Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
About this Item
- Title
- Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
- Author
- Gouge, Thomas, 1605-1681.
- Publication
- Printiedig yn Llundain :: gan A. Maxwell i'r awdwr,
- 1675.
- Rights/Permissions
-
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
- Subject terms
- Christian life -- Early works to 1800.
- Christian ethics -- Early works to 1800.
- Link to this Item
-
http://name.umdl.umich.edu/A85479.0001.001
- Cite this Item
-
"Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A85479.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 4, 2025.
Pages
Page 1
Hyfforddiaddau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y dydd.
PEN. I. Pa fodd i ddechreu 'r diwrnod gydâ Duw.
I. PAn ddeffroech gyntaf y boreu, cyssegra i Dduw fla∣enffrwyth dy feddyliau, drwy dderchafu dy galon i fynu atto ef mewn moliant a diolchgarwch, am y gorphywysdra diddanus a ganniatâodd efe i ti y nôs a aeth heibio. Canys oni buasei fôd yr Arglwydd yn dra∣graslawn wrthit, ti a allefit huno hûn marwolaeth; ie ri a allefit ddeffroi á flammau uffern o amgylch dy glu∣stiau. Pa faint o achos gan hynny sydd i ti i fendithio Duw, megis am drugareddau 'r Hôs, felly am adnewyddu ei drugareddau gydâ 'r dydd? Ac yna ymbil â Duw o'r galon, megis i'th gadw di rhag pôb enbydrwydd, (ond yn enwedig rhag pechu yn ei erbyn ef) felly hefyd ith gyfarwyddo, ath gynnorthwyo, a'th fendithio yn dy holl orchwylion cyfreithlon y dwthwn hwnnw.
II. Pan Ddarfyddo i ti fal hyn gyssegru dy ddeffróad cyntaf i Dduw, yna nawseiddia dy galon mewn difrifol fyfyrdod am Dduw, ac am ryw un neu gilydd oi brio∣doliaethau gogoneddus ef: Megis,
I. Am anfeidrol burdeb Duw, yr hwn sydd lanach ei iy∣gaid nag y gall edrych ar anwiredd gydâ 'r bodlonrwydd lleiaf; eithr y mae ef yn casáu pôb pechod â châs cy∣flawn megis yr hyn sy 'n wrthwyneb iw naturiaeth ef
Page 2
Difrifol ystyriaeth o hyn a fyddei, trwy fendith Duw, yn rymmyslawn i ddarostwng y meddyliau aflan ar sy yn arferol o godi o'th galon lygredig di.
2. Am Hollalluogrwydd Duw, drwy yr hwn y mae ef yn abl i gyflawni dy holl ddiffygion, i'th gynnal dan dy holl brofiadau a phrofedigaethau, ac i'th ddwyn drwy dy holl orchwylion. Difrifol ystyriaeth o hyn ni ddichon amgen na'th gynnhyrfui di, megis i redeg at Dduw mewn gwe∣ddi yn dy holl ddiffygion a'th gyfyngderau, felly hefyd i fwrw dy hun arno ef a'i allu, am gymmorth ac ymwa∣red cyfamserol, yr hwn byth ni phalla ar cyfryw rai a ymddiriedant ynddo.
3. Am wastadol Bresennoldeb Duw o'th amgylch, a chydâ thi, pa le bynnag yr wyt, a peth bynnag yr wyt yn ei wneu∣thur, canys y mae ef yn amgylchynu dy lwybr a'th or∣weddfa, ac ydyw yn hyspys yn dy holl ffyrdd, Psal. 139. 3. A phryd nad oes un dŷn yn dy weled, etto mae efe yn dy ganfod di, ger bron Browdle yr hwn y rhaid i ti fe∣fyll ryw ddydd, i roddi cyfrif am dy holl weithr doedd. Diammeu y byddei yn gymmorth enwedigol yn erbyn pechod, ac yn fodd rhagorol i beri i ti fôd yn wili∣adwrus ar dy holl ffyrdd a'th weithredoedd, ped ystyrit ti vn ddifrifol brosennoldeb Duw yn canfod pob peth o'th amgylch▪
4. Am Holl-wybodaeth Duw, y modd y mae ef yn gwy∣bod pob peth, hyd yn oed dirgel feddyliau dy galon, a bwriadau dy feddwl oddifewn, p lygdid ye hwn y mae pób peth yn noeth ac yn agored, Heb. 4. 13. Nid oes ûn meddwl balch, bydol, trachwantus o fewn dy galon, nad yw Duw yn gwybod oddiwrtho; ie efe a ddwg bôb peth dir∣gel i farn. Preg 12. 14. Pe dwys ystyrid hyn, pa fôdd y parai i ti fôd yn wiliadwrus ie ar dy galon ac yn ofa∣lus i orlethu pôb meddyliau drygionus trachwantus yn eu cynnwrf cyntaf, ac i ymgadw yn bûr ac yn union yn yr hyn a wnelych, yn enwedigol yn y dyledswyddau o addoliad a gwasanaeth Duw, gan wybod nad oes rha∣grithio oi flaen ef.
HIa Adgofia pa bechod yw hwnnw, i ba un y clywi di dy hun yn barottaf, ymarfoga dy hun yn ei erbyn ef â'r rhe∣symmau
Page 3
cadarnaf a ellych; ac yna dŵg dy galon i wrol∣fryd diysgog, megis yn erbyn y pechod hwnnw, felly he∣fyd yn erbyn yr achosion o hono, a phob peth ar a'th▪ lithio iddo.
IV. Wrth godi o'th wely, cymmer bôb achlysur o sanctaidd a nefolaidd fyfyrdodau. I roddi i ti beth cyfarwyddyd,
I. Pan ganfyddech noethni dy gorph, dyged hynny ar gôf i ti dy bechod, yr hwn a barodd i ti yn gyntaf gywilyddio oi blegit. Canys cyn iddynt bechu, nid oedd cywilydd ar ein henafiaid cyntaf oblegit eu noethni, Gen. 2. 25. A pha fôdd y dylaei yr ystyriaeth o hynny dy gynnhyrsu di, yn ddifrifol i hiraethu am y wisg o gyfiawnder Christ, i gael dy wisgo â hi, yr hon a'th wnaiff di yn garueidd ac yn anwyl yngolwg Duw, Dat. 3. 18.
2. Bydded ith godiad o'th wely dy goffau di, megis am yr adgyfodiad o farwolaeth pechod, i fywyd o râs ymma; felly hefyd am adgyfodiad dy gorph allan o'r bêdd i fywyd tragwy∣ddol y dydd diweddaf, pan bo 'n rhaid i ti ac i bawb o honom ymddangos gar bron y Barnwr mawr, i roddi cyfrif am ba beth bynnag a wnaethom ni ymma.
3. Bydded i oleuni 'r dydd ddwyn ar gôf i ti Jesu Grist, yr hwn yn fynych yn yr Scrythur a elwir yn Oleuni, ie y gwir Oleuni.
4. Wrth wisgo dy ddillad am danat, gollwng allan dy galon mewn difrifol fyfyrdod am y wisg wenn o gyfiawnder Crist. A thrwy ffydd cymmhwysa Grist a'i gyfiawnder i ti dy hun, gan orphwys a rhoi dy oglud arno ef am faddeuant o'th bechodau ymma, ac am iechydwriaeth dragywyddol ar ôl hyn.
Ith annog di yn gydwybodus i arfer yr hyfforddiadau hyn a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, ystyria,
I. Fe fydd byn yn fôdd enwedigol i gadw meddyliau bydol, anllad ac amhur allan o'th galon, fal naill ai ni feiddiant ddyfod i mewn, neu hwy a gedwir yn hawsach allan.
2. Drwy hyn y bydd dy galon wedi ei diogelu ai chadarn∣hau yn odiaeth, yn eybyn cynnhyrfiadau Satan, yr hwn, oe byddi di esceulus yn hyn o beth, ni bydd dim yn ôl o daflu er bentewynion uffernol ith enaid.
3. Meddyliau da a sanctaidd a ollynger gyntaf y boreu i
Page 4
galon cristion, ai cadwant hi mewn gwell hwyl drwy 'r dydd rhagllaw.
PEN. II. Am weddi foreuol yn y dirgel.
CYn gynted ac y codech, dôs i ryw le dirgel, ac yno offrwm i Dduw foreuol Aberth o weddi a diolch. Y ddyled∣swydd hon o weddi ddirgel a orchmynnir yn eglur gan ein Iachawdwr, Mat. 6. 6. Tydi pan weddiech, dôs ith sta∣fell, ac wedi cau dy ddrŵs, gweddia ar dy Dâd yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel a dûl i ti yn yr amlwg. Ac am weddio yn foreu, y mae gennym ni ecsampl Crist a rhai o'r pennaf o'r Seintiau i'n hannog ni i hynny. A'r boreu, yn blygeiniol iawn, wedi i Grist godi (Medd Marc. 1. 35.) efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd. Fe gyfode Jôb yn foreu (Pen. 1. 5.) ac a offrymmei boeth offrymmau ir Arglwydd. Ac medd Dafydd, yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeirief attat, ac yr edrychaf i fynu. Hwyr, a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer, Psal. 5. 3. a'r 55. 17. Tair gwaith yn y dydd (ac yn ddiammeu y boreu oedd un waith o'r tair) y gostyngei Ddaniel ar ei liniau, ac y gwe∣ddidi, ac y cyffessei o flaen Duw, yn ei stafell, Dan. 6. 10. Y mae rheswm a phrawf yn dyscu i ni, fôd ein coffadw∣riaethau, a holl nerthoedd ein eneidiau yn fwy bywiol y boreu, nag ar amseroedd eraill, i gyflawni dyledswyddau fanctaidd, ar ôl cael cwsg a gorphywysfa felus y nôs o'r blaen. O gau hynny! Gad bôb peth heibio yn hytrach nâ boreuol weddi yn y dirgel. Os bydd dy orchwylion yn fawr ac yn pwyso arnat, cais godi yn foreuach; na chymmer ddim yn llaw nes i ti yn gyntaf dy orchymmyn dy hun, a'th orchwylion i Dduw trwy weddi: Canys pa fôdd y gelli di, gydâ dim hyder ddisgwyl am fendith Duw ar dy boen a'th lafur, heb alw ar Dduw yn gyn∣taf, yn gymmaint ac mai gweddi yw 'r môdd a sanctei∣ddiodd Duw tuag at ddyfod o hyd pôb peth daionus?
Page 5
Mat. 7. 7. Ac y mae Duw wedi dangos ei fodlonrwydd ir ddyledswydd hon, trwy ddatcuddio ei hunan iw bobl ynddi. Pa bryd y danfonodd yr Arglwydd y gennadwri∣aeth ddiddanus honno at Ddaniel, ei fôd ef yn anwyl i Dduw, ond pan yr oedd ef yn gweddio yn ddirgel? Dan. 9. 20. 23. A diammeu ydyw, gaffael o lawer o fi∣loedd dyneru eu calonnau, gwascaru eu dychryniadau, diddymmu eu ammheuon, cadarnhau eu ffydd, selio eu siccrwydd, pan oeddynt yn gweddio yn ddirgel. Pa an∣nogaeth y ddylei hyn fôd i ni, i arfer gweddi ddirgel yn wastadol?
Ac megisy mae 'r boreu yn amser tra cymmwys i gy∣flawni y ddyledswydd hon, felly yn y boreu, goreu po cyntaf; cauys os gosodi di ar un rhyw orchwyl neu ym∣resymmiad bydol, cyn it offrwm i fynu dy Aberth bo∣reuol, di gai weled y bydd llawer anhawsach i ti gadw y bŷd allan o'th ben, a'th galon yn glôs neu'n dynn wrth y ddyledswydd hon o weddi. Eithr os rhyw achos anghyffredinol a barodd i ti ei hoedi hi, na fydded i ti ar hynny moi hesgeuluso hi yn hollawl; ond bydd ofa∣lus am gymmeryd yr odfa gyntaf, i fyned o'r neulltu ith stafell, i offrwm yno dy foreuol Aberth i Dduw.
Ond gochel ysgafnder, eithr bydd ddifrif, gwresog, a thaer mewn gweddi, gan wybod mai llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn, Jac. 5. 16. Yn ddiammeu, un rheswm en∣wedigol paham nad attebir ein gweddiau ni yn fynych ydyw hyn, sef, o herwydd ein bôd ni 'n gweddio gydâ chyn lleied o fywyd a gwresogrwydd; Gwir yw nad elli di bôb amser fôd mor wresog ac ar ryw brydiau eraill; etto ti ddylit ymegnio yn wastadol yn erbyn marweidd∣dra ac oerni a chrwydraidd feddyliau mewn gweddi. Ir diben hyn arfer dy leferydd wrth weddio, mor fynyched ac y gellych yn weddus wneuthur hynny, (ond nid er mwyn cael dy glywed gan ddynion, ac i gael clôd ganthynt hwy am dy waith) oblegid fe ddichon dy leferydd fôd yn fôdd, megis i helaethu dy wyniau (sef dy chwant, dy gariad, &c.) drwy eu derchafu nhwy i râdd a fo uwch; felly hefyd i gadw dy feddwl rhag gwibian ymma a thraw ar ôl y bŷd a'i bethau.
Page 6
Heblaw di weddi arferedic y boreu, fe fŷdd da anfon i fynu weddiau a Moliant at Dduw a saethech allan ar gip meddwl, a hynny yn fynych ar bôb achlyfur.
Wrth weddiau a Moliant a saether allan ar gip me∣ddwl, yr wyfi yn deall Derchafiad y galon i fynu at Dduw yn ddisymmwth, ar ryw achlysur presennol, naill ai mewn ffordd o Erfyniad, neu o roddi Diolch.
Y cyfryw weddiau a gawn ni yn orchmynnedig, tan yr Eirchion cyffredinol hynny o weddio yn wastad, a gweddio yn ddibaid; Luc. 18. 1. 1 Thes. 5. 17. Meddwl yr hyn yw, nid ar fôd i ti ymosod yn hollawl ac yn unic ar weddi, fel yr escculufit y Gair, a dyledswyddau eraill o Ddu∣wioldeb, neu orchwylion cyffredinol dy alwedigaeth; ei∣thr ar i ti (heblaw dy brydiau cyffredinol a gosodedig o weddi) fôd gennit yn wastad agwedd yspryd i weddio, gan fôd yn barod ar bôb achlysur, idderchafu dy galon i fynu at Dduw mewn rhyw ddeisyfiadau byrrion. I'n hannog ni i arfer y fâth weddiau,
I. Ystyriwn, y gallwn ni, trwy weddi ar gip meddwl, neu saeth-weddiau, bôb amser, ac ym mhôb rhyw le, sef yn ein ymdriniaeth â dynion, ymdrîn befyd â Duw y prŷd hynny, a mwynhau cymdeithas sanctaidd ag ef, ac etto eraill yn y cwm∣peini heb wybod oddiwrth hynny. Fal hyn Nehemiah yn∣ghanol ei ymddiddanion â'r Brenin, a weddiodd ar Dduw y nefoedd, drwy dderchafu ei galon at Dduw mewn rhyw weddi a saethodd ef allan yn ddisymmwth, Pen. 2. 4. Ac fel hyn tra 'r ydwyt ti yn siarad â dynion ynghylch masnach fydol, neu ryw beth arall, a phan wyt ti ar waith dy alwedigaeth, tydi a elli, heb ddim rhwystr ith orchwylion, drwy dderchafu dy galon at Dduw, mewn anadliadau ysprydol neu weddiau byrrion, ymddiddan ag ef a mwynhau cymmundeb comfforddus a'r Arglwydd, 2 chael ei gymmorth ai fendith ef yn ac ar dy negeseuau ath orchwylion.
2. Y mae gweddiau o'r fath hyn yn anghenrheidiol o achos peryglon a throchfeydd disymmwth, y rhai y dygir pobl Dduw lawer gwaith iddynt, y rhai ni chaniadhânt mor amser i weddi barháus, ac yn enwedig oblegid v llygredigaeth sydd yn eu calonnau nhwy, ac y sydd yn eu tueddu au gogwyddo nhwy i bôb mâth o bechod
Page 7
3. O achos amryw lithradau a syrthiadau pobl Dduw, y rhai a'u gesyd hwynt ar waith gweddio am bardwn a maddeuant am danynt.
4. O achos y tra-aml drugareddau, bendithion ac ymware∣diadau y maent, beb ddisgwyl am danynt, yn eu derbyn oddi∣wrth Dduw, y mae mynych achlysur iw bobl ef i saethu allan weddiau a diolchgarwch atto es yn ddisymmwth.
5. Y mae 'r Scrythur yn rhoddi amryw o siamplau o waith Duw yn derbyn yn rasol, ac yn gobrwyo y fath weddiau: Me∣gis o'r weddi a saethodd Dafydd allan, ar gip, yn ddi∣symmwth yn erbyn Ahitophel, ar ir Arglwydd droi ei gyn∣gor ef yn ffolineb, 2 Sam. 15. 31. Yr hon weddi y dderby niwyd yn rasol, ac a ganihatáwyd trwy ddiddymmu y cyngor hwnnw, 2 Sam. 17. 14. Y cyffelyb yr ydym yn ei ddarllain am weddi Nehemiah a saethodd ef allan at Dduw, ar iddo ogwyddo calon y Brenin i ganiattáu ei erfyni∣ad ef, yr hon a wrandawyd ac a attebwyd yn raslawn, Nehem. 2. 4, 6. Felly hefyd gweddi y lleidr edifeiriol, yr hon a saethodd ef ar gip at Grist, Arglwydd cofia fi, pan ddelych i'th deyrnas, a dderbyniwyd ac a attebwyd yn ra∣sol gan Grist, Luc. 23. 42, 43. Ni wnaeth ef ond dymuno ar i Grist ei gofro ef pan ddelei iw deyrnas; Crist yn∣teu a ddywedodd wrtho, y cai ef fyned yn ebrwydd gy∣dag ef iw deyrnas, gan ganiattau iddo fwy nag a ddy∣munasei. Sanctaidd saethiadau 'r meddwl mewn gweddi neu ddiolch, ydynt ysprydol anadliadau calon rasol, y rhai megis ac y maent yn rayngu bôdd i Dduw yn fawr, felly y maent yn peri mawr elw i Gristianogion; canys er eu bôd hwy yn fyrrion iawn ac ar frŷs, etto anfy∣nych y dychwelant yn eu hôl yn wâg.
Yn hyn bydd ofalus i ddal sulw ar ddau beth i ymo∣chel rhagddynt.
1. Nac ymfodlona ddim ar y Gweddiau a'r clodforiadau hyn a saethech allan ar gip meddwl, megis pe byddynt yn ddigonol i ti ar dy orweddiad i lawr, a'th gyfodiad i fynu, ac nad rhaid i ti mo'th flino dy hun â dim hŵy gweddiau. Oh! na âd ir gweddiau hyn ymorysgwyddo allan mo'th we∣ddiau yn dy stafell, nac yn dy deulu; ond megis ac y mae Duw yn ei Air yn gofyn y naill yn gystal ar llall,
Page 8
gwna ditheu gydwybod o bôb un o honynt yn eu prŷd a'u cyfle.
2. Gochel saethu allan weddiau balogedig, y rhai sy yn dy∣fod oddiwrth y wefus, eithr nid oddiwrth y galon. Os dy∣wedi yn unic o'r dannedd allan, mewn ffordd gynnefinol, ac nid o'r galon, y fâth eiriau a hyn, Arglwydd daionus, ac ô Dduw da, neu yr Arglwydd a'm catwo, ac Arglwydd trugarhâ wrthif, a hyn i gŷd a'r cyffelyb yn ysgafn, ni ddichon y cwbl fôd ddim gwell nâ chymmeryd enw Duw yn ofer, am yr hyn heb wîr a diffuant edifeirwch ni chyfrif Duw mo honot yn ddieuog.
PEN. III. Am ddarllen yr Scrythyrau yn neullduol.
Cymmer bôb mâth o achlysur ac odfa i ddarllen yr Scrythyrau sanctaidd. A diammeu y dylai y Gair a Gweddi fyned law yn llaw ynghŷd, megis arfer beunyddiol y Cristion; Canys pôb peth a sancteiddir gan air Duw a gweddi, 1 Tim. 4. 5. Gosod gan hynny neu bennoda ryw amser terfynnedig ar bob diwrnod i ddarllen y Gair. Y boreu yw 'r pryd cymmhwysaf, pan ydyw ein hysprydoedd a'n synhwyrâu yn fwyaf bywiol. Drwy ddarllen tair pennod yn y dydd, y gellir darllen y Bibl drosto i gŷd mewn blwyddyn. Ond ni fynnwn i rwymo neb i hyn cyn gaethed, a bôd iddo yn wastad fyned rhagddo yn darllen rhyw gyfran o'r Scrythyrau bôb dŷdd Eithr os rhyw achos anarferol a rwystra dy dâsg cyffredinol, dybla ni amser arall; Ca∣nys trwy 'r Scrythyrau sanctaidd yn unic y gallwn ni gyr∣raedd gwybodaeth o holl ewyllys Duw. Megis y mae 'r ddyledswydd hon yn orchmynedig yn y 5. 0 Joan, 39, lle mae 'n achubwr yn dywedyd, Chwiliweb yr Scrythyrau, ca∣nis ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd trag∣wyddot: Felly hefyd y mae hi 'n ganmoledig yn ecsampl Dafydd ac eraill, dy destiolaethau, medd Dafydd oeddynt fy hyfrydwch am cynghorwŷr, Psal. 119. 24. Fe ganmolir y Be∣reaid
Page 9
am chwilio yr Scrythyrau beunydd, Act. 17. 11. a Thi∣motheus (2 Tim. 3. 15) am wybod yr Scrythur lân er yn fach∣gen. Ac y mae 'r Psalmydd yn ei wneuthur yn nôd o ŵr gwynfydedig, fôd ei ewyllys ef ynghyfraith yr Arglwydd, ai fôd ef yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nôs, Psal. 1. 2. Fel y byddo Gair Duw yn fwy buddiol i ti,
I. Darllen y Gair gydâ phôb parch sancteidd-tân, megis y••∣gŵydd a phresennoldeb Duw, gan gredu mai Gair Duw y∣dyw efe, a lefarwyd ac y scrifennwyd gan ddynion sanctaidd Duw, megis y cynbyrfwyd hwy gan yr yspnyd glân, 2 Pet. 1. 21. Rhuf. 15. 4. Am hynny pan ymosodeth i ddarllen y Gair, dywed wrthit dy hun, Gwrandawaf beth a ddywaid yr Ar∣glwydd wrthifi yn yr Scrythyrau.
2. Derchafa dy galon i fynu mewn gweddi at Dduw, me∣gis am yspryd o lewyrchiad, i agor golygon dy ddeall∣dwriaeth, fel yr iawn ddeallech ei Air ef: felly am ddo∣ethineb iw gymmhwyso ef attat dy hun, am goffadw∣riaeth iw gadw, ffydd i gredu, a grâs i arfer yr hyn a ddarllenech.
3. Darllen sanctaidd fucheddau a gweithredoedd plant Duw, nid yn unic megis matterion o histori, ond megis ecsamplau iw dilyn: Canys pa bethau bynnag a scrifennwyd o'r blaen, er addysc ini yr scrifennwyd hwynt, Rhuf. 15. 4. Am hyn∣ny pan ddarllennech am uniondeb Noah, am ffydd Abra∣ham, am laryeidd-dra Moses, am Ddefosiwnau Dafydd, am ammynedd Job, am Zel Josias, am hyfdra Petr ac Joan yn achos Crist, am lafuriadau Paul, ac am rinweddau eraill y seintiau gynt, gwna dy oreu ar harddu dy bro∣ffes â'r rhadau a'r trwsiadau hynny, ac ar fôd wedi dy gynnysgaeddu oddifewn ac oddiallan â'r cyffelyb rinwe∣ddau.
4. Wrth ddarllen yr addewidion, a'r bygythion, y cynghort∣on a'r rhybyddion, cymhwysa hwynt felly attat dy bun, fel pe baufei-Dduw wedi traddodi yr unrhyw i ti erbyn dy enw. Ca∣nys felly yr addewidion a wnaed i eraill ath annogant di, bygytnion yn erbyn eraill ath ffrwynant di rhag pe∣chu, cynghorion i eraill ath gynnhyrfa di ith ddyled∣swydd, a'r rhybyddion i eraill ath wna di yn ymogel∣gar.
Page 10
5. Myfyria yn ddifrifol ar yr hyn a ddarllenaist, fal y gall∣ech felly ei gofio a'i ddeall ef yn well; Deellais fwy nâ 'm holl athrawon, medd Dafydd, noda ei reswm ef, o herwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod, Psal. 119. 99. A pha fôdd y mae 'n bossibl ir Gair a ddarlleni fôd yn llesol i ti, a thitheu heb feddwl fyth am dano gwedi darfod i ti ei ddarllen ef?
6. Gwna dy oreu ar weithio peth o'r hyn a ddarllenaist ar dy galm, ac na rô mor swydd i fynu, nes i ti gael an∣wydau dy enaid wedi eu cynnhesu wrth hynny, sef dy chwant i chwantu, ath gariad i garu yr hyn sydd dda, ath gasineb i gasâu yr hyn sydd ddrwg.
PEN. IV. Am wiliadwriaeth Christianogol.
NA feddwl, darfyddo i ti gyfarch gwell i Douw drwy weddi a darllen ei Air ef y boreu, y gelli di gym∣meryd dy gennad oddiwrtho ef ar hŷd y dydd ar ôl hyn∣ny. Eithr at dy weddiau ath ddarllen cyssyllta wiliadw∣riaeth gristianogol; yr hyn sydd ddyledswydd yn gor∣wedd ar bawb, ac a gymmhellir arnom yn fawr iawn yn yr Scrythur, Mar. 13. 37.
Y mae naturiaeth y wiliadwriaeth gristianogol yn se∣fyll, mewn synhwyrol ddaliad sulw arnom ein hunain ym mhob peth, gan ddyfal graffu ar ein holl ffyrdd a'n gweithredoedd, fal na bythom ni yn anfodloni Duw mewn dim, ond yn hytrach yn rhyngu bôdd iddo ym mhôb peth. Anghenrheidrwydd y ddyledswydd hon sydd yn ymddangos,
1. Oddiwrth wiliadwriaeth ein gwrthwynebwr cyffredin y Diafol; Canys megis y mae 'r Apostol Petr yn llefaru, Y mae eich gwrth-wynebwr y Diafol megis llew rhuddwy yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Y mae pôb gair yn bwysig, ac yn cynwys ynddo rheswm enwe∣digol am wiliadwriaeth gristianogawl 1. Eich gwrth∣wynebwr yw efe, yr hwn a wnaiff i chwi yr holl aflwydd
Page 11
ar a allo; am hynny byddwch wiliadwrus. 2. Ymma y gosodir ef allan wrth ei enw Diafol, yr hwn sy'n mynegi ei fôd ef yn gyhuddwr, ac yn ûn sy yn ceisio pôb mantais ar a allo yn eich erbyn, am hynny bydd∣wch wiliadwrus. 3. Fe gosodir ef allan wrth ei Greu∣londer, trwy ei alw ef yn Lew, ie ac i chwanegu dy∣chryndod, fe a'i gelwir ef yn Llew rhuadwy, am hynny byddwch wiliadurus. 4. Fe gosodir ef allan wrth ei Ddi∣wydrwydd, a'r boen y mae ef yn ei gymmeryd, Y mae ef yn rhodio oddi amgylch, nid yw ef yn eistedd yn llonydd, eithr y mae ef yn ddiorphwys i wneuthur drwg, am hyn∣ny byddwch wiliadwrus. 5. Fe gosodir ef allan wrth ei Gyfrwystra, gan geisio, hynny yw gan yspio ym mhôb lle i gael ei fantais oreu, am hynny byddwch wiliadwrus. 6. Wrth ei Ddiben a'i fwriad ystrywgar ef, yr hyn yw De∣stryw eneidiau dynion, canys y mae ef yn rhodio oddi am∣gylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Gan fôd gennym gan hynny y cyfryw Wrthwynebwr ac yw y Diafol, yr hwn sydd greulon, a chyfrwys, a maleisus, mae 'n per∣thyn i ni fôd yn wiliadwrus arnom ein hunain.
II. Heb law y Gwrthwynebwr ymma oddiallan, mae Gelyn oddi fewn. Y mae pôb dŷn yn dwyn gelyn yn ei fynwes, yr hwn yw ei galon lygredig ei hnn, yr hon nid yw ddim llai diwyd, ac y mae 'n fwy peryglus nag yw y Diafol, a hynny a ymddengys mewn dau beth yn en∣wedigol.
1. Er bôd gelyniaeth gwastadol rhwng y Diafol â ni, etto nid ydym ni yn ymladd yn wastadol; ond y mae ymladd ac ymdrech gwastadol rhwng y cnawd â nyni, Canys y mae y cnawd yn chwennychu yn erbyn yr yspryd, a'r yspryd yn erbyn y cnawd▪ a'r rhai hyn a wrthwynebant ei gi∣lydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch, Gal. 5. 17.
2. Ni allei 'r Cythraul ei hun wneuthur llawer o ni∣weid i ni heb gymmorth a chŷdsynniaid ein calonnau llygredig. Efe a all ein perswadio a'n denu ond ni all ef mo'n gyrru ni i bechu. Oni bai fôd ein calonnau lly∣gredig ein hunain yn cyttuno â'r pechod, ni thyccial waith y Cythraul gŷdâ ni ond ychydig. Ond fe ddichon
Page 12
ein calonnau wneuthur i ni niweid heb ddim o gym∣morth a chydsynniaeth y Cythraul. Mae digon o Gyth∣raul ynghalon pôb ûn o honom ni, i'n twyllo a'n difetha heb help ûn Cythraul arall. Am hynny gan fôd gennym y cy∣fryw wrthwynebwr peryglus ac yw y Diafol oddiallan i ni, a pherycclach gelyn o'n mewn, sef, ein calon lygre∣dig, mae i ni achos da i arferu y ddyledswydd hon o wiliadwriaeth ysprydol.
O ran cyrrhaeddiad y ddyledswydd ymma, mae 'r A∣postol yn ei gosod hi ar lawr mewn ymadroddion cyff∣redinol, Gwilia di ym-mhôb peth, 2 Tim 4. 5. Yr hyn a ddosparthaf yn amryw geingciau ar eu pennau eu hunain▪ megis, 1. Ar dy Feddyliau, Geiriau a Gweithredoedd. 2. Yn erbyn pechod yn gyffredinol, a'i amryw rywogae∣thau.
PEN. V. Am Wiliadwriaeth ar ein Meddyliau.
RHaid i ti fôd yn wiliadwrus ar dy feddyliau, na let∣teuo dim coeg amcanion o fewn dy galon, Jer. 4. 14. Y mae meddyliau drwg yn cyfodi mor naturiol o'r galon ac y mae 'r gwreichion o'r tân, ac y maent yn ein dilyn ni bôb amser, ym mhôb lle, ac ym mhôb gorchwyl. Pe bae meddyliau llaweroedd wedi gosod allan yngolwg y bŷd, pa fydoldeb, pa gybydd-dra, pa falchder, pa an∣lladrwydd ac aflendid a ymddangosei yn llawer o fe∣ddau gwynnion?
Ich hannog chwi i wiliad ar eich meddyliau, ysty∣riwch,
I. Fôd meddyliau dryg-chwantus, balch, ac annuwiol yn be∣chodeu gweithredol, er na thorront allan ir weithred; Canys meddyliau, er eu bôd oddi fewn, etto y maent yn weithre∣diadau yr enaid; ac yn yr hyn y maent yn ddrwg, y ma∣ent yn bechadurus. Craffwch ar yr hyn y ddywedodd Petr wrth Simon Magus, Act. 8. 22. Edifarhâ, a gweddia Dduw a faddeuir i ti feddyl-fryd dy galon, megis ac pe buasei ei
Page 13
ddrwg feddyliau ef yn fwy pechod nâ'i holl bechodau eraill ef.
2. Nid yw Meddyliau drwg yn unic yn bechadurus ynddynt eu hunain, eithr y maent hwy hefyd yn achos o bôb pechod mewn geiriau a gweithredoedd; Canys chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod, Jac. 1. 15. Wedi i feddyliau trachwan∣tus ymddwyn yn y galon, buan yr escorant ar bechod, gan dorri allan i weithredoedd o fudreddi ac aflendid.
3. Ystyriwch, fôd yr Arglwydd mor fanwl yn dal sulw ar bôb meddyliau pechadurus oddifewn, ac y mae ef ar weithre∣doedd pechadnrus oddiallan. Mae ef yn holl-wybodus, ac a edwyn bôb peth; ie efe yw profwr a chwiliwr ein ca∣lonnau, ac felly y mae ef yn gydnabyddus a phôb me∣ddwl ofer, balch, godinebus, ac annuwiol, ar sy yn ein calonnau ni, er nad yw dynion yn gwybod oddi wrth∣ynt hwy. Ebe Ddafydd wrth Dduw, Psal. 139. 2. Deelli fy meddwl o bell, hynny yw, er bôd Duw ym mhell yn y nefoedd, etto y mae efe cyn belled yn-gwybod pôb peth, ac y mae hyd yn oed ein meddyliau ni yn hyspys iddo fe: neu ynte yr ystyr yw, y mae ein bwriadau ni, ym mhell cyn iddynt gael eu hymddwyn yn y meddwl, yn gydnabyddus iddo fe.
4. Ystyriwch, y barna 'r Arglwydd ni ar y dydd olaf wrth ein meddyliau, yn gystal ac wrth ein geiriau a'n gweithredoedd, Y mae Duw wedi gosod diwrnod, yn yr hwn yr eglura fa fwriadau y calonnau, ac y barna fe ddirgeloedd dymon trwy Jesu Grist, I Cor. 4. 5. Rhuf. 2. 16. Lle, wrth ddirgeloedd dynion, y gellir deall, megis eu pechodau hwynt oddia∣llan, a wnaethant hwy yn ddirgel, felly hefyd ddirgel feddyliau eu calonnau oddifewn. Yno fe fydd rhaid i ni roddi cyfrif i Dduw am ein drwg feddyliau, yn gystal ac am ein drwg weithredoedd; ie am ein hofer a'n segur fe∣ddyliau, yu gystal ac am ein hofer a'n segur eiriau. Yno yr heidiau hynny o'n meddyliau ofer, coeg, godinebus, bydol, a ddatcuddir, ac a wneir yn amlwg, er cywilydd tragywyddol i ni gar bron Duw, Angelion a dynion, heb wîr a diffuant edifeiwch.
5. Drwg ac ofer feddyliau heb wîr a diffuant edifeirwch â saddant ein eneidiau ni i uffern, Cauys cyflog pechod yw
Page 14
marwolaeth, hynny yw damnedigaeth, Rhuf. 6. 23. ac fe ddangoswyd o'r blaen fôd y meddyliau hyn yn bechod, ac yn achos o bechod. Y sawl o honoch chwi gan hyn∣ny, ac nad yw yn gwneuthur cydwybod o'ch meddyliau, ond a ymddigrifwch eich hunain mewn ofer ac anwire∣ddus feddyliau, a hynny yn ddiedifeiriol, pa fodd y ge∣llwch chwi ddiange rhag dialedd uffern?
Nid wyfi yn gwadu nad yw y goreu o ddynion, trwy weddillion y llygredigaeth sydd ynddynt, yn ddarostyn∣gedig ac yn agored i feddyliau ofer, trachwantus, godi∣nebus, a balch, ie weithiau i feddyliau cablaidd didduw; eithr y rhai hyn yw eu gofid a'u baich, yn erbyn y rhai y maent yn ymdrechu, ac am y rhai y maent yn ddifri∣fol yn erfyn am bardwn; ac am hynny ni roddir mo ho∣nynt yn eu herbyn hwynt iw damnedigaeth.
Wrth hyn chwi a welwch, fôd gwiliadwriaeth ar ein meddyliau yn ran anghenrheidiol o dduwioldeb. A di∣ammeu ydyw, nad yw hwnnw yn dduwiol yn ei weithredoedd, ar sy heb dduwioldeb yn ei feddyliau. Y mae meddyliau yn dangos beth yw dŷn, yn gystal ac y mae ei eiriau a'i weithredoedd. Ith gynnorthwyo di yn erbyn drwg feddy∣liau, cymmer hyn o gynghorion.
I. Na chyd-ddŵg â'r ofer a'r drwg feddyliau hynny, fy naill ai yn codi oddiwrth dy galon lygredig dy hun, neu a deflir i mewn iddi gan Satan. Fy meddwl i yw, nâd iddynt drei∣glo yma a thraw yn dy feddwl, na fyfyria arnynt gydâ digrifwch, canys os felly y gwnei, yr wyt ti mewn pe∣rygl o gael dy faglu ganddynt.
2. Ffieiddia a thafla ymmaith yn fuan bôb weddyliau ofer a drygionus allan o'th galon. Megis yn dy farn, ni elli di lai nâ'u condemnio hwynt megis brwnt a drygionus, felly yn dy serchiadau casáa a ffieiddia hwynt; ie ymwrthod â hwynt, a thafla hwy ymmaith megis pethau ffieidd. Ar eu cyfodiad cyntaf yn y galon y bydd haws it eu gwrth∣nebu a'u gorchfygu hwynt: ond pan y goresgynnant ac y gwreiddiant, fe fydd lawer anhawsach it wneuthur felly.
3. Cyn gynted ac y dechreuo gorwag a drwg feddyliau godi yn dy galon di, gosod dy fyfyrdod ar bethau-da. Pan dde∣chreuo
Page 15
meddyliau daiarol a bydol, neu feddyliau aflan godinebus godi yn dy galon di, ymdrecha eu bwrw hw∣ynt allan, trwy osod dy fyfyrdod ar ryw bethau yspry∣dol sanctaidd a nefol. Meddwl am odidowgrwydd ac angenrheidrwydd sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff nêb weled yr Arglwydd, Heb. 12. 14.
4. Ymddarostwng dy hun am dy holl bechadurus a'th ofer feddyliau, o ba fâth neu rywogaeth bynnag y byddont. Os buost ffôl yn ymdderchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau, Dihar. 30. 32. Yr ystyr yw, pa un byn∣nag a wnaethost ai gwneuthur yn ffôl, ai meddwl yn ddrwg, ymddarostwng dy hun ger bron Duw am hynny, yr hyn a arwyddoceir yno drwy roddi y llaw ar y genau. A gwy∣bydd yn siccr, oddieithr i ti ymddarostwng dy hunan ymma yn ddiragrith, am dy feddyliau ofer a phechadu∣rus, di gai roddi cyfrif drûd am danynt ar ôl hyn, ar ddydd y farn ofnadwy, Pan oleuo yr Arglwydd ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calonnau, 1 Cor. 4. 5.
5. Bydd daer mewn Gweddi ar Dduw, ar ryngu bôdd iddo ef ddarostwng a dal i lawr feddyliau ofer, bydol, a thrythyll rhag codi yn dy galon; ac hefyd, ar iddo ef geryddu Satan, a ffrwyno ei falais, fel na allo fwrw ei feddyliau uffernol ith galon di, neu o'r lleiaf, ar iddo ef roddi i ti allu iw diffoddi hwynt ar eu dyfodiad cyn∣taf i mewn. Dyma 'r ffordd a gymmerodd yr Apostol Paul Yn llaw ar y cyffelyb acbosion, 2 Cor. 12. 7, 8.
PEN. VI. Am wiliadwriaeth ar ein Geiriau.
MEgis ac y dylem wiliad ar ein meddyliau, felly he∣fyd y dylem ar ein Geiriau, Psal. 34. 13. Calw dy dafod rhag drwg: a'th wefusau rhag traethu twyll. Fe arfe∣rodd y Psalmydd ei hunan yr hyn a orchymynnodd efe i eraill, Psal. 39. 1. Dywedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu a'm tafod. Os bwriadodd Dafydd gadw gwiliadwriaeth ar ei dafod, yr hwn yr oedd ei dafod ai galon yn wa∣stadol
Page 16
yn barod i foliannu Duw; pa faint mwy y dylem ni wneuthur felly, y rhai ydym barod i adrodd llawer o ymadroddion ofer a segur, ie drygionus ac halogedig? ich helpu yn y matter hyn, cymmerwch y cafarwyddia∣dau a ganlynant.
I. Ymochelwch rhag ymadroddion aflan a diflas, y rhai ydynt argoel o galon lygredig. Canys megis ac y dŵg Dŷn da ddaioni allan o ddaionus dryssor ei galon; felly Dŷn drŵg o ddrygionus dryssor ei galon, a ddŵg allan ddrygioni, canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru, Luc. 6. 45. Ar hyn y mae Iaco yn dywedyd, (Pen. 1. 26.) Os yw nêb yn cymmeryd arno fôd yn grefyddol, heb attal ei dafod, ofer yw crefydd hwn; gan arwyddocau wrth hynny, fôd yr holl ddefosiwn a chrefydd, y mae 'r cyfryw un yn eu gym∣meryd arno, yn llwyr wagedd; ni wna ei grefydd ddim daioni iddo, ni cheidw hi mo'i enaid ef, ond fe ddichon fyned i uffern er ei holl grefydd a'i broffes; Am hynny medd yr Apostol, Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, Eph. 4. 29.
Yr ymadroddion llygredig y ddylem ni yn ofalus eu gochelyd ydynt o amryw fâth.
I. Y cyntaf yw Tyngu anghyfreithlon, yr hyn sydd dair ffordd yn enwedigol, 1. Pan yw dynion yn tyngu yn anwir, neu megis ac y dywedwn yn tyngu anudon. 2. Pan dyngont yn ddrygionus. 3. Pan dyngont yn fyrbwyll.
1. Y sawl a dyngant yn anwir, y rhai a alwn ni Anu∣donwŷr, yw 'r cyfryw rai ar sy 'n siccrhau dim drwy lw, yn erbyn eu gwybodaeth; neu sy yn tyngu ar wneu∣thur peth nid yw yn eu brŷd; neu y maent ar y cyntaf ar fedr ei wneuthur ef, etto ar ôl hynny ydynt ddiofal ac esceulus iw gyflawni ef.
Y Tyngwyr ffeilstion hyn nid ydynt yn unic yn pechu eu hunain, eithr yn gymmaint ac y gallont hwy, y ma∣ent yn dwyn Duw o fewn amgylchedd eu pechod, ac yn ei wneuthur ef yn gyfrannog o hono; fe a'i gwneir ef yn Dŷst, ac yn gyd-ddwgwr â'r Celwydd, ac yn hynny y gwneir ef yn debyg ir Diafol, yr hwn yw Tâd y celwydd, yr hyn sydd ddianrhydedd o'r fâth ffieiddiaf ar a wneir i enw sanctaidd Duw.
Page 17
2. Tyngu yn ddrygionus sydd lw anghyfreithlon, naill o ran y Matter, neu o ran y Môdd. Llw drygionus o ran y Matter neu 'r defnydd yw, pan bo dŷn yn rhwymo ei hun drwy lw i wneuthur rhyw beth drygionus, megis yr Iddewon hynny y rhai a'u rhwymasant eu hunain drwy lw ar lâdd Paul, Act. 23. 14. A Fezebel yr hon a gym∣merodd lw ar lâdd Elijah, 1 Bren. 19. 2. Y mae llw o'r fâth hyn yn gwneuthur Duw yn Ganllaw, ac yn ymfod∣lonwr i ddrygioni. Llw drygionus o ran y Môdd, yw, Pan dyngom ni i bethau eraill heb law enw sancteidd∣lân Duw, megis i neb rhyw greadur, megis Joseph, myn einioes Pharaoh, ac eraill myn Dŷn, myn Jaco, myn y wnaeth Duw, ar cyffelyb. Y fâth lwon a'r rhai'n sy yn gwneuthur y creaduriaid megis Duw ei hun, yr hyn sydd gabledd goleu. Ac am hynny mae 'n Hachubwr yn con∣demnio pôb tyngu i neb rhyw greadur ar achlysur yn y bŷd, drwy gondemnio y cyfryw lwon arferedig ym mhlith yr Iddewon; Ebe ein Iachawdwr, na thwng ddim, hynny yw i greadur yn y bŷd, nac ir nêf, nac ir Ddaiar, nac i Jerusalem, nac ith Ben, Mat. 5. 34, 35.
3. Tyngu yn fyrbwyll yw tyngu mewn ysgafnder, ac yn fy∣nych yn ein hymadrodd cyffredinol. Hwa, er ei fod yn bechod cynnefinol a chyffredin, ac yn ddiau yn rhy gynnefinol a chyffredin, er hynny y mae ef yn bechod o'r echryslonaf, ac yn bechod yn crôchlefain ynghlustiau Duw am Ddia∣ledd. Brynti y pechod ymma sy yn ymddangos,
I. Yn gymmaint. a. bôd dynion drwy hynny yn cymmeryd enw Duw yn ofer, yr hyn sydd droseddiad ar y trydydd Gor∣chymmyn. Yn awr fe gymmerir enw Duw yn ofer, pan ydyw nêb yn ei arfer ef yn afreidiol, heb un achos cy∣fiawn, yn erbyn yr hyn y bygythir barnedigaeth, yn y geiriau hyn, Nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gym∣mero ei enw ef yn ofer, hynny yw, ni chaiff ef mor di∣angc yn ddigosp.
2. Tyngu yn ein hymddiddanion cyffredin yw lifrai y Diafol, a nôd o ddŷn halogedig, Preg. 9. 2. Y mae Solomon yn ei wneuthur yn nôd siccr o ddŷn duwiol, ei fôd yn ofni llw, ac o ddŷn drygionus ac halogedig, ei fôd heb ofni llw. A gwir yw, mai da y dicnon tyngu cynredin fod
Page 18
yn nôd o ddŷn halogedig; canys ni wnaiff hwnnw ond ychydig, neu ddim cydwybod o ûn pechod, yr hwn nid yw yn gwnenthur dim cydwybod o'r pechod hwn o dyn∣gu; yr hwn sydd bechod mor ofer ac aflesol; o ran es∣cus dros yr hwn, nid all y Tyngwr ddadleu dim daioni na bûdd chwaith oddiallan, megis ac y gall y bydol-ddŷn cybyddus; nac anrhydedd a goruwchafiaeth, megis ac y gall y Dŷn sydd yn ceisio swyddau mawrion; na difyrrwch fel y gall yr hwn sy yn ymroddi i feluswedd buchedd; ac am hynny da y gallwn ni farnu, am yr hwn nid yw yn gw∣neuthur dim cydwybod o dyngu, na wnaiff hwnnw ddim cydwybod o ûn pechod arall; Canys y neb a becho am ddim, megis ac y gwnâ 'r Tyngwr, yn ddiammeu a becha am ryw beth. Nagê, pa bechod ni wnâ efe am fûdd, difyr∣rwch, neu oruwchafiaeth, yr hwn nid ymattal oddiwrth halogi enw sanctaidd Duw am ddim?
II. Mâth arall ar ymadrodd llygredig yw, pan arferir san∣ctaidd enwau Duw ar bôb achlysur ysgafn: megis pan ddig∣wyddo dim yn ddisymmwth, yna, yn ebrwydd ni a ddy∣wedwn, O Arglwydd, O Dduw, O Jefu. Drachefn, pan fynnem ni gael dim, yno, yr ydym ni yn barod i ddy∣wedyd, er mwyn Duw gwnewch hyn, er mwyn Crist gwne∣wch hynny, ac etto heb ddim parch yn ein calonnau y prŷd hynny tuagat Dduw a Christ. I ddywedyd y lleiaf am hyn, nid ydyw ddim llai nâ chymmeriad o enw Duw yn ofer, ac felly y mae 'n ein gosod ni dan y bygwth hwnnw, Nid dieuog gan yr Arglwydd, yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
III. Mâth arall o ymadrodd llygredig yw rhegfeydd yn ein herbyn ein hunain, ac yn erbyn eraill. Mae 'n gynnefinol gydâ bagad i regu eraill yn ofnadwy, yr hyn beth sydd an∣weddus i Gristianogion; ac hefyd i regu eu hunain, i sicerhau eu geiriau, fel y dywaid rhai, y Diafol a'm cotto, y Diafol a êl â f'enaid, onid yw hyn neu hynny yn wîr. Mi dybygwn y dylai y cyfiyw rai arswydo neu ofni, rhag i Dduw wrando arnynt mewn barn, ac yn gy∣fiawn beri ir dialedd hwnnw syrthio arnynt, ac y maent yn ei alw am dano. Bydded ir cyfryw gofio yr Iddewon, a defasant, bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant, ac
Page 19
o'r dydd hwnnw hyd y dydd heddyw, yr arhosodd ef ar∣nynt yn drwm.
IV. Ymadroddion masweddol ac anniwair ydynt fâth arall o ymadrodd llygredig. Mae geneuau rhai pobl yn llawn o ho∣nynt yn wastadol, yr hyn sy yn dangos yn eglur halo∣grwydd eu ealonnau hwynt, a'r môdd y mae eu meddy∣liau wedi eu ymosod ar drygchwant yn hollawl.
V. Ymddiddanion segur ac ofer heb dueddu at ddim daioni, ydynt fâth arall o ymadroddion llygredig. Mat. 12. 36. Ein Ha∣chubwr a ddywaid, Mai am bôb gair segur a ddywedo dy∣nion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn; nid yn unic am ymadroddion bryntion, afian, ac anniwair, eithr hefyd am eiriau segur, ie am bôb gair segur. Ac am hynny mor fawr y mae 'n perthyn i ni fôd yn wiliadwrus arnom ein hunain, megis yn erbyn pôb ymadroddion bryntion ac aflan, felly hefyd yn erbyn pôb geiriau segur?
