn gweled dy fod yn drist dy enaid, a'th fod yn dioddef tristwch trosti hi o'th galon, ac felly efe a ddangosodd i ti ddiscleirdeb ei gogo∣niant fi, a thegwch ei phryd hi.
51 Ac am hynny y perais i ti aros yn y maes, lle nid oedd vn ty wedi ei adeiladu.
52 Canys mi a wyddwn y dangosei y Goruchaf hyn i ti,
53 Am hynny y gorchymynnais i ti fy∣ned i'r maes, lle nid oes sail adeilad yn y byd.
54 Canys yn y man lle y dechreuo y Go∣ruchaf ddangos ei ddinas, ni ddichon adei∣ladaeth dŷn sefyll yno.
55 Ac am hynny nac ofna, ac na âd i'th galon arswydo, ond dôs i mewn, ac edrych ar degwch a maint yr adeiladaeth, cym∣maint ac a ellych â'th lygaid ei weled.
56 Ac wedi hynny y cei di glywed cym∣maint ac a allo dy glustiau ei glywed.
57 Canys bendigedic wyt ti vwch law llaweroedd, ac fe a'th alwyd ‖ 1.315 gan y Goru∣chaf, ac ychydig sydd felly.
58 Ond y foru yr nos y cei di aros ymma.
59 Ac felly y Goruchaf a ddengys i ti we∣ledigaethau o'r pethau ‖ 1.316 vchel a wna y Goruchaf i'r rhai a fyddo yn trigo ar y ddaiar, yn y dyddiau diwethaf. Felly y cyscais y noson honno a'r ail nôs, fel y gor∣chymynnodd efe i mi.
PEN. XI.
1 Y mac 'n gweled yn ei freuddwyd, eryr yn dyfod allan o'r môr: 37 A llew o'r coed yn chwedleua â'r eryr.
YNa y breuddwydiais, ac wele fe ddaeth i fynu eryr o'r môr, i'r hwn yr ydoedd deu∣ddeng hascell adeiniog, a thri phen.
2 Ac fi a edrychais, ac wele efe a ledodd ei escyll dros yr holl ddaiar, a holl wyntoedd yr awyr a chwythodd arno ef, a hwy a ym∣gasclasant ynghŷd.
3 Ac mi a edrychais, ac allan o'i adenydd ef y tyfodd adenydd eraill yn y gwrthwy∣neb, a'r rhai hynny oedd adenydd bychain a mân.
4 Ond ei bennau oedd yn gorphywys, a'r pen oedd yn y canol ydoedd fwy nâ'r llaill, er hynny efe a orphywysodd gyd â hwynt.
5 Heb law hynny, mi a edrychais, ac wele yr eryr yn ehedeg â'i adenydd, ac yn teyrnasu ar y ddaiar, ac ar y rhai oedd yn trigo ynddi.
6 A gwelais bob peth tan y nef yn dda∣rostyngedig iddo ef, ac nid oedd neb yn dy∣wedyd yn ei erbyn ef, nac oedd vn creadur ar y ddaiar.
7 A gwelais, ac wele yr eryr yn sefyll ar ei ewinedd, ac yn llefaru wrth ei adenydd, gan ddywedyd,
8 Na wiliwch bawb ar vn-waith, cysced pôb vn yn ei lê ei hun, a gwiliwch wrth gylch.
9 A chadwer y pennau hyd yn ddiweddaf.
10 Ac mi a edrychais, ac wele, nid aethei y lleferydd allan o'i bennau ef, ond o ganol ei gorph ef.
11 A rhifais ei adenydd gwrthwyneb ef, ac wele, yr oedd ŵyth o honynt.
12 Ac edrychais, ac wele, o'r tu dehau y cododd vn aden, a honno a deyrnasodd dros yr holl ddaiar.
13 Ac felly y digwyddodd, pan deyrna∣sodd, y daeth diwedd iddi, a'i lle ni's gwel∣wyd mwy: felly 'r ail a safodd, ac a deyrna∣sodd, ac a gafodd amser hir.
14 A digwyddodd, pan deyrnasodd, y daeth diwedd iddi fel i'r gyntaf, fel na's gwelwyd mwy.
15 Yna y daeth lleferydd atti, gan ddywe∣dyd.
16 Gwrando, tydi yr hon a reolaist ar y ddaiar cyhyd o amser; hyn a ddywedaf wrthit ti, cyn dechreu o honot fod heb ym∣ddangos mwy;
17 Ni chaiff neb yn dy ôl di ddyfod i'th amser di, nac iw hanner.
18 Yna y cododd y drydedd, ac a deyrna∣sodd fel y llaill o'r blaen, ac nid ymddango∣sodd hitheu mwy.
19 Ac felly y gwnaeth y llaill, y naill yn ôl ei gilydd, fel y teyrnasodd pob vn, ac nid ymddangosasant mwy.
20 Yna 'r edrychais, ac wele mewn en∣nyd o amser, yr adenydd oedd yn canlyn a safasant o'r tu dehau, fel y gallent hwy reoli hefyd, a rhai o honynt a lywodraethasant: ond o fewn ychydig o amser, nid ymddango∣sasant mwy.
21 Canys rhai o honynt a osodwyd i fy∣nu, ond ni reolasant.
22 Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y deuddeng haden nid ymddangosa∣sant mwy, na'r ddwy aden fechan:
23 A nid oedd mwy ar gorph yr eryrond tri phen a oedd yn gorphywys, a chwech o escyll bychain.
Page [unnumbered]
24 A gwelais hefyd ddwy aden wedi ymddidoli oddi wrth y chwech, ac yn aros dan y pen oedd o'r tu dehau: canys pedair a arhosasent yn eu lle.
25 Ac mi a edrychais, ac wele yr adenydd y rhai oeddynt tan yr ascell, a amcanasant eu gosod eu hun i fynu, a rheoli.
26 Ac mi a edrychais, ac wele, gosodwyd vn i fynu, ond ar fyrder nid ymddangosodd mwy.
27 A'r ail a aeth ymmaith yn gynt nâ'r gyntaf.
28 Ac mi a edrychais, ac wele, y ddwy oedd yn aros a amcanasant reoli hefyd.
29 A thra 'r oeddynt yn meddwl hynny, wele, deffrôdd vn o'r pennau oedd yn cyscu, sef yr hwn oedd yn y canol, canys mwy oedd hwnnw nag yr vn o'r ddau eraill.
30 Ac yna y gwelais fod y ddau ben wedi myned yn vn ag ef.
31 Ac wele, y pen hwnnw a drôdd at y pennau oedd gyd ag ef, ac a fwyttâodd y ddwy aden tan yr ascell oedd ar fedr teyr∣nasu.
32 Ond y pen hwn a ddychrynodd yr holl ddaiar, ac a lywodraethodd ar bawb a'r oedd yn trigo ar y ddaiar drwy orthrymder mawr; ac efe oedd yn rheoli y byo, yn fwy nâ'r holl escyll a fuasei?
33 Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y pen oedd yn y canol, yn ddisymmwth nid ymddangosodd mwy, yr vn ffunyd a'r escyll.
34 Ond yr oedd etto y ddau ben, y rhai oedd yr vn ffunyd yn rheoli ar y ddaiar, ac ar y rhai oedd y trigo arni.
35 Edrychais hefyd, ac wele, y pen oedd o'r tu dehau a lyngcodd y pen oedd o'r tu asswy.
36 Yna y clywais lef yn dywedyd wrthif, edrych o'th flaen, a dal sulw ar y peth yr wyt yn ei weled.
37 Yna mi a edrychais, ac wele megis llew rhudwy wedi ei ymlid allan o'r coed; a gwelais ef yn anfon lleferydd dŷn allan at yr eryr, gan ddywedyd,
38 Gwrando, mi a ymddiddanaf â thi; a'r Goruchaf a ddywed wrthit,
39 Ond tydi yw 'r hwn sydd yn aros o'r pedwar anifail, y rhai a wneuthum i deyr∣nasu ar fy mŷd, fel y delei diwedd eu hamse∣roedd trwyddynt hwy?
40 A'r pedwerydd a ddaeth, ac a orch∣fygodd yr holl anifeiliaid a aethei o'r blaen, ac a gafodd allu ar y byd gyd ag ofn mawr dros holl amgylchoedd y ddaiar gyd â gor∣thrymder annuwiol lawer, a chŷd a hyn∣ny o amser y presswyliodd efe ar y ddaiar yn dwyllodrus.
41 Canys ni fernaist ti y ddaiar mewn gwirionedd.
42 Canys blinaist y gostyngedic, briwaist yr heddychol, ceraist gelwydd-wŷr, difethaist drigfaon y rhai oedd yn dwyn ffrwyth, bwriaist i lawr fagwyr y rhai ni wnae∣thent niwed i ti.
43 Am hynny y daeth dy drawsineb i fynu at y Goruchaf, a'th falchder at y Galluog.
44 Y Goruchaf hefyd a edrychodd ar yr amserodd beilchion, ac wele hwy a ddar∣fuant, a'i ffieidd-dra ef a gyflawnwyd.
45 Ac am hynny, nac ymddangos mwy, tydi eryr, na'th escyll ofnadwy, na'th ade∣nydd annuwiol, na'th bennau maleisus, na'th ewinedd ysceler, na'th holl gorph ofer:
46 Fel y gallo yr holl ddaiar ddadflino a dychwelyd, wedi diangc oddi wrth dy drawster di, ac fel y gallo obeithio barn a thrugaredd gan yr hwn a'i gwnaeth hi.
PEN. XII.
Difetha'r eryr a welodd ef. 10 Dirnad y we∣ledigaeth. 37 Erchi iddo scrifennu ei we∣ledigaethau, 39 ac ymprydio, fel y gallei we∣led mwy. 46 Y mae yn cyssuro y rhai oedd ddrwg genthynt ei fod ef yn absennol.
APhan ddywedodd y llew y geiriau hyn wrth yr eryr, y gwelais:
2 Ac wele, y pen yr hwn oedd yn aros, a'r pedair ascell, nid ymddangosasant mwyach, a'r ddwy a aethant atto ef, ac a ymosodasant i fynu i deyrnasu, a'i teyrnas oedd fechan, a llawn cythryfwl.
3 A mi a welais, ac wele, nid ymddango∣sasant mwy, a holl gorph yr eryr a loscwyd, fel yr ofnodd y ddaiar yn fawr: yna y de∣ffroais i allan o flinder, allewig fy meddwl, ac o ofn mawr, a dywedais wrth fy yspryd,
4 Wele, hyn a roddaist i mi, am i ti chwi∣lio am ffyrdd y Goruchaf,
5 Wele, y mae etto yn flîn fy nghalon, a gwan iawn yw fy yspryd: ac ychydig nerth sydd ynof, o herwydd yr ofn mawr a fu ar∣naf heno.
6 Am hynny yr attolygaf i'r Goruchaf, fy nghyssuro hyd y diwedd.
7 A dywedais, Arglwydd lywydd, os cefais ffafor yn dy olwg di, ac os cyfiawn∣heir fi ger dy fron di, o flaen llawer eraill, ac os daeth fy ngweddi i yn siccr o'th flaen di;
8 Dyro gyssur ynof, a dangos i'th wâs ddeongliad eglur y weledigaeth ofnadwy hon, fel y gallech gyssuro fy enaid yn ber∣ffaith.
9 Canys bernaist fi yn deilwng i ddan∣gos i mi yr amseroedd diweddaf.
10 Ac efe a ddywedodd wrthif, hyn yw deongliad y weledigaeth.
11 Yr eryr a welaist yn dyfod i fynu o'r môr yw yr deyrnas a welodd dy frawd Da∣niel * 1.317 yn ei weledigaeth.
12 Ond ni's deonglwyd iddo ef, am hyn∣ny y deonglaf hi i ti.
13 Wele, fe a ddaw yr dyddiau y cyfyd teyr∣nas ar y ddaiar, ac ofnir y deyrnas honno yn fwy nâ'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.
14 Ac yn y deyrnas honno y llywodraetha deuddeng mhrenin ôl yn ôl.
15 O ba rai yr ail a ddechreu deyrnasu,
Page [unnumbered]
ac a gaiff amser hwy nag yr vn o'r deuddeg.
16 A hyn y mae yr deuddeng hascell a we∣laist ti, yn ei arwyddocau.
17 Ac am y llef a glywaist yn dywedyd, yr hon nid aeth o'r pennau, ond o ganol y corph, hyn yw y deongliad:
18 Yn ôl amser y deyrnas honno, y cyfyd ymrysonion mawr, a hi a fydd debyg i syr∣thio: er hynny ni syrth y prŷd hynny, ond hi a adferir drachefn iw dechreuad.
19 A lle y gwelaist ŵyth o adenydd bychain yn glynu wrth ei escyll ef, hyn yw 'r deongliad:
20 Y cyfyd ynddo ef wyth o frenhinoedd, y rhai ni bydd eu hamser ond byrr, a'i bly∣nyddoedd yn fuan.
21 A dau o honynt y derfydd am danynt: pan nessao canol yr amser, pedwar a ged∣wir, nes iw diwedd ddechreu nessâu: ond dau a gedwir hyd y diwethaf.
22 A lle y gwelaist dri phen yn gorphy∣wys, hyn yw 'r deongliad.
23 Yn ei ddyddiau diwethaf y cyfyd y Goruchaf dair teyrnas, ac yr adnewydda lawer o bethau ynddynt, a hwy a lywo∣draethant y ddaiar,
24 A'r rhai a bresswyliant ynddi drwy orthrymder mawr, vwch law pawb a'r a fu o'i blaen hwy: am hynny y gelwir hwynt pennau 'r eryr.
25 Canys dymma y rhai a ddygant allan ei ddrygioni ef, ac a gyflawnant ei ddiwedd ef.
26 A lle y gwelaist y pen mawr heb ym∣ddangos mwy, hynny sydd yn arwyddocau y bydd marw vn o honynt yn ei wely, ac er hynny mewn llafur.
27 Canys y ddau sydd yn aros yn ôl, a leddir â'r cleddyf.
28 Canys cleddyf y naill a ddifetha yr llall: ond o'r diwedd, efe a syrth drwy 'r cleddyf ei hun.
29 A lle y gwelaist ddwy adain dan yr escyll, yn myned tros y pen sydd o'r tu de∣hau:
30 Mae hynny yn arwyddo mai dym∣ma y rhai a gadwodd y Goruchaf hyd eu diwedd: hon yw 'r deyrnas fechan, a llawn blinder, fel y gwelaist.
31 A'r llew a welaist yn codi allan o'r coed, ac yn rhuo, ac yn dywedyd wrth yr oryr, ac yn ei geryddu ef am ei anghyf∣iawnder, â'r holl eiriau a glywaisti,
32 ‖ 1.318 Yw y gwynt, yr hwn a gadwodd y Goruchaf iddynt, ac am eu drygioni hyd y diwedd: efe a'i cerydda hwynt, ac a ddyry eu creulondeb ger ei bronnau.
33 Canys efe a'i gesyd hwynt ger ei fron, mewn barn yn fyw, ac a'i cyhudda, ac a'i cerydda hwynt.
34 Canys gweddill fy mhobl a weryd efe drwy drugaredd, y rhai a gadwyd ar fy nherfynau, ac efe a'i gwna hwynt yn llawen, hyd ddyfodiad dydd y farn, am yr hwn y dywedais wrthit ti o'r dechreuad.
35 Hwn yw 'r breuddwyd a welaist, a hyn yw ei ddeongliadau ef.
36 Tydi yn vnic oeddit gymmwys i ŵybod y gyfrinach hon eiddo y Goruchaf.
37 Am hynny scrifenna y pethau hyn oll a welaist, mewn llyfr, a chuddia hwynt,
38 A dysc hwynt i'r bobl ddoethion, y rhai a wypech fod eu calonnau yn gallu deall, a chadw y cyfrinachau hyn.
39 Ond gwilia di ymma dy hun etto saith niwrnod, fel y gallech ŵybod y peth a fynno y Goruchaf i ddangos i ti, a chyd à hynny efe a aeth ymmaith.
40 A phan ddeallodd yr holl bobl ddarfod y saith niwrnod, a minneu heb ddyfod trachefn i'r ddinas, hwy a ymgasclasant ynghyd, o'r lleiaf hyd y mwyaf, ac a ddae∣thant attaf, gan ddywedyd,
41 Pa beth a wnaethom ni yn dy erbyn di? a pha ddrwg a wnaethom i ti, pan yd∣wyt yn ein gwrthod ni, ac yn eistedd ym∣ma?
42 Canys o'r holl bobl, ti yn vnic a ada∣wyd * 1.319 i ni, fel grawn-swpp o'r win-llan, ac fel canwyll mewn tywyllwch, ac fel porth∣ladd neu long wedi diangc rhag y dymhestl
43 Ond digon i ni yr adfyd a ddigwy∣ddodd?
44 Os tydi a'n gwrthodi, pa faint gwell a fuasei i ni ein llosci oll ynghanol Si∣on?
45 Canys nid gwell ydym nâ'r rhai a fu feirw yno. A hwy a ŵylasant â llef vchel; yna yr attebais hwy, ac y dywedais,
46 Cymmer gyssur ô Israel, ac na fydd drist, tydi dŷ Iacob.
47 Canys y mae y Goruchaf yn eich co∣fio, a'r Galluoc ni's gollyngodd chwi dros gôf mewn profedigaeth.
48 Ac myfi ni's gwrthodais chwi, ac nid aethum oddi wrthych: ond mi a ddaethym i'r lle hwn i weddio dros anghyfanedd∣dra Sion, fel y gallwn geisio trugaredd i isel-radd eich Cyssegr chwi.
49 Ac yn awr, ewch bawb adref, ac yn ôl y dyddiau hyn y deuaf attoch.
50 Felly y bobl a aethant ymmaith i'r ddinas, fel y gorchymynnais iddynt:
51 Ond mi a arhoais yn y maes saith niwrnod, fel y gorchymynnodd yr Angel i mi, a bwyteais yn vnic o flodeu y maes; ac o'r llysiau y cefais fy mwyd y dyddiau hynny.
PEN. XIII.
1 Y mae'n gweled yn ei freuddwyd, wr yn dy∣fod allan o'r mor. 25 Deongl ei freudd∣wyd ef. 54 Ei ganmol ef, ac addaw iddo gael gweled mwy.
AC yn ôl y saith niwrnod, y gwelais freuddwyd liw nôs.
2 Ac wele, ‖ 1.320 cododd gwynt o'r môr, ac a gynhyrfodd ei holl donnau ef.
3 Ac edrychais, ac wele, y gŵr hwnnw a aeth yn grŷf gyd â ‖ 1.321 miloedd y nef: a phan drôdd efe ei wyneb i edrych, yr holl bethau a'r a welid tano ef a grynodd.
4 A phan aeth y lleferydd o'i enau ef,
Page [unnumbered]
pawb a'r a'i clywodd a loscasant, fel ŷ palla 'r ddaiar pan gyffyrddo y tân â hi.
5 Wedi hyn yr edrychais, ac wele, ymgas∣clodd ynghyd lu o bobl allan o rifedi, o bed∣war ban byd, i orchfygu y gŵr a ddaethei allan o'r môr.
6 Ac edrychais, ac wele, efe a gerfiodd iddo ei hun fynydd mawr, ac a ehedodd arno.
7 Ond mi a geisiais weled y wlâd neu yr lle, o'r hwn y tynnasei efe y mynydd, ac ni allwn.
8 Ac yn ôl hynny yr edrychais, ac wele, yr holl rai a ymgynnullasent iw orchfygu ef, oedd yn ofni yn fawr, ac er hynny hwy a ly∣fasent ymladd.
9 Ac wele, pan welodd efe greulondeb a nerth y bobl a ddaethei yn ei erbyn ef, ni wnaeth efe na chodi llaw, na dal cleddyf nac arf rhyfel.
10 Ond yn vnic, mi a'i gwelwn ef yn chwythu allan o'i enau megis awel o dân, ac o'i wefusau anadl fflamllyd, ac o'i dafod efe a daflodd wreichion a thymhestloedd.
11 Ac yr oeddynt i gyd ynghymmysc, yr awel dân, yr anadl fflamllyd, a'r dym∣hestl fawr, ac a ddescynnasant gydâ rhu∣thr ar y bobl oedd yn barod i ymladd, ac a'i lloscasant hwy i gyd, fel yn ddisym∣mwth na welid o'r llu aneirif, ddim ond llwch a sawyr mwg: pan welais hyn, mi a ofnais.
12 Yn ôl hynny y gwelais yr vn gŵr yn dyfod i lawr o'r mynydd, ac yn galw atto dyrfa lonydd arall.
13 A llawer o bobl a ddaethant atto ef, rhai oedd yn llawen, rhai yn drist, rhai yn rhwym, ac eraill a ddygasant o'r pethau a offrymmasid: yna yr oeddwn glaf gan ofn mawr, a deffroais, a dywedais,
14 Dangosaist i'th wâs y rhyfeddodau hyn o'r dechreuad, a chyfrifaist fi yn deilwng fel y derbynit fy ngweddi?
15 Dangos i mi etto ddeongliad y breudd∣wyd hwn.
16 Canys hyn yr ydwyf yn ei deall, gwae 'r neb a adawer y pryd hynny; a mwy gwae i'r rhai ni's gadawer yn ôl.
17 Canys y rhai ni adawyd, oeddynt mewn tristwch.
18 Yn awr yr ydwyf yn deall y pethau a roddwyd i gadw ‖ 1.322 erbyn y dyddiau diwe∣thaf, y rhai a ddigwydd iddynt, ac i'r sawl a adawer yn ôl.
19 Am hynny y daethant i berigl▪ mawr, ac i angen mawr, fel y dengys y breudd∣wydion hyn.
20 Etto haws i'r neb a fyddo mewn pe∣rigl ddyfod i'r ‖ 1.323 pethau hyn, nag iddo fyned allan o'r byd hwn fel cwmwl, a bôd heb we∣led y pethau a ddigwyddant yn y dyddiau diweddaf. Yna efe a'm hattebodd gan ddy∣wedyd,
21 Deongliad y weledigaeth a ddangosaf i ti, ac agoraf i ti y peth a ddymunaist.
22 Lle y soniaist am y rhai sy wedi eu ga∣del yn ôl, hyn yw 'r deongliad.
23 Yr hwn a ddygo berygl y pryd hwnnw, a'i cadwodd ei hun: a'r sawl a syrthiodd mewn perygl, yw y rhai sy a gweithredoedd, a ffydd ganddynt i'r Holl-alluog.
24 Am hynny gwybydd hyn, fod y rhai a adawer yn ôl, yn ddedwyddach nâ'r rhai a fu feirw.
25 Hyn yw deall y weledigaeth, lle y gwe∣laist ŵr yn dyfod i fynu o ganol y môr;
26 Hwnnw yw 'r hwn a gadwodd y Duw Goruchaf yn hîr, yr hwn drwyddo ei hun a wareda ei greaduriaid; ac efe a lywodraetha y rhai a adawer yn ôl.
27 A lle y gwelaist yn dyfod allan o'i safn ef fel chwâ o wynt, a thân, a thymhestl:
28 Ac na chododd efe na chleddyf nag arf rhyfel, ond iw ruthr ef ddifetha yr holl lia ws a ddaeth iw orchfygu ef: hyn yw 'r deong∣liad:
29 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddechre∣uo 'r Goruchaf waredu y rhai sy ar y ddaiar?
30 Ac er syndod meddwl y daw efe ar y rhai a bresswyliant y ddaiar.
31 A'r naill a ymladd â'r llall, a'r naill ddinas yn erbyn y llall, y naill le yn erbyn y llall, * 1.324 y naill bobl yn erbyn y llall, a'r naill deyrnas yn erbyn y llall.
32 A daw 'r amser pan ddelo hyn i ben, a dyfod yr arwyddion a ddangosais i ti o'r blaen, yna yr eglurir fy mab yr hwn a we∣laist, fel gŵryn dringo i fynu.
33 A phan glywo 'r holl bobl ei leferydd ef, pawb yn eu gwlâd eu hun a beidiant â rhyfela yn erbyn ei gilydd?
34 A lliaws aneirif a gesclir ynghyd, fel y gwelaist rai yn ewyllyscar i dyfod, ac iw or∣chfygu ef drwy ymladd.
35 Ond efe a saif ar ben mynydd Sion.
36 A Sion a ddaw, ac a ddyngosir i bawb, wedi ei thrwsio, a'i hadeiladu, fel y gwelaist y bryn wedi ei gerfio heb ddwylo.
37 A hwn fy mâb i, a gerydda amcanion drygionus y cenhedloedd hynny, y rhai a syrthiasant i'r dymhestl, am eu buchedd ddrygionus;
38 Ac a esyd o'u blaen hwynt eu drwg feddyliau, a'r dialeddau, drwy y rhai y de∣chreuant gael eu poeni, y rhai ydynt fel fflamm; ac heb boen y difetha efe hwynt drwy 'r gyfraith a gyffelybir i dân.
39 A lle y gwelaist ef yn casclu pobl lo∣nydd eraill atto;
40 Y rhai hynny yw 'r dêc llwyth, y rhai a ddygwyd ymmaith yn garcharorion allan o'i gwlâd eu hun, yn amser Osea y brenin, yr hwn a ddaliodd * 1.325 Salmanasar brenin Assyria yn garcharor, ac a'i dug hwynt dros yr afon, ac felly y daethant i wlâd arall.
41 Ond hwy a gymmerasant y cyngor hyn yn eu plith eu hunain, i adel lliaws y Cenhedloedd, a myned ymmaith i wlâd bell∣ach, lle ni thrigasei neb erioed:
42 Fel y gallent gadw yno eu cyfraith, yr hon ni's cadwasent erioed yn eu gwlad eu hunain.
43 Ac felly yr aethant trwy lwybrau cy∣fyng afon Euphrates.
44 Canys y Goruchaf a ddangosodd yna
Page [unnumbered]
iddynt * 1.326 arwyddion, ac a attaliodd yr afon, nes iddynt fyned trwodd.
45 Canys yr ydoedd ffordd fawr drwy 'r wlâd, o daith blwyddyn a hanner, a'r wlâd honno a elwir ‖ 1.327 Arsareth.
46 Yna yr arhosasant yno hyd yr amser diwethaf; ac yn awr pan ddechreuant ddy∣fod trachefn,
47 Y Goruchaf a ettyl drachefn aberoedd y ffrŵd, fel y gallont fyned trwodd: am hyn∣ny y gwelaist y lliaws mewn heddwch.
48 Ond y rhai a adawyd yn ôl o'th bobl, yw y rhai a gafwyd o fewn fy nherfynau i.
49 Yn awrpan ddifetho efe liaws y cen∣hedloedd a ymgasclodd ynghŷd, efe a amdde∣ffyn y bobl sydd yn ôl.
50 Ac yna y dengys efe iddynt ryfeddodau mawrion.
51 Yna y dywedais inneu, ô Arglwydd ly∣wydd, dangos i mi hyn: pa ham y gwelais y gŵr yn dyfod i fynu o ganol y môr?
52 Ac efe a ddywedodd wrthif, fel nâ's gelli chwilio nâ gŵybod y pethau sydd yn nyfnder y môr: felly ni's gall neb ar y ddai∣ar weled fy mâb i, na'r rhai sy gyd ag ef, ond lliw dydd.
53 Hyn yw deongliad y breuddwyd a we∣laist ti, a thrwy 'r hwn y cefaist ti yn vnic ymma oleuni.
54 Canys gwrthodaist dy ffordd dy hun, a buost ddyfal i geisio fy nghyfraith i.
55 Dy fuchedd a drefnaist mewn doethi∣neb, a gelwaist ddeall yn fam i ti.
56 Ac am hynny y dangosais i ti dryssorau y Goruchaf; ym mhen y tridiau etto y llefa∣raf bethau eraill wrthit ti, îe pethau maw∣rion a rhyfedd a ddangosaf i ti.
57 Yna yr euthym allan i'r maes, gan roddi gogoniant a diolch mawr i'r Goru∣chaf Dduw, am y rhyfeddodau a wnaeth efe mewn amser,
58 Ac am ei fod efe yn llywodraethu yr amser, a'r pethau a ddigwydd yn eu hamse∣rau; ac yno yr eisteddais dri-diau.
PEN. XIIII.
1 Llef allan o berth yn galw Esdras, 10 Ac yn dywedyd iddo fod y byd yn heneiddio. 22 Y mae yn deisyf, o herwydd llosci'r gyfraith, scrifennu 'r cwbl drachefn, 23 ac erchi iddo geisio scrifennyddion cyflym. 39 Ei lenwi ef a hwythau, â deall, 45 ond gorchymmyn iddo ef na chyhoeddai'r cwbl a scrifennasid.
YTrydydd dydd yr eisteddais dan dderwen, yna y daeth llef attaf o berth, ar fyng∣hyfer gan ddywedyd, Es∣dras, Esdras.
2 A minneu a attebais gan ddywedyd, dymma fi Arglwydd, ac mi a sefais ar fy nhraed.
3 Yna y dywedodd efe wrthif, * 1.328 yn y berth yr ymddangosais i Moses, ac yr ym∣ddiddenais ag ef, pan oedd fy mhobl yn gwasanaethu yn yr Aipht.
4 A danfonais ef, a thywysais fy mhobl allan o'r Aipht, a dygais ef i fynu i fynydd Sinai, lle y cedwais ef gyd â mi yn hîr o amser,
5 A dangosais iddo lawer o ryfeddodau, a chyfrinach yr amseroedd, a'i diwedd, a gor∣chymynnais iddo gan ddywedyd,
6 Y geiriau hyn a fynegi, a'r rhai hyn a geli.
7 Ac yn awr y dywedaf wrthit ti,
8 Dôd i fynu yn dy galon yr arwyddi∣on a ddangosais i ti, a'r breuddwydion a welaist, a'r deongliad a glywaist.
9 Canys dygir di ymmaith oddi wrth y cwbl, ac o hyn allan yr arhoi gyd â'm mâb, a chyd â'th gyffelyb, hyd ddiwedd yr amseroedd.
10 Canys y bŷd a gollodd ei ieuengtid, a'r amseroedd sy yn dechreu heneiddio.
11 Canys y bŷd a rannwyd yn ddeuddec rhan, a dêc rhan o hynny a aeth ymmaith eusys, a hanner decfed ran.
12 Ac y mae yn ôl yr hyn sydd ar ôl han∣ner y ddecfed ran.
13 Am hynny gosot dy dŷ mewn trefn, a cherydda dy bobl, cyssura y rhai o honynt sydd mewn helbul ac yn awr yn ymwrthod â llygredigaeth.
14 Gollwng oddi wrthit feddyliau mar∣wol, bwrw ymmaith feichiau dynion, a di∣osc y naturiaeth wan.
15 Bwrw heibio y meddyliau sydd drym∣maf arnat, a brysia i ffoi oddiwrth yr am∣seroedd hyn.
16 Canys * 1.329 drygau mwy nâ'r rhai a welaist yn digwydd, a wneir yn ôl hyn.
17 Canys pa gwannaf fyddo 'r byd wrth oedran; mwy y tyf drygau ar y rhai a erys ynddo.
18 Canys y gwirionedd a ffôdd ym mhell, a chelwydd sydd yn agos: canys bellach y pryssura y weledigaeth a welaist, i ddy∣fod.
19 Yna yr attebais o'th flaen di, gan ddy∣wedyd,
20 Wele Arglwydd, mi a âf i gerydduyr bobl sydd gydrychol, fel y gorchymynnaist i mi: ond pwy a rybuddia y rhai a aner ar ôl hyn? fel hyn y gosodwyd y bŷd mewn tywyllwch, a'r rhai sy yn trigo ynddo sy heb oleuni.
21 Canys dy gyfraith a loscwyd, am hyn∣ny ni's gŵyr neb y pethau a wnaethost ti, na'r gweithredoedd a ddechreuir.
22 Ond os cefais ffafor ger dy fron di, dan∣fon yr Yspryd glân i mi, a mi a scrifennaf y cwbl a'r a wnaethbwyd yn y bŷd er y de∣chreuad, yr hyn a scrifennasid yn dy gy∣fraith, fel y gallo dynion gael dy lwybr, ac fel y byddo byw ysawl a fyddo yn fyw yn y dyddiau diweddaf.
23 Ac efe a'm hattebodd gan ddywedyd, dôs ymmaith, cascl y bobl ynghŷd, a dywed wrthynt, nad edrychant am danat dros ddeugain nhiwrnod.
24 Ac edrych ar ddarparu o honot lawer o ‖ 1.330 goed box, a chymmer gyd â thi, Serea,
Page [unnumbered]
Dabria, Selemia, ‖ 1.331 Ecanus, ac Asiel, y pump hyn, y rhai a fedrant scrifennu yn fuan:
25 A thyred ymma, ac mi a oleuaf gan∣wyll deall yn dy galon di, yr hon ni's diffo∣ddir ne's gorphen y pethau a ddechreuech di eu scrifennu.
26 A phan ddarffo it, ti a ddangosi ryw bethau yn oleu, a rhyw bethau a ddângosi di yn gyfrinachol, i'r doethion: y prŷd hyn yforu y dechreui di scrifennu.
27 Yna yr euthum allan fel y gorchymyn∣nodd efe i mi, a chesclais yr holl bobl yng∣hyd, a dywedais,
28 Gwrando y geiriau hyn ô Israel,
29 * 1.332 Ein tadau yn y dechreu oeddynt ddiei∣thriaid yn yr Aipht, o'r hwn le y gwared∣wyd hwynt,
30 * 1.333 A hwy a dderbyniasant gyfraith y by∣wyd, yr hon ni's cadwasant, a'r hon a dro∣seddasoch chwithau hefyd ar eu hôl hwynt.
31 Yna y rhannwyd y wlâd, sef gwlâd Sion, rhyngoch chwi wrth goel-bren, ond eich tadau a chwithau eich hunain hefyd a wnaethoch ar fai, ac ni chadwasoch y ffyrdd a orchymynnodd y Goruchaf i chwi.
32 Ac yn gymmaint a'i fod efe yn farnwr cyfiawn, efe a ddug oddi arnoch mewn am∣ser, y peth a roddasei efe i chwi.
33 Ac yn awr, ymma yr ydych, a'ch bro∣dyr yn eich plith.
34 Am hynny os chwi a ddarostyngwch eich deall, ac a drowch eich calonnau, chwi a gedwir yn fyw, ac yn ôl marwolaeth y cewch drugaredd.
35 Canys yn ôl marwolaeth y daw y farn pan fyddom byw drachefn: ac yna y bydd henw y cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn olau.
36 Am hynny na ddeled neb attaf yn awr, ac na edryched am danaf y deugain nhiwr∣nod hyn.
37 Felly y cymmerais y pum gŵr, fel y gorchymynnodd efe i mi, ac ni a aethom i'r maes, ac a arhosasom yno.
38 Yr ail dydd, llef a'm galwodd gan ddy∣wedyd, Esdras, * 1.334 agor dy safn, ac ŷf y peth a roddwyf i ti iw yfed.
39 Yna yr agorais fy safn, ac wele, efe a estynnodd i mi gwppan llawn, yr hwn oedd yn llawn fel pe byddei o ddŵfr, ond ei liw ef oedd megis tân.
40 Ac mi a'i cymmerais ef, ac a'i hyfais, ac wedi i mi ei yfed, fynghalon a ddeallodd; a doethineb a ddaeth i'm dwyfron, canys fy yspryd a gryfhaodd fy nghôf,
41 A'm genau a agorwyd, ac ni chaeodd mwy.
42 Y Goruchaf a roddes ddeall i'r pum gŵr, a hwy a scrifēnasant weledigaethau rhy∣fedd y nôs, y rhai a fynegwyd, y rhai ni's gŵyddent: a hwy a eisteddasant ddeugain nhiwrnod, ac a scrifennasant y dydd, a'r nos y bwytasant fara.
43 A minneu a leferais liw dydd, ac ni thewais y nôs.
44 Mewn deugain nhiwrnod hwy a scri∣fennasant ‖ 1.335 ddau cant a phedwar o lyfrau.
45 A digwyddodd, pan gyflawnwyd y deugain nhiwrnod, y Goruchaf a lefarodd gan ddywedyd, y llyfr cyntaf a scrifennaist mynega ar gyhoedd, fel y gallo y teilwng a'r annheilwng ei ddarllen ef.
46 Ond cadw y dêc a thrugain diweddaf, fel y gallech eu rhoddi hwynt yn vnic i'r rhai sydd ddoethion ym mysc y bobl.
47 Canys ynddynt hwy y mae gŵythen y deall, ffynnon doethineb, a ‖ 1.336 ffrwd y gwy∣bodaeth.
48 Ac felly y gwneuthum.
PEN. XV.
1 Y brophwydoliaeth hon sydd siccr. 5 Y diál Duw ar yr anwiriaid, 12 ar yr Aipht. 28 Gwe∣ledigaeth erchyll, 43 Bygwth Babilon ac Asia.
WEle, dywet lle y clywo fy mhobl, eiriau y brophwy∣doliaeth a ddanfonaf yn dy enau di, medd yr Ar∣glwydd.
2 A phar eu scrifennu hwy ar bapir: canys ffyddlon a gwir ydynt.
3 Nac ofna fwriadau yn dy erbyn, ac na chyffroed anffyddlondeb y rhai a ddywed∣ant yn dy erbyn, ddim o honot:
4 Canys pob dŷn anffyddlon a fydd ma∣rw yn ei anffyddlondeb.
5 Wele, medd yr Arglwydd, mi a ddyg∣af ddialedd ar y bŷd, y cleddyf, newyn, mar∣wolaeth, a dinistr.
6 Canys anwiredd a halogodd yr holl ddaiar yn ddirfawr, a chyflawnwyd eu gweithredoedd drygionus hwynt.
7 Am hynny y dywed yr Arglwydd,
8 Ni attaliaf mo'm tafod mwy, am eu hanwiredd hwy, y rhai a wnant yn annu∣wiol, ac ni ddioddefaf iddynt yn y pethau a drinant mor sceler: wele, * 1.337 y gwaed gwi∣rion cyfiawn sy 'n gweiddi arnaf, ac enei∣diau y rhai cyfiawn sy yn achwyn beunydd.
9 Am hynny y dywed yr Arglwydd, mi a a ddialaf yn siccr, ac a gymmeraf attaf yr holl waed gwirion o'i mysc hwynt.
10 Wele, fy mhobl a dwysir fel diadell i'r lladdfa; ni adawaf iddynt yn awr aros yn nhîr yr Aipht.
11 Ond mi a'i dygaf hwy allan â llaw gadarn, ac â braich estynnedic, ac a darawaf yr Aipht â dialeddau, fel y gwneuthum o'r blaen, ac a ddifethaf ei holl dir hi.
12 Yr Aipht a alara, a'i sylfeini hi a da∣rewir â'r bla, ac â'r cerydd a ddwg Duw arni.
13 Y rhai a lafuria y ddaiar a alarant; canys eu hâd a ddifethir gan falldod, a chenllysc, a thrwy ‖ 1.338 seren ofnadwy.
14 Gwae yr bŷd, a'r rhai a drigant yn∣ddo,
15 Canys y cleddyf, a'r destryw hwynt sydd yn nesau, a'r naill bobl a saif i ymladd yn erbyn y llall, a chleddyfau yn eu dwylo.
16 Canys terfysc a fydd ym mysc dynion, a'r naill a wna drais i'r llall, ni phrissiant ar eu brenin, a'r tywysogion a fesurant eu gweithredoedd wrth eu gallu.
Page [unnumbered]
17 Gŵr a ewyllysia fyned i ddinas, ac ni's gall fyned,
18 Canys o herwydd eu balchder y trallo∣dir y dinasoedd, y destrywir y tai, a'r yr ofna dynion.
19 Ni chymmer gŵr drugaredd ar ei gym∣mydog, ond difetha eu tai a wnânt â'r cle∣ddyf, a dwyn eu da, o herwydd prinder bara a chystudd mawr.
20 Wele, medd Duw, mi a alwaf ynghyd holl frenhinoedd y ddaiar, i'm anrhydeddu i, y rhai sydd o'r dwyraîn, a'r dehau, a'r gor∣llewin, a Libanus, i droi yn erbyn ei gilydd, ac i dalu 'r pwyth iddynt.
21 Fel y gwnânt y dydd heddyw i'm etho∣ledigion, felly y gwnaf inneu hefyd, a thalaf iw mynwes. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw;
22 Ni arbed fy neheu-law y pechaduri∣aid, a'm cleddyf ni phaid â'r rhai a dywall∣tant waed gwirion ar y ddaiar.
23 Y tân a ddaeth allan o'i ddigter, ac a ddifethodd sylfeini y ddaiar, a'r pechaduri∣aid fel gwellt yn llosci.
24 Gwae y rhai a bechant, ac ni chadwant fy ngorchymynion, medd yr Arglwydd.
25 Ni arbêdaf hwynt: ewch ymmaith chwi blant oddi ŵrth y gallu, na halogwch fy nghyssegr.
26 Canys yr Arglwydd a edwyn bawb a'r a bechant yn ei erbyn ef, ac am hynny y rhydd efe hwynt i farwolaeth a destryw.
27 Canys yn awr y daeth y dialedd ar yr holl ddaiar, a byddwch chwithau yn eu mysc; o herwydd ni wareda Duw chwi, am i chwi bechu yn ei erbyn ef.
28 Wele weledigaeth erchyll, a'i hwyneb o'r dwyrain,
29 Lle y daw cenhedloedd o ddreigiau A∣rabia â llawer o gerbydau, a'i lliaws hwy a ddygir fel gwynt ar y ddaiar, fel yr ofno ac y cryno pawb a'r a'i clywo.
30 Y Carmaniaid yn ynfydu mewn dig∣ter a ânt allant fel baeddod y coed, ac mewn nerth mawr y deuant, ac y safant yn eu her∣byn hwy i ymladd, ac a ddestrywiant ran o wlâd yr Assyriaid.
31 Ac yna y dreigiau a gânt y llaw vchaf, gan gofio eu naturiaeth; ac os hwy a ym∣droant, ac a gydfwriadant â nerth mawr iw herlid hwynt,
32 Yna y rhai hyn a flinir, ac a ddistawant yn eu nerth, ac a ffoant;
33 A'r gelyn a esyd arnynt o wlâd yr Assy∣riaid, ac a ddifetha rai o honynt, ac yn eu llu hwy y bydd ofn ac arswyd, ac ymryson ‖ 1.339 rhwng eu brenhinoedd.
34 Wele gwmylau o'r dwyrain, ac o'r gog∣ledd, i'r dehau, ac erchyll yw edrych arnynt, yn llawn llid a thymhestl.
35 A tharawant y naill ar y llall, a bwri∣ant i lawr liaws mawr o sêr ar y ddaiar, îe eu seren eu hun: a'r gwaed fydd o'r cleddyf hyd y bol:
36 A thail dyn hyd ‖ 1.340 wasarn y camelod.
37 A bydd ofn ac arswyd mawr ar y ddaiar, a'r rhai a welant y llid a ofnant, ac arswyd a ddaw arnynt.
38 Ac yno y daw tymestloedd mawrion o'r dehau, a'r gogledd, a rhan arall o'r gor∣llewin.
39 A gwyntoedd mawrion a gyfodant o'r dwyrain, ac a'i agorant hi, a'r cwmwl yr hwn a gyfododd efe mewn llid, a'r seren yr hon a gynhyrfodd i beri ofn tua gwynt y dwyrain a'r gorllewin, a ddifethir:
40 Y cwmylau cryfion yn llawn llid, a'r seren a godir i fynu, fel y gallont ofni yr holl ddaiar a'r neb a drigo ynddi, fel y gallont fwrw seren erchyll ar bôb lle vchel,
41 Tân, a chenllysc, a chleddyfau yn ehe∣deg, a llawer o ddŵfr, fel y byddo pob maes a phob afon yn llawn o ddyfroedd.
42 A bwriant i lawr y dinasoedd, a'r mag∣wyrydd y mynyddoedd, a'r bryniau, y coe∣dydd, a gwair y gweir-gloddiau, a'i hŷd:
43 Ac a ânt yn hŷ i Babilon, ac a'i ‖ 1.341 dy∣chrynant hi.
44 Deuant atti hi, a gosodant arni hi, y seren, a phôb llid a dywalltant arni hi, yna yr à y llwch a'r mwg i'r nefoedd, a phawb a'r a fyddo yn ei chylch a alarant am deni.
45 A'r sawl a fyddo tani a wasanaethant y rhai a'i hofnodd hi.
46 A thitheu Asia, yr hon ‖ 1.342 wyt gyfran∣nog o obaith Babilon, yr hon wyt yn ogoni∣ant iddi:
47 Gwae di druan, am i ti dy wneuthur dy hun yn debyg iddi hi, a thrwsio dy fer∣ched mewn godineb, fel y gallent ryngu bodd dy gariadau, ac ymffrostio ynddynt, y rhai a ddymunasant bôb amser odinebu â thi.
48 Canlynaist [y ddinas] ffiaidd yn ei holl weithredoedd, a'i dychymygion, am hynny y dywed Duw,
49 Danfonaf ddialedd arnat, gweddw∣dod, tlodi, newyn, cleddyf, a haint, i ddifetha dy dai â destryw, ac â marwolaeth.
50 A gogoniant dy nerth a ddiflanna fel lly∣sieun, pan godo 'r gwrês a ddanfonir arnat
51 Ti a wanhychir fel gwraig dlawd â gwialennodiau, ac fel vn wedi ei cheryddu â gweliau, fel na's gallo y rhai galluog, a'th gariadau, dy dderbyn.
52 A wnawn i trwy eiddigedd i ti felly, medd yr Arglwydd?
53 Oni bai ladd o honot bôb amser fy etholedig, gan godi dyrnod dy ddwylaw, a dywedyd pan oeddit ti feddw vwch ben eu ‖ 1.343 marwolaeth,
54 Dangos allan degwch dy wyneb∣pryd.
55 Gwobr dy odineb a delir i'th fynwes, am hynny y cei dâl.
56 Fel y gwnaethost i'm etholedig, medd yr Arglwydd, felly y gwna Duw i titheu, ac y rhydd ddialedd arnat.
57 Dy blant a fyddant feirw o newyn, a thitheu a syrthi dwy 'r cleddyf: dy ddinas∣oedd a fwrir i lawr, a chwbl o'r eiddot a ddi∣fetha 'r cleddyf yn y maes.
58 Y rhai fy yn y mynyddoedd a fyddant feirw o newyn, a bwytânt eu çîg eu hunain,
Page [unnumbered]
ac yfant eu gwaed eu hunain, o wir ne wyn bara, a syched am ddwfr.
59 Titheu yn anhappus a ddeui drwy 'r môr, a chei ddialedd drachefn.
60 Wrth fyned heibio y bwriant i lawr y ddinas ‖ 1.344 laddedig, a diwreiddiant vn rhan o'th wlâd, a difethant ran o'th ogoniant, a dychwelant i Babilon yr hon a ddestry∣wiwyd.
61 Hwy a'th daflant i lawr fel sofl, a hwy a fyddant i ti fel tân.
62 A difethant di, a'th ddinasoedd, a'th wlâd, a'th fynyddoedd, a'th holl goedydd, a'th breniau ffr wythlawn a loscant â thân.
63 Dy blant a gaeth-gludant, ac a an∣rheithiant gwbl ac a feddech, ac a ‖ 1.345 ddifwy∣nant degwch dy wyneb.
PEN. XVI.
1 Bygwth Babilon a lleoedd eraill, â phlaau anocheladwy: 23 ac ag anghyfannedd-dra. 40 Y bydd rhaid i weision Duw edrych am gael trallod: 51 ac na chuddiont eu pechodau, 74 ond eu gadael; ac y byddant gadwedig.
GWae dydi Babilon, ac Asia; gwae dydi yr Aipht, a Syria:
2 Ymwregyswch â lliain sâch, ac â rhawn, galerwch dros eich plant, bydd wch drist: canys eich destryw sydd ger llaw.
3 Cleddyf a ddanfonwyd arnoch, a phwy a'i trŷ ef yn ei ôl?
4 Tân a ddanfonwyd yn eich plith, a phwy a'i diffydd ef?
5 Dialeddau a ddanfonwyd attoch, a phwy a'i gyrr hwy ymmaith?
6 A all neb yrru ymmaith y llew newy∣nog yn y coed? neu a all neb ddiffodd tân pan ddechreuo gynneu yn y sofl?
7 A all vn droi yn ei hôl y saeth a sae∣thodd perchen bŵa cryf?
8 Y galluog Arglwydd sydd yn danfon y dialeddau, a phwy yw hwn a'i gyrr hwy ymmaith?
9 Tân a â allan oddiwrth ei lîd, a phwy yw efe a'i diffydd?
10 Efe a deifl fellt, a phwy nid ofna? efe a darana, a phwy ni ddychryn?
11 Duw a fygwth, a phwy ni wneir yn friwsion ger ei fron ef?
12 Y ddaiar a gryna, a'i sylfeini, y môr a gyfyd ei donnau o'r dyfnder, a'i donnau fy derfyscus, a'r pyscod hefyd ger bron yr Arglwydd, ac o flaen gogoniant ei allu ef.
13 Canys cref yw deheulaw 'r hwn sydd yn annelu 'r bŵa, a'r saethau a saetha efe fydd lymion, ac ni fetha ganddynt pan ddechreuer eu saethu bwynt i eithaf bŷd.
14 Wele, y dialeddau a ddanfonwyd, ac ni ddychwelant nes eu dyfod ar y ddaiar.
15 Y tân a gynneuwyd, ac ni's diffoddir ef, nes iddo losci sylfeini y ddaiar.
16 Fel na ddychwel y saeth, yr hon a saetho perchen bŵa cryt; felly ni ddychwel y dialeddau a ddanfonir ar y ddaiar.
17 Gwae fi, gwae fi, pwy a'm gweryd yn y dyddiau hynny?
18 Dechreuad tristwch a galar mawr, dechreuad newyn a marwolaeth fawr: de∣chreuad rhyfeloedd, a'r galluoedd a ofnant, dechreuad drygau, beth a wnafi yn hyn pan ddêl y drygau hyn?
19 Wele, newyn a phlâ, blinder a chŷni, a ddanfonwyd fel ffrewyllau i beri gwell∣hau.
20 Ond er hyn i gŷd, ni throant oddi wrth eu hanwireddau, ac ni feddyliant bôb amser am y ffrewyllau.
21 Wele, bwyd a diod a fydd mor rhâd ar y ddaiar, fel y tebygant eu bôd wrth eu bodd, a'r prŷd hynny y daw ‖ 1.346 drygau ar y ddaiar, cleddyf, newyn, a thrallod mawr.
22 Canys llawer o'r rhai sy yn trigo ar y ddaiar a fyddant feirw o newyn, a'r lleill a ddiango rhag y newyn, y cleddyf a'i difetha.
23 A'r meirw a deflir allan fel tail, ac ni bydd neb iw cyssuro hwynt: canys y ddaiar a anrheithir, a'r dinasoedd a fwrir i lawr.
24 Ni adewir neb i lafurio 'r ddaiar, ac iw hau.
25 Y prennau a roddant ffrwyth, a phwy a'i cynhayafa hwynt?
26 Y grawn-win a addfedant, a phwy a'i sathr? canys pôb man a fydd yn ddi bobl:
27 Fel y dymuno y naill ŵr weled y llall, neu glywed ei leferydd ef.
28 Canys o ddinas y gadewir dec, a dau o'r maes, y rhai a ymguddiant yn y tew∣goed, ac yn ogfeydd y creigiau.
29 Fel ped fai dair neu bedair o oliwŷdd wedi eu gadel ar bôb pren, mewn per∣llan oliwydd:
30 Neu fel pan gascler gwinllan, y rhai a chwiliant y winllan yn ddyfal a adaw∣ant rai o'r grawn-win yn eu hôl:
31 Felly yn y dyddiau hynny y gedy y rhai a chwilio eu tai hwy â'r cleddyf, dri neu bedwar o honynt.
32 A'r ddaiar a adewir yn anghyfan∣nedd, a'i meusydd a heneiddiant, a'i ffyrdd a'i holl llwybrau a dyfant yn llawn o ddrain, am nad ymdeithia neb trwyddynt.
33 Y morwynion ieuaingc a alarant heb briod-feibion iddynt, y gwragedd a wnant gwynfan heb eu gwŷr, a'i merched a ala∣rant, am nad oes amddeffyn-wŷr iddynt.
34 Yn y rhyfel y difethir eu priod hwy, a'i gwŷr hwy a fydd feirw o newyn.
35 Ond chwychwi wasanaeth-wŷr yr Arglwydd, gwrandewch y pethau hyn a deellwch hwynt.
36 Wele air yr Arglwydd, derbyniwch ef, na chredwch mo'r duwiau, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd.
37 Wele 'r dialeddau yn nessau, ac ni oe∣dant ddyfod.
38 Fel gwraig wrth escor, yr hon a ddwg ei mâb ym mhen y naw-mis, pan ddêl yr amser i escor, poen a ddaw ar ei chroth, ddwy awr neu dair o'r blaen; yr hwn wrth ddyfod yr etifedd i'r bŷd ni oeda ronyn.
39 Felly nid oeda'r dialeddau ddyfod ar y ddaiar, a'r bŷd a alara, a thristwch a ddaw arno o bôb parth.
Page [unnumbered]
40 O fy mhobl, gwrandewch arnaf, ymbaratowch i'r rhyfel, a byddwch yn y drygau hynny, fel pererinion ar y ddaiar.
41 Yr hwn a wertho, bydded fel vn yn ffoi ymmaith: a'r hwn sydd yn prynu, bydded fel vn a gyll.
42 A'r hwn a farsiandio, bydded fel vn heb ennill: a'r hwn a adeilado, fel vn heb gael trigo ynddo.
43 Yr hwn a hauo, bydded fel yr hwn ni's medo: yr hwn a blanno winllan, fel yr hwn ni chascl y grawn-win.
44 Y rhai a briodant, byddant fel rhai ni chànt blant: a'r rhai ni phriodant, fel gweddwon.
45 Am hynny y rhai a lafuriant, a la∣furiant yn ofer,
46 Canys dieithraid a fedant eu ffrwy∣thau hwynt, ac a sclyfaethant eu da hwynt, ac a fwriant i lawr eu tai, ac a gaethgludant eu plant: canys mewn cae∣thiwed, a newyn yr ennillant blant.
47 A'r rhai a farsiandîa drwy yspeilio, pa mwyaf y trwsiant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau, a'i cyrph eu hunain;
48 Mwyaf y digiaf inneu wrthynt hwy∣thau am eu pechodau, medd yr Arglwydd.
49 Fel y cenfigenna puttain wrth wraig onest rinweddol:
50 Felly y casâ cyfiawnder anwiredd, pan ymdrwsio hi, ac a'i cyhudda hi yn ei hwy∣neb, pan ddél efe 'r hwn a'i hamddeffyn ef, yr hwn sydd yn chwilio allan bôb pechod ar y ddaiar, yn ddyfal.
51 Ac am hynny na fyddwch debyg iddi hi, nac iw gweithredoedd:
52 Canys cyn pen nemmor o ennyd, an∣wiredd a dynnir ymmaith oddi ar y ddai∣ar, a chyfiawnder a lywodraetha yn eich plith chwi.
53 Na ddyweded y pechadur na phe∣chodd: canys marwor tanllyd a lysc Duw ar ben yr hwn a ddywedo o flaen Duw a'i ogoniant, ni phechais.
54 Wele, yr Arglwydd a ŵyr holl weithre∣doedd dynion, eu * 1.347 bwriadau, eu myddyliau, a'i calonnau:
55 Canys ni ddywedodd efe ond y gair, Gwneler y ddaiar, a * 1.348 hi a wnaethbwyd: gwneler y nefoedd, a hwy a wnaethbwyd.
56 Gan ei air ef y gwnaethbwyd y sêr, ac efe a ŵyr eu * 1.349 rhifedi hwynt.
57 Efe a chwilia y dyfnderoedd, a'i tryssor, efe a fesurodd y môr, a'r hyn sydd ynddo.
58 Efe a gaeodd y môr ynghanol y dy∣froedd, ac â'i air y crogodd efe y ddaiar ar y dyfroedd.
59 Efe a dana 'r nefoedd fel crom-glwyd, ac ar y dyfroedd y sicrhâodd efe hi.
60 Yn y diffaethwch y gwnaeth efe ffyn∣honnau o ddwfr, a llynnoedd ar bennau 'r mynyddoedd, fel y gallei 'r afonydd dywallt i lawr oddi ar y creigiau vchel, i ddyfrhau y ddaiar.
61 Efe a wnàeth ddŷn, ac a osododd ei galon ef ynghanol ei gorph, ac a roddes iddo anadl, enioes, a deall,
62 Ie, ac Yspryd yr Holl-alluog Dduw, yr hwn a wnaeth bôb peth, ac sydd yn chwilio allan bôb peth cuddiedig yn nir∣gel-leoedd y ddaiar.
63 Efe a ŵyr yn ddiau eich dychymygion chwi, a pha beth yw eich meddwl yn eich calon, pan bechoch, a phan fynnoch guddio eich pechodau.
64 Am hynny y chwiliodd yr Arglwydd eich holl weithredoedd chwi allan yn fanwl, ac efe a'ch cywilyddia chwi oll.
65 A phan ddyger eich pechodau chwi allan, bydd cywilydd arnoch o flaen dyni∣on, a'ch pechodau eich hunain a'ch cyhudda yn y dydd hwnnw.
66 Pa beth a wnewch chwi? neu pa fodd y cuddiwch chwi eich pechodau o flaen Duw a'i Angelion?
67 Wele, Duw ei hun fydd farnŵr, ofn∣wch ef: peidiwch â phechu, a gollyngwch dros gof eich anwireddau, na fydded i chwi a wneloch mwy â hwynt byth: felly yr arwain Duw chwi allan, ac a'ch gwa∣red chwi oddi wrth bôb blinder.
68 Canys wele, digofaint tanllyd lliaws mawr a gynneuwyd arnoch chwi, a hwy a ddygant ymeith rai o honoch, ac a'ch por∣thant chwi ‖ 1.350 yn segur, â phethau a offrym∣mwyd i eulynnod.
69 A'r rhai a gydtunant â hwynt a wat∣werir, a ddiystyrir, ac a sethrir dan draed.
70 Canys fe fydd ym mhôb lle, ac yn y dinasoedd nesaf, lawer yn codi i fynu yn erbyn y rhai a ofnant yr Arglwydd.
71 Hwy a fyddant fel gwŷr ynfydion, heb arbed neb, eithr yn anrheithio, ac yn dinistrio y rhai a fyddo yn ofni yr Argl∣wydd:
72 Canys hwy a anrheithiant, ac a ddy∣gant eu da oddi arnynt, ac a'i bwriant allan o'i tai.
73 Yna y ceir gŵybod pwy yw fy etho∣ledigion i, a phrofir hwynt fel yr aur yn y tân.
74 Gwrandewch fy anwylyd, medd yr Arglwydd; wele, dyddiau 'r helbul sy ger llaw, ond mi a'ch gwaredaf chwi rhag∣ddynt.
75 Nac ofnwch, ac na amheuwch, canys Duw yw eich tywysog chwi.
76 A thywysog y rhai a gadwant fy ngorchymynion a'm deddfau, medd yr Ar∣glwydd Dduw: Na phwysed eich pechodau chwi i lawr, ac nac ymdderchafed eich an∣wireddau.
77 Gwae y rhai sy yn rhwym gan eu pechodau, ac wedi eu gorchuddio â'i han∣wireddau, fel maes wedi ei gau â pherthi, a'i lwybr wedi ei guddio â drain, fel na allo neb fyned y ffordd honno.
78 ‖ 1.351 Caewyd ef ‖ 1.352 i fynu, a bwriwyd ef i'r tân yn dragywyddol iw ddifetha.
Page [unnumbered]
❧ TOBIT.
PENNOD. I.
1 Bonedd Tobit, a'i dduwiolder yn ei ieuenge∣tyd, 9 A'i briodas ef, 10 A'i gaethiwed, 13 a'i dderchafiad, 16 A'i elufeni, a'i gare∣digrwydd yn claddu 'r marw, 19 Ac achwyn arno ef am hynny, ac yntau yn ffo; 22 A chwedi hynny yn dychwelyd i Nineueh.
LLyfr ‖ 1.353 ymadroddi∣on Tobit [fab] Tobiel, [fab] Ana∣niel, [fab] Aduel, [fab] Gabael, o hil Asael, o lwyth Nephthali,
2 Yr hwn yn amser Enemessar brenin yr Assyri∣aid, a gaeth-glud∣wyd o * 1.354 Thisbe yr hon sydd o'r tu dehau i'r [ddinas] ‖ 1.355 a elwir yn briodol Nephthali, yn Galilæa, gorwch Aser.
3 Myfi Tobit a rodiais holl ddyddiau fy hoedl yn ffyrdd gwirionedd a chyfiawn∣der, ac a wneuthum elusenau lawer i'm brodyr, ac i'm cenedl, y rhai a aethant gyd â mi i wlâd yr Assyriaid, [sef] i Ninefe.
4 A phan oeddwn i yn fy ngwlad fy hun yn nhir Israel, a mi etto yn ieuangc, cwbl o lwyth Nephthali fy nhad a gili∣odd oddi wrth dŷ Ierusalem, yr hwn a ddewisasid o holl lwythau Israel, megis y gallai yr holl lwythau aberthu yno, lle yr oedd Teml trigfa y Goruchaf wedi ei chyssegru a'i hadeiladu yn dragywyddol.
5 A'r holl lwythau y rhai a gŷd-gilia∣sent a thŷ fy nhad inneu Nephthali, a offr∣ymmasant * 1.356 ‖ 1.357 i'r anner Baal:
6 Eithr myfi fy hunan, yn ôl yr ordin∣hâd tragy wyddol a orchymynnasid i holl Israel, a aethym yn fynych i Ierusalem ar y gŵyliau [nodedic,] gan ddwyn gyd â mi * 1.358 gynffrwyth a degwm cynnydd yr ani∣feiliaid, a'r cyn-gnaif, y rhai a roddais i i'r Offeiriaid, sef meibion Aaron, [y rhai oedd yn gweini] wrth yr allor.
7 Y degwm cyntaf mi a'i rhoddais i fei∣bion ‖ 1.359 Aaron, y rhai oedd wenidogion yn Ierusalem: yr ail degwm mi a'i gwerthais, ac a euthym, ac a'i gweriais yn Ierusalem bôb blwyddyn:
8 A'r trydydd mi a'i rhoddais i'r sawl y gweddei, megis y gorchymynnasei De∣bora mam fy nhâd i mi: canys gadawsid fi yn ymddifad o'm tad.
9 Medi i mi ddyfod [mewn oedran] gŵr, mi a briodais Anna, gwraig * 1.360 o dy-lwyth fy nhâd, ac a ennillais o honi hi Tobias.
10 A phan i'n caeth-gludwyd [yn garcha∣rorion] i Ninefe, fy holl frodyr, ac eraill o'm cenedl, a fwytasant * 1.361 fara'r cenhedloedd:
11 Er hynny myfi ‖ 1.362 a'm cedwais fy hun heb fwytta:
12 Am fy môd yn meddwl am Dduw o wîr ewyllys fy nghalon.
13 A'r Goruchaf a roddes i mi ffafor a hawddgarwch ger bron Enemessar, fel y bum ‖ 1.363 orchwyliwr iddo.
14 Felly mi a euthym i Media, ac a adewais ddêc talent o arian yn llaw Gabael brawd Gabrias, ‖ 1.364 yn Rages dinas ym Media.
15 Ac wedi marw Enemessar, Senna∣cherib ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yr hwn ‖ 1.365 y rhwystrodd ei ffyrdd, fel na ellais i mwy ymdaith i dir Media.
16 Eithr yn nyddiau Enemessar mi a wneuthym lawer o elusenau i'm brodyr, ac a roddais fy mara i'r newynog:
17 A'm dillad i'r noethion: ac os gwelwn neb o'm cenedl wedi ei ladd, a'i fwrw ‖ 1.366 yng∣hylch muriau Ninefe, mi a'i claddwn ef.
18 Ac os lladdei Sennacherib y brenin, wrth ddyfod ar * 1.367 ffoi o Iudæa yr vn, mi a'i claddwn ef yn ddirgel; (canys llawer a laddodd efe yn ei wŷn) a phan geisiei 'r brenin y cyrph, ni byddent iw cael.
19 Yna 'r aeth vn o'r Ninefeaid, ac a ddangosodd i'r brenin fy mod i yn eu cla∣ddu hwynt, ‖ 1.368 a minneu a ymguddiais: a phan ŵybum fod yn fy ngheisio i'm lladd, mi a giliais ymmaith rhag ofn.
20 Yna y ducpwyd fy holl dda byd, ac ni adawyd i mi ddim, onid Anna fyngwraig, a Thobias fy mab.
21 A chyn pen pymtheng nhiwrnod a deugain, dau o'i feibion * 1.369 a'i lladdasant ef, ac a ffoesant i fynyddoedd Ararath. A ‖ 1.370 Sar∣chedonus ei fab a deyrnasodd yn ei le ef: ac a osodes Achiacarus fab Anael fy mrawd [yn olygwr] ar holl gyfrifon ei dad, ac ar ei holl orchwyliaeth.
22 Ac Achiacarus a eiriolodd drosofi, oni chefais ddyfod [adref] i Ninefe: canys go∣sodasei Sachedonus Achiacarus yn nesaf [iddo ei hun,] ac yr oedd efe yn drulliad, a seinedydd, gorchwyliwr, a cyfrifydd iddo: ac yr oedd efe yn nai fab brawd i minneu.
Page [unnumbered]
PEN. II.
1 Tobit yn gadael ei fwyd i gladdu 'r marw, 10 ac yn myned yn ddall. 11 Ei wraig ef yn cymmeryd gwaith i ynnill ei bywyd. 14 Ymrafael rhyngthi a'i gwr ynghylch myn.
WEdi i mi ddyfod adref i'm tŷ fy hun, a rhoddi i mi Anna fy ngwraig, a Thobias fy mab: ar ŵyl y Pentecost, (yr hon yw vchel-wyl y saith wyth∣nos) y gwnaethbwyd i mi ginio mawr.
2 Eithr pan eisteddais i fwytta, a gwe∣led amlder o fwyd, mi a ddywedais wrth fy mab: dôs a chyrch pa ddyn tlawd byn∣nac a gaffech o'n brodyr ni, ac sydd yn meddwl am yr Arglwydd, ac wele mi a arhosaf am danat.
3 Eithr efe a ddaeth drachefn, ac a ddy∣weoodd wrthif, fy nhad, y mae vn o'n ce∣nedl ni wedi ei dagu, a'i fwrw allan i'r heol.
4 Yna cyn profi dim bwyd, mi a neidiais ar fy nrhaed, ac a'i dugym ef i dŷ, nes mach∣ludo haul.
5 Ac wedi dychwelyd o honof, mi a ymolchais, ac a fwytteis fy mara yn athrist:
6 Gan feddwl am brophwydoliaeth Amos, y modd y dywedasei efe: eich vchel∣wyliau * 1.371 a droir yn alar, a'ch llawenydd oll yn gwynfan.
7 Ac mi a ŵylais; a phan fachludodd yr haul, mi a euthym, ac a wneuthym fedd, ac a'i cleddais ef.
8 A'm cymydogion a'm gwatwarent, gan ddywedyd, onid ofna hwn etto ei angeu? * 1.372 am y peth ymma y ffôdd efe vn∣waith, ac wele y mae efe eilch wel yn cla∣ddu 'r meirw.
9 Ac ar y nôs honno mi a ddychwelais o gladdu, ac a gyscais [wedi] ymhalogi, wrth bared y neuadd, yn wyneb-noeth,
10 Heb ŵybod lod ‖ 1.373 adar y to [yn aros] yn y fagwyr, y rhai a fwriasant dail twy∣myn yn fy llygaid, fel yr oeddynt yn ago∣red: ac felly y daeth yr huchen ar fy lly∣gaid: ac er fy myned at feddygon, ni wnaethant i'm ddim lles Ac Achiacarus a'm porthodd i hyd onid euthym i Eli∣mais.
11 Ac Anna fy ngwraig a weithiei mewn nydd-dai gwragedd.
12 A phan aeth hi â'r gwaith adref i'r perchennogion, hwy a dalasant iddi ei chyflog, gan roddi mynn yn ychwaneg:
13 Yr hwn pan ddaeth i'm tŷ i, a dde∣chreuodd frefu, yna y gofynnais iddi, o ba le y [daeth] y mynnyn? a'i lledrad yw efe? Dôd ef eilchwel iw berchenno∣gion, * 1.374 canys nid cyfraithlon yw bwytta lledrad.
14 * 1.375 A hitheu a ddywedodd, ei roi ef a wnaethpwyd i mi gyd â'm cyflog, etto nid oeddwn i yn ei chredu, ond erchi ei roddi ef iw berchennogion, ac yr oedd yn wrad∣wydd gennif drosti, eithr hi a'm hattebodd gan ddywedyd: mae dy elusenau di, a'th gyfiawnderau? wele ‖ 1.376 y maent yn amlwg oll gyd à thi.
PEN. III.
1 Tobit yn flin gantho wawd ei wraig, ac yn gweddio. 11 Sara wedi ei difenwi gan for∣wynion ei thad, yn gweddio hefyd. 17 An∣fon Angel iw cymmorth hwy ill dauoedd.
YN A 'r ŵylais yn athrist, ac a weddiais mewn gorthrymder, gan ddywedyd;
2 Cyfiawn wyt ô Argl∣wydd, a chwbl o'th weithred∣oedd a'th ffyrdd oll ydynt drugaredd a gwirionedd: dy farn hefyd a roddi yn vn∣iawn, ac yn gyfiawn yn dragywydd.
3 Cofia fi, ac edrych arnaf, ac na ddial arnaf am ty mhechodau, nac am fy anwy∣bodaeth, nac am yr eiddo fy henafiaid, y rhai a bechasant ger dy fron di.
4 O achos nad vfyddhaent i'th orchy∣mynion: am hynny ti a'n rhoddaist ni yn * 1.377 yspail, ac i gaethiwed, ac i angeu, ac yn ddihareb wradwyddus i'r rhai oll i'n gwas∣carwyd ni yn eu plith.
5 Ac yn awr llawer a chyfiawn yw dy farnedigaethau: gwna â myfi yn ôl fy mhe∣chodau, a [phechodau] fy henafiaid, am na chadwaso n dy orchymynion, ac narodiasom yn y gwirionedd ger dy fron di.
6 Yr awron gan hynny gwna â myfi y peth a fyddo cymmwys yn dy olwg di: pâr gymmeryd fy yspryd oddi wrthif, fel i'm ‖ 1.378 dattoder, ac yr elwyf yn ddaiar: canys gwell i mi farw nâ byw, o achos y gwarth anwir a glyweis, a'r mawr dristwch sydd arnaf. Am hynny pâr fy ngollwyng i yn rhydd o'r cyfyngder ymma, [i fyned] i le tragywyddawl: na thro dy wyneb-pryd oddi wrthif.
7 A'r vn dydd fe a ddigwyddodd i Sara merch Raguel yn Ecbatane, [dinas] ym Media, gael ei gwradwyddo gan forwyni∣on ei thad;
8 Sef ei rhoi hi i saith o wŷr, ac i Asmodaeus yr yspryd drwg eu lladd hwynt, cyn bod iddynt a wnaent â hi yn ôl arfer gwragedd. Oni ŵyddost ti (meddynt) dagu o honot ti dy wŷr? bu saith o wŷr i ti hyd yn hyn, ac ni'th gyfenwyd yn ôl yr vn o ho∣nynt:
9 Pa ham i'n curi ni am danynt? os meirw ydynt, dôs centhynt, na welombyth o honot na mab na merch.
10 A phan glybu hi y pethau hynny, tristâu yn ddirfawr a wnaeth, fel [y me∣ddyliodd] ymdagu: ac etto hi a ddywe∣dodd, vn ferch ty nhad ydwyf, os gwnaf fi hyn, cywilyddus fydd ganddo ef, a'i henaint a ddygaf i'r bedd mewn gorthrym∣der.
11 Ac yno hi a weddiodd tua 'r ffenestr, gan ddywedyd; Bendigaid wyti ô Argl∣wydd fy Nuw, a bendigaid yw Enw sanc∣taidd dy ogoniant, ac anrhydeddus byth
Page [unnumbered]
bythoedd, molianned dy holl weithredoedd dydi yn dragywydd:
12 Ac yr awron ô Arglwydd, y cyfeiriaf fy llygaid a'm hwyneb attat,
13 Gan ddeisyf fy ngollwng yn rhydd oddi ar y ddaiar, fel na chlywyf wradwydd mwyach.
14 Ti a ŵyddost Arglwydd, fy mod yn lân oddi wrth bob pechod gyd â gŵr,
15 Ac na halogais fy enw, nac enw fy nhad, yn nhîr fy nghaethiwed. Vn-ferch wyf i'm tad, ac nid oes ganddo blentyn i fod yn etifedd iddo, nac vn câr agos, na mab iddo yn fyw, fel y cadwn fy hun yn wraig iddo: ac wedi marw saith-ŵr i mi, i ba beth y byddwn i byw? Eithr oni rynga bodd i ti fy lladd, pâr edrych arnaf, a thrugarhau wrthif, fel na chlywyf wrad∣wydd mwyach.
16 A'i gweddiau hwy ill dau a wranda∣wyd ger bron gogoniant y Duw mawr.
17 A Raphael a anfoned i iachau 'r ddau, [sef] i dynnu 'r huchen oddi ar lygaid To∣bit, ac i roddi Sara merch Raguel yn wraig i Tobias mab Tobit, ac i rwymo Asmodaeus yr yspryd drwg, o achos bod yn perthynu i Tobias o gyfiawnder ei chael hi. Yn y cyfamser hwnnw y dychwelodd Tobit, ac yr aeth efe iw dŷ, a Sara merch Raguel a ddescynnodd o'i stafell.
PEN. IIII.
1 Tobit yn rhoi addysc iw fab Tobias, 20 ac yn dywedyd iddo am yr arian a adawsid gyd â Gabael yn Media.
YN y dydd hwnnw y meddy∣liodd Tobit am yr arian a roddasei efe at Gabael yn Rages, [dinas] ym Me∣dia,
2 Ac a ddywedodd wrtho ei hun, mi a ddeisyfiais farw, eithr pa ham nad ydwyf yn galw am Tobias fy mab, fel y galiwyf ‖ 1.379 ei gynghori ef cyn fy marw?
3 Ac wedi [iddo] alw am dano ef y dywedodd, fy mab, pan fyddwyf marw, cladd di fi, ac na ddiystyra dy fam, * 1.380 eithr anrhydedda hi holl ddyddiau dy enioes, a gwna y peth a ryngo bodd iddi, ac na thristâ hi.
4 Cofia, fy mab, ei bod hi mewn llawer o beryglon, tra fuost yn ei bru hi. A phan fyddo hi marw, cladd hi gyd â myfi yn yr vn bedd.
5 Fy mab, meddwl am yr Arglwydd ein Duw ni yn dy holl ddyddiau, ac na ddod dy fryd ar bechu, na thorri ei orchymynion ef. Gwna gyfiawnder tra fyddech byw, ac na rodia yn ffyrdd anwiredd:
6 Canys os dilyni wirionedd, dy holl weithredoedd a lwyddant i ti, ac i bawb a'r a wnêl gyfiawnder. * 1.381
7 * Dod elusen o'r peth a fyddo gennit, ac na chenūgenned dy lygad wrth roddi elu∣sen: ac na thro dy ŵyneb oddi wrth neb tlawd, ac ni thry wyneb Duw oddi wrthit titheu.
8 * 1.382 Fel y byddo gennit yr amlder, dod o ho∣naw elusen, os ychydig fydd gennit, o ychy∣dig nac arswyda roi elusen:
9 Canys [felly] y tryssori i ti dy hûn wobr daionus erbyn dydd yr anghenrhaid.
10 * 1.383 Oblegit elusen a wared rhag angeu, ac a lestair ddyfod i'r tywyllwch.
11 O herwydd cêd ddaionus yw eluse∣ni, i bawb a'r a'i gwnêl, ger bron y Goru∣chaf.
12 Fy mâb, gochel bob * 1.384 godineb, ac yn ben∣naf cymmer wraig o dylwyth dy henafiaid, ac na chymmer estrones, yr hon nid ydyw o lwyth dy dâd: canys plant y Prophwydi ydym ni, Noe, Abraham, Isaac, [ac] Iacob: ein tadau o'r dechreuad, cosia fy mab, iddynt oll briodi gwragedd o'i cenedl eu hûn, a hwy a fuant ddedwydd yn eu plant, a'i hîl a etifedda 'r ddaiar.
13 Ac yr awron fy mab, câr dy frodyr, ac na fydded diystyr gennit yn dy galon, dy dylwyth, meibion a merched dy bobl, i gym∣meryd it wraig o honynt: canys o ddi∣ystyrwch y daw dinistr, a dirfawr gy∣thryfwl: ac o drahusdra y daw prinder a mawr eisieu, o herwydd trahusora yw mam newyn.
14 * 1.385 Nac attal gyd â thi gyflog neb a'r a wnaeth dy waith, eithr tâl iddo yn ebrwydd: ac os gwasanaethi di Dduw, ti a gei daledigaeth: edrych arnat dy hun fy mab, yn dy holl weithredoedd, a bydd ddiesceulus ym mhob tro a wnelych.
15 * 1.386 Y peth sydd gâs gennit dy hûn na wna i arall: nac ŷf win hyd feddwdod, ac na fyn feddwdod gyd â thi i ymdaith.
16 * 1.387 Dod o'th fara i'r newynog, ac o'th ddillad i'r noeth: * 1.388 ac yn ôl dy amlder dôd elusen, ac na fydd lygad-genfigennus wrth roi eluseni.
17 Bydd helaeth o'th fara ar fedd y cyfiawn, ac na ddod [ddim] i'r pechadu∣riaid.
18 Gofyn gyngor i bob vn synhwyrol, ac na wrthod vn cyngor buddiol.
19 Mola 'r Arglwydd dy Dduw bob amser, a deisyf arno vniawni dy ffyrdd, a chwbl o'th lwybrau, a gwneuthur dy am∣canion yn llwyddiannus: canys ni feidr pôb cenhedl roddi cyngor, eithr yr Argl∣wydd ei hun sydd yn rhoddi pob daioni, ac efe a ddarostwng y neb a fynno, fel y mynno: yr awron gan hynny fy mab, cadw i'th gôf fy ngorchymynion, ac na ddileer hwynt o'th feddwl.
20 Ac yn awr yr ydwyf yn dangos it, adel o honofi ddêc talent o arian gyd â Gabael mâb Gabrias, yn Rages [dinas] ym Media.
21 Ac nac ofna, fy mab, o ran ein myned ni mewn tlodi, y mae i ti lawer od ofni di Dduw, a gochelyd pechod, a gwneuthur y peth a fyddo cymmeradwy yn ei olwg ef.
Page [unnumbered]
PEN. V.
1 Tobias ieuangc yn ceisio vn i'w gyfarwyddo ef i Media; ac Angel yn addaw myned gy∣dag ef, 12 ac yn dyŵedyd iddo, mai câr iddo ydoedd. 16 Tobias a'r Angel yn myned ymaith ynghyd, 17 A'i fam yn ddrwg gen∣thi ymadael o'i mab.
YNa yr attebodd Tobias, ac y dywedodd, fy nhâd, y cwbl oll a'r a orchymynnaist i mi, mi a'i gwnaf:
2 Eithr pa fodd y gallaf fi gael yr arian, a minneu heb ei adnabod ef?
3 Yntef a roddes iddo yr scrifen law, ac a ddywedodd wrtho, cais i ti ryw vn, yr hwn, tra fyddwyfi yn y byd, a elo gyd â thy∣di, ac myfi a dalaf gyflog iddo ef, a dôs a derbyn yr arian.
4 Ac efe a aeth i geisio vn [gyd ag ef,] ac a gafodd Raphael, yr hwn oedd Angel.
5 Ac efe n'is gwyddai: ac efe a ddywe∣dodd wrtho, a elli di fyned gyd â mi i Rages? ac a adwaenost ti y lleoedd hynny yn dda?
6 A'r Angel a ddywedodd wrtho, mi a âf gyd â thydi, ac mi a adwaen y ffordd yn dda, canys mi a fum yn aros gyd â'n brawd Gabael.
7 Yna Tobias a ddywedodd wrtho, aros fi oni ddywedwyf i'm tâd.
8 Ac efe a ddywedodd wrtho, dôs, ac na thrîg, ac efe a aeth i mewn, ac a ddywedodd wrth ei dad, wele mi a gefais vn i fyned gyd â mi: yna y dywedodd yntef: galw ef attafi, modd y gallwyf ŵybod o ba lwyth y mae efe, a hefyd a ydyw efe yn ffyddlon i fyned gyd â thi.
9 Ac efe a alwodd arno, ac yntef a ddaeth i mewn, ac yna y cyfarchasant ei gilydd.
10 A Thobit a ddywedodd wrtho, fy mrawd, dangos i mi o ba lwyth a theulu yr wyt yn dyfod.
11 Ac yntef a ddywedodd wrtho, ai llwyth neu deulu yr wyt yn ei geisio? ai cyflog-ddyn i fyned gyd â'th fab? A Thobit a'i hattebodd ef, mi a ewyllysiwn fy mrawd, gael gŵybod dy genedl a'th enw di.
12 Yntef a ddywedodd, Azarias ydwyf fi, fab Ananias fawr, ac o'th frodyr di.
13 Yna y dywedodd Tobit, croeso wrthit, fy mrawd: na ddigia wrthif am i mi geisio gŵybod y llwyth a'r teulu y daethost o ho∣nynt, canys fy mrawd, yr wyti o dylwyth honest a da: o achos mi a adwaen Ananias a Ionathas, meibion Samaias fawr: fel yr oeddem yn myned ynghyd i Ierusalem i addoli, gan ddwyn gyd â ni y cynffrwyth, a degwm cynnydd yr anifeiliaid: hwy ni throseddasant yn amryfusedd ein brodyr ni: yr wyt ti o wreiddyn da, fy mrawd.
14 Ond dywet i mi, pa gyflog a roddaf i ti: a synni di ddracmon beunydd, a chy∣freidiau fel i'm mab fy hun.
15 A hefyd mi a chwanegaf at y cyflog, os dychwelwch drachefn yn iach.
16 Ac felly y cydtunasant. Yna y dywe∣dodd efe wrth Tobias, ymdrwsia i'r daith, a rhwydd-hynt i chwi: ac wedi i'r mab bara∣toi pob peth i'r daith, y dywedodd ei dad wrtho: dôs gyd â'r gŵr hwn, a Duw, yr hwn sydd a'i drigfa yn y nef, a lwyddo eich ffordd chwi, ac eled Angel Duw gyd â chwi. Yna yr aethant ymmaith ill dau, a chi y llangc gyd â hwynt.
17 Eithr Anna ei fam ef a ŵylodd, gan ddywedyd wrth Tobit, pa ham yr anfonaist ymmaith ein mab? ond efe yw ffon ein llaw ni, i fyned i mewn ac allan ger ein bronnau?
18 ‖ 1.389 Na fydd chwannog (i chwanegu) arian at arian, ond bydded fel sorod wrth ein plentyn.
19 O herwydd yr hyn a roddes yr Ar∣glwydd i ni i fyw, hynny [sy] ddigon i ni.
20 A Thobit a ddywedodd wrthi: na chymmer ofal fy chwaer, efe a ddaw yn ei ôl yn iach [lawen,] a'th lygaid ti a'i gwe∣lant ef.
21 Canys yr Angel daionus sydd yn cyd∣ymdaith ag ef, a'i ffordd ef a lwydda, ec efe a ddaw eilchwel yn iach [lawen.]
22 Ac yna hi a beidiodd ag ŵylo.
PEN. VI.
1 Yr Angel yn peri i Tobias gymmeryd afu, a chalon, a bustl pyscodyn; 10 A phriodi Sara merch Raguel; 16 Ac yn dyscu iddo yrru yr yspryd drwg ymaith.
AC fel yr oeddynt yn ymdaith, hwy a ddaethant yn yr hwyr i ymyl afon Tigris, ac a arhosasant yno.
2 A'r llangc a aeth i wared i ymolchi, a physcodyn a neidiodd o'r afon, ac a fynnasei ei lyngcu ef:
3 Eithr yr Angel a ddywedodd wrtho, cymmer afael yn y pyscodyn, a'r llangc a ddaliodd y pyscodyn, ac a'i tynnodd i'r tir.
4 A'r Angel a ddywedodd wrtho, agor y pyscodyn, a chymmer y galon, a'r afu, a'r bustl, a chadw [hwynt] yn ddiesceulus.
5 A'r llangc a wnaeth y modd yr ar∣chasei yr Angel iddo, ac wedi iddynt rostio yr pyscodyn, hwy a'i bwyttasant, ac a ae∣thant rhagddynt ill dau, oni ddaethant yn gyfagos i Ecbatane.
6 A'r llangc a ddywededd wrth yr Ang∣el, fy mrawd Azarias, i ba beth y mae ca∣lon, ac afu, a bustl y pyscodyn yn dda?
7 Yntef a ddywedodd wrtho, am y galon a'r afu, o bydd i gythrael neu yspryd drwg flino neb, rhaid yw gwneuthur mwg o ho∣nynt ger bron y gŵr hwnnw, neu yr wraig honno, ac nis blinir ef mwyach.
8 Ac am y bustl, [da yw] i iro ag ef y dŷn a fyddo a'r huchen ar ei lygaid, ac efe a iacheir.
9 A phan ddaethant yn gyfagos i Rages,
Page [unnumbered]
yr Angel a ddywedodd wrth y llangc;
10 Fy mrawd, heddyw y lletteuwn ni gyd â Raguel, yr hwn sydd gâr i ti, ac y mae iddo ef vnic ferch a elwir Sara: mi a ddywedaf am dani, [sef] am ei rhoddi i ti yn wraig.
11 * 1.390 Canys i ti y mae ei hetifeddiaeth hi yn perthyn, a thydi yn vnic sydd o'i chenedl hi.
12 Ac y mae hi yn llangces lân syn∣hwyrol, yn awr gan hynny gwrando fi, a mi a ymddiddanaf â'i thad hi, a phan ddych∣welom ni o Rages y gwnawn y neithior: o achos mi a wn na all Raguel ei rhoddi hi i neb arall yn ôl cyfraith Moses, heb fod yn euog o angeu, am fod cyfiawn∣der yr etifeddiaeth yn perthyn i ti o flaen neb arall.
13 Yna y dywedodd y llangc wrth yr Angel, fy mrawd Azarias, mi a gly∣wais roi y llangces hon i saith o wŷr, a marw o honynt cymmain vn yn yr ystafell briodas:
14 Ac yr awron myfi yw vnic [blen∣tyn] fy nhad, ac yr ydwyf yn ofni, od awn i mewn [atti hi,] y derfydd am danaf, fel am y rhai o'r blaen, am fod cythrael yn ei charu hi, yr hwn nid yw yn gwneuthur niwed ond i'r rhai sydd yn dyfod atti hi, ac am hynny yr wyf yn ofni rhac fy marw, a dwyn enioes fy nhad a'm mam mewn tristwch iw beddau, canys mab arall nid oes iddynt iw claddu.
15 A'r Angel a ddywedodd wrtho, ond cof genit eiriau dy dâd, pan orchymyn∣nodd i ti gymmeryd gwraig o'th genedl dy hun? ac [felly] yr awron gwrando fy mrawd, a chymmer hi yn wraig i ti, ac nac arswy∣da mo'r cythrael: canys y nôs heno y rho∣ddir hi i ti yn wraig.
16 Eithr pan ddelych i'r stafell briodas, cymmer ‖ far wydos y per-aroglau, a dod beth o galon y pyscodyn, ac o'r afu arnynt, a gwna fwg-darth:
17 A'r yspryd a glyw yr arogl hwnnw, ac a ffŷ ymmaith, ac ni ddychwel byth drach∣efn. Eithr pan ddelych atti hi, codwch eich dau, a gelwch ar y trugarog Dduw, ac efe a'ch gweryd chwi, ac a dosturia wrthych: nac ofna, o herwydd i ti y darparwyd hi o'r dechreuad, a thi a'i gwaredi hi, a hi a ddaw gyd â thi: ac (yn fy nhŷb i) ti a gei blant o honi. A phan glybu Tobias y pe∣thau hyn, efe a rodd ei serch arni, a'i ga∣lon ef a lynodd yn ddirfawr wrthi hi.
PEN. VII.
11 Raguel yn dywedyd i Tobias beth a ddig∣wyddasai iw ferch, 12 Ac yn ei thoi yn briod iddo ef. 17 Ei dwyn hi iw stafell, a hithau yn wylo; 18 A'i mam yn ei chyssuro hi.
A Phan ddaethant i Ecbatane, hwy a aethant i dŷ Raguel: a Sara a gyfarfu à hwynt, ac a gyfarchodd iddynt, a hwythau iddi hitheu, a hi a'i dug hwynt i'r tŷ:
2 Yna y dywedodd Raguel wrth Edna ei wraig, mor debyg yw 'r gŵr ieuangc ymma i'm cefnder Tobit?
3 A Raguel a ofynnodd iddyut, o ba le eich hanyw, fy mrodyr? yna y dywedasant wrtho, o feibion Nephtháli, y rhai sydd gae∣thion yn Ninefe.
4 Yna y dywedodd efe wrthynt, a adwaenoch chwi Tobit ein brawd? a hwythau a attebasant, adwaenom: yna y dywedodd yntef wrthynt, a ydyw efe yn iaeh?
5 A hwy a ddywedasant, y mae efe yn fyw, ac yn iach. A Thobias a ddywedodd, fy nhad i yw efe.
6 Yna Raguel a neidiodd [i fynu,] ac a'i cusanodd ef, ac a ŵylodd,
7 Ac a'i bendithiodd ef, gan ddywe∣dyd wrtho, yr wyt ti yn fab i wr ho∣nest, ac i wr-da: eithr pan glybu efe fy∣ned Tobit yn ddall, tristâu a wnaeth, ac ŵylo.
8 Ac Edna ei wraig, a Sara ei ferch a ŵylasant. Ac [wedi hynny] eu croesawu hwy a wnaethant yn llawen, ac a laddasant fyharen o'r defaid, ac a rodda∣sant ger eu bronnau lawer o seigiau. Yna y dywedodd Tobias wrth Raphael, fy mrawd Azarias, dywed am y pethau hyn∣ny a soniaist am danynt ar y ffordd, fel y gallo yr peth ddyfod i ben.
9 Ac yntef a ddywedodd y chwedl wrth Raguel, a Raguel a ddywedodd wrth Tobias, bwytta ac ŷf, a gwna yn llawen,
10 Gweddus ydyw i ti gael fy merch i yn briod, etto mi a ddangosaf i ti yr gwi∣rionedd.
11 Mi a roddais fy merch yn briod i saith o wŷr, a'r nôs yr aethant i mewn atti, y buant feirw: eithr bydd di yn awr yn llawen: a Thobias a ddywedodd, ni fwytàf fi ddim ymma, nes i ni gytuno, a thyngu iw gilydd.
12 A Raguel a ddywedodd wrtho, cym∣mer ditheu hi o hyn allan yn ôl y gyfraith, canys trás wyt iddi, a hitheu i titheu: a'r trugarog Dduw a'ch llwyddo ‖ 1.391 ym mhob peth.
13 Ac efe a alwodd Sara ei ferch, a hi a ddaeth at ei thad, yna efe a'i cym∣merth hi erbyn ei llaw, ac a'i rhoddes yn wraig i Tobias, gan ddywedyd: wele, cym∣mer hi * 1.392 yn ôl cyfraith Moses, a dwg hi ymmaith at dy dad, ac efe a'i bendithiodd hwynt.
14 Ac wedi iddo alw Edna ei wraig, efe a gymmerth lysr, ac a scrifennodd scrifen o'r ammodau, ac a'i seliodd.
15 Ac yna y dechreuasant fwytta.
16 A Raguel a alwodd Edna ei wraig, ac a ddywedodd wrthi, fy chwaer, trefna stafell arall, a dwg hi i mewn yno.
17 A hi a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a'i dug hi i mewn i'r stafell, a hitheu a ŵylodd, a'i mam a dderbyniodd ddagreu ei merch, ac a ddywedodd wrthi,
Page [unnumbered]
18 Cymmer gyssur fy merch, rhodded Arglwydd nef a daiar i ti lawenydd yn lle yr tristwch ymma: bydd gyssurus fy merch.
PEN. VIII.
3 Tobias yn gyrru 'r yspryd drwg ymmaith yn y modd y dyscasid iddo. 4 Ei wraig ac ynteu yn codi i fynu i weddio. 10 Raguel yn tybied ei farw ef: 15 A chwedi ei gael ef yn fyw, yn moliannu Duw; 19 ac yn gwneuthur neithior.
AC wedi iddynt swpperu, hwy a ddygasant Tobias i mewn atti hi.
2 Yr hwn wrth fyned a feddyliodd am eiriau Rapha∣el, ac a gymmerth ‖ 1.393 farwydos yr arogleu, ac a roddes arnynt galon y pyscodyn a'i afu, ac a wnaeth fŵg [â hwynt.]
3 Pan aroglodd y cythrael yr arogl hwnnw, efe a ffôdd i ‖ 1.394 oruchafion yr Aipht, a'r Angel a'i rhwymodd ef.
4 Ac fel yr oeddynt ill dau wedi eu cau i mewn, Tobias a gyfododd o'i wely, ac a ddywedodd [wrth Sara,] cyfot fy chwaer, a gweodiwn yr Arglwydd, [ar iddo] fod yn drugarog wrthym.
5 Yna y dechreuodd Tobias ddywedyd: Bendigedic wyt ti ô Dduw ein tadau, a bendigaid yw dy Enw sanctaidd gogone∣ddus yn dragywyddol. Bendiged y nefoedd a'th greaduriaid oll dydi.
6 Tydi a wnaethost Adda, ac a roddaist * 1.395 Efa ei wraig yn gymmorth ac yn nerth iddo: o honynt y daeth pob ‖ 1.396 rhyw ddyn: ti a ddywedaist, Nid da bod gwr yn v∣nic, gwnawn iddo gymmorth cyffelyb iddo.
7 Ac yr awron Arglwydd, nid er mwyn godineb yr wyf yn cymmeryd fy chwaer hon, eithr mewn vniawn-fryd: yn druga∣rog gan hynny gwna i ni heneiddio yng∣hyd.
8 A hi a ddywedodd gyd ag ef, Amen.
9 Ac felly y cyscasant ill dau y nôs hon∣no, a phan gyfododd Raguel i fynu, efe a aeth, ac a gloddiodd fedd,
10 Gan ddywedyd, [y mae arnaf ofn] ei farw ef.
11 Ac wedi dyfod Raguel iw dŷ,
12 Efe a ddywedodd wrth Edna ei wraig, anfon vn o'r morwynion i edrych ai byw efe: os amgen, fel y gallom ei gladdu ef heb ŵybod i neb.
13 A'r forwyn a agorodd y drws, ac a aeth i mewn, ac a'i cafodd hwynt ill dau yn cyscu.
14 A phan ddaeth allan, hi a fynegodd iddynt, ei fod efe yn fyw.
15 Yna Raguel a foliannodd Dduw, gan ddywedyd, Bendigedig ydwyt ti ô Dduw à phob duwiol a sanctaidd fendith, bendiged dy Sainct dy di, a'th greaduriaid oll, a chwbl o'th Angelion, a'th etholedigion, molant di byth bythoedd.
16 Bendigedic fych ô Arglwydd, am i ti fy llawenhau i, ac na ddaeth i mi, fel yr oeddwn yn tybied, eithr ti a wnaethost i ni yn ôl dy fawr drugaredd.
17 A bendigedic fyddech am i ti drugar∣hau wrth ddau vnig-anedig: dangos iddynt drugaredd ô Arglwydd: diwedda eu by∣wyd mewn iechyd, gyd â llawenydd a thru∣garedd.
18 Yna yr archodd Raguel iw weifion lenwi 'r bedd.
19 Ac efe a gadwodd y neithior bedwar diwrnod ar ddêc.
20 Canys Raguel cyn cyflawni dyddieu y neithior a ddywedasei wrtho gan dyngu, nad ai efe ymmaith nes darfod cyflawni dyddieu 'r neithior, nid amgen pedwar diwrnod ar ddêc:
21 Ac yna y cai efe hanner ei dda ef, a dychwelyd yn iach at ei dad, ac y cai efe y rhan arall, pan fyddwyf fi a'm gwraig farw.
PEN. IX.
1 Tobias yn anfon yr Angel at Gabael i gyr∣chu 'r arian: 6 A'r Angel yn eu dwyn hwy adref, ac yn dwyn Gabael i'r neithior.
YNa Tobias a alwodd Ra∣phael, ac a ddywedodd wrtho,
2 Fy mrawd Azarias, cym∣mer gyd â thi wâs a dau gamel, a dôs i Rages dinas Media, at Gabael, a chyrch i mi yr arian, a dwg ef i'r neithior.
3 Canys tyngodd Raguel na chawn i ymadel.
4 Eithr y mae fy nhad yn cyfrif y dy∣ddiau, ac os trigaf fi yn hîr, athrist iawn fydd ganddo ef.
5 A Raphael a aeth ymmaith at Gabael, ac a roddes iddo yr scrifen law, ac yntef a ddug godau wedi eu selio, ac a'i rhoddes iddo.
6 A'r boreu y cyfodasant, ac a ddaethant i'r neithior, a ‖ 1.397 Thobias a fendithiodd ei wraig.
PEN. X.
1 Tobit a'i wraig yn hiraethu am eu mab; 7 A'r wraig heb fynnu ei chyssuro gan ei gwr. 10 Raguel yn gollwng Tobias a'i wraig ymmaith, a hanner eu da, 12 ac yn eu bendithio hwy.
AI dad ef Tobit a gyfrifai bob dydd, ac wedi cyflawni dyddiau 'r daith, a hwythau heb ddyfod adref,
2 Yna y dywedodd To∣bit, a siommwyd hwynt? ai marw a wnaeth Gabael, fel nad oes neb i roddi 'r arian iddo?
3 Ac efe a dristaodd yn ddirfawr.
4 A'i wraig a ddywedodd wrtho, darfu am y bachgen: ac am ei fod efe yn aros cyhyd, hi a ddechreuodd alaru am dano gan ddywedyd,
5 Nid oes gennif ofal [am ddim] fy mab, gan i mi dy ollwng di ymmaith, llewyrch fy llygaid i.
Page [unnumbered]
6 Eithr Tobit a ddywedodd wrthi, taw sôn, ac na ofala ddim, y mae efe yn iach lawen.
7 A hitheu a ddywedodd wrtho, taw â sôn, na huda fi, darfu am fy machgen i: a beunydd yr ai hi allan i'r ffordd yr aethent hwy: y dydd ni fwytaei hi mo'r bwyd, a'r nôs ni pheidiei ag ŵylo am Tobias ei mab: [a hyn] nes darfod pedwar diwrnod ar ddêc y neithior, y rhai y tyngasei Raguel y gorfyddei i [Tobias] aros yno. Yna y dywedodd Tobias wrth Raguel, gollwng fi ymmaith, canys nid yw fy nhad a'm mam yn edrych am fy ngweled byth.
8 A'i chwegrwn a ddywedodd wrtho, aros gyd â myfi, ac mi a ddanfonaf rai a ddangoso dy helynt i'th dâd.
9 Eithr Tobias a ddywedodd, nagê ddim, ond gollwng fi at fy nhad.
10 Yna y cyfododd Raguel i fynu, ac a roddes Sara ei wraig iddo, a hanner ei dda, [sef] gweision, ac anifeiliaid, a da bathol.
11 Ac wedi iddo eu bendithio, efe a'i dan∣fonodd ymmaith, gan ddywedyd, ô fy mhlant, Duw nef a'ch llwyddo.
12 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferch, an∣rhydedda dy chwegrwn a'th chwegr, canys hwyntwy bellach sy dâd a mam i ti: gad i mi glywed gair da am danat, ac efe a'i cu∣sanodd hi. Edna hefyd a ddywedodd wrth Tobias, fy anwyl frawd, Arglwydd y nef a'th ddygo drachefn, ac a wnêl i mi weled dy blant ti o'm merch Sara cyn fy marw, fel y llawenychwyf ger bron yr Arglwydd: ac wele, yr ydwyf yn rhoddi fy merch i ti mewn ymddiried: na ofidia hi.
PEN. XI.
5 Mam Tobias yn gweled ei mab yn dyfod: 10 A'i dad yn cyfarfod ag ef wrth y drws, ac yn cael ei olwg: 14 Ac yn moliannu Duw; 17 Ac yn croesawu ei ferch ynghyfraith.
YN ôl hynny yr aeth Tobi∣as ymmaith, gan foliannu Duw, o achos iddo lwyddo ei daith ef, ac efe a fendi∣thiodd Raguel, ac Edna ei wraig. Ac yna efe a gerddodd rhagddo, oni ddae∣thant yn agos i Ninefe.
2 Yna Raphael a ddywedodd wrth To∣bias, ti a ŵyddost fy mrawd, pa fodd y ga∣dewaist dy dad.
3 Brysiwn o flaen dy wraig, a threfnwn y tŷ.
4 A chymmer yn dy law fustl y pysco∣dyn: ac felly yr aethant, a'r cî a'i canlynodd hwynt.
5 Ac Anna oedd yn eistedd, ac yn disg∣wil am ei mab ar y ffordd;
6 Ac a'i adnabu ef yn dyfod, ac a ddy∣wedodd wrth ei dad ef, Wele dy fab di yn dyfod, a'r gŵr a aeth gyd ag ef.
7 Yna y dywedodd Raphael, mi a wn Tobias, yr egyr dy dâd ei lygaid.
8 Am hynny îr di ei lygaid ef â'r bustl, a phan ferwinont, efe a'i rhwbbia hwynt, ac fe syrth yr huchen ymmaith, ac efe a'th wêl di.
9 Yna y rhedodd Anna allan, a hi a syrthiodd ar wddf ei mab, gan ddywedyd wrtho, mi a'th welais fy mab, ac weithi∣an bodlon ydwyf i farw, a hwy a wyla∣sant ill dau.
10 Tobit hefyd a aeth allan tu a'r drws, ac a dramgwyddodd, ond ei fab a redodd atto,
11 Ac a ymaflodd yn ei dad, ac a daene∣llodd beth o'r bustl ar lygaid ei dad, gan ddywedyd, bydd gyssurus fy nhad.
12 Ac wedi iw lygaid ddechreu merwi∣no efe a'i dwys-rwbbiodd hwynt,
13 A'r rhuchen a ddirisclodd ymmaith oddi wrth gilieu ei lygaid ef, ac wedi iddo weled ei fab, efe a syrthiodd ar ei wddf ef,
14 Ac a ŵylodd gan ddywedyd, Bendi∣gedic wyt ô Dduw, a bendigedic yw dy Enw yn dragywydd, a'th holl Angelion sanctaidd sydd fendigedic.
15 Canys ti a'm ffrewyllaist, ac a dostu∣riaist wrthif, wele fi yn gweled fy mab Tobias: yna yr aeth ei fab ef i mewn yn llawen, ac a ddangosodd iw dâd y mawr bethau a ddigwyddasei iddo ym Media.
16 Yna 'r aeth Tobit allan i gyfwrdd â'i waudd hyd ym mhorth Ninefe, gan ymla∣wenhau a moliannu Duw: a rhyfedd oedd gan y rhai oedd yn edrych arno ef yn cer∣dded, ei fod ef yn gweled.
17 A Thobit a gyffesodd yn eu gŵydd hwynt oll, ddarfod i Dduw dosturio wrtho: ac wedi iddo nesau at Sara ei waudd, efe a'i bendithiodd hi gan ddywedyd, croeso wrthit fy merch: bendigaid fyddo Duw, yr hwn a'th ddug di attom ni, a bendigedic fyddo dy dâd a'th fam: a llawenydd oedd ym mysc ei holl frodyr ef, y rhai oedd yn Ninefe.
18 Ac Achiacarus a ddaeth yno, ‖ 1.398 a Nas∣bas ei nai ef fab ei frawd.
19 A neithior Tobias a gadwyd â lla∣wenydd mawr saith niwrnod.
PEN. XII.
5 Tobit yn cynnyg yr hanner i'r Angel am ei boen; 6 Ac yntau yn eu cymmeryd hwy ill dau o'r neilldu, ac yn eu cynghori; 15 Ac yn dywedyd iddynt mai Angel ydoedd: 21 Ac ni welwyd ef mwy.
YNa y galwodd Tobit ei fab Tobias, ac y dywedodd wrtho, edrych fy mab, am ei gyflog i'r gŵr a aeth gyd â thi, a rhaid ydyw ei chwanegu.
2 A Tobias a ddywedodd wrtho, fy nhad, nid colled gennit roi iddo ef hanner yr hyn a ddugym [gyd â mi.]
3 O herwydd efe a'm dug i adref i ti drachefn yn iach, ac a iachâodd fy ngwraig, ac a gyrchodd yr arian, ac a'th iachâodd ditheu hefyd.
Page [unnumbered]
4 A'r henaf-gŵr a ddywedodd, mae yn gyf∣iawn iddo eu cael.
5 Yna y galwodd efe yr Angel, ac addy∣wedodd wrtho, cymmer hanner yr hyn oll a ddygasoch, a dôs yn iach.
6 Eithr efe wedi eu galw hwy ill dau o'r neilltu, addywedodd wrthynt: diolchwch i Dduw, a moliennwch ef, a rhoddwch iddo ef fawr ogoniant, cyffeswch ef yngŵydd pawb o'r rhai byw, am y pethau a wnaeth efe i chwi. Peth daionus yw diolch i'r Ar∣glwydd, a mawrhau ei Enw ef, gan adrodd gweithredoedd Duw yn barchedig: ac na ddiogwch yn ei foliannu ef.
7 Cyfrinach y brenin sydd weddus ei chelu: ond gweithredoedd Duw sy ogone∣ddus en cyhoeddi: gwnewch ddaioni, ac ni'ch goddiwes drwg.
8 Daionus yw gweddi gyd ag ympryd, eluseni, a chyfiawnder: gwell yw ychydig gyd â chyfiawnder, nâ llawer gyd ag ang∣hyfiawnder: gwell yw rhoi elusenau nâ phen-tyrru aur.
9 Canys eluseni a wared rhag angeu, ac a lanhâ bob pechod: y rhai a wnêl elusen a chyfiawnder a gyflawnir â bywyd.
10 Eithr pechaduriaid sy elynion iw by∣wyd eu hunain.
11 Ni chuddiaf ddim rhagoch: mi a ddy∣wedais mai da yw cadw cyfrinach brenin, a gogoneddus dangos gweithredoedd Duw ar gyhoedd.
12 Ac yr awron pan weddiaist di, a'th waudd Sara, myfi a ddugum gof am eich gweddiau ger bron y Sanctaidd: a phan oeddit yn claddu y meirw yr oeddwn i gyd â thi hefyd.
13 A phan nad oedaist godi a gadel dy ginio, i fyned i gladdu 'r [dyn] marw, nid oedd dy weithred dda yn guddiedic rhagof, eithr yr oeddwn gyd â thi.
14 Ac yr awron Duw a'm danfonodd i i'th iachâu di a'th waudd Sara.
15 Myfi yw Raphael, vn o'r saith Angel sanctaidd, y rhai sy yn dwyn i fynu we∣ddiau'r rhai sanctaidd, ac sydd yn tramwy ger bron gogoniant yr hwn sydd sanc∣taidd.
16 Yna y dychrynasant ill dau, a hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, o blegit hwy a ofnasent.
17 Yna y dywedodd efe wrthynt, nac ofnwch, canys bydd tangneddyf i chwi, eithr rhoddwch ddiolch i Dduw.
18 Canys nid o'm caredigrwydd fy hun, eithr drwy ewyllys ein Duw ni, y dae∣thym, am hynny rhoddwch ddiolch iddo ef yn dragywydd.
19 * 1.399 Beunydd yr ymddangosais i chwi, eithr nid oeddwn yn bwytta nac yn yfed, namyn chwi a welech weledigaeth.
20 Ac yr awron moliennwch Dduw, ca∣nys mi a escynnaf at yr hwn a'm danfo∣nodd: eithr scrifennwch yr hyn oll a wnaethpwyd mewn llyfr.
21 Yna y codasant i fynu, ac ni welsant ef mwy?
22 A chyffesu rhyfedd-fawr weithredoedd Duw a wnaethant, a'r modd yr ymddan∣gosasei Angel yr Arglwydd iddynt.
PEN. XIII.
Y diolch i Dduw, a scrifennodd Tobit.
A Thobit a scrifennodd weddi o orfoledd, ac a ddywedodd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn sydd yn byw yn dra∣gywyddol, a bendigedig fy∣ddo ei deyrnas ef:
2 * 1.400 Canys efe sydd yn ffrewyllu, ac yn trugarhau; yn dwyn i vffern, ac yn dwyn i fynu eilchwel: ac nid oes neb a all ddi∣angc o'i law ef.
3 Clodforwch ef, meibion Israel, ger bron y Cenhedloedd, canys efe a'n gwasca∣rodd ni yn eu plith hwynt.
4 Yno mynegwch ei fawredd, a derchef∣wch ef yngŵydd pawb sydd fyw: o her∣wydd efe yw ein Harglwydd ni, a Duw yw ein tad ni byth bythoedd.
5 Ac efe a'n cerydda ni am ein camwe∣ddau, ac a drugarhâ eilchwel, ac a'n cascl ynghyd o fysc yr holl Genhedloedd, ym mhlith y rhai i'n gwascarodd ni.
6 Os dychwelwch atto ef â'ch holl ga∣lon, ac â'ch holl feddwl, a gwneuthur yr vniawn ger ei fron ef, yna y dychwel yn∣tef attoch chwi, ac ni chudd ei wyneb rhagoch, a chwi a gewch weled beth a wna efe i chwi: am hynny cyffesswch ef â'ch holl enau, a moliennwch Arglwydd y gallu, derchefwch Frenin y tragywy∣ddoldeb. Myfi a'i cyffesaf ef yn nhir fy nghaethiwed, ac a fynegaf ei nerth a'i fawredd ef i genhedl bechadurus, trowch bechaduriaid, a gwnewch gyfiawnder ger ei fron ef, pwy a ŵyr ‖ 1.401 a fyn efe chwi, ac a wna efe drugaredd â chwi?
7 Clodforaf fy Nuw, a'm henaid a fawl Frenin y nefoedd, ac a lawenhâ yn ei faw∣redd ef.
8 Llefared pob dyn, a moled yr Argl∣wydd am ei gyfiawnder.
9 O Ierusalem y ddinas sanctaidd, efe ‖ 1.402 a'th ffrewylla di am weithredoedd dy blant, ac efe a dosturia eilchwel wrth fei∣bion y rhai cyfiawn.
10 Molianna yr Arglwydd, oblegid da yw: a bendithia yr Brenin tragywyddol, fel yr adeilader drachefn ei babell ef ynot, mewn llawenydd; a llawenhaed efe dy gae∣thion, a chared ynot y trueniaid yn oes oessoedd:
11 Cenhedloedd lawer a ddeuant o bell at Enw yr Arglwydd Dduw, à rhoddi∣on yn eu dwylaw, a rhoddion i Frenin y nefoedd: yr holl genhedlaethau a'th fo∣liannant ti, ac a roddant roddion gor∣foledd.
12 Melldigedic yw pawb a'th gasaant, a bendigedic yw pawb a'th garant yn dra∣gywydd.
Page [unnumbered]
13 Bydd hyfryd a llawen am blant y rhai cyfiawn, canys hwy a gesclir ynghyd, ac a fendithiant Arglwydd y rhai cyfiawn.
14 Gwyn eu byd y rhai a'th garant di, canys hwy a lawenychant yn dy ‖ 1.403 dangn∣heddyf: gwyn eu byd y rhai a fuant athrist am dy holl ffrewyllau di, canys hwy a fy∣ddant hyfryd o'th blegit, pan welont gwbl o'th ogoniant, ac a lawenychant yn dragy∣wydd.
15 Moled fy enaid Dduw y Brenin mawr.
16 O herwydd Ierusalem a adeiledir â Saphir, ac â Smaragdus, ac â meini gwerth-fawr: dy furiau, a'th ragfuriau, ag aur coeth.
17 A heolydd Ierusalem a balmentir â meini beril, a charbuncl, ac â meini Ophir.
18 A'i heolydd hi oll a lefant Haleluiah, ac a'i molant ef, gan ddywedyd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn a'i derchafodd [hi] yn dragywydd.
PEN. XIV.
3 Tobit yn rhoi addysc iw fab, 18 yn enwe∣dig i ymadael â Nineue. 11 Efe a'i wraig yn marw, a'i claddu hwy. 12 Tobias yn symmud i Ecbatane, 14 ac yn marw yno, wedi clywed dinistr Nineue.
AThobit a ddiweddodd ei gy∣ffes.
2 Ac yr oedd efe amyn dwy trugain o flynyddoedd pan gollodd ei olwg, ac yn ôl ŵyth mlynedd y cafodd cf eilwaith, ac efe a wnaeth elusenau: ac efe ‖ 1.404 a gynnyddodd yn ofn yr Arglwydd Dduw, ac yn ei foli∣ant ef.
3 Ac wedi ei fyned yn hên iawn, efe a alwodd ei fab, a chwe mab ei fab, ac a ddywedodd wrthô: wele fy mab, cymmer dy blant, wele mi a heneiddiais, ac ar ymadaw â'r byd hwn yr ydwyf.
4 Dôs i Media fy mab, o achos yr yd∣wyf yn credu pob peth ar a ddywedodd Ionas y Prophwyd ynghylch Ninefe, y de∣strywir hi, ac y bydd heddwch yn nhir Media yn hytrach dros amser, ac y gwas∣cerir ein brodyr ni ar hŷd y gwledydd, allan o'r tir da, ac y diffeithir Ierusalem, a Theml yr Arglwydd, yr hon sydd ynddi, a ddiffeithir tros amser.
5 A thrachefn y trugarhâ Duw wrth∣ynt, * 1.405 ac a'i dychwel hwynt i'r wlad. Yno yr adeiladant y Deml, nid o fath y gyntaf, oni gyflawner amser yr oes honno. Ac yn ôl hynny y dychwelant o bob man o'i cae∣thiwed, ac a adeiladant Ierusalem yn an∣rhydeddus, a thŷ Dduw a adeiledir ynddi ag adeilad gogoneddus, yn holl oesoedd y byd, modd y dywedodd yr Prophwydi am dani.
6 A'r holl Genhedloedd a wir ddychwe∣lant i ofni yr Arglwydd Dduw, ac a gla∣ddant eu delwau.
7 Yna y bendithia yr holl Genhedloedd yr Arglwydd, a'i bobl ef a gyffesant Dduw, a'r Arglwydd a ddyrchaif ei bobl, a phawb a lawenychant a'r a garant yr Arglwydd Dduw mewn gwirionedd a chysiawnder, gan wneuthur trugaredd â'n brodyr ni.
8 Ac yn awr fy mab, dos ymmaith o Ninefe, o blegit diammeu y daw y pethau a ddywedodd y Prophwyd Ionas i ben.
9 Eithr cadw di yr ddeddf a'r gorchym∣mynion, a bydd elusen-gar a chyfiawn, fel y byddo rhwydd rhagot.
10 Cladd fi yn weddaidd, a'th fam gyd â mi, ac nac arhoswch mwy haiach yn Ni∣nefe. Cofia fy mab beth a wnaeth Aman i Achiacharus, yr hwn a'i magodd ef, y môdd yr arweiniodd efe ef o'r goleuni i'r ty∣wyllwch, ac fel y gobrwyodd efe ef dra∣chefn: ac etto Achiacharus a ddiangodd, eithr efe a gafodd ei haeddedigaeth, ac a ddescynnodd i'r tywyllch. ‖ 1.406 Manasses a wnaeth elusen, ac a ddiangodd o fagl yr angeu a osodasent iddo, eithr Aman a syr∣thiodd i'r fagl, a darfu am dano.
11 Ac yr awron, fy mhlentyn, ystyria beth a wna elusendod, a'r modd y gwared cyf∣iawnder. A phan ddywedodd efe y pethau hyn, ei enaid ef a ballodd yn y gwely: ac yr oedd efe yn gant, ac amyn dwy trugain mlwydd o oed. ‖ 1.407 Ac efe a'i claddodd ef yn anrhydeddus.
12 A phan fu farw Anna ei fam ef, efe a'i claddodd hi gyd â'i dad. Ac aeth Tobias, efe a'i wraig, a'i blant, i Ecbatane, at Ra∣guel ei chwegrwn.
13 Ac efe a heneiddiodd mewn vrddas, ac a gladdodd dad mam ei wraig yn anrhy∣deddus, ac a berchennogodd eu da hwynt, gyd â da Tobit ei dad:
14 Ac a fu farw yn Ecbatane yngwlad Media, pan oedd gant a saith ar hugain o flwyddau o oed.
15 A chyn ei farw, efe a glybu ddinistrio Ninefe, yr hon a ‖ 1.408 ddûg Nabuchodonosor, ac Asserus i gaethiwed: felly efe a laweny∣chodd cyn ei farw am Ninefe.
Page [unnumbered]
❧ IVDETH.
PENNOD. I.
2 Arphaxad yn cadarnhau Ecbatane: 5 A Nabuchodonosor yn rhyfela yn ei erbyn ef: 7 Ac yn ceisio cymmorth; 12 Ac yn bygwth y rhai ni chynnorthwyent ef: 15 Ac yn lladd Arphaxad: 16 Ac yn dychwelyd i Nineue.
YN y ddeuddecfed flwyddyn o deyr∣nasiad Nabucho∣donosor, yr hwn a deyrnasodd yn Ninefe y ddinas fawr, (yn nyddi∣au Arphaxad, yr hwn a deyrnasodd ar y Mediaid yn Ecbatane,
2 Ac a adeila∣dodd yn Ecbabane furiau oddi amgylch, o gerric nâdd, yn dri chufydd o lêd, ac yn chwe chufydd o hŷd, ac a wnaeth vchder y mur o ddêc cufydd a thrugain, a'i dew∣dwr o ddêc cufydd a deugain,
3 A'i thŷrau hi a osododd efe ar ei phyrth hi o gan cufydd, a'i tewdwr yn eu sylfaen o dri vgain cufydd,
4 Ac efe a wnaeth ei phyrth hi yn byrth derchafedic, o ddêc cufydd a thrugain o vchder, a'i llêd yn ddeugain cufydd, yn ffordd iw luoedd galluoc i fyned allan, ac i fyddino ei wŷr traed ef)
5 Ie yn y dyddiau hynny y brenin Na∣buchodonosor a ryfelodd yn erbyn brenin Arphaxad yn y maes mawr, hwn yw 'r maes yn ardaloedd Ragau.
6 Yna holl drigiolion y mynydd-dir, a'r holl rai oedd yn presswylio wrth Euphra∣tes, a Thygris, a Hydaspes, a gwlâd Arioch brenin yr Elymiaid, a ddaethant atto ef: a llawer iawn o genhedloedd o feibion Che∣lod a ymgynnullasant i'r gâd.
7 A Nabuchodonosor brenin yr Assyri∣aid a anfonodd at yr holl rai oedd yn trigo o fewn Persia, a'r holl rai oedd yn trigo yn y gorllewin, ac at y rhai oedd yn press∣wylio yn Cilicia, a Damascus, a Libanus, ac Antilibanus, ac at yr holl rai oedd yn presswylio ar hŷd wyneb y mor-dîr,
8 Ac at y bobloedd y rhai oedd o fewn Carmel, a Galaad, a Galile vchaf, a maes mawr Esdrelom,
9 Ac at yr holl rai oedd yn Samaria a'i dinasoedd; a thu hwnt i'r Iorddonen, hyd Ierusalem, a Betane, a Chelius, a Chades, ac afon yr Aipht, a Thaphnes, a Ramesse, a holl wlâd Gesem,
10 Hyd oni ddelir y tu hwut i Tanis, a Memphis, ac at holl drigolion yr Aipht, oni ddelir i derfynau Ethiopia.
11 Ond holl drigolion y wlâd a ddiysty∣rasant orchymmyn Nabuchodonosor bre∣nin yr Assyriaid, ac ni ddaethant gyd ag ef i'r rhyfel; o herwydd nid ofnasant rhagddo ef: îe yr oedd efe ger eu bron∣nau hwynt megis vn gŵr: am hyn∣ny hwy a anfonasant ymmaith ei gen∣nadau ef oddi wrthynt heb eu neges, drwy ammarch.
12 Am hynny Nabuchodonosor a lidiodd yn erbyn yr holl wlâd hon yn ddirfawr, ac a dyngodd iw deyrn-gader a'i frenhiniaeth, yr ymddialei efe ar holl derfynau Cilicia, a Damascus, a Syria, ac y lladdei efe â'r cleddyf holl bresswyl-wŷr gwlâd Moab, a meibion Ammon, a holl Iudæa, a'r rhai oll oedd yn yr Aipht, hyd oni ddelir i derfynau y ddau-fôr.
13 Yna efe a fyddinodd â'i gryfdwr yn erbyn brenin Arphaxad, yn ddwyfed flwy∣ddyn ar bymthec, ac efe a orchfygodd yn ei ryfel: canys efe a ymchwelodd holl nerth Arphaxad, a'i holl feirch ef, a'i holl gerbydau.
14 Ac efe a ennillodd ei dinasoedd ef, ac a ddaeth hyd Ecbatane, ac a orescyn∣nodd y tyrau, ac a anrheithiodd ei heo∣lydd hi, ac a osododd ei harddwch hi yn wradwydd.
15 Ac efe a ddaliodd Arphaxad ym my∣nyddoedd Ragau, ac a'i tarawodd trwyddo â'i biccellau, ac a'i destrywiodd ef yn llwyr y dwthwn hwnnw.
16 Felly efe a ddychwelodd i Ninefe, efe a'i holl fintei o amryw genhedloedd, yn dyrfa fawr iawn o ryfel-wŷr, ac efe a fu yno yn segura, ac yn gwledda, efe ai lu, dros gant ac vgain o ddiwrnodiau.
PEN. II.
4 Gwneuthur Oloffernes yn bennaeth ar y llu, 11 A gorchymmyn iddo nad arbedai neb a'r nid ymroei. 15 Ei lu ef, a'i arlwy. 23 Ylleoedd a ynnillodd, ac a ddifrododd efe wrth fyned.
AC yn y ddeunawfed flwyddyn, yr ail [dydd] ar hugain o'r mîs cyntaf, yr oedd y gair yn nhŷ Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid, yr ymddialei efe ar yr holl ddaiar fel y dywedasei efe.
Page [unnumbered]
2 Felly efe a alwodd atto ei holl weision, a'i holl bendefigion, ac a ymddiddanod â hwynt ynghylch ei gyfrinach ddirgel ef: ac a ‖ 1.409 osododd ger eu bron hwynt, a'i enau ei hun, holl ddrygioni y ddaiar.
3 Yna hwy a gytunasant ddifetha pôb cnawd a'r na chanlynasei orchymmyn ei enau ef.
4 A phan orphennodd efe ei gyfrinach, Nabuchodonosor brenin yr Assyriaid a al∣wodd am Olophernes tywysog ei filwri∣aeth, yr hwn oedd ail ar ei ol ef, ac a ddy∣wedodd wrtho,
5 Fel hyn y dywed y brenin mawr, ar∣glwydd yr holl doniar; wele, dôs ym∣maith o'm gwydd 〈◊〉〈◊〉, a chymmer gyd â thi wŷr yn ymocicied yn eu nerth eu hu∣nain, o wŷr traed, cant ac vgain mîl, a rhifedi y meirch a'i marchogion, deuddeng∣mîl:
6 A dôs yn erbyn holl wlâd y gorlle∣win, o herwydd hwy a anufyddhasant i'm∣gorchymmyn i.
7 A thi a fynegi iddynt, am baratoi o honynt hwy i mi y ‖ 1.410 ddaiar, a'r dwfr: ca∣nys myfi a àf allan yn fy llid yn eu herbyn hwynt, ac a orchguddiaf holl wyneb y ddaiar â thraed fy llû, ac mi a'i rhoddaf hwynt yn sclyfaeth iddynt,
8 Fel y llanwo eu rhai archolledig hwy eu dyffrynnoedd, a'i hafonydd hwynt, a'i lli∣feiriant a lifa trosodd, wedi eu llenwi â'i celaneddau hwynt.
9 A mi a'i dygaf hwynt yn gaethion i eithafoedd yr holl ddaiar.
10 Gan hynny dôs ymmaith, a gorescyn i mi eu holl derfynau hwynt: ac os ym∣roddant i ti, ti a'i cedwi hwynt i mi, hyd ddydd eu cospedigaeth.
11 Ond am y rhai anufydd, nac arbeded dy lygad hwynt, eithr dyro hwynt i far∣wolaeth, ac yn yspall ‖ 1.411 drwy dy holl dîr di.
12 Canys fel yr yd wyfi yn fyw, ac myn gallu fy mrenhiniaeth, beth bynnac a ddy∣wedais, myfi a'i cwplaf â'm liaw.
13 Na throssedda ditheu yr vn o orchy∣mynion dy arglwydd, eithr cwplâ hwynt yn llwyr, fel y gorchymynnais i ti, ac nac eeda eu gwneuthur hwynt.
14 Yna Olophernes a aeth allan o ŵydd ei arglwydd, ac a alwodd am yr holl ben∣naethiaid, a thywysogion, a swyddog: on llû Assur.
15 Ac efe a gyfrifodd y gwŷr etholedig i ryfel, fel y gorchymynnasei ei arglwydd iddo ef, hyd yn gant [ac] vgain mil, a deu∣ddeng-mîl o saethyddion ar feirch.
16 Ac efe a'i gosododd hwynt mewn trefn, fel y mae yr arfer o osod llû mawr mewn trefn,
17 Ac efe a gymmerth fintai fawr iawn o gamelod, ac assynnod i [ddwyn] eu bei∣chiau hwynt, a defaid, ac ychen, a geifr yn llyniaeth iddynt, ar y rhai nid oedd rifedi:
18 Ac ymborth i bôb gŵr o'r fyddin, a lla∣wer iawn o aur, ac arian, alian o dŷ yr brenin.
19 Yna yr aeth efe a'r holl lu i ffordd, fel yr aent hwy o flaen brenin Nabuchodo∣nosor, ac y gorchguddient holl ŵyneb y ddaiar tua 'r gorllewin, â'i cerbydau, ac â'i gwŷr meirch, ac â'i gwŷr traed etholedig.
20 A llawer o ‖ 1.412 gymmysc-ddynion a ddaeth∣antgyd â hwynt, fel y ceiliogod rhedyn, ac fel tywod y ddaiar: canys nid oedd rifedi arnynt rhag maint oedd o honynt.
21 A hwy a aethant o Ninete daith tri diwrnod, tua gwastadedd Bectileth, ac a werssyllasant oddi wrth Bectileth, yn gy∣fagos i'r mynydd sydd ar y llaw asswy i Cilicia vchaf.
22 Yna efe a gymmerth ei holl lu, ei wyr traed, a'i wŷr meirch, a'r cerbydau, ac a aeth oddi yno i'r mynydd-dîr,
23 Ac a ddinistriodd Phud, a Lud, ac a anrheithiodd holl feibion Rasses, a mei∣bion Ismael, y rhai oedd tua 'r anialwch, o du yr deau i wlâd y Cheliaid.
24 Yna efe a aeth tros Euphrates, ac a aeth trwy Mesopotamia, ac a ddinistriodd yr holl ddinasoedd vchel, y rhai oedd ar afon Arbonai, hyd oni ddeuir i'r môr:
25 Ac efe a orescynnodd derfynau Cili∣cia, ac a ddestry wiodd yr holl rai a'i gwrth∣wynebent ef, ac efe a ddaeth i ardaloedd Iapheth, y rhai oedd tua 'r deau, ar gyfer Arabia.
26 Efe amgylchodd hefyd holl feibion Madian, ac a loscodd eu pebyll hwynt, ac a anrheithiodd eu lluestai hwynt.
27 Yna efe a aeth i wared i wastadedd Damascus, yn nyddiau cynhaiaf y gwe∣nith, ac a loscodd eu holl feusydd hwynt, ac a ddifethodd eu defaid, a'i gwartheg hwynt, ac efe a anrheithiodd eu dinasoedd hwynt: ac a lwyr yspeiliodd eu gwledydd, ac a laddodd eu holl wyr ieuaingc hwynt â min y cleddyf.
28 Am hynny ofn a dychryn a syrthiodd ar holl drigolion y mor dir, y rhai oedd yn Sidon, ac yn Tyrus, ac yn trigo yn Sur, ac Ocina, a'r holl rai oedd yn presswylio yn Iemnaan: a phresswyl-wŷr Azotus, ac Ascalon a ofnasant rhagddo ef yn ddirfawr.
PEN. III.
Yr arfor-wyr yn eiriol am heddwch, 7 Ac yn derbyn Olophernes; 8 Ac ynteu yn di∣nistrio eu duwiau hwy, fel y byddei iddynt addoli Nabuchodonosor yn vnig. 9 Y mae efe yn dyfod yn agos i Iudæa.
FFelly hwy a anfona∣sant gennadau, â gei∣riau heddychlon atto ef, gan ddywedyd,
2 Wele, ni gweision Nabuchodonosor y bre∣nin mawr ydym yn ‖ 1.413 se∣fyll yn dy wydd di, gwna i ni fel y gwelych yn dda.
3 Wele ein rai ni, a'n holl leoedd, a'n holl feusydd gwenith, a'n defaid, a'n gwartheg, a'n holl luestai, a'n pebyll, yn sefyll o'th flaen di: gwna iddynt fel y gwelych di yn dda.
Page [unnumbered]
4 Wele hefyd ein dinasoedd ni a'r rhai sy yn trigo ynddynt sydd yn weision i ti, ty∣ret a gwna â hwynt, fel y gwelech di'n dda.
5 Felly y gwŷr a ddaethant at Olopher∣nes, ac a fynegasant wrtho ef yn ôl y geiriau hyn.
6 Yna efe a ddaeth i wared tua 'r mor-dîr, efe a'i lu, ac a osododd geidwaid yn y dina∣soedd vchel, ac a gymmerth allan o honynt wŷr etholedig yn gynhorthwy [iddo.]
7 Felly hwynt hwy, a'r holl-wlâd o am∣gylch a'i croesawasant ef à choronau, à dawnsiau, ac â thympanau.
8 Er hynny efe a ddifwynodd eu holl frôydd hwynt, ac a dorroddd i lawr eu llwy∣nau hwynt: canys efe a roddasei ei frŷd ar ddinistrio holl dduwiau y tîr, fel yr addolei yr holl genhedloedd Nabuchodonosor yn vnic, ac y galwei pôb tafod a llwyth arno ef megis ar Dduw.
9 Ac efe a ddaeth ar gyfer ‖ 1.414 Esdraelon, yn gyfagos at ‖ 1.415 Dothea, gyferbyn a'r ‖ 1.416 gyfyng hir i Iudæa.
10 Ac efe a wersyllodd rhwng Geba, a ‖ 1.417 dinas y Scythiaid, ac efe a fu yno fis o ddyddiau; fel y casclei efe holl lwythau ei lu.
PEN IIII.
1 Yr Iuddewon yn ofni Olophernes: 4 Ac yn cadarnhau 'r mynyddoedd: 6 Gwyr Bethu∣lia yn cymmeryd arnynt gadw'r bylchau; 9 A holl Israel yn ymprydio, ac yn gweddio.
