Oll synnwyr pen kembero ygyd vvedy r gynnull, ei gynnwys ae gyfansoddi mewn crynodab ddosparthus a threfn odidawc drwy ddyual ystryw. Gruffyd Hiraethor prydydd o wynedd is Conwy.

About this Item

Title
Oll synnwyr pen kembero ygyd vvedy r gynnull, ei gynnwys ae gyfansoddi mewn crynodab ddosparthus a threfn odidawc drwy ddyual ystryw. Gruffyd Hiraethor prydydd o wynedd is Conwy.
Author
Gruffudd Hiraethog, d. 1564.
Publication
[Imprynted at London :: In Saynt Iohns strete by Nycholas Hyll,
[1547?]]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Proverbs, Welsh -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/a02272.0001.001
Cite this Item
"Oll synnwyr pen kembero ygyd vvedy r gynnull, ei gynnwys ae gyfansoddi mewn crynodab ddosparthus a threfn odidawc drwy ddyual ystryw. Gruffyd Hiraethor prydydd o wynedd is Conwy." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/a02272.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed April 27, 2025.

Pages

Page [unnumbered]

VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaec∣gar.

WRth ryw drawsdrei∣glo dysymmwth ar vy lly∣freu golegur: e ddamwny∣niadd y myuy caffael Copi o ddiarebion Camberaec, y ddaroedd y myuy y daer-copio am llaw vy hunan o vn o lyfreu. Gruffyth Hira∣ethoc, prif prydydd o Wynedd. O bleit tu a thair blynedd weithan i Kalan-Mai diwethaf, y dygwyddadd arno gyttall cydymddaith fordd a myuy o Cymbry hyd yma. Ac yno y brith letre∣teis copio hyn o ddiariebion oe lyfyr ef megys y doedeis yr awrhon ym blaen∣llaw. Ac o llatreteis nyd gwaeth y lyfer ef ddim (o bleit e roesadd i venffyc ei ddarllen ac ei deimlo eissoes) ac nyd an∣llai niuer y diarebyon anyd ynt vwy: eb law cahael trwy r llatrat yma meuvy, mil o Cymbry ddysceidaeth, llesahad, a diddanwch o ywrthaw: Pwy rei (a nys darvu yddyn ddigenetly yn rybell) a ddoedant heuyd Hawdd amor etto i Gruffyth Hiraethoc dros y ddiarebion Ac och ddeo (meddaf vi) na byddei cyn∣niuer

Page [unnumbered]

ar a vedd oll Cembry o lyfreu or iaith (rei y vei gwiw) wedy r lladrata or modd hynny. Ac e vyddei haws i Cem∣bro ddeall y pregethwr, wrth pregethy gair Deo. E vyddei haws o lawer, it prechethwr traythy gair Deo yn ddeal∣lus, Ac a vyddei haws i wr dyscedic o Cambro wedy bod yn hir allan oe wlad, ac anghynefino at iaith, cyfieithy iaith arall, ar iaith einym. Ac am hynny ato∣lwg y chwy nyd er vy mwyn i, a nyd er mwyn Deo, nyd er pleser na serch arno vi, anyd er carat ar ddeo, er lles ych eneit∣ieu ych hunein, er tragyvythawl glod ywch (y sawl ae gwnel) a dianck o yw∣rth poeneu yffernal, pop vn o hanawch ys ydd yn meddy nac y perchenogy lly∣freu n y byd o iaith Camberaec, atto∣lwg ew cludo at pwy ryw sawl Gym∣bry pynac a vo hyspys genwch i bod yn darbod yn naturial tros ymgeledd gw∣ladwrieth yr vnryw iaith. Oh y pa peth ydd yngeneis i am wladwriaeth, can na ys gwyr Kymbro heddyo o pa han yw gwladwriaeth. Ond etwa er∣uyn ac atolwg ychwy gludo ych llyfreu (bid wyn dda bid yn ddrwc) at y ryw ymgleddgar wladwyr a hynny. O bleit megys y meidyr y wenynen hela mel ar yr vn llyseun ac yr hela y prycopyn wenwyn: velly y meidrant wythe wue∣uthy defnydd da melyswiw, or llyfyr