Yr ail Hyfforddiad ynghylch ein geiriau ydyw hyn,
II. Ymarferwch eich hunain i gŷd-ymchwedleua yn sanctaidd, ac i ymddiddan yn ddaionus. Nid digon yw gochelyd yma∣droddion llygredig, oddieithr i chwi ymarferu ag ym∣ddiddanion daionus; canys ymadrodd daionus a grasol yw'r hwn sy yn canmol calon dda ddilwgwr, fal y mae ei ffrwyth dayn camol y pren da. Yr amser gan hynny ac y mae eraill yn ei dreulio mewn ymddiddanion ofer ac ys∣gafn, y ddylai Gristianogion ei dreulio yn y cyfryw ym∣ddiddan, ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro râs ir gwrandawŷr, Eph. 4. 29.
III. Yn dy holl ymadroddion, gochel adywedyd yn ddrwg am eraill, drwy godi celwyddau yn eu herbyn hwy, neu drwy gy∣hoeddi ar lêd eu beiau dirgel hwy; Canys di fyddi siccr o gael eraill ar a fyddont mor barod i farnu, ac i ddywe∣dyd yn ddrwg am danat ti, ac a fuost ditheu am dy frawd, y sawl a gymmerant cyn lleied gofal am dy enw da di, ac a gymmeraist ditheu am eiddo dy frawd, yr hyn refwm y mae 'n Iachawdwr yn ei arfer, Mat. 7. 1, 2. Na fernwch, fel na'ch barner, canys â pha farn y barnoch, ich bernir: ac â pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau.
IV. Na fyddwch afradlon yn eich geiriau, eithr yn gynnil yn eich ymadrodd, Jac. 1. 19. Bydded pôb dŷn escud i wrando,
Page 20
diog i lefaru. Yr ydym ni yn fynychach yn tristháu am ddywedyd nag am dewi. Na ddywaid wrth nêb yr hyn y fyddei er neweid i ti pe'i cyhoeddit; canys yr hwn y sydd yn awr yn ffrind i ti, a ddichon bôd yn elyn i ti ar ôl hyn. Yn enwedigol na ddatcuddia ûn dirgelwch ir Dŷn hwnnw, ac a wyddost ti sydd yn caru eraill yn fwy nâ thydi dy hun, canys ni ddichon efe gelu dim oddiwrth y rheini. Na ddywaid ti wrth néb yr hyn ni fynnit ti ei ddywedyd wrth eraill; canys oni elli di dy hun, pa fôdd y galli di dybied y dichon arall gelu y peth a berthyno i ti.
V. Ystyria yn bwyllog cyn i ti lefaru; canys yn fynych y mae tafodau dynion yn rhedeg o flaen eu synhwyrau. Eithr rhagfeddylia di; a ydyw y peth yn addas, ac yn gyfamserol, ac yr ydwyt ar fedr ei lefaru; ac na fydded ith dafod redeg of flaen dy feddwl.
VI. Bydded eich ymadrodd cyffredinol yn eglur, heb lwon, ac ymregfeydd, ie heb un mâth ar daeru a thystiolaethu pethau yn ofer. Mat. 5. 37. Bydded eich ymadrodd chwi ie, ie, nage, nagê, hynny yw, bydded eich ymadrodd yn eglur ac yn noeth; Oblegid beth bynnag sydd tros ben hyn, sef, beth bynnag sy yn myned tu hwnt i siccrháad neu ymwadiad syml plaen, o'r drwg y mae, hynny yw o'r Diafol y mae.
VII. Yn eich holl ymddiddanion na leferwch ddim ond y gwîr. Eph. 4. 25. O herwydd pa ham, gan fwrw ymmaith gelwydd, dywedwch y gwîr bôb un wrth ei gymmydog. Er bôd cel∣wydd yn bechod cyffredinol ym mysc pôb mâth ar bobl, nid plant yn unig, ond gwŷr a gwragedd, megis yn eu hymddiddan cyffredin, felly yn enwedig yn eu marchna∣doedd, yn y rhai nid oes dim mwy cyffredinol nâ thyn∣gu a thwyllo; er hynny y mae ef yn bechod o'r diffei∣thaf, megis ac yr ymddengys wrth iawn ystyried y pe∣thau neilltuol hyn.
I. Mae ef yn bechod yn erbyn gwybodaeth a chydwybod. Ni ellir moi wneuthur ef yn ddiarwybod, am fod anwy∣bodaeth yn erbyn naturiaeth celwydd; y gair yn lladin am ddywedyd celwydd, sy 'n arwyddocau cymmaint a lle∣faru yn groes i feddwl ûn neu ei wybodaeth ef, Men∣••ri est contra mentem ire
Page 21
2. Y mae ef yn cyttuno or goreu â nattur y Cythrael, yn gymmaint a bôd yspryd celwyddog yn yspryd cythreulig; ac y mae 'r celwydd og yn dwyn gwîr lûn a delw Dia∣fol, Yr hwn yw tâd y celwydd, Joh, 8. 44.
3. Y mae ef yn tynnnu i lawr farnedigaethau ofnadwy a dia∣ledd Duw, a hynny yn amserol yn y bŷd hwn, ac yn dragwy∣ddol yn y byd a ddaw. I brwfio hyn, deliwch sulw yn gyff∣redinol beth a ddywaid Dafydd, Psal. 5. 6. Duw a ddi∣fetha y rhai a ddywedant gelwydd. Yn fwy neillduol am farnedigaethau amserol yn y bŷd ymma, y mae y Prophwyd Hosea (Pen. 4. 2, 3.) yn cyfrif celwydd ym mhlith y pe∣chodau gorthrwm hynny, a barasant i Dduw anfon Ne∣wyn, Haint, Cleddyf, Caethglûd, a barnedigaethau eraill ar yr Israeliaid. Am farnedigaethau tragwyddol, nyni a'n cawn hwynt hefyd wedi eu bygwth yn erbyn y pechod ymma yn Dat. 21. 27. Fe gyfrifir celwydd ym mysc y pe∣chodau hynny sy yn cau allan o'r nefoedd. Ac yn Dat. 21. 8. Fe gyfrifir ym mhlith y pechodau hynny ar sy yn ein tâflu ni i uffern, Ond ir rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffi∣aidd, a'r llofruddion, a'r puttein-wŷr, a'r swyn-gyfareddwŷr, a'r eulyn-addolwŷr, a'r holl gelwydd-wŷr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosci â thân a brwmstan. Ac ymma daliwn sulw ym mhellach, ym mysc pa bechaduriaid echryslon y cyfrifir celwydd-wŷr, sef, ym mysc Llofruddion, Pu∣tteinwyr, Eulynaddolwyr a'r cyffebyb, yr hyn sy yn dan∣gos echryslonder y pechod hwn.
VIII. Gweddiwch ar i Dduw sanctaiddio eich ymadrodd, a'i hyfforddi ef felly drwy ei yspryd, fel y gallo dueddu, megis tuagat ogoniant ei enw ef, felly hefyd tuagat ddaioni y lle∣farwr a'r gwrandawr. Ni thâl ein holl egnion ni ddim heb Dduw, Jo. 15. 5. ac am hynny dôs atto ef mewn gweddi (gan ddywedyd gydâ Dafydd, Psal. 141. 3. Gosod Arglwydd gadwraeth o flaen fy ngenau, cadw ddrws fy ngwefusau) fel drwy hynny na ddelo dim allan o'th enau, ond yr hyn a fyddo er gogoniant i Dduw, ac er adeiladaeth i e∣raill.
IX. Gelwch eich hunain i gyfrif bôb prydnhawn, ac hol∣wch eich hunain, pa ddrwg a ddywedasoch y dwthwn hwnnw. Eich gofal cyntaf chwi a ddylai fôd i ymgadw
Page 22
rhag y pechod, gan ddywedyd gydâ Dafydd, Psal. 39. 1. Cadwaf fy ffyrdd rhag pechu â'm tafod: Ond eich gofal ne∣saf chwi a ddylai fôd i edifarhau am y pechodau a wna∣ethoch, ac i farnu eich hunain am danynt hwy, fel na bo i chwi gael eich barnu gan yr Arglwydd, 1 Cor. 11. 31.
PEN. VII. Am Wiliadwriaeth ar ein Gweithredoedd.
BYdd ofalus i gynnal gwiliadwriaeth enwedigol ar dy holl ffyrdd, a'th weithredoedd: Ir diben hwn,
I. Gwna Air Duw yn rheol ith holl orchwylion, canys cynnifer ac a rodiant yn ôl y rheol hon, tangneddyf arnynt a thrugaredd, Gal. 6. 16.
II. Bydded gogoniant Duw yn ddiben, ac amcan pennaf dy holl weithredoedd di. Beth bynnag a wneloch, gwnewch bôb peth er gogoniant i Dduw, sef, fel y gogonedder Duw trwy hynny, 1 Cor. 10▪ 31. Dymma 'r diben gogoneddus hwnnw, er mwyn pa un y dylech dreulio eich nerth a'ch hamser, 2 gosod allan eich hunain hyd yr eithaf; canys,
1. Heb hyn, nid yw eich gweithredoedd goreu, na'ch garch∣wylion mwyaf crefyddol yn gymmeradwy gydâ Duw.
2. Hyn sy yn rhoddi braint a phris ar eich holl weithredo∣edd chwi, po mwyaf y tueddant at y diben ymma, goreu ydynt, a mwyaf yn rhyngu bôdd Duw. Gwir yw, y mae 'n ammho∣sibl i ddŷn, yn y bywyd hwn, yn wastadol gyfeirio at, a bwriadu gogoniant Duw ym mhôb gweithred neilltuol ar a wnelo; etto fe ddylai o lwyr-fryd calon amcanu at hynny. A siccr yw, y mae gydâ 'r gwir gristion yn yr achos ymma, megis gydâ gŵr sy yn teithio neu yn siwr∣neio tuâ rhyw Dref, y boreu ei weithredol fwriad ef yw myned ir cyfryw dref, ai amcan sydd ar fôd yn y lle a'r lle erbyn y nôs, ac am hynny y mae 'n cychwyn neu yn dechreu myned tuag atto; ac er nad yw ef yn meddwl am y lle y mae 'n myned iddo ar bôb cam a gerddo; etto y mae 'r lle felly yn ei feddyliau ef, fel y dalio yn
Page 23
y ffordd tuag atto: yr un ffunyd y mae y gwir Gristi∣on, er nad yw ef ym mhôb gweithred neilltuol a gyme∣ro mewn llaw, â'i olwg yn wastadol ar ogoniant Duw; etto prif-fwriad ac ergyd ei yspryd ef yw, ar fôd gogo∣hiant Duw yn ddiben eithaf a phennaf ei holl weithre∣doedd ef, fel y gogonedder Duw drwyddynt.
Nid wyfi yn gwadu nas gall dibennion eraill ymlusgo ith galon, (o Gristion anwyl) a llithro yn ledradaidd i gyflawniad dy weithredoedd goreu; megis amcanion at dy elw a'th glôd dy hun, a'r cyffelyb; ond gwybydd er dy gyssur, fôd yr Arglwydd yn craffu mwy ar ogwyddi∣ad cyffredinol dy galon di, a ffurf dy yspryd, yn yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, nag ar un gwael a choeg ddiben neilltuol, ar sy ryw brydieu yn ymlusgo ac yn lledratta ith galon di; ac fe a gyfrif â thi yn ôl bwriad ac am∣can cyffredinol dy galon, ac nid yn ôl rhyw ddiben ac amcan neilltuol, ac a ymlusgodd i mewn yn ddiarwy∣bod, drwy lygredigaeth dy galon.
III. Bydd ofalus i orchymmyn dy holl weithredoedd a'th or∣chwylion i Dduw drwy weddi; heb ymosod ar ddim nes ceisio cyfarwyddyd, cymmorth, a bendith oddiwrtho ef. Ofer yw i chwi foreu godi, myned yn hwyr i gyscu, a bwytta bara gofidiau, oddieithr ir Arglwydd ystyn ei law i gyn∣northwyo, a dyfod i mewn â bendith, yr hon a gaer yn bennaf drwy weddi, Psal. 127. 2. Ac yn ddiddadl, ûn rheswm enwedigol, paham nad yw bagad yn cael yn eu gorchwylion y cyfryw lwyddiant ar a ddymunent, yw, o herwydd na ddarfu iddynt yn gyntaf moi gorchymmyn hwynt i Dduw drwy weddi.
IV. Darfyddo i ti orchymmyn dy orchwyl i Dduw drwy we∣ddi, bydd ofalus i arfer y moddion a fo cymmwys iw ddwyn ef i ben. Canys lle 'r appwyntiodd Duw y diben, efe a ap∣pwyntiodd y moddion iddo; ac am hynny i ddŷn dybied y dichon efe cyrrhaeddyd y naill heb y llall, fyddei ry∣fyg mewn grâdd uchel. Eithr yn hyn bydd ofalus,
Yn gyntaf fod y moddion a arferi yn gyfreithlawn; na fe∣ddwl fŷth ffynnu drwy un mâth o foddion anghyfreith∣lon; ni bydd hynny yn elw yn y diwedd, yr hyn a yn∣hiller drwy golled am dy enaid. Pa lesâd i ddŷn os ennill
Page 24
yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? Mar. 8. 36.
Yn ail arfer y moddion megis moddion, ac na osod mo ho∣nynt yn lle Duw, drwy gyfléu dy ymddiried ynddynt; canys dyna 'r ffordd i ddwyn adwyth ar dy holl obeithion.
V. Gosod Dduw yn wastadol gar dy fron, a rhodia bôb amser megis yn ei ŵydd a'i bresennoldeb ef, Gen. 17. 1. Fe fydd hyn yn fôdd enwedigol ith gadw a'th attal oddiwrth lawer o bechodau. Hyn a attaliodd Joseph rhag ymroi i drythyll ddeniadau ei feistres, er iddo gael odfa a lle dirgel ir peth: Pa fôdd y gallaf, (eb efe) wneuthur y mawr ddrwg hwn a phechu yn erbyn Duw? Gen. 39. 9. Deall fod Duw yn bresennol yn canfod pôb peth, a'i cadwodd ef rhag rhoddi lle i ddrygchwant ei feistres. Heb law hyn, me∣gis y gwna gwâs orchwyl ei feistr gydâ phôb diwydrw∣ydd, pan ystyrio ef fod ei feistr yn edrych arno: felly hefyd y gwna'r cristion ewyllys Duw yn llon ac yn lla∣wen, os ystyria fe ei fôd ef ym mhresennoldeb Duw ym mha le bynnag y byddo.
PEN. VIII. Am wiliadwriaeth yn erbyn pechod.
CAdw wiliadwriaeth wastadol yn erbyn pechod yn gyffredi∣nol, heb gyd-ddwyn â thi dy hun mewn ymarfer gwirfodd o un peth, y wyddost ei fod yn bechod. Yn ofer y disgwyli am ddim gwir heddwch yn dy enaid, cyhŷd ac yr wyt yn cadw ac yn ffafrio ynot dy hun un mâth ar bechod yn erbyn dy gydwybod. Canys megis y mae pechod yn rhwystro cymundeb â Duw, felly hefyd y mae 'n attal cyfranniad pethau da oddiwrth Dduw.
Fel y gelli di ochelyd pechod yn well, cymmer hyn o gyfarwyddiadau. 1. Cais ochelyd yr holl achosion a'r moddi∣on, ar a ddichon dy ddenu a'th dynnu i bechod. Ammhossibl yw gochelyd y naill heb y llall. Nid yw bossibl ir sawl sy yn dueddol at feddwdod ymgadw rhagddo ef, oddi∣eithr iddo ochelyd lleoedd a chymdeithas y meddwon: Nid yw chwaith yn bossibl ir hwn fydd drythyll ymattal
Page 25
oddiwrth frynti ac aflendid, os cŷrch ef yn fynych i gym∣deithas anniwair, a byw mewn glothineb a meddwdod 2. Os gosodir arnat, gwrthwyneba bechod yn y dechreu. Go∣chel gellwair neu chwareu â themptasiwnau, megis y mae 'r pryf â fflam y ganwyll, rhag dy losgi yn ddiarwybod. Pechod ysgatfydd a ymddengys ar y cyntaf yn fûl ac yn anhŷf, ac yn gywilyddgar, ac ni ddaw i mewn cyn iddo guro wrth ddrŵs dy gydwybod di; ond os rhoddi le iddo▪ a gado 'r ffordd yn rhydd, heb ei gau ef allan, buan yr aiff ef yn gyfeillgar, ië ac y tyrr ef i mewn arnat ti yn ddisymmwth ac yn ddirybydd. Y ffordd oreu gan hynny i ymgadw rhag pechod yw, cyn gynted ac y cynnhygio ef ddyfod i mewn, cau drŵs dy galon yn ei erbyn, a'i droi 'n ôl ag wynebprŷd digllon. 3. Os goddiweddir dt gan bechod yn y bŷd, gwna dy oreu ar gael o honot yr oru∣chafiaeth arno cyn gynted fŷth ac y bo possibl, drwy wîr a diffuant edifeirwch, a thrwy fyned drachefn i ymolchi yn y ffyn∣non o waed Crist, a thrwy ymrwymo dy hun o newydd, mewn uniondeb calon, i fôd yn fwy gwiliadwrus arnat dy hun rhag∣llaw. Bydd ofalus na byddech di fyw, ac nad arhosech yn ddiedifeiriol yn yr arferiad o un pechod yn erbyn dy gydwybod; canys cyhyd a hynny yr wyt ti yn gwisgo lifrai 'r Diafol, ac yn ddieithrol i wîr heddwch. 4. Dar∣fyddo i ti gael y maes neu 'r oruchafieth, gwilia rhag ail gw∣ympo. Peryglus yw adglafychiad mewn clefydau corphorol, mwy o lawer mewn rhai ysprydol: ac am hynny y rho∣ddes Crist y cyngor hwn ir dŷn clôff, yr hwn a iachaodd ef wrth lynn Bethesda, Na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth, Joan. 5. 14.
5. Cais ochelyd yn ofalus gyfeillach a chymdeithas dynion an∣nuwiol: fy meddwl i yw, cymdeithas agos, ry-gû, a chy∣feillach afreidiol â hwynt; canys offerynnau 'r cythrael ydynt hwy, i ddenu ac i dynnu rhai i bôb mâth o be∣chod a drygioni. Canys er nad ydynt yn dy gael yn de∣byg iddynt eu hunain, etto os ymgyfeillechi yn fynych â hwynt, hwy a'th wnânt di yn fuan yn gyfryw un ac y∣dynt hwythau, Dihar. 13. 20.
6. Na hydera ddim arnat dy hun, ac na ryfyga ar dy nerth dy hun, y bydd i ti ymgadw rhag pechod, fel yr hyderodd Pedr
Page 26
arno ei hunan yn y matter hwn, rhag i ti gwympo fel y gw∣naeth yntef: Eithr bydd eiddigus o'th wendid dy hun, a'th barodrwydd i gwympo; canys hyn a'th wnaiff yn ofalus i ochelyd pôb achlysur, a themptasiwnau i bechod, ac i edrych i fynu at yr Arglwydd am nerth i sefyll yn y dydd drwg, yr hyn y ganniattâ efe yn ewyllysgar yn ôl ei addewid, ir rhai a ddisgwyliant wrtho, Esay. 40. 29, 30, 31.
7. Yr ystyriaeth o ddiwedd ofnadwy y pechod, ac o'r pethau tôst a'i canlynant ef, y fyddei fôdd enwedigol ith gadw di oddi∣wrth bechod. Yn ddiammeu, yr esgeulusdra o'r ystyriaeth hon yw un o'r rhefymmau pennaf; paham y mae llawer o wŷr a gwragedd yn byw, yn yr ymarfer gwirfodd o bechodau ac y maent yn eu adnabod yn ddigon da. Pe pwysent hwy 'n ddyfal ryw brydieu, ac ystyried ynddynt eu hunain, beth y fydd diwedd eu pechodau▪ a pheth a ddaw o'u eneidiau gwerthfawr ac anfarwol i dragwy∣ddoldeb, a aent hwy yn eu blaen yn eu ffyrdd annuwiol? Pe gosodent hwy hyn yn ddifrifol at eu calonnau, pa fâth ynfydrwydd a chynddeiriogrwydd ydyw, i anturio neu ryfygu myned yn y ffordd i golli Duw, a Christ, a'r nêf, ac i redeg mewn perygl i ddioddef llôscfeydd trag∣wyddol gydâ 'r Diafol a'r Damnedig yn uffern, a hyn oll am ychydig o elw, neu er mwyn bodloni chwant y cnawd â rhyw felusder, nad yw yn parhau ond dros en∣nyd fechan? pe gosodent hwy hyn meddaf i at eu ca∣lonnau, hwy a gasaent yn ddilys, ac a ffieiddient eu pe∣chodau, ië hwy a'u bwrient hwynt ymmaith gydâ dig∣llonrwydd.
II. Megis ac y mae 'n rhaid i ti wilio yn erbyn pe∣chod yn gyffredinol, felly hefyd yn erbyn yr amryw rywogaethau o bechod, megis
1. Yn erbyn dy bechod anwyl: nid oes un o honom ni, nad oes ganddo ei bechod anwyl, ein heilun ein hun, (megis y gallaf ei alw) ir hwn yr ydym ni yn fynych yn gwneuthur gwasanaeth, a thrwy hynny yn mawr ddigio 'r Holl-alluog Dduw. Ac i ddatcuddio y peth yn well, cymmer yr ychydig hyn o hyfforddiadau.
1. Dal sulw pa ffordd y mae ffrŵd dy feddyliau di yn rhe∣deg,
Page 27
yn enwedig dy feddyliau y boreu. Canys pa beth byn∣nag yw dy bechod anwyl, ar hwnnw 'r boreu y rhêd dy feddyliau di yn fwyaf; Canys rheol siccr yw hon, sef, Hynny yw pôb dŷn, yr hyn ydyw of fwyaf y boreu. Megis ac▪ y mae 'r hwn sydd ysprydol â'i foreuol feddyliau ar Dduw, neu ar ryw beth ysprydol a nefol; felly y mae 'r hwn syôd rydol ac aflan, â'i foreuol feddyliau ar y bŷd, neu ynghylch bodloni ei drachwantau cnawdol.
2 Dal sulw yn ddifrifol, am ba bechod y mae dy gydwy∣bod yn fwyaf, ac yn bennaf yn dy geryddu di, yn enwedigol yn amser cystadd: Canys y prŷd hynny dy gydwybod▪ a hitheu yn effro, a'th gerydda di yn fwyaf dim am dy be∣chod anwyl.
3. Dal sulw pa bechod yw 'r hwn y mae gennit y gallu llei∣af iw wrthwyncbu ef, a chan yr hwn ith orchfygir fyny∣chaf ac yn hawsaf, er bod dy gydwybod yn rhoi senn i ti am dano. Ar hyn y mae gennit achos da i farnu mai hwnnw yw dy bechod anwyl.
4. Dal sulw pa beth yw'r hyn sydd hoffaf gennit ti feddwl am dano: Os ydyw meddyliau am dy feddiannau, ac am gasglu a phentyrru attynt, yn beraidd ac yn hyfryd gen∣nit, yna mae i ti achos i dybied mai cybydd-dod yw dy bechod anwyl. Os bydd meddyliau am blesserau cnawdol yn dy ogleisio di â hoffder, yna y mae i ti achos i dy∣bygu mai aflendid yw dy Ddalilah, a'th bechod anwyl, neu pa bechod bynnag yr wyt ti yn meddwl am dano gydâ 'r hyfrydwch mwyaf.
Darfyddo i ti gael allan dy bechod anwyl, rhaid i ti o flaen dim wilio yn erbyn hwnnw, rhag i ti gael dy ortrechu ganddo;
Yn gyntaf o herwydd bod y pechod hwn mor felus, ac mor hyfryd gan Bechadur, fal y mae 'n anhawdd iawn ganddo yma∣del ag ef. Ac am hynny y gellir yn gymmwys ei alw ef, Y pechod sydd barod i'n hamgylchu, fel na ellir yn hawdd mo'i daflu ymmaith, Heb. 12. 1. Y mae 'n Hachubwr yn cyfrif ein gwaith ni yn ymado â'n Pechod anwyl, megis pettem yn tynnu allan y llygad dehau, ac yn torri ym∣math y llaw ddehau, canys medd efe, Mat. 5. 29, 30. Os dy lygad dehau a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddiwrthit▪
Page 28
ac os dy l••w ddehau a'th rwystra, torr hi ymmaith a thafl oddi∣wrthit, &c. Nid ydyw y geiriau hyn iw cymmeryd yn ôl y llythyren, canys yna y byddent yn erbyn y chweched Gorchymmyn, eithr trwy gyfflybiaeth, y llygad, a'r llaw a osodir am ein pechodau anwyl, am bechodau ein mynwes. Ac felly meddwl y geiriau yw hyn, os bydd dy drach∣want neu 'th bechod, mor▪ anwyl gennit a'th lygad debau, er hynny tynn ef allan drwy ei farwhau ef, a thafl oddi∣wrthit; neu os bydd dy bechod mor fuddiol i ti a'th law ddehau, â'r hon yr wyt yn enuill dy fywyd, etto torr hi ymmaith drwy farwhâd. a thafl oddiwrthit; canys gwell i ti farwhau▪ dy bechod anwylaf, a'th drachwant cuaf, nâ bôd dy holl ddŷn yn golledig.
Yn ail y mae un Pechod anwyl yn y fynwes yn dieithro 'r galon cyn belled, fel na allo hi garu Crist fel y dylei: Megis ac y mae ûn estron ym mynwes gwraig, yn dwyn ym∣maith ei serch hi, fel na allo hi garu ei gŵr megis ac y dylei. Yr ydym ni yn darllain yn yr Efangylwŷr, fôd ûn trachwant o gybydd-dod yn Judas, ûn trachwant o ym∣losgach yn Herod, ûn trachwant bydol yn y gŵr goludog, yn grŷf ddigon, i attal pob un o honynt oddiwrth Grist. Megis gan hynny yr wyt ti yn chwennych cael hawl yn Ghrist, cadw gadwraeth enwedigol yn erbyn dy bechod anwyl, na thynno hwnnw mo'th galon ymmaith oddi∣wrtho ef.
Ith gynnorthwyo di yn erbyn dy bechod anwyl.
1. Myfyria 'n ddifrifol ar ffrwythau chwerwon, a diwedd ofnadwy y pechod. Er y dichon dy bechod fôd yn felus wrth ei wneuthur, etto fe fydd yn chwerw yn y diwedd. Canys y mae 'n rhaid i ûn o'r ddau beth hyn i ganlyn ef, naill a'i chwerwder Edifeirwch, neu chwerwder cos∣pedigaeth. Yn awr deued y goreu y ddichon dyfod ar ôl pechod, sef, dy fôd ti yn edifarhau am dano i iechydw∣riaeth; etto tristwch chwerw, wylofain chwerw, a ga∣lar chwerw ydyw ei ddiwedd ef. Eithr o byddi di heb edifeirwch am dy bechod, yna y canlyn chwerwder mar∣wolaeth, a damnedigaeth gydâ 'r Diafol a'r Damnedig yn nhân uffern yn dragwyddol. Y mae gennym ni yma∣drodd cyffredinol yn ein mysc, Ni cheir y melus heb y
Page 29
chwerw. Fel hyn y bydd cwrw cadarn, y sydd yn myned i wared yn hyfryd, yn chwerw yn y diwedd, yn ôl yma∣drodd y Prophwyd Esay, Pen. 24. 9. Chwerw fydd diod grêf ir rhai a'i hyfant; hynny yw, hi droir i chwerwedd yn y diwedd. Ac y mae Solomon wrth osod allan y Buttain, Dtbar. 5, 3. 4, 5.) a'r pethau y mae hi yn eu gynnig i fod∣loni ei chariadau, yn dibennu fel hyn, ci diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, nid yn unig ei diwedd ei hunan, eithr hefyd diwedd y rhai a'i canlynant hi. Ei thraed hi medd Solomon a ddescynnant i angeu, a'i cherddediad a sang uffern. Hynny yw, y mae hi yn myned ei hunan, ac yn arwain y rhai sy 'n ei chanlyn hi, bendramwnwgl ir llyn hwnnw sydd yn llosci, ym mhâ un y troer tân nwyfiant cnawdal i dân uffern, heb wîr a diffuant edifeirwch. Pa bryd bynnag gan hynny i'th demptir i un-rhyw bechod, ymressymma fel hyn â thydi dy hun; os myfi a roddaf lê ir brofedigaeth hon, ac a fodlonaf fy-nrygchwant drwy hynny, naill a'i mi a edifarhâf am hyn, neu nis gwnaf; oni edifarháfi▪ mi fyddaf damnedig; os edifar∣háfi, fe gŷst i mi lawer mwy o dristwch a galar chwerw nag yr ennillaf o bleser ac hyfrydwch yng-weithrediad y pechod hwn. Oh gan hynny! pa fâth ynfydrwydd, a chyn∣ddeiriogrwydd hynod ydyw hyn mewn un dŷn, am ychydig o bleser byrr darfodedig ymma, i daflu ei hunan enaid a chorph ir lloscfeydd tragwyddol.
2. Rhedeg yn fynych at Dduw trwy weddi. Gallu Duw ydyw 'r peth sydd raid ith gynnorthwyo di yn erbyn nerth dy ddrygchwant anwyl; a gweddi ydyw 'r môdd i gyrhaeddyd y gallu hwnnw. Eithr bydded dy weddi nid yn unig yn ddiragrith, ond hefyd yn wresog ac yn daer, canys llawer a ddichontaer weddi y cyfiawn. Hon yw'r ffordd y gymmerodd Paul, pan yr oedd efe mewn blinder ob∣legyd y swmbwl hwnnw yn ei gnawd, am yr hwn y mae fe 'n achŵyn, (2 Cor. 12. 7, 8.) Ac y mae llawer o Es∣ponŵyr dyscedig yn deall wrth y swmbwl hwnnw rhyw gynnhyrfiad, a thueddiad nwyfus neu ddiriaid, ac yr oedd Paul yn ei glywed ynddo ei hunan; Am y peth hyn (eb efe) mi a attolygais ir Arglwydd deir gwaith, ar fôd iddo ymadel â mi, hynny yw, efe a weddiodd yn fynych am
Page 30
gael i ryddhau oddiwrtho; Ac er na chafodd efe ar ôl gweddio gyflawn ryddháad oddiwrth ei lygredigaeth, etto efe a gafodd nerth ddigonol iw orchfygu ef cyn belled, ac nas gallei ei bechod arglwyddiaethu arno; canys efe a dderbyniodd yr atteb cyssurus hwn, Digon i ti sy ngrâs i; hynny yw, y mae 'n ddigonol ith waredu di ryw amser, ac yn y cyfamser ith gynnal di i fynu. Ac diammeu y∣dyw, mai un rheswm enwedigol paham y mae cynnifer yn achŵyn am rym a chadernid mawr ei pechod anwyl, ei fôd ef megis yn rheoli ac yn arglwyddiaethu ynddynt, yw hyn, sef, oblegid nad ydynt yn gweddio o'r galon, ar Dduw yn enw Crist, mor daer ac y dylent; yr hyn beth pes gwnaent, hwy a gaent deimlo a chlywed grâs Duw yn ddigonol iw cynnal a'u gwaredu hwynt.
II. Rhaid i ti gydâ chymmaint o ofal ac ystyriaeth wilio yn erbyn pechodau dirgel, ac yn erbyn pechodau amlwg a chyho∣eddus, gan wneuthur cydwybod o bechu yn y dirgel, ie pan bo gennit odfa o ddirgelwch iw wneuthur a'i gyflaw∣ni ef.
1. O herwydd ein bôd ni yn barottach i gwympo i bechodau dirgel nag i bechodau amlwg a chyhoeddus. Canys os me∣drwn ni guddio 'n pechodau allan o olwg a gwybodaeth dynion, hawdd gennym dybied fod pôb peth yn dda ac yn ddiogel; ac ar hynny yr ymgefnogwn i bechu yn y dirgel: Ac oblegid hyn y mae Job yn dwyn i mewn y godinebwr yn ymhyfáu ei hunan, neu yn gwneuthur yn eon i bechu, gan ddywedyd, ni chaiff llygad sy ngweled, Job 24. 15.
2. Er gallu o honom ni guddio ein dirgel bechodau allan o olwg dynion, etto y mae 'n ammhossibl eu cuddio hwynt oddiwrth ly∣gad Duw, yr hwn sy yn gweled pob peth, ac ynteu ei hun heb neb yn ei weled; yn bresennol ym mhôb lle, Yn canfod y drygionus ar daionus, Dihar. 15. 3. llofruddiaeth a godi∣neb Dafydd a ddygwyd ym mlaen yn ddirgel iawn, er hynny yr oeddynt yn weledig i lygaid Duw, Ti a wnae∣thost hyn (ebe Duw) yn ddirgel, ond myfi a'th gospaf di 'n gyhoeddus. Os mynni di (medd Austin) bechu yn ddirgel, cais fann lle ni welo Duw dydi, ac yno gwnâ a fynnecb. Eithr gan fôd Duw yn bresennol ym mhôb mann, mae yn ammho∣ssibl
Page 31
gallu o honot guddio dy bechodau o ŵydd ei lygad ef sy yn canfod pob peth oll.
3. Megis ac y mae Duw ymma yn canfod, ac yn dal sulw ar dy bechodau dirgelaf, felly ar ryw amser neu ei gilydd efe a ddatguddia weithredoedd y tywyllwch hynny, ith ddirfawr wradwydd di, heb wir edifeirwch; Oni bydd hynny ymma yn y bywyd hwn, etto fe fydd ar ddydd y farn, pan ddat∣guddier ein pechodau dirgelaf yngŵydd pawb oll, Preg. 12. 14. Duw a ddŵg bôb gweithred i farn, a phôb peth dir∣gel, pa un bynnag fyddo ai da ai drŵg. Yna y datcuddir dy holl-ddirgel bechodau di i Angelion, dynion a chy∣threuliaid; dy ddirgel aflendid, a'th gnddiedig odineb, dy waith yn ysgyflio neu 'n chwiwo, a'th ladradau, dy bwysau a'th fesurau anghywir a ddygir lle y gwelo pawb, ith gywilydd a'th warth tragwyddol. Pe byddei ein ca∣lonnau ni wedi eu llenwi â'r ystyriaeth hon, Oh! mor wiliadwrus y gwnai hyn ni arnom ein hunain yn y dir∣gel, a pha fath arswyd y fyddei ynom rhag anturio ar bechod yn y bŷd, er bod gennym odfa iw wneuthur ef yn y dirgel?
III. Rhaid i ti fôd yn wiliadwrus yn erbyn y pechod lleiaf, heb gyfrif un pechod mor fychan a maddeuawl, ac y gelli di gydâ dioglwch ei groesawu ef, a pharháu ynddo, a hynny o achos y rhesymmau hyn,
1. Yr ydys drwy y pechod lleiaf yn torri cysraith Dduw, ac yr ydys yn trosseddu yn erbyn ei gyfiawnder ef, ac yn cyffroi ei ddigofaint ef; ac am hynny pell fyddo oddiwrthym ni gyfrif y pechod hwnnw yn fychan, yr hwn a wnaer yn erbyn Duw o anfeidrol fawrhydi. Ac ar hyn y dywaid Awstin, na ystyria fychandra dy bechodau, ond mawredd Duw yr hwn a anfodlonir ac a gyffroir drwyddynt.
2. Pechodau bychain ydynt barod i wneuthur ffordd i rai mwy; megis Bachgennyn a ollynger i mewn drwy ffenestr a all agor y drws, fel y gallo y lleidr mwyaf ddyfod i mewn, ac yspeilio yr holl dŷ. Pwy nis gwêl wrth brawf beunyddiol, fod meddyliau aflan a geiriau aflan yn tynnu llawer ym mlaen i weithredoedd aflan? Pan oddefodd Cain iw ddigofaint ennyn yn ei galon yn erbyn ei frawd Abol, mor ddisymmwth y berwodd ei ddig ef i fôd yn
Page 32
gasineb, a'i gasineb a dorrodd allan i lofruddiaeth gwei∣thredawl? Pan roddes Lot le i feddwdod, mor gywily∣ddus y cwympodd ef i losgach, fel hyn y mae pôb pe∣chod bychan yn gamm i un a fo mwy. Ac y mae hyn yn bôd felly, oherwydd bôd Duw mewn barn gyfiawn yn arferol o gospi Pechod â phechod, fy meddwl i yw, fod Duw lawer gwaith yn cospi pechodau llai rhai dynion, drwy eu gado nhwy felly iddynt eu hunain, ac i lygre∣digaeth eu calonnau annuwiol, fel y torront allan i weithredu a gwneuthur pechodau anferthach; Gollyngais hwynt (ebe Duw, Psal. 81. 12.) ynghyndynrwydd eu calon, aethant wrth eu cyngor eu hunain, ac medd yr Apostol, Rhuf. 1. 24. Duw a'u rhoddes hwy i fynu yn nrachwantau eu calonnau, i aflendid. A hon yw'r gospedigaeth dostaf a mwyaf ofnadwy, ar a ddichon ddigwyddo i ûn dŷn yn y bywyd hwn, sef, I Dduw roddi dŷn i fynu iddo ei hunan. Y modd goreu gan hynny i ddŷn i ymgadw rhag pecho∣dau tra-mawr ac echryslon, yw bôd yn wiliadwrus yn erbyn pechodau y fo llai, a gwneuthur cydwybod o ho∣nynt.
3. Ni ellir talu iawn na chael maddeuant am y pechod llei∣af heb werthfawr waed mâb Duw: Y mae ymadrodd yr Apostol yn hynodol, Rhuf. 4. 25. Crist a draddodwyd [i an∣geu] tros ein pechodau ni; mae 'r gair a gyfieuthir pecho∣dau, [〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉] yn y Groec yn briodol yn arwy∣ddocau ein codymmau neu 'n llithradau, gan ddaugos, na ellid gwneuthur iawn dros ein pechodau lleiaf ni, heb farwolaeth waedlyd Jesu Grist. Oh gan hynny! na fydded i ni wneuthur cyfrif mor dra-ysgafn o'r hyn y talodd Crist drosto bridwerth mor ddrûd a'i werthfawr waed ei hun.
Page 33
PEN. IX. Am ein hymddygiad wrth gymmeryd bwyd.
WRth ystyried fôd ein Gwrthwynebwr y Diafol ym mhôb lle yn gosod abwydydd a maglau i'n dal ni, ac yn bendifaddeu ar ein Byrddau; am hynny mae 'n perthyn i ni mewn môdd enwedigol fôd yn wiliadwrus arnom ein hunain ar ein Prydoedd bwyd. Ir diben hynny,
1. Nac anghofia weddio ar i Dduw roi bendith ar y crea∣duriaid, yr wyt ti i fôd yn gyfrannog o honynt. Canys megis ac y llefara 'r Apostol, 1 Tim. 4. 4, 5. Y mae pôb peth a greodd Duw yn dda, wedi ei sancteiddio gan Air Duw a Gweddi. Gan y Gair, megis ac y mae 'n dangos ac yn siccrhau ein hawl ni yn y creaduriaid; ac â Gweddi, me∣gis ac y mae yn fôdd wedi ei ordeinio gan Dduw o ran caffael ei fendith ef arnynt, heb yr hon (sef Cweddi) ni wnânt hwy i ni ond ychydig ddaioni: Canys nid trwy fara yn unig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw, Mat. 4. 4. Hynny yw, nid ydyw bara yn por∣thi o'i rym ei hunan, ond trwy ordinhad a bendith Duw. Ac o herwydd hyn arfer gynnefinol ein Iachawdwr oedd edrych i fynu tu ar nefoedd, ac erfyn bendith ar y crea∣duriaid cyn iddo fôd yn gyfrannog o honynt: a hyn a fu arfer cynnefinol y Saint nou bobl Dduw, o flaen am∣ser Crist, ac ar ei ôl, Mar. 8. 6. Joan. 6. 11. 1 Sam. 9. 13. Act. 27. 35. Gan fôd gennit gan hynny y fath ecsamplau enwog iw dilyn yn y matter hwn, nac ymbortha ûn am∣ser ar greaduriaid da yr Arglwydd, nes i ti dderchafu dy galon atto, a deisyf ei fendith ef arnynt: canys oni wnei hynny, mor gyfiawn y gellit ddisgwyl melltith oddi∣wrth Dduw yn hytrach nâ bendith.
2. Bwytta megis yngŵydd Duw, yr hwn sydd yn wasta∣dol yn bresennol gydâ ni, pa le bynnag yr ydym, megis yn ein gweláu, felly hefyd ar ein byrddau, yn bwrw go∣lwg ac yn dal sulw ar ein holl weithredoedd ni. Dy
Page 34
ddoethineb di gan hynny pa le bynnag yr wyt, fŷdd, ymddwyn o honot dy hun megis yngŵydd a cher bron Duw, yn enwedigol ar dy Brydoedd Bwyd, lle 'r wyt ti barottaf i anghofio Duw, ac i ymroddi dy hunan ir crea∣dur, ac i ryngu bôdd ith chwant a'th awydd cnaw∣dol.
3. Tymmera a sancteiddia dy Brydoedd ag ymddiddanion ys∣prydol a sanctaidd, ar y lleiaf ag ymadroddion buddiol, fel y gallo dy enaid yn gystal a'tb gorph gael ei borthi a'i faethu. Ir diben ymma cymmer achlysur i gyfodi dy galon dy hun, a chalonnau y sawl a fo gydâ thi, i gofio Duw yn serchog, drwy ddaioni a thiriondeb yr hwn, yr ydych yn mwynhau yr hyn a osodir ger eich bronnau, fel y byddo i'ch calonnau drwy hynny gael eu hennyn â mwy o gariad tu ag atto ef. Yr ydym ni yn darllen yn yr Efangylwŷr mai arfer gynnefinol Crist ar Brydoedd bwyd, oedd torri allan ir cyfryw ymadroddion, ac a fyddei yn tueddu at ddaioni ysprydol y rhai a eisteddent gydag ef, gan beri grâs ir gwrandawŷr, Luc. 5. 31. Luc. 7. 41. Luc. 14. 16. Y mae'r ecsampl hon yn deilwng o gael ei chan∣lyn gan Gristianogion. Ac o herwydd eich mawr ddiogi tuagat ymddiddanion ysprydol, ach diffrwythdra ynddynt, na fedrwch chwi gael allan ddefnydd cymmwys i hynny yn ddisymmwth, fe fydd yn rhan o ddoethineb ysprydol ynoch, feddwl ym mlaen llaw am ryw brif-byngciau blasus, a thymmerus i ymddiddan yn eu cylch ar Bryd∣oedd, ac a allo dueddu at ddaioni ac adeiladaeth eraill. Ac ymrowch i gofleidio pôb odfa a gynnigier i chwi gan néb i ymddiddan yn ddaionus. Nid wyfi 'n gwadu nad ellwch yn gyfreithlon ar eich Prydoedd bwyd siarad megis am newyddion, felly hefyd am fatterion dinasol, neu am eich negeseuau eich hunan a'r cyffelyb: er hynny chwi wnewch yn dda dymmheru eich dinasawl a'ch moe∣sawl ymddiddanion â rhai traethiadau ysprydol a blasu∣saidd, ac a osodant allan rhyw beth neu gilydd ynghylch Trugaredd, Daioni, ac Haelioni Duw ar bôb Prŷd.
4. Deliwch sulw yn ofalus ar rybydd ein Iachawdwr iw ddiscyblion, Luc. 21. 34. Edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhau drwy lothineb a meddwdod.
Page 35
5. Na phellwch o roddi diolch ar ôl prydoedd am yr adfy∣wiad cyssurus a gowsoch chwi oddiwrth y creaduriaid. Fe roddes yr Arglwydd orchymmyn enwedigol am hyn iw bobl, gan ddywedyd, Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, Deut. 8. 10. Joel 2. 26. Ie yr ydym ni yn darllen fôd yr Eulunaddolwyr cenhedlic yn arferol yn eu gwleddoedd o foliannu eu gau dduwi∣au, canys fe ddywedir, Dan. 5. 4. Ifasant wîn a molianna∣sant y duwiau o aur, ac o arian, o brês, o haiarn, o goed, ac o faen. Onid ydyw yn gywilydd rhyfeddol gan hynny i Gristianogion, na foliannant hwy y gwir Dduw ar ol eu Prydoedd, oddiwrth yr hwn yr ydym ni yn derbyn yr holl bethau da a fwynhawn?
PEN. X. Am Chwareuon a Difyrrwch.
MEgis ac y dylaech fôd yn wiliadwrus arnoch eich hunain ar eich prydiau-hwyd, felly hefyd y dlyech fôd ar eich Difyrrwch. Canys er bod rhyw fath o ddifyrrwch yn gyfreithlon, etto yn gyffredinol yr ydym ni yn barod iw camarfer i ormod rhydd-did, ac i anturio ar bob mâth o chwareuon a difyrrwch yn ddi-wahaniaeth; Ac am hynny myfi a ddangosaf i chwi,
1. Pa fath chwareuon sydd anghyfreithlon.
2. Pa fôdd y camarferir y rhai sydd gyfreithlon, nes eu gwneuthur yn anghyfreithlon.
Chwareuon a Difyrrwch anghyfreithlon a ellir eu dwyn tan y Prif-bennau hyn.
1. Y rhai hynny oll yn y rhai nid oes na challineb y meddwl, na chynhyrfiad y corph ar waith, megis chwareu disiau, a rhyw fath ar chwareuon ar y cardiau; canys nid oes dim ynddynt ond disgwyliad am ddamwain ansiccr, yn y rhai nid arferir na challineb meddwl, nac ymdriniaeth cor∣phorol, y rhai yw prif-ddibenion chwareuon a Difyr∣rwch, naill o ran llonni neu ddadflino ein meddyliau ni
Page 36
neu'n cyrph, fel y gallom ni drwy hynny fod yn gym∣mwysach i ogoneddu Duw, ynghyflawniad dyledswyddau ein lle a'n galwedigaeth.
2. Y rhai a fo 'n beryglus i ddynion, megis gynt yr oedd ymladd ag anifeiliaid, ac yn awr chwareu Pêl droed neu 'r Bel-ddû, ymladd â ffynn, yn enwedig ymladd ag ar∣fau miniog, a'r cyffelyb.
3. Y cyfryw rai ac sydd yn dangos allan gospedigaeth Duw ar y Creaduriaid am bechod dŷn; megis baitio 'r arth, ym∣ladd ceiliogod, a'r cyffelyb. Y gelyniaeth sydd yn y naill greadur yn erbyn y llall, sydd gospedigaeth ar y creadu∣riaid truein am bechod dŷn, ac am hynny ni ddylai mor bôd yn sail ac yn achos o ddigrifwch a llawenydd i ni, eithr yn hytrach o dristwch ac ymddarostyngiad.
Y peth nessaf iw ystyried yw, pa fôdd y gwneir y chwa∣reuon hynny ar sy 'n gyfreithlon ynddynt eu hunain, yn angyfreithlon drwy'r môdd yr arferir hwynt.
1. Pan dreulier gormod o amser ynddynt. Difyrrwch a ddy∣lei fôd megis saws i'ch bwyd, i wneuthur eich chwant yn fwy awchlym i ddyledswyddau eich galwedigaeth; ac nid i'ch torlwytho eich hunain â hwynt, fel y gwneloch eich hunain yn anghymmwyfach i ddyledswyddau eich galwedigaethau, ac hefyd i wasanaeth Duw. Rhaid i chwi wybod, mai pennaf ddiben Duw yn eich anfon chwi ir bŷd ydoedd nid fel y byddei i chwi ddilyn eich di∣fyrrwch, ond fel y treuliech eich amser a'ch nerth ya ei wasanaeth ef, ac yn y moddion drwy y rhai y gellwch gael eich cymhwyso i hynny. Oni fydd mwy cyssur i ti ar awr Angeu i feddwl am yr amser y dreuliaist ti yng∣wasanaeth Duw, ac yn ymbaratoi erbyn tragwyddoldeb, nag am yr amser y dreuliaist ti ar Gardiau, a chwareuon, a gwagedd eraill?
2. Pan wneler eich Difyrrwch yn gelfyddyd o farsiandi∣aeth, megis pan chwareuo dynion yn unic o ran ynnill arian: Yr hyn a ennillo dŷn wrth y fasnach ymma, ni all ef moi feddiannu a'i fwynhau â chydwybod dda. Ni roddwyd mo hono iddo ef gan Dduw, am na ddaeth ef o hŷd iddo drwy foddion cyfreithlon, eithr yn hytrach y mae ef megis da lladrad, ûwch ben y rhai y mae mell∣tith
Page 37
Dduw yn crogi. A'r sawl sy yn colli, mae yntef he∣fyd yn euog o ladrad, canys yr hyn y mae yn ei golli, ei ddwyn y mae oddiar ei wraig, ei blant, a'i deulu, od oes rhai ganddo; neu onid oes, oddiar yr Eglwys, y Wladwriaeth a'r tlodion. Nid ydym ni yn Arglwyddi ar ein golud, eithr yn Oruchwyl-wŷr, a rhaid i ni roddi cy∣frif am danynt. Och nad ystyriai yr holl chwareu-wŷr, pa gyfrif ofnadwy fydd iddynt iw roddi ddydd y farn, nid yn unic am eu hamser gwerthfawr a gamdreulir yn afradlonus, ond hefyd am eu golud a gollwyd gan mwyaf mewn môdd ddrygionus; pan gaffer yn en cyfrif hwynt, fôd cymmaint wedi ddifrodi mewn chwareyddiaeth, a chyn lleied wedi ei roddi ir tlodion, ac i weithredoedd o eluseni!