PAn glybu meibion Israel, y rhai oedd yn presswylio yn Iudæa, yr hyn oll a wnae∣thei Olophernes tywysog llu Nabuchodonosor brenin yr As∣syriaid i'r Cenhedloedd, ac fel yr anrheithia∣sei efe eu holl demlau hwynt, ac y destry∣wiasei efe hwynt,
2 Yna hwy a ofnasant yn ddirfawr rhag∣ddo ei, ac a drallodwyd o herwydd Ierusa∣lem, ac o herwydd Teml yr Arglwydd eu Duw,
3 Canys newydd ddyfod i fynu oeddynt hwy or caethiwed, ac yn ddiweddar yr ym∣gasclasei ‖ 1.418 holl bobl Iudæa, ac y sanctei∣ddiasid y llestri, a'r tŷ, ar ol yr halogedig∣aeth.
4 Am hynny hwy a anfonasant i holl ardaloedd Samaria, a'r pen-trefydd, ac i Bethoron, a Belmen, a Iericho, ac i Choba, ac Esora, ac i ddyffryn Salem,
5 Ac o'r blaen a gymmerasant bennau y mynyddoedd vchel, ac a furiasant y pen∣trefydd oedd ynddynt, ac a osodasant [yn∣ddynt] lyniaeth yn ymborth erbyn rhyfel: canys yn ddiweddar y medasid eu meusydd hwynt.
6 Ioacim hefyd yr Arch-offeiriad, yr hwn ydoedd yn y dyddiau hynny, a scrifennodd at y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a Be∣tomestham, yr hon sydd ar gyfer ‖ 1.419 Esorae∣lon, gyferbyn a'r ‖ 1.420 maes amlwg, yr hwn sydd yn gyfagos i Dothaim,
7 Gan ddywedyd [wrthynt] am gadw bylchau y mynydd-dir: canys drwyddynt hwy yr ydoedd dyfodfa i Iudæa, ac yr ydoedd yn hawdd eu lluddias hwynt i ddyfod yno, o herwydd y bwlch ydoedd gyfyng i ddau wr ‖ 1.421 o'r mwyaf.
8 A meibion Israel a wnaethant fel y gorchymynnasei Ioacim yr Arch-offeiriad iddynt, a ‖ 1.422 Henuriaid holl bobl Israel, y rhai oedd yn trigo yn Ierusalem.
9 Yna holl wŷr Israel a waeddasant ar Dduw yn ddifrifol iawn, ac a ostyngasant eu heneidiau drwy ddyfalrwydd mawr.
10 Hwynt hwy, a'i gwragedd, à'i plant, â'i hanifeiliaid: a phôb dieithr, a gwâs cy∣flog, a gweision pryn, a osodasant sach-liain am eu lwynau.
11 Fel hyn pôb gŵr a gwraig, a'r plant, a thrigolion Ierusalem, a syrthiasant o flaen y Deml, ac a danasant ludw ar eu pennau, ac a ledasant eu sach-liain ger bron wyneb yr Arglwydd: a hwy a wiscasant yr allor á sach-liain,
12 A hwy a waeddasant ar Dduw Is∣rael i gyd oll o vn frŷd yn ddyfal, ar na roddei efe eu plant hwy yn ysclyfaeth, a'i gwragedd hwy yn anrhaith, a dinasoedd eu hetifeddiaethau hwynt yn ddestryw: a'r Cyssegr yn halogedigaeth, ac yn wrad∣wydd, ac yn watwargerdd gan y Cenhed∣loedd.
13 Felly Duw a wrandawodd ar eu gweddi hwynt, ac a'i gwaredodd hwynt o'i blinder: canys y bobl a ymprydiasant ddyddiau lawer drwy holl Iudæa, a Ie∣rusalem, o flaen Cyssegr yr Arglwydd Holl∣alluoc.
14 A Ioacim yr Arch-offeiriad, a'r holl Offeiriaid, y rhai oedd yn sefyll ger bron yr Arglwydd, a'r rhai oedd yn gweini i'r Arglwydd, oedd wedi gwregysu eu lwy∣nau â sach-liain, ac yn offrymmu poeth offrwm gwastadol, ac addunedau, ac offrym∣mau gwirfodd y bobl, ac yr oedd lludw ar eu meitrau hwynt.
15 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd â'i holl nerth, ar iddo ef ymweled yn rasol â holl dŷ Israel.
PEN. V.
5 Achior yn dywedyd i Olophernes beth yw'r Iuddewon; 8 A pheth a wnaethai eu Duw erddynt: 12 Ac yn cynghori nad ymyrrid arnynt hwy: 22 A phawb o'r a'i clywsant yn anfodlon iddo.
YNa y mynegwyd i Olopher∣nes tywysog milwriaeth yr Assyriaid ddarfod i feibion Is∣rael ymbaratoi i ryfel, a chau o honynt hwy fylchau y my∣nydd-dir, a murio holl goppa y mynydd∣oedd vchel, a gosod rhwystrau yn y meusydd:
2 Am hynny efe a ddigiodd yn ddirfawr, ac a alwodd am holl dywysogion Moab, a chapteniaid Ammon, a holl lywodraeth∣wŷr y mor-dîr:
Page [unnumbered]
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, myneg∣wch i mi, chwi feibion Canaan, pwy ydyw y bobl hyn sy yn presswylio yn y my∣nydd-dir? a pheth yw y dinasoedd y maent yn trigo ynddynt? a pha faint sydd yn eu llu hwynt? ac ym mha beth y mae eu cadernid a'i nerth hwynt? a pha frenin sydd arnynt, neu dywysog ar eu llu hwynt?
4 A pha ham y rhoesant eu brŷd na ddeu∣ent i'm cyfarfod i, yn amgenach nâ holl drigiolion y gorllewin?
5 Yna y dywedodd * 1.423 Achior tywysog holl feibion Ammon, gwrandawed fy ar∣glwydd air o enau dy wâs, ac myfi a fyne∣gaf i ti y gwirionedd am y bobl hyn sydd yn presswylio yn y mynydd-dir, yn gy∣fagos i'r lle yr wyt ti yn cyfanneddu: ac ni ddaw celwydd allan o enau dy wàs.
6 Y bobl hyn sy o hiliogaeth y Calde∣aid,
7 * 1.424 Ac a fuant gynt yn trigo ym Meso∣potamia, o herwydd na fynnent ganlyn du∣wiau eu tadau, y rhai oedd yngwlâd Cal∣dea.
8 A hwy a aethant allan o ffordd eu rhieni, ac a addolasant Dduw y nefoedd, y Duw yr hwn a adwaenent: felly hwythau a'i bwriasant hwy o ŵydd eu duwiau, a hwythau a ffoesant i Mesopotamia, ac a wladychasant yno ddyddiau lawer.
9 * 1.425 Yna eu Duw hwynt a orchymyn∣nodd iddynt ymado o'r lle yr oeddynt yn aros ynddo, a myned i wlàd Canaan, ac yno y trigasant, ac y cynnyddasant o aur, ac arian, ac o anifeiliaid lawer iawn.
10 Pan orchguddiasei newyn holl wlâd Canaan, yna hwy a aethant i wared i'r Aipht, ac a arhosasant yno, hyd oni ddych∣welasant, a hwy a wnaed yno yn dyrfa fawr, fel nad oedd rifedi ar eu hiliogaeth hwynt.
11 Am hynny brenin yr Aipht a gyfo∣dodd yn eu herbyn hwynt, ac a wnaeth yn ddichellgar â hwynt, ac a'i darostyngodd hwynt drwy lafur, a phridd-feini, ac a'i * 1.426 gwnaeth hwynt yn gaeth-weision,
12 Yna hwy a lefasant ar eu Duw, ac efe a darawodd holl wlâd yr Aipht â phla∣au, y rhai ni ellid eu hiachau; felly yr * 1.427 Aiphtiaid a'i bwriasant hwy allan o'i golwg.
13 * 1.428 A Duw a sychodd y môr côch o'i blaen hwynt.
14 * Ac a'i dug hwy i ‖ 1.429 fynydd Sina, a Chades Barne, ac a fwriodd ymmaith yr holl rai oedd yn trigo yn yr anial∣wch.
15 A hwy a bresswyliasant wlâd yr Amo∣riaid, ac a ddestrywiasant drwy eu cryfder y rhai oll o Esebon, a chan fyned tros yr Iorddonen hwy a etifeddasant yr holl fy∣nydd-dir.
16 A hwy a * 1.430 yrrasant ymmaith o'i blaen hwynt y Canaaneaid, a'r Phereziaid, a'r Iebusiaid, a'r Sychemiaid, a'r holl Ger∣gesiaid, ac a bresswyliasant yno ddyddiau lawer.
17 A thra fuant hwy heb pechu ger bron eu Duw, hwy a lwyddasant, o herwydd y Duw, yr hwn sydd yn cassàu anwiredd, oedd gyd â hwynt.
18 * 1.431 Ond pan giliasant hwy o'r ffordd a osodasei efe iddynt, hwy a ddistrywiwyd drwy ryfeloedd lawer iawn tros ben, * 1.432 ac a gaeth-gludwyd i wlâd nid oedd eiddynt hwy; a Theml eu Duw hwynt a fwriwyd i lawr, a'i dinasoedd hwynt a ennillwyd gan y gelynion.
19 * 1.433 Ac yn awr y dychwelasant at eu Duw, ac y daethant i fynu o'r wascarfa lle y gwascarasid hwynt, ac y meddianna∣sant Ierusalem, lle y mae eu cyssegr hwynt, ac y trigasant yn y mynydd-dir, canys anghyfannedd fu.
20 Yn awr gan hynny, [fy] llywydd [a'm] harglwydd, od oes amryfusedd yn y bobl hyn, ac o phechasant yn erbyn eu Duw, ystyriwn mai hyn fydd yn rhwystr iddynt, ac awn i fynu, a gorescynnwn hwynt:
21 Eithr onid oes anwiredd yn eu ce∣nedl hwynt: eled fy arglwydd heibio, rhag iw Harglwydd eu hamddiffyn hwynt, as iw Duw fod trostynt, ac i ninneu fod yn wradwydd yngolwg yr holl fyd.
22 A phan orphēnodd Achior y geiriau hyn, yr holl bobl oedd yn sefyll o amgylch y ba∣bell a furmurasant: a phendefigion Olopher∣nes, a'r rhai oll oedd yn presswylio y mor∣dîr, a Moab, a ddywedasant am ei ladd ef.
23 Canys [eb hwynt,] nid ofnwn ni rhag wynebau meibion Israel: o herwydd, wele, pobl ydynt hwy heb na nerth na chader∣nid yn erbyn llu mawr.
24 Am hynny awn i fynu, a hwy a fy∣ddant yn fwyd i'th lu di, ô arglwydd Olo∣phernes.
PEN. VI.
1 Olophernes yn diystyru Duw; 7 Ac yn bygwth Achior, ac yn ei yrru ymaith: 14 Y Bethuliaid yn ei dderbyn ef, ac yn gwrandaw arno: 18 Yn gweddio, ac yn cyssuro Achior.
A Phan ddistawodd twr∣wf y gwŷr oedd o am∣gylch yr eisteddfod, yna Olophernes tywysog llu yr Assyriaid a ddy∣wedodd wrth Achior a'r Moabiaid oll, ger bron yr holl bobl ddieithr,
2 A phwy wyd ti Achior, a chyflogedi∣gion Ephraim, fel y prophwydaist yn ein mysc ni fel heddyw, ac y dywedaist, ar na ryfelom ni â phobl Israel, am yr ymddeffyn eu Duw hwynt? a phwy sydd Dduw onid Nabuchodonosor?
3 Efe a enfyn ei nerth, ac a'i difetha hwynt oddi ar wyneb y ddaiar, ac ni wareda eu Duw hwynt: eithr nyni ei weision ef a'i distrywiwn hwynt fel vn gŵr: canys ni allan hwy sefyll tan nerth ein meirch ni.
4 Nyni a'i sathrwn hwy â hwynt, a'i mynyddoedd hwynt a feddwir â'i gwaed,
Page [unnumbered]
a'i meusydd a lenwir â'i celaneddau hwy, ôl eu traed ni allant sefyll o'n blaen: eithr llwyr ddifethir hwynt, medd y brenin Na∣buchodonosor, arglwydd yr holl ddaiar, ca∣nys efe a ddywedodd, ni bydd vn o'm geiri∣au i yn ofer.
5 A thitheu Achior, cyflog-was Ammon, yr hwn a leferaist y geiriau hyn yn nydd dy anwiredd, ni chei weled mwyach fy wy∣neb i o heddyw allan, hyd oni ddialwyf ar y genedl hon a ddaeth o'r Aipht.
6 Yna ‖ 1.434 haiarn fy llu i, a lliaws fy ngwei∣sion a â trwy dy ystlysau di, a thi a syrthi ym mhlith eu lladdedigion hwynt, pan ddychwelwyf.
7 A'm gweision i a'th ddygant di i'r my∣nydd-dir, a hwy a'th osodant di yn vn ‖ 1.435 o'r dinasoedd vchel.
8 Ac ni ddifethir di, nes dy ddifetha gyd â hwynt.
9 Ac od wyt ti yn gadael ar dy galon na ddelir hwynt, na syrthied dy wyneb-pryd: myfi a'i lleferais, ac ni bydd vn o'm geiriau yn ofer.
10 Yna Olophernes a orchymynnodd iw weision, y rhai oedd yn sefyll yn ei babell ef, ddala Achior, a'i ddwyn ef i Bethulia, a'i roddi ef yn nwylo meibion Israel.
11 Felly ei weision ef a'i daliasant, ac a'i dygasant ef allan o'r gwerssyll i'r gwasta∣dedd, ac a aethant o ganol y gwastadedd i'r mynydd-dir, ac a ddaethant at y ffynhon∣nau sydd tan Bethulia.
12 A phan welodd gwŷr y ddinas hwynt, hwy a godasant eu harfeu, ac a aethant allan o'r ddinas, i ben y bryn, a phob gŵr a'r a oedd yn ergydio mewn tafl-ffon a'i llu∣ddiodd hwynt rhag dyfod i fynu, ac a dafla∣sant gerric iw herbyn hwynt.
13 Yna hwy a aethant tan y bryn, ac a rwymasant Achior, ac a'i taflasant i lawr, ac a'i gadawsant ef wrth droed y bryn, ac a aethant at eu harglwydd.
14 Yna meibion Israel a ddaethant i wared o'i dinas, ac a ddaethant atto ef, ac a'i gollyngasant yn rhydd, ac a'i dygasant i Bethulia, ac a'i gosodasant ger bron llywo∣draethwyr eu dinas.
15 Y rhai oedd yn y dyddiau hynny, Ozi∣as mâb Micha, o lwyth Simeon, a Cha∣bris mâb Gothoniel, a Charmis mâb Mel∣chiel.
16 A hwy a alwasant ynghyd holl henu∣riaid y ddinas, a'i holl wŷr ieuaingc hwy, a'i gwragedd a redasant ynghyd i'r gyman∣fa; a hwy a osodasant Achior ynghanol eu pobl, yna Ozias a ofynnodd iddo ef yr hyn a ddigwyddasei.
17 Ac efe a attebodd, ac a fynegodd iddynt eiriau cyngor Olophernes, a'r holl eiriau a lefarasei efe ym mysc tywysogion Assur, a'r pethau oll a ddywedasei Olophernes yn rhyfygus yn erbyn tŷ Israel.
18 Yna y bobl a syrthiasant i lawr, ac a addolasant Dduw, ac a waeddasant ar Dduw, gan ddywedyd,
19 O Arglwydd Dduw y nefoedd, edrych ar eu balchder hwy, a thrugarhâ wrth waeledd ein cenedl ni, ac edrych ar wyneb y rhai a sancteiddiwyd i ti y dydd hwn.
20 Yna hwy a gyssurasant Achior, ac a'i canmolasant ef yn ddirfawr.
21 Ac Ozias a'i cymmerth ef o'r gynnu∣lleidfa iw dŷ, ac a wnaeth wledd i'r Henu∣riaid: a hwy a alwasant ar Dduw Israel yn gynhorthwy [iddynt] ar hŷd y nôs honno.
PEN. VII.
1 Olophernes yn gwarchae ar Bethulia, 7 ac yn attal y dwfr oddiwrthynt, 22 Hwythau yn llescâu, ac yn murmur yn erbyn eu llywodr∣aeth-wyr; 30 A hwythau yn addaw ymroi ym mhen y pum nhiwrnod.
A Thrannoeth Olophernes a orchymynnodd iw holl lu, ac iw holl bobl, y rhai a ddae∣thent yn gynhorthwy iddo ef, symmud eu gwerssyllau yn er∣byn Bethulia, ac o'r blaen orescyn ‖ 1.436 bylchau y mynydd-dir, a gwneuthur rhyfel yn er∣byn meibion Israel.
2 Yna eu gwŷr cryfion hwynt a symmu∣dasant eu gwerssyllau y dwthwn hwnnw, a llu y rhyfel-wŷr oedd gan mil a deng mil a thrugain o wŷr traed, a deuddeng-mil o wŷr meirch, heb law pobl gymmysc, a gwŷr eraill, y rhai oedd ar eu traed yn eu plith hwynt, yn dyrfa fawr iawn.
3 A hwy a werssyllasant yn y dyffryn, yn gyfagos i Bethulia, wrth y ffynnon: ac a gyrhaeddasant ar lêd ‖ 1.437 o Dothaim hyd Bel∣maim, ac ar hŷd o Bethulia i ‖ 1.438 Cyamon, yr hon sydd a gyfer Esdraelom.
4 A phan welodd meibion Israel eu lliaws hwynt, hwy a gyffroesant yn aruthr, a phob vn a ddywedodd wrth ei gilydd, yn awr y rhai hyn a orescynnant ŵyneb yr holl ddaiar: canys ni ddichon y mynyddoedd vchel, na'r dyffrynnoedd, na'r bryniau gyn∣nal eu pwys hwynt.
5 Yna pob vn a gymmerth ei arfau rhy∣fel, ac a gynneuasant dân ar eu tyrau, ac a arhosasant yn gwilied ar hŷd y nos honno.
6 Ac ar yr all dydd, Olophernes a ddug allan ei holl wŷr meirch▪ yngolwg meibion Israel, y rhai oedd yn Bethulia.
7 Ac efe a ddaliodd sulw ar y ffordd yr elid i fynu iw dinas hwynt, ac efe a ddaeth at eu ffynhonnau dyfroedd hwy, ac a'i gorescyn∣nodd hwynt, ac a osododd fyddinoedd o ry∣fel-wŷr arnynt hwy, ac a symmudodd ei werssyll tu ag at ei bobl.
8 Yna holl dywysogion meibion Esau, a holl bennaethiaid pobl Moab, a holl gap∣teniaid y môr-dîr, a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant,
9 Gwrandawed ein harglwydd air yn awr, rhag dyfod afrwydd-deb yndy ludi.
10 Canys y bobl hyn, meibion Israel, nid ydynt yn ymddiried yn eu gwayw-ffyn, eithr yn vchder y mynyddoedd, lle y maent hwy yn presswylio, oblegit anhawdd yw myned i fynu i bennau eu mynyddoedd hwy.
Page [unnumbered]
11 Yn awr gan hynny fy Arglwydd, nac ymladd â hwynt mewn rhyfel byddinoc, ac ni dderfydd am vn gwr o'th bobl di:
12 Aros yn dy werssyllau, gan gadw pob gŵr o'th lu, a gorescynned dy weision di y ffynnon ddwfr sydd yn dyfod allan o odre y mynydd:
13 Canys oddi yno y mae holl drigiolion Bethulia yn cael eu dwfr: felly syched a'i lladd hwynt, a hwy a roddant i fynu eu dinas; a ninnau a'n pobl a awn i fynu i bennau y mynyddoedd nessaf, ac a werssyll∣wn yn eu herbyn hwynt, drwy wilied nad elo vn gŵr allan o'r ddinas.
14 Felly hwynt hwy a'i gwragedd, a'i meibion a drengant o newyn; a chyn dy∣fod y cleddyf yn eu herbyn hwynt, hwy a ddymchwelir yn yr heolydd lle y maent yn trigo.
15 Fel hyn y teli di iddynt hwy daledig∣aeth ddrygionus, o herwydd iddynt hwy wrthryfela, ac nad vfyddhasant i'th ŵyneb di yn heddychol.
16 A'i geiriau hwynt a fu fodlon gan Olophernes, a chan ei holl weision: ac efe a orchymynnodd wneuthur megis y llefa∣rasent hwy.
17 Felly gwerssyllau meibion Ammon a ymadawsant, a chyd â hwynt bum mil o'r Assyriaid, a hwy a werssyllasani yn y dy∣ffryn, ac a orescynnasant y dyfroedd, a ffyn∣honnau dwfr meibion Israel.
18 A meibion Esau a aethant i fynu gyd â meibion Ammon, ac a werssyllasant yn y mynydd dir ar gyfer Dothaim, a hwy a anfonasant rai o honynt tua 'r dehau, a thua 'r dwyrain, gyferbyn a Ecrebel, yr hon sydd yn gyfagos i Chusi, yr hon sydd ar afon Mochmur; a'r rhan arall o lu yr Assyriaid a werssyllasant yn y maes, ac a orchguddiasant holl ŵyneb y wlad; a'i pebyll hwynt, a'i mud, a werssyllasant yn lliaws mawr iawn.
19 A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd eu Duw, canys hwy a ddiga∣lonnase••••, o herwydd bod eu holl elynion o amgylch, fel na allent ffoi o'i plith hwynt.
20 A holl gynnulleidfa yr Assyriaid, a'r gwŷr traed, a'r cerbydau, a'i gwŷr meirch, a drigasant o'i hamgylch hwynt, bedwar diwrnod ar ddêc ar hugain, fel y pallodd eu holl lestri dyfroedd gan holl drigolion Bethulia.
21 A'r ‖ 1.439 ffynhonnellau a ddiyspyddwyd, ac nid oedd ganddynt ddigon o ddwfr iw yfed dros vn diwrnod: canys tan fesur y rhoddent iddynt [ddwfr] iw yfed.
22 Am hynny eu plant hwy a lesmeiri∣asant, a'i gwragedd a'i gwŷr ieuaingc a ballasant gan syched, ac a syrthia∣sant yn heolydd y ddinas, ac ynghynni∣werfeydd y pyrth: ac nid oedd nerth yn∣ddynt mwyach.
23 Yna yr holl bobl a ymgasclasant at Ozias, ac at dywysogion y ddinas, yn wŷr ieuaingc, ac yn wragedd, ac yn blant, ac a waeddasant â llef vchel, ac a ddywedasant ger bron yr holl Henuriaid,
24 * 1.440 Duw a farno rhyngom ni a chwi; canys chwi a wnaethoch gam mawr â ni, am na lefarasoch yn heddychlon wrth fei∣bion Assyria.
25 Canys yn awr nid oes gennym ni gynnorthwywr, eithr Duw a'n gwerthodd ni iw dwylo hwynt, fel i'n cwymper ni i lawr o'i blaen hwynt drwy syched, a thrwy ddinystr mawr.
26 Yn awr gan hynny gelwch hwynt attoch, a rhoddwch yr holl ddinas yn anrhaith i bobl Olophernes, ac iw holl lu ef.
27 Canys gwell i ni fod yn anrhaith iddynt hwy, nâ marw o syched: oblegit ni a fyddwn yn weision, fel y byddo byw ein henioes, ac na welom farwolaeth ein plant o flaen ein llygaid, na'n gwragedd a'n mei∣bion yn meirw.
28 Yr ydym yn galw yn dŷst yn eich er∣byn chwi y nef a'r ddaiar, a'n Duw ni, ac Arglwydd ein tadau, yr hwn sydd yn dial arnom ni yn ôl ein pechodau, a phechodau ein tadau, ‖ 1.441 fel na wnelo efe fel hyn y dydd heddyw.
29 Yna yr oedd ŵylofain mawr yngha∣nol y gynnulleidfa gan bawb yn gydtûn: felly hwy a waeddasant ar yr Arglwydd Dduw â llef vchel.
30 Yna y dywedodd Ozias wrthynt hwy, cymmerwch gyssur frodyr, disgwiliwn etto bum nhiwrnod, yn y rhai y dichon yr Ar∣glwydd ein Duw ni ddychwelyd ei druga∣redd arnom; canys o'r diwedd ni wrthyd efe mo honom ni.
31 Ac od â y dyddiau hyn heibio, heb ddyfod cynnorthwy i ni, mi a wnaf yn ôl eich gair chwi.
32 Felly efe a wascarodd y bobl iw gwerssyllau, a hwy a aethant ymmaith i'r muroedd, ac i dyrau eu dinas, ac a anfona∣sant eu gwragedd a'i plant iw tai: a hwy a fuant mewn gostyngiad mawr yn y ddinas.
PEN. VIII.
1 Cyflwr ac ymarweddiad Iudeth y wraig weddw. 12 Y mae hi yn beio ar y llywo∣draethwyr am addaw ymroi; 17 Ac yn eu cynghori hwynt i roi eu goglud ar Dduw. 28 Hwythau yn escusodi eu haddewid: 32 A hithau yn addo gwneuthur rhywbeth trostynt hwy.
AC yn y dyddiau hynny Iu∣deth a glybu [hyn,] a hi ydoedd ferch Merari, fab Ox, fab Ioseph, fab Oziel, fab Elcia, fab Ananias, fab Gedeon, fab Raphaim, fab Acitho, fab Eliu, fab Eliab, fab Nathanael, fab ‖ 1.442 Samael, fab Salasadai, fab Israel.
2 A Manasses oedd ei gŵr hi, o'r vn
Page [unnumbered]
llwyth a gwaedoliaeth â hi: ac efe a fua∣sei farw yn nyddiau y cynhaiaf haidd.
3 Canys yr oedd efe yn ddyfal yn gwilied y rhai oedd yn rhwymo yscubau yn y maes, a'r gwrês a ddaeth ar ei ben ef, fel y syrthiodd ef ar ei wely, ac efe a fu farw yn mnas Bethulia, a hwy a'i claddasant ef gyd â'i dadau, yn y maes sydd rhwng Do∣thaim a Balamo.
4 A Iudeth oedd yn ei thŷ ei hun yn we∣ddw dair blynedd, a phedwar mîs.
5 A hi a wnaeth iddi babell yn y fan vchaf o'i thŷ, ac a osododd sach-len am ei lwynau, a dillad ei gweddwdod oedd am deni hi.
6 A hi a ymprydiodd holl ddyddiau ei gweddwdod, oddieithr y dydd cyn y Sab∣bothau, a'r Sabbothau, a'r dydd cyn y newydd-loerau, a'r newydd-loerau, a'r gŵy∣liau, ac vchel-ddyddiau tŷ Israel.
7 Ac yr oedd hi yn deg ei gwedd, ac yn lân iawn yr olwg: a Manasses ei gŵr hi a adawsei iddi aur, ac arian, a gweision, a morwynion, ac anifeiliaid, a meusydd, ‖ 1.443 lle yr oedd hi yn aros.
8 Ac nid oedd neb a'r a allei ddwyn dryg∣air yn ei herbyn hi, canys yr ydoedd hi yn ofni Duw yn fawr.
9 Pan glybu hi eiriau drygionus y bobl yn erbyn y tywysog, am eu bod hwy yn llescâu gan brinder dyfroedd, (canys Iudeth a glywsei yr holl eiriau a le∣farasei Ozias wrthynt hwy, * 1.444 fel y tyngasei efe wrthynt hwy y rhoddid y ddinas ym mhen y pum nhiwrnod i'r Assyriaid.)
10 Yna hi a anfonodd ei llaw-forwyn, yr hon oedd yn llywodraethu ei holl olud hi, i alw am Ozias, a Chabris, a Charmis, Henuriaid ei dinas:
11 A hwy a ddaethant atti hi, a hitheu a ddywedodd wrthynt, gwrandewch yn awr arnafi, tywysogion y rhai sydd yn presswylio Bethulia; canys nid iawn eich geiriau chwi, y rhai a leiarasoch ger bron y bobl heddyw, o ran y llw hwn a osodasoch, ac a draethasoch rhwng Duw a ‖ 1.445 ninnau, pan ddywedasoch y rhoddech y ddinas i'n gelynion, oni ddychwelei yr Argl∣wydd i'n cynnorthwyo ni o fewn y [dyddiau] hyn.
12 Ac yn awr pwy ydych chwi, y rhai a demptiasoch Dduw y dydd heddyw? ac a'ch gosodasoch eich hunam yn lle Duw, ym mysc meibion dynion?
13 Ac yn awr ‖ 1.446 yr ydych chwi yn ceisio yr Arglwydd Holl-alluoc: ond ni chewch wy∣bod dim byth:
14 Canys ni fedrwch gael allan ddyfn∣der calon dŷn, na deall y pethau y byddo efe yn eu meddwl, pa fodd wrth hynny y chwi∣liwch chwi allan Dduw, yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn? ac y gwybyddwch ei feddwl ef? ac y medrwch ddeall ei amcani∣on ef? Nid felly frodyr, na ddigllonwch yr Arglwydd ein Duw ni.
15 Canys oni fynn efe ein cynnorthwyo ni o fewn pum nhiwrnod, y mae ganddo ef allu i'n hamddiffyn ni pan fynno, a phob dydd, neu i'n dinistrio ni o flaen ein gelynion.
16 Am hynny na rwymwch gynghorion yr Arglwydd ein Duw ni, ‖ 1.447 canys nid fel dŷn y mae Duw, fel y galler ei fyg∣wth ef, ac nid fel mab dŷn, ‖ 1.448 fel y galler ei farnu ef.
17 Gan hynny disgwiliwn iechydwri∣aeth oddi wrtho ef, galwn arno ef i'n cyn∣northwyo ni, ac efe a wrendy ar ein llef ni, os gwel efe yn dda:
18 Canys ni chyfododd yn ein hoesoedd ni, ac nid oes y dydd heddyw, na llwyth, na theulu, na ‖ 1.449 phobl, na dinas o honom ni, a'r sy yn addoli duwiau a wneir â dwylo, megis y bu yn y dyddiau gynt.
19 Herwydd pam y rhoddwyd * 1.450 ein tadau ni i'r cleddyf, ac yn anrhaith, fel y syrthiasant drwy gwymp mawr, o flaen ein gelynion.
20 Ond nid adwaenom ni Dduw arall, am hynny yr ydym ni yn gobeithio na ddirmyga efe mo honom ni, na [neb] o'n hi∣liogaeth.
21 Canys os delir nyni felly, Iudea a anghyfanneddir, a'n Cyssegr ni a ancher∣thir, ac efe a gais ei halogedigaeth hi o'n genau ni.
22 ‖ 1.451 A lladdfa ein brodyr ni, a chaethiwed y wlad, a diffaethwch ein etifeddiaeth, a ddychwel efe ar ein pennau ni ym mysc y Cenhedloedd, pa le bynnac y gwasanae∣thom ni, ac ni a fyddwn yn gas-beth, ac yn wradwydd yngolwg y rhai a'n meddian∣nant:
23 Canys ni arweinir ein caethiwed ni mewn hawddgarwch; eithr drwy warth y gesyd yr Arglwydd ein Duw ni hi.
24 Yn awr gan hynny ô frodyr, dan∣goswn [esampl] i'n brodyr, o herwydd ar∣nom ni y mae eu calon hwynt, a'r Cysiegr, a'r tŷ, a'r allor sy a'i phwys arnom ni:
25 Heb law hyn oll, diolchwn i'r Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn ein profi ni, megis [y profodd efe] ein tadau ni.
26 Cofiwch yr hyn a wnaeth efe ag * 1.452 A∣braham, a pha fodd y profodd efe Isaac, a'r hyn a wnaed * 1.453 i Iacob ym Mesopotamia Syria, pan ydoedd efe yn bugeilio defaid Laban brawd ei fam.
27 Canys ni phrofodd efe ni yn y tân, fel hwynt hwy, er prawf ar eu calonnau hwynt, ac ni ddialodd arnom ni, eithr yr Ar∣glwydd sydd yn ceryddu y rhai sydd yn nessau atto ef, er mwyn eu rhybuddio.
28 Yna Ozias a ddywedodd wrthi hi, â chalon dda y lleferaist yr hyn oll a ddywe∣daist: ac nid oes a ddichon wrthwynebu dy eiriau di,
29 O herwydd nid heddyw yr eglurwyd dy ddoethineb di, eithr er dechreu dy ddyddi∣au di y gwybu yr holl bobl dy ddoethineb di, canys da yw amcan dy galon di.
30 Ond y bobl oedd yn fawr iawn ei syched. ac a'n cymhellasant ni i wneuthur iddynt fel y llefarasom, ac i ddwyn
Page [unnumbered]
arnom lŵ, yr hwn ni throsseddwn.
31 Am hynny gweddia di yn awr tro∣som ni, o achos mai gwraig grefyddol yd∣wyt ti, a'r Arglwydd a enfyn law i lenwi ein ffynhonellau ni, fel na lescaom mwy∣ach.
32 Yna y dywedodd Iudeth wrth∣ynt hwy, gwrandewch arnafi, ac mi a wnaf beth y byddo sôn am dano drwy yr hell oesoedd gan feibion ein cen∣hedl ni.
33 Sefwch chwi yn y porth y nôs hon, ac myfi a âf allan mi a'm llaw-forwyn: ac o fewn y dyddiau, yn y rhai y dywedasoch y rhoddech chwi y ddinas i'n gelynion ni, yr Arglwydd a ymwel ag Israel drwy fy llaw i.
34 Ond na cheisiwch chwi morr ymo∣fyn am fy ngweithred i, canys ni fynegafi i chwi, nes gorphen yr hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.
35 Yna Ozias a'r tywysogion a ddy∣wedasant wrthi hi, dôs mewn heddwch, a'r Arglwydd Dduw a fyddo o'th flaen di, er dialedd ar ein gelynion.
36 Felly hwy a ddychwelasant o'r babell, ac a aethant ymmaith at eu byddinoedd.
PEN. IX.
1 Iudeth yn ymostwng, 2 ac yn gweddio ar Dduw, ar iddo lwyddo ei hamcan hi yn er∣byn gelynion ei Gyssegr.
YNa Iudeth a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a osododd ludw ar ei phen, ac a ddioscodd y sachliain, â'r hwn yr oedd hi wedi ymwisco; ac ynghylch yr amser yr offrymmwyd yr ardgldarth yn Ierusalem, o fewn tŷ yr Arglwydd, y yrydnawn-gwaith hwnnw, yna Iudeth a waeddodd â llef vchel, ac a ddywedodd:
2 O Arglwydd Dduw fy nhâd * 1.454 Si∣meon, i'r hwn y rhoddaist gleddyf i ddial ar y dieithriaid, y rhai a agorasant grôth y forwyn drwy halogedigaeth, ac a noetha∣sant y morddwyd drwy wradwydd, ac a halogasant forwyndod drwy warth, (canys tydi a archesit na wneid felly, ac etto hwy a wnaethant felly.)
3 O herwydd paham y rhoddaist ti eu tywysogion hwynt i'r lladd-fa, a hwy wedi eu twyllo a olchasant eu gwe∣ly drwy waed, a thitheu a darewaist y gweision gyd â'r pennaethiaid, a'r pen∣naethiaid ar eu gorseddfeydd;
4 Ac a roddaist eu gwragedd hwynt yn ysclyfaeth, a'i merched mewn cae∣thiwed, a'i holl anrhaith hwynt yn gy∣fran i feibion cu gennit: y rhai oedd yn gressynu o'th ressyndod ti, ac yn ffi∣aidd ganddynt halogedigaeth eu gwaed, ac a alwasant arnat ti yn gynnorthwy∣wr; ô Dduw, ô fy Nuw, gwrando arnafi [yr hon sydd] weddw.
5 Canys ti a wnaethost, nid yn vnig y pethau hynny, eithr hefyd y pethau a ddigwyddodd o'r blaen, a'r rhai a fyddant rhac llaw, a thi a feddyliaist am y pethau presennol, a'r pethau a ddeuant rhac llaw.
6 A'r pethau yr wyt ti yn eu hamcanu sydd bresennol, ac yn dywedyd, wele ni ymma: o herwydd dy holl ffyrdd di sy barod, a'th farnedigaethau yn [dy] ragwy∣bodaeth.
7 Wele yr Assyriaid wedi amlhau drwy eu nerth, ymdderchafasant yn eu meirch a'i marchogion, ymogoneddasant yng∣hadernid y gwŷr traed, ymddiriedasant i'r darian, ac i'r bŵa, ac i'r dafl-ffon, ac nid ydynt yn gwybod mai tydi ô Arglwydd, sydd yn torri y rhyfeloedd: yr Arglwydd yw dy Enw.
8 Rhwyga di eu cadernid hwynt â'th nerth; a dryllia eu cryfder hwynt â'th ddigllonedd: canys y maent hwy wedi bwriadu halogi dy Gyssegr, a difwyno y Tabernacl lle y mae dy Enw gogoneddus yn gorphywys, a bwrw i lawr ag arfau gyrn dy allor di.
9 Edrych ar eu balchder hwynt, anfon dy ddigofaint ar eu pennau hwynt: dôd yn fy llaw i, yr hon ydwyf weddw, y nerth a feddyliais i.
10 * 1.455 Taro di drwy ddichell fy ngwesusau, y gwâs gyd â'r tywysog, a'r tywysog gyd â'i wâs, torr di eu huchder hwynt drwy law benyw.
11 * 1.456 Canys nid yw dy nerth di mewn lliaws, na'th allu yn y rhai cedyrn: eithr tydi wyt Arglwydd y rhai gostynge∣dic, a chynnorthwy-wr y rhai bychain, amddiffyn-wr y gweniaid, ymgeledd-wr y rhai gwrthodedic, achub-wr y rhai an∣obeithiol.
12 ‖ 1.457 Yn ddiammeu [ti yw] Duw fy nhad i, a Duw etifeddiaeth Israel, lly∣wiawdur nefoedd a daiar, creawdur y dyfroedd, brenin pob creadur, gwrando fy ngweddi,
13 A channiadhâ i'm ymadrodd, a'm di∣chell i, fod yn archoll, ac yn anaf yn eu her∣byn hwy, y rhai sydd yn amcanu pethau sceler yn erbyn dy dystiolaeth di, a'th dŷ sanctaidd, a choppa Sion, a thŷ meddiant dy feibion;
14 A gwna i bob cenedl a llwyth gydnabod, mai tydi yw Duw pob ga∣llu, a chadernid, ac nad oes neb arall yn amddiffyn-wr i genhedl Israel, ond tydi.
PEN. X.
3 Iudeth yn ymdrwsio. 10 Y hi a'i morwyn yn myned allan i'r gwersyll. 17 Y gwil-wyr yn ei dal hi, ac yn ei dwyn at Olophernes.
A Phan ddarfu iddi hi weiddi ar Dduw Israel, a gorphen yr holl eiriau hyn,
Page [unnumbered]
2 Hi a gyfododd o'r fan y syrthiasai, ac a alwodd ei llaw-forwyn, ac a aeth i wared i'r tŷ, yn yr hwn yr oedd hi yn aros tros ddyddiau y Sabbothau, a thros ei gŵyliau:
3 A hi a fwriodd ymmaith y sach-liain â'r hwn yr ydoedd hi wedi ymwisco, ac a ddios∣codd ddillad ei gweddwdod, ac a olchodd ei holl gorph trosto â dwfr: ac a ymeneini∣odd ag enaint gwerthfawr, ac a osododd wallt ei phen mewn trefn, ac a roddodd feitr arno, ac a wiscodd, ‖ 1.458 ei dillad parche∣dic, y rhai y byddei hi arferol o'i gwisco ym myw ei gŵr Manasses.
4 A hi a gymmerodd sandalau am ei thraed, ac a wiscodd fraichledau, a chadwy∣ni, a modrwyau, a chlust-dlysau, a'i holl ‖ 1.459 deganau, ac a ymbingciodd yn wŷch iawn, i hudo llygaid pa wŷr bynnac a'i gwe∣lent hi.
5 Yna hi a roddodd iw llaw-forwyn go∣streleid o win, ac ysteneid o olew, ac a lan∣wodd gŵd o ‖ 1.460 beillieid, ac o ffigys, ac o fara ‖ 1.461 pellieid, a hi a ‖ 1.462 ddyblygodd ei holl lestri hyn ynghyd, ac a'i gosododd arni.
6 A hwy a aethant ynghyd i borth dinas Bethulia, ac a gawsant Ozias, a Henuri∣aid y ddinas, Chabris, a Charmis yn sefyll wrtho.
7 A phan welsant hwy hi; a bod ei hwy∣nebpryd hi wedi ei newid, a'i dillad wedi eu newid, hwynt hwy a rŷfeddasant yn ddir∣fawr o herwydd ei glendid hi, ac a ddywe∣dasant wrthi,
8 Duw, Duw ein tadau a roddo i ti râs, ac a gwblhao dy amcanion, i ogoniant meibion Israel, a derchafiad Ierusalem: yna hwy a addolasant Dduw.
9 A hi a ddywedodd wrthynt, gorchy∣mynnwch agoryd i mi borth y ddinas, fel yr elwyf allan i gyflawni y ‖ 1.463 geiriau a le∣farasoch chwi wrthifi: felly hwy a orchy∣mynnasant i'r llangciau agori iddi, megis ac y dywedasei hi: a hwythau a wnaethant felly.
10 Yna yr aeth Iudeth allan, hi a'i llaw∣forwyn gyd â hi, a gwŷr y ddinas a edry∣chasant ar ei hôl, nes iddi ddescyn o'r my∣nydd, a myned trwy 'r dyffryn, ac ni allent wedi hynny ei gweled hi.
11 A hwy a aethant ar hyd y dyffryn yn vniawn, a gwiliadwriaeth gyntaf yr Assy∣riaid a gyfarfu â hi;
12 Ac a'i daliasant hi, ac a ofynnasant iddi, o ba bobl yr wyt ti; ac o bale yr wyti yn dyfod; ac i ba le yr wyti yn my∣ned? a hi a ddywedodd, merch ydwyf o'r Hebræaid, a ffoi yr ydwyf oddi wrthynt hwy; canys hwy a roddir yn ysclyfaeth i chwi:
13 Ac yr ydwyfi yn dyfod ger bron Olophernes pen tywysog eich llu chwi, fel y mynegwyf eiriau gwir, ac y dan∣goswyf ger ei fron ef y ffordd yr â efe, ac y gorescyn yr holl fynydd-dir, ac ni dderfydd am gorph, nac enioes vn o'i wŷr ef.
14 Pan glybu y gwŷr ei geiriau hi, hwy a ddaliasant sulw ar ei hwyneb-pryd hi, ac yr oedd hi yn lan-deg odiaeth ger eu bron hwynt, a hwy a ddywedasant wrthi hi.
15 Tydi a gedwaist dy enioes, gan i ti ddy∣fod i wared ar frŷs ger bron ein harglwydd ni: yn awr gan hynny tyred at ei babell ef, a [rhyw rai] o honom a'th arweiniant di, nes iddynt hwy dy roddi di yn ei law ef.
16 A phan sefych di ger ei fron ef, nac ofna yn dy galon, eithr mynega yn ôl dy ymadroddion, ac efe a wna yn dda i ti?
17 Yna hwy a etholasant gan-ŵr o ho∣nynt, ac a baratoesant gerbyd iddi hi, ac iw llaw-forwyn, a hwy a'i dygasant hi i ba∣bell Olophernes.
18 Yna yr oedd rhedegfein drwy 'r holl werssyll, canys ei dyfodiad hi a aeth yn gyhoedd yn y pebyll, a hwy a ddaethant ac a safasant o'i hamgylch hi, canys yr oedd hi yn sefyll o'r tu allan i babell Olo∣phernes, nes iddynt hwy fynegi iddo ef o'i herwydd hi.
19 A hwy a ryfeddasant o herwydd ei glendid hi, ac a ryfeddasaut o'i herwydd hi wrth feibion Israel, a dywedodd pob vn wrth ei gilydd, pwy a ddirmygei y bobl hyn, sy a'r fath wragedd yn eu mysc? diau nid yw dda adel vn gŵr o honynt, canys pe gadewid hwynt, hwy a allent dwyllo yr holl ddaiar.
20 A'r rhai oedd yn cyscu yn agos at O∣lophernes a aethant allan, a'i holl weision ef, ac a'i dygasant hi i'r babell.
21 Ac Olophernes oedd yn gorphywys ar ei wely mewn canopi, yr hwn ydoedd wedi ei weu o borphor, ac aur, a smarag∣dus, a meini gwerth-fawr.
22 A hwy a fynegasant iddo ef o'i phle∣git hi, ac efe a aeth allan i'r cyntedd o flaen ei babell, a lusernau arian yn myned o'i flaen ef.
23 A phan ddaeth Iudeth ger ei fron ef, a'i weision, hwynt oll a ryfeddasant o herwydd glendid ei hwyneb-pryd hi, hi∣thau gan syrthio ar ei hwyneb a ymgrym∣modd iddo, a'i weision ef a'i codasant hi i fynu.
PEN. XI.
1 Olophernes yn gofyn i Iudeth yr achos o'i dyfodiad; 6 A hithau yn dywedyd iddo hynny, a pha fodd a pha bryd y gall efe orchfygu: 20 Yntau yn hoffi ei doethineb a'i glendid hi.
YNa Olophernes a ddywe∣dodd wrthi hi, cymmer gyssur wraig, nac ofna yn dy galon, canys ni wneuthum i niwed i neb a fynnei wasanaethu Nabuchodonosor brenin yr holl ddaiar.
2 Ac yn awr dy bobl di, y rhai sydd yn aros yn y mynyddoedd, oni buasei iddynt
Page [unnumbered]
hwy fy nirmygu, ni dderchafaswn fy ngwaywffon yn eu herbyn hwynt: ond hwy a wnaethant hyn iddynt eu hunain.
3 Ond yn awr dywed i mi pa ham y ffoaist ti oddi wrthynt hwy, ac y daethost at∣tom ni? canys ti a ddaethost i ddiogelwch, cymmer gyssur, byw fyddi di y nôs hon, a rhac llaw:
4 Canys nid oes [neb] a wna niwed i ti, ond a wnêl yn dda i ti, megis ac y gwneir i weision fy arglwydd frenin Na∣buchodonosor.
5 Yna Iudeth a ddywedodd wrtho ef, derbyn eiriau dy wasanaeth-ferch, a gâd i'th lawfor wyn lefaru ger dy fron di, ac ni fyneg∣af gelwydd i'm harglwydd y nôs hon.
6 Ac os tydi a ganlyni eiriau dy law-for∣wyn, Duw a wna yn gwbl y peth trwot ti, ac ni phalla fy arglwydd o'i amcanion.
7 Fel y mae Nabuchodonosor brenin yr holl ddaiar yn fyw, ac mai byw ei nerth ef, yr hwn a'th anfonodd di i vniawni pob enaid; nid yn vnic dynion a'i gwasanaethant ef drwot ti, eithr bwyst-filod y maes, a'r scrubliaid, ac ehediaid y nefoedd, a fyddant byw trwy dy nerth di, tan Nabuchodonosor a'i holl dŷ ef.
8 Canys ni a glywsom [sôn] am dy ddoe∣thineb di, a chyfrwystra dy galon, ac fe a fy∣negwyd drwy 'r holl daiar, dy fod ti yn vnic yn ‖ 1.464 rhagorol drwy yr holl deyrnas, ac yn alluoc mewn gwybodaeth, ac yn rhyfedd ynghyfarwyddyd rhyfel.
9 Ac yn awr am y peth a lefarodd Achior yn dy eisteddfod ti, nyni a glywsom ei yma∣droddion ef: canys gwŷr Bethulia a'i ‖ 1.465 da∣liasant ef, ac efe a fynegodd iddynt yr hyn oll a lefarasei efe wrthit ti?
10 Am hynny ô arglwydd lywiawdr, na ddiystyra ei air ef, ond gosod ef at dy galon, canys gwîr yw; o herwydd nid oes dial iw gymmeryd yn erbyn ein cenedl ni, ac ni ddichon y cleddyf eu gorchfygu hwynt, oddi eithr iddynt hwy bechu yn erbyn eu Duw.
11 Ac yn awr rhac bod fy arglwydd yn ddiobaith, a methu ganddo yr hyn a amca∣nodd, marwolaeth a syrthiodd arnynt hwy, a phechod a'i daliodd hwynt, drwy yr hwn y diglionant eu Duw, pa bryd bynnag y gwnelent anweddeidd-dra.
12 O blegit iw llyniaeth hwynt ddarfod, ac iw dwfr hwynt brinhau, hwy a ym∣gynghorasant ar ruthro i'r anifeiliaid, ac y maent ar fedr gwastraffu yr hyn oll a wa∣harddodd Duw iddynt hwy trwy ei gy∣fraith ei fwytta.
13 Ac y maent ar fedr treulio blaen∣ffrwyth yr ŷd, a degwm y gwîn, a'r olew, y rhai a gadwasant yn sanctaidd i'r offeiriaid sydd yn sefyll yn Ierusalem ger bron ein Duw ni: y rhai ni pherthyn i neb o'r bobl gyffwrdd â hwynt â'i dwylo.
14 Hefyd hwy a anfonafant i Ierusalem, o herwydd y rhai sy yn trigo yno a wnaeth∣ant felly, rai i ddwyn iddynt hwy gennad o'r seneddr:
15 A phan ddygont hwy air iddynt, yna hwy a wnant [felly, a] hwy a roddir i ti iw dinistrio y dwthwn hwnnw.
16 Am hynny myfi dy wasanaeth-ferch yn gwybod hyn oll, a ffoais o'i gŵydd hwynt: a Duw a'm hanfonodd i wneuthur â thi y cyfryw bethau ac y rhyfedda yr holl fyd, [a'r] sawl a'i clywant oll.
17 Canys dy wasanaeth-ferch sydd gre∣fyddol, ac yn addoli Duw nef ddydd a nôs; ac yn awr gâd i mi aros gyd â thi fy argl∣wydd, a'th wasanaeth-ferch â y nôs allan i'r dyffryn, ac mi a weddiaf Dduw, ac efe a fynega i mi pa brŷd y gwnaethant hwy eu pechodau?
18 A minneu a ddeuaf [ac] a'i mynegaf i ti, fel yr elych ditheu allan â'th holl lu, ac ni bydd neb o honynt hwy a allo dy wrthwy∣nebu di.
19 Ac mi a'th arweiniaf di drwy ganol Iudea, nes i ti ddyfod o flaen Ierusalem, ac mi a osodaf dy eisteddfa di yn ei chanol hi, a thi a'i hymlidi hwynt fel defaid heb fugail, ac ni chyfarth ci â'i dafod i'th erbyn: canys hyn a ddywetpwyd i mi drwy fy rhac-wy∣bodaeth, ac a fynegwyd i mi, a myfi a an∣fonwyd i fynegi i ti.
20 A'i geiriau hi a ryglyddasant fodd O∣lophernes, a'i holl weision ef; a hwy a ryfe∣ddasant o herwydd ei doethineb hi, ac a ddywedasant,
21 Nid oes mor fath wraig o brŷd a gwedd, a doeth ymadrodd, o gwrr bwygilydd i'r ddaiar.
22 Ac Olophernes a ddywedodd wrthi hi, da y gwnaeth Duw, yr hwn a'th anfonodd di o flaen y bobl, fel y byddei nerth yn ein dwylo ni, a destryw ar y rhai a ddirmygant fy arglwydd.
23 Ac yn awr yr wyt ti yn lan-deg yr olwg, ac yn ddoeth yn dy ymadrodd, os tydi a wnei megis y lleferaist, dy Dduw di fydd yn Dduw i mi, a thi a gei aros yn nhŷ Nabu∣chodonosor y brenin: ac a fyddi yn enwoc drwy yr holl ddaiar.
PEN. XII.
2 Iudeth heb fwytta o fwyd Olophernes: 7 Ac yn aros yn y gwersyll dri diwrnod, a phob nôs yn myned allan i weddio. 13 Bagoas yn dywedyd wrth Iudeth am fod yn llawen gyd ag Olophernes, 20 ac yntau, o wir lawenydd am ei chael hi atto, yn yfed llawer.
YNa efe a orchymynnodd ei dwyn hi i mewn lle yr oedd ei dryssorau ef yng∣hadw, ac a archodd hulio bwrdd iddi hi o'i fwydydd ei hun, ac o'i wîn i yfed.
2 A Iudeth a ddywedodd, * 1.466 ni fwy∣tâfi o honynt, rhac bod camwedd: eithr o'r pethau hyn a ddaeth gyd â mi y bydd [fy] nhraul.
3 Yna Olophernes a ddywedodd wrthi, os derfydd y pethau sydd gyd â thi, o ba le y gallwn ni roddi eu cyffelyb hwynt i ti? ca∣nys nid oes gyd â ni [neb] o'th genedl di.
Page [unnumbered]
4 A Iudeth a ddywedodd wrtho ef, fel y mae dy enaid ti yn fyw fy Arglwydd, ni threulia dy wasanaeth-ferch yr hyn sydd gyd â mi, hyd oni wnèl yr Arglwydd trwy fy llaw i yr hyn y rhoddodd efe ei frŷd arno.
5 Yna gweision Olophernes a'i dyga∣sant hi i'r babell, a hi a gyscodd hyd hanner nôs, ac a gyfododd ar y wiliadwriaeth fo∣reuol,
6 A hi a anfonodd at Olophernes, gan ddywedyd: gorchymynned fy arglwydd yn awr ollwng dy wasanaeth-ferch i fyned all∣an i weddio.
7 Yna Olophernes a orchymynnodd i wil-wŷr ei gorph ef na rwystrent hi: felly hi a arhosodd yn y gwerssyll dri diwrnod: a hi a ai allan liw nôs i ddyffryn Bethu∣lia, ac a ymolchei mewn ffynnon ddwfr wrth y gwerssyll.
8 A phan ddeuei hi i fynu hi a weddiei ar Arglwydd Dduw Israel, ar iddo ef gy∣farwyddo ei ffordd hi, er derchafiad melbion ei phobl.
9 Felly hi a ai i mewn yn lân, ac a drigei yn y babell, hyd oni fwytaei hi ei bwyd yn yr hwyr.
10 Ac ar y pedwerydd dydd Olophernes a wnaeth wledd iw weision ei hun yn vnic, ac ni wahoddodd efe neb o'r swyddogion i'r wledd.
11 Yna y dywedodd efe wrth Bagoas ei stafellydd, yr hwn oedd swyddog ar yr hyn oll a feddei efe; dôs, cais gan yr Hebraes yn awr, yr hon sydd gyd â thi, ddyfod attom ni fel y bwytao hi, ac yr yfo hi gyd â ni.
12 Canys wele cywilydd yw i'n wyneb ni ollwng ymmaith y fath wraig, heb ym∣ddiddan â hi: oni bydd i ni ei denu hi attom ni, hi a'n gwatwar ni.
13 Yna Bagoas a aeth ymmaith o ŵydd Olophernes, ac a ddaeth i mewn atti hi, ac a ddywedodd: na fydded blin gan y ferch lân ymma ddyfod at fy Arglwydd, iw han∣rhydeddu ger ei fron ef, ac i yfed gyd â ni win yn hyfryd, ac i fod y dydd hwn fel vn o ferched meibion Assyria, y rhai sydd yn se∣fyll yn nhŷ Nabuchodonosor.
14 A Iudeth a ddywedodd wrtho ef, pwy ydwyfi fel y dywedwn yn erbyn fy argl∣wydd? canys beth bynnac a fyddo bodlon ganddo ef, myfi a'i gwnaf yn ebrwydd: a hyn fydd i mi yn llawenydd hyd ddydd fy mar∣wolaeth.
15 Felly hi a gyfododd, ac a ymharddodd â dillad, ac â phôb addurn-wiscoedd gwra∣gedd, a'i llaw-forwyn hi a ddaeth, ac a ledodd iddi hi ar y llawr ar gyfer Olophernes, y crwyn a gawsei hi gan Bagoas iw chyfraid ei hun beunydd, fel yr eisteddei hi, ac y bwytaei arnynt.
16 Pan ddaeth Iudeth i mewn ac eistedd, yna calon Olophernes a dddychlammodd o'i herwydd hi, a'i yspryd ef a gynhyrfodd, ac yr oedd yn chwannog iawn i gyd-orwedd â hi: canys yr oedd efe yn gwilied amser iw thwyllo hi, er y dydd y gwelsei efe hi.
17 Yna Olophernes a ddywedodd wrthi hi, ŷf yn awr, a bydd lawen gyd â ni.
18 A Iudeth a ddywedodd, mi a yfaf yn awr ô arglwydd, canys fy enioes a fawr∣ygwyd heddyw, rhagor yr holl ddyddiau er pan i'm ganed.
19 Yna y cymmerodd hi, ac y bwytaodd, ac yr yfodd ger ei fron ef, yr hyn a baratoe∣sei ei llawforwyn hi.
20 Ac Olophernes a aeth yn llawen o'i phlegit hi, ac a yfodd o wîn fwy o la∣wer nag a yfasei efe mewn vn dydd er pan anesid ef.
PEN. XIII.
2 Gadael Iudeth ei hunan gyd ag Olophernes, yn ei babell ef: 4 Hithau yn gweddio ar Dduw am roddi iddi nerth, 8 Ac yn torri ei ben ef, pan oedd efe yn cyscu: 10 Ac yn dychwelyd ag ef i Bethulia: 17 Hwythau yn ei weled, ac yn ei chanmol hi.
APhan hwyrhaodd hi, ei weision ef a fryssiasant i fy∣ned ymmaith, a Bagoas a gaeodd ei babell ef o'r tu all∣an, ac a ollyngodd ymmaith y rhai oedd yn sefyll ger bron ei arglwydd, a hwy a aethant iw gwe∣lâu: canys yr oeddynt hwy oll yn ddeffygi∣ol, o herwydd hîr y buasei y wledd:
2 A Iudeth a adawyd ei hun yn y babell; ac Olophernes oedd yn gorwedd ar ei wely, canys yr oedd efe wedi ymlenwi * 1.467 o wîn.
3 A Iudeth a ddywedodd wrth ei llaw∣forwyn, am iddi hi sefyll o'r tu allan iw sta∣fell, a disgwil am ei dyfodiad hi allan, me∣gis [y byddei hi] beunydd: o blegit hi a ddy∣wedodd yr ai hi allan iw gweddi; ac wrth Bagoas y dywedodd hi yr vn ffunyd.
4 Felly pawb a aethant ymmaith o'i gŵydd hi, ac ni adawyd neb yn yr stafell o fychan i fawr: yna Iudeth yn sefyll wrth ei wely ef a ddywedodd yn ei chalon, ô Argl∣wydd Dduw pob nerth, edrych di yr awr hon ar waith fy nwylo, er derchafiad i Ieru∣salem.
5 Canys yn awr y mae yr amser i gyn∣northwyo dy etifeddiaeth, ac i gwplau fy amcanion i, er destrywio y gelynion a gy∣fodasant i'n herbyn ni.
6 Yna hi a ddaeth at ‖ 1.468 erchwyn y gwely, yr hwn oedd wrth ben Olophernes, ac a dyn∣nodd i lawr ei gleddyf ef oddi yno.
7 A hi a ddaeth yn nes at y gwely, [ac] a ymaflodd yngwallt ei ben ef, ac a ddywed∣odd: nertha di fi ô Arglwydd Dduw y dydd hwn;
8 A hi a darawodd ar ei wddf ef ddwy waith a'i [holl] nerth, ac a dynnodd ym∣maith ei ben ef oddi wrtho,
9 Ac a dreiglodd ei gorph ef o'r gwely, ac a dynnodd ymmaith y canopi oddi ar y co∣lofnau ac wedi ychydic [ennyd] hi a aeth allan, ac a roddes ben Olophernes iw llaw∣forwyn,
Page [unnumbered]
10 A hitheu a'i rhoddes ef yn y ‖ 1.469 tu∣dded [lle yr oedd] eu bwyd hwynt, yna hwy a aethant allan ill dwyoedd ynghyd, fel y byddent arferol wrth fyned i weddio, a chan fyned trwy 'r gwerssyll, hwy a amgylcha∣sant y dyfsryn hwnnw, a hwy a aethant i fynu i fynydd Bethulia, ac a ddaethant wrth ei phyrth hi.
11 Yna y dywedodd Iudeth o hir-bell wrth y rhai oedd yn cadw y pyrth, agorwch, agorwch weithian y porth: Duw, [sef] ein Duw ni sydd gyd â ni, i wneuthur etto rymmuster yn Israel, a chadernid yn er∣byn y gelynion, fel y gwnaeth efe hedd∣yw.
12 A phan glybu gwŷr ei dinas ei llais hi, hwy a fryssiasant ddyfod i wared at borth eu dinas, a hwy a alwasant ynghyd Henuriaid y ddinas.
13 A hwy a redasant ynghyd o fychan i fawr, canys ammeu oedd ganddynt ei dy∣fod hi: felly hwy a agorasant y porth, ac a'i derbyniasant hwy, ac a gynneua∣sant dân yn oleu, ac a safasant o'i ham∣gylch hwynt.
14 Yna hi a ddywedodd wrthynt hwy â llef vchel; moliennwch Dduw, mo∣liennwch, moliennwch Dduw, canys ni thynnodd efe ymmaith ei drugaredd oddi wrth dŷ Israel, eithr efe a ddini∣striodd ein gelynion ni drwy fy llaw i y nôs hon.
15 Yna hi a dynnodd ei ben ef allan o'r cŵd, ac a'i dangosodd, ac a ddywedodd wrth∣ynt: wele ben Olophernes pen-tywysog milwriaeth yr Assyriaid, ac wele y ‖ 1.470 bryc∣can yr oedd efe yn gorwedd ynddo yn ei feddwdod; a'r Arglwydd a'i tarawodd ef trwy law benyŵ.
16 Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a'm cadwodd i yn y ffordd y rhodiais arni, fy wyneb i a'i twyllodd ef iw golledi∣gaeth, ac ni wnaeth efe bechod gyd â mi i'm halogi i, ac i'm cywilyddio.
17 Yna y synnodd ar yr holl bobl yn aruthr, ac a ymgrymmasant, ac a addo∣lasant Dduw, ac a ddywedasant o vn-fryd: Bendigedic wyt ti, ein Duw ni, yr hwn a wnaethost elynion dy bobl yn ddiddim y dydd heddyw.
18 Yna Ozias a ddywedodd wrthi hi, ô ferch, bendigedic wyt ti gan Dduw goru∣chaf, rhagor yr holl wragedd sydd ar y ddai∣ar, a bendigedic fyddo yr Arglwydd Dduw, yr hwn a greawdd y nefoedd, a'r ddaiar, yr hwn a'th gyfarwyddodd di i dorti pen ty∣wysog ein gelynion ni.
19 Oblegid nid ymedy dy obaith di o ga∣lon dynion, y rhai a gofiant nerth Duw yn dragywydd?
20 A Duw a wnêl hyn yn glôd tragywy∣ddol i ti, ac a ymwelo â thi â daioni, o her∣wydd nad arbedaist dy enioes, o achos cy∣ftudd ein cenedl ni, eithr achubaist flaen ein cwymp ni, gan rodio yn vniawn yngolwg ein Duw ni: a'r holl bobl a ddywedasant, Poed gwîr fyddo, Amen.
PEN. XIIII.
8 Achior yn clywed Iudeth yn mynegi beth a wnaethai, ac yn derbyn enwaediad. 11 Crogi pen Olophernes. 15 Ei gael ef yn farw, a ga∣laru yn fawr am dano.
YNa Iudeth a ddywedodd wrthynt hwy, clywch fi yn awr ô frodyr, cymmerwch y * 1.471 pen hwn a chrogwch ef ar y fan vchaf o'n mur ni.
2 A phan oleuo y borau, a chyfodi yr haul ar y ddaiar, cymmerwch bob vn eich arfau rhyfel, ac eled pob gŵr cadarn allan o'r ddinas, a gosodwch dywy∣sog arnynt hwy, megis pe byddech chwi ar fedr myned i wared i'r maes at wilia∣dwriaeth yr Assyriaid, ond nac ewch chwi i wared.
3 Yna hwy a gymmerant eu harfau, ac a ânt iw gwersyll, ac a godant dywyso∣gion llu yr Assyriaid, ac a redant i babell Olophernes, ond ni's cânt ef: yna ofn a syrth arnynt hwy, a hwy a ffoant o'ch gŵydd chwi.
4 Felly chwi, a holl drigolion ardaloedd Israel, a'i herlidiwch hwynt, ac a'i methr∣wch ar hŷd eu ffyrdd.
5 Ond cyn i chwi wneuthur y pethau hyn, gelwch i mi Achior yr Ammoniad, fel y gwelo efe, [ac] yr adwaeno yr hwn a ddi∣ystyrodd dŷ Israel, a'r hwn a'i hanfonodd ef attom ni, megis i farwolaeth.
6 Yna hwy a alwasant Achior allan o dŷ Ozias, a phan ddaeth efe, a gweled pen Olophernes yn llaw rhyw ŵr ynghynnu∣lleidfa y bobl, efe a syrthiodd ar ei wyneb, a'i yspryd ef a ballodd.
7 Eithr pan godasant hwy ef i fynu, efe a syrthiodd wrth draed Iudeth, ac a ym∣grymmodd ger ei bron hi, ac a ddywedodd: Bendigedic wyt ti trwy holl bebyll Iuda, a thrwy yr holl Genhedloedd, pwy bynnac a glywant dy Enw di a synnant.
8 Yn awr gan hynny mynega i mi yr hyn oll a wnaethost yn y dyddiau hyn: yna Iudeth a fynegodd iddo efe ynghanol y bobl yr hyn oll a wnaethei hi, er y dydd yr aethei hi allan, hyd yr awr honno y llefarei hi wrthynt hwy.
9 A phan orphennodd hi Iefaru, [yna] y bobl a floeddiasant â llef vchel, ac a rodda∣sant lef lawen yn eu dinas.
10 A phan welodd Achior yr hyn oll a wnaethai Duw Israel, efe a gredodd yn Nuw yn ddirfawr, ac a enwaedodd gnawd ei ddienwaediad: ac efe a gyssylltwyd at dŷ Israel hyd y dydd hwn.
11 A phan gyfododd y wawr, hwy a grogasant ben Olophernes ar y mûr, a'r holl wyr a gymmerasant eu harfau, ac a ae∣thant allan yn finteioedd i ‖ 1.472 fylchau y my∣nydd.
12 A phan welodd yr Assyriaid hwynt, hwythau a anfonasant eu tywysogion, y
Page [unnumbered]
rhai a ddaethant at eu capteniaid, a'i tribu∣niaid, ac at eu holl lywiawd-wyr.
13 A hwy a ddaethant at babell Olopher∣nes, ac a ddywedasant wrth yr hwn oedd [swyddog] ar ei eiddo ef oll, deffro yn awr ein harglwydd ni: canys y caeth-weision a feiddiasant ddyfod i wared yn ein herbyn ni i ryfel, fel y difether hwynt yn gwbl.
14 Yna yr aeth Bagoas i mewn, ac a gurodd wrth ddrws y babell; o blegit efe a dybiodd ei fod ef yn cyscu gyd â Iu∣deth.
15 Pan nad attebodd neb, efe a agorodd, ac a aeth i mewn i'r stafell, ac a'i cafodd ef wedi ei daflu ar y llawr yn farw, a'i ben wedi ei ddwyn ymmaith oddi wrtho.
16 ‖ 1.473 Am hynny efe a waeddodd â llef vchel, ag wylofain, ac â griddfan, ac â bloedd ddirfawr, ac a rwygodd ei ddillad.
17 Yna efe a aeth i'r babell lle y byddei Iudeth yn aros, ac ni's cafodd hi, am hynny efe a neidiodd at y bobl, ac a waeddodd,
18 Y caeth-weision hyn a wnaethant ddirdra, vn wraig o'r Hebræaid a wnaeth wradwydd i dŷ brenin Nabuchodonosor: canys wele Olophernes [yn gorwedd] ar y ddaiar, a'i ben heb fod ganddo.
19 Pan glybu tywysogion llu yr Assyri∣aid hyn, hwy a rwygasant yn y fan eu dill∣ad, a'i meddyliau hwy a gythryblwyd yn ddirfawr: ac yr oedd llefain, a gweiddi mawr iawn o fewn y gwerssyll.
PEN. XV.
1 Ymlid yr Assyriaid, a'i lladd. 8 Yr Arch-offei∣riad yn dyfod i weled Iudeth. 11 Rhoi do∣drefn Olophernes i Iudeth: 13 A'r gwragedd yn ei choroni hi â garlantau.
A Phan glywsant hwy y rhai oedd yn y pebyll, hwy a synnasant o herwydd y wei∣thred:
2 Ac ofn a dychryn a syr∣thiodd arnynt hwy, fel nad oedd neb mwy∣ach a allei aros yn wyneb ei gilydd, eithr yn wascaredig y ffoesant o vn frŷd i holl ffyrdd y gwastadedd, a'r mynydd-dir.
3 A'r rhai a werssyllasent yn y mynydd∣oedd o amgylch Bethulia a ffoesant: yna meibion Israel, [sef] pob rhyfelŵr o honynt, a ruthrasant arnynt hwy.
4 Yna Ozias a anfonodd i Bethomas∣them, ac i Bebai ac i Chobai, ac i Chola, ac i holl derfynau Israel rai i fynegi iddynt hwy yr hyn a ddarfuasei, ac i beri idd∣ynt hwy oll ruthro ar y gelynion, iw difetha hwynt.
5 A phan glybu meibion Israel, hwy a ruthrasant oll o vn frŷd iw herbyn hwynt hyd Choba: felly hefyd y rhai a ddaethai o Ierusalem, ac o'r holl fynydd-dîr: canys [rhai] a fynegasei iddynt hwy yr hyn a wnaethid yngwerssyll eu gelynion, a'r rhai oedd yn Galaad, ac yn Galile a'i ‖ 1.474 hym∣lidiasant hwynt â phiâ mawr, nes iddynt fyned heibio i Ddamascus, a'i hardaloedd.
6 A'r rhan arall, y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a ruthrasant i werssyll yr Assyri∣aid, ac a'i hyspeiliasant hwy, ac a ymgyf∣oethogasant yn ddirfawr.
7 A meibion Israel, y rhai a ddychwe∣lasant o'r lladdedigaeth, a berchennogasant y gweddill: a'r trefydd a'r dinasoedd, y rhai oedd yn y mynydd-dîr, ac yn y dyffryn-dir a gawsant anrhaith fawr, canys [eu] lli∣aws oedd fawr iawn.
8 Yna Ioacim yr Arch-offeiriad, a He∣nuriaid meibion Israel, y rhai oedd yn tri∣go yn Ierusalem, a ddaethant i edrych y daioni a wnaethei Duw i Israel, ac i gael gweled Iudeth, ac i ymddiddan yn heddych∣lon â hi.
9 A phan ddaethant hwy atti hi, hwy a'i bendithiasant hi o vn-frŷd, ac a ddywe∣dasant wrthi; ti yw derchafiad Ierusa∣lem; ti yw mawr ogoniant Israel; ti yw mawr ‖ 1.475 barch ein ceneol ni.
10 Canys ti a wnaethost hyn oll â'th law di, ti a wnaethost ddaioni ag Israel a Duw sy fodlon iddynt, bendigedic fyddych di gan yr Holl-alluoc Arglwydd byth yn dragywydd. A'r holl bobl a ddywedasant, Felly y byddo.
11 A'r bobl a yspeiliasant y gwerssyll tros ddeng-nhiwrnod ar hugain, a hwy a rodasant i Iudeth babell Olophernes a'r holl leftri arian, a'r gwelau, a'r cawgiau, a'i holl ddodrefn ef: a hi a'i cymmerth [hwynt, ac] a'i gosododd ar ei mûl, ac a baratôdd ei menni, ac a'i llwythodd ar∣nynt.
12 Yna holl wragedd Israel a redasant ynghyd iw gweled hi, ac a'i bendithiasant hi, ac a wnaethant ddawns yn eu mysc eu hun iddi hi: a hi gymmerodd ganghen∣nau yn ei dwylo, ac a'i rhoddes hefyd i'r gwragedd oedd gyd â hi.
13 Hwythau hefyd a'i coronasant hi ag oliwydd, a'r hon oedd gyd â hi, a hi a aeth o flaen yr holl bobl mewn dawns, gan ar∣wain yr holl wragedd: a holl wŷr Israel a ganlynasant yn arfog, â choronau, ac â chaniadau yn eu geneuau.
PEN. XVI.
1 Cán Iudeth 19 Iudeth yn cyssegru dodrefn Olophernes i'r Arglwydd; 23 Ac yn marw yn Bechulia, yn wraig Weddw o anthydedd mawr: 14 A holl Israel yn cwyno ei marwolaeth hi.
YNa y dechreuodd Iudeth ganu y gyffes hon yn holl Israel, a'r holl bobl a ga∣nasant y ‖ 1.476 gân hon, ar ei hôl hi.
2 A Iudeth a ddywed∣odd, Dechreuwch i'm Duw i â thympanau, cenwch iddo ef Psalmau, a mawl, derchef∣wch [ef,] a gelwch ar ei Enw.
3 Canys Duw sydd yn torri y rhyfel∣oedd, o herwydd yn y gwerssylloedd, ym
Page [unnumbered]
mysc y bobl y gwaredodd efe fi o law fy erlid-wŷr.
4 Assur a ddaeth o'r mynyddoedd allan o'r gogledd, efe a ddaeth â miloedd yn eu luoedd, ei * 1.477 liaws ef a argaeodd yr afonydd, a'i farchogion ef a orchuddiasant y bry∣niau.
5 Efe a ddywedodd y lloscei fy ardaloedd i, ac y lladei fy ngwŷr ieuaingc â'r cleddyf, ac y curai y plant sugno wrth y llawr, ac y rhoddei fy rhai bychain yn yspail, a'm gweryfon yn ysclyfaeth.
6 Ond yr Holl-alluog Arglwydd a'i di∣ddymmodd hwynt, trwy law benyw.
7 Canys ni syrthiodd y cadarn drwy wŷr ieuaingc, ac nid meibion Titan a'i ta∣rawsant ef, ac nid y cawri vchel a ymoso∣dasant yn ei erbyn ef: eithr Iudeth merch Merari, drwy ei hwynebprŷd a'i gwanhy∣chodd ef.
8 O blegit hi a ddioscodd ddillad ei gwe∣ddwdod, er derchafiad y rhai gorthrymedic o Israel, hi a îrodd eihwyneb ag ennaint, ac a gylymmodd ei gwallt mewn meitr, ac a gymmerth wisc liain iw dwyllo ef.
9 Ei sandalau hi a hudodd ei lygaid ef, a'i glendid hi a garcharodd ei feddwl ef, y cle∣ddyf a aeth trwy ei wddf ef.
10 Y Persiaid a grynasant o herwydd ei hŷfder hi: a'r Mediaid, a ‖ 1.478 gythryblwyd o herwydd ei hŷder hi.
11 Yna fy rhai gostyngedig a orfoledda∣sant, a'm rhai gweniaid a floeddiasant: a ‖ 1.479 hwythau a ofnasant, derchafasant eu llef, a dychwelasant.
12 Meibion llancesau a'i trywanasant hwy, ac a'i harchollasant fel plant ffoadu∣riaid: difethwyd hwynt gan ryfel yr Argl∣wydd fy Nuw i.
13 Myfi o ganaf i'r Arglwydd gân ‖ 1.480 newydd, ô Arglwydd ti ydwyt fawr, a gogoneddus, rhyfeddol mewn nerth, ac anorchfygol.
14 Gwasanaethed yr holl greaduriaid dydi, canys ti a ddywedaist, a hwynt a wnaed: ti a anfonaist dy Yspryd, ac efe a'i creawdd hwynt: ac nid oes nêb a wrthwy∣nebo dŷ lef di.
15 Canys y mynyddoedd a gyffroant oddi ar eu seiliau, gyd â'r dyfroedd, y crei∣giau hefyd a doddant fel cŵyr yn dy ŵydd di, etto trugarog wyt i'r rhai a'th ofnant.
16 Canys yr holl aberthau sydd ry fy∣chan yn arogl peraidd, a'r holl fraster sydd ry fychan yn boeth offrwm i ti: ond yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd sydd fawr bôb amser.
17 Gwae yr Cenhedloedd sydd yn ym∣godi yn erbyn fy nghenedl: yr Arglwydd Holl-alluog a ddial arnynt hwy yn nydd y farn, drwy anfon tàn, a phryfed ar eu cnawd hwynt: a hwy a wylant gan [eu] clywed yn dragywydd.
18 A phan aethant hwy i Ierusalem, hwy a addolasant yr Arglwydd, a hwyn gyntaf ac y purwyd y bobl, hwy a offrym∣masant eu poeth-offrymmau, a'i haddune∣dau, a'i rhoddion.
19 Iudeth hefyd a offrymmodd holl le∣stri Olophernes, y rhai a roddasei y bobl iddi hi; a hi a roddodd y canopi a gym∣merasei hi o'i stafell ef, yn offrwm i'r Arg∣lwydd.
20 Felly y bobl a fuant lawen yn Ieru∣salem ger bron y Cyssegr, tros dri mis: a Iudeth a arhosodd gyd â hwynt.
21 Ac wedi y dyddiau hynny, pôb vn a ddychwelodd iw etifeddiaeth ei hun, a Iu∣deth a aeth i Bethulia, ac a drigodd yn ei chyfoeth ei hun; ac yr oedd hi yn ei ham∣ser yn ogoneddus drwy 'r holl wlâd.
22 Allaweroedd a'i chwennychasant hi, ond ni chafodd gŵr ei hadnabod hi holl ddy∣ddiau ei henioes, o'r awr y bu farw Ma∣nasses ei gwr hi, ac y casclwyd ef at ei bobl.
23 A hi a aeth rhagddi yn fawr iawn, ac a heneiddiodd yn nhŷ ei gŵr, yn bum mlwydd a chant: ac a ollyngodd ei llaw∣forwyn yn rhydd: a hi a fu farw yn Be∣thulia, a hwy a'i claddasant hi ‖ 1.481 ym mêdd ei gŵr Manasses.
24 A thŷ Israel a alarodd am deni hi * 1.482 saith o ddyddiau, a chyn iddi hi farw hi a rannodd ei golud i'r holl rai nessaf i Ma∣nasses ei gŵr, ac i'r rhai nessaf o'i chenedl ei hun.
25 Ac nid oedd mwyach nêb a ddy∣chrynei feibion Israel, yn holl ddyddiau Iudeth, nac wedi ei marwolaeth hi ddy∣ddiau lawer.
Page [unnumbered]
❧ Y RHAN ARALL O BEN∣nodau llyfr Esther heb fod yn yr Hebræ-aec, nac yn y Calde-aec.
Rhan o'r ddecfed bennod yn ôl y Groec.
5 Mardocheus yn cofio ac yn deongl ei freu∣ddwyd, am yr afon a'r ddwy ddraig.
YN A y dywe∣dodd Mardoche∣us, Duw a wna∣eth hyn.
5 Canys côf yw gennif y breudd∣wyd a welais am y pethau hyn: o blegit ni phallodd dim o hynny.
6 Ffynnon fe∣chan a aeth yn afon, ac yr oedd goleuni, a haul, a dwfr mawr: Esther yr hon a briododd y brenin, ac a wnaeth efe yn frenhines, yw 'r afon.
7 A'r ddwy ddraig yd wyfinneu, ac Aman:
8 A'r Cenhedloedd oedd y rhai a ddaethant i ddifetha henw yr Iddewon.
9 A'm cenedl i yw 'r Israel ymma, y rhai a floeddiasant ar yr Arglwydd, a hwy a achubwyd: îe yr Arglwydd a achubodd ei bobl, a'r Arglwydd a'n gwaredodd ni o'r drygau hyn oll: a Duw a wnaeth arwyddi∣on a gwrthiau mawrion, y rhai ni wnaeth∣pwyd ym mysc y Cenhedloedd.
10 Am hynny y gwnaeth efe ddau goel∣bren, vn i bobl Dduw, a'r llall i'r Cenhedl∣oedd oll.
11 A'r ddau goel-bren hyn a ddaethant ger bron Duw, ‖ 1.483 tros yr holl Genhedloedd, erbyn awr, ac amser, a dydd farn.
12 Felly Duw a feddyliodd am ei bobl, ac a gyfia wnhaodd ei etifeddiaeth.
13 Am hynny y dyddiau hynny fyddant iddynt hwy yn y mîs Adar, ar y ped we∣rydd [dydd] a'r ddêc, a'r pymthegfed o'r mîs, gyd ag ymgyfarfod, a llawenydd, a hyfryd∣wch ger bron Duw, ym mysc ei bobl ef byth tros [bôb] oes.
PEN. XI.
2 Bonedd a gradd Mardocheus. 6 Y mae efe yn breuddwydio o ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd; 10 Ac o ffynnon fechan, yr hon aeth yn ddwfr mawr.
YN y bedwaredd flwyddyn o deyr∣nasiad Ptolomeus a Chleopatra, y dug Dosithêus, yr hwn a ddywe∣dodd ei fod yn offeiriad ac yn Lefiad, a'i fab Ptolomaeus, y llythyr hwn am y Purim, yr hwn y dywedasant mai [hwnnw] oedd. ac i Lysimachus fab Ptolomaeus, yr hwn oedd yn Ierusalem, ei gyfiaithu.
2 Yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artax∣erxes mawr, y [dydd] cyntaf o fis Ni∣san, y breuddwydiodd Mardocheus mab Iairus, fab Simei, fab Cisai, o lwyth Beniamin,
3 Yr hwn oedd Iddew, ac yn trigo yn ni∣nas Susa, gŵr mawr, am ei fod yn we∣nidog yn llŷs y brenin.
4 Ac [vn] oedd efe o'r gaeth-glud a gaeth∣gludasei Nabuchodonosor brenin Babilon o Ierusalem, gyd â Iechonias brenin Iuda: ac dymma ei freuddwyd ef.
5 Wele sain twrwf, taranau, a daiar gryn, a chythrwfl ar y ddaiar.
6 Ac wele, dwy ddraig fawr a ddae∣thant allan yn barod bôb vn o honynt i ym∣ladd; a'i llef oedd fawr.
7 Ac wrth eu llef hwynt yr ymbara∣tôdd yr holl Genhedloedd i ryfel, fel yr ym∣laddent yn erbyn y genedl gyfiawn.
8 Ac wele ddiwrnod ty wyll, a niwlog: cystudd, ac ing, dryg-fyd, a thrallod mawr ar y ddaiar.
9 Yna y trallodwyd yr holl genedl gyfi∣awn, gan ofni eu dryg-fyd, ac yn barod iw difetha.
10 Yna hwy a waeddasant ar Dduw, ac wrth eu gwaedd hwynt y daeth megis o ffynnon fechan, afon fawr, [a] dwfr lawer.
11 Goleuni hefyd a haul a gyfododd, a'r rhai isel-radd a dderchafwyd, ac a ddifasant y gogoneddus.
12 A phan gyfododd Mardocheus, yr hwn a welsei y breuddwyd hwn, a'r hyn a fynnei Duw ei wneuthur: bu y breuddwyd hwn ganddo yn ei galon, a thrwy bôb rheswm y chwennychei efe ei ŵŷbod ef, hyd onid oedd hi yn nôs.
PEN XII.
2 Mardocheus yn datcuddio bradwriaeth y ddau Eunuch; 5 A'r brenin am hynny yn ei gymmeryd ef iw lys, ac yn ei obrwyo ef.
Page [unnumbered]
AC yr oedd Mardochêus yn gorphywys yn y llŷs, gyd â Gabatha a Tharra, dau o stafellyddion y brenin, y rhai oedd yn cadw y llŷs:
2 * 1.484 Efe a glybu hefyd eu hamcanion hwynt, ac a chwiliodd allan eu bwriad hwynt, ac a gafodd ŵybod eu bôd hwy yn barod i roi llaw ar y brenin Artaxerxes, ac efe a ddangosodd i'r brenin am danynt hwy.
3 A'r brenin a holodd ei ddau stafellydd, a hwy a gyffesasant, ac a grogwyd.
4 Yna 'r scrifennodd y brenin y pethau hyn mewn coffadwriaeth. Mardocheus hefyd a scrifennodd yr vn pethau.
5 A'r brenin a orchymynnodd. i Mardo∣cheus wasanaethu yn y llŷs, aç a roddes iddo ef roddion am hyn.
6 Eithr Aman [mab] Amadathus yr Agagiad, yr hwn oedd ogoneddus yngo∣lwg y brenin, a geisiodd ddrygu Mardoche∣us a'i bobl, o achos dau stafellydd y brenin.
PEN. XIII.
1 Copi o lythyr y brenhin i ddifetha 'r Iudde∣won: 8 A gweddi Mardocheus trostynt hwy.
DYmma hefyd gopi y llythyr. Y brenhin mawr Artaxerxes sydd yn scrifennu hyn at y tywysogion, a'r rhaglawi∣aid, y rhai sydd tano ef, ar saith ar hugain a chant o daleithiau, o In∣dia hyd Ethiopia.
2 Gan fy mod i yn arglwydd ar gen∣hedloedd lawer, ac yn llywodraethu yr holl fyd, mi a ewyllysiais heb ymdderchafu o herwydd cadernid awdurdod, eithr gan ly∣wodraethu yn addfwyn, ac yn llonydd bôb amser, osod y deiliaid yn wastadol mewn bywyd llonydd, a gwneuthur y deyrnas yn heddychol, ac yn hyffordd, hyd yr eithafoedd, [ac] adnewyddu heddwch, yr hwn y mae pôb dŷn yn ei chwennych.
3 A phan ymgynghorais i â'm cynghor∣wyr pa fodd y dygid hyn i ben, Aman, yr hwn a aeth yn rhagorol mewn doethineb gyd â nyni, ac sydd hyspys ei fod mewn dianwadal ewyllys da, a siccr ffyddlondeb, yr hwn sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas,
4 A fynegodd i ni fod pobl adcas wedi ymgymyscu â holl lwythau y bŷd, yn wrth∣wynebus eu cyfraith i bôb cenedl, ac yn esceuluso yn wastad orchymynion brenhin∣oedd, fel na all vndeb ein teyrnasoedd ni, yr hon yr ydym ni yn anrhydeddus yn ei am∣canu, fyned ‖ rhagddi.
5 Pan gawsom ninnau ŵybod y modd y mae y genhedl hon yn vnic wedi ymosod i wrthwynebu pôb dŷn yn oestad, gan ne∣widio, ac ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymmyn, trwy ddwyn cyfreithi∣au dieithr, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, fel na chaffo ein brenhiniaeth ni wastadfod:
6 Am hynny y gorchymynnason am y rhai a yspysir i chwi mewn scrifen oddi wrth Aman (yr hwn sydd swyddog ar [ein] matterion, ac yn ail i ni) eu llwyr ddifetha hwynt oll gyd â'i gwragedd a'i plant, drwy gleddy fau eu gelynion, heb ddim trugaredd na thosturi, ar y pedwerydd dydd ar ddèc o Adar, [hwnnw yw] 'r deuddecfed mîs o'r flwyddyn brsennol hon:
7 Fel y byddo o hyn allan i'r rhai oedd [gynt,] ac yn awr ydynt elynion (wedi idd∣ynt mewn vn dydd, trwy nerth ddescyn i vffern) adael pethau yn llonydd, ac yn gwbl ddidrallod i ni.
8 ‖ 1.485 Yntef gan feddwl am holl weithredoedd yr Arglwydd) a weddiodd, ar yr Arglwydd,
9 Ac a ddywedodd; ô Arglwydd, Argl∣wydd, Holl-alluog Frenin, oblegid bod pob peth yn dy feddiant di: ac nad oes a'th wrth∣wynebo di pan fynnech achub Israel:
10 Oblegit ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaiar, a phob dim rhyfedd, yn yr hyn sydd tan y nefoedd.
11 Arglwydd pôb dim ydwyt ti hefyd, ac nid oes a'th wrth wyneba di, yr hwn ydwyt Arglwydd.
12 Ti a adwaenost bôb peth, ti a ŵyddost ô Arglwydd, nad o draha, nac o falchder, nac o chwant gogoniant, y gwneuthym i hyn, sef nad anrhydeddwn Aman falch:
13 Canys mi a fuaswn fodlon i gussanu ôl ei draed ef er iechydwriaeth i Israel:
14 Ond mi a wneuthym hyn rhag gosod o honof ogoniant dŷn goruwch gogoniant Duw; a rhag addoli o honof neb ond tydi, ac nid o falchder y gwnaf hyn.
15 Ac yn awr (ô Arglwydd Dduw fre∣nin) arbed dy bobl: o herwydd y maent hwy yn edrych arnom ni i'n dinistrio, a hwy a chwennychasant ddifetha yr hon sydd o'r dechreuad yn etifeddiaeth i ti.
16 Na ddiystyra y rhan a waredaist i ti dy hun o dîr yr Aipht.
17 Gwrando fy ngweddi, a bydd druga∣rog wrth dy ‖ 1.486 ran; a thro ein tristwch yn hy∣frydwch; fel y gallom ni fyw, a moliannu dy Enw di ô Arglwydd: ac na ‖ 1.487 ddifetha enau y rhai sydd yn dy glodfori di, ô Arglwydd.
18 Felly Israel oil a lefasant yn gryfaf y gallent: o blegit eu marwolaeth oedd o flaen eu llygaid.
PEN. XIIII.
Gweddi y Frenhines Esther, trosti ei hun a'i phobl.
ESther hefyd y frenhines, we∣di i loes angeu ei dal hi, a ffôdd at yr Arglwydd:
2 Ac wedi iddi ddiosc ei go∣goneddus wisc, hi a wiscodd wisc cystudo a galar; â lludw hefyd a thom yn lle ennaint balch, y llanwodd hi ei phen, a hi a ddarostyngodd ei chorph yn ddir∣fawr, a'i holl fannau hyfryd a lanwodd hi a'i gwallt wedi ei dynnu:
3 A hi a weddiodd at Arglwydd Dduw Israel, ac a ddywedodd:
Page [unnumbered]
4 O fy Arglwydd, ein Brenin ni wyt ti yn vnic, cynnorthwyafi, yr hon ydwyf vnic; ac heb gynnorthwyudd gennif ond tydi: * 1.488 Oblegit y mae yn enbyd iawn arnaf.
5 Mi a glywais er pan i'm ganed, ym mysc llwyth fy nghenedl, gymmeryd o ho∣not ti (ô Arglwydd) Israel o'r holl genhedl∣oedd, a'n tadau ni o'i holl hynafiaid hwynt, yn etifeddiaeth dragywyddol, a gwneuthur o honot ti iddynt yr hyn a leferaist.
6 Ac yn awr, nyni a bechasom y dy ŵydd di, a thi a'n rhoddaist yn nwylo ein gelyn∣ion.
7 Am i ni ogoneddu eu duwiau hwynt: cyfiawn wyt ti ô Arglwydd.
8 Ac yr awron nid digon ganddynt chwe∣rwed ein gwasanaeth ni, eithr hwy a da∣rawsant ddwylo â'i heulynnod,
9 Ar ddiddymmu y peth a ddarfu it ei or∣deinio â'th enau, a dileu dy etifeddiaeth di, a chau safn y rhai sy yn dy foliannu di, a diffoddi gogoniant dy dŷ di a'th allor,
10 Ac agoryd genau y Cenhedloedd; [i gy∣hoeddi] rhinweddau ‖ 1.489 pethau ofer ac i faw∣rygu brenin cnawdol byth,
11 Na ddod Arglwydd, dy deyrn-wialen i'r rhai nid ydynt [ddim;] ac na âd iddynt chwerthin am ein cwymp ni: eithr tro eu cyngor ‖ 1.490 yn eu herbyn eu hun, a ‖ 1.491 difetha yr hwn a ddechreuodd arnom ni.
12 Cofia Arglwydd, pâr dy adnabod yn amser ein cystuod ni: cyssura fi, ô Frenin y ‖ 1.492 Cenhedloedd, a llywydd pob tywysogaeth.
13 Dod yn fy ygenau ymadrodd cymmwys ger bron y llew, a thro ei galon ef i gasàu yr hwn sydd yn ein gwrthwynebu ni, er dinistr idoo ef, ac i'r rhai sy yn debyg eu meddwl iddo yntef:
14 Ie gwared ni â'th law, a chynnorth∣wya fi, yr hon ydwyf vnic, ac heb gynnorth∣wyudd gennif ond tydi:
15 O Arglwydd, ti a ŵyddost bob dim, ti a ŵyddost mai câs gennif ogoniant y rhai anwir, a bôd yn ffraidd gennif wely y rhai dienwaededig, a phob ‖ 1.493 dieithr:
16 Ti a ŵyddost beth sydd raid i mi; a bod yn ffiaidd gennif arwydd fy malchder, yr hwn sydd ar fy mhen, ar y dyddiau yr ym∣ddangoswyf: a bod mor ffiaidd gennif ef a chadach mis∣glwyf: ac nad ydwyf yn ei wis∣co ef ar y dyddiau yr wyf ‖ 1.494 yn cael llonydd:
17 Ac na fwytaodd dy wasanaethyddes ar fwrdd Aman, ac ‖ 1.495 nad anrhydeddais wledd y brenin, ac nad yfais win offrwm,
18 Ac na lawenychodd dy law-forwyn, o'r dydd i'm ‖ 1.496 symmudwyd, hyd yr awr hon, ond ynot ti ô Arglwydd Dduw Abra∣ham.
19 O Dduw cadarnach nâ neb, gwrando lefain y rhai di-obaith, a gwared ni o law y drygionus, ie gwaret fi o'm hofn.
PEN. XV.
6 Esther yn dyfod i wydd y brenin; 7 Ac yn∣tau yn edrych y ddigllon arni, a hithau yn llewygu. 8 Y brenin yn ei chodi hi i fynu, ac yn ei chyssuro hi.
AC ar y trydydd dydd, pan bei∣diodd hi â gweddio, hi a ddi∣oscodd ei galar-wisc, ac a wis∣codd eu gwychder:
2 Ac wedi iddi fyned yn wych ei threfn, a galw ar weledydd, ac achubydd pawb, hi a gymmerodd ddwy law-forwyn.
3 A hi a bwyssodd ar y naill, tel pe bua∣sei hi swythus.
4 A'r llall oedd yn dwyn ei phwrffil hi.
5 Gwridog hefyd oedd hi o berffei∣thrwydd ei thegwch, a'i hwyneb yn llawen, [ac] megis yn hawddgar, eithr ei chalon hi oedd gyfyng arni gan ofn.
6 Ac wedi iddi fyned i mewn trwy 'r holl ddrysau, hi a safodd ger bron y brenin, ac yr oedd efe yn eistedd ar orseddfa ei fren∣hiniaeth, ac efe a wiscasei ei ddisclair-wisc oll, ac efe oll mewn aur a meini gwerth∣fawr oedd ofnadwy iawn:
7 A chan dderchafu ei wyneb yn disclei∣rio gan ogoniant, efe a edrychodd yn llym o ddig: yna y syrthiodd y frenhines, a hi a ne∣widiodd ei lliw mewn llewyg, ac a ogwy∣ddodd ar ben y llaw-forwyn oedd yn my∣ned ‖ 1.497 o'i blaen i.
8 A Duw a drôdd yspryd y brenin yn addfwyn, fel y neidiodd efe ar frys oddi ar ei orseddfa, ac y cymmerodd hi: ac efe a'i cys∣surodd hi â geiriau heddychlon, ac a ddywe∣dodd wrthi hi:
9 Esther, beth yw 'r [matter?] dy frawd ti ydwyfi, cymmer gyssur,
10 Ni roddir di i farwolaeth, ‖ 1.498 oblegit cy∣ffredin yw ein gorchymyn ni: tyred ymma.
11 Ac efe a gododd y wialen aur, ac a'i gosododd ar ei gwddf hi:
12 Ac efe a'i confleidiodd hi, ac a ddywed∣odd, llefara wrthif fi.
13 Hitheu a ddywedodd wrtho ef: ô argl∣wydd, mi a'th welwn fel Angel Duw, a'm calon a gyffrôdd rhag ofn dy ogoniant.
14 O blegit rhyfeddol ydwyd ti ô argl∣wydd, a'th wyneb sydd yn llawn grâs.
15 A thra yr oedd hi yn llefaru, hi a syrthiodd ‖ 1.499 yn ei llewyg.
16 Yna y trallodwyd y brenin, a'i weision oll a'i cyssurasant hi.
PEN. XVI.
1 Llythyr Artaxerxes, 10 yn yr hwn y mae yn adrodd beiau Aman, 17 ac yn diddym∣mu 'r gorchymmyn a barasei Aman ei wneu∣thur i ddifetha 'r Iuddewon, 22 ac yn gor∣chymmyn cadw dydd eu hymwared hwy yn wyl.
YBrenin mawr Artaxerxes at y pennaethiaio, a'r tywysogi∣on, ar gant a saith ar hugain o daleithiau, o India hyd E∣thiopia, ac at ein deiliaid ffyddlon, yn anfon annerch.
2 Llawer wedi eu mynych anrhydeddu trwy fawr ddaioni gweithredwŷr da, a aethant yn falchach,
Page [unnumbered]
3 Ac ydynt yn ceisio, nid yn vnic ddrygu ein deiliaid ni, eithr hefyd, am na fedrant fyw mewn digonedd, y maent yn ceisio dy∣chymyg niwed yn erbyn rhai a wna ddaio∣ni iddynt.
4 Ac y maent nid yn vnic yn tynnu diol∣chgarwch o blith dynion, eithr hefyd gan ymdderchafu mewn balchder rhai heb ŵybod oddiwrth ddaioni, y maent yn am∣canu diangc gan farn Duw, yr hwn sydd yn gweled pob peth, [a'i farn yn] gâs ganddi ddrygioni.
5 Llawer gwaith hefyd y mae geiriau têg y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am ly∣wodraethu matterion eu cyfeillion, yn gwneuthur llawer o'r rhai sydd mewn awdurdod yn euog o waed gwirion, ac yn eu hamgylchu mewn blinderau diymad∣ferth:
6 Trwy ffalster a thwyll eu dull drygi∣onus yn twyllo diniweidra, a daioni pen∣naethiaid.
7 A hyn a ellwch chwi ei weled, fel yr eglurasom ni, nid yn gymmaint o'r hén hi∣storiau, ac y gellwch, os chwiliwch pa be∣thau a wnaed yn ddrygionus yn hwyr, trwy ymddygiad echrys••on y rhai a osod∣wyd mewn awdurdod yn annheilwng.
8 Ac [y mae yn rhaid] edrych am yr am∣ser a fydd, fel y gwnelom y deyrnas yn ddi∣drallod ac yn heddychol i bôb dŷn:
9 Gan arfer cyfnewidiadau, ac ystyried y pethau sy yn dyfod mewn golwg, trwy achub blaen [pethau] bob amser yn llariei∣ddiach.
10 O herwydd Aman Macedoniad, mab Amadatha, yr hwn mewn gwirionedd oedd estron i waed y Persiaid, a phell oddi wrth ein daioni ni, ac wedi ei dderbyn gennym ni fel gŵr dieithr;
11 A gafodd yr addfwynder sydd gen∣nym ni i bôb cenedl, yn gymmaint ac y gel∣wid ef yn dad i ni, a'i addoli gan bawb megis yr ail i'r orseddfa frenhinol:
12 Am na fedrei efe ddwyn ei fawr∣barch, efe a geisiodd ein diddymmu ni o'r llywodraeth, ac o'n henioes hefyd,
13 Ac a geisiodd trwy lawer o ffyrdd twyllodrus ddifetha Mardocheus, yr hwn a'n hachubodd ni, ac ym mhob peth a wnaeth ddaioni, ac Esther ddifai, yr hon sydd gyfrannog o'r deyrnas, ynghyd â'i holl genedl.
14 Oblegit fel hyn y meddyliodd efe ein cael ni yn vnic, a dwyn llywodraeth y Persiaid i'r Macedoniaid.
15 Eithr yr ydym ni yn cael, bod yr Idde∣won, y rhai a roddasei y dinistrudd [hwn∣nw] iw difetha, yn ddiniwed drwg, ac yn arfer cyfreithiau o'r cyfiawnaf.
16 Ac yn blant i'r Duw byw Goruchaf, a mwyaf, yr hwn a ‖ 1.500 gyfarwyddodd y deyrnas i ni, ac i'n rhieni, mewn trefn odiaeth.
17 Am hynny da y gwnewch, os chwi ni chyflawnwch y llythyrau a anfonodd Aman mab Amadatha, attoch chwi.
18 O herwydd efe, yr hwn a wnaeth hyn, a grogwyd, ynghyd â'i holl dylwyth, o flaen pyrth Susa, trwy fod Duw, lly∣wydd pôb peth, yn talu iddo yn fuan farn addas.
19 Eithr gan osod allan gopi o'r llythr hwn ym mhob lle, gadewch i'r Iddewon arfer eu cyfraith mewn rhydd-did;
20 A chynnorthwywch hwynt, fel y gallont y trydydd dydd ar ddêc o Adar y deuddecfed mîs, ar yr vn dydd, ddial ar y rhai a osododd arnynt hwy yn amser eu cystudd.
21 Oblegid Duw, llywydd pôb peth, yn lle dinistr y genedl etholedig, a wnaeth iddynt lawenydd.
22 Cedwch chwithau [hwn] ynghyd â phob llawenydd yn ddydd vchel, ym mysc eich vchel-wyliau,
23 Fel y byddo iechydwriaeth yn awr, ac wedi hyn, i ni ac i'r Persiaid da eu he∣wyllys, a choffadwriaeth dinistr i'r rhai sy yn cynllwyn i'n-herbyn ni.
24 A phob dinas a gwlad bynnag yr hon ni wnelo fel hyn, a lwyr ddifethir â gway∣wffyn, ac â thân, mewn llid, fel y gosoder hi byth, nid yn vnic yn ddisathr gan ddy∣nion, eithr yn atcasaf gan fwyst-filod, ac adar, bob amser.
Page [unnumbered]
❧ DOETHINEB SOLOMON.
PENOD I.
2 I bwy y mae Duw yn ei ddangos ei hun, 4 a doethineb hithau ei hun. 6 Nas gall drwg-dafodiog ymguddio. 12 Nyni sy yn peri ein dinistr ein hun: 13 am nas gwna∣eth Duw angeu.
CErwch * 1.501 gyfiawn∣der, y rhai ydych yn barnu yr ddai∣ar; ystyriwch o'r Arglwydd mewn ddaioni, a cheisi∣wch ef mewn pu∣redd calon.
2 * 1.502 Oblegit efe a geir gan y rhai ni themptiant ef; ac a ymddengys i'r rhai ni anghredant iddo.
3 Canys meddyliau trofaus a ddidolant oddi wrth Dduw; eithr rhinwedd brofedic a gerydda yr ynfydion.
4 O herwydd nid â doethineb i enaid drygionus, ac ni chyfannedda hi mewn corph caeth i bechod.
5 Oblegid ‖ 1.503 sanctaidd yspryd addysc a ffŷ oddi wrth dŵyll, ac a ymedy â meddyliau angall; ac a ‖ 1.504 gystuddir lle y delo anwiredd.
6 Canys yspryd * 1.505 yn caru dŷn yw doethi∣neb, ac ni weryd hi yr hwn a gablo â'i we∣fusau, oblegit Duw sydd dŷst o'i arennau ef, ac yn wir olygudd ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadroddion ef.
7 Oblegid Yspryt yr Arglwydd a lan∣wodd y byd, ar hwn sydd yn ‖ 1.506 cynnal pob peth pieu adnabod lleferydd.
8 Am hynny ni chaiff yr hwn a ddywe∣do bethau anghyfiawn lechu, ac nid â y farn a gospo heibio iddo ef.
9 O blegit fe fydd ymosyn ynghyng∣horion yr annuwiol, a'r Arglwydd a gaiff glywed ei eiriau ef, i gospi ei anwireddau ef.
10 Canys clust eiddigus sydd yn clywed y cwbl, ac ni bydd sŵn grwgnach yn gu∣ddiedic.
11 Ymgedwch gan hynny rhac grwg∣nach di-fudd, ac arbedwch enllibio â'ch ta∣fod: o herwydd nid â ymadrodd dirgel yn ofer, a'r genau a ‖ 1.507 ddywedo gelwydd sydd yn lladd yr enaid.
12 Na cheisiwch farwolaeth yn amry∣fusedd eich enioes, ac na thynnwch [arnoch] * 1.508 ddinistr â gweithredoedd eich dwylo.
13 Oblegit ni wnaeth Duw farwolaeth, * 1.509 ac nid digrif ganddo ddinistr y byw.
14 Canys efe a wnaeth bob peth i fod; a chenhedlaethau y bŷd yn iachol, heb fod meddiginiaeth ddinistriol ynddynt, na bren∣hiniaeth vffern ar y ddaiar.
15 Anfarwol hefyd yw cyfiawnder.
16 Eithr rhai annuwiol a'i cyrchasant hi â'i ‖ 1.510 dwylo, ac â'i hymadrodd: gan dybied ei bôd hi yn garedic y dihoenasant hwy, a hwy a wnaethant gyfammod â hi, am eu bôd yn haeddu bod yn gyfrannogion o honi.
PEN. II.
1 Yr annuwiol yn tybied mai berr yw'r fuchedd hon: 15 Ac nad oes yr vn ar ôl hon. 6 Am hynny y cymmerant hwy eu dyfyrrwch yn y fuchedd hon, 10 ac yr ymgydfwria∣dant yn erbyn y cyfiawn. 21 Pa beth sydd yn eu dallu hwy.
O Blegit yr annuwiol a ddywe∣dent ynddynt eu hun, gan fedd∣wl, ond nid yn vniawn, * 1.511 berr a blîn yw ein hoes ni: yn * 1.512 ni∣wedd dŷn nid oes meddigini∣aeth, ac ni adnabuwyd neb a ddychwe∣lodd o vffern.
2 Canys ar ddamwain y ganwyd ni, ac wedi hyn ni byddwn ni mwy nâ phe na buasem: oblegit mwg yw'r ffûn yn ein ffroenau ni, a gwreichionen yw 'r yma∣drodd [yn dyfod] o symmudiad y▪ galon.
3 Pan ddiffodder honno, yr â y corphyn lludw, a'n hanadl a wascerir fel awyr deneu.
4 A'n henw ni a anghofir mewn amser, fel na chofio neb ein gweithredoedd ni, a'n henioes ni a â fel ôl niwl; ac a wascerir fel cwmwl, yr hwn a ymlidio pelydr yr haul, a'r hwn y byddo ei wrês ef drwm wrtho.
5 * 1.513 Canys ein hamser ni sydd fel mynediad cyscod, ac md oes dychweliad ar ein di wedd ni: canys efe a seliwyd, ac nid oes nêb yn dychwelyd.
6 * 1.514 Deuwch gan hynny, mwynhawn y da sydd, ac arferwn yn bryssur ‖ yr * 1.515 hyn a seddwn, megis mewn ieuengtid.
7 Ymlanwn â gwîn gwerthfawr, ac ag ennaint: ac na adawn i flodau yr amser fyned heibio i ni.
8 Gwiscwn goron o flodau rhôs, cyn eu gwywo.
9 Na fydded neb o honom ni heb ei ran o ddyfyrrwch: gadawn ym mhob man
Page [unnumbered]
arwyddion o'n llawenydd: oblegit hyn yw ein rhan ni, ac dymma [ein] dogn ni.
10 Gorthrymmwn y tlawd cyfiawn, nac arbedwn y weddw, ac na pharchwn hir∣hoedloc benllwydni yr hynaf-gwr.
11 Bydded ein cryfder ni yn lle cyfraith gyfiawn. Canys gwendid a geryddir fel peth disudd.
12 Cynnllwynwn gan hynny i'r cyfiawn, am ei fod ef yn anfuddiol i ni: y mae efe hefyd yn erbyn ein gwaith ni, ac yn edliw y pecho∣dau sydd yn erbyn y gyfraith, ac yn cyhoeddi er gogan i ni, y pechodau sydd yn erbyn ein haddysc ni.
13 Y mae efe yn ymhonni fod ganddo wy∣bodaeth o Dduw, ac yn ei alw ei hun yn blentyn i'r Arglwydd.
14 * 1.516 Efe a wnaed i argyoeddi ein meddy∣liau ni.
15 Trwm gennym ei weled ef: * 1.517 am fod ei fuchedd ef yn anhebyg i'r eiddo eraill, a bod ei ffyrdd ef ar ddull arall.
16 Y mae efe yn ein cyfrif ni ‖ 1.518 yn blant o ordderch, ac yn ymgadw rhag ein ffordd ni, megis rhag peth aflan, y mae efe yn cyfrif diwedd y rhai cyfiawn yn ddedwydd, ac yn ymhonni fod Duw yn dâd [iddo ef.]
17 Edrychwn ai gwîr ei eiriau ef, a myn∣nwn ŵybod yn siccr beth a fydd ei ddiwedd ef.
18 O blegit os * 1.519 mab Duw yw 'r cyfiawn, efe a'i ‖ 1.520 derbyn ef, ac a'i gwared ef o ddwylo ei wrthwyneb-wŷr.
19 * 1.521 Holwn ef yn amharchus, ac yn gystu∣ddiol, fel y caffom ŵybod ei addfwynder ef, a phrofi ei ddioddefgarwch ef.
20 Barnwn ef i farwolaeth wradwy∣ddus, o blegit fe a synnir arno, medd efe.
21 Hyn a feddyliasant hwy, a hwy a gam-gymmerasant: o blegit eu drygioni a'i dallodd hwynt.
22 Ac ni ŵybuant hwy ddirgeledigae∣thau Duw; ac ni obeithiasant am wobr cyfiawnder; ac ‖ 1.522 nid ystyriasant wobr yr eneidiau difeius.
23 Oblegit Duw a greodd ddŷn i fod yn ‖ 1.523 anllygredic, * 1.524 ac a'i gwnaeth ef yn ddelw ‖ 1.525 ei lun ei hûn.
24 A * thrwy genfigen y cythrael y daeth marwolaeth i'r bŷd: a'r rhai sydd ar ei du ef a'i profant hi.
PEN. III.
1 Bod y duwiol yn ddedwydd yn eu marwolaeth, 5 ac yn eu blinderau. 10 Nad y rhai annu∣wiol, na'i plant ychwaith, 15 ond y rhai glân, sy sanctaidd, er nad oes iddynt blant. 16 O herwydd colledig fydd y godinebwr, a'i blant.
EIthr y mae * 1.526 eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw, ac ni chyffwrdd ‖ 1.527 cystudd â hwynt.
2 Y * 1.528 rhai angall oedd yn tybied eu bod hwy yn meirw: a drwg y cyfrifid eu diwedd hwynt,
3 A'i mynediad oddi wrthym ni yn ddi∣nistr: eithr y maent hwy mewn heddwch.
4 Oblegit er eu cystuddio hwy yngolwg dynion, y * 1.529 mae eu gobaith hwy yn llawn tragywyddoldeb.
5 A lle y ceryddwyd hwy ychydig, hwy a gânt lawer o ‖ 1.530 fudd: * 1.531 oblegit Duw a'i profodd hwynt, ac a'i cafodd yn addas iddo ei hun.
6 Efe a'i profodd hwynt fel aur yn y ffwrn, ac a'i derbyniodd hwynt fel aberth llosc.
7 Ac * 1.532 yn amser eu gofwy hwy a ddisclei∣riant, ac a redant i fewn ac allan fel gwrei∣chion mewn sofl.
8 Hwy * 1.533 a farnant genhedloedd, ac a ly wodraethant bobloedd, a'i Harglwydd hwy a deyrnasa byth.
9 Y rhai a ymddiriedant ynddo ef a dde∣allant y gwirionedd, a'r rhai ffyddlon ‖ 1.534 mewn cariad a arhosant gyd ag ef: oblegit grâs a thrugaredd sydd iw Sainct ef, ac efe a ofala tros ei etholedigion.
10 Eithr * 1.535 yr annuwiol, fel y meddylia∣sant, a gânt gospedigaeth; y rhai a ddiysty∣rasant y cyfiawn, ac a wrthodasant yr Ar∣glwydd.
11 Canys annedwydd yw yr hwn a ddiystyro ddoethineb ac addysc, ac ofer yw eu gobaith: eu llasur hefyd a fydd diffrwyth, a'i gwaith yn ddifudd.
12 Eu gwragedd sydd yn ‖ 1.536 angall, a'i plant yn ddrygionus.
13 Melldigedic yw eu heppil hwynt. Ca∣nys dedwydd yw 'r amhlantadwy ddihalo∣gedic, yr hon nid adnabu wely mewn pe∣chod; hi * 1.537 a gaiff ffrwyth pan ymweler â'r eneidiau.
14 A [dedwydd yw] y dispaidd, yr hwn ni wnaeth anwiredd a'i ddwylo, ac ni fedd∣yliodd ddrygioni yn erbyn yr Arglwydd: canys iddo ef y rhoddir * 1.538 dewisol rad ffydd, a'r rhan gymeradwyaf gan ei feddwl, ‖ 1.539 yn Nheml yr Arglwydd.
15 Canys gogoneddus yw ffrwyth poen dda, a gwreiddyn doethineb ni ddiflanna byth.
16 Eithr plant y godinebus ‖ 1.540 a fyddant ammherffaith, a'r hâd o wely anwir a ddi∣flanna.
17 O blegit os hir-hoedloc fyddant, ni wneir dim cyfrif o honynt: a'i henaint fydd amharchus yn y diwedd.
18 Eithr os yn fuan y diweddir hwynt, ni chânt obaith, na chyssur yn nydd ‖ 1.541 ym∣weliad.
19 O blegit ‖ 1.542 ofnadwy yw diwedd y gen∣hedlaeth anghyfiawn.
PEN. IIII.
1 Y diwair a goronir. 3 Na ffynna heppil yr an∣niwair: 6 ac y byddant hwy dystion yn er∣byn eu tadau a'i mammau. 7 Bod y cyfiawn yn marw yn ieuangc, ac er hynny yn dded∣wydd. 19 Gofidus ddiwedd yr annuwiol.
Page [unnumbered]
GWell yw bod heb plant, a bod gennym rinwedd, oblegit anfarwol yw y coffa am dani, ac yspys i Dduw a dy∣nion yw hi.
2 Hwy a'i dilynant hi pan fyddo pre∣sennol, ac a'i dymunant hi pan elo ym∣maith; y mae hi yn gorfoleddu, wedi ei choroni byth, wedi ennill y maes wrth ymdrechu am ddihalogedig wobrau.
3 Eithr tylwythoc dyrfa yr annuwiol ni bydd fuddiol, ni ddwfn-wreiddia ychwaith yr hon sydd yn dyfod o blanhigion bastar∣daidd, ac ni esyd sylfaen siccr.
4 O blegit er iddynt dyfu dros amser yn wrysc; * 1.543 gwynt a'i symmud hwynt gan eu bod yn tyfu yn weniaid, a'i diwreiddio gan nerth y gwyntoedd:
5 Yr amherffaith ganghennau a dorrir ymmaith, a'i ffrwyth hwynt a fydd difudd, heb fod yn addfed iw fwyta, nac yn gym∣mwys i ddim.
6 O herwydd y plant a genhedler ‖ 1.544 yn y gwely annheilwng sydd dystion o anwi∣redd, yn erbyn eu rhieni, pan holer hwynt.
7 Eithr os diweddir y cyfiawn yn gyn∣nar; efe a fydd mewn esmwythdra [er hynny.]
8 O herwydd nid yr hîr-hoedloc yw yr henaint parchedic, ‖ 1.545 na'r hon a fesurir wrth rifedi blynyddoedd.
9 Eithr doethineb sydd ben-llwydni i ddynion, a henaint oedrannus yw buchedd ddihalog.
10 Efe a ryngodd fodd i Dduw, ac a ho∣ffwyd ganddo: ac efe yn byw ym mysc pe∣chaduriaid * 1.546 a fudwyd ymmaith.
11 Efe a gippiwyd ymmaith rhag i ddry∣gioni newidio ei feddwl ef, neu i dwyll dwyllo ei eniad ef.
12 Oblegit hudoliaeth oferedd a dywy∣lla bethau da, ac anwadalwch chwant a ‖ 1.547 symmud feddwl difalis.
13 Efe wedi ei ‖ 1.548 ddiweddu yn fuan, a gyflawnodd hir amser.
14 Canys cu oedd ei enaid ef gan yr Arglwydd: am hynny yr aeth efe ar frŷs o fysc drygioni.
15 Y mae y bobl yn gweled hyn, ac heb ddeall nac ystyried, fod grâs a thrugaredd iw Sainct ef, ac ymgeledd iw etholedigion ef.
16 Pan fyddo y cyfiawn marw, y mae efe yn rhoddi barn yn erbyn y rhai annu∣wiol byw: felly y mae yr ieuengtid a ‖ 1.549 ddi∣weddir yn fuan, yn erbyn hir-hoedloc he∣naint yr anghyfiawn.
17 Oblegit hwy a gânt weled diwedd y doeth, ac ni ‖ 1.550 feddyliant beth a amcanasant iddo, ac i ba beth y cadwodd yr Arglwydd ef yn ddiogel.
18 Hwy a'i gw elant ef, ac a'i diystyrant, eithr yr Arglwydd a'i gwatwar hwynt, a hwy a fyddant yn gelain amharchedic, ac yn wradwyddus ym mysc y meirw byth.
19 Canys efe a'i dryllia hwynt i lawr yn ddidrwst, ac a'i sigl hwynt o'r sylfaen, a hwy a anrheithir hyd yr eithaf, ac a fy∣ddant mewn gofid, a'i coffadwriaeth hwynt a dderfydd.
20 Hwy a ddeuant yn ofnus, ‖ 1.551 trwy fedd∣wl am eu pechodau, a'i hanwireddau a'i ceryddant hwy o flaen [eu hwynebau.]
PEN. V.
1 Y rhyfedda 'r annuwiol wrth y duwiol, 4 ac yr addefant eu hamryfusedd, 5 ofe∣red eu buchedd. 15 Y tâl Duw i'r cyfiawn, 17 ac y rhyfela efe â'r annuwiol.
YNa y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei or∣thrym-wŷr, a'r rhai a ddi∣ystyrasant ei lafur ef.
2 Pan welant, hwy a gy∣thryblir ag ofn aruthr, a synn fydd gan∣ddynt ei iechydwriaeth ryfedd ef,
3 A hwy a ddywedant ynddynt eu hun yn edifeiriol, a chan gyfyngder meddwl yr ocheneidiant, ac y dywedant, dymma yr hwn yr oeddym ni gynt yn ei watwar, ac ‖ 1.552 yn ei ddyfalu yn wradwyddus.
4 * 1.553 Nyni ffyliaid a feddyliasom fod ei fu∣chedd ef yn ynfydrwydd, a'i ddiwedd yn ammharchus.
5 Pa fodd y cyfrifwyd ef ym mhlith meibion Duw, ac y mae ei ran ef ym mysc y Sainct?
6 Nyni gan hynny a gyfeiliornasom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thy∣wynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom.
7 Nyni a ‖ 1.554 lanwyd o ffyrdd anwiredd a destryw; ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd, eithr nid adnabuom ni ffordd yr Arglwydd.
8 Pa fudd sydd i ni o falchder? a pha lês a wnaeth golud a ffrôst i ni?
9 Y pethau hynny oll * 1.555 a aethant ym∣maith fel cyscod, ac fel cennad yn rhedeg.
10 Fel llong yn myned trwy 'r dwfr tonnoc, yr hon ni ellir caffael ei hôl, wedi iddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy 'r tonnau:
11 Neu megis na cheir arwydd myne∣diad * 1.556 yr aderyn a ehedo trwy 'r awyr, eithr dyrnod yr escyll ar y gwynt teneu, yr hwn a gurir, ac a rennir trwy nerth egniol, gan guro yr adenydd, â trwodd: ac yno nid oes dim arwydd pa le yr aeth efe.
12 Neu fel pan saether saeth at nôd, yr awyr wedi ei rhannu a ddychwel yn y fan iw lle, fel na ŵydder pa ffordd yr aeth hi.
13 Felly ninnau, pan i'n ganwyd a ddechreuasom bwyso at ein diwedd, ac ni allasom ddangos dim arwydd rhin∣wedd dda, eithr yn ein drygioni y dar∣fuom ni.
14 O blegit * 1.557 fel ‖ 1.558 llwch, yr hwn a ar∣wain y gwynt, ac fel ewyn tenau, yr hwn a yrr y demhestl, ac fel y * 1.559 mwg a wascerir gan wynt, neu fel cof am ymdeithydd tros vn diwrnod, yr â gobaith yr annuwiol ymmaith.
15 Eithr y mae y cyfiawn yn byw byth,
Page [unnumbered]
a chydâ 'r Arglwydd y mae eu gwobr hwynt, a chan y Goruchaf y mae gofal am danynt hwy.
16 Am hynny y cânt hwy ar law yr Argl∣wydd deyrnas ‖ 1.560 hardd, a choron deg, oblegit efe a'i gorchuddia hwynt â'i ddeheu-law, ac a'i hamddeffyn hwynt â'i fraich.
17 Efe a gymmer ei eiddigedd yn lle pob arfogaeth, ac a arfoga y creaduriaid, i ddial ar y gelynion.
18 Efe a wisc * 1.561 gyfiawnder yn ddwy-fron∣nec, ac a wisc farnedigaeth ddiragrith yn lle helm.
19 Efe a gymmer sancteiddrwydd yn da∣rian, yr hwn ni ellir ei orchfygu.
20 Efe a hoga ei ddigter tost yn gleddyf, a'r bŷd a ryfela gyd ag ef yn erbyn ffyliaid.
21 Byllt y mellt a ânt yn vniawn, ac a gyrchant at y nôd, megis o annelog fŵa y cwmylau.
22 A chan ei ddigofaint ef, yr hwn sydd yn arfer o daflu meini, y bwrir cenllysc yn llawn llid: dwfr y môr a lidia wrthynt hwy, a'r afonydd a lifant yn dost.
23 Gwynt nerthol a saif yn eu herbyn hwynt, ac a'i nithia hwynt ymmaith fel tro-wynt: îe anwiredd a ddifwyna yr holl dir, a drygioni a ddinistria eisteddfeydd y cedyrn.
PEN. VI.
1 Rhaid i Frenhinoedd wrando. 3 Oddiwrth Dduw y mae eu gallu hwy, 5 ac nad arbed efe hwy. 12 Bod yn hawdd cael doethineb. 21 Rhaid i dywysogion ei cheisiohi. 24 Oblegid atteg i'r bobl, yw tywysog doeth.
GWrandewch gan hynny ô frenhinoedd, a deellwch; oh farn-wŷr eithafoedd y ddai∣ar, cymmerwch ddysc.
2 Rhoddwch glust, ly∣wodraeth—wŷr y dyrfa; a'r rhai a ydych feilchion o liaws cenhed∣loedd.
3 O blegit y cryfder * 1.562 a gawsoch chŵi gan yr Arglwydd, a'r gallu gan y Goruchaf, yr hwn a ymofyn am eich gweithredoedd chwi, ac a chwilia allan eich cynghorion chwi.
4 Am i chwi yn wenidogion o'i frenhini∣aeth ef, na farnasoch yn vniawn, ac na chad∣wasoch y gyfraith, ac na rodiasoch yn ôl ewyllys Duw,
5 Yn aruthr ac yn ebrwydd y daw efe at∣toch chwi, o herwydd barn dost fydd i'r lly∣wodraeth-wŷr.
6 Y lleiaf a ddichon gael maddeuant yn drugarog, a'r cedyrn a gystuddir yn gadarn.
7 O blegit yr hwn sydd Arglwydd ar * 1.563 bawb nid ystyr wyneb, ac ni ofna fawredd: canys efe a wnaeth y mawr a'r bychan, ac a ofala yr vn modd am bawb.
8 Ond ar y cedyrn y daw hawl gadarn.
9 Wrthych chwi am hynny frenhin∣oedd, y mae fy ngeiriau i, fel y dyscoch chwi ddoethineb heb ballu.
10 O blegit y rhai a gadwant y pethau sanctaidd yn sanctaidd, a ‖ 1.564 sancteiddir, a'r rhai a'i dyscasant hwy, a gânt beth iw atteb trostynt eu hunain.
11 Chwennychwch gan hynny fy ngeiri∣au i, dymunwch [hwynt,] a chwi a fyddwch ddyscedig.
12 Doethineb sydd ddisclair, ac ni dder∣fydd: hawdd y canfyddir hi gan y rhai a'i hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai a'i ceisiant.
13 Y mae hi yn myned i gyfarfod y rhai a'i chwennychant, fel yr adwaener hi yn gyntaf.
14 Nid rhaid poen i'r hwn a gyfodo yn fo∣reu am dani hi: o blegit efe a'i caiff hi yn ei∣stedd wrth ei ddryssau.
15 Canys perffeithrwydd synhwyr yw meddwl am dani hi, a'r hwn a wilio am dani hi, a fydd diofal yn ebrwydd.
16 O blegit y mae hi yn myned o am∣gylch, dan geisio y rhai sydd deilwng o honi hi; y mae hi yn ymddangos yn llawen idd∣ynt hwy ar y llwybrau, ac yn cyfarfod â hwynt ar bob meddwl.
17 Ei dechreuad hi yw gwir chwant i addysc, a gofal addysc yw cariad.
18 A chariad yw ceidwad ei chyfreithiau hi; a siccrwydd o anllygredigaeth yw gwran∣do ar y gyfraith.
19 Anllygredigaeth hefyd sydd yn peri bod yn agos i Dduw.
20 O blegit hynny, chwant doethineb sydd yn dwyn i'r deyrnas.
21 Am hynny, ô frenhinoedd y bobl, os me∣lus gennych orsedd-feingciau, a theyrn-wie∣lyn, anrhydeddwch ddoethineb, fel y teyrna∣soch byth.
22 Eithr beth yw doethineb, a pha fodd y gwnaed hi. Mi a fynegaf i chwi, ac ni chu∣ddiaf ddirgeledigaethau rhagoch chwi: eithr o ddechreuad ei genedigaeth yr ôlrhei∣niaf hi, ac y gosodaf ei gwybodaeth hi yn amlwg, ac nid âf fi tros y gwirionedd.
23 Ac ni chydymdeithiaf fi â chenfigen ddihoenedic, oblegit ni bydd y cyfryw vn yn gyfrannog o ddoethineb.
24 Iechydwriaeth y byd yw llawer o ddoethion; ac attec y bobl yw brenin call.
25 Am hynny cymmerwch addysc trwy fy ngeiriau i, a chwi a gewch fudd.
PEN. VII.
1 Mai 'r vn fath yw diwedd y duwiol a'r annuwi∣ol. 6 Mai gwell doethineb nâ dim. 8 Mai Duw a roesai iddo yr holl wybodaeth oedd gantho. 22 Clod doethineb.
DYn marwol ydwyf finneu, vn fodd a phawb [eraill,] ac yn dyfod o hiliogaeth yr hwn a luniwyd gyntaf o'r ddaiar.
2 Ac ynghroth fy mam i'm lluniwyd yngnawd, o fewn amser deng∣mis,
Page [unnumbered]
* 1.565 gan geulo o hâd gŵr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn dyfod ynghŷd â chwsc.
3 A phan i'm ganwyd mi a dynnais attaf yr awyr cyffredin i ni, ac a syrthi∣ais ar y ddaiar, yr hon sydd o'r vn natu∣riaeth, yn wylofain y rhoddais i y llais cyn∣taf, fel pawb [eraill.]
4 Mewn cawiau, a thrwy ofal i'm magwyd.
5 Ni chafodd vn brenin amgen de∣chreuad iw enedigaeth.
6 * 1.566 Vn fath ddyfodiad i fywyd sydd i bawb, ac vn fath fynediad allan.
7 Am hynny mi a weddiais, ac fe a rodd∣wyd i mi ddeall, mi a waeddais, ac fe ddaeth yspryd doethineb attafi.
8 Mi a'i cyfrifais hi yn well nâ theyrn∣wielyn, ac na gorseddfeydd: ac ni chyfrifais olud yn ddim wrth gyffelybiaeth iddi,
9 Ni chyffelybais i faen gwerthfawr iddi hi. Canys graienyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian o'i blaen hi.
10 Mi a'i hoffais hi yn fwy nag iechyd, ac nâ thegwch: ac mi a ‖ 1.567 arfaethais ei chael hi yn lle goleuni, oblegit ni fachluda y llewyrch [a ddaw] o honi hi.
11 * 1.568 Pob daioni a ddaeth i mi gyd ag y hi, a golud annifeiriol yn ei dwylo hi.
12 Ac mi a lawenychais am bob vn, am fod doethineb yn eu blaenori hwynt, ond ni ŵyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.
13 Yn ddidwyll y dyscais, ac yn ddigenfi∣gen yr ydwyf yn cyfrannu, heb gelu et golud hi.
14 Diball dryssor yw hi i ddynion, pwy bynnac a'i harfero, y maent hwy yn ym∣gyfeillach â Duw, gan fod yn ganmoladwy trwy y doniau [a gaer] trwy addysc.
15 Duw a ‖ 1.569 roddes i mi ddywedyd yn ôl fy meddwl, a meddwl yn addas am y pe∣thau a ‖ 1.570 roddwyd, oblegit efe yw pob vn o'r ddau, awdur doethineb, a chyfarwyddwr y doethion.
16 Yr ydym ni â'n geiriau yn ei law ef, felly y mae pob deall, a gwybodaeth gwaith.
17 Canys efe a roddes i mi ŵybodaeth ddigelwydd am y pethau sydd: i wybod cy∣fansoddiad y byd, a grym yr elementau: * 1.571
18 Dechreu, diwedd, a chanol amserau, newid moddion [yr haul,] a chyfnewid tym∣horau:
19 Amgylchiad y flwyddyn, a gosodiad y sêr:
20 Naturiaethau ‖ 1.572 anifeiliaid, llid bwystfi∣lod; nerth gwyntoedd; ac ymresymmau dyni∣on, rhagoriaeth planhigion, a rhinweddau gwraidd:
21 Beth bynnac sydd nac yn ddirgel, nac yn amlwg, mi a'i gwn:
22 Oblegit doethineb, yr hon a wnaeth y cwbl, a'm dyscodd i: o herwydd y mae ynddi hi yspryd deallgar sanctaidd, ‖ 1.573 vnic, amryw, teneu, cyflym, disclair, dihalog, eglur, annio∣doefadwy, yn hoffi daioni, yn llym, heb allu ei attal, yn ‖ 1.574 barod i wneuthur daioni:
23 Ya caru dŷn, yn ddianwadal, yn siccr, yn ddiofal, yn holl-alluoc, yn edrych ‖ 1.575 am bob peth, ac yn myned trwy bob yspryd de∣allgar, pur, ac o'r teneuaf:
24 Bywioccach yw doethineb nâ dim bywioc, hi a â, ac a dreiddia trwy bob peth, o herwydd ei phured.
25 Canys angerdd gallu Duw yw hi, a ffrŵd bûr oddi wrth ogoniant yr Holl-all∣uoc: am hynny ni syrth dim halogedic iddi hi.
26 Canys * 1.576 disclairdeb y goleuni tragy∣wyddol yw hi, difrycheulyd ddrŷch ‖ 1.577 gwei∣thrediad Duw, a delw ei ddaioni ef.
27 Er nad yw hi ond vn, hi a ddichon bob dim, ac yn aros ynddi ei hun y mae hi yn ad∣newyddu pob dim; a thrwy'r oesoedd yn descyn i'r eneidiau sanctaidd, y mae hi yn eu gwneuthur yn garedigion, ac yn brophwydi i Dduw.
