Y Diarebion Camberaëc

About this Item

Title
Y Diarebion Camberaëc
Author
Gruffudd Hiraethog, d. 1564.
Publication
[London :: [H[enry] Denham,
1569? or 1572?]]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Proverbs, Welsh -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A02274.0001.001
Cite this Item
"Y Diarebion Camberaëc." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A02274.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed April 29, 2025.

Pages

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Y Diarebion Camberaëc.

  • AByli pop peth ae boddlono
  • Abyl i pawp i gy∣dradd
  • Achos bychan i daw blinder
  • Achos eb achos o honaw
  • Achwyn rac achwyn racddo
  • A achwyno eb achos, gwneler achos iddo
  • Achwanekit mefyl mowrair
  • Achub maes mawr a drygvarch
  • Adwyth dirait eb achos▪
  • Adail dedwydd yn ddiddos
  • Adnau kehyryn gan gath
  • Adwaen mab ae lluwch ac nid adwaen aei car
  • Adwyoc cae anhwsmon
  • Adiuar cupydd am draul▪
  • Aduyd pop hir tristwch
  • Addaw mawr, a rodd vechan
  • Addaw maen, addaw map
  • ...

Page [unnumbered]

  • Addaw wec a wna ynfyd yn lla∣wen
  • Addewit gwraic, odit yw
  • Addas i bawp i gydradd
  • Adduc yr hydd ir maes mawr
  • A ddiscych ith vap ddywsul, ef ai cais ddywllun
  • Addef, a dau▪
  • Addued angau i hen
  • Addunet herwr, hirnos
  • Aeli chware, gaded i groen gar∣tref
  • Ael i ddadlau eb neges, a ddaw a neges adref.
  • Aerwy kynn buwch.
  • Afiach pop trwm galon
  • Afieithus pop mamaeth
  • Afiauar pop taweder
  • Aflwyddianus pop diriait
  • Afleduais pop gwyllt
  • Aflan dwylaw diawgswrth
  • Aflan genau anudonol
  • Afrwydd pop dyris
  • A vo amyl i vara, dan gany aed i laetha
  • ...

Page [unnumbered]

  • A vo amyl ei veibion, bid wac i goluddion.
  • A vo amyl i vel, rroed yn ei ywd
  • A vo trechaf, treisiet
  • A vo nesaf ir ecclwys, pellafo ywrth paradwys.
  • A vo da gan Ddew ys dir
  • A vo marw ny'ochelir
  • A vo marw er bygwth a baw yr anrreger
  • A vynno clod, bid varw
  • A vynno Dew, a vydd
  • Affol, nyd doeth ymryson—
  • A gwyno kwyn by chan, kwyn mawr a ddarogan.
  • A gatwer, a gair wrth rait
  • A grea'r bran vawr, a grea'r vran vechan.
  • A gymero dysc, catwet
  • A gynuller ar gefyn march ma∣len, dan ei dor ydd a
  • Alygrodd Dew, a lygrodd dyn.
  • Allan o olwc, allan o veddwl.
  • Ameu pop annwybot.
  • ...

Page [unnumbered]

  • Amrafaelus pop ymladdgar
  • Amgeledd y ki am y cwd halen
  • Am gwimp hen, y chwardd gw∣eng was.
  • Amod a dyr deuod
  • Amod ad dyr kyfreith
  • Amcana vydd can bawb
  • Am caroi, caret vy-ci
  • Amaerwy diriait, dryc anian
  • Amlwc pawp bai, lle ny charer
  • Amlaf yw'rcwrwf tra hitler
  • Ambraint, pop tor deuot
  • Amparat pop anallu
  • Amheuthun pop dieithrvwyt
  • Amser ys ydd i bop peth
  • Amser i vwyt, amser i lochwyt
  • Aanraith gustuddiwyd tayoc yn hy i gylydd
  • Anafus pop drygvoesawc
  • Annoc dy ci, ac na ret canto
  • Annoc ci y cell egoret
  • Anhydyn pop afrywyoc
  • Anhappus pop trwch
  • Anhael pop cupydd
〈1 page missing〉〈1 page missing〉

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

  • Dewys or ddwy vachddu hwch
  • *Dibech vywyd, gwyn ei vyd
  • Dygistudd deurudd dagrau
  • Digon o grwth a' thelyn
  • Digon yw digon o fficus
  • Diglod pop anhawddgar
  • Diffaith llyffant dan rew
  • Dyencid rywan o lid ry gadarn
  • Dirait a gascl ir dedwydd
  • Diraid a gabyl ei oreu
  • Dirmycker, ny weler
  • Dysymwth vydd dryglaw am∣wyll
  • Dlet ar pawp ei addaw
  • Drwc vn, drwc arall
  • Drwc pawp oei wybot
  • Drwc llys ny ater, ond à ohodder
  • Drwc y ffordd nid eler iddi onid vnwaith
  • Drwc yw drigwas, gwaeth yw bot ebddo
  • Drwc pechat, oei ddylyn
  • Drwc yw drwc, gwaeth yw'r gwaethaf
  • ...