Cwest. A ydyw chwareu am Arian yn hollawl yn anghy∣freithlon?
Att. Ni ddywedafi fôd chwareu am arian yn hollawl yn anghyfreithlon, os bydd yr hyn y chwareui am dano ond peth bychan, heb dalu ond ychydig, yr hyn sydd iw fe∣sur yn ôl ystâd a grâdd y sawl sy yn chwareu. Eithr beth yw chwareyddiaeth llaweroedd ond ffrwyth eu trach∣want hwy, canys ir diben hyn y maent yn chwareu, sef, fel yr ennillont arian?
3. Disyrrwch cyfreithlon a wneir yn anghyfreithlon, pan arferer ar amseroedd anghyfaddas, megis ar ddiwrnodiau o ymostyngiad, neu ar y dydd Sabbath, ar ba amser y mae 'r Arglwydd yn gorafun i bawb geisio eu bewyllys eu hun, Esay 58. 13. Canys os gorafynodd yr Arglwydd weithre∣doedd ein galwedigaethau gonest a chyfreithlon ar y dydd Sabbath, mwy o lawer Ddifyrrwch a chwareuon afreidiol.
4. Pan arferer hwynt felly, fel y cynhyrfont wyniau dŷn i ddigofaint, cynddaredd, a'r cyffelyb; neu pan baront i rai dyngu, rhegu, ymdaeru, ymryfson, &c. Y sawl ni fedro ffrwyno ei wŷn, na rheoli ei dafod wrth chwareu, nid yw ef gymmwys i chwareu.
Page 38
PEN. XI. Am Ddyledswyddau ein Galwedigaethau.
FE ddylai fôd gan bôb dŷn ryw Alwedigaeth iw ddilyn er gogoniant i Dduw, a daioni i eraill; Canys Ordin∣hâd Duw yw, bôd i bôb dŷn drwy chwŷs ei wyneb fwytta bara, Gen. 3. 19. Nid yw 'r geiriau hyn iw deall yn unig megis melltith, ond hefyd megis gorchymyn. Ie yr oedd gan Adda yn ei gynwr o Ddiniweidrwydd Alwedigaeth a osodesid iddo gan Dduw, sef, I lafurio 'r Ardd ac iw chadw hi, Gen. 2. 15. A phwy bynnag nid oes galwedigaeth ganddo, drwy yr hon y gallo ef fôd yn fuddiol▪ i gym∣deithas ddynol, fe ddywedir ei fôd ef yn byw allan o drefn, ac yn rhodio yn afreodus, 2 Thes 3 11. Heb law hyn, Llawer o aflwydd ac o ddrygau a ochelir drwy ddilyn galwedi∣gaeth gyfreithlon. Canys Gweithdŷ 'r Cythrael yw dŷn segurllyd; yno y mae ef yn gweithio yn brysur, sef; pan yw dynion seguraf; eithr os caiff ef hwynt yn ddyfal yn eu galwediga ethau, yna y mae 'n cilio yn ôl, gan wy∣bod nad yw hi ddim yn amser cyfaddas iddo▪ i osod ar∣nynt á'i demptasiwnau. Yn awr fe ddylei pôb dŷn ofalu yn enwedigol am gyflawni yn gydwybodus ddyledswy∣ddau ei alwedigaeth neilltuol, yn yr hon y cyfleuwyd ef drwy ragluniaeth Duw; canys y mae llawer o rym a by∣wyd crefydd yn sefyll yn hynny. Ir diben hyn cymmer yr hyffordd adau a ganlynant▪
I. Dechreu gydâ Duw, gan geisio oddiwrtho ef mewn gweddi, nid yn unig maddeuant fechodau, a phôb grâs, eithr hefyd ei fendith ef ar dy lafur a'th orchwylion cyfreithlon; Canys yn ddiau ei fendith ef yn unic sy yn cyfoethogi, ac yn peri ir hyn a gymmerom yn llaw lwyddo a ffyn∣nu, yr hyn y mae Moses yn ei gydnabod, Deut. 8. 18. Lle mae ef wrth lefaru wrth bobl Israel, yn dywedyd, Yr Ar∣glwydd yw'r hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth.
II. Bydd boenus a diwyd yn nyledswyddau dy alwedigaeth, yn ôl cyngor y gŵr doeth, Preg. 9 10. Beth bynnag a yma∣fel
Page 39
dy law ynddo iw wneuthur, gwna â'th holl egni, hynny yw, pa weithredoedd neu ddyledswyddau bynnig sydd yn perthyn i ti o ran dy alwedigaeth, gwna hwynt yn ddy∣fal ac yn ddiwyd; nid cymmaint er mwyn casglu cy∣foeth, ac er mwyn cyrraedd pethau angenrheidiol i ti dy hun, dy wraig a'th blant. Y mae 'n Ia hawdwr yn canmol hyn, drwy y peth a arferei ef ei hunan, canys medd efe, Joan. 9. 4. Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn▪ a'm hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd, hynny yw yn ddiwyd, o hŷd, nes ei orphen.
Ich hannog chwi i hyn, gwybyddwch, fod diwydrw ydd dynion yn eu galwedigaethau yn arferol o gael ei goroni â golud, ac ag amlder. Dihar. 10. 4. Dihar. 13. 4. Llaw y diwyd a gyfoethoga. Enaid y diwyd a wneir yn frâs, hynny yw, a gyfoethogir â bendithion oddiallan. Adiau mai anfynych iawn nad yw bendith yn cydymganlyn â llaw ddiwyd.
Ond etto rhaid yw cymmeryd gofal yn hyn, tra yr ydych yn dyfal ddilyn gorchwylion eich galwedigaeth ar y naill llaw, na bo i chwi gael eich gorddiwes â chwantau bydol, ac â chybydd-dod ar y llaw arall; ac am hynny mi a roddaf i chwi ddau o Ocheliadau.
1. Na fydd yn dilyn mo'th Alwedigaeth neilltuol mor ddy∣fal, ac yr esceulusech Ddyledswyddau dy alwedigaeth cyffredi∣nol, fel yr wyt ti yn Gristion: Fy meddwl yw, na fydd mor haerllug yn dilyn dy negeseuau a'th orchwylion by∣dol, ac yr esceulusech dy ddyledswyddau ysprydol, me∣gis dy foreuol a'th brydnawnol ddefosiwnau i Dduw, a'r cyffelyb. Er bod yn rhydd i ti dreulio y rhan fwyaf o bôb diwrnod o'r chwech, yn dy negeseuon a'th orch∣wylion bydol, etto ti a ddylit dreulio rhyw gyfran o bôb diwrnod mewn gorchwylion ysprydol, drwy y rhai y bydd dy uegeseuon bydol gwedi eu pereiddio a'u san∣cteiddio yn well. Pan ddelych i orwedd ar dy wely∣augeu, ac edrych o honot yn ôl at dy fuchedd, yna yr hyn o amser a hepcoraist oddiwrth dy negeseuon bydol, ac a dreuliaist mewn gweddi, darllen, gwrando, my∣fyrio a'r cyffelyb, a ddwg i ti fwyaf o ddiddanwch.
2. Ymegnia ar fôd â meddyliau nefol yn dy orchmylion
Page 40
daiarol. Dilyn dy negeseuon bydol â serchiadau ysprydol, gan dderchafu dy galon yn fynych at Dduw mewn rhyw nefol faethiadan neu weddiau byrrion. Ie, gwna dy oreu, ar wneuthur rhyw ddefnydd o'r amser yr wyt yn dilyn gorchwylion dy alwedigaeth ynddo, fel y caffech ryw elw ysprydol, drwy ryw fyfyrdodau buddiol; yn enwe∣dig os bydd dy orchwyl yn gyfryw un, ag sy yn gosod y llaw, ac nid y pen ar waith. Fel yr wyt ti yn awchus yn dilyn dy negeseuon bydol, myfyria yn fynych ar yr ymadrodd rhagorol hwnnw o'r eiddo 'n Achubwr, Mar. 8. 36. Pa lesâd i ddŷn, os ennill yr holl fŷd, a cholli ei e∣naid ei hun?
III. Ymroa ac ymagnia ar fôd yn ffyddlon ac yn buraidd yn holl weithredoedd dy alwedigaeth; a thrwy fath ar ddirmyg ffieiddia ennill dim drwy foddion drygionus a thwyllo∣drus, megis drwy gelwydd, pwysau a mesurau anghy∣wir, &c. gan wybod, y dichon ychydig a enniller yn ddrwg wenwyno holl dda dŷn, a dwyn melltith ar gwbl ôll ag a feddo, fe ddichon ddigwyddo i fôd yn debyg ir cîg y ddygodd yr eryr oddiar yr Allor â marworyn ynddo, ac a loscodd yr holl nŷth. Bydded gan hynny wirionedd, uniondeb a thegwch yn dy holl ymdriniaeth â dynion. 1 Thes. 4. 6. Na fydded i nêb orthrymmu na thwyllo ei frawd mewn dim; canys dialudd yw 'r Arglwydd ar y rhai hyn ôll: eithr yn dy holl ymdriniaeth â dynion, dal sulw ar y ddeddf frenhinawl honno, a gwialen fesur pôb uniondeb, yr hyn yw, gwna fel yr ewyllysit wneuthur i titheu, canys me∣gis ac y llefara ein Iachawdwr, Mat. 7. 12. Hyn yw'r gy∣fraith a'r Prophwydi; sef, swm yr hyn a roddwyd ar lawr yn y Gyfraith a'r Prophwydi, ynghylch ein hymddygiad tu∣agat ein Cymmydog, a'n ymdriniaeth ag ef.
IV. Darfyddo i ti arfer dy ddiwydrwydd eithaf yn dy Alwe∣digaeth gyfreithlon, na flina mo honot dy hnn â meddyliau go∣fal-ddwys ac anobeithiol ynghylch y digwyddiad a'r ffynniant o'th orchwylion. Mat. 6. 31. Na ofelwch, medd ein Iachaw∣dwr, Gan ddywedyd, beth a fwyttawn, neu, beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn? y gair y gyfieithir, na ofelwch, sydd yn y Groec yn arwyddocau gofalfryd pryderus, ano∣beithiol, drwy yr hyn y mae 'r meddwl yn aflonydd yn∣ghylch
Page 41
y digwyddiad a'r ffynniant o'n poen a'n llafur, yr hyn sydd yn anweddus iawn i Gristion.
V. Cyn fynyched ac y derbyniech di fendith oddiwrth Dduw, na anghofia roddi iddo fawl a gogoniant am dano, gan gyd∣nabod, beth bynnag a fu 'r moddion, mai efe yw prif∣achos a phen-awdwr yr holl ddoniau, a'r bendithion hynny yr ydwyt ti yn eu mwynhau.
PEN. XII. Am ein Hymddygiad yn y Dirgel.
OBlegid yr amryw demptafiwnau ir rhai yr ydym ni yn ddarostyngedig, Pan ydym ni yn unig wrthym ein hunain, ac hefyd pan ydym ni mewn cymdeithas gydag eraill; Ein dyledswydd ydyw, ac fe fydd yn ddoethineb i ni gadw cadwraeth fanol arnom ein hunain, pan fyddom mewn lle o'r nailldu, ac hefyd pan fyddom ym mhlith cwmpeini.
Yn gyntaf, pan ydym yn unig, rhaid i ni ofalu, na by∣ddom ni ar waith drwg, na chwaith yn segur ac yn ddi∣ffrwyth, eithr ar i ni fôd ar waith da, wedi ein cym∣meryd i fynu â myfyrdodau ysprydol a nefol.
1. Canys adeg neu odfa 'r cythrael yw neillduolrwydd, yr hon y bu ef erioed yn ofalus am ei chofleidio, a gw∣neuthur defnydd o honi fel y byddei fwyaf ei fudd ef; fel y gwelwn ni yn Nafydd, yr hwn pan oedd ef yn rho∣dio yn unig ar nen ei dŷ, yno y gosododd y cythrael arno ef â'i demptasiwn i odinebu, ac a'i gorchfygodd ef, 2 Sam. 11. 2. Ac o herwydd hynny mor berthnasol ydyw i ni, y prŷd hynny yn enwedigol fod yn wiliadwrus ar∣nom ein hunain?
2. O herwydd ein bôd ni y pryd hynny mewn mwyaf o be∣rygl, i gael ein gorddiwes a'n gorchfygu gan ein trachwantau pechadurus: Yna yr ydym ni yn barottaf i ollwng ein ca∣lonnau allan i wibio ar ôl trythyllwch, ac i fyfyrio ar ddrygioni, drwy borthi ein mympwy neu 'n phansi neu 'n tŷb, a rhyngu bôdd i ni 'n hunain mewn meddyliau beilchion, dialeddus, anllad a'r cyffelyh Ac am hynny
Page 42
ni ddylem, pan ydym wrthym ein hunain, wilied yn o∣falus ar ein calonnau, gan eu bôd y pryd hynny mewn mwyaf perygl o'r treisiadau ysprydol hyn.
Ir diben ymma y gorchmynnaf y ddyledswydd rago∣rol honno o dduwiol fyfyrdod, yr hon a esceulusir yn or∣mod, yr hon hefyd sydd ddauddyblig, sef, naill ai yn Ddisymmwth ac fel y caffer achlysur iddi, neu ynte yn Bennodol ac o ragfwriad.
Am naturiaeth Myfyrdod achlysurawl; Disymmwth oso∣diad y meddwl yw efe ar ryw satter buddiol, y caffon achly∣sur iddo drwy ryw beth a welwn, neu a glywn. Yr hyn a ellir ei wneuthur bôb amser, ac ym mhôb manu, pan yr ydym ni gartref ynghylch gwaith ein galwedigaeth, neu yn rhodio allan. Llawer o ddefnydd a all fôd o'r my∣fyrdod disymmwth hyn, o herwydd yr amryw fath ar bethau a ymddangosant gyferbyn a'n golwg; am fôd pôb creadur a ganfyddom yn rhoddi i ni fatter helaeth o fy∣fyrdod ysprydol a nefol; oddiwrth bôb un o honynt y gallwn, ac y dylem gymmeryd achlysur i fyfyrio am Dduw, ac am ei Briodoliaethau yn llewyrchu ynddynt, me∣gis ei Allu, ei Ddoethineb, ei Daioni, &c. Gwêl Psal. 19. 1. Rhuf. 1. 20. Ith berswadio ir cyfryw fyfyrdod, cym∣mer y tair o Annogaethau a ganlynant.
1. Fe fydd hyn yn fôdd enwedigol i gadw meddyliau bydol, a nwyfus, a chynhyrfiadau ofer allan o'th galon. Canys os ym∣roddi i seguryd, heb wneuthur dy oreu i lenwi dy fe∣ddwl â rhyw fyfyrdod da a llesol, yr wyt ti yn siccr o gael dy gythryblu â gorwag a drwg feddyliau, naill ai n codi oddiwrth dy lygredigaeth naturiol, neu a fwrir i mewn gan Satan. Eithr os myfyri ar bethau daionus a llesol, ni chaiff dy lygredigaeth mor gallu hwnnw ith aflonyddu di, na'r cythrael mo'r odfa honno i daflu me∣ddyliau drygionus i'th fewn.
2. Mynych arfer myfyrdodau achlysurawl a'th gymmhwysa i fyfyrdodau pennodol ac arferol: Canys drwy hyn fe'th len∣wir â matter da, ac fe baratoir dy galon i ymddiddan â Duw.
3. Drwy hyn y gwnei iawn arfer o'r creaduriaid. Y mae 'r creaduriaid wedi eu colli i ti mewn un hanner, os
Page 43
arferi hwynt yn unig, ac heb gymmeryd rhyw wers ys∣prydol oddiwrthynt.
Hyn am fyfyrdod disymmwth ac achlysurawl. Dewn yn awr at fyfyrdod pennodol, pwrpasol, ac mi a ddangosaf ichwi yn fyrr, 1. Ei Naturiaeth ef. 2. Rhai Rheolau i ddal sulw arnynt yn hynny.
Am ei naturiaeth ef, pa beth yw, yr wyfi 'n Atteb, Myfyrdod pennodol bwriadol, yw difrifol ymwasgiad y meddwl wrth rhyw fatter ysprydol neu nefol, gan ymddiddan yn ei gylch rhyngot â thi dy hun; fel y cynnheser dy galon, y bywioger dy serchiadau, ac y derchafer dy fwriadau i fwy o gariad at Dduw, a chasineb ir pechod, &c.
Y Rheolau i ddal sulw arnynt yn y matter hyn a gan∣lynant.
1. Bydded i fatter dy fyfyrdod di fod yn hollawl yn ysprydol ac yn dduwiol. Ac fel hyn y mae pôb rhan o'r Scrythur yn fatter cymmwys i ti fyfyrio arno; felly hefyd y mae Duw, a'i holl Briodoliaethau, megis ei Holl-alluogrwydd, ei Dragwyddoldeb, Anghyfnewidioldeb, Holl-bresenoldeb, Holl∣wybodaeth, Sancteiddrwydd, Doethineb, Trugaredd, Cyfiawnder, Cariad, Ffyddlondeb, a phôb godidowgrwydd arall o eiddo Duw. Y mae hefyd y cyflwr bendigedig yn yr hwn y creawdd Duw ein Rhieni cyntaf; a'r cyflwr truenus hwn∣nw ir hwn y soddasant hwy eu hunain, a'u holl heppil. drwy eu hanufydd-dod yn erbyn Duw, drwy fwytta y ffrwyth gwaharddedig: a'r prynedigaeth drwy Jesu Grist, a thra ragorawl gariad Crist yn myned tan ângeu chwe∣rw a melltigedig drosom ni: y mae 'r pethau hyn i gyd meddafi yn ddefnydd cymmwys i fyfyrio arnynt.
2. Bydded i fatter neilltuol dy fyfyrdod ti, fôd yn berthyna∣sol ith gyflwr presennol: ac ir diben hyn wrth ymosod ar y ddyledswydd hon, se fydd yn ddoethineb i ti ddal sulw ar sutt a thymmer dy galon. Os bydd dy galon yn drist, yna myfyria ar dy bechodau, fel y gellych di felly droi dy drymder a'th dristwch am bethau oddi allan yn drym∣der am dy bechodau. Eithr os clywi di dy galon yn llon ac yn ysgafn, yna myfyria ar ddiamgyffred gariad Duw, ac ar haelioni ei râs ef, neu ar ei gymmwynasgarwch ef, yn enwedig tuag attat ti dy hun.
Page 44
3. Wedi i ti osod dy feddyliau ar ryw fatter neilltuol, cy∣faddas i agwedd a thymmer presennol dy galon di, yna parhâ yn y meddyliau hynny, nes i ti glywed dy galon wedi ei chyn∣nesu, a'th serchiadau wedi eu bywiogi â nhwy; yr hyn mewn gwirionedd yw unig a phrif ddiben y ddyledswydd hon.
Ar ôl llefaru am y paratóad ir gwaith, cwympwn bellach at y gwaith ei hun, yr hwn sy yn sefyll yn y tri hyn o byngciau neilltuol.
Mi a allaf alw y cyntaf yn Ddwysfeddyliad, wrth yr hyn yr wyfi yn meddwl ymddiddaniad y dealltwriaeth yn∣ghylch y matter y pennoder arno, ac adgoffâd o amryw wirioneddau a berthynant iddo. Megis os marwolaeth fydd defnydd dy fyfyrdod, yna atgofia, a meddwl yn ddifri∣fol, megis am siccrwydd marwolaeth, felly hefyd am ei han∣siccrwydd, a hynny yn gystal o ran y Mann pa le, a'r Môdd pa sut, ac o ran yr Amfer pa brŷd; ac oddiwrth hynny ymresymma, fod yn anghenrhaid disgwyl yn wa∣stadol am farwolaeth, a pharatoi yn ei herbyn.
Yr ail yw cymmbwysiad attat dy hun o'r gwirioneddau hynny a elwaist ith gôf, fel y cynnheser dy galon, ac y bywioger dy ferchiadau drwy hynny.
Y trydydd peth a'r olaf yw Llwyrfwriad, sef llwyrfryd calon i wneuthur hyn neu hynny, neu i adel heibio hyn neu hynny; megis os marwolaeth y fu defnydd dy fyfyr∣dod, a'th fôd yn clywed dy galon wedi llwyr weithio arni â theimlad o hynny, yn enwedigol o ansiccrwydd amser dy farwolaeth; yna dyro dy frŷd ar fôd yn fwy gofalus i gofleidio pôb odfa i wneuthur daioni, gan dy∣bied y dichon hi fôd yr olaf ar a ganiadhaer i ti; ac ymrôa hefyd ar fyw mewn gwastadol ddisgwyliad am far∣wolaeth, ac ymbaratóad yn ei herbyn, drwy adnewy∣ddiad beunyddiol o'th heddwch gydâ Duw.
Ynghylch yr amser pa brŷd y mae 'r ddyledswydd hon iw chyflawni, Rhai a ganmolant yr Hwyr, canys ni a ddarllenwn fyned o Isaac allan i fyfyrio yn y maes ym mîn yr hwyr, Gen. 24. 63. Eraill a ganmolant y nôs, pan yw pôb peth arall yn ddistaw ac yn llonydd, yn ôl arfer Dafydd, yr hwn a ddywaid, Pan ith gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf
Page 45
am danat yngwiliadwriaethau y nôs, Psal. 63. 6. Eraill a gan∣molant y boreu, megis yr amser rhyddaf oddiwrth draffer∣thion bydol. Eithr hyn a adewir i bwyll a doethineb pob dŷn, pa amser o'r dydd iw ddewis i fyfyrio ynddo, a hefyd pa gyfran o amser iw dreulio yn hynny; canys ni ellir rhoddi un Rheol siccr yn hyn o beth. Dilys yw, y dichon y cyfoethogion hepcor mwy o amser i hyn nag y ddichon y tlodion, y rhai sy yn byw wrth eu llafur beunyddiol, ac heb ganddynt ond ychydig amser iw hep∣cor oddiwrth hynny. Ond yn ddiddadl, fe ddylei pob dŷn, pa un bynnag fyddo ai cyfoethog ai tlawd, ai Meistr ai Gwâs, wneuthur cydwybod o gyflawni y ddy∣ledswydd hon ar ddydd yr Arglwydd, gan fôd y dydd hwnnw▪ wedi ei briodoli i ddyledswyddau ysprydol. A chan fôd myfyrio ynghyfraith yr Arglwydd ddydd a nôs, yn cael ei osod ar lawr yn y Psalm gyntaf, yn nôd o ddŷn duwiol, mi dybygwn y dylei pôb dŷn, a chwennychei gael siccrwydd, ei fôd ef yn un o'r rhai duwiol, arfer y cyfryw fyfyrdod yn feunyddiol, cyn belled ac y mae ei alwedigaeth ef yn rhoddi lle i hynny.
PEN. XIII. Am ein Hymddygiad mewn Cymdeithas neu Gwmpeini.
MEgis ac y dylit ti fod yn wiliadwrus arnat dy hunan pan ydwyt yn unic, felly hefyd y dylit ti fod pan ydwyt mewn cymdeithas, gan edrych at dy ymddygiad yn∣ddo; a hynny yn hytrach, o herwydd yn gyffredinol yr ydym ni yn barottach i droseddu ynghymdeithas rhai, nâ phan ydym yn unic wrthym ein hunain: Ac am hyn∣ny mi a osodaf ar lawr rai hyfforddiadau ith gyfarwy∣ddo pan fyddech mewn cymdeithas ag eraill.
Eithr yn gyntaf mi a roddaf reswm neu ddau, ith ber∣swadio i ddewis rhai da a duwiol, ac nid rhai drwg ac annuwiol er dim, i ymgymdeithiasu â hwynt yn gyffre∣dinol: Ac hefyd gyngor neu ddau mewn ffordd o bara∣tóad, o ran dy gymhwyso a▪th baratoi yn well, i wneu∣thur
Page 44
〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉
Page 45
〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉
Page 46
defnydd o'th ymdriniaeth â dynion er mwyaf bûdd ith enaid.
1. Am hynny gwna fawr gyfrif, ac ymgais yn ddifrifol am gymdeithas y cyfryw rai ar sydd dduwiol, canys drwy hynny y cei weled mwy o gynnydd yn dy dduwioldeb, gwybo∣daeth, ffydd, zel, a'th holl radau eraill. Ac fe ellir dal sulw, lle nid yw pobl Dduw yn cŷdymgymdeithasu mewn cymmundeb sanctaidd, nad oes yno fawr ffynniant a chyn∣nydd mewn gràs a duwioldeb, er eu bod yn byw tan weinidogaeth mor nerthol ac a allei fyth fôd.
2. Cais ochel yn fwyaf ac y gallech gymdeithas dynion an∣nuwiol a halogedig, yn enwedig y cyfryw ac sydd wat∣warwŷr duwioldeb a chrefydd. 1. O herwydd bod yn hawdd iawn ein llygru ni â gwenwyndra eu pechodau hwynt; y cyfryw bŷg a ddiwyna ein dillad ni. 2. O herwydd ein bôd ni drwy hynny mewn perygl o'n ham∣gylchu yn eu pláau amserol hwynt. 3. O herwydd drwy hynny yr annogwn ac yr hyfâwn hwynt yn eu ffyrdd ddrygionus ac halogedig; Canys annogaeth fawr i ddy∣nion annuwiol i fyned ym mlaen yn eu helyntiau drygi∣onus a phechadurus, yw, pan gaffont gymdeithas y du∣wiol i gydsynnied â hwynt.
Yn awr o ran dy gymhwyso a'th baratoi dy hun yn well, i ymdrîn â chymdeithion yn fuddiol tra fy'ch yn eu plith, myfi a roddaf i ti y ddau gyngor hyn yn unig.
1. Fel y gallech fod wedi 'th ddarparu 'n well â mat∣ter buddiol i ymddiddan yn ei gylch, Myfyria yn fynych ac yn ddifrifol am ryw brif-bwngc cyffredinol o'r grefydd gristianogol, megis am ein truenus a'n gresynol gyflwr wrth naturiaeth, am holl-ddigonolrwydd aberth Crist, am wagedd ac ansiccrwydd pob peth daiarol, am fyrdra y bywyd hwn, am ddydd y Farn, neu 'r cyffelyb. Drwy fynych fyfyrio ar y pethau hyn neu 'r cyffelyb rhyngot â thi dy hun yn y dirgel, y gwneir di yn aplach i chwed∣leua âc ymddiddan am danynt yngwydd eraill, a hynny er daioni ac adeiladaeth iddyut hwy, yn gystal ac i ti dy hun.
2. Cyn dy fyned i gymdeithas, Bydd daer ar Dduw mewn gweddi am ras, felly i drefnu dy ymarweddiad a'th ym∣ddiddanion,
Page 47
fel y gallont dueddu, megis at ogoniant Duw, felly hefyd at dy ddaioni a'th elw ysprydol dy hun ac eraill.
Ar ôl rhagosod y pethau hyn sut ymma, dewn yn awr at yr Hyfforddiadau o ran dy lywodraethu dy hun yn iawn, pan fyddech mewn cwmpeini; y rhai a osodaf ar lawr. 1. Yn fwy cyffredinol. 2. Yn fwy neilltuol, o ran dy ym∣ddygiad mewn cwmpeini da, ac mewn cwmpeini drwg. A'r Hyfforddiadau cyffredinol yw y rhain.
I. Bydded dy ymddygiad â'th ymarweddiad yn ostyngedig, gan fod yn ewyllysgar i gyfrannu dy gynghorion, a'th gyssurau, a'th brofiadau ir Cristianogion tlottaf a gwae∣laf, ac i dderbyn cyfran o'u cynghorion a'u cyssurau, a'u profiadau hwynt; heb fod yn ddiystyr gennyt ddysgu dim ar sydd dda gan y rhai sydd ym mhêll îs dy law di, megis ac ni ddiystyrodd Apollos i gael ei ddyscu gan Aquila a Phriscilla, Act. 18. 26.
II. Yn dy holl ymdriniaeth â dynion, cais fod yn frwythlon ac yn llesol i ti dy hun, ac i eraill, drwy dderbyn a gw∣neuthur yr holl ddaioni a ellych.
1. I ti dy hun drwy dderbyn yr holl ddaioni a ellych oddi∣wrth eraill. Ir diben ymma, pan wyti ynghymdeithas e∣raill, dal-sulw yn ddyfal, ym mha ddoniau a rhadau y mae neb yn rhagori, (canys Duw a wasgarodd amryw ddoniau iw bobl, ni chynnysgaeddwyd pawb yn yr un môdd) ac yna gwna dy oreu, ar dynnu y doniau a'r rha∣dau hynny allan, ith ddaioni a'th elw ysprydol dy hun.
2. I eraill drwy gyfrannu iddynt y cyfryw bethau daionus y dybiech eu bod yn gymmhwysaf iw hystat a'u cyflwr presennol hwynt. Po mwyaf o ddaioni a gyfrannech di i eraill, mwyaf a gyfranna Duw i tithe; canys doniau a rhadau yspryd Duw ydynt (megis y Talentau) yn tyfu ac yn cynnyddu, wrth eu harfer a gwneuthur defnydd o ho∣nynt.
III. Mynych ddercbafa dy galon i fynu at Dduw, mewn rhyw weddi ferr a saethech allan, ar iddo ef agor dy wofu∣sau, fal y mynego dy enau ei foliant ef, ar iddo ef roddi i, ti allu i lefaru felly fel y byddo dy eiriau a'th ymddi∣ddanion
Page 48
yn tueddu at ddaioni ac adeiladaeth eraill, yn peri grâs ir gwrandawyr. Psal. 51. 15. Eph. 4. 29.
Wedi rhoddi i ti Hyfforddiadau cyffredinol fal hyn o ran dy ymddygiad mewn cwmpeini; Deuwn yn awr at Hyffor∣ddiadau mwy neilltuol, yn perthyn i'th ymddygiad mewn cwmpeini da:
1. Pan ydwyt mewn cwmpeini da, na wâg-dreulia mo'th amser mewn ymadroddion ac ymddiddanion bydol, megis ac y mae 'n fai cyffredinol rhy-ormod o nifer, (rhag yr hyn y cwynodd Saint Bernard yn ei amser ef, gan ddywedyd, Nid ydys yn llefaru dim am y Scrythyrau, nac am iechydwri∣aetb eneidiau, ond gwag-chwedlau, a chwerthin, a geiriau ofer a ddygir allan.) Eithr bydded i fatter dy ymddidda∣niad di fod yn hytrach rhyw bethau ysprydol.
II. Gwna dy oreu ar droi ffrŵd ymddiddanion bydol i ym∣ddiddanion ysprydol; Ir deben hwnnw disgwyl am bob odfa a allo roi dim achlysur i lêdtroi oddiwrth fatterion by∣dol, at ryw destyn ysprydol a nefol.
III. Bydd barod i gyflwyno a chyfrannu o'r cyfryw ddoniau a rhadau ac a dderbyniaist. A oes gennit ti ddim mesur cym∣mhedrol o wybodaeth iachusawl? cyfranna o'th wybo∣daeth âg eraill, drwy yspysu iddynt ddirgeledigaethau ie∣chydwriaeth. A gefaist di gyssur ar ôl dy drallodion ysprydol? A gefaist di gynhaliaeth dan dy brofiadau a'th demptasiwnau? A gefaist di attebion grasol ith weddiau? A gefaist di fuddugoliaeth ar un trachwant neu lygredi∣gaeth? yn rhwydd ac yn ewyllysgar cyfranna, a dyro brawf i eraill o'r profiadau a gefaist di o Drugaredd, Gallu, a Daioni Duw yn dy amryw gyfyngderau a'th ga∣ledfyd, gan eu cyfarwyddo hwynt at y cyfryw ffyrdd a helyntiau, yn y rhai y cefaist di dy hun lawer o fûdd a daioni. Hyn a gawn ni wedi ei orchymmyn yn eglur, 1 Pet. 4. 10.
Yr Hyfforddiadau neilltuol yn perthyn i'n hymddygiad mewn cwmpeini drwg, yw y rhai'n.
I. Pan wyt ti o ran rhyw achos cyffredinol mewn cwmpeini drwg (canys os amgen, fal y dangosasom or blaen, rhaid i ti ym mhôb môdd ci ochelyd ef) gwêl ar i'th ymarwe∣ddiad fôd gŷd â diniweidrwydd y Golommen, yn ddifeius a
Page 49
diddrwg, yn ôl cyngor yr Apostol, Phil. 2. 15. Y gwiri∣onedd yw, mai prin y mae moddion gwell i helaethu 'r Efengyl, ac iw dwysblannu hi ar serchiadau dynion na∣turiol, nag ymddygiad têg, ac ymarweddiad gonest ei Phroffeswŷr hi. Mae hyn fel arogl ennaint Christ, pê∣reidd-dra yr hwn sy yn tynnu serchiadau eraill ar ei ôl.
II. Bydd ofalus na byddech gyfrannog o'u pechodau hwynt; Yr hwn yw 'r Cyngor a ddyru yr Apostol, Ephes. 5. 11. Na fydded i chwi gŷd-gyfeillach â gweithredoedd anffrwyth∣lon y tywyllwch. Ei feddwl yw, na byddei iddynt hwy mewn un modd gymdeithasu, neu fôd yn gyfrannogion â'u pechodau hwynt, y rhai a eilw ef Gweithredoedd y tywyllwch.
Cwest. Pa fodd y gellir dywedyd ein bôd ni yn gŷdgyfran∣nogion âg eraill yn eu pechodau?
Mae dynion yn gyfrannogion o bechodau rhai eraill, megis drwy annog i bechu, felly hefyd drwy gŷd-ymfodloni â'i pechod hwynt. Dynion a ymfodlonant i bechodau rhai eraill yn amlwg, neu yn ddirgel: Yn amlwg ar Air, neu Weithred.
Ar Air, 1. Pan ganmholant eraill am eu pechodau. 2. Pan ddadleuant drostynt a'u hamddiffyn hwynt yn eu pechodau. 3. Pan druthiant, ac y gwenhieithiant iddynt ynddynt. Dynion a ym∣fodlonant i bechodau rhai eraill ar Weithred, pan ydynt gymdeithion a chŷd weithwŷr â hwynt yn yr unrhyw bechodau. Yn ddirgel, y mae dynion yn ymfodloni i be∣chodau rhai eraill, pan ydynt yn cyd-synnied â hwynt: fe ellir dywedyd fod hwnnw yn cydsynnied yn ddistaw. ar sydd naill ai heb ddatcuddio y pechod a wypo, pan ddylai, neu heb ddangos dim anfodlondeb iddo, pan ganffyddo ef. Ac y mae hyn yn fynych mor niweidiol, o ran y troseddwr, ac a ydyw drwg cyngor; Canys me∣gis ag y mae ymadrodd drwg yn annog dynion i bechu, felly y mae drwg ddistawrwydd yn gado dynion yn y pechod.
III. Gofidia a galara dros y pechodau a ddeallech eu bôd yn eu plith hwynt. Mynych y nodir, ac y canmholir megis grâs enwedigol mewn amryw rai o Seintiau Duw, fod arnynt flinder mawr o'u mewn am yr ammarch a wneid i
Page 50
Dduw drwy bechodau eraill; megis Moses, Dafydd, Je∣romi, ac eraill, Deut. 9. 18, 19. Psal. 119. 158. Jer. 13. 17.
IV. Pan ddaliech sulw ar ddim anwiredd a wnelo dy gym∣mydog, argyoedda ef am dano; Yr hon ddyledswydd y cawn ni yn yr Scrythur annogaeth mawr i bobl Dduw iw chy∣flowni, Lev. 19. 17. Na chasâ dy frawd yn dy galon, gan geryddu cerydda dy gymmydog, ac na ddioddef bechod ynddo. Yn yr hyn y cynnhwysir dau beth.
1. Fôd y neb ni cheryddo ei frawd pan welo ef yn gwneuthur ar fai, mewn gwirionedd yn ei gasau ef, ac nid yn ei garu; am nad oes un cariad tebyg i gariad o gerydd.
2. Dy fôd ti drwy ado dy frawd yn ddigerydd, yn dioddef iddo redeg ymlaen, a pharhau yn ei ystod o be∣chod, yr hyn o'r diwedd a ddigwydd yn ddestryw iddo.
O ran yr uniawn fodd i gyflawni y ddyledswydd hon, rhaid yw dal ar ryw Reolau Cyffredinol, a rhai Neilltu∣ol hefyd, yn ol amryw amgylchiadau. Rheolau Cyffredinol yw y rhain,
1. Y sawl a geryddo arall, rhaid iddo dderchafu ei galon at Dduw mewn gweddi, ar iddo ef felly gyfarwyddo ei Da∣fod ef, a chynnhyrfu calon y llall, fel y byddo ei ge∣rydd ef yn fuddiol iddo. Canys heb fendith Dduw, ni bydd ein holl rybuddion a'n ceryddon ond geiriau a le∣ferir wrth yr awyr.
2. Rhaid yw i'n cerydd gael ei wneuthur mewn cariad, gan fwriadu daioni ein brawd yn hynny, ac nid ei ammarch er dim. Canys megis ag y llefara 'r Apostol, 1 Cor. 16. 14. Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad; ac megis yr holl bethau, felly yn enwedigol y peth ymma o gerydd. Tu ag at am Reolau Neilltuol, rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y Ceryddwr, a'r Ceryddol, a chynneddfen y pe∣chod, ynghŷd â'r amser a'r lle hefyd.
1. Rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y Ceryddwr. Me∣gis y mae gan y rhai sydd âg awdurdod ganthynt fwy o ryddid i argyoeddi a cheryddu, felly os ydynt i ym∣drin â throseddwyr drygfawr hynodol, yna hwy a allant, a rhaid yw iddynt geryddu,
1. Gyd âg awdurdod, fal y cynghora 'r Apostol, Argyo∣edda gydâ phob awdurdod, Tit. 2. 15.
Page 51
2. Yn llym, felly y mae 'r Apostol yn gorchymmyn, Ar∣gyoedda hwynt yn llym, Tit. 1. 13. Y gair yn y Groec ar a gyfieithir yn llym, sy yn briodol yn arwyddocau yn torri, neu at y byw. Eli a ballodd yn hyn; er iddo argyoeddi ei feibion am eu drygioni, etto ni wnaethpwyd hynny yn llym, a hyd at y byw, eithr yn rhŷ esmwyth a lla∣riaidd.
2. Rhaid yw ystyried meddwl a thuedd naturiol y ceryddol; Canys os bydd ef ystwythaidd a hynaws, rhaid yw ei argyoeddi mewn llaryeidd-dra, sef mewn yspryd addfwyn∣der, megis y mae 'r Apostol yn ei adrodd, Gal. 6. 1. Ond etto rhaid yw arfer tostrwydd pan na thyccio llaryeidd∣dra.
3. Rhaid yw ystyried ystâd a chyflwr y ceryddol neu yr hwn sydd iw geryddu. Canys,
1. Os un uwch ei raddau nâ ni a fŷdd ef, rhaid yw gwneuthur hynny gyd â phob parch a gostyngei∣ddrwydd, gan attolygu a chynghori yn hyttrach nâ che∣ryddu yn eglur, fel y gwnaeth gweision Naaman â'i meistr, 2 Bren. 5. 11, 13.
2. Os y sawl a fo iw argyoeddi fydd cydradd â ni, yna rhaid yw ei wneuthur heb ddim o'r chwerwedd, sef mewn pob cariad. Pil chwerw yw cerydd; ac am hynny rhaid bob amser ei droi ef mewn Suwgr, drwy eglurhau llawer o addfwynder yspryd, a thosturi calon; Gan ddangos yn y casineb i bechod ein brawd, ein cariad iw berson ef.
4. Rhaid hefyd yw ystyried cynneddfen y pechod a gerydder.
1. Rhaid yw argyoeddi beiau nailltuol o'r nailltu; Canys medd ein Iachawdwr, Mat. 18. 15. Os pecha dy frawd ith erbyn, dôs ac argyoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Ond rhaid yw ceryddu beiau amlwg a drygfawr ar osteg. Canys medd yr Apostol, 1 Tim. 5. 20. Y rhai sy 'n pechu, sef, ar osteg a thrwy hynny yn rhoddi tramcwydd, cerydda yngwydd pawb, hynny yw, yngwydd holl gynnulleidfa yr Eglwys, Fel y byddo ofn ar y llaill.
2. Pechodau yn tueddu yn uniawn at ddianrhydedd Duw, rhaid yw eu ceryddu mewn Zêl a digofaint Sanctaidd. Fal hyn y ceryddodd Crist yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid yn fy∣nych.
Page 52
Ac fal hyn y darfu i Petr geryddu Simon Magus, Act. 8. 20.
5. Rhaid yw mewn mawr ddoethineb ystyried yr odfa a'r amser. Ceryddu meddwyn yn ei feddwdod sydd ffoledd; Abigail a wyddai hynny, ac am hynny nid yngenodd hi ddim wrth Nabal yn ei feddwdod, nes dyfod y boreu a myned ei feddwdod allan o hono. Felly chwaith nid yw addas geryddu dŷn am ei ffrmoder yn ei ffromder; dis∣gwyl yn hyttrach am amser cyfaddas, sef pan elo anwy∣dau dŷn ai ffromder heibio.
6. Rhaid hefyd yw ystyried cyfleusder y lle. Oddieithr ei fod am farn ddyledus a chyfiawn, na bydded iddo fôd mewn Cymanfeydd cyffredin, ynghyntedd yr heolydd a'r cyffelyb. Eithr os ar y ffordd y deli di ar bechod dŷn, yr hwn nis gwyddost pa un a whei ai cael byth ei we∣led ef, ai peidio, yna mor ddirgel ag y gellych, ti a elli ei geryddu ef yn addfwyn. Fal hyn yr egluri di dy Zêl dros ogoniant Duw, dy gasineb ir pechod, a'th ofal am Iechydwriaeth dy frawd.
PEN. XIV. Hyfforddiadau ir Goludog.
MEgis ac y medrai'r Apostol Paul, Ymostwng, ac ymhe∣laethu; bod yn llawn, a bod yn newynog, Phil. 4. 12. Hynny ydyw, efe a ddysgasei yn yscol Grist, pa fodd i ymddwyn yn debyg i Gristion mewn cyflwr cyfoethog, ac mewn cyflwr tlawd. Felly fe fydd yn rhan o ddoethi∣neb enwedigol ynom ni, fod yn medru ymddwyn fel Cristianogion drwy bob math ar gyflwr, a gwybod pa fodd i drefnu pob ystâd. O ran eich cymmorth yn well yn hyn, mi a roddaf i chwi rai hyfforddiadau.
1. Pa fôdd i ymddwyn yn debyg i Gristianogion mewn cyflwr cyfoethog a llawnder.
2. Pa fôdd i ymddwyn yn debyg i Gristianogion mewn cyflwr tlawd a gwael. Am y cyntaf,
I. Edrych i fynu at Dduw, a meddwl yn fynych am dano ef megis awdwr a rhoddwr yr holl bethau daionus yr wyt ti
Page 53
yn eu mwynhau. Darfyddo i ti gael golud, na ddywaid, Hyn a gefais i drwy fy noethineb a'm callineb fy bun: Ca∣nys pa nifer o ddynion a chanddynt gymmaint dealldw∣riaeth a doethineb ac sydd gennit titheu, nid oes gan∣ddynt ddegwm dy ystâd ath gyfoeth di? Na ddywaid chwaith, Hyn a gefais i drwy fy mhoen a'm llafur a'm hegni fy hunan; Canys pa nifer o ddynion a fuont mor ddiwyd a thitheu, ac etto ni chowsant hwy cymmaint o ffynniant ac a gefaist di? Ac am hynny dywaid gydâ Jôb, Hyn a roddodd yr Arglwydd, Job 1. 21.
II. Bendithia Dduw am yr hyn sydd gennit: Medd yr Apostol, Ym mhob dim diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yn Ghrist Jesu tu ac attoch chwi, 1 Thes. 5. 18. Hynny yw, hyn yw'r peth a arwyddocáodd yr Arglwydd drwy ei fab Jesu Ghrist i fod yn ewyllys iddo, ac mewn rhyw fôdd yr hyn oll y mae ef yn ei ofyn gennym ni am yr holl drugareddau a dder∣byniwn ni oddiwrtho ef. Ac am hynny fel yr wyt ti yn derbyn dim trugaredd a bendith oddiwrth Dduw, na phalla o roddi iddo y moliant ar gogoniant am hynny.
III. Cais ganfod cariad enwedigol Duw tu ac▪ attat ti mewn trugareddau cyffredinol. Canys pa ddaioni a wnaiff mwyni∣ant a gaffech di o ddim i ti, oni fedri ganfod trugaredd Dduw tu agattat, yn gystal ai helaethrwydd, yn y peth?
Cwest. Pa fodd y gallaf wybod fod y trugareddau hynny o∣ddiallan yr wyfi yn eu mwynhau wedi eu cyfrannu i mi mewn cariad a ffafor?
Att. 1. Os ydynt yn ennyn dy galon â chariad i Dduw, gan beri i ti ei garu ef yn fwy, o herwydd iddo fôd mor haelionus tu ag attat. Canys Rheol siccr yw hwn, Beth bynnag a baro gariad, oddtwrth gariad y mae yn dyfod. Hola gan hynny a ddarfu ir pethau da ymma oddiallan yr wyt ti mor helaeth yn eu mwynhau, weithio dy ga∣lon di i wîr gariad i Dduw; canys os felly y bu, yna y gelli dy siccrhau dy hun ddarfod eu cyfrannu hwynt i ti mewn cariad; a thi a elli edrych arnynt megis arwy∣ddion o gariad a ffafor enwedigol Duw.
2. Os cei di ynot dy hun ewyllysgarwch i anrbydeddu Duw yn arfer y pethau daionus hynny a dderbyniaist di oddiwrtho, drwy roddi allan gyfran o honynt tu ag at gynnal addo∣llad
Page 54
Duw, neu tuagat gynnorthwyo tlodion Duw, yna mae gennyt siccrwydd cyssurlawn ddarfod eu cyfrannu hwynt i ti mewn cariad.
3. Os oes gofid ar dy galon na ddarfu i ti atteb i dirion∣deb yr Arglwydd tu ag attat; fôd dy ymarweddiad di mor anghyfattebol iw rasol ragluniaethau ef tu ag attat; nad ydwyt ti mewn mesur yn y bŷd yn byw yn addas iw ha∣elioni ef tu ag attat. Hyn sydd arwydd eglur, fod yr hyn a dderbyniaist di gan Dduw, wedi ei gyfrannu i ti mewn cariad, ac y gelli di edrych arno megis arwydd oi gariad ai ffasor enwedigol ef.
IV. Gwilia rhag cael dy chwythu i fynu gan falchder, a chais fod yn ostyngedig dan helaethdra; bod yn issel yn dy feddy∣liau dy hun, pan wyt ti yn uchel yn y bŷd; yr hyn yn ddiau a fydd dy ogoniant; canys harddwisg yw gostyn∣geiddrwydd, fel y mae 'r Apostol Petr yn arwyddocau dan yr ymadrodd hwnnw, 1 Pet. 5. 5. Ymdrwsiwch â gostyng∣eiddrwydd, megis â harddwisg. Llaweroedd a dybiant mai darostyngiad yw gostyngeiddrwydd, ond yspryd Duw sy yn ei gyfrif yn harddwch. Am hynny medd yr Apostol Jaco, Llawenyched▪ y cyfoethog yn ei ddarostyngiad, Jac. 1. 10. Hynny yw, Llawenyched yn ei ostyngeiddrwydd, o her∣wydd rhoddi o Dduw iddo ef galon isel a gostyngedig, er maint ei sawredd ai olud yn y bŷd, am fod ganddo feddwl isel, mewn cyflwr uchel; canys clôd gwŷr cyfoe∣thogion yw, pan wnaeth Duw hwynt yn uchel yn y bŷd, eu bôd bwythau yn isel ac yn ostyngedig yn eu meddy∣liau eu hunain.
V. Llafuria am y gwir olud ysprydol, sef, iachusawl, San∣cteiddrym radau, fel y byddech di dy hun yn oludog, ac nid dy gift yn unig. A diau, fod gwŷr goludog, yn a∣nad pawb eraill, yn sefyll mewn mwy eisiau o radau san∣cteiddwaith; o achos bod eu golud yn faglau tramawr iddynt hwy, ac yn achosion o bechod, megis ac y mae siacced laes neu goat hîr mewn mwy pergyl o ddiblo, nag un gwtta. Oh gan hynny erfyn gan Dduw na rotho ef mo honot di heibio â phethau 'r byd hwn; eithr ar iddo ef ynghŷd âi fendithion oddiallan, roddi i ti ei sendithion oddi fewn, gwir, iachusawl, a sancteiddrym
Page 55
radau, yn enwedigol y grâs o dlodi ysprydol, yr hwn yw sylfaen gwynfyd; canys, medd ein Iachawdwr, Gwyn eu byd y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd, Mat. 5. 3. Ymadrodd godidog ydoedd hwnnw o'r eiddo Luther, pan anfonodd Tywysogion Germania iddo fawr anrhegion, Proffessu yr wyfi ar gyhoedd, medd ef, Na fynnai mo'm bodloni gan yr Arglwydd felly. Gwnâ ditheu yn yr un môdd, cymmer arnat yr unrhyw wrolfrŷd.
VI. Dymuna yn ddifrifol, a llafuria yn ddigellwair, drwy arfer pob moddion, am gael hawl yn Jesu Ghrist, yn yr hwn y mae golud a thrysorau yn rhagori holl olud a thryso∣rau'r byd. Efe yw'r trysor a guddiwyd yn y maes, ar perl gwerthfawr hwnnw, o ran yr hwn yr aeth y March∣nattwr doeth, ac a werthodd gymmaint oll ac a feddei, ac ai prynnodd, Mat. 13. 44, 46. Abraham, er bod ganddo helaethrwyd o bob pethau oddiallan, etto a lefodd a∣llan, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant. Felly ditheu, yn y mwyniant o'th he∣laethrwydd oddiallan, yn yr un môdd llefa allan, Ar∣glwydd, beth yw byn i gŷd? gan fy mod yn myned heb Grist.
VII. Cyfranna allan o'th ystôr tu ag at gyfreidiau eraill. Fel y mae rhoddi ir tlawd yn ddyledswydd sy yn sefyll ar bawb ar sy mewn gallu, felly yn enwedigol ar y rhai goludog. Am hynny y mae yr Apostol Paul yn ewyll∣yssio i Timotheus Orchymmyn ir rhai sy oludog yn y byd ymma, ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da. &c. 1 Tim. 6. 17, 18.
I'ch bywiogi chwi yn well ir Ddyledswydd hon, ysty∣riwch y ddau Reswm ymma.
1. Hwn yw diben enwedigol Duw yn rhoddi ychwaneg i rai nag i eraill, fel y byddei ir rhai sydd ganddynt fwy o helaethrwydd gyfrannu allan o hwnnw ir rhai sydd mewn eisiau. Hyn y mae Saint Paul (2 Cor. 8. 14, 15.) yn ei gasglu oddiwrth gyfranniad y Manna, (Exod. 16. 18.) Canys y rhai a gasclasant fwy nag oedd yn angenrhei∣diol iddynt eu hunain a'u teuluoed, a roesant o'u helae∣thrwydd ir rhai oedd heb ddigon.
2. Nid yw'r cyfoethogion Arglwyddi ar yr helaethrymydd a feddont, ond Goruchwylwŷr; Ac am hynny rhaid iddynt
Page 56
gyfrannu o hono yn ôl meddwl yr Arglwydd; a hynny yw, rhyw gyfran o hono ir tlodion, a rhaid iddynt ro∣ddi cyfrif am dano, Luc. 16. 2.
Ac am hynny o'r holl ddynion anrhugarog, y mae nhwy yn haeddu mwyaf gogan, y rhai sydd oludog, a chen∣ddynt ddigon iddynt eu hunain, ac i eraill hefyd, ond nid ydynt er hynny yn rhoddi cyfran yn y byd ir tlodi∣on. Y cyfryw un ydoedd y gŵr goludog hwnnw yn y ddam∣meg, am yr hwn y dywedir, Y gwiscid ef â phorphor, ac â lliain main, a'i fôd yn cymmeryd byd da yn helaethwych beu∣nydd; ac etto fe arwyddoceir, Na chyfrannodd ef i Lazarus druan mor briwsion a syrthiei oddi ar ei fwrdd. Bydded ir cyfryw wŷr goludog anrhugarog ddwys ystyried diwedd y gŵr goludog hwnnw, ac ymgynnhyrfu o hyn allan r ddalsulw yn dda ar ddyledswydd arbennig sy yn perthyn iddynt, yr hon yw, bôd yn rhwydd ac yn barod, yn hael ac yn syberlan yn cyfrannu i gyfreidiau 'r tlodion. Nid yw 'n ddigon i gyfoethogion wneuthur daioni, oddi∣eithr iddynt ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da; Megis mai eich Golud chwi yw Hâd Duw i chwi, felly eich gweith∣redoedd da ydynt eich hâd chwithau a haywyd i Dduw: megis ac y dylaech chwi ddwyn allan gnŵd cyfattebol i Hâd Duw, felly y dyru Duw i chwithau gnŵd cyfatte∣bol i'ch hâd chwi; yn yr achos ymma y: dywaid yr A∣postol, Yr hwn sydd yn hau yn holaeth a fêd yn helaeth 2 Cor. 9. 6. Er nad yw Duw yn gobrwyo neb drwy ffordd o haeddiant er mwyn eu gweithredoedd; er hynny efe a dâi i bob ûn yn ôl ei weithredoedd, Rhuf. 2. 6. Yn gymmaint ac na bŷdd dim colled i wŷr cyfoethogion drwy ymgy∣foethogi mewn gweithredoedd da, ond yn hyttrach lla∣wer iawn fydd o ynnill drwy hynny. Mawr gamgym∣meriad bagad yw, ei bod hwy yn tybied mai colled y∣dyw yr hyn a roddant ir tlodion; lle mewn gwirionedd y môdd oreu yw hynny i beri angwanegiad iw cyfoeth hwynt, Dihar. 11. 24. Medd y gwr doeth, Rhyw un a was∣car ei dda, ac fe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. Ac eilwaith, Dihar. 19. 17. Y neb a gymmero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd: a'i rôdd a dâl efe iddo drachefn. Chwi
Page 57
a gewch ymma, fel y gallaf ei alw ef, Fil dan law Dduw ei hunan, ym mha un y mae efe yn cyfaddef, ei fod ef yn Ddyledwr i bob dŷn trugarog.
PEN. XV. Hyfforddiadau ir Tlodion.
AR ôl rhoddi Hyfforddiadau ir Goludog, mi a ddeuaf yn awr i roddi Hyfforddiadau ir Tlodion, y rhai sy yn sefyll mewn cymmaint o eisiau a'r rhai o'r blaen.
I. Gwnâ dy oreu ar fôd yn fodlon i'th ystâd, gan mai dyna y rhan a ordeiniodd Duw i ti; ac na rwgnach yn erbyn ei Ragluniaeth ef, o herwydd nad oes gennyt gerdod he∣laethach; yr hwn yw cyngor yr Apostol Paul, O bydd gen∣nym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny, 1. Tim. 6. 8.
Cwest. Ym mha beth y mae'r bodlonrwydd hwn yn sefyll?
Atteb. Yn dwyn eich meddyliau i lawr at eich ystâd a'ch cyflwr presennol. Mawr gamgymmeriad bagad yw, ei bod hwy yn tybied mai mewn helaethrwydd y mae y bodlonrwydd ymma yn sefyll, yn codi eu hystâd i fynu ir cyfryw bennod, gan feddwl y byddent hwy yno yn fodlon; lle-mewn gwirionedd y mae gwir fodlonrwydd yn hyttrach yn sefyll mewn cyhydedd, cyfattebwch a chy∣dweddwch rhwng ystâd gwr a'i feddwl, efe yw 'r gŵr bodlongar, yr hwn y mae ei feddwl a'i ddymuniad yn sefyll yn gydwedd â'i ystâd.
O ran perswadio y rhai Tlodion yn well ir ddyled∣swydd hon o fodlonrwydd, mi a osodaf ar lawr ychy∣dig o Ystyriaethau.
1. Fod y rhai sydd ganddynt ymborth a dillad digonol, yn mwynhau cymmaint ag y mae 'r dynion cyfoethoccaf ar sy ar y ddaiar: ar yr hyn y dywaid yr Apostol yn y lle a gry∣bwyllwyd am dano or blaen, O bydd gennym ymborth a di∣llad, ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6. 8. Er meddu o ddŷn fwy nâ mwy o dda 'r bŷd ymma, er hynny nid yw ef yn mwynhau ddim mwy o honynt nag y mae ei hun yn ei fwytta ac yn ei yfed, ac yn ei wisco, canys y cwbl
Page 58
dros ben hynny sydd yn myned i eraill, ac nid yw ddim iddo ef. Ac felly ni ddichon gwr goludog gael dim ych∣waneg o wir ddaioni oddiwrth ei fawr gyfoeth nag y mae ei weision yn ei gael; canys rhaid yw llenwi eu bo∣liau hwythau, a dilladu eu cefnau allan oi olud ef, yn gystal ar eiddo ei hun.
2. Fod ystâd pob dŷn wedi ei threfnu gan Dduw, yr hwn megis ac y mae ef yn Arglwydd goruchaf Nef a Daiar, ac y dichon wneuthur â ni fel y gwelo yn dda; felly y mae ef yn anfeidrol mewn doethineb, a thrwy hynny yn gwybod pa ystâd sydd oreu a chymmhwysaf i ni, a hynny yn well nag y gwyddom ni ein hunain; ie, ac y mae ef yn oludog o drugaredd a daioni, a thrwy hynny yn ewyllysgar ac yn barod i wneuthur yr hyn yn ei ddoe∣thineb y mae ef yn gwybod ei fod yn oreu ac yn gym∣hwysaf i ni. Yr hyn ped ystyrid yn ddifrifol, a fyddei yn fôdd enwedigol i weithio ein calonnau i ryw fesur o fodlonrwydd yn ein ystad a'n cyflwr gwaelaf.
3. Fod cyfoeth yn rwystr mawr yn y ffordd tua 'r nefoedd. Deliwch sulw ar ymadrodd ein Iachawdwr, Luc. 18. 24, 25. Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! Gan arwyddocau fod cyfoeth yn rwystr mawr i iechydwriaeth dynion. Onid ydyw gan hynny yn drugaredd oddiwrth Dduw i ti, ei fod ef yn gwneuthur dy ffordd a'th fynediad di yn rhwyddach, ac yn llai pe∣ryglus tua 'r nef, nâ ffordd dy gymydogion goludog? yn ddilys pan fyddych ar farw, ni bydd gennit ond y∣chydig achos i achŵyn am dy ddiffyg o gyfoeth ac amlder.
II. Gwnâ dy oreu ar fôd yn gyfoethog mewn grâs; ie po ••lottaf wyt ti o ran dy bwrs, cais fod o hynny yn gy∣foethoccach mewn gras, ac yna ni bydd dy dlodi bydol yn ddim rhwystr i'th ysprydol oruchafiaeth, ond yn hwy∣lusder neu gynnorthwy, yn gymmaint ai fod yn dy roddi di mewn gwell cyflwr; gan weled mai Tlodion y byd hwn, yw y rhai y mae'r Arglwydd yn arferol oi gwneuthur yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion o'i deyrnas, Jac. 2. 5. A mynych y darllennwn, mai'r Tlodion a dderbyniasant yr Efengyl, nid yn unic y tlodion yn yr yspryd, ond y tlo∣dion
Page 59
hefyd mewn pwrs. Ac am hynny er bod dy gyflwr oddiallan yn dlawd ac yn wael, etto gwybŷdd dy fôd mor gymmwys i dderbyn grâs ymma, a gogoniant hefyd ar ôl hyn, ag yw neb arall pwy bynnag. Ymgynhyrfa gan hynny drwy weddi wresog, dyfal ddarllen, a mynych wrando y Gair, i gynnyddu mewn grâs, ie i gynnyddu yn gyfoethog mewn grâs, fel y gallech er dy fod yn dlawd ymma, fôd yn etifedd y Nefoedd er hynny, a phan fyddech farw, y derbynnier di gydâ Lazarus i fynwes Abraham.
III. Yn dy ddiffygion a'th anghennion mwyaf, gwnâ dy oreu ar fyw drwy ffydd yn Rhagluniaeth Duw, gan bwyso yn hy∣derus arno ef am gysurlawn ddiwallrwydd o bôb pe∣thau da amserol angenrheidiol. O ran dy annogaeth i hyn dal sulw ar yr addewid grasol hwnnw, Psal. 34. 10. Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuaingc. ond y sawl a gei∣siant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni: Nid yw yn dywedyd, hwy a gânt helaethrwydd, ond ni bydd ar∣nynt eisieu dim ar sy yn dda iddynt; ac am hynny eb ein Achubwr, Mat. 6. 25, 26. Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; nac am eich cyrph, pa beth a wiscoch; onid yw'r bywyd yn fwy nâ'r bwyd, a'r corph yn fwy na'r dillad? Edrychwch ar adar y Nefoedd; oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i yfcuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwy: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? Ymma y mae'n Hachubwr drwy amryw Resymmau yn ceisio cynghori ei ddiscyblion, i ymgadw rhag meddyliau a gofalon anobeithiol ynghylch eu hymborth a'u dillad, a'u perswadio i fyw drwy ffydd yn Rhagluniaeth Duw am yr unrhyw.
1. Y Rheswm cyntaf a dynnir oddiwrth y peth sydd fwy at y peth sydd lai fal hyn: Rhoddodd Duw i chwi y peth sydd fwy, am hynny efe a ddyru i chwi yr hyn sydd lai: efe a roddodd i chwi fywyd, am hynny ni neccâ ef chwi o Ymborth; efe a roddodd i chwi Gorph, am hynny ni attal ef ddillad rhagoch. Y rheswm ymma y mae ein Achubwr yn ei adrodd yn y geiriau hyn, Onid yw'r bywyd yn fwy n'ar bwyd? a'r corph yn fwy nâ'r dillad? Gan arwyddocau, y bydd i Dduw, yr hwn a roddes i
Page 60
chwi fywyd a chorph, yn ddiammeu ddarparu ymborth a dillad iddynt, y rhai ydynt lai. Efe a roddodd i chwi eich hanfod neu eich sylwedd, am hynny ni ettyl ef oddi wrthych ddim o'r angenrheidiau a berthynant iddo
2. Yr ail Rheswm a dynnir oddiwrth yr hyn sydd lai at ei fwy; ac fe ellir ei osod ar lawr fel hyn: Yr hwn fydd yn rhag ddarparu dros yr Adar, a ragddarpara yn fwy o lawer dros ddynion; Eithr y mae Duw yn rhag∣ddarparu dros Adar y Nefoedd, am hynny efe a rag∣ddarpara dros ddynion yn fwy o lawer; yr hwn reswm yn hyn o fan a helaethir ac a gadarnheir drwy ddau o ymresymiadau.
1. Y cyntaf oddiwrth y modd y canhiateir i ddynion gael eu hymoorth, yr hwa y mae Adar y nefoedd hebddo; canys yn gymmaint a bôd dynion yn Aredig, yn Hau, yn Medi, ac yn Cywain eu hŷd i Yscuboriau, ac felly ganddynt fodd iw cynnal eu hunain nad oes gan Adar y Nefoedd, Ob∣legid nid ydynt hwy yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i yscyboriau; sef, nid oes ganddynt, ac nid ydynt yn arfer y moddion o ragddarparwch ac y mae dynion, ac er hynny nid ydynt heb ddarparu iddynt ymborth cymmwys digonol, am fod Duw yn eu porthi hwy; Pa ham ynteu y bydd i ddynion, sydd ganddynt y cyfryw foddion o ragddarparwch, anhyderu ar Ragluniaeth Dduw? ac ar hynny eu blino a'u cythryblu eu hunain â gofalon am ymborth, pa beth a fwyttaont, a pha beth a yfont, gan fod Duw yn darparu dros Adar y Nefoedd, y rhai nid oes ganddynt ddim moddion cyffredinol o ddarparwch?
2. Oddiwrth odidowgrwydd dŷn rhagor aderyn, adrodde∣dig yn y geiriau ymma, Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? gan arwyddocau, fod dynion yn rhagori lla∣wer ar Adar y Nefoedd; ac am hynny, gan fod Duw yn rhagddarparu dros Adar y Nefoedd, mwy o lawer y rhagddarpara ef dros ddynion, yn enwedigol dros ei blant ei hun; canys pwy yw 'r hwn a bortha ei Weilch neu Hebogiaid, ai Fytheiaid, ac a oddef iw blant newy∣nu o ddiffyg digonedd o ymborth? ac am hynny mae i chwi achos da ym mhob cyfyngderau ac anghennion i fyw drwy ffydd yn rhagluniaeth Duw.
Page 61
PEN. XVI. Am ymddygiad Cristianogaidd tan Wradwyddiadau.
I. GWiliwch [neu gochelwch] ddatcuddio dim Annhymmer na Gwŷn neu boethder tan eich Gwradwyddiadau. Nid wyfi yn gwadu na ellwch chwi, ac na ddylaech fod yn deimladwy o'r cam a wneir â'ch enw chwi, canys megis ag y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, Preg. 7. 1. Felly cael enw drwg sydd farnedigaeth fawr; ac am hynny ni ddylaech chwi mor bod yn annheimladwy o'r cam a wneir i'ch enw drwy enllibion a gwradwyddiadau, gan ddywedyd, Siariaded dynion am danaf y peth a welont yn dda, nid oes fatter gennif, cyhyd ac yr adwaenwyf fy ni∣niweidrwydd fy hun; canys er bod tystiolaeth och dini∣weidrwydd eich hunain yn sail o diddanwch i chwi; etto rhaid i'ch gofal fôd nid yn unic ar eich gosod eich hu∣nain yn brofedig gan Dduw, eithr gan ddynion hefyd; ar fôd mor ofalus am eich enwau da ac y bo 'n bossibl i chwi allu; ond etto ni ddylaech chwi ddatcuddio dim annhymmerwch neu wynniau ar ymadroddion gwradwy∣ddus gan eraill i'ch erbyn. Canys,
1. Hynny a rydd achos gyfiawn i eraill i farnu, eich bod chwi yn wir euog o'r petnau hynny y ceblir chwi am danynt.
2. Eich anhymmerwch a'ch ffromder a aflonydda eich ysprydoedd yn fawr iawn, ac a'ch anghymhwysa i gy∣flawni un ddyledswydd dda yn yr iawn fodd.
II. Gochelwch dalu yn ôl ammarch am ammarch, neu sen am snn, yr hyn sydd anweddus iawn i Gristion, ac yn∣teu yn hynny mor annhebyg i Grist, Yr hwn, fal y lle∣fara yr Apostol Petr, Pan ddifenwyd ni ddifenwodd dra∣chefn, 1 Pet. 2. 23.
III. Na chymmerwch arnoch fod yn dal ond ychydig neu ddim ar y gwradwyddiadau a deflir arnoch. Solomon a ddywaid, Dih 19 11 Harddwch dŷn yw iddo fyned tros gamwedd, hyn∣ny
Page 62
yw, bod heb gymmeryd arno wybod dim oddiwrtho. Ac yn ddiau y fâth oreu ar ymddial yw efe, ar a alloch chwi ei gymmeryd ar eich gwarthruddwŷr; canys ni ddichon bod dim mwy blinder i'ch enllibus warthruddiwr, na'ch gwe∣led chwi heb gennych ond ychydig neu ddim matter am ei wradwyddiadau ef i'ch erbyn: a phwy bynnag a wne∣lo brawf o'r peth a gaiff weled y blina ef fwy ar ei Wrthwynebwr drwy ei ddistawrwydd, nâ phe rhoddai iddo herr am herr.
IV. Pan goder drygair am danoch, na fyddwch cymmaint yn ymofyngar pwy a'i cododd, ac y byddoch yn ofalus i wneuthur defnydd da a sancteiddiedic o hono. Ir diben ymma gwyby∣ddwch, ac ystyriwch, fod y drygair a godwyd am da∣noch naill ai yu wîr ai yn anwir: os gwîr, yna chwi a ellwch ganfod Bŷs Duw ar flaen tafodau eich gelynion, yn pwyntio at ei'ch pechodau chwi, ac yn eich galw i ymostwng am danynt. Eithr os anwir yw 'r gair a god∣wyd am danoch, etto chwi a ellwch wrando arno megis galwad oddiwrth Dduw, i edrych yn fanylach arnoch eich hunain, rhag eich goddiwes a'r pechod hwnnw, am yr hwn ar yr amser presennol yr ydys ar gam yn ach∣wyn arnoch: canys Duw ac ynteu yn gwybod eich tym∣mer a'ch tueddiad, sy yn canfod ysgatfydd eich bod yn dueddol atto ef, ac am hynny mae ef yn goddef i eraill haeru hynny arnoch, er ei fôd yn anwir, yn unic o ran ei ragflaenu, fel na'ch goddiwedder ganddo: ac fal hyn y gellwch wneuthur defnydd da or achwynion ffalsaf a chwerwaf a ddyru eich gwrthwynebwŷr yn eich er∣byn.
V. Gwnewch eich goreu ar rodio yngwrthwyneb ir hyn a roddir i'ch erbyn, er bod hynny yn anwir. Megis o ran ec∣sampl, Os rhoddir Rhagrith i'ch erbyn, nad ydych chwi odim gwell na Rhagrithwŷr: ymgeisiwch am fwy o bur∣deb, ac ymrowch i gwplau y cwbl a wneloch yn fwy o ran parch i Dduw, nag i ddynion: os rhoddir Balchder i'ch erbyn, ymddygwch yn fwy gostyngedig ac isel, fel yr ymddangoso eich gostyngeiddrwydd i bawb, ac felly y gyrro eich ymarweddiad chwi eich gelynion yn eu celwydd.
Page 63
VI. Ewch a lledwch eich gwradwyddiadau ger bron Duw mewn Gweddi, megis ac y lledodd Hezeciah y llythyr o gabledd Rabsaceh, ac hyspyswch eich matter iddo ef, gan ddeisyf cymmorth a chadernyd oddiwrtho ef, iw dwyn hwynt yn gristianogaidd, ac yna ni bydd rhaid i chwi ammau na chewch chwi ei rasol ddiddanwch ai gynn∣horthwy ef i'ch cynnal.
PEN. XVII. Am ein bymddygiad dan Goliedion, Croesau, a Chystu∣ddiau.
YN gymmaint a bôd pob-dŷn oll cyhyd ac y bônt byw ymma yn y byd hwn, yn hyrwym i amryw Go∣lledion, Croesau, a Chystuddiau; am hynny anghenrhaid yw i mi roddi i chwi rai hysforddiadau pa fodd y mae i chwi ymddwyn yn yr achosion hynny, ar hyfforddiadau yw y rhai hyn.
I. Pan drino Duw chwi â dim colledion, Gwrthwyne∣bion, neu gystuddiau, gwnewch eich goreu ar eu dwyn hwynt yn Gristianogawl: ir diben hwnnw deliwch sulw ar y Rheolau hyn,
1. Dygwch hwynt yn deimladwy: mae 'r Arglwydd yn disgwil i ni fôd yn deimladwy o bwys ein cystuddiau, ni fynnai ef i ni mor bod megis Stoicciaid, neu Gyssion, y rhai ni chlywant oddiwrth ei wialennodiau ef, ond me∣gis plant y mynnai ef i ni fod yn deimladwy o farwin∣dod neu dostedd y wialen. Dyma fal yr oedd Job, Pen. 1. 20.
Mae dau Ormodedd y rhai yr ydym ni yn barod iawn i redeg iddynt yn amseroedd cystuddiau, y naill yw Dirmygu cystuddiau, y llall yw Ymollwng danynt, y ddau ymma a grybwyllir wrthym gan yr Awdur at yr Hebrae∣aid, Heb. 12. 5. Fy mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan ith argyoedder ganddo: Dyma 'r ddau or∣modedd sydd i ni iw gochelyd yn ofalus ar amseroedd cystuddiau.
Page 64
1. Gochelwn ddirmygu neu ddiystyru cerydd yr Arglw∣ydd, drwy ddywedyd, os myn Duw gymmeryd fy ngolud, cymmered ef: os myn ef gymmeryd fy Ngwr, neu fy Ng∣wraig, neu fy Mhlentyn, cymmered hwynt: hyn sydd ddir∣mygiad ar gerydd yr Arglwydd, ie gofalu ychydig am dano, yr hyn sy yn anfodloni Duw yn fawr.
2. Gochelwn ymollwng dan ein colledion, gwrthwynebi∣on, a chystuddiau: megis pan fo marw Plant, yna marw hefyd o yspryd tâd neu fam: neu pan fo marw Gŵr, yna marw o yspryd y Wraig hefyd: hyn sydd yn ymollyn∣giad tan faich ein cystuddiau, megis pe baent yn anfad o bwys na ellid moi oddef.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau yn Gristi∣anogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, yn ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu yn ebrwydd a osododd ei law ar ei e∣nau, fel yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnae∣thost hyn, Psal. 39. 9.
Y goddefgar ddistaw ddygiad ymma ar gystuddiau a osodir yn wrthwyneb i ddau beth. 1. I rwgnach oddi∣fewn o ran Rhagluniaethau Duw tu ac attom. 2. I a∣chwyn a murmur oddiallan yn eu herbyn hwynt, y rhai 'n ill dau sydd raid eu gochelyd yn ofalus.
1. Rhaid i chwi ochelyd yn ofalus rhag grwgnach oddi∣fewn yn erbyn trefniadau Rhagluniaeth Duw tu ag attoch, pa dymmestloedd bynnag sydd o'r tu allan i chwi, ie ac yn chwythu arnoch, etto eich calonnau chwi oddifewn a ddylent fôd yn dawel ac yn llonydd. Beth er bôd ym∣driniaeth yr Arglwydd â chwi yn dôst iawn? etto ni ddylech chwi mor grwgnach wrth hynny, ond ymostwng iddo yn llonyddaidd ac yn ddistaw, gan gydnabod âg u∣niondeb Duw yn ei ymddygiad tu ac attoch, fal megis ac y mae ef yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd, felly yn neill∣tuol tu ag attoch chwi; ac am hynny chwi ddylech ddy∣wedyd gŷd â hên Eli, 1 Sam. 3. 18. Yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg; a chyd â'n bendigedig Achubwr, Luc. 22. 42. O dâd, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. Ac os chwychwi a ddygwch eich cystuddi∣au
Page 65
fel hyn yn llonydd, chwi a'u dygwch hwynt yn llawer esmwythach am yr amser presennol, ac a'u cewch hwynt yn fwy buddiol yn y diwedd.
2. Fel y mae'n rhaid i chwi ymochel yn ofalus rhag grwgnach oddifewn, felly hefyd rhag cwynfan a murmur oddi allan tan dôst driniad Rhagluniaeth Dduw. Megis na ddy∣lech chwi dybied yn galed am Dduw, fel pe bai ef yn eich cospi uwchlaw eich haeddiant, neu yn fwy nag y gellwch ei ddwyn, felly ni ddylech chwi chwaith mor adrodd geiriau anfodlongar yn erbyn ymdriniaeth yr Ar∣glwydd â chwi; canys er bod yn rhydd i Gristion alaru tan Ragluniaethau trymion, er hynny ni ddylai ef duchan yn eu herbyn; er gallu o hono ef riddfan, etto ni eill ef mor grwgnach; ond dwyn yn llonydd bob colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau, yngwrthwyneb i bob grwg∣nach oddifewn a murmur oddiallan.
3. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau yn Gristi∣anogaidd, rhaid i chwi eu dwyn hwynt yn ewyllysgar ac yn llawen. Ich cymmorth yn hyn, cymmerwch yr ychydig ystyriaethau ymma.
1. Nad oes dim cystuddiau yn digwydd i nêb heb ddoeth Ragluniaeth Duw yn ei trefnu, megis ag y mae Eliphaz yn arwyddocau, Job 5. 6. Na ddaw cystudd allan o'r prîd, ac na flagura gofid allan or ddatar; Y gwirionedd yw, nad oes un Warant yn dyfod i Ddal dy Gorph di â Gofid neu Ddolur, nad yw hi yn dyfod tan Law; a Sêl dy Dâd ne∣fol; nid oes yr un Habeas Corpus neu writt yn dyfod i gymmeryd ymmaith dy Gymmar, dy Blentyn, neu dy Gyfaill, nad yw wedi ei selio gan dy Dâd nefol. Yr ysty∣riaeth ymma a fu yn sail o gyssur i bobl Dduw yn eu holl gystuddiau, Yr Arglwydd, medd Job, a roddodd, yr Arglwydd a ddygodd ymmaith: bendigedig fyddo enw'r Ar∣glwydd, Job 1. 21. A rhaid yw i hyn fôd yn sail o gy∣ssur, ie ac o lawenydd i holl bobl Dduw, yn enwedig os ystyriwch chwi yn y man nessaf,
2. Mai y diben y mae Duw yn ei fwriadu yn eich cystu∣ddiau chwi, yw gwneuthur i chwi ddaioni, ie rhyw ddaioni enwedigol, na ellid moi wneuthur cystal ffordd arall yn y bŷd: Mae'r Arglwydd yn ein ceryddu er llesâd i ni, Medd yr A∣postol,
Page 66
Heb. 12. 10. Pob Croes a ddwg gydâ hi ryw fen∣dith neu ei gilydd, oni bŷdd y bai arnom ni; ie y groes fwyaf a ddwg y fendith fwyaf.
3. Fel y mae. Duw yn bwriadu ein daioni ni drwy hynny, felly darfyddo iddo weithio yr hyn a fwriadodd Duw drwyddo ef, efe a symmud eich cystudd yn fuan oddi wrthych: Oblegid nad ydyw'r Arglwydd yn cymmeryd hyfrydwch na hoffder yn eich gofidiau a'ch dioddefiadau, ond y mae 'n hoff ganddo drugaredd, Mic. 7. 18. Ac am hynny ni odde∣fiff ef, ac ni all mor goddef iw law yn cystuddio orphy∣wys arnoch chwi ddim hwy, nag yn ei ddoethineb y gwelo ef yn angenrheidiol ac yn anhepcor, o ran dwyn i ben y daioni hwnnw y mae ef yn ei fwriadu drwy hynny; ac am hynny os yw eich cystuddiau yn ymddan∣gos yn hir i chwi, gwybyddwch, nad ydynt ddim hwy nac y mae yn rhaid, ac na weithiwyd mor daioni hwn∣nw, o ran yr hwn yr anfonodd Dnw hwynt.
4. Gwnaiff Duw naill ai cymmhwyso eich cystuddiau at fe∣sur eich nerth, neu eich nerth at fesur eich cystudd, heb o∣sod ychwaneg arnoch nag y rhoddo ef i chwi allu iw ddwyn, yn ôl a lefarodd yr Apostol, Fsyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temptio uwchlaw yr hyn a alloch, 1 Cor. 10. 13.
IV. Os mynnech ddioddef cystuddiau yn Gristiano∣gaidd, rhaid i chwi eu dwyn hwynt yn ffrwythlonaidd, drwy roddi cais ar wneuthur defnydd ac arfer sanctei∣ddiedic o honynt, wrth yr hyn y deuant i fôd yn fendi∣thion cyssurlawn i chwi; canys bendith fawr yw cystudd sancteiddiedic; am hynny medd y Psalmydd, Gwyn ei fŷd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysci yn dy gy∣fraith, Psal. 94. 12.
Cwest. Pa helynt a gymmeraf i gael fy nghystuddiau wedi ei Sancteiddio i mi felly, fel y gallwyf ddywedyd gydâ Dafydd, Da yw i mi fy nghystuddio? Psal. 119. 71.
Atteb. I. Ym mhob, Cystudd dal sulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn: canys er bod yr Arglwydd weithiau yn cystuddio ei blant o ran profi ei Rhadau au gosod ar waith, yn hytrach nag o ran dim digllonedd a feddyliodd ef iw herbyn, megis ac yr oedd yn achos Job; etto vn gynne∣finol nid yw ef yn taro nes ei gyffroi drwy ein Pechodau
Page 67
ni; ac am hynny fe fydd yn ddoethineb i ti ym mhob cystudd ddalsulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn.
II. Chwilia dy galon dy hun, a dyro gais ar gael allan yr achos o ddiglionedd Duw i'th erbyn; canys nid am ei ham y mae Duw yn dy gystuddio di, rhyw beth neu ei gilydd sydd ar fai ynot, yr hyn a fynnai Dduw ei wellhau ai ddiwygio; ac wrth ystyried nad yw yr Arglwydd yn u∣nic yn gyffredinol yn ein ceryddu ni am bechod, eithr yn ymweled â'n pechodau enwedigol ni â Barnedigae∣thau ac â Chystuddiau enwedigol; pa bryd bynnag gan hynny y mae Duw yn ymweled â thi â Chlefyd, neu yn dy gynnefino â chystudd, gwybŷdd mai dy ddyledswydd yw manwl chwilio a dyfal ymofyn âth galon dy hun am y Pechod, neu'r Pechodau enwedigol, y mae Duw ai er∣gyd attynt ynddynt, i geisio gafael ar blâ dy galon dy hun. Fel hyn y gwnaeth pobl Dduw tan eu gorthrwm gystudd, ie hwy a gŷdymalwasant ar eu gilydd i ymar∣fer ar ddyledswydd hon; Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, ebe hwynt, Galarn. 3. 40. Canys megis na ellir iachau clefyd yn iawn nes cael allan a datcuddio ei achos ef yn gyntaf: felly ni eill un cystudd chwaith mor cael ei san∣cteiddio ai symmud ymmaith, nes caffael a datcuddio mewn rhyw fesur yr hyn a fu achos o hono.
Er mwyn datcuddio yn well y Pechod neu'r Pecho∣dau nailltuol y mae Duw ai ergyd attynt yn dy gystu∣ddiau di, cymmer yr ychydig Reolau a'r Hyfforddiadau hyn.
1. Pan ymwelo Duw â thi, neu â nêb oth anwyl ber∣thynasau drwy Glefyd, neu pan i'th drino a dim Cystudd, neu pan nad yw ond ysgwyd ei Wialen uwch dy ben, cais dy osod dy hun megis yn ei wydd a'i bresennoldeb ef, ac yno hola dy Enaid ath Gydwybod yn llwyrgwbl, bwrw olwg yn fanwl, a chwilia i bob congl o honynt i geisio gafael ar y Pechod nailltuol y mae Duw ai ergyd atto.
2. Dal sulw pa bechod y mae dy Gydwybod gyntaf yn ei ddwyn i'th goffadwriaeth: canys Rhaglaw Duw yw dy Gydwybod di, i'th argyoeddi, a mynegi i ti, ddarfod i ti drwy fyw yn yr ymarfer o'r fath a'r fâth a'r Bechod, neu drwy esceuluso y cyfryw Ddyledswydd, yn gyfiawn ddwyn arnat dy hunan y cyfryw farnedigaeth; fel y gelli
Page 68
di weled ym Mrodyr Joseph, y rhai o herwydd eu creu∣londer tu ag at eu brawd, a'u barnasant eu hunain yn deil∣wng o'r holl drueni a oddefasant; canys eu cydwybodau mae 'n debygol a'u ceryddasant hwy am hynny yn bennaf yn eu cyfyngder, ac oblegid hynny yr oedd ganddynt achos da i ammeu mai dyna 'r achos o'u cyfyngder presennol hwynt; dan bob Croes a Chystudd gan hynny gwrando ar lais Cydwybod, yr hon a chweru â thi yn ddidue∣ddol.
3. Dal sulw yn enwedigol ar rywogaeth dy gystudd: canys modd cynnefinol gyd â Duw yw cospi Pechod yn ôl ei ryw, drwy dalu 'r pwyth, gan gadw cyfattebwch, cymmhesurwydd, a chyffelybrwydd rhwng y mâth ar Be∣chod, ar fâth ar gospedigaeth y mae ef yn ei rhoddi arnom, ac felly y mae ef yn ein harwain ni megis er∣byn ein llaw, fel y delom iw gael ac iw deimlo drwy gyfarwyddyd ai hyfforddiad ef, canys mynych iawn y mae cospedigaeth dynion yn dwyn arni ddelw ac argraph ei pechod hwynt. Fel hyn y mae Duw yn fynych yn cospi Medd∣won â Dropsi, a Chybyddion â Lladron, y rhai sy yn eu hyspeilio hwy megis ac yr yspeiliasant hwythau eraill. Fal hyn y mae yn fynych yn cospi ein gwaith ni yn ha∣logi ei Sabbathau ef, drwy roddi arnom ni ryw farne∣digaeth ar y dydd hwnnw; a'n diofal esceuluso ar Ddy∣ledswyddau teuluaidd, drwy ddwyn ymaith rai o'n teulu. Fal hyn yn fynych y mae cyfattebwch rhwng Arferion dynion, â Chospedigaethau Duw, drwy gyffelybu pa rai y gallwn ni yn fynych o weithiau ddyfod i gael gafael ar y Pechod neu 'r Pechodau neilltuol, am ba rai y mae Duw yn ein cystuddio ni.
4. Pan yw llaw Duw arnat yn dy gystuddio, ystyria am ba Bechod yn enwedigol yr argyoeddwyd di yn fy∣nych, naill ai drwy gynnhyrfiadau Yspryd Duw, neu drwy rybuddion ei Weinidogion ef, neu drwy geryddon dy Gy∣dwybod dy hun, ac er hynny a wrthodaist ddiwygio yr unrhyw; ar hynny ammeu mai 'r pethod hwnnw yn en∣wedigol yw 'r pechod y mae 'r Arglwydd âi lefel atto yn dy gystudd presennol di; canys arferol yw gŷdâ Duw fyned rhagddo o eiriau i ddyrnodiau, i beri i ni ddal sulw ar y peth yn fwy dyfal.
Page 69
5. Bydd daer ar Dduw mewn Gweddi, ar iddo ef dy helpu yn hyn o chwilio, ar iddo ef ddatcuddio ac hys∣pysu i ti y Pechod, neu 'r Pechodau at ba rai yn enwe∣digol y mae ei ergyd ef; fal hyn y gwnaeth Job, Pen. 10. 2. Gwna i mi wybod, medd ef, pa ham yr ymrysoni â mi; hynny yw, am ba Bechod neu Bechodau yr wyt ti yn fy nghystuddio i fal hyn. A chwedi hynny y mae ef yn llefain yn ei gystuddiau, Pâr imi wybod fy nghamwedd am pechod, Job 13. 23. Yn yr ûn ffunyd, ffo ditheu at Dduw mewn Gweddi yn dy gystudd, gan attolygu ar iddo ef wneuthur i ti wybod paham y mae ef felly yn ymry∣son â thi, ac yspysu i ti pa beth yw dy anwiredd ath bechod, a gyffrôdd ei ddigofaint ef yn dy erbyn.
III. Wedi cael gafael ar y Pechod neilltuol yr oedd Duw â'i lefel atto yn dy gystudd di, yna dôs a chyfaddef ef i Dduw mewn Gweddi, ynghŷd â'i orthrwm amgylchiadau; gan dy farnu ath gondemnio dy hun yn rhwydd ger bron Duw am dano, â chalon ddrylliog a chystuddiedig. Fel hyn y gwnaeth Dafydd, Psal. 32. 4, 5. Pan oedd llaw Duw yn drom arno ef, yna, medd ef, Yr addefais fy mhechod wrthit, a'm hanwiredd ni chuddiais, a thi a faddeuaist anwi∣redd fy mhechod. Ac ir sawl a gyfaddefant eu pechodau mae addewid o faddeuant wedi ei wneuthur, 1 Joan. 1. 9. At dy gyfaddefion chwanega ddifrifol a gwressog Weddi at Dduw am bardwn a maddeuant o'th bechodau, ac am ei gymmod ef yr hwn y gyffroaist ti drwyddynt, er mw∣yn a thrwy haeddedigaethau Jesu Grist, ac am gael dy dderbyn yn ddaionus, a chael dy garu yn rhâd ganddo, ac na bo iddo ymryson â thi dros fŷth.
IV. Ym mha beth bynnac wrth dy holi y cei di dy fôd dy hun yu feius, rhaid i ti wneuthur dy oreu ar wellhau a diwy∣gio; canys megis mai diben dy waith yn chwilio yw dat∣cuddio yr hyn sydd ar fai ynot; felly diben dy waith yn datcuddio yw gwellhau a diwygio yr hyn a fu ar fai y∣not. Ac yn ddiau heb hyn ni thâl i ti ond ychydig we∣ddio ar i Dduw symmud ymaith dy Gystudd, am fôd yr Arglwydd ei hun yn nodi mai parhâd mewn pechod yw'r achos pennaf o barhâd ei law ef ar ei bobl yn ei cy∣studdio hwynt, Esay 9. 12, 13.
Page 70
V. Er bod cystuddiau yn odfeydd enwedigol o ran elw ys∣prydol; etto gan nas gallant o honynt eu hunain weithio dim diioni ynot ti, heb gynnorthwy enwedigol Yfpryd Duw yn cŷd∣weithio gyd â hwynt; bydl daer ar Dduw mewn Gweddi am yr arfer ar defnydd sancteiddiedic o honynt; fal megis ac y mae ef yn dy gystuddio, felly ar iddo dy ddyscu a'th hyfforddi di drwy ei sanctaidd Yspryd, pa fôdd i wneu∣thur defnydd da o hynny, o ran elw ysprydol i'th enaid dy hun. Yn dy weddiau deisyf ar Dduw, nad elo yr un cystudd ymmaith heb ei sancteiddio; a gweddia yn fwy am eu sancteiddiad hwynt, nag am eu summudiad ymmaith.
VI. Yn amser dy gystudd adduneda ac addo i Dduw ufydd∣dod gwell am yr amser i ddyfod; y byddi di yn fwy gofa∣lus i ochelyd y pechodau hynny, am wneuthur pa rai, ac yn cyflawni y dyledswyddau hynny, am esceuluso pa rai y mae dy gydwybod yn dy geryddu di. Mae Dafydd yn sôn am Addunedau a wnaethai ef i Dduw yn nydd ei gystudd a'i gyfyngder, Psal. 66. 13, 14. a diau fôd yr addunedu ymma i Dduw am newydd-deb buchedd, ufudd-dod gwell, a mwy gwiliadwriaeth drosoch eich hunain am yr am∣ser i ddyfod, yn ddyledswydd angenrheidiol iw chyflaw∣ni gennym ni yn fynych, yn enwedigol yn amser ein Cle∣fyd, neu ddim cystudd, a hynny oblegid gwendid ein cnawd; canys pa wedd bynnac yn ein clefydon a'n cystuddiau y dichon fod cynnhyrfiadau, amcanion, a bwriadau da yn ein meddyliau ni, etto drwy wendid ein cnawd▪ yr ydym ni yn barod i encilio oddiwrthynt. Weithian y mae Adde∣wid ac Adduned yn foddion enwedigol i'n cadw ni rhag encilio oddiwrth ein cynhyrfiadau a'n bwriadau da.
VII. Bydd ofalus ar gyflowni yr Addunedau ar Addewidion a wnai di i Dduw yn nydd dy drallod a'th gyfyngder, canys crwy dy Adduned ith rwymaist dy hun i gyflawni, ac am hynny medd y gwr doeth, Preg. 5. 4, 5. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu, canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd; gan nodi mai ynfydrwydd mawr yn neb yw bôd yn brysur i wneuthur Addunedau i Dduw, ac yna ar ôl hynny bod yn ddiweddar yn cyflowni yr hyn a a∣ddunasant, o herwydd y cyfryw ddynion nid ydynt yn gwneuthur fawr lai na gwatwar Duw drwy hynny a thwyllo eu heneidiau eu hunain.
Page 71
PEN. XVIII. Y modd i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.
WEdi dangos i chwi pa fodd i rodio gydâ Duw ar hŷd y dydd: Yn awr y deuaf i ddangos i chwi pa fodd i ddiweddu 'r diwrnod, ac i orwedd i lawr gyd â Duw yn yr hwyr.
Yr Hyfforddiadau a ellir eu dwyn ir ddau Ben hyn. 1. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad yn yr hwyr cyn ein myned i'n gweláu. 2. Y cyfryw ac a berthy∣nant i'n hymddygiad wrth ein mynediad i'n gwely.
I. Yr Hyfforddiadau a berthynant i'n hymddygiad yn yr hwyr cyn ein myned i'n gwely, yw y rhai 'n.
1. Dôs o'r neilltu i ryw le dirgel ac yno edrych yn ôl, ac atgofia pa fôdd y treuliaist di y diwrnod; ystyria pa fodd y cyflawnaist di y dyledswyddau a grybwyllwyd am da∣nynt o'r blaen, ar a berthynent i amryw rannau 'r diwr∣nod; Ir diben hyn gosod y cwestiwnau ymma attat dy hun.
1. Pa fodd y deffroais i y boreu? A oedd fy meddy∣liau boreuol i ar y Bŷd, ac ar gyflowni fy nhrachwan∣tau? neu ynte ar Dduw, ac ar rai o'i ragoriaethau go∣goneddus ef?
2. A offrymmais i Dduw cyn gynted ac y cyfodais o'm gwely fy offrwm boreuol o weddi a diolchgarwch, yn gyntaf yn y dirgel, ac ar ôl hynny gydâ 'm Teulu?
3. Ym mha fodd y cyflawnwyd y dyledswyddau hyn? A gyflawnais i hwynt yn unic o ran defod a ffassiwn, neu ynte o gydwybod, mewn ufydd-dod i orchymyn Duw? A nesseais i at Dduw â'm calon, yn gystal ac â'm corph? A osodais i allan nerth fy serchiadau mewn Gweddi? neu a gyflawnwyd hynny yn oerllyd gydâ llawer o draws∣feddyliau a marweidd-dra calon?
4. A ddarllenais i ran o'r Scrythur lân y dydd heddyw, ai na ddo? A wneuthym i hynny yn ysgasn ac yn ddibris.
Page 72
neu gydâ gwŷlder a pharchedig ofn, megis yngŵydd presennoldeb Duw? Ac a fyfyriais i ar yr hyn a ddar∣llenais, fel y gallwn i gofio hynny yn well?
5. A fum i y dydd heddyw yn wiliadwrus ar fy me∣ddyliau; heb adel math yn y bŷd o feddyliau anllad, bydol, neu ofer, i letteua o fewn fy nghalon; eithr yn eu bwrw hwynt ymmaith gydâ ffieidd-dra, ac yn eu ta∣flu hwynt allan cyn gynted ac yr oeddent yn codi yno?
6. A fum i wiliadwrus ar fy ngeiriau, gan ymattal fy hunan oddiwrth bob math o eiriau aflan, ac ymadroddi∣on diflas; heb adel i un-mâth o ymadrodd llygredig i ddyfod allan o'm genau, gan lefaru yr hyn oedd dda, a buddiol i adeiladu eraill?
7. A fum i y diwrnod hwn yn wiliadwrus ar fy holl ffyrdd a'm gweithredoedd, gan wneuthur Gair Duw yn rheol i mi, a'i ogoniant ef y diben a'r amcan pennaf o honynt oll? A orchymynais i fy holl orchwylion i Dduw drwy weddi, heb gymmeryd dim mewn llaw nes ceisio cyfarwyddiad, cymmorth, a bendith oddiwrtho ef? Ac a osodais i Dduw yn wastad ger fy mron, gan rodio megis yn ei ŵydd a'i bresennoldeb ef?
8. A Anturiais [neu a fentrais] i drwy ŵybod wneu∣thur un-rhyw beth, a wyddwn ei fod yn bechod? A ddarfu i mi ar hynny ymddarostwng fy hunan ger bron Duw, a dychwelyd atto ef drwy wir a diffuant edifeir∣wch, a'i na ddo?
9. A dymmherais ac a sancteiddiais i fy mhrydoedd bwyd â rhyw ymadroddion ysprydol, neu ymddiddanion buddiol; gan ddiferu rhyw beth ynghylch Trugaredd, Daioni, ac Haelioni Duw, fel drwy hynny yr ymborthid ac y meithrinid fy enaid yn gystal a'm corph?
10. A ddilynais i fy ngorchwylion bydol gydâ serchi∣adau ysprydol, gan dderchafu fy nghalon yn fynych at Dduw mewn rhyw saethiadau nefol neu weddiau byrrion? ac a fum i gyfiawn ac onest yn fy holl ymdriniaeth a dy∣nion, gan ffieiddio ennill dim drwy ffyrdd annuwiol a thwyllodrus?
11. Beth y fu fy ymddygiad i yn y Dirgel? A ollyn∣gais i yno fy nghalon allan i fyfyrio ar ddrygioni, gan
Page 73
borthi fy ffansi neu 'm Tŷb, a rhyngu bôdd i'm fy hunan â meddylian beilchion, dialeddus, anllad, neu drygionus mewn un ffordd arall? neu a wneuthum i ddefnydd da o'm lle dirgel, drwy osod fy meddyliau ar ryw bethau ysprydol a nefol, gan ymresymmu â mi fy hunan yn∣ghylch hynny?
12. Beth a fu fy ymddygiad mewn cwmpeini? A dreu∣liais i yr amser yn ofer mewn ymddiddanion bydol, ac ym∣adroddion pechadurus, gan roddi gormod o ffordd i gyf∣lawniad fy nhrachwantau a'm pleserau cnawdol? neu a ymegniais i fod yn ffrwythlon, ac yn llesol i mi fy hun ac i eraill mewn cwmpeini?
Megis mai y Marchnattwr goreu yw yr hwn sydd beu∣nydd yn yr hŵyr yn cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion bydol: felly efe yw 'r Cristion goreu ar sydd bob dydd yn yr hwyr yn cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion ysprydol, pa un ydyw ef ai myned rhagddo ai myned yn ôl llaw yn ffyrdd duwioldeb. Histori a fy∣nega i ni am lawer o'r Cenhedloedd y rhai a arferent bob hwyr o fwrw golwg ar helyntiau 'r diwrnod, me∣gis am Sextius y Philosophydd o Rufain, am yr hwn y tystiolaethir, bôb hŵyr wrth ei fyned iw wely, y cwesti∣wnai ef ei enaid, Pa ddrwg a feddyginiaethasai, pa lygredi∣gaeth a wrthwynebasai; ym mha fesur yr oedd ef ddim gwell nac o'r blaen; Siampl deilwng i Gristianogion iw chan∣lyn, a chwilyddus yw i ni fôd yn fyrr o gyflawni yr hyn a wnai y Cenhedloedd yn hyn.
II. Adgofia y Gweithredoedd o Ragluniaeth Dduw tu ac attat, a thrysora hwynt i fynu yn dy galon a'th goffadwriaeth, gan roi cais ar wneuthur yr iawn ddefnydd o honynt. Y gwirionedd yw, mai argoel o galon halogedic ac an∣ghrefyddol, yw gollwng damweiniau Rhagluniaeth Duw heibio heb ddim dyladwy ddal sulw arnynt; canys megis ac y llefara 'r Psalmydd, Mawr yw gweithredoedd yr Ar∣glwydd, gwnaeth gofio ei ryfeddodau; ac am hynny dy ddy∣ledswydd yw, a'th ddoethineb a fydd, megis y dydd i ddalsulw ar holl weithredoedd Rhagluniaeth Duw tu ag attat; felly yn yr hŵyr iw galw hwynt ith gôf; fel y gallont hwy roddi eu hargraph neu Scrifen yn ddwysach arnat ti.
Page 74
III. Os cyffrowyd di i ddigio liw dydd, na fachluded yr haul ar dy ddigosaint, Eph. 4. 26. Wrth yr hyn y mae 'r Apostol yn arwyddocau pryssur ddarostyngiad y digo∣faint yn y cyfryw fôdd, ac na chaffo mor cyscu gyd â thi, canys medd ef yn y wers nessaf, Na roddwch le i ddi∣afol, yr hwn liw nôs sydd yn dyfod at y dŷn digllon yn ei wely, mêdd Crogori, ac yn gosod ger ei fron ef faint y cam a wnaethbwyd ag ef, ac yn trymhau yr un∣rhyw, drwy ei holl helaethus amgylchiadau, i chwanegi ei ddigofaint ef i ymddial; ac am hynny mêdd yr Apo∣stol, Na fachluded yr haul ar eich digofaint.
IV. Cyn dy fyned i'th wely, bŷdd siccr o offrwm i Dduw dy aberth brydnawnol o Weddi a Diolch; hyn a arwyddo∣ceir i ni tan y ddeddf, lle mae 'r Arglwydd yn gofyn ei Aberth Prydnawnol, yn gystal a'i Foreuol, Exod. 29. 38, 39. Ac am hynny mwy o lawer y mae ef yn gofyn Aberth Boreuol a Phrydnawnol o Weddi a Moliant yn awr dan yr Efengyl. A diau, os gorweddi di i lawr yn dy be∣chodau heb edifarhau am danynt, ysgatfŷdd ti a elli dde∣ffro â fflammau uffern o amgylch dy glustiau, ac am hynny pell fyddo oddi wrthit ti ryfygu myned ith wely, cyn darfod i ti offrymmu i Dduw dy brydnawnol aberth o Weddi, ac ynddl erfyn o'r galon am bardwn a maddeu∣ant o'th holl bechodau, yn a thrwy haeddedigaethau a chyfryngdod Jesu Grist. O bydd i ti ado heibio gyflawni y ddyledswydd ymma nes myned o honot ith wely, fel y mae rhŷ ormod yn arfer, mae yn debygol iawn y syrthi di i gysgu cyn dy fyned rhagot ynddi chwaith yn nep∣pell; ar gweddiau hynny a wnei di yn dy wely ni by∣ddant ond gweddiau swrth a lluddedig ar y goreu; am hynny bydd siccr o offrwm i fynu dy aberth brydnaw∣nol cyn yr elych ith wely, ac os gelli di yn gymmwys o flaen Swpper; canys cael yr ydym ni wrth brawf fôd ein cyrph yn llawer mwy trwmluog, a'n hysprydocdd yn llawer mar∣weiddiach a thrymmach ar ôl Swpper nag or blaen.
Fel hyn y dangosais i ti y dyledswyddau iw cyflawni gennit yn y cyfnos cyn dy fyned ith wel: Yn awr y deuaf at y dyledswyddau iw cyflawni gennit ar dy or∣weddiad.
Page 75
I. Wrth fyned i'th wely, cymmer bob achlysur o sanctaidd a nefol fyfyrdodau. Megis wrth ddiosg dy ddillad, meddwl pa wêdd na bŷdd chwaith yn hîr nes y diosger di o'r cwbl, ac yr elych allan or bŷd mor noeth ac y daethost iddo; yr hyn y mae Job yn ei adrodd yn rhagorol, Job 1. 21. Noeth, medd efe, y daethum o grôth fy mam, a noeth y dych∣welaf yno; nid i grôth ei Fam eilwaith, canys hynny sydd ammhossibl, eithr ir bêdd, crôth y ddaiar, a Mam gy∣ffredinol pawb. Ei feddwl ef gan hynny yw, myfi a âf allan o'r bŷd mor noeth ac y daethum iddo. O ran hyn y gelwir Marwolaeth yn Ddiosc, 2 Cor. 5. 4. Am ei bôd yn diosc dŷn o'i holl drwsiadau, nid yn unic o'i wisc, ond hefyd o'i anrhydedd, ei olud, ai gyfoeth.
Pa fodd y dylei yr ystyrieth o hyn dy gynhyrfu i la∣furio am y gwîr olud, a'r wisc ysprydol? fy meddwl yw, Rhadau iachusawl Yspryd Duw, a'r wisc o Gyfiawnder Crist, ac yna nid âi di allan yn noeth, ond yn drwsia∣dus ac yn oludog.
Wrth orwedd i lawr yn dy wely, dyged dy wely ar gôf i ti dy fêdd, dyged dy gynfasau ar gôf i ti dy amdo, a dyged dy gwsg ar gof i ti dy farwolaeth, canys mâth ar gwsg yw marwolaeth; byrr farwolaeth yw cwsg, a hir gwsg yw marwolaeth: Oddiyma y rhoddir Cwsg a Marwolaeth y naill am y llall yn fynych yn yr Scrythur, a Marwolaeth a osodir allan yn fynych wrth hûn, Deut. 31. 16. Dan. 12. 2. Joan. 11. 11.
II. Ar dy fynediad i gysgu, gorchymyn dy hun, a'th berthynafau i freichiau nodded Duw, gan wybod mai dio∣gel yw 'r sawl y mae yr Arglwydd yn ei cadw. Ac yno cais ymroi i gysgu tra 'r wyt ti yn myfyrio am ryw beth da, canys yna y bydd dy gwsg yn bereiddiach, dy freuddwydion yn fwy diddanus, ath galon a fydd mewn gwell tymmer pan ddeffróech.
Page 76
PEN. XIX. Am Sancteiddio 'r Sabbath.
GWedi dangos i chwi y môdd r rodio gŷd â Duw ar ddyddiau 'r Wythnos: yn awr myfi a ddangosafd chwi y modd i rodio gyd â Duw ar y Dydd Sabboth; felly fel y byddo yn ddydd cyssurus i chwi. Ir diben ymma,
1. Mi a roddaf i chwi resymmau am newidiad y Sabboth o'r dydd olaf o'r wythnos i'r cyntaf gan brofi fôd Dŷdd yr Ar∣glwydd a gadwn ni yn awr yn wîr Sabboth.
2. Mi a roddaf Hyfforddiadau pa fodd y mae ei san∣cteiddio ef.
3. Mi a chwanegaf rai Annogaethau i'ch bywiogi i wneu∣thur ar ôl yr hyfforddiadau yn gydwybodus.
Y rhesymmau am newidiad y Sabbath, o'r dydd olaf o'r wythnos ir cyntaf ydynt ar fyrr eiriau y rhain.
I. Dwyfol ordinhâd, sef Ordinhâd Crist ei hun, yr hyn fy yn ymddangos ddwy ffordd.
1. Drwy yr henw a roddir ir Dydd cyntaf o'r wythnos, sef, Dydd yr Arglwydd, Datc. 1. 10. Canys beth bynnag a gy∣fenwir yn eiddo 'r Arglwydd yn yr Scrythur Sanctaidd, Crist yw Awdur ac Ordeiniwr y peth hynny. Megis o ran Siampl, Swpper yr Arglwydd, oblegid iddo ef ei ordeinio; Pobl yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu dewis hwynt; Cen∣nadon yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu hanfon hwynt. Ar yr unrhyw sail a rheswm y gelwir ar gyfenwad y dydd cyntaf or wythnos yn Ddŷdd yr Arglwydd, a hynny nid drwy Greadigaeth, canys felly y mae pob dŷdd yn eiddo ef or dechreuad, onid drwy Ddwyfol ordinhâd, oblegid ei ordeinio ef gan Grist yr Arglwydd, o ran Addoliad a Gwasanaeth Dwyfol, ac o ran coffadwriaeth am y gwaith mawr o Brynnedigaeth a weithiwyd ganddo ef. Cytuno â hyn y mae ymadrodd Augustin, yr hwn a ddywaid, mai yr Apostolion a ordeiniodd Ddydd yr Arglwydd iw gadw gydâ phôb parchedigaeth crefyddol, oblegid y dydd hwn∣nw y cyfododd ein Prynnwr oddiwrth y meirw, ac am
Page 77
hynny y gelwir ef Dydd yr Arglwydd. Dominicum diem Apostoli religiosa solemnitate habendum sanxerunt, quia in eo∣dem Redemptor noster a mortuis resurrexit, qui{que} ideo Domi∣nicus appellatur. Aug. Serm. 151. de Temp.
2. Drwy arfer yr Apostolion, y rhai yn wastadol a ymgyn∣nbullent ynghŷd ar y dŷdd cyntaf o'r wythnos, yr hwn yw ein Dydd yr Arglwydd, a hynny yn ddiammau ar orchym∣myn Crist ei hun; canys yn gymmaint ac aros o hono ef ddeugain nhiwrnod ar y ddaiar, ar ôl ei adgyfodiad, cyn iddo dderchafu ir Nefoedd, fe a ddywedir, Act. 1. 2, 3. ddarfod iddo roddi Gorchymmynion iw Apostolion, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw: hynny yw, efe a ddy∣scodd iddynt pa fodd y newidient yr Aberthau corphorol o anifeiliaid, i Aberthau ysprydol o Weddi a Moliant: y Sacrament o Enwaediad ir Sacrament o fedydd, y Sa∣crament o'r Pasc ir Sacrament o Swpper yr Arglwydd. Ac yna hefyd y dyscodd ef ei Apostolion ynghylch newid y Sabbath i Ddydd yr Arglwydd. Ar hyn y cyttûna yma∣drodd Junius ddyscedig, yr hwn sy yn dywedyd yn ben∣dant, fôd newidiad y Sabbath, nid trwy draddodiad dynol, onid trwy ddarfod i Grist ei hun ei gadw a'i ordeinio ef, yr hwn ar ddydd ei adgyfodiad, ac ar bob seithfed dydd arall ar ôl hynny, tan ei Dderchafiad ir Nefoedd, a ym∣ddangosodd iw Ddiscyblion, ac a ddaeth iw cynnulleid∣feydd hwynt. Ar hyn y darllennwn ni fod yr Apostolion yn cydymgyfarfod bob dydd cyntaf or wythnos; i brege∣thu'r Gair, ac i gyfrannu Swpper yr Arglwydd, megis Joan 20. 19, 26. Act. 2. 1. Act. 20. 7. ac mewn lleoedd e∣raill; fel y cawn ni y peth yn eglur wedi ei ordeinio gan Paul yr Apostol, ar fod y casgliadau wythnosol ir tlodion ar y dŷdd hwnnw, 1 Cor. 16. 1, 2. Hefyd am y gasgl ir Sainct, megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia, felly gwne∣wch chwithau; y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori fel y llwyddodd Duw ef, &c. A phaham ar y dydd hwnnw? diau nad ellir bwrw yn iawn fôd ûn rheswm arall, ond am fod eu hym∣gasgliad hwynt ynghŷd i fôd yn gyfrannogion o Ordin∣hâdau Duw, yn arferol o fôd ar y dydd hwnnw; Ac am hynny, o herwydd fod gweithredoedd o gariad yn
Page 78
cyttuno yn dda â dyledswyddau Duwioldeb; ac fel y gallent hwy drwy yr Ordinhadau a drinid y pryd hynny, gael eu cynhyrfu i gyfrannu eu rhôdd yn rhwyddach ac yn llawenach, yr Apostol a ordeiniodd hefyd, ar fod y Casgliadau ir tlodion ar yr unrhyw ddiwrnod, sef, ar y dydd cyntaf or wythnos.
2. Rheswm arall yn profi mai'r dydd cyntaf o'r wythnos, yr hwn a elwir yn gyffredinol Dŷdd yr Arglwydd, yw'r gwir Sabbath Christianogawl yn awr tan yr Efengyl, a ellir ei gym∣meryd oddiwrth oestadol arfer yr Eglwys a Phobl Dduw er am∣seroedd yr Apostolion. Megis ac y dangosais i chwi mai ar∣fer yr Apostolion oedd gadw y dydd cyntaf o'r wythnos, yr hyn sydd ddigon o reswm i arddelu'r diwrnod, a nhwythau yn cael eu harwain gan Yspryd Crist mewn modd enwedigol: felly y mae'n ymddangos yn eglur, mai arfer yr holl ddynion sanctaidd er amseroedd yr A∣postolion, ydoedd cadw y Dydd ymma, a hynny tan yr henw o Ddŷdd yr Arglwydd.
Ignatius, yr hwn oedd yn byw yn amser St. Joan, sy yn dywedyd, Omnis Christi amator Dominicum celebret Di∣em, reginam & principem dierum omnium, Ignat. Epist. 3. ad Magnes. Bydded i bob un a garo Grist gadw yn sanctaidd Ddŷdd yr Arglwydd, yr hwn yw Brenhines y dyddiau. Eusebius yn ei histori eglwysig lib. 4. cap. 22. sydd yn dangos yn eglur y môdd y darfu ir Eglwys a Phobl Dduw, tros amryw oesoedd ar ôl amseroedd yr Apostolion gadw y dydd cyntaf o'r wythnos, megis wedi ei appwyntio gan Grist, ai ordeinio ar ôl hynny gan yr Apostolion. Myfi a allwn dreulio llawer o bapir yn dangos pa fodd y cad∣wyd y dydd ymma ym mhob oes, er amseroedd yr Apo∣stolion hyd y dyddiau hyn. Weithian defod wastadol yr Eglwys nid yw iw esceuluso. Yr ymadrodd hwnnw o'r eiddo'r Apostol, 1 Cor. 11. 16. Od oes neb a fyn fod yn ym∣rysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw, sy yn dangos, fod defod yr Eglwys yn beth i wneu∣thur cyfrif o hono.
III. Adgyfodiad Christ sydd yn rhoddi sail am sancteiddio ein Sabbath Cristianogawl ni, a hefyd sy yn dangos rheswm am newidiad y diwrnod: Canys gwaith y Prynnedigaeth a wei∣thiwyd
Page 79
trwy Jesu Grist, ac ynteu yn llawer mwy rha∣gorol nâ gwaith y Creadigaeth, a haeddodd yn fwy o la∣wer gael wythnosawl goffadwriaeth. Bod gwaith y Pryn∣nedigaeth yn fwy rhagorol, sy yn ymddangos, o ran co∣stio mwy yn prynnu y byd o Etholedigion Duw, nag yn creu yr holl fŷd; canys i greu 'r bŷd ni chostiodd i Dduw ond megis gair; Efe a orchymynnodd, a hwy a gre∣wyd. Eithr i brynnu y byd o Etholedigion Duw, ni cho∣stiodd ddim llai nâ gwerthfawr waed Mab Duw. Y mae'r gwaith hwn wedi llyngcu'r cyntaf, fel y darfu ir Deml lyngcu y Tabernacl. A ninnau y rhai ydym yn byw ar ôl Adgyfodiad Crist, ydym mor rhwymedig i gadw y dydd cyntaf o'r wythnos, ac a oedd, y rhai oeddynt fyw o'r blaen, i gadw'r olaf.
Peth hynodol iawn yw, ddarfod cadw seithfed dydd er anrhydedd i Dduw yn wastad er y Creadigaeth; a'r cyfryw seithfed dydd ac na bu ûn wythnos yn y newi∣diad heb Sabbath, ac ni bu erioed ddau Sabbath yn yr un wythnos; canys megis ag y terfynodd yr wythnos ar y Sabbath or blaen, felly yr wythnos nessaf yn canlyn a ddechreuodd â'n Sabbath ni.
Os gofyn nêb paham y mae cyfnewidiad y diwrnod heb ei fynegi yn eglurach yn y Testament Newydd, fy atteb yw, oblegid nad oeddid yn cwestiwnu dim yn∣ghylch y peth yn amseroedd yr Apostolion; yr hyn a ddichon hefyd wasanaethu megis rheswm paham nad oes yr un gorchymmyn eglur yn y Testament Newydd am fedyddio Plant bychain yn bennodol, sef, o herwydd nad oedd dim cwestiwnu ynghylch hynny yn amseroedd yr Apostolion.
Deuwn yn awr at yr Hyfforddiadau pa fodd i sanctei∣ddio Dydd yr Arglwydd. I sancteiddiad yr hwn y go∣fynnir dau beth. 1. Cadw gorphwysfa. 2. Cysegru yr orphwysfa honno i addoliad a gwasanaeth Duw.
I. Mae'n rhaid bod gorphwyso, a hynny oddiwrth am∣ryw bethau: megis,
1. Oddiwrth holl orchwylion cyffredinol ein Galwedigaethau, yr hyn a osodwyd ar lawr yn y Gorchymmyn; Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith onid y seithfed
Page 80
dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw, na wnâ ynddo ddim gwaith: sef, oth. alwedigaeth. Ac na bydded i neb wneu∣thur lliw o fawredd eu siars, megis yn escus am a wne∣lont; Onid gwybyddwch yn siccr, na bydd ir hyn a en∣nilloch drwy eich llafur y dydd hwnnw, gyfrannu ond ychydig tu ag at eich Siars chwi. Canys pa beth byn∣nag a enniller ar y dydd hwnnw, ni fendithia yr Arglwydd mo hono, eithr efe a fydd megis llafn aur Achan, yr hwn gan ei fôd wedi ei gael yngwrthwyneb i orchymmyn Duw, a ddygodd dân o felltith Dduw ar y cwbl oll ar a ennillasai ef yn gyfreithlon.
2. Oddiwrth bob mâth ar ddyfyrrwch, yn enwedigol y cy∣fryw ac sy yn tueddu at ddigrifwch cnawdol ac anianol; y rhai er eu bod yn gyfreithlon ar amseroedd eraill, er hynny ydynt anghyfreithlon ar Ddydd yr Arglwydd, gan eu bôd wedi eu gorafun yr eglur gan Dduw ei hun, me∣gis gorchwylion ein Galwedigaeth, fel y cewch chwi yn Isa. 58. 13. Lle mae 'r Arglwydd yn gofyn gan ei bobl, Ar iddynt droi eu troed oddiwrth y Sabbath, heb wneuthur eu he∣wyllys ar ei ddydd sanctaidd ef; a galw y Sabbath yn hyfry∣dwch, Sanct yr Arglwydd yn ogoneddus, a'i anrhydeddu ef, heb wneutbur eu ffyrdd eu hun, heb geisio eu hewyllys eu hun, na dywedyd eu geiriau eu hun. Ac fe welir wrth brawf, fod dyfyrrwch yn lledratta ein serchiadau ni oddi∣wrth fyfyrdodau nefol, ac yn ein dibwyllo ni yngwasa∣naeth Duw, yn fwy nag y mae gweithredoedd ein Gal∣wedigaeth ni. Ar yr hyn y dywaid St. Awstin▪ Quanto melius est arare quam saltare in Sabbato? Aug. in Enarrat▪ tit. Psal. 91. Pa faint gwell yw àredig na dawnsio ar Ddydd yr Arglwydd?
3. Oddiwrth bob bwytta ac yfed yn anghymhedrol, drwy yr hyn yr ydym ni yn gymmhwysach i gysgu nag i wilied ar Ordinhadau Duw. Ac o herwydd hynny mor feius ydynt hwy, y sawl a wnânt Ddydd yr Arglwydd yn ddydd o Wledda eu cymmydogion a'u cyfeillion? canys er bod yn rhŷdd gwneuthur ar y dydd ymma y cyfryw arlwy ac a fo cymmwys in teuluoedd ein hunain, neu o ran cynn∣horthwy ein cymmydogion tlodion, etto dilys yw, ei fod yn anghyfreithlon gwneuthur gwleddoedd mawr hybarch
Page 81
ar y dydd ymma (fel y mae gormod yn arferu) drwy yr hyn y delir gwasnaethyddion oddiwrth yr Ordinhadau cyhoeddus, ac yr ydym ni ein hunain a'n gwahoddedi∣gion yn anghymhwysach i ddyledswyddau Addoliad a Gwasanaeth Duw. Ac am hynny er na waherddir i ni gynneu tân ar ddydd yr Arglwydd i drwssio bwyd, er hynny mae yn rhaid i ni ochelyd gwneuthur y cyfryw fflam ar a ennynno dân digofaint Duw yn ein herbyn ni.
4. Oddiwrth bob geiriau bydol, ac ymddiddan am bethau daiarol, yr hyn y mae yr Arglwydd ei hun yn ei wahardd drwy 'r Proph. Esay, Pen. 58. 13. Heb ddywedyd dy eiriau dy hun, yr hyn sy yn arwyddocau siarad ac ymddiddan am fat∣terion bydol ar y dydd Sabbath; Canys lle mae yr Ar∣glwydd wedi gorchymmyn ir holl ddŷn orphywys oddi∣wrth orchwylion bydol, yno y mae ef yn gorchymmyn, megis ir llaw orphywys oddiwrth weithio, felly ir ta∣fod oddiwrth ymddiddan am fatterion bydol: Eithr yn y pedwerydd Gorchymmyn, y gorchymynnodd yr Arglwydd ir holl ddŷn orphywys oddiwrth fydol weithredoedd, lle y mae ef yn dywedyd, Na wna ddim gwaith, &c. Am hynny y mae ef yn gorchymmyn ir tafod orphywys oddiwrth chwedleua am bethau bydol, yn gystal ac ir llaw oddiwrth weithio caethwaith a gorchywylion bydol. Mor feius gan hynny yw y rhai sy yn gwneuthur Dŷdd yr Arglwydd yn ddydd o wneuthur cyfrif a gweithwŷr, a gwasnaeth∣yddion, neu or hyn lleiaf yn ddydd o ymweled eu cy∣feillion a'u cymmydogion, ac felly yn ddilynawl yn ddydd o segur siarattach ynghylch eu helw a'u dyfyrrwch, neu fatterion rhai eraill?
5. Megis oddiwrth eiriau bydol, felly oddiwrth feddyliau by∣dol, yn fwyaf y gallom. Canys,
1. Gwybyddwch fod pob Gorcbymmyn yn cyrraedd hyd yn oed ein meddyliau ni, gan eu rhwymo hwy, yn gystal a'n gwei∣thredoedd ni oddiallan. O ran ecsampl: Y chweched Gor∣chymmyn sydd yn gofyn ar ymgadw oddiwrth lofruddi∣og feddyliau, yn gystal ac oddiwrth y weithred o Lo∣fruddiaeth. Y seithfed, oddiwrth odinebus, ac anlladaidd feddyliau, yn gystal ac oddiwrth y weithred o Odineo.
Page 82
Yr wythfed, oddiwrth gybyddus feddyliau, yn gystal ac oddiwrth y weithred o Gybydd-dod.
2. Gwybyddwch, fod yr Arglwydd yn gofyn nid yn unig y dŷn oddiallan, a'r gweithredoedd oddiallan, iw cyffegru iddo ef, onid yn enwedigol y dŷn oddifewn, Luc. 10. 27. O her∣wydd paham y dylem ni, yn gymmaint ac y byddo pos∣sibl i ni allu, ddidoli ein meddyliau oddiwrth fatterion bydol, fel y gosoder hwy yn hollawl ar fyfyrdodau ys∣prydol a nefol.
6. Y mae goyphwysfa arall a ddisgwylir gan bob un ar Ddydd yr Arglwydd, a hwnnw yw Gorphwyso oddiwrth bechod; yr hyn a ddylem ni ei wneuthur yn gymmaint ac y ga∣llom, bob amser, onid yn enwedig ar Ddydd yr Arglw∣ydd, yr hwn a ddylid ei gadw megis gorphwysfa san∣ctaidd. Ac yn ddiau, ni allwn ni wneuthur mwy o am∣march i Dduw, na phan y bom yn gwasanaethu 'r Dia∣fol yngweithredoedd y tywyllwch ar Ddydd yr Arglwydd yr hwn a gysegrwyd i anrhydedd a gwasanaeth Duw.
Hyn am y rhan gyntaf ar sydd yn angenrheidiol i san∣cteiddiad Dydd yr Arglwydd, sef, Cadw gorphwysfa.
II. Yn awr y deuwn at yr ail, sef, Cysegru yr orphwysf•• honno yn hollawl i addoliad a gwasanaeth Duw. Canys ni•• digon yw i ni gadw gorphwysfa, ond y mae yn rhaid i •••• gadw gorphwysfa sanctaidd; bod yn unic yn gorphywys a•• y dŷdd Sabbath, nid yw ond Sabbath anifeiliaid. Rhaid •• ni gofio y dydd Sabbath iw sancteiddio ef, Canys dymma •••• diben pennaf y mae yr orphwysfa oddiallan yn tuedd•• atto. Weithian, cyssegriad gorphwysfa 'r Sabbath sy '•• sefyll, 1. Yn ein paratóad iddo. 2. Mewn cydwybodu•• gyflawniad o'r cyfryw ddyledswyddau ac y mae 'r Ar∣glwydd yn eu gofyn gennym ni y pryd hynny, y rhai •••• ellir eu dwyn i ddau o bennau, sef, 1. Dyledswyddau Dduwioldeb. 2. Gweithredoedd o Drugaredd.
Dyledswyddau o Dduwioldeb ydynt o dri mâth, sef.
1. Cyhoeddus. 2. Neilltuol. 3. Dirgel. Y rhai oblegi•• eu bôd yn eu cŷlch yn gymmysc â'u gilydd, am hynn•• mi a lefaraf am danynt yn eu cŷlchoedd.
Y dyledswyddau iw cyflawni mewn ffordd o baratóad yw y rhai hyn.
Page 83
1. Cofio y dydd ym mlaen llaw, fel y galloch chwi felly drefnu a lluniaethu eich bydol negeseuon, yn y cyfryw fôdd ac y dibenner hwynt mewn amser cyfaddas ar y noswyl o flaen y Sabbath, fel y galloch chwi a'ch gwei∣sion fyned i'ch gwely y cyfryw amser, ac y gallo eich cyrph gael eu llonni yn dda â chwsg, a'ch meddyliau gael eu cymmhwyso i ddyledswyddau 'r diwrnod. Hyn y mae 'r Arglwydd yn ei arwyddocau yn nechrau y ped∣werydd Gorchymmyn, gan ddywedyd Cofia y dydd Sab∣bath iw sancteiddio ef; ym mha le drwy ei gofio ef, y ge∣llir deall meddwl am dano ef ym mlaen llaw. Mor feius gan hynny ydynt hwy, y rhai a ymeisteddant ei hunain, ac a gadwant eu gweision ai morwynion ar eu traed cyn hwy∣red o nôs o flaen y Sabbath, ag y bo yn rhaid iddynt orwedd yn eu gweláu yn hŵy ar y dydd Sabbath, nag ar ddyddiau eraill, ie a phan ddelont i'r gynnulleidfa, y maent yn gymmhwysach i gysgu nag i wrando; Ai cofio y Sabbath iw Sancteiddio ef yw hyn?
2. Ar eich deffroad cyntaf y borau, derchefwch eich ca∣lonnau at Dduw mewn Gweddi a Diolchgarwch, am yr or∣phwysfa ar cwsg cyssurus hwnnw a ganiatáodd efe i chwi y nôs a aeth heibio. Canys, efe yw yr hwn sy yn rhoddi hûn iw anwylyd, a'i dosturiaethau a ddeuant bob boreu, Psal. 127. 2. Galar. 3. 23. Ac yna erfyniwch gan Dduw am gael cymmorth ei Yspryd, i'ch dwyn chwi drwy holl ddyledswyddau 'r diwrnod.
3. Codwch yn foreu ar y dydd Sabbath. Yn gymmaint a bod i chwi, megis dyledswyddau dirgel o Dduwioldeb iw cyflawni gennych yn eich Stafellau, felly ddyledswyddau neilltuol o Dduwioldeb yn a chydâ'ch Teulu (os byw yr ydych mewn Teulu) cyn eich myned ir Gynnulleidfa gy∣hoeddus; am hynny chwi a ddylech godi cyn foreued, ac y caffoch amser cyfaddas ir dyledswyddau hyn, a bôd yn yr Eglwys ar ddechrau yr Ordinhadau. Mor feius gan hynny ydynt hwy, y rhai a fedrant foreu godi ar ddy∣ddiau 'r wythnos i ddilyn eu gorchwylion bydol, eithr a orweddant ar ddydd yr Arglwydd yn hŵy yn eu gweláu nâ chyffredinol, gan eu rhoddi eu hunain iw hesmwyth∣dra a'u gorphwysfa cnawdol? Ai sancteiddio 'r dydd Sab∣bath
Page 84
yw hyn; bod sut ymma yn cysgu ymmaith y rhan gyntaf a phennaf o hono?
4. Ar eich codiad, gollyngwch eich calonnau allan mewn di∣frifol fyfyrdod am Jesu Grist, ac am y pethau mowrion a wnaeth ac a oddefodd ef drosoch, ac am y llawer hynny o bethau daionus y rhai ynddo a thrwyddo ef y gwna∣ethpwyd chwi yn gyfrannogion o honynt.
5. Cyn gynted ac y codoch ar eich traed a'ch bod yn barod, ewch or neilltu i ryw gyfle ar eich pennau eich hunain, [neu wrthych eich hunain] ac yno darllennwch ryw gyfran o'r Scry∣thyrau, yr hyn a fydd yn fôdd rhagorol i dymmeru eich calonnau, ac i osod eich meddyliau mewn trefn; ie â thrwy hyn y byddwch chwi wedi eich paratoi yn well i wrando y gair a bregether, ac yn gallu profi yn well yr Athrawiaethau a draddoder, yn ôl cyngor yr Apostol, Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sy dda, 1 Thes. 5. 21.
6. Megis y mae Gweddi yn ddyledswydd iw chyflawni bob borau, felly yn enwedigol y borau ddydd yr Arglwydd; yr hyn sydd mewn rhywfesur i fôd yn berthnasol ir diwrnod. Gwedi i chwi gan hynny gyrfesu eich pechodau, er er∣fyn pardwn am danynt, ynghŷd â gallu yn eu herbyn, a grâs i wasanaethu Duw: yna gweddiwch tros y Gweni∣dog a throsoch eich hunain.
1. Tros y Gwenidog, ar i Dduw roddi iddo ef ddrws ymadrodd, fel y gallo ef agoryd ei enau yn hŷf i gy∣hoeddi Dirgeledigaethau yr Efengyl, ie fel y gallo ef lefaru y Gair yn gywir, yn bûr, yn rymmus ac yn fu∣ddiol, gan draddodi yr hyn sydd gymmwys a phryd∣lawn i'ch cyflwr chwi.
2. Trosoch eich hunain, ar i Dduw ddeol allan o'ch pen∣nau chwi bob amcanion▪ bydol gwibgrwydrus, ar a al∣lont dynnu eich meddyliau ymma a thraw oddiwrth wrando y gair, ac felly gan dagu yr hâd nefol ei wneu∣thur ef yn affrwythlon. Ac ar iddo ef roddi i chwi, megis clust i wrando, felly ddealldwriaeth i ddeall, do∣ethineb i gymhwyso, barn i ddirnad, ffydd i gredu, co∣ffadwriaeth i gadw, a grâs i osod ar waith yr hyn a glywoch; fel y byddo ir gair fôd felly yn arogl bywyd i Dwyd i chwi, ac nid yn arogl marwolaeth i farwolaeth.
Page 85
Y ddwy ddyledswydd olaf hyn o ddarllen y Gair, a Gwe∣ddi, nid ydynt yn unic iw cyflawni yn y dirgel or neill∣ni, onid hefyd yn eich Teuluoedd a chyd â hwynt, os chwychwi y sydd Rieni, neu Feistraid Teuluoedd. Ac am hynny cyn i chwi fyned ir Ordinhadau cyffredin, gelwch eich Teulu ynghŷd, a gweddiwch gyd â hwynt, megis am bethau eraill, felly yn enwedigol am alluoedd grâs Duw, a chynnyrchiadau ei Yspryd ef ar eich calonnau a'ch ysprydoedd yn y dyledswyddau sanctaidd a gymme∣roch chwi mewn llaw, fel y galloch chwi eu cyflawni hwynt yn y cyfryw fôdd ac y byddo gogoniant yn dy∣fod i enw Duw, a rhyw fûdd a llessiant ysprydol i'ch enei∣diau eich hunain.
Dymma'r dyledswyddau iw cyflawni o ran paratóad.
Darfyddo i chwi fal hyn eich cymmhwyso a'ch para∣toi eich hunain.
I. Gelwch eich Teulu ynghŷd, eich Plant, a'ch Gweision, a dygwch hwynt ynghŷd gŷd a chwi ir Gynnulleidfa gyffredin, a gedwch i wrolfrŷd Josuah fôd yn fynych yn eich me∣ddwl, Ond myfi, mi am tŷlwyth a wasanaetbwn yr Arglwydd, Jos. 24. 15.
2. Ystyriwch wrth fyned i ba le yr ydych yn myned, sef, Nid i ffair neu Farchnad, onid i Dŷ Dduw, lle y mae Duw ei hun yn bresennol i'ch canfod, ie lle y mae Duw ei hun yn llefaru drwy enau ei Weinidogion.
3. Ewch â pharodrwydd calon, ac â llwyrfrŷd meddwl i dderbyn pob gwirionedd a hyspyser i chwi allan o air Duw. A'r cyfryw galon y daeth Cornelius i wrando ar Petr, Act. 10. 33. Yr ŷm ni oll yn bresennol ger bron Duw, i wran∣do ar yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan Dduw, ebe Cor∣nelius wrth Petr. Ac fe a ddywedir am y Beroeaid, Ddar∣fod iddynt dderbyn y gair gyd â phob parodrwydd meddwl, Act 17. 11.
4. Gwedi ych dyfod i Dŷ Dduw, gosodwch eich hunain. megis yngwydd a cher bron Duw, yr hwn nid yw yn unic yn dal ar eich arweddiad a'ch ymddygiad oddiallan, ei∣thr hefyd sydd yn deall holl ddychymygion eich calonnau, ac yn gydnabyddus â phob meddwl gwibiog wrth we∣ddio, gwrando, a gwneuthur dyledswyddau sanctaidd e∣raill,
Page 86
yr hyn a fydd yn fôdd enwedigol i gadw eich me∣ddyliau rhag ymrwyfo ar ôl pethau eraill.
5. Gwnewch eich goreu ar wrando y gair er llesâd. Ir perwyl ar diben ymma yr wyfi yn cael pedair o rin∣weddau enwedigol a ganmolir yn yr Scrythur, sef,
1. Gostyngeiddrwydd. 2. Onestrwydd. 3. Dyfal wranda∣wiad. 4. Ffydd.
1. Gostyngeiddrwydd, canys pan yw gŵr o yspryd go∣styngedig, isel, addfwyn a drylliedig, yna y mae ef yn gymmwys i wrando y Gair; oblegid wedi gwaghau y galon o falchder, a thŷb da o honi ei hun, fe fŷdd e∣hangder ir Gair i gymmeryd lle ynddi, am hynny medd Dafydd, Psal. 25. 9. Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn; ai ffordd a ddysc efe ir rhai gostyngedic. Yr Arglw∣ydd ei hun a ddywaid drwy ei Brophwyd Esay, Ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan, (ar sy' dlawd yn yr Yspryd) a'r cystuddiedic o Yspryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair, Esay 66. 2.
2. Rhinwedd angenrheidiol arall oran gwrando y Gair er llesâd, yw Onestrwydd, neu Ʋniondeb calon, drwy yr hyn y mae dŷn mewn purdeb yn bwriadu ei osod ei hun ym mhob peth yn brofedic gan Dduw, megis i ochelyd pob pechod pa fath bynnag, ar y mae y Gair yn ei gon∣demnio, er hyfryded a buddioled y byddo ef iddo, felly i ymegnio ar gyflawni pob dyledswydd ar sy yn perthyn iw le ai alwedigaeth, ar y mae'r Gair yn ei orchym∣myn. Dymma'r galon hawddgar neu onest a da y mae yr Arglwydd yn ei feddwl, Luc. 8. 15.
3. Megis ac y mae Onestrwydd, felly y mae Dyfal wran∣dawiad yn angenrheidiol: tra yr ydys yn pregethu y Gair, rhaid i chwi wrando arno yn ddiwyd, megis rhai y by∣ddei fawr ganddynt golli gair a draddodid iddynt. Y pwngc hwn sydd hynod am yr rhai a wrandawent ar Grist yn pregethu, y rhai y dywedir, Luc. 19. 48. Ei bod yn glynu wrtho, i wrando arno, neu fel y mae yn y Groec, Yr holl bobl oedd yn crogi arno iw wrando ef, fel yr oeddynt yn ddyfal iawn i wrando, megis yn anfodlon i ollwn dim heibio iddynt: felly y dylaech chwithau fôd mor ddyfal i wrando ar Weinidogaeth y Gair. Ir diben ymma,
Page 87
gosodwch eich golwg yn grâff ar y Pregethwr. Ac fel y mae ef yn myned or naill bwynt ir llall, meddyliwch ar fyr ar y pwynt a aeth heibio, yr hyn a gynnorthwya eich coffadwriaeth chwi yn fawr iawn.
4. Ffydd sydd rinwedd arall angenrheidiol o ran gwran∣do y gair er llesâd, ffŷdd, meddaf, drwy yr hon yr y∣dym ni, nid yn unic yn credu fod yr hyn a ddyfger i ni allan o'r Gair yn wîr, onid yr ydym ni hefyd yn ei gymmhwyso attom ein hunain, megis ped fai wedi ei gy∣feirio attom ni mewn modd enwedigol. Gallu Duw yw'r Efengyl er Iechydwriaeth, medd yr Apostol, Rhuf. 1. 16. eithr i bwy? i bob un ar sydd yn credu Ac medd yr Aw∣dur at yr Hebraeaid, Heb. 4. 2. Y Gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymmeru â ffydd yn y rhai a'i clywsant. Ynghalon y sawl y mae gwir ffŷdd, y dŷn hwnnw a gymhwysa holl Air Duw atto ei hun, pa un bynnag fyddo ai bygythion y Gyfraith, iw ddy∣chrynnu ef oddiwrth bechod, ynteu hyfryd addewidion yr Efengyl iw ddenu ef at sancteiddrwydd, ac felly y mae 'n gwneuthur▪ Llawer o elw o bob Pregeth a glywo. Hyn am eich ymdygiad yn y Gynnulleidfa gyffredin.
Ond ni wasanaetha i chwi orphywys ymma, gan dy∣bied ddarfod i chwi drwy hynny sancteiddio'r dydd Sab∣bath. Canys y mae hefyd Ddyledswyddau Duwioldeb Neill∣tuol a Dirgel y rhai a ofynnir o ran gwir sancteiddio Dydd yr Arglwydd, am y rhai y dylaech chwi fôd yn ofa∣lus ac yn gydwybodus, megis ac am y dyledswyddau cy∣hoeddus yn y Gynnulleidfa gyffredin. Canys Duw sydd yn gofyn yr holl ddiwrnod, ac nid darn o hono ef yn unic. Megis gan hynny na byddech chwi fodlon, i'ch gweision weithio i chwi yn unic awr neu ddwy ar bob un or chwe diwrnod: felly ni ddylaech chwithau roddi dim llai i Dduw, nag yr ydych yn ei ofyn i chwi eich hunain. Wrth Ddyledswyddau. neilltuol o Dduwioldeb, yr wyfi yn meddwl y rhai sydd iw cyflawni mewn Teulu neilltuol. Ac wrth rai Dirgel, y cyfryw rai ar a wneir mewn rhyw gyfle dirgel or neilltu, rhwng Duw ag ûn ei hun.
Yn awr y dyledswyddau Neilltuol o Dduwioldeb, y
Page 88
rhai a ofynnir mewn modd enwedigol gan Dadau a Mam∣mau a Phenteuluoedd, ac ym mhâ rai y mae pob aelod o'r teuluoedd i ymgyssylltu, yw y rhai hyn.
I. Ail adrodd y Pregethau a glywsant gŷd âu teulu, au holi hwynt y naill ar ôl y llall am yr hyn a gofiasant, gan esponi hynny iddynt; yr hyn a ganmolir i ni drwy arfer a Siampl ein Harglwydd a'n Achubwr Jesu Grist, yr hwn pan aeth ir tŷ, a ddywedodd wrth ei Ddiscy∣blion, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? sef, ar â bregetha∣sai ef ir lluaws, Mat. 13. 36, 51. A S. Marc Pen. 4. 34. a ddy∣waid, Ac or neilltu iw ddiscyblion efe a eglurodd bob peth. Ar yr hyn y mae un yn nodi, fod Crist drwy ei siampl yn dyscu i bob Penteulu, pa fôdd i ymddwyn ei hunan tu ag at y rhai sydd tan eu llywodraeth ar Ddyddiau'r Arglwydd, ar ol iddynt ymado allan or Gynnulleidfa gyffredinol.
A llesaad triphlŷg yn ddiau a ddilyn ar hyn.
1. Och rhan eich hunain; canys po mwyaf a adeiladoch chwi ar eraill, mwyaf yr adeiledir chwi eich hunain mewn Gwybodaeth, ffydd, ac ym mhôb gras Duw.
2. O ran eich plant a'ch gweision, canys hynny a bair iddynt wrando yn ddyfalach ar yr hyn a draddodir yn y Gynnulleidfa gyffredin, os gwyddant y gelwir hwynt i gyfrif am hynny pan ddelont adref.
3. Hyn a'ch cynnorthwyai chwi a'ch gweision befyd yn fawr iawn i ddeall a chredu yr hyn a glywsoch yn gyhoeddus, os chwi a'i hail-adroddwch gartref, ac a chwedleuwch yn ei gylch, a holi 'r profiadau a osodwyd i lawr, i ga∣darnhau yr hyn a adroddwyd.
II. Dyledswydd neilltuol arall yw canu Psalmau, canys hyn a ellir ac a ddylid ei gyflawni yn eich teuluoedd, yn gystal ac yn y Gynnulleidfa. Hyn y mae Dafydd yn ei ganmol am un ddyledswydd ar y Sabbath, megis Psal. 92. 1. Titl y Psalm yw, Psalm neu gân ar y dydd Sabbath. Ac fel hyn y mae yn dechrau, Da yw moliannu'r Arglwydd; a chanu mawl i'th enw di y Goruchaf. Yr Ordinhâd hon a gwestiwnir gan rai, ac a wedir gan eraill, am hynny myfi, 1. A brofaf ei bôb yn gyfreithlon, ac, 2. A ro∣ddaf rai hyfforddiadau am yr iawn fôdd iw chyflawni hi.
Page [unnumbered]
Yn gyntaf, bod yn gyfreithlon canu Psalmau sydd •••• ymddangos allan or Scrythur, drwy Ecsampl, a Rhesym∣mau.
1. Am Brofiadau o'r Scrythur y maent yn llawer, yn yr Hên Destament a'r Newydd hefyd; Eithr i ado y rheini yn yr Hên Destament heb sôn am danynt, am nad allant brofi mor argyoeddus eglurawl. Yn y Newydd, nyni a'i cawn wedi ei gorchymmyn gan yr Apostol at yr Ephesiajd; Ephes. 5. 19. Gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a phyngcio yn eich calon ir Arglwydd. Ac medd yr Apostol Jaco, Jac. 5. 13. A oes neb yn eich plith mewn adfyd? Gweddied. A oes neb yn esmwyth arno? caned Psalmau. Lle y gwelwn ni hyn yn orchymmynedig mewn ymadroddion eglur, a'i bod yn ddyledswydd yr Efengyl.
2. Yr ydym yn ei chael yn Ganmoledic, drwy esampl ein Achubwr, ac arfer yr Apostolion hefyd, ac eraill o Seintiau Duw yn yr Amseroedd gynt.
1. Drwy esampl ein Achubwr, am yr hwn y mae co∣ffadwriaeth, ddarfod, iddo y nôs ar yr hon y bradychw∣yd ef, Ganu Psalm, gŷd â'i Ddiscyblion, Ac wedi iddynt ganu hymn neu Psalm, hwy a aethant allan i fynydd yr Olew∣ydd, Mat. 26. 30.
2. Drwy arfer yr Apostolion, a Seintiau eraill yn yr Amferoedd gynt. Canys darllen yr ydym, Act. 16. 25. Ac ar hanner nôs Paul a Silas oedd yn gweddio, ac yn canu mawl neu Hymn i Dduw, ar carcharorion a'u clywsant hwy. Plinius Secundus er ei fôd yn un or Cenhedloedd, yr hwn oedd yn byw ynghylch dau cant o flynyddoedd ar ôl Crist, sydd yn testiolaethu am y Cristianogion, fod ganddynt ganiadau plygeiniol, gan arfer o godi cyn y dydd i ganu Psalmau. Hymnos antelucanos. Plin. Secund. lib. 3. cap. 33.
3. Rhesymmau yn canmol y ddyledswydd hon, a ellir eu tynnu oddiwrth y llesáad sy yn canlyn hynny; Ca∣nys,
1. Drwy gŷdgyflawni y ddyledswydd hon, ein hyspryd ein hunain a fywoceir ac a fywiogir yn fawr iawn.
2. Drwy hynny y bywoccawn ac y bywiogwn ni ys∣prydoedd eraill.
Page 90
3. Nyni oll drwy hynny a wneir yn llonnach yn gwa∣sanaethu Duw, yr hyn a ddichon fod yn rheswm paham y darsu i Paul a Silas gyd gyssylltu canu Psalmau at eu Gweddiau.
Wedi profi fel hyn drwy Scrythur, Ecsamplau; a Rhe∣symmau fôd y ddyledswydd hon yn gyfreithlon.
II. Yn awr y deuwn at yr Hyfforddiadau am yr uniawn fodd o gyflawni yr unrhyw, yr hyn a osodir ar lawr gan yr Apostol yn y geiriau hyn, Gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd, Col. 3. 16.
1. Rhaid iddo fôd gan hynny yn gyntaf yn y galon; neu á'r galon, sef, rhaid yw i'n calonnau fyned gyd â'n llei∣siau, rhaid yw ir naill gael ei derchafu yn gystal a'r Ilall. Canys Yspryd yw Duw, ac am hynny y myn ef ei addoli â'n calonnau ac a'n hysprydoedd, yn gystal ac a'n cyrph. A diammau nad yw canu âr llais, heb gyd gordiad y galon a'r yspryd, ddim mwy yn rhyngu bodd Duw, nag efydd yn feinio neu symbal yn tingcian.
2. Megis ac y mae yn rhaid i ni ganu âr galòn, felly hefyd â grâs yn y galon, hynny yw, rhaid yw i ni arfer rhadau sanctaidd Yspryd Duw wrth ganu, yn gystal ac wrth weddio; gan ymegnio ar osod allan yr unrhyw serch yn canu y Psalm, ac a wnaeth Dafydd yn ei scri∣fennu ni; megis os bŷdd hi yn Psalm o Gyffes, yna bod yn dangos peth gostyngeiddrwydd a drylliad Galon ac yspryd yn ei chanu hi. Os bŷdd hi yn Psalm, O Weddiau ac erfyniadau, yna mae yn rhaid i'n serchiadau fôd yn wresog. Os Psalm o foliant a diolchgarwch, yna y mae yn rhaid i'n calonnau ni fod yn llawen. Ac fel hyn y mae 'n rhaid i serch y galon fôd yn wastad yn gyfaddas i gynneddfen y Psalm.
III. Dyledswydd neilltuol arall iw chyflowni gŷd a'n Teulu, yw Gweddi. Canys os dylai 'r ddyledswydd ymma gael ei chyflowni bob dŷdd, ddwywaith or lleiaf, sef, foreu a hwyr, yna yn enwedigol ar ddŷdd yr Arglwydd, yr hwn a gyssegrodd yr Arglwydd yn hollawl iw addoliad ai wa∣sanaeth ei hun.
IV. Darllen yr Scrythyrau sydd Ddyledswydd arall iw chy∣flawni yn a chydâ'n Teulu, fel y gallont hwy felly fod yn
Page 91
gydnabyddus â Chorph yr Scrythyrau; ie ac âr Gor∣chymynion a'r addewidion, Hyfforddiadau a Chyssurau 'r Gair; o ran eu hyfforddiad a'u cyssur.
Heb law y rhai Cyffredinol a neilltuol, mae hefyd ddyled∣swyddau Dirgel i bob un iw cyflawni ar ei ben ei hun yn eu Stefyll neu eu Celloedd; y rhai ar fyr yw y rhai hyn.
1. Darllen rhyw gyfran o Air Duw, neu Lyfrau da eraill.
2. Myfyrio ar yr hyn a glywsoch ac a ddarllennasoch y dydd kwnnw; yr hyn sydd fodd rhagorol i wneuthur y Gair a ddarllenner ac a bregether yn fuddiol i chwi. Canys me∣gis am fwyd, er iached fyddo, nid yw yn ein maethu, oddieithr iddo ddygymmod â ni a threulio yn ein cylla: felly y mae am Air Duw, ymborth ein eneidiau ni, oddi∣eithr ei dreulio a'i ddosparthu drwy fyfyrdod, ni wnaiff ef ronyn o lês i ni; onid ar ôl ei dreulio drwy fyfyr∣dod, yna y bydd ef yn rymmus i faethu ein eneidiau ni.
3. Eich holi eich hunain, megis am eich buchedd, ach ymarweddiad gynt, felly yn enwedigol am eich ymddy∣giad yr wythnos ddiweddaf, ac am y modd y cyflawna∣soch ddyledswyddau y diwrnod. Ac megis ac y dylaech ymostwng am eich deffygion ynddynt, felly y dylaech ymroi, drwy gymmorth grâs Duw, ar fod yn fwy gwi∣liadwrus arnoch eich hunain am yr amser i ddyfod, ac i fôd yn fwy gofalus yn sancteiddio Dydd yr Arglwydd, drwy fôdd cydwybodus o gyflawni ei ddyledswyddau ef.