Page [unnumbered]

gwaythaf ac or araith vustlaf ac ouer∣af y sydd ar ych elw mewn escriuen. I ba veth y gedwch ich llyfreu lwydo me∣wn coggleu, a phryfedy mewn ciste, ae darguddio rac gweled o neb, a nid chw∣ychwy ech hunain? O bleit o ran ych bod chwi yn darguddio hen lyfreu ych iaith, ac yn enwedic y rei or yscrythur lan, nyd byw r Cembro er dyscedicket vo, a veidyr iawn draythy r yscrythur lan y chwy yn Camberaec, can y breg∣nach ar y priniaith ydd ych chwi yr oes hon yn gyffredin. A ydych chwi yn tybi∣eit nat rait amgenach eirieu, na mwy amryw ar amadroddion y draythy dy∣sceidaeth, ac y adrodd athrawaeth a chelfyddodeu, nag sydd genwch chwi yn arueredic wrth siarad beunydd yn pry∣ny agwerthy a bwyta ac yfed? Ac od ych chwi yn ty byeit hynny voch tuyller A chymerwch hyn yn lle rybydd y cenyf vi: a nyd achubwch chwi a chweirio a pherfeithio r iaith kyn daruod am y to ys ydd heddio, y bydd ryhwyr y gwaith gwedy. Ac a ny bydd dysc, gwybodaeth doethineb. a dywolwch mewn iaith, pa well hi na sirmwnt adar gwylltion, ne ruat aniueilieit a bwystuiloedd? O ble∣it e veidyr yr adar ar aniveileit, trwy eu siarat ae bugat, ddyall y gylydd yn hys∣pys ym pop chwedyl a vo yn perthyn ynghylch i trwyddet ai hymborth a ha∣nas

Page [unnumbered]

i cyrph: ac a wddant ym-blaen llaw yn well nag y gwyddoch chwi, pa ryw ardymmer vydd ar yr hin, a llawer o ryw wybyddieth a hynny. Ef wyr lla∣wer Nasion y saith gelfyddyt, or ny ch∣lypu er oed o ywrth Christ. Ny wydd∣och chwi er ech ehud cymmendot, nag vn gelfyddyt perfeith, na dim yn iawn ddilwgyr o fydd Christ. Ond gwrande∣wch chwi etto pa peth a ddywedaf ui wrthych chwi, y sawl ny bo gobeith y∣wch ar ddyscy saesnec ne iaith arall y bodysc ynthei: Gwrandewch (meddaf) pa ddywaewyf wrthych: A ny vynwch vynet yn waeth nag aniueilieit (y rain uy anet y ddyall mal dyn) mynuch ddysc yn ych iaith: a ny vyunwch vod yn v∣wy annaturial na nasion y dan haul, hoffwch ych iaith ac ae hoffo. A ny vy∣nwch ymado yn dalgrwn dec a fydd Christ, a ny vynwch yn lan fyth na bo ywch ddim a wneloch ac ef, ac any vyn∣nwch trosgofi ac ebryfygy i ewyllys ef y gyd achlan, mynwch yr yscrythur lan yn ych iaith, mal ac y bu hi y gan ych de∣dwydd henafieit yr hen Urytanueit. Ei∣thyr gwedy wynt wy, pan ddechreod ych Rieni chwi, ae gohelyth wynt, (mal ydd hyspysa hen Cronicls) ddiyst yry a diurawy am yr yschrythur lan, a gada∣el i llyfreu hi y orwedd yn gwrachot lly∣chlyt mewn congleu didreigl ddyn, ac

Page [unnumbered]

ystewy a moliant Deo, a hoffy cloduory eu enw ehunain: yd aeth Deo ac a bar∣add yddynt gael i galw yn aliwns ac yn estron genetl yn y ganedic wlat ehunain ac a baradd yddynt gasay a fieiddio ia∣ith i mammeu, rac dyscy o hanynt drw∣yddhi y iawn adnabot ef, a rac bot trwy hynny yn catwedic. A llena weddill yr hen vellith ddeo er yn oes Kad-waladr vendigeit. Ond o mynwch ymwrthot ar hir vaith velltith hono, gestyngwch ar dai glinieu ych calon y erchi gras ar ddeo. Pererindotwch yn droednoeth, at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych ia∣ith, er mwyn y cyniuer ohanoch or nyd yw n abyl; nac mewn kyfflypwriaethy ddyscy Sasnaec. Ond pe bysei rei om gwlad mor vwynion a gady ar vy elw yr eino vyhun, mi a wnethwn (a gat∣wydd) o vudd ac o les kyffredyn mewn suwt betheu a vedryswn a ryw Cem∣bro arall. Ond yr owrhon can yddint vy anreithio am espeilio mor llwyrgwbl. yn lle gweithret ny d allaf vi. hayach ond ewyllysy twrn da im gwlad, ac er∣uyn y ddeo ddanfon yspryt gwell yn ca∣loneu vecgwrthnebwyr. Ac am hyn o weithret sef am gyffredino hyn o ddia∣rebion, ny ddylaf vi ddim angwanec diolch genwch mwy nag vn a godei y gwerchyr ne gayad o yar saic ne phial a