Page [unnumbered]

  • Drwc wrth dranoeth
  • Drygwaith, dwywaith i gwanait
  • Drud a ddyly doeth ei ostwng
  • Drych i ddyn ei, gydymaith
  • Drythyllwch, drwc ei ddichaen
  • Drythyll pop dirait
  • Dod venthic i noeth, nis cai dra∣noeth
  • Doeth dyn, tra dawo
  • Doeth a dwyllir deirgweith, ny thwyllir drud ond vnwaith
  • Dotiedic pop anghofus
  • Dogyn sydd ar pop peth
  • Dolurus calon avalvawr
  • Dew a byrth i vusgrell
  • Dew a varn: dyn a levair
  • Dew a rannodd, nef a gafodd
  • Dew a rann yr anwyd, val y rhan y dillat
  • Dew cadarn a varn pop iawn
  • Dygas waith erlyn
  • Dygyn dyn o garchar
  • Dykid Dew da o law
  • Dyker, ni weler ei ran
  • Dysc dedwydd a gair,

Page [unnumbered]

  • dysc ddiriaid a gwiail.
  • Dyweddi o agos, galanas o pell
  • Dyryssus y garthen
  • Dyscy gradd i henvarch
  • Da y. w Dew, a hir yw byth
  • EHeng ywr byd i bawp
  • Eddunet herwr, hirnos
  • Ef a ddaw haf ir▪ ci coch
  • Ef a ddaw rhew y lyffant
  • Ef aeth hynny ar gyrn a phiben
  • Ef aeth glastwr ynei glusteu
  • Eair dannot yw am vn i vethoedd
  • Ef a chwery i map noeth, ac ny chwery y map newynoc
  • Et a wyr dyn pan el, ac ny wyr pan ddel
  • Ef wyr y cath, pa varyf a lyf
  • Ef vynnei r cath pyscot, ac ny vynnei wlychy ei throet
  • Eiriach law, ae nac eiriach droet
  • Eiriol ni charer, ni chyngan
  • Elas a gauas rybydd, ac ny las ai cymerth
  • ...

Page [unnumbered]

  • Elid yscupor can ddryc dorth
  • Elyd y wrach ir vreu, er ei genau
  • Elid bryd yn ol breuddwyt —
  • Elit gwraic yn ol i henllib
  • Elit ryw, ar barth pau yw
  • Elit llaw can droet
  • Enw eb senw
  • Enwoc meichiad oi voch
  • Enwir, divenwir ei blant
  • Ehegr bydd dryglaw i amwyll
  • Escit drygddin, yn-tuy arall
  • Esmwythafafdim yw methy
  • E volir pawp wrth ei waith
  • Egaiff dyn dysc oei vebyt hyd ei henaint.
  • FAwd pawp yn ei dal
  • Fol poptlawt
  • Fordd bell i wr o Benilyn▪
  • Fo rac dicter, ac na ffo rac drwc argwydd
  • Fiaidd pop peth ny, charer

Page [unnumbered]

  • GAdael ynos wethaf yn olaf
  • Gair gwr o castell
  • Gair gwraic val gwynt yn vawadau
  • Gelyni ddyn ei dda
  • Gellwng drygwr i yscupor gwrda
  • Gochel tauern, ac na ochel ildio
  • Goddiweddit hwyr, vuan
  • Goval dyn Dew ei gweryd
  • Gogany'rb wyt a'ei vwyta
  • Golwc Dew ar adyn
  • Golwc serchoc, syberw vydd
  • Golwc y perchen y gynnydd y da
  • Gorau can vy mam i lladd
  • Gorau ywr gwarautra ater
  • Gorau enw, Mi piau.
  • Goreu gwrthwynep, gwrthwy nep tewyn
  • Goreu gwrthwynep ǵwrthwy∣nep kwys
  • Gordmodd bw ar ebol
  • Grawn cupydd, a ys glwth.
  • Gwac tuy, eb vap.
  • ...

Page [unnumbered]

  • Gwae a dro o gluni glun, ac ny beddo peth i hun
  • Gwae a vynn mefyl er pechat
  • Gwae a vo i vefyl yn ei vonwes
  • Gwae a gwadd Deo, ac nis cred
  • Gwae a wyl ei arglwydd beunyd
  • Gwae a wnel da i ddioc
  • Gwae ouerwr yn-cynayaf
  • Gwae a goffo drygair yn ieuank
  • Gwae ieuank a edduno henaint
  • Gwae'r mil ny wyl ei berchen
  • Gwae wr a gaffo dryg wraic
  • Gwaythaf ir yd ryfel teisban
  • Gwaythaf ystor, stor o verch
  • Gwaethwaeth, val map cafr
  • Gwas da a gaiff ei le
  • Gwatwar dydd am waith y nos
  • Gwaith nos, dydd ei dangys
  • Gwayw yn-calon can hiraeth
  • Gwala gweddw gwraic vnben
  • Gweddil map iach
  • Gweddw crefft eb ei dawn
  • Gweddw pwyll eb amynedd
  • Gwelius nid diddolur
  • ...

Page [unnumbered]

  • Gwelet deubeth or vn
  • Gwelet ei clust aei lygat
  • Gwell aros, no mefyl gerddef
  • Gwell am y paret a detwydd, nac am y tan a diriait
  • Gwell bedd na buchedd angheuol
  • Gwel eidion gwerth nac vn pryn
  • Gwell y ddyn y drwc, a wyr na'r drwc ny's gwyr
  • Gwell i wraic y pyscotwr, nac i wraic y gwynvydwr
  • Gwell canhwyr na chan voreu
  • Gwell gochell mefyl na ei ddial
  • Gwell y gwr a ddeuth ympen y vlwyddyn nar gwr ny ddeuth byth
  • Gwell gwae vi, na gwae ni
  • Gwell gwichio or coludd, na chochi or ddeurudd
  • Gwell gwegil car, nac wynep e∣stran
  • Gwell gwr, na gwyr
  • Gwell y tynn gwraic na Raff
  • Gwell hen ddlet na hen'alanas
  • Gwell hir weddtot na drwc wra
  • ...