4. Gweddio ar Dduw sydd ddyledswydd arall iw chy∣flawni gennych chwi yn y dirgel, yn gystal ac yn gyffre∣dinol a neilltuol; ie chwi a ddylaech ddyblu a threblu eich Gweddiau ar Ddydd yr Arglwydd. Tan y Gyfraith, yr ydym ni yn darllen y modd y gofynnei yr Arglwydd Aberthau dauddyblyg ar y Dydd Sabbath: canys heb law yr Aberthau beunyddiol, dau oen ychwaneg a ordeinie∣sid iw hoffrymmu ar y Dydd Sabbath; pedwar i gŷd, i ddangos sancteiddrwydd y diwrnod; Numb. 28. 9, 10. Ac yn yr un modd y dylech chwithau ddyblu eich Aberthau ysp rydol o Weddi a Moliant ar Ddydd yr Arglwydd, gan att olwg yn ddifrifol ár iddo ef er mwyn Crist bardynu, megis eich pechodau yn gyffredinol, felly yn enwedigol
Page 92
yr amryw wendidau a'r amherffeithrwydd a lithrodd oddiwrthych yn cyflawni eich sanctaidd orchwylion, a'ch gwneuthur yn abl drwy ei Yspryd iw cyflawni hwynt am yr amser i ddyfod â mwy o fywyd a bywiogrwydd, ac â mwy o wrês ac awyddfrŷd.
Wedi dangos i chwi fel hyn y dyledswyddau Cyhoeddus, Neilltuol, a Dirgel hefyd o Dduwioldeb iw cyflawni ar ddydd yr Arglwydd. Yn awr y deuwn at y Gweithredoedd o Drugaredd, yr hyn sydd bwynt arall o ddyledswyddau a ddylid eu cyflawni ar y dydd ymma. Ac o herwydd bod dyn yn hanffod o ddwy ran, sef, Enaid a Chorph, a bod pob un or ddau yn ddarostyngedig i fagad o Gle∣fydon, am hynny y gellir dwyn y Gweithredoedd o Dru∣garedd ir ddau brif-byngcīau hyn. 1. Y cyfryw ac sy'yn perthyn i Enaid. 2. Y cyfryw ac sy yn perthyn i Gorph eich Cymmydog.
I. Y Gweithredoedd o Drugaredd y rhai sy yn perthyn i Enaid eich Cymmydog yw y rhai hyn, a'r cyffelyb.
1. Dyscu yr anwybodus mewn Pyngciau o Athrawiaeth an∣hepcor ac anghenrhaid eu gwybod.
2. Tywys Pechaduriaid i edifeirwch, trwy osod ger ei bronnau, megis trostrwydd Cyfiawnder Duw yn erbyn pob Pechaduriaid anedifeiriol, felly haelioni ei râs, a golud ei drugaredd i bob Pechaduriaid edifeiriol.
3. Cyssuro y sawl sydd yn anghyssurus, trwy deimlad o ri∣fedi a dihirwch eu pechodau, gan osod ger eu bronnau Holl-ddigonolrwydd Aberth Crist, a'r cynnhygion gra∣sol yn yr Efengyl i bawb a glywant eu pechodau yn faich iddynt, Mat. 11. 28.
4. Cynghori ac annog y sawl a ddechreuasant yn dda, i fy∣ned ym mlaen mewn ymmynedd a dianwadalwch; ir hyn y mae yr Apostol yn ein cynghori ni, A chydystyriwn bawb ei gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da, Heb. 10. 24▪
5. Argyoeddi a cheryddu y cyfryw rai ac sydd feius a thramgwyddus yn eu ffyrdd.
6. Dirwystro yr ammheus, drwy eu dwyn ar ddeall.
7. Cadarnhau a sefydlu y cyfryw rai ac sydd weiniaid mewn grâs, 1 Thes. 5. 14.
Drwy gydwybodus gyflawniad y Dyledswyddau hyn y
Page 93
dichon y rhai tlottaf allan, fod yn gyfoethogion mewn gweithredoedd da.
II. Y Gweithredoedd o Drugaredd, ar a berthynant i gorph ein cymmydog, yw y rhai hyn a'r cyffelyb.
1. Cynnorthwyo 'r sáwl sydd mewn eisiau. Yr Apostol wrth gynghori'r Corinthiaid, 1 Cor. 16. 1, 2. I roddi rhyw beth heibio yn eu hymyl, gan drysori, bob dydd cyntaf or wythnos, (yr hwn yw dydd yr Arglwydd) sy yn arwyddocau fod hwnnw yn amser cymmwys, nid yn unic i wneuthur y eyfryw weithredoedd o drugaredd ar sy yn ymgynnyg i ni y pryd hynny, ond hefyd i baratoi erbyn amseroedd eraill. A diammau, ped fai bob un ar bob dŷdd yr Ar∣glwydd yn rhoddi rhyw beth heibio yn ei ymyl o'r hyn a ddeuai iddo ef i fewn yr wythnos honno, gan drysori peth iw roddi ar achosion o eluseni, y gellid gwneuthur llawer o ddaioni drwy hynny. Canys megis ac y bydd gan ddynion drwy hyn ychwaneg iw roddi, nag y cly∣went hwy ar eu calonnau oni bai hynny moi wneuthur ar ddyddiau yr wythnos: felly hwy a roddent yn helae∣thach, ac yn ewyllysgarach, o herwydd bod y trysor o'r hwn y maent yn rhoddi gwedi ei baratoi ym mlaen llaw; ac ynteu yn Drysor cyssegredig, drwy ei gwaith hwynt ou gwirfôdd yn ei neilltuo ef i'r cyfryw ddefnydd, eu cydwybodau ai cyfrif yn gyssegr-yspail ei osod ef a∣llan ffordd arall yn y bŷd. Ped fai ddynion tlodion sy yn byw ar lafur y diwrnod neu wrth eu gwaith, a gwei∣sion a morwynion sy yn byw ar eu cyflogau, ar bob dydd yr Arglwydd yn rhoddi yn ei hymyl rai dimmelau neu geinhiogau, ir diben a'r arfaeth ymma; gallai fod ganddynt heb ddim colled iddynt eu hunain y gwyddont oddiwrthi, drysor ir tlodion. Pa faint mwy trysor a fy∣ddai ir tlodion, ped fai wŷr cyfoethogion; yn ôl y mae Duw yn eu bendithio, yn gweuthur felly?
2. Ymweled âr clâf, ac âr cyfryw rai ac y caethiwer eu rhydd-did ffordd arall. Hyn a gawn ni fod yn ei arfer gan ein Jachawdwr, a hynny ar y dydd Sabbath; ar ól dar∣fod yr Ordinhadau cyhoeddus; megis Marc. 1. 29, 30. lle y ddarllennwn, ddarfod i'n Iachawdwr; a rhai o'i Apo∣stolion, Yn y man wedi iddynt fyned allan o'r Synagog, fyned
Page 94
i ymweled â chwegr Simon Petr, yr hon oedd yn gorwedd yn glâf or crŷd; yr hyn sy yn dangos, fod Crist yn cyfrif ymweled âr clâf yn weithred o drugaredd, cymmwys iw gwneuthur ar y Sabbath. Or hyn y gallwn ddyscu, fel y bo achos gyfiawn yn ymgynnyg, i dreulio rhyw amser or Sabbath yn ymweled âr clâf, a hynny yn weithred enwedigol o drugaredd briodol ir Sabbath; ie, ac yn fôdd enwedigol i lenwi ein meddyliau ni â Myfyrdodau ysprydol, a'n geneuau ag ymddiddanion sanctaidd, y rhai ydynt rannau o neilltuol sancteiddiad y Sabbath. Yr am∣ser gan hynny y mae eraill yn ei dreulio mewn seguryd, neu gymdeithas ofer, neu yn eisteddial wrth ei dry sau yn yr heolydd, neu yn rhodienna ar hyd yr heolydd a'r meusydd, moeswch i ni ei dreulio ef yn y gweithredo∣edd hyn o drugaredd, neu 'r cyffelyb.
Heb law y dyledswyddau ymma o Dduwioldeb, a'r Gweithredoedd o Drugaredd, y rhai a orchymynnir eu gwneuthur ar ddydd yr Arglwydd, y mae rhyw bethau y mae 'r Arglwydd yn eu caniattau i ni oblegid gwen∣did a llesgedd ein cyrph, sef, Cwsg, Ymborth, a Dillad. Oblegid nad allwn ni mewn grym a dyfyrrwch dreulio yr holl ddiwrnod mewn dyledswyddau Sabbathaidd heb orphywysdra, ymborth, ac ymwisgiad cymmhedrol; am hynny y mae yn gyfreithlon i ni dreulio peth amser, me∣gis yn cysgu, felly yn ymddilladu hefyd, ac yn llonni ein cyrph â lluniaeth, y rhai oni bai hynny a fyddent barod i lewygu; Eithr trwy gymmhedrol arfer y rhai hyn, y gwneir ni yn abl i wneuthur y pethau a gym∣merom ni mewn llaw yn fwy cyssurus.
Eithr yn hyn y mae dau beth i ddalsulw arnynt y dy∣lid eu gochel yn ofalus.
1. Ni ddylaech chwi dreulio dim ychwaneg o amser yn eu cylch hwynt nag y fyddo yn angenrheidiol. O herwydd pa ham wedi i'ch cyrph gael eu llonni â chymmhedrol gwsg, chwi a ddylech geisio codi yn foreu ar ddydd yr Ar∣glwydd, megis ynghylch chwech neu saith ar y glôch, a bod cyn brysured ac y bo 'n bossibl yn eich tacclu eich hunain; ac nad eisteddoch ddim hŵy nag y bo yn rhaid ar eich prydiau bwyd; fel y galloch chwi felly gael ych∣waneg
Page 95
o amser i gyflawni dyledswyddau Addoliad a gwa∣sanaeth Duw ar ei ddydd ef. Ac yn ddiau, gan fod yr Arglwydd mor ddaionus a grasol wrthych, ai fod ef yn cyfrannu i chwi ryw gyfran o'i ddydd ei hun o ran llon∣nychdod i'ch cyrph; pell fyddo oddi wrthych chwi ga∣marfer ei ddaioni ef, drwy wastraffu ymmaith fwy o am∣ser yn hynny nag a fyddo yn angenrheidiol.
Yr ail peth iw othelyd yw, Na wneler hwynt ond megis Gweithredoedd-dyddiau-Sabbath, yr hyn a wneir ddwy ffordd.
1. Drwy eu gwneuthur hwynt ir diben ymma, fel drwy hynny, y galloch chwi fod yn applach i wasanaethu Duw. Fal hyn, wrth eich mynediad i orwedd yn yr hwyr o flaen y Sabbath, pan ydych chwi yn dymuno ar i Dduw ro∣ddi i chwi gwsg esmwyth, cyssurus, fel y gallo eich cyrph egwan drwy hynny gael eu llonni, ac y byddoch chwithau yn applach iw wasanaethu ef dranoeth yn ny∣ledswyddau ei addoliad ai wasanaeth ef, hwn sydd gwsg Sabbath. Yn yr un môdd, pan ydych yn bwytta ac yn yfed ir diben hwn yn unic, fel y gallo eich cyrph gael eu llonni, a'ch ysprydoedd eu bywiogi, ac fel y bo i chwithau drwy hynny gael eich gwneuthur yn applach i wasanaethu Duw mewn llawenydd y rhan arall or diwrnod, hyn sydd fwytta ac yfed Sabbathaidd.
2. Drwy godi ysprydol a nefol fyfyrdodau allan o honynt. Ar eich deffroad cyntaf, chwi a ddylech gofio pa ddiwrnod ydyw ef, ac wedi bendithio Duw am eich gorphwysdra a'ch cwsg diddanus y noson honno, chwi a ddylech er∣fyn ganddo gymmorth enwedigol ei râs, i'ch dwyn chwi drwy holl ddyledswyddau'r diwrnod. Pan ydych yn codi o'ch gweláu, chwi a ddylech feddwl, megis am adgy∣fodiad corph Crist allan o'i fedd yn foreu y dydd hwn∣nw, felly hefyd am adgyfodiad eich Eneidiau ymma o far∣wolaeth pechod, i fuchedd sancteiddrwydd, a'ch Cyrph ar y dydd olaf allan o fedd y ddaiar i fywyd gogoni∣ant yn y Nefoedd. Wrth ymwisco am danoch chwi a ddylech feddwl am y Wisg wen laes o Gyfiawnder Crist, ac am ddedwyddwch y rhai sydd iddynt hawl ynddo. Wrth olchi eich dwylo a'ch wynebau, oddiwrth rin∣wedd
Page 96
glân-waith y dwfr, chwi a ddylech gymmeryd ach∣lysur i fyfyrro am rinwedd glanweithrym gwaed Crist, yr hwn yn unic sydd yn golchi eich eneidiau oddiwrth fudron frychau ac amliwiau y pechod Pan eloch a'r eich byrddau, i fôd yn gyfrannogion o ddaionus greaduriaid Duw, eich ymborth corphorol o ran maeth eich cyrph, a ddylai roddi achlysur o fyfyrio ar ymborth ysprydol eich eneidiau, drwy yr hwn y maethir hwynt i fywyd tragywyddol. Y bara ar eich Byrddau a ddylai ddwyn ar gôf i chwi am Jesu Grist, yr hwn yw bara 'r bywyd a ddescynnodd o'r Nefoedd i fywocau eich eneidiau meir∣won. Fal hyn y dylech chwi oddiwrth bob dim roddi cais ar dynnu defnydd o fyfyrdod ysprydol a nefol, gan wneuthur eich goreu ar gadw eich calonnau mewn ag∣wedd sancteiddlan ar hyd y dydd. Canys yr hyn a ddy∣wedodd ein Iachawdwr wrth ei Ddiscyblion ynghylch y torthau a'r pyscod, Cesclwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim; Y cyffelyb a ellir ei dybied ei fod ef yn ei lefaru ynghylch Dy ld yr Arglwydd, Cesclwch ei holl ddar∣nau ef, fel na choller un rhan or diwrnod, cymmaint a'r munudau lleiaf, y rhai ydynt werthfawr, megis y llwch manaf o lifion Aur.
Megis ac y mae 'r Arglwydd yn caniattau i chwi ryw bethau y rhai y mae eich cyrph gweiniaid yn sefyll mewn eisiau o honynt, fel y galloch chwi drwy hynny fod yn applach i wasanaethu Duw ar ei Ddydd ef: felly y mae yn rhyngu bodd iddo ef ganiattau rhyw bethau iw gwneuthur gennych, sef ar ei ddŷdd ef, er iddynt fôd yn rhwystro gweithredoedd priodol y diwrnod; ac y maent yn gysryw bethau ar sydd o lwyr angenrheidrwydd.
Cwest. Os gofynnwch chwi beth yr wyfi yn ei feddwl wrth weithredoedd o lwyr angenrheidrwydd?
Atteh. Y rhai sydd raid eu gwneuthur▪ ac etto nid e∣llid mo'i gwneuthur y dydd o flaen y Sabboth, na'i ho∣edi ir dydd nessaf, heb fawr niwed. Eithr or gwrthwy∣neb, y cyfryw bethau ar sydd heb fod mewn modd yn y bŷd yn helpu ymlaen sancteiddiad y diwrnod, ond yn hyttrach ydynt yn ei rwystro, ac ▪y galler eu gwneuthur yn gystal ar y dydd or blaen, neu y dydd ar ôl, neu
Page 97
ryw amser arall, ni ddylid ddim moi gwneuthur ar Ddydd yr Arglwydd.
Wedi i mi ddarfod fel hyn â'r Hyfforddiadau am un∣iawn Sancteiddiad dydd yr Arglwydd.
III. Yn awr y deuwn ni at yr Annogaethau i'ch bywi∣ogi chwi i ganlyn yr Hyfforddiadau yn gydwybodus.
1. Mae uniawn Sancteiddiad Dydd yr Arglwydd yn gw∣neuthur llawer tu ag at anrhydedd Duw. Deliwch ar yr hyn y mae 'r Arglwydd ei hun yn ei ddywedyd wrth ei E∣glwys yn yr achos ymma, drwy ei Brophwyd Esay, Pen. 58. 13. O throi dy droed oddiwrth y Sabboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd Sanctaidd, a galw y Sabboth yn hyfryd∣wch, Sanct yr Arglwydd yn ogoneddus, a'i anrhydeddu ef. Ymma y dywedir yn eglur, mai trwy sancteiddio y Sab∣both yn iawn, Yr ydym ni yn anrhydeddu Duw.
2. Ʋniawn sancteiddiad y Sabboth sydd fuddiol i chwi cich bunain, mewn ystyrieth ddauddyblyg.
1. O ran eich stâd amserol oddiallan.
2. O ran eich stâd ysprydol oddifewn.
1. Mae sancteiddiad y Sabboth yn fuddiol o ran eich stâd am∣serol oddiallan. Canys po mwyaf cydwybodus ydyw un dŷn yn Sancteiddio y dydd Sabboth, mwyaf bendith a ddi∣chon ef ei disgwyl oddiwrth Dduw ar ei lafur y chwe diwrnod. Canys nid eich llafur a'ch ymboeni eich hu∣nain, onid bendith yr Arglwydd a gyfoethoga, Dih. 10 22.
2. Sancteiddiad y Sabboth a fydd yn fuddiol o ran eich cy∣flwr ysprydol oddifewn. Canys hwn oedd un o'r dibenni∣on pennaf, pa ham yr ordeiniwyd y Sabboth, sef, fel y gallai Dduw drwy hynny yn yr arfer oi ordinhadau ef gyfoethogi ein eneidiau ni â bendithion ysprydol mewn nefolion bethau. Ac y mae Sancteiddiad y Sabboth yn hollawl yn fodd enwedigol i genhedlu grâs, a hefyd i gadarnhau grâs; canys yr Arglwydd ai hordeiniodd ef i fod yn Ddydd-marchnad ir enaid. Ac yn ddiammeu, pe byddem ni mor deimladwy o ddaioni ein eneidiau, ac yr ydym ni o ddaioni ein cyrph, yr hwsmyn gorau ar a allai fôd ni chadwent moi Dyddiau-marchnad, a'u ffeiriau ddim mwy dyfal; nag y cadwen ni Ddyddiau yr Arglwydd.
3. Ʋniawn Sancteiddiad y Sabboth sydd hyfryd iawn i bobl
Page 98
Dduw, yn gymmaint ai bod yn mwynhau cymdeithas a chymundeb oddifewn â Duw yn ei ordinhadau ar y dydd hwnnw, yr hyn yw yr happusrwydd mwyaf y mae 'n bossibl i greaduriaid truain allu ei gyrraedd yn y by∣wyd hwn, gan mai nefoedd ar y ddaiar yw mwynhau cymmundeb â Duw, a rhyw râdd or nefol lawenydd hwnnw a gawn ni ar ôl hyn ei fwynhau yn gyflownach yn y nefoedd. Pa fodd y dylai yr ystyriaeth o hyn eich cynnhyrfu chwi i sancteiddio Dydd yr Arglwydd yn ofalus ac yn gydwybodus, fel y galloch chwi felly gael prawf o'r cyssurau a'r llonnychdod hyfrydlawn hynny, y rhai y darfu i eraill mor helaethlawn en mwynhau?
4. Y mae sancteiddiad y Sabboth yn dra rhagorol yn dwyn ym mlaen bywyd a grym duwioldeb drwy 'r wythnos a ganlyno. A'r siccr wirionedd yw, am yr hwn ni wnelo ddim cy∣dwybod o gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath, na wnaiff hwnnw fawr gydwybod o gadw yr un o'r Gorchymyni∣on eraill, am y gallo ei wneuthur heb anglod iw enw da, neu berygl cyfraith ddynol. Gwelwch pa ryw ofal a chydwybod fyddo gan ddŷn yn cyflawni dyledswyddau duwioldeb tu ag at Dduw ar y dydd Sabboth, yn yr un môdd y mae ef yn ofalus ac yn gydwybodus yn cyflaw∣ni dyledswyddau o sancteiddrwydd tu ag at Dduw, ac o gyfiawnder tu ag at ei gymmydog ar ddyddiau 'r wyth∣nos.
5. Annogaeth arall a ellir ei chymmeryd oddiwrth Iawnder sancteiddio y dydd hwn. Canys gan ddarfod ir Arglwydd gyfrannu i ni chwe diwrnod mewn saith i'n gwaith ein hunain, ac na chadwodd efe iddo ei hun ond ûn iw addo∣liad ai wasanaeth ef; yn gymmaint ac y gallasai ef ofyn chwe diwrnod iw addoliad, ac na chaniadhaesai onid ûn i'n gwaith ni; onid yw or fath gyfiawnaf ac uniow∣naf fod i ni wneuthur cydwybod o roddi i Dduw ei Ddŷdd ef, drwy ei gyssegru ef yn hollawl iw addoliad ai wasanaeth ef? fel y dywedodd Joseph wrth wraig Putiphar, pan demptiodd hi ef i aflendid, Gen. 39. 9. Ni waharddodd fy meistr ddim rhagof onid tydi, oblegit ei wraig ef wyt ti; pa fodd gan hynny y gallaf wneuthur y mawrddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw: Yn yr un modd dywed titheu wrth
Page 99
dy gymdeithion ofer, pan demptier di mewn modd yn y bŷd i halogi 'r Sabbath, Duw y Goruchel Arglwydd, a Meistr y bŷd, ni waharddodd ddim amser rhagof, onid un dydd, oblegit eiddo ef ydoedd; pa fodd gan hynny y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?
PEN. XX. Am Sacrament Swpper yr Arglwydd.
ER mwyn bod yn gyfrannog mewn môdd teilwng o Sacrament Swpper yr Arglwydd, y mae tri mâth o ddyledswyddau a ofynnir.
1. Dyledswyddau Blaenorawl, sef, y cyfryw rai ac sydd raid iddynt fyned o flaen y Sacrament.
2. Dyledswyddau Cydganlhynawl, sef, y cyfryw rai ac sydd raid iddynt gydganlyn â'r weithred o dderbyn.
3. Dyledswyddau Dylynawl, sef, y cyfryw rai ar sydd raid iddynt ddilyn ar ôl.
I. Am y dyledswyddau Blaenorawl, er eu bod yn lla∣wer, etto fe ellir eu dwyn hwynt oll tan yr un pen ym∣ma o Ymholiad, yr hwn nid yw yn unic yn ganmoledic gan yr Apostol, Holed dŷn ef ei hun, ac felly bwyttaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan; Eithr a yrrir ac a ddirir arnom â mwy o dostrwydd nag un Gorchymmyn o fewn Llyfr Duw; Canys medd yr Apostol yn yr unrhyw fan, Pwy bynnac, trwy esceuluso y ddyledswydd hon o Ymholiad, A fwyttaô, neu a yfo▪ yn anheilwng, 1 Sydd yn euog o gorph a gwaed yr Arglwydd; 2. Ac yn bwytta ac yn yfed barnedi∣gaeth iddo ei hun, 1 Cor. 11. 27, 28, 29.
1. Bôd yn euog o gorph a gwaed Crist, yw mewn rhyw fesur bod â'n dwylo yn angeu a dioddefaint waedlyd Crist, ac felly yn ddylynawl, bod yn gyfrannogion gydâ Judas yn ei fradychu ef, gyd âr Scrifennyddion a'r Phari∣soeaid yn ei gyhuddo, gŷdâ Philat yn ei gondemnio ef, a chydâ'r Milwŷr creulon yn ei groeshoelio ef. Calon pwy nid yw yn codi mewn digofaint yn erbyn y rhai'n, pan ddarllenno neu yr ystyrio eu creulon driniaeth hw∣ynt
Page 100
â'u bendigedig Iachawdwr, yn ei wialennodio a'i fflangellu ef, yn ei watwar ac yn ei wawdio, yn ei wanu a'i groeshoelio ef? Ac am hynny gochel ditheu rhag i ti yn y cyffelyb fôdd fôd yn euog drwy dy anheilwng dder∣bynniad o Sacrament Swpper yr Arglwydd, drwy dy ddy∣fodiad iddo yn amharod. Darllen yr ydym pa fôdd yr oedd gwaed Abel ddiniwed, yn gorwedd cyn drymmed ar Cain, oni lefodd ef allan, Mwy yw fy nghospedigaeth nag y gallaf ei oddef, Gen. 4. 13. Drymmed gan hynny y gorwedd gwaed Jesu Grist yr hwn ydoedd nid yn unic yn ddŷn diniwed, ond yn fwy na dŷn, ar y rhai sydd euog o hono? Chwi a wyddoch ddarfod iddo orwedd ar Judas cyn drymmed, onid ymgrogodd ef, Mat. 27. 5. Ac ni ellwch chwi nas gwyddoch drymmed y gorweddodd ef ar holl genedl yr Iddewon er ys llawer cant o fly∣nyddoedd, yn ôl eu dymuniad melltigedig hwnnw, By∣dded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant, Mat. 27. 25. Megis gan hynny na fynnit ti moth gael yn euog o'r pe∣chod erchyll ac ofnadwy ymma, gwnâ ddefnydd o gyn∣gor yr Apostol, sef, Hola dy hun cyn i ti ryfygu bod yn gyfrannog or Ordinhâd hôn.
2. Yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn anheilwng; sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun; felly y mae ein cyfieithwŷr ni yn ei adrodd. Yn siccr y gair yn y Groec a gyfieithir barnedigaeth, a all arwyddocau Ge∣rydd amserol, yn gystal a chospedigaeth dragwyddol. Ac yn ddiddadl, megis y mae rhagrithwŷr a'r rhai digrêd, tra fônt yn bwytta ac yn yfed yn anheilwng, yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddynt eu hunain, onid edifarhânt: felly hefyd y cyfryw ac sydd gredadwy a phûr Gristia∣nogion, pan ydyut drwy wendid ac esceulusdra yn gy∣frannogion o'r ordinhâd hon yn anheilwng, ydynt drwy hynny yn cyfarfod â barnedigaethau amserol, megis cle∣fyd, gwendid, ac weithiau marwolaeth ei hun. Canys medd yr Apostol, 1 Cor. 11. 30. Wrth lefaru am y Co∣rinthiaid credadwy, y rhai nid ymbaratoesent fel y dyla∣sent i'r ordinhâd honno; Oblegid hyn y mae llawer yn wei∣niaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno, neu yn marw. Am ba achos? sef, oblegid darfod iddynt dder∣byn
Page 101
y Sacrament yn anheilwng, ac yn ammharchus, heb ddim ymbaratóad ac ymholiad. Caniattáu yr ydwyf, na ellir dywedyd fod y dynion goreu ynddynt eu hunain yn deilwng i gyfranogi o'r ordinhâd hon: Er hynny os wyt ti Gristion credadwy, ac yn ddiffuant yn gwneu∣thur dy oreu ar ei dderbyn ef, yn y môdd hwnnw, ac á'r cyfryw serchiadau ac y mae yr Arglwydd yn gofyn gennit, fe ellir dywedyd (er anheilynged ydwyt ti ffordd arall) dy fod yn dderbyniwr teilwng.
Wedi dangos fel hyn yr Angenrheidrwydd o'r ddy∣ledswydd o Ymholiad, deuwn yn awr at ei Chyrrhae∣ddiad hi, yr hyn a ellir ei ddwyn i ddau o bennau, sef,
1. Dy radau. 2. Dy bechodau.
Yn gyntaf, Rhaid i ti dy holi dy hun ynghylch dy radau, yn fwy enwedigol am dy Wybodaeth, ffydd, Edifeirwch, a'th Gariad.
Ynghylch Gwybodaeth myfi a ddangosaf,
1. Pa Wybodaeth a ofynnir gan bob Cymmunwr teilwng. 2. Yr Angenrheidrwydd. 3. Ar Prawf o hono.
1. Am y cyntaf, pa Wybodaeth a ofynnir?
Myfi a attebaf yn gyffredinol, Gwybodaeth o holl Brif∣byngciau sail Crefydd.
Yn neilltuol, Gwybodaeth o Athrawiaeth y Sacrament.
Prif-byngciau sail Crefydd yw 'r cyfryw rai ac y seili∣wyd ein Iechydwriaeth arnynt, heb wybodaeth o honynt ni ddichon dŷn fôd yn gadwedig, a'r rheini yw y rhai hyn.
Bôd Duw. Nad oes onid un Duw. Bod yr unic wîr Dduw hwnnw yn wahanrhedawl i dri o Bersonau, y Tâd, y Mâb, ar Yspryd Glân, oll yn Dduw gogyfuwch. Mai y Duw hwnnw yw Creawdwr a Rheolwr pob peth. Wneuthur o hono ef bob peth yn dda, ai fod ef fŷth yn eu llywodraethu hwynt yn gyfiawn. Wneuthur o hono ef ddŷn yn en∣wedigol yn berffaith gyfiawn. Nad arhosodd dŷn chwaith yn hîr yn ei gyflwr dedwyddol, onid cwympo o hono ef drwy droseddu Gorchymmyn Duw yn bwytta 'r ffrwyth gwaharddedig. Ein bôd ni oll yn euog o bechod Adda, gan ein bôd yn ei lwynau ef pan bechodd y pechod hwn∣nw.
Page 102
Ddwyn o bob un o honom ni ir bŷd naturiaethau llygredig a halogedig, naturiaethau cyn llawned o be∣chod, ac yw y llyffant dû o wenwyn. Ddarfod i ni at y llygredigaeth gwreiddiol ymma, chwanegur hif aneirif o drofeddiadau gwneuthurol, a hynny mewn drwg fe∣ddyliau, drwg eiriau, a drwg weithredoedd. Ddarfod i ni drwy ein pechodau ein gwneuthur ein hunain yn hy∣rwym i ddigofaint Duw, i felltith y Gyfraith, i bôb math o farnedigaethau a Phláau yma, ac i ddiddrangc farwo∣laeth a damnedigaeth ar ôl hyn. Na ddichon un dŷn moi waredu ei hun allan o'r cyflwr truenus hwnnw, ir hwn yr ymsoddodd ef drwy bechod, ac na eill neb nad yw ond creadur yn unic moi gymmorth ef. Ddarfod i Dduw oi hyrâd râs, a'i oludog drugaredd, anfon ei fab ei hun o'i fynwes ir bŷd i gymmeryd ein naturiaeth ni arno, fel yn hwnnw y gallei ef ddyfod yn feichiau ac yn Brynnwr i ni, fód Crist yn Dduw ac yn Ddŷn mewn un person. Ei gael ef drwy yr Yspryd Glân, a'i eni ef o'r forwyn Fair. Ei farw ef ar y Groes i achub ei bobl oddiwrth eu pechodau; Ei adgyfodi ef o feirw y try∣dydd dydd, escyn o hono ir Nefoedd, ai fôd yn eistedd ar ddeheulaw Duw, ac yn eirioli drosom ni yn wastadol. Mai trwy ffydd y gwneir ni yn gyfrannogion o Grist, ac o'r llesâad sydd o'i angau a'i ddioddefaint ef. Mai dawn Duw yw ffydd, a weithir ynom ni gan Yspryd Duw, drwy Weinidogaeth y Gair, drwy yr hon yr ydym ni yn derbyn Crist ar gynnygion yr Efengyl, ac yn gorphywys arno yn unic am bardwn o'n pechodau, ac am fywyd ac lechydwriaeth dragwyddol Ddarfod i Dduw weled yn dda wneuthur â ni yn, a thrwy Grist Gyfammod newydd o Râs, yn yr hwn yr addawodd ef bardwn o'n pecho∣dau, ac iechydwriaeth ein eneidiau, ar yr ammod o ffydd ac edifeirwch.
Y Prif-byngciau neilltuol ynghylch Sacrament Swpper yr Arglwydd yw y rhai hyn.
Ddarfod ir Arglwydd ei hun ei ordeinio ef, megis coffadwriaeth o'i fawr gariad ef, yn offrwm ei einioes yn Aberth dros ein pechodau ni. Fod hwn yn gystal a'r Sacrament arall o fedydd, yn sêl Cyfammod Duw, drwy'r
Page 103
hyn y mae ef yn ei rwyno ei hun i gyflawni yr adde∣widion a wnaeth ef â ni yn-Ghrist, o ran cadarnhau ein ffydd ni ynddynt. Mai yr arwyddion oddiallan yn Swpper yr Arglwydd ydynt fara a Gwîn, drwy y rhai y gosodir allan gorph a gwaed Crist, y rhai y mae 'r derbynwyr teilwng trwy ffydd yn gyfrannogion o honynt yn y Sacrament hwn. Fod pwy bynnac a fwyttáo ac a yfo yn anheilwng, yn euog o Gorph a Gwaed Crist; ac am hynny fod yn rhaid i bob un ei holi ei hun, rhag iddo fwytta ac yfed barnedigaeth iddo ei hun.
Wedi dangos fel hyn pa wybodaeth yw honno ar a ofynnir gan bob Cymmunwr teilwng.
II. Yn awr mi a ddangosaf yr Angenrheidrwydd o honi, yr hyn sy yn ymddangos,
1. Oblegid heb yr wybodaeth ymma ni all dŷn bŷth gyrraedd yr un o'r rhadau eraill; canys ni ddichon dŷn anwybodus na chredu, nac edifarhau, na charu Duw neu ei gymmy∣dog yn iawn.
2. Oblegid heb yr wybodaeth ymma, ni ddichon dŷn iawn farnu corph yr Arglwydd, yr hyn onis gwnaiff, T mae ef yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, 1 Cor. 11. 29. Ac am hynny mae 'n llwyr-angearheidiol i bawb a dder∣bynio Swpper yr Arglwydd, iawn farnu corph yr Arglw∣ydd, sef, deall fod ychwaneg iw dderbyn nag a ganffy∣ddir â llygad y corph. Ir llygad corphorol nid oes dim yn ymddangos ond Bara a Gwin ar y Bwrdd, ond trwy rinwedd y ddwyfol ordinhâd, y mae yno hefyd gorph a gwaed Crist; os hyn nis iawn fernir, yr ydys yn colli llesáad y Sacrament. Eithr nid yw bossibl heb wybodaeth (yr hon yw llygad yr enaid) mor iawn farnu y corph a'r gwaed hwnnw tan yr elfennau o fara a gwîn, ac am hynny y mae 'r wybodaeth ragddywededig yn llwyr an∣genrheidiol.
III. Am y Trydydd pwngc, sef, Y Prawf o'th wybo∣daeth, a yw hi yn wir iachusawl wybodaeth; ti a elli ei hadnabod hi wrth ei phriodoliaethau; rhai o honynt yw y rhai'n.
1. Mae gwir iachusawl wybodaeth yn Brofedic, drwy yr hon y mae gan Gristion brofiad a theimlad ysprydol o'r
Page 104
hyn y mae yn ei wybod. Nid oes ganddo ef yn unic wy∣bodaeth gyffredinol a gwybodaeth pen am Dduw, ac am ei gyflwr truenus ei hun wrth naturiaeth, ac am Je∣su Grist; eithr y mae ganddo ef hefyd wybodaeth bro∣fedig o Dduw, ac o'i Briodoliaethau; megis o'i allu yn ei gynnal ef tan ei brofiadau a'i demptasiwnau, o'i ffydd∣londeb ef yn cwplau ei addewidion iddo ef. Mae ganddo ef hefyd ystyriol deimlad o'i gyflwr truenus ei hun wrth naturiaeth; A gwybodaeth brofedig o Jesu Grist, fel y mae ef yn adnabod Crist yn Iachawdur ac yn Brynnwr iddo, ac y mae yn gorphywys ar eî haeddedigaethau ef yn unic am fywyd ac am Iechydwriaeth. Wrth hyn gan hynny praw a hola dy wybodaeth, &c.
2. Mae gwir iachusawl wybodaeth yn Ostyngedic, ac yn gyssyllte∣dic ag addfwynder yspryd. Canys po cywiraf yw 'r wybodaeth a fo gan ddŷn, goreu y mae ef yn deall ei anwybodaeth ei hun, a'i waeledd hefyd oblegit ei bechodau. Ac am hynny chwi a gewch glywed y Cristianogion hynny, y rhai oeddynt fwyaf rhagorol mewn gwybodaeth a grâs, yn cwyno yn fwyaf, megis rhag eu hanwybodaeth, felly rhag eu bryntion a'u drygionus galonnau eu hunain, fel y gellwch chwi weled yn Paul ac eraill, Rhuf. 7. 24. Eph. 3. 8. Ac nid rhyfedd, wrth ystyried fod gwîr iachusawl wybodaeth yn datcuddio i ddŷn ei waeledd a'i drueni ei hun oblegid ei bechodau; ei anheilyngdod ei hun, ie ei wegi a'i ddiddim ei hun, o ran dim daioni o'r eiddo ef ei hunan. Eithr y mae gwybodaeth ansancteiddiedic yn chwythu dŷn i fynu gan falchder, a thŷb da o hono ei hun, hyd oni byddo yn dirmygu ac yn diystyru eraill, yr hyn y mae yr Apostol yn ei adrodd yn eglur, lle y mae 'n dywedyd, Gwybodaeth sydd yn chwyddo, 1 Cor. 8. 1. Wrth hyn gan hynny praw a hola dy wybodaeth, a yw hi gadwedigol a sancteiddiedig, ai nid yw.
3. Mae gwir iachusawl wybodaeth yn fywiog ac yn llafurus, yn wastadol yn cyd redeg gyd ag ymarfer ac ufydd-dod, ac y mae hi yn gweithio diwygiad ynghalon a buchedd y neb y mae hi ganddo.
II. Yr ail grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob cymmunwr, am yr hwn y mae yn rhaid i ti dy holi dy hun, yw ffydd. Yn∣ghylch
Page 105
yr hon mi a ddangosaf i chwi, 1. Beth yw ffŷdd. 2. Yr Angenrheidrwydd o honi. 3. Rhai Arwyddion a Nodau o ran ei phrofi hi.
I. Am y cyntaf, beth yw y ffydd ymma. Mi a attebaf. Gwir iachusawl ffydd yn cyfiawnhau, a ellir ei phortrei∣adu fel hyn. Ffydd sydd râs a weithir ynghalon pechadur, gan yspryd Duw, trwy weinidogaeth y gair; drwy yr hyn ac ef wedi ei argyhoeddi o'i gyflwr pechadurus a thruenus, ac o bob anallu ynddo ei hun, neu yn ûn unic greadur arall, iw ryddhau ef allan o'r cyflwr hwnnw, y mae ef yn myned yn hollawl allan o hono ei hun at Jesu Grist, a chan ei dderbyn ef megis ei holl-ddigonol Achubwr ai Ben-llywydd, gorphywys y mae ar ei berffaith gyfiawnder ef, a'i holl-ddigonol Aberth am bardwn a maddeuant o'i bechodau ymma, ac am fywyd trag∣wyddol ac Iechydwriaeth ar ôl hyn, gan ei roddi ei hunan i fynu i ewyllys a llywodraeth Crist Jesu.
II. Angenrheidrwydd y grâs hwn o ffydd i bob Cym∣munwr sy yn ymddangos.
1. Oblegit heb ffydd ammhossibl yw rhyngu bôdd Duw mewn un sanctaidd ordinhâd, Heb. 11. 6. Eithr gwir ffydd a gen∣myl ein personau a'n gwasanaeth ni gŷdâ Duw, cyn belled a'u bôd mewn cymmeriad gyd ag ef, er iddynt fôd yn llawn o wendid ac ammherffeithrwydd. Hyn a wnaeth Aberth Abel mor gymmeradwy gan Dduw. Os deui di gan hynny ir Ordinhâd hon heb ffŷdd, yn lle dyhuddo Duw, ti a bwrcesi ei orthrwm ddigofaint ef.
2. Oddieithr bod ffydd gennit cyn i ti nesau ir ordinhâd honno, nid yw y Sacrament yn dyfod ond megis yn sêl wrth bapir gwyn, ac yn gwasanaethu yn unic i selio i fynu dy an∣ghrediniaeth i ddamnedigaeth. Fe ofynnir gan hynny o anghen∣rhaid gan bob Cymmunwr teilwng, fod ganddo ffydd, cyn iddo ddyfod i Swpper yr Arglwydd: canys ni ap∣pwyntiwyd yr ordinhâd honno i weithio ffydd ond iw chryfhau hi. Fe all dŷn ddyfod i weinidogaeth y gair er ei fod yn ddiffydd, o herwydd ei bôd yn ordinhâd a o∣sodwyd gan Dduw o ran cenhedlu ffydd, yn ôl a ddy∣waid yr Apostol, Ffydd sydd trwy glywed, Rhuf. 10. 17. Ond nid oes neb i ddyfod ir Sacrament, ond y sawl y mae ffydd ganddynt wedi ei gweithio ynddynt. Am nad yw
Page 106
honno yn ordinhâd a osodwyd gan Dduw i genhedlu ffydd, eithr yn hyttrach iw chryfhau hi. Ni ordeiniwyd hi ir sawl sydd allan o Grist, iw dwys hwy i fewn, eithr ir sawl sydd yn Ghrist iw meithrin hwynt ynddo ef. Fel y mae yn rhaid geni dŷn cyn gallu o hono fw∣ytta: felly y mae yn rhaid iddo ynteu fod wedi ei ail∣genhedlu gan Yspryd Duw, cyn y gallo ymborthi ar Gorph a Gwaed Crist o ran ei ysprydol fagwriaeth. Nid wyfi yn dywedyd, fod yn rhaid i bawb a ddelont ir Sa∣crament fod ganddynt yr unrhyw fesur o ffydd, ond bod yn rhaid bod ganddynt oll yr unrhyw gywirdeb o ffydd.
III. Am y trydydd Pwngc, sef, Profiad dy ffydd, a yw hi gywir a chadwedigawl; Ti a elli ei hadnabod hi drwy y ddau Brif-nodau hyn, gan adel heibio lawer e∣raill.
1. Mae gwir ffydd yn derbyn Crist yn ei holl Swyddau, nid yn unic fel y mae 'n Offeiriad i wneuthur bodlondeb ac eiriolaeth drosom; ond hefyd megis Prophwyd i'n dyscu a'n Hyfforddi ni, ac megis Brenin i'n rheoli a'n Llywo∣draethu ni. Y mae y gwir gredadyn yn ei fwrw ei hun wrth draed Crist, o ran ymostwng iddo, mor ewyllysgar ag yn ei freichiau ef, am iechydwriaeth oddiwrtho. Mae efe mor ewyllysgar i wasanaethu Jesu Grist, ag i fod yn gad∣wedic drwyddo ef, mor chwannog i ymostwng iw wasa∣naeth ef, ag i fwynhau ei ragorfreintiau ef. Canys mewn gwir ffydd, y mae 'n gynnwysedig nid yn unic hyder ar Grist ac ar ei gyfiawnder ef, eithr hefyd ufudd-dod ho∣llawl i ewyllys Crist, ac ymostyngiad ewyllysgar iw ly∣wodraeth ef. Fe osodir Crist allan yn yr Efengyl nid yn unic megis Achubwr, eithr hefyd megis Arglwydd a Rho∣ddwr-cyfraith, ac y mae y rhai'n wedi eu cyssylltu a'u cy∣dio ynghyd yn ddiwahanol. Ac am hynny nid yw 'r dyn hwnnw, ac sy 'n ewyllysgar i dderbyn Crist megis Achu∣bwr, eithr nid megis Llywodraethwr, yn gwneuthur dim amgen nâ thwyllo ei enaid ei hun. Trwy hyn gan hynny y gelli di brofi gwirionedd dy ffydd.
2. Mae gwir ffŷdd yn râs sy yn puro 'r galon. Dyma nôd ffydd y mae 'r Apostol Petr yn ei adrodd, Act. 15. 9. Gan buro eu calonnau hwy drwy ffydd. Ffydd yn puro 'r galon sy yn arwyddocau dau beth.
Page 107
1. Fod y credadyn yn gwneuthur cydwybod o'i feddyliau oddifewn. Y digrêd gyd âr Pharisaeaid ydynt yn unic yn glanhau y tu allan ir cwppan, gan geisio ymgadw oddiwrth bechodau anfad ac ysceler, eithr a oddefant iw calonnau wibio ar lêd ac i ymrwyfo i fŷd o wag a nwyfus feddyliau, o halogedic a diles ddychymygion, a hynny heb ddim ym∣gnof nâ gwewyr cydwybod.
2. Fod ffydd yn rhoddi tueddfryd tuag at lanhaad yn y galon, hyd onid yw yn cásáu ac yn ffieiddio pechod, ie ac yn ymdrech yn ei erbyn, er na allo hi yn hollawl moi glan∣hau a'i gwaredu ei hunan oddiwrth bechod. Wedi tym∣meru y galon unwaith â ffydd, ni letteua hi mor pe∣chod o'i bôdd, ond hi a ddyru gais ar ei weithio ef a∣llan fwyfwy. Drwy hyn gan hynny praw di wirionedd a chadernyd dy ffydd, a weithiodd hi ynot ti lanweith∣rym a phureiddrym dueddfrŷd i ymdrechu yn erbyn dy lygredigaethau, ac iw gweithio hwynt fwyfwy allan oth galon.
III. Y trydydd grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob Cym∣munwr yw Edifeirwch, ynghylch yr hon mi a ddango∣saf,
1. Naturiaeth Edifeirwch, pabeth ydyw.
2. Yr Angenrheidrwydd o honi i fod yn gyfrannogion o swpper yr Arglwydd mewn môdd teilwng.
3. Rai Arwyddion a nodau o ran y prawf o honi.
I. Am y cyntaf, pa beth yw gwir Edifeirwch, fy atteb yw, Mai grâs Yspryd Duw yw hi, drwy yr hon y mae y ga∣lon a'r anwydau oddifewn, a'r fuchedd a'r gweithredoedd he∣fyd oddiallan wedi eu hadgyweirio. Yn hyn o ddarluniad, yr wyfi yn bwrw fôd cyflawn Naturiaeth Edifeirwch yn gynnwysedig. Llawer a chwanegant at hyn Dristwch a galar y galon oddifewn, yr hyn yn ddiau sy yn wastadol yn cydymganlyn â gwir Edifeirwch, ond nid yw ef o'i naturiaeth hi: Canys yna, pa le bynnac y byddei dri∣stwch am bechod, yno y byddei wir Edifeirwch, yr hyn nid yw felly, fel y mae ecsamplau Saul a Judas, a dyni∣on annuwiol eraill yn mynegi.
I agoryd y darluniad hwn o Edifeirwch ar fyr.
Yn gyntaf, meddaf, Grâs Yspryd Duw yw hi; sef, dawn
Page 108
a râdroddir gan Dduw, ac a weithir ynom ni drwy ei sanctaidd Yspryd ef, nid yw hi yn dilliaw oddiwrth▪ rŷdd ewyllys dŷn, nac oddiwrth ddim nerth a gallu oi naturiaeth ef.
Drachefn, Edifeirwch sydd Adgyweiriad, yn yr hyn y mae ei▪ gwir naturiaeth hi yn sefyll, megis ac y mae y gei∣riau hyn, Dychwelyd, adnewyddu, newid, a'r cyffelyb yn ar∣wyddocau, y rhai yn yr Scrythur a briodolir at Edifeir∣wch. Weithian mae yn rhaid ir Adgyweiriad ymma fod yn gyntaf ar y galon; canys calon dŷn yw ffynnon ei holl weithredoedd ef; yn awr gydâ rheswm rhaid yw ir ffyn∣non gael ei glanhau ai charthu, cyn y gallo y peth sydd yn tarddu ac yn ffrydio o honi fôd yn iachus. Rhaid gan hynny yw bod calon wedi ei hadnewyddu, cyn y gallo bod buchedd gwedi ei hadgyweirio; canys ni ddi∣chon ffrŵd ein gweithredoedd fod yn dda, os bydd ffyn∣non ein calon ni yn llygredig. O hyn y mae, fod y Pro∣phwydi yn galw mor fynych am lânhâd y galon, a'r Aposto∣lion am ei hadnewyddiad▪ ai newidiad hi, heb yr hyn nid yw pob adgyweiriad oddiallan onid gwir ffûg, adliw ac ym∣ffrôst Pharisaeaidd. Yn y lle olaf y chwanegir, Adgy∣weiriad buchedd a gweithredoedd oddiallan; canys megis nad yw gwneutur rhyw lûn ar adgyweiriad oddiallan, heb adgyweirio 'r galon oddifewn, ond ffûg ac ymffrost Pha∣disaeaidd, drwy yr hyn yr ŷm ni yn siommi neu 'n tw∣yllo eraill: felly nid yw, cymmeryd arnom wneuthur Adgyweiriad oddifewn, heb y ffrwythau o wellhâd oddi∣allan, ddim ond pûr ffolineb, drwy yr hyn yr ydym ni yn ein twyllo ein hunain. Canys ni ddichon bod Adgy∣weiriad wedi ei gwir wreiddio ai seilio yn y galon, na flaguro hi, ac ymddangos allan yn y ffrwythau o fuchedd dduwiol. Mae 'r dŷn hwnnw gan hynny yn ei dwyllo ei hunan, yr hwn sy yn tybied fôd ei galon wedi ei phuro a'i hadgyweirio, pan ydyw ei fuchedd yn halogedig. Ca∣nys fel y mae 'r ffrwythydd yn dangos y pren, felly y mae gweithredoedd dynion yn eglurhau eu serchiadau hw∣ynt.
II. Mae Angenrheidrwydd y grâs ymma o Edifeirwch ym mhob Cymmunwr teilwng, ar ei nesaad at fwrdd yr Arglwydd,
Page 109
yn ymddangos, o herwydd ein bod yn dyfod i dderbyn yr aberth dros bechod; eithr cynnyg derbyn yr aberth tros bechod, heb ddychwelyd oddiwrth bechod, yw cyfrif gwaed y Cyfammod yn beth aflan. Nid yw anhyspys i ni, mai un prif ddiben ein gwaith ni yn nesáu at fwrdd yr Ar∣glwydd, yw i dderbyn Crist megis ac yr offrymmodd ef ei hun yn aberth ac yn bridwerth Prynnedigaeth dros ein pechodau: Weithian yr hwn sy yn edrych am faddeuant pechod, rhaid yw bod ganddo lawn fwriad, ac yn ôl ei fwriad, ffyddlon a difrifol ymgais ar ymwrthod a phe∣chod, yr hyn sydd, ac a fydd ym mrŷd pob dŷn gwir edifeiriol, ac felly hefyd y dylai fôd. Mae yr Arglwydd gan hynny yn gofyn ganddynt hwy, y sawl a ddygant eu haberthau atto ef er mwyn cael pardwn, Ar iddynt fwrw ymmaith ddrygioni eu gweithredoedd, a pheidio a gwneuthur drwg, a dyscu gwneuthur daioni, Esay 1. 16, 17, &c. Ac ar hynny y mae ef yn dwyn i mewn y grasol wahoddiad ymma, Deuwch yr awr hon ac ymresymmwn. A pha wyneb gan hynny y meiddia pechadur anedifeiriol, yr hwn ni chyffyrddwyd â dim gwewyr cydwybod am ei bechodau a aethant heibio, ac nid oes ganddo ddim bwriad ar ddy∣chwelyd oddiwrth ei bechodau am yr amser i ddyfod, ryfygu cymmeryd y corph hwnnw a ddrylliwyd, a'r gwaed hwnnw a dywalltwyd tros bechod? Y cyfryw fwytta ac yfed ar gorph a gwaed Crist, sydd eglur sathru Mab Duw tan draed, a chyfri yn aflan waed y Cyfammod, sef, yn beth y gellir ei gymmyscu â phethau ammur ac aflan. Onid yw hyn yn bôd yn euog o gorph a gwaed Crist, pa beth a all fôd?
III. O ran Profiad dy Edifeirwch, a yw ef yn bûr ac yn siccr, ti a elli ei adnabod wrth yr arwyddion ar nodau yma.
1. Trwy dduwiol dristwch am bechodau o'r blaen. Wrth dduwiol dristwch, yr wyfi yn meddwl, y cyfryw dristwch ar sydd yn gwneuthur Duw yn wrthddrych iddo, hynny yw, pan ydym ni yn tristáu ac yn galaru am bechod, yn fwy o ran ein parch i Dduw, nâ rhag ofn cospedi∣gaeth; am ddarfod i ni anfodloni Duw mor ddaionus, Tâd mor rasol, ac Arglwydd a Meistr mor haelionus▪
Page 110
Nid wyfi yn gwadu nad yw yn dda ac yn ganmoladwy tristáu a galaru am bechod o ran cospedigaeth, rhag ofn uffern; Am ei fôd yn baratóad da i dduwiol dristwch, ond ni wasanaetha i ni orphywys yn hynny. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy Edifeirwch; canys pa le bynnac y mae gwir Edifeirwch, rhaid yw bôd yno dduwiol dristwch.
2. Dychwetyd oddiwrth y ffyrdd drygionus hynny, y rhai y rhodiasom ni ynddynt or blaen; fel y gellwch weled yn ec∣sampl y rhai edifeiriol hynny, y mae coffadwriaeth am danynt yn yr Scrythur, megis Paul, Petr, Zacheus ac e∣raill, y rhai ar eu hedifeirwch a ddychwelasant oddi∣wrth yr helyntiau drygionus hynny, y rhai y rhodiasant ynddynt or blaen. Wrth hyn gan hynny praw wirio∣nedd dy edifeirwch: A weithiodd ef dróad a newidiad yn ystôd dy fuchedd di? A aeth yr hên bethau heibio? A oes ymwrthod ar pechodau or blaen? A ymadewaist di a'th dyngu, a'th feddwdod, a'th butteinio, a'th dwyllo drwy bwysau a mesurau anghywir? A elli di ddywedyd am danot dy hun, megis ac y dywedodd Paul am y Co∣rinthiaid, Mi a fum yn dyngwr, yn feddwyn, yn ddifenwr, yn gribddeiliwr, yn odinebwr, yn gybydd, a'r cyffelyb; Eithr yn awr myfi a olchwyd, yn awr myfi a sancteiddiwyd, ie ac a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Yspryd fy Nuw i, 1 Cor. 6. 10, 11. A elli di ddywedyd fel hyn am danat dy hun, a hynny mewn gwiriouedd a phurdeb ca∣lon? yna y mae gennyt beth eglurdeb cyssurus o wirio∣nedd a phurdeb dy edifeirwch. Eithr mor orwag y ma∣ent hwy yn eu twyllo eu hunain, y rhai, o herwydd gw∣neuthur o honynt gyffess o'u pechodau wrth Dduw, a hynny ysgatfydd gyd ag ychydig ddagrau, a wenhieithi∣ant iddynt eu hunain â thŷb dda o wir edifeirwch, pan ydynt hwy etto fyth yn byw ac yn parhau yn eu hên helyntiau pechadurus, gan ymdrybaeddu megis môch ym mrynti eu pechod, ac yn y dom o'u budreddi pechadu∣rus.
3. Dychwelyd at Dduw: canys lle mae gwîr edifeirwch yno y mae nid yn unic dychwelyd oddiwrth bechod, ond hefyd ddychwelyd at Dduw. Wrth yr hyn yr wyfi yn
Page 111
deall pur ymegnio i wasanaethu a rhyngu bodd Duw mewn newydd-deb buchedd a gwell ufydd-dod. A fu gan hynny i deimlad a thostedd dy gyfeiliorni or blaen, beri i ti yn ddifrifol ddymuno, ar allu o honot ryngu bôdd Duw yn well am yr amser i ddyfod; Gwnâ'n fawr am y cyfryw serchiadau yn dy enaid, canys arwydd eglur yw fod rhyw gyfnewidiad yno.
IV. Y Pedwerydd grâs angenrheidiol a ofynnir gan bob Cym∣munwr cyn y rhyfygo ddyfod i ffwrdd yr Arglwydd, yw cariad. Ie cariad deublyg a ofynnir gan bob Cymmunwr, sef, 1. Cariad i Dduw ac i Grist. 2. A chariad iw Gymydog.
Y ddau hyn a gylymmwyd ynghŷd yn ddiwananol: etto o ran ei trîn hwynt yn fwy gwahanrhedawl, myfi a'u dosparthaf hwynt yn fy ymadrodd, ac a grybwyllaf am danynt o'r neilltu, gan ddangos i chwi,
1. Yr Angenrheidrwydd o honynt, o ran teilwng gyfran∣nogi o Swpper yr Arglwydd.
2. Rhai Arwyddion a nodau am y profiad o honynt.
I. Yn gyntaf, am y Cariad i Dduw, yr hwn a ofynnir o anghenrhaid gan bob Cymmunwr, o herwydd yr eglur∣deb mwyaf a ddangoswyd erioed o Gariad Duw, a oso∣dir yno ger ein bronnau ni. Canys Jesu Grist unic fab Duw, ac Iachawdwr dŷn, yw 'r eglurdeb mwyaf o Ga∣riad Duw, ar a fu erioed, ac a ddichon fod. Ped fai Dduw yn ymroi i wneuthur byd arall, ac i gyfrannu mwy rhodd ar y bŷd hwnnw nag a gyfrannodd ef ar y byd ymma, sef, ei unic anedig, ai anwyl fab, hŷf y ga∣llwn ni ddywedyd, nas gallei ef. Ac ni all y creaduriaid dderbyn, na 'r Creawdwr roddi rhodd fwy, a hynny o ran godidowgrwydd y rhodd ei hun, a hefyd o ran yr eisiau yr oeddym ni yn sefyll o honi, a'r daioni yr ydym ni yn ei gael oddiwrthi. Am hynny, y mae Cariad Duw yn yr eglurdeb hwn o hono, wedi ei osod allan felly, fel y mae 'n myned tu hwnt i bob ymadroddiad. Felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig fab, &c. Joan. 3. 16. Mor anrbaethadwy, Mor annirnadwy, Mor anfeidrol, fal pwy bynnac a geisio adrodd neu egluro y FELLY yma hyd yr eithaf, nis gwnaiff mo hynny ond felly, felly. Gan fod wrth hynny y fath eglurdeb o'r cyfryw gariad
Page 112
Duw tn ag at ddŷn, wedi ei osod allan ar fwrdd yr Arglwydd; oni ddylai bob un ar sy yn nesau atto, i fod yn gyfrannog o'r eglurdeb hwnnw o Gariad Duw, ddy∣fod â chalon wedi ei llenwi â chariad i Dduw, ac â llwyrfrŷd i ddangos allan bob ffrwythau o wir gariad i Dduw ar bob achlysur?
Ac megis ag y mae yn rhaid i ni ddyfod â chariad i Dduw, felly hefyd â chariad i Jesu Grist, yr hwn a'n carodd ni fe∣lly, fel y bu ef farw o farwolaeth greulon felltigedig drosom ni. A thrwy hynny yr eglurodd ef fwy cariad i ni, nag iddo ei hun; i aelodau ei gorph Dirgel, nag i aelodau er gorph Naturiol. Canys efe a offrymmodd ei groph naturiol megis Aberth o ran prynnedigaeth ei gorph dirgel. Pa gariad mwy nâ hwn a ellir meddwl am dano? Oh pa fodd y mae 'n perthyn i ni gan hynny fyned ir ordinhâd honno â chalonnau wedi eu hennyn gan gariad ir Jesu? Hyn am angenrheidrwydd ein cariad ni i Dduw, ac iw fab ef Jesu Grist.
II. O ran y Prawf o hono ef, chwi a ellwch ei adna∣bod wrth y nodau ar arwyddion yma.
1. Lle y mae gwir gariad o'r galon i Dduw, ac i Jesu Grist, y galon a fŷdd yn ymlenwi ar feddyliau am danynt. Y eyfryw un a fydd yn mynych feddwl am Dduw, ac am Jesu Grist, ac am eu trarhagorawl gariad hwynt a eglu∣rwyd yngwaith mawr y Prynnedigaeth. Ar ôl i Dda∣fydd ddywedyd, Psal. 119. 97. Mor gu gennif dy gyfraith di! mae ef yn ebrwydd yn chwanegu, Hi yw fy myfyrdod beunydd. Ac yn ddiau, pa beth bynnac a phwy bynnac yr ydym ni yn ei garu, ni allwn ni na feddyliom ac na fy∣fyriom am dano yn fynych. Yn siccr, y sawl a garant Dduw, a'r Arglwydd Jesu Grist, mewn purdeb a gwiri∣onedd, fe eill bod ganddynt lnaws o geog, a thrythyll, a bydol, a chybyddus feddyliau yn eu calonnau, ond nid ydynt yn cymmeryd dim gwir hyfrydwch ynddynt, ma∣ent yn hyttrach yn ofid ac yn faich iddynt; eithr y me∣ddyliau am Dduw ac am Grist ydynt hyfryd a chom∣fforddus iawn iddynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac Jesu Grist.
2. Lle mae cariad o'r galon i Dduw ac i Jesu Grist, fe
Page 113
fydd y cyfryw un yn mynych Son am danynt. Canys ni ddi∣chon y tafod na lefaro am y pethau a'r personau hynny ar y rhai y mae y galon wedi ei gosod. Os bydd calon dŷn wedi ei gosod ar y bŷd, a'i bethau, ei dafod ef a fŷdd fynychaf yn siarad ac yn ymddiddan am danynt. Yn yr un ffunyd, os bydd calon dŷn wedi ei gosod ar Dduw ac Jesu Grist, ei dafod ef a fydd yn mynych Sia∣rad ac ymddiddan am danynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ag Jesu Grist. Ca∣nys yr hwn a ddywaid ei fod yn caru Duw, a'r Arglw∣ydd Jesu Grist, ac etto sydd yn meddwl am danynt, neu yn siarad am danynt yn anfynych, mae ef yn ddiammeu yn ei dwyllo ei hunan; canys ni all na feddyliom ac na soniom am y rhai yr ydym yn eu gwîr garu.
3. Lle y mae cariad o'r galon i Dduw ac i Jesu Grist, fe wnaiff ddŷn yn ewyllysgar i wneuthur pob dim erddynt. Jacob a hoffodd Rahel, a pha beth ni wnaeth ef erddi? Efe a wasanaethodd ddau Brentissiaeth, ac nid oedd y cwbl yn ei olwg ef ond fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo ef hi, Gen. 29. 20. Ac am hynny lle mae pûr gariad i Dduw a Christ, fe gymmell y cyfryw un iw osod ei hun allan drostynt hwy hyd yr eithaf, i ymosod i ymarfer ar cy∣fryw ddyledswyddau, ar sydd anhawdd a chaledion, ac yn gofyn llawer o boen a llafur. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac iw fab Jesu Grist.
4. Lle y mae cariad calon i Dduw, ac i Jesu Grist, fe wnaiff ddŷn yn ewyllysgar i ddioddef pob dim erddynt. Fe ddywedir am y Seintiau gynt, o ran eu helaeth gariad ir Arglwydd Jesu Grist, na chyfrifasant hwy moi golud yn rhŷ werthfawr iddynt, ond a gymmerasant eu hyspeilio am y pethau oedd genddynt yn llawen, Heb. 10. 34. Ni chy∣frifasant hwy chwaith moi heinioes yn rhy werthfawr, canys fe ddywedir yn eglur, Ni charasant eu heinioes hyd angeu, Dat. 12. 11. Hynny yw, hwy a ddirmygasant eu heinioes o'u cyffelybu i Jesu Grist: hwy a roesant o'u gwirfodd, nid yn unic eu cyfoeth a'u golud yn yspail, a'u personau i bob math ar wradwydd a dirmyg, ond eu cyrph hefyd i angeu poenydiol yn achos Crist. Wrth
Page 114
hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Jesu Grist, sef, wrth dy ewyllysgarwch i ddioddef dros achos a gwirionedd Jesu Grist.
II. Cariad ith gymmydog sydd gaingc arall o'r cari∣ad hwnnw ar a ofynnir gan bob Cymmunwr. Ynghylch yr hwn y dangosaf ar fyrr,
1. Yr Angenrheidrwydd o hono ym mhob Cymmunwr.
2. Y Prawf o hono.
I. Ei Hangenrheidrwydd sy yn ymddangos, yn gymmaint ac na dderbyn yr Arglwydd ddim o'r gwasanaeth yr wyt ti yn ei gyflawni iddo ef, onid wyt ti mewn cariad a charedigrw∣ydd âth gymmydog, megis ag y mae 'n Achubwr yn llefaru, Mat. 5. 23, 24. Gan hynny, os dygi dy rôdd i'r allor, ac yno dyfod i'th gôf fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; gâd yno dy rôdd ger bron yr allor, a dôs ymmaith: yn gyntaf cymmoder di âth frawd, ac yno tyred, ac offrwm dy rôdd. Hynny yw, os bydd dim anghydfod rhyngot ti a'th gymydog, rhaid yw ceisio heddwch a chymmod ar frŷs. Canys heb hyn∣ny ni dderbyn Duw ddim addoliad na gwasanaeth a offrymmech di iddo. Er nad yw Crist ymma yn crybw∣yll ond am un math ar addoliad, yr hwn yw offrymmu Aberth, etto tan hwn y mae ef yn cynnwys holl rannau a phob math o addoliad Duw, megis gweddio, gwrando, derbyn y Sacrament, neu 'r cyffelyb. Ac felly meddwl Crist yw, mai pa bryd bynnac yr ymosodech ar un rhan o addoliad a gwasanaeth Duw, ac yno dyfod yn dy gôf fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, hynny yw, wneuthur o ho∣not ti mewn ffordd yn y bŷd gam âth frawd, neu ni∣weid iddo. Neu fel y mae ym Marc, Pen. 11. 25. O bydd gennych ddim yn erbyn neb, hynny yw, O gwnaeth neb gam a chwi, yn gyntaf, cymmoder di â'th frawd, neu ma∣ddeu dy frawd, ac yno dôs i ordinhâd Duw.
II. O ran y Prawf o wirionedd dy gariad i'th frawd, ti a elli ei adnabod wrth y nodau ymma.
1. Os maddeuaist di ith frawd mewn gwirionedd, ti a fy∣ddi cyn belled oddiwrth wneuthur dim niweid iddo (er bod hynny yn dy allu) na ddymunech iddo ddim o'r niweid.
2. Os gwir faddeuaist di ith frawd a wnaeth ith erbyn, ti a groesewi yn ewyllysgar bob achlysar o wneuthur iddo ddaio∣ni,
Page 115
fel y gallo ef felly wybod a bod yn siccr ddarfod i ti gymmodi âg ef. Hyn y mae ein Iachawdwr yn ei o∣fyn gan ei holl ddiscyblion, lle mae ef yn dywedyd, Cerwch eich gelynion, hynny yw, y rhai a wnaethant gam â chwi mewn un môdd; ac megis eglurdeb o wirionedd eich cariad, mae 'n dywedyd ymhellach, Gwnewch dda i'r sawl a'ch casant; gan arwyddocau, nad digon yw i chwi lefaru yn gefeillgar ac yn heddychol wrth eich gelyni∣on, ond rhaid yw i chwi hefyd gymmeryd pob achlysur i wneuthur iddynt y daioni a alloch, yr hyn sydd wir frawdgarwch a chariad Cristianogol.
Wedi llefaru fal hyn yn helaeth am y pwngc cyntaf o ymholiad, sef, ynghylch ein rhadau; yn awr y deuwn at yr ail, sef, ynghylch ein pechodau; yn yr hyn mi a roddaf gais ar fod yn fyrr. Fel y mae yn ddylêd ar bob Cymmunwr ei hodi ei hunan ynghylch ei radau, felly he∣fyd ynghylch ei bechodau, y rhai ydynt yn debyg ir dio∣fryd-beth, am yr hwn y llefarodd Duw wrth Josuah. (Jos. 7. 11.) mae 'n rhaid gan hynny chwilio am danynt. Ie tebyg ydynt ir bresych gwylltion, a ddŷg angau ir crochan, 2▪ Bren. 4. 39, 40. Oni chwilir am danynt allan, a'u bwrw ymaith, hwy a dróant y bara ar gwîn Sacramentaidd yn wenŵyn ysprydol. Y neb a guddio ei bechodau ni lwy∣dda; ond y neb a'i haddefo, ac a'i gadawo a gaiff drugaredd, Dih. 28. 13.
Am y wiber y dywedir, pan elo i ymgymmharu, ei bôd yn ymarloesi o'i holl wenŵyn. Pa faint mwy y dylit ti, pan elych i gael cymmundeb â'r Priodfab nefol, yr Arglwydd Jesu Grist, daflu allan dy bechodau, y rhai ydynt wenwyn ysprydol, gwaeth nâ gwenwyn Gwiber yn y bŷd?
Yn yr ymholiad ymma megis ag y mae yn rhaid i ti chwilio am dy feddyliau, geiriau, a gweithredoedd dry∣gionus, ac am dy bechodau o esceulusdra, felly hefyd am bechodau dy ddyledswyddau sanctaidd, ac yn fwy en∣wedigol y rhai a wnaethost er pan dderbynniaist di y Sacrament bendigedig ddiwaethaf; a'r rhai sydd fwyaf yn erbyn yr addunedau a'r cyfammodau a wnaethost di â Duw o'r blaen, a'r rhai sydd fwyaf yn yspelwi dy gyd∣wybod,
Page 114
〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉
Page 115
〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉
Page 116
neu fwyaf yn anharddu dy broffess, neu y rhai yw 'r achosion mwyaf o bylu dy yspryd: fel wedi caffael y rhai hyn allan, y galler galaru yn fwy o'i plegid, a dymuno cael eu maddeu yn fwy difrifol.
Wrth dy holi dy hun, fe fŷdd yn gymmorth da, it ddarllen y cyfryw Draethawd ar sy yn bennodol yn go∣sod allan y pechodau neilltuol yn erbyn y Gorchymmy∣nion neilltuol. Canys pan ddangoser i ti drwy y cyfryw Draethawd fod y cyfryw beth yn bechod yn erbyn y cyf∣ryw Orchymmyn, dy gydwybod, wrth ddarllen am y cy∣fryw bechodau, a fynega i ti, bechu o honot yn hynny. Wedi holi a chwilio dy galon yn gwbl oll am dy holl bechodau adnabyddus, yna ymddarostwng ger bron Gor∣seddfaingc y grâs, drwy wir a diffuant gydnabod o ho∣nynt a'u cyfaddef, gan dy farnu a'th gondemnio dy hun yn rhwyddaidd ger bron Duw, â chalon ddrylliog gy∣studdiedig.
Fel y cyflawner dy gyffes mewn modd dyladwy, rhaid yw bod ganddi y priodoliaethau ymma.
1. Rhaid iddi fod yn neilltuol, ac am bechodau enwedigol; fy meddwl yw, fod yn rhaid i ti yn dy gyffes ddescyn at dy bechodau enwedigol a neilltuol. Y dyn halogedic∣caf yn y bŷd a ddichon gyffessu yn gyffredinol, a dy∣wedyd, yr wyfi yn cydnabod fy môd yn Bechadur. Eithr os mynni di wneuthur gwir gyffes o bechod rhaid i ti agoryd dy bechodau yn neilltuol o flaen Duw, ac o ran dy annogaeth i hynny, gwybydd, mai po mwyaf neilltuol y byddi di yn dy gyffes, mwyaf o gyssur a gei di yn hyn∣ny.
2. Rhaid yw ith Gyffes di fôd megis yn neilltuol o ran Pe∣chodau, felly hefyd yn gyflawn o ran eu hardrymmhadau. Fal hyn y gwnaeth Dafydd yn ei gyffes o'r Pechod hwnnw yn rhifo 'r Bobl, Pecoais yn ddirfawr, medd ef, yn yr hyn a wneuthum; ac yn awr delea, attolwng. ô Arglwydd anwiredd dy wâs; canys ynfyd iawn y gwneuthum, 2 Sam. 24. 10. Gwél pa ymadroddion o drymmhâd y mae ef yn eu pentyrru; 1. Pechais; 2. Pechais yn ddirfawr; 3. Ynfyd y gwneuthum; 4. Ynfyd iawn. Ac fal yr wyt ti yn chwennych pardwn o'th bechodau, gosod hwynt allan ir eithaf; na âd un
Page 117
amgylchiad o drymhâd yn ôl, drwy yr hyn yr ymddan∣gosont yn ffeiddiach ac yn fryntach.
3. Rhaid ith Gyffes di fôd gyd âg ymgwyno a thristwch cae∣lon oddifewn, ddarfod i ti bechu yn erbyn Duw mor ddaionus, ac mor rasol. Ni wasanaetha i ti ymfodloni ar gyfadde∣fiad o'th Bechodau a'th Droseddiadau ar air yn unic, heb ymdeimlo â dim mwy gofid wrth eu cyffaddef hwynt, nac yr oeddit wrth eu gwneuthur. Ond pob Pechod a gyffesech a ddylai fôd fel Dager yn dy frathu at dy ga∣lon; or hyn lleiaf ti a ddylit ofidio na fedri di ymofi∣dio ychwaneg am dy Bechodau; Dy galon a ddylei wae∣du, o herwydd na fedr dy lygaid mor wylo.
A chwedi i ti gyffessu dy bechodau, tywallt allan dy enaid mewn gweddi galonnog at Dduw am Bardwn a maddeuant am danynt oll. Ac yna bydd daer arno am wneuthur y Sacrament yn rymmus o ran dy gysur, yn rymmus o ran marwhau dy drachwantau, o ran nerthu dy radau, yn enwedigol o ran cadarnhau dy ffydd mewn siccrwydd o bardwn a maddeuant am dy bechodau, &c.
III. Wedi dangos y dyledswyddau Blaenorawl, yn awr y deuwn at y dyledswyddau Cydganlynawl, hynny yw, y rhai sydd raid iddynt gydymganlyn a'r weithred o dder∣byn.
Eithr yn gyntaf mi a rag-osodaf ychydig Hyfforddiadau ynghylch y Môdd i ti nessau at fwrdd yr Arglwydd. 1. Wedi i ti dy baratoi dy hun fal hyn, na ddôs yn nerth dy baratóad dy hun, onid yn unic yn nerth Jesu Grist, gan edrych am fôd mewn cymmeriad yn unic yn a thrwy ei haedd∣edigaethau a'i gyfryngdod ef. Canys er darfod i ti ymba∣ratoi yn y modd goreu ac a ellych, etto os edrychi di yn ôl â golwg dibartiol ar dy baratoad, mor llawn o wendid, llesgrwydd ac ammherffeithrwydd y gelli di ei weled ef? Yn gymmaint ac oni orchguddia Crist dy berson di a'th baratóad, âr Wisc oi Gyfiawnder ef, a'u taenellu hwynt âi waed, ni bydd na'th berson nâth ba∣ratóad yn gymmeradwy gydâ Duw. Bwrw gan hynny dy holl ymbaratoad wrth draed Jesu Grist, a dywaid, Arglwydd, nid wyfi yn dyfod yn nerth fy ymbaratoad i, ond yn unic yn dy nerth di; yn dy enw âth gyfryngdod di yn unic yr wyfi yn dy∣fod.
Page 118
i fôd yn gyfrannog oth gorph, ac o ddoniau dy angeu a'th ddioddefaint. Ac yna y gelli di fôd yn hyderus, yr e∣drych Duw tros dy amryw wendidau âth ammherffeith∣rwydd yn dy baratóad, ac ath dderbyn di âth wasa∣naeth yn a thrwy ei Anwyl fab Jesu Grist yn gymmera∣dwy.
2. Wrth dy fyned, myfyria ar ddibennion a donniau yr ordin∣bâd barchedig honno; dyma rai o honynt.
1. Y coffadwriaeth am farwolaeth Crist, gan ei hordeinio megis Coffaad o hynny.
2. Ysprydol sagwraeth ein Eneidiau.
3. Cadarnhâd ein ffydd ni yn y siccrwydd o bardwn a maddeuant o'n pechodau.
4. Seliad y Cyfammod o Râs, ynghŷd a'i holl fendithion ir enaid credadwy.
5. Cynnyddiaeth ein hundeb a'n cymmundeb ysprydol â Christ, a'i holl aelodau. Difrifol fyfyrdod am y pethau hyn a gyn∣hyrfa ynom ryw chwant ysprydol ar ôl yr ordinhâd, fal yr elom ni â dymuniadau newynog a sychedig ar ei hôl hi.
3. Dôs mewn disgwiliad crŷf ar dderbyn llawer oddiwrth Dduw yn a thrwy yr ordinhád honno, gan wybod yr ymhe∣laetha Duw ei fendithion tu ag at y rhai hynny oll, ar a ddelont â chalonnau wedi eu helaethu, ynghŷd â dis∣gwiliad crŷf am lawer o bethau da oddiwrtho. Lleda dy safn, medd yr Arglwydd, ac mi a'i llanwaf, Psal. 81. 10. Os lledi dy safn mewn hiraethus ddisgwiliad am bethau mawrion, efe a'i lleinw. Ie po ehengaf yw dy galon mewn dymuniadau a disgwiliad, ehengaf a fŷdd calon Duw mewn helaethrwydd tu ag attat. Megis gan hynny yr addawodd Duw yn y cyfammod o râs: Fôd yn Dduw i ti, i Scrifennu ei gyfraith yn dy galon di, i faddeu dy becho∣dau, i darostwng dy lygredigaethau, a rhoddi i ti galon feddal, ie rhoddi i ti ras ymma, a gogoniant ar ol hyn, a'r cy∣ffelyb; dôs drwy ddisgwil y bendithion hyn ar cyffelyb rai, ac ni byddi di yn ôl ô'th obaith.
4. Nesâ at fwrdd yr Arglwydd gyd â pharchedig ofn, o ran gogoneddus fawrhydi Duw, yr hwn mewn modd en∣wedigol sydd bresennol ar yr ordinhâd honno, i weled
Page 119
ei wahoddedigion, ac efe a sancteiddir yn y rhai a nessânt atto, Lev. 10. 3.
5. Nessâ atto gyd â phôb gostyngeiddrwydd, oblegid dy waeledd ath anheilyngdod dy hun, yr hwn nid wyt ond llwch a lludw pechadurus; ac (os oes gennit ddim go∣leuni grâs ynot) ni elli lai nas gwypech, fod mwy o ly∣gredigaeth yn dy galon dy hun, nag a wyddost ei fôd ynghalon un arall. Ac am hynny na ddywaid, Hwn a hwn sydd anwybodus, y llall ar llall sydd afreolus yn ei fu∣chedd ai ymarweddiad, ond dywed, Arglwydd, yr wyfi yn anwybodus, yr wyfi yn anheilwng i nessau attat yn y cyfryw or∣dinbâd Sanctaidd, nid wyfi deilwng i gasclu y briwsion tan dy fwrdd di. A gwybydd, mai po anheilyngaf ydwyt ti yn dy olwg dy hun, teilyngach y cyfrif Duw dy fôd.
6. Wrth dy fôd yn myned at fwrdd yr Arglwydd, bwrw dy holl feddyliau a'th negeseuau bydol allan oth ben, y rhai, oni wnei hynny, a ddygant ymmaith dy galon oddiwrth yr ordinhâd, ac ath rwystrant di yn fawr iawn ynddi. Yn Job 1. 6. y ddarllennwn, A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt. Yr un ffunyd, pan ddelo Plant Duw i sefyll ger bron yr Arglwydd yn yr Ordinhâd barchedig honno, bydd Satan siccr o ymddangos yn eu plith hwynt, iw rhwystro a'u hamhwyllo ynddi (yn gymmaint ac y bo yn bossibl) drwy fwrw yn eu pennau feddyliau gwei∣gion ac ammherthynasol. Ac am hynny mae 'n perthyn i ti fod yn wiliadwrus ar dy feddyliau, a chadw dy ga∣lon yn dynn wrth yr ordinhâd. Ir diben hwnnw fe fŷdd yn ddoethineb i ti yn fynych fwrw golwg ar yr elfen∣nau oddiallan o fara a gwîn, a dal sulw yn ddyfal ar y moddion a'r gwaith oddiallan yn yr ordinhâd, ac ar hyn∣ny myfyria ar y pethau ysprydol a arwyddoceir drwy∣ddynt.
Wedi rhagosod y pethau hyn, yn awr y deuwn at y dyledswyddau sydd iw cyflawni ar yr Ordinhâd, y rhai yw y rhai'n.
I. Pan wyt ti yn bresennol ar yr Ordinhâd, dyro allan yr holl nerth a allech wrth fod yn gyfrannog o hori, fy meddwl yw, nerth dy serchiadau. Canys er dy fôd yn wann iawn,
Page 120
er hynny os gosodi di dy nerth gwann allan, Duw a'i derbyn ef. Am hynny nac ymfodlona ar fôd yn unic yn gyfrannog o Swpper yr Arglwydd oddiallan, eithr bydd yn ofalus ar ddwyn dy galon ath serchiadau i fynu ir Ordinhâd, ac ar roddi allan y nerth a allech.
II. Cofia farwolaeth Crist, yr hyn yw gorchymmyn Crist yngosodiad yr Ordinhâd ymma; canys medd efe, Gwnewch hyn er coffa am danaf, sef, mewn coffâd o'm marwolaeth a'm dioddefaint chwerw, Luc. 22. 19. Canys yr Apostol Paul wrth egluro y coffa ymma am Grist, sydd yn ei gym∣mhwyso at ei farwolaeth, a'i dangosiad hi allan, 1 Cor. 11. 25, 26. Gwnewch hyn, medd ef, er coffa am danaf: canys cynnifer gwaith bynnag y bwyttaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni dde∣lo. Ac felly yr ordeiniwyd yr Ordinhâd hon o Swpper yr Arglwydd o ran parchus goffa am yr Aberth mawr hwnnw, yr Arglwydd Jesu Grist, fel nad anghofid ei far∣wolaeth ef bŷth, ond y byddei yn wastad yn barod yn ein coffadwriaethau. A pha ham y rhaid cofio ei farwolaeth ef fel hyn? Yn ddiammeu o herwydd mai drwyddi hi y cadarnhawyd ac y seliwyd y Cyfammod o râs, y pwr∣caswyd ein Prynnedigaeth ni, y gwnaethpwyd iawn tros ein pechodau, y gwnaethpwyd cymmod rhyngom ni â Duw, ac y gosodwyd sail ein grasusau. Ac am hynny gollwng allan dy galon ar y Bwrdd mêwn dwys fyfyr∣dod am amryw ddioddefiadau Crist, yr hyn yw gorchwyl pennaf yr Ordinhâd bon. A myfyria nid yn unic am ei ddi∣oddefiadau ef ar ei farwolaeth, onid hefyd yn holl ystod ei fywyd, sef o'i breseb iw groes, o'i anedigaeth iw farwo∣laeth. Canys didor ddioddefaint oedd ei holl einioes ef. Myfyria gan hynny am ei enedigaeth gwael ef, a'i ffoa∣digaeth yn ei febyd, am yr amryw wradwyddiadau a fw∣riwyd arno ef o amser i amser; ie am ei aml erlidiadau, am eu creulon driniaeth hwynt arno ef yn amser ei far∣wolaeth, pan ddaliasant ef megis lleidr, ai rwymo, ai farnu yn euog, ai gondemnio megis Drwgweithredwr, pan gernodiasant ef â'u dwylo, y pwyasant ef â ffynn, y gwialennodiasant ef â fflanghellau, gan dynnu cwysau hirion ar ei gefn ef, y plethasant goron o ddrain blaenllym ar
Page 121
ei ben, y gosodasant groes drom ar ei gefn, yr hoeliasant ei ddwylo a'i draed wrth y Groes honno, y rhoddasant i∣ddo fustl a finegr iw ddiodi, ac y cystuddiasant ef yn ddirfawr amryw ffyrdd. Fal hyn y drylliwyd ei gorph ef âg arteithiau. Ac oblegid hyn, fe ddywedir, Esay 53. 3. Ei fôd ef yn ŵr gofidus, a chynnefin a dolur. Yn enwedi∣gol pan wyt ti bresennol yn y Sacrament, dyro dro gydâ Christ yn yr Ardd, drwy fyfyrio am ei Ing chwerwdost ef, lle y chwysodd ef y defnynnau gwaed, yr hyn ni ddar∣llennwyd, ac ni chlybwyd erioed am neb na chynt na chwedi; ie y gwaed a chwysodd Crist y pryd hynny nid ydoedd waed teneu dyfrllyd, ond gwaed tolchennog, me∣gis ac y mae St Luc yn ei adrodd, Ac efe mewn ym∣drech meddwl, ei chwŷs ef oedd fel defnynnau gwaed yn de∣scyn ar y ddaiar, Luc. 22. 44. Yr hwn ymadrodd olaf sy yn dangos dreiddio o waed Crist drwy ym'gorau ei gorph ef mewn modd mor helaethlawn, ac y defnynnodd ef ir llawr yn dra-aml; Yn gymmaint ac na welid yn unic lygaid Crist, onid holl rannau ei gorph ef hefyd yn wylo, a hynny y dagrau o waed, fel y mae Bernard yn llefaru.
Yn y chwŷs ymma i Grist y mae tri phêth hynodol, ar sy yn fawr iawn yn gosod allan faint ei ymdrech ef.
1. Yn ydoedd ar noswaith oer, o herwydd paham ar ôl hynny hwy a gynneuasant dân ynghanol neuadd yr Arch∣offeiriad; Luc. 22. 55.
2. Efe a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr oer, yr hyn oedd ddigon i yrru y gwaed i fewn, Mat. 26. 39.
3. Yr ydoedd ef mewn tristwch dirfawr, yr hyn sydd na∣turiol i dynnu y gwaed oddiwrth y rhannau oddiallan tu ac at y galon, Mar. 14. 33. ac etto ar noswaith oer, yn gorwedd ar y llawr oer, ac mewn ofn a thristwch dirfawr, efe a chwysodd ddefnynnau gwaed. Pwy a ddichon ddirnad chwerwdost ymdrech ein Iachawdwr y prŷd hynny? A pha beth ydoedd yr hyn a'i dŷg ef ir ymdrech hwnnw? Yn ddiammeu y teimlad o'r hyn yr oedd ef iw oddef, fal yr ymddengus wrth ei Weddi ef yn ei Ymdrech, fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddiwrthif. Weithian, os oedd y teimlad o'r hyn yr oedd ef iw o∣ddef mor chwerw, och mor chwerw dybygwch chwi oedd
Page 122
ei ddioddefiadau ef ar y Groes, pan lefodd ef â llêf u∣chel, fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Mat. 27.46. Yr hyn eiriau nid ydynt yn arwyddocau, fôdy Duwdod wedi ei wahanu oddiwrth y Dyndod; ond darfod ir Tâd dynnu oddiwrtho ef bob teimlad gwybyddus o'i garedi∣gol ffafor, ac attal galluogaeth y pelydr hwnnw a allai mewn un modd lonni ei enaid trallodus ef; yn gym∣maint ac y gallasai Grist yn hydda gyfodi geiriau yr Iddewon caethion, a dywedyd, Gwelwch ac edrychwch a oes y fath ofid am gofid i, âr hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi, yn nŷdd angerdd ei ddigter? Galar. 1. 12.
Galw y pethau hyn i'th gôf yn amser gweinidogae∣thiad y Sacrament, nid yn unic pan wyt ti yn bwytta y Bara, ac yn yfed y Gwîn; eithr hefyd pan welych di dorri y Bara, a thywallt y Gwin, yna ti a ddylit feddwl pa fodd y torrwyd Corph Crist ag arteithiau, ac y ty∣walltwyd ei Waed ef er maddeuant pechodau; a hefyd pan welych eraill yn cymmeryd y Bara, a'r Gwin, yna ti a ddylit fwydo dy feddyliau yn y myfyrdod am chwerw farwolaeth Crist, a'i aml ddioddefiadau.
Y coffa ymma am farwolaeth Crist yn y Sacrament, ni wasanaetha iddo fód yn noethlwm goffâd Historiawl am dano ef, gan ymfodloni âr goffâd o'r Histori am farwo∣laeth Crist, fel y gosodir hi allan gan yr Efangylwŷr, eithr rhaid iddo fod yn goffa gweithiawl a Phraithig, yn gweithio dy galon di i fynu,
1. At gariad diffuant i Dduw, yr hwn oi hyrad râs, a'i oludog drugaredd a anfonodd ei anwyl fab o'i fynwes ei hun ir bŷd, i gymmeryd ein Naturiaeth ni arno, ac yn honno i farw o farwolaeth chwerw felltigedig dros bryn∣nedigaeth dŷn. Pwy a ddichon yn ddigonol ryfeddu ob∣legid golud Cariad Duw i ddŷn yn hynny? Pa fôdd y llofwn ni allan gŷdâ Dafydd, ac y dywedwn, Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti iw gofio? Psal. 8. 4. Yn enwedig i ti iw gofio yn gymmaint; ac y rhoddit fab dy gariad i ddi∣oddef angeu melltigedig ar y Groes, i'n gwneuthur ni, y rhai oeddym blant digofaint, a chaethweision Satan, yn fei∣bion i Dduw ac Etifeddion bywyd ac Iechydwriaeth dragwy∣ddol▪ A pha wêdd y dylai yr anfeidrol ddiamgyffred
Page 123
gariad Duw ymma, wresogi ac enynnu ein hoerion a'n rhewllyd galonnau ni â gwresog gariad iddo ef yn i ôl?
2. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ein calon∣nau ni i fynu at gariad gwressog i Grist, am ei ryfeddol ga∣riad hwnnw, yn ei roddi ei hun drosom, ei gorph iw groe∣shoelio, ei waed iw golli, a'i enaid i ddwyn y baich trwm anfeidrol o ddigofaint ei Dâd dyledus i'n Pechodau ni, yr hyn a wnaeth iddo chwysu y defnynnau gwaed yn yr Ardd, a llefain â llef uchel ar y Groes, fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Oh pa fodd y dylai hyn draser∣chu ein eneidiau ni gan ryfeddod, wrth ystyried faint y∣doedd ei gariad ef! ac ennyn ein calonnau â chariad iddo ef drachefn, yr hwn a wnaeth ac a oddefodd cym∣maint drosom ni? Pa fôdd y dylai y myfyrdod am am∣ryw ddioddefiadau Crist, yn enwedig am ei Angeu a'i Ddi∣oddefaint chwerw ef, weithio ynom ni wŷn sancteiddlân o gariad?
3. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ynom ni ofal am ryngu bôdd iddo ef ym mhob peth, ar fôd yn ewyllys∣gar i wneuthur a dioddef pob dim erddo ef, yr hwn a wnaeth ac a ddioddefodd gymmaint erom ni; Yr hyn y mae Crist yn ei fynegi i fôd yn brawf difai o'n cariad ni iddo ef, gan ddywedyd, O cherwch fi, cedwch fy 'ngorchymmynion, Joan. 14. 15. Ac er na allom ni gadw gorchymmynion Crist yn Gwbl, etto nyni a allwn ac a ddylem mewn purdeb ro∣ddi cais ar eu cadw hwynt, heb yr hyn nid yw ein pro∣ffefs ni o gariad ond ofer a diffrwyth; mewn rhith, ac nid mewn gwirionedd.
4. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ynom ni dristwch duwiol am ein pechodau, megis y gwir achos o'i ddi∣oddefiaddu ef. Canys y gwirionedd yw, nad Juddas yr hwn a fradychodd Grist, na'r Scrifennyddion a'r Pharisaeaid y rhai a'i cyhuddasant ef, na Philat a'i condemnodd ef, na'r Milwŷr a'i Croeshoeliasant ef, na'r Diafol yr hwn ai gosododd hwynt oll ar waith, yn gymmaint an Pecho∣dau ni ydoedd y gwir achos o ddioddefiadau Crist. Y Milwyr ar ai fflangellasant ef, ac a'i Croeshoeliasant, nid oeddynt ond ein Dihenyddwŷr ni, i ddodi arno ef y co∣spedigaethau hynny, ar a haeddodd ein Pechodau ni, ac
Page 124
a osododd Cyfiawnder Duw am yr unrhyw. Ein pecho∣dau ni a wenwynodd y ffrewyllau hynny ar a fflangellodd ei Gorph diniweid ef, y drain hynny y rhai a bigasant ei arleisiau ef, a'r Hoelion hynny y rhai a wanasant ei ddwylo a'i draed ef, ac a'u gwnaethant mor chwerw iddo ef. Och na fedrem ni gan hynny edrych ar yr hwn a drywanasom drwy ein peehodau, fel y gallem alaru fel un yn galaru am ei uniganedig, ac ymofidio megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig, Zach. 12. 10.
5. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ynom ni farwolaeth Pechod; Nyni a ddylem gofio marwolaeth Crist felly, fel y byddem ni marw i Bechod. Canys yr Apostol Paul sydd yn annog ein marwolaeth i bechod oddiwrth farwolaeth Crist, fel megis ac y bu Crist farw ac y cyfod∣wyd eilwaith, felly y dylem ninneu farw i bechod a byw i Dduw. Rhuf. 6. 2, 4. Ir diben ymma casáwn a ffeiddiwn y pechod megis y drwg mwyaf, gan roddi ein brŷd gyd â chymmorth grâs Duw ar ymado ac ymwrthod â phob mâth ar bechodau am yr amser i ddyfod; canys pa ham yr ymddangosai un pechod yn ysgafn i ni, yr hwn a bwy∣sodd cyn drymmed ar ein Iachawdwr, oni fwriodd ef mewn chwŷs gwaedlyd? Pa ham y byddei un pechod yn felys i ni, yr hwn a fu mor chwerw i'n Iachawdwr? Pell fyddo oddiwrthym ni, drwy adnewyddu ein pecho∣dau, rwygo ei archollion ef o newydd, ai ailgroeshoe∣lio hefyd.
6. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ein calon∣nau ni i fynu at ryw ddyledus ddiolchgarwch i Dduw, a'i fâb ef Jesu Grist, am eu hanrhaethawl gariad ai trugaredd tu ag attom ni yn byn. Diolchgarwch sydd râs iw harfer nid yn unic ar ôl derbyn y Sacrament, ond hefyd tra 'r ydym ni yn bresennol yn yr Ordinhâd. Pan yw ein calonnau ni wedi ymserchu â'r teimlad o anfeidrol gariad Duw'r Tâd, yn rhoddi ei anwyl fab allan oi fynwes i farw dro∣som; ac o anrhaethawl gariad Crist yn offrymmu ei Gorph ei hun yn Aberth ar y Groes dros ein Pechodau ni, yna y dylent dorri allan mewn moliant a diolchgarwch i Dduw 'r Tâd, a'i fab ef Jesu Grist.
III Dyledswydd arall iw chyflawni ar yr Ordinhâd, yw go∣sod
Page 125
dy radau ar waith, yn fwy enwedigol dy ffydd a'th edifeir∣wch. Nid digon i ti ddwyn ffydd, edifeirwch, a rhadau eraill ir Sacrament, eithr rhaid yw i ti hefyd yno gynn∣hyrfu dy radau ai harfer hwynt, onid ê ni byddi di ond derbyniwr anheilwng. Canys fe all nid yn unic y dŷn annuwiol yr hwn sydd heb râs, ond hefyd plentyn Duw yr hwn sydd â gwîr râs ganddo, dderbyn y Sacrament yn anheilwng, a myned ymmaith heb ddim cyssur neu le∣sáad yn y bŷd; hynny yw, oddieithr iddo ef yno gynn∣hyrfu ei radau a'u gosod hwynt ar waith. Canys y Sa∣cramentau nid ydynt yn gweithio megis Physygwriaeth, drwy rinwedd ynglŷn ynddynt hwy, eithr yn ôl tymer y sawl sy yn gyfrannog o honynt. Ac am hynny, fel y myn∣nit ti fod yn un o'r gwahoddedigion teilwng, a bod yn gyfrannog o gyssur yr Ordinhâd, cynnhyrfa dy radau a gosod hwy ar waith. Megis,
I. Dy ffŷdd, Dymma 'r grâs pennaf iw arfer yn y Sa∣crament; Canys ffydd yw llygad yr enaid, drwy yr hwn y mae'n canfod ac yn iawn farnu corph a gwaed Crist tan yr elfennau o fara a gwin: Llaw yr Enaid yw hi hefyd, drwy yr hon y mae 'n derbyn Jesu Grist: a genau yr E∣naid, drwy yr hwn y mae 'n ymborthi ar Jesu Grist. Ac am hynny heb osod dy ffŷdd ar waith ar y Sacrament, ni elli dderbyn dim llesáad.
Y mae gweithred driphlyg i ffydd iw gosod ar waith yn Swpper yr Arglwydd.
1. Edrych am Jesu Grist. 2. Derbyn Crist. 3. Ei gym∣mhwyso a'i biodoli ef attat dy hun.
1. Gweithred gyntaf ffydd yw Edrych am Grist; ac am hynny, pan wyt ti yn bresennol ar Swpper yr Arglwydd, na orphywys yn yr elfennau oddiallan, yn edrych arnynt hwy, ac yn eu cymmeryd; eithr â llygad ffydd iawn far∣na gorph a gwaed Crist tan yr elfennau o fara a gwîn, y rhai yn ddiau ydynt yn ysprydol a Sacramentaidd yn gosod allan gorph a gwaed Crist, fel y mae yn eglur wrth ymadrodd Crist ei hun, canys ac efe yn dal y bara yn ei law, ef a ddywedodd; Matth. 26. 26. Hwn yw fy Nghorph, hynny yw, yn Ddirgelaidd a Sacramentaidd, mewn ffordd o arwyddocâad; fel pe dywedasai, Mae 'r barahwn
Page 126
yn arwyddocau fy 'nghorph i. A chan ddal y cwppan oedd ar gwîn ynddi, a llefaru am y gwîn oedd o'i mewn, y mae'n dywedyd, Hwn yw sy ngwaed, hynny yw, yn Ddir∣gelaidd a Sacramentaidd, mewn ffordd o arwyddocáad, fel pe dywedasai, Mae'r gwîn hwn yn arwyddocau fy Ngwaed i.
Ac megis nad wyt ti i orphywys yn yr elfennau oddi∣allan, na chwaith yn y defodau ar gweithredoedd oddi∣allan; eithr wrth edrych arnynt hwy yr wyt ti â lly∣gad ffŷdd i weled ac i ddeall y pethau ysprydol a ar∣wyddoceir drwyddynt: Pan ganffyddech di gan hynny y Gwenidog yn torri'r bara, yna myfyria ar amryw ddio∣ddefiadau Crist, ac â llygad ffŷdd, edrych ar Jesu Grist yn crogi ar y Groes, yno yn ymdrech â digofaint ei Dâd, ac yn griddfanu tan bwys a baich ein pechodau ni; Cenfydd ei gorph bendigedig wedi ei dorri ai ddry∣llio â ffonnodiau ag archollion, â fflangellau a hoelion.