28 O blegid nid hoff gan Dduw ddim, ond yr hwn a gyfanneddo gyd â doethineb.
29 O blegit y mae hi yn degach na'r haul, ac yn vwch nâ gosodiad y sêr: os cystedlir hi â'r goleuni, goreu y ceir hi.
30 Canys y nôs a ddaw ar ei ôl ef, ond ni orchfyga drygioni mo ddoethineb.
PEN. VIII.
1 Bod yn dda gantho ddoethineb: 4 Oblegid bod pob daioni gan yr hwn y mae gantho ddoe∣thineb. 12 Nas gellir ei chael hi ond gan Dduw.
YMae hi 'n cyrhaeddyd o gwrr bwygilydd yn rym∣musol: ac yn cyfleu pob peth yn fuddiol.
2 Hon a gerais i, ac a gei∣siais o'm hieuengtid, ac a geisiais ei phriodi yn ddyweddi i mi: canys cu oedd gennifi ei thegwch hi.
3 Y mae hi yn gwneuthur ei bonedd yn ogoneddus trwy gyttal gyd â Duw, ac Ar∣glwydd pob peth a'i hoffodd hi.
4 Canys athro yw hi ar athrawiaeth Dduw, ac vn yn dewis ei weithredoedd ef.
5 Os meddiant dymunol yn y bywyd [hwn] yw cyfoeth, beth gyfoethogach nâ doethi∣neb, yr hon sydd yn gwneuthur pob peth?
6 Ac os * 1.578 doethineb a weithreda, pwy vn o'r pethau sydd a wna yn well nâ hi?
7 Os cyfiawnder a hoffa neb, rhinwedd∣au da yw ei llafur hi: canys y mae hi yn dys∣cu sobreiddrwydd, a synwyr, cyfiawnder, a gwroldeb: nâ pha rai nid oes dim mwy ei fudd i ddynion yn [eu] bywyd.
8 Os chwennych neb gael siccrwydd gwybodaeth lawer, hi a ŵyr y pethau gynt, ac a ddychymyg [yn vniawn] y pethau a fyddant: y mae hi yn gwybod dichellion gei∣riau, ac yn medru dirnad ‖ 1.579 cwestiwnau caled; ac yn gwybod yr arwyddion, a'r rhyfeddo∣dau, a'r hyn a ddamwain mewn tymmor ac amser, cyn eu dyfod.
9 Am hynny yr arfaethais ddwyn hon i gyttal â mi, gan ŵybod y cynghorei hi i mi bethau da, ac i'm diddanei mewn gofal a thristwch.
Page [unnumbered]
10 Er ei mwyn hi y câf fi barch yn y dyr∣fa, ac anrhydedd gan henuriaid, er fy môd i yn ieuangc.
11 Myfi a geir yn barod fy synhwyr mewn barn, ac a fyddaf ryfedd yngolwg gwyr mawr.
12 * 1.580 Hwy a arhosant arnaf tra y tawyf, ac a wrandawant tra llefarwyf, ac a osodant eu d wylo ar eu geneuau, os myfi a draethaf lawer.
13 Trwyddi hi y câf si dragywyddoldeb, ac y gadawaf goffadwriaeth tragywyddol i'r rhai a fyddant ar fy ôl;
14 Y lly wodraethaf fi y bobl, ac y daro∣styngir cenhedloedd i mi.
15 Teiranniaid aruthrol a'm hofnant i, pan glywont sôn am danafi, ym mysc y gwe∣rin i'm gwelir i yn dda, ac yn y rhyfel yn gryf.
16 Pan elwyf i'm tŷ, mi a gŷd-orphywysaf gyd â hi, o blegid nid oes chwerwder wrth gyttal â hi, na blinder wrth fyw gyd â hi, ond llawenydd a gorfoledd.
17 Wrth feddwl hyn ynof fy hûn, ac * 1.581 wrth gofio yn fy nghalon mai yngharen∣nydd doethineb y mae tragywyddoldeb,
18 A bôd hyfryd wch daionus yn ei chyfei∣llach hi, a golud diball yn llafur ei dwylo hi, a bod synhwyr o ymarfer ag ymddidan â hi, a bod parch wrth fod yn gyfrannog o'i hymadroddion hi, mi a geisiais o amgylch pa fodd y cawn hi ‖ 1.582 attaf.
19 Yr oeddwn i yn fachgen o athrylith dda, ac a gawswn ysprydoliaeth dda.
20 Ie yn hytrach a myfi yn dda, myfi a ddeuthym i gorph dihalog.
21 Ond pan wybûm na chawn hi, oni roddei Duw hi, ac mai synhwyr oedd wy∣bod rhodd pwy oedd hi, mi a ‖ 1.583 ddaethym at Dduw, ac a ymbiliais, ac a ddywedais o'm holl galon:
PEN. IX.
1 Gweddi at Dduw am ei ddoethineb, 6 heb yr hon nid yw ddim y goreu o ddynion, 13 ac nis gwyr pa fodd y rhyng fodd Duw.
OH Dduw y tadau, ac Argl∣wydd y drugaredd, yr hwn a wnaethost bob peth â'th air.
2 A thrwy dy ddoethineb a * 1.584 osodaist ddŷn i lywodraethu ar y creaduriaid a wnaethost di,
3 Ac i lywodraethu y byd yn vniawn, ac yn gyfiawn, ac i roddi barn a meddwl vniawn:
4 * 1.585 Dôd ti i mi ddoethineb, yr hon sydd yn eistedd wrth dy orseddfaingc di, ac na wrthot fi o blith dy blant.
5 Canys myfi * 1.586 dy wâs, a mab dy law∣forwyn, yd wyf ddŷn llesc, ac o amser byrr, ac yn llai mewn deall barnedigaeth a chyfraith.
6 O blegit yr hwn sydd berffeithiaf ym mysc meibion dynion, a gyfrisir yn ddiddym os ymmaith y bydd y doethineb sydd oddi wrthit ti.
7 * 1.587 Ti am dewisaist i yn frenin ar dy bobl, ac yn farn-wr ar dy feibion a'th serched.
8 Ti a ddywedaist am adeiladu Teml ar dy fynydd sanctaidd, ac allor yn ninas dy breswylfod, [sef] portreiad y Tabernacl sanctaidd, yr hwn a ddarperaist ti o'r de∣chreuad.
9 * 1.588 A chyd â thi yr oedd doethineb, yr hon a adwaenei dy weithredoedd di, ac oedd bresennol pan wnaethost di y bŷd; ac a ŵyr beth sydd yn rhyglyddu bodd yn dy olwg di, a pheth sydd vniawn wrth dy or∣chymynion di.
10 Anfon hi o'th nefoedd sanctaidd, a gyrr hi o orsedd-faingc dy ogoniant, fel y cymero hi boen yn bresennol gyd â mi, ac y gwyp∣wyf fi beth sydd fodlon gennit ti.
11 Canys y mae hi yn gŵybod, ac yn deall pob peth: a hi a'm harwain i yn fy ngweithredoedd yn sobr, ac a'm ceidw i ‖ 1.589 yn ei gogoniant hi.
12 Felly y bydd fy ngweithredoedd i yn gymmeradwy, ac y barnaf fi dy bobl di yn gysiawn, ac y byddaf fi addas i orsedd∣faingc fy nhâd.
13 * 1.590 Canys pa ddŷn a ŵyr gyfrinach Duw? a phwy a feddwl beth a ewylly∣sia Duw.
14 O blegit ofnus yw meddyliau dynion marwol, ac ansiccr yw ein hamcanion ni.
15 Canys y corph llygredic sydd yn drwm i'r enaid, a'r breswylfod ddaiarol sydd yn faich i'r meddwl, yr hwn sydd yn gofalu am lawer o bethau.
16 A phrin y medrwn ni iawn ddeall y pethau sydd ar y ddaiar, a thrwy boen yr ydym ni yn cael y pethau sydd ‖ 1.591 yn ein dwy∣lo: eithr pwy a ôlrhain allan y pethau sydd yn y nefoedd?
17 Ie pwy a ŵyr dy gyfrinach di, oddi∣eithr i ti roddi doethineb, ac anfon dy Ys∣pryd sanctaidd o'r vchelder?
18 Felly yr vniownwyd ffyrdd y rhai sydd ar y ddaiar, ac y dyscwyd i ddynion y pe∣thau a'th fodlonant di, a thrwy ddoethineb y cadwyd hwynt.
PEN. X.
1 Pa beth a wnaeth Doethineb er Addaf, 4 Noe, 5 Abraham, 6 Lot: ac yn erbyn y pum dinas: 10 er Iacob, 13 Ioseph, 16 Moses, 17 a'r Israeliaid.
HOn a gadwodd y cyntaf a luniwyd, tâd y bŷd, yr hwn a grewyd yn vnic, ac a'i gwaredodd ef o'i fai.
2 Ac * 1.592 a roddes iddo ef nerth▪ i lywodraethu pob peth.
3 A * 1.593 phan ymadawodd yr anghyfiawn â hi yn ei ddigter, efe a fethodd trwy lid i ladd ei frawd.
4 Er mwyn * 1.594 yr hwn y boddwyd y ddai∣ar: eithr doethineb drachefn a'i cadwodd hi, gan lywodraethu y cyfiawn ‖ 1.595 ag ychydig bren.
Page [unnumbered]
5 Hi hefyd, ynghyttundeb y cenhedloedd * 1.596 cymyscadwy mewn drygioni, a adnabu y cyfiawn, ac a'i cadwodd ef yn ddifai i Dduw, îe yn ei ‖ 1.597 fawr gariad iw fab, hi a'i cadwodd ef yn gryf.
6 * 1.598 Hi a waredodd y cyfiawn oddi wrth yr annuwiol colledic, * 1.599 pan ffôdd efe rhag y tan a ddescynnodd ar ‖ 1.600 y pum dinas.
7 Am yr hwn ddrygioni y mae y diffaeth∣dir myglyd, a'r plan-wydd yn ffrwytho heb addfedu byth, yn dystiolaeth, felly y mae y golofn halen yn sefyll, yn goffad wriaeth am yr enaid anghredadwy.
8 O blegit y rhai a ddiystyrasant ddoe∣thineb, ni chawsant yn vnic y niwed hyn, sef bôd heb wybod pethau da: eithr hwy a adawsant goffad wriaeth i'r bŷd o'i ffolineb; ac ni allant lechu yn y pethau a wnaethant ar fai.
9 Eithr y rhai a'i parchent hi a wared∣odd doethineb o boeneu.
10 Mewn llwybrau vniawn yr arweini∣odd hi y cyfiawn, * 1.601 yr hwn oedd yn ffoi rhag digofaint ei frawd, hi a ddangosodd iddo ef deyrnas Dduw, ac a roddes iddo ef ŵybo∣daeth am bethau sanctaidd; hi a'i cyfoetho∣godd ef yn ei lafur, ac a gynnyddodd [ffrwyth] ei boen ef.
11 Wrth gybydd-dod y rhai ‖ 1.602 oedd drech nag ef, yr oedd hi ger llaw, ac a'i cyfoetho∣godd ef.
12 Hi a'i cadwodd ef rhag ei elynion, ac a'i diofalodd ef oddi wrth ei gynllwyn-wŷr, ac mewn ymdrech cryf, hi a roddes y maes iddo ef, fel y gallei efe ŵybod fôd duwioldeb yn gryfach nâ dim.
13 Ni adawodd hi y cyfiawn, * 1.603 yr hwn a werthwyd, eithr hi a'i hachubodd ef rhag pechod, ac a aeth i wared gyd ag ef i'r ‖ 1.604 carchar.
14 Ie ni adawodd hi ef yn ei rwymau, hyd oni ddygodd hi iddo ef deyrn-wialen y frenhiniaeth, a llywodraeth ar ei orthrym∣wŷr; hi a ddangosodd fôd y rhai oedd yn ‖ 1.605 beio arno ef yn gelwyddoc, ac a roddes iddo ef ogoniant tragywyddol.
15 Hon * 1.606 a waredodd y bobl sanctaidd, a'r hâd difai, oddi wrth y genhedl a'i gorthrym∣mai hwynt.
16 Hi a aeth i mewn i enaid gwâs yr Arglwydd, * 1.607 ac a safodd yn erbyn brenhin∣oedd ofnad wy, gan [wneuthur] rhyfeddodau a gwrthiau.
17 Hi a roddes i'r rhai cyfiawn wobr sancteiddrwydd eu llafur, hi a'i harweini∣odd hwynt mewn ffordd ryfedd, ac oedd yn orchudd iddynt hwy y dydd, ac yn ‖ 1.608 fflam o ser y nos.
18 Hi * 1.609 a'i dug hwy trwy 'r môr coch, ac a'i harweiniodd hwy trwy ddwfr mawr.
19 A hi a foddodd eu gelynion hwynt, ac a'i dug hwynt i fynu o waelod y dyfnder.
20 Am hynny y rhai cyfiawn a yspeliasant y rhai annuwiol, ac a * 1.610 ddadcanasant dy Enw sanctaidd di, ô Arglwydd, ac a glod∣forasant o vnfrŷd dy law ‖ 1.611 orchfygus di.
21 O blegit doethineb a agorodd enau y rhai mudion; ac a osododd dafodau plant bychain yn ymadroddus.
PEN. XI.
5 Darfod cospi 'r Aiphtiaid, a chadw 'r Israeli∣aid, yn yr vn peth. 15 Darfod eu cospi hwy â'r pethau y pechasent ynddynt. 20 Y gallasei Duw eu distrywio hwy mown môdd arall, 23 ond ei fod ef yn drugarog wrth bawb.
HI a ‖ 1.612 gyfarwyddodd eu gwei∣thredoedd hwynt yn llaw y Prophwyd sanctaidd.
2 Hwy a * 1.613 ymdeithia∣sant trwy y diffaethwch anghyfanneddol, ac a oso∣dasant eu pebyll mewn lleoedd anhyffordd.
3 Hwy * 1.614 a safasant yn erbyn y rhai a ryfelent iw herbyn, ac a ddialasant ar eu gelynion.
4 Daeth * 1.615 syched arnynt hwy, a hwy a alwasant arnat ti, ac fe roddwyd iddyut hwy ddwfr o'r graig ‖ 1.616 serth, a meddigini∣aeth rhag syched, o'r maen caled.
5 Canys trwy y pethau y cystuddiwyd eu gelynion hwynt, trwy 'r vn pethau y cawsant hwy lês, pan oedd eisieu arnynt.
6 Yn lle ffynnon o afon redegog wedi ei chythryblu â gwaed llychlyd,
7 Yn gerydd am y gorchymmyn i ladd y plant, y rhoddaist di iddynt hwy amlder o ddwfr, trwy fodd heb ei obeithio,
8 Gan ddangos trwy y syched oedd yr amser hwnnw, * 1.617 pa fodd y cystuddiesit ti y gwrthwyneb-wŷr.
9 O blegit pan demptiwyd hwy (er eu ceryddu yn drugarog) hwy a ŵybuant pa fodd y dialeddwyd ar y rhai annuwiol, y rhai a farnwyd mewn digofaint.
10 Canys y rhai hyn a brofaist ti fel tâd, gan eu rhybuddio, a'r lleill a holaist ti fel brenin tost, gan eu condemno.
11 Y rhai pa vn bynnac, ai yn absennol, ai yn bresennol, a gystuddiwyd yr vn modd.
12 O blegit tristwch a gofid dau ddyb∣lyg a ddaeth arnynt hwy, wrth gofio pe∣thau a aethei heibio.
13 Canys pan glywsant hwy wrth eu cystudd ei hun, gael o honynt hwy ‖ 1.618 fudd, hwy a ‖ 1.619 feddyliasant am yr Arglwydd.
14 O blegit yr hwn a wrthodasent hwy yn watwarus, wedi ei fwrw allan gynt wrth daflu allan [y plant newyddian,] hwnnw a fu ryfedd ganddynt hwy yn ni∣wedd y pethau a ddigwyddasant, gan fod arnynt syched amgen nag ar y rhai cyf∣iawn.
15 Am anneallgar ddychmygion eu hang∣hyfiawnder hwynt, trwy y rhai wedi eu twylloyr addolasant ymlusciaid anrhesym∣mol, a bwystfilod gwael; yr anfonaist lawer o anifeiliaid heb reswm i ddial ar∣nynt hwy:
16 Fel y gallent hwy ŵybod mai trwy
Page [unnumbered]
y pethau y pecha neb, trwy yr vn pethau hefyd y cospir ef.
17 O blegit ni rwystrwyd dy law di, yr hon sydd holl-alluog, ac a wnaeth y byd o afluniaidd ddefnydd, fel na allasei anfon ar∣nynt hwy lawer o eirth, a llewod hŷ;
18 Neu anifeiliaid dieithr, llawn o ddig wedi ei newydd greu, yn anadlu tarth tan∣llyd, neu ‖ 1.620 dwrwf mŵg, yr hwn a drŷ y gwynt: neu wreichion aruthrol o'i llygaid fel mellt.
19 Y rhai ni allei eu niwed hwynt yn vnic eu dinistrio hwy, eithr eu golwg erchyll hwynt hefyd, eu difetha hwy ar vn-waith.
20 Heh y rhai hyn hefyd, trwy vn awel y gallasent hwy syrthio, wrth gael eu hym∣lid gan ddialedd, a'i gwascaru trwy ‖ yspryd dy nerth di: eithr tydi a drefnaist bob peth wrth fesur, a rhif, a phwys.
21 Canys bob amser ‖ 1.621 yr ydwyt ti yn gallu llawer, a phwy a wrthwyneba nerth dy fraich di.
22 Oblegit megis tippyn allan o glori∣annau, y w'r holl fŷd yn dy olwg di, ac me∣gis defnyn o wlith y boreu, yr hwn a ddescyn ar y ddaiar.
23 Ond yr ydwyt ti yn trugarhau wrth bob peth, oblegit ti a elli bob dim, ac yr ydwyt heb gymmeryd arnat weled pecho∣dau dynion fel yr edifarhaent hwy.
24 Y mae yn hoff gennit ti bob peth a'r y sydd, ac nid ffiaidd gennit ddim a'r a wnae∣thost: îe ni wnaethit ti ddim pe buasei gâs gennit ef.
25 A pha fodd y parhasei dim, oni buasei dyewyllys di? neu y cadwesid, heb ei alw gennit ti?
26 Ond yr ydwyt ti yn arbed pob peth: o blegit yr eiddor ti ydynt hwy, ô Arglwydd, yrhwn sydd yn caru eneidiau.
PEN XII.
1 Na ddinistriodd Duw holl bobl Canaan ar vn-waith. 12 A phe gwnaethai hynny, pwy a allasai ddy wedyd yn ei erbyn ef? 19 Ond efe a'i harbedodd hwy er addysc i ni. 27 Darfod eu cospi hwy, a'i duwiau hefyd.
CAnys y mae dy Yspryd anlly∣gredic di ym mhob peth.
2 Am hynny yr wyt ti yn ceryddu hôb ychydig ac ychydig, y rhai a drosseddant, ac yn eu rhybuddio trwy alw iw cof hwynt y pethau y pechasant yn∣ddynt, fel yr ymadawent hwy â'u drygioni, acy credent ynot ti, ô Arglwydd.
3 Canys dy ewyllys di oedd, trwy ddwylo ein tadau ni, ddifetha hên breswyl∣wyr y tir sanctaidd;
4 Y rhai oedd gas gennyt ti, o herwydd atcasaf weithredoedd swynion, ac aberth∣au annuwiol;
5 A'r annrhugarog leiddiaid plant hyn∣ny hefyd; a bwyttawyr perfedd cnawd dyni∣on; a'i gwleddau gwaedlyd;
6 Gydâ'i hoffeiriaid o ganol eu gwehili∣on eulun-addolaidd, a'r tadau y rhai a la∣ddodd â'i dwylo eu hun, eneidiau ‖ 1.622 diga∣rad.
7 Fel y gallei y wlâd sydd guaf gennit ti gael plant Duw ‖ 1.623 iw chyfanneddu yn addas.
8 Eithr ti a arbedaist y rhai hyn megis dynion, ac a anfonaist * 1.624 gaccwn o flaen dŷ lu, iw gorescyn hwy bob ychydig ac ychydig.
9 Nid o herwydd na's gallasit ti ddarost∣wng yr annuwiol i'r rhai cyfiawn trwy ry∣fel, neu eu difetha hwy ar vnwaith trwy fwyst-silod creulon, neu air caled;
10 Eithr gan farnu o fesur ychydyg ac ychydig, ti a roddaist le i edifeirwch, pan nad oedd anhyspys i ti fod eu cenhedl∣aeth hwynt yn ddrygionus, a'i drygioni yn anianol, ac na newidiei eu meddwl hwynt byth.
11 Canys hiliogaeth * 1.625 felldigedic oedd∣ynt hwy o'r dechreuad: ond ni roddaist ti ddiogelwch iddynt am y pethau y pechent hwy ynddynt, er ofn neb.
12 Oblegit pwy a ddywed, * 1.626 Beth a wnaethost ti? neu pwy a wrthwyneba dy farn di? pwy a gwyna rhagot ti, am y Cenhedloedd a ddifethwyd, y rhai a wnae∣thost ti? neu pwy a ddaw i sefyll ‖ 1.627 i'th erbyn, i ddial tros ddynion anghyfiawn?
13 Nid oes Duw ond tydi * 1.628 yn gofalu am bob peth, i ddangos nad wyt yn barnu yn anghyfiawn.
14 Nid oes na brenin, na theyrn, a ddi∣chon osod ei ŵyneb yn dy erbyn di, am y rhai a gospaist ti.
15 Am dy fod ti yn gysiawn, yr yd∣wyt ti yn trefnu pob peth yn gyfiawn; * 1.629 gan gyfrif yn beth amherthynol i th allu di roddi barn yn erbyn yr hwn ni ddylei ei gospi.
16 Oblegit dechreuad cyfiawnder yw dy nerth di; a'th fôd ti yn Arglwydd ar bob peth, sydd yn peri it arbed pob peth.
17 Pan ni chredir dy fôd ti o ‖ 1.630 berffaith allu, yr ŵyt ti yn dangos dy nerth, ac ym mhlith y rhai a'i hedwyn, yr ŵyti yn amly∣gu eu hyder hwynt.
18 Yn gyfiawn yr wyt ti yn barnu, gan feistroli dy allu, a thrwy lawer o arbed yr wyt ti yn ein llywodraethu ni: oblegit y mae gennit ti allu pan fynnech.
19 A thi a ddyscaist dy bobl wrth y cyfryw weithredoedd, fôd yn rhaid i'r cyfiawn fôd yn gu ganddo ddŷn, a thi a wnaethost dy blant yn dda eu gobaith: o herwydd i ti ro∣ddi edifeirwch am bechodau.
20 Canys os mor ystyriol y cystuddiaist ti elynion dy blant, y rhai a ddylent farwo∣laeth, gan roddi amser a modd i newidio oddi wrth ddrygioni:
21 A pha ofal y bernaist ti dy blant dy hun, i rieni pa rai y rhoddaist di lwon, ac ammodau o addewidion da?
22 Am hynny lle yr wyt ti yn ein ceryddu ni, ydwyt ti yn ffrewyllu ein gelynion
Page [unnumbered]
ni yn ddeng-mil mwy, fel pan fan farnom ni, y gallom feddwl am dy ddaioni di, a phan i'n barner ddisgwil am drugaredd.
23 Am yr hwn beth y rhoddaist di ddia∣ledd ar y rhai a fuant fyw 'n anghyfia wn mewn buchedd angall, trwy eu ffiaidd ‖ 1.631 weithredoedd eu hun.
24 Canys * 1.632 hwy a gyfeiliornasant yn ffordd cyfeiliorni ym mhell, gan gymeryd y rhai oedd amharchns ym mysc anifeiliaid eu gelynion, yn lle duwiau, wedi eu twy∣llo fel plant angall.
25 Am hynny yr anfonaist ti iddynt hwy, megis i blant direswm, dy farnedi∣gaeth i'w gwatwar.
26 Y rhai ni chymerant rybydd trwy y gwatwarus gerydd [hyn,] a gânt brofi addas farnedigaeth Duw.
27 Canys wele, oblegit y rhai yr oeddynt hwy yn grwgnach wrth ddioddef trostynt, sef tros y rhai a dybiasent hwy eu bod yn dduwiau, pan welsant hwy eu cospi yn y rhai hynny, hwy a gydnabuant mai gwir Dduw oedd yr hwn a wadasent hwy o'r blaen eu bôd yn ei adnabod: ac am hyn∣ny y daeth dygyn ddamnedigaeth arnynt hwy.
PEN. XIII.
1 Na bu ddiescus y rhai a addolasant ddim o waith Duw: 10 ond truanaf o gwbl yw y rhai a addolant waith dwylo dynion.
OFer yn ddiau, o naturia∣eth ym 'r dynion oll sydd heb adnabod Duw, * 1.633 heb fedru adnabod yr hwn sydd, wrth y pethau da a welir: ac ni adnabuant y gwei∣thydd, wrth ystyried y gwaith.
2 Eithr hwy * 1.634 a dybiasant mai y tân, neu yr gwynt, neu yr awyr buan, neu gylch y sêr, neu ddwfr chwyrn, neu oleuadau y ne∣foedd, oeddynt dduwiau yn llywodraethu y byd.
3 Os am fôd yn hyfryd ganddynt deg∣wch y rhai hyn y cymmerasant hwynt yn dduwiau, gwybyddant pa faint gwell yw eu Harglwydd hwynt; oblegit yr hwn sydd o naturiaeth yn awdur tegwch a'i creawdd hwynt.
4 Os eu gallu a'i gweithrediad sydd ry∣fedd ganddynt hwy, ystyriant pa faint mwy yw gallu yr hwn a'i gwnaeth hwynt.
5 Wrth faint, a thegwch y pethau a gre∣wyd, wrth eu cyffelybu, y gwelir yr hwn a'i gwnaeth hwynt.
6 Er hynny yn hyn y mae bai y rhai hyn yn llai: canys y maent hwy mewn amryfus, ond odid yn ceisio Duw, ac yn ewyllyssio ei gael ef.
7 O blegit * 1.635 y maent hwy trwy drin ei waith ef, yn chwilio yn ddyfal, ac yn coelio eu golwg: o achos bôd y pethau a welir yn dêg.
8 Ac etto nid ydynt hwy escusodol.
9 Oblegit os gallent hwy ŵybod cym∣maint a medru amcanu at y bŷd: pa ham na chawsant hwy yn gynt Arglwydd y pe∣thau hyn?
10 Eithr annedwydd ydynt hwy, a'i go∣baith sydd mewn pethau meirw, y rhai a alwasant waith dwylo dynion yn ddu∣wiau, sef aur ac arian, pethau wedi eu dy∣chymyg trwy gelfyddyd, a lluniau anifeili∣aid, neu garrec ddifudd o waith hên law.
11 Ac * 1.636 yn awr saer pren, wedi iddo ef li∣fio pren i'r gwaith, a thynnu o amgylch ei holl riscl ef yn gelfydd, a'i weithio yn gyfarwydd, a gwneuthur llestr buddiol i wasanaethu i fywyd dŷn;
12 Ac ymlenwi wedi iddo dreulio ysclo∣dion ei waith yn arlwyo ei fwyd,
13 Ac yn cymmeryd yr hyn a fwrid ym∣maith o honynt hwy yn bren ystwyrgam difudd i ddim, eithr yn llawn cnappiau, a'i cerfiodd yn ofalus pan gaffei ennyd, ac a'i lluniodd wrth gyfarwyddyd ei ddeall, ac a'i gwnaeth ar lun dŷn:
14 Neu a'i gwnaeth yn debyg i anifail gwael, gan ei amliwio â choch, a'i baintio â lliw, a phaintio pôb gwrthuni ynddo:
15 Wedi iddo wneuthur iddo le addas, a'i gosododd wrth bared, ac a'i sicchraodd â haiarn.
16 Efe a ofalodd ym mlaen llaw rhag iddo syrthio; gan ŵybod na allei efe help iddo ei hun, (oblegit delw yw efe, ac yn rhaid iddo wrth help:)
17 Yna efe a weddia am ei dda, ‖ 1.637 am ddyweddi iddo ei hun, ac am blant, heb arno gywilydd lefaru wrth y marw.
18 Y mae efe yn galw ar y gwan am iechyd, yn gofyn hoedl i'r marw; yn ymbil am help gan yr hwn ni wyr ddim: ac am ei daith yn gweddio at yr hwn ni all ger∣dded cam.
19 Ac am elw, a gwaith, a dedwyddwch llaw, yn gofyn llwyddiant gan yr hwn sydd ddirymmaf i wneuthur dim.
PEN. XIIII.
1 Er nad yw dynion yn gweddio ar eu llongau, 5 etto y rhai hynny, ac nid eu heulynnod, sydd yn eu cadw hwynt. 8 Melldigedig yw 'r eulynnod, a'r rhai a'i gwnant. 14 De∣chreu delw-addoliaeth, 23 a pha beth a ba∣rodd hi. 30 Y cospa Duw y rhai a dyngo iw heulynnod yn anwir.
TRachefn pan fyddo vn yn ymbaratoi i fordwyo, ac ar fyned trwy donnau gei∣rwon, efe a waedda ar bren pyttrach nâ'r ‖ 1.638 llong a fyddo yn ei ddwyn ef.
2 Oblegit chwant i elw a ddychymy∣gasei ‖ 1.639 honno, a thrwy ei gelfyddyd y gwnaeth y gweithiwr hi.
3 Eithr dy ragluniaeth di o Dâd, sydd yn ei llywodraethu, * 1.640 oblegit ti a ro∣ddaist ffordd yn y môr, a llwybr diogel yn y tonnau:
4 Gan ddangos y gelli di achub rhag pôb peth, ie ped ai dŷn i'r môr heb gelfy∣ddyd.
Page [unnumbered]
5 Etto ti a fynni na byddo gweithred∣oedd dy ddoethineb yn segur: am hynny yr ymddiried dynion i dippyn o bren am eu heinioes, a chan dreiddio trwy 'r garw-fôr mewn llestr gwan, ydynt gadwedic.
6 Ac * 1.641 yn y dechreuad pan ddifethwyd y cawri beilchion, gobaith y bŷd trwy ffoi i long, a adawodd i'r bŷd hâd genedigaeth, wedi ei llywodraethu a'th law di.
7 Canys bendigedic yw 'r pren, trwy yr hwn y daw cyfiawnder.
8 Eithr melldigedic yw 'r hyn a wnaed â llaw, a'r hwn a'i gwnaeth, * 1.642 hwn am iddo ei weithio ef, a hwnnw am ei alw ef yn dduw, ac ynteu yn llygredig.
9 Yr * 1.643 annuwiol a'i annuwioldeb ydynt mor gâs gan Dduw bôb vn a'i gilydd.
10 O herwydd yr hyn a wnaed, ynghyd a'r hwn a'i gwnaeth, a gospir.
11 Am hynny y bydd ymweliad ar eulyn∣nod y Cenhedloedd; am eu gwneuthur hwy ym mysc creaduriaid Duw yn ffieidd-dra, * 1.644 ac yn dramgwydd i eneidiau dynion, ac yn fagl i draed y rhai angall.
12 Canys dechreuad godineb [yspryd∣awl] oedd ddychymygu eulynnod, a'i caffae∣liad hwy oedd lygredigaeth buchedd.
13 Oblegit o'r dechreuad nid oeddynt hwy, ac ni byddant yn dragywydd chwa∣ith.
14 Trwy ofer-ffrost dynion y daethant i'r byd, ac am hynny y bydd eu diwedd ar fyrder.
15 Y tâd yn gystuddiol trwy anamserol alar am ei fab, yr hwn a ddygwyd ymmaith yn gynnar, gwedi gwneuthur iddo ef dde∣lw, yn awr a'i haddolodd megis yn dduw, yr hwn oedd y prŷd hwnnw yn ddŷn marw, ac a roddes i'r rhai oedd tano cere∣moniau, ac aberthau.
16 Yna y cadwyd yn lle cyfraith yr an∣nuwiol ddefod, yr hon a gryfhasei mewn amser, ac wrth orchymmyn ‖ 1.645 teyrniaid yr addolwyd delwau cersiedic;
17 Y rhai ni allei dynion eu hanrhydeddu ‖ 1.646 yn eu gŵydd, am eu bôd yn trigo ym mhell, hwy a gymmerasant lun eu gwedd hwynt o bell, ac a wnaethant hynod ddelw brenin, yr hwn a anrhydeddent, er mwyn trwy eu dyfalwch hwn, gwenhieithio iddo ef oedd absennol, fel pe bai bresennol.
18 A chwant y crefft-wr i gael anrhydedd a annogodd yr annyscedic i addoli fwy-fwy.
19 Oblegit efe ond odit yn ewyllysio rhy∣glyddu bodd llywydd, a ymegniodd trwy ei gelfyddyd i osod y llûn i'r goreu.
20 A'r gwerin, wedi eu denu trwy dêg∣gwch y gwaith, a gyfrifent yna yn dduw, yr hwn ychydig o'r blaen a berchid fel dŷn.
21 A hyn a fu yn achlysur i dŵyllo 'r bŷd; o herwydd dynion yn gwasanaethu mewn dryg-fyd, a than drahausdeb, a rodda∣sant i gerric a phrennau yr henw ‖ anghyf∣rannog.
22 Wedi hynny nid oedd ddigon cyfeili∣orni ynghylch adnabod Duw, eithr lle yr oeddynt yn byw ym mawr ryfel anwybo∣daeth, y mawr ddrygau hynny a alwent hwy yn heddwch.
23 Oblegid tra oeddynt hwy * 1.647 yn lladd eu plant mewn aberthau, ac yn arfer dirgeledigaethau cuddiedig, neu yn gwneu∣thur ynfyd gyfeddach o ceremoniau di∣eithr:
24 Ni chadwent hwy na'i buchedd, na'i priodas yn lân. Y naill a laddei y llall mewn cynllwyn, neu a'i gofidiei trwy odi∣neb.
25 Pob peth oedd yn gymysclyd, gwaed a chelanedd, lledrad a thwyll, llygredigaeth, anffyddlondeb, terfysc, anudon,
26 Aflonyddwch i'r rhai da, angof am gymwynas, halogedigaeth eneidiau, cyfne∣wid genedigaethau, anllywodraeth mewn priodasau, godineb, ac anlladrwydd.
27 Oblegit addoliad eulynnod, y rhai ni ddylid eu henwi, yw dechreu, ac achos, a di∣wedd pôb drygioni.
28 Canys tra fyddont hwy yn llawen, y maent hwy naill ai yn ynfydu, ai yn pro∣phwydo celwydd, ai yn byw yn anghyf∣iawn, ai yn tyngu anudon yn hawdd.
29 Oblegit tra ydynt hwy yn coelio i eu∣lynnod meirw, er iddynt dyngu yn dorwg, nid ydynt yn disgwil dialedd.
30 Eithr fe ddaw iddynt hwy yr hyn sydd gyfiawn am y ddau, sef am feddwl am Dduw ar fai, gan lynu wrth eulynnod: a thyngu yn anghyfiawn, ac yn dwyllodrus, gan ddirmygu sancteiddrwydd.
31 Oblegit nid gallu y rhai y tyngir iddynt, eithr iawn gosp pechaduriaid a ddaw byth ar drossedd y rhai anghyfiawn.
PEN. XV.
1 Yr ydym yn cydnabod y gwir Dduw. 7 Ffo∣led yw y rhai sy 'n gwneuthur eulynnod, 14 a gelynion pobl Dduw, 15 gan eu bod hwy, heb law eulynnod y Cenhedloedd, 18 yn addoli anifeiliaid ffiaidd.
EIthr tydi ein Duw, ydwyt ddaionus a geir-wir; yn hir∣ymarhous, ac mewn tru∣garedd yn llywodraethu pob peth.
2 Oblegit os pechwn ni, eiddot ti ydym ni, y rhai a ŵyddom dy gryf∣der di: ond ni phechwn ni, a ninnau yn gŵy∣bod ein cyfrif ni yn eiddot ti.
3 Canys cyfiawnder cyflawn yw dy ad∣nabod ti, a gwreiddyn tragywyddoldeb yw gŵybod dy nerth di.
4 Canys ni thwyllodd drwg-gelfyddus ddychymyg dŷn mo honom ni; na chyscod portreiadau poen ddiffrwyth; llun wedi ei fritho ag anryw liwiau.
5 Golwg y rhai sydd yn peri chwant i'r rhai angall, ac felly y maent yn chwen∣nych llun delw farw ddi-anadl.
6 Rhai yn hoffi pethau drygionus, ac yn haeddu y fath bethau i goelio iddynt, yw y rhai a'i gwnant hwy, y rhai a'i chwenny∣chant, y rhai a'i gwasanaethant.
Page [unnumbered]
7 Canys y * 1.648 crochenydd hefyd a dylina bridd meddal, ac a lunia yn boenus bôb llestr i'n gwasanaeth ni: o'r vn clai y llu∣nia efe rai llestri i wasanaethu mewn gwa∣ith glàn; a rhai yr vn modd i'r gwrthwyneb: i ba beth y gwasanaetha pôb vn or ddau fath hyn, y crochenydd ei hun fydd farnŵr.
8 Ac o'r vn clai, trwy ddrygionus boen, y llunia efe dduw ofer, yr hwn a wnaethid ei hun o'r ddaiar ychydig o'r blaen, ac ychydig wedi a â i'r hon y cymmerwyd ef o ho∣ni; * 1.649 pan ofynner yr enioes a fenthygiwyd iddo.
9 Nid am ei fod efe yn cymmeryd poen, nac am fod ei hoedl ef yn ferr, y mae ei ofal ef, eithr y mae efe yn ymryson â gofaint aur, ac arian, ac yn dynwared y gofaint prês, ac y mae efe yn cyfrif yn anrhydedd iddo fôd yn llunio pethau gau.
10 Lludw yw ei galon ef, ei obaith hefyd sydd waelach nâ'r ddaiar, a'i fywyd yn fwy amharchus na'r clai:
11 Am nad adwaenei efe yr hwn a'i gwna∣eth, a'r hwn a roddes enaid grymiol iddo ef, ac a anadlodd yspryd bywiol ynddo.
12 Eithr cyfrif y maent hwy mai chware yw ein henioes ni, ac mai marsiandiaeth i elwa yw ein bywyd ni, oblegit rhaid, me∣ddant, yw elwa o ba le bynnac, hyd yn oed o ddrygioni.
13 Canys hwn yn anad neb a ŵyr ei fôd yn pechu, yr hwn sydd yn gwneuthur breu∣on lestri, a delwau o ddefnydd daiarol.
14 A holl elynion dy bobl di y rhai a ar∣glwyddiaethant arnynt, ydynt o'r fath ffol∣af, ac yn anhappusach nâ phlant bychain:
15 O herwydd iddynt dybied bôd holl eu∣lynnod y Cenhedloedd yn dduwiau, i'r rhai nid oes na llygaid yn gwasanaethu i we∣led, na ffroenau i dynnu yr ‖ 1.650 awŷr attynt, na chlustiau i glywed, na bysedd dwylo i deim∣lo, a'i traed hwy sydd ddiog i gerdded.
16 Oblegit dŷn a'i gwnaeth hwynt, a'r hwn nid oes ganddo ond benthyg yspryd, a'i lluniodd hwynt: eithr ni ddichon vn dŷn wneuthur duw tebyg iddo ei hun.
17 Canys efe yn farwol a weithia beth marw â dwylo anwir: gwell yw efe ei hun nà'r pethau y mae efe yn eu haddoli: oblegit efe a fu fyw [vnwaith,] a hwythau ni buant erioed.
18 Y maent hwy yn addoli yr anifeiliaid casaf: oblegit wrth eu cyd-gyffelybu, y mae rhai yn waeth nag eraill.
19 Nid ydynt mor dêg ag anifeiliaid eraill iw dymuno: canys methodd ganddynt gael na chlôd gan Dduw, na'i fendith ef.
PEN. XVI.
2 Rhoi o Dduw ymborth dieithr iw bobl, i chwanegu eu blys, ac anifeiliaid drwg yn elynion, iw ddwyn oddiarnynt. 5 Efe a'i brathodd hwy â seirph, 12 ond efe a'i hia∣chaodd hwy â'i air yn vnig. 17 Darfod i'r creaduriaid newidio eu naturiaeth er daioni i bobl Dduw, ac er drwg iw gelynion.
AM hynny y cospwyd hwynt â'r cyffelyb, fel yr haeddent, * 1.651 ac y dialeddwyd hwynt â lliaws o anifeiliaid.
2 Yn lle yr hwn ddia∣ledd y gwnaethost ti ddaio∣ni i'th bobl dy hun, i ba rai, i godi eu chw∣ant hwynt, y paratoaist ti * 1.652 sofl-ieir yn ym∣borth o flâs dieithr.
3 Fel y byddai iddynt hwy, yn chwen∣nych ymborth, ddi-garu y peth oedd ange∣rhaid ei chwennych, o herwydd golwg an∣hawddgar yr anifeiliaid a anfonesid iw mysc: ac y gwneid y rhai hyn, wedi eu bôd tros ychydig ennyd mewn eisieu, yn gyfran∣nogion o archwaeth newydd.
4 Oblegit yr oedd yn rhaid i angen, yr hwn ni ellid ei ochel, ddyfod ar y rhai hyn∣ny a arferasant drahausdeb: eithr i'r rhai hyn, digon oedd yn vnic ddangos pa fodd y rhoed dialedd ar eu gelynion hwynt.
5 Canys * 1.653 pan ddaeth creulon lid bwyst∣filod ar ‖ 1.654 y rhai hyn, a'i difetha hwynt â bra∣thiadau seirph dolennoc,
6 Nid hyd y diwedd yr arhôdd dy ddi∣gofaint di: eithr iw rhybuddio y blinwyd hwynt ychydig o ennyd, gan gael * 1.655 arwydd iechydwriaeth, i beri iddynt feddwl am or∣chymmyn dy Gyfraith di.
7 Oblegit yr hwn a drôdd [at yr ar∣wydd hwnnw a iachawyd,] nid gan yr hyn a welid, eithr gennit ti, Iachawdur pob peth.
8 A thrw y hyn y gwnaethost ti i'n ge∣lynion ni gredu, mai tydi yw yr hwn sydd yn achub o bôb drwg.
9 Y rhai a laddodd * 1.656 brath locustiaid a chaccwn, ac ni chaed meddiginiaeth iddynt hwy: oblegit hwy a haeddent eu cospi â'r cyfryw.
10 Ond ni wnai dannedd dreigiau gwen∣ŵynic niwed i'th blant di: oblegit dy dru∣garedd di a ddeuei yn erbyn hynny, ac a'i hiachaei hwynt.
11 Canys i feddwl am dy ymadroddion di y brathwyd hwynt; a hwy yn ebrwydd a iachawyd, fel heb syrthio mewn dyfn ang∣of ‖ 1.657 y cofient yn wastad dy ddaioni di.
12 Oblegit nid llysieun, nac eli a'i ia∣chaodd hwynt, eithr dy air di, ô Arglwydd, yr hwn sydd yn iachâu pôb dim.
13 O herwydd y mae i ti feddiant ar en∣ioes ac angeu, ac yr ydwyt ti yn * 1.658 dwyn i wared hyd byrth vffern, ac yn dwyn i fynu drachefn.
14 A dŷn yn ei ddrygioni a ladd, a phan elo yr yspryd allan, ni ddychwel efe, ac ni ddaw yn ei ôl yr enaid a gymmerer i fynu.
15 Eithr amhossibl yw diangc rhag dy law di.
16 Oblegit * 1.659 yr annuwolion, y rhai sydd yn gwadu eu bôd yn dy adnabod di, a ffre∣wyllwyd o nerth dy fraich di, gan gael eu herlid â rhyfeddol law a chenllysc, ac â chafodau heb allu eu gochelyd, a hwy a ddi∣fethwyd â thân.
Page [unnumbered]
17 A'r hyn sydd ryfeddaf, y tân oedd yn gweithio fwy-fwy yn y dwfr, yr hwn fydd yn diffoddi pob peth: canys y mae y byd yn * 1.660 ymladd tros y rhai cyfiawn.
18 Canys weithieu fe fyddei lai y fflam, fel na loscei hi yr anifeiliaid a anfonesid yn erbyn y rhai annuwiol; eithr trwy weled, hwy a allent ŵybod eu hunain mai trwy farn Duw yr erlidid hwynt.
19 Ac weithieu efe a loscei ym mysc y dwfr, yn fwy nag y gallei tàn, i ddifetha ffrwyth tir anghyfiawn.
20 Yn lle hynny * 1.661 â bwyd Angelion y porthaist ti dy bobl dy hun, a thi a anfo∣naist iddynt hwy fara parod o'r nefoedd yn ddiboen, yr hwn a wasanaethei i bôb hy∣frydwch, ac i bób archwaeth, yn gym∣mwys.
21 * 1.662 Canys dy ‖ 1.663 ymborth di oedd yn dan∣gos dy felysdra i'th blant, ac yn gwasan∣aethu chwant y bwyttawr, ac yn ymdym∣mheru wrth fodd pob vn.
22 Yr * 1.664 eira hefyd a'r iâ oedd yn dioddef y tân, ac heb doddi, fel y gallent hwy ŵy∣bod mai 'r tân, yr hwn oedd yn ffaglu yn y cenllysc, ac yn llewyrchu yn y glaw, oedd yn difetha ffrwyth y gelynion.
23 Hwn hefyd, fel y cai y rhai cyfiawn tu cynnal, a ollyngodd ei allu dros gof.
24 Oblegit y creadur, yr hwn sydd yn dy wasanaethu di, yr hwn a wnaethost bôb peth, a annelir i beri cospedigaeth ar yr ang∣hyfiawn, ac a ddadannelir i wneuthur dai∣oni i'r rhai a ymddiriedant ynot ti.
25 Am hynny efe yna yn ymrithio i bôb ‖ 1.665 peth, a wasanaethei dy râs di, yr hwn sydd yn maethu pôb peth wrth ewyllys y ‖ 1.666 rhai anghenus.
26 Fel y dysco dy blant di, y rhai sydd hoff gennit ti, ô Arglwydd, * 1.667 nad cyn∣nyrch ffrwyth sydd yn porthi dŷn, eithr mai dy air di sydd yn cadw y rhai a gre∣dant ynot.
27 Oblegit y peth ni ddifethodd y tân, wedi ei dwymno ychydig gan belydr yr haul, a feiriolodd yn ebrwydd.
28 Fel y byddei hyspys, y dylid achub blaen yr haul, i roddi diolch i ti, a gweddio arnat ti ar dorriad y dydd.
29 Oblegit gobaith yr anniolchgar a dawdd ymmaith fel llwyd-rew y gaiaf, ac a rêd ymmaith fel dwfr difudd.
PEN. XVII.
1 Pa hum y cospwyd yr Aiphtiaid â thy∣wyllwch. 4 Mor erchyll oedd y ty∣wyllwch hwnnw. 12 Mor ofnadwy yw cydwybod ddrwg.
DY farnedigaethau di sydd fawr, ac ni ellir eu trae∣thu: am hynny yr aeth y ‖ 1.668 rhai annyscedic ar gyfei∣liorn.
2 Oblegid y rhai anwir yn amcanu gorthrymmu y genedl sanc∣taidd, wedi eu gwarchae yn eu tai, yn gar∣charorion tywyllwch, a'i llyffetheirio â rhwymau hir-nos, a orweddasant yno, yn ffoaduriaid oddiwrth y rhagluniaeth dra∣gywyddol.
3 Canys pan dybiasant hwy lechu mewn cuddiedic bechodau, tan dywyll orchudd angof, hwy a wascarwyd, wedi eu dychry∣nu yn aruthrol, a'i trallodi gan weledigae∣thau [dieithr.]
4 Canys ni allei y gilfach a'i daliei hwynt eu cadw hwy yn ddiofn: eithr yr oedd twr∣wf yn swnio o'u hamgylch, yr hwn oedd yn eu blino hwynt, a gweledigaethau prudd∣aidd ag wyneb sarric yn ymddangos iddynt.
5 Nid oedd dim gallu gan y tán i lewyr∣chu, ac ni allei ddisclair lewych y sêr oleuo y nôs erchyll honno.
6 Eithr tân yn vnic yn cynneu o honaw ei hun, yn ofnadwy iawn, a ymddangosodd iddynt hwy; wedi eu dychrynu hwynt â'r weledigaeth honno ni welid, hwy a dybiasant fôd y pethau a welid yn waeth.
7 Felly y * 1.669 bwriwyd i lawr oferedd cel∣fyddyd hudoliaeth, a'r gwradwyddus ge∣rydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost o'i doethineb.
8 O blegit y rhai a addawsant yrru ymmaith ofn a blinder oddi wrth enaid llesc, a aethant yn llesc eu hun, rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin am ei ben.
9 O herwydd er nad oedd dim erchyll yn eu hofni hwynt; er hynny wedi eu dy∣chrynu wrth fynediad bwyst-filod heibio, a chwibaniad seirph,
10 Buant feirw o ofn, gan ommedd edrych ar yr awyr, yr hwn nid oedd le iw ochelyd.
11 Canys peth ofnus yw drygioni, wedi rhoddi barn iw erbyn, wrth ei dystiolaeth ei hun, a'r gydwybod yn gwascu arno fydd yn darogan pethau blîn yn wasta∣dol.
12 Canys nid yw ofn ddim, ond brady∣chu yr help a gaffer gan reswm.
13 A'r disgwiliad oddi fewn yn llai, a gyfrif yr anwybodaeth yn fwy nâ'r achos, yr hwn sydd yn peri blinder.
14 Eithr hwynt yn cyscu yr vn hûn y nosson honno, yr hon ni ellid yn ddiau ei dioddef, ac a ddaethei arnynt o waelodion vffern anocheladwy:
15 Weithieu a flinid â gweledigaethau rhyfedd, ac weithieu a lewygent gan ball calon; canys ofn disymmwth, ac heb edrych am dano, a ddaeth arnynt.
16 Felly, pwy bynnac a syrthiei yno, efe a gedwid, ac a gaeid mewn carchar heb haiarn.
17 Canys pa vn bynnag ai llafur-wr fy∣ddei vn, neu fugail, neu vn yn gwneuthur y gwaith sydd yn y ‖ 1.670 diffaethwch, pan dde∣lid ef, efe a ddioddefei yr angen ni's gellid ei ochelyd: oblegit ag vn gadwyn ty∣wyllwch y rhwymid hwynt oll.
18 Pa vn bynnag ai gwynt chwiban,
Page [unnumbered]
ai hyfrydaidd sain adar ym mysc y cang∣hennau tewion, ai cyssain dwfr yn cerdded yn chwyrn;
19 Ai sŵn erchyll creigiau a fwrid i lawr, ai rhedfa anifeiliaid yn moelystotta heb ei gweled, ai llais creulon bwyst∣filod rhuadwy, ai carreg-lefain yn dad∣seinio o ogfeydd y mynyddoedd: y pethau hyn a'i dychrynei hwy, fel y llewy∣gent.
20 Canys yr holl fyd a oleuid yn oleu ddisclair, ac ni rwystrid neb yn eu gwaith.
21 Yn vnic arnynt hwy y daethi nôs drom, cyffelybrwydd i'r tywyllwch a ddeu∣ei arnynt hwy; eithr yr oeddynt iddynt eu hunain yn flinach nâ'r tywyllwch.
PEN. XVIII.
1 Pa ham y cospwyd yr Aipht â thywyllwch, 5 ac â marwolaeth eu plant. 18 Eu bod hwy eu hun yn gweled yr aehos o hynny. 20 Gospi o Dduw ei bobl ei hun; a phafodd yr attaliwyd y bla honno.
EIthr i'th Sainct di yr oedd * 1.671 goleuni o'r mwyaf, llais y rhai yr oeddynt hwy yn eu clywed, ond nid oeddynt yn gweled eu gwedd hwynt, a hwy a'i cyfrifa∣sant hwynt yn ddedwydd, am na ddiodde∣fasent hwythau yr vn pethau.
2 Rhoddasant hefyd iddynt ddiolch am na wnaethent niwed wedi cael cam o'r blaen, a dymunasant faddeuant am fôd yn elynion iddynt.
3 Yn lle hynny y rhoddaist iddynt hwy golofn o dàn poeth, i flaenori yn y daith anhyspys, ac i fod yn haul diniwed i'r ym∣daith * 1.672 barchedig.
4 Yr oeddynt hwy yn ddiau yn haeddu bôd heb oleuni, a'i carcharu mewn ty∣wyllwch, y rhai a gadwasant dy blant di yngharchar, trwy y rhai yr oedd anlly∣gredic oleuni y gyfraith iw roddi i'r bŷd.
5 * 1.673 Pan amcanasent hwy ladd rhai by∣chain y Sainct, yna trwy vn plentyn yr hwn a fwriesid allan, ac a gadwesid iw ce∣ryddu hwynt, y cymmeraist ymmaith la∣wer o'i plant hwy, ac a'i difethaist hwynt ar vnwaith yn y dwfr crŷf.
6 * 1.674 Ein tadau ni a gawsant ŵybodaeth am y nôs honno o'r blaen: fel y byddent la∣wen, am eu bôd yn gwybod yn ddiogel i ba lwon y credasent.
7 Felly y derbyniodd dy bobl di iechyd∣wriaeth y rhai cŷfiawn, a dinistr y gely∣nion.
8 Canys megis y cospaisti ein gwrth∣wynebwŷr, trwy 'r vn peth y rhoddaist an∣rhydedd i ni, y rhai a alwesit ti.
9 * 1.675 Canys sanctaidd blant y rhai daionus a aberthasant yn ddirgel, ac a osodasant ‖ 1.676 gyfraith dduwiol yn gydtun; ar fód y rhai sanctaidd yr vn modd yn gysrannogion o dda a drwg, a'r tadau yn awr yn canu o'r blaen ganiadau mawl.
10 Eithr anghysain waedd y gelynion a ddadseiniodd o'r tu arall: a gresynol nâd oedd yn cerdded am blant y galerid am da∣nynt.
11 A'r vn fath ddialedd y cospid * 1.677 y gwâs a'r meistr, yr vn pethau yr oedd y gwr∣êng a'r brenin yn eu dioddef.
12 Rhai aneirif oedd ganddynt hwy oll, wedi meirw ar vn-waith o'r vn farwo∣laeth, fel nad oedd digon o rai byw iw claddu hwynt: canys mewn vn moment y difethwyd eu hiliogaeth anrhydeddusaf hwy.
13 Canys lle na chredent hwy ddim o herwydd y swynion, pan ddifethwyd y cyntaf-anedic, y cyffessasant mai plant Duw oedd y bobl hyn.
14 O herwydd pan oedd pob peth mewn distawrwydd tawel, a'r nôs ynghanol ei gyrfa fuan,
15 Dy holl-alluoc air di a neidiodd o'r nef o'th orseddfa frenhinawl, i ganol y wlâd ddinistriol, fel rhyfel-wr ffrom.
16 Gan arwain dy orchymmyn dirag∣rith di yn lle cleddyf llym, yr hwn a sa∣fodd, ac a lanwodd bôb peth â marwol∣aeth, ac oedd yn cyffwrdd á'r nefoedd er ei ddescyn i'r ddaiar.
17 Yna gweledigaethau breuddwydion aruthrol a'i blinasant hwy yn ddisym∣mwth, a'r ofn nid oeddynt yn ei ddisg∣wil a ddaeth arnynt.
18 Ac wedi bwrw vn i lawr ymma, ac arall accw, yn hanner marw, hwy a fyne∣gasant am ba achos yr oeddynt yn marw.
19 O blegit y breuddwydion, y rhai oedd yn eu blino hwynt, a rag-yspyssa∣sent hyn, fel na ddifethid hwynt heb wybod pa ham yr oeddynt yn dioddef niwed.
20 Cyffyrddodd profedigaeth angeu wei∣thieu á'r rhai cyfiawn hefyd, a bu ddinistr ar y * 1.678 dyrfa yn y diffaethwch: ond ni hîr barhâodd y digter.
21 Oblegit y gŵr difai a'u deffynnodd hwynt ar frŷs, gan arwain arfau ei swydd ei hun, sef gweddi, ac iawn o arogl-darth, ac a safodd yn erbyn y llid, ac a ddiben∣nodd y cystudd, gan doangos mai dy wâs di oedd efe.
22 Ac efe a orchfygodd y dinistrydd, nid o gryfder corph, na thrwy waith arfau, eithr â gair y darostyngodd efe yr hwn oedd yn cystuddio, gan goffau ‖ 1.679 llw, a chyfam∣mod y tadau.
23 Canys pan oedd y meirw yn syrthio ar ei gilydd yn dyrrau, efe a safodd yn y canol, ac a dorrodd y digter, ac a ‖ 1.680 rannodd y ffordd oedd yn myned at y byw.
24 Oblegit * 1.681 yn y wisc laes yr oedd ‖ 1.682 yr harddwch oll, a gogoniant y tadau yng∣herfiad y pedair rhês o feini, a'th fawredd ditheu yn y goron am ei ben ef.
25 I'r rhai hyn y rhoddes y dinistrydd le, ac a'i hofnodd hwynt: canys digon oedd yn vnic brofi o honynt y digter.
Page [unnumbered]
PEN. XIX.
1 Pa ham na wnaeth Duw drugaredd â'r Aiph∣tiaid: 5 Ac mor rhyfeddol y gwnaeth efe a'i bobl. 14 Bod yr Aiphtiaid yn waeth nâ'r So∣domiaid. 18 Rhyfeddol mor gyttûn yw'r creaduriaid i wasanaethu pobl Dduw.
EIthr digter didrugaredd a barhaodd hyd y diwedd i'r annuwolion; oblegid efe a wyddai o'r blaen yr hyn a wnaent hwy:
2 Sef wedi iddynt roddi cennad iddynt i fyned ym∣maith, a'i gyrru hwy ar frys, y byddai edi∣far ganddynt, ac yr erlidient hwynt.
3 Canys pan oeddynt hwy yn galaru, ac yn ŵylofain wrth feddau y meirw, hwy a ddychymmygasant feddwl ynfyd arall, a'r rhai a yrrasent hwy allán dan ymbil â hwynt, a erlidiasant hwy megis rhai yn ffo.
4 Oblegit y dynged a haeddent a'i har∣weiniodd hwynt i'r diwedd hwn, ac a wnaeth iddynt anghofio y pethau a ddig∣wyddasent eusys, fel y cyflawnent hwy y gospedigaeth oedd yn ôl iw dialedd hwy.
5 Ac fel y cai dy bobl di fyned trwy ffordd ryfedd, ac y caent hwythau farwolaeth ddieithr.
6 Oblegit pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd trachefn o newydd, i wasanae∣thu y gorchymynion priodol a roddwyd iddynt, fel y cedwid dy blant di yn ddiniwed.
7 Y cwmwl a gyscododd tros y gwer∣syll, a lle y buasei ddwfr o'r blaen, y gwelid tîr sych, îe yn y môr côch yr oedd ffordd ddi∣rwystr, a maes yn dwyn gwellt-glâs yn y ffrwd chwyrn:
8 Trwy yr hon yr aeth yr holl genedl a amddeffynnodd dy law di, gan weled gwr∣thiau rhyfedd.
9 Fel meirch y porthasid hwynt, ac fel ŵyn y llamment hwy, gan dy foliannu di ô Arglwydd eu gwaredydd hwynt.
10 Oblegit hwy a gofient etto y pethau a ddigwyddasei tra'r oeddent yn ymdaith yn y wlâd ddieithr; y modd yn lle eppiliaeth anifeiliaid y dygasei y ddaiar allan ‖ wybed, ac y dygasei yr afon allan lawer o lyffaint yn lle pyscod.
11 Eithr * 1.683 wedi hynny hwy a welsant eppiledd newydd o adar, pan ddygwyd hwynt trwy flŷs i ddymuno bwyd dain∣teithiol.
12 Oblegit sofl-ieir a ddaeth i fynu o'r môr, yn ‖ 1.684 ddiddanwch iddynt hwy:
13 Ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd, nid heb wrthieu o'r blaen, trwy egni tara∣nau: o herwydd yr oeddynt hwy yn heuddu dioddef am eu hanwiredd: oblegit yr oeddynt hwy yn dwyn dygyn-gâs i, ddiei∣thraid:
14 Canys [y Sodomiaid] ni dderbynient, y rhai nid adwaenent pan ddaethant: eithr y rhai hyn a gaethiwasant y dieithraid a wnaethei iddynt hwy ddaioni.
15 Ac nid hynny yn vnic, eithr ysgatfydd fe a edrychir peth ar y rhai hynny, am iddynt drîn dieithraid yn anghyweithas.
16 Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt ‖ 1.685 yn llawen, a gystuddiasant â phoe∣nau aruthrol, y rhai oedd yn awr gy∣frannogion o'r vn gyfraith.
17 A'r rhai hyn a darawyd â dallineb, fel [y tarawsid] y rhai hynny * 1.686 wrth ddrws y cyfiawn: pan geisiodd pob vn y ffordd iw ddrws ei hun, wedi eu hamgylchu hwy â thywyllwch anferthol.
18 Oblegit yr elementau a newidiwyd ‖ 1.687 o honynt eu hunain yn gysson, fel y newidia sain cynghanedd mewn psaltring, henw y dôn, er bôd y swn yn aros bob amser, me∣gis y gellir ystyried wrth edrych yn graff ar y pethau a wnaed.
19 Canys y pethau daiarol a droed yn be∣thau o'r dwfr, a phethau nofiadwy a ger∣ddasant ar y ddaiar.
20 Y tân oedd nerthol yn y dwfr, wedi gollwng tros gôf ei rinwedd ei hun, a'r dwfr a anghofiasei ei naturiaeth i ddiffoddi.
21 Yn y gwrthwyneb, ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliad llygradwy, y rhai a rodient ynddo, nac i'r ymborth nefol ddarfod, er ei fôd fel * 1.688 iâ tawddadwy, o rywogaeth i doddi.
22 Canys dy bobl a fawrygaist, ac a an∣rhydeddaist, ym mhob dim, ô Arglwydd: ac ni ddiystyraist hwynt; ond bod gyd â hwynt bob amser, ac ym mhob lle.
Page [unnumbered]
❧ DOETHINEB IESVS MAB SIRACH, neu ECCLESIASTICVS.
Prolog a wnaeth Awdur anadnabyddus.
YR Iesus hwn oedd fâb i Sirach, ac ŵyr i Iesus, o'r vn enw ag el. Y gwr hwn gan hynny oedd fyw yn yr amseroedd diweddaf, gwedi caethgludo y * 1.689 bobl, a'i galw adref drachefn, ac agos ar ôl yr holl Brophwydi. Ei daid ef Ie∣sus (fel y mae efe ei hun yn tystiolaethu) oedd ŵr diwyd iawn, a doeth ym mysc yr Hebræaid, yr hwn nid yn vnic a gasclodd ddŵys a byrr ymadroddion y gwŷr doethion a fuasei o'i flaen ef, eithr ei hun hefyd a draethodd rai o'r eiddo ei hun, yn llawn o fawr ddalltwriaeth a doethineb. Am hynny pan fu farw yr Iesus cyntal, a gadel y llyfr hwn wedi ei ‖ 1.690 orphen agos, Sirach ei fâb ef, wedi ei gael ar ei ôl ef, a'i gadawodd iw fâb ei hun Iesus, yr hwn wedi ei gael iw law, a'i cynnhullodd i gŷd yn drefnus, yn vn ‖ 1.691 llyfr, ac a'i galwodd Doethineb, gan roddi ei enw ei hun, enw ei dâd, a'i daid, yn deitl iddo, gan ddenu y gwrandawr trwy enw doethineb, i roi mwy o serch ar studio y llyfr hwn. Y mae efe gan hynny yn cynnwys ymadroddion doethion, sentensian dieithr, a dammhegion, a rhai hên storiau duwiol priodol, am wŷr a ryngasai fodd Duw. Ei weddi hefyd a'i gân. Heb law hynny, pa ddaioni a welsei Duw yn dda [ei wneuthur] iw bobl, a pha blaau a bentyrrasei efe ar eu gelynion hwy. Yr Iesus ymma oedd yn dilyn Solomon, ac nid oedd lai enwog am ddoethineb, a dysceidiaeth; ac yntau yn wir yn ŵr mawr ei ddysc, ac yn cael ei gyfrif felly.
Prolog Doethineb Iesus fab Sirach.
GAN roddi i ni lawer a mawrion bethau trwy y Gyfraith a'r Prophwydi, ac eraill a'i dilynasant hwy, am ba rai y mae yn rhaid canmol Israel, o her∣wydd addysc a doethineb; ym mha rai y mae yn rhaid nid yn vnic i'r dar∣llennyddion fyned yn ddoethach, eithr hefyd i'r rhai sy yn chwennychu dys∣cu, fôd yn suddiol i'r rhai oddi allan, drwy draethu, ac scrifennu hefyd: fy∣nhaid i Iesus, wedi iddo ymroddi yn fawr i ddarllen y Gyfraith a'r Proph∣wydi, ac eraill o lyfrau ein tadau, ac wedi myned yn hyfedr ynddynt hwy, A ddygwyd rhagddo i scrifennu peth ei hun, o'r pethau a berthyn i addysc a doethineb; fel y gallei y rhai sydd awyddus i ddysc, ac wedi ymroddi i'r pethau hyn, gynnyddu yn fwy mewn buchedd, yn ôl y Gyfraith. Am hynny byddwch, attolwg, yn ewyllyscar, ac yn ddyfal iw ddarllen, a maddeuwch i ni, os nyni wrth gymmeryd poen yn cyfieithu, a welir heb gyr∣rhaeddyd grym rhyw eiriau. Oblegit nid yw yr vn pethau o'r vn grym, pan draether hwynt yn Hebræaec, a phan droer hwynt i iaith arall. Ac nid hyn yn vnic, eithr pethau eraill, sef y Gyfraith, a'r ‖ 1.692 Prophwydi, a'r llyfrau eraill sy iddynt ‖ 1.693 ragoriaeth nid bychan, pan drae∣ther hwynt yn eu hiaith eu hun. Oblegit yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i'r bre∣nin Euergetes, wedi i mi ddyfod i'r Aipht, ac aros yno ennyd, mi a gefais lyfr o addysc nid bychan. Am hynny y tybiais fod yn angenrheidiaf dim gymmeryd peth diwydrwydd a phoen iw gyfieithu ef. Felly mi a ymroddais trwy fawr anhunedd a chyfarwyddyd, yr amser hwnnw, i ddwyn y llyfr i ben, ac iw osod allan er eu mwyn hwythau hefyd, y rhai mewn gwlâd ddieithr ŷnt yn chwennych dyscu, wedi ymbaratoi o'r blaen yn ei moddau, i fyw yn ôl y Gyfraith.
Page [unnumbered]
PEN. I.
1 O Dduw y mae pob doethineb: 10 Ac i'r rhai a'i carant ef, y mae efe yn ei rhoi hi. 12 Ofn Duw yw llawnder llavver o fendi∣thion. 28 Ofn Duw heb ragrith.
* 1.694 ODdi wrth yr Ar∣glwydd [y daeth] pob doethineb, a chyd ag ef y mae hi byth.
2 Pwy a rif dywod y mor? a'r dafnau glaw? a dyddiau tragwy∣ddoldeb?
3 Pwy a ol∣rhain allan vch∣der y nefoedd? a llêd y ddaiar? a'r dyfnder? a doethineb?
4 Crewyd doethineb yn gyntaf o'r cwbl, a deall synwyr erioed.
5 Ffynnon doethineb yw gair Duw goruchaf, a'i ffyrdd hi yw y gorchymynion tragywyddol.
6 I * 1.695 bwy y dadcuddiwyd gwreiddyn doethineb, a phwy a ŵybu ei chynghorion doeth hi?
7 [I bwy yr eglurwyd gŵybodaeth doethi∣neb? a phwy a ddeallodd ei hamryw ffyrdd hi?]
8 Vn sydd ddoeth iw ofni yn fawr, yr Ar∣glwydd yn eistedd ar ei orfedd-faingc.
9 Yr Arglwydd a'i creawdd hi, ac [a'i] gwelodd, ac a'i rhifodd, ac a'i tywalltodd hi ar ei holl waith.
10 Y mae hi gyd â phob cnawd, yn ôl ei roddiad ef, ac efe a'i rhoddes hi i'r neb a'i ca∣rant ef.
11 Anrhydedd, a gogoniant, a hyfrydwch, a choron gorfoledd yw ofn yr Arglwydd.
12 * 1.696 Ofn yr Arglwydd sydd ddifyrrwch i'r galon, ac a rydd lawenydd a hyfrydwch a hir hoedl.
13 Yn y diwedd, da fydd i'r hwn a ofno yr Arglwydd, ac efe a fendithir yn ei ddydd di∣wedd.
14 Dechreu doethineb yw ofni yr Argl∣wydd, ‖ ac efe a grewyd gyd â'r ffyddloniaid yn y groth.
15 Hi a osododd sylfaen tragywyddol gyd â dynion, a chyd â'i * 1.697 hiliogaeth hwynt y pe∣ry hi.
16 * 1.698 Ofn yr Arglwydd yw cyflawnder doethineb, ac sydd yn llenwi dynion â'i firwyth hi.
17 Hi a lanwodd eu holl dai hwynt â'i phe∣thau dymunol, a'i hyscuboriau hwynt â'i chnŵd.
18 Coron doethineb yn dwyn allan ffrwyth heddwch, ac iechydwriaeth iachol yw ofn yr Arglwydd, a dawn Duw yw pob vn o'r ddau: ac y mae hi yn helaethu gorfo∣ledd i'r rhai a'i carant ef.
19 Doethineb a lawiodd ddeall, a gwybo∣daeth synŵyr, ac a dderchafodd ogoniant y rhai a lynant ynddi.
20 Gwreiddyn doethineb yw ofni yr Argl∣wydd, a'i changhennau ydynt hir hoedl.
21 Ofn yr Arglwydd sydd yn gyrru pecho∣dau ymmaith, ac yn troi digofaint ymmaith lle y byddo hi yn bresennol.
22 Ni ddichon gŵr digllon ‖ 1.699 gael ei gyfrif yn gyfiawn: oblegit athrylith ei ddigllonedd a fŷdd yn dramgwydd iddo.
23 Y dioddefgar a ddioddef tros amser, ac wedi hynny y blagura llawenydd iddo ef.
24 Efe a guddia ei eiriau tros amser, a gwefusau llawer a fynegant ei synhwyr ef.
25 Yn nhryssorau doethineb y mae dam∣hegion gwybodaeth: eithr ffiaidd yw duwi∣oldeb gan bechadur.
26 Os chwennychi ddoethineb, cadw y gorchymynion, a'r Arglwydd a'i rhydd hi i ti.
27 Oblegit doethineb ac athrawiaeth yw ofn yr Arglwydd, a bodlon yw ganddo ffydd ac addfwyndra.
28 Nac ‖ 1.700 ammeu ofn yr Arglwydd, pan fy∣ddech mewn angen, ac na ddôs atto ef â chalon ddau ddyblyg.
29 Na ragrithia o flaen dynion, eithr edrych beth a ddywedych.
30 Na dderchafa dydi dy hun, rhag i ti syrthio, a dwyn ammharch i'th enaid dy hun, ac i'r Arglwydd ddadcuddio dy holl gy∣frinach di, a'th fwrw i lawr ynghanol y gynnulleidfa, am na ddaethost mewn gwi∣rionedd at ofn yr Arglwydd; eithr bôd dy ga∣lon yn llawn twyll.
PEN. II.
1 Rhaid i weision Duw ddisgwyl am flinderau, 7 a bod yn ddioddefgar, ac ymddiried ynddo ef. 12 Canys gwae y rhai ni wnelo hyn∣ny. 15 A'r rhai a ofnant yr Arglwydd a wnant hynny.
FY máb * 1.701 os deui i wasa∣naethu yr Arglwydd, pa∣ratoa dy enaid i brofedi∣gaeth.
2 Vniona dy galon, a dioddef: ac na wna frys yn amser trallod.
3 Glŷn wrtho ef heb ymado, fel i'th gyn∣nydder yn dy ddiwedd.
4 Derbyn yn llawen yr hyn a ddigwyddo, a bydd ymarhous wrth dy gyfnewid i ostyn∣giad.
5 * 1.702 Oblegit aur a brosir yn tân: a dynion cymmeradwy yn ffwrn gostyngiad.
6 Creda ynddo ef, ac efe a'th ‖ 1.703 dder∣byn di: vniona dy lwybrau, a gobeithia ynddo ef.
7 Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd, credwch iddo ef, ac ni phalla eich gwobr chwi.
8 Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd, go∣beithiwch am ddaioni, ac am lawenydd, cra∣gywyddoldeb, a thugaredd.
Page [unnumbered]
9 Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd, ymarhoswch am ei drugaredd ef, ac na chi∣liwch, rhag eich syrthio.
10 Edrychwch ar y cenhedlaethau gynt, a gwelwch, pwy a ymddiriedodd i'r Argl∣wydd, ac a wradwyddwyd? neu pwy a arhosodd yn ei ofn ef, ac a adawyd? * 1.704 neu pwy a alwodd arno ef, ac ynteu yn ei ddi∣ystyru ef?
11 O blegit tosturiol, a thrugarog, ymar∣hous, ac aml o drugaredd, yw 'r Arglwydd: ac y mae efe yn maddeu pechodau, ac yn achub yn amser trallod.
12 Gwae y calonnau ofnus, a'r dwylo llesc, a'r pechadur a gerddo ddau lwybr.
13 Gwae yr galon lesc: o herwydd nid yw yn credu: am hynny ni amddeffynnir ef.
14 Gwae chwi, y rhai a gollasoch amy∣nedd: a pha beth a wnewch chwi pan ymwelo yr Arglwydd â chwi?
15 Y rhai a ofnant yr Arglwydd ni ‖ 1.705 ang∣hredant ei eiriau ef: * 1.706 a'r rhai a'i carant ef, a gadwant ei ffyrdd ef.
16 Y rhai a ofnant yr Arglwydd, a geiū∣ant yr hyn sydd dda ganddo ef, a'r rhai a'i carant ef a lenwir â'r gyfraith.
17 Y rhai a ofnant yr Arglwydd a barato∣ant eu calonnau, ac a ostyngant eu henei∣diau ger ei fron ef.
18 [Gan ddywedyd,] syrthiwn yn nwylo Duw, ac nid yn nwylo dynion. O herwydd fel y mae ei fawredd ef, felly y mae ei dru∣garedd ef.
PEN. III.
3 Rhaid i blant anthydeddu a chymmorth eu tadau ai mammau. 21 Na ddylem ni chwennych cael gwybod pob peth. 26 Y cyfrgollir y rhai a wrthodo gerydd. 30 Y ceir tàl am elusen.
FY mhlant, clywch fi eich tâd, a gwnewch felly, fel y byddoch gadwedic.
2 O blegit yr Arglwydd a roddes * 1.707 i'r tàd anrhydedd ar y plant, ac a siccrhaodd ‖ 1.708 farn y fam ar y meibion.
3 Yr hwn sydd yn anrhydeddu ei dâd, sydd yn cael maddeuant am [ei] bechod;
4 A'r hwn sydd yn anrhydeddu ei fam, sydd fel vn yn casclu tryssor.
5 Yr hwn a anrhydeddo [ei] dâd, a gaiff lawenydd o'i blant, ac efe a wrandewir y dydd y gweddio.
6 Hîr-hoedloc fydd yr hwn a anrhydeddo [ei] dâd: a'r hwn a vfyddhao yr Arglwydd a bair ‖ 1.709 orphywysdra iw fam.
7 Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd a anrhydedda [ei] dâd, ac a wasanaetha y rhai a'i cenhedlasant ef, fel ei arglwyddi.
8 Anrhydedda * 1.710 dŷ dad a'th fam ar weithred a gair, fel y delo i ti fendith ‖ 1.711 gan ddynion.
9 * 1.712 Oblegit bendith y tâd a siccrhâ deiau y plant, ond melldith y fam a ddiwreiddia sylfeini.
10 Na ymffrostia yn ammarch dy dad: o herwydd nid parch i ti fydd ammarch dy dad.
11 Canys anrhydedd fydd i ddyn o anrhy∣dedd ei dad: a mam mewn ammarch sydd warth i'r plant.
12 Fy mab, cynnorthwya dy dad yn ei he∣naint, ac na thristâ ef yn ‖ 1.713 dy fyw.
13 Os palla ei synhwyr, cyd-ddwg ag ef, ac na amharcha ef [pan fyddech] yn dy ‖ 1.714 holl gryfder.
14 O herwydd nid anghofir dy ‖ 1.715 druga∣redd i'th dâd; ac yn lle pechodau fe a'i chwannegir i'th adeiladu di i fynu.
15 Yn nydd dy drallod y meddylir am danat * 1.716 ti, a'th bechodau a doddir, megis [pan ddél] meiriol ar iâ.
16 Megis cablwr yw yr hwn sydd yn gwrthod ei dâd, a melldigedig gan Dduw yw yr hwn sydd yn digio ei fam.
17 [Fy] mab, gorphen dy waith yn llednais, a'r dŷn cymmeradwy a'th hoffa di.
18 * 1.717 Pa mwyaf fyddech, ymddarostwng yn fwy: a thi a gei ffafor yngŵydd yr Ar∣glwydd.
19 Y mae llawer yn vchel-radd, ac yn an∣rhydeddus, eithr i'r rhai * 1.718 llednais y datcu∣ddir dirgeledigaethau:
20 Canys mawr yw gallu yr Argl∣wydd, a'r rhai gostyngedig a'i hanrhyde∣ddant ef.
21 Na * 1.719 chais yn ddisynhwyr bethau rhy galed i ti, ac na chais yn angall bethau rhy gryfion i ti:
22 Y pethau a orchymynnwyd, meddwl am hynny yn sanctaidd, o biegid nid rhaid i ti weled pethau cuddiedig â'th lygaid.
23 Na fydd ry fanwl mewn pethau af∣raid: canys fe ddangoswyd i ti fwy nag a ddichon dynion eu deall.
24 Eu hofer dŷb a dwyllodd lawer, a drwg dŷb a lescaodd eu deall hwynt.
25 Oni bydd canhwyllau dy lygaid cen∣nyt, fe fydd eisieu goleuni arnat: ond os bydd eisieu gwybodaeth, na fynega hynny.
26 Drwg fydd ar galon galed yn y di∣wedd: a'r hwn a hoffo enbydrwydd a ddife∣thir ynddo.
27 Calon galed a lwythir â phoenau: a'r pechadur a chwanega bechodau ar be∣chodau.
28 ‖ 1.720 Ynghospedigaeth y balch nid oes me∣ddiginiaeth; o herwydd gwreiddio planhi∣gyn drygioni ynddo ef.
29 Calon y deallgar a feddwl am ddam∣meg, a chlust y gwrandawydd yw dymuniad y doeth.
30 Dwfr a ddiffydd dân yn fflammio, * 1.721 a thrwy elusen y ceir maddeuant am becho∣dau.
31 A'r Arglwydd, yr hwn sydd yn talu cym∣mwynasau, sydd gofus erbyn yr amser a ddaw: a'r [cyfryw,] yn amser ei dram∣gwydd, a gaiff atteg.
Page [unnumbered]
PEN. IIII.
1 Na ddylid diystyru y tlawd a'r ymddifad, 11 ond ceisio gwybodaeth, 20 ac na bo ar∣nom gywilydd o ryw bethau, ac na ddywe∣dom yn erbyn y gwirionedd, 30 ac na bôm fel llewod yn ein tai.
FY mab, na thwylla y tlawd am ei fywyd; ac na wna i lygaid anghenus hir ddis∣gwil.
2 Na thristâ enaid ne∣wynog, ac na wna i wr yn ei eisieu hir ddisgwil.
3 Na chwanega flinder ar galon gystu∣ddiol, ac na wna i'r anghenog hir ddisgwil am ei rodd.
4 Na fwrw ymmaith ymbiliwr gor∣thrymmedig, ac * 1.722 na thrô dy wyneb oddi wrth y tlawd.
5 Na thro dy lygad oddi wrth yr ‖ 1.723 anghe∣nus: ac na ddod le i ddyn i'th felldithio di.
6 Canys os efe a'th felldithia di yn chwe∣rwder ei enaid, yr hwn a'i gwnaeth ef a wrendy ei weddi ef.
7 Gwna dy hun yn hawddgar i'r gyn∣••ulleidfa a gostwng dy ben i ŵr mawr.
8 Gostwng dy glust at y tlawd yn ddidrist: ac atteb ef yn heddychol, ac yn llednais.
9 Gwared yr hwn sydd yn cael cam, o law yr hwn fydd yn gwneuthur cam: ac na fydd lwfr pan eisteddych i farnu.
10 Bydd i'r ymddifad fel tâd, ac yn lle gŵr iw mam hwynt: a thi a gei fôd megis yn fab i'r Goruchaf, ac efe a'th gâr di yn fwy nâ'th fam.
11 Doethineb a dderchafa ei meibion, ac a dderbyn y rhai a'i ceisiant.
12 Yr hwn sydd yn ei charu hi, sydd yn ca∣ru enioes, a'r rhai a ddisgwiliant am dani hi yn foreu, a lenwir â llawenydd.
13 Yr hwn a'i dalio hi, a etifedda ogo∣niant, a'r Arglwydd a fendithia y lle yr êl hi i mewn.
14 Y rhai sydd yn ei gwasanaethu hi sydd yn gwasanaethu y Sanctaidd, ac y mae yr Arglwydd yn caru y rhai sydd yn ei cha∣ru hi.
15 Yr hwn sydd yn gwrando arni hi, a farna genhedloedd, a'r hwn a wrandawo arni hi, a bresswylia yn ddiogel.
16 Os vn a ymddyry iddi, efe a'i caiff hi yn etifeddiaeth, a'i hiliogaeth a gaiff fôd mewn meddiant o honi.
17 Canys ar y cyntaf hi a rodia gyd ag ef ar ffyrdd gŵyr-geimion, ac a ddwg ofn ac arswyd arno ef, ac a'i poena ef â'i haddysc, nes gallu o honi ymddiried iw enaid ef, ac oni phrofo hi ef yn ei chyfiawnderau.
18 Yna hi a ddaw yn vniawn atto ef, ac a'i llawenycha ef; ac a ddadcuddia ei dirge∣lwch iddo ef.
19 Os cyfeiliorna efe, hi a'i gàd ef, ac a'i dyry i fynu iw gwymp ei hun.
20 Cadw 'r amser cyfaddas, ac ymgadw rhag drygioni: ac na fydded cywilydd gen∣nit pan berthyno i'th enaid.
21 Canys y mae cywilydd yn dwyn pe∣chod, ac y mae cywilydd yn anrhydedd a grâs.
22 Na dderbyn wyneb yn erbyn dy en∣aid dy hun, ac na pharcha neb i'th ddinistr dy hun:
23 Na attal air ‖ 1.724 yn amser iechydwri∣aeth, ac na chuddia dy ddoethineb yn ei harddwch.
24 Oblegit wrth ymadrodd yr adweinir doethineb, ac addysc wrth eiriau y tafod.
25 Na ddywet yn erbyn y gwirionedd er dim, ond bydded wladaidd gennit dy an∣wybodaeth.
26 Na fydded gywilydd gennit gyfaddef dy bechodau, ac nac ymegnîa yn erbyn y ffrwd.
27 Nac ymddyro i ddŷn ffôl, ac na dder∣byn ŵyneb y galluog.
28 Ymegnîa gyd â'r gwirionedd hyd far∣wolaeth, a'r Arglwydd Dduw a ymladd gyd â thitheu.
29 Na fydd escud â'th dafod, a diog ac araf yn dy weithredoedd.
30 Na fydd megis llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy phansi.
31 Na fydded dy law yn agored i gym∣meryd, ac yn gaead ‖ 1.725 i roddi.
PEN. V.
1 Na ddylem ni hyderu ar ein golud a'n cryf∣der, 6 nac ar drugaredd Duw, i bechu. 9 Na bôm ddau-dafodiog, 12 ac na attebom heb wybodaeth.
NA osod dy galon * 1.726 ar dy olud, ac na ddywed, y mae gen∣nif ddigon i fyw.
2 Na ddilyn dy ewyllys dy hun, a'th gryfder dy hun, i rodio yn ffyrdd dy galon dy hun.
3 Na ddywed, pwy a'm darostwng i o herwydd fy ngweithredoedd? oblegid yr Ar∣glwydd gan ddial a ddial dy draha di.
4 Na ddywed, mi a bechais, a pha drist∣wch a fu i mi? oblegit y mae yr Arglwydd yn hir-ymarhous, ni âd efe i ti ddiangc.
5 Na fydd ry ddifraw o herwydd ma∣ddeuant, i chwanegu pechodau ar becho∣dau:
6 Ac na ddywed, * 1.727 aml yw ei druga∣redd ef, efe a faddeu luosogrwydd fy mhe∣chodau i, oblegid trugaredd a digofaint a ddaw oddi wrtho ef, a'i ddigofaint ef a or∣phywys ar bechaduriaid.
7 * 1.728 Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Ar∣glwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd: oble∣gid yn ddisymmwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra fyddech di yn ddifraw i'th ddryllir, a thi a ddifethir yn amser di∣aledd.
8 * 1.729 Na osod dy galon ar olud anghyfiawn;
Page [unnumbered]
oblegid ni fuddiant hwy yn amser cystudd.
9 Na ‖ 1.730 ymdro gyd à phob gwynt, ac na ddôs ym mhob llwybr: felly [y gwna] y pe∣chadur dau-dafodioc.
10 Bydd ddianwadal yn dy ddeall siccr, a bydded dy ymadrodd di yn vn.
11 Bydd * 1.731 escud i wrando pethau da, a bydded dy fywyd mewn gwirionedd, a thrae∣tha atteb vniawn yn ddioddefgar.
12 Od oes deall gennit, atteb dy gym∣mydog: ac onid oes, bydded dy law ar dy safn.
13 Yn yr ymadrodd [y mae] gogoniant a gwarth: a thafod dŷn sydd gwymp iddo.
14 Na alwer di yn hustingwr, ac na chyn∣llwyn â'th dafod: oblegid i leidr y mae cy∣wilydd blin, a damniad drwg i'r ddau∣dafodiog.
15 Na fydd ddiwybod o ddim, na mawr na bychan.
PEN. VI.
1 Na chanmol dy amcan dy hun, 7 Ond dewis gyfaill. 18 Cais ddocthineb mewn pryd. 20 Y mae doethineb yn flin gan rai, 28 etto y mae ei ffrwyth hi yn brydferth. 35 Bydd ba∣rod i wrando y rhai doethion.
NA fydd elyn yn lle cyfaill; canys [felly] y cei enw drwg, gwarth, a gwradwydd, yn etifeddiaeth: felly y caiff y pechadur dau-dafodioc am∣march.
2 Na ymddercha ynghynghor dy enaid dy hun rhag llarpio dy enaid fel tarw.
3 Ti a fwyttei dy ddail, ac a golli dy ffrwyth, ac a'th ollyngi dy hun fel pren crin.
4 Enaid drygionus sydd yn difetha ei berchennog, ac yn ei wneuthur ei hun yn watwargerdd iw elynion.
5 ‖ 1.732 Ceg felus sydd yn amlhau cyfeillion; a thafod ymadroddus sydd yn amlhau yma∣droddion têg.
6 Bydd heddychol â llawer, eithr [bydd∣ed] dy gynghor-wr vn o fil.
7 Os mynniti gael cyfaill, ‖ 1.733 cais ef mewn profedigaeth, ac nac ymddiried iddo ef ar frys am danat dy hun.
8 Canys y mae cyfaill tros ei amser ei hun, ac nid erys yn nydd dy drallod ti.
9 Ac y mae cyfaill a drŷ yn elyn ac yn geccrus, ac a ddadcuddia dy wradwydd di.
10 * 1.734 Ac y mae cyfaill a fydd cyfrannog o'r bwrdd: eithr yn nydd dy drallod ti nid erys efe.
11 Ac yn dy fyd da, efe a fydd fel titheu, ac efe a fydd hy ar dylwyth dy dŷ di.
12 Os darostyngir di, efe a fydd i'th erbyn di: ac a ymguddia o'th ŵydd di.
13 Ymnailltua oddi wrth dy elynion, a gochel dy gyfeillion.
14 Amddeffyn cadarn yw cyfaill ffydd∣lon; a'r hwn a gafodd y cyfryw a gafodd dryssor.
15 Nid oes dim a gystadla gyfaill ffyddlon, ac nid oes a gŷd-bwysa ei de∣gwch ef.
16 Eli enioes yw cyfaill ffyddlon: a'r rhai sy yn ofni yr Arglwydd a'i cànt ef.
17 Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd sydd yn cyfarwyddo ei gyfeillach yn vniawn, ca∣nys fel y byddo efe, y bydd ei gymmydog hefyd.
18 Fy mâb, cascl addysc o'th ieuengtid, a thi a gei ddoethineb hyd henaint.
19 Tyred atti fel vn yn aredig ac yn hau, ymaros hefyd am ei ffrwythau daionus hi. Oblegit ychydig boen a gymmeri di yn ei gwaith hi, a buan y bwytei di o'i chnwd hi.
20 Y mae hi yn chwerw iawn i'r anysce∣dig: a'r ‖ 1.735 digalon nid erys gyd à hi.
21 * 1.736 Megis maen prawf cryf y bydd hi arno ef, ac nid oeda efe ei bwrw hi ym∣maith.
22 O blegit y mae doethineb yn ôl ei he∣nw, ac nid yw hi amlwg i lawer.
23 Gwrando fy mâb, derbyn fy marn i, ac na wrthot fy nghyngor i.
24 Dyro dy draed yn ei llyffetheiriau hi, a'th wddf yn ei chadwyn hi.
25 Gostwng dy * 1.737 yscwydd, a dwg hi, ac ‖ 1.738 na fydd elyn iw rhwymau hi.
26 Tyred atti hi â'th holl enaid, a chadw ei ffyrdd hi â'th holl allu.
27 Olrhain, a chais, a thi a gei ei had∣nabod hi, a phan gaffech afael arni, na ollwng hi ymmaith.
28 Oblegid o'r diwedd ti a gei ei gor∣phywystra hi, a [hynny] a drŷ yn llawen∣ydd i ti.
29 A'i llyffetheiriau hi a fydd i ti yn am∣ddeffyn cadarn, a'i chadwynau yn wisc ogo∣neddus.
30 O herwydd y mae arni hi wychder euraid, a'i rhwymau sydd ‖ 1.739 * 1.740 snoden bor∣phor.
31 Fel gwisc ogoneddus y gwisci di hi; ac fel coron orfoleddus y gosodi di hi am danat.
32 Os mynni, [fy] mab, ti a fyddi ddyscedig; ac os rhoddi dy feddwl, ti a fy∣ddi gall.
33 Os ceri wrando, ti a dderbyni dde∣all; ac os gostyngi dy glust, ti a fyddi doeth.
34 Saf ym mysc * 1.741 henuriaid, a'r neb a fyddo doeth, glyn wrtho ef:
35 Myn glywed pob traethawd du∣wiol, ac na ddianged diharebion deallus oddi gennit ti.
36 Os gweli ŵr deallgar, cyfod yn foreu atto ef; a threulied dy droed ti riniogau ei ddrws ef.
37 Meddwl am orchymynion yr Argl∣wydd yn berffaith; a * 1.742 myfyria ar ei orchy∣mynion ef bob amser: efe a siccrhâ dy ga∣lon di, a doethineb a roddir i ti wrth dy ddymuniad.
PEN. VII.
1 Annog i ochel pechod, 4 a cheisio anthydedd, 8 a rhyfyg, 10 a diffygio mewn gweddi, 12 a
Page [unnumbered]
chelwydd, ac enllib. 18 Pa gyfrif a wnawn o gydymmaith cywir, 19 ac o wraig dda, 20 ac o was, 22 ac o'n hanifeiliaid, 23 ac o'n plant, ac o'n rhieni, 31 o'r Arglwydd a'i Offeiriaid, 32 o'r elawd a'r galarus.
NA wna ddrwg, ac ni oddiwes drwg dydi.
2 Ymado oddi wrth yr ang∣hyfiawn, ac fe a gilia pechod oddi wrthit ti.
3 Fy mab, na haua ym mysc cwysau anghyffawnder, rhag i ti eu medi yn saith ddyblyg.
4 Na chais gan yr Arglwydd lywodraeth, na chadair gogoniant gan y brenin.
5 Nac * 1.743 ymgyfiawnhâ ger bron yr Argl∣wydd, ac na chymmer arnat fod yn ddoeth yngŵydd y brenin.
6 Na chais fod yn farn-ŵr, rhag na allech dynnu anghyfiawnder ymmaith, rhag vn amser i ti ofni rhag y cadarn, a gosod o honot dramgwydd ar ffordd dy vniondeb.
7 Na phecha yn erbyn torf dinas, ac ‖ 1.744 nac ymwthia i dyrfa.
8 Na * ymrwym â phechod ddwywaith, o herwydd ni byddi ddigerydd am vn.
9 Na ddywed, Duw a edrych ar luosog∣rwydd fy rhoddion i, a phan offrymmwyf ir Goruchaf Dduw, efe a'i derbyn.
10 Na fydd egwan dy galon yn dy we∣ddi, ac nac esceulusa wneuthur elusen.
11 Na watwar y dŷn a fyddo yn chwerw∣der ei enaid, o herwydd y mae gostyngydd a derchafydd.
12 Na ‖ 1.745 ddychymmyg gelwydd ar dy frawd, ac nâ wna y fath beth i'th gyfaill.
13 Na fyn ddywedyd dim celwydd, o her∣wydd ni ddaw mynych ymarfer o honaw ef i ddaioni.
14 Na fydd siaradus ym mysc lliaws o henuriaid, ac * 1.746 nac ofer-ail-draetha dy yma∣drodd yn dy weddi.
15 Na chasâ waith poenus, nac hwsmon∣naeth, yr hon a greodd y Goruchaf.
16 Na chyfrif di dy hun ym mysc pecha∣duriaid, eithr cofia nad oeda digofaint.
17 Darostwng dy enaid yn ddirfawr: ca∣nys dialedd yr annuwiol fydd tân a phryf.
18 Na newidia gyfaill am ddim cyffredi∣nol, na'th frawd ffyddlon am aur Ophir.
19 Nac ymado â gwraig ddoeth dda; ca∣nys gwell yw ei grâs hi nag aur.
20 Na * 1.747 fydd ddrŵg wrth wenidog a fy∣ddo yn gweithio mewn gwirionedd, na'r gwâs cyflog sydd yn ei roddi ei hunan i ti yn hollawl.
21 Cared dy enaid ti wenidog syn∣hwyrol, ac na thwylla ef am ei rydd∣did.
22 Os * 1.748 anifeiliaid sy gennit, edrych ar∣nynt: ac os buddiol ydynt i ti, cadw hwynt gyd â thi.
23 Od oes i ti blant, dysc hwynt, a gost∣wng eu gyddfau hwy o'i hieuengtid.
24 Od oes ferched i ti, gwilia eu cyrph hwynt, ac na ddangos dy wyneb yn llawen wrthynt hwy.
25 Dôd dy ferch yn briod, a thi a fyddi wedi gwneuthur gwaith mawr: eithr dôd hi i wr synhwyrol.
26 Oes i ti wraig wrth dy feddwl, na fwrw hi ymmaith, ac na ddôd ti dy hun i [vn] atcàs.
27 Anrhydedda dy dad â'th holl galon, ac nac anghofia ofidiau dy fam.
28 Cofia mai trwyddynt hwy i'th an∣wyd ti, a pha beth a deli di iddynt hwy, o'r fath [a wnaethant] hwy i ti?
29 Ofna yr Arglwydd â'th holl enaid, a pharcha ei Offeiriaid ef:
30 Câr yr hwn a'th wnaeth â'th holl nerth, ac na âd ei wenidogion ef.
31 Ofna yr Arglwydd, ac anrhydedda yr Offeiriad: a dôd iddo ef ran, fel y gorchymynnwyd i ti: y blaen-ffrwyth, a'r [aberth] tros gamwedd, a rhodd y palfei∣siau, ac aberth y cyssegriad, a blaen-ffrwyth y pethau sanctaidd.
32 * 1.749 Estyn hefyd dy law i'r tlawd, fel y perffeithier dy ‖ 1.750 fendith di.
33 Y mae cymmeriad i rodd yngolwg pob vn byw, ac na attal gymmwynas i'r marw.
34 Na phalla fôd gyd â'r ŵylofus: a ga∣lara gyd â'r galarus.
35 Na fydd ddiog i ofwyo y clâf: canys trwy y cyfryw bethau i'th gerir di.
36 Yn dy holl † 1.751 eiriau meddwl am ‖ 1.752 dy ddiwedd, ac ni phechi di byth.
PEN. VIII.
1 A phwy ni ddylem ni ymryson, 8 na'i di∣ystyru, 10 na'i cyffroi, 15 na bod i ni a wnelom â hwynt.
NAc ymryson â gŵr cadarn, rhag syrthio o honot ti yn ei law ef.
2 * 1.753 Nac ymgynhenna a gŵr cyfoethog, rhag iddo ro∣ddi pwys i'th erbyn di: oblegit * 1.754 aur a ddifethodd lawer, ac a ŵyrodd galonnau brenhinoedd.
3 Nac ymgynhenna â gŵr ‖ 1.755 siaradus, ac na phentyrra goed ar ei dân ef.
4 Na chellwair â'r annyscedig, rhag am∣herchi dy hynafiaid di.
5 Na ddannod i'r dŷn a drôdd oddi wrth bechod, cofia ein * 1.756 bod ni oll tan gerydd.
6 Nac * 1.757 amharcha ddŷn yn ei henaint: canys y mae rhai o honom ninnau yn he∣neiddio.
7 Na lawenycha am farw yr hwn sydd fwyaf gelyn i ti: cofia ein bod ni oll yn marw.
8 * 1.758 Na ddiystyra draethawd y doethion: eithr ymarfer di â'u diharebion hwynt, oblegit ganddynt hwy y dysci di addysc, a gwasanaethu pendefigion yn hawdd.
9 Nac ymado â thraethiad henuriaid; oblegid hwynt hwy a ddyscasant gan eu tadau; canys ganddynt hwy y dysci di
Page [unnumbered]
ddeall, a rhoddi atteb ‖ 1.759 pan fyddo rhaid.
10 Na chynneu farwor pechadur, rhag dy losci yn flam ei dân ef.
11 Na chyfot [mewn dîg] o flaen y tra∣haus, rhag iddo eistedd fel vn yn cynllwyn ‖ 1.760 yn erbyn dy enau di.
12 Nac echwyna i ddŷn cryfach nâ thi, ac os echwyni, ‖ 1.761 bydd fel vn wedi colli.
13 Na fachnia am fwy nag a allech, ac os machnii, meddwl am dalu.
14 Nac ymgyfreithia ag vstus, oble∣gid wrth ei ‖ 1.762 feddwl ef y barnant hwy iddo ef.
15 Na * 1.763 ddôs ar hŷd y ffordd gyd ag vn hŷf, rhag iddo fod yn drwm wrthit ti, oble∣git wrth ei ewyllys ei hun y gwna efe, a thrwy ei anghallineb ef y derfydd am da∣nat titheu gyd ag ef.
16 * 1.764 Na wna gynnen â'r digllon, ac na ddôs gyd ag ef i anialwch; fel diddim yw gwaed yn ei olwg ef, ac efe a'th gwympa di yno llê nid oes help.
17 Nac ymgynghora â'r ffôl, o herwydd ni feidr efe gelu gair.
18 Na wna beth cyfrinachol o flaen y dieithr: oblegit ni ŵyddost ti beth a escyr efe.
19 Na amlyga dy galou i bob dŷn, rhag iddo roddi gau ddiolch i ti.
PEN. IX.
1 Pa fodd y mac i ni ymddwyn tu ac at ein gwragedd. 3 Pa wragedd sydd iw go∣chel. 10 Na newidier yr hen gydymaith. 13 Na fyddom rhy hy ar wyr o awdur∣dod, 14 ond adnabod ein cymmydogion, 15 ac ymgyfeillach â'r doethion.
NA ddal eiddigedd wrth wraig dy fonwes, ac na ddysc iddi addysc ddrŵg yn dy erbyn dy hun.
2 Na ddot dy hunan i wraig, i fyned o honi yn vwch nâ thi.
3 Na ddôs i gyfarfod â gwraig buttei∣nig, rhag i ti vn amser syrthio yn en mag∣lau hi.
4 Na fydd yn fynych gyd â chantores, rhag dy ddal di trwy ei chelfyddyd hi.
5 Na chraffa ar forwyn, rhag dy dramg∣wyddo drwy y pethau sydd werth-fawr ynddi.
6 Na ddôd dy enaid i butteiniaid, rhag colli o honot dy erifeddiaeth.
7 Nac edrych o amgylch mewn heolydd dinas, ac na wibia yn ei anghyfannedd leoedd hi.
8 * 1.765 Tro dy olwg oddi wrth wraig brŷd∣weddol, ac nac ystyr degwch arall: oble∣gid llawer trwy degwch gwraig a gyfeili∣ornasant, a thrwy hyn y cynneu cariad fel tân.
9 Na eistedd ddim gyd â gwraig a gŵr iddi, ac nac eistedd ddim a hi yn dy freichi∣au, ac na chŷd-ildia â hi mewn gwin, rhag pwyso o'th feddwl atti hi, a llithro o honot drwy dy chwant, i ddestryw.
10 Na âd hên gyfaill: oblegid nid yw vn newydd gystal ag ef: megis gwîn newydd yw cyfaill newydd: os heneiddia efe ti a'i hyfi yn llawen.
11 Na chenfigenna wrth ogoniant pe∣chadur: o blegit ni wŷddost di pa ddiwedd fydd iddo ef.
12 Na fydded hoff gennit yr hyn sydd hoff gan y rhai annuwiol: eithr cofia nad ânt hwy yn ddi-gerydd i'r bedd.
13 Ymgadw ym mhell oddi wrth wr ac awdurdod iddo i ladd, fel nad amheuech di ofn angeu: ac os deui di atto [ef,] na wna fai, rhag iddo yn ebrwydd ddwyn ym∣maith dy enioes di: gwybydd mai ym mysc maglau yr ydwyt ti yn trammwy, ac mai ar binaclau y ddinas yr ydwyt ti yn rhodio.
14 Bwrw yr amcan goreu y gallech am dy gymmydog, ac ymgynghora â'r doe∣thion.
15 Bydded dy ymresymmiad ti á'r syn∣hwyrol, a'th holl ymddiddan ynghyfraith y Goruchaf.
16 Bydded gwŷr cyfiawn yn cŷd-wledda â thi, a bydded dy orfoledd di yn ofn yr Ar∣glwydd.
17 Trwy law y gweithiwr y canmolir gwaith, a doeth dwysog pobl yn ei yma∣drodd.
18 Ofnadwy yn ei ddinas yw gŵr siara∣dus, a'r rhy bryssur yn ei ymadrodd a gaseir.
PEN. X.
1 Pa lês a wna llywodraethwr doeth. 4 Mai Duw sy 'n eu codi hwy. 7 Mor niweidiol yw balchder, ac anghyfiawnder, a chybydd∣dod. 14 Beth a wnaeth Duw i'r beilchion. 19 Pwy a ddaw i anthydedd, 29 a phwy nis daw.
BArnwr doeth a ddysc ei bobl, a thywysogaeth y synhwyrol a drefnir yn dda.
2 * 1.766 Fel y byddo barnwr y bobl y bydd ei swyddogion ef, ac fel y byddo tywysog dinas y bydd y rhai oll sydd yn presswylio ynddi.
3 Brenin annoeth a ddifetha ei bobl, a thrwy synhwyr y pennaethiaid y cyfan∣neddir y ddinas.
4 Yn llaw yr Arglwydd y mae meddi∣ant y ddaiar, ac efe a gyfyd vn buddiol mewn pryd arni.
5 Yn llaw yr Arglwydd y mae llwyddi∣ant gŵr, ac ar wyneb scrifennydd efe a esyd ei anrhydedd.
6 * 1.767 Na ddwg gâs i'th gymydog am bob cam, ac na wna ddim mewn gweithred∣oedd trahaus.
7 Câs ger bron yr Arglwydd a dynion yw balchder, ac amryfusedd anghyfiawn [a fwrir] oddi wrth y ddau.
8 * 1.768 Brenhiniaeth a symmudir o'r naill genhedl i'r llall o achos anghyfiawnder, a thraha, a chyfoeth trwy dwyll.
9 Pa ham y mae pridd a lludw yn falch?
Page [unnumbered]
Nid oes dim anwirach nà'r cybydd: oble∣git y mae y cyfryw yn rhoddi ei enaid ei hun ar werth: o herwydd ei ymyscaroedd a fwrw ef allan yn ei fywyd.
10 ‖ 1.769 Meddyg a dyrr ymmaith hir glefyd, a'r hwn sydd frenin heddyw, a fydd marw y foru.
11 Canys pan fyddo marw dŷn, efe a gaiff ymlusciaid, a bwyst-filod, a phryfed, yn etifeddiaeth.
12 Dechreuad balchder yw myned o vn oddi wrth Dduw, ac ymado o'i galon ef oddi wrth yr hwn a'i gwnaeth.
13 Canys dechreuad pechod yw balchder, a'r hwn sydd yn ei ddal ef a wna ffieidd∣dra yn drahaus. Am hynny y dug yr Argl∣wydd arnynt hwy gospedigaeth ryfedd, ac y llŵyr ddinistriodd hwynt.
14 Yr Arglwydd a fwriodd i lawr or∣sedd-feingciau tywysogion beilchion, ac a wnaeth i'r rhai llednais eistedd ynddynt yn eu lle hwynt.
15 Yr Arglwydd a dynnodd ymmaith wraidd y rhai beilchion, ac a blannodd y rhai gostyngedig yn eu lle hwynt mewn gogoniant.
16 Yr Arglwydd a ddinistriodd wledydd y Cenhedloedd, ac a'i difethodd hwynt hyd sylfeini y ddaiar.
17 Efe a dynnodd [rai] o honynt ym∣maith, ac a'i difethodd hwynt, ac a wnaeth iw coffadwriaeth ddarfod oddi a'r y ddaiar.
18 Ni chrewyd balchder i ddynion, na digter llidiog i blant gwragedd.
19 Hâd diogel yw y rhai sy yn ofni yr Arglwydd, a phlanhigyn gwerthfawr yw y rhai fy yn ei garu ef: hâd amharchus yw y rhai nid ystyriant y gyfraith, hâd ‖ 1.770 cy∣feiliornus yw y rhai a droseddant y gor∣chymynion.
20 Parchedig ym mysc brodyr yw eu ty∣wysog, felly y mae y rhai sy 'n ofni yr Ar∣glwydd yn ei olwg yntef.
21 Ofn yr Arglwydd sydd yn myned o flaen ‖ 1.771 awdurdod; eithr dinistr tywysogaeth yw creulondeb a balchder.
22 Ofn yr Arglwydd sydd ogoniant i'r cyfoethog, i'r anrhydeddus, ac i'r tlawd.
23 Nid cyfiawn yw amherchi tlawd syn∣hwyrol, ac nid gweddus anrhydeddu gŵr pechadurus.
24 Pendefigion, a barnwŷr, a chedyrn, a anrhydeddir, ac nid mwy neb o hônynt nâ'r hwn sydd yn ofni yr Arglwydd.
25 * 1.772 Rhai rhyddion a wasanaethant wâs synhwyrol, * 1.773 a gŵr doeth ni wrwgnach pan y cerydder ef.
26 Na chymmer arnat fod yn ddoeth wrth wneuthur dy waith, ac na chais anrhydedd tra fyddech mewn ing.
27 O blegid * 1.774 gwell yw yr hwn sydd yn gweithio, ac mewn amldra o bob peth, nâ'r hwn sydd yn ymffrostio, ac arno eisieu bara.
28 Fy mab, anrhydedda dy enaid yn lled∣nais; a dod iddo yr anrhydedd a haeddei.
29 Pwy a gyfiawnhâ yr hwn a becho yn erbyn ei enaid ei hun? a phwy a barcha yr hwn a amharcho ei fywyd ei hun?
30 Y mae tlawd mewn parch o herwydd ei wybodaeth, ac y mae cyfoethog mewn parch o herwydd ei gyfoeth.
31 Yr hwn sydd barchedic mewn tlodi, pa faint mwy mewn cyfoeth? a'r hwn sydd ammharchedig mewn cyfoeth, pa faint mwy mewn tlodi?
PEN. XI.
4 Na ddylem ni ein bostio ein hunain, 8 nac atteb mewn byrr-bwyll, 10 nac ymyrryd a llawer o fatterion. 14 Oddiwrth Dduw y mae golud, a phob peth arall. 24 Nac ymffrostia o'th gyfoeth, 29 ac na ddwg bawb i'th dy.
DOethineb y ‖ 1.775 gostyngedig * 1.776 a ddyrchaif ei ben ef, ac a'i gesyd ef ym mysc pendefigi∣on.
2 Na chanmol ŵr wrth ei brŷd, ac na ffieiddia ef wrth yr olwg arno.
3 Bechan ym mysc yr ehediaid yw 'r wenynen, a phen melysdra yw ei ffrwyth hi.
4 Na * 1.777 orfoledda o herwydd gwisc o ddillad; ac na ymddercha yn amser anrhy∣dedd: o blegit rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a'i weithredoedd ef ydynt ddir∣gel i ddynion.
5 Llawer ‖ 1.778 teyrn a eisteddodd ar lawr, * a'r hwn ni thybiei vn, a wiscodd y goron.
6 Llawer cadarn a amharchwyd yn ddir∣fawr, a'r anrhydeddus a roddwyd i ddwylo eraill.
7 * 1.779 Nac achwyn cyn chwilio [y gwirio∣nedd;] myn ŵybod yn gyntaf, ac yna beia.
8 * 1.780 Na farna cyn clywed, ac na fwrw air ym mysc ymadroddion [rhai eraill.]
9 Nac ymryson am y peth nid yw [yn perthyn] i ti, ac na ‖ 1.781 chyd-eistedd ym marn pechaduriaid.
10 Fy mab, na ymmyr ar lawer o be∣thau: * 1.782 o herwydd os trini lawer peth, ni byddi difai; os dilyni, ni oddiweddi; ac os ffoi, ni ddiengi.
11 Y * 1.783 mae a lafuria, ac a bocna, ac a fryssia, ac o hynny y mae yn fwy ei eisi∣eu ef.
12 Y mae [vn] anniben, ac arno * 1.784 eisi∣eu help, yn fychan ei nerth, ac yn fawr ei dlodi, a golwg yr Arglwydd a edrychodd arno ef er daioni, ac a'i derchafodd ef o'i waelder.
13 Ac efe a dderchafodd ei ben ef o drue∣ni, a llawer pan welsant, a su ryfedd gan∣ddynt o'i blegit ef.
14 * 1.785 Da a drwg, einioes ac angeu, tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y maent.
15 Oddi wrth yr Arglwydd y mae doe∣thineb, a chyfarwyddyd, a gwybodaeth ei Gyfraith ef: oddi wrtho ef y mae cariad, a ffyrdd gweithredoedd da.
16 Cyfeiliorni a thywyllwch a gŷd-gre∣wyd â phechaduriaid; a drygioni a heneiddia yn y rhai sy yn gorfoleddu mewn drygioni.
Page [unnumbered]
17 Rhodd yr Arglwydd a erys gŷd â'r du∣wiol, a'i ewyllys da ef a bair ffynnu byth.
18 Y mae [dŷn] yn cyfoethogi trwy ei gallineb a'i grintachrwydd, ac dyna ei ran ef o'i gyflog.
19 Lle y dywed ef, * 1.786 mi a gefais esinwyth∣dra, ac yn awr mi a fwytâf o'm da bôb amser: ac etto ni's gŵyr efe pa amser a ‖ 1.787 â heibio iddo ef, ac y gedy efe hwynt i arall, ac y bydd efe marw.
20 * 1.788 Saf di yn dy gyfammod, ‖ 1.789 ac ymddi∣ddan yn hwnnw, a heneiddia yn dy waith.
21 Na fydded rhyfedd gennit am waith pechadur, creda i'r Arglwydd, ac aros yn dy boen: oblegit hawdd yw yngolwg yr Arglwydd, yn ddisymmwth ddiattreg gy∣foethogi y tlawd.
22 Bendith yr Arglwydd sydd gyflog i'r duwiol, ac mewn awr fuan y gwna efe iw fendith ef darddu.
23 Na ddywed, * 1.790 pa lês i mi ryngu bodd? a pha ddaioni fydd i mi bellach?
24 Na ddywed, y mae gennif fi ddigon, ac y mae gennif lawer, a pha niwed a gâf fi yn [fy] mywyd bellach?
25 Yn amser daioni yr ydys yn gollwng drygfyd dros gof: ac yn amser drygfyd nid ydys yn coffâu daioni:
26 Am fod yn hawdd o flaen yr Argl∣wydd, dalu i ddŷn yn ei ddydd diwedd, yn ôl ei weithredoedd.
27 Cystudd awr a wna anghofio dainte∣thion, a diwedd dŷn a ddadcuddia ei weithredoedd ef.
28 Na chyfrif neb yn ddedwydd cyn ei farw, ac wrth ei blant yr adweinir gŵr.
29 Na ddŵg bôb dŷn i'th dŷ, o herwydd aml yw cynllwyn ‖ 1.791 diafol.
30 Fel pettris wedi ei dal mewn rhwyd, felly y mae calon y balch: ac fel gwilie∣dydd yn ‖ 1.792 dringo i le y caffo efe gwymp.
31 Oblegit y mae efe yn cynllwyn, gan droi y da yn ddrwg, ac efe a fwrw fai ar∣nat mewn pethau canmoladwy.
32 O wreichionen fechan y daw llawer o farwor, a dŷn pechadurus a gynllwyn am waed.
33 Gochel ddryg-ddŷn, oblegit drygioni y mae efe yn ei lunio, rhag iddo roddi ar∣nat ti anaf byth.
34 Derbyn ddieithr-ddŷn i dŷ, ac efe a'th dralloda di, ac a'th yrr di o'r eiddot dy hun.
PEN. XII.
2 Na fydd hacl i'r annuwiol. 10 Nac ymddi∣ried i'th elyn, nac i't annuwiol.
OS gwnei ddaioni, gŵybydd i bwy y gwnelych, ac fe fydd diolch i ti am dy ddaio∣ni.
2 Gwna ddaioni i'r duwiol, a thi a gei dâl, oni chai ganddo ef, ti a'i cai gan y Goruchaf.
3 Ni bydd daioni i'r hwn a ymgynnefi∣no â drygioni, nac i'r hwn nid ymedy ag elusen?
4 Dôd i'r duwiol, ac na ‖ 1.793 dderbyn be∣chadur.
5 Gwna ddaioni i'r gostyngedic, ac na ddod i'r annuwiol; attal dy fara, ac na ddod iddo ef, rhag trwy hynny iddo ef dy orthrymmu di: oblegit am yr holl ddaiont a wnelych di iddo ef, ‖ 1.794 efe a gaiff ddau cym∣maint o ddrygioni i titheu.
6 O herwydd câs gan y Goruchaf bechadu∣riaid, ac efe a ddial ‖ 1.795 y rhai duwiol, ac a'i cei∣dw ‖ 1.796 hwythau i gadarn ddydd eu dialedd.
7 Dod i'r daionus, ac na ‖ 1.797 dderbyn be∣chadur.
8 Nid adweinir cyfaill mewn dryg-fyd, ac ni lecha gelyn mewn dryg-fyd.
9 Mewn gwyn-fyd gŵr [y bydd] ei elynion ef yn drist, ac yn ei ddryg-fyd yr ymnailltua cyfaill hefyd.
10 Nac ymddiried i'th elyn byth; oble∣gid fel y rhyda ‖ 1.798 prês, felly [y gwna] ei ddrygioni yntef.
11 Er ymostwng o honaw, ac ymgrym∣mu, gwilia ar dy enaid, ac ymgadw rhag∣ddo ef, a thi a fyddi iddo ef fel vn yn sychu drŷch, a thi a gei ŵybod na sychodd efe ei rŵd yn llŵyr.
12 Na osod ef yn agos attat, rhag iddo dy ddinistrio di, a sefyll yn dy le di: na osot ef ar dy law ddehau, rhag iddo geisio cael dy gadair di, ac o'r diwedd cael o honot ŵy∣bod fy ngeiriau i, a'th bigo â'm hymadro∣ddion i.
13 Pwy a dosturiei wrth y swyn-ŵr a frathei neidr, nac wrth y neb a ddeuei yn agos at fwyst-filod?
14 Felly wrth yr hwn a ddaw at be∣chadur, ac a gyd-lygrer yn ei bechodau ef, pwy a dosturia wrtho?
15 [ ‖ 1.799 Vn] awr yr erys efe mewn sefyllfod iawn, ond os gogwyddi di, ni erys efe.
16 Melus * 1.800 fydd gelyn yn ei wefusau, ac yn ei galon efe a ymgynghora am dy droi di i'r ffôs. Efe a ŵyla â'i lygaid, ond os caiff efe amser cyfaddas ni chaiff efe ei ddi∣gon o waed.
17 Os drygfyd a ddigwydd i ti, ti a'i cei ef yno yn gyntaf, ac fel dŷn yn helpio, efe a'th ddisodla di.
18 Efe a escwyd ei ben, ac a gûr â'i ddwylo, ac a siarad lawer, ac a newidia ei wyneb-pryd.
PEN. XIII.
1 Na fydd gydymmaith i'r balch, nac i vn ca∣darnach nâ thi dy hun. 15 Pob cyffelyb a ymgais. 22 Y rhagor sy rhwng y cyfoethog a'r tlawd, 25 Ni chêl grudd gystudd calon.
YR hwn * 1.801 a gyffyrddo â phŷg, a halogir ganddo, a'r hwn a fyddo gyfrannog â'r balch, a fydd debyg iddo.
2 Na chyfod faich rhy∣drwm i ti yn dy fywyd, ac na fydd gyfrannog ag vn cryfach a chy∣foethogach nâ thi; canys pa gyfrannu a wna y crochan pridd â'r pair? hwn a dery, a hwnnw a dyrr.
Page [unnumbered]
3 ‖ 1.802 Os y cyfoethog a wna gam, yna 'r ymbilir ag ef, os tlawd a wna gam yna y bygythir ef.
4 Os buddiol fyddi di, efe a gymmer dy waith di, ac os bydd eisieu arnat, efe a'th gystuddia di.
5 Os bydd peth gennit, efe a fydd byw gyd â thi, ac a'th dloda di, ac ni bydd gwaeth ganddo ef.
6 Os bydd arno dy eisieu di, efe a'th dwylla di, ac a chwardd arnat ti, ac a rydd i ti obaith, efe a ddywed yn dêg wrthit ti, ac a ddywed, beth sydd arnat ei eisieu?
7 Efe a'th gywilyddia di â'i fwyd, nes iddo dy ddispyddu di ddwy-waith neu dair, ac yn y diwedd efe a'th watwar di: wedi hyn∣ny, pan i'th wêlo, efe a'th âd ti, ac a escwyd ei ben arnat.
8 Gochel dy dwyllo yn dy feddwl, ac na'th ddarostynger ‖ 1.803 yn llawenydd dy ga∣lon.
9 Pan i'th wahoddo gŵr galluog: cilia ymmaith, ac efe a'th wahadd yn fwy o hynny.
10 Na phwysa arno, rhag dy yrru allan yn ddifarn, ac na saf ym mhell, rhag dy ollwng tros gof.
11 Nac ymgystadla ag ef mewn yma∣drodd, ac nac ymddiried iw aml eiriau ef: oblegit trwy ymadrodd lawer y prawf efe dydi, ac megis ‖ 1.804 dan chwerthin y cais efe dy gyfrinach di.
12 Anrhugarog yw, ‖ 1.805 heb gadw [ei] eiri∣au, ac ni arbed efe dy ddrygu a'th garcha∣ru di.
13 Disgwil, ac edrych yn fanwl am wran∣do: o herwydd yr wyt ti yn rhodio mewn perygl i syrthio: pan glywech ‖ 1.806 hyn yn dy gwsc, deffro.
14 Yn dy holl oes câr yr Arglwydd, a galw arno ef i'th iechydwriaeth.
15 Pob anifail a gâr ei gyffelyb, a phob dŷn sy dda ganddo ei gymmydog.
16 Pob cnawd a ymgymhara wrth ei ryw, ac wrth ei gyffelyb y glŷn gŵr.
17 Pa gyfeillach sydd rhwng y blaidd a'r oen? felly rhwng y pechadur a'r duwiol.
18 Pa heddwch sydd rhwng yr Hyena a'r cî? a pha heddwch fydd rhwng y cyfoe∣thog a'r tlawd?
19 Yr assynnod gwylltion yn yr anial∣wch yw helfa y llewod: ‖ 1.807 porfa y cyfoetho∣gion yw'r tlodion.
20 Ffieidd-dra y beilchion yw gostyngei∣ddrwydd: felly y mae y tlawd yn ffiaidd gan y cyfoethog.
21 Pan siglo y cyfoethog, ei gyfeillion a'i siccrhânt ef: ond pan syrthio y tlawd ei gy∣feillion a'i gwthiant ef.
22 Pan syrthio y cyfoethog fe a fydd iddo llawer cynnorthwywr: pe dywedei efe be∣thau iw celu, hwy a'i cyfiawnhânt ef: lli∣throdd y gwael-ddyn a cheryddwyd ef: efe a lefarodd yn ddoeth, ac ni roddid iddo le.
23 Pan lefarei y cyfoethog pawb a dawei, ac a dderchafent ei ymadrodd ef hyd y cwmylau: pan lefarei y tlawd, hwy a ddywedent, pwy yw hwn? ac os tramg∣wyddei, hŵy a'i dymchwelent ef.
24 Da yw 'r cyfoeth ni bo ynddo bechod, a drwg yw tlodi yngenau yr annuwiol.
25 Calon dŷn sydd yn newidio ei wyneb ef, pa vn bynnag ai er da ai er drwg: calon lawen a wna wyneb siriol.
26 Arwydd calon mewn gwyn-fyd yw wyneb llawen, a meddyl-fryd poenus yw cael allan ddamhegion.
PEN. XIIII.
1 Cydwybod dda a wna wr yn ddedwydd. 5 Ni wna cybydd dda i neb. 13 Ond dilyn di ddaioni. 20 Dedwydd yw y rhai a gyrcho at ddoethineb.
GWyn ei fyd y gŵr * 1.808 ni li∣throdd â'i enau, ac ni phig∣wyd â lliaws o bechodau.
2 Gwyn ei fyd yr hwn ni chondemno ei ‖ 1.809 enaid ei hun ef, a'r hwn ni syrthio oddi wrth ei obaith yn yr Arglwydd.
3 Nid da yw cyfoeth i ŵr cybydd; a pha beth a wnai gŵr cenfigennus â golud?
4 Yr hwn sydd yn casclu, [gan arbed] oddi wrtho ei hun, sydd yn casclu i arall: ac eraill a lothinebant ei dda ef.
5 Yr hwn sydd ddrwg iddo ei hun, i bwy y bydd efe yn dda? ni chaiff efe lawenydd o'i olud.
6 Nid oes neb waeth nâ'r hwn sydd yn cenfigennu wrtho ei hun, ac dymma wobr ei ddrygioni ef.
7 Os gwna efe ddaioni, nid o'i fodd y gwna, ac o'r diwedd efe a wna ei ddrygio∣ni yn amlwg.
8 Drwg yw golwg y cenfigennus: efe a drŷ ei wyneb, ac a ddirmyga ddynion.
9 * 1.810 Llygad y cybydd ni lenwir â'i ran, ac anghyfiawnder y drygionns a wywa ei enaid ef.
10 Llygad drwg sydd genfigennus am ei fara, ac y mae efe yn grintach ar ei fwrdd.
11 Fy mab, pa fodd bynnac y byddo gen∣nit ti, bydd dda wrthit dy hun, a dŵg dy offrymmau i'r Arglwydd yn addas.
12 Cosia nad oeda angeu, ac na ddango∣swyd i ti gyfammod ‖ 1.811 vffern.
13 Cyn dy farw * 1.812 bydd dda wrth [dy] gy∣faill, ac yn ôl dy allu, estyn oy law, a dod iddo ef.
14 Na thwylla dydi dy hun am ‖ 1.813 y dydd da, ac nac aed rhan chwant da heibio i ti.
15 Onid i arall y gadewi di dy lafur, â'r hyn y cymmeraist boen am dano, iw rannu wrth goel-bren?
16 Dod, a derbyn, a sancteiddia dy enaid, o herwydd nid gwiw ceisio bwyd yn y bedd.
17 * 1.814 Pob cnawd a heneiddia fel dilledyn; canys; y cyfammod o'r dechreu [yw,] Ti a fyddi farw yn ddiau.
18 Fel o'r dail gleision ar bren brigog y mae rhai yn syrthio, a rhai yn torri allan;
Page [unnumbered]
felly y mae cenhedlaeth cîg a gwaed, y naill sydd yn marw, a'r llall yn geni.
19 Pôb gwaith a bydra ac a dderfydd, a'r hwn sydd yn ei weithio ef â gyd ag ef.
20 * 1.815 Gwyn ei fyd y gŵr a fyfyria bethau da mewn doethineb, a'r hwn yn synhwy∣rol a ymresymma am bethau sanctaidd.
21 Yr hwn a feddwl am ei ffyrdd hi yn ei galon, a fydd ddeallgar yn ei dirgeledi∣gaethau hi.
22 Dôs ar ei hôl hi fel ôlrhein-wr, a chynllwyn yn ei ffyrdd hi.
23 Yr hwn a edrycho trwy ei ffenestri hi, a wrendy hefyd wrth ei dorau hi.
24 Yr hwn a letteuo yn agos iw thŷ hi, ac a yrro ei hoel iw pharwydydd hi.
25 Efe a esyd ei babell ger llaw iddi, ac a letteua yn llettŷ y ‖ 1.816 rhai daionus;
26 Efe a esyd ei feibion tan ei chyscod hi, ac a erys tan ei changhennau hi;
27 Hi a'i cyscoda ef rhag y gwrês, ac efe a letteua yn ei gogoniant hi.
PEN. XV.
1 Doethineb a ymgeledda y rhai a ofno 'r Ar∣glwydd: 7 ond yr annuwiol ni chânt afael arni. 11 Nad iawn i ni fwrw ar Dduw ein beiau ni: 14 Oblegid efe a'n gwnaeth ni, ac a'n gadawodd i ni ein hunain.
YR hwn sydd yn ofni yr Ar∣glwydd a wna dda, a'r hwn sydd yn dal gŵybo∣daeth y Gyfraith a'i caiff hi.
2 Fel mam y cyferfydd hi ag ef, ac fel gwraig a briodwyd o forwyn y derbyn hi ef.
3 Hi a'i portha ef â bara deall, ac a'i dio∣da ef â dwfr doethineb.
4 Efe a siccrheir arni hi, ac ni ogwy∣dda: efe a lŷn wrthi hi, ac ni wradwy∣ddir ef.
5 Hi a'i cyfyd ef goruwch ei gymydogion, ac a egyr ei enau ef ynghanol y gynnull∣eidfa.
6 Llawenydd a choron gorfoledd a gaiff efe: a hi a rydd iddo enw tragywyddol yn etifeddiaeth.
7 Eithr dynion ansynhwyrol ni chânt afel arni hi: a gwyr pechadurus hefyd ni chânt ei gweled hi:
8 Canys pell yw hi oddi wrth falchder, a gwŷr celwyddog ni chofiant hi.
9 Nid gweddus ‖ 1.817 clôd yngenau pecha∣dur, o blegid ‖ 1.818 yr Arglwydd ni's anfonodd hi iddo ef:
10 Canys trwy ddoethineb y treuthir ‖ 1.819 clôd, a'r Arglwydd a'i llwydda ef.
11 Na ddywed, trwy waith yr Arglwydd yr euthym i ymmaith: o blegit ni ddylit ti wneuthur yr hyn sydd gâs ganddo ef.
12 Na ddywed, efe ‖ 1.820 a'm lluniodd i, o blegit nid rhaid iddo ef wrth ŵr pechadu∣rus.
13 Câs gan yr Arglwydd bôb ffieidd∣dra, ac nid da yw hynny gan y rhai a'i hofnant ef.
14 Efe * 1.821 a wnaeth ddŷn o'r dechreuad, ac a'i gadawodd ef yn llaw ei gyngor;
15 Os mynni, i gadw y gorchymynion, ac i wneuthur ffyddlondeb cymmeradwy.
16 Efe a osododd ô'th flaen di dân a dwfr: estyn dy law at yr hwn a fynnych di.
17 Y mae o * 1.822 flaen dynion enioes ac ang∣eu: a'r hyn a fynno êfe a roddir iddo ef.
18 O blegit mawr yw doethineb yr Ar∣glwydd, ac y mae efe yn gryf o allu, ac yn gweled pôb peth.
19 Hefyd * 1.823 y mae ei olwg ef ar y rhai sy yn ei ofni ef, ac efe a ŵyr holl waith dŷn.
20 Ni orchymynnodd efe i neb wneu∣thur yn annuwiol, ac ni roddes efe gen∣nad i neb i bechu.
PEN. XVI.
1 Gwell yw bod yn ddiblant, nag yn berchen llawer o blant annuwiol. 6 Nad arbedir yr anwir er mwyn eu bod yn aml. 12 Y mae trugaredd Duw 'n fawr, a'i allu hefyd. 17 Na all yr annuwiol ymguddio. 20 Y mae gwel∣thredoedd Duw yn anchwiliadwy.
NA ddymuna liaws o blant anfuddiol, ac na fydd lawen o blant annuwiol.
2 Os amlhânt, na fydd lawen o honynt hwy, oni bydd ofn yr Arglwydd gyd â hwynt.
3 Nac ymddiried iw henioes hwynt, ac na hydera ar eu lluosogrwydd hwynt: canys gwell yw vn cyfiawn nâ mil, a gwell yw marw heb plant, nâ chael plant annuwiol.
4 Canys trwy vn synhwyrol y gwneir y ddinas yn gyfannedd, ond tylwyth yr an∣nuwiol a â yn anghyfannedd.
5 Llawer o'r fath hyn a welodd fy lly∣gad i: a'm clust a glywodd bethau mwy nâ hyn.
6 * 1.824 Ynghynnulleidfa pechaduriaid y cyn∣neu tân, ac mewn cenedl wrthryfelgar y llysc digofaint.
7 Ni bu * 1.825 efe fodlon i'r hên gawri, y rhai a ymadawsant ynghryfder eu ffolineb.
8 Nid * 1.826 arbedodd efe le ymdaith Lot, eithr ffieiddiodd hwynt am eu balchder.
9 Ni thrugarhâodd efe wrth genedl de∣stryw, y rhai a aethant allan yn eu pecho∣dau a wnaethent:
10 Na'r * 1.827 chwe chan mil o wŷr traed, y rhai a gasclesid ynghaledwch eu calonnau.
11 Ac os bydd vn gwar-syth ym mysc y bobl, rhyfedd yw os diangc ef yn ddigerydd: canys gydag ef y * 1.828 mae trugaredd, a digo∣faint: y mae efe yn alluog i faddeu, ac i dy∣wallt digofaint:
12 Yn ôl amldra ei drugaredd y bydd ei argyoeddiad ef: yn ôl ei weithredoedd y barna efe ŵr.
13 Ni ddiangc pechadur â'i anrhaith, ac ni phalla amynedd y duwiol.
14 Dod le i bob elusen: o blegit pob vn
Page [unnumbered]
a gaiff yn ôl ei weithredoedd.