Page [unnumbered]

ddygsit geyr ych bron. Eithyr (pe vei na thal na diolch yn yr oes heddy am vath petheu) e ddylye Gruffyth Hirae∣thoc (pwy trwy ddyual y afrifed a thro∣lythyr a poenws yn clafcy, yn cynull ac yn helkyd yr oll ddiarebion hyn yr vnl∣le) gahel y ryw ddiolch ac a hayddei vwn a vyddei yn kyrchy at traws byt, ac yn arwein pop ryw oreusaic ac ew do dy yn rat geyr ych bron. Bychan ac o∣uer genwch chwi ywaith ef ar hyn yma o orchwyl, tu ac at perfeithio r iaith. Ond im tyb i, nyd bychan o gymporth tu ac at adeilat tuy, yw cludo y sylueini, ae goet, ae gwnio, ae gody, ae roddy dan y wydd. Ac atolwc (o chreffwch yn dda) pa peth amgenach yw diarebion mewn iaith, na sylueini, na gwadne, na distie, na resi, na chyple a thrawste, ua thuyla∣the a nenbrenni mewn tuy? A nyd yr vn nerth yw diarebion y gynal yr iaith, a r escyrn y gynnal y corph? A nyd yr vn pryduerthwch yw diarebion mewn ia∣ith, ar ser yr fyruauen? Ac a nyd yr vn fy nyt yw diarebion mewn iaith a gēme, a main gwyrthuawr ymplith caregos fathredic? Je pa beth yw diarebion a nyd ryw wreichion o anueidrawl ddoe∣thineb Deo, y ar ddargos gwneythyr dyn gynt ar lun y antraethawl ddelw ef? Ac y vyrhay, pa peth amgenach me∣ddaf yw diarebion, anyd dywediadeu

Page [unnumbered]

byrrion synnwyrol kyngorus o rei ny chahad vn er oed yn palledic: yn y rhein yr ymgyffred ac y cynnwysir oll synw∣yr a doethineb yr iaith ne r nasion ae dy∣chymygawdd yn gyntaf. Ac am hyny y galweis y llyfer hwn o ddiarebion Cam berace, yn synnwyr pen Cembro. Mi a alleswn (ac ny besei rybell chwaith o ywrth y testyn) y alw yn Eneit yr iaith ne yn Meirion Camberaec: anyd bot yn cyssonach y cenyf vi yr enw arall. Er hynny y gyt, a bydd anuoddus na chyr∣tith y can nep yr enw, newidet yn y ba∣tydd escop. Hefyd a bydd vn ddiareb o hanynt mor tywyll (yn aill ai y can he∣neint yr iaith, ai o ran llediaith y vro, ai o neullturwydd synnwyr y dychymy gydd kyntaf. ai o cam traethiad tauod yr andyscedic, ae ynte o ba ryw achos pynac arall) gouyunwch yr pen awdur hwn a lavuriadd yn y peth: ac nyd an∣kyffelyp vyddwch y gahel gwybyddi∣eth deonglus a synnwyr ddeallus y can thaw. O bleit megys (od yspiwch yn dda) y darparws ef ynddyscedic wrth, gynull y diarebion hyn oll, e gesot wy mewn gwedd ac ordr tra threfnus. volly may n ddiogel, na bu ef mor anynat nac mor sceulus nad ymchwetlws e yn vanolgraff ympale, a phwy, a pha am∣ser y traethwyt pop vn o naddynt: ac ia∣wn hanas gyd a hynny. Ac etwa vyth,

Page [unnumbered]

rhac y chwy tybieit, vot gwaith y Kem bro gwladwraidd hwn ar hyn orchwyl mor wael, mor ddisynnwyr, ac mor an∣wyw ac na hayddei vnwaith gramersi. Gwybyddwch chwi yn ddinam yr hen vrytanieit dyscedic trauailio ynghy∣lch yr vnryw waith. Megis y gwnaeth gwedill yr Athraon dyscedic pwy gy∣nullwyt y wneythy Kyfraith Hoel dda. A megys ac y gwnaeth y dy∣scedic vardd pwy a gant Englynion yr eiry: ac Eneruin Gwowdrydd pwy gant Englynion y misoedd, y reyn oll sydd yn llawn diarebion, eithyr we∣eu plethy mor vwyn ac mor gelfyddy∣dys a synnwyreu sathredigion (mal yn wyddor ar draethawd ir popul anlly∣thyrennawc) ac na wyr nemor o ddyn vaint o ystryriol dywysogaeth coffadu∣riareth sydd ynthynt. Uelly y gwnaeth gwr dyscedic (a elwir John Heywod) yn Sasnec er mwyn y Sason gwyr y wlat ef. Eithyr Polydorus Uergilius gwr a han yw or Ital sef o wlat Ruue∣in ac vn or dyscedickaf heddy o wyr llen Lloect, (kyd nad da i air i Cembro) ea glascadd lawer o ddiarebion yn Ltatin ir vnlle. Either Erasmus Roteroda∣mus yr athro dyscedickaf, huotlaf, ac awdurusaf yn Cred oll or a vu in oes ni ac ys llawer oes or blayn, efe a clascadd nyd cant, nyd mil, nyd lleng, nyd myrdd

