PSAL. XXI.
1 Tâl diolch am fuddugoliaeth: 7 A hyder ar gael ychwaneg o lwyddiant.
¶ I'r pen-cerdd. Psalm Dafydd.
ARglwydd yn dy nerth y llawe∣nycha y brenin: ac yn dy ie∣chydwriaeth di, mor ddirfawr yr ymhyfryda?
2 Deisyfiad ei galon a ro∣ddaist iddo: a dymuniad ei wefusau ni's gommeddaist. Selah.
3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithi∣on daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4 Gofynnodd oes gennit, [a] rhoddaist iddo: ie ‖ 1.1 hir-oes, byth ac yn dragywydd.
5 Mawr [yw] ei ogoniant yn dy iechyd∣wriaeth: gosodaist arno ogoniant a phryd∣ferth wch.
6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol, llawenychaist ef â llawenydd âth wyneb-pryd.
7 O herwydd bod y brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Go∣ruchaf, nid yscogir ef.
8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheu-law a gaiff afael ar dy gaseion.
9 Ti a'i gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddig∣llonedd a'i llwngc hwynt, a'r tân a'i hyssa hwynt.
10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaiar: a'i hâd o blith meibion dynion.
11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn: