5 Dec dolen a deugain a wnei di i vn llen, a dêc dolen a deugain a wnei ar gwr y llen [a fyddo] yn yr ail cydiad: y dolennan a dder∣byniant bôb vn ei gilydd.
6 Gwna hefyd ddêc bâch a deugain o aur a chydia â'r bachau y llenni bôb vn wrth ei gilydd, fel y byddo yn vn tabernacl.
7 A gwna lenni o [flew] geifr [i fod] yn babell-len ar y tabe rnacl: vn llen ar ddêc a wnei.
8 Hŷd vn llen [fydd] dêc cufydd ar hugain, a llêd vn llen [fydd] pedwar cufydd; a'r vn mesur [fydd] i'r vn llen ar ddêc.
9 A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun: a dybla y chwe∣ched len ar gyfer wyneb y babell-len.
10 A gwna ddêc dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwrr, yn y cydiad [cyntaf]; a dêc dolen a deugain ar ymyl y llen [arall] yn yr ail cydiad.
11 A gwna ddêc bâch a deugain o brês, a dôd y bachau yn y dolennau, a chylymma y babell-len, fel y byddo yn vn.
12 A'r gweddill a fyddo tros ben, o lenni y babell-len [sef] yr hanner llen weddill, a fydd yngweddill ar du cefn y tabernacl.
13 Fel [y byddo] o'r gweddill gufydd o'r naill dû, a chufydd o'r tu arall, o hŷd y babell∣len: bydded hynny dros ddau ystlys y taber∣nacl o'r tu yma ac o'r tu accw, iw orchgu∣ddio.
14 A gwna dô i'r babell-len o grwyn hyr∣ddod wedi eu llifo yn gochion, a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.
15 A gwna i'r tabernacl styllod o goed Sit∣tim, yn eu sefyll.
16 Dêc cufydd fydd hŷd ystyllen, a chu∣fydd a hanner cufydd sydd llêd pôb ystyllen.
17 [Bydded] dau dŷno i vn bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bôb vn ar gyfer ei gy∣lydd: felly y gwnei am holl fyrddau y ta∣bernacl.
18 A gwna styllod i'r tabernacl, vgain y∣styllen o'r tu dehau, tu a'r dehau.
19 A gwna ddeugain mortais arian tan yr vgain ystyllen, dwy fortais tan vn ystyllen iw dau dŷno, a dwy fortais tan styllen arall, iw dau dŷno.
20 A [gwna] i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd vgain ystyllen.
21 A deugain mortais o arian, dwy fortais tan vn ystyllen, a dwy fortais tan ystyllen a∣rall.
22 Hefyd i ystlys y tabernacl o du'r gorlle∣win, y gwnei chwech ystyllen.
23 A dwy styllen a wnei i gonglau y ta∣bernacl yn y ddau ystlys.
24 A byddant wedi eu cyssylldu oddi ta∣nodd: byddant hefyd wedi eu cyd gydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.
25 A byddant yn wyth ystyllen, a'i mortei∣siau arian yn vn fortais ar bymthec: dwy for∣tais dan vn ystyllen, a dwy fortais tan ysty∣llen arall.
26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i styllod vn ystlys i'r tabernacl,
27 A phum barr i styllod ail ystlys y ta∣bernacl, a phum barr i ystyllod ystlys y ta∣bernacl: i'r ddau ystlys tu a'r gollewin.
28 A'r barr canol ynghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwrr i gwrr.
29 Gosod hefyd aur tros yr ystyllod, a gwna eu modr wyau o aur, i osod y barrau drwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.
30 A chyfod y tabernacl wrth ei bortrei∣ad, yr hwn a ddangoswyd it yn y mynydd.
31 A gwna wahan-len o [sidan] glâs, por∣phor ac scarlat, ac o liain main cyfrodedd: â Cherubiaid o waith cywreint y gwnei hi.
32 A dod hi ar bedair colofn o [goed] Sit∣tim wedi eu gwisgo ag aur, a'i pennau o aur ar bedair mortais arian.
33 A dod y wahan-len wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno o fewn y wahan-len Arch y destiolaeth: a'r wahan-len a wna wa∣han i chwi rhwng y cyssegr, a'r cyssegr sanc∣teiddiolaf.
34 Dod hefyd y drugareddfa ac Arch y de∣stiola eth yn y cyssegr sancteiddiolaf.
35 A gosot y bwrdd o'r tu allan i'r wahan∣len, a'r canhwyll-bren gyferbyn a'r bwrdd, ar y tu dehau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd.
36 A gwna gaead-len i ddrws y babell, o [sidan] glâs a porphor ac yscarlat, ac o liain main cyfrodedd o wniad-waith.
37 A gwna i'r gaead-len bum colofn [o go∣ed] Sittim, a gwisg hwynt ag aur: a'i pen∣nau fydd o aur, a bwrw iddynt bum mor∣tais brês.