15 Yr Arglwydd a galedodd Pharao, fel nad adwaenei efe ef, fel y byddei ei rym ef yn hyspys i'r bŷd.
16 Ei drugaredd ef sydd amlwg i bob creadur: ag adamant y gwahanodd efe ei oleuni a'r tywyllwch.
17 Na ddy wed, Rhag yr Arglwydd yr ymguddiaf; a phwy o'r vchelder a'm cofia? ym mysc pobl lawer ni'm cofir i: canys beth yw fy enaid i ym mysc creaduriaid mor aneirif?
18 Wele, y * 1.829 nef, îe nef y nefoedd, y dyfn∣der, a'r ddaiar, a'r hyn sydd ynddynt hwy a siglant, pan ofwyo efe.
19 Y mynyddoedd a seiliau y ddaiar, pan edrychei yr Arglwydd arnynt hwy, a gyd∣escydwent, dan grynu.
20 Ni all calon feddwl am y pethau hyn yn addas: a phwy a all ddeall ei ffyrdd ef?
21 Temhestl yw hi, yr hon ni all neb ei gweled; canys y rhan fwyaf o'i waith ef fydd guddiedig.
22 Pwy a draetha, neu a ddioddef wei∣thredoedd ei gyfiawnder ef? o herwydd pell yw ei gyfammod, a holi pob peth a fydd yn y diwedd.
23 Y di-synwyr a feddwl am bethau ofer; a'r gwr angall cyfeiliornus sydd yn meddwl pethau ffôl.
24 Gwrando arnafi fy mab, a dysc ŵy∣bodaeth: ac ar fy ngeiriau i gwilia â'th galon
25 Mi a ddangosaf addysc wrth bwys, ac a draethaf yn ofalus am ei wybo∣daeth ef.
26 Wrth farn y gwnaed gweithredoedd yr Arglwydd o'r dechreuad, ac efe a ddospar∣thodd eu rhannau hwynt er pan wnaed hwynt.
27 Efe a addurnodd ei weithredoedd byth: y mae ‖ 1.830 y rhai pennaf o honynt yn ei law ef byth bythol: ni ‖ 1.831 newynasant, ac ni flinasant, ac ni pheidiasant â'i gwaith.
28 Ni rwystra y naill o honynt y llall, ac ni anufyddhânt ei air ef byth.
29 Wedi hyn yr edrychodd yr Argl∣wydd ar y ddaiar, ac efe a'i llanwodd hi â'i ddaioni.
30 Y mae efe yn gorchuddio ei hwyneb hi â pob peth byw , ac iddi hi y maent hwy yn dychwelyd drachefn.
PEN. XVII.
1 Y modd y gwnaeth, ac y cynnyscaeddodd Duw ddyn. 14 Gochel bob pechod: 19 am fod Duw yn canfod pob peth. 25 Tro ditheu atto ef yn dy fywyd a'th iechyd.
YR * 1.832 Arglwydd a greawdd ddŷn o'r ddaiar, ac y mae efe yn ei droi ef iddi hi drachefn.
2 * 1.833 Efe a roddes iddynt hwy ddyddiau rhifedig, ac amser, ac a roddes iddynt hwy feddiant ar y pethau sy ynddi hi.
3 Ac efe a'i gwiscodd hwy â nerth cym∣mwys iddynt, ac a'i gwnaeth hwy ar ei ddelw ei hun.
4 Efe a roddes ei ofn ‖ 1.834 ef ar bob cnawd, ac iddo ef lywodraethu ar fwyst-filod ac ehediaid.
5 [Derbyniasant rym pum gweithredi∣ad yr Arglwydd, ac efe a rannodd iddynt hwy feddwl yn y chweched lle, ac yn y seithfed, ymadrodd, yn lladmerydd o'i feddy∣liau ef.]
6 Cyngor, a thafod, a llygaid, clustiau, a chalon, a roddes efe iddynt hwy, i ddeall.
7 Hefyd efe a'i llanwodd hwynt â gŵy∣bodaeth deall, ac a ddangosodd iddynt hwy dda a drwg.
8 Efe a osododd ei olwg ar eu calonnau hwynt, fel y dangosei iddynt fawredd ei weithredoedd.
9 Efe a roddes iddynt orfoleddu byth yn ei ryfeddodau ef, fel y mynegent ei weithre∣doedd ef yn synhwyrol:
10 A'r etholedigion a glodforant ei Enw sanctaidd ef.
11 Efe a roddes hefyd iddynt hwy ŵy∣bodaeth: a chyfraith y bywyd yn etifeddi∣aeth iddynt.
12 Efe a wnaeth gyfammod tragywy∣ddol â hwynt, ac a ddangosodd ei farnedi∣gaethau iddynt.
13 Eu llygaid a welsant fawredd ei ogo∣niant: a'i clust a glywodd ei leferydd gogo∣neddus ef.
14 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, gochelwch rhag pob peth anghyfiawn: he∣fyd * 1.835 efe a roes orchymmyn i bob vn o ho∣nynt hwy am ei gymydog.
15 Ni chuddir eu ffyrdd hwy o'i olwg ef, o'i flaen ef [y maent hwy] bob amser.
16 Pôb dŷn o'i ieuengtid [sydd yn pwy∣so] i ddrygioni: ac ni allent hwy wneu∣thur eu calonnau yn gig, o rai cerrig.
17 O * 1.836 herwydd wrth ddosparthu cenhed∣loedd yr holl dir, efe a osododd dywysog ar bob cenedl, ac * 1.837 a gymmerodd yr Israel yn rhan iddo ei hun;
18 Yr hwn, ac efe yn gyntafanedic, y mae efe yn ei faethu ag addysc, ac wrth gyfran∣nu goleuni cariad, nid yw yn ei yrru ef ymmaith.
19 Am hynny eu holl weithredoedd hwynt sydd fel yr haul ger ei fron ef, ac y mae ei lygaid ef yn oestadol ar eu ffyrdd hwynt.
20 Nid yw eu anghyfiawnder hwynt guddiedig rhagddo ef: eithr y mae eu holl bechodau hwynt ger ei fron ef.
21 Eithr yr Arglwydd, am ei fod yn ddaionus, ac yn adnabod yr hyn a luniodd efe ei hun, ni's gadawodd hwynt, ac ni pheidiodd â'i harbed.
22 * 1.838 Elusenau gŵr sydd megis sel gyd ag ef, ac efe a geidw gymwynas dyn, fel cân∣wyll llygad, gan rannu edifeirwch iw fei∣bion a'i ferched ef?
23 * 1.839 Wedi hynny efe a gyfyd ac a dâl iddynt hwy: îe eu taledigaeth a dâl efe ar eu pennau.
24 Etto * 1.840 efe a toddes i'r edifeiriol
Page [unnumbered]
ddychweliad: ac a gyssurodd y rhai a adaw∣sent amynedd.
25 Tro gan hynny * 1.841 at yr Arglwydd, a gâd dy bechodau: gweddia o'i flaen ef, a gwna lai o fai.
26 Dychwel at y Goruchaf, a thro oddi wrth anghyfiawnder: o herwydd efe a'th ar wain di o dywyllwch i oleuni iechyd∣wriaeth. Cassà hefyd ffieidd-dra yn ddir∣fawr.
27 Pwy * 1.842 a folianna y Goruchaf yn y bedd, yn lle y rhai sydd yn byw, ac yn rhoddi mawl?
28 Darfu mawl gan y marw, megis gan vn heb fod: yr hwn sydd yn fyw, ac yn iach ei galon a folianna yr Argl∣wydd.
29 Mor fawr yw trugaredd ein hargl∣wydd Dduw ni, a'i dosturi i'r rhai sy yn troi atto ef yn sanctaidd.
30 Canys ni all pob peth fod mewn dy∣nion: am nad yw mab dŷn yn anfarwol.
31 * 1.843 Pabeth ddiscleiriach nâ'r haul? ac y mae diffyg ar hwn: ‖ 1.844 felly dŷn yr hwn sydd yn meddwl [yn ôl] cig a gwaed.
32 Y mae efe yn ystyried nerth vchder y nefoedd: eithr daiar a lludw yw pob dŷn.
PEN. XVIII.
1 Rhyfeddol yw gweithredoedd Duw. 9. Berr yw oes dyn. 11. Y mae Duw yn druga∣rog. 15 Na lygra mo'th weithredoedd da â geiriau drwg. 22 Nac oeda ymgyfiawnhau. 30 Na ddilyn mo'th drachwantau.
YR hwn sydd yn byw byth, a greodd bob peth yn gy∣ffredinol. * 1.845
2 Yr Arglwydd yn vnic sydd gyfiawn, ac nid oes neb ond efe:
3 Yr hwn â ‖ 1.846 rhychwant ei law sydd yn llywodraethu y byd, ie ac y mae pob peth yn vfyddhau iw ewyllys ef: o blegit y mae efe yn Frenin ar bob peth, trwy ei nerth * 1.847 yn gwahanu ynddynt hwy y pe∣thau sanctaidd, oddi wrth y pethau halo∣gedic.
4 I bwy y parodd efe fynegi ei weithre∣doedd ef? * 1.848 a phwy a ôlrheiniodd allan ei fawrion weithredoedd ef?
5 Pwy a rif gadernid ei fawredd ef? a phwy a esyd ar draethu ei drugaredd ef?
6 Ni ellir lleihau na chwanegu, ac ni ellir ôlrhain allan ryfeddodau yr Argl∣wydd.
7 Pan orphenno dŷn, yna y dechreu efe, a phan beidio efe, yna efe a betrusa
8 Pa beth yw dŷn? a pha fudd sydd o honaw ef? beth yw ei dda ef, a pha beth yw ei ddrwg ef?
9 Rhifedi dyddiau dŷn ydynt * 1.849 gan mhly∣nedd o'r mwyaf.
10 Fel defnyn o ddwfr wrth y môr, ac fel graienyn wrth y tywod yw * 1.850 mil o flynyddoedd wrth ddyddiau tragywyddol∣deb.
11 Am hynny y mae yr Arglwydd yn ymaros wrthynt hwy, ac yn tywallt ei drugaredd arnynt hwy.
12 Efe a welodd, ac a ŵybu fôd eu di∣wedd hwy yn ddrwg; am hynny efe a wnaeth ei drugaredd yn aml.
13 Trugaredd dŷn sydd tu ag at ei gym∣mydog, a thrugaredd yr Arglwydd ar bob cnawd: yn argyoeddi, ac yn addyscu, ac yn athrawiaethu, ac yn troi, fel y gwna bu∣gail ei braidd.
14 Y mae efe yn trugarhau wrth y rhai sy yn derbyn addysc, ac wrth y rhai sydd yn bryssio at ei farnedigaethau ef.
15 * 1.851 Fy mab, na ddifwyna dy weithred∣oedd da, ac na ddôd air drwg sarrig wrth roddi peth.
16 Onid yw 'r gwlith yn gostwng y gwrês? felly gwell yw gair nâ rhodd.
17 Wele onid gwell yw gair nâ rhodd dda? eithr gyd â'r grâslon y mae pob vn o'r ddau.
18 Vn ffol a ddannod yn daiogaidd, a rhodd y cenfigennus a wna i'r llygaid ballu.
19 Cyn llefaru, dysc: a chyn afiechyd cymmer feddiginiaeth.
20 Cyn barn * 1.852 hola di dy hun, ac yn am∣ser gofwy ti a gei drugaredd.
21 Cyn dy glafychu ymddarostwng trwy ddirwest, ac yn amser pechod dangos edi∣feirwch.
22 Na âd i ddim dy rwystro i dalu dy adduned mewn prŷd: ac nac oeda ymgyf∣iawnhau hyd farwolaeth.
23 Ymbaratoa cyn gweddio, ac na fydd fel dŷn yn temptio 'r Arglwydd.
24 * 1.853 Meddwl am y digofaint [a fydd] yn y diwedd, ac am amser dialedd, pan droer ei wyneb ef ymmaith.
25 Yn amser amldra meddwl am am∣ser newyn, ac yn amser cyfoeth am dlodi, ac eisieu.
26 O'r boreu hyd yr hwyr y newidia amser, a phôb peth a wneir yn fuan ger bron yr Arglwydd.
27 * 1.854 Ar ddŷn doeth y bydd ofn duwiol ym mhob peth, ac yn amser pechod efe a ymo∣chel rhag amryfusedd, a'r angall ni cheidw amser.
28 Pob vn synhwyrol a edwyn ddoe∣thineb, ac addysc: ac ete a rydd fawl i'r hwn a'i cafodd hi.
29 Y rhai a fuant ddeallus mewn yma∣droddion, a aethant hefyd yn ddoethion eu hunain.
30 * 1.855 Na ddos ar ôl dy chwantau, eithr ymattal oddi wrth dy awydd.
31 Os rhoddi i'th enaid yr hyn a ryngo bodd iddo, yna y gwnei di i'th elynion chwerthin, y rhai sydd yn cenfigennu wr∣thit ti.
32 Na ymlawenycha mewn llawer o ddainteithrwydd, ac nac ymrŵym i'r draul.
33 Na ddôs yn dlawd trwy wledda wrth fenthyccio, heb ddim yn dy bwrs, ca∣nys
Page [unnumbered]
[felly] y byddit ti enwog gynllwynwr i'th einioes dy hun.
PEN. XIX.
Gwin a gwragedd a dwylla 'r doethion. 7 Na ddywed gwbl ac a glywych. 17 Cerydda dy gydymaith yn ddiddig. 22 Nid oes dim doethineb mewn annuwioldeb.
NI chyfoethoga gweithiwr meddw: a'r hwn sydd yn di∣ystyru ychydig a syrth o fesur ychydig ac ychydig.
2 Gwin a gwragedd sydd yn gyrru doethion ar encil; a'r hwn a lyno wrth butteiniaid a fydd digywilydd.
3 Pydrni a phryfed a'i cânt ef yn etife∣ddiaeth, a gŵr rhyfygus a gymmerir ym∣maith.
4 Yr hwn sydd yn credu yn fuan sydd * 1.856 yscasn ei feddwl, a'r hwn sydd yn pe∣chu a gyfeiliorna yn erbyn ei enaid ei hun.
5 Yr hwn sydd yn llawenychu mewn drygioni a gondemnir; yr hwn sydd yn gwrthwynebu melys-chwant, sydd yn coro∣ni ei fywyd.
6 Yr hwn a attalio ei dasod a fydd byw yn ddi-gynnen, a'r hwn sydd yn casau sia∣rad, sydd yn llai ei niwed.
7 Nac ail adrodd wrth arall y peth a ddywedpwyd i ti, ac ni byddi ronyn gwaeth.
8 Na fynega fuchedd arall ‖ 1.857 wrth na chyfaill na gelyn, ac na ddadcuddia, os ge∣lli yn ddifai.
9 Canys efe a'th wrendy, ac a ddeil ar∣nat ti, ac mewn amser efe ‖ 1.858 a'th gasâ di.
10 Pan glywech air, gàd iddo farw gyd â thi, a bydd ddiogel na rwyga efe dydi.
11 Vn ffôl a ofidia gan air, fel yr hon sydd yn escor ar blentyn.
12 Fel saeth ynglŷn ym morddwyd vn, felly y mae gair ‖ 1.859 ym mola y ffôl.
13 * 1.860 Rhybuddia gyfaill, ysgatfydd ni's gwnaeth; ac os gwnaeth, rhag gwneuthur mwy.
14 ‖ 1.861 Cerydda dy gyfaill, ysgatfydd ni's dywedodd: ac os dywedodd, rhag iddo ddy∣wedyd eil-waith.
15 ‖ 1.862 Cerydda gyfaill: oblegit mynych y mae yn enllib, ac na choelia bob chwedl.
16 Y mae * 1.863 vn yn llithro yn ei ymadrodd, ac nid ‖ 1.864 o'i fodd: a phwy ni thramgwy∣ddodd â'i dafod?
17 ‖ 1.865 Cerydda dy gymmydog cyn ei fygwth, a dod le i Gyfraith y Goruchaf, gan fod yn ddiddig.
18 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad ‖ 1.866 cym∣meradwyaeth gyd ag ef, a doethineb a bair gariad ganddo ef.
19 Addysc bywyd yw gwybodaeth gor∣chymynion yr Arglwydd: a'r rhai sydd yn gwneuthur yr hyn sydd fodlon gan∣ddo ef, sydd yn cael ffrwyth pren anfar∣woldeb.
20 Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb, ac ym mhob doethineb y mae gwneuthu∣riad y Gyfraith, a gwybodaeth am ei Holl∣alluogaeth ef.
21 Y gwâs a ddywedo wrth ei feistr, ni wnaf yr hyn sydd fodlon [gennit,] pe gwnai efe wedi hynny, y mae efe yn di∣gio ei faethydd.
22 Nid doethineb yw gwybodaeth dry∣gioni, a chyngor pechaduriaid nid yw synhwyr.
23 Y mae drygioni, a hwnnw yn ffiaidd, ac y mae angall annoeth.
24 Gwell yw y bychan ei ddeall, ac yn ofni Duw, nâ'r hwn sydd yn rhagori mewn callineb, ac yn trosseddu Cyfraith y Goruchaf.
25 Y mae cyfrwystra diwyd, a hynny yn anghyfiawn, ac y mae a drŷ ymmaith ffa∣for, i ddangos barn: a doeth yw yr hwn sydd gyfiawn mewn barn.
26 Y mae vn yn gwneuthur drygioni yn bruddaidd, ond wedi ymgrymmu, [ac] o'i fewn yn llawn twyll tanllyd.
27 Efe gan gyd-ostwng ei wyneb, a chymmeryd arno fod yn fyddar, lle nid ad∣weinir ef, a ‖ 1.867 achub dy flaen di, i wneuthur niwed i ti.
28 Ac os o eisieu gallu y rhwystrir iddo ef bechu: etto efe a wna ddrwg os caiff ‖ 1.868 amser.
29 Wrth y golwg yr adwaenir gwr: ac wrth ei olwg yr adwaenir vn deallus, pan gyfarfyddech ag ef.
30 * 1.869 Gwisc gŵr, â chwerthiniad y dan∣nedd, a'i gerddediad, sydd yn dangos yr hyn sydd ynddo ef.
PEN. XX.
1 Ynghylch tewi, a dywedyd; 10 rhoddion ac elw; 18 a llithro â'r tafod: 24 a dywe∣dyd celwydd. 27 Amryw gynghorion.
Y Mae cerydd nid yw ‖ 1.870 deg, ac y mae vn yn tewi, a hwnnw yn gall.
2 Gwell o lawer yw cery∣ddu, nâ digio yn ddirgel: ac fe gedwir rhag niwed yr hwn a gydna∣byddo [ei fai.]
3 Mor dda yw dangos edifeirwch pan i'th gerydder felly y diengi rhag pechod gwirfodd.
4 * 1.871 Megis chwant dispaidd i dorri mor∣wyndod llangces, felly y mae yr hwn sy'n gwneuthur barnedigaeth wrth drawster.
5 Y mae vn distaw, yr hwn a geir yn ddoeth, ac y mae sydd adcas am ei siarad lawer.
6 Y mae sydd yn tewi, am nad oes gan∣ddo atteb, ac y mae sydd yn tewi, am ei fod yn gŵybod * 1.872 ei amser.
7 * 1.873 Dŷn doeth a dau, hyd oni welo amser, eithr ‖ 1.874 yr ehud a r angall ‖ 1.875 a â tros amser.
8 Yr aml ei eiriau a ffieiddir; ac atcas fydd yr hwn yn hynny a gymmero awdur∣dod iddo ei hun.
9 Y mae pechadur, yr hwn sydd yn llwy∣ddo mewn pethau drŵg: ac y mae caffae∣liad a drŷ yn niwed.
10 Y mae rhodd, ni bydd fuddiol i ti; ac y mae rhodd, a dâl ei dau cymmaint.
11 Y mae gostyngiad o herwydd gogo∣niant, ac y mae a gododd ei ben o waeledd.
Page [unnumbered]
12 Y mae a bryn lawer am ychydig, ac a'i tâl adref yn saith gymmaint.
13 Gŵr * 1.876 doeth, wrth ei ymadrodd, sydd yn ei wneuthur ei hun yn gariadus; a ‖ 1.877 ffafor ffyliaid a ‖ 1.878 dywelltir allan.
14 Ni bydd rhodd yr angall fuddiol i ti, pan y derbyniech: na'r eiddo'r cenfigennus o herwydd ei angen, oblegit y mae efe yn edrych am dderbyn llawer peth am vn.
15 Ychydig a rydd efe, a llawer a ddan∣nod efe: efe a egyr ei safn fel criwr: he∣ddyw yr echwyna efe, ac y foru fe a'i gofyn drachefn: câs gan yr Arglwydd, a chan ddynion yw y cyfryw.
16 Y ffôl a ddywed, nid oes gennif gy∣feillion, nid oes i mi ddiolch am fy nghym∣wynaseu: a'r rhai sydd yn bwyta fy mara i sydd yn ddrwg eu tafod am da∣naf.
17 Pa sawl gwaith, a pha sawl vn a'i gwatwarant ef? nid yw efe yn deall yn lawn beth yw bod â pheth ganddo; a'r vn fath iddo ef yw na bai ganddo.
18 Gwell yw llithro ar balmant, nâ llithro â'r tafod; felly y daw cwymp y drygionus ar frŷs.
19 ‖ 1.879 Chwedl ammrhydlon fydd yn oestadol yngenau y diaddysc.
20 O enau y ffôl y llysir dihareb, oblegit ni ddywed efe hi yn ei hamser.
21 Y mae a luddir i bechu trwy eisieu, a phan orphywyso, ni ‖ 1.880 phigir ef.
22 Y mae a gyll ei enaid ei hun o wla∣deidd-dra, a thrwy dderbyn wyneb y mae efe yn ei golli.
23 Y mae a eddy iw gyfaill rhag cywi∣lydd, ac a'i gwna ef yn elyn iddo ei hun, heb fod yn rhaid.
24 * 1.881 Anaf mawr ar ddyn yw celwydd, ac efe fydd yn oestadol yngenau yr hwn sydd ddiaddysc.
25 Gwell yw lleidr nâ'r hwn a ymgyn∣nefino â chelwydd: a phob vn o'r ddau a gaiff ddinistr yn etifeddiaeth.
26 ‖ 1.882 Amharchus yw arfer dyn celwy∣ddog, a'i gywilydd fydd gyd ag ef yn oestadol.
27 Y doeth a'i gesyd ei hun rhagddo, trwy ymadrodd: a'r call a ryglydda fodd pende∣figion.
28 * 1.883 Yr hwn a goleddo ei dir, a wna ei ddâs yn vwch, a'r hwn a ryglyddo sodd pendefigion, a gaiff faddeuant am anghy∣fiawnder.
29 * 1.884 Anrhegion a rhoddion sydd yn dallu llygaid y doethion, ‖ 1.885 ac fel ffrwyn mewn safn, y maent yn troi cerydd ym∣maith.
30 Doethineb guddiedig, a thryssor heb ei weled, pa fudd sydd o'r vn o'r ddau?
31 Gwell yw dŷn yn cuddio ei ffolineb, na dŷn yn cuddio ei ddoethineb:
32 Gwell yw angenrheidiol ddioddef∣garwch yn ceisio yr Arglwydd, nag vn yn llywodraethu ei fywyd ei hun heb gyfar∣wydd-ŵr.
PEN. XXI.
1 Ffo rhag pechod, fel rhag sarph. 4 Ei draha a anrheithia 'r cyfoethog. 9 Drwg fydd diwedd yr anghyfiawn. 12 Y rhagor sy rhwng y doeth a'r annoeth.
OS pechaist [fy] mâb, na wna mwy: eithr * 1.886 gweddia tros yr hyn a fu.
2 Ffô oddi wrth bechod, me∣gis rhag ŵyneb sarph: oble∣git os deui di yn agos atto, efe a'th frath di. Dannedd llew yw ei ddannedd ef, yn lladd eneidiau dynion.
3 Pob anwiredd [sydd] fel cleddyf dau∣finiog: ni ellir iachau ei archollion ef.
4 Ymsywen a cham a anrheithia gyf∣oeth: felly y gwneir tŷ y beilchion yn ang∣hyfannedd.
5 * 1.887 Gweddi o enau y tlawd a gyrraedd i glustiau yr Arglwydd: a'i farn ef a ddaw yn ebrwydd.
6 Yr hwn sydd yn casâu cerydd, [sydd] ar lwybr pechadur: eithr yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd, a ‖ 1.888 drŷ o [ewyllys] ei galon.
7 Adwaenir o bell ac o agos yr ymadro∣ddus ei dafod: eithr y doeth a ŵyr pan li∣thro efe.
8 Yr hwn a adeilado ei dŷ ag arian rhai eraill, [sydd] megis yr hwn sydd yn casclu iddo ei hun gerrig, i [wneuthur] carnedd ei feddrod.
9 Swpp o garth * 1.889 yw cynnulleidfa y rhai anwir, a'i diwedd [fydd] fflamm dân iw dinistrio.
10 Ffordd pechaduriaid a wastadhawyd â cherrig: ac yn ei chwr eithaf hi y mae ffôs vffern.
11 Yr hwn sydd yn cadw Cyfraith yr Ar∣glwydd, sydd yn dyfod iw deall hi: a pher∣ffeithrwydd ofn yr Arglwydd yw derbyn doethineb.
12 * 1.890 Yr hwn nid yw ‖ 1.891 gall, ni chymmer ddysc: canys y mae ‖ 1.892 callineb yn amlhau chwerwedd.
13 Gwybodaeth y doeth a amlhâ fel lli∣feiriant, a'i gyngor ef [fydd] fel pur ffynnon y bywyd.
14 * 1.893 Tu mewn i'r ffôl sydd fel llestr twn, ni ddeil efe ddim gwybodaeth yn ei fywyd.
15 Gŵr doeth, os clyw air doeth, a'i cenmyl, ac * 1.894 a chwanega atto: yr annoeth a'i clybu, ac nid oedd fodlon ganddo, eithr efe a'i trôdd yn ôl ei gefn.
16 Ymadrodd y ffôl sydd megis baich ar ffordd; eithr yngwefusau y doeth y ceir grâs.
17 A genau y doeth yr ymofynnir yn y gynnulleidfa, a hwy a ystyriant ei eiriau ef yn eu calonnau.
18 Megis tŷ wedi ei dynnu ymmaith yw doethineb i'r ffôl: ac ymddiddan disynwyr yw gwybodaeth yr annoeth.
19 Megis llyffetheriau ar draed, ac me∣gis gefynnau dwylo ar y llaw ddehau, yw addysc gan y rhai annoeth.
Page [unnumbered]
20 Y ffôl yn chwerthin a gyfyd ei lêf, eithr prin y gwena gŵr call yn ddistaw.
21 Megis tlŵs o aur yw addysc gan y call: ac megis arddwrn-dlws ar y braich dehau.
22 Buan fydd troed y ffôl yn nhŷ [arall:] a'r gŵr a ŵyr lawer fydd gwradwyddus ganddo hynny.
23 Yr angall o'r drws a yspia i'r tŷ, eithr gŵr medrus a saif allan.
24 Anfedrusrwydd dŷn yw gwrando wrth ddryssau, a'r call fydd blin ganddo yr ammarch.
25 Gwefusau y rhai siaradus a draethant bethau ni pherthyn iddynt eu hun, a gei∣riau y rhai call a bwyssir mewn clorian.
26 Yngenau ffyliaid y mae eu calon, ac ynghalon doethion y mae eu genau.
27 Pan felldithio yr annuwiol Satan, y mae efe yn melldithio ei enaid ei hun.
28 Yr * 1.895 hustingwr sydd yn halogi ei enaid ei hun, ac a gaseir pa le bynnac yr ymdeithio efe.
PEN. XXII.
1 Y diog. 3 Merch ffol. 11 Wyla tros yr yn∣fydion yn hytrach nâ thros y meirw. 13 Na fid i ti a wnelych â hwynt. 16 Nid yscog calon y doeth. 20 Pa beth a bair colli cydymaith.
YDiog sydd gyffelyb i garrec fudr, a phawb a'i hwttia ef allan er ammarch iddo.
2 I siswail tommennau y cyffelybir y diog; pob vn a'i cymmero i fynu a escwyd ei law.
3 Gwradwydd y tâd a'i cenhedlodd yw mab di-addysc: a merch [ffôl] a anwyd iw golled ef.
4 * 1.896 Merch gall ‖ 1.897 fydd etifedd ei gŵr, a'r wradwyddus sydd dristwch iw thâd.
5 Yr hŷ a wradwydda ei thâd a'i gŵr, a hi a amherchir gan bob vn o'r ddau.
6 [Megis] cerdd mewn tristwch, yw ymadrodd allan o amser: eithr prydlon bôb amser fydd ffrewyllau, ac addysc doethi∣neb.
7 Megis assio llestr pridd y mae yr hwn sy yn dyscu 'r ffôl, ac megis vn yn deffro vn o drymgwsc.
8 Mynegi i vn yn cyscu y mae 'r hwn sydd yn mynegi peth i vn ffôl: a phan ddarffo 'r chwedl, efe a ddywed, Beth yw'r matter?
9 Plant yn cael eu cynhaliaeth mewn buchedd dda, sydd yn cuddio gwaeledd eu rhieni:
10 A phlant yn ymffrostio mewn dirmyg, ac annoethineb, sydd yn halogi bonedd eu carennydd.
11 Wyla am y marw, canys efe a gollodd * 1.898 y goleuni; ac wyla am y ffôl, canys y mae diffyg synhŵyr arno. Wyla ychydig am y marw, am iddo ef orphywys: eithr [gwaeth] nâ marwolaeth yw bywyd y ffôl.
12 Saith niwrnod [fydd] o alar am y marw, ond am y ffôl a'r annuwiol, holl ddy∣ddiau ei enioes ef.
13 Na amlhâ eiriau gyd â'r angall, ac * 1.899 na ddôs at yr annoeth; ymgadw oddi wrtho ef rhag cael blinder, ac na'th halo∣ger di gan ei frynti ef. Cilia oddi wrtho ef, a thi a gei orphywysdra, a byth ni'th flinir â'i ynfydrwydd ef.
14 Beth sydd drymmach nâ phlwm? a pha enw sydd iddo ef ond ffôl?
15 * 1.900 Haws yw dwyn tywod, a halen, a darn o haiarn, nâ dŷn ansynhwyrol.
16 Coed wedi ei gyssylltu a'i rwymo yn adeiladaeth, ni ddettyd er ei yscwyd: felly calon wedi ei siccrhau trwy gyngor doeth, nid arswyda vn amser gan ofn.
17 Calon wedi ei chadarnhau trwy feddwl deallus, sydd fel plastr têg ar bared llyfn.
18 Ni saif palis a osoder yn vchel, yn erbyn y gwynt: felly calon ofnus, gyd â meddwl vn ffôl, ni phery yn erbyn ofn.
19 Yr hwn a bigo lygad, a ddwg ddag∣rau allan, a'r hwn a bigo galon, a bair iddi ddangos ei gŵybodaeth.
20 Yr hwn a deifl garreg at adar, a'i tarfa hwynt; a'r hwn sydd yn gwradwy∣ddo ei gyfaill, sydd yn dattod cyfeillach.
21 Pe tynnit gleddyf ar [dy] gyfaill, na anobeitha: o herwydd y mae cymmod.
22 Ped agorit dy safn yn erbyn [dy] gyfaill, na ofna: oblegit fe all bôd cyttun∣deb: ond am wradwydd, a balchder, a dadcuddio cyfrinach, a dyrnod trwy dwyll, am y pethau hyn y ffŷ pob cyfaill ym∣maith.
23 Cadw ffyddlondeb â'th gymydog yn [ei] dlodi, fel y gallech lawenychu yn ei wynfyd ef. Glŷn wrtho ef yn amser cy∣studd, fel y byddech gyd-etifedd yn ei etife∣ddiaeth ef: nid yw tlodi bob amser iw di∣ystyru, na'r cyfoethog angall iw fawr-ber∣chi.
24 O flaen tân y mae tarth a mwg y ffumer yn myned: felly y mae ymddifenwi o flaen celanedd.
25 Nid cywilydd fydd gennif amddeffyn fy nghyfaill, ac nid ymguddiaf rhagddo ef.
26 Os digwydd i mi ddrwg o'i blegit ef, pob vn a glywo a ochel rhagddo ef.
27 Pwy a esyd gadwriaeth o flaen fy * 1.901 ngenau, a sêl doethineb ar fy ngwefusau: fel na syrthiwyf yn ddisymmwth trwy∣ddynt, ac na'm difetho fy nhafod.
PEN. XXIII.
1 Gweddi am râs i ochel pechu. 9 Nac arferwn dyngu: 14 ond cofiwn ein rhieni. 16 Am dri math ar ddynion. 23 Bod y wraig odi∣nebus yn pechu lawer o ffyrdd.
O Arglwydd, Tâd a llywydd fy holl enioes, na âd fi yn eu cyng∣or hwynt, ac na âd i mi syrthio trwyddynt.
Page [unnumbered]
2 Pwy a esyd ffrewyllau ar fy meddyl∣iau, ac addysc doethineb ar fy nghalon: fel na'm harbedont am fy amryfusedd, ac nad êl heibio i'm pechodau?
3 Rhac cynnyddu fy anwybodaeth i, ac amlhau fy mhechodau i'm dinistr, a syrthio o honof o flaen fy ngwrthwyneb∣wŷr, a llawenychu o'm gelynion arnaf, y rhai y mae eu gobaith yn bell oddi wrth dy drugaredd di.
4 O Arglwydd Dâd, a Duw fy mywyd i, na ddod i mi olwg vchel: eithr tro oddi wrth dy weision feddwl cawraidd bob am∣ser.
5 Tro oddi wrthif fi ofer obaith a chwant, a dal i fynu bob amser yr hwn a fynnei dy wasanaethu di.
6 Na oddiwedded awydd i'r bol fi, na chwant y cnawd: ac na ddod fi dy wâs i fynu i feddwl digywilydd.
7 Gwrandewch blant addysc genau cy∣wir: a'r hwn a'i cadwo, ni ddelir ef byth yn ei wefufau.
8 Y pechadur a adewir yn ei ffoledd; y difenwr a'r balch a ddifethir trwy∣ddynt.
9 * 1.902 Na arfer dy enau i dyngu, ac na ymgynnefina â henwi yr hwn sydd sanc∣taidd.
10 Oblegit megis ni bydd ychydig glei∣siau ar y gwâs a gurer yn oestadol; felly yr hwn a dyngo, ac a henwo [Dduw] bob am∣ser, ni bydd lân oddi wrth bechod.
11 Y gŵr a dyngo lawer a lenwir o anwiredd, ac nid ymedy dialedd â'i dŷ ef: os pecha efe, ei bechod fydd arno: ac os diystyr ganddo, y mae efe yn pechu y dau cymmaint; os yn ofer hefyd ŷ tyngodd efe, ‖ 1.903 ni chyfiawnheir ef: oblegit fe a lenwir ei dŷ ef o ddialedd.
12 Y mae ymadrodd wedi ei wisco â marwolaeth: Duw a wnêl na chaffer [hwnnw] yn etifeddiaeth Iacob; o her∣wydd hyn oll a fydd bell oddi wrth y rhai duwiol, ac nid ymdrybaeddant hwy mewn pechodau.
13 Nac arfer dy enau i anghymmesur∣wydd o dyngu: oblegit y mae yn hynny ymadrodd pechadurus.
14 Cofia dy dâd a'th fam, pan fyddech yn eistedd ym mysc pendefigion: rhag it angho∣fio ger eu bron hwynt, ac i ti wrth dy arfer ‖ 1.904 ddihoeni, ac ewyllysio o honot na'th ane∣sid, a melldithio o honot ddydd dy anedi∣gaeth.
15 Y * 1.905 dŷn a ymarfero â geiriau gwradwyddus, ni chymmer addysc tra fy∣ddo byw.
16 Dau fath sydd yn pechu llawer, a'r trydydd sydd yn dwyn digofaint: Medd∣wl brwd sydd fel y tân poeth, yr hwn ni ddiffydd nes ei ddarfod: dŷn godinebus yn ei gorph cnawdol, yr hwn ni phaid, hyd oni chynneuo efe dân.
17 Y mae pob bara yn felus gan ddŷn godinebus, ni phaid efe nes ei farw. * 1.906
18 Dŷn yn trosseddu oddi wrth ei wely ei hun, gan ddywedyd yn ei galon, * 1.907 pwy sydd yn fy ngweled? Y mae tywyllwch o'm hamgylch i, ac y mae y parwydydd yn fy nghuddio, ac nid oes neb yn fy ngweled i, beth sydd arnafi ei ofn? ni chofia y Go∣ruchaf fy mhechodau i.
19 Y cyfryw ddŷn sydd yn ofni llygaid dynion yn vnic, ac ni ŵyr fod llygaid yr Arglwydd Goruchaf yn ddeng-mil eglu∣rach nà'r haul, yn canfod holl ffyrdd dyni∣on, ac yn ystyried y rhannau cuddiedig.
20 Cyn creu dim, pob peth oedd hyspys iddo ef, ac wedi eu gorphen, y mae efe yn canfod y cwbl.
21 * 1.908 Yn heolydd y ddinas y dielir ar hwn, ac ef a ddelir lle ni's amheuodd efe.
22 Felly y bydd y wraig sydd yn gadel ei gŵr, ac yn ceisio etifeddiaeth o arall.
23 O blegit * 1.909 yn gyntaf, hi a anufyddha∣odd i gyfraith y Goruchaf; ac yn ail, hi a bechodd yn erbyn ei gŵr; ac yn drydydd, hi a dorrodd briodas trwy odineb, ac a ddug blant o ŵr arall.
24 Honno a ddygir allan yn y gynnu∣lleidfa, ac fe fydd edrych ar ei phlant hi.
25 * 1.910 Ni wreiddia ei phlant hi, ac ni ddwg ei changhennau hi ffrwyth.
26 Ei choffadwriaeth a âd hi yn felldith, ac ni ddileir ei gwradwydd hi.
27 A'r rhai a adewir a gânt wybod nad oes dim well nag ofn yr Arglwydd, na dim felusach nà gwilied ar orchymynion Duw.
28 Gogoniant mawr yw dilyn Duw: a hîr hoedl yw cael dy dderbyn ganddo.
PEN. XXIV.
2 Y mae doethineb yn ei chanmol ei hun: ac yn dangos ei dechreuad; 4 a'i thrigfa, 13 a'i gogoniant, 17 a'i ffrwyth, 26 a'i chyn∣nyrch, a'i pherffeithrwydd.
DOethineb a'i cenmyl ei hun, ac a orfoledda ym mysc ei phobl.
2 Hi a egyr ei genau ynghynnulleidfa y Goru∣chaf, ac a orfoledda ger bron ei allu ef.
3 Mi a ddeuthym o enau y Goruchaf, ac a orchuddiais y ddaiar fel ‖ 1.911 niwl.
4 * 1.912 Mi a bresswyliais mewn lleoedd vchel, a'm gorsedd-faingc i sydd mewn colofn o gwmwl.
5 Myfi a amgylchais gylch y nefoedd fy hunan, ac a rodiais yngwaelod y dyfnder.
6 Cefais feddiant o donnau y môr, ac o'r holl dîr, ac o bob pobl a chenhedl.
7 A chyd â'r rhai hyn oll y ceisiais i orphywysdra; fel y cyfanneddwn yn etife∣ddiaeth rhyw vn.
8 Yna i'm gorchymynnodd creawdydd pob peth, a'r hwn a'm creawdd inneu a wnaeth i'm pabell i orphywyso; ac a ddywedodd, presswylia yn Iacob, a chymmer etifeddi∣aeth yn ‖ 1.913 Ierusalem.
Page [unnumbered]
9 * 1.914 Efe a'm creawdd i o'r dechreuad cyn y byd, ac ni phallaf fi byth.
10 Mi a wasanaethais ger ei fron ef * 1.915 yn y babell sanctaidd: ac felly i'm siccrhawyd i yn Sion.
11 Gwnaeth efe hefyd i mi * orphwyso yn y ddinas ‖ 1.916 sanctaidd, ac yn Ierusalem y mae fy ngallu i.
12 Ac mi a wreiddiais ym mysc pobl an∣rhydeddus, sef yn rhan yr Arglwydd, a'i etifediaeth.
13 Fel cedyrn Libanus y derchafwyd fi, ac fel cupreswydden ym mynyddoedd Hermon.
14 Fel palm-wydden ‖ 1.917 yn Engadi y der∣chafwyd fi, ac fel planhigyn rhôs yn Iericho, fel oliwydden hardd mewn maes tig, ac fel plân-wydden ‖ 1.918 wrth ddyfroedd y cynnyddais.
15 Fel Cinamwn, ac fel ‖ 1.919 swpp o bêr∣aroglau, ac megis myrr dewisol, y rhoddais fy mhêr-arogl; fel Galbanum, ac Onyx, ac Storax, ac fel tarth thus * 1.920 yn y ba∣bell.
16 Mi a estynnais fy nghanghennau sel Terebinthus, a'm canghennau sydd ganghennau gogoniant a gras.
17 * 1.921 Fel gwinwydden y tarddodd pêr∣arogl o honofi, a ffrwyth gogoniant a chyfoeth yw fy mlodau i.
18 Mam cariad da, ac ofn, a gwybo∣daeth, a gobaith sanctaidd, ydwyfi; am hynny gan fy môd yn dragwyddol, myfi a roddir i'm holl blant, y rhai a ‖ 1.922 henwyd ganddo ef.
19 Deuwch attafi y rhai ydych yn fy chwennychu i, a llanwer chwi â'm ffrwy∣thau i.
20 Canys * 1.923 melusach yw fy nghoffad∣wriaeth na'r mêl, a'm etifeddiaeth nâ'r dil mêl.
21 Bydd ar y rhai am bwytânt i newyn etto, ac ar y rhai am hyfant i y bydd syched etto.
22 Ni wradwyddir byth yr hwn a bfyddhao i mi, ac ni phecha y rhai a wei∣thiant trwofi.
23 Llyfr cyfammod y Goruchaf Dduw yw hyn oll, [sef] y * 1.924 Gyfraith, yr hon a or∣chymynnodd Moses i ni yn etifeddiaeth i gynnulleidfaoedd Iacob.
24 Na phellwch fod yn gryfion yn yr Arglwydd, fel y cadarnhao efe chwi, glynwch wrtho ef: canys yr Holl-alluog Arglwydd sydd Dduw yn vnic, ac nid oes iachawdur ond efe.
25 Yr hwn â'i ddoethineb sydd yn llen∣wi pob peth fel * Physon, ac fel Tigrys yn nyddiau y [ffrwythau] newydd.
26 Yr hwn sydd yn llenwi deall fel Eu∣phrates, ac fel yr * Iorddonen yn amser cynhaiaf.
27 Yr hwn sydd yn dangos addysc gwy∣bodaeth fel goleuni, ac fel Gêon yn ny∣ddiau cynhaiaf gwin.
28 Ni adnabu y dŷn cyntaf hi yn ber∣ffaith: felly nid ôlrhain y diweddaf hi allan.
29 O blegit y mae ei meddyliau hi yn helaethach nâ'r môr, a'i chyngor yn ddyfn∣ach nâ'r dyfnder mawr.
30 Yr ydwyf fi doethineb, fel ‖ 1.925 ffôs yn dyfod o afon: ac fel aber yn myned i ardd.
31 Mi a ddywedais, dwfrhâf fy ngardd oreu, a mwydaf fy ngardd-wely yn dda: ac wele, fe aeth fy nant yn afon, a'm hafon yn fôr.
32 Myfi a wnâf i addysc oleuo fel y boreu, ac a'i dangosaf hi ym mhell.
33 O herwydd myfi a dywalltaf athrawiaeth fel prophwydoliaeth, ac mi a'i gadawaf hi i'r holl oesoedd yn dra∣gywyddol.
34 Gwelwch * 1.926 nad trosof fy hunan y cymmerais i boen, eithr tros bawb a gei∣siant ddoethineb.
PEN. XXV.
1 Pa bethau sy brydferth, a pha bethau yn anhygar. 6 Beth yw coron henaint. 7 Pa bethau a wna vn yn ddedwydd. 13 Nad oes dim wnaeth nâ gwraig ysceler.
GAn dri pheth yr euthym i yn dêg, ac y eodais i yn dêg ger bron yr Arglwydd a * 1.927 dynion: cyttundeb brodyr, a chyfeillach cymmydogi∣on, a gŵr a gwraig yn cyt∣tuno â'i gilydd.
2 Tri math [ar ddŷn] sydd gâs gan fy enaid i, ac yr ydwyf yn anfodlon iawn iw buchedd: tlawd balch, a chyfoethog celwy∣ddog, a hen-wr godinebus angall.
3 Oni chesclaist ti ddim yn dy ieueng∣tid, pa fodd y cei di ddim yn dy henaint?
4 Mor hardd yw barn ar rai penllwyd! a medru cyngor ar henaf-gwŷr!
5 Mor hardd yw doethineb henafgwŷr! a deall, a chyngor, mewn rhai anrhyde∣ddus!
6 Coron henaf-gwŷr yw gwybod llawer, a'i gorfoledd yw ofn yr Arglwydd.
7 Naw peth a gyfrifais i yn ddedwydd yn fy nghalon, a'r decfed a draethaf fi â'm tafod: dŷn yn cael llawenydd o'i blant, ac yn byw i weled cwymp ei elynion.
8 Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cyttal â gwraig synhwyrol, * 1.928 a'r hwn ni lithrodd ei dafod, ac ni wasanaethodd yr hwn sydd anaddas iddo.
9 Gwyn ei fyd yr hwn a gafodd ‖ 1.929 syn∣hwyr, a'r hwn a draetho wrth rai a wran∣dawo.
10 Mor fawr yw 'r hwn sydd yn cael doethineb! ond nid oes neb vwch law yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd.
11 Cariad yr Arglwydd sydd eglurach nâ dim: i ‖ 1.930 ba beth y cyffelybir yr hwn sydd yn cael gafael arno ef?
12 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad ei gariad ef; a ffydd yw dechreuad glynu wrtho ef.
Page [unnumbered]
13 [Dewis] bob ‖ 1.931 dyrnod, ond dyr∣nod [ar] y galon: a phob drygioni, ond dry∣gioni gwraig:
14 A phôb niwed, ond niwed caseion, a phob dial, ond dial gelynion.
15 Nid oes pen waeth nâ phen sarph, na digofaint waeth nâ digofaint gelyn.
16 * 1.932 Gwell gennifi gyttal â llew, ac â draig, na chyttal â gwraig ddrwg.
17 Y mae drygioni gwraig yn newidio ei hwyneb hi, ac yn tywyllu ei hwyneb∣pryd hi fel ‖ 1.933 arth.
18 Ynghanol ei gymmydogion yr eistedd ei gŵr hi, ac efe a vcheneidia o'i anfodd, o'i hachos hi.
19 Bychan yw pob drwg wrth ddrwg gwraig, syrthied coel-bren pechadur arni hi.
20 Fel y mae dringfa dywodlyd i draed henaf-gwr, felly y mae gwraig ddrwg ei thafod, i wr distaw.
21 * 1.934 Na thramgwydda wrth degwch gwraig, ac na chwennych wraig er try∣thyllwch.
22 Llawn dîg a digywilydd-dra, a mawr wradwydd yw gwraig, os rhydd hi iw gwr [ei gynhaliaeth.]
23 Gwraig ddrwg a wna galon isel, ac wyneb trist, ac archoll calon; dwylo gweni∣aid, a gliniau rhyddion; yw 'r hon ni chy∣northwya ei gŵr yn ei gyfyngdra.
24 Trwy wraig * 1.935 y daeth dechreuad pe∣chod, ac o'i phlegit hi yr ydym ni yn meirw oll.
25 Na ddod i ddwfr le i fyned trosodd, nac i wraig ddrwg rydd-did i rodienna o amgylch.
26 Onid â hi wrth dy law di, tor hi oddi wrth dy gnawd, dôd iddi [lythyr ys∣car] a gollwng [hi] yn rhydd.
PEN. XXVI.
1 Gwraig dda, 4 a chydwybod dda sy 'n llawe∣nychu dynion. 6 Peth erchyll yw gwraig ysce∣ler. 13 Gwragedd da, a drwg. 28 Y tri peth blin. 29 Nas gall marsiandwyr fod yn ddibechod.
GWyn ei fyd gŵr y wraig dda: canys dyblir rhifedi ei ddyddi∣au ef.
2 Gwraig ‖ 1.936 rymmus a laweny∣cha ei gŵr, ac efe a gyflawna flynyddoedd ei fywyd mewn heddwch.
3 Rhan dda yw gwraig dda, ac yn rhan y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd y rho∣ddir hi.
4 Pa vn bynnag fyddo dŷn ai tlawd ai cyfoethog, os bydd ganddo galon dda at yr Arglwydd, efe a orfoledda bob amser yn wyneb-siriol.
5 Rhag tri pheth yr arswydodd fy nghalon i, a rhag y ped werydd yr ofnais yn ddirfawr: ‖ 1.937 Enllib dinas, ac ymgascliad torf afreolus, a gau dystiolaeth: blinach nag angeu yw y rhai hyn oll.
6 Baich calon, a galar, yw gwraig yn dal eiddigedd wrth wraig, a ffrewyll y tafod yn cyfrannu â phawb.
7 ‖ 1.938 Iau ychen yn siglo yw gwraig ddrwg, ac y mae ei pherchennog megis yn ymaflyd mewn yscorpion.
8 Digter mawr yw gwraig feddw, ac ynfyd, ac ni chela hi ei gwarth ei hun.
9 Putteindra gwraig a adweinir wrth ddyrchafiad [ei] llygaid a'i hamran∣tau.
10 Dod gadwriaeth siccr * 1.939 ar ferch an∣hywaith, rhag os caiff hi rydd-did, iddi ei [cham] arfer ei hun.
11 Gwilia ar y llygad digywilydd, ac na ryfedda os gwna hi gam â thi.
12 Fel yr egyr fforddol sychedig ei safn pan gaffo ffynnon: felly yr ŷf hi o bob dwfr cyfagos, ac yr eistedd wrth bob ‖ 1.940 pawl, ac a egyr ei chawell yn erbyn pob saeth.
13 Grâs gwraig a wna ei gŵr yn hyfryd, a'i gwybodaeth hi a wna ei escyrn ef yn frei∣sion.
14 Rhodd yr Arglwydd yw gwraig ddi∣staw garedic, ac nid oes cyd-werth i enaid a gymmerodd addysc.
15 Grâs ar râs ywgwraig gywilyddgar, a ffyddlon, ac nid oes dim a ddichon gyd-bwyso ei diwair feddwl hi.
16 Fel y mae yr haul yn codi yn vchel-leoedd ‖ 1.941 yr Arglwydd, felly y mae tegwch gwraig dda ‖ 1.942 yn llywodraethu ei thŷ.
17 Fel canwyll yn goleuo yn y canhwyll∣bren sanctaidd, felly y mae tegwch prŷd mewn llawn oedran.
18 Fel colofnau aur mewn morteisiau arian: felly y mae traed prydferth gyd â dwyfron ddi-anwadal.
19 [Fy] mab, cadw flodau dy ieuengtid yn iach, ac na ddod dy gryfder i ddieithriaid.
20 Wedi it gael rhan ffaeth o'r maes oll, haua dy hâd dy hun, gan obeithio yn dy fonedd dy hun.
21 Felly dy hiliogaeth, yr hon a adaw∣ech, a fawrheir, a hyder ganddynt ar eu∣bonedd.
22 Gwraig ar werth a gyfrifir ei ‖ 1.943 bod vu wedd a hŵch, a'r briod a gyfrifir yn dŵr yn erbyn marwolaeth iw gŵr.
23 Gwraig annuwiol a roddir yn rhan i ŵr anwir, a'r dduwiol a roddir i'r hwn sydd yn ofni yr Arglwydd.
24 Gwraig anhonest a ddiystyra ammarch, eithr merch honest a barcha ei gŵr.
25 Megis ci y cyfrifir gwraig ddigywi∣lydd, a'r gywilyddgar a ofna yr Argl∣wydd.
26 Y wraig sydd yn perchi ei gŵr ei hun, a wêl pawb yn ddoeth, a'r hon a'i amharcho ef yn ei balchder, a gydnebydd pawb ei bod yn annuwiol.
27 Am wraig ‖ 1.944 floeddgar a siaradus, yr edrychir i darfu gelynion.
28 Am ddau beth y mae fy nghalon i yn athrist; ac am y trydydd y daeth arnaf ddigter: Bod rhyfelwr yn anghenus trwy eisieu, a dirmygu gwŷr synhwyrol, ac vn yn dychwelyd oddi wrth gyfiawnder at
Page [unnumbered]
bechod; yr Arglwydd a'i paratoa ef i'r cle∣ddyf.
29 Anhawdd yw i farsiandwr ymgadw rhag gwneuthur cam; ac ni chystawnheir tafarn-wr oddi wrth bechod.
PEN. XXVII.
1 Pechodau wrth brynu agwerthu. 7 Ein hy∣madrodd a ddengys beth sy ynom ni. 16 Trwy ddaccuddio ei gyfrmach y collir cy∣dymaith. 25 A gloddio bwlla syrth ynddo.
O Achos * peth ‖ 1.945 cyffredinol y pechodd llawer: a'r * hwn sydd yn ceisio cael amldra, a drŷ ei olwg ymmaith.
2 Rhwng cysswllt cerrig y gyrrir hoel, a rhwng pry∣nu a gwerthu y glŷn pechod.
3 Oni ddeil dŷn yn ofn yr Arglwydd yn ddiwyd, ebrwydd y dinistrir ei dŷ ef.
4 Wrth escwyd y gogr yr erys yr am∣mhuredd, felly brynti dyn yn ei ymresym∣miad ef.
5 Y ffwrn sydd yn profi llestri pridd, * 1.946 fe∣lly y mae profedigaeth dŷn yn ei ymresym∣miad ef.
6 Ei * 1.947 ffrwyth a ddengys goleddiad y pren, felly y gwna traethu y meddwl ynghalon dŷn,
7 Na chanmol ŵr cyn clywed ei yma∣drodd: odlegit dyna brofedigaeth dŷn.
8 Os dilyni gyfiawnder ti a'i goddiwe∣ddi hi, ac a'i gwisci hi fel gwisc laes ogo∣neddus.
9 Adar a ‖ 1.948 arhosant gyd â'i cyffelyb, a'r gwirionedd a drŷ at y rhai a weithiant trwyddi.
10 Fel y cynllwyn llew i'r helfa, felly y gwna pechod i'r rhai a weithredant ddry∣gioni.
11 Traethiad y duwiol sydd bob amser mewn doethineb, a'r angall a newidia fel y lleuad.
12 Ym mysc yr ansynhwyrol, cadw yr amser, a thyred yn fynych i fysc y rhai pwyllog.
12 Baich yw traethiad ffyliaid, a'i difyr∣rwch fydd mewn trythyllwch pechod.
14 * 1.949 Ymadrodd yr hwn a dyngo lawer, a wna i'r gwallt sefyll, ac ymsywyn y cyfryw a wna gau clustiau.
15 Ymsywyn beilchion a bair gelanedd, a'i difenwad hwynt sydd flin ei glywed.
16 Yr hwn sydd yn dadcuddio cyfrinach, a gollodd ei gred, ac ni chaiff efe gyfaill wrth ei fodd.
17 Hoffa [dy] gyfaill, a gwna yn ffyddlon ag ef: eithr os dadcuddi di ei gyfrinach ef, na ddilyn ar ei ôl ef mwyach.
18 Oblegit megis y difethodd dyn ei elyn, selly y collaist di gariad dy gymmydog:
19 Ac fel pe gollyngei gŵr aderyn o'i law, felly y gollyngaisti dy gymmydog, ac ni's deli ef drachefn.
20 Na chansyn ef: oblegit y mae efe ym mhell, ac y mae fel iwrch wedi diangc allan o'r fagl.
21 Oblegit fe a ellir iachau archoll, ac y mae cymmod am ddifenwi: eithr yr hwn a ddadcuddiodd gyfrinach a gollodd [ei] obaith.
22 Y mae * 1.950 yr hwn sydd yn amneidio â'i lygad yn ‖ 1.951 adeiladu drŵg, a'r hwn a'i had∣waeno ef, a gilia oddi wrtho ef.
23 Efe a wna ei enau yn fwyn yn dy ŵydd di, a rhyfedd fydd ganddo ef dy ymadrodd di: wedi hynny efe a ‖ 1.952 drŷ ei chwedl, ac a fwrw fai ar dy ymadrodd di.
24 Llawer o bethau a gaseais i, ac ni welwn ddim tebyg iddo ef: yr Arglwydd hefyd a'i casâ [ef.]
25 Y neb sydd yn taflu carreg i fynu, sydd yn ei thaflu hi ar ei ben ei hun: a dyrnod tywyllodrus a wna archollion.
26 * 1.953 Yr hwn a gloddio ffôs a syrth yn∣ddi hi: a'r hwn a osodo fagl a ddelir â hi.
27 Yr hwn a wnelo ddrwg, arno ef y de∣scyn: ac ni chaiff efe ŵybod o ba le y mae yn dyfod iddo.
28 Gwatwar, a gwradwyddo sy'n eiddo y beilchion; eithr * 1.954 dialedd a gynllwyn idd∣ynt hwy fel llew.
29 Mewn magl y delir y rhai sydd yn llawen ganddynt syrthio o'r rhai duwiol, a chyn eu marwolaeth, y treulia gofid hwynt.
30 Digofaint a llîd sydd ffiaidd, a'r dŷn pechadurus a'i caiff hwy ill dau.
PEN. XXVIII.
1 Yn erbyn dial, 8 a chwerylu, 10 a llid, 15 a drwg absen.
* 1.955 YDialwr a gaiff ddialedd gan yr Arglwydd, ac efe gan gadw â geidw ei be∣chodau ef mewn côf.
2 Maddcu i'th gymmy∣dog y cam a wnaeth efe â thi, ac yna pan weddiech di y maddeuir dy bechodau ditheu.
3 Dŷn a ddeil ddig wrth ddŷn, ac a * 1.956 gais efe gan yr Arglwydd feddiginiaeth?
4 Ni thrugarhâ efe wrth ddŷn cyffelyb iddo eihun, ac a ymbil efe tros ei bechodau ei hun?
5 Os efe nid yw ond cnawd a ddeil ddîg; pwy a ymbil am faddeuant o'i bechodau ef?
6 Cofia y diwedd, a phaid â dal gala∣nastra, [cofia] lygredigaeth, a marwol∣aeth: ac aros wrth y gorchymynion.
7 Cofia y gorchymynion, ac na ddal ddig wrth dy gymmydog. [Cofia] gy∣fammod y Goruchaf, ac nac edrych ar an∣wybodaeth.
8 * 1.957 Ymgadw rhag cynnen, a thi a wnei yn llai dy bechodau, oblegit gŵr digllon a gynneu gynnen.
Page [unnumbered]
9 Gŵr pechadurus a dralloda gyfeillion, ac a wna ymryson rhwng rhai heddychol.
10 Fel * 1.958 y byddo defnydd y tân, felly y llysc efe; ac fel y byddo cryfder dŷn, y bydd ei ddigofaint ef, ac yn ôl cyfoeth dŷny cyfyd ei lid ef: a pha cryfaf fo y rhai sy 'n ymry∣son, mwyaf y cynneu eu llîd hwynt.
11 Y mae ymryson prysuryn cynneu tân, ac ymladd pryssur yn tywallt gwaed.
12 Os chwythi di wreichionen, hi a gyn∣neu: ond os poeri di arni hi, hi a ddiffydd: ac y mae y ddau yn dyfod o'r genau.
13 Melldithiwch * 1.959 yr athrodwr, a'r ddau dafodiog: oblegit llawer vn heddychlon a ddifethasant hwy.
14 Tafod dau-ddyblyg a gynhyrfodd lawer, ac a'i gwasacarodd hwynt o genhedl i gen∣hedl. Dinasoedd cedyrn a ddinistriodd efe hefyd, a theiau pendeflgion a ddifethodd efe.
15 Tafod dau-ddyblyg a fwriodd wragedd rhinweddol allan, ac a'i diddymmodd hwynt o'i llafur.
16 Yr hwn a wrandawo arno ef ni chaiff fyth orphywysdra, ac ni phresswylia yn llo∣nydd.
17 Dyrnod ffrewyll a wna glais, a dyr∣nod tafod a ddyrr yr escyrn.
18 Llawer a syrthiasant o herwydd min y cleddyf, ond nid cymmaint ac a syrthia∣sant oblegit y tafod.
19 Gwyn ei fyd yr hwn a amddeffynnwyd rhagddo, ac nid aeth yn ei ‖ 1.960 ddigofaint ef: yr hwn ni thynnodd ei iau ef, ac ni rwym∣wyd âi rwymau ef:
20 Oblegit iau haiarn yw ei iau ef, a rhwymau pres yw ei rwymau ef.
21 Marwolaeth ddrwg yw ei farwolaeth ef, a mwy buddiol yw y bedd nag ef.
22 Ni chaiff efe lywodraeth ar y rhai duwiol, ac ni loscir hwynt yn ei fflam ef.
23 Y rhai sydd yn gadel yr Arglwydd a syrthiant iddo, ac ynddynt hwy y llysc efe heb ddiffoddi; efe a yrrir arnynt hwy fel llew, ac fel llewpard y difa efe hwynt.
24 Edrych ar gau o honot dy dyddyn â drain, a rhwym i fynu dy arian a'th aur,
25 A phwysa dy eiriau mewn clorian, a gwna i'th enau ddôr a chlo,
26 A gochel rhag llithro o honot trwyddo, a rhac syrthio o honot o flaen y cynllwyn-wr.
PEN. XXIX.
2 Rhaid i ni ddangos trugaredd, a rhoi benthyg. 4 Na ddylai 'r benthygiwr dwyllo mo'r hwn a fenthygio iddo. 9 Dyro elusen. 14 Gwr da ni cholleda ei feichiau. 18 Mor enbyd yw mechniaeth. 22 Gwell yw arhos gartref, nag ymdeithio mewn lle arall.
YR hwn sydd drugarog, sydd yn rhoddi echwyn iw gym∣mydog, a'r hwn sydd yn ca∣darnhau ei law ef, sydd yn cadw y gorchymynion.
2 * 1.961 Dod echwyn i'th gym∣mydog yr amser y byddo rhaid iddo, a thâl drachefn i'th gymmydog mewn amser.
3 Cadw dy air, a gwna yn ffyddlon ag ef, a thi a gei wrth dy raid bob amser.
4 Llawer a gyfrifasant echwyn fel peth wedi ei gael, ac a barasant flinder i'r rhai a'i helpiasant hwy.
5 Y mae efe yn cussanu ei law ef, hyd oni dderbynio: ac efe a ostwng ei leferydd am arian ei gymmydog: ond yn amser talu efe a oeda yr amser, ac a rydd atteb hwyr∣frydic, ac a wna escus o'r amser.
6 Ac ‖ 1.962 os dichon efe, prin y caiff efe yr hanner: ac efe a gyfrif hynny fel peth wedi ei gael [ar y ffordd:] os amgen efe a'i difuddi∣odd o'i arian, ac a'i cafodd ef yn elyn heb achos: efe a dâl iddo felldithion a difenwad; efe a dâl iddo ammarch yn lle anrhydedd.
7 Llawer o herwydd hynny a naccasant fenthyccio, am ddryg-waith rhai eraill, gan ofni eu difuddio.
8 Er hynny bydd ddioddefgar wrth ŵr tlawd, ac nac oeda dy elusen iddo.
9 Cynnorthwya y tlawd er mwyn y gorchymmyn, ac na thro ef ymmaith yn ei angen.
10 Coll dy arian er mwyn cyfaill neu frawd, ac na chuddia hwynt tan garreg iw colli.
11 Gosot * 1.963 dy dryssor yn ol gorchymmyn y Goruchaf, ac efe a sydd mwy buddiol i ti nag aur.
12 Cae * 1.964 dy elusen yn dy gelloedd, a hi a'th wared ti o bôb niwed.
13 Hi a ymladd trosot ti yn well nâ tha∣rian cryf, ac nâ gwayw-ffon gadarn, yn er∣byn y gelyn.
14 Gŵr da a fechnia tros ei gymmydog; a'r hwn a gollodd gywilydd-dra a'i gâd ef.
15 Na anghofia garedigrwydd meichie, o blegit efe a'i rhoddes ei hun trosot ti.
16 Pechadur a anrheithia feichie da ei gyflwr:
17 A'r hwn sydd o feddwl anffyddlon, a âd mewn perigl yr hwn a'i gwaredoddef.
18 Mechniaeth a ddifethodd lawer vn goludog, ac a'i siglodd hwynt fel tonn o'r môr: hi a wnaeth i wŷr cedyrn fudo allan o'i tai, fel y cyrwydrasant hwy ym mysc cenhedloedd dieithr.
19 Y pechadur a drosseddo orchymynion yr Arglwydd, a syrth mewn mechniaeth, a'r hwn a ddilyn achosion rhai eraill er gwobr, asyrth mewn cyfraith.
20 Cynnorthwya dy gymmydog yn ôl dy allu, a gwilia arnat dy hun rhag syrthio o honot.
21 * 1.965 Y peth pennaf o fywyd dŷn, yw dwfr, a bara, a dillad, a thŷ yn gorchuddio gwarth.
22 Gwell yw bywyd y tlawd mewn bwth gwael, nâ gwleddau danteithiol mewn tŷ vn arall.
23 Am fawr a bychan bydd fodlon, ac ni chei di glywed edliw dy dŷ.
24 Bywyd drwg yw myned o dŷ i dŷ, lle yr ymdeithi di, ni elli agoryd dy enau.
25 Ti a letteui, ac a ddiodi rai anniolch∣gar,
Page [unnumbered]
ac a gei glywed chwerwder he∣fyd.
26 Tyred ymdeithydd, gwna 'r bwrdd yn drefnus, ac od oes dim gennit, dod i mi fwyd.
27 Tyred allan ymdeithydd, o flaen yr an∣rhydeddus, y mae yn rhaid i mi wrth fy nhŷ, y mae fy mrawd yn lletteua gyd â mi.
28 Trwm yw hyn i'r hwn sydd ganddo synhwyr, edliw y tŷ, a gwradwyddo y ben∣thygiwr.
PEN. XXX.
1 Da yw ceryddu plant, 7 ac nid eu llochi, a chadw moethau iddynt. 14 Gwell ie∣chyd nâ golud. 22 Tristwch a fyrhâ 'r iechyd, a'r einioes.
YR hwn sydd yn caru ei fab a'i mynych * 1.966 ffrewylla ef, fel y caffo lawenydd o ho∣naw ef yn y diwedd.
2 Yr hwn a ddysco ei fab a gaiff lawenydd o ho∣naw, ac a orfoledda o'i achos ef ym mysc ei ‖ 1.967 gydnabod.
3 Yr hwn fydd * yn dyscu ei fab a ddigia ei elynion; ac a orfoledda o'i blegit ef o flaen ei gyfeillion.
4 Er marw ei dad ef, etto y mae efe me∣gis heb farw, am adel o honaw ef ar ei ôl vn cyffelyb iddo ei hun.
5 * 1.968 Yn ei fywyd efe a'i gwelodd ef, ac a fu lawen o'i blegit: ac yn ei ddiwedd ni bu efe athrist.
6 Efe a adawodd vn i ddial yn erbyn ei elynion, ac vn i dalu diolch iw gyfeillion.
7 Yr hwn sydd yn mawrhau gormod ar ei fab, a rwym ei archollion ef, ac ar bob bloedd fe gythryblir ei ymyscaroedd ef.
8 March heb ei ddofi a â yn ben-galed, a mab a adawer iddo ei hun a â yn an∣llywodraethus.
9 Llocha dy fab, ac efe a'th ddychryna di: chwarae ag ef, ac efe a'th dristâ di.
10 Na chyd-chwardd ag ef, rhag gofidio o honot gyd ag ef, a gwascu dy ddannedd yn y diwedd.
11 Na * 1.969 ddod iddo ef rydd-did yn ei ieu∣engctid, ac nac edrych heibio iw anwy∣bodaeth ef.
12 Gostwng ei warr ef yn ei ieuengtid, a chûr ei ystlys tra fyddo efe plentyn, rhag iddo fyned yn ben-galed, ac anufyddhau i ti, a bod yn ofid i'th galon.
13 Addysca dy fab, a ‖ 1.970 chymmer boen gyd ag ef, fel na byddo ei anweddeidd-dra ef yn dramgwydd i ti.
14 Gwell yw 'r tlawd iâch a chrŷf, nâ'r cyfoethog clwyfus ei gorph.
15 Iechyd a chyfansoddiad da sydd well nâ phob aur; a chorph crŷf, nâ golud an∣feidrol.
16 Nid oes gyfoeth gwell nag iechyd corph: ac nid oes llawenydd gwell nâ llawe∣nydd calon.
17 Gwell yw marwolaeth nag enioes chwerw, neu nychdod parhaus.
18 Dainteithion wedi eu tywallt ar safn gaead, sydd fel seigiau o fwyd wedi eu go∣sod ar fedd.
19 Pa fudd a wna 'r offrwm i eulyn? o blegit ni fwytty efe, ac ni arogla: felly y mae yr hwn a ‖ 1.971 erlidir gan yr Arglwydd.
20 Y mae efe yn gweled â'i lygaid, ac yn tuchan, fel dispaidd yn cofleidio morwyn, ac yn vcheneidio.
21 * 1.972 Na ddod dy enaid i dristwch, ac na chystuddia dydi dy hun yn dy gyngor dy hun.
22 Llawenydd calon yw enioes dyn, a gorfoledd gwr sydd yn estyn ei ddyddiau.
23 Hoffa dy enaid dy hun, a chyssura dy galon: a gyrr dristwch ym mhell oddi wrthit: oblegit tristwch a laddodd lawer, ac nid oes fudd ynddo.
24 Cenfigen a dig, sydd yn lleihau dyddi∣au: a gofal sydd yn dwyn henaint cyn yr amser.
25 Calon ‖ 1.973 hoyw a da, a ofala am ei bwyd a'i llyniaeth.
PEN. XXXI.
1 Chwant golud. 12 Cymmedrolder a gor∣modedd o fwyd a diod.
GWilio am olud * 1.974 a wna i'r cnawd ddihoeni, a gofal am dano a luddia gwsc.
2 Gofalus wilio a lesteir heppian, a chlefyd trwm a dyrr gwsc.
3 Y goludog sydd yn cymeryd poen yn casclu cyfoeth, ac yn [ei] esmwythdra efe a lenwir â'i ddainteithion.
4 Y mae y tlawd yn cymmeryd poen yn ei dlodi, a phan beidio, tlawd yw efe.
5 Ni chyfrifir yn gyfiawn yr hwn a hoffo aur, a'r hwn a ddilyno lygredigaeth a gaiff ei wala o honaw.
6 * 1.975 Llawer a ddifethwyd o achos aur, ac o'i blaen yr oedd eu dinistr.
7 Pren tramgwydd yw efe i'r rhai a aberthant iddo, ac wrtho ef y delir pôb angall.
8 * 1.976 Gwyn ei fyd y goludog a gaer yn ddifai, ac nid aeth ar ôl aur.
9 Pwy yw efe? ac nyni a'i galwn ef yn happus: canys pethau rhyfedd a wnaeth efe ym mysc ei bobl.
10 Pwy a brofwyd trwy [yr aur] hwn, ac a gafwyd yn berffaith? ac efe a gaiff fôd yn orfoleddus. Pwy a allodd bechu, ac ni's pechodd, ac a allodd wneuthur drygio∣ni, ac ni's gwnaeth?
11 Am hynny y siccrheir ei dda ef, a'r gyn∣nulleidfa a fynega ei elusenau ef.
12 * 1.977 Pan eisteddych di ar fwrdd helaeth, na rytha dy gêg arno, ac na ddywet, mae llawer o fwyd arno.
Page [unnumbered]
13 Cofia mai peth drwg yw drwg ly∣gad: a pha beth a wnaed waeth nâ llygad? am hynny yr wyla efe wrth bôb achly∣sur.
14 Nac ystyn dy law i bob lle yr edrycho efe, ac na wthia hi gyd ag ef i'r ddyscl.
15 Barna dy gymmydog wrthir dy hun, a bydd bwyllog ym mhob peth.
16 Bwytta ‖ 1.978 fel dŷn, yr hyn a osoder o'th flaen; ac na sydd wangcus, rhag dy gassâu.
17 Paid yn gyntaf, o herwydd medrus∣rwydd; ac na fydd annigonol, rhag gweled bai arnat.
18 Pan eisteddych ym mysc llawer, nac ystyn dy law yn gyntaf.
19 * 1.979 Digon yw ychydig iawn i'r medrus, ac ni bydd yn fyrr ei anadl ar ei wely.
20 Cyscu yn iachus a gaiff yr hwn a fwyttao yn gymmesurol; efe a gyfyd yn foreu a'i synwyr ganddo: eithr y gwr ni ddigoner a gaiff boen, anhunedd, a geri, a chnofeydd y bol.
21 Ac os gorfu arnat mewn gwledd fwyt∣ta, cyfod o'r canol, bwrw, ac ymesmwythâ.
22 Clyw fi fy mab, ac na ddiystyra fi, ac yn y diwedd ti a gei fy ngeiriau i [yn wir:] yn dy holl waith bydd escud, ac ni ddigwydd vn clefyd i ti.
23 * 1.980 Gwefusau [llawer] a fendithiant yr hael o'i fara: [a chredadwy fydd] tystiolaeth am ei ddaioni ef.
24 Yr [holl] ddinas a wrwgnach yn er∣byn yr anhael o'i fara; a thystiolaeth am ei ddrygioni ef nid amheuir.
25 * 1.981 Na ddangos dy wroldeb mewn gwin: canys gwin a ddifethodd lawer.
26 Y ffwrn a brawf y min wrth ei drochi, felly y gwna gwin galon y beilchion wrth feddwdod.
27 Gwin sydd gystal a bywyd i ddyn, os yfir ef yn gymhesurol: pa fywyd gan hynny sydd i'r dyn sy heb win: canys i la∣wenychu dynion y crewyd ef.
28 Llawenydd calon, a hyfrydwch medd∣wl, yw 'r gwin a yfer mewn pryd, yn gym∣mesurol.
29 Eithr gwin, pan yfer gormodd o hono, a bair chwerwder meddwl, ymgeccreth, a chynnhennu.
30 Meddwdod yr angall a chwanega ddig, oni thramgwyddo; a wanhâ gryfder, ac a bair archollion.
31 Na cherydda dy gymydog wrth yfed gwîn, ac na ddirmyga ef pan fyddo llawen: na dywed air gwradwyddus wrtho, ac na phwysa arno ef, trwy ei gymmell (i yfed.)
PEN. XXXII.
1 Dled y neb a fo bennaf mewn gwledd 14 Ofn Duw. 18 Cyngor. 20 Ffordd arw, a ffordd wastad. 23 Nac ymddiried i neb, ond i ti dy hun, ac i Dduw.
OS gwnaed di yn llywodrae∣thwr ar y wledd, nac ymdder∣chafa, eithr bydd iddynt megis. vn o honynt hwy; gofala dro∣stynt, ac felly eistedd i lawr.
2 Ac wedi i ti wneuthur dy swydd, cym∣mer dy le, fel y byddych lawen gyd â hwnt, ac y derbyniech goron am dy iawn lywodraeth ar y wledd.
3 Llefara di yr hwn wyt hynaf; canys hyn sydd weddus i ti; eithr trwy ddiwyd∣rwydd gwybodaeth, ac na rwystra gerdd.
4 Na thywallt ymadrodd, ‖ 1.982 pan fyddo am∣ser i wrando, ac * na ddangos dy ddoethi∣neb allan o amser.
5 Megis sêl o garbwncl mewn gwisc o aur, yw cyssain music wrth gwmpniaeth gwin.
6 Megis sêl o Smaragdus mewn bog∣lyn o aur, yw melusdra music gyd âr gwîn melus.
7 Ti ŵr ieuangc, llefara pan fyddo rhaid, a hynny yn brin, pan i'th ofynner ddwy∣waith.
8 Gwna ddiben ar dy ymadrodd: [cyn∣nwys] lawer yn ychydig eiriau; bydd me∣gis vn a gŵybodaeth ganddo, ac yn ddi∣staw hefyd.
9 Nac * 1.983 ymgystadla ym mysc gwŷr mawr, ac na siarad lawer lle y byddo he∣naf-gwŷr.
10 O flaen taran yn y man y daw mell∣ten, ac o flaen y llednais yr â ffafor.
11 Cyfot mewn pryd, ac na fydd elaf; rhêd i'th dŷ, ac na ‖ 1.984 segura.
12 Yno chwarae, a gwna dy feddwl, ond nid mewn pechod, nac ymadrodd balch.
13 A bendithia am hyn yr hwn a'th wnaeth, ac a'th lanwodd â'i bethau da.
14 Y neb a ofna yr Arglwydd a derbyn ei addysc ef: a'r hwn a foreu-godo [iw geisio ef] a gaiff ewyllys da.
15 Yr hwn a geisio y Ddeddf a lenwir â hi: a'r rhagrithiwr a dramgwydda wrthi hi.
16 Y rhai a ofnant yr Arglwydd a gânt farn [dda,] a chyfiawnderau a gynneuant fel goleuni.
17 Y pechadur a wrthyd gerydd, ac a gaiff escus wrth ei ewyllys ei hun.
18 Gŵr [a gymmero] gyngor ni ddiyffyra ddeall: ond y dieithr a'r balch ni ar∣swyda gan ofn: ie wedi iddo wneuthur [peth] o honaw ei hun heb gyngor.
19 Na wna ddim heb gyngor, ac wedi gwneuthur, nac edifarhâ.
20 Na ddôs rhyd ffordd y gellych syr∣thio arni, ac na thramgwydda ym mysc y cerrig.
21 Na fydd hyderus ar ffordd ddirwyffr.
22 Gwilia dy blant dy hun hefyd.
23 * 1.985 Ym mhob gweithred dda ymddiried i'th enaid dy hun; canys hyn yw cadw y gorchymynion.
24 Yr hwn a gredo yn yr Arglwydd a ddisgwil ar y gorchymyn, a'r hwn a obei∣thio ynddo ef, ni bydd dim ‖ 1.986 gwaeth iddo.
PEN. XXXIII.
1 Mor ddiogel yw 'r hwn a ofno 'r Arglwydd. 2 Y doeth, a'r annoeth. 7 Amseroedd a
Page [unnumbered]
phrydiau oddiwrth Dduw y maent. 10 Bod dynion yn llaw Dduw, fel y mae'r pridd yn llaw y crochenydd. 18 Edrych arnat dy hun yn bennaf. 24 Ynghylch gweision.
NI ddigwydd niwed i'r hwn a ofno yr Arglwydd, eithr mewn profedigaeth efe a'i gwared ef drachefn.
2 Nid câs gan y doeth y Gyfraith, ond yr hwn a rag∣rithio [sydd] megis llong mewn tymhestl.
3 Dŷn synhwyrol a ymddiried yn y Gyfraith, a'r Gyfraith sydd ffyddlon megis ‖ 1.987 Oracl iddo yntef.
4 Paratôa dy ymadrodd, ac felly i'th wrandewir: ‖ 1.988 bydd sicr o'r peth, ac yna atteb.
5 ‖ 1.989 Calon y * 1.990 ffol sydd fel olwyn men: a'i feddyliau sydd fel echel dro.
6 Megis ystalwyn yw cyfaill gwatwa∣rus, yn gweryru tan bawb a'r a eisteddant arno.
7 Pa ham y mae diwrnod yn rhagori ar ddiwrnod, gan fôd cwbl oleuni pob diwr∣nod yn y flwyddyn, yn dyfod oddiwrth yr haul?
8 Trwy ŵybodaeth yr Arglwydd y gwahanŵyd hwynt; ac efe a newidiodd yr amserau a'r gwyliau.
9 [Rhai] o honynt hwy a wnaeth efe yn ddyddiau vchel, ac a'i sancteiddiodd [hwynt,] ac efe a osododd [rai] o honynt hwy ‖ 1.991 yn rhifedi y dyddiau.
10 A phob dyn oll sydd o'r * 1.992 llawr, ac o'r ddaiar y crewyd Adda.
11 Yr Arglwydd trwy fawr ŵybodaeth a'i nailltuodd hwynt, ac a wnaeth eu ffyrdd hwy yn amryw.
12 Rhai o honynt hwy a fendithiodd, ac a dderchafodd efe, a [rhai] o honynt hwy a sancteiddiodd, ac a nessaodd efe atto ei hun: [rhai] o honynt hwy a felldithiodd, ac a ddarostyngodd efe, ac a drôdd allan o'i ‖ 1.993 lleoedd.
13 * 1.994 Megis [y mae] y clai yn llaw y cro∣chenydd, iw lunio wrth ei ewyllys ef: felly y mae dŷn yn llaw yr hwn a'i gwnaeth ef, i roddi iddo fel y gwelo efe yn dda.
14 Y mae da wedi ei osod yn erbyn drwg, ac enioes yn erbyn angeu: felly y mae y duwiol yn erbyn y pechadur, a'r pechadur yn erbyn y gŵr duwiol.
15 Felly edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf, bob yn ddau y maent hwy, y naill yn erbyn y llall.
16 Minneu a ddeffroais yn ddiweddaf, fel vn yn lloffa ar ôl cynhaiafwŷr y grawn∣wîn: trwy fendith yr Arglwydd y cynny∣ddais, ac y llenwais fy ngwin-wryf, fel cynhaiafwr grawn-wîn.
17 * 1.995 Ystyriwch nad i mi fy hunan y cy∣merais i boen, ond i bawb a geisiant athrawiaeth.
18 Oh bendefigion y bobl, clywch: ô lywodraethwŷr y gynnulleidfa, gwrande∣wch â'ch clustiau.
19 Na ddod awdurdod arnat ty hun i fab nac i wraig, i frawd nac i gydym∣maith, tra fyddech byw: ac na ddod dy dda i arall, rhag bod yn edifar gennit, a gorfod it ymbil am dano drachefn.
20 Tra fyddych fyw, ac anadl ynot: na ‖ 1.996 ddyro dy hun i fynu i neb.
21 Canys gwell yŵ bod dy blant yn ceisio gennit ti, nag i ti fôd yn disgwil wrth ddwylo dy blant.
22 Cymmer dy ragor yn dy holl weith∣redoedd: ac na anafa dy barch.
23 Yn y dydd y gorphennych di ddy∣ddiau dy enioes, ac yn amser dy ddiwedd, rhan dy etifeddiaeth.
24 [Rhodder] porthiant, a gwialen, a phwn, i'r assen: [felly] bara, a chospedi∣gaeth, a gwaith, i'r gwenidog.
25 Os gosodi dy was ar waith, ti a gai orphywysora; ond os gollyngi ef yn segur, efe a gais rydd-did.
26 Iau a chebystr a ostwng y warr; felly y mae cospedigaeth a phoenau, i wemidog drwg.
27 Gyrr ef iw waith, fel na byddo efe segur, oblegit llawer o ddrygioni a ddyscodd seguryd.
28 Gosot ef ar waith, fel y gweddei iddo: oni bydd efe vfydd, dod heiyrn trymmach arno:
29 Ond na ddod ormod ar vn cnawd, ac na wna ddim heb pwyll.
30 Os bydd gennit * 1.997 wenidog, bydded ef i ti fel dy enaid dy hun, oblegit ‖ 1.998 mewn gwaed y cefaist ti ef.
31 Os bydd gennit wenidog, gwna o honaw ef fel o frawd: canys fe fydd mor rhaid i ti wrtho ef ac wrthit dy hun. Os cospi di ef ar gam, a chodi o honaw yntef, a ffoi ymmaith, pa ffordd y ceisi di ef?
PEN. XXXIIII.
1 Ynghylch breuddwydion. 13 Clod a ben∣dith y rhai a ofnant yr Arglwydd. 18 Ebyrth yr annuwiol, a gweddi y tlawd diniweid.
OFer a chelwyddog obaith fydd gan ŵr ansynhwyrol, a breuddwydion a falchia y rhai angall.
2 Megis vn yn rhoi cais ar gyscod, ac yn ymlid gwynt, yw yr hwn ‖ 1.999 a goelio i freuddwydion.
3 Gweledigaeth breuddwŷdion sydd gyffelybiaeth o'r naill beth i'r llall, * 1.1000 megis cyffelybrwydd wyneb i wyneb.
4 * 1.1001 Pa lendid a geir o'r aflan? a pha wi∣rionedd o'r celwyddog?
5 Ofer yw dewiniaeth, coelion, a breu∣ddwydion: a'r galon sydd yn phansio fel ca∣lon gwraig yn escor.
6 Oddieithr i'r Goruchaf eu danfon hwynt yn dy ymweliad di, na ‖ 1.1002 ddôd dy galon arnynt.
7 Breuddwydion a dwyllasant lawer, a'r rhai a obeithiasant ynddynt hwy a fe∣thasant.
Page [unnumbered]
8 Heb gelwydd y perffeithir y gyfraith, a pherffeithrwydd i enau ffyddlon yw doethineb.
9 Y gŵr a gerddodd lawer a ŵyr lawer: a'r hwn a gafodd brawf o lawer o bethau a ddengys synhwyr.
10 Ychydig a ŵyr yr hwn ni phrofwyd: a'r hwn a gerddodd lawer sydd yn llawn o synhwyr.
11 Mi a welais lawer yn fy ngherdded, ac yr ŵyf yn deall mwy nag a fedraf ei ad∣rodd.
12 Mi a fûm yn fynych mewn perygl marwolaeth, etto mi a achubwyd ‖ 1.1003 trwy râs Duw.
13 Yspryd y rhai a ofnant yr Arglwydd a gaiff fyw: o blegid y mae eu gobaith hwy ar eu Hachubwr.
14 Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd nid ofna ddim, ac ni ddychryna, oblegid efe yw ei obaith ef.
15 Gwyn ei fyd enaid y neb a ofno yr Arglwydd: at bwy y mae efe yn edrych? a phwy yw ei gadernid ef?
16 Canys y mae * 1.1004 llygaid yr Arglwydd ar y rhai a'i carant ef, yn amddeffynfa nerthol, ac yn gadernid crŷf, yn gyscod rhag gwrês, ac yn gyscod rhag yr haul hanner dydd, ac yn geidwad rhag tram∣gwyddo, ac yn help rhag syrthio:
17 Yn derchafu yr enaid, ac yn llewyr∣chu y llygaid, ac yn rhoddi iechyd, a by∣wyd, a bendith.
18 Gwawd * 1.1005 yw offrwm yr hwn a aber∣tho o dda anghyflawn, ni byddir bodlon i roddion y rhai anwir.
19 * 1.1006 Nid yw y Goruchaf fodlon i offrym∣mau yr annuwiol, ac nid trwy lawer o aberthau y bodlonir ef am bechod.
20 Megis vn yn lladd y mab o flaen llygaid y tad, yw'r hwn a offrymmo a ab ertho dda y tlodion.
21 Bywyd y tlodion anghenus yw ba∣ra, a dŷn gwaedlyd yw yr hwn a'i dygo oddi arno.
22 Lladd ei gymmydog y mae yr hwn a * 1.1007 dwyllo y gwâs cyflog am ei gyflog.
23 Pan fyddo vn yn adeiladu, ac arall yn tynnu i lawr, pa fudd a gânt hwy ond poen?
24 Pan fyddo vn yn gweddio, ac arall yn melldithio, lleferydd pa vn a wrendy yr Arglwydd?
25 * 1.1008 Y neb a ymolcho wedi cyffwrdd â'r marw, ac a gyffyrddo ag ef eil-waith; pa fudd a gaiff efe o'i ymolchiad?
26 Felly y dŷn a ymprydio oblegit ei bechodau, ac a â drachefn, ac a wna yr vn pethau; pwy a wrendy ar ei weddi ef, a pha fudd fydd iddo ef am ymddarost∣wng?
PEN. XXXV.
1 Pa ebyrth a ryng bodd Duw. 14 Gweddi yr ymddifad, a'r weddw, a'r gostyngedig o yspryd. 20 Trugaredd cymmeradwy.
Y * 1.1009 Mae y neb sydd yn cadw y Gyfraith yn dwyn digon o offrymmau: y neb sydd yn gly∣nu wrth y gorchymynion sydd yn aberthu ‖ 1.1010 iechydwriaeth.
2 Ac y mae yr hwn a dalo ddiolch, yn offrymmu peillieid; ar hwn a roddo elusen, yn aberthu moliant.
3 Ewyllys yr Arglwydd yw troi oddi wrth ddrygioni: a bodloni, yw ymado ag anghyfiawnder.
4 * 1.1011 Nac ymddangos ger bron yr Ar∣glwydd yn wag-law.
5 Oblegit hyn oll [a wneir] o achos y gorchymmyn.
6 Y mae offrwm y duwiol yn gwneu∣thur yr allor yn frâs, a'i arogl peraidd ef sydd ger bron y Goruchaf.
7 Aberth y gŵr cyfiawn sydd gyme∣radwy, ac nis gollyngir tros gof ei goffad∣wriaeth ef.
8 Gogonedda Dduw â llygad da, ac na phrinhâ flaen-ffrwyth dy ddwylo.
9 * 1.1012 Dangos dy wyneb yn llawen ym mhob rhodd: a ‖ 1.1013 chyssegra dy ddecfed yn siriol.
10 * 1.1014 Dod i'r Goruchaf megis y rhoddes yntef i titheu, ac fel y mae dy allu, â lly∣gad da.
11 Oblegit yr Arglwydd a dâl, ac efe a dâl i ti y saith gymmaint.
12 * 1.1015 Na phrinhâ dy offrwm, canys ni dderbyn efe mo honaw: ac na ymddiried wrth aberth anghyfiawn, oblegit yr Argl∣wydd sydd farn-wr, ac nid yw efe yn der∣byn * 1.1016 wyneb neb.
13 Ni dderbyn efe ŵyneb yn erbyn y tlawd, eithr efe a wrendy weddi y gorthrym∣medic.
14 Ni ddiystyra efe ddeisyfiad yr ym∣ddifad, na'r weddw, pan dywallto hi ei gweddi.
15 Onid yw dagrau y weddw yn descyn ar ei gruddiau hi, a'i llefain yn erbyn y neb sydd yn eu peri?
16 Yr hwn a addolo [Dduw] a fydd cymmeradwy, a'i weddi ef a gyrraedd hyd y cwmylau.
17 Gweddi y gostyngedic a â trwy y cwmylau; ac ni's diddenir hi nes ei dyfod yn agos; nid ymedy hi nes i'r Goruchaf edrych i farnu yn gyfiawn, ac i wneuthur barn.
18 Canys yr Arglwydd nid oeda, ac ni hir-ymerys y cadarn wrthynt hwy, nes dryllio lwynaw y rhai anrhugarog, a tha∣lu dialedd i'r Cenhedloedd; a dwyn ym∣maith luosogrwydd y rhai trahaus, a dry∣llio teyrn-wielyn y rhai anghyfiawn:
19 Nes iddo dalu i [bob] dŷn yn ôl ei weithredoedd, ac i weithredoedd dynion yn ôl eu dychymygion, nes iddo farnu achos ei bobl, a'i llawenychu hwy â'i druga∣redd.
20 ‖ 1.1017 Hyfryd yw trugaredd yn amser ad∣fyd; fel y cwmylau glaw yn amser sych∣der.
Page [unnumbered]
PEN. XXXVI.
1 Gweddi tros yr Eglwys yn erbyn ei gelynion. 18 Y galon dda, a'r gyndyn. 21 Gwraig dda.
CYmmer drugaredd arnom ni ô Arglwydd Dduw ‖ 1.1018 pawb oll, ac edrych ar∣nom ni;
2 A gyrr dy ofn ar y Cenhedloedd oll, y rhai ni'th geisiasant.
3 * 1.1019 Cyfod dy law ‖ 1.1020 ar y Cenhedloedd di∣eithr: gâd iddynt weled dy allu di.
4 Megis i'th sancteiddiwyd yn ein mysc higer eu bron hwynt; felly mawrhaer di yn eu mysc hwythau ger ein bron ninnau.
5 Gwna iddynt dy adnabod megis yr yd∣ym ni yn dy adnabod, nad oes vn Duw ond tydi, oh Arglwydd.
6 Adnewydda arwyddion, a newidia ry∣feddodau. Gogonedda dy law a'th ddeheu∣fraich, fel y gosodont allan dy weithredoedd rhyfedd.
7 Cyffroa dy lid, a thywallt dy ddigter: cymmer y gwrthwynebwr ymmaith, a dry∣llia y gelyn.
8 Prysura yr amser, cofia y cyfam∣mod, a mynegant hwy dy ryfeddodau di.
9 Gâd i ddigofaint tanllyd ddifa y neb a ddiango, a chaffed y rhai a wnant niwed l'th bobl eu difetha.
10 Dryllia bennau tywysogion y Cen∣hedloedd, y rhai a ddywedant, nid oes ond nym.
11 Cascl holl lwythau Iacob ynghŷd, a chymmer hwynt yn etifeddiaeth i ti, me∣gis o'r dechreuad.
12 O Arglwydd, trugarhâ wrth y bobl, y rhai a elwir ar dy enw di; ac wrth Israel, yr * 1.1021 hwn a elwaist di yn gyntaf-anedic.
13 Tosturia wrth Ierusalem, dinas dy Gyssegr, a'th orphywysfa di.
14 Llanw Sion ‖ 1.1022 â'th oraclau annrhaeth∣adwy, a'th bobl â'th ogoniant.
15 Dôd dystiolaeth i'r pethau a ‖ 1.1023 greaist yn y dechreuad, a chŷfot y ‖ 1.1024 Prophwydi a suant yn dy Enw.
16 Dôd wobr i'r rhai sydd yn aros wrth∣it ti, a chaffer dy Brophwydi di yn ffydd∣lon.
17 Gwrando ô Arglwydd, weddiau dy weision, * 1.1025 yn ôl bendith Aaron i'th bobl, fel y gwypo y rhai oll sydd ar y ddaiar mai ti yw yr Arglwydd, y Duw tragywyddol.
18 Y bol a dreulia bob bwyd, ond y mae rhyw fwyd yn well nâ bwyd arall.
19 * 1.1026 Taflod y genau a edwyn amryw fwyd hela, felly yr edwyn calon gall eiriau celwyddoc.
20 Calon wrthnysig a bair dristwch, ond dyn a ŵyr lawer a dâl iddo.
21 Gwraig a dderbyu bob gŵr: eithr y mae rhyw ferch yn well nâ merch arall.
22 Tegwch gwraig a lawenycha yr wy∣neb-pryd, ac nid oes gan ŵr hyfrydwch mwy.
23 Os bydd ar ei thafod hi drugaredd, lledneisrwydd, ac iachâd, nid fel eraill y mae ei gŵr hi.
24 Y mae perchen gwraig yn dechreu ‖ 1.1027 llwyddo, sef help fel ef ei hun, a cholofn gorphywysdra.
25 Lle nid oes gae, yr anrheithir y ber∣chennogaeth, a'r hwn nid oes wraig iddo, a grwydra dan alaru.
26 Pwy a goelia williad wedi ymdaclu, ac yn gwibio o ddinas i ddinas? felly ŷ mae am y dŷn nid oes ganddo nyth, eithr lletteua ym mha le bynnac yr elo hi yn nos arno ef,
PEN. XXXVII.
1 Pa fodd y mae adnabod cymdeithion a chyng∣horwyr. 12 Pwyll a doethineb y duwiol a'i bendithia ef. 27 Dysc ffrwyno dy flys.
POb cydymmaith a ddy∣wed, da gennif finneu ef: eithr y mae cydymmaith mewn enw yn vnic.
2 Onid tristwch hyd ang∣eu ydyw pan drô cyfaill neu gydymmaith i fôd yn elyn?
3 Oh feddwl drygionus, o ba le yr ym∣dreiglaist ti, i orchuddio y ddaiar â thwŷll?
4 Rhyw gyfaill a wna yn llawen gyd â'i gydymmaith yn ei lawenydd; ac a sydd yn * 1.1028 ei erbyn ef yn amser adfyd.
5 Rhyw gyfaill a gymmer boen gyd â'i gydymmaith er mwyn ei fol, ac a gymmer darian ‖ 1.1029 yn erbyn y gelyn.
6 Nac anghofia dy gydymmaith yn dy feddwl, ac na fydd anghofus am dano ef pan fyddech yn gyfoethog.
7 * 1.1030 Pob cynghorwr a genmyl ei gyngor: ac y mae a gynghora er budd iddo ei hun.
8 Gwiha gynghorwr, a myn wybod yn gyntaf pa raid ‖ 1.1031 fydd wrtho ef (oblegit y mae efe yn cynghori trosto ei hun) rhac iddo fwrw y coelbren arnati,
9 A dywedyd wrthit ti, da yw dy ffordd, ac yna sefyll o'r tu arall, i edrych beth a ddig∣wyddo i ti.
10 Nac ymgynghora â'r neb a'th amheuo di: a chêl dy gyfrinach oddi wrth y rhai a gensigennant wrthit.
11 Nac ym gynghora â gwraig, am yr hon y mae hi yn dal eiddigedd wrthi, nac â'r llwft am ryfel; nac a'r marchnadwr am gyfnewid; nac âr prynwr am werthu; nac â'r cynsigennus am ddiolchgarwch; nac â'r annrhugaroc am gymwynas: nac â'r diog am ddim gwaith; nac â'r gwâs a gy∣floger tros flwyddyn am orphen peth; nac â gwas diog am lawer o waith: na wran∣do ar y rhai hyn am ddim cyngor.
12 Eithr bydd yn wastad gyd â gŵr du∣wiol, yr hwn a ŵyddost ti ei fod yn cadw gorchymynion yr Arglwydd, yr hwn y byddo
Page [unnumbered]
ei feddwl fel dy feddwl ditheu, yr hwn os tramgwyddi di, a gyd-ofidia â thi.
13 Si••••ed cyngor dy galon dy hun: oble∣git nid oes neb ffyddlonach i ti nâ honno.
14 Canys y mae meddwl dyn yn arfer wei∣thieu o fynegi mwy na saith o wilwyr yn ei∣stedd mewn twr gwilio vchel.
15 Ac o flaen hyn oil, gweddia ar y Goru∣chaf ar iddo gyfarwyddo dy ffordd di mewn gwirionedd.
16 Cyn dechreu pob gwaith bydded rhe∣swm, ac o slaen pob gweithred [aed] cyngor.
17 Arwydd newidiad ‖ 1.1032 llawenydd yw 'r wyneb.
18 Pedwar math ar beth sydd yn ym∣ddangos: da a drwg, enioes ac angeu; a'r tafod sydd yn llywodraethu yn wastad arnynt hwy.
19 Y mae vn call, ac yn dyscu llawer eraill, ac etto yn anfuddiol iw enaid ei hun.
20 Y mae vn yn ddoeth ar eiriau, ac et∣to yn atcas: gan hwnnw nid oes dim ‖ 1.1033 doe∣tuineb.
21 Oblegit ni roddes yr Arglwydd râs iddo ef; canys efe a adawyd heb bob doe∣thineb.
22 Rhyw vn sydd gall iw enaid ei hun, a ffrwythau deall sydd ganmoladwy yn ei enau ef.
23 Gwr doeth a ddysc ei bobl, a ffrwythau ei ddeall ef sydd siccr.
24 Gwr doeth a gaiff ddigon o fendith a'r rhai oll a'i gwelant ef, a'i cyfrifant yn happus.
25 Dyddiau oes gŵr sydd wrth rifedi, a dyddiau Israel sydd annifeiriol.
26 Y doeth a etifedda ogoniant ym mysc ei bobl, a'l enw a fydd byth.
27 Fy mab, prawf dy enaid tra fyddech byw: gwêl yr hyn sy ddrwg iddo, ac na ddôd iddo.
28 Nid yw pob peth yn fuddiol i bawb, ac nid yw pob enaid yn hoff ganddo bob peth.
29 Na fydd annigonol o ddim dainteith, ac na ruthra i fwyd.
30 * 1.1034 O lawer o fwydydd y daw clefyd, a gormodedd a dry fel geri.
31 Trwy ormodedd y bu feirw llawer, ond yr hwn a ymgeidw, a estyn ei hoedl.
PEN. XXXVIII.
1 Y dylai y meddyg barch, a pha ham. 16 Pa fodd y mae wylo a galaru tros y marw. 24 Doethineb y dyscedig, a'r llafurwr, a'r crefftwr, a'r defnydd sydd o honynt.
ANrhydedda y meddyg ag an∣rhydedd dyledus iddo, am fod yn rhaid wrtho ef: oble∣git yr Arglwydd a'i cre∣awdd ef.
2 Canys oddi wrth y Goruchaf y daeth meddiginiaeth, ac efe a gaiff ‖ 1.1035 ogoniant gan y brenin.
3 Gwybodaeth y meddyg a dderchafa ei ben ef, ac yngŵydd gwŷr mawr y perchir ef.
4 Yr Arglwydd a greawdd feddigmiae∣thau o'r ddaiar, ac ni bydd ffiaidd gan wr call mo honynt.
5 * 1.1036 Oni wnaed y dwfr yn beraidd â phren, fel y gŵybyddei dynion ei rinwedd ef?
6 Ac efe a roddes wybodaeth i ddynion fel y gogoneddid ef am ei ryfeddodau.
7 A'r rhai hynny y mae efe yn meddigi∣niaethu, ac yn tynnu ymmaith boen dŷn.
8 A'r rhai hynny y gwna yr apothecari eli, ac ar ei waith nid oes diben, o herwydd oddi wrth [yr Arglwydd] y mae heddwch ar wyneb y ddaiar.
9 Fy mab na fydd esceulus yn dy glefyd, eithr * 1.1037 gweddia ar yr Arglwydd, ac efe a'th iachâ di.
10 Tro oddiwrth anwiredd, ac iawn∣drefna dy ddwylo, a glanhâ dy galon oddi wrth bob pechod.
11 Dôd bêr-arogl a choffadwriaeth o beilli∣eid, a dôd offrwm brâs, fel ‖ 1.1038 vn heb fôd.
12 Yna dôd le i'r meddyg, o blegid yr Argl∣wydd a'i creawdd ef, nac ymadawed â thi, o herwydd fe îydd rhaid it wrtho ef.
13 Y mae amser pan fyddo ffynniant ar eu llaw hwynt.
14 Canys hwy a weddiant hefyd ar yr Arglwydd ar iddo ef lwyddo yr hyn y maent hwy yn ei roddi, er esmwythdra ac iechyd i estyn enioes.
15 Yr hwn a becho yngŵydd yr hwn a'l gwnaeth, syrthied yn llaw y meddyg.
16 Fy mab gollwng ddagrau tros y marw, a dechreu alaru, fel pe bait yn dioddef anfad niwed; ac yna amdoa ei gorph ef yn ôl yr ar∣fer, ac na ddiystyra ei gladdedigaeth ef.
17 Wyla yn chwerw, a gosidia yn dost, a galara fel yr haeddei ef, ddiwrnod neu ddau, rhag cael anair: yna cymmer ddiddanwch am dy dristwch.
18 Oblegit o dristwch y daw marwolaeth, * 1.1039 a thristwch calon a blyga gryfder.
19 Mewn cystudd yr erys tristwch, a mell∣dith calon yw bywyd y tlawd.
20 Na ddod tristwch at dy galon, tro ef ym∣maith, a meddwl am y diwedd.
21 Nac anghofia [hyn,] o herwydd ni elli ddychwelyd: ni elli di ddaioni iddo ef, ond ni∣wed a wnei i ti dy hun.
22 Cofia y farn sydd ‖ 1.1040 i mi; felly y byddyr eiddo ttitheu: i mi ddoe, ac i titheu heddyw.
23 Gorphywysed * 1.1041 coffad wriaeth y marw, pan orphywyso ynteu: cymmer gyssur am da∣no ef, gan fyned ei yspryd oddi wrtho ef.
24 Doethineb y dyscedic a geir wrth ham∣dden amserol: ‖ 1.1042 a'r hwn a edrycho ychydig am ei waith, ni bydd efe doeth.
25 Pa fodd y daw efe i ddoethineb, yr hwn sydd yn dal y penffestr, ac sydd a'i hoffter yn yr irai, ac sydd yn gyrru yr ychen, ac sydd yn arfer eu gwaith hwynt, ac yn chwed∣leua am fustachiaid.
26 Y mae efe yn rhoi ei feddwl ar droi cwysau; ac yn ddiwyd i roddi gwellt i'r gwartheg.
27 Felly pob saer, a phen-saer, yr hwn a weithia nos a dydd; yr hwn a gerfla ger∣sladau
Page [unnumbered]
seliau, ac a fydd astud i wneuthur amryw gerfiadau, ac a rydd ei feddwl ar ddynwared portreiadau, ac a fydd wiliadu∣rus i orphen gwaith.
28 Felly y gôf yn eistedd wrth yr einion, ac yn ystyried y gwaith haiarn; angerdd y tân a wna iw gnawd ef ddihoeni, ac efe a ymladd â gwrês yr aelwyd: y mae swn y morthwyl a'r einion yn dyfod yn wastadiw glustiau ef, ar wedd y dodrefnyn y mae efe yn ei wneuthur y mae ei lygaid ef yn wa∣stad: ei feddwl a rydd efe ar orphen ei waith, a'i ofal fydd am ei orphen yn hardd.
29 Felly y mae y crochenydd yn eistedd wrth ei waith, ac yn troi y droell â'i draed, yr hwn a esyd ar ei waith bob amser yn ofalus, a'i holl waith ef fydd tan rif.
30 Efe a lunia y clai â'i fraich, ac a'i me∣ddalhâ ef â'i draed; efe a esyd ei feddwl ar ei blymmio trosto, ac a fydd ofalus i yscubo yr odyn.
31 Y rhai hyn oll sydd yn ymddiried yn eu dwylo eu hun, a phob vn a gais fod yn gel∣fydd yn ei waith.
32 Heb y rhai hyn nis cyfanneddir dinas, ac ni chânt hwy drigo lle y mynnont, na rho∣dio i fynu ac i wared.
33 Ni cheisir hwynt i fod o gyngor y bobl, ac ni dderchesir hwynt yn y gynuull∣eidfa; nid eisteddant hwy ar orsedd-faingc ynadon, ac ni ddeallant gyfammod y gy∣fraith: ni fedrant egluro cyfiawnder a barn, ac ni byddant i'w cael lle y bo traethu dam∣megion.
34 Eithr y maent hwy yn cynnal y bŷd: a'i dymuniad sydd yng waith ei celfyddyd:
PEN. XXXIX.
1 Portreiad y gwir ddoeth. 12 Annog i foli∣annu Duw am ei weithredoedd, y rhai sy ddaionus i'r rhai da, a niweidiol i'r rhai drygionus.
EIthr yr hwn a roddo ei frŷd ar Gyfraith y goruchaf, ac a fyfyria ynddi, a gais ddoethi∣neb y rhai oll a fuant gynt, ac a dreulia ei amser ‖ 1.1043 yn y Prophwydi.
2 Ete a geidw eiriau gwŷr enwoc: ac a fydd lle y bo dammegion call.
3 Efe a gais ddirgelwch diharebion, ac a erys ynghaled gwestiwnau dammegion.
4 Efe a wasanaetha ym mysc pendefigion, ac a ymddengys yngŵydd tywysogion: efe a dramwya trwy wlâd cenhedloedd dieithr, canys fe a brofodd y da a'r drwg ym mysc dynion.
5 Efe a rydd ei feddwl ar fyned yn foreu ac yr Arglwydd, yr hwn a'i gwnaeth ef, ac efe a weddia ger bron y Goruchaf, ac a egyr ei enau mewn gweddi, ac a ymbil tros ei be∣chodau.
6 Pan fynno yr Arglwydd mawr, efe a a lenwir ag yspryd deall: efe a draetha eiri∣au doethion, ac yn ei weddi efe a folianna yr Arglwydd.
7 Efe a gyfarwydda ei gyngor, a'i ŵy∣bodaeth ef, yn ei ddirgelwch ef y myfyria ef.
8 Efe a ddengys addysc ei athrawiaeth, ac a lawenycha ynghyfraith cyfammod yr Arglwydd.
9 Llawer a ganmolant ei synwyr ef, ac ni's dileir hi byth: nid ymedy ei go∣ffadwriaeth ef, eithr ei Enw a bery yn oes oesoedd.
10 Cenhedloedd a fynegant ei ddoethineb ef, a'r * 1.1044 gynnulleidfa a draetha ei glôd ef.
11 Efe a âd enw gwell nâ mil, os bydd efe marw; ac os byw fydd, efe a'i chwa∣nega.
12 Mynegaf etto yr hyn a feddyliais, oblegit yr ydwyf fi mor llawn a'r leuad yn y llawn lloneid.
13 Gwrandewch arnafi chwi rai sanc∣taidd, blodeuwch fel rhosyn wedi ei blannu wrth ‖ 1.1045 afon y maes:
14 A rhoddwch arogl peraidd fel thus, a dygwch flodau fel gardd lili, rhoddwch arogl, a chenwch fawl, a bendithiwch yr Arglwydd yn ei holl weithredoedd.
15 Mawrygwch ei Enw, a gosodwch allan ei fawl ef, gan ganu â gwefusau, ac â thelynau, a dywedwch yn eich clodfo∣redd fel hyn:
16 * 1.1046 Holl weithredoedd yr Arglwydd ydynt dda odiaeth, a'i holl orchymynion ef [a wneir] mewn prŷd.
17 Ni all neb ddywedyd, beth yw hyn? pa ham y mae hyn accw? canys mewn prŷd y ceisir hwynt oll: wrth ei air ef y sa∣fodd y dwfr fel pentwrr, a'r llynnau dyfr∣oedd wrth air ei enau ef.
18 Yn ei orchymyn ef y mae pob dim a ryglydda bodd iddo, ac nid oes a ddichon lu∣ddias ei iechydwriaeth ef?
19 Gweithredoedd pob cnawd sydd ger ei fron ef, ac ni ellir cuddio dim rhag ei olwg ef.
20 Y mae efe yn edrych o dragywyddol∣deb hyd dragywyddoldeb, ac nid oes dim rhyfedd ger ei fron ef.
21 Nid rhaid gan hynny ddywedyd, beth yw hyn? pam y mae hyn accw? oblegit efe a wnaeth bob peth i'r peth y mae yn rhaid wrthynt.
22 Ei fendith ef a orchguddiodd fel afon, ac a ddyfrhaodd y ddaiar fel llif.
23 Fel y trôdd efe y dyfroedd yn hallti∣neb: felly y caiff y Cenhedloedd ei ddig ef yn etifeddiaeth.
24 * 1.1047 Ei ffyrdd ef sydd vniawn i'r rhai sanc∣taidd, a thramgwydd i'r anwir.
25 Pethau da a grewyd o'r dechreuad i'r rhai da, a phethau niweidiol i bechaduri∣aid.
26 Y pethau * 1.1048 pennaf o anghenrheidiau bywyd dŷn, yw dwfr, tân, a haiarn, a ha∣len, a blawd gwenith, a llaeth, a mêl, a ‖ 1.1049 gwîn, ac olew, a dillad.
27 Y rhai hyn oll sydd dda i'r duwiol; felly y troir hwynt yn niwed i'r pechadu∣riaid.
28 Y mae ysprydion a wnaed er dialedd,
Page [unnumbered]
ac yn eu dig y cryfhaant hwy eu ffrewyllau: yn y diwedd hwy a dywalltant allan eu nerth, ac a ostegant lid yr hwn a'i gwnaeth.
29 Tân, a ‖ 1.1050 môr, a newyn, a marwolaeth, y rhai hyn oll a wnaed er dialedd.
30 Dannedd bwyst-filod, ac scorpionau, a ‖ 1.1051 gwiberod, a'r cleddyf, sydd yn dial er dinistr ar yr annuwolion.
31 Byddant lawen ‖ 1.1052 pan gyfodo efe, a pharod fyddant ar y ddaiar, pan fyddo rhaid wrthynt hwy, a phan ddelo eu hamser, nid ânt hwy tros ei orchymmyn ef.
32 Am hyn yr ymmerthais i o'r dechreu∣ad, ac a feddyliais am y pethau hyn, ac [a'i] gadewais mewn scrifen.
33 Holl waith yr Arglwydd sydd dda; ac efe a'i dyry hwy wrth bob rhaid yn eu hamser.
34 Ni ellir dywedyd, gwaeth yw hyn nâ hyn accw: oblegid cymmerad wy fydd pob vn yn ei amser.
35 Am hynny yn awr â'r galon oll ac â'r genau, canmolwch, a bendithiwch Enwyr Arglwydd.
PEN. XL.
1 Llawer o ofid sydd ym mywyd dyn. 12 Gwobr anghyfiawnder, a ffrwyth honest∣rwydd. 17 Gwraig rinweddol, a chydym∣aith ffyddlon a lawenhâ 'r galon, ond ofn yr Arglwydd sydd goruwch pob peth. 28 Di∣gasog yw bywyd y tlawd.
BLinder mawr a grewyd i bob dŷn, ac iau drom sydd ar feibion ‖ 1.1053 dynion, o'r dydd y * 1.1054 delont hwy o groth eu mam, hyd y dydd y dychwelont hwy i fam pob peth:
2 [Sef] eu meddyliau, a'i braw ca∣lon, eu disgwyliad am y pethau a ddaw, a'i dydd diwedd:
3 O'r hwn sydd yn eistedd ar deyrn-ga∣deir gogoniant, hyd yr isel-radd, yr hwn fydd yn y pridd a'r lludw:
4 O'r hwn sydd yn gwisco porphor a choron, hyd yr hwn a wisc liain cri.
5 Y mae dig a chenfigen, blinder a hel∣bul, ac ofn marwolaeth, a llid, ac ymryson, ac yn amser cymmeryd esmwythdra yn ei wely, ei gwsc liw nos a newidia ei wybo∣daeth ef.
6 Megis yn nydd amser gwilio, felly yn ei gwsc, ychydig neu beth heb ddim yw ei es∣mwythdra ef: efe a gythryblir yn ei galon megis vn wedi ffoi o ryfel,
7 Pan fo pob peth yn ddiofal, efe a dde∣ffry, ac a ryfedda nad oedd yr ofn ddim.
8 [Felly y mae] i bob cnawd, yn ddyn ac yn anifail, ac i bechaduriaid y mae saith mwy nâ hyn.
9 * 1.1055 Marwolaeth, gwaed, ymryson, cle∣ddyf, gorthrymder, newyn, cystudd, a ffrewyll.
10 Yn erbyn yr annuwiol y gwnaed hyn oll, * 1.1056 ac er eu mwyn hwy y bu y diluw.
11 Pob peth * 1.1057 ar y sydd o'r ddaiar a ddych∣wel i'r ddaiar, hyn sy o'r * 1.1058 dyfroedd, a droir i'r môr.
12 Pob derbyn gwobr ac anghyfiawnder, a ddeleir, ac vniondeb a bery byth.
13 Golud rhai anghyfiawn a â yn ddis∣pydd fel afon: ac a ddifanna trwy dwrwf, fel taran fawr ar law.
14 Tra yr agoro efe ei law, efe a fydd lawen: felly y derfydd am y troseddwyr.
15 Hiliogaeth yr annuwiol ni byddant ganghennog: eithr fel gwraidd aflan ydynt ar graig ddibyn.
16 Y * 1.1059 chwyn yn tyfu wrth bob dwfr, ac ynglan yr afon, a dynnir o flaen pob gwellt.
17 Caredigrwydd sydd fel gardd ‖ 1.1060 barad∣wysaidd: a thrugaredd a bery byth.
18 Melus yw buchedd yr hwn a wei∣thio, ac * 1.1061 a fyddo bodlon iw gyflwr, gwell nâ'r ddau yw yr hwn a gaffo dryssor.
19 Planta ac adeiladu dinas a siccrhâ enw: eithr gwraig ddifai a gyfrifr yn well nâ'r ddau.
20 Gwin a cherdd a lawenycha y ga∣lon, eithr hoffi doethineb sy fwy nâ'r ddau.
21 Pibell a psaltring a wnant gyngha∣nedd felus: a thafod mwyn sydd well nâ'r ddau.
22 Prŷd a thegwch a chwennych lly∣gad: er hynny gwell yw egin glâs nâ'r ddau.
23 Cyfaill a chydymmaith a gyfarfydd∣ant mewn pryd, gwraig gyd â'i gŵr sydd well nâ'r ddau.
24 Brodyr a chymmorth sy dda yn am∣ser adfyd, eithr elusen a wareda yn swy nâ'r ddau.
25 Aur ac arian a sefydlant y troed, a chyngor sydd gymmeradwyach nâ'r ddau.
26 Golud a chryfder a dderchafa y ga∣lon, eithr ofn yr Arglwydd sydd fwy nâ'r ddau: nid oes eisieu yn ofn yr Arglwydd, ac nid rhaid iddo ef geisio help.
27 * 1.1062 Gardd ‖ 1.1063 a fendithiwyd yw ofn yr Arglwydd, ac a'i gorchguddia ef vwch pob gogoniant.
28 Fy mab, na fydd yn ‖ 1.1064 westai, gwell yw marw nâ ‖ 1.1065 gwesta.
29 Nid yw bywyd yr hwn a edrych ar fwrdd gŵr arall, iw gyfrif yn fywyd, efe a haloga ei enaid am fwyd eraill; eithr y gŵr call, a ddyscwyd yn dda, a ymochel rhag hynny.
30 Melus yw cardotta yngenau y di∣gywilydd, ond yn ei fol ef y llysc tân.
PEN. XLI.
1 Coffa angeu. 3 Nad ofner angeu. 5 Mell∣digedig fydd yr annuwiol. 11 Enw drwg, ac enw da. 14 Rhaid yw adrodd doc∣thineb, ac nid ei chelu. 16 Pa bethau y dy∣lem gywilyddio o'i hachos.
Page [unnumbered]
O Angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti, i'r dŷn a fyddo yn byw mewn hedd∣wch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gŵr a fyddo dihelbul, ac yn llwyddiannus ym mhob peth; ac i'r hwn a ddichon etto gymmeryd ei fwyd!
2 Oh angeu, mor dda yw dy farn di i'r anghenus, ac i'r gwan! i'r hen ddihenydd, ac i'r hwn sydd yn flin arno am bob peth, ac i'r anobeithiol, ac i'r annioddefgar?
3 Nac ofna farn angeu, cosia y rhai a fu o'th flaen, ac a fydd ar dy ôl di: dym∣ma farn yr Arglwydd ar bob cnawd.
4 Pa ham y gwrthwynebi di ewyllys y Goruchaf? pa vn bynnac ai dec, ai cant, ai mil o flynyddoedd y buost ti fyw, nid oes gyfrif yn y bedd.
5 Plant ffiaidd ŷw plant pechaduriaid: felly y mae y rhai sydd yn byw yn nrhig∣faeu yr annuwiol.
6 Etifeddiaeth plant yr annuwiol a ddifethir, a chyd â'i hiliogaeth hwynt yr erys gwradwydd yn wastad.
7 Rhag tâd annuwiol yr achwyn y plant: oblegit hwy a wradwyddir o'i achos ef.
8 Gwae chwi wŷr annuwiol y rhai a adawsoch Gyfraith y Duw goruchaf: oblegit er eich amlhau, chwi a ddife∣thir.
9 A phan aner chwi, chwi a enir i fell∣dith, ac os meirw fyddwch chwi, rhoddir i chwi felldith yn rhan.
10 Pob peth â i'r ddaiar, a ddelo o'r * 1.1066 ddaiar, felly yr â yr annuwiol o felldith i ddestryw.
11 Galar dynion fydd am eu cyrph, ond enw drwg dynion a ddeleir.
12 Bydd ofalus am enw da: canys hwnnw a erys gyd â thi yn hwy nâ mîl o dryssorau mawrion o aur.
13 ‖ 1.1067 Buchedd dda a gaiff nifer o ddyddiau, ond enw da a bery byth.
14 Fy meibion, cedwch addysc mewn heddwch, canys * 1.1068 doethineb wedi ei chu∣ddio, a thryssor heb ei weled, pa fudd sydd o'r ddau?
15 Gwell yw'r dŷn a guddio ei ffolineb, nâ'r dyn a guddio ei ddoethineb.
16 Gwladeiddia gan hynny yn ôl fy ngair i: oblegit nid da yw cadw pob gwladeidd-dra, ac nid yw gwbl gymmera∣dwy ymmhob peth.
17 Cywilyddiwch yngŵydd tâd a mam am odineb, ac yngŵydd tywysog neu ben∣defig am gelwydd;
18 Am fai o flaen yr ynad, a'r tywysog; am anwiredd yngwydd y gynnulleidfa, â'r bobl; am anghyfiawnder yngwydd cydym∣maith a chyfaill;
19 Felly am ledrad o herwydd y lle y byddech yn aros ynddo; ac o herwydd gwi∣rionedd Duw a'i gyfammod, ac am roddi dy benelin ar y bara, ‖ 1.1069 a phan i'th gerydder am roddi a derbyn;
20 Yr vn modd am dewi wrth y rhai a'th gyfarchant, ac am edrych ar wraig but∣teinig;
21 Ac am droi [dy] wyneb oddi wrth dy gâr, am ddwyn rhodd neu ran, ac am ddal sulw ar wraig gŵr arall,
22 Neu am ‖ 1.1070 arfer maswedd â morwyn vn arall, ac na thyred yn agos at ei gwely hi, [bydded gywilydd gennit] edliw ger bron cydymmaith, ac na ddannod wedi rhoddi:
23 Ac am adrodd drachefn yr hyn a gly∣wech, a dadcuddio cyfrinach.
24 Felly y byddi gywilyddgar, ac y cei di ffafor gan bob dŷn.
PEN. XLII.
1 Am ba beth y dylem gywilyddio. 9 Cym∣mer ofal tros dy ferch. 12 Gochel wraig. 15 Gweithredoedd a mawredd Duw.
NAc ystyr berson i be∣chu, ac na fydded ar∣nat gywilydd am y pe∣thau hyn:
2 Sef am gyfraith y Goruchaf, a'i gyfam∣mod, nac am y farn a wnêl i'r annuwiol fod yn gyfiawn:
3 Am gyfrif â'th gyfeillion, a'th gyd∣ymdeithwŷr, neu am roddi etifeddiaeth cy∣feillion:
4 Am fod yn ofalus am gloriannau a phwysau, ac am feddiannu llawer neu ychydig:
5 Am vniondeb yn prynu a gwerthu, am geryddu llawer ar blant, ac am dynnu gwaed o ystlys gwâs drwg.
6 Da yw ‖ 1.1071 sêl rhag gwraig ddrwg, a chloi le y byddo llawer o ddwylo.
7 Pan roddech beth at arall, dod tan rif a phwys, dôd a derbyn wrth yscrifen.
8 Trwy ddyscu yr anoeth, a'r angall, a'r cleiriach a ymrysono ag ieuengctid, y byddi di wîr ddyscedic, a chymeradwy ger bron pob dŷn byw.
9 Merch a bair iw thâd wilied yn ddirgel, a gofal am dani hi a rwystra ei gwsc ef, rhag iddi nac yn ei hieuengtid fyned tros flodau ei hoedran, na chael ei chasau wedi gwra.
10 Rhag ei halogi yn ei morwyndod, a'i beichiogi yn nhŷ ei thâd: ac iddi wneu∣thur bai pan fyddo gyd â gŵr, ac er cyt∣tal fod yn ammhlantadwy.
11 Cadw yn siccr ferch wammal, rhag iddi dy wneuthur yn wawd i'th elynion, a pheri i'r ddinas sôn am danat, ac i'r bobl feio arnat, a'th wradwyddo yngwydd y gynnulleidfa.
12 * 1.1072 Nac edrych ar degwch pob dŷn, ac nac aros ym mysc gwragedd.
13 O blegit o ddillad y daw gwyfyn: * 1.1073 a drygioni gwraig o wraig.
14 Gwell yw gŵr ‖ 1.1074 drygionus na gwraig gymwynasgar, [sef] gwraig a wradwyddo yn gywilyddus.
15 Mi a gofiaf weithredoedd yr Argl∣wydd,
Page [unnumbered]
ac a fynegaf yr hyn a welais: yngeiriau yr Arglwydd [y ceir] ei weithre∣doedd ef.
16 Pan oleuo yr haul, efe a oleua ar bob peth: felly y mae ei waith ef yn llawn o ogoniant yr Arglwydd.
17 Ni wnaeth yr Arglwydd i'w rai sanc∣taidd fynegi ei holl ryfeddodau ef, y rhai a siccrhaodd yr Holl-alluoc, fel y byddei pob peth yn siccr yn ei ogoniant ef.
18 Y mae efe yn chwilio allan y dyfnder, a'r galon, ac yn deall eu cyfrwysdra hwynt: canys y mae ‖ 1.1075 y Goruchaf yn gwybod pob gwybodaeth, ac yn gweled arwyddion y byd.
19 Y mae efe yn mynegi pethau a fu∣ant, a phethau a fyddant, ac yn dadcu∣ddio ôl pethau dirgel.
20 * 1.1076 Nid â vn meddwl heibio iddo ef, ac ni bydd vn gair yn guddiedic oddi wrtho ef.
21 Efe a harddodd fawredd ei ddoethi∣neb, ac y mae efe o dragywyddoldeb i dra∣gywyddoldeb: ni ellir chwanegu atto ef, na thynnu oddi wrtho: nid rhaid iddo ef wrth gyngor neb.
22 Mor ddymunol yw ei holl weithre∣doedd ef! îe hyd yn oed mewn gwreichio∣nen y gellir gweled hyn.
23 Y mae y rhai hyn oll yn byw, ac yn parhau byth; ac wrth bob rhaid, y maent hwy yn vfyddhau oll.
24 Y maent hwy oll yn ddau ddyblyg, y naill ar gyfer y llall, ac ni wnaeth efe ddim â diffyc arno.
25 Y mae y naill yn siccrhau daioni y llall, a phwy a gaiff ddigon o edrych ar ei ogoniant ef?
PEN. XLIII.
1 Tragogoneddus, a rhyfeddol yw gweithre∣doedd Duw, yn y nef, ac yn y ddaiar, ac yn y mor. 29 Etto y mae Duw ei hun, yn ei allu, a'i ddoethineb, vwch-law pob dim.
GOgoniant yr vchelder, y ffur∣fafen eglur, tegwch y nefoedd, a'i olygiad gogoneddus;
2 Y mae yr haul hefyd ‖ 1.1077 wrth ymddangos, yn my∣negi; ‖ 1.1078 offeryn rhyfedd, gwaith y Goru∣chaf.
3 Ar hanner dydd efe a lysc y wlad, a phwy a ddichon aros ar gyfer ei wrês poeth ef?
4 Y mae vn yn cadw ffwrn mewn gwaith brwd, tri mwy y llysc yr haul y mynyddoedd: gan chwythu allan angerdd tanllyd, ac yn discleirio â'i belydr y mae efe yn dallu y llygaid.
5 Mawr yw yr Arglwydd, yr hwn a'i gwnaeth ef, ac wrth ei orchymmyn ef, efe a ‖ 1.1079 beidiodd â'i daith.
6 Y * 1.1080 lleuad hefyd a wnaeth efe i wasa∣naethu yn ei hamser: i fod yn egluro yr amser, ac yn arwydd i'r byd.
7 * 1.1081 Wrth y lleuad y ceir gŵybod yr ŵyl, sef goleuni yn lleihau ‖ 1.1082 tu a'r diwedd.
8 Ar ei henw hi y mae y mis, a hi a gynydda yn rhyfedd yn ei chyfnewid: yn offeryn i'r lluoedd yn yr vchelder, yn lle∣wyrchu yn ffurfafen y nefoedd.
9 Disclairdeb y sêr sŷdd yn degwch i'r nefoedd, ac yn harddwch yn discleirio yn vchel-leoedd yr Arglwydd.
10 Wrth orchymmyn yr vn Sanctaidd y maent hwy yn sefyll yn eu trefn, ac nid ydynt yn deffygio yn eu gwiliadwriaeth.
11 * 1.1083 Gwêl yr enfys, a chlodfora yr hwn a'i gwnaeth hi, têg odiaeth yw hi yn ei discleirdeb.
12 Y mae * 1.1084 hi yn amgylchu y nefoedd â chylch gogoneddus, dwylo yr Arglwydd a'i hannelodd hi.
13 Y mae efe wrth ei orchymmyn yn gwneuthnr i'r eira ddescyn ar frys, ac i daranau ei farn ef bryssuro.
14 Am hyn yr ymegyr y tryssorau, ac yr hêd y cwmmylau fel adar.
15 Yn ei fawredd y siccrhaodd efe y cwm∣mylau, ac a dorrodd yn fân y cerrig cenllysc.
16 A'r mynyddoedd a symmudant wrth ei olwg ef, wrth ei ewyllys ef y chwyth y deheu-wynt.
17 Twrwf ei daran ef a bair i'r ddaiar grynu, a thymhestl y gogledd-wynt, a'r trowynt: y mae efe yn tanu eira fel adar yn ehedeg, ac efe a syrth fel y discyn cei∣liogod rhedyn.
18 Rhyfedd gan lygad weled tegwch ei wynder ef, a phob calon a synna wrth ei gawod ef.
19 Efe a dywallt rew ar y ddaiar fel halen, ac wedi iddo rewi, y mae efe yn ‖ 1.1085 bîg-lym.
20 Pan chwytho y gogledd-wynt oer, a rhewi o'r dwfr yn ia, ar bob llyn dwfr y saif, ac efe a wisc y dyfroedd megis â lluric.
21 Y mae efe yn disa y mynyddoedd, ac yn llosci y diffaethwch, ac yn diffoddi pob gwyrdd-lesni fel tân.
22 Meddiginiaeth rhag y cwbl yw niwl a ddelo ar frŷs, a gwlith a ddelo yn ôl gwrês, a lawenycha.
23 Wrth ei gyngor y llonyddodd efe y dyfnder, ac y plannodd ynysoedd ynddo.
24 * 1.1086 Y rhai a hwyliant ar y môr a fyne∣gant mor enbyd yw efe, a phan glywom ninnau â'n clustiau, nyni a ryfeddwn.
25 Yno y mae dieithr weithredoedd a rhyfedd: pob amryw anifail, a'r mor∣feirch.
26 Trwyddo ef y mae ‖ 1.1087 ei angel ef yn cael rhwydd-deb: a thrwy ei air ef y cyfan∣soddwyd pob peth.
27 Nyni a ddywedwn lawer, er hynny yr ydym ni yn fyrr: i ddwedyd ar air, efe yw'r cwbl.
28 Pa fodd y gallwn ni ei ogoneddu ef? canys y mae efe vwchlaw ei holl waith.
29 Ofnadwy yw'r Arglwydd, * 1.1088 a mawr odiaeth, a rhyfedd yw ei allu ef.
30 Pan ogoneddoch chwi yr Arglwydd, derchefwch ef fwyaf ac y galloch, ac efe
Page [unnumbered]
a ragora lawer ar hynny: a phan ddercha∣foch ef, rhodd wch lawer o egni. Na flinwch, canys ni chyrhaeddwch chwi byth adref.
31 * 1.1089 Pwy a'i gwelodd ef, ac a fynega i ni? a phwy a'i mawryga ef megis y mae?