Page [unnumbered]

  • Gwell carin llys nac aur arvys
  • Gwell kingor hen na ei vaiddy
  • Gwell cl wt na thwll
  • Gwell coginiaeth na brēhinaeth
  • Gwell cupydd, lle bo na hael lle ny bo.
  • Gwell map ieuank doeth na Brenhin hen ynvyd
  • Gwell mayn garw am attalio, na'r maen llyfn am gellingo
  • Gwell, Moes law, na moes vam
  • Gwell marw no mynich ddifrod
  • Gwell naac, no gau addewit
  • Gwell nerth dwywrach nac vn
  • Gwell penloyn yn llaw, na hwy∣ad ynawyr
  • Gwell pren, na din kyhuddgar
  • Gwell rrann Ofn, na ran Karyad
  • Gwell vn gair ym blaen, na dau yn ol
  • Gwell vn keidwad, na dau ymli∣diad
  • Gwell vn Hwde, no dau Ti gai.
  • Gwell yehydic gan rat, no llawer

Page [unnumbered]

  • ganafrat
  • Gwell yn cyscot y gawnen, nac eb ddim
  • Gwell ym blayn yr Iyrchot, nac ynol yr Hyddot
  • Gwell y wialen a blyco, na hona dorro
  • Gwell yw drigsayr, ua drwg' of
  • Gwell yw drigsaer na drwc daliwr
  • Gwell ywr kia rodio, na'r ci a ei∣steddo
  • Gwell yw toliaw na huriaw
  • Gwell yw Dew na drwc obaith
  • *Gwell yw Dew yn gar, nallu y ddaiar
  • Gwyrthvawr pop odidoc
  • Gwerthy cic twrch a phryny cic hwch
  • Gwneuthyr deuddrwc or vn
  • Gurthod gohadd, a dyuot i west
  • Gyr vap, cai nac
  • Gyrry bran i geiso tir
  • Gyrry y cyn a gerddo.

Page [unnumbered]

  • HAel Owain o bwrs y wlat
  • Hap Ddew ddewryn
  • Hardd pop new ydd
  • Hanner y wledd, hoffedd yw
  • Hawdd eiriol, ar a agarer
  • Hawdd dangos diraidi gwn
  • Hawdd yf, a wyl ei wely
  • Hawdd yw ofny ofnoc
  • Hawdd yw digio dic
  • Hawdd yw clwyfo claf
  • Hawdd yw doedyt pempthec
  • Hawdd yw tynny cleddyf byr or wain
  • Hawdd yw tynny carrai lydan o groen vn arall
  • Hawdd yw tynny gwaet o grach
  • Hawdd yw cymod lle i bo ca∣riat
  • Hawdd yw cennau tan yn lle tanllwyth
  • Hawdd naw ynghyscot gor∣wyd
  • Hawdd yw peri y vingam wylo
  • ...

Page [unnumbered]

  • Haws dringo na discin
  • Haws dadleu o goet nag o ca∣stell
  • Haws doedyt mynydd, na myned trostaw
  • Haws gan hwyr na chan vore
  • Haws cau a bys nac a dwrn
  • Haws bwrw tuy ylawr naei a∣deilad
  • Haws twyllo maban, na thwyl∣lo gwrachan
  • Hev Ddew, eb ddim
  • Hen pechat, a wna cywilydd ne∣wydd
  • Hen hwyr, hawdd ei 'oddiwes
  • Hen, hawdd i' oruot
  • Heuddy annerch, yw caru
  • Hir amod, ny ddaw yn dda
  • Hir eistedd i' ogan
  • Hir sefyll i drwm
  • Hir long wriaeth i vawdd
  • Hir latrat icroc
  • Hir addewit y nac
  • Hir nych i angan
  • ...

Page [unnumbered]

  • Hir y bydd march bach yn ebol
  • Hir y bidd blewin yn myned yn hin blaidd
  • Hir y bidd yn deric ych drigwr
  • Hir y bidd y mut ym-porth y by∣ddar
  • Hir y biddir yn cnoi tameit chw∣erw
  • Hir y bidd chwerw hen 'alanas
  • Hir y bydd i gapydd ei gabl
  • Hir weddwdot i vefyl
  • Hir wnnie gan ddiriait
  • Hir hun Uaelgwn yn eglwys Ros
  • Hir hi edau gwraic vusgrell
  • Hir ei gof, ny vynich rydd
  • Hir pop aros
  • Hoff can ynfyd ei glwpa
  • Hoff can pop edyn i lais.
  • Hoff can angenoc i goelio
  • Hoed y din ny chalin y da
  • Hwy yw clod na golud
  • Hwyr o ddial, dial Dew
  • Hwyr y gellir din or diniawed du
  • ...

