PEN. XXIX.
2 Rhaid i ni ddangos trugaredd, a rhoi benthyg. 4 Na ddylai 'r benthygiwr dwyllo mo'r hwn a fenthygio iddo. 9 Dyro elusen. 14 Gwr da ni cholleda ei feichiau. 18 Mor enbyd yw mechniaeth. 22 Gwell yw arhos gartref, nag ymdeithio mewn lle arall.
YR hwn sydd drugarog, sydd yn rhoddi echwyn iw gym∣mydog, a'r hwn sydd yn ca∣darnhau ei law ef, sydd yn cadw y gorchymynion.
2 * 1.1 Dod echwyn i'th gym∣mydog yr amser y byddo rhaid iddo, a thâl drachefn i'th gymmydog mewn amser.
3 Cadw dy air, a gwna yn ffyddlon ag ef, a thi a gei wrth dy raid bob amser.
4 Llawer a gyfrifasant echwyn fel peth wedi ei gael, ac a barasant flinder i'r rhai a'i helpiasant hwy.
5 Y mae efe yn cussanu ei law ef, hyd oni dderbynio: ac efe a ostwng ei leferydd am arian ei gymmydog: ond yn amser talu efe a oeda yr amser, ac a rydd atteb hwyr∣frydic, ac a wna escus o'r amser.
6 Ac ‖ 1.2 os dichon efe, prin y caiff efe yr hanner: ac efe a gyfrif hynny fel peth wedi ei gael [ar y ffordd:] os amgen efe a'i difuddi∣odd o'i arian, ac a'i cafodd ef yn elyn heb achos: efe a dâl iddo felldithion a difenwad; efe a dâl iddo ammarch yn lle anrhydedd.
7 Llawer o herwydd hynny a naccasant fenthyccio, am ddryg-waith rhai eraill, gan ofni eu difuddio.
8 Er hynny bydd ddioddefgar wrth ŵr tlawd, ac nac oeda dy elusen iddo.
9 Cynnorthwya y tlawd er mwyn y gorchymmyn, ac na thro ef ymmaith yn ei angen.
10 Coll dy arian er mwyn cyfaill neu frawd, ac na chuddia hwynt tan garreg iw colli.
11 Gosot * 1.3 dy dryssor yn ol gorchymmyn y Goruchaf, ac efe a sydd mwy buddiol i ti nag aur.
12 Cae * 1.4 dy elusen yn dy gelloedd, a hi a'th wared ti o bôb niwed.
13 Hi a ymladd trosot ti yn well nâ tha∣rian cryf, ac nâ gwayw-ffon gadarn, yn er∣byn y gelyn.
14 Gŵr da a fechnia tros ei gymmydog; a'r hwn a gollodd gywilydd-dra a'i gâd ef.
15 Na anghofia garedigrwydd meichie, o blegit efe a'i rhoddes ei hun trosot ti.
16 Pechadur a anrheithia feichie da ei gyflwr:
17 A'r hwn sydd o feddwl anffyddlon, a âd mewn perigl yr hwn a'i gwaredoddef.
18 Mechniaeth a ddifethodd lawer vn goludog, ac a'i siglodd hwynt fel tonn o'r môr: hi a wnaeth i wŷr cedyrn fudo allan o'i tai, fel y cyrwydrasant hwy ym mysc cenhedloedd dieithr.
19 Y pechadur a drosseddo orchymynion yr Arglwydd, a syrth mewn mechniaeth, a'r hwn a ddilyn achosion rhai eraill er gwobr, asyrth mewn cyfraith.
20 Cynnorthwya dy gymmydog yn ôl dy allu, a gwilia arnat dy hun rhag syrthio o honot.
21 * 1.5 Y peth pennaf o fywyd dŷn, yw dwfr, a bara, a dillad, a thŷ yn gorchuddio gwarth.
22 Gwell yw bywyd y tlawd mewn bwth gwael, nâ gwleddau danteithiol mewn tŷ vn arall.
23 Am fawr a bychan bydd fodlon, ac ni chei di glywed edliw dy dŷ.
24 Bywyd drwg yw myned o dŷ i dŷ, lle yr ymdeithi di, ni elli agoryd dy enau.
25 Ti a letteui, ac a ddiodi rai anniolch∣gar,