32 Y mae llawer peth mwy nâ hyn yn guddiedic: canys ychydic a welsom ni o'i weithredoedd ef.
33 Oblegid yr Arglwydd a wnaeth bob peth: ac i'r rhai duwiol y rhoddes efe ddoe∣thineb.
PEN. XLIIII.
1 Clod amryw wyr duwiol, 16 sef Enoch, 17 Noah, 19 Abraham, 22 Isaac, 23 ac Iacob.
CAnmolwn yn awr y gwŷr enwoc, a'n tadau a'n cen∣hedlodd ni.
2 Llawer o ogoniant a wnaeth yr Arglwydd trwy∣ddynt hwy, â'i fawredd er ioed.
3 Y rhai a ly wodraethasant ar eu teyrna∣soedd, ac oeddynt wŷr enwoc o allu, yn cyng∣hori yn synhwyrol, ac yn traethu proph∣wydoliaethau.
4 Blaenor-wyr y bobl trwy eu cyngor * 1.1090 a thrwy ddeall addysc y bobl: doethion, ac ymadroddus oeddynt yn eu hathrawiaeth.
5 Hwy a geisiasant allan felusdra cerdd, ac a draethasant ganiadau scrifennedic.
6 Gwŷr cyfoethogion cedyrn o nerth, a heddychlon yn eu cartref oeddynt hwy.
7 Y rhai hyn oll yn eu cenhedlaethau a gawsant ogoniant, a gorfoledd yn eu dy∣ddiau.
8 Bu [rai] o honynt hwy gyfryw ac a adawsant enw [ar eu hôl,] fel y mynegid [eu] clôd [hwynt.]
9 Bu hefyd rai heb fod coffa am danynt, y rhai * 1.1091 y darfu am danynt fel pe na buas∣sent, ac a aethant fel pe na's ganesid hwynt, a'i plant a'r eu hôl hwynt.
10 Eithr gwŷr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder pa rai n'is anghofiwyd.
11 Gyd â'i hiliogaeth hwynt yr erys eti∣feddiaeth dda: y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfammod hefyd.
12 Y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cy∣fammod, a'i plant ‖ 1.1092 areu hôl.
13 Byth y pery eu hiliogaeth, a'i gogo∣niant ni ddileir.
14 Eu cyrph a gladdwyd mewn hedd∣wch; ac y mae eu henw yn byw byth.
15 Y bobl * 1.1093 a fynegant eu doethineb hwy, a'r gynnulleidfa a draetha eu clòd hwynt.
16 * 1.1094 Enoch a ryglyddodd fodd i Dduw, ac a fudwyd ymmaith, yn siampl o edifeir∣wch i'r cenhedlaethau oll.
17 * 1.1095 Noe a gafwyd yn berffaith, [ac] yn gyflawn yn amser digter, efe a gymmerwyd yn gyfnewid [am y byd;] am hynny [pan] fu y diluw, y gadawyd ef yngweddill i'r ddaiar.
18 Cyfammod tragywyddol a wnaed ag ef, * 1.1096 na ddifethid pob cnawd trwy ddiluw [mwy.]
19 * 1.1097 Abraham sydd dâd mawr i lawer o genhedloedd, ac ni chafwyd ei fath ef mewn gogoniant:
20 Yr hwn a gadwodd Gyfraith y Goru∣chaf, ac a ddaeth mewn cyfammod ag ef: efe a osododd y cyfammod yn ei gnawd, ac * 1.1098 wrth ei brofi, efe a gafwyd yn ffydd∣lon.
21 Am hynny y siccrhaodd efe iddo ef * 1.1099 trwy lw, y bendithid y Cenhedloedd yn ei hâd ef; yr amlheid ef fel llwch y ddaiar, ac y derchefid ei hâd ef fel y sér, ac y caent hwy etifeddu o fôr i fôr, ac o'r afon i eithaf y ddaiar.
22 Felly * 1.1100 y siccrhaodd efe i Isaac (er mwyn Abraham ei dad) fendith pob dŷn, a'r cyfammod,
23 Ac a wnaeth iddo orphywyso ar ben * 1.1101 Iacob. Efe a'i hadnabu ef gan ei fendi∣thio, ac a roddodd iddo ef etifeddiaeth, ac a nailltuodd ei ran ef, ac a'i rhannodd ym mysc y deuddec-llwyth.
PEN. XLV.
1 Clod Moses, 6 ac Aaron, 23 a Phinces.
AC efe a ddug allan o honawef wr trugarog, yr hwn a gafodd ffafor yngolwg pob cnawd, sef Moses, yr hwn oedd * 1.1102 hoff gan Dduw a dynion, yr hwn y mae ei goffadwriaeth yn fendigedic.
2 Efe a'i gwnaeth ef yn debyg i'r Sainct gogoneddus, ac a'i mawrygodd ef, gan beri iw elynion ei ofni ef:
3 Trwy ei eiriau ef y gwnaeth efe i ryfeddodau beidio, ac a'i gwnaeth ef * 1.1103 yn ogoneddus yngolwg brenhinoedd: efe a ro∣ddes gyd ag ef orchymmyn iw bobl, ac a ddangosodd iddo ef ran o'i ogoniant.
4 Efe * 1.1104 a'i sancteiddiodd ef yn ei ffydd∣londeb a'i larieidd-dra, ac a'i dewisodd ef o blith yr holl ddynion.
5 Efe a wnaeth iddo glywed ei lais ef, ac a'i dug ef i'r cwmmwl tywyll, ac * 1.1105 a ro∣ddes orchymynion o'i flaen ef, sef Cyfraith bywyd a gwybodaeth, fel y dyscei efe y cy∣fammod i Iacob, a'i farnedigaethau i Is∣rael.
6 Efe a * 1.1106 dderchafodd Aaron y sanct tebyg iddo ef, ei frawd o lwyth Lefi.
7 Efe a wnaeth ag ef gyfammod tragy∣wyddol, ac a roddes iddo offeiriadaeth ym mysc y bobl: efe a'i ‖ 1.1107 gwnaeth ef yn dded∣wydd mewn hardd-wisc, ac a'i gwiscodd ef â gwisc ogoneddus.
8 Efe a'i gwiscodd ef â gogonedd cyflawn, ac a'i gwregysodd ef ‖ 1.1108 ag offer cadernid, llodr, a gwisc laes, ac ag Ephod.
9 Efe a'i hamgylchodd ef â phomgrana∣dau, [ac] à chlŷch aur lawer o amgylch, i sei∣nio * 1.1109 pan gerddei efe, i wneuthur swn a gly∣wid yn y Deml, ac i fod yn goffadwriaeth i feibion ei bobl ef.
10 A gwisc sanctaidd o aur, â sidan glâs, â phorphor, ac amryw waith, â dwy∣fronnec
Page [unnumbered]
barn, ag ‖ 1.1110 arwyddion gwirionedd,
11 Ac â gwaith cywraint o scarlat ple∣thedig, ac â meini gwerthfawr wedi eu cer∣fio fel sêl, a'i gosod mewn aur trwy waith eurych, ac scrifen wedi ei cherflo, er coffadw∣riaeth, yn ôl nifer meibion Israel.
12 Ar y meitr [y gosodasei efe] goron o aur, yn yr hon y cerfiesid Sancteiddrwydd, yn harddwch anrhydeddus, yn waith go∣didog, yn hyfryd i'r llygaid, yn hardd, ac yn dêg.
13 Ni bu y fath o'i flaen ef, ac er ioed ni wiscodd neb dieithr hwynt, ond ei feibion ef bob amser.
14 Dwy waith yn y dydd yn wastadol y poeth-offrymmir eu haberthau hwynt.
15 Moses a'i cyssegrodd ef, ac a'i heneini∣odd ag olew sanctaidd, a hyn a wnaed, yn gyfammod tragywyddol iddo ef, ac iw hâd, cyhŷd ac y parhao y nefoedd, gael o honynt ei wasanaethu ef, ac offeiriadu hefyd, a ben∣dithio y bobl yn ei Enw ef.
16 Efe a'i dewisodd ef o flaen pob [dŷn] byw, i offrymmu offrwm i'r Arglwydd, mwgdarth, a phêr-arogl er coffadwriaeth, i wneuthur cymmod tros y bobl.
17 Efe a * 1.1111 roddes iddo ei orchymynion, ac ynghyfammod y Gyfraith awdurdod, i ddys∣cu ei dystiolaethau ef i Iacob, ac i egluro ei Gyfraith ef i Israel.
18 * 1.1112 Dieithriaid a gydsafasant iw erbyn ef, ac a genfigennasant wrtho ef yn yr ania∣lwch, sef y gwŷr oedd gyd â Dathan, ac Abiram, a chynnulleidfa Core, mewn llid a digter.
19 Yr Arglwydd a welodd hyn, ac ni bu fodlon: a hwy a ddifethwyd yn llidiawg∣rwydd ei ddigter ef: efe a wnaeth arnynt wrthiau, gan eu difetha â fflam dân.
20 Eithr * 1.1113 efe a roddes ychwaneg o ogo∣niant i Aaron, ac a roddes iddo etifeddi∣aeth, blaen-ffrwyth y cyntaf-anedic a ran∣nodd efe iddo, yn enwedic efe a arlwyodd ddigon o fara:
21 Oblegit y maent hwy yn cael bwyta o aberthau yr Arglwydd, y rhai a roddes efe iddo ef, ac iw hâd.
22 Eithr * 1.1114 ni roddes efe etifeddiaeth iddo ef o dir y bobl, ac nid oedd iddo ef etifeddi∣aeth ym mysc y bobl: oblegid efe ei hun yw rhan ei etifeddiaeth ef.
23 * 1.1115 Phinees mab Eleazar oedd y try∣dydd mewn gogoniant: am iddo ddwyn zêl yn ofn yr Arglwydd, a sefyll i fynu ag ewyllys da a pharod, a gwneuthur cymmod tros Israel, pan droessei y bobl ymmaith.
24 Am hynny y gwnaeth efe ag ef gy∣fammod heddychlon, y cai efe fod yn ben∣naf ar y cyssegr, ac ar ei bobl, fel y byddei braint yr offeiriadaeth iddo ef, ac iw hâd byth.
25 Yn ôl y cyfammod a wnaethid â Da∣fydd mab Iesse, o lwyth Iuda, y byddei eti∣feddiaeth y brenin iw eppil ef yn vnig; ac y byddai etifeddiaeth Aaron iw hâd ef yr vn modd.
26 Rhodded [Duw] ddoethineb yn eich calon chwi, i farnu ei bobl ef yn gyfiawn, fel na ddileer eu daioni hwynt, ac y parhao eu gogoniant hwy, trwy eu cenedlaethau.
PEN. XLVI.
1 Clod Iosua, 9 Caleb, 13 a Samuel.
CRyf mewn rhyfel oedd * 1.1116 Iesus mab Nafe, a dilynwr Moses mewn prophwydoliaethau, yr hwn, yn ôl ei enw, oedd fawr, er iechydwriaeth i etholedigi∣on Duw, ac i ddial ar y gelynion a gyfo∣dent iw herbyn hwynt, fel y cai Israel ei etifeddiaeth.
2 Pa * 1.1117 ogoniant a gafodd efe yn dercha∣fu ei ddwylo, ac yn tynnu ei gleddyf yn er∣byn y dinasoedd?
3 Pwy o'i flaen ef a safodd felly? canys ‖ 1.1118 efe oedd dywysog ar ryfel yr Arglwydd.
4 Onid trwy ei waith ef y safodd yr haul, ac y gwnaed vn diwrnod cyhyd â dau?
5 Efe a alwodd ar y Llywydd goruchaf, pan oedd y gelynion yn pwyso arno ef o bob parth, a'r mawr Iôr a'i gwrandawodd ef:
6 * 1.1119 Ac â cherrig cessair mawr allu, efe a ruthrodd ar y cenhedloedd â rhyfel, ac yngo∣riwared [Bethoron,] efe a ddifethodd y gwrthwynebwŷr, fel y gallei y cenhedloedd adnabod ei holl arfogaeth ef, mai o flaen yr Arglwydd yr oedd efe yn rhyfela, oblegid efe oedd yn canlyn ar ôl y Gailuog.
7 Yn amser Moses hefyd y gwnaeth efe â Cnaleb hefyd fab Iephunne waith elusen, gan sefyll yn erbyn y gynnulleidfa, ac attal y bobl rhag pechu, a lluddio y grwg∣nach drygionus.
8 A hwynt hwy ill dau a ddiangha∣sant, * 1.1120 o chwe chan mîl o wŷr traed, iw dwyn hwynt i mewn i'r etifeddiaeth, sef i'r wlâd oedd yn llifeirio o laeth a mêl.
9 I Caleb hefyd y rhoddes yr Arglwydd * 1.1121 gryfder, yr hwn a barhaodd gyd ag ef hyd ei henaint, fel yr aeth efe i vchelder y wlâd, a'i hâd ef a'i gorescynnodd hi yn etifeddiaeth.
10 Fel y gallei holl feibion Israel weled mai da yw dilyn yr Arglwydd.
11 Y barnwyr hefyd bôb vn erbyn ei henw, y rhai oll ni phuteiniodd eu calon, a pha rai bynnac ni throesant oddi wrth yr Arglwydd, bydded eu coffadwriaeth hwynt yn fendi∣gedig.
12 Bydded * 1.1122 eu hescyrn yn iraidd yn eu lle, a bydded eu henw hwynt, y rhai oedd an∣rhydeddus yn aros ar eu plant.
13 Samuel Prophwyd yr Arglwydd, yr hwn oedd hoff gan ei Arglwydd, * 1.1123 a oso∣dodd frenhiniaethau, ac a eneiniodd dywy∣sogion ar ei bobl ef.
14 Trwy Gyfraith yr Arglwydd y barnodd efe y gynnulleidfa, a'r Arglwydd a ystyriodd wrth Iacob.
15 Efe a gafwyd yn wîr Brophwyd wrth ei ffydd, ac efe a adnabuwyd wrth ei eiriau ei fod yn ffyddlon mewn gweledigaeth.
Page [unnumbered]
16 Ac efe * 1.1124 a alwodd ar yr Arglwydd galluoc, pan oedd ei elynion ef o amgylch yn pwyso arno wrth offrymmu yr oen sugno.
17 A'r Arglwydd a daranodd o'r nefoedd, ac a wnaeth glywed ei leferydd â swn mawr.
18 Felly y drylliodd efe dywysogion y Tyriaid, a holl bennaethiaid y Philistiaid.
19 A * 1.1125 chyn amser ei hîr hûn, efe a dy∣stiolaethodd o flaen yr Arglwydd, a'i enei∣nioc, ni chymmerais o dda neb, gymmaint ac escid: ac nid achwynodd neb rhagddo ef.
20 Ac * 1.1126 wedi iddo ef huno, efe a broph∣wydodd, ac a ddangosodd i'r brenin ei ddi∣wedd, ac a dderchafodd ei lef o'r ddaiar mewn prophwydoliaeth, i ddileu anwi∣redd y bobl.
PEN. XLVII.
1 Clod Nathan, 2 Dafydd, 12 Gogoniant Salomon: a'i wendid; 23 A'i ddiwedd, a'i gospedigaeth.
WEdi hyn y cyfododd y * 1.1127 Pro∣phwyd Nathan yn nyddiau Dafydd.
2 Fel y neilltuir y brasder oddi wrth yr offrwm: felly y dewiswyd Dafydd o feibion Israel.
3 Efe ‖ 1.1128 a chwaraodd â llewod * 1.1129 megis â mynnod: ac ag eirth megis ag ŵyn de∣faid.
4 * 1.1130 Oni laddodd efe gawr yn ei ieueng∣tid? ac oni thynnodd efe ymmaith wrad∣wydd y bobl; pan gyfododd efe ei law â charreg dafl: a bwrw i lawr falchder Goliah?
5 Canys efe a alwodd ar yr Arglwydd goruchaf, ac yntef a roddes nerth iw dde∣heulaw ef, i ladd y dŷn cryf yn y rhyfel, fel y derchafei efe gorn ei bobl.
6 Felly [y bobl] a'i * 1.1131 anrhydeddodd yntef â myrddiwn, ac a'i canmolodd ym-mendi∣thion yr Arglwydd, pan roes iddo ef goron y gogoniant.
7 Efe * 1.1132 a ddrylliodd y gelynion o am∣gylch, ac a ddifethodd y Philistiaid oedd wrthwyneb-wyr [iddo,] ac a ddrylliodd eu corn hwy hyd heddyw.
8 Yn ei holl waith y rhoddes efe glod∣foredd i'r hwn sydd Sanctaidd a Goruchaf, â geiriau anrhydeddus, ac â'i holl galon y canodd efe ganiadau, ac y carodd ef yr hwn a'i gwnaeth.
9 Ac * 1.1133 efe a osododd gantorion o flaen yr allor, fel y gwnaent gerdd felus ar dafod, ac y clodforent [Dduw] beunydd â'i cania∣dau.
10 Efe a roddes drefn weddaidd am y gwyliau, ac a gymhwysodd yr amserau yn berffaith, fel y clodforent hwy ei Enw Sanctaidd ef, ac y gwnaent iw Gyssegr ef seinio yn foreu.
11 * 1.1134 Yr Arglwydd a ddileodd ei bechodau ef, ac a dderchafodd ei gorn ef byth, ac a roddes iddo gyfammod y frenhiniaeth, a gorsedd-faingc ‖ 1.1135 gogoniant yn Israel.
12 Ar ôl hwn y cododd mab doeth, ac a breswyliodd mewn changder er ei fwyn ef.
13 * 1.1136 Salomon a deyrnasodd mewn am∣ser heddychlon, ac a oedd anrhydeddus: canys Duw a barasei lonyddwch o'i am∣gylch ef, fel yr adeiladei efe dŷ iw Enw ef, ac y darparei Gyssegr tros byth:
14 * Mor ddoeth ‖ 1.1137 oedd efe yn ei ieueng∣tid; * 1.1138 a megis afon yn llawn o synwyr!
15 Dy enaid a orchuddiodd yr holl ddaiar, ac a'i llanwodd â diharebion dam∣megol.
16 Dy enw a aeth ym mhell i'r ynys∣oedd, a chu oeddit am dy heddwch.
17 * 1.1139 Ryfeddodd y gwledydd wrth dy ga∣niadau, a'th ddiharebion, a'th gyffelybiae∣thau, a'th ddeongliadau.
18 Trwy Enw Arglwydd Dduw yr holl ddaiar, yr hwn a elwir dy Dduw di Israel, y cesclaist ti * 1.1140 aur fel alcam, ac y cefaist arian cyn amled a'r plwm.
19 * 1.1141 Ti a ogwyddaist dy lwynau i wra∣gedd, ac a'th ddarostyngwyd yn dy gorph.
20 Ti a anefaist dy ogoniant, ac a halo∣gaist dy ‖ 1.1142 hiliogaeth, gan ddwyn digofaint yn erbyn dy blant, a dwyn gofid am dy yn∣fydrwydd:
21 Felly y * 1.1143 rhannwyd y frenhiniaeth, ac y dechreuodd brenhiniaeth anufyddgar fod o Ephraim.
22 * 1.1144 Er hynny ni âd yr Arglwydd ei dru∣garedd ymmaith byth, ac ni ddifethir vn o'i weithredoedd ef, ac ni ddilea efe hilio∣gaeth ei etholedic, ac ni ddŵg ymmaith ‖ 1.1145 eppil yr hwn a'i câr ef: o ba herwydd efe a adawodd weddill i Iacob, a gwrei∣ddŷn i Ddafydd, o honaw ef.
23 Yna Salomon a orphywysodd gyd â'i dadau, ac a adawodd o'i hiliogaeth ar ei ôl, Roboam ynfydrwydd y bobl, ac vn disynhwyr, yr hwn a yrrodd y bobl ym∣maith â'i gyngor; * 1.1146 ac yr oedd Ieroboam mab Nabat, yr hwn a * wnaeth i Israel bechu, ac a ddangosodd y ffordd i Ephraim i bechu:
24 A'i pechodau hwy a amlhasant mor ddirfawr, hyd oni throdd efe hwynt allan o'r wlâd.
25 Canys hwy a geisiasant allan bob anwired, hyd oni ddaeth dig a dialedd arnynt hwy.
PEN. XLVIII.
1 Clod Elias, 12 ac Elisaeus, 17 ac Ezecias.
YNa y cododd * 1.1147 Elias y Proph∣wyd fel tân, a'i air ef a loscei fel lusern.
2 Yr hwn a ddug arnynt hwy newyn mawr, a thrwy ei zêl a'i gwnaeth hwy yn ychydig.
3 Efe a gaeodd y nefoedd trwy air yr
Page [unnumbered]
Arglwydd, a * 1.1148 thair gwaith y dug efe dân i wared.
4 Oh Elias, mor ogoneddus fuost ti yn dy ryfeddodau! a phwy a ddichon ymffro∣stio fel tydi?
5 Yr hwn * 1.1149 a gyfodaist [y] marw o far∣wolaeth, ‖ 1.1150 a dŷn o'r bedd, trwy air y Goru∣chaf.
6 Yr hwn a ddygaist frenhinoedd i ddi∣nistr, * 1.1151 a phendefigion o'i ‖ 1.1152 heisteddfa.
7 Yr hwn a glywaist gerydd yr Argl∣wydd yn Sinai, a barnedigaethau dialedd * 1.1153 yn Horeb.
8 Yr hwn * 1.1154 a eneiniodd frenhinoedd i dalu y pwyth, a phrophwydi i ddilyn ar ei ôl ef.
9 * 1.1155 Yr hwn a godwyd i fynu mewn tro-wynt o dân, ac mewn cerbyd meirch tânllyd.
10 * 1.1156 Yr hwn a ordeiniwyd i geryddu mewn prŷd, ac i ostegu digter barn yr Arglwydd, cyn iddo dorri allan yn llîd, ac i droi calon y tad at y mab, ac i ‖ 1.1157 gyweirio llwythau Ia∣cob.
11 Gwyn eu byd hwy a'th welsant di, ac a ‖ 1.1158 hunasant mewn cariad: canys nyni a fyddwn byw yn ddiau.
12 Elias * 1.1159 a orchuddiwyd a thro-wynt: ac Elizeus a lanwyd â'i yspryd ef: ni syflodd efe er tywysogion yn ei ddyddiau, ac ni allodd neb ei ddarosswng ef.
13 Ni orchfygodd ‖ 1.1160 dim ef, ac wedi ei huno, ei gorph ef a brophwydodd.
14 Efe a wnaeth ryfeddodau yn ei fy∣wyd, ac yn ei ddiwedd rhyfedd oedd ei wei∣thredoedd ef.
15 Er hyn oll ni chymerodd y bobl edi∣feirwch, ac-ni chiliasant oddi wrth eu pe∣chodau, * 1.1161 hyd oni chaethgludwyd hwynt o'i gwlâd, a'i gwascaru ym mhob gwlad: etto gadawyd ychydig bobl, a thywysog yn nhŷ Ddafydd.
16 Rhai o honynt hwy a wnaethant yr hyn oedd yn rhyglyddu bodd i Dduw, a rhai a wnaethant lawer o bechodau.
17 * 1.1162 Ezecias a gadarnhaodd ei ddinas, ac a ddug ddwfr iw chanol hi: efe a gloddiodd y graig â haiarn, ac a wnaeth ffynhonnau i'r dwfr.
18 Yn ei ddyddiau ef * 1.1163 y daeth Senache∣rib i fynu, ac a anfonodd Rabsaces o La∣chis, ac a dderchafodd ei law yn erbyn Si∣on, ac a ymffrostiodd yn ei falchder.
19 Yna y crynnodd eu calonnau a'i dwylo hwynt, ac yr ymofidiasant fel gwra∣gedd yn escor.
20 Ond hwy a alwasant ar yr Arglwydd trugarog, gan estyn eu dwylo atto ef, a'r Sanctaidd a'i gwrandawodd hwy o'r nefo∣edd, ac a'i gwaredodd hwy trwy law Esai.
21 Efe * 1.1164 a darawodd lu yr Assyriaid, a'i Angel ef a'i dinistriodd hwynt.
22 O blegit Ezecias a wnaethei yr hyn oedd fodlon gan yr Arglwydd, ac a ddily∣nodd ffyrdd Dafydd ei dad yn lew, fel y gor∣chymynnasei y prophwyd Esai, yr hwn oedd fawr a ‖ 1.1165 pharchedic yn ei olwg ef.
23 Yn * ei ddyddiau ef yr aeth yr haul yn ei ôl, ac efe a estynnodd hoedl y brenin.
24 Trwy yspryd godidog y gwelodd efe y pethau a fyddent yn y diwedd, ac y cyssu∣rodd efe y rhai oedd yn galaru yn Sion.
25 Efe a ddangosodd y pethau a ddeuei byth, a phethau dirgel cyn eu dyfod.
PEN. XLIX.
1 Clod Iosias, 4 a Dafydd, ac Ezecias, 6 a Ieremi, 8 ac Ezeciel, 11 a Zorobabel, 12 a Iesus fab Iosedec. 13 Nehemiah, Enoch, Seth, Sem, ac Addaf.
COffadwriaeth * 1.1166 Iosias sydd fel cymmysc arogl-darth trwy gyfarwydd waith yr apothe∣cari: melus ydyw fel y mêl ym mhob genau, ac fel ‖ 1.1167 cerdd mewn gwledd o wîn.
2 Efe a ‖ 1.1168 gafodd rwydd-deb yn troi y bo∣bl, ac a ddug ymmaith ffieidd-dra anwiredd.
3 * 1.1169 Efe a gyfeiriodd ei galon at yr Argl∣wydd, ac a gadarnhaodd dduwioldeb yn amser pechaduriaid.
4 Pawb ond Dafydd, Ezecias, a Iosias, a wnaethant fai: canys hwy a adawsant gyfraith y Goruchaf, brenhinoedd Iuda hefyd a ballasant.
5 Yntef a roddes eu ‖ 1.1170 corn hwynt i arall, a'i gogoniant i genedl ddieithr.
6 Hwy a loscasant ddinas etholedic y Cyssegr, ac * 1.1171 a anrheithiasant ei heolydd hi, yn ôl prophwydoliaeth Ieremias.
7 Canys ei gystuddio ef a wnaethant, ac yntef * 1.1172 wedi ei sancteiddio yn brophwyd o groth ei fam, i ddiwreddio, a niweidio, a * 1.1173 difetha: felly hefyd i adeiladu, ac i blannu.
8 * 1.1174 Ezeciel yntef a welodd weledigaeth ogoneddus, yr hon a ddangoswyd iddo ef ar gerbyd y Cherubiaid.
9 Efe a gofiodd y gelynion yn y gafod, * 1.1175 ac a gyfarwyddodd y rhai vniawn eu ffyrdd.
10 Felly bendigedic fyddo coffadwriaeth y deuddec prophwyd, ac ireiddied eu hes∣cyrn o'i lle: canys hwy a gyssurasant Ia∣cob, ac a'i gwaredasant â gobaith sicr.
11 Pa fodd * 1.1176 y mawrygwn ni Zoroba∣bel; yntef oedd megis sêl ar y llaw ddehau.
12 Felly * 1.1177 Iesus fab Iosedec: y rhai yn eu dyddiau a adeiladasant y tŷ, ac a gyfoda∣sant Denil sanctaidd i'r Arglwydd, yr hon a ddarparwyd yn ogoniant tragywyddol.
13 Nehemias hefyd oedd o'r rhai ethole∣dic, am yr hwn y mae mawr goffa, yr hwn a gododd i ni y caerau a syrthiasei, ac a oso∣dodd i fynu y pyrth, a'r barrau, ac a gyfo∣dodd ein ‖ 1.1178 tai ni.
14 Ni chrewyd ar y ddaiar fath * 1.1179 Enoch, canys efe a gyfodwyd i fynu oddi ar y ddaiar.
15 Ac ni bu y fath ŵr a * 1.1180 Ioseph, yr hwn oedd bennaeth ar ei frodyr, a chynhaliwr y bobl, yr hwn yr edrychodd yr Arglwydd am ei escyrn.
16 Sem a Seth a gawsant barch gan * 1.1181 ddynion: ac Adda oedd yn y greadwriaeth goruwch pôb peth byw.
Page [unnumbered]
PEN. L.
1 Am Simon mab Onias, 22 Y modd y dyscwyd i'r bobl foliannu Duw, a gweddio. 27 Y diwedd.
SImon yr arch-offeiriad mab * 1.1182 Onias, yr hwn yn ei fy∣wyd a gyfododd y tŷ, ac yn ei ddyddiau a siccrhaodd y bobl.
2 Efe a barodd o'r syl∣faen adeiladu yr vchder dauddyblyg, a'r fagwyr vchel, o amgylch y Deml.
3 Yn ei ddyddiau ef, y * 1.1183 noe i dderbyn dwfr, yr hon oedd o'i hamgylch fel y môr, a wiscwyd â dalennau prês.
4 Efe a gymerth ofal tros y ‖ 1.1184 bobl rhag eu difetha, ac a gadarnhaodd y ddi∣nas erbyn gwarchae arni.
5 Mor ogoneddus oedd efe ynghanol y bobl wrth ddyfod allan o'r ‖ 1.1185 tŷ tan orchudd.
6 Fel y seren ddydd ym mysc y cwmy∣lau, ac fel y lleuad yn ei llawn-lloneid, yr ydoedd ef.
7 Fel yr haul yn tywynnu ar Deml y Goruchaf, ac fel yr enfys yn llewyrchu yn y cwmylau disclair.
8 Ac fel blodau rhos pan fyddant ne∣wydd, fel lili wrth aberoedd dyfroedd, a blagur y pren thus yn amser haf.
9 Fel tân a thus mewn thusser, fel lle∣str o aur wedi ei wneuthur o'r vn darn, a'i harddu â phob maen gwerthfawr.
10 Fel olewydden dêg ffrwythlawn, ac fel cupresswydden wedi tyfu i'r awyr.
11 Pan gymerei efe y wisc ogoneddus, a phan wiscei efe yr hyfrydwch perffaith, wrth fyned i fynu at yr Allor sanctaidd yn anrhydeddus.
12 Pan gymerei efe ‖ 1.1186 yr aelodau o law 'r offeiriaid, efe a safei wrth aelwyd yr allor, a'i frodyr o'i amgylch, fel cedrwydden yn Libanns, a hwy a'i hamgylchent ef fel canghennau palm-wydd:
13 Felly [y byddei] meibion Aaron oll yn eu gwychder, ac offrwm yr Arglwydd yn eu dwylo, o flaen holl gynnulleidfa Is∣rael.
14 Gan orphen y gwasanaeth wrth yr allor, i wneuthur offrwm yr Holl-alluoc go∣ruchaf yn hardd,
15 Efe a estynnei ei ddwylo at y ddiod offrwm, ac a gymyscei beth ‖ 1.1187 o'r gŵin, ac a'i tywalltei wrth droed yr allor yn arogl peraidd, i'r hwn sydd oruchaf Frenin ar bawb.
16 Yna meibion Aaron a waeddent, ac a seinient mewn vdcyrn ‖ 1.1188 tawdd, ac a wnaent swn mawr eglur, yn goffadwri∣aeth o flaen y Goruchaf.
17 Yna yr holl bobl a gydsyrthient i lawr, ar eu hwynebau ar frys, i addoli eu Harglwydd, y goruchaf Dduw holl-alluoc.
18 Y cantorion hefyd a glodforent â'i lleisiau, ac a wnaent gynghanedd felus trwy eu hamryw seiniau.
19 A'r bobl a ymbilient â'r Arglwydd goruchaf trwy weddi gar brony Trugarog, nes cyflawni anrhydedd yr Arglwydd, a gorphen ei wasanaeth ef.
20 Yna efe a ddiscynnei, ac a dderchafei ei ddwylo ar holl gynulleidfa meibion Is∣rael, i draethu bendith yr Arglwydd â'i wefusau, ac i ymorfoleddu yn ei Enw ef.
21 A hwy a ymgrymment i addoli eil∣waith, i dderbyn y fendith gan y Goru∣chaf.
22 Yn awr gan hynny bendigwch Dduw pob peth, yr hwn yn vnic a wna ryfeddod ym-mhob man, yr hwn a ddercha∣fa ein dyddiau ni o'r groth, yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur â nyni yn ôl ei drugaredd.
23 Caniadhaed ef i ni hyfrydwch calon, a bôd heddwch yn ein dyddiau ni yn Is∣rael byth,
24 A chadarnhau o honaw ef ffyddlon∣deb ei drugaredd i ni, a'n gwaredu ni yn ei amser ef.
25 Dwy genhedlaeth sydd flin gan fy e∣naid, a'r drydedd nid yw genhedlaeth.
26 Y rhai a eisteddant ym mynydd Sa∣maria, a'r rhai a breswyliant ‖ 1.1189 Palestina, a'r bobl ynfyd, y rhai a drigant yn Sichem.
27 Iesus mab Sirach o Ierusalem, a scrifennodd yn y llyfr hwn athrawiaeth deall a gwybodaeth, yr hwn a lawiodd ddoethineb o'i galon.
28 Gwyn ei fŷd yr hwn a ymgynnefino â'r rhai hyn, a'r hwn a'i gosodo hwynt yn ei galon a fydd doeth.
29 O blegit os gwna efe y pethau hyn, efe a sydd nerthol i bob peth: canys goleuni yr Arglwydd a fydd ŷn gyfarwyddyd iddo ef, ac i'r rhai duwiol y rhoddes efe ddoethi∣neb. Bendigedic fyddo yr Arglwydd byth: felly y byddo, felly y byddo.
PEN. LI.
Gweddi Iesus fab Syrach.
CLôdforaf di ô Arglwydd Frenin, a moliannaf di fy Nuw a'm Iachawdwr, dy Enw di a glodforaf.
2 Oblegit ti sydd yn am∣ddeffynnudd ac yn help i mi, ac a waredaist fy nghorph i rhag dinistr, a rhag magl tafod enllibus, rhag gwefusau a ddychym∣mygant gelwydd, ie yn erbyn y rhai sydd yn cyfodi i'm herbyn yr ydwyt ti yn help i mi.
3 Gwaredaist fi yn ôl amldra dy druga∣redd, a mawredd dy Enw, rhag ‖ 1.1190 dannedd y rhai oedd barod i'm bwyta: ac o law y rhai oedd yn ceisio fy enaid i, ac o lawer o flinderau, y rhai a gefais i.
4 Rhag i'r tân fy mygu o amgylch, [ac] o ganol y tân, yr hwn nis cynneuais.
5 Felly [i'm gwaredaist] o waelod bol vffern, rhag tafod aflan, a rhag chwedl cel∣wyddoc.
Page [unnumbered]
6 A rhag anair gyd â'r brenin, trwy da∣fod anghyfiawn, fy enaid a aeth yn agos i angeu, am heinioes oedd agos i vffern isaf.
7 Hwy a'm hamgylchynasant i o bôb tu, ac nid oedd am helpiei: mi a edrychais am help dyn, ac nid oedd [dim.]
8 Am hynny mi a gofiais dy drugaredd di oh Arglwydd, a'th weithredoedd gynt, dy fod ti yn achub y rhai ‖ 1.1191 dioddefgar, ac yn eu hachub hwynt o law y gelynion.
9 Ac mi a dderchefais fy ngweddi o'r ddaiar, ac a ddeisyfiais ymwared rhag marwolaeth,
10 Ac a ddeisyfiais ar yr Arglwydd tâd fy Arglwydd, na adawei efe fyfi yn nŷdd trallod, ‖ 1.1192 y prŷd ni cheid help gan y beil∣chion.
11 Mi a foliannaf dy Enw di yn wasta∣dol, ac a'th glôdforaf di yn fy nghyffes, am gweddi a wrandawyd.
12 O blegit ti a'n cedwaist ni rhag di∣nistr, ac a'm gwaredaist i o'r amser drwg: am hynny clodforaf, a moliannaf di, ac a fendithiaf dy Enw, ô Arglwydd.
13 A myfi etto yn ieuangc, cyn fy nhwy∣llo, * 1.1193 mi a ofynnais ddoethineb yn eglur yn fy ngweddi.
14 O flaen y Deml y gweddiais i am dani hi, a hyd y diwedd y ceisiaf hi.
15 Ie o'r blodeuyn, nes addfedu y grawnwin, yr ymhyfrydodd fy nghalon ynddi, fy nrhoed a rodiodd yn vniawn, mi a'i holrheiniais hi o'm hieuengtid.
16 Mi a ostyngais ychydig ar fy nghlust, ac a'i derbyniais [hi,] ac a gefais lawer o ddysc.
17 Mi a euthym rhagof ynddi hi, [am hynny] i'r hwn a roddes i mi ddoethineb, y rhoddaf fi y gogoniant.
18 Oblegit mi a roddais fy mrŷd ar wneuthur ar ei hôl hi, a dilyn daioni, ac felly ni'm gwradwyddir.
19 Fy enaid a ymdrechodd â hi, ac mi a fum ddiwyd yn fy ngweithredoedd, mi a estynnais fy nwylo tu a'r nêf i fynu, ac ‖ 1.1194 a ddeellais beth oedd fod heb ei hadnabod hi.
20 Mi a gyfarwyddais fy enaid atti hi, ac a'i cefais hi mewn puredd; cefais fy nghalon wedi ei chyssylltu â hi o'r dechreu∣ad, am hynny ni'm gwrthodir.
21 Fy nghalon a gafodd helbul yn ei cheisio hi: am hynny mi a gefais gyfoeth da.
22 Yr Arglwydd a roddes dafod yn wobr i mi, ac mi a'i moliannaf ef â hwnnw.
23 Nessewch attafi, ô annyscedic, ac ar∣hoswch yn nhŷ athrawiaeth.
24 Pa ham yr ydych chwi yn ‖ 1.1195 oedi? neu beth a ddywedwch chwi am hyn, gan fod ar eich eneidiau chwi syched mor ddir∣fawr?
25 Mi a egorais fy ngenau, ac a leferais? * 1.1196 prynwch [hi] i chwi heb arian.
26 Gostyngwch eich gyddfau tan yr iau, a derbynied eich enaid athrawiaeth; ‖ 1.1197 hawdd yw ei chael hi.
27 * 1.1198 Gwelwch â'ch llygaid ‖ 1.1199 gymeryd o honofi boen: a chael o honofi i'm fy hun esmwythdra mawr.
28 Mynnwch gyfran o addysc, am nifer mawr o arian, a meddiennwch aur lawer trwyddi hi.
29 Llawenyched eich calon yn ei druga∣redd ef, ac na fydded yn gywilydd gennych ei foliannu ef.
30 Gwnewch eich gwaith mewn prŷd, ac efe a rydd i chwi eich gwobr yn ei amser.
Page [unnumbered]
❧ BARVCH.
PEN. I.
1 Baruch wedi scrifennu llyfr yn Babylon; 5 a'r modd yr wylodd yr Iuddewon oedd yno, wrth glywed ei ddarllein ef. 7 Yr Iuddewon yn danfon arian, a'r llyfr hefyd i'r brodyr yn Ierusalem.
DYmma hefyd eiriau y llyfr a scrifennodd Ba∣ruch mab Nerias, fab Maasias, fab Sede∣cias, fab Asadias, fab Chelcias, yn Babi∣lon:
2 Yn y bummed flwyddyn, ar y seithfed [dydd] o'r mîs, yr amser yr ennillodd y Caldeaid Ierusalem, ac y lloscasant hi â thân.
3 A Baruch a ddarllennodd eiriau y llyfr hwn lle y clywei Iechonias mab ‖ 1.1200 Ioachim, brenin Iuda, a lle y clywei yr holl bobl, y rhai a ddaethei i [wrando] y llyfr:
4 A lle y clywei yr holl gedyrn, a holl feibion y brenin, a lle y chywei yr henu∣riaid, a lle y clyŵai yr holl bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf, y rhai oll oedd yn trigo yn Babilon, wrth afon Sud.
5 A hwy a ŵylasant, ac a ymprydiasant, ac a ‖ 1.1201 weddiasant ger bron yr Arglwydd.
6 Hwy a gasclasant arian hefyd yn ôl gallu pawb:
7 Ac a'i anfonasant i Ierusalem at ‖ 1.1202 Ioa∣chim yr offeiriad fab Chelcias, fab Salom, ac at yr holl offeiriaid [eraill,] ac at yr holl bobl a geffid gyd â hwynt yn Ierusalem.
8 Y prŷd hynny pan dderbyniodd ef lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasid o'r Deml, iw dwyn drachefn i wlâd Iuda, y decfed [dydd] o fîs Sifan, [sef] llestri arian, y rhai a wnaethei Sedecias mab Iosias brenin Iuda.
9 Wedi caeth-gludo o Nabuchodonosor brenin Babilon Iechonias a'r tywysogion, a'r ‖ 1.1203 carcharorion, a'r cedyrn, a phobl y wlâd o Ierusalem, a'i dwyn hwynt i Babilon.
10 A hwy a ddywedasant, wele ni a an∣fonasom attoch chwi arian: prynwch chwi∣thau â'r arian offrymmau poeth, ac [aber∣thau] tros bechod, ac arogl-darth, a darper∣wch ‖ 1.1204 fwyd offrwm, ac offrymmwch ar allor yr Arglwydd ein Duw ni,
11 A gweddiwch tros hoedl Nabuchodo∣nosor brenin Babilon, a thros hoedl Baltha∣sar ei fab ef, ar fod eu dyddiau hwynt ar y ddaiar, fel dyddiau y nefoedd.
12 Ac ar roddi o'r Arglwydd i ni nerth, a goleuo o honaw ef ein llygaid ni, fel y by∣ddom ni byw tan gyscod Nabuchodonosor brenin Babilon, a than gyscod Balthasar ei fab ef, ac y gwasanaethont hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafor yn eu golwg hwynt.
13 Gweddiwch hefyd trosom ni at yr Ar∣glwydd ein Duw, o herwydd ni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, ac ni thrôdd ei lid a'i ddîg ef oddi wrthym ni etto.
14 Darllennwch hefyd y llyfr ymma a anfonasom ni attoch, iw draethu yn nhŷ yr Arglwydd, ar ddyddiau gwylion, ac ar ddy∣ddiau vchel;
15 A dywedwch, yr * 1.1205 Arglwydd ein Duw ni sydd gyfiawn, i ninnau y [perthyn] gwar∣thrudd goleu, fel [y mae] heddyw i ddynion [Iuda,] ac i drigolion Ierusalem,
16 Ac i'n brenhinoedd, ac i'n tywysogi∣on, ac i'n hoffeiriaid, ac i'n Prophwydi, ac i'n tadau.
17 Canys ni a * 1.1206 bechasom ger bron yr Arglwydd ein Duw,
18 Ac a anghredasom iddo ef, ac ni wran∣dawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei orchymynion ef, y rhai a roddes efe o'n blaen ni:
19 Er y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau ni o dîr yr Aipht hyd y dydd hwn, ni a fuom anufydd i'r Arglwydd ein Duw, ac a fu∣om esceulus heb wrandaw ar ei lais ef.
20 * 1.1207 Am hynny y glynodd drwg wrthym ni, a'r felldith a ordeiniodd yr Arglwydd wrth Moses ei wâs, y dydd y dug yr Ar∣glwydd ein tadau ni allan o dîr yr Aipht, i roddi i ni dîr yn llifeirio o laeth a mêl, fel [y gwelir] heddyw.
21 Ond ni wrandawsom ni ar lais yr Arglwydd ein Duw, yn ôl holl eiriau y Prophwydi, a anfonodd efe attom ni:
22 Eithr ni a rodiasom bob vn wrth fe∣ddwl ei galon ddrygionus ei hun, gan wasa∣naethu duwiau dieithr, a gwneuthur dry∣gioni yngolwg yr Arglwydd ein Duw.
PEN. II.
1 Y weddi a'r gyffes a wnaeth yr Iuddewon yn Babylon, ac a ddanfonasant hwy yn y llyfr a scrifennasai Baruch, at eu brodyr yn Ieru∣salem.
Page [unnumbered]
AM hynny y cyflawnodd yr Arglwydd ei air a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barn-wŷr, y rhai a farnent Israel, ac yn erbyn ein brenhinoedd, ac yn erbyn ein tywysogion, ac yn erbyn gwŷr Israel a Iuda,
2 Gan ddwyn arnom ni ddryg-fyd mawr, y fath ni bu tan y nefoedd oll, fel y mae yn Ierusalem, yn ôl yr hyn a scrifennwyd yng∣hyfraith Moses:
3 * 1.1208 Y bwytaei dyn gnawd ei fab ei hun, a chnawd ei ferch ei hun.
4 Efe a'i rhoddes hwynt hefyd i fôd tan law yr holl deyrnasodd sydd o'n hamgylch ni, i fod yn wradwyddus, ac yn anghyfan∣nedd ym mysc yr holl bobloedd sydd o'n hamgylch, lle y gwascarodd yr Arglwydd hwynt.
5 Felly i'n ‖ 1.1209 dygwyd ni i wared, ac nid i fynu, am bechu o honom yn erbyn yr Argl∣wydd ein Duw, heb wrando ar ei lais ef.
6 Ein Harglwydd Dduw ni sydd gyfi∣awn: * 1.1210 i ninnau, ac i'n tadau [y perthyn] gwarthrudd goleu, fel [y gwelir] heddyw.
7 Canys yr holl ddrygau hyn a ddaeth ar∣nom ni, y rhai a draethodd yr Arglwydd yn ein herbyn ni.
8 Ac ni weddiasom ni ger bron yr Argl∣wydd, ar droi o bob vn oddi wrth feddyliau eu calon ddrygionus.
9 Am hynny y gwiliodd yr Arglwydd ar∣nom ni am ddrygfyd, ac a'i dug arnom: oble∣git cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl wei∣thredoedd, y rhai a orchymynnodd efe i ni.
10 Ond ni wrandawsom ni ar ei lais ef, i rodio yn ei orchymynion ef, y rhai a roddes efe o'n blaen ni.
11 * 1.1211 Ac yn awr, ô Arglwydd Dduw Is∣rael, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o dir yr Aipht trwy law gadarn, trwy arwyddi∣on a rhyfeddodau, a thrwy allu mawr, a braich estynnedic, ac a wnaethost it enw, fel [y gwelir] heddyw.
12 O ein Harglwydd Dduw, nyni a be∣chasom, a fuom annuwiol, ac a wnaethom yn anghyfiawn yn dy holl ordeiniadau di.
13 Troer [attolwg] dy lid oddi wrthym ni; o herwydd ychydig a adawed o honom ni ym mysc y cenhedloedd, lle y gwasceraist ni.
14 Gwrando Arglwydd, ein gweddi, a'n deisyf, a rhyddhâ ni er dy fwyn dy hun, a gwna i ni gael ffafr yngolwg y rhai a'n caethgludasant ni,
15 Fel y gŵypo yr holl ddaiar mai ti yw yr Arglwydd ein Duw ni, o herwydd ‖ 1.1212 mai dy enw di a elwir a'r Israel a'i genedl.
16 Edrych i lawr Arglwydd, o'th dŷ sanct∣aidd, * 1.1213 meddwl am danom ni, gostwng dy glust ô Arglwydd, a gwrando.
17 Agor dy lygaid a gwêl, o herwydd nid y meirw yn y bêdd, y rhai y dygwyd eu ‖ 1.1214 he∣neidiau allan o'i cyrph a * 1.1215 roddant na gogo∣niant na chyfiawnder i'r Arglwydd:
18 Eithr yr enaid, yr hwn sydd athrist iawn, yr hwn sydd yn cerdded yn grwm, ac yn llesc: a'r llygaid palledic, a'r enaid ne∣wynog, a roddant ogoniant a chyfiawnder i ti, ô Arglwydd.
19 Oblegit hynny nid am gyfiawnder ein * 1.1216 tadau a'n brenhinoedd, yr ydym ni yn ty∣wallt ein gweddi ger dy fron di, ein Hargl∣wydd Dduw,
20 Canys tydi a anfonaist dy lid a'th ddigofaint arnom ni, fel y dywedaist trwy law dy weision y Prophwydi, gan ddy∣wedyd;
21 * 1.1217 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, go∣styngwch eich yscwyddau [a'ch gwarrau,] a gwasanaethwch frenin Babylon, a chwi a gewch aros yn y wlâd, yr hon a roddais i i'ch tadau chwi.
22 Ac oni wrandewch ar lais yr Argl∣wydd, i wasanaethu brenin Babylon,
23 Mi a ddygaf ymmaith o ddinasoedd Iuda, ac allan o Ierusalem lais gorfoledd, a llais llawenydd, llais priod-fab, a llais priod-ferch, a'r holl wlâd a fydd anghyfan∣nedd heb drigolion.
24 Ond ni wrandawsom ni ar dy lais di, i wasanaethu brenin Babylon; am hynny y cyflawnaist ti dy eiriau, y rhai a leferaist trwy ‖ 1.1218 wenidogaeth dy weision y Proph∣wydi, [sef] y dygid escyrn ein brenhinoedd, ac escyrn ein tadau o'i lle.
25 Ac wele, hwy a daflwyd allan i wrês y dydd, ac i rew y nôs, ac a fuant feirw mewn gofid mawr, trwy newyn, a chleddyf, a haint y nodau.
26 Gosodaist hefyd y tŷ lle y gelwid ar dy Enw, fel y gwelir ef heddyw, am ddrygioni tŷ Israel, a thŷ Iuda.
27 A thi a wnaethost â ni o Arglwydd ein Duw, yn ôl dy holl larieidd-dra, ac yn ôl dy fawr drugaredd oll.
28 Fel y lleferaist trwy dy wâs Moses, y dydd y gorchymynnaist ti iddo ef scrifennu dy Gyfraith di, o flaen meibion Israel, gan ddywedyd,
29 * 1.1219 Oni wrandewch chwi ar fy llais i, ‖ 1.1220 y dyrfa fawr luosoc hon a droir yn ddiau yn ychydic, ym mysc y cenhedloedd, lle y gwas∣caraf fi hwynt.
30 Oblegid mi a wyddwn na wranda∣went hwy arnafi: oblegit pobl war-galed ydynt hwy: eithr yn y tir lle y caethgludir hwynt, y meddyliant am danynt eu hun,
31 Ac y gwybyddant mai myfi yw eu Harglwydd Dduw hwynt, ac mi a roddaf iddynt hwy galon a chlustiau i wrando.
32 Yna i'm moliannant i yn y wlâd, lle y caeth-gludir hwynt, ac y cofiant fy Enw i,
33 Ac y troant oddiwrth eu ‖ 1.1221 gwar galed a'i drwg weithredoedd, oblegit ‖ 1.1222 mi a gofiaf ffordd eu tadau, y rhai a bechasant yngŵydd yr Arglwydd.
34 Felly y dygaf hwy drachefn i'r tir, yr hwn trwy lw a addewais i iw tadau hwynt, i Abraham, i Isaac, ac i Iacob, a hwy ‖ 1.1223 a'i meddiannant, ac mi a'i hamlhâf hwynt, ac ni's lleiheir hwynt.
Page [unnumbered]
35 Ac mi a wnaf â hwynt gyfammod tra∣gywyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, a hwythau a fyddant yn bobl i mi, ac ni sy∣mudaf mwyach fy mhobl Israel o'r tîr a ro∣ddais iddynt hwy.
PEN. III.
1 Y rhan arall o weddi a chyffes yr Iddewon, y rhai oedd yn y llyfr a scrifennasai Ba∣ruch, ac a anfonasai i Ierusalem. 30 Doe∣thineb a ddangoswyd gyntaf i Iacob, ac a welwyd ar y ddaiar.
O Arglwydd holl-alluog, Duw Israel, y mae yr enaid [sydd] mewn ing, a'r yspryd cy∣studdiol, yn llefain arnat ti.
2 Clyw Arglwydd, a thru∣garhâ, oblegit Duw trugaroc ydwyt ti: cymmer drugaredd, oblegit nyni a bechasom i'th erbyn.
3 O herwydd yr ydwyt ti yn aros byth, a derfydd am danom ninnau yn llwyr.
4 O Arglwydd holl-alluog, Duw Israel, gwrando ar weddiau yr Israeliaid meirw, a'u meibion hwynt, y rhai a bechasant i'th erbyn di, ac ni wrandawsant ar lais yr Ar∣glwydd eu Duw, am ba achos y glynodd y drygau hyn wrthym ni.
5 Na chofia anwireddau ein tadau ni, eithr cofia dy allu, a'th enw dy hun y prŷd hyn.
6 O herwydd tydi [yw] ein Harglwydd Dduw ni, a thydi ô Arglwydd, a foliannwn ni.
7 Oblegit er mwyn hyn y rhoddaisti dy ofn yn ein calonnau ni, [sef] er mwyn galw [o honom ni] ar dy enw di, a'th foliannu yn ein caethiwed; oblegid * 1.1224 ni a gofiasom holl an∣wiredd ein tadau, y rhai a bechasant ger dy fron di.
8 Wele ni etto yn ein caethiwed, lle y gwasceraist ti nyni yn wradwydd ac yn fell∣dith, ac i fod tan drêth, yn ôl holl anwiredd∣au ein tadau, y rhai a giliasant oddi wrth yr Arglwydd ein Duw ni.
9 Clyw ô Israel orchymynion y bywyd, gwrando i gael gwybod doethineb.
10 Pa ham Israel yr ydwyt ti yn nhir dy elynion? yr heneiddiaist mewn gwlad ddi∣eithr? [ac] i'th halogwyd gan y meirw?
11 [Pa ham] i'th gyfrifwyd gyd â'r rhai [a aethant] i'r bêdd?
12 Tydi a adewaist ffynnon doethineb.
13 Pe rhodiessit ti yn ffordd Duw, ti a drigesit mewn heddwch byth.
14 Dysc pa le y mae doethineb, pa le y mae grymmusdra, pa le y mae deall, i gael gwy∣bod hefyd pa le y mae hir hoedl, ac enioes, pa le y mae goleuni llygaid, a thangneddyf.
15 * 1.1225 Pwy a gafodd ei lle hi? a phwy a aeth i mewn iw thryssorau hi?
16 Pa le y mae tywysogion y cenhedloedd, â llywodraeth-wŷr yr anifeiliaid sydd ar y ddaiar?
17 Y rhai oedd yn chwarae ag adar y nefoedd, ac yn tyrru ariau, ac aur, yn yr hwn yr ymddiried dynion, ac ni wnaent ddi∣ben ar geisio.
18 Canys y rhai a ‖ 1.1226 fathent arian, a [hynny] mor ofalus, a'u gwaith yn an∣chwiliadwy,
19 Hwy a ddiflannasant, ac a ddescynna∣sant i'r bêdd: a rhai eraill a gododd yn eu lle hwynt.
20 Yn ieuaingc y gwelsant hwy oleuni, ac a drigasant ar y ddaiar: ond nid adnabu∣ant hwy ffordd gwybodaeth.
21 Ei llwybrau hi ni ddeallasant chwa∣ith, ac nid ymafelasant ynddi: pell oedd eu plant oddi ar y ffordd honno.
22 Ni chlywyd sôn am dani hi yn Ca∣naan, ac ni welwyd hi yn Theman.
23 Yr Agareniaid, y rhai sydd yn ceisio deall ar y ddaiar, a marchnadwyr Merran a Theman, ‖ 1.1227 dychymmygwyr chwedleu, ac yn ceisio deall, ond nid adwaenei vn o'r rhai hyn ffordd doethineb, ac ni chofiasant ei llwybrau hi.
24 O Israel, mor fawr yw tŷ Dduw! ac mor helaeth yw lle ei feddiant ef!
25 Mawr [yw efe,] ac nid oes diwedd iddo: vchel yw efe, ac anfeidrol.
26 Yna yr oedd y cawri enwoc gynt, y rhai oedd yn gorphol, ac yn medru rhy∣fela.
27 Nid y rhai hynny a ddewisodd Duw, ac ni roddes iddynt ffordd gwybodaeth.
28 Eithr difethwyd hwy, am nad oedd ganddynt ddoethineb: a thrwy eu hynfy∣drwydd y methasant hwy.
29 Pwy a ddringodd i'r nefoedd, ac a'i cymmerodd, ac a'i dûg hi i wared o'r cwm∣mylau?
30 Pwy a aeth tros y môr, ac a'i cafodd hi, ac a'i dug hi am aur o'r goreu?
31 Nid oes neb yn adnabod ei ffordd hi, nac yn ystyried ei llwybr hi.
32 Ond yr hwn a wyr bob peth, a'i hed∣wyn hi, [a] thrwy ei ddoethineb a'i cafodd hi: yr hwn a ddarparodd y ddaiar tros am∣ser tragywyddol, a'i llanwodd hi ag anifei∣liaid pedwar-carnol.
33 Yr hwn sydd yn anfon goleuni allan, ac fe a â: yn ei alw ef yn ei ôl, ac ynteu yn vfyddhâu mewn ofn.
34 Y sêr a oleuasant yn eu gwiliadwri∣aethau yn llawen: efe a'i galwodd hwynt, a hwy a ddywedasant, dymma ni, goleua∣sant yn llawen i'r hwn a'i gwnaeth hwynt.
35 Dymma ein Duw ni, na chyffelyber [neb] arall iddo ef.
36 Efe a gafodd allan bob ffordd gwybo∣daeth, ac a'i rhoddes hi i Iacob ei was, ac i Israel ei anwylyd.
37 * 1.1228 Wedi hyn yr ymddangosodd efe ar y ddaiar, ac y trigodd efe ym mysc dynion.
PEN. IIII.
1 Llyfr y Gorchymmynion yw 'r doethineb a ganmolwyd yn y bennod o'r blaen. 25 An∣nog yr Iddewon i ammynedd, ac i obeithio yr ymwared.
Page [unnumbered]
DYmma lyfr gorchymynion Duw; a'r Gyfraith a bery byth: y rhai oll a'i cadwant hi [a ddeuant] i fywyd, a'r rhai a'i gadawant hi a fyddant feirw.
2 Dychwel Iacob, ac ymafael ynddi hi: rhodia mewn goleuni wrth ei llewyrch hi.
3 Na ddot dy ogoniant i arall: na'r pe∣thau buddiol i genhedl ddieithr.
4 Gwyn ein byd ni Israel, am fod yn hys∣pys i ni y pethau a ryglyddant fodd i Dduw.
5 O fy mhobl, coffadwriaeth Israel, cymmer gyssur.
6 Chwi a werthwyd i'r cenhedloedd, nid i'ch difetha; ond o herwydd i chwi annog Duw i ddig, y rhoddwyd chwi i'r gelynion.
7 O * 1.1229 herwydd chwi a ddigiasoch yr hwn a'ch gwnaeth chwi, gan offrymmu i gy∣threuliaid, ac nid i Dduw.
8 Anghofiasoch Dduw tragywyddol, yr hwn a'ch cenhedlodd chwi: a'ch mammaeth Ierusalem a wnaethoch chwi yn drist.
9 Oblegit hi a welodd y dig oedd yn dyfod arnoch chwi, ac a ddywedodd, gwran∣dewch cymydogion Sion, dygodd Duw ar∣nafi dristwch mawr.
10 O herwydd mi a welais gaethiwed fy meibion a'm merched, yr hon a ddug y tra∣gywyddol [Dduw] arnynt hwy.
11 Canys yn llawen y megais i hwynt: eithr trwy wylofain a thristwch y danfo∣nais hwynt ymmaith.
12 Na lawenyched neb o'm plegit i, yr hon ydwyf weddw, ac a wrthododd llawer: anghyfannedd ydwyfi, o achos pechodau fy mhlant, am gilio o honynt hwy oddi wrth Gyfraith Dduw.
13 Nid adnabuant hwy ei gyfiawnder ef, ac ni rodiasant yn ffyrdd gorchymynion Duw, ac ni sathrasant lwybrau ‖ 1.1230 dysc yn ei gyfiawnder ef.
14 Deued cymmydogion Sion, cofiwch gaethiwed fy meibion i a'm merched, yr hon a ddug y tragywyddol [Dduw] arnynt hwy.
15 O herwydd efe a ddug yn ei herbyn hwynt genhedl o bell, cenhedl ddigywilydd, ac estron-ieithus: y rhai ni pharchent yr hên, ac ni thosturient wrth y dŷn bâch;
16 Ac a ddygasant ymmaith anwyl∣blant y weddw, ac a wnaethant yr vnic yn ymddifad heb ferched.
17 A pha help a allaf fi i chwi?
18 Oblegit yr hwn a ddug adfyd ar∣noch chwi, a'ch gwared chwi o law eich gelynion.
19 Ymmaith a chwi, ymmaith a chwi [fy] mhlant, oblegit fo'm gadawyd i yn anghy∣fannedd.
20 Mi a ddioscais wisc ‖ 1.1231 tangneddyf, ac a wiscais sachliain fy ngweddi: ‖ 1.1232 tra fydd∣wyf * 1.1233 fi byw y llefaf ar [Dduw] tragy∣wyddol.
21 Cymmerwch gyssur blant, llefwch ar yr Arglwydd, ac efe a'ch gwared chwi oddi wrth gadernid a dwylo eich gelynion.
22 O herwydd y mae gennif fi obaith yn y Tragwyddol o'ch iechydwriaeth chwi, ac fe ddaeth i mi lawenydd oddi wrth yr hwn sydd Sanctaidd, o herwydd y drugaredd, yr hon a ddaw i chwi yn fuan gan ein tragy∣gyddol Iachawdwr ni.
23 O blegit trwy dristwch ac wylofain, y danfonais chwi allan, eithr Duw a'ch rhydd chwi i mi drachefn trwy lawenydd a hyfrydwch byth.
24 Megis ynawr y gwelodd cymydogi∣on Sion eich caethiwed chwi, felly ar fyrder y gwelāt hwy eich iechydwriaeth chwi oddi wrth eich Duw, yr hon a ddaw i chwi trwy ogoniant mawr a discleirdeb y Tragywy∣ddol.
25 O [fy] mhlant, cymmerwch yn ddio∣ddefgar y digter a ddaeth arnoch chwi oddi wrth Dduw; o herwydd y gelyn a'th erli∣diodd di, eithr ar fyrder ti a gei weled ei ddi∣nistr ef, ac a sethri ar ei wddf ef.
26 Fy ‖ 1.1234 anwylyd a aethant rhyd ffyrdd geirwon, hwy a ddygpwyd ymmaith fel praidd yr hwn a sclyfaethai gelynion.
27 Cymmerwch gyssur fy mhlant, a ge∣lwch ar Dduw: oblegid y mae yr hwn a ddug y pethau hyn arnoch chwi, yn me∣ddwl am danoch chwi.
28 Megis y bu eich meddwl chwi ar gy∣feiliorni oddiwrth Dduw, felly gan i chwi droi, bydded yn ddec mwy ar i geisio ef.
29 Oblegit yr hwn a ddug y drygau hyn arnoch chwi, a ddwg i chwi gyd â'ch iechy∣dwriaeth, lawenydd tragywyddol.
30 Cyntmer gyssur Ierusalem, y mae yr hwn a'th henwodd di yn dy gyssuro.
31 Gwae y rhai a wnaethant niwed i ti, ac a fu lawen ganddynt dy gwymp di.
32 Gwae y dinasoedd y gwnaeth dy blant di wasanaeth iddynt, gwae yr hon a gymmerodd dy feibion di.
33 Oblegit megis y mae yn llawen gan∣ddi dy gwymp di, ac yn hyfryd ganddi dy dramgwydd di; felly y bydd hi athrist o ble∣git ei hanghyfannedd-dra ei hun.
34 Canys mi a dorraf ymmaith lawe∣nydd ei lliaws mawr hi, a'i ffrôst hi a fydd yn dristwch.
35 O herwydd tân a ddaw arni hi tros hir ddyddiau, oddi wrth [Dduw] tragywy∣ddol, a chythreuliaid a breswyliant ynddi amser mawr.
36 Edrych ô Ierusalem, tu a'r dwyrain, a'gwel yr hyfrydwch sydd yn dyfod i ti gan Dduw.
37 Wele y mae dy feibion, y rhai a anfo∣naist ymmaith yn dyfod, y maent hwy yn dyfod wedi eu casclu o'r dwyrain hyd y gor∣llewin, trwy air yr hwn sydd sanctaidd, gan lawenychu yngogoniant Duw.
PEN. V.
1 Annog Ierusalem i lawenychu, 5 ac i edrych ar eu gwared o gaethiwed trwy ogoniant.
O Ierusalem, diosc wisc dy alar a'th dristwch, a gwisc harddwch y go∣goniant sydd oddiwrth Dduw, yn dragywydd.
Page [unnumbered]
2 Gwisc am danat wisc ddau ddyblyc y cyfiawnder sŷdd o Dduw, a gosod ar dy ben goron gogoniant y Tragywyddol.
3 O blegit Duw a ddengys dy ddis∣clairdeb di i bob [cenhedl] tan y nefoedd.
4 Canys Duw a eilw dy enw di byth, he∣ddwch cyfiawnder, a gogoniant duwioldeb.
5 Cyfot Ierusalem, a saf yn vchel, ac edrych tu a'r dwyrain, a gwel dy blant wedi eu casclu o fachludiad haul hyd ei godiad, trwy air yr hwn sydd sanctaidd, [ac] yn llawen ynghoffadwriaeth Duw.
6 Ar eu traed yr aethant hwy oddi wrthit ti, a'i gelynion a'i dygasant hwynt ymmaith: eithr Duw a'i dwg hwynt attat ti, wedi eu derchafu mewn gogoniant, fel meibion y frenhiniaeth.
7 O blegit Duw a ordeiniodd ostwng pob mynydd vchel, a'r bryniau tragy∣wyddol, a llenwi y pantoedd i wastattâu y ddaiar, fel y gallo Israel rodio yn ddiogel, yngogoniant Duw.
8 Y coedydd a phob pren arogl-bêr a fu∣ant gyscod i Israel wrth orchymmyn Duw.
9 O herwydd Duw a arwain Israel yn llawen yngoleuni ei ogoniant èf, ynghyd â'r drugaredd, a'r cyfiawnder, yr hwn sydd oddi wrtho ef.
EPISTOL IEREMI. PEN. VI.
1 Pechodau 'r bobl yw achos y caethiwed. 3 Ofered delwau a delw-addoliaeth Babilon.
COpi o'r llythyr a anfonodd Ieremi at y rhai a gaethgludei brenin y Ba∣biloniaid i Babilon, i fynegi iddynt hwy yr hyn a orchymynnasei Duw iddo ef.
2 Oblegid y pechodau a wnaethoch chwi gar bron Duw, y dwg Nabuchodonosor bre∣nin Babilon chwi'n garcharorion i Babilon.
3 Felly pan ddeloch chwi i Babilon, chwi a fyddwch yno flynyddoedd lawer, ac amser hir, hyd saith o genhedlaethau: wedi hynny mi a'ch dygaf chwi allan oddi yno mewn heddwch.
4 * 1.1235 Yna y gwelwch yn Babilon, dduwiau arian, ac aur, a phreniau, y rhai a ddygir ar yscwyddau, ac a yrrant ofn ar y cenhedloedd.
5 Gwiliwch chwithau rhag bod yn de∣byg i'r dieithraid, ac ofni o honoch chwithau hwynt, pan weloch chwi y cenhedloedd yn eu haddoli hwynt o'i blaen ac o'i hôl.
6 Dywedwch chwithau yn eich meddwl, tydi ô Arglwydd sydd raid i ni ei addoli.
7 Canys fy Angel i a fydd gyd â chwi, a minneu a ymorolaf am eich eneidiau chwi.
8 Y saer a drwsiodd eu tafod hwynt, hwy∣thau wedi eu goreuro, a'i gorchuddio ag arian, er hynny pethau gau ydynt, ac ni allant lefaru.
9 Hwy a gymmerant aur, ac a'i gwei∣thiant megis i langces yn hoffi gwychder, yn goronau ar bennau eu duwiau.
10 Ac weithieu y dwg yr offeiriaid aur ac arian oddi ar eu duwiau, ac a'i treuliant ar∣nynt eu hun.
11 Rhoddant hefyd o honynt hwy i'r put∣teiniaid cyhoedd, ac a'u trwssiant hwynt mewn gwiscoedd megis dynion, [sef] y du∣wiau o arian, ac aur, a phrennau.
12 Etto ni allant ymachub oddi wrth rwd a phryfed, er eu gwisco â phorphor.
13 Hwy a sychant eu hwyneb hwy, oble∣git y llwch yn y ‖ 1.1236 tŷ, ‖ 1.1237 yr hwn fydd yn fawr arnynt.
14 [Gan vn o honynt hwy] y bydd teyrn∣wialen; fel gŵr yn barnu gwlâd: ond ni ddi∣chon efe ladd yr hwn a becho yn ei erbyn.
15 [Gan arall] y bydd cleddyf, neu fwyall, yn ei law ddehau, er hynny ni ddichon efe ei wared ei hun rhag rhyfel neu ladron.
16 Wrth hyn amlwg yw nad ydynt hwy dduwiau, am hynny nac ofnwch hwynt.
17 O herwydd megis y mae llestr dyn, we∣di ei dorri, heb dalu dim, felly y mae eu duwi∣au hwynt: wedi eu gosod hwynt mewn ‖ 1.1238 tai, traed y rhai a ddêl i mewn a leinw eu lly∣gaid hwynt o lwch.
18 Ac megis y cauir y ‖ 1.1239 cynteddoedd ar yr hwn a wnelo yn erbyn y brenin, megis ar vn wedi ei fwrw i farwolaeth, felly y mae yr offeiriaid yn cadw eu temlau hwynt â do∣rau, â throssolion, ac â chloiau, rhag i ladron eu hyspeilio hwynt.
19 Hwy a osodant ganhwyllau o'i blaen hwynt, fwy nag o'i blaen eu hun, ac ni allant hwy weled vn o honynt.
20 Y maent hwy fel vn o drowstieu y deml, ac etto yr ydys yn dywedyd, fod y seirph y rhai sy yn dyfod o'r ddaiar, yn ‖ 1.1240 cnoi eu ca∣lonnau hwynt, ac wrth eu bwyta hwynt, a'i gwiscoedd, nis gwyddant oddi-wrtho.
21 Y mae eu hwynebau hwynt wedi duo gan y mwg o'r deml.
22 Yr ystlummod, a'r gwennoliaid, a'r adar [eraill,] a hedant ar eu cyrph, a'i pennau hwynt, felly y cathod hefyd.
23 Wrth hyn y bydd hyspys i chwi nad du∣wiau ydynt: nac ofnwch chwithau hwynt.
24 O blegit yr aur sydd amdanynt hwy, yn harddwch iddynt, oni sych rhyw vn y rhŵd, ni ddiscleiria: a phan doddwyd hwynt, ni wybuant oddi wrth hynny.
25 Am ‖ 1.1241 bob gwerth y prynir hwy, y rhai nid oes anadl ynddynt.
26 Hwy o eisieu traed a ddygir ar yscwy∣ddau, * 1.1242 [felly] y maent hwy yn dangos i ddy∣nion ‖ 1.1243 eu gwaelder.
27 Mae yn gywilydd gan y rhai a'i gwa∣sanaethant hwy, o blegid os syrth [vn o ho∣nynt] hwy vn amser i lawr, ni chyfyd efe o honaw ei hun, ac os gesyd vn ef yn ei vn∣iawn sefyll, ni sylf ef o honaw ei hun, ac os gogwydda, ni all ef ymuniawni, eithr y maent yn rhoi ‖ 1.1244 rhoddion o'i blaen hwy me∣gis i rai meirw.
28 Y mae eu hoffeiriaid hwynt yn gwer∣thu eu haberthau hwynt, ac yn eu cam-ar∣fer: felly y mae eu gwragedd yn rhoddi i gadw mewn halen [beth] o honynt hwy, heb roddi dim i'r tlawd, a'r gwan.
29 Y mae y rhai mis-glwyfus, a'r rhai eti∣fyddoc, yn ‖ 1.1245 cyffwrdd â'i haberthau hwynt: * 1.1246 gwybyddwch wrth hynny nad duwiau ydynt, ac nac ofnwch hwynt.
Page [unnumbered]
30 Pa fodd gan hynny y gelwir hwynt yn dduwiau? ai am fod y gwragedd yn gosod [offrymmau] o flaen y duwiau ari∣an, ac aur, a phrenniau?
31 Y mae yr offeiriaid yn eistedd yn eu temlau hwynt, a'i gwiscoedd wedi eu rhwygo, a'i pennau, ac a'i barfau wedi eu heillio, ac yn bennoethion.
32 Y maent hwy yn rhuo, ac yn gwei∣ddi o flaen eu duwiau, fel rhai yngwledd y marw.
33 Y mae yr offeiriaid yn cymmeryd o'i gwiscoedd hwynt, ac yn dilladu eu gwra∣gedd a'i plant.
34 Os da os drwg a gânt hwy, ni allant hwy dalu y pwyth: ni allant na gwneu∣thur brenin, na'i ddiswyddo.
35 Yr vn modd ni allant roddi na chy∣foeth nac arian: os adduneda vn adduned heb ei thalu, ni's gofynnant hwy.
36 Ni allant waredu dyn oddi wrth ang∣eu, nac achub y gwan rhag y cadarn.
37 Ni allant roddi ei olwg i'r dall dra∣chefn, ac ni allant waredu y dyn a fyddo mewn angen.
38 Ni ddangosant hwy drugaredd i'r weddw, ac ni wnânt ddaioni i'r ymddifad.
39 Fel y cerrig o'r mynydd ydyw eu [du∣wiau] pren hwynt, wedi eu goreuro a'i hariannu: y rhai a'i haddolant hwynt a wradwyddir.
40 Pa fodd gan hynny y meddylir, neu y dywedir eu bod hwynt yn dduwiau? a'r Caldeaid eu hunain yn eu dibrisio hwynt.
41 Y rhai pan welont vn heb fedru dy∣wedyd, ‖ 1.1247 a'i dygant ef at Bel, ac a ddeisy∣fiant beri iddo ef lefaru, fel pe gallei efe lefaru ei hun.
42 Ac er deall hyn, ni fedrant beidio â hwynt, am nad oes ganddynt ‖ 1.1248 synhwyr.
43 Y gwragedd, wedi eu gwregysu â rhe∣ffynnau, a eisteddant yn yr heolydd yn llosci eisin, yn lle arogl-darth, o's tynnir vn o honynt hwy gan ryw vn yn myned hei∣bio, a gorwedd o honi gyd ag ef, hi a edli∣wia iw chymmydoges na thybiwyd yn gystal o honno ac o honi hi, ac na thyn∣yd ei rheffyn hitheu.
44 Gau yw yr hyn oll a wnaed yn eu mysc hwy: pa fodd gan hynny y meddylir neu y dywedir mai duwiau ydynt hwy?
45 Seiri a gofaint aûr a'i gwnaethant hwy, ni allant fôd yn ddim, ond a fynno y crefftwr iddynt hwy fod.
46 Ni bydd hir hoedloc y rhai a'i gwnae∣thant hwy: pa fodd ynteu y bydd y pethau a wnelo y rhai hynny yn dduwiau?
47 Gadawsant gelwyddau a gwrad∣wydd, i'r rhai a ddeuant ar eu hol hwy.
48 Canys pan ddelo rhyfel neu ddrygau arnynt, yna y meddwl yr offeiriaid rhyng∣thynt a hwy eu hun, pa le yr ymguddi∣ant gyd â hwy.
49 Pa fodd gan hynny na ddeellir, nad ydynt hwy dduwiau, y rhai nid ymachu∣bant eu hunain rhag rhyfel a drygau?
50 * 1.1249 Gan mai preniau ydynt, ac aur ac arian wedi eu gosod arnynt: yspys lydd o hyn allan, mai ffûc ydynt;
51 Ac amlwg fydd i'r holl genhedloedd, a'r brenhinoedd, nad duwiau ydynt hwy: eithr gwaith dwylo dynion, heb ddim o waith Duw ynddynt.
52 Pwy gan hynny ni's gŵyr nad ydynt hwy dduwiau?
53 Ni osodant hwy frenin ar wlad, a glaw ni roddant i ddynion.
54 Nid ydynt hwy yn medru barnu matterion: ni allant hwy achub rhag cam, mor wan ydynt hwy, canys y maent fel brain rhwng nef a daiar.
55 Pan ddamweinio tân yn nheml y duwiau o goed, neu o aur, neu o arian wedi ei osod arnynt, yna eu hoffeiriaid hwynt a ffoant, ac a ddiangant: hwythau a loscant, fel y trawstiau, yn eu hannerau.
56 Ni wrthwynebant hwy frenin neu elynion, pa fodd gan hynny y gellir tybied neu ddywedyd mai duwiau ydynt hwy.
57 Y duwiau o breniau, ac wedi gosod arian, ac aur arnynt, ni allant ddiangc gan na lladron na gwilliaid.
58 Rhai cryfion a ddygant yr aur, a'r arian, a'r gwiscoedd, y rhai a fyddant am danynt hwy, ac wedi eu cael a ânt ymmaith, ac ni allant hwy help iddynt eu hunain.
59 Felly gwell yw bod yn frenin yn dang∣os ei gadernid, neu yn llestr buddiol mewn tŷ i'r peth yr arfero ei berchennoc ei, nag yn vn o'r gau-dduwiau: neu yn ddôr ar dy, yn cadw y pethau a fyddant ynddo, nag yn vn o'r cyfryw gau-dduwiau: neu yn golofnbren mewn brenhin-dŷ, nâ bod yn vn o'r gau∣dduwiau,
60 Canys yr haul, a'r sêr, a hwythau yn ddisclair, a'i hanfon i wneuthur ‖ 1.1250 lles, ydynt yn vfydd.
61 Felly y mae y fellten yn hawdd ei gweled, pan ymddangoso hi, ac yn yr vn môdd ‖ 1.1251 y gwynt a chwyth ym mhob gwlad.
62 A phan orchymynno Duw i'r cwmy∣lau fyned tros yr holl fŷd, hwy a gyflaw∣nant y gorchymmyn.
63 Pan anfoner y tân oddi vchod, i anrhei∣thio mynyddoedo a choedydd, efe a wna y gorchymmyn: ond y rhai hyn nid ydynt debig i'r rhai hynny, nac mewn prŷd, nac mewn gallu.
64 Am hynny ni ellir na meddwl na dy∣wedyd eu bod hwy yn dduwiau, gan na's gallant hwy na rhoddi barn, na gwneuthur lles i ddynion.
65 Gan eich bod yn a wr yn gwybod nad ydynt hwy dduwiau, nac ofnwch hwynt.
66 O blegit ni allant hwy na dywedyd, na melldithio, na bendithio brenhinoedd.
67 Ac ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd, ym mysc y cenhedloedd: na thywyn∣nu fel yr haul, na llewyrchu fel y lleuad.
68 Y mae yr anifeiliaid, y rhai a ffoant i ddiddos i gael achles iddynt eu hunain, yn well nâ'r rhai hyn.
69 Felly nid yw amlwg i ni trwy fodd yn y byd, eu bod hwy yn dduwiau: am
Page [unnumbered]
hynny nac ofnwch hwynt.
70 Megis mewn gardd lysiau nid yw yr hudwg yn cadw dim, felly y mae eu du∣wiau hwynt▪ o breniau, ac o aur, ac o arian wedi ei osod arnynt.
71 Eu duwiau hwynt o breniau, ac o aur, ac o arian wedi ei osod arnynt, ydynt fel yspydadden mewn perllan, ar yr hon y descyn pob aderyn, ac yn debyg i vn marw wedi ei fwrw mewn tywyllwch.
72 Wrth y porphor a'r gwychder sydd yn pydru am danynt hwy, y gellwch chwi wybod nad ydynt hwy dduwiau: hwythau o'r diwedd a yssir, ac a fyddant yn wrad∣wydd yn y wlad.
73 Am hynny gwell yw 'r gŵr cyflawn nid oes ganddo ddelwau; oblegit pell fydd efe oddi wrth wradwydd
❧ CAN Y TRI LLANGC sanctaidd: yr hon sydd yn canlyn y drydedd wers ar hugain o'r trydydd pennod i Ddaniel.
1 Gweddi a chyffes Azarias yn y fflam dân: 24 Yr hon a loscodd y Caldeaid oedd o am∣gylch y ffwrn; ac ni wnaeth niweid i'r tri llangc oedd yn y ffwrn. 28 Càn y tri llange oedd yn y ffwrn.
A Hwy a ro∣diasant yng∣hanol y fflā, gan folian∣nu Duw a bendithio 'r Arglwydd. Ac Azarias yn sefyll a weddiodd sel hyn, ac a agorodd ei enau ynghanol y tân, gan ddywedyd,
2 Bendigedig wyti ô Arglwydd Dduw ein tadau, ie camnoladwy a gogoneddus yw dy Enw yn dragywydd.
3 Canys cyfia wn wyt ti ym mhob peth a'r a wnaethost i ni: a'th holl weithredoedd sy gywir, dy ffyrdd hefyd sydd vniawn, a'th * 1.1252 holl farnau yn wîr.
4 A barnau gwirionedd a wnaethost yn yr holl bethau a ddugost arnom, ac ar ddi∣nas sanctaidd ein tadau, [sef] Ierusalem; o achos mewn gwirionedd a barn y dygaist hyn oll arnom o herwydd ein pechodau.
5 Canys pechasom, a gwnaethom yn anghyfreithlon, drwy ymwrthod â thydi,
6 Ac ym mhob peth ni a wnaethom ar fai a'th orchymmynion di ni wrandawsom arnynt, ac ni's cadwasom: ac ni wnaethom y modd yr archessit i ni, fel y byddei ddaio∣nus i ni.
7 A'r cwbl a'r a ddugost arnom, a chwbl a'r a wnaethost i ni, mewn gwir farn y gwnaethost oll:
8 Ac a'n rhoddaist yn nwylo gelynion di∣gyfraith, ac atcasaf wrthodwyr Duw, a bre∣nin anghysiawn gwaethaf ar yr holl ddaiar.
9 Ac yn awr ni allwn agori ein geneuau: yn gywilydd a gwradwydd i'n gwnaeth∣bwyd i'th weision di, a'r rhai a'th addolant.
10 Na fwrw ni ymmaith yn gwbl, er mwyn dy Enw, ac na ddiddymma dy gyfam∣mod;
11 Ac na thyn dy drugaredd oddi wrthym, er mwyn Abraham dy anwylyd: ac er mwyn Isaac dy wâs, ac Israel dy sanctaidd;
12 Y rhai y lleferaist wrthynt, gan ddy∣wedyd yr amlhait eu hâd hwynt fel sêr y nef, ac fel y tywod sydd ger llaw min y môr.
13 Etto Arglwydd, yr ydym wedi ein llei∣hau tu hwnt i bob cenhedlaeth, ac yr ydym heddyw wedi ein darostwng ym mhob gwlad am ein pechodeu:
14 Ac nid oes y pryd hyn, na phennaeth, na phrophwyd, na blaenor, na phoeth offrwm, nac aberth, nac offrwm, nac arogl, na lle i aberthu ger dyfron di, modd y gallem gael trugaredd.
15 Etto, [a ni] mewn enaid drylliedig, ac yspryd gostyngeiddrwydd, derbynier ni.
16 Megis pe bai poeth ebyrth hyrddod, a theirw, ac fel pe bai myrddiwn o ŵyn breisi∣on: felly heddyw bydded ein hoffrwm ni yn dy olwg di, a chaniattâ i ni yn gwbl dy ddilyn di: canys nid oes wradwydd i'r rhai a ymddiriedant ynot ti.
17 Ac yr awron y dilynwn di â'n holl ga∣lon, ac yr ofnwn di, ac y ceissiwn dy wyneb∣pryd.
18 Naddod ni yn wradwydd, eithr gwna â ni yn ôl dy addfwynder, ac yn ôl amlder dy drugaredd.
19 Ac achub ni yn ôl dy ryfeddodau ô Ar∣glwydd, a dod ogoniant i'th Enw, a chwily∣ddier hwynt oll a'r sy yn gwneuthur drwg i'th weision:
20 A gwradwydder hwynt ‖ 1.1253 yn eu holl gadernid a'i gallu, a dryllier eu nerth hwynt.
Page [unnumbered]
21 A gwybyddant mai tydi sydd Argl∣wydd, vnic Dduw, a gogoneddus tros yr holl fyd.
22 Ac ni pheidiodd gwenidogion y bre∣nin, y rhai a'i bwriasent hwynt [i mewn,] â phoethi 'r ffwrn ‖ 1.1254 â naphtha, â phŷg, â charth, ac â briwydd.
23 A'r fflam a daflodd vwch law yr ffwrn, naw cufydd a deugain.
24 A hi a ruthrodd ac a loscodd y Calde∣aid, y rhai a gyrrhaeddodd hi ynghylch y ffwrn.
25 Eithr Angel yr Arglwydd a ddescyn∣nodd i'r ffwrn gyd ag Azarias a'i gyfeillion, ac a yrrodd fflam y tân allan o'r ffwrn:
26 Ac a wnaeth ganol y ffwrn megis gwynt ‖ 1.1255 llaith yn sîo, fel na chyffyrddodd y tân â hwynt: ni ofidiodd, ac ni flinodd mo honynt.
27 Yna y tri megis o vn geneu a gan∣molasant, ac a glodforasant, ac a ogonedda∣sant Dduw, yn y ffwrn gan ddywedyd,
28 Bendigedig wyti, Arglwydd Dduw ein tadeu, i'th foliannu, ac i'th draderchafu yn dragywydd.
29 A bendigedig yw dy Enw gogoneddus a sanctaidd, ac iw foliannu, ac iw drader∣chafu yn dragywydd:
30 Bendigedig wyt yn Nheml dy sanc∣taidd ogoniant, a thrachanmoladwy a thra∣gogoneddus yn dragywydd.
31 Bendigedig wyti, yr hwn ydwyt yn gweled yr eigion, ac yn eistedd ar y Cherubi∣aid, a thrachanmoladwy a thraderchafadwy yn dragywydd.
32 Bendigedig wyt ar orsedd-faingc go∣goniant dy deyrnas, a thrachanmoladwy a thragogoneddus yn dragywydd.
33 Bendigedig wyti yn ffurfafen y nef∣oedd, a thrachanmoladwy, a gogoneddus yn dragywydd.
34 Oll weithredoedd yr Arglwydd, ben∣dithiwch yr Arglwydd: molwch a ‖ 1.1256 thrader∣chefwch ef yn dragywydd.
35 Angelion yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
36 * 1.1257 Y nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
37 Yr holl ddyfroedd goruwch y nef, ben∣dithiwch yr Arglwydd: molwch a thrader∣chefwch ef yn dragywydd.
38 Oll nerthoedd yr Arglwydd, bendithi∣wch yr Arglwydd: molwch a thraderchef∣wch ef yn dragywydd.
39 Yr haul a'r lloer, bendithiwch yr Ar∣glwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
40 Ser y nêf, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragy∣wydd.
41 Pob cafod a gwlith, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
42 Oll wyntoedd, bendithiwch yr Argl∣wydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
43 Tân a ‖ 1.1258 phoethni, bendithiwch yr Ar∣glwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
44 ‖ 1.1259 Oerni a gwrês, bendithiwch ŷr Ar∣glwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
45 Gwlith a ‖ 1.1260 rhew, bendithiwch yr Ar∣glwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
46 Nos a dydd, bendithiwch yr Argl∣wydd: molwch a thraderchefwch ef yn dra∣gywydd.
47 Goleuad a thywyllwch, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
48 Rhew ac oerfel, bendithiwch yr Ar∣glwydd; molwch a thradercheswch ef yn dragywydd.
49 Ia ac eira, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragy∣wydd.
50 Mellt a chwmylau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
51 Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled a thraderchafed hi ef yn dragywydd.
52 Mynyddoedd a bryniau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
53 Yr holl betheu sydd yn tyfu yn y ddai∣ar, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
54 Ffynhonneu, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd▪
55 Moroedd ac afonydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
56 Mor-filod, a chwbl oll a'r a symmud yn y dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
57 Oll ehediaid y nêf, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
58 Oll fwystfilod ac anifeiliaid, bendithi∣wch yr Arglwydd: molwch a thraderchef∣wch ef yn dragywydd.
59 Plant dynion. bendithiwch yr Argl∣wydd: molwch a thraderchefwch ef yn dra∣gywydd.
60 Bendithied Israel yr Arglwydd: mo∣led â thraderchafed ef yn dragywydd.
61 Offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
62 Gwasanaethwŷr yr Arglwydd, bendi∣thiwch yr Arglwydd: molwch a thrader∣chefwch ef yn dragywydd.
63 Ysprydion ac eneidieu 'r cyfiawn, ben∣dithiwch yr Arglwydd: molwch a thrader∣chefwch ef yn dragywydd.
64 Y rhai sanctaidd, ac a chalon ostynge∣dig, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd.
65 Ananias, Azarias, a Misael, bendithi∣wch yr Arglwydd: molwch a thraderchefwch ef yn dragywydd: Canys efe a'n achubodd ‖ 1.1261 o vffern, ac a'n cadwodd o law marwolaeth,
Page [unnumbered]
ac a'n gollyngodd o'r ffwrn, o ĝanol y fflam danllyd, ac a'n gwaredodd ni o ganol y tân.
66 Cyffesswch yr Arglwydd am ei fod yn ddaionus, am fod ei drugaredd yn dra∣gywydd.
67 Pawb oll ac sydd yn ofni 'r Argl∣wydd, bendithiwch Dduw 'r duwiau, mol∣wch ef, a chydnabyddwch fod ei druga∣redd ef yn dragywydd.
❧ HISTORIA SVSANNA, wedi ei neilltuo oddiwrth ddechreu Daniel, o herwydd nad ydyw yn Hebreaeg, megis nad yw 'r historia am ‖ 1.1262 Bel a'r Ddraig.
1 Rhieni a gwra Susanna. 5 Y ddau farnwr yn ei chwennychu hi, 16 ac yn ymguddio yn ei gardd hi, i geisio cael eu hewyllys arni hi, 28 ac am na's caent, yn achwyn arni hi, ac yn peri ei barnu hi yn euog o odineb: 46 a Daniel yn teimlo 'r matter drachefn, ac yn eu holi hwynt, ac ŷn eu cael yn euog.
YR oedd gŵr yn presswylid yn Babilon a'i enw Ioacim.
2 Ac efe a brio∣dodd wraig a'i henw Susanna, merch Chelcias, yr hon oedd lân iawn, ac yn ofni yr Arglwydd.
3 Ei rhieni hefyd oedd gyfiawn, ac a ddyscasent eu merch yn ôl Cyfraith Moses.
4 A Ioacim oedd gyfoethog iawn, ac iddo ef yr oedd gardd dêg yn gyfagos iw dŷ. At yr hwn yr ymgynhullei yr Iddewon, am ei fod efe yn anrhydeddusach nâ neb arall.
5 A'r flwyddyn honno y rhoddwyd dau henuriad o'r bobl yn farnwŷr, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd, mai o Babilon y daeth yr anwiredd, oddi wrth y barnwŷr hynaf, y rhai a gymmerent arnynt lywo∣draethu 'r bobl.
6 Y rhai hyn oedd yn ‖ 1.1263 aros yn nhŷ Ioa∣cim: ac attynt y tramwyei pawb oll a'r a ymgyfreithient.
7 A phan elai y bobl ymmaith ganol dydd, y byddei Susanna yn myned i rodio i ardd ei gŵr.
8 A'r ddau henuriad a'i gwelent hi be∣nydd yn myned i mewn, ac yn rhodio: ac yr oeddynt mewn chwant iddi hi.
9 A hwy a wyr-droesant eu meddwl eu hûn, ac a ostyngasant eu llygaid, fel na allent edrych tu a'r nefoedd, na chofio cy∣fiawn farnedigaethau.
10 Ac er eu bod ill deuoedd yn glwyfus o'i chariad hi, etto ni ddangosei 'r naill y gofid oedd arno i'r llall:
11 O herwydd bod yn wradwydd gan∣ddynt ddangos eu bod mewn chwant iw chorph hi.
12 A beunydd y disgwilient yn ddyfal am ei gweled hi.
13 A'r naill a ddywedodd wrth y llall: awn yn aŵr adref, o blegid y mae hi yn bryd ciniaw.
14 Yna 'r aethant allan, ac a ymad∣awasant y naill oddi wrth y llall: ac [er hynny] troi a wnaethant eilchwel, a dyfod i'r vn man, ac wedi ymofyn â'i gilydd yr achos, cyffessu a wnaethant bôb vn iw gi∣lydd eu chwant, ac yn vn-fryd llunio am∣ser, y gallent ei chael hi ei hunan.
15 Ac fel yr oeddynt yn disgwyl amser cyfaddas, Susanna a aeth i mewn, fel [yr arferei] ‖ 1.1264 o'r blaen, a dwy forwyn yn vnic gyd â hi, ar fedr ymolchi yn yr ardd, canys brŵd oedd [yr hin.]
16 Nid oedd neb yno onid y ddau henu∣riad, y rhai a ymguddiasent, ac oddynt yn ei disgwyl hi.
17 A hi a ddywedodd wrth ei morwyni∣on, dygwch i mi olew, a ‖ 1.1265 sebon, a cheuwch ddryssau 'r ardd, fel y gallwyf i ymolchi.
18 A'r morwynion a wnaethant fel yr archasei hi: ac wedi iddynt gau drysseu 'r ardd, hwy a aethant allan i ddrws dirgel, i gyrchu 'r petheu a archasid iddynt: eithr ni welsant mo'r henuriaid, o achos eu bod wedi ymguddio.
19 Ac fe ddarfu, wedi i'r morwynion fy∣ned allan, i'r ddau henuriad godi, a rhedeg atti hi, a dywedyd:
20 Wele ddrysseu 'r ardd yn gaead, fel na all neb ein gweled: yr ydym ni ein deuoedd mewn chwant i ti: tytuna â nyni, a gor∣wedd gyd â ni.
21 Os tydi ni wnei hynny, nyni a dy∣stiolaethwn yn dy erbyn, fod gŵr ieuangc gyd â thi; ac anfon o honot y morwynion ymmaith oddi wrthit am hynny.
22 Yna 'r ocheneidiodd Susanna gan
Page [unnumbered]
ddywedyd, yr ydwyf fi mewn cyfyngdra o'r ddeutu: os y peth hwn a wnafi, mar∣wolaeth yw i mi, os minneu ni's gwnaf, ni allaf fi ddiangc o'ch dwylo chwi.
23 Etto mae yn ddewisach gennifi syr∣thio yn eich dwylo chwi heb ei wneuthur, nâ phechu ger bron yr Arglwydd:
24 A Susanna a ddolefawdd â llef vchel. Felly y llefodd y ddau henuriad yn ei herbyn hi.
25 A'r naill a redodd, ac a agorodd ddry∣ssau 'r ardd.
26 Pan glybu tylwyth y tŷ y llefain yn yr ardd, myned a wnaethant i mewn i'r drws dirgel, i edrych beth a ddarfuasei iddi hi.
27 Eithr wedi i'r henuriaid ddywedyd eu chwedl, cywilyddio yn ddirfawr a wnaeth y gweision, o herwydd ni buasei 'r fath air i Susanna o'r blaen.
28 A thrannoeth pan ddaeth y bobl i dŷ Ioacim ei gŵr hi: y ddau henuriad hefyd a ddaethant yno, yn llawn drwg feddwl i Susanna, ar ei rhoi hi iw marwolaeth,
29 A hwy a ddywedasant yngwydd y bo∣bl, danfonwch am. Susanna ferch Chel∣cias, gwraig Ioacim, a hwy a ddanfona∣sant am dani hi.
30 Hitheu a ddaeth, a'i rhieni, a'i phlant, a'i holl geraint.
31 Susanna oedd dyner, a phrydferth ei gwêdd.
32 A'r rhai anwir hyn a barasant ddi∣noethi ei [hwyneb] hi, (canys yr oedd a gor∣shudd arno) fel y gallent hwy borthi eu chwant â'i thegwch hi.
33 Yna 'r ŵylodd cynnifer vn ac oedd yn ei chylch hi, a'r rhai oll a'i hadwae∣nent hi.
34 A'r ddau henuriad a safasant i fynu ynghanol y bobl, ac a roddasant eu dwylo ar ei phen hi.
35 A hitheu yn ŵylo, a edrychodd i fynu tu a'r nefoedd, am fod ei chalon hi a'i gog∣lyd ar yr Arglwydd.
36 A'r henuriaid a ddywedasant: pan oeddem ni yn rhodio ein hunein yn yr ardd, y daeth hi â dwy lawforwyn i mewn, a hi a gaeodd ddryssau yr ardd, ac a anfo∣nodd y morwynion ymmaith.
37 Yna y daeth gwr ieuangc atti, yr hwn oedd yno yn ymguddio, ac a or weddodd gyd â hi.
38 A ninnau ynghongl yr ardd pan welsom y cyfryw anwiredd, a redasom attynt.
39 A phan welsom fel yr oeddynt yng∣hyd, ni allassom ei ddala ef, am ei fod yn gryfach nâ ni, eithr efe a agorodd y drws, ac a ddiangodd.
40 Eithr gwedi i ni ddala hon, ni a'i holassom hi, pwy oedd y gŵr ieuangc hwnnw, ac ni ddangosei hi i ni: a hyn yr ydym ni yn ei dystiolaethu.
41 A'r gynnulleidfa a'i credodd hwynt, megis henuriaid a barnwŷr y bobl: ac felly hwy a'i barnassant hi i farwolaeth.
42 Yna Susanna a lefodd â llef vchel, gan ddywedyd, O Dduw tragywyddol, i'r hwn y mae pob dirgelwch yn yspys, a'r hwn a ŵyddost bob peth cyn ei ddigwydd,
43 Ti a wyddost gam-dystiolaethu o honynt yn fy erbyn, ac yn awr y mae yn rhaid i mi farw, er na wneuthym i'm hoes y petheu y mae 'r gwŷr hyn wedi eu drwg-ddychymyg i'm herbyn.
44 A'r Arglwydd a wrandawodd ar ei llef hi.
45 Ac wrth fyned â hi iw marwolaeth, yr Arglwydd a gyffrôdd yspryd sanctaidd llengcyn ieuangc a'i enw Daniel,
46 Yr hwn a lefodd yn vchel, Gwirion wyf fi oddi wrth waed y wraig hon.
47 A'r holl bobl a droesant atto ef, ac a ddywedasant, beth yw 'r ymadrodd hwn a ddywedaist ti?
48 Ac efe a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd; ô Israeliaid, a ydych chwi mor ansynhwyrol a gadel yn euog ferch o Israel, heb lwyr chwilio, a gwybod y gwirionedd?
49 Trowch eilchwel i'r frawdle: canys tystiolaethu a wnaethant gelwydd yn ei berbyn hi.
50 A'r holl bobl a droesant ar ffrwst: a'r henafgwŷr a ddywedassant wrtho, tyred, eistedd yn ein plith, a dangos i ni, gan i Dduw roddi i ti fraint henuriad.
51 A Daniel a ddywedodd wrthynt, nailltuwch hwy oddi wrth ei gilydd ym mhell, a mi a'i holaf hwynt.
52 A phan ddarfu nailltuo 'r naill oddi wrth y llall, efe a alwodd vn o honynt, ac a ddywedodd wrtho; ô dydi hên mewn dry∣gioni, yr awron y daeth dy bechodau yn dy erbyn, y rhai a wnaethost o'r blaen,
53 A'th gam farnau a fernaist, yn gadel yn euog y gwirion, ac yn rhyddhau 'r an∣wir: * 1.1266 lle y dywedodd yr Arglwydd, na ladd y gwirion, a'r cyfiawn.
54 Felly yn awr, os gwelaist ti hon, dan∣gos dan ba ryw bren y gwelaist ti hwy ynghyd? yna 'r attebodd yntef, tan ‖ 1.1267 lentysc∣bren.
55 A Daniel a ddywedodd, gwych y dy∣wedaist gelwydd yn erbyn dy ben dy hun, canys Angel yr Arglwydd a dderbyniodd farn Duw i'th wahanu di yn ddau.
56 Yna wedi troi hwnnw heibio, efe a barodd ddyfod â'r llall, ac a ddywedodd wrtho, ô hiliogaeth Chanaan, ac nid Iu∣da, tegwch a'th dwyllodd di, a chwant a lygrodd dy galon.
57 Fel hyn y gwnaethoch chwi â mer∣ched Israel, y rhai rhag ofn a gytunasant â chwi: eithr merch Iuda nid arhôei eich anwiredd chwi.
58 Felly dywed i mi, dan ba ryw bren y deliaist di hwynt ynghyd? Ac efe a atte∣bodd, tan ‖ 1.1268 brinwydden.
59 A Daniel a ddywedodd wrtho, gwych y dywedaist ditheu hefyd gelwydd yn erbyn dy ben dy hun: canys y mae Angel yr Arglwydd yn aros â'r cleddyf
Page [unnumbered]
ganddo, i'th dorri di yn dy hanner, ac i'ch difetha chwi eich deuoedd.
60 Yna y llefodd yr holl gynnulleidfa â llef vchel, gan foli'r Arglwydd, yr hwn a wared y sawl a ymddiriedo ynddo ef.
61 A hwy a godasant yn erbyn y ddau henuriad, (canys Daniel a'i daliasei hwynt ar eu geiriau eu hunain yn euog o gam∣dystiolaeth.)
62 A hwy a wnaethant iddynt y modd * 1.1269 yr amcanasent hwy wneuthur ar gam â'i cymydog, ac a'i rhoddasant iw marwo∣laeth, yn ôl Cyfraith Moses. Felly y gwa∣redwyd y gwaed gwirion y dydd hwnnw.
63 Yna Chelcias a'i wraig, a glodfora∣sant Dduw dros ei merch Susanna, gyd â Ioacim ei gŵr hi, a'r holl genedl, am na chawsid ynddi ddim an-honestr∣wydd.
64 Ac o'r dydd hwnnw allan yr oedd Daniel mewn parch mawr ym mhlith y bobl.
❧ HISTORIA DINISTR † 1.1270 BEL a'r Ddraig, wedi eu thorri ymmaith oddi wrth ddiwedd Daniel.
19 Twyll a hud Offeiriaid Bel, a'i ddatcuddio gan Daniel, 27 a lladd y Ddraig yr oeddid yn ei haddoli. 33 Cadw Daniel yn ffau 'r llewod. 40 Y brenin yn cydnabod Duw Daniel, ac yn bwrw ei elynion ef i'r vn ffau.
A'r brenin Astya∣ges a roddwyd at ei dadau, a Cyrus o Persia a gymmerodd ei frenhiniaeth ef.
2 A Daniel oedd yn byw gydâ 'r brenin, ac yn fwy vrddassol nâ'i holl gyfei∣llion.
3 Ac yr ydoedd eulyn gan y Babiloniaid, a elwid Bel, ar yr hwn yr oeddid yn treu∣liô beunydd ddeuddeng mhesur mawr o beillieid, a deugein o ddefeid, a chwe llestr o win,
4 A'r brenhin a'i haddolei ef, ac beunydd yr ai i ymgrymmu iddo: eithr Daniel a addolei ei Dduw ei hun: a'r brenin a ddy∣wedodd wrtho: pa ham nad wyt ti'n addo∣li Bel?
5 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, am nad anrhydeddafi eulynnod gwneuthure∣dig â dwylaw, onid y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaiar, ac sydd iddo fe∣ddiant ar bob cnawd.
6 A'r brenin a ddywedodd wrtho, onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwytta, ac yn ei yfed beunydd?
7 A Daniel a ddywedodd dan chwer∣thin: na thwyller di ô frenin, hwn oddi mewn sydd glai, ac oddi allan yn brês, * 1.1271 ni fwytaodd, ac nid yfodd erioed.
8 Yna 'r brenin yn ddigllawn a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt: oni ddywedwch i mi pwy sydd yn bwyta y draul hon, meirw fyddwch.
9 Eithr os gellwch chwi ddangos i mi fod Bel yn bwytta y petheu hyn, marw a gaiff Daniel; am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd wrth y brenin; fel y dywedaist, bydded.
10 (Offeiriaid Bel oeddynt ddêc a thru∣gein, heb law eu gwragedd a'i plant:) a'r brenin a aeth gyd â Daniel i deml Bel.
11 A'r offeiriaid hefyd a ddywedasant: wele ni a awn allan: dod ti ô frenin, y bwydydd [yn eu lle,] a gosod y gwin, wedi i ti ei gymmyscu, a chae 'r drws, a selia â'th sodrwy dy hûn.
12 A'r boreu pan ddelych, oni bydd Bel wedi bwytta 'r cwbl, lladder ni: os amgen, Daniel yr hwn a ddywedodd gelwydd yn ein herbyn ni.
13 A diofal oeddynt, o herwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd, i'r hon yr aent i mewn bôb amser, ac y llwyr fwyttaent y petheu hynny.
14 Yna wedi iddynt fyned allan, ac i'r brenin osod y bwydydd ger bron Bel, y gorchymynnodd Daniel iw weision ddwyn lludw, yr hwn a danasant dros gwbl o'r deml, yngŵydd y brenin ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy â gaeasant y porth, ac a'i seliasant â modrwy y brenin, ac a aethant ymmaith.
15 A'r offeiriaid a aethant i mewn, gefn y nos, (yn ôl eu harfer,) a'i gwragedd, a'i plant, ac a fwyttasant, ac a yfasant y cwbl.
16 A'r boreu, y brenin a gododd yn foreu iawn, a Daniel gyd ag ef.
Page [unnumbered]
17 A'r brenin a ddywedodd, a ydyw y selau yn gyfan Daniel? ac ynteu a atte∣bodd, y maent yn gyfan, ô frenin.
18 A chyn gyflymmed ac yr agorasid y drws, y brenin a edrychodd tua 'r bwrdd, ac a lefodd yn vchel: mawr wyt ti ô Bel, ac nid oes dim twyll gydâ thi.
19 Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac a ddywedodd, gwêl y llawr, ac edrych ôl traed pwy [yw 'r] rhai'n.
20 A'r brenin a ddywedodd, mi a welaf ôl traed gwŷr, a gwragedd, a phlant: ac yna y digiodd y brenin,
21 Ac a ddaliodd yr offeiriaid, a'i gwra∣gedd, a'i plant, y rhai o ddangosassant iddo y drysseu dirgel, i'r rhai yr oeddynt yn my∣ned i mewn, i fwytta 'r petheu oedd ar y bwrdd.
22 A'r brenin a'i lladdodd hwynt, ac a roes Bel a'r law Daniel, yr hwn a'i dini∣striodd ef a'i Deml.
23 ‖ 1.1272 Yr oedd hefyd ddraig fawr yno, a'r Babiloniaid a'i haddolent hi.
24 A'r brenin a ddywedodd wrth Dda∣niel: a ddywedi di mai efydd yw hon? Wele hi yn fyw, ac yn bwytta, ac yn yfed, ni elli di ddywedyd nad yw hon Dduw byw, am hynny addola hi.
25 A dywedodd Daniel, myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw 'r Duw byw.
26 Eithr tydi ô frenin, dôd i mi [gennad] a mi a laddaf y ddraig hon, heb na chle∣ddyf na ffon, a'r brenin a ddywedodd, yr yd∣wyf yn rhoddi i ti gennad.
27 Yna y cymmerth Daniel bŷg, a gwêr, a blew, ac a'i berwodd ynghyd, ac a wn∣aeth dammeidiau o honynt; ac a'i rhoes yn safn y ddraig, a'r ddraig a dorrodd ar ei thraws, ac efe a ddywedodd: wele 'r ‖ 1.1273 pe∣theu yr ydych chwi yn eu haddoli.
28 Ac fe ddigwyddodd i'r Babiloniaid, pan glywsant hynny, ddirfawr lidio, a throi yn erbyn y brenin, gan ddywedyd, y brenin a aeth yn Iddew: Bel a ddestrywiodd efe, a'r ddraig a laddodd ac a roes yr offeiriaid i farwolaeth.
29 Ac wedi eu dyfod at y brenin, y dy∣wedasant: dod ini Ddaniel: onis rhoi, ni a'th ddifethwn di a'th dŷ.
30 Pan welodd y brenin eu bôd hwy yn daer iawn arno: yna y gorfu iddo, o'i an∣fodd, * 1.1274 roi Daniel iddynt.
31 A hwythau a'i bwriassant ef i ffau y llewod, lle y bu efe chwe diwrnod.
32 Ac yn y ffau yr oedd saith o lewod, i'r rhai y rhoid beunydd ddau ‖ 1.1275 gorph, a dwy ddafad, y rhai y pryd hynny ni roesid iddynt; fel y gallent lyngcu Daniel.
33 A Habacuc y Prophwyd oedd yn Iu∣dæa, ac efe a ferwassei sew, ac a friwassei fara mewn cawg, ac oedd yn myned iw ddwyn i'r maes i fedelwyr.
34 Ac Angel yr Arglwydd â ddywedodd wrth Habacuc, dwg y cinio sydd gennit hyd yn Babilon, i Ddaniel, [yr hwn sydd yn ffau] y llewod.
35 A Habacuc a ddywedodd, Arglwydd, ni welais i Babilon erioed: ac ni wn i pa le y mae yr ffau.
36 Yna Angel yr Arglwydd a'i cym∣merth * 1.1276 ef erbyn ei goryn, ac wedi iddo ei ddwyn erbyn gwallt ei ben, a'i dodes ef yn Babilon, oddiar y ffau, drwy nerth ei yspryd ef.
37 A Habacuc a lefodd, gan ddywedyd; Daniel, Daniel, * 1.1277 cymmer y cinio a anfo∣nodd Duw i ti.
38 Yna y dywedodd Daniel, ti a feddyli∣aist am danafi ô Dduw, ac ni adewaist [mewn gwall] y rhai a'th geisiant, ac a'th garant.
39 Felly Daniel a gyfododd i fynu, ac a fwyttaodd; ac Angel yr Arglwydd a ddodes Habacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun.
40 A'r brenin aeth y seithfed dydd i a∣laru am Ddaniel, a phan ddaeth at y ffau, efe a edrychodd i mewn, ac wele [yr oedd] Daniel yn eistedd.
41 Yna y llefodd y brenin â llef vchel, ac a ddywedodd, Mawr wyt ti ô Arglwydd Dduw Daniel, ac nid oes arall ‖ 1.1278 ond tydi.
42 * 1.1279 Ac efe a'i tynnodd ef allan o'r ffau, ac a fwriodd y rhai oedd achos o'i ddifetha ef i'r ffau, a hwy a lyngcwyd yn y fan, o flaen ei lygaid ef.
Page [unnumbered]
❧ GWEDDI MANASSES Brenin Iuda, pan oeddid yn ei ddal ef yn garcharor yn Babylon.
OH Arglwydd, holl-alluog Dduw ein tadau, Abra∣ham, Isaac, ac Iacob, a'i cyfiawn hiliogaeth hwynt: yr hwn a wnaethost nefoedd a daiar, a'i gwychder oll: yr hwn a rwymaist y môr â gair dy orchymmyn; yr hwn a gaeaist y dyfnder, ac a'i seliaist â'th enw ofnad∣wy, a gogoneddus: yr hwn y mae pob peth yn ei ofni, ac yn crynu rhag wyneb dy nerth: Oblegit ni ellir aros mawredd dy ogoniant, na dioddef digter dy fygwth yn erbyn pechaduriaid. Eithr trugaredd dy addewid ti sydd anfeidrol, ac anchwiliadwy: oblegit tydi sydd Arglwydd goruchaf, daionus, ymarhous, mawr ei drugaredd hefyd, ac edifeiriol am ‖ 1.1280 ddrwg dŷn. Tydi ô Arglwydd, yn ôl amldra dy ddaioni, a addewaist edi∣feirwch a maddeuant i'r rhai a bechasant i'th erbyn, ac yn amldra dy dosturiaeth a ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid er iechydwriaeth. Am hynny tydi ô Arglwydd Dduw y rhai cyfiawn, ni osodaist edifeirwch i'r rhai cyfiawn, i Abraham, Isaac, ac Iacob, y rhai ni phechasant i'th erbyn, ond ti a osodaist edifeirwch er fy mwyn i bechadur. Mi a bechais yn fwy nâ rhifedi tywod y môr, fy anwireddau a amlhasant, ô Arglwydd, fy anwireddau a amlhasant, ac nid wyfi deilwng i edrych, ac i weled vchder y nefoedd, o herwydd amldra fy anwireddau. Mi a grymmais i lawr gan rwymau haiarn, fel na allwyf godi fy mhen, ‖ 1.1281 ni allaf chwaith gymmeryd fy anadl, am gyffroi o honof dy lid ti, a gwneuthur yr hyn sydd ddrwg yn dy olwg: dy ewyllys ni's gwneuthym, a'th orchymynion ni's cedwais: gosodais i fynu ffieidd-dra, ac amlheais gamweddau. Ac yr awron yr ydwyfi yn plygu glin fy nghalon, gan ddymu∣no daioni gennit: pechais ô Arglwydd, pechais, ac yr ydwyf yn cydnabod fy anwireddau. Am hynny yr ydwyfi yn deisyf, gan attolwg i ti, maddeu i mi ô Arglwydd, maddeu i mi, ac na ddifetha fi ynghyd â'm hanwireddau, ac na chadw ddrwg i mi: gan ddigio byth wrthyf: ac na ddamnia fi i geudod y ddaiar: canys tydi sydd Dduw, Duw meddaf i'r edifeiriol: ac ynof fi y dangosi dy holl ddaioni: oblegid ti a'm hachubi i, yr hwn ydwyf anheilwng, yn ôldy fawr drugaredd. Am hynny i'th foliannaf di bôb amser, holl ddyddi∣an fy enioes: oblegit y mae holl nerthoedd y nefoedd yn dy foliannu di, ac i ti y mae y gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
Page [unnumbered]
❧ LLYFR CYNTAF Y MACCABÆAID.
PEN. I.
14 Antiochus yn rhoi cennad i osod i fynu ar∣fer y Cenhedloedd yn Ierusalem, 22 ac yn ei hyspeilio hi, a'r Deml oedd ynddi, 57 ac yn gosod i fynu ynddi ffieidd-dra 'r an∣rhaith, 63 ac yn lladd y rhai a enwaedent ar eu plant.
ADigwyddodd we∣di i Alexander y Macedoniad, mab Philip, fy∣ned allan o wlâd Chethim, a lladd Darius brenin y Persiaid a'r Me∣diaid, a theyrnasu yn ei le ef, fel y te∣yrnasasei o'r blaen yn Groec,
2 Efe a osododd ryfeloedd lawer, ac a enillodd ddinasoedd cedyrn, ac a laddodd frenhinoedd y ddaiar,
3 Ac a dramwyodd hyd eithafoedd y ddai∣ar, ac a ddûg anrhaith oddi ar lawer o gen∣hedloedd, a'r ddaiar oedd yn llonydd ger ei fron ef, ac am hynny ei galon ef a dderchaf∣wyd, ac a falchiodd.
4 Ac wedi iddo ef gasculu llu cadarn iawn, efe a lywodraethodd ar wledydd, a chenhed∣loedd, a ‖ 1.1282 theyrnasoedd, ac â'i gwnaeth hwy yn drethawl iddo.
5 Ac wedi hyn, efe a glafychodd, ac a wybu ‖ 1.1283 y byddei farw.
6 Am hynny efe a alwodd am ei wasa∣naethwŷr, y rhai anrhydeddus, a'r rhai a gyd∣faethesid ag ef o'i ieuengtid, ac a gyfrannodd ei deyrnas iddynt hwy, pan oedd efe etto yn fyw.
7 Felly Alexander a deyrnasodd ddeu∣ddeng mlhynedd, ac a fu farw.
8 A'i dywysogion ef a lywodraethasant, bôb vn yn ei le.
9 A hwy oll a osodasant goronau [ar eu pennau] wedi ei farw ef, a'i meibion ar eu hôl, lawer o flynyddoedd: a drygau a aml∣haodd ar y ddaiar.
10 Ac o honynt hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epiphanes, mab An∣tiochus y brenin, yr hwn a fuasei yn wystl yn Rhufain, ac efe a deyrnasodd yn y ddwy∣fed flwyddyn ar bymthec ar hugain a chant o frenhiniaeth y Groeg-wŷr.
11 Yn y dyddiau hynny dynion anwir a aethant allan o Israel, ac a hudasant lawer gan ddyŵedyd, awn a gwnawn ammod â'r cenhedloedd sy o'n hamgylch, canys er pan i'n gwahaned oddi wrthynt hwy, ‖ 1.1284 ni a gaw∣som lawer o ddryg-fyd.
12 A'r ymadrodd hwn oedd dda yn eu go∣lwg hwy.
13 A rhai o'r bobl a fuant mor barod, ac yr aethant at y brenin, ac efe a roddes idd∣ynt hwy awdurdod i wneuthur defodau y Cenhedloedd.
14 A hwy a adeiladasant yscol yn Ieru∣salem, yn ôl arfer y Cenhedloedd.
15 A hwy a wnaethant ddienwaediad iddynt ei hunain, ac a giliasant oddi wrth y cyfammod sanctaidd: ac wedi iddynt hwy ymgyssylltu â'r Cenhedloedd, hwy a ‖ 1.1285 ymroe∣sant i wneuthur drwg.
16 Ac wedi siccrhau y deyrnas o flaen An∣tiochus, efe a fwriadodd deyrnasu ar yr Aipht, fel y gallei deyrnasu ar ddwy deyrnas.
17 Ac efe a aeth i mewn i'r Aipht â thorf fawr, â cherbydau, ag Elephannod, â gwŷr meirch, ac â llynges fawr,
18 Ac a ddechreuodd ryfela yn erbyn Pto∣lemeus brenin yr Aipht, a Ptolemeus a of∣nodd o flaen ei olwg ef, ac a sfôdd, a llawer a syrthiasant yn archolledig.
19 A hwy a enillasant y dinasoedd amdde∣ffynadwy yn nhir yr Aipht, ac [Antiochus] a gymmerodd yspail yr Aipht.
20 Ac Antiochus a ddychwelodd wedi iddo daro yr Aipht, yn y drydedd flwyddyn a deu∣gein a chant: ac a aeth i fynu yn erbyn Is∣rael a Ierusalem, â thyrfa fawr.
21 Ac efe a aeth i mewn yn falch i'r Cys∣segr, ac a gymerodd ymmaith yr allor aur, a'r canhwyll-bren [oedd yn dal] y goleuad, a'i holl offer ef,
22 A bwrdd [y bara] gosod, a'r cawgiau, a'r dysclau▪ a'r llwyau aur, a'r llen, a'r coro∣nau, a'r trwsiad aur oedd ar y tu wyneb i'r Deml, ac efe a dynnodd yr aur oddi arnynt hwy oll.
23 Ac efe a gymmerodd yr arian, a'r aur, a'r llestri ‖ 1.1286 gwerthfawr, ac a gymmerodd y tryssorau cuddiedic, y rhai a gafodd efe.
24 Ac wedi iddo gymeryd y cwbl, efe a aeth ymmaith iw wlad ei hun, ac a wnae∣thei laddfa fawr, ac a ddywedasei yn falch tros ben.
25 Am hynny y bu galar mawr ym mhlith yr Israeliaid ym mhob lle o'r eiddynt hwy.
Page [unnumbered]
26 Canys y tywysogion a'r henuriaid a ocheneidiasant, y morwynion a'r gwŷr ieuaingc a lescasant, a thegwch y gwragedd a gyfne widiwyd.
27 Pob priodas-fab a gymmerodd alar, a'r hon oedd yn eistedd yn yr ystafell briodas oedd mewn tristwch;
28 A'r wlâd a gynhyrfodd o herwydd ei thrigolion, a holl dŷ Iacob a wiscasid â gwarth.
29 Wedi dwy flynedd lawn, y brenin a ddanfonodd y tywysog oedd yn derbyn y deyrn-ged, i ddinasoedd Iuda, yr hwn a ddaeth i Ierusalem â thyrfa fawr.
30 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy ei∣riau heddychol yn dwyllodrus, a hwy a'i cre∣dasant ef: ac efe a ruthrodd ar y ddinas yn ddi∣symmwth, ac a'i tarawodd hi â phla mawr, ac a ddestrywiodd lawer o bobl o Israel;
31 Ac a gymmerodd yspail y ddinas, ac a'i lloscodd hi â thân, ac a ddessrywiodd ei thai hi, a'i chaerau oddi amgylch.
32 A hwy a gaethiwasant y gwragedd a'r plant, ac a berchennogasant yr anifeiliaid.
33 Yna yr adeiladasant ddinas Dafydd â chaer fawr gref, ac â thyrau cedyrn, ac a'i gwnaethant hi yn amddeffynfa gadarn idd∣ynt eu hun.
34 Heb law hyn, hwy a osodasant y gen∣hedl bechadurus yno sef y dynion anneddfol; a hwy a ymgadarnhasant ynddi hi.
35 A hwy a gludasant iddi arfau a bwyd, ac wedi iddynt hwy gasclu yspail Ierusalem ynghyd, hwy a'i gosodasant ef yno, ac felly hwy a fuant yn rhwyd flin;
36 Canys yr oedd yn gynllwynfa yn erbyn y cyssegr, ac yn wrthwynebwr blîn i Israel bob amser.
37 Fel hyn y tywalltasant waed gwirion o amgylch y Cyssegr, ac yr halogasant y lle sanctaidd.
38 A thrigolion Ierusalem a ffoesant o'i plegit hwy, a'r dref oedd yn breswylfa i ddi∣eithraid, ac oedd yn estronaidd iw meibion ei hun, a'i phlant ei hun a'i gadawsant hi.
39 Ei Chyssegr hi a wnaethid yn anghy∣fannedd fel y diffaethwch, ei gwyliau hi a drowyd yn alar, ei Sabbothau yn wrad∣wydd, ei hanrhydedd yn ddirmyg.
40 Fel y buasei ei pharch hi, felly yr oedd ei hammarch hi, a'i hardderchowgrwydd a droesei yn alar.
41 A'r brenin a scrifennodd at ei holl deyr∣nas am fod o bawb yn vn bobl;
42 Ac ymadel o bob dŷn â'i gyfreithiau ei hun: a'r holl genhedloedd a dderbyniasant orchymmyn y brenin.
43 A llawer o Israel a gyttunasant â'i grefydd ef, ac a aberthasant i eulynnod, ac a halogasant y Sabboth.
44 Canys y brenin a ddanfonasei lythy∣rau gyd â chenadon i Ierusalem, ac i ddina∣soedd Iuda, a'r iddynt fyned ar ôl deddfau ‖ 1.1287 dieithr y wlad,
45 A gwahardd poeth offrymmau, a bwyd offrwm, a diod offrwm yn y Cyssegr; a halo∣gi y Sabbothau, a'r gwyliau;
46 A difwyno y Cyssegr a'r bobl sanctâidd;
47 Adeiladu allorau, a llwyni, a themlau eulynnod, ac aberthu cig môch, ac anifeili∣aid aflan,
48 A gadel eu meibion yn ddienwaede∣dic, a gwneuthur eu heneidiau yn ffiaidd â phob aflendid a halogrwydd,
49 Fel y gollyngent hwy y gyfraith tros gof, ac y cyfnewidient yr holl ddeddfau:
50 A'r hwn ni wnelei yn ôl gorchymmyn y brenin, y byddai raid iddo farw,
51 Efe a scrifennodd at ei holl deyrnas yn ôl yr holl eiriau hyn, ac a wnaeth wili∣adwŷr ar yr holl bobl, gan orchymmyn i ddinasodd Iuda aberthu o ddinas i ddi∣nas.
52 Am hynny llawer o'r bobl a ymgas∣clasant attynt hwy, sef pwy bynnac a adaw∣sei'r Gyfraith: a hwy a wnaethant drwg yn y wlad.
53 A hwy a ‖ 1.1288 wnaethant i Israel lechu mewn lleoedd cuddiedic, [sef] yn eu holl lochesau.
54 A'r pymthecfed dydd o'r mi's Cas••eu yn y bummed flwyddyn a deugain a chant, hwy a osodasant y ffieidd-beth anrheithiol ar yr allor; ac o fewn dinasoedd Iuda oddi amgylch, hwy a adeiladasant allorau eu∣lynnod:
55 Ac a arogl-darthasant yn-nrysau 'r tai, ac yn yr heolydd:
56 Ac a rwygasant lyfrau yr Gyfraith, y rhai a gawsant hwy, [ac] a'i lloscasant â thân.
57 A pha le bynnac y ceid llyfr y cyfam∣mod gyd â neb, neu o's cydtunei neb â'r Gy∣fraith, ‖ 1.1289 efe a leddid wrth orchymmyn y bre∣nin.
58 Wrth eu cryfder, hwy a wnaent felly i'r Israeliaid a geid bob mîs yn y dinasoedd.
59 A'r vnted [dydd] ar hugain o'r mis, wrth aberthu ar allor yr eulynnod, yr hon oedd ar allor Duw;
60 Hwy a laddasant rai gwragedd wrth orchymmyn [Antiochus,] y rhai a barasei enwaedu ar eu meibion:
61 Ac a grogasant y plant bychain wrth eu gyddfau hwy, ac a yspeliasant eu tai hwy, ac a laddasant [y rhai] a enwaedasei arnynt hwy.
62 Er hynny llawer yn Israel a roesant eu brŷd yn gwbl, ac a ymsiccrhâsant yn∣ddynt eu hunain, na fwytaent bethau aflan,
63 A hwy a ddewisasanc farw, rhac eu llygru â bwydydd, a rhag halogi o honynt hwy y cyfammod sanctaidd, a hwy a ddio∣ddefasant farwolaeth,
64 A bu ddigofaint mawr iawn ar Is∣rael.
PEN. II.
6 Mattathias yn cwyno cyflwr Ierusalem: 24 Yn lladd Iuddew a aberthodd i culynnod yn ei wydd ef, a chennad y brenhin hefyd: 34 Gosod arno ef a'i bobl ar y Sabbath, a hwythau heb wrthwynebu. 50 Mattathias yn mar wac yn addyscu ei feibion, 66 ac yn gwneuthur Iudas Maccabaeus eu brawd hwy, yn ben.
Page [unnumbered]
YN yr amseroedd hynny, Mat∣tathias mab Ioan, fab Sime∣on, offeiriad o hiliogaeth Ioa∣rib, a gododd i fynu o Ierusalē ac a bresswyliodd ym Modin:
2 Ac iddo ef yr oedd pum mab, Ioannan, yr hwn a elwid ‖ 1.1290 Caddis.
3 Simon yr hwn a elwid Thassi.
4 Iudas yr hwn a elwid Maccabeus.
5 Eleazar yr hwn a elwid ‖ 1.1291 Abaron, a Ionathan, yr hwn a elwid Apphus.
6 Pan welodd efe y cabledd a wnaethid o fewn Iuda, a Ierusalem,
7 Efe a ddywedodd, gwae fi fy ngeni i weled cystudd fy mhobl, a chystudd y ddinas sanctaidd, a'm bôd yn trigo yno, pan roddwyd hi yn llaw y gelynion, a'r Cyssegr yn llaw dieithraid.
8 Ei theml a wnaethpwyd fel gwr heb ogoniant.
9 Ei llestri parchedig hi a dducpwyd ym∣maith i gaethiwed, ei phlant bychain hi a ladded yn yr heolydd, a'i gwyr ieuaingc hi â chleddyf y gelyn.
10 Pa genedl sydd a'r ni chafodd ran o'i theyrnas hi, ac ni ymaflodd yn ei hyspail hi?
11 Ducpwyd ymmaith ei holl harddwch hi; gwnaeth-pwyd hi yn forwyn gaeth o wraig rŷdd.
12 Canys wele, ein Cyssegr, a'n harddwch, a'n gogoniant, a anrheithiwyd, a'r Cenhed∣loedd a'i halogasant hwy.
13 I ba beth y byddwn fyw yn hwy nâ hyn?
14 A Mattathias a'i feibion a rwygasant eu dillad, ac a ymwiscasant mewn lliain sach, ac a alarasant yn ddirfawr.
15 Yna gwenidogion y brenin, y rhai a gymmellent y bobl i Apostasi, a ddaethant i ddinas Modin, iw gyrru hwy i aberthu.
16 Llawer o Israel a ddaethant attynt hwy, Mattathias hefyd a'i feibion a gas∣clwyd ynghyd.
17 A gwenidogion y brenin a attebasant, ac a lefarasant wrth Mattathias, gan ddy∣wedyd; tywysog, a pharchedig, a mawr wyt ti yn y ddinas hon, a chadarn o feibi∣on, ac o frodyr.
18 Gan hynny tyred yn gyntaf yr awron, a gwna orchymmyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl genhedloedd, a gwŷr Iuda, a'r rhai a adawed yn Ierusalem, felly ti a gei fod a'th dylwyth ym mhlith cyfeillion y brenin, a thydi a'th feibion a anrhydeddir, ag arian, ac ag aur, ac â rhoddion lawer.
19 A Mattathias a attebodd, ac a ddy∣wedodd â lleferydd vchel, pe gwrandawei yr holl Genhedloedd, a'r sy tan lywodraeth y brenin arno ef, ac ymado o bawb allan o grefydd eu henafiaid, a chytuno â'i orchy∣mynion ef:
20 Etto myfi, a'm meibion, a'm brodyr a rodiwn ynghyfammod ein tadau.
21 ‖ 1.1292 Duw a drugarhao wrthym, rhag ga∣del o honom y Gyfraith a'r deddfau.
22 Ni wrandawn ni ar eiriau y brenin i wyro oddiwrth ein gwasanaeth, tu a'r llaw ddehau, neu 'r llaw asswy.
23 Pan beidiodd efe â dywedyd y geiri∣au hyn, rhyw Iddew a ddaeth yn eu gŵydd hwy i aberthu ar yr allor ym Modin, yn ôl gorchymmyn y brenin.
24 Pan welodd Mattathias hyn, efe a wynfydodd, a'i arennau a grynasant, ac ni fedrodd ymattal rhag ddangos ei lîd yn ôl barn, ac a redodd, ac a'i lladdodd ef ar yr allor.
25 Ac efe a laddodd yr amser hwnnw wasanaeth-wr y brenin, yr hwn oedd yn [eu] cymmell [hwy] i aberthu, ac a ddestry∣wiodd yr allor.
26 Ac * 1.1293 efe a ddûg zêl tu ag at Gyfraith Dduw, fel y gwnaeth Phineas i Zambri fab Salom.
27 A Mattathias a lefodd yn y ddinas, â llef vchel gan ddywedyd, pwy bynnag sy'n dwyn zêl i'r Gyfraith, ac sy 'n cadw y cy∣fammod, canlyned fi.
28 Ac efe a'i feibion a ffoesant i'r myny∣ddoedd, ac a adawsant beth bynnac oedd ganddynt yn y ddinas.
29 Yna llawer, y rhai oedd yn ceisio cys∣iawnder a barn, a ddaethant i wared i'r anialwch hwnnw, i aros yno:
30 Hwyntwy, a'i meibion, a'i gwragedd, a'i hanifeiliaid, canys ‖ 1.1294 llawer o ddrwg a ddaethei arnynt hwy.
31 A mynegwyd i wŷr y brenin, ac i'r lluoedd, y rhai oedd yn Ierusalem yn-ninas Dafydd, fyned o wŷr a dorrasei orchymmyn y brenin, i wared i lochesau yn yr amalwch.
32 A llawer a erlidiodd ar eu hôl hwy, ac a'i goddiweddasant hwy, ac a wersylla∣sant yn eu herbyn hwy, ac a osodasant ryfel yn eu herbyn hwy, ar y dydd Sabboth,
33 Ac a ddywedasant wrthynt hwy, di∣gon yw hyn a wnaethoch, deuwch allan, a gwnewch yn ôl gorchymmyn y brenin, a chwi a gewch eich hoedl.