Page [unnumbered]

  • Hy pawp ar ei vapsant
  • Hy pawp yn absen ofn
  • Hy pop costoc ar i domen ei hun
  • Ach ridd, rryuedd pa gwyn
  • Ir pant y rred y dwfr
  • Iro blonhogen
  • Iawn i pawp i gadw i hun
  • KAdarnach yw'r edau yn gy∣frodedd
  • Kad maly, cad i werth
  • Kauas da; ni chauas drwc
  • Kaledach glew, no maen.
  • Kalon estran, wrth Gymro
  • Kam wrando, a wna cam ddoe∣dyt
  • Kany eb gywydd
  • Kais yn y mwlwc
  • Kais varchoch da dan draeti varch
  • Kaisiet powp dwfr yw long
  • Kaisio swllt yn-gwalfa blaidd
  • Karet drwgch waerkyn ni charer
  • ...

Page [unnumbered]

  • Karet yr afr i mynn, bit e yn dduy bit yn wyn
  • Kas dyn yna, cas Dew vry
  • Kassec cloff, cloff hi ebol
  • Kas gwelet, a geisio
  • Kas gwir, ni charer
  • Kariat a'orchvycapop peth
  • Kas myharen, mieri
  • Kau'r gorlan wedy mynefy deueit allan
  • Kau'r estabyl wedy dwyn y march
  • Kau tin wedy bramy
  • Kefaillt blaidd, bugail diog
  • Keluydd, kelet ei aruaeth
  • Kell arglwydd▪ yw y weilgi
  • Kell hauodwr yw ei vuarth
  • Kenat vut, drut aei cred
  • Kenau milgi'a morwyn, ae mac∣ko, ny chaiff ei mwyn
  • Keintiach wedy brawt
  • Kerddodd, a rwymodd
  • Kich wr noc, holoc ei bais
  • Kyd ar ki y cerdd ei gynffon
  • ...

Page [unnumbered]

  • Kimeint ar y werthvit ac art bellen: ne'r cogel
  • Klywir corn, kyn ni weler
  • Kludo heli ir mor
  • Knawd wedy traha, trauc hir
  • Knaifier wedy praidd
  • Knaif Dauad varw
  • Kneuen yn-genau henhwch
  • Knawd o egin meithrin das
  • Knawd aflwydd can ddiriait
  • Knawd anaf ar ddiriait
  • Knawd o beu drythill draha
  • Knawd cyssul dedwydd yn ddo∣eth
  • Knawd digarad yn llys
  • Knawd wedy traha, tramgwydd
  • Knawd buan o vain
  • Knawd ffo o ffraeth
  • Knawd aelwit ddiffydd, yn diffaith
  • Knawt gwarth o vynech gys∣swyn
  • Koes yn lle morddwyt
  • Kof a lithr, llythr a geidw
  • ...

Page [unnumbered]

  • Kof gan bawp, a gar
  • Kofl gwas dioc
  • Koffa dy din pan ystrwych
  • Kogor iar yn ydlam
  • Kosp ar ben iar
  • Kosp y llew yw maeddy'r arth
  • Kospi'r arth yn-gwydd y llew
  • Kos din tauot, ef a gach ith∣ddwru.
  • Kraffach na'r euail
  • Krech wen yn genau ynfyd
  • Kol medd y vran, pan gaffo ddi∣gon
  • Krywyn kyn moch, moch a ddamwain
  • Kryd ar hen, angeu ys dir
  • Kryny val y vor wi alen
  • Kwlwm angenoc ar y genioc
  • Kwlwm oedioc a ddetyd
  • Kwymp y gwr yn y Rych
  • Kwymp ar galedlawr
  • Kyd bod da, nid Morda
  • Kyd vwyta a boneddic, ac no chyd chwarau
  • ...

Page [unnumbered]

  • Kyd gwichio y vnn, hi a ddwc i llwyth
  • Kydles i bawb, yw glaw ychen
  • Kydkeler nawnos, ny chelir na∣wmis
  • Kydymdaith can ci, ei losgwrn
  • Kyuathrach i vwyta, kenetl i ymladd.
  • Kyvareddion gwrach, waeth∣waeth
  • Kyfoed vydd da'a dedwydd
  • Kyuoethoc i werthy, a'thlawt i bryny.
  • Kyfing ac eheng yw dewis
  • Kyvoethoc pop dedwydd
  • Kyffes pop trwydd
  • Kyd ebrwydded vynd ir varch∣nat, croen yr den a'chroen y ddauat▪
  • Kynniuer pen, kynniuer synnwyr
  • Kyngor yn ol▪
  • Kynt y llysc yr odyn na'r yscupor
  • Kynt crupyl na ei was
  • Kynt meddwl na gweithret
  • ...

Page [unnumbered]

  • Kysgy val y pathew
  • Kystal yw march aei varrhw▪erth
  • Kystal kerddet ar draet, a'mar∣chogaeth ffon
  • Kystal Howel a▪ Heilyn
  • Kywir, yn ing y gwelir
  • LEilailymeit gayaf
  • Lledled rydau: waeth waeth ddeddfen
  • Lladd y gwadn val y bo'r troet
  • Llawen meichiad pan vo gwynt
  • Llawer a ddyfynnwyt, ychydic a ddewiswyt
  • Llawer am hawl vu y dyly.
  • Llawer a weddill o veddwl chw▪annawc
  • Llawer gwir, drwr i ddoedyt
  • Llawer tec drwc ei deunydd
  • Llawer hagr, hygar vydd
  • Llawer or▪ dwfr a heibio eb wy∣bot ir melinydd
  • Llaw map yn llawes ei dat
  • ...

Page [unnumbered]

  • Llaw ••••••••ddiog 〈◊◊〉〈◊◊〉
  • Llaw ••••••ws ar waith
  • Llaw pawp ar ei a••••ele
  • Llaw i bobi golwyth
  • Lle bo y dolur, y bydd y llaw
  • Lle da i bawp, y ••••any caret
  • Lles pawp pan veddyger
  • Lletaf vydd y biswelyn oer sathry
  • Llif yn auon, hindda vydd
  • Llon colwyn ar arffet i veistres
  • Llon llygot, lle ny bo cath
  • Llwm tir▪ i poro dauat
  • Llwfr, lladd i gydymaith
  • Llwyt pop heu
  • Llwyt ywr varchnat
  • Llygat Dew ar adyn
  • Llymaf vydd y gwayw oei vlayn
  • Llyma'r maes llyma'r ysgifarnoc
  • Map eb ddysc, tuy a lysc
  • Magy chwileiyn ym∣monwes
  • Mae arhos ir byssen i vot ar y barth.
  • ...

Page [unnumbered]

  • Mae gwehilion ir gwenith
  • Maeddy tulluan wrth y maen
  • Maen, dros iaen
  • Mai oer, a wna yscupor glet
  • Mal angenoceb geinoo
  • Mall dall yn tafly ei ffon
  • Mal dryguoneddic ai vaich
  • Mal dyrnot pen
  • Mal gwaith tros vin yr ellyn
  • Mal cog•••• gwraic vusgrell
  • Mal cof gwrach
  • Mal llygoten dan balf y cath
  • Mal llyn melin ar drai
  • Mal llyffant dan yr oc
  • Mal llyffant dan y maen
  • Mal llwynoc am yr ogvaen
  • Mal myn magot
  • Mal rraw ym-misweil
  • Mal ederyn ary gainc
  • Mal y bydd y dyn y bydd ei lwon
  • Mal y ci a'r hwch
  • Mal y moch am y ffawydd
  • Mal yr ap am ei chenau
  • Mal y pysc yn y dwfr
  • ...

Page [unnumbered]

  • Mal yr aran am ri d•••••• got
  • Mal yr hwch dan y vwyall
  • Mal y rhise am y pren
  • Mal y saeth or llinyn
  • Mal y tan ar yr aelwyt
  • Mal y tan yu y carth
  • Mam vechan a ddivanw plant
  • March a syrth o ddyar i bed warcarn
  • March a wyl yr yd ar ni wyl y cae
  • Mawredic, pendeuic castell
  • Mawr yw toreth yr aflwydd
  • Mawrth aladd: Eprill a vling
  • Mefyir coc ny lyfe ei law
  • Mefyir llygoden vnt wll
  • Melus gair da am a garer
  • Melusaf ywr cic po nesaf ir as∣cwrn
  • Melus, Moes eto
  • Melus pan gaer, chwerw pan dalir
  • Mi gawn ai ar vy mam, ac ni chawn aei dycei ir llan
  • ...

Page [unnumbered]

  • Mi adwaen iwrch er nas dali∣wyf
  • Moes poptut, yn ei dut
  • Moliant ▪gwedyr marw
  • Moled pa wp yichyt mal ei caffo
  • Mursen o wr▪ mal o wraic
  • Mwy na'r bel••••n ir humoc
  • Mw yna r'afr er dangos eith••••
  • Mwy na'r regen yn y trych
  • Mwy nag y bydd da blaidd, ny bydd da 'moi iscell
  • Mwylhag wiri am y cynarth a 〈◊〉〈◊〉
  • Myned ar gogr ir afon
  • Mynech eb rait bot ar wall
  • Mynech lydan 〈◊◊〉〈◊◊〉
  • NAcholl: dy henford er dy ffordd newydd
  • Na ddeffe 〈◊◊◊〉〈◊◊◊〉 cyscy
  • Na 〈◊◊◊◊〉〈◊◊◊◊〉
  • Na vid dryg wraic, dh gyfrin••••
  • Na 〈◊◊〉〈◊◊〉
  • Na vvdd ty vwythus lle galler

Page [unnumbered]

  • dy hepcor
  • Na vynych gurlwfr
  • Naill ai llwynoc ai llwyn redyn
  • Natur ir hwch a vydd yny por∣chell
  • Na wrthot dy barch, pan y cyny∣ker
  • Neges pendeuic yn rrat
  • Nesaf i bawp i nesaf
  • Nes elin nac arddwrn
  • Nes i mi vy-crys na'm pais
  • Nesnes ywr llefain ir dref
  • Ny ad anoeth i'orvot
  • Ny ain deuvras vn vnsach
  • Ny bu rygu, na bai ry gas
  • Ny bu Arthur ond tra vn
  • Ny bydd marw march er vnnos
  • Ny bydd gwr wrth ddim
  • Ny bydd hybarch rry gynefin
  • Ny bydd y dryw, eb eilyw
  • Ny bydd vcheneit eb i deier
  • Ny bydd buddd o ychidic
  • Ny chredir y moel oni weler ei emenydd
  • ...

Page [unnumbered]

  • Ny chlyw wilkyn, beth nys myn
  • Ny chlyw madyn i ddrygsawr ei hun
  • Ny chryn llaw ar vapddysc
  • Ny bydd dial wr diofn
  • Ny bidd dyun dau Gymro
  • Ny bidd y gwan eb ei gadarn
  • Ny bidd mwsogloc maena by∣nech ys muter
  • Ny char buwch hesb lo
  • Ny chaiff ry anvoddawc rybarch
  • Ny chaiff chwedl, nid el oei duy
  • Ny chair dewis gam, yn ffo
  • Ny chair gan y llwynoc ond ei groen
  • *Ny chair o diobaith Dew.
  • Ny chair gwlan rywioc ar glun gafr
  • Ny chair y melus eb y chwerw
  • Ny chair bwyd tayoc yn rrat
  • Ny chair aual per ar pren sur
  • Ny chaidw Kymbro oni gollo
  • ...

Page [unnumbered]

  • Ny chel grudd, cystúdd calon
  • Ny chred eiddic, er a decaer
  • Ny chwery cath dros ei blwrdd▪
  • Ny chill iar ei hirnos
  • Ny chwyn ir iar vod i gwalch yn glaf▪
  • Ny chwyncier i daro ac ascwrn
  • Ny chwsc gofalus, ac ef a gwsc galarus
  • Ny aeth ryhir i goet
  • Nyd a ret, a gaiff y budd
  • Nyd a wyl dyn, aei pyrth
  • Nyd adwna Dew, dim a bnaeth
  • Nyd a gwayw yn-gronyn
  • Nyd a cosp ar ynvyt
  • Nyd a vn-trew na dau i angau
  • Nyd a cynic Arglwydd ir llawr
  • Nyd chware a voerchill
  • Nyd chware, chware a than nac a dur nac a hayarn
  • Nyd da ri o ddim
  • Nyd digon eb weddill
  • Nyd drwc wr, wrth ddrwc wraic
  • Nyd drwc arglydd, namin

Page [unnumbered]

  • drwg was
  • Nyd diswrth nep dioc
  • Nyd edrychir danneddmarch rrodd
  • Nyd eglur, y drych yn y tywyl∣lwch
  • Nyd erchys bwit ond ei broui
  • Nyd esmwyth ymgyflogi
  • Nyd gwell dim no digon
  • Nyd gwell gormodd na ryuy∣chan
  • Nyd hawdd chwythy tan a blawt yn geneu
  • Nyd hawd blingo callestr
  • Nyd hwyrach yn i varchnat, croen ir oen, na chroeni dauat
  • Nyd iangwr nep ar Uerwyn
  • Nyd kimeint Bleddyn aei drwst
  • Nyd kinefin cath a chahistr
  • Nyd cof can ir offeirat vot yn glochydd
  • Nyt kytnn hun a'haint
  • Nyd kyweithas eb vrawt
  • Nyd cywaethoc ond aei cimero
  • ...

Page [unnumbered]

  • Nyd moel gwryn aros gwallt
  • Nyd llafurus llaw gywraint
  • Nyd llai gwerth mefyl na ffawd
  • Nyd llai cyrch dyn i laith 〈◊〉〈◊〉 gyuarwys
  • Nyd moesa wr morwyn a glyw llef ceilioc hi that
  • Nyd mwy gwaith coc na chany
  • Nyd myned, a ddel eilwaith
  • Nyd oes nep eb i vai
  • Nyd oes ar yffern ond eiffian i threfny
  • Nyd oes o ddim ond val▪ i ky∣merer
  • Nyd prophwyt neb yni▪ wlat ehun
  • Nit rait i ddedwydd ondi eni
  • Nit rait roi cloch wrth vursen
  • Nit reit dangos direit i gwn
  • Nyt rhydda nep i wasanaythy ehun
  • Nyt twyll▪ twyllo twyllwr
  • Nyt wrth i bic y mae pryny cyf∣ffyloc
  • ...

Page [unnumbered]

  • Nyt y bore y may caumol dyddtec
  • Nyt amwys, a wnel warth
  • Nyt yn vndydd ydd adeilwyt Ruuein
  • Nyt yn iach ond a vo marw
  • Nyt estyn llaw nis rrybuch calon
  • Ny ddaw drwc i vn, ni ddel da i arall
  • Ny ddawr croesan pa gabyl
  • Ny ddawr newynoc, pa ys
  • Ny ddawr putain pa gnuch
  • Ny ddiolch dyn ei borthi
  • Ny ddyly drwc boly, namyn drwc
  • Ny ddygymydd medd a chupydd
  • Ny phell anrregir tlawt
  • Ny phis boneddic ehun
  • Ny hinaf eiddiged
  • Ny hyna hawl er ei hoedi
  • Ny las cennat erioed
  • Ny ludd aniweirdeb ffawd
  • Ny ludd parot ei gymryt
  • Ny lwgr y da ar y llal
  • Ny lwyddodd, ond a dramg wy∣ddodd
  • ...

Page [unnumbered]

  • Ny lwydd gwenin i geilioc
  • Ny roed gwlad i vut
  • Ny thawdd dlet er ei haros
  • Ny thyrr llestr er na bo llawn
  • Ny thyr pen er doedit yn dec
  • *Ny vynno Dew ny lwydd
  • Ny vutra dwylaw er gwne uthy da idddo i hun
  • Ny vynn drigwrach ddal i chwd
  • Ny weleis lam rwydd i ewic
  • Ny vin i sant mor caws
  • Ny wna'r mor waeth na boddi
  • Ny wne kyngor ei vam, gwnaed gyngor i lysfam
  • Ny wyr hawdd vod yn hawdd, onid el hawdd yn anhawdd.
  • Ny wyddir mwyniant i ffynon oni del yn hispydd
  • Ny wyr i ci llawn, pa gyfarth y cy gwac
  • Ny wyr, ny wyl
  • Ny ddawr ir iar vot i gwalch yn glaf
  • Ny wyr ir iar nesaf ir ceilioc
  • ...

