PEN. II.
1 Mac efe yn dangos fod ei bregeth ef, er nad ydoedd yn dwyn gydâ hi odidawgrwydd ymadrodd, 4 neu ddoethineb dynawl: etto yn sefyll mewn 4. 5. nerth Duw, ac yn rha∣gori cymmaint 6 ar ddoethineb y byd yma, a 9 synwyr dynawl, ac nas 14 gall y dyn anianol mo'i deall.
A Myfi pan ddaethum attoch, frodyr, a * 1.1 ddaethum nid yn ôl godidawgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Dduw.
2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Ghrist, a hwnnw wedi ei groes-hoelio.
3 A mi a fûm yn eich mysc mewn gwen∣did, ac ofn, a dychryn mawr.
4 A'm hymadrodd, a'm pregeth i, * 1.2 [ni bu] mewn geiriau ‖ 1.3 denu, o ddoethineb ddy∣nawl, ond yn eglurhâd yr Yspryd, a nerth:
5 Fel na byddei eich ffydd mewn doethi∣neb dynion, ond mewn nerth Duw.
6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym-mysc rhai perffaith; eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sy yn diflannu:
7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, [sef y ddoethineb] guddiedig, yr hon a rag-ordeiniodd Duw cyn yr oesoedd, i'n gogoniant ni.
8 Yr hon ni adnabu neb o dywysogi∣on y byd hwn, o herwydd pes adwaena∣sent, ni chroes-hoeliasent Arglwydd y go∣goniant.
9 Eithr fel y mae yn scrifennedic: * 1.4 Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dŷn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef.
10 Eithr Duw a'u heglurodd i ni trwy ei Yspryd, canys yr Yspryd sydd yn chwilio pob peth; ie dyfnion bethau Duw hefyd.
11 Canys pa ddŷn a edwyn bethau dŷn, ond yspryd dŷn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb ond Yspryd Duw.
12 A nyni a dderbyniasom, nid yspryd y byd, ond yr Yspryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a râd-roddwyd i ni gan Dduw.
13 * 1.5 Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid à'r geiriau a ddyscir gan ddoethineb ddynol, ond a ddyscir gan yr Yspryd glân; gan gyd-farnu pethau ysprydol a pethau ysprydol.
14 Eithr dŷn anianol nid yw yn derbyn y pethau sy o Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac nis gall eu gwybod; oblegid yn ysprydol y bernir hwynt.
15 * 1.6 Ond yr hwn sydd ysprydol sydd yn barnu pôb peth, eithr efe nis bernir gan nêb.
16 * 1.7 Canys pwy a ŵybu feddwl yr Ar∣glwydd, yr hwn a'i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Christ.