34 A hwy a ddywedasant, ni ddeuwn ni allan, ac ni wnawn ni orchymmyn y bre∣nin, i halogi y dydd Sabboth.
35 Am hynny hwy a brysurasant i ryfel yn eu herbyn hwynt.
36 Ond nid artebasant iddynt hwy, ac ni thaslasant garreg attynt hwy, ac ni chaea∣sant hwy y llochesau, gan ddywedyd,
37 Ni a ddioddefwn farwolaeth oll yn ein diniweidrwydd, y nef a'r ddaiar a dysti∣olaetha trosom ni, eich bod chwi yn ein di∣fetha ‖ 1.1295 heb farn.
38 Felly hwy a godasant yn eu herbyn hwy mewn rhyfel, ar y dydd Sabboth; a hwy a'i gwragedd, a'i plant, a'i hamfeiliaid, a fuant feirw hyd fil ‖ 1.1296 o ddynion.
39 Pan ŵybu Mattathias a'i gyfeillion [hynny,] hwy a alarasant am danynt hwy 'n ddirfawr.
40 Yna 'r naill a ddywedodd wrth y llall, os gwnawn ni oll, fel y gwnaeth ein brodyr, ac oni ymladdwn ni yn erbyn y cenedloedd am ein henioes a'n deddfau, hwy a'n llwyr ddifethant ni yr awr hon ar frŷs oddi ar y ddaiar.
41 A hwy a gymmersant gyngor y diwr∣nod hwnnw, gan ddywedyd, Pwy bynnac
Page [unnumbered]
a ddelo i'n herbyn ni i ryfela ar y dydd Sabboth, ni a ymladdwn yn ei erbyn ef, rhac ein meirw oll, fel y bu feirw ein bro∣dyr yn y llochesau.
42 Yna cynnulleidfa o'r Assideaid a ym∣gasclasant attynt hwy, [y rhai oedd] wŷr cryfion o Israel, [sef] pwy bynnac oedd yn ewyllysgar yn ymroddi i'r Gyfraith.
43 A phawb ar oedd yn ffoi rhag erlid a ymgysylltasant â hwy, ac a fuant yn ga∣dernid iddynt hwy.
44 A hwy a gasclasant lu [o wŷr,] ac a laddasant y pechaduriaid yn eu dig, a'r gwŷr anneddfol yn eu llidiowgrwydd, a'r llaill a ffoesant at y Cenhedloedd am help.
45 Yna Mattathias a'i gyfeillion a dram∣wyasant o amgylch, ac a ddestrywiasant yr allorau.
46 A thrwy nerth hwy a enwaedasant ar y plant dienwaededig, cymmaint ac a gawsant hwy o fewn terfynau Israel,
47 Ac a erlidiasant y dynion beilchion: a'r gwaith hwn a lwyddodd yn eu dwylo hwynt.
48 A hwy a waredasant y Gyfraith o law y Cenhedloedd, ac o law y brenhin∣oedd, ac ni ‖ 1.1297 roesant hwy ‖ gryfder i'r pe∣chadur.
49 A phan nesaodd dyddiau Mattathias i farw, efe a ddywedodd wrth ei feibion, balchder ac argyoeddiad a gawsant gryfder yr awron, ac amser destryw a dig llidiog.
50 Gan hynny fy meibion, dygwch Zêl yr awron i'r Gyfraith, a rhoddwch eich hoedl tros gyfammod eich tadau.
51 Cofiwch weithredoedd ein tadau, y rhai a wnaethant hwy yn eu ‖ 1.1298 hamseroedd, felly chwi a dderbyniwch fawr barch, ac enw tragywyddol.
52 * 1.1299 Oni chaed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, a hynny a gyfrifwyd iddo ef yn gyfiawnder?
53 * 1.1300 Ioseph yn amser ei gyfyngder a gad∣wodd y gorchymmyn, ac a wnaethpwyd yn arglwydd ar yr Aipht.
54 * 1.1301 Phineas ein tâd, wrth ddwyn Zel, a gafodd ammod am offeiriadaeth dragy∣wyddol.
55 * 1.1302 Iosua am gyflawni gair [Duw] a wnaethpwyd yn farn-wr ar Israel.
56 * 1.1303 Caleb am dystiolaethu ger bron y gynnulleidfa a gafodd etifeddiaeth o'r tîr.
57 * 1.1304 Dafydd yn eu drugaredd a etifeddodd orsedd-faingc y deyrnas dragywyddol.
58 * 1.1305 Elias wrth ddwyn zêl i'r Gyfraith a gymmerwyd i fynu i'r nefoedd.
59 * 1.1306 Ananias, Azarias, a Misael, am iddynt gredu, a achubwyd o'r tân.
60 * 1.1307 Daniel yn ei wiriondeb a waredwyd oddi wrth safnau y llewod.
61 Ac felly ystyriwch ym mhob oes, pwy bynnac sydd yn ymddiried ynddo ef, ni orchfygir ef.
62 Am hynny nac ofnwch rhac geiriau gŵr pechadurus: canys ei ogoniant ef [a fydd] yn dom a phryfed.
63 * 1.1308 Heddyw efe a ddyrchefir, ac yforu ni bydd ef iw gael, canys trodd iw bridd, a darfu am ei amcan.
64 Gan hynny fy meibion, cymmerwch galonnau, ac ymwrolwch ym-mhlaid y Gy∣fraith, canys chwi a gewch barch oddi wrthi hi.
65 Ac wele Simon eich brawd, mi a wn mai gŵr cynghorus yw efe, gwrandewch arno ef bob amser, efe a fydd yn dâd i chwi.
66 Ac am Iudas Maccabaeus, yr oedd efe yn gryf, ac yn nerthol o'i ieuengrid, by∣dded efe gapten i chwi, ac ‖ 1.1309 ordeiniwch ryfel y bobloedd.
67 Felly y dygwch attoch bawb a'r y sy yn cadw yr Gyfraith, a dielwch gam eich pobl.
68 Telwch hyd adref i'r Cenhedloedd, a gwiliwch ar orchymynion y Gyfraith.
69 Yna efe a'i bendithiodd hwy, ac efe a roddwyd at ei hynafiaid.
70 Ac efe a fu farw yn y chweched flwy∣ddyn a deugain a chant, a'i feibion a'i cla∣ddasant ef ym medd ei hynafiaid ym Mo∣din, a holl Israel a alarodd am dano ef â galar mawr.
PEN. III.
1 Gwychder ac enw Iudas Maccabaeus. 10 Y mae efe yn gorchfygu galluoedd Samaria a Syria. 27 Antiôchus yn danfon gallu mawr yn ei erbyn ef: 44 Yntef a'r eiddo yn ymroi i ymprydio, ac i weddio, 58 a'i cyssuro hwy.
YNa Iudas, yr hwn a el∣wid Maccabaeus, ei fab ef, a gododd i fynu yn ei le ef.
2 A'i holl frodyr a'i cym∣morthasant ef, a phawb a'r a lynasei wrth ei dâd ef, a hwy a ymladdasant ryfel Israel yn llawen.
3 Felly efe a helaethodd barch ei bobl, ac a wiscodd ddwyfronnec fel cawr, ac a ymwregysodd â'i arfau rhyfel, ac a osododd ryfeloedd, ac a amddeffynnodd y gwerssyll â'r cleddyf.
4 Ac yr oedd efe yn debyg i lew yn ei weithredoedd, ac fel cenau llew yn rhuo am ei ysclyfaeth.
5 Ac efe a erlidiodd y rhai drwg, gan chwilio am danynt, ac a loscodd y rhai oedd yn cythryblu ei bobl ef.
6 A'r rhai drwg a giliasant rhag ei ofn ef, a phawb a'r oedd yn gwneuthur drygi∣oni a gyd-trallodwyd, am fôd iechydwriaeth yn llwyddo yn ei law ef.
7 Ac efe a wnaeth i lawer o frenhin∣oedd ofidio, ac a lawenychodd Iacob â'i weithredoedd, ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fendigedig yn dragywydd.
8 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd Iuda, ac a ddestrywiodd y rhai annuwiol allan oddi yno, ac a drôdd heibio ddigo∣faint oddi wrth Israel:
9 A'i enw ef a gerddodd hyd eithafoêdd y ddaiar, ac efe a ‖ 1.1310 gasclodd y rhai oedd ar ddarfod am danynt.
Page [unnumbered]
10 Yna Apolonius a gasclodd y Cen∣hedloedd ynghŷd, a llu mawr o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel.
11 Pan ŵybu Iudas, efe a aeth iw gy∣farfod ef, ac a'i tarawodd ef, ac a'i lladdodd ef: a llawer a syrthiasant yn archolledig, a'r llaill a ffoesant.
12 Ac efe a gymmerodd eu hyspail hwy, a Iudas a gymmerodd gleddyf Apolonius, ac a ymladdodd ag ef [ei] holl ddyddiau.
13 Pan glywood Seron tywysog llu Syria, gasclu o Iudas dyrfa a chyn∣nulleidfa o ffyddloniaid, i fyned i ryfel gyd ag ef,
14 Efe a ddywedodd, myfi a enillaf enw i mi fy hun, ac a gaf barch yn y deyrnas, ac a ryfelaf yn erbyn Iudas, a'r rhai sy gyd ag ef, a'r rhai sy yn diystyru gorchym∣myn y brenin.
15 Ac efe a ymrôdd i ddyfod i fynu, a chyd ag ef y daeth llû crŷf o rai annuwiol i fy∣nu iw gymmorth ef, ac i wneuthur dial ar feibion Israel.
16 Pan nessaodd efe yn gyfagos i riw Bethoron, Iudas a aeth allan iw gyfar∣fod ef â thorf fechan.
17 A phan welsant hwy y llu yn dyfod iw cyfarfod, hwy a ddywedasant wrth Iu∣das: pa fodd y gallwn ni, a ninnau yn ychy∣dig, ymladd yn erbyn lliaws cymmeint, [a chyn] gryfed? yr ydym ni [hefyd] yn barod i ddeffygio, heb fwyd heddyw.
18 A Iudas a ddywedodd, hawdd ydyw cau llawer yn nwylo ychydig, * 1.1311 ac nid oes ragoriaeth ger bron [Duw] nef, rhwng achub â llwer, neu ag ychydig.
19 Canys nid yn lliawsogrwydd y llu y mae buddugoliaeth y rhyfel, ond o'r nef y mae cadernid.
20 Maent hwy yn dyfod ‖ 1.1312 attom ni mewn mawr ‖ 1.1313 draha a cham-wedd, i'n difetha ni, a'n gwragedd, a'n plant, ac i'n hyspeilio.
21 Ond nyni ydym yn ymladd am ein henioes, a'n cyfreithiau.
22 A [Duw] a'i dryllia hwy ger ein bron ni: gan hynny nac ofnwch chwi rhag∣ddynt hwy.
23 A phan beidiodd efe â dywedyd, efe a neidiodd yn ddisymmwth arnynt hwy: ac felly y difethwyd Seron a'i werssyll o'i flaen ef.
24 A hwy a'i herlidiasant hwy ar hyd goriwared Bethoron, hyd y gwastadedd, ac yno y lladded ynghylch ŵyth-gant o wŷr o honynt hwy, a'r lleill a ffoesant i wlâd y Philistiaid.
25 Yna ofn Iudas a'i frodyr, ac arswyd mawr a ddechreuodd syrthio ar y Cenhedl∣oedd o'i hamgylch hwy.
26 A'i enw ef a gyrhaeddodd hyd at y brenin, a phob cenedl a fynegei ryfeloedd Iudas.
27 A phan glybu Antiochus y brenin y geiriau hyn, efe a ddigiodd yn llidiog, ac a ddanfonodd allan, ac a gasclodd holl fyddi∣noedd ei deyrnas, llû cryf iawn.
28 Ac efe a agorodd ei dryssor-dŷ, ac a roddes gyflogau iw luoedd tros flwyddyn, ac a orchymynnodd iddynt hwy fod yn ba∣rod tros flwyddyn, ‖ 1.1314 pa brŷd bynnag y by∣ddei raid iddo wrthynt hwy.
29 Ond pan welodd efe yr arian o'i drys∣sorau yn pallu, ‖ 1.1315 a'r rhai oedd yn casclu teyrn-ged y wlad yn anaml, oblegit yr ang∣hydtundeb, a'r aflwydd a wnaethei efe yn y wlâd, wrth dynnu ymmaith y cyfreithiau a fuasei er y dyddiau cyntaf:
30 Yna efe a ofnodd rhag na byddei ganddo ddigon ‖ 1.1316 i atteb vn-waith neu ddwy∣waith y draul, a'r rhoddion a roddasei efe o'r blaen â llaw helaeth; canys efe a fuasei helaethach nâ'r brenhinoedd o'r blaen mewn haelioni.
31 Am hynny yr oedd efe mewn cyfyng∣der meddwl, ond efe a gymmerodd gyngor i fyned i Persia, i gymmeryd teyrn-ged y gwledydd, ac i gasclu llawer o arian.
32 Am hynny efe a adawodd Lysias, gŵr anrhydeddus, ac o genedl y brenin, ar sat∣terion y brenin, o'r afon Euphrates hyd terfynau yr Aipht,
33 Ac i ddwyn Antiochus ei fab ef i fy∣nu, hyd oni ddychwelei efe.
34 Ac efe a roddes iddo ef hanner y llu∣oedd, a'r Elephantiaid, ac a roes orchymy∣nion iddo ef am bob peth a'r a ewyllysiei efe ei wneuthur, ac ynghylch y rhai oedd yn trigo yn Iuda, ac yn Ierusalem,
35 I ddanfon llu yn eu herbyn hwy, i dde∣strywio, ac i ddiwreiddio nerth Israel, a gweddill Ierusalem, ac i dynnu ymmaith eu coffadwriaeth hwy o'r lle hwnnw.
36 Ac i osod dynion dieithr i drigo yn eu holl derfynau hwy, ac i gyfrannu eu gwlad hwy wrth goel-brennau.
37 A'r brenin a gymmerodd hanner y llu∣oedd, y rhai a weddillasid, ac a gychwyn∣nodd o Antioch, ‖ 1.1317 dinas ei deyrnas ef, y seithfed flwyddyn a deugain a chant, ac efe a aeth tros yr afon Euphrates, ac a dram∣wyodd trwy 'r gwledydd vchaf.
38 A Lysias a ddewisodd Ptolomeus fab Dorymenes, a Nicanor, a Gorgias, gwŷr galluoc, a chyfeillion y brenin:
39 Ac efe a ddanfonodd ddeugein-mil o wŷr [traed] gyd â hwy, a seith-mil o wŷr meirch, i fyned i wlâd Iuda, iw destrywio hi yn ôl gorchymmyn y brenin.
40 A hwy a gychwynnasant â'i holl lu, ac a ddaethant, ac a werssyllasant yn gyfa∣gos i Emmaus, ar y tîr gwastad.
41 Pan glybu marchnad-wŷr y wlad sôn am danynt, hwy a gymmerasant arian, a llawer iawn o aur, a ‖ 1.1318 gwenidogion, ac a ddaethant i'r gwerssyll, i brynu meibion Israel yn gaethion, a llu o Syria ac o wlâd y ‖ 1.1319 dieithraid a ddaeth attynt hwy.
42 Pan welodd Iudas a'i frodyr fod dry∣gau yn amlhau, a gwerssyllu o'r lluoedd o fewn eu terfynau hwy; (a hwy a wy∣ddent eiriau 'r brenin, y rhai a orchymyn∣nasei efe i wneuthur dinistr a phen am y bobl.)
43 Yna 'r naill a ddywedodd wrth y llall,
Page [unnumbered]
gosodwn ein pobl drachefn allan o orthrym∣der, ac ymladdwn tros ein pobl a'r Cyssegr.
44 A'r gynnulleidfa a ymgasclodd i fod yn barod i ryfela, ac i weddio, ac i ofyn truga∣redd a thosturi.
45 Canys anghyfannedd oedd Ierusa∣lem fel anialwch, nid oedd neb o'i phlant hi yn myned i mewn, nac yn dyfod allan; a'r Cyssegr oedd wedi ei sathru, a meibion all∣tudion yn cadw 'r castell: llettŷ [oedd hi] i'r Cenhedloedd, a'r hyfrydwch a dynnasid ym∣maith oddi wrth Iacob, a'r bibell a'r delyn a beidiasent.
46 [A'r Israeliaid] a ymgasclasant yng∣hyd, ac a ddaethant i ‖ 1.1320 Maspha, gyferbyn a Ierusalem, canys y lle o'r blaen i Israel i weddio oedd ym Maspha.
47 A hwy a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a wiscasant liain sach, ac [a fwriasant] ludw ar eu pennau, ac a rwyga∣sant eu dillad:
48 Ac a ledasant lyfrau 'r Gyfraith, ‖ 1.1321 am y rhai yr oedd y Cenhedloedd yn chwilio, i argraphu lluniau eu delwau ynddynt;
49 Ac a ddygasant ddillad yr Offeiriaid, a'r blaen-ffrwythau, a'r degymmau, ac a gyffroesant y * 1.1322 Nazareaid, y rhai a gyflaw∣nasent [eu] dyddiau;
50 Ac a lefasant â llef [vchel] tu a'r nef, gan ddywedyd, pa beth a wnawn ni i'r rhai hyn? ac i ba le y dygwn ni hwy ymmaith?
51 Dy gyssegr di a fathred, ac a halog∣wyd, a'th Offeiriaid di sy mewn galar, a gostyngiad.
52 Ac wele 'r Cenhedloedd a ymgascla∣sant yn ein herbyn ni i'n destrywio ni: ti a ŵyddost pa bethau y maent hwy yn eu bwriadu yn ein herbyn.
53 Pa fodd y gallwn ni sefyll yn eu hwyneb hwy, oddieithr i ti ein cynnorth∣wyo ni?
54 Yna hwy a ganasant ag vdcyrn, ac a waeddasant â llef vchel.
55 Yna Iudas a osododd gapteniaid ar y bobl, capteniaid ar fil, ar gant, ar ddec a deugain, ac ar ddêc.
56 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu teiau, ac a ddyweddiasid â gwragedd, ac oeddynt yn plannu gwin∣llannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd o bob vn iw dŷ * 1.1323 yn ôl y Gyfraith.
57 A'r llu a symmudodd, ac a werssyllodd o'r tu deheu i Emmaus.
58 A Iudas a ddywedodd, ymwregyswch, a byddwch wŷr gwrol, a byddwch barod i ymladd y foru â'r Cenhedloedd hyn a ym∣gasclasant yn ein herbyn ni, i'n destrywio ni a'n Cyssegr.
59 Canys gwell i ni feirw yn y rhyfel, nâ gweled drygfyd ein cenedl a'n Cyssegr.
60 Ond fel y byddo ewyllys [Duw] yn y nef, felly gwneled.
PEN. IIII.
6 Iudas yn diddymmu dichell, 14 a gallu Gorgias, 23 ac yn anrheithio eu pebyll, 34 ac yn gorchfygu Lysias: 45 ac yn tynnu i lawr yr allor a halogasai 'r Cenhedloedd, ac yn adeiladu vn newydd, 60 ac yn gwneuthur caer o amgylch Sion.
YNa Gorgias a gymmerodd bum-mil o wŷr [traed,] a mil o wŷr meirch detholedig, ac a osododd allan o'r gwersyll liw nôs,
2 Fel y gallei efe ruthro i werssyll yr Iddewon a'i taro hwy yn ddisymmwth: a milwŷr y castell oedd yn ei gyfarwyddo ef ar y ffordd.
3 Pan glybu Iudas, efe a aeth allan ei hun, a'r gwŷr galluog gyd ag ef, i daro llu y brenin, yr hwn oedd yn Emmaus,
4 Tra fyddei y lluoedd etto wedi ymda∣nu oddi wrth y gwerssyll.
5 A Gorgias a ddaeth i werssyll Iudas liw nos, ac ni chafodd efe neb, ond efe a'i cei∣siodd hwy yn y mynyddoedd, ac a ddywe∣dodd, y maent hwy yn ffoi oddi wrthym ni.
6 Ond gyd â'i dyddhau hi, Iudas a ym∣ddangosod yn y maes, a thair mîl o wŷr, ond nid oedd ganddynt hwy ‖ 1.1324 na llurigau na chleddyfau, fel yr ewyllysient.
7 Pan welsant hwy werssyll y Cenhed∣loedd yn gryf, wedi ei wisco mewn lluri∣gau, a'r gwŷr meirch yn eu amgylchu hw∣ynt, a'r rhai hynny wedi eu dyscu i ryfela,
8 Yna Iudas a ddywedodd wrth y gwŷr oedd gyd ag ef, nac ofnwch eu lluosogrwydd hwy, ac nac ofnwch eu rhuthr hwy.
9 Cofiwch fel yr achubwyd ein henafi∣aid ni yn y môr côch, pan erlidiodd Pharao hwy â llu.
10 Felly yr awron, gadewch i ni lefain tu a'r nef, [i edrych] a drugarhâo ‖ 1.1325 efe wrthym ni, ac a gofia efe ammod ein hynafiaid, ac a ddryllia efe y gwerssyll hwn o flaen ein hwyneb ni heddyw;
11 Fel y gwypo 'r holl Genhedloedd fod vn yn gwared, ac yn achub Israel.
12 Yna y dieithraid a godasant eu golwg i fynu, ac a'i canfuant hwy yn dyfod ar eu cyfer hwynt;
13 Ac a ddaethant allan o'r gwerssyll i ryfela: â'r rhai oedd gyd â Iudas a gana∣sant vdcyrn.
14 A hwy a darawsant ynghyd, â'r Cen∣hedloedd a orchyfyged, ac a ffoesant i'r maes gwastad.
15 A'r holl rai olaf a laddwyd â'r cle∣ddyf: a hwy a'i herlidiasant hwy hyd Ga∣zera, a hyd at feusydd Idumæa, ac Azotus, a Iamnia: ac ynghylch teir-mil o wŷr o honynt hwy a laddwyd.
16 A Iudas a'r llu a ddychwelodd o'i herlid hwy.
17 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, na fyddwch awyddus i'r yspeil, oblegit y mae rhyfel ‖ 1.1326 yn ein herbyn ni.
18 Oblegit y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd yn agos attom ni, ond sefwch yn awr yn erbyn ein gelynion, a gorchfygwch hwy, ac wedi hynny cymmerwch yr yspail yn ddiofn.
19 Pan oedd Iudas etto yn dywedyd
Page [unnumbered]
hyn, rhan [o honynt hwy] a welid yn edrych allan o'r mynydd.
20 Pan welsant yrru o'r Iddewon eu llu hwynt i ffoi, a'i bôd yn llosci y gwerssyll (canys y mŵg, yr hwn a welid, a ddango∣sodd yr hyn a wnaethid.)
21 Pan welsant y pethau hyn, hwy a of∣nasant yn ddirfawr: a phan welsant hwy lu Iudas yn y maes, yn barod i ymladd,
22 Hwy a ffoesant oll i wlâd y dieithraid.
23 A Iudas a ddychwelodd i gymmeryd yspail y gwerssyll, a hwy a gawsant lawer o aur ac arian, a dillad, a sidan glâs, a phor∣phor y môr, a chyfoeth mawr.
24 Felly hwy a aethant adref, ac a gana∣sant gân diolch, ac a fendithiasant Dduw nef, am ei fod efe yn ddaionus, a'i druga∣redd yn dragywydd.
25 Ac felly Israel a gafodd ymwared mawr y diwrnod hwnnw.
26 A'r Cenhedloedd oll a'r a ddiangasent, a ddaethant, ac a ddywedasant i Lysias bob peth a ddigwyddasei.
27 A Lysias oedd yn gywilydd ganddo, ac a ddigalonnodd, am na ddigwyddasei y cyfryw bethau i Israel ac a fynnasei efe, ac am na wnaethid y cyfryw bethau ac a orchymynnasei 'r brenin.
28 A'r flwyddyn nesaf ar ôl hyn, Lysias a gasclodd dri vgain mil o wŷr traed de∣tholedic, a phum-mil o wŷr meirch, iw gorchfygu hwynt.
29 A hwy a ddaethant i Idumæa, ac a werssyllasant yn Beth-sura, lle y daeth Iu∣das yn eu herbyn hwy â deng-mil o wŷr.
30 A phan welodd efe y llu mawr-gryf, efe a wnaeth ei weddi, ac a ddywedodd, Bendigedic wyt ti ô Achubwr Israel, yr hwn * 1.1327 a gostwyaist ruthr y cadarn trwy law Dafydd dŷ wâs, ac a roddaist werssyll y * 1.1328 ‖ 1.1329 dieithriaid yn llaw Ionathan fab Saul, ac arwainydd ei arfau ef.
31 Cae y llû hwn yn llaw dy bobl Is∣rael, a chy wilyddier hwy yn eu lliawsog∣rwydd a'i gwŷr meirch.
32 Gwna iddynt hwy ofni, a thawdd ymmaith hyfder eu cadernid hwynt a chrynant wrth eu dinystr.
33 Tafl hwy i lawr â chleddyf y rhai sy yn dy garu di: a'r sawl oll a adwaenant dy enw, clodforant di â hymnau.
34 Yna hwy a darawsant ynghyd, ac fe a laddwyd ynghylch pum-mil o wŷr o lu Lysias ger eu bron hwy y lladdwyd hwynt.
35 Pan welodd Lysias yrru ei lu ef i ffoi, a gwrolaeth y rhai oedd gydâ Iudas, fel yr oeddynt hwy 'n barod, pa vn bynnag, ai i fyw, ai i farw fel gwŷr, efe a aeth i Antiochia, ac a gasclodd ryfelwŷr dieithr; ac wedi gwneuthur ei lu yn fwy nag y bua∣sei, a feddyliodd ddyfod trachefn i Iudæa.
36 Yna y dywedodd Iudas a'i frodyr, wele, gorchfygwyd ein gelynion, awn i fy∣nu i lanhau, ac i adnewyddu y Cyssegr.
37 Wrth hyn yr holl lu a ymgasclodd, a hwy a aethant i fynu i fynydd Sion.
38 A phan welsant hwy y Cyssegr wedi ei anrheithio, yr allor wedi ei halogi, y dor∣au wedi eu llosci, a'r man-wydd yn tyfu yn y neuaddau, fel mewn coed, neu ar vn o'r mynyddoedd, ac stafelloedd yr Offeiriaid wedi eu tynnu i lawr;
39 Hwy a rwygasant eu dillad, ac a ala∣rasant â galar mawr, ac a fwriasant ludw ar eu pennau;
40 Ac a syrthiasant i lawr ar eu hwyne∣bau, ac a wnaethant sŵn mawr ag vdcyrn, ac a waeddasant tu a'r nef.
41 Yna Iudas a osododd wŷr i ymladd yn erbyn y rhai oedd yn y castell, hyd oni ddarfyddei iddo ef lanhau 'r Cyssegr.
42 Ac efe a ddewisodd Offeiriaid diargy∣oedd, y rhai oedd ewyllysgar i'r Gyfraith:
43 A hwy a lanhasant y Cyssegr, ac a ddy∣gasant allan y cerric halogedic i le aflan.
44 A chan fod allor y poeth offrymmau wedi ei halogi, hwy a ymgynghorasant beth a wnaent iddi hi.
45 Felly hwy a feddyliasant mai goreu oedd ei thynnu hi i lawr, rhag iddi hi fôd yn gywilydd iddynt hwy, canys y Cenhedloedd a'i halogasent hi: am hynny hwy a dynnasant yr allor i lawr;
46 Ac a osodasant y cerric ar fynydd y ‖ 1.1330 tŷ mewn lle cyfaddas, hyd oni ddelei proph∣wyd i fynegi pa beth a wneid â hwynt.
47 A hwy a gymmerasant gerrig cyfan * 1.1331 yn ôl y Gyfraith, ac a adeiladasant allor newydd, yn ôl dull y gyntaf;
48 Ac a wnaethant y Cyssegr i fynu, a'r pethau o fewn y ‖ 1.1332 tŷ, ac a sancteiddiasant y cynteddau;
49 Ac a wnaethant lestri sanctaidd newydd, ac a ddygasant y canhwyllbren, ac allor y poeth-offrymmau, a'r arogl-aber∣thau, a'r bwrdd, i mewn i'r Deml.
50 A hwy a loscasant aroglau ar yr allor, ac a oleuasant y canhwyllau oedd yn y canhwyllbren, i oleuo yn y Deml.
51 A hwy a osodasant y bara ar y bwrdd, ac a ledasant y llenni, ac a orphennasant yr holl waith a ddechreuasent ei wneuthur.
52 Ac ar y pummed dydd ar hugain o'r nawfed mîs (yr hwn a elwir mîs Cas••eu) yn yr ŵythfed flwyddyn a deugain a chant, hwy a godasant yn foreu i fynu,
53 Ac a aberthasant yn ôl y Gyfraith, ar allor newydd y poeth offrymmau, yr hon a wnaethent hwy.
54 Ar gyfenw i'r amser a'r diwrnod yr halogasei y Cenhedloedd hi, yn vniawn, y gosoded hi i fynu o newydd, â chaniadau, â thelynau, â phibau, ac â symbalau.
55 A'r holl bobl a syrthiasant ar eu hwy∣nebau, gan addoli a diolch i [Dduw] y nef, yr hwn a'i llwyddasei hwy.
56 Ac felly hwy a gadwasant gyssegriad yr allor ŵyth niwrnod, gan offrymmu poeth∣offrymmau ac aberthu aberthau ‖ 1.1333 iechyd∣wriaeth a moliant, mewn llawenydd.
57 A hwy a harddasant dalcen y Deml â choronau o aur, ac â thariannau, ac a ‖ 1.1334 adnewyddasant y pyrth a'r stafelloedd, ac a osodasant ddrysau arnynt hwy.
Page [unnumbered]
58 Ac yr oedd llawenydd mawr ym∣mhlith y bobl, am droi gwradwydd y Cen∣hedloedd ymmaith.
59 Felly Iudas a'i frodyr, a holl gyn∣nulleidfa Israel a ordeiniodd gadw dyddi∣au cyssegriad yr allor yn eu hamserau, yn vchel-wyl bob blwyddyn tros ŵyth niwr∣nod, gan ddechreu y pummed dydd ar hu∣gain o'r mi's Casleu, trwy orfoledd a lla∣wenydd.
60 Ac ar yr vn amser, hwy a adeilada∣sant fynydd Sion i fynu â chaerau vchel, ac â thyrau cedyrn oddi amgylch, rhag dy∣fod o'r Cenhedloedd a'i fathru ef i lawr, fel y gwnaethent o'r blaen.
61 A hwy a osodasant ynddo gryfdwr iw gadw ef, ac a gadarnhasant Beth-sura iw gadw ef, fel y cai yr bobl amddeffynfa yn erbyn Idumæa.
PEN. V.
3 Iudas yn taro meibion Dan, Bean, ac Am∣mon. 17 Danfon Simon i Galilæa. 15 Gwro∣liaeth Iudas yn Galaad. 51 Y mae efe yn distrywio Ephron, am naccau iddo gael my∣ned trwyddi. 56 Lladd llawer a fynnai ymladd â'i gelynion yn absen Iudas.
DIgwyddodd hefyd pan gly∣bu y Cenhedloedd oddi am∣gylch ddarfod adeiladu yr allor, ac adnewyddu yr Cys∣segr, fel y buasent o'r blaen, yna digio yn ddirfawr a wnaethant.
2 Am hynny hwy a ymgynghorasant i ddestrywio cenhedl Iacob, yr hon oedd yn eu plith hwy, ac a ddechreuasant ladd ac erlid y bobl.
3 Yna Iudas a ymladdodd yn erbyn plant Esau yn Idumæa, yn ‖ 1.1335 Arabathane, am eu bôd yn gwarchae ar Israel: ac efe a'i tarawodd â phla mawr, ac a'i darostyng∣odd, ac a ddug eu hyspail hwynt.
4 Efe a gofiodd hefyd falis ac anffydd∣londeb plant ‖ 1.1336 Bean, fel yr oeddynt hwy 'n rhwyd, ac yn rhwystr i'r bobl, ac yn eu cynllwyn hwy yn y ffyrdd.
5 Am hynny efe a'i cauodd hwy mewn tyrau, ac a wersyllodd yn eu herbyn, ac a'i destrywiodd hwy yn llwyr, ac a loscodd eu tyrau hwy, a ‖ 1.1337 phawb a'r oedd ynddynt.
6 Wedi hynny efe a aeth trosodd at blant Ammon, ac a gafodd yno lu cadarn, a llawer o bobl, gyd â Thimotheus eu cap∣ten hwynt.
7 Ac efe a ymladdodd â hwynt mewn llawer o ryfeloedd, a hwy a ddestrywied o'i flaen ef, ac efe a'i tarawodd hwynt.
8 Ac wedi iddo ennill Iazar, a'r trefydd oedd yn perthynu iddi hi, efe a ddychwe∣lodd i Iudæa.
9 Yna y Cenhedloedd yn Galaad a ym∣gasclasant yn erbyn yr Israeliaid, y rhai oedd o fewn eu terfynau hwy, iw lladd hwy; ond hwy a ffoesant i gastell Dathema;
10 Ac a anfonasant lythyrau at Iudas a'i frodyr gan ddywedyd, y Cenhedloedd, y rhai sy o'n hamgyleh ni, a ymgasclasant yn ein herbyn ni, i'n destrywio ni.
11 Ac yr awron y maent hwy yn ymba∣ratoi i ddyfod, ac i amgylchu 'r castell, lle y ffoesom ni: a Thimotheus ydyw capten eu llu hwy.
12 Tyret ynawr gan hynny, a gwared ni allan o'i dwylo hwy, canys llawer o ho∣nom ni a laddwyd eusys.
13 A'n holl frodyr, y rhai oedd yn lle∣oedd Tobie, a laddwyd, eu gwragedd he∣fyd a'i plant a ddygasant hwy ymmaith yn gaethion, a'i da a ddygasant, ac a ladd∣asant yno ynghylch mîl o wŷr.
14 Pan oedd y llythyrau hyn etto yn eu darllen, wele, cenadon eraill a ddaeth o Ga∣lilea, wedi rhwygo eu dillad, y rhai a fy∣negasant yn ôl y geiriau hyn,
15 Ac a ddywedasant, ymgasclodd y rhai sy o Ptolemais, a Thyrus, a Sidon, a holl Galilea y Cenhedloedd, yn ein herbyn ni, i'n destrywio ni.
16 Pan glybu Iudas a'r bobl hyn ym∣ma, cynnulleidfa fawr a ymgasclodd i ym∣gynghori pa beth a wnaent hwy iw brodyr oedd mewn gorthrymder, ac a rhyfel yn eu herbyn.
17 A Iudas a ddywedodd wrth Simon ei frawd, dewis allan wŷr, a dôs i achub dy frodyr yn Galilea, ac myfi a'm brawd Io∣nathan a awn i wlâd Galaad.
18 Ac efe a adawodd Ioseph fab Zacha∣rias, ac Azarias, yn gapteniaid ar y bobl, a gweddill y llu yn Iudæa, iw chadw hi.
19 Ac efe y orchymynnodd iddynt hwy gan ddywedyd, llywodraethwch y bobl ym∣ma, a mogelwch osod rhyfel yn erbyn y Cenhedloedd, hyd oni ddychwelom ni.
20 Ac fe roddwyd teir-mîl o wŷr Simon, i fyned i Galilea, ac ŵyth-mîl o wŷr Iudas, yn erbyn gwlâd Galaad.
21 Yna Simon a aeth i Galilea, ac a da∣rawodd ar y Cenhedloedd, mewn llawer o ryfeloedd, ac a'i gorchfygodd hwy.
22 Ac efe a'i canlynodd hwy hyd byrth Ptolemais, ac ynghylch teir-mîl o wŷr o'r Cenhedloedd a laddwyd; ac efe a gymme∣rodd eu hyspail hwy;
23 Ac a ddygodd yr Israeliaid ymmaith, y rhai oedd yn garcharorion yn Galilea, ac yn Arbattis, a'i gwragedd, a'i plant, a chym∣maint ac a feddent, ac a'i dygodd hwy i Iudæa, â llawenydd mawr.
24 A Iudas Maccabaeus, a'i frawd Io∣nathan, a aethant tros Iorddonen, ac a aethant daith tridiau yn yr anialwch:
25 Lle y cyfarfuant hwy â'r Nabathiaid, a hwy a ddaethant attynt yn heddychol, ac a fynegasant iddynt hwy bob peth a ddig∣wyddasei iw brodyr hwy yngwlâd Ga∣laad:
26 Ac fel y cauasid llawer o honynt hwy yn ‖ 1.1338 Bosora, Bosor, Alima, ‖ 1.1339 Chascor, Ma∣ceda, a Charnaim (dinasoedd cryfion a mawrion ydyw y rhai hyn oll.)
27 A'i bod wedi cau arnynt yn y lleill o
Page [unnumbered]
ddinasoedd gwlad Galaad, ‖ 1.1340 a'i bod hwy wedi bwriadu dwyn eu llu yn erbyn yr ymddeffynfaoedd iw dal hwy, ac i'w dife∣tha oll yn yr vn dydd.
28 Ac ar hyn Iudas a'i lu a drôdd ar frys, ar hyd ffordd yr anialwch tu â ‖ 1.1341 Bo∣sor, ac a ennillodd y ddinas, ac a laddodd yr holl rai gwr-rywiaid â'r cleddyf, ac a gym∣merodd eu holl yspail hwy, ac a loscodd y ddinas â thân.
29 Ac efe a symmudodd oddi yno liw nos, ac a ddaeth tua 'r castell.
30 A phan oedd hi yn foreu ddydd, hwy a godasant eu golwg i fynu, ac wele lu anifeiriol o bobl yn dwyn yscalion, ac offer∣rhyfel i fynu i ennill y castell, ‖ 1.1342 ac yr oe∣ddynt wedi gosod arnynt hwy.
31 Pan welodd Iudas ddechreu o'r rhy∣fel, a bod gwaedd y ddinas yn derchafu tua 'r nef gan vdcyrn, a llef vchel;
32 Efe a ddywedodd wrth ei lu, ymledd∣wch heddyw tros eich brodyr.
33 Ac efe a ddaeth o'r tu ôl iddynt, mewn tair byddin, a hwy a ganasant yr vdcyrn, ac a lefasant ynghŷd â gweddi.
34 Pan ŵybu gwerssyll Timotheus mai Maccabaeus oedd yno, hwy a ffoesant rhag∣ddo ef, ond efe a'i tarawodd hwy â lladdfa fawr, ac ynghylch wyth-mil o wŷr a ladded o honynt hwy y diwrnod hwnnw.
35 Yna Iudas a drôdd tua Maspha, ac a osododd arni, ac a'i hennillodd hi, ac a laddodd bôb gwr-ryw ynddi, ac a gymme∣rodd ei hyspail hi, ac a'i lloscodd hi â thân.
36 Efe a aeth oddi yno ac a ennillodd Casphon, Maged, Bosor, a'r dinasoedd eraill yn Galaad.
37 Wedi hyn Timotheus, a gasclodd lu arall, ac a werssyllodd o flaen Raphon, o'r tu draw i'r afon.
38 A Iudas a anfonodd i spio 'r gwer∣syll, a hwy a ddygasant air iddo, gan ddy∣wedyd; y mae 'r holl genhedloedd sy o'n hamgylch ni wedi ymgasclu atto ef, yn llu lluosog iawn.
39 Ac efe a gyflogodd yr Arabiaid iw cymmorth hwy, a hwy o werssyllasant o'r tu draw i'r afon, ac y maent yn barod i ddy∣fod, ac i ymladd â thi; a Iudas a aeth i gyfarfod â hwynt.
40 A Thimotheus a ddywedodd wrth gapteniaid ei lu, pan ddelo Iudas a'i lu yn agos at yr afon, os daw efe trosodd yn gyn∣taf attom ni, ni allwn ni ei wrthwynebu ef, o blegit efe a fydd trêch nâ nyni o lawer.
41 Ond os arswyda efe ddyfod trosodd, a gwerssyllu o'r tu draw i'r afon, nyni a awn trosodd atto ef, ac nyni a fyddwn gry∣fach nag ef.
42 Ond pan nessaodd Iudas at yr afon, efe a osododd scrifennyddion y bobl ynglan yr afon, ac a orchymynnodd iddynt hwy, gan ddywedyd, na adewch i vn dŷn aros yn y gwersyll, ond deued pawb i'r rhy∣fel.
43 Ac efe a aeth trosodd yn gyntaf at∣tynt hwy, a'i holl bobl ar ei ôl: a'r holl genhedloedd a orchfyged ger ei fron ef, a hwy a daflasant eu hârfau ymmaith, ac a ffoesant i'r deml oedd yn Carnaim.
44 A Iudas a ennillodd y ddinas, ac a loscodd y deml a phawb ar oedd ynddi hi; felly y gorchfyged Carnaim, ac ni allodd hi wrthwynebu Iudas.
45 A Iudas a gasclodd yr holl Israeli∣aid oedd yngwlâd Galaad, o'r lleiaf hyd y mwyaf, a'i gwragedd hwy, a'i plant, a'i mûd, llû mawr iawn, i ddyfod i wlâd Iudæa.
46 A hwy a ddaethant i Ephron (yr hon oedd ddinas fawr gadarn iawn, ar y ffordd yr elent hwy:) nid oedd fodd iddynt hwy fyned heb ei llaw hi, nac ar y llaw dde∣hau, nac ar y llaw asswy, ond myned trwy ei chanol hi oedd raid iddynt.
47 Yna gwŷr y ddinas a'i caeasant hwynt allan, ac a gaeasant y pyrth â cher∣ric.
48 A Iudas a ddanfonodd attynt hwy â geiriau heddychol, gan ddywedyd, gedwch i ni fyned trwy eich gwlâd chwi, fel y gallom fyned i'n gwlâd ein hun, ac ni chaiff neb wneuthur i chwi ddrwg, nid awn ni trwodd ond ar draed: ond ni fyn∣nent hwy agoryd iddo ef.
49 Am hynny Iudas a orchymynnodd gyhoeddi trwy y llu, ar i bôb vn wersyllu yn y fan yr ydoedd efe.
50 Ac felly gwŷr y llu a wersyllasant, ac a ryfelasant yn erbyn y ddinas yr holl ddi∣wrnod hwnnw, a'r holl noson honno, a'r ddinas a roddwyd yn ei law ef.
51 Ac efe a laddodd yr holl rai gwr-ry∣wiaid â mîn y cleddyf, ac a ddiwreiddiodd y ddinas, ac a gymmerodd ei hyspail hi, ac a dramwyodd trwy 'r ddinas, ar draws y rhai a laddassid.
52 Yna hwy a aethant tros yr Iorddo∣nen, i'r gwastadedd mawr sydd o flaen Bethsan.
53 A Iudas oedd yn casclu ynghyd y rhai * 1.1343 ‖ 1.1344 olaf, ac yn ‖ 1.1345 cynghori y bobl rhyd yr holl ffordd, hyd oni ddaeth efe i wlâd Iudæa.
54 A hwy a aethant i fynu i fynydd Sion mewn gorfoledd, a llawenydd, ac a offrymmasant ‖ 1.1346 boeth offrymmau, am na laddasid neb o honynt hwy, oni ddychwe∣lasent mewn heddwch.
55 Ac yn y dyddiau hynny, y rhai yr oedd Iudas a Ionathan yngwlâd Galaad, a Simon eu brawd hwy yngwlâd Galilea, o flaen Ptolemais,
56 Yna Ioseph mâb Zacharias, ac Aza∣rias, capteniaid y llu, a glywsant y gwei∣thredoedd ardderchawg, a'r rhyfeloedd a wnaethent hwy.
57 A hwytheu a ddywedasant, gedwch i ninnau hefyd ennill enw i ni, a myned i ymladd yn erbyn y cenhedloedd sy o'n hamgylch.
58 A hwy a roddasant orchymmyn i'r rhai oedd yn y llu oedd gyd â hwynt, ac a
Page [unnumbered]
a aethant tu a Iamnia.
59 Yna Gorgias a'i wŷr a ddaeth allan o'r ddinas i ‖ 1.1347 ymladd yn eu herbyn hwy.
60 Ond Ioseph, ac Azarias a yrrwyd i ffoi, ac a ymlidiwyd hyd terfynau Iudæa, a dwy fil o wŷr o bobl Israel a laddwyd y diwrnod hwnnw.
61 Fel hyn y bu colled fawr ym-mlhith pobl Israel, am na wrandawsent hwy ar Iudas a'i frodyr, eithr meddwl gwneuthur rhyw wroliaeth.
62 Hefyd nid oeddynt hwy o hâd y gwŷr hynny y rhoddasid ar eu dwylaw achub Israel.
63 Ond y gwr Iudas a'i frodyr a ogone∣ddid yn fawr ger bron holl Israel a'r holl genhedloedd, pa le bynnac y clywid eu henw hwy.
64 A'r bobl a ymgasclei attynt hwy i gy∣farch gwell iddynt.
65 Wedi hynny Iudas a'i frodyr a ae∣thant allan, ac a ryfelasant yn y wlâd sy yn gorwedd tu â'r dehau, yn erbyn meibion Esau, ac yno efe a orescynnodd Hebron a'i phentrefydd, ac a dynnodd i lawr ei cha∣stell hi, a'i ‖ 1.1348 thyrau hi a loscodd efe oddi amgylch.
66 Yna efe a ymadawodd i fyned i wlâd y ‖ 1.1349 dieithriaid, ac a aeth trwy Samaria.
67 Ar yr vn amser y lladdwyd [rhai o] Offeiriaid y dinasoedd, y rhai oedd yn ewy∣llysio gwneuthur gwrolaeth, am fyned o honynt i ymladd heb gyngor.
68 A phan ddaeth Iudas i Azotus yng∣wlâd y ‖ 1.1350 dieithriaid, efe a ddestrywiodd eu hallorau hwy, ac a loscodd eu delwau cer∣fiedig hwy, ac a gymmerodd yspail y dina∣soedd, ac a ddychwelodd i wlâd Iudæa.
PEN. VI.
8 Antiochus yn marw; 12 ac yn cyfaddef mai am y cam a wnaethai efe â Ierusalem y poenir ef. 20 Iudas yn gwarchae ar y rhai oedd yn y twr yn Ierusalem. 28 Hwythau yn cael gan Antiochus ieuangaf, ddyfod i Iu∣dæa. 51 Yntau yn gwarchae ar Sion, 60 ac yn heddychu ag Israel: 62 ac er hynny yn bwrw i lawr gaerau Sion.
AC Antiochus y brenin a dramwyodd trwy 'r gwle∣dydd vchaf, ac a glybu fod Elymais o fewn Persia yn ddinas enwog iawn am olud, am arian ac aur;
2 A bod teml gyfoethog iawn ynddi hi, a gwiscoedd o aur, a llurigau, a tharian∣nau, y rhai a adawsei Alexander mab Phi∣lip brenin Macedonia yno, yr hwn a deyr∣nasasei yn gyntaf ym mysc y Groec-wŷr.
3 Am hynny efe a ddaeth, ac a geisiodd ennill y ddinas, a'i hyspeilio hi, ond ni allei efe, oblegit cael o'r dinasyddion ŵybod y peth.
4 A hwy a godasant yn ei erbyn ef i ryfel, ac efe a ffôdd, ac a ymadawodd oddi yno mewn tristwch mawr, ac a ddychwe∣lodd i Babilon.
5 Hefyd rhyw vn a ddaeth, ac a fyne∣godd iddo ef yn Persia, ymlid ymmaith y lluoedd a aethei i wlâd Iudæa,
6 Ac fel yr aethei Lysias â llu cadaru yn gyntaf, ac yr ymlidiesid ef o'i blaen hwynt, ac fel yr aethent hwy yn gryfach o ran arfau a llu, ac yspail lawer, y rhai a ddygasent hwy oddi ar y lluoedd a dorrasent hwy ymmaith:
7 Ac fel y tynnasent hwy i lawr y ffi∣eidd-beth a osodasai efe ar yr allor yn Ieru∣salem, ac yr amgylchasent hwy 'r Cyssegr â chaerau vchel, fel y buasei efe o'r blaen, a Bethsura ei ddinas ef hefyd.
8 Pan glybu y brenin y geiriau hyn, fe synnodd arno, ac a gythruddodd yn ddir∣fawr: am hynny efe a orweddodd ar ei wely, ac a syrthiodd mewn clefyd oddi wrth y tristwch hwnnw, a'r cwdl am na ddigwyddasei iddo ef fel yr oedd efe yn disgwyl.
9 Ac efe a arhôdd yno lawer o ddyddi∣au, canys ei dristwch ef oedd fwy-fwy, ac efe a wnaeth gyfrif y byddei efe farw.
10 Am hynny efe a ddanfonodd am ei holl garedigion, ac a ddywedodd wrthynt hwy, mae 'r cyscu wedi ymadel â'm llygaid, ac fe lescaodd fy nghalon o wîr ofal:
11 Ac mi a ddywedais yn fy nghalon, i ba drallod y deuthym, ac ym-mha afonydd o drymder yr ydwyf yr a wron, lle 'r oeddwn i o'r blaen yn hael, ac yn gariadus yn fy awdurdod.
12 Ac yr awron yr ydwyfi yn cofio 'r drwg a wneuthym i yn Ierusalem, fel y dygais i ymmaith yr holl lestri aur, ac ari∣an oedd ynddi hi, ac fel y danfonais i ddestrywio trigolion Iudæa yn ddiachos.
13 Myfi a wn mai am hynny y daeth y drygau hyn arnaf, ac wele darfu am da∣naf fi trwy alaeth mawr, mewn gwlâd ddieithr.
14 Yna efe a alwodd am Philip, vn o'i garedigion, ac a'i gosododd ef yn llywo∣draeth-wr ar ei holl deyrnas,
15 Ac a roddes iddo ef ei goron, a'i fan∣tell, a'i fodrwy, fel y ‖ 1.1351 gallei efe gymmeryd Antiochus ei fab ef atto, a'i ddwyn ef i fy∣nu i deyrnasu.
16 Ac Antiochus y brenin a fu farw yno, yn y nawfed flwyddyn a deugain a chant.
17 Pan ŵybu Lysias farw o'r brenin, efe a osododd i deyrnasu yn ei le ef Antiochus ei fab ef, yr hwn a ddygasei efe i fynu yn ieuangc, ac a'i galwodd ef Eupator.
18 A'r rhai oedd yn y castell [yn Ierusa∣lem] a gadwasant yr Israeliaid i mewn o amgylch y Cyssegr, ac a geisiasant eu drygu hwy yn wastadol, a chadarnhau 'r Cenhed∣loedd.
19 Am hynny y bwriadodd Iudas eu de∣strywio hwy, ac efe a gasclodd yr holl bobl ynghyd, iw hamgylchynu hwy.
20 Felly hwy a ddaethant ynghyd, ac a'i
Page [unnumbered]
hamgylchynasant hwy yn y ddecfed flwy∣ddyn a deugain a chant; ac efe a wnaeth leoedd i'r tafl-wŷr i sefyll, a rhyfel-offer eraill.
21 Er hynny rhai o'r rhai yr oeddid yn eu hamgylchu, a aethant allan, a rhai o wŷr annuwiol Israel a lynasant wr∣thynt hwy,
22 Ac a aethant at y brenin, ac a ddy∣wedasant, pa hŷd y byddi di heb wneuthur cospedigaeth a dialedd ar ein brodyr ni?
23 Yr oeddym ni yn fodlon i wasanae∣thu dy dâd ti, i rodio fel y dywedei efe, ac i vfyddhau iw orchymynion ef.
24 Am hynny ein pobl a ymddieithrasant oddi wrthym ni, a pha le bynnac y cawsant hwy neb o honom ni, hwy a'i lladdasant; a hwy a yspeiliasant ein etifeddiaeth ni.
25 Ac nid estynnasant hwy eu dwylo yn vnic yn ein herbyn ni, ond yn erbyn ‖ 1.1352 ein holl gyffiniau.
26 Ac wele, y maent hwy wedi gwerssy∣llu heddyw yn erbyn y castell sydd yn Ie∣rusalem, iw orescyn ef, a hwy a gadarnha∣sant y Cyssegr, a Bethsura.
27 Ac oddieithr i ti achub eu blaen hwy yn fuan, hwy a wnant bethau mwy nâ'r rhai'n, fel na's gellych di eu rheoli hwynt.
28 Pan glybu'r brenin hynny, efe a ddigiodd, ac a gasclodd ei holl garedigion ynghyd, capteiniaid ei lu, a'r rhai oedd ar ei wŷr meirch ef.
29 Yna y daeth atto ef oddiwrth frenhin∣oedd eraill, ac o ynysoedd y môr, lu ar gyflog.
30 A rhifedi ei lu ef oedd gan-mil o wŷr traed, ac vgein-mil o wŷr meirch, a deuddec ar hugain o êlephantiaid wedi eu dyscu i ryfela.
31 Y rhai hyn a ddaethant trwy Idu∣mæa, ac a werssyllasant yn erbyn Bethsu∣ra, ac a ryfelasant tros lawer o ddyddiau, ac a osodasant allan lawer o ryfel-offer yn ei herbyn hi; ond ‖ 1.1353 [yr Iddewon] a ddae∣thant allan, ac a loscasant y rhei'ny â thân, ac a ymladdasant fel gwŷr.
32 Yna Iudas a ymadawodd oddi wrth castell, ac a werssyllodd yn Bathzacharias, gyferbyn a gwerssyll y brenin.
33 A'r brenin a gyfododd yn foreu iawn, ac a ddygodd y llu ar ruthr tua Bathza∣charias, ac a ‖ 1.1354 ymrannodd i ryfela, ac a ganodd vdcyrn.
34 A hwy a ddangosasant ‖ 1.1355 sugn grawn∣win, a mor-wŷdd, i'r elephantiaid, i'w han∣nog hwy i ymladd;
35 Ac a rannasant yr anifeiliaid ym mysc y byddinoedd, ac a ordeiniasant fil o wŷr wedi eu gwisco mewn llurigau o fodrwyau, ac â helmau o brês am eu pen∣nau, i bob elephant, a phum cant o wŷr meirch etholedic a ordeiniwyd hefyd i bob ‖ 1.1356 elephant.
36 Y rhai hyn oedd barod bob amser, lle byddei yr anifail y byddent, gan fyned i ba le bynnac yr elei efe, ac ni ymadawent hwy oddi wrtho ef.
37 A phob ‖ 1.1357 elephant a orchuddiasid â thŵr cadârn o goed, wedi ei siccrhau ar∣no ef ‖ 1.1358 ag offer, ac ar bôb vn yr oedd deu∣ddec ar hugain o wŷr i ymladd oddi arno ef, a gŵr o India [i lywodraethu] 'r anifail.
38 A hwy a osodasant weddill y gwŷr meirch o'r tu ymma, ac o'r tu accw, wrth ddwy ran y llu, ‖ 1.1359 gan roddi arwyddion idd∣ynt beth a wnaent, ac wedi eu holl-arfogi ym mysc y byddinoedd.
39 A phan dywynnei yr haul ar y tari∣annau aur a phres, y mynyddoedd a ddis∣cleiriei oddi wrthynt hwy, ac yr oeddynt yn llewyrchu fel lampau tân.
40 A rhan o lu y brenin oedd wedi ym∣danu ar y mynyddoedd vchel, a rhan ar y lleoedd isel; ac felly hwy a aethant yn ddio∣gel, ac mewn trefn.
41 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a gly∣bu sŵn eu lliaws hwy, a cherddediad y llu, a thrwst yr arfau yn taro ynghyd; canys yr oedd y llu yn fawr anianol, ac yn grŷf.
42 Iudas hefyd a'i lu a nessaodd i'r rhy∣fel, ac fe laddwyd chwe-chant o wŷr o lu y brenin.
43 Pan welodd Eleazar [a'i gyfenw] Sauaran, vn o'r elephantiaid wedi ei wisco ag arfau brenhinawl, ac yn vwch nâ'r ani∣feiliaid eraill, efe a feddyliodd fod y brenin ar hwnnw:
44 Ac a ymroes i achub ei bobl, ac i ennill iddo ei hun enw tragywyddol:
45 Ac a redodd yn galonnoc at yr ele∣phant hwnnw, trwy ganol y fyddin, ac a'i lladdodd hwy ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy, ‖ 1.1360 oni ymwahanasant hwy oddi wrtho ef o bob tu.
46 Ac efe a aeth tan yr elephant, ac a'i brathodd oddi tano, ac a'i lladdodd ef: yna'r elephant a syrthiodd i lawr arno ef, ac efe a fu farw yno.
47 Ond pan welodd [yr Iddewon eraill] gryfdwr y brenin, a nerth y lluoedd, hwy a giliasant oddi wrthynt hwy.
48 A'r rhai oedd o lu y brenin a aethant i fynu i gyfarfod â hwynt i Ierusalem, a'r brenin a werssyllodd ‖ 1.1361 yn erbyn Iudæa, ac yn erbyn mynydd Sion.
49 Hefyd y brenin a wnaeth heddwch rhyngddo a'r rhai oedd yn Bethsura, ‖ 1.1362 a hwy a ddaethant allan o'r ddinas, am nad oedd ganddynt ymborth yno, i aros y gwar∣chae, oblegit ei bod hi yn Sabboth i'r tîr.
50 Felly y brenin a gymmerodd Bethsu∣ra, ac a osododd wŷr iw chadw hi.
51 Ac efe a osododd ryfel yn erbyn y Cys∣segr tros lawer o ddyddiau, ‖ 1.1363 ac a osododd yno dafl-arfau a rhyfel-offer, bwâu, a gwaith i seuthu tân, a gwaith i saethu cerrig, ac yscorpionau i seuthu saethau a thaflau.
52 Yr Iddewon hefyd a wnaethant ry∣fel-offer yn erbyn yr eiddynt hwythau, ac a ymladdasant â hwynt tros hir amser.
53 Ond nid oedd mo'r bwyd yn eu lle∣stri, (oblegit y seithfed flwyddyn oedd hi, a'r rhai yn Iudæa a'r a achubasid o blith y Cenhedloedd, a fwyttasent eu holl stôr hwy.)
Page [unnumbered]
54 Ac ni adawsid ond ychydig wŷr yn y Cyssegr, oblegit newyn a'i gorchfygasei hwy, oni thynnasent hwy ymmaith bob vn iw le ei hun.
55 Pan glybu Lysias fod Philip (yr hwn a osodasei Antiochus y brenin, pan oedd efe etto yn fyw, i ddwyn Antiochus ei fab i fy∣nu i deyrnasu.)
56 Wedi dyfod trachefn o Persia, a Me∣dia, â llu 'r brenin, yr hwn a aethei gyd ag ef, a'i fod efe yn ceisio cymmeryd matterion y frenhiniaeth a'r ei law:
57 Yna efe a frysiodd, ac a aeth, ac a ddy∣wedodd wrth y brenin, a chapteniaid y llu, a'r gwŷr [eraill:] yr ydym ni yn llei∣hau beunydd, ac nid oes cennym ni ond ychydig ymborth; drachefn, y lle yr ydym ni yn ei amgylchu sy gadarn, ac arnom ni y mae cymmeryd gofal am y deyrnas.
58 Am hynny rhoddwn ddehau-ddwylaw i'r gwŷr hyn, gwnawn heddwch rhyngom a hwynt, ac a'i holl genedl:
59 ‖ 1.1364 A chaniatawn iddynt fyw yn ôl eu cyfraith, fel yr oeddynt o'r blaen, canys am hyn y maent hwy wedi cythruddo, a hyn oll a wnaethant hwy am ddilêu o honom ni eu cyfreithiau hwynt.
60 A'r brenin a'r tywysogion a fuant fod∣lon; ac efe a ddanfonodd attynt hwy i gyn∣nyg heddwch, a hwy a'i derbyniasant.
61 A'r brenin a'r tywysogion a dynga∣sant iddynt hwy, ac ar hynny hwy a ddae∣thant allan o'r castell.
62 A'r brenin a aeth i fynu i fynydd Sion, ond pan welodd efe gadernid y lle, efe a dorrodd y llw a dyngasei efe, ac a orchymynnodd dynnu y gaer i lawr oddi amgylch.
63 Yna efe a ymadawodd ar frŷs, ac a ddychwelodd i Antiochia, ac a gafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ac a ymladdodd ag ef, ac a orescynnodd y ddinas wrth gryfder.
PEN. VII.
1 Lladd Antiochus, a Demetrius yn teyrnasu yn ei le ef. 5 Alcimus yn chwennych bod yn Archoffeiriad, ac yn achwyn ar Iudas wrth y brenin: 16 yn lladd triugain o'r Asidæaid. 43 Lladd Nicanor, a gorch∣fygu gallu 'r brenin gan Iudas. 49 Cadw dydd yr oruchafiaeth hon yn wyl ym mhob man.
YN yr vnfed flwyddyn ar ddêc â deugain a chant yr ymadawodd Demetrius mab Seleucus o Rufain, ac a ddaeth ag ychydic wŷr ‖ 1.1365 i ddinas ynglan y môr, ac a deyrnasodd yno.
2 A phan ddaeth efe i ‖ frenhin-dŷ ei he∣nafiaid, digwyddodd i'w lu ef ddal Antio∣chus a Lysias iw dwyn atto ef.
3 A phan ŵybu efe hynny, efe a ddy∣wedodd, na ddangoswch i mi eu hwyne∣bau hwy.
4 A'r llu a'i lladdodd hwynt, a Demetri∣us a eisteddodd ar orseddfa ei frenhiniaeth.
5 Yna yr hôll ddynion drygionus annuwi∣ol o Israel a ddaethant atto ef, ac Alcimus oedd eu capten hwy, yr hwn oedd yn chwen∣nychu bod yn Arch-offeiriad:
6 Ac a gyhuddasant y bobl wrth y brenin, gan ddywedyd, Iudas a'i frodyr a ladda∣sant dy holl garedigion di, ac a'n gyrrasant ni allan o'n ‖ 1.1366 gwlâd.
7 Am hynny danfon ryw ŵr yr ydwyt yn ymddiried iddo, ac aed ac edryched yr holl ddestryw a wnaeth efe arnom ni, ac ar wlâd y brenin, a chosped efe hwynt, a phawb sydd yn eu cynhorthwyo.
8 Yna 'r brenin a ddewisodd Bacchides caredig y brenin, yr hwn oedd yn lly wo∣draethu o'r tu draw i'r afon, ac oedd ŵr mawr yn y deyrnas, ac yn ffyddloni'r brenin:
9 Ac efe a'i danfonodd ef gyd ag Alcimus annuwiol, yr hwn a wnaethei efe yn Arch∣offeiriad, ac a orchymynnodd iddo ddial ar blant Israel.
10 A hwy a ymadawsant, ac a ddaethant â llu mawr i wlâd Iudæa, ac a ddanfona∣sant gennadon at Iudas a'i frodyr, ac a ddywedasant eiriau heddychol yn dwyllo∣drus wrthynt hwy.
11 Eithr ni wnaethant hwy goel ar eu geiriau hwy: canys hwy a welsant ddy∣fod o honynt hwy â llu mawr.
12 Wedi hyn, cynnulleidfa o'r ‖ 1.1367 scrifenny∣ddion a ymgasclodd at Alcimus a Bacchi∣des, i geisio cyfiawnder.
13 A'r Asideaid oedd y rhai cyntaf ym∣mlhith plant Israel a geisiasant heddwch ganddynt hwy,
14 Gan ddywedyd, daeth vn sy Offeiriad o hâd Aaron gyd â'r llû ymma, ac ni wna efe gam â nyni.
15 Ac efe a roes eiriau heddychol iddynt hwy, ac a dyngodd wrthynt gan ddywe∣dyd, ni wnawn ni ddrwg i chwi, nac i'ch caredigion.
16 A hwy a'i credasant ef, ond efe a dda∣liodd dri-vgein-wr o honynt hwy, ac a'i lla∣ddodd hwy mewn vn diwrnod, yn ôl y gei∣riau a scrifennodd [Dafydd:]
17 Hwy * 1.1368 a daflasant allan gig dy Saint di, ac a dywalltasant eu gwaed hwy o am∣gylch Ierusalem, ac nid oedd neb a'i cla∣ddei hwynt.
18 A'i hofn hwynt a'i dychryn a ddaeth ar yr holl bobl, y rhai a ddywedent, nid oes na gwirionedd na ‖ 1.1369 chyfiawnder ynddynt hwy, oblegit hwy a dorrasant y llw a'r ammod a wnaethant.
19 A Bacchides a symmudodd o Ierusa∣lem, ac a werssyllodd yn Bezeth, ac a ddanfo∣nodd allan oddi yno, ac a ddaliodd lawer o'r rhai a'i gadawsent ef, a rhai o'r bobl, ac a'i lladdodd hwy, ac a'i taflodd i'r pydew mawr.
20 Yna efe a orchymynnodd y wlâd i Alci∣mus, ac a adawodd ryfel-wŷr gyd ag ef, iw gymhorth ef; a Bacchides a aethat y brenin.
21 Ac felly Alcimus a ‖ 1.1370 ymrysonodd am yr Arch-offeiriadaeth.
22 A'r holl rai oedd yn cythryblu y bobl,
Page [unnumbered]
a ymgasclasant atto ef, ac a ennillasant wlâd Iuda, ac a wnaethant ddrwg mawr yn Israel.
23 Pan welodd Iudas yr holl ddrwg a wnaethei Alcimus, a'r rhai oedd gyd ag ef i'r Israeliaid, ie mwy nag a [wnaethei] yr Cenhedloedd,
24 Efe a dramwyodd trwy holl derfynau Iuda oddi amgylch, ac a wnaeth ddialedd ar y gwŷr a ffoesent ymmaith oddi wrtho ef at y gelynion, oni pheidiasant hwy a dyfod mwy ‖ 1.1371 i'r wlâd.
25 Pan welodd Alcimus fod Iudas a'r rhai oedd gyd ag ef wedi ‖ 1.1372 cael y llaw vchaf, a gwybod na allei efe eu haros hwy, efe a ddychwelodd at y brenin, ac ‖ 1.1373 a'i cyhuddodd hwy o ddrygioni.
26 Yna 'r brenin a ddanfonodd Nicanor, vn o'i dywysogion anrhydeddus, yr hwn oedd yn casâu, ac yn dwyn gelyniaeth i Israel, ac a orchymynnodd iddo ddestrywio 'r bobl yn llwyr.
27 A Nicanor a ddaeth i Ierusalem â llu mawr, ac a ddanfonodd eiriau heddy∣chol at Iudas a'i frodyr, ond trwy dwyll, gan ddywedyd,
28 Na fydded rhyfel rhyngof a chwi, mi a ddeuaf ag ychydig wŷr i weled eich wynebau chwi yn heddychol.
29 Felly efe a ddaeth at Iudas, a hwy a gyfarchasant ei gilydd yn heddychol, ond yr oedd y gelynion yn barod i gippio Iu∣das i ffordd.
30 Etto yspyswyd y peth i Iudas, mai trwy dwyll y daethei efe atto ef: ac efe a'i hofnodd ef yn fawr, ac ni synnei weled ei wyneb ef mwy.
31 Pan wybu Nicanor ddatcuddio ei fwri∣ad ef, efe a aeth allan i ‖ 1.1374 ymladd yn erbyn Iudas, yn ymmyl ‖ 1.1375 Capharsalama.
32 Ac ynghylch pum-mîl o wŷr o lu Ni∣canor a laddwyd, a'r [llaill] a ffoesant i ddi∣nas Dafydd.
33 Wedi hyn, Nicanor a aeth i fynu i fy∣nydd Sion, a rhai o'r Offeiriaid, a henadu∣riaid y bobl a aethant allan o'r Cyssgr i gyfarch iddo ef yn heddychol, ac i ddangos iddo ef y poeth offrymmau yr oeddid yn eu hoffrwm tros y brenin.
34 Ond efe a chwarddodd am eu pen∣nau hwy, ac a'i gwatworodd hwy, ac ‖ 1.1376 a'u halogodd hwy, ac a ddywedodd yn falch.
35 Ac efe a dyngodd yn ei ddig gan ddywedyd, oni roddir yn awr Iudas a'i werssyll yn fynwylo i, os dychwelaf mewn heddwch, myfi a loscaf y tŷ ym∣ma: ac yna efe a aeth allan mewn dig∣llondeb mawr.
36 Yna 'r Offeiriaid a ddaethant i mewn, ac a safasant o flaen yr allor a'r Deml, gan ŵylo, a dywedyd,
37 O Arglwydd, ti a ddewisaist y tŷ ym∣ma, ‖ 1.1377 i alw ar dy enw di ynddo, ac i fod yn dŷ gwedi, ac ymbil i'th bobl.
38 Gwna ddialedd ar y gŵr hwn a'i werssyll, oni ladder hwy â'r cleddyf; cofia eu cabledigaethau hwy, ac na ddioddef iddynt hwy barhau.
39 A Nicanor a aeth allan o Ierusalem, ac a werssyllodd yn Bethoron, ac yno llu o Syria a gyfarfu ag ef.
40 A Iudas a werssyllodd yn Adafa, a their-mîl o wŷr, ac a wnaeth ei weddi gan ddywedyd.
41 * 1.1378 O Arglwydd, pan ddaeth rhai oddi wrth y brenin i'th gablu di, yr Angel a aeth allan, ac a laddodd gant a phump a phedwar vgain o filoedd o honynt hwy.
42 Destrywia felly y gwerssyll hwn o'n blaen ni heddyw, fel y gallo pobl eraill ŵy∣bod, ddywedyd o honaw efe yn ddrwg am dy gyssegr di, a barna ef yn ôl ei ddrygioni.
43 A'r gwerssylloedd a darawsant ynghyd, y trydydd dydd ar ddêc o'r mis Adar, a llu Nicanor a orchfyged, ac efe ei hun a ladded yn gyntaf yn y rhyfel.
44 Pan welodd rhyfelwŷr Nicanor ei ladd ef, hwy a daflasant eu harfau ym∣maith, ac a ffoesant.
45 Ond [yr Iddewon] a'i hymlidiasant hwy daith vn diwrnod, o Adasa nes dyfod i Gasera, ac a ganasant larwm mewn vdcyrn ar eu hôl hwynt.
46 A'r [Iddewon] a ddaethant allan o holl drefi Iudæa oddi amgylch, ac a'i herli∣diasant hwy: a hwy a droesant yn erbyn y rhai a'i herlidient, ac felly y lladded hwy oll â'r cleddyf, ac ni adawed neb o honynt hwy, na ddo vn.
47 Yna hwy a gymmerasant yr yspail, a'r ysclyfaeth, ac a dorrasant ben Nicanor ym∣maith, a'i law ddehau ef, yr hon a estynna∣sei efe allan cyn falched, ac a'i dygasant hwy ymmaith gyd â hwynt, ac a'i croga∣sant o flaen Ierusalem.
48 Am hynny 'r bobl a lawenychasant yn ddirfawr, ac a fwriasant y diwrnod hwnnw trwy orfoledd mawr;
49 Ac a ordeiniasant gadw y diwrnod hwnnw, [sef] y trydydd dydd ar ddêc o'r mis Adar bob blwyddyn.
50 Ac felly gwlad Iuda a gafodd hedd∣wch tros ychydig amser.
PEN. VIII.
1 Iudas yn cael yspysrwydd o allu a chyfrwys∣dra y Rhufeiniaid: 20 ac yn gwneuthur am∣modau heddwch â hwynt. 24 Pyngciau yr heddwch bwnnw.
IVdas hefyd a glybu sôn am y Rhufein-wŷr, eu bod hwy yn alluoc, ac yn wŷr cedyrn, ac yn fodlon i dder∣byn y rhai a ymgyssylltei â hwynt, ac yn gwneuthur heddwch â phawb a'r oedd yn cyrchu attynt,
2 A'i bôd yn alluog o nerth: a heb law hyn, eu rhyfeloedd hwy, a'r gwrolaeth a wnaethent hwy ym mysc y ‖ 1.1379 Galatiaid, a fynegwyd iddynt hwy, ac fel y gorchfyga∣sent hwynt, ac a'i dŷgasent tan deyrn-ged,
3 A pha bethau a wnaethent hwy yng∣wlad Hispaen, i ennill y mwyn-gloddiau
Page [unnumbered]
arian ac aur oedd yno;
4 Ac fel y gorescynnasent ‖ 1.1380 bob lle trwy eu doethineb a'i dioddefgarwch, (er pelled fyddei y lle oddi wrthynt hwy,) a'r bren∣hinoedd hefyd y rhai a ddaethei yn eu her∣byn hwy o eithaf y ddaiar, nes eu gorch∣fygu, a'i taro yn drwm iawn: ac fel yr oedd y llaill yn talu teyrn-ged iddynt hwy bob blwyddyn,
5 Ac fel y gorchfygasent hwy mewn rhy∣fel Philip, a Pherseus brenin y ‖ 1.1381 Macedo∣niaid, ac eraill y rhai a ymgodasei yn eu herbyn hwy, ac y gorchfygasent hwynt:
6 Fel y gorchfygasent hwy Antiochus y brenin mawr o Asia, yr hwn a fynnei ym∣ladd â hwynt, ac oedd ganddo chweugain o Elephantiaid, a gwŷr meirch, a cherby∣dau, a llu mawr iawn,
7 Ac fel y daliasent hwy ef yn fyw, ac yr ordeiniasent hwy iddo ef, ac i'r rhai a deyr∣nasei ar ei ôl ef, dalu teyrn-ged fawr idd∣ynt hwy, a rhoddi meichiau ar yr hyn a gyttunesid arno;
8 Fel y dygasent hwy oddi arno ef wlad India, a Media, a Lydia, ei wledydd go∣reu ef, ac y rhoddasent hwy y rhai hynny i'r brenin Eumenes:
9 A pha fôdd y rhoddasei y Groec-wŷr eu brŷd ar ddyfod a'i difetha hwynt:
10 Ac y danfonasent hwytheu pan wy∣buant, gapten yn eu herbyn hwy, ac y lla∣ddasent lawer o honynt hwy, ac y caeth∣gludasent eu gwragedd hwy a'i plant, ac yr yspeiliasent hwy, ac y cymmerasent feddi∣ant yn eu tîr hwy, ac y destrywiasent eu di∣nasoedd cedyrn hwy, ac a'i darostyngasent hwy i fod yn gaeth-wŷr iddynt hyd y dydd heddyw:
11 Ac fel y darfuasei iddynt hwy ddestry∣wio, a chaethiwo teyrnasoedd, ac ynysoedd eraill, y rhai a fuasei vn amser yn eu gwrthwynebu hwy,
12 Ac fel yr oeddynt hwy yn cadw cy∣dymdeithas â'i cydymdeithion, ac â'r rhai oedd a'i hyder arnynt hwy, ac fel yr enni∣llasent hwy deyrnasoedd ym mhell, ac yn agos, a bod pawb yn eu hofni hwy a'r a glywsei sôn am danynt.
13 O blegit pwy bynnac a chwenny∣chent hwy eu cymhorth i deyrnasu, y rhai hynny oedd yn teyrnasu; a thrachefn, y nêb a fynnent, a ddiswyddent hwy: ac fel yr oe∣ddynt hwy wedi dyfod i oruchafiaeth mawr:
14 Ac er hyn i gŷd nad oedd vn o honynt yn gwisco coron, nac yn ymddilladu â phor∣phor iw fawrygu felly,
15 Ond gwneuthur o honynt hwy dŷ cynghor iddynt eu hunain, lle yr oedd try∣chant, ac vgain, yn eistedd beunydd mewn cyngor, yn ymgynghori yn wastadol tros y bobl, iw cadw hwynt mewn trefn dda:
16 Ac fel yr oeddynt hwy yn ymddiried i vn gŵr bob blwyddyn iw llywodraethu hwynt, ac i arglwyodiaethu ar eu holl wlâd hwy, i'r hwn yr oedd pawb yn vfydd: ac nad oedd na chenfigen nac ‖ eiddigedd yn eu plith hwy.
17 Yna Iudas a ddewisodd Eupolemus fab Ioan, fab Accas, a Iason fab Eleazar, ac a'i danfonodd hwy i Rufain i wneuthur cyfammod caredigrwydd a ‖ 1.1382 chydymdeithas â hwynt:
18 Ac i ddeisyf arnynt hwy dynnu yr iau oddi arnynt hwy: oblegit yr oeddynt hwy yn gweled fod brenhiniaeth y Groeg∣wŷr yn gorthrymmu Israel â chaethi∣wed.
19 A hwy a aethant i Rufain, ac yr oedd y ffordd yn bell iawn, ac a aethant i mewn i dŷ 'r cyngor, lle y llefarasant ac y dywedasant,
20 Iudas Maccabaeus a'i frodyr, a phobl yr Iddewon, a'n danfonodd ni at∣toch chwi, i ymrwymo mewn ammo∣dau cydymdeithas a heddwch â chwy∣chwi, ac i chwithau ein scrifennu ninnau yn gydymdeithion, ac yn garedigion i chwi∣thau.
21 Ac yr oedd y chwedl ymma yn rhy∣ngu bodd i'r Rhufeiniaid yn dda iawn.
22 Ac dymma goppi o'r scrifen a orgra∣phodd [y cyngor] mewn llechau prês, ac a anfonasant hwy i Ierusalem, fel y by∣ddei yno gyd â hwy yn goffadwriaeth o'r heddwch, ac o'r gydymdeithas.
23 ‖ 1.1383 Bîd yn dda i'r Rhufein-wŷr, ac i bobl yr Iddewon, ar fôr ac ar dîr yn dra∣gywydd: a phell fyddo 'r cleddyf a'r gelyn oddi wrthynt.
24 Os daw rhyfel yn gyntaf yn erbyn y Rhufein-wŷr, nac yn erbyn neb o'i cydym∣deithion hwy, trwy eu holl arglwyddiaeth hwy,
25 Pobl yr Iddewon a'i cymhorthant hwy, fel y ‖ 1.1384 gofynno 'r amser, ag ewyllys eu calon:
26 Ac ni roddant ddim i'r rhai a ryfe∣lant yn eu herbyn hwynt, ac ni chynhor∣thwyant hwynt nac â bwyd, nac ag arian, nac â llongau, fel y rhyngodd bodd i'r Rhu∣fein-wŷr; eu hammodau a gadwant heb gymmeryd dim am hynny.
27 Yn yr vn ffunyd, os digwydd i bobl yr Iddewon yn gyntaf gaffael rhyfel, y Rhufein-wŷr a ymladdant gyd â hwy o ewyllys da, fel y gosoder yr amser idd∣ynt:
28 Ac ni roddant i elynion yr Idde∣won na bwyd, nac arfau, nac arian, na llongau, fel y gwelodd y Rhufein-wŷr yn dda: eithr hwy a gadwant yr ammodau hyn, a hynny yn ddidwyll.
29 Yn ôl y geiriau hyn y gwnaeth y Rhufein-wŷr ammed â phobl yr Idde∣won.
30 Ac os ewyllysia yr vn o'r ddwy blaid o hyn allan chwanegu at, neu dynu oddi wrth y geiriau hyn, gwnant wrta eu hewy∣llys: a pha beth bynnac a chwanegant at∣tynt, neu a dynnant oddi wrthynt, hynny a saif.
31 Ac am y drwg y mae Demetrius yn ei wneuthur i'r Iddewon, ni a scrifenna∣som atto ef, gan ddywedyd, pa ham y
Page [unnumbered]
gwnaethost ti dy iau yn drwm ar ein care∣digion ni a'n cydymdeithion yr Iddewon?
32 Os achŵynant hwy rhagot ti drachefn, nyni a wnawn gyfiawnder iddynt, ac a ym∣laddwn â thi ar fôr ac ar dîr.
PEN. IX.
1 Alcimus a Bacchides yn dyfod trachefn a galluoedd newydd i Iudæa: 7 A llu Iudas yn cilio oddiwrtho, 17 a'i ladd yntef. 30 Io∣nathan yn dyfod yn ei le ef, 40 Ac yn dial cam ei frawd Ioan. 55 Plau Alcimus, ac ynteu yn marw. 70 Bacchides yn hedd∣ychu â Ionathan.
A Phan glybu Demetrius lâdd Nicanor a'i lu mewn rhyfel, efe a aeth rhagddo, ac a ddanfonodd Bacchides, ac Alcimus drachefn i Iu∣dæa, a chadernid ei lu gŷd â hwynt.
2 A hwy a aethant allan rhyd y ffordd sydd yn myned tua ‖ 1.1385 Galgala, ac a werssy∣llasant o flaen Masaloth, yr hon sy yn Ar∣bela, ac a'i ennillasant hi, ac a laddasant lawer o bobl.
3 Y mîs cyntaf hefyd o'r ddeuddecfed flwyddyn a deugam a chant, hwy a wer∣syllasant, o flaen Ierusalem.
4 Ond gan gyfodi y gwerssyll i fynu, hwy a aethant i ‖ 1.1386 Berea, ag vgein-mil o wŷr traed, a dwy-fil o wŷr meirch.
5 Iudas yntef a werssyllasei yn Eleasa, a thair mil o wŷr detholedig gyd ag ef.
6 A phan welsant hwy luosogrwydd y llu arall, ei fod efe cymmaint, hwy a ofna∣sant yn ddirfawr, a llawer a dynnasant allan o'r gwerssyll, ac nid arhôdd yno ond wyth-gant'o wŷr.
7 Pan welodd Iudas fod ei lu ef wedi cilio, a'r rhyfel yn pwyso arno, efe a fawr drallodwyd yn ei galon, o eisieu caffael amser iw casclu hwy ynghyd, ac a ddiga∣lonnodd.
8 Etto efe a ddywedodd wrth y rhai a drigasent gyd ag ef, cyfodwn, ac awn yn erbyn ein gelynion, nid hwyrach i ni allu ymladd â hwynt.
9 Ond hwy a fynnasent ei droi ef gan ddywedyd, ni allwn ni ddim; ‖ 1.1387 am hynny achubwn ein henioes yn awr, ac yn ôl hyn, ni a ddychwelwn ynghŷd â'n brodyr, ac a ymladdwn yn eu herbyn hwy: canys nid ydym ni ond ychydig:
10 Yna Iudas a ddywedodd, na adawo Duw i mi wneuthur hyn, a ffoi oddi wr∣thynt hwy: am hynny os ein hamser ni a ddaeth, gedwch i ni farw fel gwŷr tros ein brodyr, ac na adawn ‖ 1.1388 fai yn y byd ar ein gogoniant.
11 A llu [Bacchides] a aeth allan o'r gwerssyll, ac a safodd ‖ 1.1389 yn eu herbyn hwy, a'r gwŷr meirch a gyfranned yn ddwy ‖ 1.1390 ran: y taflyddion a'r saethyddion a gerddasant o flaen y llu, a'r rhai oll oedd yn blaenori y llu oeddynt wŷr cryfion.
12 A Bacchides ei hun oedd yn yr adain ddehau, a'r fyddin a nessaodd ar y ddeu-tû, a hwy a ganasant yr vdcyrn.
13 Gwŷr Iudas a ganasant yr vdcyrn hefyd, a'r ddaiar a yscydwodd wrth dwrwf y lluoedd: a hwy a darawsant ynghyd o'r boreu hyd y nôs.
14 A phan welodd Iudas fod Bacchides, a chryfder ei lu, ar y tu dehau, efe a gymme∣rodd yr holl wŷr calonnog gyd ag ef,
15 Ac a ddrylliodd adain ddehau eu by∣ddin hwy, ac a'i herlidiodd hyd ym my nydd Azotus.
16 Pan welodd y rhai oedd yn yr adain asswy fôd y rhai o'r adain ddehau wedi eu dryllio; hwy a galynasant ar Iudas a'i wŷr, wrth eu sodlau, o'r tu ôl.
17 Ac yna yr aeth y rhyfel yn frwd, a llawer a laddwyd, ac a archollwyd o'r ddwyblaid.
18 Iudas hefyd a laddwyd, a'r llaill a ffoesant.
19 A Ionathan a Simon a gymmera∣sant Iudas eu brawd, ac a'i claddasant ef ym medd ei dadau yn Modin.
20 A hwy a wylasant; a holl bobl Is∣rael a wnaethant farw-nad mawr am da∣no ef, ac a alarasant tros ddyddiau lawer, gan ddywedyd,
21 Pa fodd y cwympodd y gŵr galluoc oedd yn achub Israel?
22 Ond ni scrifennwyd y pethau eraill oedd yn perthyn i Iudas, a'i ryfeloedd, a'i weithredoedd ardderchog, a'i fawredd ef; ca∣nys llawer iawn oeddynt hwy.
23 Wedi marw Iudas, dynion drygio∣nus a dderchafasant eu pennau o fewn holl derfynau Israel, a phawb a'r oeddynt yn gwneuthur anwiredd, a gyfodasant.
24 Yr oedd newyn mawr iawn yn y dy∣ddiau hynny, a'r holl wlâd a ymadawodd ar eu hôl ‖ 1.1391 hwynt.
25 A Bacchides a ddewisodd wŷr annu∣wiol, ac a'i gwnaeth hwy yn arglwyddi ar y wlad.
26 Y rhai hynny a geisiasant, ac a chwi∣liasant am garedigion Iudas, ac a'i dyga∣sant hwy at Bacchides, ac efe a ddialodd arnynt hwy, ac ‖ 1.1392 a'i gwatworodd hwy yn ddirfawr.
27 A chystudd mawr a ddigwyddodd yn Israel; ni bu y fath er pan ni welwyd prophwyd yn eu plith hwy.
28 A holl garedigion Iudas a ymgas∣clasant, ac a ddywedasant wrth Ionathan;
29 Er pan fu farw dy frawd Iudas, nid oes gennym nêb tebyg iddo ef i fyned allan yn erbyn ein gelynion, a Bacchides, ac yn erbyn y rhai o'n cenedl sydd elyni∣on i ni.
30 Am hynny nyni a'th ddewisasom di hêddyw yn ei le ef, i fod yn dywysog, ac yn gapten i ni, i ymladd ein rhyfeloedd ni.
31 A Ionathan a gymmerodd y dywy∣sogaeth arno yr amser hwnnw, ac a go∣dodd i fynu yn lle Iudas ei frawd.
32 Pan ŵybu Bacchides hynny, efe a geisiodd ei ladd ef.
Page [unnumbered]
33 Ond Ionathan a Simon ei frawd, a phawb a'r oedd gyd â hwy a wybuant hyn, ac a ffoesant i anialwch Thecoe, ac a wer∣ffyllasant wrth ddwfr llyn Asphar.
34 ‖ 1.1393 Pan ddeallodd Bacchides hynny, efe a ddaeth a'i holl lu yn agos i'r Iorddonen ar y dydd Sabboth.
35 A [Ionathan] a ddanfonasei ei frawd [ ‖ 1.1394 Ioan] capten y bobl, i ddymuno ar ei ga∣redigion y Nabathiaid, gaffael o ho∣nynt hwy adel eu ‖ 1.1395 hoffer gyd â hwy iw cadw, oblegit yr oedd llawer ganddynt hwy.
36 Ond plant Iambri a ddaethant allan o Medaba, ac a ddaliasant Ioan, a'r holl bethau oedd ganddo ef, ac a aethant ym∣maith â hwynt ganddynt.
37 Yn ôl y pethau hyn y daeth gair i Ionathan ac i Simon ei frawd, fod plant Iambri yn gwneuthur neithior fawr, ac yn dwyn y ferch o ‖ 1.1396 Medaba â ‖ 1.1397 chynhe∣brwng mawr, oblegit merch oedd hi i vn o bennaethiaid mawrion Canaan.
38 Yna hwy a gofiasant Ioan eu brawd, ac a aethant i fynu, ac a ymguddiasant ynghyscod y mynydd.
39 A hwy a godasant eu golwg i fynu, ac a edrychasant, ac wele, yr oedd ‖ 1.1398 trŵst ac arlwy mawr: a'r priodas-fab a ddae∣thei allan â'i garedigion, ac â'i frodyr, iw cyfarfod hwy, â thympanau, ‖ 1.1399 ag offer cerdd, ac ag arfau lawer.
40 Yna Ionathan a'r rhai oedd gyd ag ef a godasant i fynu allan o'i llochesau yn eu herbyn hwy, ac a laddasant lawer o honynt hwy, a'r lleill a ffoesant i'r my∣nydd, a hwy a gymmerasant eu holl yspail hwy.
41 Felly y briodas a droed yn alar, a llais eu cerddorion hwy yn farw-nad.
42 Ac felly wedi iddynt hwy lwyr ddial gwaed eu brawd, hwy a ddychwelasant i ‖ oror yr Iorddonen.
43 Pan glybu Bacchides hynny, efe a ddaeth i lan yr Iorddonen â llu mawr, ar y dydd Sabboth.
44 A Ionathan a ddywedodd wrth y rhai oedd gyd ag ef, cyfodwn heddyw i fynu, ac ymladdwn am ein heneidiau, ca∣nys nid ydym heddyw yn sefyll yn yr vn cyflwr ac yr oeddym ni er ys dyddiau.
45 Wele y mae 'r rhyfel o'n blaen ac o'n hôl ni, a dwfr yr Iorddonen o'r naill du, ac o'r tu arall suglennydd a choedydd, ac nid oes i ni le i gilio.
46 Am hynny gwaeddwch yr awron tu a'r nef, fel yr achuber chwi o law eich gelynion.
47 Ac felly hwy a darawsant ynghyd, a Ionathan a estynnodd allan ei law i daro Bacchides, ond efe a giliodd yn ôl oddi wrtho ef.
48 Yna Ionathan a'r rhai oedd gyd ag ef a neidiasant i'r Iorddonen, ac a no∣fiasant trosodd i'r lann draw: ond nid ai y lleill tros yr Iorddonen ar eu hôl hwy.
49 Ac ŷnghylch ‖ 1.1400 mil o wyr Bacchides a laddwyd y diwrnod hwnnw.
50 Am hynny [Bacchides] a ddychwe∣lodd i Ierusalem, ac a ‖ 1.1401 adeiladodd y di∣nasoedd cedyrn oedd yn Iudæa, a'r amddi∣ffynfa yn Iericho, ac Emmaus, a Bethoron, a Bethel, a Thamnatha, a Pharathoni, a ‖ 1.1402 Thaphon, â chaerau vchel, â phyrth, ac â barrau:
51 Ac a osododd wŷr ynddynt iw cadw, ac i wneuthur gelyniaeth ag Israel.
52 Efe a adeiladodd gaerau ynghylch y ddinas ‖ 1.1403 Bethsura, a Gazara, a'r castell, ac a osododd wŷr a bwyd ynddynt hwy.
53 Efe a gymmerodd hefyd feibion pen∣naethiaid y wlad yn ŵystlon, ac a'i rhoddodd hwy yn y castell yn Ierusalem, iw cadw.
54 Wedi hynny, yn y drydedd flwyddyn ar ddêc a deugein a chant, yr ail mîs, Alcimus a orchymynnodd iddynt hwy dynnu i lawr gaerau cyntedd y cyssegr nesaf i mewn, ac efe a dynnod i lawr waith y Prophwydi.
55 Ond ac efe yn dechreu tynnu i lawr, yr amser hwnnw, y tarawyd Alcimus, a'i orchwyl ef a rwystred; a'i enau ef a gae∣wyd, ac efe a syrthiodd yn y parlys; fel na's gallei efe ymddiddan mwy, n•• go••∣chymmyn dim ynghylch ei dŷ.
56 Alcimus a fu farw yr amser hwnnw mewn gofid mawr.
57 Pan welodd Bacchides farw Alci∣mus, efe a ddychwelodd at y brenin, a gwlâd Iudea a gafodd lonyddwch ddwy flynedd.
58 Yna 'r holl wŷr annuwiol a ym∣gynghorasant gan ddywedyd, wele y mae Ionathan a'i wŷr mewn esmwythdra, ac yn trigo mewn diofalwch, am hynny dygwn Bacchides ymma yn awr, ac efe a'i deil hwy oll mewn vn noswaith.
59 Ac felly hwy a aethant ac a ym∣gynghorasant ag ef.
60 Ac efe a gododd i ddyfod â llu mawr, ac a ddanfonodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gyfeillion oedd yn Iudea, ar iddynt ddal Ionathan a'r rhai oedd gyd ag ef: ond ni allent hwy, oblegit y lleill a wybuant eu bwriad hwy.
61 A Ionathan a ddaliodd ddêc a deu∣gain o wŷr y wlad, y rhai oedd flaenori∣aid yn y drwg hwnnw, ac a'i lladdodd hwy.
62 Yna Ionathan, a Simon, a'r rhai oedd gyd â hwy, a aethant ymmaith i Beth∣basi, yr hon sydd yn yr anialwch, a hwy a adnewyddasant yr hyn a syrthiasei o honi hi, ac a'i cadarnhasant hi.
63 Pan ŵybu Bacchides hyn, efe a gas∣clodd ei holl lu, ac a ddanfonodd air i'r rhai ‖ 1.1404 oedd yn Iudea.
64 Yna efe a ddaeth ac a werssyllodd yn erbyn Bethbasi, ac a ymladdodd yn ei herbyn hi lawer o ddyddiau, ac a wnaeth offer rhyfel.
65 A Ionathan a adawodd ei frawd Simon yn y ddinas, ac a aeth allan i'r wlâd, ac a aeth â rhifedi [o wŷr:]
Page [unnumbered]
66 Ac a laddodd ‖ 1.1405 Odonarces a'i frodyr, a meibion Phasiron yn eu lluest.
67 A phan ddechreuodd efe eu taro hwynt, a dyfod i fynu â'i fyddinoedd, Si∣mon yntef a'r rhai oedd gyd ag ef a ae∣thant allan o'r ddinas, ac a loscasant yr offer rhyfel,
68 Ac a ymladdasant yn erbyn Bacchi∣des, ac a'i gorchfygasant ef, ac a'i cystuddia∣sant ef yn ddirfawr, am fod ei gyngor a'i daith ef yn ofer.
69 Am hynny efe a fu lidiog wrth y gwŷr annuwiol a'i cynghorasent ef i ddy∣fod i'r wlâd, ac a laddodd lawer o honynt hwy, yna efe a fwriadodd fyned ymmaith iw wlad ei hun.
70 Pan ŵybu Ionathan hynny, efe a ddanfonodd genadon atto ef, i wneuthur heddwch rhyngddo ag ef, ac i roddi iddynt hwy y carcharorion.
71 A Bacchides a gydtunodd i hynny, ac a wnaeth fel yr oedd ei ddymuniad ef, ac a dyngodd hefyd na wnai efe niwed fyth iddo ef holl ddyddiau ei enioes;
72 Ac a adferodd iddo ef yr holl garcha∣rorion a ddaliasei efe o'r blaen o wlad Iu∣dea, ac yna efe a ddychwelodd ac a aeth ym∣maith iw wlad ei hun, ac ni ddaeth efe mwy iw terfynau hwynt.
73 Ac felly y peidiodd y cleddyf yn Is∣rael: a Ionathan a drigodd ym-Mach∣mas, ac a ddechreuodd ‖ 1.1406 farnu 'r bobl; ac efe a ddiwreiddiodd y rhai annuwiol allan o Israel.
PEN. X.
1 Demetrius yn cynnyg yn helaeth am gael heddwch Ionathan. 25 Ei lythyrau ef at yr Iuddewon. 47 Ionathan yn heddychu ag Alexander, 50 ac ynteu yn lladd Deme∣trius, 58 ac yn priodi merch Ptolomeus; 62 ac yn danfon am Ionathan, ac yn gwneu∣thur iddo barch mawr. 75 Ionathan yn cael y maes yn erbyn galluoedd Demetrius ieu∣angaf, 84 ac yn llosci teml Dagon.
YN yr ŵyth-vgeinfed flwy∣ddyn, Alexander mab An∣tiochus a gyfenwid Epi∣phanes a aeth i fynu ac a ennillodd Ptolemais, a'r dinassyddion a'i derbynia∣sent ef, ac efe a deyrnasodd yno.
2 Pan glybu Demetrius hynny, efe a gasclodd lu mawr anfeidrol, ac a aeth allan yn ei erbyn ef i ryfela.
3 A Demetrius a ddanfonodd lythyrau at Ionathan â geiriau ‖ 1.1407 heddychol, gan ei fawrygu ef.
4 Canys efe a ddywedodd; Nyni a wnawn dangnheddyf ag ef yn gyntaf, cyn heddychuo hono ef ag Alexander yn ein herbyn ni.
5 Os amgen efe a gofia yr holl ddrwg a wnaethom ni yn ei erbyn ef, ac yn erbyn ei frodyr, a'i bobl.
6 Ac efe a roddes awdurdod i Iona∣than i gasclu llu o wŷr, ac i ddarparu arfau, fel y cynhorthwyei efe ef mewn rhyfel: ac efe a orchymynnodd roddi y gwystlon oedd yn y castell iddo ef.
7 Yna Ionathan a ddaeth i Ierusalem, ac a ddarllennodd y llythyrau, lle yr oedd yr holl bobl, a'r rhai oedd yn y castell, yn clywed.
8 A hwy a ofnasant yn ddirfawr pan glywsant hwy roddi o'r brenin awdurdod iddo ef i gasclu llu.
9 A'r rhai oedd yn y castell a roesant y gŵystlon i Ionathan, ac efe a'i hadferodd hwy iw rhieni.
10 Ionathan hefyd a drigodd yn Ieru∣salem, ac a ddechreuodd adeiladu, ac ad∣newyddu y ddinas.
11 Ac efe a orchymynnodd i'r gweith∣wŷr adeiladau y caerau, a mynydd Sion o'i amgylch â cherrig pedwar ochrog, i fod yn lle cadarn: ac felly y gwnaethant hwy.
12 Yna y cenhedloedd, ŷ rhai oedd yn y cestyll a wnaethei Bacchides, a ffoesant.
13 A phob vn a adawodd ei le, ac a aeth ymmaith iw wlad ei hun.
14 Yn vnic yn Bethsura yr arhosoddd rhai o'r rhai a wrthodasent y Gyfraith a'r gor∣chymynion, oblegit honno oedd eu noddfa hwy.
15 Pan glywodd Alexander y brenin yr addewidion a wnaethei Demetrius i Io∣nathan, a phan fynegasant hwy iddo ef y rhyfeloedd a'r gwroldeb a wnaethei efe a'i frodyr, a'r boen a gymmerasent hwy;
16 Efe a ddywedodd, a gawn ni y fath ŵr a hwn? gan hynny, nyni a'i gwnawn ef yn gyfaill ac yn gydymmaith i ni.
17 Ac ar hyn, efe a scrifennodd ac a ddan∣fonodd lythyr atto ef o'r geiriau hyn, gan ddywedyd,
18 Y mae 'r brenin Alexander yn cyfarch ei frawd Ionathan.
19 Ni a glywsom am danat ti, dy fod ti yn wr galluoc nerthol, ac yn gymmwys i fod yn vn o'n caredigion ni;
20 Am hynny ni a'th osodasom di heddyw yn Arch offeiriad ar dy bobl, ac i'th alw yn garedig ddyn i'r brenin (ac efe a ddanfonodd wisc o borphor, a choron o aur iddo ef) ac i gymmeryd ein plaid ni, ac i gadw caredigrwydd â nyni.
21 A Ionathan a wiscodd y wisc sanc∣taidd am dano, y seithfed mis o'r wyth∣vgeinfed flwyddyn, ar wŷl y pebyll; ac efe a gasclodd lu, ac a baratôdd lawer o arfau.
22 Pan glywodd Demetrius y gei∣riau hyn, efe a dristâodd yn ddirfawr, ac a ddywedodd,
23 Pa ham y gwnaethom ni hyn, pan ragflaenei Alexander nyni, yn gwneuthur cyfeillach â'r Iddewon, iw gryfhau ei hun?
24 Minneu a scrifennaf attynt eiriau confforddus, [ac a addawaf] godiad a rho∣ddion iddynt hwy, fel y byddont yn gym∣mhorthwŷr i mi.
Page [unnumbered]
25 Ac efe a scrifennodd y geiriau hyn at∣tynt hwy: Ŷ brenin Demetrius at bobl yr Iddewon, yn anfon annerch.
26 Yn gymmaint a chadw o honoch am∣modau â nyni, a glynu yn ein cyfeillach ni, heb fyned at ein gelynion ni, hyn a glyw∣som, ac ni a lawenychasom.
27 Am hynny parhewch, a byddwch ffydd∣lon i ni, ac ni a dalwn i chwi yn dda am y pethau yr ydych chwi yn eu gwneuthur yn ein plaid ni.
28 Ni a faddeuwn i chwi lawer o be∣thau dyledus, ac a roddwn i chwi roddion.
29 Ac yn awr yr ydwyfi yn eich rhyddhau chwi, a'r holl Iddewon er eich mwyn chwi yr ydwyf yn eu rhyddhau oddi wrth deyrn∣ged, ac oddi wrth daledigaethau yr ha∣len, ac oddi wrth dreth y goron;
30 Ac oddi wrth yr hyn sydd i mi iw gael am drydedd ran yr hâd, a hanner ffrwyth y coed, yr ydwyfi yn eu maddeu hwy o'r dydd heddyw allan, fel na's cymerer hwy o wlâd Iudæa, nac o'r tair talaith a chwanegwyd atti, allan o Samaria, a Galilea, o'r dydd heddyw allan yn dragywydd.
31 Bydded Ierusalem yn sanctaidd, ac yn rhydd, a'i hôll derfynau, oddi wrth dde∣gymmau ac ardrethion.
32 Ac am y castell sydd yn Ierusalem, yr ydwyfi yn rhoddi i fynu fy meddiant arno, ac yn ei roddi ef i'r Arch-offeiriad, fel y ga∣llo efe osod ynddo y cyfryw wŷr ac a dde∣wiso efe iw gadw ef.
33 Ac yr ydwyfi yn rhâd yn gollwng yn rhydd bob perchen enaid o ddyn o'r Idde∣won a gaethgluded o wlad Iudæa i fan yn y byd o'm teyrnas i: a maddeued pawb [o'm swyddogion i] eu teyrn-ged hwy, sef o'i hanifeiliaid hwy.
34 A'r holl wyliau, a'r Sabbothau, a'r lloerau newydd, y dyddiau arferedic, y tri∣diau ym mlaen, ac yn ôl yr ŵyl, a gânt fod yn ddyddiau o rydd-did a maddeuant i'r holl Iddewon yn fy nheyrnas i.
35 Ac ni chaiff neb awdurdod i ymyrryd arnynt, nac i flino neb o honynt am ddim.
36 Yscrifenner i lawr hefyd o'r Idde∣won, i fod o lu y brenin, ynghylch deng∣mil ar hugain o wŷr, a rhodder iddynt ‖ 1.1408 ro∣ddion, fel y mae yn perthyn i bawb o lu y brenin.
37 Gosoder hefyd o honynt hwy, rai yng∣hestyll mawrion y brenin, a rhai o'r rhai'n a osodir ar negesau y brenin, y rhai ydynt o ymddiried; bydded hefyd y rhai fyddant arnynt hwy, ac yn dywysogion, o honynt hwy eu hunain, a ‖ 1.1409 rhodiant yn eu cyfraith eu hun, megîs y gorchymynnodd y brenin yn nhîr Iudæa.
38 Chwaneger hefyd at Iudæa y tair talaith a roddwyd o wlâd Samaria at Iu∣dæa, iw cyfrif yn vn, fel nad vfyddhaont i awdurdod neb arall ond yr Arch-offeiriad.
39 Ptôlemais a'i chyffiniau yr ydwyf fi yn ei rhoddi yn rhodd i'r Cyssegr sydd yn Ie∣rusalem, at ‖ 1.1410 gymhesur draul y ‖ Cyssegr.
40 Ac yr wyfi yn rhoddi bob blwyddyn * 1.1411 bymtheng-mil o siclau arian allan o gyfrif y brenin, o'r lleoedd a berthyn.
41 A'r hyn sydd ‖ 1.1412 yngweddill heb i'r swydd∣wyr ei dalu i mewn, megis yn y blynydd∣oedd o'r blaen, o hyn allan rhoddant at waith y Deml.
42 Ac heb law hyn, y pum-mîl sicl o ari∣an, y rhai a gymmerasant hwy allan o raid y cyssegr o'r cyfrif bob blwyddyn, yr ydys yn maddeu y rhai hynny, am eu bod hwy yn perthynu i'r offeiriaid sydd yn gwasanaethu.
43 A phwy bynnag a ffoant i'r Deml sydd yn Ierusalem, neu i'w holl gyffiniau, ar y mae y brenin yn dylu iddynt ardreth neu ddim arall, gadawer hwynt yn rhyddion, a'r hyn oll sydd ganddynt yn fy nheyrnas i.
44 Ac fel yr adeilader, ac y cyweirier gwaith y Cyssegr, fe a roddir traul hefyd o gyfrif y brenin.
45 Felly y rhoddir traul o gyfrif y bre∣nin i adeiladu caerau Ierusalem, ac iw chadarnhau o amgylch, ac i adeiladu y caerau yn Iudæa.
46 Ond pan glybu Ionathan a'r bobl y geiriau hyn, ni roddasant goel iddynt, ac ni's derbyniasant hwynt, canys hwy a gofia∣sant y mawr ddrygioni a wnaethei efe yn Israel, ac mor ddirfawr y cystuddiasei efe hwynt.
47 Am hynny hwy a fuant fodlon i Alex∣ander, oblegit efe a fuasei yn gyntaf yn cryb∣wyll wrthynt am wîr heddwch, a hwy a ry∣felasant gyd ag ef [eu] holl ddyddiau.
48 A'r brenin Alexander a gasclodd lu mawr, ac a wersyllodd yn erbyn Demetrius. * 1.1413
49 Felly y ddau frenin a darawsant yng∣hŷd mewn rhyfel, a llu Demetrius a ffôdd; ac Alexander a'i herlidiodd ef, ac a'i gorchfy∣godd hwynt▪
50 Eithr y rhyfel a barhaodd yn frwd, hyd fachlud haul; a lladdwyd Demetrius y dydd hwnnw.
51 Ac Alexander a anfonodd gennadau at Ptolomeus brenin yr Aipht, gan ddywedyd yn ôl y geiriau hyn;
52 Gan ddychwelyd o honof i dîr fy mren∣hiniaeth, ac eistedd ar orsedd-faingc fy nha∣dau, a chael y dywysogaeth, a difetha Deme∣trius, ac ennill ein gwlâd ni,
53 (Canys wedi cydio o honofi ag ef mewn câd, difethwyd ef a'i lu gennym ni, ac yr yd∣wyf yn eistedd ar orsedd faingc ei deyrnas ef.)
54 Yn awr gan hynny gwnawn gyfeillach rhyngom, ac yr awron dod i mi dy ferch yn wraig, ac mi a fyddaf ‖ 1.1414 ddaw i ti, ac a roddaf i ti, ac iddi hitheu roddion addas i ti.
55 A'r brenin Ptolomeus a attebodd gan ddywedyd: da [yw 'r] dydd y dychwelaist i dîr dy henafiaid, ac yr eisteddaist ar orsedd∣faingc eu brenhiniaeth hwynt.
56 Ac yr awron mi a wnaf i ti yr hyn a scrifennaist; eithr tyret i gyfarfod i Ptole∣mais, fel y gwelom ei gilydd, ac mi a fyddaf chwegrwn i ti, fel y dywedaist.
57 Felly yr aeth Ptolomeus allan o'r Aipht, efe a Chleopatra ei ferch, a hwy a ddaethant i Ptolemais yn yr ail flwyddyn a thrugain a chant.
58 A'r brenin Alexander a'i cyfarfu ef;
Page [unnumbered]
yntef a roddes ei ferch Cleopatra iddo ef, ac a wnaeth ei neithior hi yn Ptolemais, mewn gogoniant mawr, fel [y mae arfer] brenhinoedd.
59 A'r brenin Alexander a scrifennasei at Ionathan i ddyfod i gyfarfod ag ef.
60 Ac efe a aeth i Ptolemais yn ogone∣ddus, ac a gyfarfu â'r ddau frenin, ac a ro∣ddes arian, ac aur iddynt hwy ac iw care∣digion, a rhoddion lawer, ac efe a gafodd ffafr yn eu golwg hwynt.
61 A gwŷr sceler o Israel, [sef] gwyr an∣nuwiol a ymgasclasant yn ei erbyn ef, i ach∣wyn arno ef: ond ni wrandawodd y brenin arnynt hwy.
62 A'r brenin hefyd a archodd ddiosc Io∣nathan o'i ddillad, a'i wisco ef â phorphor: a hwy a wnaethant felly.
63 A'r brenin a wnaeth iddo eistedd ‖ gyd ag ef, ac a ddywedodd wrth ei dywysogion: ewch allan gyd ag ef i ganol y ddinas, a chyhoeddwch na achwyno neb yn ei erbyn ef am ddim matter, ac na flino neb ef am vn achos.
64 A phan welodd y rhai oedd yn ach∣wyn [arno] ei ogoniant ef, y modd y cyhoe∣ddasid, ac yntef wedi ei wisco â phorphor, hwy a ffoesant oll.
65 A'r brenin a'i hanrhydeddodd ef, ac a'i scrifennodd ef ym mysc ei gyfeillion pennaf, ac a'i gwnaeth ef yn dywysog, ac yn ‖ 1.1415 gyf∣rannog o'i lywodraeth ef.
66 A Ionathan a ddychwelodd i Ieru∣salem, yn heddychlon, ac yn llawen.
67 Ac yn y bummed flwyddyn a thrugain a chant y daeth Demetrius mab Demetri∣us, o Creta i dir ei henafiaid.
68 A'r brenin Alexander a glybu, ac a dri∣staodd yn ddirfawr, ac efe a ddychwelodd i Antiochia.
69 A Demetrius a osododd Apolonius, yr hwn oedd ar Caelosyria [yn ben-capten,] ac efe a gasclodd lu mawr, ac a werssyllodd yn Iamnia, ac a anfonodd at Ionathan yr Arch-offeiriad, gan ddywedyd,
70 Tydi yn vnic yn anad nêb ydwyt yn ymdderchafu i'n herbyn ni; minneu a eu∣thym yn watwargerdd, ac yn wradwydd o'th achos di; a pha ham yr wyti yn cymme∣ryd awdurdod i'n herbyn ni yn y mynydd∣oedd.
71 Am hynny yn awr, os ydwyt yn ymddi∣ried yn dy gryfder dy hûn, tyret i wared at∣tom ni i'r maes, ac yno ymgystadlwn â'i gilydd, canys y mae gennifi lu y dinas∣oedd.
72 Gofyn, a dysc pwy ydwyfi, a'r lleill sydd yn ein helpio ni: hwy a fynegant i ti nad oes fodd i'th droed ti sefyll yn ein hwy∣neb ni: oblegitdy henafiaid a yrrwyd i ffoi ddwy-waith yn eu gwlad eu hun.
73 Ac yr awron gan hynny ni elli di aros y fath feirch, a llu yn y maes, lle nid oes na charreg, na maen, na lle i ffoi.
74 A phan glybu Ionathan eiriau Apo∣lonius, efe a gyffrôdd yn ei feddwl, ac a etho∣lodd ddeng-mil o wŷr, ac a aeth allan o Ie∣rusalem, a'i frawd Simon▪ a gyfarfu ag ef yn help iddo ef.
75 Ac efe a werssyllodd yn erbyn Ioppe, eithr hwy a'i cadwasant ef allan o'r ddinas, am fod gwarcheidwaid Apolonius yn Ioppe.
76 A hwy a ryfelasant yn ei herbyn hi, a'r rhai oedd o'r ddinas a ofnasant, ac a agorasant: a Ionathan a ennillodd Ioppe.
77 A phan glybu Apolonius hyn, efe a gymmerodd deir-mil o wŷr meirch, a llu mawr [o wŷr traed,] ac a aeth i Azotus, me∣gis vn ar ei daith, ac efe a ‖ 1.1416 ddaeth a'i lu i'r maes, am fod ganddo lawer o wŷr meirch, yn y rhai yr oedd efe yn ymddiried.
78 Yna Ionathan a ddilynodd ar ei ôl ef i Azotus, lle y cydiodd y ddau lu mewn rhy∣fel o'i ôl ef.
79 Ac Apolonius a adawsei fil o wŷr meirch mewn cynllwyn o'i hôl hwynt.
80 A Ionathan a wybu fod cynllwyn o'i ôl ef, a hwy a amgylchasent ei lu ef, ac a daflasent biccellau yn erbyn y bobl, o foreu hyd hwyr.
81 A'r bobl a safodd fel yr archodd Iona∣than, a'i meirch hwythau a flinasant.
82 Simon hefyd a ddug allan ei lu yntef, ac a gydiodd â'r fyddin, (canys y meirch a flinasent) a hwy a orchfygwyd ganddo, ac a ffoesant.
83 A'r gwŷr meirch a wascarwyd ar hŷd y maes, ac a ffoesant i Azotus, ac a ddae∣thant i Beth-Dagon, i deml eu heulyn, i fod yn gadwedig.
84 A Ionathan a loscodd Azotus, a'r di∣nasoedd o'i hamgylch hi, ac a gymmerodd eu hyspail hwynt: teml Dagon hefyd, a'r rhai a ffoesent iddi, a loscodd efe â than.
85 A'r rhai a laddwyd a'r cleddyf ynghyd â'r rhai a loscwyd â thân, oedd hyd yn wyth mil o wŷr.
86 A Ionathan a aeth oddi yno, ac a werssyllodd wrth Ascalon, a'r rhai oedd o'r ddinas a ddaethant allan iw gyfarfod ef â gogoniant mawr.
87 A Ionathan a ddychwelodd i Ierusa∣lem, a'r rhai oedd gyd ag ef, a chanddynt ys∣pail fawr.
88 A phan glybu y brenin Alexander y pethau hyn, efe a roddes fwy o anrhydedd i Ionathan.
89 Ac efe a anfonodd iddo fwccl aur, fel y mae yr arfer roddi i geraint y brenin, ac a roddes iddo Accaron a'i holl gyffiniau mewn meddiant.
PEN. XI.
12 Ptolemeus yn dwyn ei ferch oddiar A∣lexander, ac yn gosod ar ei deyrnas ef. 17 Lladd Alexander, a Ptolomeus yn marw o fewn tridiau. 20 Ionathan yn gwarchae at y twr yn Ierusalem, 26 Yr Iddewon ac yntef yn cael parch mawr gan Demetri∣us, 48 A'r Iuddewon yn er achub ynteu rhag ei ddeiliaid ei hun yn Antiochia. 61 Ei wroliaeth ef mewn amryw leoedd.
Page [unnumbered]
A Brenin yr Aipht a gasclodd lu mawr, fel y tywod sydd ar lan y môr, a llongau lawer, ac a geisiodd gael teyr∣nas Alexander trwy dwyll, a'i gosod at yr eiddo ei hun.
2 Ac efe a aeth allan i Syria mewn modd heddychol, a'r rhai oedd yn y dina∣soedd a agorasant iddo ef, ac a aethant iw gyfarfod ef, am fod gorchymmyn y brenin Alexander ar gyfarfod ag ef, am ei fod efe yn chwegrwn iddo ef.
3 Ac yn awr, fel yr aeth Ptolomeus i mewn i'r dinasoedd, efe a osododd lu i war∣chod ym mhob dinas.
4 A phan ddaeth efe yn agos i Azotus, hwy a ddangosasant iddo ef deml Dagon, yr hon a loscasid, ac Azotus a'i phentre∣fydd wedi eu difetha, a'r cyrph a daflasid allan, a'r rhai lloscedig a loscasei [Iona∣than] yn y rhyfel, oblegit hwy a wnaethant bentyrrau o honynt ar ei ffordd ef.
5 Felly y mynegasant i'r brenin yr hyn a wnaethei Ionathan, iw oganu ef: a the∣wi a wnaeth y brenin.
6 A Ionathan a ddaeth i gyfarfod â'r brenin i Ioppe yn ogoneddus, a hwy a gyfarchasant well iw gilydd, ac a gysca∣sant yno.
7 A Ionathan a aeth gyd â'r brenin hyd yr afon a elwir Eleutherus, ac a ddychwe∣lodd i Ierusalem.
8 A'r brenin Ptolomeus a gafodd feddi∣ant ar ddinasoedd y mor-dir, hyd Seleucia ar lan y môr, ac a ddychymygodd gyngho∣rion drwg yn erbyn Alexander.
9 Ac efe a anfonodd gennadau at y brenin Demetrius, gan ddywedyd, ty∣ret, gwnawn gyfammod rhyngom, ac mi a roddaf i ti fy merch sydd gan Alex∣ander, a thi a gei deyrnasu yn nheyrnas dy dad.
10 Oblegit y mae yn edifar gennif roddi o honof fy merch iddo ef, canys efe a geisiodd fy lladd i.
11 Felly efe a'i goganodd ef, am ei fod efe yn chwennychu ei frenhiniaeth ef.
12 Ac efe a ddug ei ferch oddi arno ef, ac a'i rhoddes i Demetrius, ac efe a ymddiei∣throdd oddi wrth Alexander: felly yr ym∣ddangosodd ‖ 1.1417 eu cas hwynt.
13 Yna yr aeth Ptolomeus i Antiochia, ac a osododd ddwy goron ar ei ben: coron Asia, a choron yr Aipht.
14 A'r brenin Alexander oedd yn Cilicia yn yr amser hwnnw: oblegit y rhai oedd o'r lle hwnnw a wrthryfelasent.
15 A phan glybu Alexander, efe a ddaeth yn ei erbyn ef i ryfel, ar brenin Ptolo∣meus a arweiniodd [ei lu] allan, ac a gyfar∣fu ag ef â llaw gref, ac a'i gyrrodd i ffoi.
16 Yna y ffodd Alexander i Arabia i gael swccr yno, a'r brenin Ptolomeus a ddercha∣fwyd.
17 A Zabdiel yr Arabiad a gymmerodd ymmaith ben Alexander, ac a'i hanfonodd i Ptolomeus.
18 A'r brenin Ptolomeus a fu farw y trydydd dydd ar ôl hynny: a'r rhai oedd yn ei gestyll ef a ‖ 1.1418 ddifethwyd gan y rhai oedd o fewn y cestyll.
19 A theyrnasodd Demetrius y seithfed flwyddyn a thrugain a chant.
20 Yn y dyddiau hynny y casclodd Ionathan y rhai oedd o Iudæa, i ennill y twr yn Ierusalem, ac efe a wnaeth yn ei erbyn lawer o offer rhyfel.
21 Yna yr aeth rhai gwŷr annuwiol, y rhai oedd yn casau eu cenedl eu hun, at y brenin, ac a fynegasant iddo fod Ionathan yn gwarchae ar y tŵr.
22 Pan glybu ynteu efe a ddigiodd, a chyn gynted ac y clybu efe a gymmerodd ei daith yn ebrwydd, ac a ddaeth i Ptole∣mais, ac a scrifennodd at Ionathan na warchaei efe [mwy,] ac ar ddyfod o honaw yn fuan iw gyfarfod ef, i ymddiddan yng∣hyd yn Ptolemais.
23 Ond pan glybu Ionathan, efe a ar∣chodd warchae, ac a ddewisodd [rai] o henuriaid Israel, ac o'r offeiriaid, ac a ym∣roddes i'r perygl.
24 Ac efe a gymmerodd aur, ac arian, a gwiscoedd, a llawer o anrhegion eraill, ac aeth at y brenin i Ptolemais, ac a gafodd ffafr yn ei olwg ef.
25 A rhai annuwiol o'r genedl a achwy∣nasant rhaddo ef.
26 Eithr y brenin a wnaeth iddo ef fel y gwnaethe i y rhai a fuasei o'i flaen ef, ac efe a'i derchafodd ef o flaen ei holl garedigion.
27 Ac efe a siccrhaodd iddo ef yr Arch∣offeiriadaeth, a pha anrhydedd bynnag oedd ganddo ef o'r blaen, ac a wnaeth ei gyfrif ef yn vn o'i garedigion pennaf.
28 Yna y dymunodd Ionathan ar y bre∣nin wneuthur Iudæa yn ddidreth, a'r tair talaith ynghŷd â Samaria, ac efe a adda∣wodd iddo ef drychant o dalentau.
29 A'r brenin oedd fodlon, ac a scri∣fennodd lythyrau at Ionathan am hyn oll, fel hyn.
30 Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell iw frawd Ionathan, a chenedl yr Iddewon.
31 Coppi o'r llythyr a scrifennasom ni at ein câr Lasthenes yn eich cylch chwi, a scrifennasom attoch chwi hefyd, fel y gallech ei weled.
32 Y brenin Demetrius at ei dâd Las∣thenes, yn affon annerch.
33 Y mae yn ein bryd ni wneuthur daio∣ni i genedl yr Iddewon, ein caredigion, y rhai sydd yn cadw cyfammodau â nyni, am eu hewyllys da i ni.
34 ‖ 1.1419 Yr ydym ni wedi siccrhau iddynt gy∣ffiniau Iudæa â'r tair talaith, Apherema, Lida, a Ramathem, y rhai a chwanegwyd o Samaria at Iudæa, a'r hyn holl sydd yn perthynu iddynt, i'r rhai oll sydd yn aber∣thu yn Ierusalem, yn llê yr ardreth yr dedd y brenin yn ei gael o'r blaen o gnwd y ddaiar, a ffrwyth y coed, bob blwyddyn ganddynt hwy.
35 A phethau eraill yn perthynu i ni o
Page [unnumbered]
ddegymmau a theyrn-ged dyledus i ni, a'r pyllau halen, a threth y goron, y rhai sydd yn perthyn i ni, nyni a'i canhiatawn idd∣ynt hwy i gŷd.
36 A dim o hyn ni ddiddymmir o hyn allan byth.
37 Am hynny cymmerwch ofal am wneu∣thur coppi o'r pethau hyn, a rhodder ef at Ionathan, o gosoder ef yn y mynydd sanc∣taidd, mewn lle cyfleus hynod.
38 Yna pan welodd Demetrius fôd yr holl dir o'i flaen ef yn llonydd, ac nad oedd dim yn ei wrthwynebu ef, efe a ollyngodd ei holl lu bob vn iw fangre, ond y dieithr-luoedd y rhai a gasclasei efe o ynysoedd y cenhedl∣oedd: am hynny holl luoedd ei dadau a aethant yn elynion iddo ef.
39 Yr oedd vn Tryphon hefyd yr hwn a fuasei ar du Alexander o'r blaen, pan we∣lodd efe fod yr holl luoedd yn grwgnach yn erbyn Demetrius, efe a aeth at Simalcue yr Arabiad, yr hwn a fagasei Antiochus, mab ieuangc Alexander,
40 Ac efe a fu daer arno ef, ar iddo roddi [Antiochus ieuangc] atto ef, fel y teyrna∣sei yn lle ei dad; ac efe a ddangosodd iddo ef pa bethau a wnaethei Demetrius, a'r câs oedd gan ei lu iddo ef, ac efe a arhosodd yno ddyddiau lawer.
41 A Ionathan a anfonodd lythyrau at y brenin Demetrius, am fwrw allan o Ie∣rusalem y rhai oedd yn y castell, a'r rhai oedd yn yr amddeffynfeydd: oblegit yr oeddynt hwy yn rhyfela yn erbyn Israel.
42 A Demetrius a anfonodd at Iona∣than gan ddywedyd, nid hyn yn vnic a wnafi erot ti, a'th genedl: eithr mi a'th an∣rhydeddaf di a'th genedl ag anrhydedd, os caf fi gyfle.
43 Yn awr gan hynny ti a wnei yn dda, os anfoni di wŷr i ryfela gyd â mi, oblegit fy holl luoedd a'm gadawsant i.
44 A Ionathan a anfonodd iddo ef i An∣tiochia, dair mil o wŷr cedyrn o nerth, a hwy a ddaethant at y brenin, a llawen iawn fu gan y brenin eu dyfodiad hwy.
45 A'r rhai oedd o'r ddinas a ddaethant ynghyd i ganol y ddinas, ynghylch deuddeng myrddiwn o wŷr, ac a fynnasent ladd y brenin.
46 Yna y ffôdd y brenin i'r llŷs, a'r rhai oedd o'r ddinas a gadwasant ffyrdd y ddi∣nas, ac a ddechreuasant ymladd.
47 A'r brenin a alwodd yr Iddewon iw helpu, a hwy a ddaethant atto ef oll ar vn∣waith, ac a ymwascarasant ar hyd y ddi∣nas, ac a laddasant y dydd hwnnw yn y di∣nas hyd yn neg myrddiwn.
48 A hwy a loscasant y ddinas, ac a gym∣merasant yspail fawr y dydd hwnnw, ac a achubasant y brenin.
49 A'r rhai oedd o'r ddinas a welsant i'r Iddewon ennill y ddinas fel y mynnent, a hwy a lwfrhasant, ac a waeddasant wrth y brenin mewn gweddi, gan ddywedyd,
50 ‖ 1.1420 Cymmod â ni, a pheidied yr Idde∣won â rhyfela i'n herbyn ni a'r ddinas.
51 Felly hwy a fwriasant ymmaith eu harfau, ac a wnaethant heddwch; a'r Idde∣won a gawsant anrhydedd o flaen y brenin, a phawb yn ei deyrnas ef, ac a ddychwela∣sant i Ierusalem a chanddynt yspail fawr.
52 Felly y brenin Demetrius a eisteddodd ar orsedd-faingc ei frenhiniaeth, a'r wlâd a fu lonydd o'i flaen ef.
53 Eithr efe a ddywedodd gelwydd am beth bynnag a ddywedasei efe, ac a ymddi∣eithrodd oddi wrth Ionathan, ac ni thalodd adref yr ewyllys da a dalasei efe iddo, eithr efe a'i cystuddiodd ef yn ddirfawr.
54 Wedi hyn y dychwelodd Tryphon a'r bachgen ieuangc Antiochus gyd ag ef, ac efe a deyrnasodd, ac a wiscodd y goron.
55 A'r holl luoedd, y rhai a wascarasei Demetrius, a ymgasclasant atto ef, a hwy a ryfelâsant yn ei erbyn ef, ac yntef a ffôdd, ac a giliodd.
56 Yna Tryphon a gymmerodd yr ‖ 1.1421 ani∣feiliaid, ac a ennillodd Antiochia.
57 Ac Antiochus ieuangc a scrifennodd at Ionathan gan ddywedyd: yr ydwyfi yn siccrhau yr Arch-offeiriadaeth i ti, ac yn dy osod ar y pedair talaith, ac i fôd yn vn o ga∣redigion y brenin.
58 Ac efe a anfonodd lestri aur iddo ef iw wasanaethu, ac a roddes iddo awdurdod i yfed mewn llestri aur, ac i fod mewn por∣phor, ac i wisco bwccl aur.
59 Ac efe a osododd Simon ei frawd ef yn gapten, ‖ 1.1422 o riw Tyrus hyd derfynau yr Aipht.
60 A Ionathan a aeth allan ‖ 1.1423 tros yr afon, a thrwy y dinasoedd, a holl luoedd Syria a ymgasclasant atto ef yn help iddo: ac efe a ddaeth i Ascalon, a'r rhai oedd o'r ddinas a aethant iw gyfarfod ef yn anrhy∣deddus.
61 Ac efe a ddaeth oddi yno i Gaza, a'r rhai o Gaza a gaeasant arnynt; yntef a war∣châodd arni, ac a loscodd ‖ 1.1424 ei phentrefydd hi, ac a'i anrheithiodd hwynt.
62 A'r rhai o Gaza a ymbiliasant â Iona∣than, ac efe a ‖ 1.1425 wnaeth heddwch â hwynt, ac a gymmerodd feibion eu tywysogion hwynt yn ŵystlon, ac a'i hanfonodd hwynt i Ieru∣salem, ac a rodiodd y wlâd hyd Damascns.
63 A phan glybu Ionathan ddyfod ty∣wysogion Demetrius i Cades, yr hon sydd yn Galilea, â llu mawr, ar fedr ei ‖ 1.1426 yrru ef ymmaith o'r wlâd:
64 Yntef a aeth iw cyfarfod hwynt, ac a adawodd ei frawd Simon yn y wlâd.
65 A Simon a werssyllodd wrth Beth∣sura, ac a ryfelodd yn ei herbyn ddyddiau lawer, ac a gaeodd arni hi.
66 A hwy a ddymunasant gael heddwch, ac efe a'i canhiadodd iddynt; ac a'i bwriodd hwynt allan oddi yno, ac a gymmerodd y ddinas, ac a osododd warcheidwaid ynddi.
67 Ionathan hefyd a'i lu a wersyllasant wrth ddyfroedd Gennesar, a hwy a godasant yn foreu [i ddyfod] i faes Nasor.
68 Ac wele, gwerssyll y dieithriaid a ddae∣thant iw gyfarfod ef yn y maes, a hwy a
Page [unnumbered]
yrrasant gynllwyn yn ei erbyn ef yn y myn∣yddoedd, ac a ddaethant eu hunain ar ei gy∣fer ef.
69 Yna y cynllwyn-wŷr a gyfodasant o'i lle, ac a gydiasant ryfel; a'r rhai oedd gyd â Ionathan a ffoesant.
70 Ni adawyd vn o honynt ond Matta∣thias [fab] Absolon, a Iudas [fab] Chalpi, tywysogion milwriaeth y lluoedd.
71 A Ionathan arwygodd ei ddillad, ac a daflodd lŵch ar ei ben, ac a weddiodd.
72 Ond efe a drôdd yn eu herbyn hwynt yn y rhyfel, ac a'i gyrrodd hwy i ffo; a hwy a redasant ymmaith.
73 A'r rhai a ffoesent oddi wrtho ef a wel∣sant, ac a droesant atto ef, ac a'u herlidiasant hwynt gyd ag ef hyd Cades, hyd at eu gwer∣ssyll hwynt; a hwy a werssyllasant yno.
74 Ac se laddwyd o'r dieithriaid y dydd hwnnw hyd yn nheirmil o wŷr, a Ionathan a ddychwelodd i Ierusalem.
PEN. XII.
1 Ionathan yn adnewyddu ei heddwch â'r Rhu∣feiniaid, a'r Lacedemoniaid. 28 Llu Demetri∣us, wrth amcanu rhyfela à Ionathan, yn ffo rhag ofn. 35 Ionathan yn cadarnhau y cestyll yn Iudæa, 48 a chau arno ef yn Ptolemais, trwy dwyll Tryphon.
A Ionathan a welodd fod yr amser yn gwasanaethu iddo ef, ac a etholodd wŷr, ac a anfonodd i Rufain i wneu∣thur ac i adnewyddu cyfeill∣ach â hwynt.
2 At yr Spartiaid hefyd, ac i leoedd eraill, yr anfonodd efe lythyrau ar yr vn destyn.
3 A hwy a aethant i Rufain, ac a ddae∣thant i'r cynghordŷ ac a ddywedasant, Iona∣than yr Arch-offeiriad, a chenedl yr Idde∣won a'n hanfonodd ni attoch chwi i adne∣wyddu y gyfeillach a'r gydymdeithas a fu o'r blaen.
4 A'r Rhufeinwyr a roddasant iddynt hwy lythyrau at y ‖ 1.1427 bobl o le i le, ar fod iddynt eu hanfon hwy i dir Iudea yn heddychlon.
5 Dymma hefyd goppi o'r llythyr a scri∣fennodd Ionathan at y Spartiaid.
6 Ionathan yr Arch-offeiriad, a Henuri∣aid y genedl, a'r Offeiriaid, a'r rhan arall o bobl yr Iddewon yn cyfarch gwell i'r brodyr yr Spartiaid.
7 Cyn hyn yr anfonwyd llythyrau at yr Arch-offeiriad Onias oddi wrth ‖ 1.1428 Darius, yr hwn oedd yn frenin arnoch chwi, mai ein brodyr ni ydych chwi, fel y mae y coppi isod yn cynnwys.
8 Ac Onias a dderbyniodd y gŵr a anfo∣nasid, yn anrhydeddus; ac a dderbyniodd y llythyrau yn y rhai yr yspysasid am ‖ gyfeill∣ach a chydymdeithas.
9 Felly ninnau, er nad yw raid i ni wrth hyn, am fod gennym yn gyssur y llyfrau sanc∣taidd sydd yn ein dwylo;
10 A dybiasom yn dda anfon attoch chwi i adnewyddu brawdoliaeth, a chyfeillach, rhag i ni fyned yn ddieithr i chwi: oblegit llawer o amser a aeth heibio, er pan anfo∣nasoch attom ni.
11 Am hynny yr ydym ni bob amser yn ddibaid, ar y gŵyliau a'r dyddiau cymmwys eraill, yn eich cosio chwi, yn yr aberthau yr ydym yn eu hoffrymmu, ac yn ein gweddiau, megis y mae yn weddaidd, ac yn gymmwys cosio brodyr.
12 Ac yr ydym ni yn llawen am eich an∣rhydedd chwi.
13 Am danom ni, llawer o drallod, a rhy∣feloedd lawer, a'n hamgylchynasant ni, a'r brenhinoedd o'n hamgylch a ryfelasant i'n herbyn.
14 Nid oeddym ni er hynny yn ewyllysio eich blino chwi yn y rhyfeloedd hyn, na'u cydymdeithion a'n cyfeillion eraill:
15 O herwydd y mae gennym ni gym∣morth o'r nef, yr hwn sydd yn ein cymmorth ni, ac ni a waredwyd oddi wrth ein gelymon, a'n gelynion a ostyngwyd.
16 Am hynny ni a etholasom Numenius fab Antiochus, ac Antipater fab Iason, ac a'i hanfonasom at y Rhufeiniaid, i adnewy∣ddu â hwynt y gyfeillach, a'r gymdeithas a suasei o'r blaen.
17 Felly y gorchymynnasom iddynt hefyd ddyfod attoch chwithau, a'ch cyfarch a rho∣ddi i chwi ein llythyrau ni am adnewyddu ein brawdoliaeth ni.
18 Ac yr awron chwi a wnewch yn dda ar atteb i ni am hyn.
19 Ac dymma goppi y llythyrau a anfo∣nodd ‖ 1.1429 Onnares.
20 Areus brenin yr Spartiaid yn cyfarch gwell i Onias yr Arch-offeiriad.
21 Yr ydys yn cael mewn scrifen am yr Spartiaid a'r Iddewon, mai brodyr ydynt hwy, a'i bod o genedl Abraham:
22 Ac yn awr, gan i ni wybod hyn, da y gwnewch scrifennu attom ni am eich ‖ 1.1430 he∣ddwch.
23 Yr ydym ninnau yn scrifennu attoch chwithau, eich anifeiliaid chwi a'ch golud sydd eiddom ni, a'r eiddom ninnau yn eiddoch chwi: ac yr ydym ni yn gorchymmyn [i'n cen∣nadon ni] iddynt hwy fynegi i chwi fel hyn.
24 A Ionathan a glybu ddychwelyd ty∣wysogion Demetrius a llu mwy nâ'r cyntaf, i ryfela yn ei erbyn ef.
25 Ac efe a aeth allan o Ierusalem, ac a aeth i gyfarfod â hwynt i wlâd Amathis: ac ni roddes efe iddynt yspaid i ‖ 1.1431 ddyfod iw wlâd ef.
26 Ac efe a anfonodd spiwŷr iw gwerssyll hwynt, a hwy a ddychwelasant, ac a fynega∣sant iddo eu bôd hwy yn am••••nu rhuthro ar∣nynt hwy liw nos,
27 A Ionathan, pan fachludodd haul a archodd i'r rhai oedd gyd ag ef wil••ed, a bod mewn arfau, i fod yn barod i ryfel ar hŷd y nos; ac efe a osododd rag-wilwyr o amgylch y gwerssyll.
28 A'r gwrthwynebwŷr a glywsant fod Ionathan, a'r rhai oedd gyd ag ef, yn barod i ryfel, ac a ofnasant, ac a ddechrynasant yn
Page [unnumbered]
eu calon, ac a ‖ 1.1432 gynneuasant dân yn eu gwer∣ssyll.
29 Ond Ionathan a'r rhai oedd gyd ag ef, ni wybuant hyd y boreu: oblegit hwy a we∣lent dân yn llosci.
30 A Ionathan a ymlidiodd ar eu hôl hwynt, ac ni's goddiweddodd hwynt: oble∣git hwy a aethent tros yr afon Eleutherus.
31 Yna y trôdd Ionathan yn erbyn yr Arabiaid, y rhai a elwid y ‖ 1.1433 Zabadiaid, ac a'i tarawodd hwynt, ac a gymmerodd eu hy∣spail hwynt.
32 Ac efe a fudodd, ac a ddaeth i Ddamas∣cus, ac a rodiodd trwy'r holl wlâd.
33 Simon hefyd a aeth allan, ac a dram∣mwyodd trwy 'r wlâd hyd Ascalon, a'r cestyll oedd gyfagos, ac a drôdd i Ioppe, ac a'i hen∣nillodd hi.
34 O herwydd efe a glywsei eu bod hwy yn amcanu rhoddi y castell i fynu i'r rhai oedd o du Demetrius, ac efe a osododd yno warcheidwaid iw gadw ef.
35 A Ionathan a ddychwelodd, ac a gas∣clodd henuriaid y bobl, ac a ymgynghorodd â hwynt am adeiladu ‖ 1.1434 cestyll yn Iudea,
36 Ac am godi caerau Ierusalem, a chodi ‖ 1.1435 vchder mawr rhwng y tŵr a'r ddinas, i wa∣hanu rhyngddo ef a'r ddinas, i fod o honaw o'r neilltu, fel na phrynent hwy, ac na wer∣thent [yno.]
37 A phan ddaethant hwy ynghyd i adei∣ladu y ddinas, ‖ 1.1436 efe a aeth i'r mur [nesaf] i'r aber o du 'r dwyrain: a hwy a adeiladasant yr hyn a elwir Caphenatha.
38 A Simon a adeiladodd Adida yn Se∣phela, ac a'i cadarnhaodd â phyrth ac â bar∣rau.
39 Tryphon hefyd a geisiodd deyrnasu yn Asia, a gwisco y goron, ac estyn ei law yn er∣byn y brenin Antiochus.
40 Ond efe a ofnodd na adawei Iona∣than, a rhaciddo ryfela yn ei erbyn ef, ac efe a geisiodd ffordd iw ddal ef iw ddifetha: am hynny efe a gododd, ac a aeth i Bethsan.
41 A Ionathan a aeth allan i gyfarfod ag ef â deugain-mil o wŷr wedi eu dethol i ryfel, ac a ddaeth i Bethsan.
42 A phan welodd Tryphon ei ddyfod ef â llu mawr, efe a ofnodd estyn ei law yn ei er∣byn ef.
43 Am hynny efe a'i derbyniodd ef yn an∣rhydeddus, ac a'i canmolodd ef wrth ei holl garedigion, ac a roddes iddo roddion, ac a archodd iw holl garedigion vfyddhau iddo ef megis iddo yntef ei hun.
44 Ac efe a ddywedodd wrth Ionathan, i ba beth y blinaist ti y bobl hyn oll heb fod rhyfel rhyngom ni.
45 Yr awron gan hynny anfon y rhai hyn iw tai, ac ethol i ti ychydig wŷr, y rhai a fy∣ddant gyd â thi, a thyret gyd â myfi i Ptole∣mais, ac mi a'i rhoddaf hi i ti, a'r cestyll eraill, a'r lluoedd eraill, a'r swyddogion; ac mi a ddychwelaf, ac a âf ymmaith: canys o achos hyn y daethym i ymma.
46 Yntef yn ei gredu ef, a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a anfonodd ymmaith ei lu, a hwy a aethant i dîr Iudea.
47 Ac efe a adawodd gyd ag ef dair mîl o wŷr, o ba rai efe a ‖ 1.1437 adawodd ddwy fil ‖ 1.1438 yn Galilea, a mîl a aeth gyd ag ef.
48 Er cynted y daeth Ionathan i Ptole∣mais, y Ptolemaiaid a gaeasant y pyrth, ac a'i daliasant ef, ac a laddasant â'r cleddyf y rhai oll a ddaethei i mewn gyd ag ef.
49 Yna yr anfonodd Tryphon lu, a gwŷr meirch i dîr Galilea, ac i'r maes mawr i ddi∣fetha y rhai oedd ar du Ionathan.
50 Eithr pan wybuant hwy ei ddal ‖ 1.1439 ef, a difetha y rhai oedd gyd ag ef, hwy a ymgy∣surasant, ac a aethant ynghyd, yn barod i ryfel.
51 Felly pan welodd y rhai oedd yn can∣lyn arnynt eu bôd hwy yn barod i ymladd am eu henioes, hwy a ddychwelasant.
52 Hwythau a ddaethant oll i wlâd Iudea yn ddiangol, ac a alarasant am Ionathan, a'r rhai oedd gyd ag ef, a hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac Israel oll a alarasant alar mawr.
53 A'r holl genhedloedd o amgylch a geisi∣asant eu difetha hwynt: canys hwy a ddy∣wedasant: nid oes ganddynt na thywysog na neb iw helpu: Am hynny rhyfelwn yn eu herbyn hwynt yn awr, a dilewn eu coffa∣dwriaeth o blith dynion.
PEN. XIII.
8 Gwneuthur Simon yn bennaeth yn lle Iona∣than ei frawd, 19 Tryphon yn cael gafael ar ddau o feibion Ionathan, ac yn lladd eu tad hwy. 27 Bedd Ionathan. 36 Simon yn cael ffafor gan Demetrius, 46 ac yn ennill Gaza, a'r twr yn Ierusalem.
PAn glybu Simon gasclu o Tryphon lu mawr i ddyfod i wlâd Iudæa iw difetha hi,
2 A gweled fod y bobl yn ddychrynedig, ac yn ofnus iawn, efe a aeth i fynu i Ie∣rusalem, ac a gasclodd y bobl ynghyd:
3 Ac efe a'i cyssurodd hwynt, ac a ddywe∣dodd wrthynt: chwi a wyddocheich hunain pa bethau eu maint a wneuthym i, a'm bro∣dyr, a thŷ fy nhâd, tros y Gysraith, a'r Cyssegr: a'r rhyfeloedd, a'r ing a welsom ni.
4 O achos hyn y lladdwyd fy mrodyr i oll er mwyn Israel, ac mi a adawyd fy hu∣nan.
5 Ac yr awron na atto Duw i mi arbed fy enioes yn amser cystudd: oblegit nid yd∣wyfi well nâ'm brodyr.
6 Eithr mi a ddialaf fy nghenedl, a'r Cys∣segr, ‖ 1.1440 a'ch gwragedd a'ch plant chwi, oblegit yr holl genhedloedd a ymgasclasant i'n dife∣tha ni o wîr elyniaeth.
7 Ac yspryd y bobl a adfywiodd er cyn∣ted y clywsant y geiriau hyn.
8 A hwy a attebasant â llef vchel gan ddywedyd, tydi yw ein capten ni yn lle Iu∣das a Ionathan dy frodyr.
9 Rhyfela ein rhyfel ni, a pha beth bynnag a ddywedech di wrthym, ni a'i gwnawn.
Page [unnumbered]
10 Yntef a gasclodd yr holl ryfelwŷr, ac a frysiodd i orphen caerau Ierusalem, ac a'i cadarnhaodd hi o amgylch.
11 Ac efe a anfonodd Ionathan [fab] Ab∣solom â llu mawr gyd ag ef i Ioppe, ac efe â fwriodd allan y rhai oedd ynddi hi, ac efe a arhôdd yno ynddi hi.
12 A Thryphon a symmudodd o Ptole∣mais â llu mawr, i fyned i mewn i dîr Iu∣dea, a Ionathan gyd ag ef yngharchar.
13 A Simon a werssyllodd yn Adida ar gyfer y ‖ 1.1441 maes.
14 Pan ŵybu Tryphon godi Simon yn lle Ionathan ei frawd, ac y cydiei efe mewn rhyfel ag ef, efe a anfonodd gennadau atto ef, gan ddywedyd,
15 Am yr arian oedd ddyledus ar Iona∣than dy frawd i dryssor y brenin, am y ‖ 1.1442 swy∣ddau oedd ganddo ef, y daliasom ni ef.
16 Yr awron gan hynny anfon gan talent o arian, a dau o'i feibion ef yn wystlō, fel pan ollynger ef, na chilio efe oddi wrthym ni, ac ni a'i gollyngwn ef.
17 Ac er bôd Simon yn gwybod mai yn dwyllodrus yr oeddynt yn ymddiddan: etto efe a anfonodd yr arian ar ddau fachgen, rhag iddo gael câs mawr gan y bobl.
18 Y rhai a ddywedent, am na anfonodd efe yr arian a'r bechgyn y darfu am [Iona∣than.]
19 Am hynny efe a anfonodd y bechgyn a'r can talent: yntef [Tryphon] a fu gelwy∣ddog, ac ni ollyngodd Ionathan ymmaith.
20 Ac wedi hyn y daeth Tryphon i fyned yn erbyn y wlâd, ac iw difetha hi, ac efe a aeth o amgylch y ffordd sydd yn arwain i Adora: a Simon a'i lu a aethant yn ei erbyn ef, i bôb lle a'r yr ai yntef iddo.
21 A'r rhai oedd yn y tŵr a anfonasant at Tryphon gennadau, i beri iddo frysio i ddy∣fod attynt hwy trwy y diffaethwch, ac i yrru iddynt hwy ymborth.
22 Yna y paratôdd Tryphon ei wŷr meirch i ddyfod, a'r noson honno y bu eira mawr iawn, ac ni ddaeth efe oblegit yr eira, ac efe a ymadawodd, ac a aeth i wlâd Galaad.
23 A phan nesaodd efe ac Bascama, efe a laddodd Ionathan, ac yno y claddwyd ef.
24 Yna y dychwelodd Tryphon, ac yr aeth iw wlâd ei hun.
25 A Simon a yrrodd, ac a gymerodd es∣cyrn ei frawd Ionathan, a hwy a'i cladda∣sant ym Modin, dinas ei henafiaid ef.
26 Ac Israel oll a alarasant am dano ef â galar mawr, îe hwy a alarasant am dano ef ddyddiau lawer.
27 A Simon a wnaeth adeiladaeth ar fedd ei dad a'i frodyr, ac a'i gwnaeth yn vchel mewn golwg, â cherrig nadd, yn ôl ac ym mlaen.
28 Ac efe a osododd heb law hynny saith pyramides, y naill ar gyfer y llall, iw dad, a'i fam, a'i bedwar brawd.
29 Ac yn y rhai hyn efe a wnaeth ddychy∣mygion celfydd, ac a osododd golofnau mawrion o amgylch, ac ar y colofnau efe a wnaeth arfau yn goffadwriaeth tragywy∣ddol, a chyd â'r arfau longau cerfiedig iw gweled gan bawb a fordwyent y môr.
30 Dymma y bedd a wnaeth efe ym Mo∣din, ac y mae yn sefyll hyd y dydd hwn.
31 A Thryphon a wnaeth yn dwyllodrus ag Antiochus y brenin ieuangc, ac a'i lladd∣odd ef.
32 Ac efe a deyrnasodd yn ei le ef, ac a wis∣codd goron Asia▪ ac a wnaeth ddialedd mawr yn y wlâd.
33 A Simon a adeiladodd y cestyll yn Iu∣dea, ac a'i cadarnhaodd hwynt â thŷrau vch∣el, ac â chaerau mawrion: îe â thyrau, ac â phyrth, ac â chlo••au; ac efe a osododd ym∣borth ‖ 1.1443 ynddynt.
34 Simon hefyd a etholodd wŷr, ac a'i hanfonodd at y brenin Demetrius, i geisio gollwng y wlâd yn rhydd: oblegit ‖ 1.1444 yspail oedd holl weithredoedd Tryphon.
35 A'r brenin Demetrius a anfonodd atto yntef fel hyn, ac a'i hattebodd ef, ac a scrifennodd atto ef y llythr hwn.
36 Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i Simon yr Arch-offeiriad, a charedig i fren∣hinoedd, a hefyd i henuriaid, a chenedl yr Iddewon:
37 Nyni a dderbyniasom y goron aur, a'r ‖ 1.1445 maen gwerth-fawr, y rhai a anfonasoch chwi, ac yr ydym ni yn barod i wneuthur heddwch â chwi, ac i scrifennu at ein swy∣ddogion i siccrhau y rhydd-fraint a ganiad∣hasom ni.
38 A'r hyn oll a ordeiniasom ni tu ag at∣toch chwi, hynny a saif: bydded y cestyll a adeiladasoch chwi yn eiddoch chwi.
39 Ac yr ydym ni yn maddeu pob amryfu∣sedd a bai hyd y dydd hwn, a threth y goron, yr hon sydd yn ddyledus arnoch chwi; ac os oedd teyrn-ged arall yn Ierusalem, na choder hi mwy.
40 Ac od oes neb o honoch yn gymmwys iw scrifennu ym mysc y rhai sy yn ein cylch ni, scrifenner hwy, a gwneler heddwch rhyn∣gom ni.
41 Y ddecfed flwyddyn a thrugain a chant y tynnwyd ymmaith iau y cenhedloedd oddi ar Israel.
42 A phobl Israel a ddechreuasant scri∣fennu yn eu scrifennadau a'i ‖ 1.1446 cyfnewidia∣dau, Y FLVVYDDYN gyntaf i Simon yr Arch-offeiriad mawr, tywysog a chapten yr Iddewon.
43 Yn y dyddiau hynny y gwerssyllodd [Simon] wrth Gaza, ac efe a'i hamgylchodd hi â'i luoedd, ac efe a wnaeth ryfel-offeryn, ac a'i nessâodd at y ddinas, ac a darawodd vn tŵr, ac a'i hennillodd.
44 A'r rhai oedd yn y rhyfel-offeryn a neidi∣asant i'r ddinas, ac fe wnaethpwyd cynnwrf mawr yn y ddinas.
45 A'r rhai oedd yn y ddinas a aethant i fynu ar y gaer gyd â'i gwragedd, a'i plant, wedi▪ rhwygo eu dillad, a hwy a waedda∣sant â llef vchel, gan attolwg i Simon ‖ 1.1447 gan∣hiadu heddwch iddynt:
46 A hwy a ddywedasant, na wna â ni yn ôl ein drygioni, ond yn ôl dy drugaredd di.
Page [unnumbered]
47 A Simon a dosturiodd wrthynt, ac ni ryfelodd mwy yn eu herbyn, eithr efe a'i bw∣riodd hwynt allan o'r ddinas, ac a lanhâodd y tai lle yr oedd eulynnod, ac a aeth i mewn iddi, dan ganu mawl a diolch.
48 Ac efe a fwriodd allan bôb aflendid o honi hi, ac a osododd yno wŷr oedd yn gwneu∣thur y Gyfraith, ac a'i cadarnhaodd hi, ac a adeiladodd ynddi bresswylfod iddo ei hun.
49 Lluddiwyd hefyd i'r rhai oedd, yn y tŵr yn Ierusalem fyned allan, na dyfod i'r wlâd i brynu a gwerthu, ac yr oedd yn flîn arnynt o eisieu ymborth, a llawer o honynt a fu feirw o newyn.
50 A hwy a waeddasant ar Simon ar ‖ 1.1448 ro∣ddi cymmod iddynt, ac efe a'i rhoddes iddynt: ond efe a'i bwriodd hwynt allan, ac a lanhâ∣odd y tŵr oddi wrth halogedigaeth.
51 Ac efe a aeth i mewn iddi hi y trydydd dydd ar hugain o'r ail mîs, yn yr vnfed flwy∣ddyn a'r ddêc a thrugain a chant, â ‖ 1.1449 mawl, ac â changhennau palmwŷdd, ac â thelynau, â cymbalau, â nablau, ac â hymnau, ac ag od∣lau, am ddifetha gelyn mawr allan o Israel.
52 Ac efe a ordeiniodd gadw y dydd hwn yn llawen bob blwyddyn. Ac efe a gadarn∣hâodd fynydd y Deml, yr hwn oedd yn agos i'r tŵr, ac a arhosodd yno, efe a'r rhai oedd gyd ag ef.
53 A phan welodd Simon fod ei fab Ioan yn ŵr, efe a'i gosododd ef yn gapten ar yr holl luoedd, ac a bresswyliodd yn Gazara.
PEN. XIIII.
3 Brenin Persia yn dala Demetrius. 4 Daioni Simon iw Wlad. 18 Y Lacedemoniaid a'r Rhu∣feiniaid yn adnewyddu eu heddvvch ag ef. 26 Gosod coffa am ei weithredoedd ef yn Sion.
AC yn y ddeuddecfed flwyddyn a thrugain a chant y casclodd y brenin Demetrius ei luoedd, ac efe a aeth i Media i gasclu iddo gymmorth, i ryfela yn er∣byn Tryphon.
2 Pan glybu Arsaces brenin Persia a Media ddyfod Demetrius o fewn ei derfy∣nau ef, efe a anfonodd vn o'i dywysogion iw ddal ef yn fyw.
3 A hwnnw a aeth, ac a darawodd werssyll Demetrius, ac a'i daliodd ef, ac a'i dug ef at Arsaces, ac yntef a'i rhoddes ef yngharchar.
4 A gwlâd Iudea a gafodd lonydd holl ddyddiau Simon: canys efe a geisiodd ddai∣oni iw genedl, a bodlon oedd ganddynt ei awdurdod ef a'i anrhydedd, yr holl amser.
5 Simon hefyd heb law ei hôll ogoniant, a ennillodd Ioppe yn borthladd, ac a wnaeth ffordd i ynysoedd y môr.
6 Ac efe a helaethodd derfynau ei genedl, ac a ennillodd y wlâd.
7 Hefyd efe a gasclodd gaethglud mawr, ac a feddiannodd Gazara a Bethsura, a'r tŵr, ac a dynnodd yr aflendid allan o honaw ef, ac nid oedd a safei yn ei erbyn ef.
8 Felly yr oeddynt hwy yn llafurio eu tîr yn heddychlon, a'r ddaiar a roddes ei chnwd, a choed y maes eu ffrwythau.
9 Yr henuriaid a eisteddent yn yr heo∣lydd, am ‖ 1.1450 ddaioni yr ymgynghorent hwy oll, a'r gwŷr ieuaingc a wiscent ddillad parche∣dig a gwiscoedd rhyfel.
10 Efe a ddarparodd ymborth i'r dinas∣oedd, ac a osododd ynddynt bob offer cader∣nid, hyd oni sonnid am ei enw anrhydeddus ef hyd eithafoedd y ddaiar.
11 Efe a wnaeth heddwch yn y wlâd, ac fe gafodd Israel lawenydd mawr.
12 * 1.1451 Pob vn a eisteddei tan ei winwydden a'i figys-bren, ac nid oedd a'i dychrynei hwynt.
13 Ni adawyd vn yn y wlâd i ryfela yn eu herbyn hwynt, a'r brenhinoedd a ddinistri∣wyd yn y dyddiau hynny.
14 Hefyd efe a gadarnhâodd bob vn daro∣styngedic o'i bobl: efe a chwiliodd allan y gy∣fraith, ac a dynnodd ymmaith bob dŷn an∣nuwiol a drygionus.
15 Efe a barchodd y Cyssegr, ac a amlhâ∣odd lestri y Cyssegr.
16 A hwy a glywsant yn Rhufain farw Ionathan, a hyd Sparta hefyd, ac athrist iawn fu ganddynt.
17 Ond pan glywsant hwy wneuthur Simon ei frawd ef yn Arch-offeiriad yn ei le ef, ac ennill a honaw ef y wlad a'r dinasoedd oedd ynddi:
18 Hwy a scrifennasant atto ef mewn lle∣chau prês, i adnewyddu ag ef y gyfeillach a'r gydymdeithas a wnaethent hwy â Iudas, ac â Ionathan ei frodyr ef.
19 A hwy a ddarllennwyd o flaen y gyn∣nulleidfa yn Ierusalem.
20 Ac dymma goppi y llythŷrau a anfo∣nodd yr Spartiaid; TYVVYSOGION a di∣nas yr Spartiaid yn cyfarch yr Arch-offeiri∣ad Simon, a'r henuriaid, a'r offeiriaid, a'r rhan arall o'n brodyr, pobl yr Iddewon.
21 Y cennadon a anfonwyd at ein pobl ni, a fynegasant i ni am eich gogoniant, a'ch parch chwi, a llawen fu gennym eu dyfodi∣ad hwynt.
22 Ac ni a scrifennasom yr hyn a ddywe∣dasant hwy, ym mysc cynghorion y bobl, fel hyn; NVMENIVS [mab] Antiochus, ac Anti∣pater [mab] Iason, cennadau yr Iddewon a ddaethant attom ni i adnewyddu y gyfeill∣ach oedd rhyngddynt â ni.
23 A bodlon oedd y bobl i dderbyn y gwŷr yn anrhydeddus, ac i scrifennu coppi o'i hy∣madrodd hwynt yn y llyfrau a ddangosir, fel y cai pobl yr Spartiaid goffadwriaeth o hynny: a hwy a scrifennasant hefyd goppi o hyn at Simon yr Arch-offeiriad.
24 Wedi hyn, fe anfonodd Simon Nume∣nius i Rufain, â tharian mawr o aur gan∣ddo, o bwys mil o bunnoedd, i siccrhau y gy∣feillach â hwynt.
25 A phan glybu y bobl y geiriau hyn, hŵy a ddywedasant: pa ddiolch a roddwn ni i Simon, ac iw feibion?
26 Oblegit efe, a'i frodyr, a thŷ ei dad, a gryfhasant Israel, ac a ddinistriasant ely∣nion Israel o'i mysc: ac a siccrhasant iddo ef rydd-did.
Page [unnumbered]
27 A hwy a'i scrifennasant mewn llechau prês, ac a'i gosodasant ar golofnau ym my∣nydd Sion, ac dymma goppi yr scrifen: YDEVNAWFED dydd o fis Elul, y ddeuddec∣fed flwyddyn a thrugain a chant, ar drydedd flwyddyn er pan yw Simô yr Arch-offeiriad.
28 Yn ‖ 1.1452 Saramel yn y gynnulleidfa fawr o offeiriaid, a phobl, a thywysogion y genedl, a henuriaid y wlâd, yr yspyswyd i ni y pe∣thau hyn.
29 O herwydd bôd rhyfeloedd yn fynych yn y wlâd, yn y rhai yr ymroddes Simon mab Mattathias, o feibion Iarib, a'i frodyr, i'r perigl, ac a safasant yn erbyn gwrthwy∣neb-wŷr eu cenedl, er mwyn cynnal eu Cys∣segr a'u cyfraith, ac a anrhydeddasant eu cenedl ag anrhydedd mawr.
30 (Canys wedi i Ionathan gasclu eu cenedl hwynt, a bôd yn Arch-offeiriad idd∣ynt, a'i roddi at ei bobl,
31 A'i gelynion hwynt yn bwriadu dyfod i fynu iw gwlâd hwynt i ddifetha eu gwlâd, ac i estyn eu dwylo yn erbyn eu Cyssegr hwynt.
32 Yn yr hwn amser y cyfododd Simon, ac a ryfelodd tros ei genedl, ac a dreuliodd lawer o'i arian ei hun, ac a arfogodd ‖ 1.1453 wŷr nerthol o'i genedl, ac a roddes iddynt hwy gyflog,
33 Ac a gadarnhaodd ddinasoedd Iudea, a Bethsura, yr hon sydd ynghyffiniau Iudea, lle y buasei arfau y gelynion o'r blaen, ac a osododd yno wŷr o Iddewon i warchod.
34 Felly y cadarnhâodd efe Ioppe, yr hon sydd wrth y môr; a ‖ 1.1454 Gazara, yr hon sydd yng∣hyffiniau Azotus, lle yr oedd y gelynion yn aros o'r blaen: ac efe a osododd Iddewon yno, ac a osododd yno pa bethau bynnag oedd gymmwys iw cywair hwynt.)
35 Y bobl gan hynny yn gweled ffyddlon∣deb Simon, â'r anrhydedd yr oedd efe yn am∣canu ei wneuthur iw genedl, a'i gosoda∣sant ef yn gapten, ac yn Arch-offeiriad, am iddo wneuthur hyn oll, ac am y cyfiawn∣der a'r ffyddlondeb a gadwasei efe iw ge∣nedl, ac am geisio o honaw dderchafu ei bobl trwy bob modd.
36 Canys yn ei ddyddiau ef yr oedd llwy∣ddiant yn ei ddwylaw ef, yn gymmaint a bwrw allan o'i gwlad hwynt y cenhedloedd, ar rhai oedd yn ninas Dafydd, ac yn Ierusa∣lem y rhai a wnaethent iddynt dŵr, allan o'r hwn y deuent, ac yr halogent y cwbl o am∣gylch y Cyssegr, ac y gwnaent ddialedd mawr ‖ 1.1455 yn erbyn sancteiddrwydd.
37 Ac efe a osododd ynddi hi wŷr o Idde∣won, ac a'i cadarnhâodd hi yn ddiogelwch i'r wlad, ac i'r ddinas, ac a gododd gaerau Ierusalem.
38 A'r brenin Demetrius a siccrhaodd yr Arch-offeiriadaeth iddo ef yn hollawl:
39 Ac a'i gwnaeth ef o'i garedigion, ac a'i anrhydeddodd ef ag anrhydedd mawr.
40 Oblegit fe glywsid fod y Rhufeinwŷr yn galw yr Iddewon yn gyfeillion, ac yn gymdeithion, a chyfarfod o honynt â chen∣nadau Simon yn anrhydeddus,
41 A gweled o'r Iddewon yn dda, a'r offei∣riaid hefyd, fod Simon yn gapten iddynt, ac yn Arch-offeiriad byth, hyd oni chodei Pro∣phwyd ffyddlon,
42 A'i fod efe yn gapten arnynt hwy, ac i ofalu am y Cyssegr, fel y gosodei efe hwynt ar eu gwaith, ac ar y wlad, ac ar yr arfau, ac ar y cestyll, fel y byddei [meddaf] arno ef y gofal am y Cyssegr,
43 Ac y gwrandawei pawb arno ef, ac yr scrisennid pob scrifen yn y wlad yn ei enw ef, ac y dilledid ef mewn porphor, ac y gwis∣cei aur.
44 Am hynny ni bydd gyfreithlon i neb o'r bobl, nac o'r offeiriaid ddiddymmu dim o hyn, na dywedyd yn erbyn dim a ddy∣wedo efe, na galw cymmanfa ynghyd yn y wlad hebddo ef, na gwisco porphor, nac ar∣fer bwccl aur.
45 A phwy bynnag a wnelo yn erbyn hyn, neu a ddiddymmo ddim o hyn, euog fydd efe.
46 A bodlon oedd gan yr holl bobl osod Simon i wneuthur fel hyn.
47 Simon hefyd a gymmerodd [hyn,] ac a fu fodlon i fod yn Arch-offeiriad, ac yn gapten, ac yn dywysog, ar genedl yr Idde∣won, a'r offeiriaid, ac i lywodraethu pawb.
48 A hwy a barasant osod yr scrifen hon mewn llechau pres, a'i gosod hwynt o fewn cylch y Cyssegr mewn lle hynod:
49 A gosod coppi o hynny yn y tryssor∣dŷ, fel y gallei Simon a'i feibion ei gael ef.
PEN. XV.
4 Antiochus yn deisyf cael cennad i fyned trwy Iudæa, ac yn rhoi parch mawr i Simon ac i'r Iuddewon. 16 Y Rhufei∣niaid yn scrifennu at amryw frenhinoedd a chenedloedd, i ddangos ffafor i'r Iudde∣won. 27 Antiochus yn cwerylu à Si∣mon, 28 ac yn danfon rhai i ddrygu Iudæa.
ANtiochus hefyd mab y bre∣nin Demetrius a anfonodd lythyrau o ynysoedd y môr at Simon yr Offeiriad, a phen-cenedl yr Iddewon, ac at y genedl oll.
2 Ac yr oeddynt hwy yn cynnwys y modd hyn, Y BRENIN Antiochus yn cyfarch gwell i Simon Arch-offeiriad a thywysog ei genedl, a phobl yr Iddewon.
3 O herwydd i wŷr sceler gael gafael ar deyrnas ein henafiaid ni, a bod yn fy mryd roddi hawl i'r frenhiniaeth, iw hail-osod fel yr oedd o'r blaen: er mwyn hynny mi a ges∣clais lawer o filwyr dieithr, ac a baratoais longau rhyfel;
4 Ac yr ydwyfi yn ewyllysio myned trwy 'r wlad, i ddial ar y rhai a anrheithiasant ein gwlad ni, ac a wnaethant lawer o ddinas∣oedd yn anghyfannedd yn y deyrnas.
5 Am hynny yn awr yr ydwyf yn siccrhau
Page [unnumbered]
i ti yr holl offrymmau, y rhai a ganiad∣haodd y brenhinoedd a fuant o'm blaen i ti, a pha bethau bynnag eraill a ganiad∣hasant hwy i ti.
6 ‖ 1.1456 Megis y gadawsant i ti daro math o arian priodol i'th wlad ti.
7 Ac am Ierusalem a'r cyssegr, byddant yn rhyddion, a'r holl arfau a wnaethosti, a'r cestyll a adeiledaisti, y rhai yr ydwyt mewn meddiant o honynt, parhaed [hynny] i ti.
8 Maddeuer hefyd i ti bob dylêd i'r bre∣nin, a'r hyn a fyddo dyledus i'r brenin o hyn allan byth.
9 A phan ddarffo gwastadhau ein teyr∣nas, nyni a'th anrhydeddwn di, a'th genedl, a'r Deml, ag anrhydedd mawr, fel y byddo eglur eich gogoniant chwi trwy yr holl fŷd.
10 Y bedwaredd flwyddyn ar ddêc a thru∣gain a chant yr aeth Antiochus i dîr ei hena∣fiaid, a'r holl luoedd a ddaethant ynghyd atto ef, fel nad oedd ond ychydig gyd â Thry∣phon.
11 A'r brenin Antiochus a'i hymlidiodd ef, ac yntef a ddaeth dan ffoi i Dora sy ar lan y môr.
12 O blegit efe a wybu ymgasclu o ddry∣gau yn ei erbyn ef, ac i'r lluoedd ei adel ef.
13 Ac Antiochus a werssyllodd yn erbyn Dora, a chyd ag ef chweugein-mil o ryfel∣wŷr, ac wyth mîl o wŷr meirch.
14 Ac efe a amgylchodd y ddinas, ac a oso∣dodd y llongau wrth y ddinas o du 'r môr, ac a flinodd y ddinas o'r tîr a'r môr, fel na ada∣wodd efe i neb fyned allan na dyfod i mewn.
15 Yna y daeth Numenius a'r rhai oedd gyd ag ef, o Rufain, â llythyrau ganddynt at y brenhinoedd a'r gwledydd, yn y rhai yr oedd hyn yn scrifennedig.
16 Lucius, Consul y Rhufeiniaid, yn an∣nerch y brenin Ptolomeus.
17 Cennadon yr Iddewon, ein cyfeilli∣on a'n cymdeithion, a ddaethant attom ni i adnewyddu y gyfeillach a'r gymdeithas a fuasei o'r blaen; wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr Arch-offeiriad, a phobl yr Idde∣won.
18 A hwy a ddygasant darian o aur o bum mil o bunnoedd.
19 Am hynny nyni a welsom yn dda scri∣fennu at y brenhinoedd a'r gwledydd, na cheisient niwed iddynt, ac na ryfelent yn eu herbyn hwynt, na'i dinasoedd, na'i gwlad, ac na chynnorthwyent y rhai a ry∣felent iw herbyn.
20 Ac ni a welsom yn dda dderbyn y tari∣an ganddynt hwy.
21 Am hynny os ffôdd rhai dynion sceler o'i gwlad hwynt attoch chwi, rhoddwch hwynt i Simon yr Arch-offeiriad, i ddial arnynt yn ôl eu cyfraith hwynt.
22 A hyn hefyd a scrifennodd efe at Dde∣metrius y brenin, ac Attalus, ac ‖ 1.1457 Araches, ac Arsaces:
23 Ac i bob gwlad, megis i ‖ 1.1458 Sampsames, at yr Spartiaid, i Delus hefyd, ac i Myn∣dus, ac i Sycion, ac i Caria, ac i Samos, a Phamphilia, ac i Lycia, ac i Halicarnassus, ac i Rhodus, a Phaseilis, ac i Cos, ac i Side, * 1.1459 ac i Aradus, ac i Gortyna, a Gnidus, a Cy∣prus, a Cyrene.
24 A hwy a scrifennasant goppi o hyn at Simon yr Arch-offeiriad.
25 A'r brenin Antiochus a werssyllodd yn erbyn Dora yr ail dydd, gan ‖ 1.1460 ddwyn ei lu∣oedd yn wastadol yn ei herbyn hi, a gwneu∣thur offer rhyfel: ac efe a gaeodd ar Tryphon fel na allei efe fyned nac i mewn nac allan.
26 A Simon a anfonodd iddo ef ddwy fil o wŷr dewisol iw gynnorthwyo ef, ac aur, ac arian, ac arfau lawer.
27 Ac ni fynnei efe eu cymmeryd hwynt, eithr efe a dorrodd yr ammodau oll a wnae∣thei efe ag ef o'r blaen, ac a ymddieithrodd oddi wrtho ef.
28 Ac efe a anfonodd Athenobius, vn o'i garedigion, i ymddiddan ag ef gan ddywe∣dyd: yr ydych chwi yn meddiannu Ioppe, a Gazara, a'r tŵr yn Ierusalem, dinasoedd fy nheyrnas i.
29 Chwi a wnaethoch eu cyffiniau hwynt yn anghyfannedd, ac a wnaethoch ddialedd mawr yn y tir, ac a feddiannasoch lawer o fannau yn fy nheyrnas i.
30 Am hynny yr awron moeswch y di∣nasoedd a gymmerasoch chwi, ac ardreth y lleoedd a feddiannasoch chwi, ‖ 1.1461 o'r tu allan i gyffiniau Iudæa.
31 Ac onid ê, moeswch i mi bum-cant o dalentau arian am danynt hwy, a phum cant eraill o dalentau am y dinistr a wnae∣thoch, ac ardreth y lleoedd; onid ê, nyni a ddeuwn, ac ‖ 1.1462 a ymladdwn yn eich erbyn chwi.
32 Felly y daeth Athenobius, caredig y brenin, i Ierusalem, ac efe a welodd ogo∣niant Simon, a'r cwp-bwrdd, a'r lles∣tri arian, ac arlwy mawr, a rhyfedd fu ganddo: ac efe a fynegodd iddo eiriau y brenin.
33 Yna Simon a attebodd, ac a ddywe∣dodd wrtho ef, ni chymerasom ni dir neb arall, ac nid attaliasom yr eiddo arall, ond etifeddiaeth ein henafiaid: yr hon a fu tros ennyd o amser ym meddiant ein gelynion yn anghyfiawn.
34 A phan gawsom ni amser, ni a fynna∣som drachefn etifeddiaeth ein tadau.
35 Ac am Ioppe a Gazara, y rhai yr wyt ti yn eu ceisio, er iddynt wneuthur niwed mawr i'n pobl ni, ac i'n gwlad: etto ni a ro∣ddwn am y rhai hynny gan talent: ac nid attebodd ‖ 1.1463 yntef air ‖ 1.1464 iddo.
36 Eithr efe a ddychwelodd at y brenin yn ddigllon, ac a fynegodd iddo y geiriau hyn, ac anrhydedd Simon, a'r hyn a wel∣sei efe oll: a'r brenin a ddigiodd yn ddirfawr.
37 Yna yr aeth Tryphon i long, ac a ffôdd i Orthosias.
38 A'r brenin a osododd Cendebeus yn gapten ar lan y môr, ac a roddes iddo ef lu∣oedd o wŷr traed, ac o wŷr meirch.
39 Ac efe a orchymynnodd iddo ef werssy∣llu o flaen Iudæa, ac a archodd iddo adei∣ladu
Page [unnumbered]
Cedron, a chadarnhau y pyrth, a rhy∣fela yn erbyn y bobl, a'r brenin yntef a ymli∣diodd Tryphon.
40 Yna y daeth Cendebeus i Iamnia, aî efe a ddechreuodd gyffroi y bobl, a gosod ar Iudæa, a chaeth-gludo y bobl, a'i lladd.
41 Ac wedi iddo adeiladu Cedron, efe a osododd yno wŷr meirch, a llu [o wŷr traed,] fel y gallent fyned allan oddi-yno, a rhodio rhyd ffyrdd Iudæa, fel y gorchymynnasei y brenin iddo ef.
PEN. XVI.
1 Iudas ac Ioan yn cael y maes ar luoedd Antio∣chus. 11 Capten Iericho yn gwahodd Si∣mon a dau o'i feibion iw gastell, ac yno yn eu lladd hwy trwy frád. 19 Ceisio gafael ar Ioan, 22 ac yntau yn diangc, ac yn lladd y rhai oedd yn ei gesio.
AC Ioan a aeth i fynu o Gaza∣ra, ac a fynegodd i Simon ei dad yr hyn a wnaethei Cen∣debeus.
2 A Simon a alwodd ei ddau fab hynaf Iudas ac Ioan, ac a ddy∣wedodd wrthynt hwy: myfi a'm brodyr a thŷ fy nhad a ryfelasom yn erbyn gelynion Israel o'n ieuengtid hyd heddyw, ac fe a ffynnodd gennym ni waredu Israel lawer gwaith.
3 Ond yr awron mi a heneiddiais, a chwi∣thau trwy drugaredd [Dduw] ydych yn ddigon oedrannus: byddwch chwi yn fy lle i a'm brawd, ac ewch allan, a rhyfelwch tros ein cenedl ni, a'r cymmorth o'r nef a fyddo gyd â chwi.
4 Ac efe a etholodd o'r wlad vgein-mil o ryfel-wŷr, a gwŷr meirch: a hwy a aethant yn erbyn Cendebeus, ac a gyscasant ym Modin.
5 A hwy a godasant yn foreu, ac a aethant i'r maes, ac wele lu mawr yn dyfod yn eu herbyn hwynt ar draed, ac ar feirch: ac yr oedd aber ddwfr yn y canol rhyngddynt.
6 Ac efe a werssyllodd o'i blaen hwynt, efe a'i bobl, a phan welodd efe y bobl yn ofni myned trwy 'r aber ddwfr, efe a aeth trwodd yn gyntaf, a'r gwŷr a'i gwelsant ef, a hwy∣thau a aethant ar ei ôl ef.
7 Yna y rhannodd efe y bobl, a'r gwŷr meirch [a rodd wyd] ynghanol y gwŷr traed, oblegit gwŷr meirch y gelynion oedd lawer, iawn.
8 Yna y canasant â'r vdcyrn sanctaidd; ac ar hynny y ffôdd Cendebeus a'i lu, a lla∣wer o honynt a syrthiasant yn archolledig, a'r lleill a ffoesant i'r castell.
9 Yna y clwyfwyd Iudas brawd Ioan; eithr Ioan a'i hymlidiodd hwynt hyd oni ddaeth efe i Cedron, yr hon a adeiladasei [Cendebeus.]
10 ‖ 1.1465 A hwy a ffoesant hyd y tyrau sydd ym maes Azotus, ac yntef a'i lloscodd hi â thàn, ac fe syrthiodd o honynt hwy gym∣maint a dwy-fil o wŷr, ac efe a ddychwelodd i dir Iudæa yn heddychlon.
11 Ac yr oedd Ptolomeus mab Abubus wedi ei osod yn gapten ym maes Iericho, ac yr oedd ganddo ef arian ac aur lawer.
12 O blegit ‖ 1.1466 daw yr Arch-offeiriad oedd efe.
13 A'i galon a'i cododd ef, ac efe a chwen∣nychodd feddiannu y wlâd, ac a fwriadodd trwy dwyll yn erbyn Simon a'i feibion, iw difetha hwynt.
14 Ac yr oedd Simon yn rhodio trwy ddinasoedd y wlad, ac yn ofalus am eu lly∣wodraeth hwynt, ac efe a aeth i wared i Iericho, efe, a Mattathias, a Iudas ei fei∣bion, yn yr ail flwyddyn ar bymtheg a thrugain a chant, yn yr vnfed mîs a'r ddeg, hwnyw 'r mîs Sabat.
15 A mab Abubus a'i derbyniodd hwynt trwy dwyll i gastell a elwid Docus, yr hwn a adeiladasei efe, ac efe a wnaeth iddynt wledd fawr, ac a guddiodd yno wŷr.
16 Ac wedi yfed o Simon a'i feibion yn dda, y cododd Ptolomeus a'r rhai oedd gyd ag ef; a hwy a gymmerasant eu har∣fau, ac a ruthrasant i Simon yn y wledd, ac a'i lladdasant ef a'i ddau fab, a rhai o'i weision.
17 Felly y gwnaeth efe scelerder mawr, ac y talodd ddrwg am dda.
18 A Ptolomeus a scrifennodd hyn, ac a anfonodd at y brenin i anfon atto ef lu yn gymmorth, ac efe a roddei iddo ef y wlad a'r dinasoedd.
19 Ac efe a yrrodd eraill i Gazara i ddise∣tha Ioan, ac a anfonodd lythyrau at y ‖ 1.1467 mil∣wriaid, [i erchi] iddynt ddyfod atto ef, fel y rhoddei efe iddynt arian, ac aur, a rho∣ddion.
20 Ac efe a yrrodd eraill i ennill Ierusa∣lem, a mynydd y Deml.
21 Ac vn a redodd o'r blaen, ac a fyne∣godd i Ioan yn Gazara ddarfod llâdd ei dad ef, a'i frodyr: ac efe a anfonodd i'th ladd ditheu [eb efe.]
22 Yntef pan glybu a ofnodd yn ddirfawr, ac a ddaliodd y gwŷr a ddaethei iw ladd ef, ac a'i lladdodd hwynt: oblegit efe a wybu eu bod hwy, yn ceisio ei ddifetha ef.
23 A'r rhan arall o hanes Ioan, a'i ry∣feloedd, a'i wrolaeth, yr hyn a wnaeth efe, ac adeiladaeth y caerau a adeiladodd efe, a'i weithredoedd;
24 Wele fe a scrifennwyd hyn yn lly∣frau Cronicl ei Arch-offeiriadaeth ef, er pan wnaethpwyd ef yn Arch-offeiriad ar ôl ei dâd.
Page [unnumbered]
❧ AIL LLYFR Y MACCABÆAID.
PEN. I.
1 Llythyr oddiwrth yr Iuddewon oedd yn Ie∣rusalem, at y rhai oedd yn yr Aipht, i ddiolch i Dduw am farwolaeth Antiochus. 19 Y tân a guddiasid yn y pydew. 24 Gweddi Nehemias.
Y Mae y brodyr yr Iddewon sydd yn Ierusalem ac yngwlâd Iudæa yn dymuno i'r brodyr o Idde∣won sydd yn yr Aipht, iechyd a heddwch.
2 Duw a wnelo ddaioni i chwi, ac a gofio ei gyfammod a wnaeth efe ag Abraham, ag Isaac, ac ag Iacob, ei ffyddlon wei∣sion,
3 Ac a roddo galon i chwi oll iw wasa∣naethu ef, ac i wneuthur ei ewyllys ef â chalon gyssurus, ac â meddwl ewyllys∣gar,
4 Ac a agoro eich calon chwi yn ei Gy∣fraith a'i orchymynion, ac a drefno i chwi dangnheddyf,
5 A wrandawo ar eich gweddiau chwi, a gymmodo à chwi, ac ni'ch gadawo byth yn amser adfyd.
6 Ac yn awr yr ydym ni yn gweddio ym∣ma trosoch chwi.
7 Pan oedd Demetrius yn teyrnasu yn y nawfed flwyddyn a thrugain a chant, nyni yr Iddewon a scrifennasom attoch chwi yn y blinder a'r gorthrymder a ddaeth arnom ni o fewn y blynyddoedd hynny, er pan aeth Iason a'r rhai oedd gyd ag ef allan o'r wlâd sanctaidd, a'r frenhi∣niaeth;
8 Ac y lloscasant y porth, ac y tywall∣tasant waed gwirion: ninnau a weddia∣som at yr Arglwydd, ac a gawsom ein gwrando, ac a offrymmasom ebyrth a phei∣llied, ac a oleuasom lusernau, ac a osoda∣som y bara allan.
9 Am hynny yn awr edrychwch ar∣gadw dyddiau gŵyl y * 1.1468 pebyll yn y mîs Casleu.
10 Yr wythfed flwyddyn a phedwar vgain a chant, y bobl oedd yn Ierusalem, ac yn Iudæa, a'r cyngor, a Iudas, sydd yn dy∣muno llwyddiant, ac iechyd i Aristobulus, athro y brenin Ptolomeus, yr hwn sydd o hiliogaeth yr offeiriaid enneiniog, ac i'r Iddewon yn yr Aipht.
11 Yn gymmeint a bôd i Dduw ein gwa∣redu ni oddi wrth fawr beryglon, yr ydym yn rhoddimawr ddiolch iddo, megis pe bua∣sem yn rhyfela yn erbyn brenin.
12 Canys efe a'i bwriodd hwynt allan, y rhai a ymladdasant yn erbyn y ddinas sanc∣taidd.
13 Canys pan ddaethai y capten i Persia â llu a dybid yn anorchfygol gydag ef, fe a'i lladdwyd hwy yn nheml Nanea, drwy ddi∣chell offeiriaid Nanea.
14 Canys Antiochus a ddaeth yno megis iw phriodi, efe a'i geraint gyd ag ef, i dder∣byn arian yn enw cynhyscaeth.
15 Ond wedi i offeiriad Nanea eu rhifo, a myned o honaw i mewn i'r Deml heb ne∣mor gyd ag ef, hwy a gaeasant y Deml, we∣di dyfod Antiochus i mewn.
16 Ac a agorasant ddrws dirgel ar nen y Deml, ac a daflasant gerrig megis saethu mellt, ac a darawsant i lawr y capten a'i wŷr, ac wedi eu dryllio yn ddarnau, hwy a dorrasant eu pennau, ac a'i taflasant at y rhai oedd oddi allan.
17 Bendigedig fyddo ein Duw ni ym mhob peth, yr hwn a roddes i fynu yr annuwiol:
18 Gan ein bod ni a'n brŷd ar gadw pure∣digaeth * 1.1469 y Deml ar y pummed dydd ar hu∣gain o fîs Casleu, ni a welsom fôd yn ang∣henrheidiol fynegi hyn i chwi: fel y gallech chwithau hefyd ei gadw fel dydd gŵyl y pe∣byll, a gŵyl y tân, [yr hwn a roddwyd i ni] pan offrymmodd Nehemias aberth, wedi iddo adeiladu y Deml a'r allor.
19 Canys yn y cyfamser yr arweiniwyd ein tadau i Persia, yr offeiriaid addol-wŷr Duw y pryd hynny, a gymmerasant y tâu yn ddirgel oddi ar yr allor, ac a'i cuddiasant mewn dyffryn, lle yr oedd pydew dwfn a sych: ac yno y cadwasant ef, fel nas gŵyddei neb y man hwnnw.
20 Yn awr wedi llawer o flynyddoedd, pan welodd Duw yn dda, Nehemias (pan yrrwyd ef oddi wrth frenin Persia) a yrrodd rai o heppil yr offeiriaid a'i cuddiasei ef, at y tân: Ond pan fynegasant wrthym na chawsant ddim tân ond dwfr tew,
21 Yna y gorchymynnodd efe iddynt
Page [unnumbered]
ei gyrchu i fynu, a'i ddwyn ef: ac wedi go∣sod yr aberthau, Nehemias a orchymyn∣nodd i'r offeiriaid daenellu y dwfr ar y coed a'r pethau oedd arnynt.
22 Wedi darfod hyn, a dyfod yr amser i'r haul i lewyrchu, yr hwn o'r blaen oedd dan gwmwl, fe enynnodd tân mawr, fel y rhy∣feddodd pawb.
23 A thra oedd yr aberth yn darfod, yr holl offeiriaid oedd yn gweddio. Iona∣than yn gyntaf, a'r lleill yn atteb fel Nehe∣mias.
24 A'r weddi oedd fel hyn, Oh Arglwydd Dduw gwneuthurwr pob pêth, yr hwn wyt ofnadwy a chadarn, cyfiawn, a thru∣garog, a'r vnig, a'r grasol Frenin.
25 Ti yn vnic wyt hael, vniawn, holl∣alluog, a thragywyddol, ti yr hwn wyt yn gwaredu Israel o'i holl flinder, yr hwn a etholaist y tadau, ac a'i sancteiddiaist hwy,
26 Derbyn aberth dros dy holl bobl Is∣rael, cadw dy ran, a sancteiddia hi.
27 Cascl ynghyd y rhai a wascarwyd oddiwrthym ni, a gwaret y rhai sydd yn gwasanaethu y Cenhedloedd: edrych ar y dirmygus a'r ffiaidd, a gâd i'r cenhedloedd ŵybod mai tydi yw ein Duw ni.
28 Cospa ein gorthrym-wŷr, a'r rhai sydd drwy falchedd yn gwneuthur cam â ni.
29 Gosot dy bobl eilwaith yn dy le sanc∣taidd, * 1.1470 megis y llefarodd Moses.
30 Yr offeiriaid hefyd a ganent psalmau diolch.
31 Hefyd wedi yssu 'r aberth, Nehemias a orchymynnodd dywallt y dwfr oedd yng∣weddill ar y cerrig mawrion.
32 Yr hwn beth pan wnaethpwyd, fe a ennynnodd fflam: ond hi a ddiffoddwyd gan y goleuni oedd yn llewyrchu oddi ar yr allor.
33 Pan wybuwyd y peth hyn, fe fyne∣gwyd i frenin Persia, mai yn y fan lle y cu∣ddiasei'r offeiriad a arweiniesid ymmaith, y tân, yr ymddangosodd dwfr, â'r hwn y pu∣rodd Nehemias, a'r rhai oedd gyd ag ef, yr ebyrth.
34 Y brenin a chwiliodd y peth yn ddy∣fal, ac a amgylchynodd y lle o'i amgylch, ac a'i gwnaeth yn sanctaidd.
35 A'r brenin a gymmerth roddion lawer, ac a roddes o honynt i'r rhai yr oedd efe yn chwennych gwneuthur cymwynas idd∣ynt.
36 A Nehemias a alwodd y peth hwn∣nw Naphthar, yr hwn yw o'i ddeongl pu∣redigaeth, ond llawer rhai a'i galwant Nephi.
PEN. II.
1 Pa beth a wnaeth y Prophwyd Ieremi. 5 Y modd y cuddiodd efe y Babell, a'r Arch, a'r Allor. 13 Pa beth a scrifennodd Iudas a Nehe∣mias. 20 Pa beth a scrifennodd Iason mewn pum llyfr, 25 a'r modd y talfyrrwyd y rhai hynny gan awdur y llyfr hwn.
EF a geir hefyd yn yr scrifenna∣dau erchi o Ieremias y Pro∣phwyd, i'r rhai a arweiniwyd ymmaith, gymmeryd y tân, megis y mynegwyd.
2 Ac fel y gorchymynnasei y prophwyd i'r rhai a arweiniwyd ymmaith, gan roddi idd∣ynt gyfraith, nas gollyngent dros gof or∣chymynion yr Arglwydd, ac na chyfeilior∣nent yn eu meddyliau pan welent ddelwau o aur ac arian, a'i gwiscoedd.
3 Cyfryw bethau eraill a lefarodd wr∣thynt, gan eu cynghori na adawent i'r Gy∣fraith fyned allan o'i calonnau.
4 Yr oedd hefyd yn yr vn scrifen, fel y dar∣fu i'r Prophwyd, drwy atteb Duw wrtho, orchymyn dwyn y babell a'r Arch gyd ag ef, hyd oni ddaeth i'r mynydd yr escynnodd Moses iddo, lle y gwelodd efe etifeddiaeth Duw.
5 Ac wedi dyfod Ieremias yno, efe a ga∣fodd ogof, yn yr hon y gosodes efe y babell, a'r arch, ac allor y poeth offrwm, ac a gaeodd y drws.
6 A rhai a ddaethant i farcio 'r ffordd, o'r rhai a'i dilynent ef, ond nis medrent ei chael.
7 Pan wybu Ieremias hynny, efe a'i cery∣ddodd hwy gan ddywedyd, ni chaiff neb wy∣bod y lle, hyd oni chasclo Duw ei bobl, drachefn, a bod trugaredd.
8 Yna y dengys yr Arglwydd iddynt y pe∣thau hyn, a gogoniant yr Arglwydd a ym∣ddengys, a'r cwmwl hefyd, megis ac y dat∣cuddiwyd i Moses, ac fel y deisyfiodd Solo∣mon, bod sancteiddio 'r lle yn anrhydeddus.
9 Canys eglur yw, ddarfod iddo megis vn a chanddo ddoethineb, offrymmu aberth cyssegriad, a sancteiddiad y Deml.
10 Ac megis, pan weddiodd Moses ar yr Arglwydd, y daeth tân i lawr o'r nefoedd, ac yr yssodd yr aberth, felly Solomon a weddi∣odd, a thân a ddaeth i lawr o'r nefoedd, ac a yssodd y poeth offrwm.
11 A Moses a ddywedodd, am na ddylid bwyta yr offrwm tros bechod, am hynny yr ysswyd ef.
12 Ac felly Solomon a gadwodd yr wyth niwrnod hynny.
13 Y pethau hyn hefyd a fynegir yn scri∣fennadau, ac ynghof-lythyrau Nehemias, fel y gwnaeth efe lyfr-dŷ, ac y casclodd actau y brenhinoedd a'r Prophwydi, actau Da∣fydd, ac Epistolau y brenhinoedd am y rho∣ddion sanctaidd.
14 Yn yr vn ffunyd Iudas a gasclodd ynghyd yr holl bethau a gollesid o achos y rhyfel a ddigwyddodd arnom, ac y mae [hynny] gennym ni.
15 Am hynny os bydd rhaid i chwi wrth∣ynt, danfonwch rai a'i dycco i chwi.
16 Canys o herwydd ein bôd ni a'n brŷd ar gadw y puredigaeth, ni a scrifennasom attoch: am hynny, da y gwnewch chwi∣thau os cedwch yr vn dyddiau.
17 Duw, yr hwn a waredodd ei holl bobl, ac a roddes etifeddiaeth i bawb, a theyrnas, ac offeiriadaeth, a sancteiddrwydd.
Page [unnumbered]
18 Megis yr addawodd efe yn y Gy∣fraith, yr ydym yn gobeithio y trugarhâ wrthym ar fyrder, ac y cascl ni ynghŷd o bob gwlad oddi tan y nefoedd, iw le sanctaidd: canys efe a'n gwaredodd ni oddi wrth fawr beryglon, ac a lanhaodd y lle.
19 Am Iudas Maccabêus a'i frodyr, am buredigaeth y Deml fawr, a chyssegriad yr allor.
20 A'r rhyfeloedd yn erbyn Antiochus Epiphanes, a'i fâb Eupator,
21 A'r eglur arwyddion a ddaethant o'r nefoedd i'r rhai a ymddygasant yn ŵrol iw hanrhydedd ynghweryl crefydd yr Idde∣won: canys er nad oeddynt ond ychydig, etto hwy a orchfygasant yr holl wlâd, ac a yrrasant i ffoi dyrfau y barbariaid,
22 Ac a adeiladasant drachefn y Deml, am yr hon yr oedd mawr sôn drwy yr holl fŷd, ac a waredasant y ddinas, ac a siccrha∣sant y cyfreithiau yr oeddid ar eu dirymmu, o herwydd bod yr Arglwydd yn drugarog, ac yn rasawl iawn wrthynt.
23 Y pethau hefyd a fynegodd Iason Cyrenaeus mewn pûm llyfr, ni a brofwn eu tal-fyrru mewn vn llyfr.
24 Canys wrth ystyried anfeidrol rifedi [y llyfrau], a'r dyryswch y maent hwy yn ei gael sydd yn chwennych myned trwy draethawd yr histori, o herwydd amled y matterion;
25 Nyni a gymmerasom ofal ar gael o'r rhai a ewyllysient ddarllen ddiddanwch, a bod esmwythdra i'r rhai a chwennychent gofio, ac i bawb a'i darllennent gael budd.
26 Am hynny i ni, y rhai a gymerasom arnom y drafael flin hon i dalfyrru, nid esmwythdra oedd, ond gwaith a wnaeth i ni chwysu, a gwilio.
27 Fel nad ydyw esmwyth i'r hwn a wnelo wledd, ac a geisio fudd rhai eraill, felly ninnau, er mwyn gwneuthur cymwy∣nas i lawer, a gymmerwn y blinder hyn yn ewyllysgar.
28 Gan adel bod yn fanwl am bob peth i'r awdur, nyni a geisiwn grynhoi y cwbl ar fyr eiriau.
29 Canys fel y mae yn rhaid i'r neb a wnelo dŷ newydd ofalu am yr holl adeila∣daeth: ond y nêb a gymmero arno ei osod allan, a'i baentio, nid rhaid iddo geisio dim, ond a fyddo anghenrheidiol iw harddu: felly yr ydwyf fi yn meddwl o'n rhan nin∣nau,
30 Mai perthynasol yw i scrifen-wr cyn∣taf yr histori fyned ynddi yn ddyfn i sôn am bôb peth, gan fôd yn ddiesceulus ym mhob rhan.
31 Ond y mae yn rhydd i'r neb a'i tal∣fyrro, arfer ychydig eiriau, ac ymadel â phôb manylwch ynddi.
32 Ymma am hynny y dechreuwn ein traeth awd, am y rhagymadrodd digon yw a ddywedasom ni, canys ffolineb yw arfer hîr ymadrodd o flaen yr histori, a bôd yn fyrr yn yr histori.
PEN. III.
1 Yr anrhydedd a wnaeth brenhinoedd y Cen∣hedloedd i'r Deml. 4 Simon yn mynegi pa dryssorau oedd yn y Deml. 7 Danfon He∣liodorus iw dwyn hwy ymaith; 24 a Duw yn ei daraw ef; a'i iachâu ef wrth weddi Onias.
Y Cyfamser yr oeddid yn presswy∣lio y ddinas sanctaidd mewn heddwch, ac yn cadw 'r cyfrei∣thiau yn dda iawn, o blegit duwioldeb Onias yr Arch∣offeiriad, ac o herwydd ei fod yn casau pôb drygioni:
2 Digwyddodd i'r brenhinoedd a'r ty∣wysogion farnu 'r lle yn anrhydeddus, ac anrhegu 'r Deml â'i rhoddion goreu.
3 Yn gymmeint ac i Seleucus brenin Asia, dalu o'i ardrethion, yr holl draul a ber∣thynei i weinidogaeth yr ebyrth.
4 Ond vn [a elwid] Simon o lwyth Ben∣iamin, yr hwn a wnaethid yn orchwyliwr ar y Deml, a ymrafaeliodd â'r Arch-offei∣riad, i wneuthur diffeithwch yn y ddinas.
5 Ond pryd na's gallei orchfygu Onias, efe a aeth at Apolonius fâb Thraseas, yr hwn oedd yr amser hwnnw yn llywodraeth∣wr ar Coelosyria a Phenicia,
6 Ac a fynegodd iddo fôd tryssor-dŷ Ieru∣salem yn llawn o arian annifeiriol, fel yr oedd lluosowgrwydd eu cyfoeth yn aneirif, y rhai ni pherthynent i wenidogaeth yr ebyrth, a bod yn bossibl dwyn y cwbl i ddwylo 'r brenin.
7 Wedi ymgyfarfod o Apolonius a'r bre∣nin, efe a fynegodd iddo am yr arian a ddan∣gosasid iddo: yntef a etholodd Heliodorus golygwr ei dryssordŷ, ac a'i danfonodd â gor∣chymmyn ganddo, i gyrchu 'r arian y dy∣wedwyd am danynt o'r blaen.
8 Am hynny Heliodorus yn y man a gychwynnodd iw daith, yn rhith myned i ymweled â dinasoedd Coelosyria a Phenicia, ond â'i feddwl ar gyflawni arfaeth y brenin.
9 Yn ôl dyfod o honaw i Ierusalem, a'i dderbyn yn groesawus gan Archoffeiriad y ddinas, efe a draethodd [iddynt] beth a ddan∣gosasid iddo [am yr arian,] ac a fynegodd pa ham y daethei efe yno, ac efe a ofynnodd a oedd y pethau hyn yn wîr.
10 Yna yr Arch-offeiriad a ddangosodd iddo fod yno y cyfryw arian wedi ei rhoi i gadw i ymgeleddu y gweddwon a'r amddifaid,
11 A rhai yn eiddo Hyrcanus mab To∣bias, gwr ardderchog iawn, ac nid fel y cam∣ddywedasei Simon, y [dyn] annuwiol hwnnw, a bôd y cwbl yn bedwar can talent o arian, a dau cant o aur.
12 Ac nad ydoedd bossibl gwneuthur y fath gam â'r rhai a ymddiriedasent i sanct∣eiddrwydd y man hwnnw, ac i fawredd a difrycheulyd grefydd y Deml, yr hon oedd anrhydeddus drwy 'r holl fŷd.
13 Ond Heliodorus, o herwydd gorchy∣mynion y brenin, y rhai oedd ganddo, a ddy∣wedodd yn hollawl y byddei raid dwyn yr arian i dryssor-dŷ 'r brenin.
Page [unnumbered]
14 Ac wedi gosod dydd, efe a aeth i mewn ar fedr yn ôl eu gweled, gymmeryd trefn am danynt: am hynny nid bychan oedd y caledi yn yr holl ddinas.
15 A'r Offeiriaid a syrthiasant i lawr gar bron yr allor yn eu gwiscoedd sanctaidd, ac a alwasant tu a'r nef ar [Dduw,] yr hwn a roesei Gyfraith am y tryssor sanctaidd, ar iddo ei gadw yn gyfan i'r rhai a'i rhodda∣sei yno iw gadw.
16 A'r nêb a edrychei ar wynebpryd yr Arch-offeiriad a ddoluriei yn ei galon: ca∣nys ei wynebpryd, a newidiad ei liw, oedd yn dangos cyfyngder ei galon.
17 Canys rhyw ofn a dychryn corph a amgylchodd y gŵr hwnnw, fel y byddei eglur i'r rhai a edrychent arno, y dolur oedd yn ei galon ef.
18 Rhai eraill hefyd a gyrchasant allan o'i tai, i wneuthur gweddi gyffredin, o her∣wydd bôd y lle yn debyg i ddyfod i ddir∣myg.
19 Y gwragedd hefyd wedi ymwregysu â lliein sach dan ei bronnau, a lanwent yr ystrydoedd; a'r gweryfon, y rhai a gauesid i mewn, a redent rhai i'r pyrth, a rhai i'r caerau, a rhai eraill a edrychent allan drwy 'r ffenestri.
20 A phawb o honynt yn codi eu dwylo tua 'r nef, ac yn gweddio.
21 Galarus oedd gweled nifer y rhai a syrthient i lawr ô bob mâth: a disgwiliad yr Arch-offeiriad yn ei fawr ofid.
22 Am hynny y rhai hyn a alwasant ar yr holl-alluog Arglwydd, ar iddo gadw yn ddiogel ac yn siccr y pethau a roddasid iw cadw mewn ymddiried, i'r rhai a'i rho∣ddasent iw cadw.
23 Er hynny Heliodorus a gyflawnodd y peth a arfaethasei efe:
24 Eithr fel yr oedd efe ei hûn etto yn bresennol gyd â'i sawdwyr wrth y tryssor-dŷ, efe 'r hwn yw Arglwydd yr ysprydion, a thywysog pôb gallu, a wnaeth ryfeddod mawr, yn gymmeint ac i bawb a feiddient ddyfod gyd ag ef, ryfeddu [wrth weled] nerth rhinwedd Duw, a hwy a lesmeiriasant, ac a ddychrynasant yn ddirfawr.
25 Canys ymddangosodd iddynt ryw farch mewn gwisc hardd o'r oreu, ac arno farchog ofnadwy, ac a redodd yn egniol, ac a darawodd Heliodorus â'i garnau blaen, a'r hwn oedd yn eistedd arno a dybid fod ganddo arfau ô aur.
26 Hefyd fe a ymddangosodd ger ei fron ef ddau wr ieuaingc eraill, nodedig o nerth, rhagorawl o brŷd, a hardd eu dillad, yn sefyll yn ei ymyl ef o bôb tu iddo, ac a'i ffrewylla∣sant ef yn wastad, ac a roesant iddo lawer gwialennod tôst.
27 Am hynny pan syrthiodd efe i lawr yn ddisymmwth, ac wedi ei amgylchu â thy∣wyllwch mawr, ei [wŷr] a'i cippiasant ef, ac a'i gosodasant mewn elor feirch.
28 Ef, yr hwn a ddaethei ychydig o'r blaen i mewn i'r tryssordŷ a thyrfa fawr, ac a'i hôll gard gyd ag ef, ef meddaf, yr hwn ni allei gael dim cymmorth gan ei arfau, a ddygasant hwy allan: a hwy a gydnabu∣ant allu Duw yn eglur.
29 Canys yr oedd efe yn fud drwy waith Duw, ac yn gorwedd wedi ei ddiddymmu o'i holl obaith am ei iechyd.
30 Hwythau a foliannasant yr Argl∣wydd, yr hwn yn rhyfeddol a ogoneddasei ei le ei hunan: oblegid y Deml honno, yr hon oedd ychydig o'r blaen yn llawn o ofn a therfysc, pan ymddangosodd yr holl∣alluog Arglwydd a lanwyd â llawenydd, ac â gorfoledd.
31 Ond yn y man rhai o gyfnesaf Helio∣dorus a attolygasant i Onias weddio ar y Goruchaf, ar iddo ganhiadu yn rasusol eni∣oes iddo ef, yr hwn oedd yn gorwedd yn agos i farw.
32 Yna yr Arch-offeiriad, yn ofni rhag i'r brenin dybied i'r Iddewon wneuthur rhyw ddrwg i Heliodorus, a offrymmodd tros iechyd y gŵr hwnnw.
33 Fel yr oedd yr Arch-offeiriad yn gweddio ar Dduw, yr vnrhyw wyr ieuaingc yn yr vnrhyw ddillad a ymddangosasant tra∣chefn i Heliodorus, a chan sefyll a ddywe∣dasant, dyro fawr ddiolch i Onias yr Arch∣offeiriad: canys er ei fwyn ef yn rasusol y canhiadodd yr Arglwydd i ti dy enioes.
34 Titheu hefyd wedi dy guro o'r nef∣oedd, mynega i bawb alluoccaf nerth Duw: ac yn ôl dywedyd hyn, hwy a ddifanna∣sant.
35 Heliodorus hefyd (wedi iddo offrymmu aberth i'r Arglwydd, a gwneuthur mawr addunedau i'r hwn a ganhiadasei iddo ei hoedl, ac wedi iddo gyfarch Onias) a ddy∣chwelodd, efe a'i lu at y brenin.
36 Gan dystiolaethu i bawb weithred∣oedd mawrion Duw, y thai a welsei efe â'i lygaid.
37 Hefyd pan ofynnodd y brenin i He∣liodorus pwy oedd gymhesur iw ddanfon vnwaith drachefn i Ierusalem, efe a ddy∣wedodd,
38 Od oes gennit vn gelyn, neu vn brad∣wr, danfon hwn yno, a thi â'i derbynni wedi ei ffrewyllu, os diangc rhag colli ei hoedl, oblegit yn y man hwnnw y mae yn ddiammeu enwedig allu Duw.
39 Canys yr hwn sydd ganddo bresswyl∣fa nefol, sydd yn olygwr ac yn gynnorthwy∣wr i'r lle hwnnw, yr hwn sydd yn curo ac yn difetha y sawl sydd yn dyfod i wneu∣thur niwed iddo.
40 Hyn a fu am Heliodorus, a chadwe∣digaeth y drysorfa.
PEN. IIII.
1 Simon yn rhoi enllib i Onias. 7 Iason trwy lygru 'r Brenin yn cael mynd yn Archoffei∣riad: 24 A Menelaus trwy 'r vnrhyw foddi∣on yn cael y swydd oddiar Iason. 34 An∣dronicus trwy frâd yn lladd Onias: 36 A'r Brenin wedi clywed hynny yn peri lladd Andronicus. 39 Annuwioldeb Lysimachus, trwy annog Menelaus.
Page [unnumbered]
Y Simon hwnnw hefyd, am yr hwn y dywedasom o'r blaen, yr hwn oedd fradych∣wr yr arian a'i wlâd, a ddy∣wedodd yn ddrwg am Onias, megis pe cymmellasei efe Heliodorous, a phe buasei yn awdur o'r drygau hyn.
2 Ac efe a feiddiodd alw y gŵr a haedda∣sei yn dda ar y ddinas, ac oedd ofalus am ei wlad wyr, a gŵr mawr ei zel am y cyfrei∣thiau, yn fradych-wr.
3 Pan gynnyddodd y galanastra y gym∣maint a lladd o vn o'r rhai oedd gymmerad∣wy gan Simon, gelanedd,
4 Onias gan ystyrio enbydrwydd y gyn∣nen hon, a bod Apolonius llywodraethwr Coelosyria a Phaenice yn ynfydu, ac yn chwanegu malis Simon:
5 Efe a aeth at y brenin, nid i gyhuddo gwŷr ei wlâd, ond fel vn yn ceisio llês i bawb yn gyffredinol, ac yn nailltuol.
6 Canys efe a welodd fôd yn amhossibl cael heddwch, oddieithr i'r brenin gymme∣ryd trefn yn y materion hyn, ac nad oedd debyg y peidiei Simon â'i ynfydr∣wydd.
7 Ond wedi marw Seleucus, a chym∣meryd o Antiochus, a gyfenwid Epipha∣nes, y frenhiniaeth, Iason brawd Onias a weithiodd yn ddirgel i geisio bod yn Arch∣offeiriad;
8 Gan addo i'r brenin er cael y swydd, drychant a thrugain talent o arian, ac o ryw ardreth arall bedwar vgain talent.
9 Am ben hyn, efe a addawodd dalu dêc a deugain a chant eraill, os canhiadid iddo drwy ei awdurdod ef, osod campfa, ac yscol i'r gwŷr ieuaingc, ac i gyfrif y rhai o Ie∣rusalem yn Antiochiaid.
10 A phan gafodd efe yr Archoffeiriadaeth drwy fodd y brenin, yn y man efe a dde∣nodd ei genedl ei hun i arferion y Groeg∣wŷr,
11 Ac a fwriodd i lawr garedigol ragor∣fraint yr Iddewon, a gawsent hwy drwy Ioan tâd Eupolemus, (yr hwn a fuasei yn gennadwr at y Rhufeinieid, i ddymuno cy∣feillach a chymorth) a chan fwrw i lawr y llywodraeth oedd wrth y gyfraith, efe a wnaeth newydd ordeiniadau anghyfreith∣lawn.
12 Canys efe a adeiladodd gampfa o'i wirfodd dan y castell, ac a ddarostyngodd y rhai pennaf o'r gwŷr ieuaingc, ac a barodd iddynt wisco hettiau.
13 Ac fel hyn y tyfodd serch i ganlyn ar∣ferau y Cenhedloedd, ac estroniaid, drwy ragorol aflendid Iason, nid yr Arch-offeiri∣ad, ond y dyn annuwiol:
14 Yn gymmeint ac nad oedd yr offeiri∣aid mwyach yn ewyllysgar i wasanaethu yr allor: ond gan ddirmygu y Deml, ac esceu∣luso yr ebyrth, yr oeddynt yn prysuro i fod yn gyfrannog o ddogn annuwiol eu cam∣pau, yn ôl taflu 'r garreg:
15 Ac heb ganddynt bris am anrhy∣dedd ei tadau, gan gyfrif gogoniant y Groeg-wŷr yn oreu.
16 O achos yr hyn bethau y daeth ar∣nynt adfyd mawr, tra caffent hwy yn ely∣mon ac yn ddialwyr iddynt, arferau y rhai yr oeddynt yn eu canlyn, ac yn dymuno eu bôd yn gyffelyb iddynt ym mhôb peth.
17 Canys nid esmwyth yw gwneuthur yn erbyn cyfraith Dduw, ond yr amser a ddaw a ddengys hyn.
18 Pan chwareid yn Tyrus y campau a arferid bôb pum mhlynedd, a'r brenin yn bresennol,
19 Iason y dŷn sceler hwnnw a ddanfo∣nei gennadau o Ierusalem yn rhith Antio∣chiaid, i ddwyn trychan dryll o arian tu ag at aberth Hercules, y rhai a ddeisy∣fiei y nêb oedd yn eu dwyn, na threulid ynghylch yr aberth, oblegid nad gwedd∣aidd oedd, ond eu harbed i anghenrhaid arall.
20 Efe a ddanfonodd y pethau hyn tu ag at aberth Hercules: ond er mwyn y neb a'i dygent, hwy a roddwyd tu ag at wneu∣thur llongau.
21 Wedi danfon Apolonius mâb Mana∣steus i'r Aipht, i goronedigaeth brenin Pto∣lomeus Philometor, a pan ddeallodd An∣tiochus ei fod efe yn anffyddlon yn ei fatte∣rion ef, efe a fu ofalus am ei ddiogelwch ei hun, am hynny efe a ddaeth i Ioppe, ac oddi yno efe a aeth i Ierusalem.
22 Lle y croesawyd ef yn fawr gan Ia∣son a'r ddinas, ac y dygpwyd ef i mewn â ffaglau ac â llefain; ac yn ôl hyn efe a ar∣weiniodd ei lu i Phenice.
23 Hefyd yn ôl tair blynedd, Iason a ddanfonodd Menelaus brawd Simon, am yr hwn y soniasom o'r blaen, i ddwyn arian i'r brenin, ac iw rybuddio ef am bethau anghenrhaid.
24 Ond pan ddygwyd ef ger bron y brenin, efe a'i mawrygodd yn ei ŵydd, ac a gafodd yr Arch-offeiriadaeth iddo ei hun: canys efe a roddes am dani hi dry-chan ta∣lent o arian mwy nâ Iason.
25 Felly pan gafodd efe orchymynion oddi wrth y brenin, efe a ddaeth adref heb ynddo ddim yn haeddu yr Arch-offeiriad∣aeth, ond calon teiran creulon, a gwyniau anifail gwyllt.
26 Felly Iason, yr hwn a dwyllasei ei frawd ei hun, wedi ei dwyllo gan arall, a'i fwrw allan, a ffôdd i wlâd yr Ammo∣niaid.
27 Ond Menelaus, pan gafodd yr orucha∣fiaeth, ni chymerodd drefn iawn am yr ari∣an a addawasei efe i'r brenin, ond Sostra∣tus ceidwad y castell a'i gofynnodd hwy iddo.
28 Canys i hwn y perthynei codi 'r ar∣drethion. Am hynny y ddau hyn a gyrch∣wyd ger bron y brenin.
29 A Menelaus a adawodd yn yr Arch∣offeiriadaeth Lysimachus ei frawd, a So∣stratus a adawodd Crates, yr hwn oedd ly∣wodraethwr Cyprus, yn ei le.
30 Pan wnelid y pethau hynny, y dig∣wyddodd
Page [unnumbered]
i wŷr Tharsus a Malot wneu∣thur têrfysc [yn erbyn y brenin,] oblegit eu rhoddi hwynt i Antiochis gordderch y brenin.
31 Am hynny y brenin a ddaeth ar frŷs i ostegu y [derfysc] honno, gan adel Andro∣nicus vn o'r gwŷr pennaf ei awdurdod, yn rhaglaw iddo.
32 Menelaus hefyd gan dybio cael o ho∣naw amser cyfaddas, a gymmerth rai o lestri aur y deml, ac a'i rhoddes i Androni∣cus, ac a werthodd eraill yn Tyrus, a'r dina∣soedd oddi amgylch.
33 A phan wybu Onias hyn yn hyspys, efe a'i hargyoeddodd, ac a dynnodd o'r naill∣du 'i noddfa yn Daphne, yr hon sydd yn ymyl Antiochia.
34 Am hynny Menelaus a gymmerth o'r nailltu Andronicus, ac a ddymunodd arno ddal Onias: felly efe a ddaeth at O∣nias, ac a'i perswadiodd ef trwy dwyll, gan roddi iddo ei law ddeheu, a'i lw (er ei fod efe yn ei ammeu ef) ac a'i denodd i ddyfod allan o'r noddfa: felly yn ddisymmwth efe a'i carcharodd ef heb ganddo bris am gyfi∣awnder.
35 O herwydd pa ham nid yr Iddewon yn vnic, ond hefyd llawer o genhedloedd eraill a gyffroesant, ac a fu drwm dros ben ganddynt anghyfiawn laddiad y gŵr hwn.
36 Hefyd pan ddychwelodd y brenin o dueddau Cilicia, yr Iddewon, y rhai oedd yn y ddinas, a achwynasant wrtho, gan fod y Groegwŷr hefyd yn cydsynio â hwynt, o achos adcasrwydd y weithred, oblegit lladd Onias heb achos.
37 Am hynny Antiochus a dristâodd yn fawr yn ei galon, ac a dosturiodd, ac a ŵy∣lodd, o herwydd mawr diriondeb a gostyng∣eiddrwydd yr hwn a laddasid.
38 Ac am hynny wedi ei enynnu â dig∣llonedd, efe a ddioscodd Andronicus o'i bor∣phor, ac a rwygodd ei ddillad, ac a'i arwei∣niodd ef o amgylch y ddinas, i'r fan lle y lladdasei efe Onias, ac yno y dieneidiodd efe y llofrudd: felly yr Arglwydd a dalodd iddo deilwng gospedigaeth.
39 Ond yn ôl i Lysimachus wneuthur llawêr gweithred ddrwg yn y ddinas drwy gyngor Menelaus, a myned o'r chwedl allan: cynnulleidfa a ymdyrrodd ynghŷd yn erbyn Lysimachus, canys yn awr efe a ddygasei allan lawer o lestri aur [y Deml.]
40 Y cyffredin bobl a godasant ar hynny yn llawn llid, a Lysimachus a wiscodd ag arfau ynghylch teir-mil o wŷr, ac a ddech∣reuodd wneuthur trawster ag vn Auranus oedd yn flaenor iddynt, yr hwn oedd wedi myned ymmhell mewn oedran, ac nid dim llai mewn ynfydrwydd.
41 Ond pan ŵybuant amcan Lysima∣chus, rhai a geisiasant gerrig, rhai basty∣nau, a rhai a daflasant ddyrneidiau o'r llwch oedd ger llaw at Lysimachus, a'r rhai oedd yn gosod arnynt.
42 Trwy ba fodd y clwyfasant lawer o honynt, ac y lladdasant rai, a rhai eraill a yrrasant i ffoi, ond anrheithiwr yr Egl∣wys a laddasant hwy ger llaw 'r tryssor∣dŷ.
43 O blegit hyn fe achwynŵyd ŷn er∣byn Menelaus, o herwydd yr achosion hyn.
44 A phan ddaeth ŷ brenin i Tyrus, fe ddanfonwyd trywŷr oddi wrth y Senat, y rhai a achwynasant arno ef.
45 Ond Menelaus wedi colli y maes, a addawodd lawer o arian i Ptolomeus fâb Dorymenes, er gwneuthur y brenin yn foddlon.
46 Am hynny Ptôlomeus a aeth â'r bre∣nin o'r nailltu i ryw gyntedd i ŷmoeri, ac a droes ei feddwl ef.
47 Yn gymmeint ac iddo ryddhau Me∣nelaus, achos yr holl ddrwg, oddiwrth yr achwynion, a barnu y rhai truain hyn i angeu, y rhai pe dadleuasent eu matter ger bron y Scythiaid, hwy a gawsent eu gollwng yn ddieuog.
48 Fel hyn yn fuan y cospwyd hwy yn anghyfiawn, y rhai o'r blaen a ddadleuasant dros y ddinas, dros y bobl, a thros y llestri sanctaidd.
49 Am hynny gwŷr Tyrus, yn gâs gan∣ddynt yr anwiredd hyn, a roddasant yn helaeth bôb peth a berthynei iw claddedi∣gaeth hwy.
50 Ond Menelaus, trwy awydd y rhai oedd mewn gallu, a wnaed yn fradychwr y dinas-wŷr, ac a arhoes yn ei swydd gan chwanegu ei falis.
PEN. V.
2 Yr arwyddion a'r argoelion a welwyd yn Ierusalem. 6 Anwiredd a diwedd Iason. 11 Antiochus yn orlid yr Iuddewon. 15 Anrheithio 'r Deml. 17 Maccabeus yn ffo i'r anialwch.
YNghylch yr amser hwnnw Antiochus a ddarparodd ei ail daith i'r Aipht.
2 A'r pryd hynny digwy∣ddodd trwy yr hôll ddinas tros ddeugam nhiwrnod agos, fod gwŷr meirch yn rhedeg yn yr awyr, mewn gwiscoedd aur, a lluoedd o wyr a gwayw-ffyn.
3 A megis tyrfaau o wŷr meirch mewn byddin, yn ymdrechu, ac yn rhedeg y naill yn erbyn y llall, tan escwyd eu tariannau, a llaweroedd o biccellau, a thynnu cleddyfau, a saethu saethau; a discleirdeb eu harfau aur, a phob math ar lurigau.
4 Am hynny pôb dyn a weddiodd a'r ddy∣fod o'r arwyddion hynny i ddaioni.
5 Yr awr hon pan aeth chwedl celwydd allan, megis pe newidiasei Antiochus fyd, Iason a gymmerth nid llai nâ mîl o wŷr, ac a ruthrodd yn ddisymmwth ar y ddi∣nas, ac wedi gorchfygu y rhai oedd ar y gaer, ac o'r diwedd ennill y ddinas,
Page [unnumbered]
fe a ffôdd Menelaus i'r castell.
6 Ond Iason a laddodd ei ddinaswŷr ei hunan heb arbed vn, heb feddwl fod llwy∣ddiant yn erbyn ei genedl yn fwyaf af∣lwyddiant: ond gan dybied orchfygu o ho∣naw ei elynion, nid ei gyd-wladwŷr.
7 Er hynny ni chafodd efe yr oruchafi∣aeth, ond yn niwedd ei gynllwyn efe a ga∣fodd gywilydd, ac a ffôdd drachefn, ac a aeth i wlad yr Ammoniaid.
8 Am hynny efe a gasodd ddiwedd ei ddrwg fuchedd, [sef] efe a garcharwyd gyd ag Aretas brenin yr Arabiaid, ac a ffôdd o ddinas i ddinas, a phawb yn ei ymlid, ac yn ei gasau, megis gwrthodwr y Gyfraith, ac yn ei felldithio megis gelyn ei wlâd a'i ddinaswŷr, efe a fwriwyd allan i'r Aipht.
9 A'r hwn a barasei i lawer gyrwydro allan o'i gwlâd, a ddarfu am dano ei hun allan o'i wlâd, wedi iddo fyned at y Lacede∣moniaid, tan obaith cael yno swccr, o her∣wydd carennydd.
10 A'r hwn a fwriasei allan liaws heb eu claddu, ni alarodd neb trosto, ac ni cha∣sodd fedd yn y byd, ie, ni chafodd feddrod ei dadau.
11 Ond pan ŵybu 'r brenin y pethau hynny, efe a feddyliodd y syrthiei 'r Idde∣won oddi wrtho am y pethau a wnaethid: am hynny efe a ddaeth yn gynddeiriog o'r Aipht, ac a ennillodd y ddinas ag arfau.
12 Ac a orchymynnodd iw fil-wŷr nad arhedent neb a gyfarfyddei â hwynt, a lladd y neb a ddringei iw tai.
13 Felly y gwnaed lladdfa ar wŷr ieu∣aingc a henaf-gwŷr, a dinistr ar wŷr, a gwragedd, a phlant; a gweryfon a bechgyn a ddifethwyd.
14 Yn gymmaint a difetha o honynt bedwar-vgain mîl mewn tri diwrnod: deugain mîl a gaeth-gludwyd, ac eraill nid llai nâ'r rhai a laddasid, a werthwyd.
15 Ac heb fod yn fodlon er hyn, efe a feiddiodd fyned i mewn i'r Deml sanctei∣ddiaf yn yr holl fŷd, gan gael iddo yn flae∣nor Menelaus, yr hwn oedd fradych-wr ei wlâd a'r Gyfraith.
16 Ac â dwylo sceler efe a gymmerodd y llestri sanctaidd, a pha beth bynnag a ro∣ddasid yno iw cadw gan frenĥinoedd eraill, er cynnydd, a gogoniant, ac anrhydedd i'r man hwnnw, efe a'i teimlodd â dwylo aflan.
17 Balchiodd Antiochus hefyd, heb ysty∣ried, mai o blegid pechodau y rhai a bress∣wylient yn y ddinas y digiasei 'r Arglwydd dros ychydig, ac am hynny bod dirmyg ar y man hwnnw.
18 Canys, oni buasei iddynt hwy ym∣droi o'r blaen mewn cynnifer o bechodau, hwn hefyd er cynted ac y daethei i mewn, wedi ei fflangellu yn ddisymmwth, a droe∣sid oddi wrth ei hyfder, megis Heliodorus, yr hwn a ddanfonasid oddi wrth Seleu∣cus y brenin, i weled y tryssor-dŷ.
19 Ond nid o herwydd y lle y dewi∣sasei 'r Arglwydd y bobl, ond o herwydd y bobl y dewisasei efe y lle [hwnnw.]
20 Ac am hynny y lle hwnnw, yr hwn a fu yn gyfrannog o adfyd y bobl, a wnaed wedi hynny yn gyfrannog o ddoniau yr Ar∣glwydd, a'r hwn a wrthodwyd yn nigofaint yr Hôll-allug, a gyweiriwyd trachefn â phôb gogoniant, drwy gymmod yr Argl∣wydd goruchaf.
21 Am hynny Antiochus wedi dwyn allan o'r Deml fil a phedwar vgain talent, a aeth yn gyflym i Antiochia, gan dybied o wir falchder y gallei efe wneuthur y tir yn fôr, a'r môr hefyd yn dir, iw gerdded ar draed: cyfryw falchder oedd ynddo.
22 Ond efe a adawodd swyddogion i orthrymmu 'r bobl: sef yn Ierusalem, Philip gŵr o Phrygia, yr hwn oedd yn ei arferion yn greulonach nâ'r hwn a'i goso∣dasei ef:
23 Ac yn Garizim Andronicus, a hefyd Menelaus: yr hwn oedd flinach i'r dinas∣wŷr nâ'r lleill i gyd, a chanddo feddwl cenfigennus yn erbyn yr Iddewon ei wlad∣wŷr.
24 Ac efe a ddanfonodd Apolonius, ty∣wysog melldigedig, â llu o ddwy fil ar hu∣gain, gan orchymmyn iddynt ladd pawb a'r oedd mewn oedran: ond gwerthu 'r gwra∣gedd a'r rhai ieuaingc.
25 Yntef pan ddaeth i Ierusalem, a gymmerodd arno fôd yn heddychol, ac a ymattaliodd hyd y sanctaidd ddydd Sab∣both: ac yna yn cael yr Iddewon yn cadw gŵyl, efe a orchymynnodd iw ryfel-wyr gymmeryd eu harfau.
26 Ac felly efe a laddodd bawb a'r a aethei allan i edrych arnynt, a chan redeg ymma a thraw trwy 'r ddinas mewn ar∣fau, efe a laddodd liaws.
27 Ond Iudas Maccabaeus, a naw eraill gyd ag ef, a giliodd i'r anialwch, ac efe a'i gydymdeithion a fu fyw yn y my∣nyddoedd fel anifeiliaid, gan fwyta beu∣nydd ‖ 1.1471 y glaswellt, rhag eu gwneuthur yn gyfrannogion o'r ffieidd-drahwnnw.
PEN. VI.
1 Cymmell yr Iuddewon i ymadael â Chyfraith Dduw. 4 Halogi Teml Dduw. 8 Creulon∣deb yn erbyn y bobl a'r gwragedd. 12 Cyng∣or i ddio ddef cystudd, trwy esampl o wroldeb Eleazarus, a arteithiwyd yn greulon.
YChydig yn ôl hynny y brenin a ddanfonodd henaf-gwr ô ‖ 1.1472 Antiochia, i gymmell yr Iddewon i ymado â chyfrei∣thiau eu tâdau, fel na's llywo∣draethid hwy mwyach wrth Gyfraith Dduw,
2 Ac i halogi 'r Deml oedd yn Ierusa∣lem, efe a'i galwodd [yn Deml] Iupi∣ter Olympius: a'r hon oedd yn Garizim (megis y rhai a gyfanneddent yn y man hwnnw) a alwodd efe [yn Deml] Iupiter letteugar.
Page [unnumbered]
3 Dyfodiad yr aflwydd yma oedd drwm a blin i'r bobl.
4 Canys y Deml a lanwyd o lothineb, a meddwdod, gan y cenhedloedd, y rhai oeddynt yn ymchwarae â phutteiniaid, ac oddi amgylch y lleoedd sanctaidd yn bôd iddynt a wnelent â gwragedd, a hefyd yn dwyn i mewn bethau nid ydoedd wedd∣aidd.
5 A'r allor a lanwasid o bethau anghy∣freithlawn, y rhai a waharddasei y gyfraith.
6 Nid rhydd oedd ychwaith gadw 'r Sabboth, na chad w gŵyliau eu hynafiaid, nac yn eglur gyfaddef eu bod yn Idde∣won.
7 Ar ddydd ganedigaeth y brenin, yr oedd yn gorfod iddynt heb ddiolch, fyned bôb mîs i fwytta o'r ebyrth: a phan gedwid gŵyl Bacchus, fe a orfyddei iddynt fyned yn or∣foleddus, ag eiddew ganddynt, er anrhy∣dedd i Bacchus.
8 Ac fe aeth gorchymyn allan i ddina∣soedd cyfnesaf y ‖ 1.1473 Groeg-wŷr, trwy gyngor Ptolomeus, yn erbyn yr Iddewon, a r iddynt ddilyn yr vn rhyw arferion, a bod yn gyfrannogion o'i hebyrth hwynt.
9 Ac ynghylch lladd y rhai nis myn∣nent ganlyn arferion y Groegwŷr: y pryd hynny y gallasei vn weled y gofid presen∣nol.
10 Canys dygwyd allan ddwy o wrag∣edd, y rhai a enwaedasent a'r eu plant, ac wedi eu harwain yn amlwg oddi amgylch y ddinas, a'r rhai bychain ynghrôg wrth eu bronneu, hwy a swriwyd i lawr bendro∣mwnwgl oddi ar y gaer.
11 Rhai eraill a gyd-redasent yn eu mysc eu hunain i ogfeydd, fel y gallent yn ddir∣gel gadw 'r seithfed dydd, a gyhuddwyd wrth Philip, ac a gyd-loscwyd: o blegit ni feiddient eu helpu eu hunain, o herwydd parch ar y dydd anrhydeddus.
12 Am hynny yr wyf yn attolwg i'r rhai a ddarllennant y llyfr hwn, na's digyssurer hwy o herwydd yr adfyd hyn: ond meddy∣liant fôd y cospedigaethau hyn yn per∣thynu nid i ddinistr, ond i geryddiad ein cenedl ni.
13 Canys pan nas goddefir y rhai a wne∣lant yn annuwiol, ond syrthio o honynt yn gyflym i gospedigaeth, arwydd yw hyn o fawr ddaioni Duw.
14 Canys nid yw yr Arglwydd yn hir aros wrthym ni, megis wrth genhedloedd eraill, y rhai y mae efe yn eu cospi pan dde∣lont i gyflawndra ei pechodau, Ond fel hyn y bu dda ganddo wneuthur â ni,
15 Rhag gorfod iddo ddial arnom pan gyflawnid ein pechodau.
16 Am hynny ni ddwg byth mo'i druga∣redd oddi wrthym, ond tan eu ceryddu ag adfyd, nid ymedy efe â'i bobl ei hun.
17 A bydded hyn a ddywedasom yn rhy∣budd i ni: bellach ni a ddeuwn at y traeth∣awd ar ychydig eiriau.
18 Eleazar rhyw vn o'r scrifennyddion pennaf, yn ŵr oedrannus, a glân o brŷd, a orfu iddo agoryd ei enau, a bwytta cîg môch.
19 Ond efe yn well ganddo farw mewn parch, nâ byw wedi gwneuthur y fath ffieidd-dra, a aeth yn ewyllysgar i'r poe∣nau, ac a'i poerodd allan.
20 Fel y gweddei iddynt hwy ddyfod, y rhai sydd yn ymroi yn lân i sefyll yn erbyn y cyfryw bethau nid cyfreithlawn eu profi, er serch ar einioes.
21 Ond y rhai a osodasid yn llywodr∣aeth-wŷr y wlêdd annuwiol honno, o blegit y gydnabod oedd rhyngddynt er ys talm â'r gŵr hwn, a'i cymmerasant o'r nailldu, ac a'i hannogasant i gymmeryd y cîg a ddar∣parai efe ei hûn, ac i arfer y pethau oedd gyfreithlon iddo: ond cymmeryd o honaw arno megis pe bwytaei o gîg y wledd, yn ôl y pethau a orchymynnasid [iddo] gan y brenin:
22 Fel y gallei wrth hyn ei achub ei hûn oddiwrth angeu, a derbyn y caredig∣rwydd hyn, er mwyn yr hên gydnabod oedd rhyngddynt.
23 Ond efe gan gymmeryd meddwl pwyllog, megis y gweddei iw oedran, ac i ragoriaeth ei henaint, a'i wallt llwyd par∣chedig, ac iw rinweddol fuchedd er yn fach∣gen, îe. yn hytrach megis ac y gweddei i sanctaidd a duwiol Gyfraith Dduw, a attebodd iddynt, gan attolwg ei ollwng yn fûan iw feddrod.
24 Canys nid gweddaidd, eb efe, yw i'n hoedran ni ragrithio, fel y tyblo llawer o wŷr ieuaingc ddychwelyd o Eleazar, yn ddeng-mlwydd a phedwar vgain o oed, ac arferion dieithr,
25 Ac yr hudid hwythau hefyd oblegit fy rhagrith i, er mwyn ychydig amser i fyw, ac y byddei i mi ddwyn gwradwydd a dir∣myg i'm henaint.
26 Canys er i mi allu diangc tros yr am∣ser presennol oddi wrth gospedigaeth ddy∣nawl: etto ni's gallaf ffoi oddi wrth law yr Holl-alluog, nac yn fyw nac yn farw.
27 Am hyn gan newidio bywyd yn wrol, mi a'm dangosaf fy hun yn addas i'm henaint.
28 Yna y gadawaf i'r rhai ieuaingc siampl nodedic i farw yn ewyllysgar ac yn ŵrol, tros y sanctaidd a'r anrhydeddus Gy∣fraith: ac wedi dywedyd hyn efe a aeth yn gyflym iw arteithio.
29 Yna y rhai a'i harweinient, a droesant eu hewyllys da iddo o'r blaen yn llid wrtho, pan glywsant ei ymadrodd: canys tybio a wnaethant ei fôd wedi ynfydu.
30 Hefyd pan oedd ar farw oblegit y dyr∣nodiau, efe a ddyŵedodd gan ocheneidio: eglur yw i'r Arglwydd, yr hwn sydd ganddo sanctaidd ŵybodaeth, mai pan allaswn fy ngwaredu fy hun o angeu, ddioddef o honof fy nghuro yn dôst ar hŷd fy nghorph, a'm bod y'n ewyllysgar yn dioddef y pethau hyn o ran fy mod yn ei ofni ef.
31 Fel hyn y bu efe farw, gan adel ei farwolaeth yn siampl o galon ddihafarch,
Page [unnumbered]
ac yn gofia am rinwedd nid yn vnic i'r gwŷr ieuaingc, ond i lawer eraill hefyd o'i genhedl.
PEN. VII.
Dianwadalwch a marwolaeth saith o frodyr a'i mam yn yr vn dydd, am na fwytaent gig moch wrth orchymmyn y Brenin.
DIgwyddodd hefyd ddal saith mrodyr a'i mam, a pheri o'r Brenin iddynt yn erbyn y gy∣fraith fwytta cîg môch, a hwy a gurwyd â fflangellau, a gwiail.
2 Ond vn o honynt, yr hwn a ddadleu∣odd yn gyntaf a ddywedodd, pa beth yr wyti yn ei geisio? a pha beth a fynni di ei ŵybod gennym ni? canys yr ydym ni yn ba∣rod i farw yn gynt nag y torrwn ni gyfrei∣thiau ein tadau.
3 Yna y cythruddodd y brenin, ac y pa∣rodd dwymno pedyll a pheiriau,
4 Y rhai yn y man a wnaethpwyd yn boeth; Ac efe a orchymynnodd dorri allan dafod yr hwn a ddadleuasei yn gyn∣taf, a'i flingo ef, a thorri ymmaith ei aelo∣dau eithaf yngolwg ei frodyr eraill a'i fam.
5 Weithian pan na ellid dim o honaw ef, efe a barodd ei ddwyn ef i'r tân, a'i ffrio yn fyw: a thra yr oedd y mwgdros hir o amser yn mygu allan o'r pair, y brodyr eraill a'i mam a annogent ei gilydd i farw yn wrol, gan ddywedyd fel hyn:
6 Y mae yr Arglwydd Dduw yn edrych arnom, ac yn ddiau efe a gymmer ddiddan∣wch o honom ni, megis y mynegodd Moses yn ei ganiad, * 1.1474 yn yr hwn y tystiolaethodd wrth eu hwynebau hwynt gan ddywedyd, ac efe a gymmer ddiddanwch yn ei weision.
7 Wedi marw o'r cyntaf fel hyn: hwy a ddygasant yr ail iw wneuthur yn watwar∣gerdd, ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynnasant iddo, a swyttei di cyn merthyru pob aelod o'th gorph?
8 Ond efe a attebôdd yn iaith ei wlâd, na wnaf. Am hynny hwn hefyd fel y cyntaf a ferthyrwyd yn gyflym.
9 A phan oedd yn rhoddi i synu 'r yspryd, efe a ddywedodd: tydi lofrudd wyt yn dwyn ein by wyd presennol oddi arnom, ond Brenhin y byd a'n cyfyd ni (y rhai ydym yn meirw tros ei gyfreithiau ef) i fywyd tra∣gywyddol.
10 Yn ôl hwn y dygwyd y trydydd hefyd iw watwar, a phan ofynnasant am ei da∣fod, efe a'i estynnodd allan yn ebrwydd, ac a ledodd ei freichiau yn hŷ,
11 Ac a lefarodd yn wrol, y rhai hyn a gefais i gan [Dduw] o'r nef, a'r rhai hyn yr ydwyfi yn eu dirmygu er mwyn ei gyfrei∣thiau ef, ac yr ydwyf yn gobeithio derbyn y rhai hyn eil-waith ganddo ef,
12 Yn gymmeint ac i'r brenin a'r rhai oedd gyd ag ef synnu a rhyfeddu wrth ga∣londid y gŵr ieuangc, oblegid nid oedd efe yn prisio am ei boenau.
13 Ac yn ôl marw hwn hwy a ferthyra∣sant y pedwerydd hefyd yr vn modd.
14 Yr hwn, pan ydoedd agos a marw, a ddywedodd fel hyn, da ydyw pan roddir [ni] i farwoleth gan ddynion, i ni ddisgwil am obaith oddi wrth Dduw, fel i'n cyfoder eilwaith drwyddo ef: canys i ti ni bydd cy∣fodiad i fywyd.
15 Wedi hynny hwy a ddygasant y pum∣med, ac a'i merthyrasant.
16 Yr hwn gan edrych ar y brenin a ddy∣wedodd, y mae gennit allu ym mysc dynion, ac er dy fôd ti yn farwol, yr wyt ti yn gwneuthur a fynnech: ond na thybia wrthod o Dduw ein cenhedl ni.
17 Ond disgwyl ennyd, a gwêl ei allu mawr ef, fel y cospa efe dydi a'th hâd.
18 Yn ôl hwn hwy a ddygasant y chwe∣ched, yr hwn pan ydoedd yn marw a ddy∣wedodd: na siomma mo honot dy hûn heb achos: canys nyni ydym yn dioddef y pe∣thau hyn o'n plegit ein hunain, oblegit pechu o honom yn erbyn ein Duw: am hynny yr ydys yn gwneuthur [i ni] bethau rhyfedd.
19 Ond na feddwl di y diengi di heb dy gospi, yr hwn wyt yn ceisio rhyfela yn erbyn Duw.
20 Ond y fam oedd yn rhyfedd-fawr ra∣gorol, ac yn haeddu cof ardderchog: oblegid pan welodd hi ei saith mab wedi eu lladd mewn yspaid diwrnod, hi a odde∣fodd hynny â chalon rymmus, oblegit ei gobaith a osodasei hi yn yr Arglwydd.
21 A hi a annogodd bôb vn o honynt yn iaith ei gwlâd, ac yn llawn o yspryd hi a gynhyrfodd ei meddwl gwreigaidd â chalon wrol, ac a ddywedodd wrthynt,
22 Ni wn i pa fodd y daethoch i'm croth i: canys ni roddais i chwi nac anadl nac eini∣oes, ac nid myfi a lumodd aelodau eich cyrph chwi.
23 Ond yn ddiau gwneuthur wr y bŷd, yr hwn a luniodd anedigaeth dŷn, ac a ga∣fodd allan naturiaeth pôb peth, a'r hwn a rydd eilwaith i chwi er ei drugaredd anadl a bywyd, yn gymmeint ac i chwi yn awr eich dirmygu eich hunain er mwyn ei gy∣freithiau ef.
24 Ond Antiochus gan dybio ei ddir∣mygu, a chan feddwl fod ei hymadrodd hi yn wradwyddus, tra ydoedd yr ieuangaf etto yn fyw, a geisiodd ei ddenu nid yn vnic â geiriau, ond hefyd trwy addo â llyfau ei wneuthur yn gyfoethog, ac yn ddedwydd, os efe a ymwrthodei â chyfreithiau ei dadau; a hefyd y cymmerei efe ef megis yn gâr iddo, ac y rhoddei iddo swyddau.
25 Ac o blegit nas gwrandawei y gŵr ieuangc arno er dim, efe a barodd gyrchu ei fam, ac a eiriolodd arni hi gynghori y gwr ieuangc i achub ei hoedl.
26 Ac wedi iddo ddeisyfu arni hyn∣ny â geiriau lawer, hi a addawodd
Page [unnumbered]
iddo y cynghorei hi ei mab.
27 Yna ei fam a droes atto, a chan wat∣war y teiran creulon, hi a ddywedodd yn faith ei gwlad, Fy mab, trugarhâ wrthif, yr hon 'a'th ddûg di naw mis yn fy mru, yr hon a roddais i ti laeth dair blynedd, yr hon a'th ddûg di i fynu hyd yn hyn, a'r hon a oddefais orthrymderau dy fagwri∣aeth,
28 Attolwg i ti, fy mab, edrych ar y nef a'r ddaiar, ac edrych ar bôb peth ac sydd yn∣ddynt, cydnebydd wneuthur o Dduw y pe∣thau hyn o'r pethau nid oeddynt, a gwneu∣thur rhywogaeth dŷn felly hefyd.
29 Nac ofna mo'r cigydd hwn, ond bydd debyg i'th frodyr, cymmer dy farwolaeth, fel y gallwyf dy dderbyn gyd â'th frodyr yn yr vnrhyw drugaredd.
30 A thra yr ydoedd hi yn dywedyd hyn, ygŵr ieuangc a lefarodd, beth yr ydych chwi yn ei ddisgwil? nid oes yn fy mryd vfydd∣hau gorchymyn y brenin, ond myfi a vfydd∣haf orchymynion y Gyfraith, y rhai a rodd∣wyd i'n tadau ni trwy law Moses.
31 Titheu hefyd, yr hwn wyt ddychym∣mygwr pob drwg i'r Hebræaid, ni ddiengi rhag llaw Dduw.
32 Canys nyni ydym yn goddef [hyn] o blegid ein pechodau ein hunain.
33 Ond er bôd y Duw byw tros ennyd yn digio wrthym er mwyn ein cospi a'n ce∣ryddu ni, etto efe a gymmyd trachefn â'i wei∣slon.
34 Ond tydi, ô annuwiol ac sceleraf o'r holl ddynion, nac ymddercha yn ddiachos, ac nac ymchwydda â gobaith ofer, gan godi dy ddwylaw yn erbyn gweision Duw:
35 Canys ni ddiengaist di etto rhag barn Duw oll-alluog; yr hwn sydd yn gweled [pob peth.]
36 Fy mrodyr, y rhai weithian a oddefasant lafur byrr, ydynt yr awron dan sanctaidd gyfammod bywyd tragy∣wyddol: titheu hefyd trwy farn Duw, a dderbyni gospedigaeth addas oblegit dy falchder.
37 Minneu hefyd, megis ac y gwnaeth fy mrodyr, a roddaf fy nghorph a'm heni∣oesdros gyfreithiau ein teidiau, gan attol∣wg i Dduw drugarhau o honaw yn gyflym wrth ein cenedl ni, a pheri i titheu drwy benyd a chospedigaeth gyffessu, mai efe sydd Dduw yn vnic;
38 A diweddu hefyd ynofi a'm bro∣dyr o ddigofaint yr Holl-alluog, yr hwn yn addas a syrthiodd ar ein holl ge∣nedl ni.
39 Yna 'r brenin, wedi ei enynnu â chyn∣ddaredd, a wŷnfydodd yn erbyn hwn yn fwy nâ nêb, ac a fu drwm ganddo ei wat∣war.
40 Hwn hefyd a fu farw yn sanctaidd, gan roddi ei gwbl ymddiried yn yr Argl∣wydd.
41 Yn ddiwethaf o'r cwbl, y fam yn ôl ei meibion a fu farw.
42 Weithian bydded digon dywedyd hyn am [eu] gwleddau, a'i creulondeb aruthrol hwy.
PEN. VIII.
1 Iudas yn casclu llu: 9 a danfon Nicanor yn ei erbyn ef: ac ynteu yn rhyfygu gwneuthur arian lawer o'i garcharorion. 16 Iudas yn rhoi calon yn ei wyr, ac yn gyrru Nicanor i ffo, 28 ac yn rhannu 'r yspail. 30 Difuddio gelynion eraill he∣fyd. 35 Nicanor trwy ofid yn ffo i Antiochia.
YNa Iudas Maccabeus, a'r rhai oedd gyd ag ef, a aethant yn ddirgel i'r pentrefi, ac a alwasant eu ceraint yng∣hyd, ac a gymmerasant y rhai oedd yn aros yn nhrefydd yr Iddewon, ac a gasclasant ynghyd ynghylch chwemîl o wŷr.
2 Felly hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ar edrych o honaw ar ei bobl, y rhai yr oedd pawb yn eu sathru tan draed, ac ar fod o honaw yn drugarog wrth y Deml, yr hon a ddarfuasei i'r dynion drwg ei halogi,
3 Ac ar dosturio o honaw wrth y ddi∣nas, yr hon ydoedd wedi ei dinistrio, ac agos yn vn a'r llawr; ac ar wrando o ho∣naw ar lef gwaed y rhai a laddasid yn gwei∣ddi arno ef;
4 Ac ar gofio o honaw anghyfreithlon laddiad y plant gwirion, a'r cabl-eiriau a ddywedasid yn erbyn ei Enw, ac ar ddangos o hono ei gâs yn erbyn y rhai drygionus.
5 Yna Maccabeus wedi cynnull ynghyd ei lu, a'r Cenedloedd heb allu ei wrth-wy∣nebu, gan droi o'r Arglwydd ei ddigofaint yn drugaredd,
6 Efe a ddaeth yn ddisymmwth, ac a los∣codd y dinasoedd ar pentrefi, ac a feddian∣nodd y lleoedd cymhwysaf, ac a orchfygodd ac a yrrodd lawer o'i elynion i ffoi,
7 Ond yn bennaf efe a arferodd liw nôs wneuthur cyfryw derfyscoedd, hyd onid aeth y gair o'i wroldeb ef i bôb lle.
8 Ond pan welodd Philip gynnyddu o'r gŵr hwn yn fuan, o fesur ychydig ac ychy∣dig, a'i fôd efe yn wastad yn llwyddo fwy∣fwy; efe a scrifennodd at Ptolomeus lly∣wodraethwr Caelosyria a Phenice, iw swccrio ef yn achosion y brenin.
9 Yna efe a etholodd Nicanor mab Pa∣troclus, vn o'i geraint pennaf, ac a'i dan∣fonodd ef, gan roddi o bob rhai o'r Cen∣hedloedd nid llai nag vgain mîl, i ddiwrei∣ddio allan holl genedl yr Iddewon: a he∣fyd efe a gyssylldodd ynghyd ag ef Gorgias y capten, gŵr cyfarwydd mewn matterion rhyfel.
10 Felly Nicanor a gymmerth arno wneuthur cymmaint o arian o'r Iddewon a ddelid yn garcharorion, ac a dalei y deyrn∣ged o ddwyfil o dalentau, oedd ar y brenin i'r Rhufein-wyr.
Page [unnumbered]
11 Am hynny efe anfonodd yn y man i'r dinasoedd ar lan y môr, gan gynnyg ar werth yr Iddewon a ddelid yn garcha∣rorion, i fôd yn weision iddynt, gan addo y gwerthei [iddynt] ddêg a phedwar vgain er vn talent: ond nid ydoedd efe yn ystyrio dial Duw, yr hwn a ddescynnei arno ef.
12 Pan wybu Iudas fod Nicanor yn dyfod, efe a fynegodd i'r rhai oedd gyd ag ef fôd y llu yn agos.
13 Y rhai [o honynt] a oedd yn ofnus, ac ni choelient i gyfiawnder Duw, ffoi a wnaethant, a myned ymmaith o'r fan honno.
14 Rhai eraill hefyd a werthasant yr hyn oll a adawsid, ac a weddiasant hefyd ar yr Arglwydd, ar waredu o honaw ef hwynt oddi wrth Nicanor annuwiol, yr hwn a'i gwerthasei hwynt cyn dyfod o honynt yng∣hyd.
15 Ac er na's gwnelei efe hyn er eu mwyn hwynt, etto [ar iddo ei wneuthur] er mwyn ei gyfammod â'i tadau hwynt, ac er mwyn ei sanctaidd a'i ogoneddus Enw, ar yr hwn y gelwid hwy.
16 Yna Maccabeus, wedi galw ei wŷr ynghyd, hyd yn nifer chwe mîl, a'i hanno∣godd hwynt, na ddigalonnent oblegit eu gelynion, ac nad ofnent amlder y cenhed∣loedd oedd yn gosod arnynt ar gam: ond rhyfela o honynt yn ŵrol,
17 Gan osod ger bron eu llygaid y dir∣dra a wnaethent ar gam i'r lle sanctaidd, a'r gurfa greulon a roddasid i'r ddi∣nas a watwaresid, a dirymmiad y lly∣wodraeth a dderbyniasent hwy gan eu he∣nafiaid.
18 Canys y maent hwy, eb efe, yn ym∣ddiried mewn arfau a hyfder, ond ein ym∣ddiried ni sydd yn Nuw oll-alluog, yr hwn a all ddifetha y rhai sydd yn dyfod yn ein er∣byn, a'r holl fŷd hefyd, ag amnaid.
19 A hefyd efe a gofiodd iddynt pa gym∣morth a gawsei eu tadau, a pha fodd yr achubwyd hwynt pan ddarfu am gant a phedwar vgain a phum mîl tan * 1.1475 Sena∣cherib,
20 A pha rhyfel a wnaethant yn Babi∣lon yn erbyn y Galatiaid, fel y daethei o honynt hwy i gyd i'r maes wyth mîl, gyd â phedair mil o'r Macedoniaid: a phan am∣heuodd y Macedoniaid, yr wyth mil hyn∣ny a laddasant vgain mîl a chant drwy gymmorth a roddasid iddynt o'r nef, trwy ba vn y derbyniasant lawer o fudd.
21 Ac wedi iddo eu cyssuro â'r geiriau hyn, a'i gwneuthyd yn barod i farw dros y cyfreithiau a'r wlâd, efe a ran∣nodd ei lu yn bedair rhan,
22 Ac a wnaeth ei frodyr ei hun yn gap∣teniaid ar y llu: sef Simon, Ioseph, a Iona∣than, gan roddi i bob vn bymthec-cant o ry∣fel-wŷr.
23 Hefyd [efe a bwyntiodd] Eleazar i ddarllen y llyfr sanctaidd, ac wedi iddo roddi iddynt yn arwydd, DR VVY help Duw, efe yn gapten y llu blaenaf a aeth ynghyd â Nicanor.
24 A thrwy gymmorth yr Holl-alluog, hwy a laddasant o'r gelynion vwch law naw mîl, ac a glwyfasant, ac a gloffasant y rhan fwyaf o lu Nicanor, ac a yrrasant bawb i ffoi.
25 Ac a gymmerasant arian y rhai a ddaethent iw prynu, ac a'i hymlidiasant ym mhell, ond am fod arnynt eisieu amser, hwy a ddychwelasant.
26 Canys y dydd o ffaen y Sabboth oedd efe, am hynny ni fynnent eu hymlid hwy ymmhellach.
27 Fel hyn hwy a gymmerasant eu har∣fau, ac a yspeiliasant y gelynion, ac a gad∣wasant y Sabboth gan roi moliant a diolch anfeidrol i'r Arglwydd, yr hwn a'i cadwasei hyd y dydd hwnnw, ac a dy∣walltasei arnynt ddechreuad ei drugaredd.
28 Hefyd yn ôl y Sabboth, hwy a ran∣nasant ran o'r yspail i'r anafus, i'r gwedd∣won, ac i'r ymddifaid, a'r hyn oedd yngwe∣dill a rannasant hwy rhyngthynt eu hun a'i gweision.
29 Ac yn ôl gwneuthur y pethau hyn, a gwneuthur o honynt gyffredin weddi, hwy a attolygasant i'r Arglwydd trugarog gymmodi â'i weision yn dragywydd.
30 Hefyd o'r rhai oedd gydâ Thimo∣theus a Bacchides a fyddent yn ymladd yn eu herbyn hwy, y lladdasant vwch∣law vgain mîl, ac a ennillasant vchel a chadarn gestyll, ac a rannasant yspail lawer yn gyffredinol rhyngddynt hwy a'r anafus, a'r ymddisaid, a'r gweddwon, a'r oedran∣nus.
31 Ac wedi iddynt gasclu eu harfau ynghyd, hwy a'i rhoddasant oll i gadw yn ofalus mewn lleoedd cymmwys, a'r yspail arall a arweiniasant hwy i Ierusalem.
32 Hwy a laddasant hefyd Philarches, yr hwn ydoedd gyd â Thimotheus, dyn an∣nuwiol, ac vn a wnaethei lawer o niwed i'r Iddewon.
33 Hefyd pan oeddynt yn cadw gŵyl y fuddugoliaeth yn eu gwlad, hwy a loscasant Calisthenes, yr hwn a los∣casei 'r pyrth sanctaidd, ac a ffoesei i ryw dŷ bychan iw achub ei hun, am hyn∣ny efe a dderbyniodd wobr addas am ei an∣wiredd.
34 A Nicanor sceler (yr hwn a ddygasei fil o farsiandwŷr i brynu 'r Iddewon.)
35 Wedi ei ddarostwng trwy help yr Ar∣glwydd, gan y rhai nid oedd efe yn gwneuthur ond cyfrif o'r lleiaf o honynt, a ddioscodd ei ddillad gwychion, ac a ollyngodd ymaith ei wyr, ac a ddaeth fel gwas crwydrus trwy ganol y tir i Antio∣chia, wedi cael cywilydd mawr o ran colli ei lu.
36 Fel hyn, yr hwn a addawsei dalu teyrn-ged i'r Rhufeinwŷr o'r carchar∣orion oedd yn Ierusalem, a ddygodd newy∣ddion fôd gan yr Iddewon amddeffynnwr, sef Duw: ac oblegit hyn na's gallei nêb
Page [unnumbered]
wneuthur niwed iddynt, o herwydd eu bôd yn cadw y cyfreithiau a orchymynna∣sei efe iddynt hwy.
PEN. IX.
1 Ymlid Antiochus oddiwrth Persepolis: 5 A'i daro ef â chlefyd blin, 14 ac ynteu yn addo mynd yn Iuddew, 28 ac yn marw yn ofidus.
YNghylch y cyfamser hwn∣nw y daeth Antiochus allan o wlâd Persia yn wradwyddus.
2 Canys pan ddaeth efe i Persepolis, efe a amca∣nodd yspeilio 'r Deml, a dwyn dano y ddi∣nas: ond y bobl a redasant yn gyffrous iw hamddeffyn eu hun â'i harfau, ac a'i gyr∣rasant ef i ffoi: felly Antiochus a yrrwyd i ffoi gan y preswylwyr, ac a ddychwelodd â chywilydd.
3 A phan ddaeth efe i Ecbatana y dy∣wedwyd iddo ef y pethau a wnaethid i Ni∣canor ac i Timotheus.
4 Am hynny wedi chwyddo gan lid, efe a feddyliodd ddial gwarth y rhai a'i gyrra∣sei ef i ffo, ar yr Iddewon, am hynny efe a barodd i'r hwn ydoedd bob amser yn gyrru ei gerbyd ef brysuro a dibēnu ei daith, canys barn Duw ydoedd yn ei annog ef: o herwydd efe a ddywedasei fel hyn yn ei falchedd, myfi a wnaf Ierusalem yn gladd∣fa gyffredin i'r Iddewon pan ddelwyf yno.
5 Ond yr Arglwydd oll-alluog, a Duw Israel, a'i tarawodd ef â dialedd difeddigi∣niaethol, ac anweledig: canys er cynted ac y dywedasei efe y geiriau hyn, dolur yn ei berfedd a ddaeth arno, yr hwn ni's ge∣llid ei iachau, a gofid aruthrol yn ei fol.
6 Ac iawn oedd hynny: canys efe a boe∣nasei berfedd gwŷr eraill ag amryw a dieithr boenau.
7 Hwn hefyd ni pheidiei er hynny â'i vchelfryd, ond a lenwid yu fwy â balchedd, gan anadlu allan dân yn ei ddig yn erbyn yr Iddewon, a pheri prysuro ei daith: eithr digwyddodd syrthio o hono ef i lawr oi gerbyd, yr hwn ydoedd yn rhedeg yn gyflym, a gwneuthur holl aelodau ei gorph ef yn chwilfriw gan y cwymp mawr [hwnnw.]
8 Fel hyn efe, yr hwn a dybiei ychydig o'r blaen y gallei orchymmyn tonnau y mor (cymmeint oedd ei falchedd tu hwnt i ddyn) a phwysso y mynyddoedd vchel mewn clo∣rian, a daflwyd ar y ddaiar, ac a ddygwyd mewn elor feirch, gan fynegi i bawb amlwg allu Duw.
9 Yn gymmeint ac i bryfed heidio allan o gorph yr annuwiol hwnnw, a thra ydoedd efe etto yn fyw ei gnawd a syrthiei [i lawr] gan boen a gofid, a'i holl lu a ymo∣fidient o blegit ei ddryg-sawr ef.
10 Fel hyn nid oedd nêb abl i aros i ddwyn yr hwn o'r blaen a dybiei y gallei gyrhaeddyd sêr y nefoedd, oblegit y dryg∣••••wr.
11 Am hynny wedi ei glwyfo fel hyn, efe a ddechreuodd beidio â'i falchder mawr, a dyfod iw adnabod ei hun drwy gurfa Duw, a'i ofid, yr hwn a chwanegid bôb mynudyn [awr.]
12 A phan ni allodd efe aros ei sawr ei hun, efe a ddywedodd hyn: iawn yw ymostwng i Dduw, ac i'r hwn sydd yn farwol na feddylio fôd yn ogyfuwch â Duw▪
13 A'r dyn sceler hwn a weddiodd at yr Arglwydd (yr hwn ni chymmerei drugaredd arno mwyach) gan ddywedyd,
14 Y rhyddhâei efe y ddinas sanctaidd, i'r hon yr oedd efe yn prysuro iw gwneu∣thur yn vn â'r llâwr, ac yn gladdfa.
15 A hefyd y gwnai efe yn ogyfuwch a'r ‖ 1.1476 Antiochiaid yr holl Iddewon yr oedd efe [o'r blaen] yn eu barnu yn annheilwng o gladdedigaeth, ond iw taflu allan iw llyngcu gan adar a bwystfilod, ynghyd â'i plant;
16 Ac yr harddei efe y Deml sanctaidd â rhoddion gwychion, yr hon o'r blaen a ddarfuasei iddo ei hyspeilio, ac y chwanegei efe y llestri sanctaidd, ac y rhoddei efe o'i ardreth ei hun yr holl gôst a ydoedd yn perthynu i'r ebyrth.
17 Ac am ben hyn hefyd y byddei efe ei hun yn Iddew, ac y rhodiei ym mhob lle cyfanneddol, gan fynegi gallu Duw.
18 Ond er hyn i gyd ni pheidiei ei ofid∣fawr boenau: (canys fe ddaethei arno ef gyfiawn farn Duw) gan anobeithio ei ie∣chyd, efe a scrifennodd at yr Iddewon y lly∣thyrau sy yn canlyn, ac ynddynt y fath ddei∣syfiad a hyn.
19 I'r Iddewon daionus ei ddinaswŷr, llawenydd, ac iechyd, a llwyddiant, oddi wrth Antiochus y brenin a'r pen-llywydd.
20 Os ydych chwi a'ch plant yn iach, ac os yw pob peth yn ôl eich dymuniant, mi a roddaf fawr ddiolch i Dduw, gan fôd gennif obaith yn y nef.
21 Am danafi, yr oeddwn i yn wan, oni bai hynny myfi a gofiaswn yn garedig eich parch a'ch ewyllys da: wrth ddychwe∣lyd o wledydd Persia, wedi syrthio mewn clefyd mawr, mi a dybiais fôd yn anghen∣rheidiol i mi ofalu am gyffredin ddien∣bydrwydd pawb,
22 Nid gan anobeithio o'm hiechyd, ond gan fod gennif obaith mawr y diangaf o'r clefyd hwn:
23 Ond gan ystyrio hefyd ddarfod i'm tâd yr amser yr arweiniodd lu i'r tueddau vchaf hyn, seinio pwy a lywodraethei ar ei ôl:
24 Fel os digwyddei dim amgen nag yr oedd yn gobeithio, neu os dywedid newy∣ddion drwg yn y byd, na byddei i wŷr y wlâd derfyscu, gan eu bod yn gwybod i bwy y rhoesid llywodraeth y matterion [hynny]
25 Hefyd gan feddylio bod y pendesigion sy oddi amgylch, ac yn gymydogion i'm teyr∣nas, yn disgwyl amser, ac yn edrych pa
Page [unnumbered]
beth a ddigwyddo; myfi a ordeiniais fy mâb Antiochus yn frenin, yr hwn pan oeddwn yn myned i'r gwledydd vchaf hyn, a orchy∣mynnais yn fynych i lawer o honoch chwi, ac a scrifennais atto ef y modd y mae yn can∣lyn, yr scrifen ymma.
26 Am hynny yr wyf yn eiriol arnoch chwi, ac yn deisyfu ar goffa o honoch y cymmwynasau a wneuthym i chwi yn amlwg ac yn ddirgel, a bod o bawb o honoch yn wastad yn ffyddlon i mi ac i'm mab.
27 Canys diau gennif y ceidw efe yn gyfan ac yn ddihalog, y cyngor a roddais iddo yn eich cylch chwi.
28 Fel hyn y llofrudd a'r cabl-wr, wedi iddo oddef gofid lawer, megis ac y gwnae∣thei efe i eraill, a fu farw trwy farwolaeth flin mewn gwlâd ddieithr.
29 A Philip ei frawd maeth ef a ddug ymmaith ei gorph ef: yr hwn hefyd rhag ofn mâb Antiochus a ffôdd i'r Aipht at Pto∣lomeus Philometor.
PEN. X.
1 Iudas yn ennill y ddinas yn ei hôl, ac yn glanhau 'r Deml. 14 Gorgias yn blino 'r Iuddewon. 16 Iudas yn ennill eu hamddi∣ffynfeydd hwy. 29 Gorchfygu Timotheus a'i wyr. 35 Ynnill Gazara, a llâdd Timotheus.
MAccabaeus hefyd a'r rhai oedd gyd ag ef, drwy fôd yr Ar∣glwydd yn llywydd [iddynt,] a ennillodd drachefn y ddinas a'r Deml.
2 A hwy a fwriasant i lawr yr allorau a'r cappelau a wnaethei yr cenhedloedd yn yr heolydd.
3 Ac wedi glanhau 'r Deml, hwy a wnaethant allor arall: ac wedi iddynt daro tân allan o gerrig tanllyd, hwy a offrymmasant aberth yn ôl dwy flynedd, ac a arlwyasant arogl-darth, a lusernau, a bara gosod.
4 Wedi hynny hwy a attolygasant i'r Arglwydd gan syrthio i lawr ar eu hwy∣nebau, na byddei iddynt mwyach syrthio mewn cyfryw ddrygau: ond os pechent trachefn vn amser, bod iddo ef ei hun eu cospi drwy drugaredd, ac nas rhoddei ddim o honynt mwy i'r cablaidd a'r creulon genhedloedd.
5 A'r dydd hefyd yr halogasid y Deml gan y dieithraid, y digwyddodd gwneu∣thur puredigaeth y Deml yr vn dydd, sef y pummed dydd ar hugain o sis Casleu.
6 A hwy a gadwasant â llawenydd wyth niwrnod, megis ar ddydd gwyl y pe∣byll, gan gofio fel y gorfuasei iddynt ychydig o'r blaen gadw gŵyl y pebyll yn y myny∣ddoedd a'r ogfeydd, yn ôl modd anifeiliaid.
7 Am hynny hwy a gymmerasant ganghē∣nau, a cheingciau hardd, a blodau, ac a ga∣nasant psalmau i'r hwn a roddasei iddynt rwydd-deb i lanhau ei fangre [ei hun.]
8 Hwy a ordeiniasant hefyd drwy gy∣ffredin orchymmyn a deddf, bod ym mysc holl genedl yr Iddewon, gadw y dyddiau hyn [yn ŵyl] bôb blwyddyn.
9 Ac fel hyn y bu ddiwedd Antiochus a gyfenwid Epiphanes.
10 Weithian hefyd ni a fynegwn y pe∣thau a wnaethpwyd yn amser Eupator Antiochus, yr hwn ydoedd fâb y gwr an∣nuwiol hwnnw, gan grynhoi ynghŷd y drygau, y rhai oblegit rhyfeloedd a ganly∣nasant.
11 Canys hwn wedi cymmeryd arno y deyrnas a osododd ryw vn a elwid Lysi∣as, i fod yn olygwr ar [ei] fatterion, ac a'i pwyntiodd ef yn ben-capten ar Cz∣leosyria a Phenice.
12 Canys Ptolomeus yr hwn a henwa∣sid Macron (a'i fryd ar wneuthur cyfiawn∣der â'r Iddewon, oblegit y cam a wnaethei iddynt) a aeth ynghylch dwyn eu materion hwy i ben yn heddychol.
13 Am hynny efe a gyhuddwyd ger bron Eupator gan ei geraint, ac efe a alwyd yn fynych yn fradychwr, oblegit gadel o ho∣naw Cyprus, yr hon a roddasei Philome∣tor yn ei gadwriaeth ef, a myned o honaw at Antiochus Epiphanes: am hynny pan welodd nad ydoedd mewn bri ardderchog, efe a ddigalonnodd, ac a'i gwenwynodd ei hun, ac a fu farw.
14 Ond pan wnaethwyd Gorgias yn ben llywydd ar y lleoedd hyn, efe a gyflo∣godd estroniaid, ac a ryfelodd yn wastad yn erbyn yr Iddewon.
15 Yr Idumeaid hefyd a flinent yr Iddewon, gan ennill y lleoedd cedyrn, a thrwy dderbyn y rhai a yrrid ar herw o Ierusalem, hwy a ymroddasant i gadw rhyfel.
16 Am hynny, y rhai oedd gyd â Mac∣cabaeus, drwy weddio a ddeisyfiasant ar Dduw fod yn gymmorthwr iddynt, ac yna hwy a ruthrasant ar gedyrn leoedd yr Idu∣meaid.
17 I'r rhai pan redasant yn rym∣mus, hwy a ennillasant yr amddiffynfeydd, ac wedi iddynt ddal ar yr hôll rai oedd ar y gaer, hwy a laddasant y rhai a gyfar∣fyddent, ac a ddieneidiasant nid llai nag vgain mil.
18 Canys pan gyd-ffoesei naw mil o'r lleiaf i ddau gastell cadarn tros ben. gan fod ganddynt bôb peth anghenrheidiol i ddioddef y gwarchae,
19 Maccabaeus a adawodd Simon, a Ioseph, a Zaccheus hefyd, a'r rhai oedd gyd â hwynt, i amgylchu [y tyrau,] ac efe a aeth ei hun lle yr oedd mwy o eisieu.
20 Ond y rhai oedd gyd â Simon, am eu bod yn chwannog i arian, a lygrwyd ag arian gan y rhai oedd yn y tyrau: ac wedi cymmeryd deng mîl a thrugain o ddrach∣mau hwy a adawsant i rai ffoi.
21 Pan fynegwyd i Maccabaeus yr hyn a wnaethid, efe a gynhullodd ynghyd bende∣figion
Page [unnumbered]
y bobl, ac a achwynodd arnynt hwy ddarfod iddynt werthu eu brodyr am arian, gan ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn hwynt.
22 Am hynny efe a'i lladdodd hwynt wedi eu dittio o draeturiaeth, ac yn ddisymmwth efe a ennillodd y ddau dŵr hynny.
23 A chan gael llwyddiant â'i arfau yn yr holl bethau a gymmerodd ef mewn llaw, efe a laddodd fwy nag vgain mil yn y ddau amddeffynfa hynny.
24 Timotheus hefyd yr hwn a ddarfuasei i'r Iddewon ei orchfygu o'r blaen, wedi casclu llawer o luoedd dieithr, a llawer o wŷr meirch o Asia, a ddaeth megis ar fedr ennill Iudæa wrth arfau.
25 Ond ‖ 1.1477 y rhai oedd gyd â Maccabeus, pan ydoedd efe yn nessau, a droesant i we∣ddio ar Dduw, ac a danasant bridd ar eu pennau, ac a wregysasant eu lwynau â fach-liain,
26 Ac a syrthiasant i lawr wrth droed yr allor, ac a attolygasant iddo drugarhau wr∣thynt, a bod yn * 1.1478 elyn iw gelynion, a gwrth∣wynebu eu gwrthwyneb-wŷr, megis ac y raynega 'r Gyfraith.
27 Ac wedi diweddu y weddi, hwy a gym∣merasant eu harfau, ac a aethant ym mhe∣llach oddi wrth y ddinas; a phan ddaethant yn agos at eu gelynion, hwy a arhosasant ar eu pennau eu hun.
28 Yr awron pan ymddangosodd cyfodiad haul, hwy a aethant ill dau ynghŷd: y naill ran a chanddynt ynghŷd â'u rhinwedd, yr Arglwydd yn noddfa, ac yn ŵystl llwy∣ddiant, a buddugoliaeth: a'r tu arall yn gwneuthur eu llîd yn llywydd eu rhyfel.
29 A phan oedd y gâd yn dost, fe a ym∣ddangosodd i'r gelynion o'r nef, bum gŵr hardd-wychion ar feirch â ffrwynau aur, a dau o honynt a flaenorasant yr Iddewon;
30 Ac a gymmerasant Maccabeus rhyng∣ddynt, ac a'i gorchuddiasant o bob tu â'i harfau, ac a'i cadwasant yn ddiniwed: ei∣thr saethasant biccellau a mellt, yn erbyn y gelynion: am hynny wedi eu myned yn ben∣bleth gan ddallineb, ac yn llawn trallod, hwy a gwympwyd.
31 Ac fe laddwyd [o wŷr traed] vgain mil a phum cant, ac o wŷr meirch chwe∣chant.
32 Ond am Timotheus, efe a ffôdd i am∣ddeffynfa gadarn, a elwid Gazara, lle yr ydoedd Chereas yn llywydd.
33 Ond y rhai oedd gyd â Maccabeus a amgylchynasant yr amddeffynfa yn galon∣nog ‖ 1.1479 bedwar diwrnod.
34 A'r rhai oedd oddi mewn yn ym∣ddiried ynghadernid y lle, a gablasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant eiriau ffiaidd.
35 Ond pan oleuodd hi y ‖ 1.1480 pummed dydd, vgain o wŷr ieuaingc o'r rhai oedd gyd â Maccabeus, yn llosci yn eu meddyliau o blegid y cablau, a osodasant ar y gaer yn ŵrol, ac â meddwl gwylltaidd a laddasant bob vn a gyfarfyddei â hwynt.
36 Eraill yr vn modd yn dringo ar eu hôl hwynt, tra 'r oeddynt hwy yn brysur â'r rhai oedd oddi mewn, a loscafant y tyrau, ac wedi cynneu tân a loscasant y cabl-wŷr yn fyw, ac eraill a dorrasant y pyrth, ac wedi iddynt dderbyn i mewn y darn arall o'r llu, a ennillasant y ddinas,
37 Ac a laddasant Timotheus, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw geu-ffôs, a'i frawd Chereas, ac Apolophanes.
38 Wedi darfod iddynt wneuthur y pe∣thau hyn, hwy a foliannasant yr Arglwydd â hymnau, ac â rhoddi diolch, yr hwn a wnaethei bethau cymmaint i Israel, ac a roddasei iddynt yr oruchafiaeth.
PEN. XI.
1 Lysias wrth geisio ynnill Ierusalem, 8 yn cael ei yrru i ffo. 16 Llythyrau Lysias at yr Iudde∣won: 22 A'r eiddo 'r Brenin at Lysias, 27 ac at yr Iuddewon: 34 A'r eiddo y Rhufein∣wyr at yr Iuddewon.
AR fyrder o amser yn ôl hyn, Lysias ‖ 1.1481 gorchwyl-wr y bre∣nin a'i gâr, yr hwn hefyd ydoedd lywydd ar ei fatteri∣on ef, a gymmerth ddigo∣faint mawr am y pethau a wnaethid.
2 Ac wedi iddo ef gasclu ynghŷd ynghylch pedwar vgain mîl, a'r holl wŷr meirch, efe a ddaeth yn erbyn yr Iddewon, a'i frŷd ar wneuthur y ddinas yn bresswylfa i'r ‖ 1.1482 Groeg∣wŷr:
3 A gwneuthur elw o'r Deml, fel o gappe∣lau eraill y Cenhedloedd, ac ar osod ar sàl yr Arch-offeiriadaeth bôb blwyddyn.
4 Heb feddwl dim am allu Duw, ond yn ynfyd yn ei feddwl o herwydd ei fyrddiwn o wŷr traed, a'i filoedd o wŷr meirch, a'i bed∣war vgain Elephant.
5 Felly efe a ddaeth i Iudea, ac a nessa∣odd at Beth-sura, yr hon ydoedd drêf ga∣darn o fewn pum stâd at Ierusalem, ac a'i blinodd hi.
6 Ond pan glybu ‖ 1.1483 y rhai oedd gyd â Mac∣cabeus warchae o honaw ef ar yr am∣ddeffynfeydd, hwy a'r holl bobl, drwy lefain a dagrau, a weddiasant ar Dduw, ar iddo ef ddanfon Angel da i waredu Israel.
7 Yna Maccabeus, gan gymmeryd arfau yn gyntaf ei hunan, a gyssurodd eraill, i gyd-ddwyn y perygl ag ef, i helpu eu brodyr, felly hwy a ruthrasant gyd â hwynt yn ewy∣llysgar.
8 Ac fel yr oeddynt ger llaw Ierusalem, fe a ymddangosodd iddynt o'i blaen ŵr ar farch, mewn gwisc wen, yn yscwyd ei arfau euraid.
9 Yna pawb o honynt a gyd-ogoneddodd y trugarog Dduw, ac a gymmerasant galon∣nau grymmus, fel yr oeddynt barod i ym∣ladd, nid yn vnic â gwŷr, ond hefyd â'r ani∣feiliaid gwylltaf, ac i drywanu y muriau heiyrn.
10 Felly hwy a aethant rhagddynt mewn byddin, a helpwr o'r nefoedd ganddynt; o
Page [unnumbered]
blegit yr Arglwydd a gymmerasei druga∣redd arnynt.
11 A than ruthro ar eu gelynion megis llewod, hwy a laddasant vn fîl ar ddêg o wŷr traed, a mîl a chwechant o wŷr meirch, ac a yrrasant y lleill oll i ffo.
12 Llawer o honynt wedi eu clwyfo, a ddiangasant yn noethion, a Lysias ei hun a ffoes drwy gywilydd, ac felly a ddiangodd.
13 Ac fel nad oedd efe yn ŵr angall, gan fe∣ddylied ynddo ei hun pa golled a gawsei, a chan gyd-synied fod yr Hebræaid heb allel eu gorfod, am fod yr hôll-alluog Dduw yn eu helpu hwy, efe a ddanfonodd attynt,
14 Ac a'u perswadiodd hwy i ‖ 1.1484 gytuno i bôb peth rhesymol, ac [a addawodd] am hyn∣ny y denei efe ac y gyrrei y brenin i fôd yn ffafrus iddynt.
15 Yna Maccabeus a gytunodd i bob peth a ddeisyfodd Lysias, gan ofalu am y budd cyffredinol; a pha beth byn nag a scrifennodd Maccabeus at Lysias dros yr Iddewon, hynny a ganiataodd y brenin.
16 Oblegit yr oedd llythyrau wedi eu scri∣fennu at yr Iddewon oddi wrth Lysias, fel hyn: Lysias yn anfon annerch at bobl yr Iddewon.
17 Ioan ac Absalon, y rhai a yrrwyd oddi wrthych, a roddasant attafi yr atteb scrifen∣nedic, ac a ddymunasant arnafi gyflawni y pethau yr oedd hwnnw yn eu harwyddocau.
18 Am hynny pa bethau bynnag ydoedd raid eu hadrodd i'r brenin, mi a'i mynegais hwy, a pha beth bynnag a fai gyffelybol ei wneuthur, efe a'i caniadhaodd.
19 Am hynny os cedwch chwi yr ewyllys da hwn, yn y matterion hyn, îe yn ôl hyn hefyd mi a wnaf egni ar fod yn achos o ddaioni [i chwi.]
20 Ond am y pethau hyn oll ar eu pen∣nau, mi a rois orchymmyn i'r rhai'n, ac i'm cennadau inneu, i gyd-ymddiddan â chwi.
21 Byddwch iach. Y ganfed ar wythfed flwyddyn a deugain, y pedwerydd dydd ar hugain o'r mîs ‖ 1.1485 Dios-corinthius.
22 Ond llythyr y brenin ydoedd fel hyn, Antiochus frenin yn danfon annerch at ei frawd Lysias.
23 Wedi i'n tâd ni ymadel oddi ymma at y duwiau, ein ewyllys ni yw bôd preswyl∣wŷr ein teyrnas yn ddigyffro fel y gallo pawb ofalu am yr eiddo ei hun.
24 Yn gymaint ac i ni glywed i'r Idde∣won, (y rhai ni chytunent â'r cyfnewidiad a wnaethei fy nhâd yn ôl arfer y ‖ 1.1486 Groeg-wŷr, ond oedd well ganddynt eu harfer eu hun) fod yn dymuno caniadhau iddynt fyw yn ôl eu cyfreithiau eu hun.
25 O achos hynny ein ewyllys ni yw, cael o'r genedl ymma fod yn ddiderfysc, ac ni a roesom ein brŷd ar edfryd iddynt eu Teml, fel y gallont fyw yn ôl arferau eu henafiaid.
26 O achos hynny da y gwnei os dan∣foni attynt, ‖ 1.1487 a rhoi dy ddeheulaw iddynt, megis pan wypont ein meddwl ni, y by∣ddont gyssurus, ac y gallont drin yn hyfryd eu matterion eu hun.
27 Ac fel hyn yr oedd llythr y brenin at genedl yr Iddewon: Antiochus frenin, at y Cyngor, ac at yr Iddewon eraill, sydd yn danfon annerch.
28 Os iach ydych, ein dymuniant yw, iach ydym ninnau hefyd.
29 Menelaus a ddangosodd i ni, fôd eich deisyfiad chwi i droi adref, ac i drin eich matterion eich hun.
30 Am hynny y sawl a ymadawant, a gânt addewid ffyddlon, drwy ddiofalwch hyd y decfed dydd ar hugain o fis ‖ 1.1488 Xanthi∣cus:
31 Fel y gallo yr Iddewon fwynhau eu bwydydd eu hunain, a'i cyfreithiau, megis o'r blaen, ac na chaffo neb o honynt flinder am bethau a wnelid yn amryfus.
32 Ac mi a yrrais hefyd Menelaus i'ch cyssuro chwi.
33 Byddwch iach. Y ganfed ar wythfed flwyddyn a deugain, a'r pymthecfed dydd o fis Xanthicus.
34 Danfon hefyd a wnaeth y Rhufein∣wŷr lythr attynt yn cynnwys y geiriau hyn. QVINTVS Memmius, Titus Manlius, ‖ 1.1489 cennadau y Rufein-wŷr, at bobl yr Idde∣won, sydd yn danfon annerch.
35 Y pethau a ganhiataodd Lysias carwr y brenin i chwi, yr ydym ninnau hefyd yn eu caniadhau.
36 Eithr am y pethau y mae efe yn barnu eu bod iw rhoi ar y brenin; gyrrwch yn fuan ryw vn, ‖ 1.1490 i ystyried y pethau hyn, fel y ga∣llom ni fynegi y modd a fyddo addas i chwi, canys yr ydym ni yn myned i Antiochia.
37 Am hynny bryssiwch a gyrrwch ryw rai, fel y gallom ŵybod eich meddwl.
38 Byddwch iach. Y ganfed ar wythfed flwyddyn a deugain, a'r pymthecfed dydd o fîs Xanthicus.
PEN. XII.
1 Rhaglawiaid y Brenin yn blino 'r Iuddewon. 3 Gwyr Ioppe yn boddi deu-cant o Iuddewon. 6 Dial Iudas arnynt hwy; 11 Ac ynteu yn he∣ddychu â'r Arabiaid, 16 ac yn ynnill Caspis. 22 Gorchfygu lluoedd Timotheus.
WEdi gwneuthur yr ammo∣dau hyn, Lysias a aeth at y brenin, a'r Iddewon oedd∣ynt ynghylch eu hwsmon∣naeth.
2 Ond o'r llywodraeth-wŷr ar amryw leoedd, Timotheus, ac Apolonius [mab] Genneus, hefyd Hieronymus, a De∣mophon, ac heb law 'r rhai'n Nicanor pen∣naeth Cyprus, ni ddioddefent iddynt orphy∣wys a byw yn llonydd.
3 Gwyr Ioppe hefyd a ddibennasant y weithred annuwiol, hwy a ddymunasant ar yr Iddewon oedd yn trigo gyd â hwynt, ar iddynt hwy, a'i gwragedd, a'i plânt fy∣ned i yscraff a barotoesent hwy, megis pe buasei heb fod creulondeb calon yn eu her∣byn hwynt.
4 Felly yn ôl cyfundeb y ddinas, hwy a
Page [unnumbered]
fuant fodlon i'r peth, fel gwŷr yn dymu∣no heddwch, ac heb ddrwg-dybied dim; ond wedi iddynt fyned i'r dyfnder, hwy a foddasant o honynt nid llai nâ dau cant o wŷr.
5 Pan glybu Iudas wneuthur creu∣londeb yn erbyn gwŷr ei wlad, efe a or∣chymynnodd i'r gwŷr oedd gyd ag ef eu gwneuthur eu hunain yn barod.
6 Ac wedi galw ar Dduw y Barn-wr cyfiawn, efe a ddaeth yn erbyn lladdwŷr ei frodyr ac a loscodd y borthladd o hŷd nôs, ac a loscodd yr yscraffau, ac a laddodd y rhai a ffoesent yno.
7 A phan oedd y drêf wedi ei chau o amgylch, efe a aeth yn ei ôl megis ar fedr dyfod eilwaith a diwreiddio allan yr holl rai o ddinas Ioppe.
8 Ond pan ddeallodd efe fod y Iam∣niaid ar fedr dwyn i ben yr vnrhyw beth yn erbyn yr Iddewon oedd yn trigo gyd â hwynt,
9 Efe a ddaeth am ben y Iamniaid hefyd o hŷd nôs, ac a loscodd y porthladd a'r llongau, yn gymmeint ac y gwelwyd llewyrch y tân hyd yn Ierusalem, ddeu∣cant a deugain ystâd oddi yno.
10 A phan aethant oddi yno naw stâd, yn eu taith yn erbyn Timotheus, fe a ru∣throdd o'r Arabiaid arno ef, nid llai nâ phum mîl [o wŷr traed,] a phum cant o wyr meirch.
11 A hwy a ymladdasant yn dôst; eithr rhyfelwŷr Iudas trwy gymmorth Duw a gawsant y fuddugoliaeth, felly y Noma∣deaid o Arabia wedi eu gorchfygu, a ddei∣syfiasant ‖ 1.1491 ar Iudas roi ei ddeheulaw iddynt, dan addo rhoi iddo anifeiliaid, a bôd yn fuddiol iddo ef mewn pethau eraill.
12 A Iudas yn tybied y byddent fu∣ddiol iddo mewn llawer o bethau, a gani∣adhaodd iddynt heddwch, a phan yscydwa∣sant ddwylo, hwy a ‖ 1.1492 ymadawsant iw pe∣byll.
13 Efe a ddaeth hefyd am ben rhyw ddinas wedi ei chadarnhau â phont, a'i chwmpas∣su â chaerau, yr hon a gyfanneddid gan lawer o genhedloedd cymmyscedig, yr hon a elwid Caspis.
14 Ond y rhai o'i mewn yn hyderu yng∣hadernid eu caerau, ac yn eu stor o fwydydd, a fuant ‖ 1.1493 anniesceulus, ac a ymserthasaut â'r rhai oedd gyd â Iudas, ac a'i cablasant hwy, ac a ddywedasant eiriau anghyfreith∣lawn eu dywedyd.
15 Am hynny Iudas a'r rhai oedd gyd ag ef, gan alw ar bennadur mawr y byd, (yr hwn heb na hyrddod, na offer rhyfel, a fwriodd i lawr Iericho yn amser Iosua) a ruthrasant yn awchus yn erbyn y cae∣rau.
16 Ac a orchfygasant y ddinas trwy ewy∣llys Duw, ac a wnaethant laddfa anguriol, yn gymmeint a bôd llyn ger llaw, yr hwn oedd ddau stâd ô lêd, wedi colli gwaed ynddo, hyd onid oedd yn llawn.
17 Hwy a aethant oddi yno seith-gant a dêc a deugain o stadiau, ac a ddaethant i Characa, at yr Iddewon a elwir Tu∣bieni.
18 Ond yn wir ni chawsent afael ar Ti∣motheus yn y lleoedd hynny, oblegit efe a aethei ymmaith oddi yno heb ddwyn dim i ben: ond efe a adawsei lu mewn rhyw amddeffynfa, yn gryf iawn tros ben.
19 Etto Dositheus a Sosipater, y rhai oedd o gapteniaid Maccabaeus, a aethant rhag∣ddynt, ac a laddasant o'r rhai a adawsei Ti∣motheus yn yramddiffynfa, fwy nâ deng-mil o wŷr.
20 Maccabaeus a osododd ei lu yn fintei∣oedd, ac a'i gosododd ‖ 1.1494 hwynt ar y minteioedd, ac a aeth yn erbyn Timotheus, yr hwn yr oedd yn ei gylch gant ac vgain mil o wŷr traed, a dwy fîl a phum cant o wŷr meirch.
21 Ond Timotheus pan gafodd ŵybo∣daeth o ddyfodiad Iudas, a ddanfonodd y gwragedd, a'r plant, a'r glud arall, i'r am∣ddeffynfa a elwir Carnion, oblegit y lle hwnnw oedd anhawdd ei gwmpasu, a dy∣fod i mewn iddo, a achos y cyfyng-leoedd o bôb-tu.
22 Eithr pan ymddangosodd blaen câd Iudas, y gelynion, wedi eu taro ag ofn a dychryn (trwy ymddangosiad yr vn sydd yn gweled pob peth) a ffoesant am yr enioes, gan redeg y naill ymma, ar llall accw, fel y cawsant yn fynych eu clwyfo gan eu pobl eu hunain, a'i gwanu â blaen eu cleddyfau eu hunain.
23 Am hynny yr erlidiodd Iudas yn do∣stach, ac y gwanodd efe y rhai halogedic hynny, hyd oni laddodd efe o honynt yng∣hylch deng-mîl ar hugain o wŷr.
24 Hefyd, Timotheus ei hunan a syrthi∣odd yn nwylo Dositheus a Sosipater, a thrwy fawr ddichell a ddeisyfiodd arnynt ei ollwng ef yn rhydd yn fyw, am fod tan ei law ef dadau llawer o'r Iddewon, a brodyr rhai o honynt, ac y digwyddei na byddei gyfrif am y rhai hynny os lleddid ef.
25 Felly pan roessei efe iddynt sicrwydd trwy laweroedd o eiriau, ar iddo ef eu rhyddhau hwynt heb niwed, yn ôl y cyttun∣deb, hwy a'i gollyngasant ef yn rhydd er mwyn iechydwriaeth eu brodyr.
26 Yna yr aeth Maccabaeus yn erbyn Car∣nion, a theml ‖ 1.1495 Atargatis, ac a laddodd yno bum mîl ar hugain o wŷr.
27 Ac wedi iddo eu gyrru i ffoi a'i dini∣strio hwynt, efe a symmudodd ei lu yn er∣byn Ephron, tref gadarn, yn yr hon yr oedd Lysias yn aros, a lliaws mawr o amryw genhedloedd, a'r gwŷr ieuainge grymmus a gadwasant y caerau, ac a'u hamddeffynna∣sant yn bybyr; lle yr oedd hefyd fawr barod∣rwydd o offer rhyfel a phiccellau.
28 Ond wedi ‖ 1.1496 iddynt alw ar yr Holl∣alluog Dduw (yr hwn sydd â'i nerth yn gwanhau grym ei elynion) hwy a en∣nillasant y ddinas, ac a laddasant o'r rhai oedd ynddi bum mîl ar hugain.
Page [unnumbered]
29 Ac oddi yno yr aethant i Scythopo∣lis, yr hon sydd oddi wrth Ierusalem chwe chant stâd.
30 Ond wedi i'r Iddewon oedd yno yn presswylio dystiolaethu mor dda oedd ewyllys y Scythopoliaid tu ag attynt, ac mor garedig a fuasent hwy iddynt, yn am∣seroedd eu blin-fyd;
31 Hwy a roesant ddiolch iddynt, gan ddeisyf arnynt fôd yn gymmwynasgar iw cenedl rhag llaw; ac felly am fôd yn gyfa∣gos ŵyl yr wythnosau, hwy a ddaethant i Ierusalem.
32 Ac wedi yr wyl a elwir Pentecost, hwy a aethant yn erbyn Gorgias ‖ 1.1497 capten Idumæa,
33 Yr hwn a ddaeth allan â their-mil o wŷr traed, ac â phedwar-cant o wŷr meirch.
34 Ac fe ddigwyddodd, wrth ymladd o ho∣nynt ynghyd, ladd ymbell vn o'r Iddewon.
35 Ar yr hwn amser Dositheus, vn o lu Bacenor, yr hwn oedd ar farch, ac yn wr grymmus, a ddaliodd Gorgias, ac a'i llus∣codd ef yn rymmus erbyn ei gochl: ond ac efe a'i ewyllys ar ddal y gwr melldigedig hwnnw yn fyw, fe ddaeth arno ef ryw ŵr march o Thracia, ac a dorrodd ymmaith ei ‖ 1.1498 yscwydd ef, fel y diangodd Gorgias i Marisa.
36 A phan oedd y rhai oedd ‖ 1.1499 o amgylch yn ddeffygiol i ymladd chwaneg, Iudas a alwodd ar yr Arglwydd ar iddo ef ei ddan∣gos ei hunan yn helpwr iddynt, ac yn flae∣nor i'r gâd.
37 Ac ar hynny efe a ddechreuodd yn ei iaith ei hun, ac a ganodd psalmau â llêf vchel, a chan ruthro yn ddisymmwth am ben rhyfelwŷr Gorgias, efe â'i gyrrodd hwy i ffoi.
38 Felly Iudas, dan gasclu ei lu, a ddaeth i ddinas Odolam. A phan ddaeth y seithfed dydd, fel yr oedd yr arfer, hwy a'i glanhasant eu hunain, ac a gadwasant y dydd Sabboth yn y lle hwnnw.
39 A'r ail dydd, fel yr oedd anghenrhaid, Iudas a'i lu a ddaethant i ddwyn ymmaith gyrph y rhai a laddasid, ac iw claddu hwynt gyd â'i cyfneseifiaid, ym meddau eu tadau.
40 Yr awron tan beisiau pob vn o'r rhai a laddasid, hwy a gawsant bethau wedi eu cyssegru i eulynnod y Iamniaid, yr hyn sydd waharddedig i'r Iddewon yn ôl y Gy∣fraith: yna fe welodd pawb mai hyn oedd yr * 1.1500 achos pa ham y lladdesid hwy.
41 Yna pawb a roes ddiolch i'r Arglwydd y barnwr cyfiawn, yr hwn a wnaethei y pe∣thau cuddiedig yn amlwg:
42 Ac a droesant at eugweddi, ac a ddeisy∣fiasant arno ef, ddileu yn gwbl y pechod a wnaethent: a Iudas ardderchawg a gyng∣horodd i'r gynnulleidfa ymgadw yn lân oddi wrth bechod, gan iddynt weled â'i llygaid y pethau a ddaethei i ben am bechod y rhai a laddasid.
43 Ac wedi iddo ddarpar treth o ddwy∣fil o ddragmau o arian, efe a ddanfonodd i Ierusalem i offrymmu aberth dros bechod: gan wneuthur yn dda ac yn onest, o achos ei fod yn meddwl am yr adgyfodiad:
44 (Oblegit oni buasei iddo ef obeithio adgyfodiad y rhai a laddesid, afraid ac ofer fuasei weddio tros y meirw.)
45 A hefyd am iddo ddeall fôd ffafor yng∣hadw i'r rhai a fuasei feirw yn dduwiol: (sanctaidd a duwiol oedd y meddwl) trwy hyn efe a wnaeth gymmod tros y meirw, fel y rhyddheid hwy oddi wrth bechod.
PEN. XIII.
1 Eupator yn gosod ar Iudæa. 15 Iudas liw nos yu lladd llawer. 18 Difuddio amcan Eupator; 23 ac ynteu yn heddychu â Iudas.]
YN y ganfed a'r nawed flwy∣ddyn a deugain, y daeth y gair at Iudas, fod Antio∣chus Eupator yn dyfod â gallumawr i Iudæa:
2 A chyd ag ef Lysias ei orchwyliwr, a llywydd ei fatterion, a chan bob vn o honynt, yn ei lu, o'r Groegwŷr, gant a dengmîl o wŷr traed, a ‖ 1.1501 phum mîl o wŷr meirch, a dau Elephant ar hugain, a thry-chant o gerbydau bachog.
3 Ac fe a ymgysylltodd attynt Menela∣us hefyd; a thrwy fawr watwar a gyngho∣rodd Antiochus, nid er diogelwch i'r wlâd, ond o herwydd iddo feddwl cael bôd ei hun yn bennadur.
4 Ond Brenin y brenhinoedd a gynhyr∣fodd feddwl Antiochus yn erbyn y [gŵr] sceler hwn, a phan ddangosodd Lysias i'r brenin mai hwn oedd achos yr holl ddrygi∣oni, efe a orchymynnodd, fel yr oedd yr arfer yn y lle hwnnw, ei ddwyn ef i Berea, a'i ddifetha ef.
5 Y mae hefyd yn y lle hwnnw dŵr o ddêc cufydd a deugain o vchder, yn llawn o ludw, yn yr hwn yr oedd rhyw offeryn crwn, o bôb tu yn llithro i lawr ar y lludw.
6 Yno y gyrrei pawb i farwolaeth y nêb a fernid yn euog o gyssegr-ladrad, a'r nêb a wnaethei weithredoedd drwg eraill.
7 O'r farwolaeth ymma y digwyddodd i'r gŵr annuwiol hwnnw farw, heb gael cymmaint a daiar iw gorph, a hynny yn wir gyfiawn.
8 Canys yn gymmeint ac iddo ef wneu∣thur llawer o bechodau ynghylch yr allor oedd a'i thân a'i lludw yn sanctaidd, efe a ddioddefodd farwolaeth mewn lludw.
9 Yr awron y brenin a ddaeth â meddwl gwyllt a balch, i wneuthur rhyw ddialedd ar yr Iddewon, yr hwn ni's gwnaethid er∣ioed yn amser ei dâd.
10 Ond pan ŵybu Iudas hynny, efe a orchymynnodd i'r lliaws alw ar yr Argl∣wydd ddydd a nôs, os helpiasei ef hwynt am∣ser arall erioed, ar iddo yn awr helpio y rhai oedd debyg i golli eu cyfraith, eu gwlad, a'i Teml sanctaidd:
11 Ac na adawei efe y bobl a gawsent yr awron ychydig lonyddwch, iw darost∣wng i'r Cenhedloedd cablgar.
Page [unnumbered]
12 Ac wedi i bawb o honynt gyd-wneu∣thur yr vn peth, ac ymbil â'r Arglwydd tru∣garog, drwy wylofain, ac vmpryd, dan or∣wedd ar y llawr dri diwrnod yn ddibaid, Iu∣das a'u cynghorodd hwy, ac a orchymyn∣nodd iddynt fôd yn barod.
13 Ac fel yr oedd efe gyd â'r Henuriaid o'r nailldu, efe a fwriadodd, cyn i lu y brenin ruthro i Iudea, a chael meddiannu y ddinas, fyned o honynt hwy allan a phrofi y matte∣rion [mewn ymdrech] trwy help yr Argl∣wydd.
14 Felly gan orchymmyn [y cwbl] i ‖ 1.1502 Gre∣awdwr y byd, efe a gynghorodd i'r nêb oedd gyd ag ef ymladd yn rymmus, hyd farwo∣laeth, yngh weryl eu cyfreithiau, eu Teml, eu gwlâd, a'u cyfoeth cyffredin, ac a werssyllodd wrth Modin.
15 Yna wedi rhoddi o honaw ef iw ryfel∣wŷr yn arwydd, Goruchafiaeth sydd o Dduw; gyd â'r gwŷr ieuaingc gwrolaf a dewisol, efe a aeth liw nôs i babell y brenin, ac a laddodd yn y gwersyll ynghylch ‖ 1.1503 dwy fîl o wŷr, a'r pennaf o'r Elephantiaid, a'r hyn oll oedd ar∣no ef.
16 Ac o'r diwedd hwy a lanwasant yr hôll wersyll ag ofn, a thrallod, ac a ymada w∣sant yn llwyddianus.
17 Hyn a wnaethpwyd ar y boreu-ddydd, am fod amddeffyn yr Arglwydd yn ei gyn∣northwyo ef.
18 Yr awron pan gafodd y brenin brawf o hyfder yr Iddewon, efe a aeth ynghylch en∣nill yr amddeffynfeydd trwy gyfrwysdra,
19 Ac a aeth i Bethsura, amddeffynfa ga∣darn yr Iddewon, ond efe a yrrwyd i ffoi, a dramgwyddodd, ac a wanhawyd.
20 Canys Iudas a ddanfonasei i'r rhai oedd ynddi, y cyfryw bethau ac oedd anghen∣rheidiol.
21 Ond Rhodocus, o lu yr Iddewon a ddatcuddiodd y cyfrinachau i'r gelynion, am hynny hwy a chwiliasant am dano, a phan y cawsant ef, hwy a'i rhoesant ynghar∣char.
22 Y brenin a ymddiddanodd yr ail waith â hwynt yn Bethsura, a roes ei law ei hun, a gymmerth eu rhai hwythau, a aeth ymmaith, a ymladdodd â Iudas, a orchfyg∣wyd.
23 A phan ŵybu wrthryfela o Philip, yr hwn a adawsid ar y matterion yn Antio∣chia, efe a gywilyddiodd, a ymbiliodd â'r Iddewon, a ymostyngodd, ac a dyngodd [iddynt] ym mhôb peth cyfiawn, a dangnhe∣ddefodd, a offrymmodd aberth, a anrhyde∣ddodd y Deml, ac a fu gymmwynasgar i'r lle;
24 Ac a gofleidiodd Maccabeus, a'i gwn∣aeth ef yn llywodraeth-ŵr pennaf a'r Ptole∣mais hyd y Gerrheniaid,
25 A ddaeth i Ptolemais; yr oedd yn an∣fodlon gan bôbl Ptolemais yr ammodau, ca∣nys hwy a ffrommasant o herwydd eu bôd hwy yn chwennych torri eu hammodau:
26 Lysias a aeth i fynu i'r orseddfa; a amdde∣ffynnodd y weithred yn drefnus, a'i ennill∣odd, a'i llonyddodd, a'i gwnaeth hwynt yn eŵyllysgar, a ddychwelodd i Antiochia. Fal hyn y damweiniodd taith y brenin a'i ddych∣weliad.
PEN. XIIII.
6 Alcimus yn achwyn ar Iudas. 18 Nicanor yn heddychu â Iudas: 39 Ac yn ceisio dala Rha∣sis. 46 ac ynteu yn ei ladd ei hun, rhag ei ddal yn fyw.
YN ôl tair blynedd y daeth y gair at Iudas, fod Demetrius mâb Seleucus, wedi dyfod i mewn trwy borthladd Tripo∣lis, â chynnulleidfa rymmus, ac â llongau,
2 Orescyn y wlâd, a lladd Antiochus a'i orchwyliwr Lysias.
3 Yr awron vn Alcimus, yr hwn a fuasei yn Arch-offeiriad, ac o'i wirfodd a ymddifwy∣nasei yn amseroedd eu cymmysciad [â'r Cen∣hedloedd,] pan dybiodd nad ydoedd help iddo, na bod yn rhydd mwyach fyned i'r allor sanctaidd,
4 A ddaeth at frenin Demetrius, yn y ganfed a'r vnfed flwyddyn ar ddêc a deugain, gan roddi iddo goron o aur, a phalmwydden, a hefyd o'r ceingciau a ‖ 1.1504 arferid arwyliau yn y Deml, a'r dydd hwnnw efe a dawodd â sôn.
5 Ond pan gafodd efe amser cyfaddas iw ynfydrwydd, [a] chael gan Demetrius alw am dano ef i'r cyngor, a gofyn iddo ym mha gyflwr a pha gyngor, yr oedd yr Iddewon yn sefyll, efe a attebodd i hynny.
6 Y rhai o'r Iddewon a elwir Asideaid, ar ba rai y mae Iudas Maccabeus yn gap∣ten, sydd yn magu rhyfel, ac ymryson, ac ni adawant i'r deyrnas fôd yn heddychol.
7 O herwydd hynny myfi, wedi fy espeilio am anrhydedd fy henafiaid, (yr ŵyf yn medd∣wl yr Archoffeiriadaeth) yr awron a ddaeth∣ym ymma;
8 Yn gyntaf, yn wîr oblegit bod gennif feddwl ffyddlon at y pethau a berthyn i'r bre∣nin; yn ail oblegit fy môd yn ymroddi i gei∣sio budd i'm dinaswŷr; oblegit y mae an∣rheswm y rhai y dywedwyd am danynt yn blino nid ychydig ar ein holl genedl ni.
9 Am hynny ô frenin, gan dy fod ti yn gwybod yr hôll bethau hyn, cymmer ofal tros y wlâd, a'n cenedl ni, yr hon sydd mewn ing, â'r fâth fwynder ac yr wyt ti yn ei ddangos i bawb.
10 Oblegit tra fyddo Iudas yn fyw, nid yw bossibl i'r matterion gael heddwch.
11 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, yn y fan cyfeilliō eraill, y rhai oedd mewn gelyniaeth â Iudas, a enynnasant Ddemetrius yn fwy.
12 Ac yn ebrwydd gan alw Nicanor, yr hwn a fuasei yn llywydd ar yr Elephanti∣aid, a'i wneuthur ef yn llywodraeth-wr ar Iudea, efe a'l gyrrodd allan,
13 Gan roi iddo ‖ 1.1505 lythyrau i ladd Iudas, ac i yrru y rhai oedd gyd ag ef ar wascar, ac i wneuthur Alcimus yn Arch-offeiriad i'r Deml fawr.
14 Yna y cenhedloedd, y rhai a ffoe∣sent o Iudea oddi wrth Iudas, a ymgas∣clasant
Page [unnumbered]
yn dyrfaoedd at Nicanor, gan dybied fod blinder a chwymp yr Iddewon yn llwy∣ddiant iddynt hwy.
15 Ond pan glybu yr Iddewon ddyfod Nicanor, ac ymgasclu o'r cenhedloedd yn eu herbyn, hwy a daflasant ddaiar ar eu pen∣nau, ac a weddiasant ar yr hwn a siccrhasei ei bôbl tros byth, ac sy yn amddeffyn ei ran ei hun bôb amser, trwy amlygu ei bresen∣noldeb.
16 Felly wrth orchymmyn y capten, yn y fan hwy a symudasant oddi yno, ac a gyfar∣fuant â hwynt wrth drêf ‖ 1.1506 Dessaro.
17 Yr awron Simon brawd Iudas a gy∣farfuasei â Nicanor mewn rhyfel, ond fe a synnodd arno ef beth wrth ddisymmwth ddistawrwydd y gelynion.
18 Er hynny pan glybu Nicanor ddewr∣der y rhai oedd gyd â Iudas, a'i gwrol∣deb i ymdrech ynghweryl eu gwlâd, efe a ofnodd ddibennu y matter trwy ryfel.
19 Am hynny efe a ddanfonodd Posidoni∣us, a Theodotus a ‖ 1.1507 Matthias i wneuthur tangneddyf.
20 Ac wedi cymmeryd o honynt hîr gyngor am y pethau hyn, ac i'r capten wneuthur y lliaws yn gydnabyddus â hwynt, ac ymddangos eu bôd hwy o'r vn meddwl, hwy a gytunasant i'r ammo∣dau,
21 Ac a luniasant ddiwrnod, a phan ddaeth y dydd i ddyfod ynghyd yn gyfrinachol, ac ystolion wedi eu gosod i bôb vn o honynt,
22 Iudas a osododd wŷr arfog yn barod mewn lleoedd cyfleus, rhag i'r gelynion wneuthur rhyw fradwriaeth yn ddisym∣mwth; felly hwy a wnaethant gyd-ymre∣symmiad heddychol.
23 Yna y trigodd Nicanor yn Ierusa∣lem, ac heb wneuthur niwed efe a ollyng∣odd ymmaith y bobl a ymgasclasei atto ef yn gadfeydd.
24 Ac efe a fynnei Iudas bob amser yn ei olwg; canys yr oedd efe yn caru y gŵr yn ei galon.
25 Ac efe a ddeisyfiodd arno briodi, ac en∣nill plant; felly efe a briododd, a fu lonydd, ac ‖ 1.1508 a gymmerth ran o'r bywyd ymma.
26 Eithr Alcimus pan ganfu efe ewyllys da 'r naill at y llall, ac ystyried yr ammodau a wnaethid, a ddaeth at Demetrius, ac a ddywedodd fod Nicanor yn ymyrryd mewn matterion dieithr: canys Iudas [eb efe] yr hwn oedd yn cynllwyn am ei frenhiniaeth ef, a ordeiniodd efe i fod ar ei ôl.
27 Yna y brenin mewn llidiawgrwydd, ac wedi ei annog trwy achwynion y gŵr llŵyr-ddrwg hwnnw, a scrifennodd at Ni∣canor, gan ddywedyd ei fod efe yn dra anfod∣lon i'r ammodau, a chan orchymmyn iddo ddanfon Maccabeus ar frys yn garcharor i Antiochia.
28 Pan ddaeth hyn at Nicanor, fe a'i cyth∣ryblwyd ef ynddo ei hun yn aruthr, a blin fu ganddo orfod iddo wneuthur yn ofer yr am∣modau a fuasei rhyngddynt, a'r gŵr heb fod ar fai yn y bŷd.
29 Ond o ran nad oedd gymmwys wrth∣wynebu 'r brenin, efe a wiliodd amser cyfa∣ddas i ddwyn hyn i ben drwy gyfrwysdra.
30 Ond pan welodd Maccabeus fod Ni∣canor yn afrywiogach wrtho, a'r gyfeillach arferol yn ddrengach, efe a ddeallodd na ddaeth yr afrywiogrwydd hwnnw o'r meddwl goreu; am hynny efe a gasclodd lawer o'r rhai oedd yn ei gylch ef, ac a ym∣naillduodd oddi wrth Nicanor.
31 Y llall hefyd, gan ŵybod achub ei flaen yn odidog trwy gyfrwysdra Iudas, a ddaeth i'r Deml fawr sanctaidd, ac a orchymynnodd i'r offeiriaid oedd yn offrym∣mu yr ebyrth cyfaddas, roddi y gŵr iddo ef.
32 Ond pan dyngasant na ŵyddent pa le yr oedd y gŵr yr oedd efe yn ei geisio,
33 Efe a estynnodd ei ddeheulaw tu a'r Deml, ac a dyngodd fel hyn; oni roddwch chwi Iudas i mi ‖ 1.1509 yn rhwym, mi a wnaf y Deml hon i Dduw yn gyd-wastad â'r lla∣wr, ac a dorraf i lawr yr allor, ac a adei∣ladaf yma Deml odidog i Bacchus.
34 Ac yn ôl y geiriau hyn, efe a aeth ym∣maith; yna 'r Offeiriaid a godasant eu dwy∣lo tu a'r nêf, ac a alwasant ar yr hwn a fuasei erioed yn ymddeffynnwr iw cenhedl hwy, gan ddywedyd fel hyn,
35 Ti Arglwydd pôb peth, yr hwn nid oes arnat eisieu dim, a welaist yn dda fôd Teml dy breswylfa yn ein plith ni.
36 Am hynny yn awr, o Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw byth y tŷ yma yn ddihalog, yr hwn yn ddiwe∣ddar a lanhawyd, o chae bob genau ang∣hyfiawn.
37 Yna fe a gyhuddwyd i Nicanor, Rasis vn o henuriaid Ierusalem, gŵr yn caru y ddinas; ac o enw da, yr hwn am ei ewyllys da, a elwid yn dâd i'r Iddewon:
38 Canys yn yr amseroedd o'r blaen, pan oeddynt heb eu cymmyscu eu hunain â'r Cenhedloedd, efe a gyhuddasid o grefydd Iddewig, ac yn hŷf a gynnygiodd dreulio ei gorph a'i enioes yn ddianwadal er mwyn crefydd yr Iddewon.
39 Am hynny Nicanor gan ewyllysio dangos yn eglur ei greulondeb yn erbyn yr Iddewon; a ddanfonodd chwaneg i bum-cant o ryfel-wŷr iw ddal ef.
40 Canys efe a dybiodd wrth ei ddal ef, y gallei efe ddwyn dinistr [ar yr Iddewon]
41 Ond pan oedd y dorf a'i bryd ar ennill y tŵr, ac wrth gryfder ar dorri i mewn i'r drws nesaf allan, ac yn peri cyrchu tân iw losci: efe, pan oeddent o bob tu yn ymyl ei ddal, a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun;
42 Gan fod yn well ganddo farw yn ŵrol. nâ'i ddarostwng tan y rhai sceler hynny, a goddef traha anweddaidd iw fonedd ef.
43 Ond pan fethodd ganddo ef gael ei ddyrnod yn vniawn, a'r lliaws hefyd yn rhu∣thro i mewn i'r drysau, efe a redodd yn hyf i'r gaer, ac a'i bwriodd ei hun yn wrol bendra-mwnwgl ym mysc y dorf.
Page [unnumbered]
44 Ond pan giliasant hwy yn fuan yn ôl, ac ymrannu, efe a syrthiodd i lawr i'r gwâg-le.
45 Er hynny ac efe etto yn fyw, yn llosci o lid, efe a gododd i fynu, ac er bôd ei waed yn rhedeg fel ffrydau, a'i weliau yn ofidus, etto efe a redodd drwy ganol yr ymwasc, ac a sa∣fodd ym mhen craig vchel.
46 Wedi yr awron colli ei waed oll, efe a dynnodd allan ei berfedd, ac a'i cymmerth hwy yn ei ddwylo, ac a'i taflodd at y dyrfa: a chan alw ar Arglwydd y bywyd, a'r yspryd, ar iddo eu rhoddi hwynt iddo drachefn, efe a fu farw fel hyn.
PEN. XV.
1 Cabledd Nicanor. 8 Iudas yn rhoi calon yn ei wyr trwy ddangos ei freuddvvyd iddynt. 28 Lladd Nicanor.
ONd Nicanor wrth glywed fôd Iudas a'i lu yn nhuedd∣au Samaria, a ymrodd heb ddim perygl i ddyfod ar eu huchaf hwy ar y dydd Sab∣both.
2 Er hynny, yr Iddewon, y rhai a gym∣hellwyd iw ganlyn, a ddywedasant, ô na ddestrywia mor greulon, ac mor annrhuga∣rog: eithr dyro anrhydedd i'r dydd, yr hwn y darfu i'r hwn sydd yn gweled pôb peth, ei anrhydeddu â sancteiddrwydd, vwch law [dyddiau eraill.]
3 Yna y dŷn sceler ymma a ofynnodd, a ydoedd vn Galluog yn y nef, yr hwn a or∣chymynnasei gadw y dydd Sabboth.
4 A phan attebasant, y mae yn y nêf Ar∣glwydd bywiol galluog, yr hwn a orchymyn∣nodd gadw y seithfed dydd,
5 Yna eb y llall, a minneu hefyd wyf alluog ar y ddaiar, ac yr wyf yn gorchymyn i chwi gymmeryd arfau, a dwyn i ben fatte∣rion y brenin: er hynny ni allei efe ddwyn i ben ei annuwiol amcan.
6 Felly Nicanor, gan ymdderchafu â mawr falchedd, a rodd ei frŷd ar wneuthur côf o'r oruchafiaeth a gaffei efe ar Iudas, a'r rhai oedd gyd ag ef.
7 Ond Maccabeus oedd bôb amser yn ymddiried trwy fawr obaith y byddei'r Ar∣glwydd yn amddeffynnwr iddo.
8 Am hynny efe a gynghorodd ei wŷr nad ofnent ddyfodiad y Cenhedloedd yn ei her∣byn, ond gan fod yn eu côf y cynnorthwy a gawsent o'r blaen o'r nef, edrych o honynt yn awr hefyd am yr oruchafiaeth a'r cym∣morth a ddeuei iddynt oddi wrth yr Holl∣alluog.
9 Ac felly gan eu cyssuro hwy allan o'r Gyfraith, a'r prophwydi; ac am ben hynny gan gofio iddynt y rhyfeloedd a wnaethent o'r blaen yn llwyddianus, efe a'i gwnaeth hwy yn llawenach.
10 Ac wedi iddo godi calonnau ynddynt, efe a roddes iddynt eu siars, gan ddangos he∣fyd iddynt ffalster y Cenhedloedd, a thorriad eu llwon.
11 Felly efe a arfogodd bob vn o honynt nid yn gymmaint â diogelwch tariannau a gwaywffyn, ac â chyssur trwy eiriau da: a hefyd efe a ddangosodd iddynt freuddwyd credadwy, ac a'i llawenychodd yn fawr.
12 A hyn ydoedd ei weledigaeth ef; fôd Onias, yr hwn a fuasei yn Arch-offeiriad, gŵr rhinweddol a da, parchedig o ymarwe∣ddiad, addfwyn o naws, ymadroddus hefyd, ac wedi llafurio er yn fachgen ym mhob pwngc o rinwedd, yn codi ei ddwylo, ac yn gweddio tros holl gorph yr Iddewon.
13 Pan ddarfu hyn, yn yr vn ffunyd fe a ymddangosodd iddo ŵr pen-llwyd, yn rha∣gori mewn gogoniant, yr hwn oedd o ry∣feddol a rhagorol fawredd.
14 Yna 'r attebodd Onias gan ddywedyd; dymma vn sydd hoff ganddo y brodyr, yr hwn sydd yn gweddio llawer tros ŷ bobl a'r ddi∣nas sanctaidd, sef, Ieremias Prophwyd Duw.
15 Ar hynny, fe a estynnodd Ieremias ei ddeheulaw, ac a roddodd i Iudas gleddyf aur, ac wrth ei roddi a ddywedodd fel hyn.
16 Cymmer y cleddyf sanctaidd ymma, rhodd Duw, â'r hwn yr archolli di dy wrth∣wyneb-wŷr.
17 Fel hyn wedi eu cyssuro yn dda trwy eiriau Iudas, y rhai oedd dda iawn a ner∣thol iw cynnhyrfu at wroldeb, ac i gyssuro calonnau y gwŷr ieuaingc, hwy a fwriada∣sant na wersyllent, ond y gosodent hwy ar∣nynt yn rymmus, ac yn wrol y dibennent y matter law i law, yn gymmeint â bôd y ddinas, y Cyssegr, a'r Deml mewn pe∣rigl.
18 Canys yr oedd y gofal a gymerasant hwy am eu gwragedd, a'i plant, eu brodyr, a'i ceraint, yn y cyfrif lleiaf gyd â hwynt: ond yr ofn mwyaf a'r pennaf oedd am y Deml sanctaidd.
19 Hefyd yr oedd yn fawr gofal y rhai oedd yn y ddinas, dros y llu ydoedd allan mewn ymdrech.
20 Ac fel yr oedd pawb yn disgwil beth a fyddei 'r diben, a'r gelynion weithian wedi nessau, a'r llu wedi ymfyddino, a'r anifeiliaid wedi eu naillduo i leoedd cym∣mwys, a'r gwŷr meirch wedi eu cyfleu yn yr escyll;
21 Maccabeus gan weled dyfodiad y lli∣aws, a'r amryw baratôad arfau, a chreulon∣deb y bwyst-filod, a estynnodd allan ei ddwy∣lo tu a'r nef, ac a alwodd ar yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur rhyfeddodau, gan ŵybod nad yw goruchafiaeth yn dyfod wrth arfau; ond ei fod efe yn ei rhoddi i'r rhai teilwng, megis ac y gwelo efe yn dda,
22 Ac wrth weddio efe a ddywedodd fel hyn: Tydi Arglwydd a ddanfonaist dy Angel yn amser Ezekias brenin Iudea, * 1.1510 yr hwn a ddifethodd o werssyll Sennacherib gant a phump a phedwar vgain mil.
23 Felly yr awron, ô Arglwydd y nefoedd, anfon Angel da o'n blaen ni, er ofn ac arswyd iddynt.
Page [unnumbered]
24 A thrwy nerth dy fraich di tarawer hwy â dychryn, y rhai sydd yn dyfod yn er∣byn dy sanctaidd bobl i gablu. Ac fel hyn y diweddodd efe.
25 Yna Nicanor, a'r rhai oedd gyd ag ef, a ddynesasant ag vtcyrn; ac â chaniadau.
26 Ond Iudas a'r rhai oedd gyd ag ef a aethant ynghyd â'r gelynion drwy weddi ac ymbil.
27 Felly yn wir, gan ymladd â'i dwylo, a gweddio ar Dduw â'u calonnau, hwy a laddasant nid llai nâ phymtheng mîl ar hu∣gain: canys trwy ymddangosiad Duw, yr oeddynt hwy yn llawen iawn.
28 Yr awron pan ddarfu y rhyfel, hwy yn dychwelyd â llawenydd, a wybuant fôd Nicanor yn gorwedd yn farw yn ei arfo∣gaeth.
29 Yna hwy a lefasant yn vchel, ac a fendithiasant yr Arglwydd yn iaith ei gwlâd.
30 A Iudas, pen-ymddyffynnwr y dinas∣wyr, ynghorph ac enaid, yr hwn erioed a ddygasei ewyllys da i'r rhai oedd o'i genedl, a orchymynnodd dorri pen Nicanor, a'i law, a'i yscwydd, a'i dwyn i Ierusalem.
31 A phan ddaeth efe yno, wedi galw yng∣hyd ei genedl ei hun, a gosod yr offeiriaid ger bron yr allor, efe a alwodd am y rhai oedd o'r tŵr:
32 Ac a ddangosodd iddynt ben Nicanor sceler, a llaw 'r cablwr, yr hon drwy fawr falchedd a estynnasei efe allan yn erbyn tŷ sanctaidd yr Holl-alluog.
33 Ac wedi iddo dorri ymmaith dafod Ni∣canor annuwiol; efe a ddywedodd y rhoddei efe ef i'r adar yn ddrylliau, ac y crogei efe wobr ei ynfydrwydd ef gyferbyn â'r Deml.
34 Felly pawb a foliannasant tu a'r nef y gogoneddus Arglwydd, gan ddywedyd, ben∣digedig fyddo yr hwn a gadwodd ei fangre ei hun yn ddihalog.
35 Yna y crogodd ef ben Nicanor ar y tŵr, yn arwydd amlwg, ac eglur i bawb, o gymmorth yr Arglwydd.
36 A hwy a ordeiniasant i gyd drwy ddeddf gyffredin, na ollyngid heibio y dydd hwn mewn modd yn y byd yn anenwog: ond ca∣dw yn ŵyl y trydydd dydd ar ddeg o'r deu∣ddegfed mîs, yr hwn a elwir yn iaith y Syri∣aid Adar, y dydd o flaen gŵyl Mardocheus.
37 Am hynny gan ddigwyddo fel hyn i Nicanor, a meddiannu o'r Hebræaid y ddinas er yr amser hynny, minneu hefyd a ddiwe∣ddaf ymma.
38 Ac os da y gwneuthum, ac megis y gweddei i'r stori, hynny yw 'r peth a ewyllisi∣ais; ond os yn llesc ac yn annoeth, hynny yw yr hyn a allwn ei ddwyn i ben.
39 Canys megis ac y mae yn ddrwg yfed gwin o'r nailldu, ac felly drachefn ddwfr: ac megis y mae gwin wedi ei gymmyscu â dwfr, yn hyfryd ac yn flasus: felly gosodiad y matter allan sydd yn flasus i glustiau y rhai a ddarllennant yr ystori. Ac ymma y bydd diwedd.
Notes
-
* 1.1
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉.
-
* 1.2
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.3
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.4
2. Cron. 35. 9.
-
* 1.5
2. Cro. 35. 12.
-
* 1.6
Exod. 12. 8.
-
* 1.7
2. Cro. 35. 15.
-
* 1.8
2. Cron. 35. 20.
-
* 1.9
2. Br. 23. 31. 2. Cron. 36. 1.
-
* 1.10
2. C••••••. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.11
Ier 3••.
-
* 1.12
〈◊〉〈◊〉. 11 & 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.13
〈◊〉〈◊〉. 36. 〈◊〉〈◊〉. 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
‖ 1.14
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.15
Gr. Sasbazar.
-
‖ 1.16
Ez. 1. 10 bed∣war cant a deg.
-
‖ 1.17
Ez. 1. 11. bum mil a phedwar cant.
-
* 1.18
Ez. 4. 6.
-
‖ 1.19
Gwêl Ez. 4. 9.
-
‖ 1.20
Simsai, Ez. 4. 8.
-
‖ 1.21
Neu, lliaws o bobl.
-
‖ 1.22
Neu, 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.23
Ezra. 〈◊〉〈◊〉. 1.
-
‖ 1.24
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.25
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.26
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.27
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.28
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.29
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.30
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.31
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.32
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.33
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.34
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.35
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.36
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.37
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.38
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.39
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.40
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.41
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.42
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.43
Neu, Maca∣lon.
-
‖ 1.44
Neu, Betolius.
-
‖ 1.45
Neu, Mach∣bis.
-
‖ 1.46
Neu, Lodha∣did.
-
‖ 1.47
Annaas.
-
‖ 1.48
Iedaiah.
-
‖ 1.49
Immar.
-
‖ 1.50
Neu, Passa∣ron.
-
‖ 1.51
Neu, Carme.
-
‖ 1.52
Neu, dau cant a dau ar bym∣theg. (medd rhai.)
-
‖ 1.53
Gwel Ez. 2. 40
-
a 1.54
Ater.
-
b 1.55
Accub.
-
c 1.56
Hattita.
-
d 1.57
Sobai.
-
e 1.58
Zich.
-
f 1.59
Hazupha.
-
g 1.60
Ceros.
-
h 1.61
Siaha.
-
i 1.62
Padon.
-
k 1.63
Graba.
-
l 1.64
Acua.
-
m 1.65
Samlai.
-
n 1.66
Gides.
-
o 1.67
Neu, Gahar.
-
p 1.68
Neu, Airus.
-
q 1.69
Rezin.
-
r 1.70
Noeba.
-
s 1.71
Gazam.
-
t 1.72
Huzza.
-
u 1.73
Paseah.
-
x 1.74
Besas.
-
y 1.75
Asnah.
-
z 1.76
Meani.
-
a 1.77
Bachuc.
-
b 1.78
Harur.
-
c 1.79
Bazluth.
-
d 1.80
Meeda.
-
e 1.81
Harsa.
-
f 1.82
Chareus.
-
g 1.83
Sisera.
-
h 1.84
Nesiah.
-
i 1.85
Azaphion.
-
k 1.86
Pharira.
-
l 1.87
Iaalah.
-
m 1.88
Darcon
-
n 1.89
Giddel.
-
o 1.90
Sephatiah.
-
p 1.91
Hatti.
-
q 1.92
Hazzebaim Ezra. 2. 25.
-
‖ 1.93
Ladan.
-
‖ 1.94
Ban.
-
‖ 1.95
Necodah.
-
‖ 1.96
Obdia.
-
‖ 1.97
Coz.
-
‖ 1.98
Neu, Barzelai.
-
‖ 1.99
Gwel Nehem. 8. 9. & 10. 2. pen. 2. 63.
-
‖ 1.100
Heb. Vrim a Thummin.
-
‖ 1.101
Gwel Nehem. 7. 66.
-
* 1.102
Ezra. 2. 67.
-
‖ 1.103
assynnod.
-
‖ 1.104
Neu, o flaen porth y dwyrain.
-
‖ 1.105
Neu, gor∣chymmynnwyd.
-
‖ 1.106
Neu, attynt hwy.
-
* 1.107
Lefit. 23. 34.
-
‖ 1.108
Gr. gysiegra∣sent.
-
‖ 1.109
Gwel Ez. 3. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.110
Ez. 3. 11. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.111
Ez. 3. 11. 12.
-
‖ 1.112
weidd••
-
‖ 1.113
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.114
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 i 〈◊〉〈◊〉 Ezra 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.115
〈◊◊〉〈◊◊〉. 3.
-
‖ 1.116
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.117
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.118
Neu, Zoroba∣bel, yr hwn yyw Sanabassarus y llywiawdr, Ez. 1. 8.
-
* 1.119
Ezra. 6. 13.
-
‖ 1.120
Heb. y ••••∣dydd dydd, Ez 6. 15
-
‖ 1.121
neu, 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.122
Heb. 〈◊◊〉〈◊◊〉, Ez. 6. 18.
-
‖ 1.123
meddw••.
-
‖ 1.124
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.125
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.126
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.127
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.128
Heb. oedd 〈◊〉〈◊〉. Ez. 7. 1.
-
‖ 1.129
〈◊〉〈◊〉. Gwel. Ez. 7. ‖ 8 9.
-
* 1.130
Ezra. 7. 18.
-
‖ 1.131
mesur. Ez. 7 22.
-
‖ 1.132
Gwel Ezra 7. 25.
-
* 1.133
Ezra. 7. 26.
-
‖ 1.134
Daniel.
-
‖ 1.135
Chattus.
-
‖ 1.136
Ezra. 8. 3. O feibion Ze∣chaniah, o f••••¦bion Paros.
-
‖ 1.137
Zerachaiah.
-
‖ 1.138
Neu, •• feibion Zechaniah, mab Iahaziel.
-
‖ 1.139
Heb. 50.
-
‖ 1.140
Athaliah.
-
‖ 1.141
Neu, Zeba∣diah.
-
‖ 1.142
Neu, bed∣warugein-wr.
-
‖ 1.143
Obadiah.
-
‖ 1.144
Iehiel.
-
‖ 1.145
Neu, ddeu∣naw o wyr.
-
‖ 1.146
Neu, o feibion Selomith mab &c.
-
‖ 1.147
Azgad.
-
‖ 1.148
Catan.
-
‖ 1.149
Semaiah.
-
* 1.150
Neu, dr. u∣geinwr.
-
‖ 1.151
Ariel.
-
‖ 1.152
Semaiah.
-
‖ 1.153
Iarib.
-
‖ 1.154
Serebia, Ez. 8. 18.
-
‖ 1.155
Neu, hefyd Hasabia, a chyd ag ef I••saiah, o fei∣bion Merari a'i frodyr. Ez. 8. 19.
-
‖ 1.156
Serebia•• a Hossi••••••••.
-
‖ 1.157
Hebr. d•••• lestr. Ez. 8. 27.
-
‖ 1.158
peryglon ar y ffordd.
-
‖ 1.159
Merim•••••• mab Vriah yr offeiriad.
-
‖ 1.160
Noed•••• fab ••••••••i.
-
‖ 1.161
Hebr. 77 o wyn, 12 buwch yn aberth tros bechod▪ Ezra 8. 31.
-
* 1.162
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.163
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.164
Neu, Na fydd di ddig∣llon.
-
* 1.165
Deut. 28. 13. Baruch. 3.
-
* 1.166
Ezra 10. 5.
-
‖ 1.167
Neu, ddini∣strid, Ios 10. 8.
-
‖ 1.168
Maasias.
-
‖ 1.169
Ia••ib.
-
‖ 1.170
Gedallah.
-
a 1.171
Harim.
-
b 1.172
Ma••••••ch.
-
c 1.173
Ichi••••
-
d 1.174
Vzzi••••.
-
e 1.175
P••••••••.
-
f 1.176
Ios••••••••.
-
g 1.177
Ela••••••.
-
h 1.178
Kel••i••••.
-
i 1.179
K••l••••••
-
k 1.180
P••th••••i••••
-
l 1.181
〈◊〉〈◊〉.
-
m 1.182
〈◊〉〈◊〉.
-
n 1.183
P••••u.
-
o 1.184
R••••••••••.
-
p 1.185
Ios••••••••.
-
q 1.186
〈◊〉〈◊〉.
-
r 1.187
Malc••••••
-
s 1.188
〈◊〉〈◊〉.
-
t 1.189
Abdi.
-
u 1.190
Z••••••••
-
x 1.191
Elis••••••••.
-
y 1.192
E••••a••••.
-
z 1.193
Matt••••••
-
a 1.194
Zabed.
-
b 1.195
Azizza.
-
c 1.196
Zabbe.
-
d 1.197
Ath••••••.
-
e 1.198
B••••••.
-
f 1.199
Mesull••••
-
g 1.200
M••••••ch.
-
h 1.201
A••••i••••.
-
i 1.202
Seal.
-
‖ 1.203
Am yr 〈◊〉〈◊〉 yn yr 〈◊〉〈◊〉 32. 34. 35. 〈◊〉〈◊〉 Gwel Ez•••• 10. 30. 31. 34. &c.
-
k 1.204
〈◊〉〈◊〉
-
l 1.205
〈◊〉〈◊〉
-
m 1.206
Zabed.
-
‖ 1.207
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.208
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.209
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.210
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.211
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.212
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.213
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.214
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.215
Yna Nehe∣miah, ac Ezra yr Offeiriad a'r Scrifennydd, a'r Leuiaid ocdd yn dyscu 'r bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Neh. 8 9.
-
‖ 1.216
Neu, i'r tlod••••n.
-
* 1.217
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.218
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.219
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.220
Exod. 14. 98.
-
* 1.221
Num. 21. 24. Iose. 8. 12.
-
* 1.222
Exod. 14. 29.
-
* 1.223
Exod. 3. 10. & 4. 14.
-
* 1.224
Exod. 13. 21.
-
* 1.225
Exod. 16. 13. Psal. 104. 40.
-
* 1.226
Num. 14. 3.
-
* 1.227
Doeth. 16. 20
-
* 1.228
Num. 20. 11. Doeth. 11. 4.
-
* 1.229
Esa. 5. 4.
-
* 1.230
Exod. 15. 25.
-
‖ 1.231
yn a'on yr Amoriaid.
-
* 1.232
Exod. 32. 8.
-
* 1.233
Esa. 1. 13.
-
‖ 1.234
fel yr wyfi yn Dduw i chwi.
-
* 1.235
Mat. 23. 37.
-
* 1.236
Esa. 1. 13.
-
* 1.237
Mal. 3. 1.
-
‖ 1.238
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉.
-
* 1.239
〈◊〉〈◊〉 19. ••4.
-
‖ 1.240
〈◊◊〉〈◊◊〉drwy 〈◊〉〈◊〉 fel〈◊◊〉〈◊◊〉 a 〈◊◊〉〈◊◊〉 traed 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.241
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.242
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.243
i wledd.
-
* 1.244
Datc. 7. 9.
-
* 1.245
Gen. 2. 7.
-
* 1.246
Gen. 6. 12.
-
* 1.247
Gen. 7. 10.
-
* 1.248
〈◊〉〈◊〉. 3. 20.
-
* 1.249
Gen. 1••. 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.250
Gen. 17. 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.251
Gen. 〈◊〉〈◊〉. 2.
-
* 1.252
Gen. 25. 2••
-
* 1.253
Ma••. 1. 2. 3. rhuf. 9. 13.
-
* 1.254
Exod 19. 〈◊〉〈◊〉 deut. 4. 1••▪
-
‖ 1.255
ac i led g••••¦hedlaeth 〈◊◊〉〈◊◊〉 fel y 〈◊〉〈◊〉 hi yn 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.256
Gen. 3. 6.
-
* 1.257
1. Sam. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.258
2. Sam. 5. 〈◊〉〈◊〉 & 7. 5. 13.
-
‖ 1.259
gof••.
-
‖ 1.260
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.261
Barn. 9. 8. 2. cron. 25. 18.
-
* 1.262
Esai. 55. 8. 9. ioan. 3. 31. 1. cor. 2. 13. 14.
-
‖ 1.263
hyd oni ddêl y llawr dyrnu.
-
‖ 1.264
Vriel.
-
‖ 1.265
Neu, 〈◊〉〈◊〉 cyfoeth 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.266
Matth. ••4. 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.267
Gen. 25. 26.
-
‖ 1.268
yn gyntaf.
-
‖ 1.269
cynnwrf mawr.
-
‖ 1.270
ddiwedd••.
-
‖ 1.271
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.272
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.273
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.274
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
* 1.275
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.276
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.277
dibyn.
-
‖ 1.278
mwyaf.
-
* 1.279
* Deut. 8. 1.
-
‖ 1.280
dechre••••••
-
* 1.281
Gen. 1••. 13.
-
* 1.282
Exod. 32. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.283
A••••••••.
-
* 1.284
2. Sam. ••4. 2. Cron. 6. ••
-
* 1.285
1. Bren. 〈◊◊〉〈◊◊〉 & 18. 42. 45.
-
* 1.286
2. Bren 19▪
-
* 1.287
〈◊〉〈◊〉. 5. 18.
-
‖ 1.288
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.289
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.290
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.291
〈◊◊〉〈◊◊〉 19.
-
* 1.292
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.293
grewyd.
-
‖ 1.294
ddychymy∣giou.
-
* 1.295
Mat. 20. 16.
-
‖ 1.296
ac oni roddi &c.
-
‖ 1.297
pa sodd y llu∣nir y corph?
-
* 1.298
Iob. 10. 8. Psal. 139. 14.
-
‖ 1.299
cwympau.
-
* 1.300
1. Bren. 8. 46. 2. Chron. 6. 36.
-
‖ 1.301
hyder 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.302
Gen. 44.
-
* 1.303
〈◊◊〉〈◊◊〉. 41. 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.304
Ac yn awr, o herwydd dyfod amser y byd, pan oeddwn i yn darparu y byd &c.
-
* 1.305
‖ ond pan wna∣ethpwyd y byd, yn awr a r pryd hynny he∣fyd, modda r pôb vn cre••dig a lygrwyd trwy ddi-ball gyn∣haiaf, a chyfr∣aith anchwi∣liadwy.
-
* 1.306
Exo. 19. 9. & 24. 3. deu 4. 12.
-
‖ 1.307
dyfod.
-
‖ 1.308
yr 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.309
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.310
Pen 4. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.311
Pen 〈◊〉〈◊〉. 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.312
llewyg.
-
‖ 1.313
arfaith.
-
‖ 1.314
y deongliad
-
‖ 1.315
i fôd gyd a'r Gor.
-
‖ 1.316
diweddaf.
-
* 1.317
Daniel. 7. 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.318
Dymma yr Enneiniog.
-
* 1.319
‖ 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.320
rhyw 〈◊〉〈◊〉 y gwynt. 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.321
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.322
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.323
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.324
Mat. 24 7.
-
* 1.325
2. Bren. 17. 3.
-
* 1.326
Exod. 14. 21. Iosua. 3. 15. 16.
-
‖ 1.327
neu, Ararath.
-
* 1.328
Exod. 3. 2. 8.
-
* 1.329
Mat. 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.330
y 〈◊◊〉〈◊◊〉 scrifennu 〈◊〉〈◊〉 wy••, ga••••. 〈◊〉〈◊〉 v.44.
-
‖ 1.331
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.332
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.333
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.334
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
‖ 1.335
Neu, 904.
-
‖ 1.336
Neu, goleuni▪
-
* 1.337
Datc. 6. 10. & 192.
-
‖ 1.338
ser-gyn••••ll.
-
‖ 1.339
yn erbyn.
-
‖ 1.340
garnau.
-
‖ 1.341
difeth••••
-
‖ 1.342
cyffelyb 〈◊〉〈◊〉 Ba••ylon.
-
‖ 1.343
〈◊〉〈◊〉▪
-
‖ 1.344
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.345
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.346
plaau.
-
* 1.347
Luc. 16. 15.
-
* 1.348
Gen. 1. 1.
-
* 1.349
Psal. 146. 4.
-
‖ 1.350
〈◊◊〉〈◊◊〉 gwrth••••••
-
‖ 1.351
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.352
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.353
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.354
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.355
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 yn 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.356
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.357
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
* 1.358
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.359
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.360
Num. 36. 7.
-
* 1.361
Gen. 43. 32.
-
‖ 1.362
Neu, a ged∣wais fy enail.
-
‖ 1.363
Gr. brynwr.
-
‖ 1.364
Neu, yng∣wlad, neu, yn nhir Media.
-
‖ 1.365
Neu, yr oedd ei ffyrdd heb sefydlu.
-
‖ 1.366
Neu, y tu hwnt i furiau.
-
* 1.367
2. Br. 19. 35. Es. 37. 36. 37. Eccus. 48. 18. 22. 1. Mac. 7. 41. 2. Mac. 8. 19.
-
‖ 1.368
ac yn ymgu∣ddio.
-
* 1.369
2. Br. 19. 37. 2. Cron. 32. 21.
-
‖ 1.370
Neu, Esar-Hadon.
-
* 1.371
* Amos 8. 10.
-
* 1.372
Pen. 1. 19.
-
‖ 1.373
Neu, gwenho∣liaid.
-
* 1.374
Deut. 22. 1.
-
* 1.375
Iob 2. 9.
-
‖ 1.376
Neu, y mae pob peth yn amlwg i ti.
-
* 1.377
Deut. 18. 〈◊〉〈◊〉 34.
-
‖ 1.378
Neu, 〈◊〉〈◊〉 ger, neu, g••••∣reder.
-
‖ 1.379
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.380
〈◊◊〉〈◊◊〉. 12. 〈◊◊〉〈◊◊〉 ••7.
-
* 1.381
〈10 words〉〈10 words〉
-
* 1.382
Ecclus. 35. 10.
-
* 1.383
Ecclus. 29. 13.
-
* 1.384
1. Thes 43.
-
* 1.385
L••. 19 13. deut. 24. 14. 15.
-
* 1.386
Mat. 7. 12. luc. 6 31.
-
* 1.387
Luc. 14. 13.
-
* 1.388
Mat. 6. 1. gweis. 8.
-
‖ 1.389
Na chwa••••∣ger arian, ond bydded yn s••rod i 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.390
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.391
â phob daioni.
-
* 1.392
Num. 36. 6.
-
‖ 1.393
ludw.
-
‖ 1.394
eithafoedd.
-
* 1.395
Gen. 2. 7. 18. 22
-
‖ 1.396
hâd dynion.
-
‖ 1.397
Gabal a'•••• di••••••odd Tui•••• a'i wra••g 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.398
Iuni••••: yr hwn a elwir Nas∣bas.
-
* 1.399
Gen. 18. 8. & 19. 3. Bar. 13. 16.
-
* 1.400
Deut. ••2. 3•• 1. Sam. 2. 6. Doet. 16. 23.
-
‖ 1.401
a 〈◊〉〈◊〉 efe o honnoch chwi.
-
‖ 1.402
o 〈◊◊〉〈◊◊〉 ar weithrei∣oedd dy blant.
-
‖ 1.403
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.404
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉 yr 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
* 1.405
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 & 6. 14
-
‖ 1.406
Nitzban. Iunius
-
‖ 1.407
Neu, A hwy a'i claddafant.
-
‖ 1.408
enillodd N••∣buchodonosor ac Assuerus.
-
‖ 1.409
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉 & 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.410
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 ir rhai 〈◊〉〈◊〉 ei 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉 hwy〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.411
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.412
〈◊〉〈◊〉 wle∣dydd.
-
‖ 1.413
gorwedd ger dy fron di.
-
‖ 1.414
Esdrelom.
-
‖ 1.415
Dotea, Do∣than. Gen. 37. 17.
-
‖ 1.416
Gr. ••••if fawr.
-
‖ 1.417
Scythopolis.
-
‖ 1.418
yr holl bobl allan o Iudæa.
-
‖ 1.419
Esdrelom.
-
‖ 1.420
gwastadedd.
-
‖ 1.421
y•• a erbyn pawb.
-
‖ 1.422
llywodraeth∣wyr.
-
* 1.423
〈◊◊〉〈◊◊〉 9.
-
* 1.424
〈◊◊〉〈◊◊〉. 31.
-
* 1.425
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.426
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.427
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.428
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.429
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
* 1.430
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.431
Barn. 2. 11. & 3. 8.
-
* 1.432
2. Bren. 25. 1, 11.
-
* 1.433
Ezra 1. 1, 3.
-
‖ 1.434
Cleddyf.
-
‖ 1.435
o ddinasoedd y mynediadau i fyny.
-
‖ 1.436
dd••••wg f••••••
-
‖ 1.437
tros
-
‖ 1.438
faes y 〈◊〉〈◊〉 hwn.
-
‖ 1.439
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.440
Exod. 5. 21.
-
‖ 1.441
rhag iddo ef, sef Olophernes, wneuthur.
-
‖ 1.442
Samalie
-
‖ 1.443
a hi a'i cad∣wodd hwynt.
-
* 1.444
Pen. 7. 26. 31.
-
‖ 1.445
chwithau:
-
‖ 1.446
proswchyr Arglwydd.
-
‖ 1.447
N••••. 23. 1••
-
‖ 1.448
fel yr 〈◊〉〈◊〉 dalei.
-
‖ 1.449
Neu, 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.450
B••••••••. 〈◊〉〈◊〉. 〈◊〉〈◊〉. & 4. 1. & 6. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.451
Neu, 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.452
Gen. 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.453
Gen 28. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.454
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.455
Barn. 4. 2••. & 5. 26.
-
* 1.456
Barn 7. 2. 2. cron. 14. 1••. & 16. 8. & 20. 6.
-
‖ 1.457
Atolwg, atolwg, Dduw &c.
-
‖ 1.458
ddillad ei llawenydd.
-
‖ 1.459
dlysau.
-
‖ 1.460
gras-yd.
-
‖ 1.461
a chaws. Iunius.
-
‖ 1.462
grynhôdd.
-
‖ 1.463
pethau.
-
‖ 1.464
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.465
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.466
Gen. 43. 32. Dan. 1. 8. Tob. 1. 11.
-
* 1.467
Eccles 31. 10, 25.
-
‖ 1.468
golos••
-
‖ 1.469
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.470
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.471
2. Mac. 15. 35
-
‖ 1.472
dderchasia∣dau.
-
‖ 1.473
Yna.
-
‖ 1.474
gorescynna∣sant.
-
‖ 1.475
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.476
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.477
〈◊◊〉〈◊◊〉. 15.
-
‖ 1.478
••••••••ydd∣••••••••
-
‖ 1.479
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.480
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.481
yn ogof.
-
* 1.482
Gen. 50. 10.
-
‖ 1.483
ym myfr.
-
* 1.484
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.485
Sef, Mardo∣cheus.
-
‖ 1.486
etifeddiaeth.
-
‖ 1.487
chae, neu attal.
-
* 1.488
1. Sam. 28. 21 Ioo 13. 14. Psal. 119. 109.
-
‖ 1.489
delwau.
-
‖ 1.490
arnynt.
-
‖ 1.491
gwna yn esampl.
-
‖ 1.492
duwiau.
-
‖ 1.493
cenhedlig.
-
‖ 1.494
ar fy mhen fy hun.
-
‖ 1.495
na wneuthum fawr gyfrif o.
-
‖ 1.496
dugpwyd yma.
-
‖ 1.497
gyda hi 〈◊〉〈◊〉 yn ei bywyd.
-
‖ 1.498
er bod y ••••••∣chymy•• yn ••••∣ffredi••ol.
-
‖ 1.499
ga•• 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.500
lwyddodd▪
-
* 1.501
1. Bren. 3. 3. esa. 56. 1.
-
* 1.502
Deut. 4. 29. 2. cron. 15. 4.
-
‖ 1.503
Ierem. 4. 22.
-
‖ 1.504
geryddir, neu, a ym∣ddengys.
-
* 1.505
Gal. 5. 22.
-
‖ 1.506
cynnwys.
-
‖ 1.507
enllibio.
-
* 1.508
Deut▪ 4. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.509
Ezec. 1•• & 33. ••1.
-
‖ 1.510
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.511
Iob 7. mat 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.512
1. Cor. 〈◊〉〈◊〉 32
-
* 1.513
1 C•••• 〈◊〉〈◊〉 15. pen. 5. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.514
Esa 〈◊◊〉〈◊◊〉 & 56. 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.515
1. 〈◊◊〉〈◊◊〉 3••.
-
* 1.516
〈◊◊〉〈◊◊〉. 7. 〈◊〉〈◊〉. 5. 13.
-
* 1.517
〈◊〉〈◊〉 53. 3.
-
‖ 1.518
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.519
••sal. ••2. 8. 9. 〈◊〉〈◊〉. 17. 43.
-
‖ 1.520
••••••••thwya.
-
* 1.521
••••c. 11. 19.
-
‖ 1.522
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.523
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.524
〈◊〉〈◊〉. 26. 17. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.525
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.526
〈◊〉〈◊〉 33. 3.
-
‖ 1.527
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.528
〈◊〉〈◊〉. 3. 5.
-
* 1.529
Rhuf. 8. 24. 2. Cor 5. 1. 1. Pet. 1. 13.
-
‖ 1.530
wobr.
-
* 1.531
Exod. 16. 4. Deut. 8. 2.
-
* 1.532
Matt. 13. 43.
-
* 1.533
Matt. 19. 28. 1. Cor. 6. 2.
-
‖ 1.534
a arhosant gyd ag ef mewn cariad.
-
* 1.535
Matt. 25. 41.
-
‖ 1.536
yscafn, ney, anniwair.
-
* 1.537
Esa. 56. 5.
-
* 1.538
Esa. 56. 4, 5.
-
‖ 1.539
Neu, ym myse pobl.
-
‖ 1.540
ni fyddant g yfrannogion 〈◊〉〈◊〉 bethau sanct∣aidd.
-
‖ 1.541
gwrandaw.
-
‖ 1.542
caled
-
* 1.543
Math. 7. 19.
-
‖ 1.544
Gr. o gwsc annheilwng.
-
‖ 1.545
ac nis mesurir.
-
* 1.546
Gen. 5. 24. heb. 11 5.
-
‖ 1.547
wyra.
-
‖ 1.548
sancteiddio.
-
‖ 1.549
bersfeithir.
-
‖ 1.550
ddeallant beth a amca∣nodd Duw iddo ef.
-
‖ 1.551
wrth fwrw cyfrif.
-
‖ 1.552
oedd yn ddi∣hareb gwrad∣wydd.
-
* 1.553
Pen. 32.
-
‖ 1.554
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.555
1. Cron. 〈◊◊〉〈◊◊〉 15. pen. 2. 5.
-
* 1.556
Dihar. 3. 〈◊〉〈◊〉. 19.
-
* 1.557
Iob 8. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.558
plu y gwe••∣nydd
-
* 1.559
Psal. 1. 4. & 103. 4. dihar. 10. 〈◊〉〈◊〉 & 11. 7. iac. 1. 10. &
-
‖ 1.560
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.561
〈◊◊〉〈◊◊〉 17.
-
* 1.562
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.563
〈◊◊〉〈◊◊〉. 17 〈◊〉〈◊〉. 14. 7. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 〈◊〉〈◊〉. 12. 16. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 14. 〈7 words〉〈7 words〉. ••5. 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.564
gysiawnheir.
-
* 1.565
Iob. 10. 10. 11.
-
* 1.566
Iob. 1. 21. 11. Tim. 6. 7.
-
‖ 1.567
dlewisan.
-
* 1.568
1 Bren. 3. 13. Mat. 6. 33.
-
‖ 1.569
roddo.
-
‖ 1.570
a fyddant i lefaru am danynt.
-
* 1.571
‖ gweithrediad.
-
‖ 1.572
pethan byw.
-
‖ 1.573
vnig-anedig.
-
‖ 1.574
gymmwynas∣gar.
-
‖ 1.575
ar.
-
* 1.576
Heb. 1. 3.
-
‖ 1.577
gallu.
-
* 1.578
Exod. 31. 4••.
-
‖ 1.579
pethau 〈◊〉〈◊〉 neu, 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.580
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉, 9, 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.581
〈◊◊〉〈◊◊〉 ••3.
-
‖ 1.582
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.583
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.584
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.585
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.586
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.587
1. Cron. 28. 5. 2. Cron. 1. 9.
-
* 1.588
Dihar. 8. 22. Ioan 1, 2, 3, 10.
-
‖ 1.589
trwy ei nerth.
-
* 1.590
Esa. 40. 13. Rhuf. 11. 34. 1. Cor. 2. 16.
-
‖ 1.591
o'n blaen ni.
-
* 1.592
Gen. 2. 20.
-
* 1.593
Gen. 4. 8.
-
* 1.594
Gen. 7. 21.
-
‖ 1.595
a phren gwael
-
* 1.596
* Gen. 11. 9. Gen. 12. 1.
-
‖ 1.597
ymyscaroedd tu ac at ei fab.
-
* 1.598
Gen. 22. 10.
-
* 1.599
Gen. 19 16.
-
‖ 1.600
Pent ••polis.
-
* 1.601
Gen. 28. 5.
-
‖ 1.602
ai gorthry mant ef.
-
* 1.603
Gen. 37. 28. & 39. 7. Act. 7. 10.
-
‖ 1.604
pydew.
-
‖ 1.605
achwyn.
-
* 1.606
Exod. 1. 10. & 12. 42.
-
* 1.607
Exod. 5. 1.
-
‖ 1.608
oleuni sêr.
-
* 1.609
Ex. 14. 21 22. Psal. 78. 13.
-
* 1.610
Exod. 15. 1.
-
‖ 1.611
di a ymladd∣odd trostynt hwy.
-
‖ 1.612
llwyddodd
-
* 1.613
Exod. 16. 1.
-
* 1.614
Exod. 17. 1•• 11.
-
* 1.615
Num, 20, 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.616
••ebel.
-
* 1.617
Exod▪ 7. 10▪
-
‖ 1.618
lle.
-
‖ 1.619
wybu 〈◊◊〉〈◊◊〉 wrth.
-
‖ 1.620
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.621
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.622
digymmorth.
-
‖ 1.623
yn drigolion. newydd.
-
* 1.624
Exod. 33. 2. Deut. 2. 22.
-
* 1.625
Gen. 9. 25.
-
* 1.626
Rhuf. 9. ••0.
-
‖ 1.627
yn dy wyneb yn ••••••aliwr.
-
* 1.628
1. Pet. 5. 7.
-
* 1.629
Iob. 10. 〈◊〉〈◊〉▪
-
‖ 1.630
gyflawn.
-
‖ 1.631
eulyunod.
-
* 1.632
Pen. 11. 13. Rhuf. 1. 23.
-
* 1.633
Rhuf. 1. 20.
-
* 1.634
Deut. 4. 19. & 17. 3,
-
* 1.635
Rhuf. 1. 21.
-
* 1.636
Esay. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.637
〈◊〉〈◊〉 ei 〈◊〉〈◊〉a'i blan••
-
‖ 1.638
lle••••
-
‖ 1.639
lle••r, long.
-
* 1.640
Erod.
-
* 1.641
〈◊◊〉〈◊◊〉. 4. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.642
〈◊〉〈◊〉. 115. 8. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 5..
-
* 1.643
〈◊◊〉〈◊◊〉. 5.
-
* 1.644
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉.
-
‖ 1.645
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.646
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.647
Deut. 18. 10. let. 7. 9. & 19. 4
-
* 1.648
Rhuf. 9. 21.
-
* 1.649
Luc. 12. 20.
-
‖ 1.650
anadl.
-
* 1.651
Pen. 11. 15, 16. num. 21. 6.
-
* 1.652
Num. 11. 31.
-
* 1.653
Num. 21. 6. 1. cor. 1••. 9.
-
‖ 1.654
dy bobl.
-
* 1.655
Num. ••1. 9.
-
* 1.656
Exod. 1. 24. & 10. 4. datc. 9. 7.
-
‖ 1.657
na 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉 wrth dy dd••••••∣ni di.
-
* 1.658
Deut. 32. 〈◊〉〈◊〉 1. sam. 2. 6. ps. 105. iob. 13 2.
-
* 1.659
Exod. 9. 23.
-
* 1.660
〈◊◊〉〈◊◊〉 ••0.
-
* 1.661
〈◊〉〈◊〉 16. 14. 〈◊〉〈◊〉. 〈◊〉〈◊〉. 7. 〈◊◊〉〈◊◊〉 15. 〈◊◊〉〈◊◊〉 31.
-
* 1.662
〈◊◊〉〈◊◊〉. 4.
-
‖ 1.663
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.664
〈◊◊〉〈◊◊〉. 10.
-
‖ 1.665
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.666
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.667
〈◊◊〉〈◊◊〉. 3. 〈◊〉〈◊〉 ••4.
-
‖ 1.668
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
* 1.669
Exod. 7. 11. & 27. 19.
-
‖ 1.670
maes.
-
* 1.671
Exod. 10. 23.
-
* 1.672
* Exod. 13. 21. & 14. 24. psal. 78. 14. & 105. 39.
-
* 1.673
Exod. 14. 24. 25.
-
* 1.674
Exod. 11. 4.
-
* 1.675
Exod. 12.
-
‖ 1.676
gyfammod Duw, gwêl psal. 50. 5.
-
* 1.677
Exod. 11. 5. & 12. 29.
-
* 1.678
Num 16. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.679
y llwon, 〈◊〉〈◊〉 cyfamm•••••••• 〈◊〉〈◊〉 wnaeth•••• ••'r tadau.
-
‖ 1.680
dorrodd.
-
* 1.681
Exod. 18. 〈◊〉〈◊〉 & 11. 10.
-
‖ 1.682
yr holl fyd.
-
* 1.683
Exod. 16. 13 Num. 11. 31.
-
‖ 1.684
fdlomwydd.
-
‖ 1.685
tan wledda.
-
* 1.686
Gen. 19. 11.
-
‖ 1.687
ynddynt eu hunain.
-
* 1.688
Exod. 16. 14 Num. 11. 7.
-
* 1.689
Rhai sy ty∣bied mai Atha∣nasius a wnaeth y prolog ymma, am ei fod yn ei Synopsis ef.
-
‖ 1.690
gaselu.
-
‖ 1.691
rhol.
-
‖ 1.692
prophwydo∣liaethan.
-
‖ 1.693
odidawg∣rwydd.
-
* 1.694
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.695
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.696
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.697
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.698
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.699
ddiange rhag cospedigaeth.
-
‖ 1.700
an-vsydaha.
-
* 1.701
Matt. 4. 11. 2. Tim. 3. 12. 1. Pet. 4. 12.
-
* 1.702
Doeth. 3. 6. Dihar. 17. 3.
-
‖ 1.703
gymmerth.
-
* 1.704
Psal. 37. 25.
-
‖ 1.705
anusyddhant iw.
-
* 1.706
Io. 14. 24.
-
* 1.707
Exod. 20. 12. Deu. 5. 10.
-
‖ 1.708
awdurdod.
-
‖ 1.709
ddiddanwch.
-
* 1.710
Exod. 20, 12. Deut. 5. 10. Matt. 15. 4. Ephe. 6. 2. 3.
-
‖ 1.711
ganddynt hwy.
-
* 1.712
Gen. 27. 27. Deut. 33. 1.
-
‖ 1.713
ei.
-
‖ 1.714
lawn.
-
‖ 1.715
ymgeledd.
-
* 1.716
‖ da•••• ef.
-
* 1.717
Phil. 2. 3.
-
* 1.718
Ps. 25. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.719
Dihar. ••5. 〈◊〉〈◊〉 Rhuf. 〈◊〉〈◊〉. 3.
-
‖ 1.720
Ni 〈◊〉〈◊〉 balch drw•• gospediga••••••
-
* 1.721
Dan 4. 〈◊〉〈◊〉 Psal. 41. 1. Mat. 5. 7.
-
* 1.722
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.723
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.724
••an fyddo lle i wneuthur daioni.
-
‖ 1.725
dalu.
-
* 1.726
Luc. 12. 15.
-
* 1.727
Pen. 21. 1.
-
* 1.728
Pen. 16. 13.
-
* 1.729
Dihar 10. 2. & 11. 4. ezec. 7. 19.
-
‖ 1.730
nithia.
-
* 1.731
Iaco. 1. 19.
-
‖ 1.732
ymadrodd melus.
-
‖ 1.733
prawf ef yn gyntaf.
-
* 1.734
Pen. 37. 5.
-
‖ 1.735
diddeall.
-
* 1.736
Ezec. 12 4.
-
* 1.737
Matth. 11. 19
-
‖ 1.738
na fydded flin genit ti.
-
‖ 1.739
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.740
Num. 15. 3••
-
* 1.741
Pen. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.742
Psal. 1. 2, 3.
-
* 1.743
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉.
-
‖ 1.744
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.745
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.746
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.747
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.748
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.749
Deut. 15. 10.
-
‖ 1.750
haelioni.
-
† 1.751
weithredoedd.
-
‖ 1.752
y diwedd.
-
* 1.753
Matt. 5. 25.
-
* 1.754
Pen. 31. 6.
-
‖ 1.755
o dafod drwg.
-
* 1.756
Gal. 6. 1. 1. Cor. 2. 6.
-
* 1.757
Lefit. 19. 32.
-
* 1.758
Pen. 6. 35.
-
‖ 1.759
sel y byddo.
-
‖ 1.760
i'th faglu yn dy eiriau.
-
‖ 1.761
cy••rif ef yn golled.
-
‖ 1.762
anrhydedd.
-
* 1.763
Gen. 4. 8.
-
* 1.764
Dihar. 22. 24.
-
* 1.765
Gen. 34. 2. Barn. 16. 17. 2. Sam. 11. 2. Iudeth. 12. 16.
-
* 1.766
Dihar. 29.
-
* 1.767
Lefit. 19.
-
* 1.768
〈◊〉〈◊〉. 17. 〈◊〉〈◊〉 Dan. 〈◊〉〈◊〉. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.769
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.770
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.771
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.772
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.773
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.774
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.775
yr isel ei radd.
-
* 1.776
Gen. 41. 40. Dan. 6. 3.
-
* 1.777
Act. 12. 21.
-
‖ 1.778
o frenhinoedd 1. Br. 15. 28. Esther. 6. 10.
-
* 1.779
Deut. 13. 14.
-
* 1.780
Dihar. 18. 13
-
‖ 1.781
nac eistedd mewn barn gyd â phecha∣duriaid.
-
* 1.782
Mat. 19. 22. 1. Tim. 6. 9.
-
* 1.783
Dihar. 10. 3.
-
* 1.784
Iob. 42. 10.
-
* 1.785
Iob. 1. 21. ezec. 28. 4.
-
* 1.786
Luc. 12. 19.
-
‖ 1.787
ddaw arno.
-
* 1.788
Matt. 10. 22.
-
‖ 1.789
a bydd beunydd.
-
* 1.790
Mal. 3. 14.
-
‖ 1.791
y twyllodrus.
-
‖ 1.792
disgwyl am dy gwymp.
-
‖ 1.793
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.794
ti a gei 〈◊〉〈◊〉 cymmeint o ddrwg.
-
‖ 1.795
ar y rhai 〈◊〉〈◊〉 ol
-
‖ 1.796
hwynt.
-
‖ 1.797
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.798
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.799
Tr•••• 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.800
Ier. 41. 6.
-
* 1.801
Deut. 7. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.802
〈◊〉〈◊〉 cyfoethog 〈9 words〉〈9 words〉 bod 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.803
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.804
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.805
〈◊◊〉〈◊◊〉 dy 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.806
〈◊◊〉〈◊◊〉 yn 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.807
〈◊〉〈◊〉 mae 〈◊〉〈◊〉 yn 〈◊〉〈◊〉 y 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.808
Pen. 19. 28. & 25 8. lago. 3. 2.
-
‖ 1.809
gydwybod.
-
* 1.810
Dihar. 27. 20.
-
‖ 1.811
y bedd.
-
* 1.812
Tob 4 ••7. luc. 14. 13.
-
‖ 1.813
y dydd gwledd.
-
* 1.814
Esa. 40. 6. 1. pet. 1. 24. iago. 1. 10.
-
* 1.815
Psal. 1. 2.
-
‖ 1.816
pethau.
-
‖ 1.817
dihareb.
-
‖ 1.818
ef.
-
‖ 1.819
dihareb.
-
‖ 1.820
a wnaeth i mi gyfeiliorni.
-
* 1.821
Gen. 1. 27.
-
* 1.822
Ier. 21. 8.
-
* 1.823
Psal. 33. ••5. 34 15.
-
* 1.824
Pen. 21. 9▪
-
* 1.825
Gen 6. 4.
-
* 1.826
Gen. 19. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.827
Num 1•• 16. 10▪ & 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.828
Pen. 5. 6••
-
* 1.829
〈◊◊〉〈◊◊〉. 10. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 17. 〈◊〉〈◊〉. 6. 18.
-
‖ 1.830
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.831
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.832
〈◊〉〈◊〉 ••7. 〈◊〉〈◊〉, 〈◊◊〉〈◊◊〉m 23. 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.833
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉. 12. 〈◊◊〉〈◊◊〉. ••6. 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
‖ 1.834
dyn,
-
* 1.835
Exod. 20. 16. & 22, 23.
-
* 1.836
Deut. 32. 8. Rom. 13. 1. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.837
Deut. 4. 20, & 10. 15.
-
* 1.838
Pen. 29. 13.
-
* 1.839
Matth. 25. 3••
-
* 1.840
Act. 3. 19.
-
* 1.841
Ier. 3 12.
-
* 1.842
Psal. 6. 5. esay. 38. 18. 19.
-
* 1.843
Iob. 15. 4. 5.
-
‖ 1.844
achig agwaed a feddwl darwg
-
* 1.845
Gen. 1. 1.
-
‖ 1.846
chledr.
-
* 1.847
Leuit. 10. 16.
-
* 1.848
Psal. 105.
-
* 1.849
Psal. 90. 10.
-
* 1.850
••. Pet. 3. 8.
-
* 1.851
Pen. 41. 23.
-
* 1.852
1. Cor. 11. 〈◊〉〈◊〉. 31.
-
* 1.853
Pen. 7. 1••. 36.
-
* 1.854
Dihar. 28. 1••
-
* 1.855
Rhuf. 6. 6. 〈◊〉〈◊〉 13. 14.
-
* 1.856
〈◊◊〉〈◊◊〉. 11.
-
‖ 1.857
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.858
〈◊〉〈◊〉 ei 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.859
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.860
〈◊◊〉〈◊◊〉 17. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 5.
-
‖ 1.861
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.862
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.863
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.864
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.865
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.866
〈◊◊〉〈◊◊〉 ef.
-
‖ 1.867
wna ddrwg cyn i ti wybod oddi wrtho ef.
-
‖ 1.868
g••fle.
-
* 1.869
Pen. 11. 20.
-
‖ 1.870
mewa pryd.
-
* 1.871
Pen. 30. 20.
-
* 1.872
Preg. 3. 7.
-
* 1.873
Pen. 32. 4.
-
‖ 1.874
••••••••radus.
-
‖ 1.875
••dd edrych am.
-
* 1.876
Pen. 6. 5.
-
‖ 1.877
chwedleu digrif.
-
‖ 1.878
gollir.
-
‖ 1.879
Neu, Dyn anfelys.
-
‖ 1.880
thrallodir.
-
* 1.881
Pen. 25. 2.
-
‖ 1.882
Gwradwydd.
-
* 1.883
Dihar. 12. 11. & 28. 19.
-
* 1.884
Exod. 23. 8. deut. 16. 19.
-
‖ 1.885
ac yn cau ei safn, fel na allo geryddu.
-
* 1.886
Psal. 41. 4. Luc. 15. 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.887
Exod. 3. 9. & 22. 23.
-
‖ 1.888
edifarhâ
-
* 1.889
Pen. 16. 6.
-
* 1.890
Ecclus. 1. 1••.
-
‖ 1.891
synnh••yrol.
-
‖ 1.892
cyfrwys••ra.
-
* 1.893
Pen. 33. 5.
-
* 1.894
Diha••. 9. 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.895
〈◊◊〉〈◊◊〉 13.
-
* 1.896
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.897
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 gwr
-
* 1.898
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.899
Pen 12▪ 12.
-
* 1.900
Pen. 27. 3.
-
* 1.901
Psal. 141. 3.
-
* 1.902
Exod. 20. 7. pen 27. 15. matth. 5. 33. 34.
-
‖ 1.903
ni bydd difai.
-
‖ 1.904
fod yn ffôl.
-
* 1.905
2. Sam. 16. 17.
-
* 1.906
Dihar. 9. 17.
-
* 1.907
Esa. 29▪ 15. Iob. 24 15.
-
* 1.908
Lefi••. 20. 〈◊〉〈◊〉 Deut. 22. 2••
-
* 1.909
Exod. 10. 1••
-
* 1.910
Doeth. 4. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.911
cwmwl.
-
* 1.912
Iob. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.913
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.914
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.915
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.916
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.917
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.918
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.919
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.920
〈◊◊〉〈◊◊〉 34.
-
* 1.921
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.922
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.923
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.924
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.925
••••ing••.
-
* 1.926
Pen. 33. 16.
-
* 1.927
Gen. 13. 25. Rhuf. 12. 10.
-
* 1.928
Pen. 14. 1. & 19. 16. Iago. 1. 2.
-
‖ 1.929
gyfaill.
-
‖ 1.930
bwy.
-
‖ 1.931
pla.
-
* 1.932
Dihar. 21. 19.
-
‖ 1.933
sach-liain.
-
* 1.934
Pen. 42. 12. 2. Sam. 11. 2.
-
* 1.935
Gen. 3. 6. 1, Tim. 2. 14.
-
‖ 1.936
rinweddol.
-
‖ 1.937
Anair.
-
‖ 1.938
Iau yn 〈◊◊〉〈◊◊〉 ac 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.939
Pen. 42. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.940
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.941
yn y 〈◊〉〈◊〉 uchel
-
‖ 1.942
yn tref•••• 〈◊〉〈◊〉 thy.
-
‖ 1.943
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.944
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.945
〈◊〉〈◊〉. 6. 〈◊〉〈◊〉. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 〈◊◊〉〈◊◊〉. 69. 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.946
〈◊◊〉〈◊◊〉. 11
-
* 1.947
〈◊◊〉〈◊◊〉 17.
-
‖ 1.948
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.949
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.950
Dihar. 10. 10
-
‖ 1.951
bwriadu.
-
‖ 1.952
f••n-gamma,
-
* 1.953
Psal. 7. 15. Dihar. 26. 27. Preg. 10. 8.
-
* 1.954
Deut. 32. 35. Rhuf. 12. 19.
-
* 1.955
Deut. 32. 35 Rhuf. 12. 19.
-
* 1.956
Matth. 6 14
-
* 1.957
Pen. 8. 1
-
* 1.958
Dihar. 26. 21.
-
* 1.959
Pen. 21. 28.
-
‖ 1.960
wehwyn.
-
* 1.961
Deut. 15. 8. Mat. 5. 42. Luc. 6. 35.
-
‖ 1.962
os ffynna ganddo.
-
* 1.963
Dan. 4. 14. matth. 6. 〈◊〉〈◊〉 luc. 11. 41. & 12. 33. act. 104. 1. tim. 6. 18.
-
* 1.964
Tob. 48, 10, 11.
-
* 1.965
Pen. 39. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.966
〈◊〉〈◊〉 13. 〈◊〉〈◊〉. ••3. 13.
-
‖ 1.967
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.968
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.969
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.970
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.971
gystuddir.
-
* 1.972
Dihar. 12. 25. & 15. 13. & 17. 22.
-
‖ 1.973
foneddigaidd.
-
* 1.974
2. Tim. 6. 9. 10.
-
* 1.975
Pen. 8. 2.
-
* 1.976
Luc. 6. 24.
-
* 1.977
Dihar. 23. 1. psal. 111. 9.
-
‖ 1.978
yn weddaidd.
-
* 1.979
Pen. 37. 29.
-
* 1.980
Dihar. 22. 9.
-
* 1.981
Es. 5. ••2. iudeth. 13. 8.
-
‖ 1.982
lle y byddo ••erador. Preg. 3. 7. pen. 20. 7.
-
* 1.983
Iob. 32. 6.
-
‖ 1.984
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.985
Rhuf. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.986
niwed
-
‖ 1.987
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.988
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.989
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.990
〈◊◊〉〈◊◊〉. 16.
-
‖ 1.991
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.992
〈◊◊〉〈◊◊〉 17. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.993
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.994
〈◊◊〉〈◊◊〉 ••9 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
* 1.995
〈◊◊〉〈◊◊〉 34.
-
‖ 1.996
werth.
-
* 1.997
Pen. 7. 20.
-
‖ 1.998
â gwerth y pryna••••••.
-
‖ 1.999
sydd a'i feddwl ar.
-
* 1.1000
Dih. 27. 19.
-
* 1.1001
Ioh 14. 4.
-
‖ 1.1002
phrisia mo honynt.
-
‖ 1.1003
er mwyn y pethau hyn.
-
* 1.1004
Psal. 33. 18. Psal. 91. 1.
-
* 1.1005
Dihar. 21. 27.
-
* 1.1006
Dih. 15. 8.
-
* 1.1007
Deut. 24. 14. 15. Pen. 7. 20.
-
* 1.1008
Num. 19. 11. 12.
-
* 1.1009
1. Sam. 15. 22. Ier. 7. 3.
-
‖ 1.1010
aberth hed••
-
* 1.1011
Exod. 23. 1•• Deu. 16. 16.
-
* 1.1012
2. Cor 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1013
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.1014
Tob•• 4. 8.
-
* 1.1015
Le••••. 22. 〈◊〉〈◊〉 Deut. 25. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1016
Deut. 1••. 〈◊〉〈◊〉 2. Chron. 〈◊◊〉〈◊◊〉 Iob 34. 〈◊〉〈◊〉 Doeth. 6. 〈◊〉〈◊〉 Act. 10. 34. Rhuf. 2. 11. Galat 2. 6. Ephes. 6 9. Coloss 3. 〈◊〉〈◊〉 1. Pet. 〈◊〉〈◊〉. 17.
-
‖ 1.1017
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1018
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.1019
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1020
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1021
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1022
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.1023
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.1024
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
* 1.1025
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1026
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1027
meddiant.
-
* 1.1028
Pen. 6. 10.
-
‖ 1.1029
ger bron,
-
* 1.1030
Pen. 8. 19 & 9. 16.
-
‖ 1.1031
sydd, arno.
-
‖ 1.1032
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1033
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.1034
Pen. 31. 19, 20.
-
‖ 1.1035
rhodd.
-
* 1.1036
Exod 15. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1037
Esa. 38. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1038
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.1039
〈◊〉〈◊〉. 15. 〈◊〉〈◊〉 & 17. 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1040
arno ef
-
* 1.1041
〈◊〉〈◊〉. Sam. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1042
ar 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉.
-
‖ 1.1043
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.1044
Pen. 44 13.
-
‖ 1.1045
afonydd o ddyfroedd.
-
* 1.1046
Gen. 1. 3••. mar. 7 3••.
-
* 1.1047
Hose. 14. 10.
-
* 1.1048
Pen. 29 33.
-
‖ 1.1049
gwaed y grawnwin.
-
‖ 1.1050
chenllysc.
-
‖ 1.1051
sarph.
-
‖ 1.1052
yn ei orchym∣myn ef.
-
‖ 1.1053
Adda.
-
* 1.1054
Eccles. 1. 3.
-
* 1.1055
Pen. 39. 29, 30
-
* 1.1056
Gen. 7. 11.
-
* 1.1057
Gen. 3. 19.
-
* 1.1058
Pen. 41 10. Preg. 1. 7.
-
* 1.1059
Iob 8. 11. & 16, 12. Gen. 41. 2.
-
‖ 1.1060
fendigedig.
-
* 1.1061
Phil. 4. 11. 〈◊〉〈◊〉. tim. 6. 6.
-
* 1.1062
Esa. 4. 15.
-
‖ 1.1063
ffrwythlon
-
‖ 1.1064
gardottyn.
-
‖ 1.1065
chardotta.
-
* 1.1066
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1067
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
* 1.1068
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1069
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.1070
fod yn rhy bryssur.
-
‖ 1.1071
cadwyn siccr.
-
* 1.1072
Pen. 25. 23.
-
* 1.1073
Gen. 3. 6.
-
‖ 1.1074
anhywedd.
-
‖ 1.1075
yr Arglwydd.
-
* 1.1076
Iob. 41. 4. Esa. 29. 15.
-
‖ 1.1077
ar eigyfo∣diad.
-
‖ 1.1078
dedrefnyn.
-
‖ 1.1079
bryssurodd ei.
-
* 1.1080
Gen. 1. 16.
-
* 1.1081
Exod. 12. 2.
-
‖ 1.1082
yn ei ber∣ffeithrwydd
-
* 1.1083
Gen. 9. ••3
-
* 1.1084
Esa. 4••. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1085
yn sefyll ben 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.1086
Psal. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1087
eu d••w•••••• hwynt yn llwydd••••••
-
* 1.1088
Psal. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.1089
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉
-
* 1.1090
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
* 1.1091
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1092
〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.1093
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1094
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1095
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1096
Gen. 9. 11.
-
* 1.1097
Gen. 12. 3. & 15. 5. & 17. 4.
-
* 1.1098
Gen. 21. 4.
-
* 1.1099
Gen. 22. 16, 17, 18. gal. 3. 8.
-
* 1.1100
Gen. 26. 2, 3.
-
* 1.1101
Gen. 28. 1••.
-
* 1.1102
Exod. 11. 3. act. 7. 22.
-
* 1.1103
Exo. 6. 7, 8, 9
-
* 1.1104
Num. 12. 3.
-
* 1.1105
Exod, 17. 4.
-
* 1.1106
Exod. 4. 28.
-
‖ 1.1107
gwychodd ef â harddwch.
-
‖ 1.1108
a gwiscoedd gwerthfawr.
-
* 1.1109
Exod. 28. 37.
-
‖ 1.1110
Vrim â Thummim.
-
* 1.1111
Deut. 17. 10. & 21. 5.
-
* 1.1112
Num. 16. 1.
-
* 1.1113
Num. 17. 8.
-
* 1.1114
Deut. 12. 12. & 18. 10.
-
* 1.1115
Num. 25. 12, 13. 1. Mac. 2. 54.
-
* 1.1116
Num. 27. deut. 34. 9. ios. 1. 2. & 12. 7.
-
* 1.1117
Ios. 10. 1••▪ 14.
-
‖ 1.1118
yr arglwy•••• ei hun a 〈◊〉〈◊〉 ei 〈◊〉〈◊〉 ef.
-
* 1.1119
Ios. 10. 1••
-
* 1.1120
Num. 16▪ deut. 35. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1121
Ios. 14. 1••
-
* 1.1122
Pen 49. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1123
1. Sam. 〈◊〉〈◊〉 & 16. 13.
-
* 1.1124
〈◊◊〉〈◊◊〉. 9.
-
* 1.1125
〈◊◊〉〈◊◊〉. 3.
-
* 1.1126
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
* 1.1127
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1128
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1129
〈◊◊〉〈◊◊〉. 34.
-
* 1.1130
〈◊◊〉〈◊◊〉. 49.
-
* 1.1131
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1132
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1133
〈◊〉〈◊〉. 16. 4.
-
* 1.1134
〈◊◊〉〈◊◊〉. 13.
-
‖ 1.1135
teyrnas.
-
* 1.1136
1. Bren. 4. 2••▪ 24.
-
‖ 1.1137
oeddyt yn dŷ.
-
* 1.1138
1. Bren. 4. 29. 30.
-
* 1.1139
1. Bren. 4 31.
-
* 1.1140
1 Bren. 10. 27.
-
* 1.1141
1. Bren. 11. 1.
-
‖ 1.1142
hâd.
-
* 1.1143
1. Bren. 12. 15.
-
* 1.1144
1. Sam. 7. 15.
-
‖ 1.1145
h••l.
-
* 1.1146
1. Bren. 12. 10, 11. 13. 14, * 1. Bren. 12, 28. 30.
-
* 1.1147
1. Bren. 17. 1.
-
* 1.1148
1. Bren. 18. 38. & 2. bren. 1. 10.
-
* 1.1149
1. Bren. 17. 21.
-
‖ 1.1150
〈◊〉〈◊〉 enaid o le y meirw.
-
* 1.1151
2. Bren. 1. 16.
-
‖ 1.1152
gwelau.
-
* 1.1153
1. Bren. 19. 15.
-
* 1.1154
1. Bren. 19. 16.
-
* 1.1155
2. Bren 2. 11.
-
* 1.1156
Malach. 4. 5.
-
‖ 1.1157
siccrhau.
-
‖ 1.1158
harddwyd â chariad.
-
* 1.1159
2. Bren 2. 11. ••5.
-
‖ 1.1160
〈◊〉〈◊〉 gair. 2. Bren. 13. 21.
-
* 1.1161
••. Bren. 18. 11.
-
* 1.1162
2. Bren. 18. 2.
-
* 1.1163
2. Bren. 18. 13.
-
* 1.1164
2 Bren. 19. 35. esa. 37. 36. tob. 1. 18. 1. mac. 7. 41. 2. mac. 8. 19.
-
‖ 1.1165
ffyddlon yn ei weledigaeth. 2. Bren. 20. 10. esa. 38. 8.
-
* 1.1166
2. Bren. 〈◊〉〈◊〉. 〈◊〉〈◊〉 2. cron. 34▪ 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1167
music.
-
‖ 1.1168
a yw ddeg vniawn yn nychwe••••ad
-
* 1.1169
2. Bren. 23. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1170
gallu
-
* 1.1171
2. Bren. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.1172
Iere 38. 5.
-
* 1.1173
Iere. 〈◊〉〈◊〉. 5.
-
* 1.1174
Ezec 1. 3.
-
* 1.1175
13 〈◊〉〈◊〉 & 38. 〈◊〉〈◊〉 & 46. 11.
-
* 1.1176
H••g. 1. 〈◊〉〈◊〉 ez••. 4. 2.
-
* 1.1177
Zach. 3 〈◊〉〈◊〉 ez••. 3. 〈◊〉〈◊〉. nehem. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1178
carned••
-
* 1.1179
Gen. 〈◊◊〉〈◊◊〉 pen 44. 〈◊〉〈◊〉 heb. 11. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1180
Gen. 〈◊◊〉〈◊◊〉 & 42. 6. & 45. 8.
-
* 1.1181
Gen. 5. 〈◊〉〈◊〉 & 11. 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1182
〈◊〉〈◊〉. 3. 4.
-
* 1.1183
〈◊◊〉〈◊◊〉. ••3.
-
‖ 1.1184
〈◊〉〈◊〉 ei 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1185
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1186
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1187
〈◊〉〈◊〉 y 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1188
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
‖ 1.1189
ym myfi y Philistiaid.
-
‖ 1.1190
vscyrnygiad dannedd.
-
‖ 1.1191
a ddisgwili∣ant wrthit.
-
‖ 1.1192
yn amser y beilchion, pan nid oedd help.
-
* 1.1193
‖ i mi fyned ar lêd▪
-
‖ 1.1194
mi a 〈◊〉〈◊〉 am fy anwy∣bodaeth am deni.
-
‖ 1.1195
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1196
Esai 5••. ••.
-
‖ 1.1197
y mae hi 〈◊〉〈◊〉 agos iw 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1198
Pen 6. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1199
na chy••••∣rais i ond ychydig 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1200
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1201
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1202
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1203
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1204
〈◊◊〉〈◊◊〉, 〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉
-
* 1.1205
Pen. 2. 6.
-
* 1.1206
Dan. 9. 5.
-
* 1.1207
Deut. 28. 19.
-
* 1.1208
Deut. 28. 53.
-
‖ 1.1209
gostyngwyd, ac ni'n dercha∣fwyd.
-
* 1.1210
* Pen. 1. 15.
-
* 1.1211
Dan. 9. 15.
-
‖ 1.1212
galw Israel a'i heppil wrth dy Enw di.
-
* 1.1213
* Deut. 26. 15. Esai. 63. 15.
-
‖ 1.1214
hyspryt, neu henioes.
-
* 1.1215
Psal. 6. 5. & 115. 17. esa. 38. 18, 19.
-
* 1.1216
Dan. 9. 10.
-
* 1.1217
Ier. 27. 7. 8.
-
‖ 1.1218
law.
-
* 1.1219
Lefit. 16. 1•• Deut. 18. 15.
-
‖ 1.1220
yr haid 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1221
cefn 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1222
hwy a gof••••••••
-
‖ 1.1223
a arglwy••••••∣aeth•••••• 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1224
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1225
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1226
weithiant mewn.
-
‖ 1.1227
deonglwyr.
-
* 1.1228
Dihar. 8. 31. Ioan 1. 14.
-
* 1.1229
1. Cor. 10. 20.
-
‖ 1.1230
ei addysc ef mewn cyfiawn∣der.
-
‖ 1.1231
llwyddiant.
-
‖ 1.1232
yn fy nyddiau i, neu yn nyddi∣au fy nghy∣studd.
-
* 1.1233
Psal. 116. 1. 137. 7.
-
‖ 1.1234
rhai mwy∣thus.
-
* 1.1235
〈◊◊〉〈◊◊〉 10. 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉. 14. 〈◊〉〈◊〉10.
-
‖ 1.1236
Deml.
-
‖ 1.1237
pan fyddo llawer arnynt.
-
‖ 1.1238
temlau.
-
‖ 1.1239
drysau.
-
‖ 1.1240
llyfu.
-
‖ 1.1241
y gwerth mwyaf.
-
* 1.1242
Esai. 46. 7.
-
‖ 1.1243
na thalant hwy ddim.
-
‖ 1.1244
offrymmau.
-
‖ 1.1245
bwytta.
-
* 1.1246
Leuit. 12. 4.
-
‖ 1.1247
a barant iddo alw a'r Bel.
-
‖ 1.1248
wybodaeth.
-
* 1.1249
Psal. 115 4. Doeth. 13. 10.
-
‖ 1.1250
eu swydd••••
-
‖ 1.1251
yr vn gwy••••
-
* 1.1252
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
‖ 1.1253
trwy dy ga∣dernid ti a'th allu.
-
‖ 1.1254
ag ystor. Naphtha yw mâth ar glai brâs, tebig i frwmstan llaith. Plin. l. 2. c. 105.
-
‖ 1.1255
claiar.
-
‖ 1.1256
derchefwch ef vwch law pob peth, ac felly yn y llaill i gyd.
-
* 1.1257
Psal. 148. 4.
-
‖ 1.1258
gwrês.
-
‖ 1.1259
Gaiaf a hâf.
-
‖ 1.1260
chafodydd o law.
-
‖ 1.1261
o'r bedd.
-
‖ 1.1262
Gr. Ddraig Bel.
-
‖ 1.1263
〈◊〉〈◊〉 yn 〈◊〉〈◊〉 ty.
-
‖ 1.1264
ddoe ac echd∣doe.
-
‖ 1.1265
phelau ŷmol∣chi.
-
* 1.1266
Exod. 23. 7.
-
‖ 1.1267
bren 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1268
math ar dderwen▪
-
* 1.1269
〈◊◊〉〈◊◊〉 19. 〈◊◊〉〈◊◊〉 5.
-
† 1.1270
Draig Bel,
-
* 1.1271
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1272
Rhai a chwa∣negant y titl hwn, Am y Ddraig.
-
‖ 1.1273
Ddraig.
-
* 1.1274
Dan. 6. 16.
-
‖ 1.1275
gaethwas.
-
* 1.1276
Ezec. 8. 3.
-
* 1.1277
1. Bren. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1278
heb dy 〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1279
Ier. 3••
-
‖ 1.1280
ddrygan dy∣nion.
-
‖ 1.1281
nid wyf yn cael esmwyth∣dra.
-
‖ 1.1282
brenhinoedd.
-
‖ 1.1283
ei fod yn marw.
-
‖ 1.1284
llawer o d••••••gau a gafod•• afael 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1285
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1286
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1287
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1288
yr rosant Is∣ra••li 〈◊〉〈◊〉 dir∣gel, 〈◊◊〉〈◊◊〉 y gallent ffo i lechu.
-
‖ 1.1289
gorchymyn y brenin ydoedd, iddynt o•• ladd ef.
-
‖ 1.1290
Gaddis.
-
‖ 1.1291
Auaran, neu Auaron.
-
‖ 1.1292
Na atto Duw i ni adel &c.
-
* 1.1293
Num. 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1294
drygeu am 〈◊〉〈◊〉 arnynt.
-
‖ 1.1295
ar 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1296
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1297
〈◊〉〈◊〉 i'r 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1298
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1299
〈◊〉〈◊〉 5, 10, 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.1300
〈◊◊〉〈◊◊〉. 40.
-
* 1.1301
〈◊〉〈◊〉 ••5. 13. 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.1302
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1303
〈◊〉〈◊〉 46, 7 〈◊◊〉〈◊◊〉
-
* 1.1304
〈◊◊〉〈◊◊〉. 4.
-
* 1.1305
〈◊◊〉〈◊◊〉. 13.
-
* 1.1306
〈◊〉〈◊〉 16, 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
* 1.1307
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
* 1.1308
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1309
ymleddwch.
-
‖ 1.1310
dderbyniodd atto.
-
* 1.1311
1. Sam. 14. 6. ••. Chro. 14. 11.
-
‖ 1.1312
yn 〈◊〉〈◊〉 erbyn.
-
‖ 1.1313
falchder, neu, genfigen.
-
‖ 1.1314
wrth bob angen.
-
‖ 1.1315
a b••b teyrn∣ged y w••âd yn fychan.
-
‖ 1.1316
yn ••wy i atteb y 〈◊〉〈◊〉, ac i roddi rhoddion fel y 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1317
ei ddin•••• frenhinol ef.
-
‖ 1.1318
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1319
Philis••iei••
-
‖ 1.1320
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1321
〈◊◊〉〈◊◊〉 y 〈◊〉〈◊〉 y cen∣•••••••••• 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉.
-
* 1.1322
〈◊〉〈◊〉 6. 2.
-
* 1.1323
〈◊◊〉〈◊◊〉. 5. 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1324
nac arfau amdanynt,
-
‖ 1.1325
yr Arglwydd.
-
‖ 1.1326
o'n blaen ni.
-
* 1.1327
1. Sam. 17. 50, 51.
-
* 1.1328
1. Sam. 14. 13. 14.
-
‖ 1.1329
Philistiaid.
-
‖ 1.1330
deml.
-
* 1.1331
Exod. 20. 25 Deut. 27. 5. Iosu. 8. 31.
-
‖ 1.1332
deml.
-
‖ 1.1333
bedd.
-
‖ 1.1334
gyssegr
-
‖ 1.1335
〈◊〉〈◊〉, 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1336
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉. 17. 〈◊◊〉〈◊◊〉 3. 32.
-
‖ 1.1337
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1338
Bos••rra.
-
‖ 1.1339
Chasphor.
-
‖ 1.1340
a bôd y Cenhedloedd.
-
‖ 1.1341
Bosorra.
-
‖ 1.1342
a'r Cehedloedd a osodasant ar yr Iddewon.
-
* 1.1343
Num. 10.
-
‖ 1.1344
oedd yn 〈◊〉〈◊〉fod yn ôl.
-
‖ 1.1345
cyssuro, 〈◊〉〈◊〉 didd••••••, 〈◊〉〈◊〉 ••nnog.
-
‖ 1.1346
offrymm•••••••••• hêdd, 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉.
-
‖ 1.1347
〈◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊〉.
-
‖ 1.1348
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1349
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1350
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1351
••ygei ef An∣ti••chus▪ ei fâb ef i f••nu, ac y meithrinei ef.
-
‖ 1.1352
eu.
-
‖ 1.1353
[y rhai o Bethsuta.]
-
‖ 1.1354
ymbaratoodd
-
‖ 1.1355
waed.
-
‖ 1.1356
anifail.
-
‖ 1.1357
anifail.
-
‖ 1.1358
trwy gelfy∣ddyd.
-
‖ 1.1359
gan eu cyn∣hyrfu ••••ynt, ac wedi eu ha••••ylchu 〈◊〉〈◊〉 byddinoedd, 〈◊〉〈◊〉 eu ymddiffy•• â'r dyffryn∣noedd.
-
‖ 1.1360
fel y 〈◊〉〈◊〉 ef hwynt y•• ddryllia••.
-
‖ 1.1361
yn Iudea
-
‖ 1.1362
chwaneg 〈◊〉〈◊〉 all•••• o 〈◊〉〈◊〉, a hwy ymroesant.
-
‖ 1.1363
a wnaeth fryniau i gydio oddi∣arnynt.
-
‖ 1.1364
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉, gael 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1365
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉. 16.
-
‖ 1.1366
tîr ein hun.
-
‖ 1.1367
swyddogion, llywodraethwyr, goreugwyr, neu wyr mewn awdurdod.
-
* 1.1368
Psal. 79. 2.
-
‖ 1.1369
barn.
-
‖ 1.1370
ymegniodd i ymddiffyn ei Archoffeiria∣daeth.
-
‖ 1.1371
yn erbyn y wlâd.
-
‖ 1.1372
myned yn g••••••••on iawn.
-
‖ 1.1373
a ddywedodd waetha y gallei am danynt.
-
‖ 1.1374
gyfarfod â Iudas mewn rhyfel.
-
‖ 1.1375
Carphasalama
-
‖ 1.1376
a wnaeth gam cywily∣ddus a hwynt.
-
‖ 1.1377
iw alw ar dy Enw.
-
* 1.1378
2. Br. 19. Esa. 37. 3•• Eccl. 48. 2•• 2. Mac 8. 1••
-
‖ 1.1379
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1380
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1381
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1382
chydgyfeillach.
-
‖ 1.1383
Llwyddiant.
-
‖ 1.1384
gosoder yr.
-
‖ 1.1385
neu, Galilea.
-
‖ 1.1386
Berretha: Ios.
-
‖ 1.1387
yn ôl y coppi Lladin y mae hwn.
-
‖ 1.1388
achos da i ddywedyd yn erbyn ein go∣goniant.
-
‖ 1.1389
neu, yn erbyn yr Iddewon.
-
‖ 1.1390
fyddin.
-
‖ 1.1391
sef, 〈◊〉〈◊〉 a'i wyr.
-
‖ 1.1392
a wnaet•• ddirmyg 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1393
〈◊◊◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊◊◊〉 y 〈◊〉〈◊〉, 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1394
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1395
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1396
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1397
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.1398
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉.
-
‖ 1.1399
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1400
dwy fil Ios. Ant. ••. 13. c. 1.
-
‖ 1.1401
gywelriodd.
-
‖ 1.1402
Ios. Techoa.
-
‖ 1.1403
yn Bothsura.
-
‖ 1.1404
o'r wla•• o••∣ddent garedi∣gion iddo, i gymmeryd ei blaid ef.
-
‖ 1.1405
Od••marra.
-
‖ 1.1406
lywodraethu.
-
‖ 1.1407
caredig.
-
‖ 1.1408
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1409
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1410
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1411
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1412
dros ben.
-
* 1.1413
gyferbyn.
-
‖ 1.1414
fâb yn y gy∣fraith.
-
‖ 1.1415
llwyodraethwr ar dalaith.
-
‖ 1.1416
ai de••odd
-
‖ 1.1417
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1418
laddwydd y naill gan y llall.
-
‖ 1.1419
Ios. Ant. l. 13. c. 8.
-
‖ 1.1420
Caniada he∣ddwch i ni.
-
‖ 1.1421
eleph••nt••••id
-
‖ 1.1422
o'r 〈◊◊〉〈◊◊〉. Tyrus &.
-
‖ 1.1423
trwy y 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 i'r afon.
-
‖ 1.1424
y 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.1425
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 Gr.
-
‖ 1.1426
〈◊〉〈◊〉 ef oddi 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 y 〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.1427
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1428
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1429
Darllen, allan o Ios Y•••••••••• anfonodd A∣••eu•• at Oni••••••.
-
‖ 1.1430
llwyddiant.
-
‖ 1.1431
sengi o fewn
-
‖ 1.1432
Ios. Ant. l. 13. c. 9. aethant ymmaith o'r.
-
‖ 1.1433
Ios. Gr Naba∣theaid, neu Za∣batheaid.
-
‖ 1.1434
amddessyn∣feydd.
-
‖ 1.1435
bryn.
-
‖ 1.1436
o herwydd bod rhan o'r mûr, tu a'r afon, o du y dwrein, wedi syrthio.
-
‖ 1.1437
anfonodd.
-
‖ 1.1438
-
‖ 1.1439
Ionathan.
-
‖ 1.1440
a'n gwr•••••• a'n plant 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1441
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1442
〈◊〉〈◊〉 a 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1443
yn y cestyll.
-
‖ 1.1444
hyn oll a wnaeth 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 i ysp••il••o.
-
‖ 1.1445
wis•• sca••••••••
-
‖ 1.1446
marchnadoedd
-
‖ 1.1447
roddi ei dde∣be•••••• iddynt.
-
‖ 1.1448
ganhiadu heddwch.
-
‖ 1.1449
diolch.
-
‖ 1.1450
gyfoeth y wlad.
-
* 1.1451
1. Bren. 4. 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1452
〈◊◊〉〈◊◊〉
-
‖ 1.1453
••••felwyr.
-
‖ 1.1454
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1455
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.1456
Ac yr ydwyf yn rhoddi cen∣nad i ti i fa∣thu arian ar dy lûn dy hûn.
-
‖ 1.1457
neu, Ariara∣thes.
-
‖ 1.1458
neu, Sampsa∣••es.
-
* 1.1459
neu, 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1460
ymladd 〈◊〉〈◊〉 wastadol.
-
‖ 1.1461
Neu, o 〈◊〉〈◊〉 cyffini•••• &c.
-
‖ 1.1462
a'cj daro∣styngwn 〈◊〉〈◊〉 rhyfel.
-
‖ 1.1463
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1464
o hyn.
-
‖ 1.1465
Gwedi iddo roddi hon ar dan, hwy a ffoesant i'r ty∣rau ym mae∣sydd Azotus, ac a laddwyd yno.
-
‖ 1.1466
mab yn y gyfraith.
-
‖ 1.1467
capteniaid ar filoedd.
-
* 1.1468
Les. 23. 34.
-
* 1.1469
Leuit. 23. num. 29.
-
* 1.1470
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.1471
lysieu y ddayar.
-
‖ 1.1472
A••hen
-
‖ 1.1473
〈◊〉〈◊〉
-
* 1.1474
Deut 32. 36.
-
* 1.1475
1. Bren. 19. 35.
-
‖ 1.1476
Atheniaid.
-
‖ 1.1477
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 gyd 〈◊〉〈◊〉.
-
* 1.1478
〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1479
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.1480
〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
-
‖ 1.1481
ymgeledd-wr.
-
‖ 1.1482
Cenhedloedd
-
‖ 1.1483
Maccabeus a'•• fintai.
-
‖ 1.1484
y cytunei ef.
-
‖ 1.1485
Dioscores.
-
‖ 1.1486
Cenhedloedd.
-
‖ 1.1487
a chaniattau heddwch.
-
‖ 1.1488
Neu, 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1489
〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1490
wedi 〈◊◊〉〈◊◊〉 ystyried.
-
‖ 1.1491
〈◊〉〈◊〉 gan 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1492
〈◊◊〉〈◊◊〉 le i 〈◊◊〉〈◊◊〉 oedd 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉.
-
‖ 1.1493
〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉
-
‖ 1.1494
Dositheus a Sosipater.
-
‖ 1.1495
sef 〈◊〉〈◊〉.
-
‖ 1.1496
i Iudas a'i lu.
-
‖ 1.1497
llywodraeth∣wr.
-
‖ 1.1498
a fwriodd ei lu ef heibio, a'i clwyfodd ef yn ei yscwydd, neu a'i tara∣wodd yn ei yscwydd.
-
‖ 1.1499
gyda Gor∣gias.
-
* 1.1500
Deut. 26. 7.
-
‖ 1.1501
neu, phum mil a 〈◊〉〈◊〉
-
‖ 1.1502
〈◊◊〉〈◊◊〉.
-
‖ 1.1503
〈◊〉〈◊〉 mîl.
-
‖ 1.1504
dybid eu bod o'r Deml.
-
‖ 1.1505
orchymmyn.
-
‖ 1.1506
Dess••••.
-
‖ 1.1507
Mattathias.
-
‖ 1.1508
a fu fywyng∣hyd gyd ag ef.
-
‖ 1.1509
fel carchar
-
* 1.1510
2. Bren. 19. 35.