Page [unnumbered]

  • No drwc ddyn, ys gwell ki da
  • Noswyl iar gwae aeicar
  • OBydd cell i ci, mynych yd a iddi
  • O byd o nep yn ol, bid y bawaf
  • O bop trwm, trymaf henaint
  • O chaiff ir afr bynet ir eccleis, hi a ir allar
  • O chyrred vry, ny ddaw obry
  • O did archolleb waed
  • Odit or cant cydymaith
  • Odit elw eb antur
  • Odit da, diwrafun
  • O down ni, ni a ddown
  • O down er. xiiij. ni ddown er xv. Offeren pawp yd ei galon
  • Os gwr mawr cawr, os gwr by∣cnan cor
  • Oni hehir, ni vedir
  • Oni chai genin, dwc vresych
  • Oni byddi gryf, bydd gyrfwys
  • O myni vod yn iyrchci, ti a neidy

Page [unnumbered]

  • yn well
  • O hoenyn i hoenyn, ydd a ir ce∣phyl yn cwta
  • O er yw isgell yr'alanas▪
  • Oed y dyn, ny chalyn y da▪
  • O lladd y cath lygoten, ar vrys hi hi ei hys i hun
  • O vn wreichionen y cynne tan mawr
  • O sul i sul, ydd a'r vorwyn yn wrach.
  • O vlewyn i blewyn, ydd a'r pen yn voel
  • Olymeit i lymeit i darvu'r cawl.
  • PAn dywysor dall ddall arall, y ddau a ddygwydd ir pwll
  • Pan dywyso ir hyn deric i braidd ni bydd ir yscrubl
  • Pand gwaeth y dring y gath o dori hi ewinedd?
  • Pand rryued na thyf post aur trwy nen tuy ir enwir?
  • Pan gaer mi hi, ni chair mi ha
  • ...

Page [unnumbered]

  • Pan roer it porchell, agor digwd
  • Pan vo moeliri ar ben maluriat y bydd escud ascell gwipiat
  • Pan vo'r boly'n llawn y myn ir escyrn' orffywys
  • Pan vo tecaf y cware, tecaf vydd peidio
  • Pawp a gnith gedor ynfyd
  • Pawp aei chwedil cantho
  • Pawp a chwenych anrydedd
  • Pan el llatroni ymgyfymliw, i caiff kywiriait ei da
  • Pen carw ar ysgy farnoc
  • Pen kil ar vorau gwanwyn
  • Pen punt, a llosgwrn dimeu
  • Pensaer pop perchenoc
  • Penrros pawp, lle ni s carer
  • Perchi gwr er i vawet
  • Petwn dewin, ny vwytawn vur∣gin
  • Pilio wy cyn ei rostio
  • Pop enwir, diuen wir ei blant
  • *Pop diareb gwir
  • Pop coel, celwydd
  • ...

Page [unnumbered]

  • Pop gwlat yn hi aruer
  • Pop cyffelyp a ymgeis
  • Pop peth yn ei amser
  • Pop cadarn, gwan ei ddiwyedd
  • Po wyaf o ddeueit, drutaf vydd y gwlan.
  • Po ddyfnaf vo'r, mor diogelaf vydd ir llong
  • Po hynaf vydd dyn, gwaythaf vydd i bwyll
  • Po hynaf vo'r yd tebycaf vydd i vyd
  • Po hynaf vo'r Kymro ynuytaf vyd
  • Po kyfyngaf can ddyn, ehengaf can Ddew.
  • Po mwyaf vo'r brys, mwyaf vydd y llestair
  • Po mwyaf vo'r difrod, mwyaf vyd y goruod.
  • Po mwyaf vo'r llanw, mwyaf vydd y trai
  • Po tynnaf vo'r llinin, cyntaf i tyr
  • Pwy bynac sydd eb wraic, i mae

Page [unnumbered]

  • efeb ymryson
  • Pyscota o vlaen y Rwyc.
  • RAc bod y sul e siglaw
  • Rait i segut beth yw wneu∣thur
  • Rait yw cropian kyn kerddet
  • Rait wrth ammwyll pwyll barot
  • Rwng y ddwy stol ydd a'r din i lawr
  • Ran ddrwc, ran o drayan
  • Ran y gwas o cic ir iar
  • Ranny ryng y boly ar cefn
  • Ranny r gwadyn val y bo'r troed
  • Rin tri-dyn, cannyn ei clyw
  • Roi y carr o vlayn y march
  • Rwydd pop peth ny bo dyrys
  • Ry dynn, a ddyrr
  • Ry lawn a gyll
  • Ry vchel a syrth
  • Ry gas, ry welir
  • Ryw ei vap ys gyrchlamy
  • ...

