Y Bibl Cyssegr-lan sef yr Hen Destament a'r Newydd.

About this Item

Title
Y Bibl Cyssegr-lan sef yr Hen Destament a'r Newydd.
Publication
Printedig yn Llùndain :: Gan Bonham Norton a Iohn Bill, printwyr i Adderchoccaf fawrhydi y Brenhin,
1620.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A13183.0001.001
Cite this Item
"Y Bibl Cyssegr-lan sef yr Hen Destament a'r Newydd." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A13183.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 6, 2025.

Pages

PEN. XXVI.

1 Isaac o achos newyn yn mynedi Gerar. 2 Duw yn ei addyscú ac yn ei fendithio ef. 7 Abime∣lec yn ei geryddu ef am wadu ei wraig. 12 Efe yn mynd yn gyfoethawg. 18 yn cloddio flynnon Esec, Sitnah, a Rehoboth, 23 Abime∣lec yn gwneuthur cyngrair ag ef yn Beersebah. 34 Gwragedd Esau.

A Bu newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf a fuasei yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelec brenhin y Phi∣listiaid i Gerar.

2 Ar Arglwydd a ymddangossasei iddo ef, ac a ddywedasei, na ddos i wared i'r Aipht: aros yn y wlâd a ddywedwyfi wrthyt.

3 Ymdeithia yn y wlâd hon, a mi a fydd∣af gyd a thi, ac 'ath fendithiaf: o herwydd i ti ac 'ith hâd * 1.1 y rhoddaf yr holl wledydd hyn, ac mi a gyfla wnaf fy llw a dyngais wrth A∣braham dy dâd ti.

4 Ac * 1.2 mi a amlhâf dy hâd ti fel sêr y ne∣foedd, a rhoddaf i'th hàd ti 'r holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaiar a fendi∣thir yn dy hâd ti:

5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fyng-hadwriaeth, fyng-orchymyni∣on, fy neddfau, a'm cyfreithiau.

6 Ac Isaac a drigodd yn Gerar.

7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynnasant am ei wraig ef: ac efe a ddywedodd, fy chwa∣er [yw] hi: canys ofnodd ddywedyd fyng∣wraig [yw,] rhac [eb ef] i ddynion y lle hw∣nnw fy lladd i am Rebecca: canys yr [ydo∣edd] hi yn dêg yr olwg.

8 A bu gwedi ei fod ef yno ddyddiau la∣wer, i Abimelec brenin y Philistiaid edrych trwy 'r ffenestr, a chanfod, ac wele Isaac yn chwarae a Rebecca ei wraig.

9 Ac Abimelec a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, wele, yn ddiau dy wraig [yw] hi: a pha ham y dy wedaist fy chwaer [yw] hi? yna y dywedodd Isaac wrtho, am ddywedyd o honof, rhac fy marw oi phlegit hi.

10 A dywedodd Abimelec, pa ham y gw∣naethost hyn a ni? hawdd y gallasei vn o'r bobl or wedd gyd a'th wraig di, felly y dygasit arnom ni bechod.

11 A gorchymynnodd Abimelec i'r holl bobl, gan ddywedyd; yr hwn a gyffyrddo a'r gŵr hwn, neu ai wraig, a leddir ŷn farw.

12 Ac Isaac a hauodd yn y tîr hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can-cymmaint. A'r Arglwyd a'i bendithiodd ef.

Page [unnumbered]

13 A'r gŵr a gynnyddodd, ac aéth rhagddo ac a dyfodd, hyd onid aeth yn fawr iawn.

14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, ‖ 1.3 a gweision lawer: a'r Philistiaid a gynfigennasant wrtho ef.

15 A'r holl bydewau y rhai a gloddiasei gweision ei dâd ef, yn nyddiau Abraham ei dâd ef, y Philistiaid a'i caeasant hwy, ac a'i∣llanwasant â phridd.

16 Ac Abimelec a ddywedodd wrth Isaac, dos oddi wrthym-ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer nâ nyni.

17 Ac Isaac aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a bresswyliodd yno.

18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pyde∣wau dwfr, y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dâd ef, ac a gaeasei y Philistiaid, wedi marw Abraham; ac a henwodd hen∣wau arnynt, yn ol yr henwau a henwasei ei dâd ef arnynt hwy.

19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr ‖ 1.4 rhedegoc.

20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant a bugeiliaid Isaac gan ddywedyd; y dwfr [sydd] eiddom ni; yna efe a alwodd henw y ffynnon ‖ 1.5 Esec; o herwydd ymgynhennu o honynt ag ef.

21 Cloddiasant hefyd bydew arall, ac ym∣rysonasant am hwnnw: ac efe a alwood ei enw ef ‖ 1.6 Sitnah.

22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall, ac nid ymrysonasant am hwnnw, ac efe a alwodd ei enw ef ‖ 1.7 Reho∣both; ac a ddywedodd, canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, ac ni a ffrwy∣thwn yn y tir.

23 Ac efe aeth i fynu oddi yno i Beerse∣bah.

24 A'r Arglwydd a ymddangosod iddo y noson honno, ac a ddywedodd, my fi [yw] Duw Abraham dy dâd di: nac ofna, canys byddaf gyd a thi, ac a'th fendithiaf, ac a luo∣sogaf dy hâd, er mwym Abraham fyng-wâs.

25 Ac efe a adailadodd yno allor, ac a al∣wodd ar enw 'r Arglwydd, ac yno y gosododd efe ei babell; a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.

26 Yna y daeth Abimelec atto ef o Gerar, ac Ahuzzah ei gyfeill, a Phicol tywysog ei lû.

27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, pa ham y daethoch chwi attaf fi? gan i chwi fyng-hasau, a'm gyrru oddi wrthych?

28 Yna y dywedasant, gan weled ni a welsom fôd yr Arglwydd gyd â thi; a dywed∣asom, bydded yn awr gyngrair rhyngom ni, [sef] rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfam∣mod â thi,

29 ‖ 1.8 Na wnei i ni ddrwg, megis na chy∣ffyrddasom ninnau a thi, a megis y gwnae∣thom ddaioni yn vnic a thi, ac i'th anfona∣som mewn heddwch; ti yn awr [wyt] fendi∣gedig yr Arglwydd.

30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd, a hwy a fwyttasant, ac a yfasant.

31 Yna y codasant yn foreu, a hwy a dyng∣asant bôb vn iw gilydd: ac Isaac a'i gollyn∣godd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

32 A'r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent, a dywedasant wrtho, cawsom ddwfr.

33 Ac efe ai galwodd ef ‖ 1.9 Sebah: am hyn∣ny henw y ddinas [yw] ‖ 1.10 Beersebah hyd y dydd hwn.

34 Ac yr oedd Esau yn fâb deugein-ml∣wydd, ac efe a gymmerod yn wraig, Iudith ferch Beeri 'r Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.

35 A * 1.11 hwy oeddynt chwerwder yspryd i Isaac, ac i Rebecca.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.