Page [unnumbered]

nyd Riallu, ac nid buna anyd caterua vawr o ddiarebion Groec a Llatin, ac ae kyfansoddes yn vnllyfr, megys ac y gwnaeth en bardd ni yma. Ac a dyby∣gwch chwi y byddei gwyr kyn pwyllo∣cket a reini, kyn ddyscedicket a rein, a chyn arbennicket a hwn, mor ddiwaith a phoeni yn cwlymmy mytroed godi∣doc, ac yn escriueny llyfreu lluosawc, a ny bysei yddynt a rac wybot a deall ym blaenllaw vod dirvawr profit, budd anueidrawl, a lleshad afriuet yn tyfy yr darllēodron ae ymaruerynt? Ac welly os ynuyd y rein ackw, ynfyd yw hwn: ie ac as doethiō y rein ackw, paam nad doeth hwn, ac ynte yn dylyn yr vn athr∣awaeth ac wyntwy? Pop oes a adaw∣odd Maugant, Merddin Embris, a Thaliesin ef a Merddin wyllt eu ddis∣cipl, ac Ystuduach vardd yn ddoethion yn ddyscedic ac yn gymen. A may o wa ith y bardd hwn, amryw vydroedd ei∣thyr yn Cemberaec yn cystal eu deu∣nydd ae dyual, a nyd bot yn well eu cyt∣can, ac yn vanylach y gerdd na yr eino yr hen Brytanait y pwyllwyt o hanynt vchot: kyt byddeitra can moledic eu gw aith. Ac os ie, paam o ddieithyr ych bod yn aniueilieit, na ddiolchwch y ddeo vod yn ych oes y ryw athro kelfyddus y addurnaw ych iaith? Ny bu ac nyd yw prydyddion ereill anyd yn cany dernyn

Page [unnumbered]

o gywydd (i bwy bynac vo) o chwant derbyn: lle nyd yw ef yu vnic ae awe∣nyddgerdd ysprytol yn moly pendeui∣gion gwledydd, o ran eu bonedd dile∣dryw, ae rinweddeu ardderchawc: ei∣ther bod hefyd yn helpy, yn kymmorth ac yn achup yr iaith rac lledle anyscora∣wl, a diuancoll tragyuythawl. Ac am hynny, o gedwch chwi yn ddiddarwbot am dano, a gedwch eb anregy, ei vaw∣rhay, at volyanny, pau ddel ar ych tu∣edd, nyd han yw ddim honoch or wlad∣wriaeth Uritaneidd, ny ddeiridych a∣frywoc campe, ae daonus gynneddfe: ac as yr vn tal sydd genwch y odechwr ys∣clethan, ac y weithwr gwrddlan. Ac as chwitheu a wnewch ych ran ach dyw∣ti, sef yw hyny: kynal o hanoch y dys∣cedicuardd hwn ef ae tuylu, mor parche dic anrydeddus, ac y may ef yn darpar peri ych iaith: a bod mor ymgledgdar ddarbodus o hono ef yn ych plith, ac yw ef, nyd yn vnic o hanoch chwir oll wlat or to sydd heddyw, and tros ych plant, ych wyrion, ych gorescenydd, ych gor∣cheifn, ach goreiddin, ach gohelyth hyd byd dyddbrawd. Ac os chwchwy hefyd a ddylyuwch pwyll diarebion y llati∣nwyr ys ef Honos olit artes ac Uirtus laudata crescit pa yw, Anrhydedd ne va wrhant a vacka gelfyddodeu, A Rin∣wedd o chanmolit a gynydda: ef allei y

Page [unnumbered]

kynnyrchei ac y llewychei mwy o ddys ceidaeth dda, ac o gelfyddodeu at arben∣nic a gwybyddieth ysprytal yn ych mysc rac llaw, trwy nerth Deo goru∣chaf. Ac velly bo, ydd archet pop Cem∣bro Camberaec gar. O ddeo na allei pop dyscedic ddoedyt am ei iaith mal y dyuod Dauid ap Gwilim am Uoru∣ydd: nid amgen,

Cof am gariad taladwy Ni ddyly hi y mi mwy.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.