Page [unnumbered]

  • Rythyr mamaeth
  • Rodd ac adrodd a'rrod bachcen
  • SIeffre piaur troet, Sieffre piau r vwyall
  • Somi Dew a manach marw
  • Sonio am Awst wilieu Na∣talic
  • Sicraf ywr hyn sicraf
  • Swrth pop dioc.
  • TAbler i lyuau
  • Tauern i chwedleu
  • Tauot aur ym-pen dedwydd
  • Tavlath vnllaw, cais ath ddwyllaw
  • Tairg waith y dywait mursen, Bendith ddew yn tuy
  • Tebic oedd corn bwch i carecl
  • Tebic oedd cwd i gyfrwyf
  • Tec pop dianaf
  • Tec pop hardd
  • Tec pop chwedyl ny bo gwrth∣wynep
  • Tra vo'r yd yn tyfy, y bydd ma∣rw

Page [unnumbered]

  • y march.
  • Travo'r ci'n cachy, ydd a rysgy∣uarnoc ir coet
  • Trech a gais nag a geidw
  • Trech Dew na druc: obaith
  • Treiglet maen hyt wastat
  • Trist pop galarus
  • Troi o poptuy ir berth
  • Troi'r cath yn ir haul
  • Tario val ir abbat am y coueint
  • Toll vechan, a wna toll vawr
  • Tw varch benthyc
  • Tyst ywr chwedyl ir englyn
  • VMpryt ir iar yn ir yscupor
  • Umpryd y ceilioc ar y twr gwenith
  • Unllaw ar dan, canllaw ar wlan
  • Unllawioc hydd mamaeth
  • Unwaith ir aeth ir arglwyddes y nofio, a'r waith hono i boddes
  • WAeth waeth val map gafr
  • Waeth-waeth vaensaer,

Page [unnumbered]

  • well well brensaer
  • Well well pop ffynnedic
  • Wythnos y llwynoc.
  • YPendro wibwrn
  • Y budd a ludd y lluddet
  • Ychenait gwraich yn ol hi ywd.
  • Ychenait at ddoeth
  • Ychydic laeth, a'hynny yn enwyn
  • Ychidic yn amyl, a wna llawer
  • Y defnyn a dylly carec, nyd o gryfder ond o vynech syrthio.
  • Y drwc a wneler yn y nant, a dy wynir yn-gwydd cant.
  • Y dywethaf a orddiwedder, ar hwnnw y dialer.
  • Y ydiw corn eb yscyarn
  • Y vorwyn a ato hi phroui, hwyr daw ew phriodi.
  • Y gwr yn ceisio ei casec, aei casec y dano.
  • Y gwn a roed i gannwr, Nyd a ir gwn o duy'r gwr
  • Y lle'rymgreingio'r march y gedy

Page [unnumbered]

  • dy beth oei vlew.
  • Ymguddio ar gefyn y cist
  • Ym-pop daoni y may gobrwy
  • Ym-pop drigioni y may pechat
  • Ym-pop dewis y may cifingdwr
  • Ym-pop kelfyddit y may ffalster
  • Ym-pop rith i daw angau
  • Ym-pop ryuel y may gofal
  • Ym-pop pechat y may ffolder
  • Ym-pop clwyf y may pericl
  • Ym-pop dyn y may eneit
  • Ym-pop eneit y may deall
  • Ym-pop deall y may meddwl
  • Ym-pop meddwl y may naill ai drwc ae da
  • Y mut a ddwait y gwir
  • Y march a vram, a ddwe y pwn
  • Y march a wich, ys ef a ladd
  • Y march a wyl yr yd, ac ny wyl y cae
  • Ymryson a'r gof yn ei efail
  • Ymryson a doeth, ti a vyddy ddo▪ ethach
  • Ymryson a ffol, ti a vyddy folach
  • ...

Page [unnumbered]

  • Ynaill wenwyn a ladd y llal.
  • Y nep a vo a march ar ei elw, a gaiff venffic march
  • Y nep a vo marw er bygwth &c.
  • Y nep ae ry vostio ehun, a baw y coroner
  • Ynuyd a gabl i wrthban.
  • Yn ceisio 'rblewyn glas, y bo∣ddes y casec
  • Yn y croen y ganer y ci, y bydd marw
  • Y car cywir, yn ir ing y gwelir
  • Y ci a vynner ei ladd, a ddoedir e vod yn cynddeirioc
  • Y ci a vynner ei grogi, a ddywe∣dir e vot yn llady deueit
  • Y cyu a el, a'orddir
  • Y cyntafa'i clybu, dā i din y darfu
  • Y cyntaf ei oc, cyntaf ei gryman
  • Y cyntaf ir velin, maler yn gyntaf iddo.
  • Y porchell a vo byw, byddet mau
  • Yr'afr dduy a las
  • Yr hai a laddodd ir hwch
  • ...

Page [unnumbered]

  • Yr hwch adau, a vwyty'r soet
  • Yr oen yn dyscy ir ddauat bori
  • Yr vn asgwrn ei tal
  • Ys dir drwc, rac drwc arall
  • Ys ef a ladd, a gyhudd
  • Yscafnllwyth a gludd coet
  • Yscasn y doeth, ysgafn ir aeth
  • Ysglodun gwern ym-pen y gath
  • Ys marw, a vo diobaith
  • Ys gwell y llysc dau tewyn nac vn.
  • Ys dir nithio, ni bo pur
  • Ys drwc a dec ewin a'r ny phor∣tho vn gyluin
  • Yspys y dengys pop dyn
  • O ba'radd i bo i wreiddyn.
Teruyn.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.