Drachefn, pan welech di y Gweinidog yn tywallt y gwîn, yna arfer a gosod dy ffydd ar waith yngwaed Jesu Grist, a'i dywalltiad ef, yr hyn mewn gwirionedd sydd yn dan∣gos cyrhaeddiad dioddefiadau Crist, sef hyd at gymme∣ryd ymmaith ei einioes ef, yr hyn yw cyrrhaeddiad ei∣thaf dioddefaint dŷn yn y byd ymma. Y ddau hyn gan hynny, Torri corph Crist, a thywallt ei waed ef, a gymm∣wys gydgyssylltir; y cyntaf i ddangos dygnedd dioddefia∣dau Crist, yr ail, eu cyrrhaeddiad hwynt, sef cyn belled ac yr oedd yn bossibl iddynt fôd, hyd at dywalltiad ei waed ef.
Drachefn, pan welych di y Gweinidog yn rhoddi y bara ar gwîn ir Cymmunwyr, yna cenfydd trwy lygad ffŷdd gariad Duw yn rhoddi ei fab i bob Cymmunwr credadwy. Canys cyn wiried a bôd y Gweinidog yn rhoddi y bara ar gwin, cyn wiried a hynny y mae Duw mewn gwiri∣onedd yn rhoddi Crist, ynghŷd a hôll ddonniau a lle∣sáad ei farwolaeth ai ddioddefaint, megis Cymmod, Pryn∣nedigaeth, Maddeuant pechodau, &c. Canys nid oes yno Gyffelybiaeth yn unic, ond gwir ac uniawn osod Crist allan, megis wedi ei dorri dros ein pechodau ni.
II. Gweithred arall i ffydd iw harfer yn Swpper yr Arglwydd, yw derbyn Jesu Grist. Canys y Credadyn wedi
Page 127
iddo ganfod Crist â llygad ffydd tan yr elfennau oddi∣allan, a'r defodau rhagddywededig, yna y mae yn ei dderbyn ef iw galon mewn llawenydd a gorfoledd lawer. Megis gan hynny ac yr wyt ti yn estyn allan law dy gorph i dderbyn y bara ar gwîn, estyn allan law dy ffydd i gymmeryd gafael ar Jesu Grist ac iw dderbyn, ac i orphywys arno ef megis am faddeuant pechodau ymma, felly hefyd am fywyd tragwyddol ac iechydwri∣aeth ar ôl hyn. Oblegit ffydd yw 'r offeryn hwnnw drwy yr hwn yr ydym ni yn derbyn Crist a'i holl ddoniau, fel y cynnygir hwy i ni yn yr Efengyl, ac y selir hwy i ni yn y Sacrament. Mae ffŷdd ir enaid, megis ac y mae y llaw ir corph, yr hyn a gynnygier i ddŷn o ran ei ddai∣oni, y llaw sydd barod iw dderbyn, a'r hyn a dderby∣nio y llaw yn y modd hwnnw, sydd yn eiddo dŷn ei hun. Fal hyn y mae Duw yn cynnyg ei fab i ni, ffydd sy yn perswadio 'r galon o ewyllys da Duw i ddŷn, ac o'i wir fwriad ef ar wneuthur dŷn yn gyfrannog o'i fab, ac ar hynny y mae 'n cymmeryd gafael arno, ac yn ei dderbyn ef yn eiddo ei hun, a Christ sydd eiddo ef mewn gwirionedd.
III. Gweithred arall i ffydd iw harfer yn Swpper yr Arglwydd, yw cymmhwyso a phriodoli Crist i ti dy hun, yr hyn a arwyddoceir tan y Defodau o fwytta y bara, ac yfed y gwîn, drwy yr hyn y deallir, ymborthi ar Grist drwy ffydd, yr hyn yw ei gymmhwyso ef. Pan wyt ti gan hyn∣ny yn bwytta 'r bara, ac yn yfed y gwîn, ymbortha ar Grist drwy ei gymmhwyso ef yn neilltuol attat dy hun, ynghŷd a'i holl ddoniau, o ran diddanwch ith enaid dy hun. Ymsic∣crhâ dy hun drwy ffydd ddarfod geni Crist i ti, fel y ga∣llai ef fod yn Iachawdwr i ti, i'th waredu di oddiwrth dy bechodau; Ddarfod iddo ef gyflawni perffaith ufydd∣dod ir Gyfraith, fel y gellid cyfrif ei Gyfiawnder ef i ti; ddarfod iddo fe farw o farwolaeth chwerw felltigedig i'th ryddhau di oddiwrth farwolaeth a damnedigaeth dragwyddol yr hyn a haeddasai dy bechodau di. Fel hyn y dylit ti gymmhwyso Crist ynghŷd â'i holl ddonniau o ran cyssur ith enaid dy hun▪ A gweithredu ffydd fal hyn, yw bwytta ac yfed mewn gwirionedd. Y gwîr yw, fod〈1 page missing〉〈1 page missing〉
Page 130
Gyfammod o Râs a wnaethpwyd i chwi ynddo ef, am roddi y Sacramentau yn angwaneg megis Selau ir Cy∣fammod o Râs, am gadarnhau eich ffŷdd chwi, ac am eich gwneuthur chwi y dŷdd hwnnw yn gyfrannogion oi Sacrament bendigedig, ac am y cyssur a'r llonnychdod hwnnw a gowsoch chwi ynddo. Gobeithio nad ydych chwi yn gyfryw anifeiliaid ac yr anghofioch roddi di∣olch i Dduw am yr ymborth âr hwn y llonnychodd ef eich cyrph chwi. A fendithiwch chwi Dduw am eich ymborth corphorol; ac oni wnewch hynny am eich ym∣borth ysprydol, â'r hwn y maethir eich eneidiau i fywyd tragwyddol? A fendithiwch chwi Dduw am friwsionyn, aconi fendithiwch chwi ef am Grist? yn yr hwn y mae pob peth yn gynnwysedig mewn môdd tra-rhagorol.
2. A glywfoch chwi eich calonnau wedi eu llonni au cynn∣hesu yn Swpper yr Arglwydd? gwiliwch ddiffodd y gwres ys∣prydol hwnnw a enynnwyd yno ynoch, drwy gwympo yn ddisym∣mwth at ymddiddanion bydol, a chwedleuon dilês; Ond gw∣newch eich goreu ar gadw yn oleu y tân cyssegrlân hwn∣nw a gowsoch chwi y pryd hynny wedi ei ennyn yn eich calonnau, drwy weddi, myfyrdod, ac ymddiddanion san∣ctaidd; canys gwybyddwch, y bydd i ddisymmwth ddi∣ffoddiad yr yspryd, dueddu yn fawr iawn at galedu eich calonnau.
3. Cynnheliwch wiliadwriaeth gaethach arnoch eich hunain am yr amser i ddyfod. A olchwyd eich eneidiau chwi yn y Sacrament â gwaed Crist oddiwrth fudron frychau ac amliw pechod, ac a fydd i chwi yn ebrwydd gwedi, Ym∣drobaeddu eilwaith gydar Hwch ym mudreddi y pechod, ac yn nhom brynti pechaduru••? A ddarfu i chwi wrth nesau at yr Ordinhâd honno; fwrw i fynu eich pechodau trwy gyffess? Ac a ddychwelwch chwi yn awr gydâr ci at eich chwydion eich hunain? A ydych chwi yno drwy lygad ffydd wedi canfod Crist wedi ei groeshoelio dros eich pecho∣dau chwi, tan y moddion o dorri 'r bara, a thywallt y gwîn •• ac a fydd i chwi ei ailgroeshoelio ef yn awr, drwy wneuthur y pechod o newydd? Ymrowch yn hyttrach yn egniol, ac ymdrechwch o hyn állan ar groeshoelio eich pechodau, am y rhai y croeshoeliwyd Crist, ar i chwi
Page 131
gasáu, ffieiddio a bwrw ymaith bob pechod yn gym∣maint ac y bo ynoch.
4. Gwnewch eich goreu ar fyw yn sobrach, gyfiawnach, a Duwiolach yn y byd presennol hwn, Tit. 2. 12. Yn Sobrach tu ac attoch eich hunain, yn gyfiawnach tu ac at eich Cymmydogion, ac yn Dduwiolach tu ac at Dduw. Megis ag y gwnaethpwyd chwi yn gyfrannogion o Ordinhâd nid yw gyffredinol i bawb, ond neilltuol ir Saint, felly y dylai eich bucheddau chwithau fôd â rhyw beth neill∣tuol ynddynt, ar nad yw gyffredinol i ddynion annuwiol. Chwi a ddylech fucheddu bucheddau y fo abl i argyoeddu eraill, drwy ragori ar eraill mewn sancteiddrwydd, ac mewn cyfiawnder. Rhaid i chwi fod yn fynychach ac yn wressoccach mewn Dyled-swyddau-teuluaidd, yn fwy go∣falus yn sancteiddio Dydd yr Arglwydd, yn fwy cyfiawn ac onest yn eich ymdriniaeth â dynion, gan fyw felly fel yr harddoch eich Proffess, ac yr addurnoch Efengyl Jesu Grist. A phan demptier chwi i un pechod, ymresym∣mwch â chwi eich hunain fal hyn. Oni bum i yn ddi∣weddar ar fwrdd yr Arglwydd? ac oni ddarfu i mi yno addunedu ac addaw bod yn fwy gwiliadwrus yn erbyn pechod, ac yn fwy gofalus i rodio yn ffyrdd duwioldeb? ac a giliafi yn awr allan o ffordd duwioldeb i ffordd y pechod? Gosodwch eich profedigaeth i bechod fal hyn wrth faenprawf eich adduned, a phrofwch onid yw ef yn ei herbyn hi: Yr hyn trwy fendith Dduw a ddichon ragflaenu llawer Pechod.
PEN. XXI. Am Baratoad erbyn Marwolaeth ac am Farw yn dda.
OS dealli di fôd dy Glefyd i farwolaeth, ai fod yn de∣byg o fod yn Glefyd olaf i ti, yna dy ddoethineb fydd dy baratoi dy hun i farwolaeth yn oreu ar y me∣drych.
O ran dy gynnorthwyo yn hyn yn well, cymmer yr Hyfforddiadau ymma.
Page 132
I Gofod dy Dŷ mewn trefn; fy meddwl yw, sefydlu o honot dy ystât oddiallan, drwy wneuthur dy Lythyr cymmun neu'th ewyllys; yr hyn ni phrysura ddim ar dy farwolaeth di mewn modd yn y bŷd (fel y mae llawer yn eu ffoledd yn tybied) ond yn hytrach a'th ddyru di mewn cymmhwysder gwell, i osod dy enaid mewn trefn o ran ymadawiad bendigedig. Ac megīs ac y bendithi∣odd Duw di â golud, felly na phalla o roddi rhyw gy∣fran weddol o hono tu ac at ddiwallu aelodau tlodion Jesu Crist. Er bod yr eluseni a wneler yn amser bywyd dŷn yn oreu yn ddiammeu, ac yn fwyaf cymmeradwy gan Dduw, pan wnelom ni ein Dwylo ein hunain yn Ec∣secutorion, a'n Llygaid ein hunain yn Olygwyr i ni; etto nid wyfi yn beio ar yr Eluseni a ddangoser ar y diwedd, ca∣nys gwell yw'n ddiweddar nâ'i esceuluso tros byth.
II. Anfon am ryw Weinidog duwiol, neu Gristion profedig, ith gyfarwyddo di i osod dy Enaid mewn trefn, o ran dy fawr gyfnewidiad. Y cyngor hwn y mae 'r Apostol Jaco yn ei roddi, canys medd ef, Jac. 5. 14. A oes neb yn eich plith yn glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto. A hyn a gynghorwn i ti ei wneuthur yn y man cyntaf, heb ei oedi dan yr olâf, pan ddechreuo dy ddeall a'th goffadwriaeth di ballu, megis ac y mae arfer y rhan fwyaf, y rhai pan ddarfyddo ir Physygwr â hwynt, ai fod mewn rhan wedi eu rhoddi hwynt heibio, yna yr anfo∣nant am Weinidog i ddechreu gŷd â hwynt, megis ped fai Weddi ferr, neu ychydig eiriau o gyngor Ysprydol, yn ddigon iw hebrwng ir Nefoedd.
III. Gwnâ dy oreu ar wneuthur, neu yn hytrach ar adne∣wyddu dy heddwch gyd â Duw; canys er na ddylit oedi gwneuthur dy heddwch gydâ Duw tan (neu hyd) dy We∣ly-marwolaeth, etto rhaid i ti y pryd hynny ei adnewy∣ddu ef mewn modd enwedigol, megis yr amser olaf ar sydd i ti iw wneuthur ef. Ir diben hwnnw,
1. Edrych yn ôl i ystod dy fuchedd gynt, ac atgofia ei am∣ryw gyfeiliornadau ef; megis gwagedd dy feddyliau, mor ofer a gweigion, mor gnawdol a halogedig a fuont; a hefyd ddiflasrwydd dy eiriau a'th ymadroddion, mor ddi-Dduw ac mor ddi Crist, ie mor anfuddiol a fuont gan y
Page 133
mwyaf: a hefyd anwiredd dy weithredoedd. Ac wrth dy holi dy hun ynghylch dy weithredoedd, adgofia, pa ddy∣ledswyddau a esceulusaist, a pha Bechodau a wnaethost; ac hefyd ym mha fodd pechadurus y cyflawnaist sanctaidd Ddyledswyddau, y modd y bu dy Wasanaeth mwyaf cre∣fyddol â chymmysc o Bechod ynddo. Cais redeg hefyd tros yr amryw Oedrannau oth einioes, ac ystyria pa Be∣chodau a bechaist yn dy Febyd, pa rai yn dy Ieuengctid, a pha rai yn dy gyflawn oedran.
Ac ynghŷd â nifer dy Bechodau, ystria eu gorthrwm amgylchiadau hwynt; megis pa fodd y pechaist yn erbyn Duw grafol, Tâd caredigol, ac Arglwydd a Meistr hae∣lionus; pa fodd y pechaist yn erbyn rhybuddion Gwei∣nidogion Duw, cynnhyrfiadau ei Yspryd ef, a cheryddon dy Gydwybod dy hun; yn erbyn dioddefgarwch a hir∣ymaros Duw, yr hyn a ddylasei dy arwain di i edifeir∣wch; yn erbyn yr amryw addunedau ar addewidion a wnaethost i Dduw o newydd-deb buchedd, a gwell ufydd∣dod. Dos ym mlaen yn trymhau dy bechodau, nes i ti gael dy galon mewn rhyw fesur wedi gweithio arni i ofidio a thristau am danynt; ac yna,
2. Cyffesa dy bechodau wrth Dduw mewn Gweddi; lleda hwynt ger ei fron ef mewn gwir a diffuant gydnabyddi∣ad ac addefiad o honynt, gan dy farnu ath godemnio dy hun ger bron Duw yn hyrwydd am danynt.
3. Erfyn neu ddeisyf yn daer am bardwn ganddo, a ma∣ddeuant am danynt, yn a thrwy haeddedigaethau Jesu Grist. Canys ni elli di edrych am gael hynny, ond drwy Hy∣râd-Râs a Thrugaredd Duw yn Jesu Grist, 1 Joan. 1. 9. Eph. 1. 7.
Tanella dy enaid a gwaed Jesu Grist. Crist yw ein tangneddyf ni, megis ac y geilw yr Apostol ef, Eph. 2. 14. ni elli di chwaith (drwy gwbl ar a allech di ei wneu∣thur) mor ymheddychu â Duw, eithr yn unic drwy ffydd yn ei waed ef. Pan ganfu yr Angel oedd yn dinistrio, waed yr Oen wedi ei daenellu ar Bŷst un drws, efe a dramwyodd heibio ir Tŷ hwnnw, a'r rhai oedd ynddo oeddynt ddiogel, Exod. 12. 23. felly yr Enaid yr hwn sydd wedi ei danellu â gwaed Jesu Grist, sydd mor ddiogel
Page 134
rhag Angel Duw yn dinistrio, na wnelo ef mor niwed iddo; canys elw yw marwolaeth ir Enaid sydd wedi ei daenellu â Gwaed Crist, ag ynteu yn ddrws y bywyd, a phorth ir Nefoedd, fel y mae Cyprian yn ei alw. Er mai gwaed Crist yw'r achos o'n heddwch a'n cymmod gydâ Duw, etto oddieithr bôd y gwaed hwnnw wedi ei da∣nellu ar dy Enaid, ni elli di gael fawr heddwch yno. Ac am hynny y mae 'r Apostol Petr yn adrodd nid yn unic am waed Crist, ond am daenelliad gwaed Crist, 1 Pet. 1. 2. Nid digon yw bôd Crist wedi tywallt ei waed, ond rhaid heb law ei dywalldiad ef, fôd ei daenelliad ef hefyd. Gwaed Crist a dywalltwyd ar y Groes, etto nid yw pob dŷn drwy hynny wedi eu cymmodi â Duw. A pha beth yw 'r achos? Yn ddiammau o herwydd nad yw y gwaed hwnnw wedi ei daenellu ar eu heueidiau hwynt; canys tangneddyf a chymmod gydâ Duw sydd raid ei gael, nid yn unig oddiwrth waed Crist a dywalltwyd allan, ond oddiwrth ei waed ef wedi ei daenellu.
Cwest. Pa fodd y taenellir gwaed Crist ar ein eneidiau ni?
Atteb. Trwy ffydd, yn cymmhwyso gwaed Crist at ein eneidiau er cyssur iddynt. Ffydd yw llaw yr Enaid, a'r enaid trwy ffydd sy yn estyn ei llaw i Archollion Crist, yn cymmeryd o'i waed ef, ac yn ei thaenellu ei hunan ag ef, gan gymmhwyso ei haeddedigaethau ai rinwedd ef atti ei hun, ac oddiyno y dilyn heddwch a chymmod gydâ Duw.
Gwrthddwediad. Myfi a gymmhwyswn Haeddedigaethau Marwolaeth a Dioddefaint Crist attas fy hun yn ewyllysgar, eithr ysywaeth, yr wyfi yn gwybod oddiwrth gymmaint o an∣beilyngdod yr wyfi yn euog o hono, wrth fod heb weled dim achos ynof fy hunan pa ham y perthynai haeddedigaethau Mar∣wolaeth Crist i mi, fel na fedraf, ie na feiddiaf moi cymm∣hwyso hwynt attaf fy hunan.
Atteb. Mae 'n dda i ti fod euogrwydd oth anheilyngdod dy hun yn gydnabyddus i ti dy hunan, ond nid felly fel y cadwer di drwy hynny rhag cymmhwyso Crist attat, a haeddedigaethau ei farwolaeth a'i ddioddefaint o ran cyssur ith enaid. Ar gwirionedd yw, pettit ti ond ysty∣ried,
Page 135
fod Duw yn edrych ar ei ddaioni ei hun, ac nid ar yr eiddom ni pan y mae ef yn cyanig ei fâb i ni, a bod ei râs ef bob ffordd o'r fâth rattaf, ni allei dy dŷb ymma oth anheilyngdod dy hun fod yn ddadl gyfiawn yn y bŷd yn erbyn cymmhwyso Crist, ynghŷd â lleshâd ei farwolaeth ai Ddioddefaint er cyssur ith enaid; fe ddy∣lei yn hytrach fod yn annogaeth i ti; o herwydd po an∣heilyngaf ydwyt ti yn dy olwg a'th deimlad dy hun, mwyaf teilwng y mae Crist yn dy gyfrif di. Y teilyng∣dod mwyaf y dichon un Cristion ei gyrraedd ymma, yw bod yn deimladwy oi anheilyngdod ei hunan.
Gwrthdd. 2. Mae fy Mhechodau mor aml o ran rhifedi, ac mor ddrygfawr o ran eu mâth, na fedrafi feddwl fod Crist yn perthyn i mi, ac am hynny ni feiddiaf moi gymmhwyso ef, na lleshâd ei farwolaeth ai ddioddefaint attaf fy hun.
Atteb. Po mwyaf pechadurus wyt ti yn dy ddeall a'th deimlad dy hun, cymmhwysach wyt ti i ymwasgu ag Je∣su Grist, ac i gymmhwyso Haeddedigaethau ei farwo∣laeth ef attad dy hwn; canys yngrasol wahoddiad Crist, nid ydym ni yn cael un gynneddfen arall wedi ei rhoddi i fewn, ond teimlad o bechod, Deuwch attafi bawb ac y sydd yn flinderog, ac yn llwythog. ac mi a esmwythaf arnoch, Mat. 11. 28. Lle mae y rhai a wahoddir at Grist, yn gy∣fryw rai ac sy yn deimladwy o'u pechodau, ac am hyn∣ny ydynt yn griddfan tan eu baich a'u pwys hwynt, me∣gis ac y mae 'r gair yn y Groec yn briodol yn arwy∣ddocau. Ac yn Luc. 5. 32. Crist sy yn addef, Na ddaeth ef i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch; nid y rhai oedd gyfiawn yn eu tŷb eu hunain, ond y rhai oe∣ddynt yn Bechaduriaid, yn eu deall a'u meddwl eu hunain yn wir deimladwy o'u pechodau; yn gymmaint ac mai teimlad o bechod yw'r unig gynneddfen angenrheidiol o ran cymmhwyso attom Jesu Grist.
Gwrthdd. 3. Myfi a bechais yn fynych yn erbyn gwybo∣daeth a chydwybod, ac am hynny yr wyfi yn ofni bechu o ho∣nof y Pechod amhardynawl hwnnw, y Pechod yn erhyn yr Ts∣pryd Glân, ac felly ni feiddiafi gymhwyso gwaed Crist i mi fy hun.
Atteb. Er bod y Pechod yn erbyn yr Yspryd Glân yn
Page 136
Bechod yn erbyn gwybodaeth a chydwybod, etto pob Pechod (ie pob Pechod gorthrwm) yn erbyn gwybodaeth a chydwybod, nid yw y Pechod yn erbyn yr Yspryd Glân; canys hwy a allant fôd hebddo; ac am hynny er darfod i ti bechu yn fynych yn erbyn gwybodaeth a chyd∣wybod, er hynny oni pechaist di â chalon faleusus, hynny yw, oni phechaist yn unic o herwydd y mynnit ddigio Duw, a thristau ei Yspryd ef, ni ddarfu i ti be∣chu y Pechod yn erbyn yr Yspryd Glân.
IV, Gwedi i ti ymheddychu â Duw, yna ymheddychae â dynion, drwy faddeu or galon i bawb a wnaethant â thi gam. Dyledfwydd yw hon i ti iw chyflawni yn holi ystod dy einioes, fel y rhodder i ti ddim achlysur i hynny, heb yr hyn ni dderbyn yr Arglwydd ûn gwasanaeth Cristia∣nogol, nac un aberth a offrymmech di iddo; ac am hyn∣ny medd ein Achubwr, Mar. 11. 25. Pan safech i weddio, os oes gennit ddim yn erbyn neb, maddeu iddo; canys mewn gwirionedd, pa fodd y gelli di ofyn i Dduw faddeuant am dy bechodau, pan na faddeui di i ddŷn ei gamwe∣ddau yn dy erbyn di? Pa fodd y gelli di erfyn am he∣ddwch a chymmod gyd âth Dâd nefol, pan na fynni di gymmodi âth frawd ar y ddaiar? Megis gan hynny ac y mae y Ddyledswydd hon i ti iw chyflawni yn holl ystod dy einioes, felly yn enwedigol ar dy Glefyd olaf, canys trwy hynny y gelli ynnill peth siccrwydd yn dy Enaid o faddeuant am dy bechodau a wnaethost di yn erbyn Duw; yr hyn a ddengys ein Iachawdwr yn ei ymadrodd hwnnw, Os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeu i chwitheu, Mat. 6. 14. A fynnit ti gan hyn∣ny fôd yn siccr o drugaredd Dduw tu ac attat mewn maddeuant oth Bechodau a wnaethost iw erbyn ef? chwi∣lia yn fanwl dy enaid dy hun, ac os medri gael dy fod ti or galon yn maddeu i'th frawd mor ddifrifol, ac yr wyt ti yn chwennych cael maddeuant gan Dduw (a chydâ hynny wyt yn credu ac yn edifarhau,) yna y gelli dy siccr∣hau dy hun o drugaredd Dduw i ti mewn maddeuant oth bechodau a wnaethost iw erbyn: cymmaint a hynny a ddangosir i ni yn y pummed Erfynniad o Weddi yr Ar∣glwydd, Maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnaie
Page 137
i'n dyledwŷr; yr hwn ymadrodd olaf a chwanegir, mewn rhan i'n cynhyrfu ni, i fod yn barod i faddeu ir rhai a wnaethant â ni gam; ac mewn rhan i gadarnhau ein ffŷdd yn y siccrwydd o faddeuant o'n pechodan â becha∣som yn erbyn Duw, oddiwrth ein parodrwydd ni i fa∣ddeu ir rhai a wnaethant â ni gam; yn gymmaint a bod ein gwaith ni yn maddeu i'n Brawd, yn ffrwyth yn deilliaw oddiwrth waith Duw yn maddeu i ni.
V. Gwnâ dy oreu ar wneuthur yn eglur dy Siccrwydd am y Nef, fel y gallech di ar sail dda ddywedyd gyd â'r Apostol Paul, Mi a wn, os ein daiarol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i mi adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd, 2 Cor. 5. 1. Yr Scrythur sy yn gosod ar lawr amryw fâth ar Siccrwydd eglur o wir hawl a thitl ir nefoedd, megis, Ffydd yn-Ghrist Jesu, ca∣nys medd ein Achubwr, Joan. 3. 16. Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ef ei unig-anedic fâb, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragy∣wyddol. Ac medd Ioan Fedyddiwr, Ioan 3. 36. Tr hwn sydd yn credu yn y mâb, y mae ganddo fywyd tragwyddol; hynny yw, mae ef cyn siccred o hono, a phed fai ef mewn me∣ddiant parod o hono, Peth arall ac sy 'n egluro hawl dyn ir nefoedd a osodir ar lawr, 1 Ioa. 3. 14. Nyni a wy∣ddom ddarfod ein symmud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru y brodyr.
Oblegid bod bagad o wir Gristianogion, sef, rhai ac sydd yn gwir gredu, mewn llawer o flinder ar eu gwe∣ly-angeu o herwydd eu bod heb siccrwydd ou hawl yn Ghrist, ac o fywyd gwynfydedig ar ôl y bywyd hwn, myfi a osodaf ar lawr dri o ystyriaethau iw cyssuro au cynnal hwynt.
1. Fe ddichon bod gan ddŷn ffŷdd o ymlyniad ac o oglud, er na bo ganddo ffydd o eglurdeb a siccrwydd. O ran deall yr hyn yn well rhaid i chwi wybod, fod dwy fath ar ffydd, fel y mae Difinwŷr yn dosparthu, sef, Y ffydd o ym∣lyniad, drwy yr hon yr ydym ni yn ymdreiglo ar Grist, ac yn gorphywys arno ef, ai Haeddedigaethau yn unic, am fywyd ac am iechydwriaeth: a'r ffydd o eglurdeb a siccrwydd, drwy yr hon y gwyddom ac yr ydym siccr o'n
Page 138
hawl yn-Ghrist, ac yn ddilynawl o'n hawl a'n titl ir Ne∣foedd. Weithian, fe ddichon bod gan ddŷn ffydd o ym∣lynniad, yr hon sydd wir ffydd yn cyfiawnhau, ar sy 'yn rhoddi i ni hawl yn Ghrist, a thitl ir Nefoedd, ac etto fe ddichon fod heb ffydd o eglurder a siccrwydd, fel nad edwyn ef moi happusrwydd. Megis ac y dichon y plentyn mewn gwirionedd fod ynglŷn wrth wddf ei fam, neu ei fwrw ei hun yn ei breichiau hi, ac etto bôd heb dderbyn na chusan nae gwên oddiwrthi hi: felly y dichon enaid truan ei threiglo ei hun ar Grist, ai bwrw ei hun yn ei-freichiau ef, a gor∣phwys yn ei fynwes ef (yr hyn sydd wîr ffydd) ac er hynny bod heb na chusan na gwên oddiwrtho ef; am hynny bydded yn bell oddiwrthit ti gwestiwnu gwirio∣nedd dy ffydd yn unig o ddiffyg bod Crist yn gwenu ar∣nat, neu gwestiwnu dy ffydd o ymlynniad, oblegid nad oes gennit y ffydd o eglurdeb a siccrwydd.
2. Siccrwydd o'n hawl yn-Ghrist, ac o'n happusrwydd i ddyfod; er ei fod yn rheidiol o ran cyssur Cristion, etto nid yw o ran ei iechydwriaeth ef; er ei fôd o ran ei ddidda∣nwch, etto nid yw o ran ei ddiogelwch; ei gyflwr a eill fôd yn ddiogel, er na bo yn gyssurus iawn am yr amser presennol; canys diogelwch Cristion nid yw yn sefyll dim ar ei siccrwydd ef, eithr ar ei ffŷdd. Y Cri∣stion yr hwn drwy ffŷdd a fedro ei dreiglo ei hun ar Grist, ai fwrw ei hun iw freichiau ef, gan orphywys ar ei haeddedigaethau ef yn unic am fywyd, ac am iechyd∣wriaeth, mae ei ystâd a'i gyflwr ef yn ddiogel, er nad oes ganddo mor siccrwydd hwnnw y mae yn ei ddymu∣no: Canys yr addewid o fywyd ac iechydwriaeth a wnaeth∣pwyd i ffydd, ac nid i siccrwydd; Trefn yr Efengyl yw, Crêd a thi a fyddi gadwedig, megis Joan 3. 16. Felly y ca∣rodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd ef ei uniganedig fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o ho∣naw fywyd tragywyddol. Ni ddywedir pwy bynnag sydd gantho siccrwydd o'i hawl yn Ghrist, ac o fywyd ac ie∣chydwriaeth, eithr pwy bynnag sy yn credu yn Ghrist a gaiff fôd yn gadwedig. Yr ystyriaeth ymma a ddichon adfywio llawer o eneidiau trwmbluog, y rhai er eu bôd yn ym∣wrthod â phôb hyder ynddynt eu hunain, ac mewn dim
Page 139
cyfiawnder or eiddynt ei hunain, ac yn cyfleu eu holl hyder ar gyfiawnder Jesu Grist, a haeddedigaethau eu far∣wolaeth a'i ddioddefaint ef, etto heb ganddynt ddim siccrwydd cyssurus yn eu heneidiau eu hunain o'u hawl yn-Ghrist, ac o'u bywyd a'u hiechydwriaeth dragwy∣ddol; gwybydded y cyfryw rai y dichon eu cyflwr fod yn dda ac yn ddiogel er hynny ei gŷd.
3. Nid yw siccrwypd am Iechydwriaeth mor gyffredinol ac y mae bagad o Gristianogion yn tybied, canys yn ddiau nid yw y Cristianogion hynny a gyrhaeddant ymma i eglur∣deb goleu a llawn siccrwydd o'u hiechydwriaeth ond y∣chydig; y cyfryw rai ag y mae 'r Arglwydd ymma yn eu galw allan i wasanaeth caled, neu ddioddefiadau maw∣rion, iddynt hwy y rhynga bodd iddo ef lawer pryd ro∣ddi peth eglurdeb goleu a siccrwydd ou bywyd a'u hie∣chydwriaeth dragywyddol, o ran eu cyssuro a'u cynnal yn well. Fal hyn y darfu i lawer o Ferthyron adrodd eu llawn siccrwydd o fywyd gwell ar ôl hwn; ond ni cha∣niatéir yn arferol mor cyfryw fesur i Gristianogion cy∣ffredinol, y rhai nid yw eu profiadau hwynt ond bra∣thiadau-chwain o'u cyffelybu i ddioddefiadau eraill.
VI. Yna yn enwedigol gosod ar waith radau Yspryd Duw ynot; megis,
1. Dy ffydd, yr hon sydd râs o ddefnydd mawr i ti cyhyd ac y byddych fyw yn y bŷd ymma, eithr yn fwy∣af o gwbl ar dy glefyd olaf, ac yn amser Marwolaeth; yna gan hynny bydd yn enwedigol yn arfer dy ffydd, ac yn ei gosod ar waith yn Jesu Grist; edrych â Llygad ffydd ar Grist yn crogi ar y Groes, yna yn offrwm ei fy∣wyd i fynu megis Aberth-holl-ddigonol, a chyflawn iawn i Gyfiawnder Duw tros dy Bechodau di, a bwrw dy hun i freichiau Jesu Grist, gan orphywys ar ei Haeddedigae∣thau ef yn unic am fywyd ac iechydwriaeth: gŷd ac ym∣wrthod â phob hyder ynot dy hunan, neu ddim cyfiawnder o'r eiddot dy hun, cyflena dy holl hyder ar gyfiawnder Jesu Grist, acar haeddedigaethau ei farwolaeth ai ddioddefaint ef.
2. Yna yn enwedigol dangos dy zêl dros ogoniant Duw, drwy roddi cyngor da ir rhai sydd o'th amgylch, neu yn dyfod i'th edrych; yr amser olaf yw y gellych di wneu∣tnur
Page 140
dim dros Dduw yn y byd hwn, yna gan hynny dangos dy gariad iddo ef a'th Zêl dros ei ogoniant, drwy alw ar eraill iw ofni ef, ai wasaneuthu, drwy gydwy∣bodus gyflawni dyledswyddau eu lleoedd, galwedigaethau, a'u perthynasau; perswadia hwynt i synnied pethau 'r byd ymma yn llai, a phethau 'r Nefoedd yn fwy; i brisio ie∣chyd, a gwneuthur defnydd o hono er llês iw heneidiau; i ro∣ddi ystôr o radau a chysurau ynghadw erbyn y dydd drwg, ac i geisio eglurdeb am eu siccrwydd o'r Nefoedd, cyn eu bwrw ar eu gwelau-marwolaeth. Geiriau dynion wrth farw ydynt o fwyaf grym ac awdurdod, ac am hynny gwnâ ddefnydd oth ymadroddion wrth fyned i farw o ran gogoniant i Dduw a daioni ith gymmydog. Fal hyn y darfu i'n bendigedig Achubwr, pan ydoedd ef i yma∣do ar bŷd, ddangos ei Zêl tros ogoniant Duw, a cha∣riad iw ddiscyblion, yn gado gydâ hwynt lawer o werth∣fawr gynghorion, cyssurau ac annogaethau; ar Apostol Paul ac ynteu yn oedranus ac yn gwybod fôd amser ei ymadawiad ef yn gyfagos, a alwodd am Henuriaid yr Eglwys o Ephesus, ac a adawodd gyd â hwynt lawer o gynghorion rhagorol a phwysfawr. Joan 13. 14, 15, 16, 17. pennodau. Act. 20. 18, 19, &c.
3. Gosod dy ufydd-dod ar waith, drwy dy roddi dy hun i fynu i Ewyllys Duw, i fôd wrth ei drefniad ef, pa un bynnac ai i fywyd ai i farwolaeth; fel na ddylit ti fôd yn anfodlon i farw pan alwo Duw di, felly ni ddylit ti chwaith fod yn rhŷ awyddus i farw cyn iddo dy alw; nid rhŷdd i ti chwennych Marwolaeth o ran anfodlonrwydd meddwl, oblegid rhyw drueni neu gystuddiau sydd arnat ti yn bresennol; nagê, ni elli di ddymuno marw yn ben∣dant o ran chwant i gael ymwared oddiwrth dy becho∣dau, a bôd gyd â Christ, eithr rhaid i hynny fod gyd ag ymddarostyngiad i Ewyllys Duw, os gwêl ef hynny yn addas ac yn gymmwys i ti; er i Paul wybod mai llawer gwell oedd iddo ef farw na byw, etto nid oedd ef yn chwennych marw yn hollawl, ond trwy ymostwng i Ew∣yllys Duw.
VII. Bydd yn fynych yn darllen yr Scrythyrau Sanctaidd, neu par eu darllen kwynt i ti yn fynych, canys yno y cei di,
Page 141
1. Ecsamplau o drugaredd Dduw a ddangoswyd ir cy∣studdiol.
2. Athrawiaethau ith ddyscu pa fodd i ddwyn dy Ym∣weliad presennol, a gwneuthur defnydd o hono.
3. Addewidion cyssurus o gynhaliaeth tan y profiadau blinaf. A gwybydd yn siccr, y bŷdd ûn addewid yn llyfr Duw yn fwy grymmus i roddi i ti gyssur ar dy wely∣marwolaeth, nâ holl gyngor dy gyfeillion a fyddo yn dy gylch di y prŷd hynny.
VIII. Bydd yn mynych dderchafu dy galon i fynu at Dduw mewn Gweddi. A phan nas gallech di drwy wendid dy gorph, a methiantrwydd yspryd mor tywallt allan dy e∣naid mewn Gweddi osodedic a chynnefinol, anfon ryw Weddi ferr a saethech ar gip meddwl i fynu at Dduw, megis honno or eiddo 'r Publican truan, O Dduw bydd drugarog wrthif bechadur, Luc. 18. 13. A honno hefyd or eiddo r Gŵr truan, Yr wyfi yn creduo Arglwydd; cymmorth fy anghrediniaeth i, Mar. 9. 24. A honno or eiddo Stephan, Arglwydd Jesu derbyn fy yspryd, Act. 7. 59. Y Saethiadau hyn a ddelont or galon ydynt gymmeradwy gan Dduw, ac yn rhyngu bôdd iddo; gwnawn ein goreu gan hynny, fel y mae Awstin yn ein cynghori, ar farw yn gweddio, drwy fynych anadlu allan y Gweddiau Saethydd-frŷd ymma, neu 'r cyffelyb.
IX. Bydd yn mynych gyflwyno dy enaid i fynu i ddwylaw Duw, gan ddywedyd gŷd â'n bendigedig Achubwr, O Dâd, i'th ddwylo di y gorchymynnaf fy yspryd, Luc. 23. 46. Plant bychain gan y mwyaf a chwennych farw ym myn∣wes eu Tadau, neu ar arffed eu mammau; felly y dyleit titheu yn awr angeu, fwrw dy enaid ym mreichiau dy Dâd nefol, a gorphywys ym mynwes Jesu Grist.
Page 142
PEN. XXII. Am Ddyledswyddau Gwyr a Gwragedd yn gyffredi∣nol y naill ir llall.
WEdi dangos yr Hyfforddiadau cyffredinol a berthy∣nant i Gristianogion megis Cristianogion.
Yn awr y deuaf at Ddyledswyddau nailltuol a berthy∣nant i ti yn dy amryw a'th wahanrhedawl berthynasau. Canys nid yw ddigon i ti wneuthur o honot gydwybod o Ddyledswyddau Christianogaeth yn gyffredinol, ond rhaid i ti hefyd fod yn gydwybodus yn cyflawni Dyledswyddau neilltuol dy amryw berthynasau, drwy yr hyn y cyfrennir rhyngthynt lawer o ddaioni y naill ir llall, ac y der∣bynnir hefyd y naill gan y llall; yn gymmaint a bod yr Apostol Paul wrth osod ar lawr amryw Ddyledswy∣ddau perthynasau, yn wastadol yn eu dwyn hwynt tan dri o Bennau, sef, Gwŷr a Gwragedd, Rhieni â Phlant, Mei∣striaid a Gweision; Mi a ganlynaf y Rheol hon, gan ddan∣gos i ti ddyledswyddau pob un or rhai'n.
Am Ddyledswyddau Gwŷr a Gwragedd, fe ellir eu tyn∣nu ir ddau Ben hyn. 1. Ir cyfryw rai ar sydd gyffredi∣nol ir ddau. 2. Ir cyfryw rai ar sydd briodol a neill∣tuol i bob un ar ei ben.
Y Dyledswyddau cyffredinol ac ar y naill ir llall yw y rhai hyn.
I. Caredigol serch y naill ir llall, Ephes. 5. 25, 28, 33. Tit. 2. 4. Hyn yr wyfi yn ei alw yn Ddyledswydd ar y naill ir llall, oblegid megis ac y mae 'r Gŵr i garu ei Wraig▪ felly y mae 'r Wraig i garu ei Gŵr. Cariad sydd ddyledswydd y mae pob Cristion yn ei dylu iw gi∣lydd, Câr dy Gymydog fel ti dy hun, medd ein Jachawdwr, Mat. 22. 39. Lle wrth Gymydog yr arwyddoceir pob gwr, a phob gwraig, yn gymmaint a'n bod ni yn rhwym i garu pawb, hyd yn oed ein gelynion, er mwyn Crist. Ei∣thr po agosaf y mae rhai wedi eu cylymmu ynghŷd, mwyaf rhwymedig ydynt i gyflawni y Ddyledswydd hon
Page 143
o gariad, ac i ymhelaethu yn hynny. Yn awr, pwy a gŷdgylymwyd ynghŷd mor gyfagos â Gŵr a Gwraig? ac am hynny fe ddylai fod rhyngthynt hwy garedigawl serch y naill ir llall, a'r cariad yr hwn a ddengys y naill ir llall a gynnhyrfa 'r llall i dalu 'r cariad hwnnw yn ôl drachefn, fal nad oes dim yn colli drwy gariad.
II. Cydfod a chyttundeb oddiallan. Hyn a ddylai fôd, cyn belled ac y mae 'n bossibl, rhyngom â phâwb, Heb. 12. 14. Ei∣thr yn enwedigol rhwng Gŵr a Gwraig, y rhai a gyd∣gyssylltwyd mor gyfagos. Canys heb fod cydfod a chyt∣tundeb rhwng Gwr a Gwraig, pa gyssur a ddichon na'r naill na'r llall ei gael yn ei hannedd? Y gwirionedd yw, fôd pob un yn byw yn fwy neu yn llai comfforddus yn ei dŷ, wrth fel y mae 'r cydfod ar cyttundeb yno.
O ran cynnal cyttundeb yn well rhwng Gŵr a Gwraig, cymmerwch yr ychydig Hyfforddiadau ymma.
1. Rhoddwch gais ar ddarostwng a churo i lawr bôb gwyn∣niau o gynddaredd, y rhai sy yn arferol o fod yn achlysur o anghydfod ac ymryson; yn enwedigol pan fyddo ûn mewn gwŷn, fe fydd yn ddoethineb ir llall arfer ymy∣nedd, a dangos yspryd addfwynaidd; canys pan yw'r ddau yn boethion ac yn ddiglon ar unwaith, yno y mae'r tân o gynnen yn debyg i gynnhyrchu ir cyfryw fflam ar na ddiffoddo yn ddiswtta. Ac am hynny myfi a orchy∣mynaf y rheol hon i bobl briodol, I ochelyd bod ill dau yn ddig a'r unwaith, eithr yn hytrach bydded ir naill fôd ir llall megis Telyn Dafydd, i lonyddu cynddaredd Saul.
2. Er bod tân o gynnen wedi ennyn gartref, etto na âd iddo dorri allan i dŷ dy gymydog; eithr bydd siccr o'i gadw o fewn dy barwydydd dy hun. Canys cael yr ydys drwy brawf yn rhy fynych, fod amrafaelion rhwng Gŵr a Gwraig unwaith wedi eu cyhoeddi ar lêd, yn anhaws eu gwneuthur i fynu.
3. Pan gotto dim amrafael▪ ymegnied pob un pwy un gyntaf a ddêl i geisio heddwch a chymmod, canys hwy piau 'r glôd a ddechreuont yn gyntaf. Myfi a ddarllennais fôd ar ryw amser amrafael rhwng dau o Philosophyddion enwog▪ Aristippus ac Aeschines▪ Aristippus ar y diwedd a ddaeth at Aeschines▪ ac a geisiodd heddwch a chymmod, a chŷd
Page 144
â hynny efe a ddywedodd, Cafia, er fy môd i yn hynaf, a'r hwn a gafodd y cam, etto myfi a geisiais yr beddwch. Gwir yw, eb Aeschines, ac am hynny mi a gydnabyddaf bŷth dy fôd ti yn ŵr mwy teilwng, canys myfi a ddechreuais y gyn∣nen; a thitheu yr heddwch. Eithr pa nifer o honom ni sy yn dyfod yn fyr o Aristippus (er nad oedd ond Philoso∣phydd o'r Cenhedloedd) yn hyn o ran, gan dybied mai gwradwydd yw dŷfod yn gyntaf i geisio heddwch a chymmod?
III. Dyledswydd arall y mae Gwt a Gwraig yn ei dylu y naill ir llall ydyw Gweddi. Hwy a ddylent weddio dros en gilydd, Drwy gydwybodus gyflawni yr hyn, y geill Gŵr a Gwraig fod yn gynnorthwyawl y naill ir llall ym mhob peth angenrheidiol i bob un o honynt, oblegid fod gwe∣ddi yn fôdd a sancteiddiodd yr Arglwydd o ran caffael pob peth da yn gystal i ni ein hunain ac i eraill. Mae Coffadwriaeth am Isaac, Weddio o hono ef ar yr Arglwydd dros ei wraig am ei bod hi yn amhlantadwy, a gwrando o'r Arglwydd arno ef; hynny yw, Yr Arglwydd a wrandawodd ei Weddi ef, ac a ganiattaodd ei erfynniad. Gen. 25. 21.
IV. Dyledswydd arall arnynt iw gilydd yw, Rhagddarbodus of ofal am eneidiau eu gilydd.
1. Os bydd Gŵr neu Wraig credadwy wedi priodi un di∣grêd, hwy a ddylent arfer pob moddion a fedront i ynnill y llall, 1 Pet. 3. 1. 1 Cor. 7. 16. Ac os bydd un o honoch yn fôdd o droedigaeth y llall, mor gyfan-bûr y cyssyllta hyn eich serchiadau y naill ir llall?
2. Os y Gŵr a'r Wraig hefyd a fyddant mewn Stât o Râs, hwy a ddylent fod yn wiliadwrus y naill dros y llall, megis i ragflaenu pechod yn eu gilydd, felly iw ddiwygio y ffordd oreu y medrant pan gwympo un o honynt hwy iddo, drwy rybudd prydlawn, ie a cherydd hefyd, oni wasa∣naetha rhybudd: Yn hyn y dylai Wr a Gwraig yn fwy ofalu am ddaioni eu gilydd y naill ir llall, nag ofni rhag rhoddi achos i ddigio.
Ac y mae 'n ddyledswydd berthynasol ar sy yn sefyll ar Wr a Gwraig, fod yn helpu ymlaen gynnydd grâs yn eu gilydd, megis drwy gydymddiddan yn fynych am bethau da; yn enwedigol am yr hyn a glywont drwy gyhoeddus
Page 145
Weinidogaeth y Gair; felly hefyd drwy ddyfal gyflawni dyledswyddau-teuluaidd, yn enwedigol Gweddi. Er bôd y ddyledswydd hon yn perthyn yn bennaf i'r Gŵr, etto fe ddylai 'r Wraig ddwyn hynny âr gôf iw Gŵr, os efe a'i hanghofia, a'i gynnhyrfu ef, os bydd ef yn ddiweddar.
V. Dyledswydd arall ar y naill ir llall yw, Celu a chuddio gwendid eu gilydd. Nid oes na Gŵr na Gwraig heb eu gwendid; am hynny eich doethineb fŷdd celu hwunw, cyn belled ac y galloch gŷd â chydwybod dda. Ac mewn gwirionedd, ûn weithred a gorchwyl o gariad yw hon, ceifio cuddio a chelu gwendid y sawl a garant. Mor feius gan hynny ydynt hwy y sawl a gymmerant bob achlysur i danu ar lêd wendid eu gilydd, ac yn fynych o weithiau a ddywedant gelwydd ar eu gilydd? Y bai hwn sydd fwy o lawer o ran dau beth.
1. Am fod Gwr a Gwraig yn gwybod mwy oddiwrth wendid eu gilydd, ac o herwydd hynny os byddant hwy a'u meddwl cynddrwg, hwy a allant beri mwy o ogan ac anglod y naill ir llall, nac a ddichon neb arall.
2. O herwydd, o bob pleidiau eraill, hwynt hwy yd∣ynt fwyaf rhwymedig i gelu gwendid eu gilydd, oblegid eu hundeb cyfagos.
PEN. XXIII. Am Ddyledswyddau Gwyr iw Gwragedd.
WEdi dangos dyledswyddau cyffredinol y naill ir llall yn perthyn yn gystal ir Gwr ac ir Wraig, yn awr y deuaf at ddyledswyddau enwedigol a neilltuol yn per∣thyn i bob un o honynt ar ei ben.
Ac yn Gyntaf am ddyledswyddau y Gŵr, y rhai a ellir eu cynnwys oll tan yr un gair ymma Cariad; canys hwn∣nw a gawn ni yn fynych wedi ei osod ar lawr a chry∣bwyll am dano yn eglur megis dyledswydd bennaf y Gŵr. Eph. 5. 25, 33. Col. 3. 19.
Y pethau neilltuol yn y rhai y dylei Wr ddangos ei gariad iw Wraig; yw y rhai hyn, ar cyffelyb.
Page 146
1. Drwy roddi parch iddi megis ei gyfeilles a'i gŷdgymar; Y lle o'r hwn y cymmerwyd y wraig, sef, ei ystlys ef, lle y mae ei galon ef yn sefyll, sy yn arwyddocau cymmaint â hynny; canys y hi sydd megis y Galon yn y corph, llawer mwy rhagorol nag un aelod arall tan y pen, a chan y mwyaf yn ogufuwch âr pen. Mae yn hynodol, pan wnaethpwyd y wraig, ni chymmerwyd mo honi allan o ben y gwr, am nad oedd hi i reoli arno ef; nac allan o'i droed ef, am nad oedd hi i fod yn ddarostyngedig iddo megis caethferch neu forwyn; ond allan o'i ystlys, fel y gallei ef ei chymmeryd hi megis ei gyd gymmar a'i gy∣feilles, yr hyn a ddylei efe ei wneuthur, gan ystyried eu bod hwy yn gŷdgyfrannogion o lawer o ragorfreintiau enwedigol ar sy yn gyffredinol ir ddau, gan eu bod yn Gyd-rieni ir unrhyw blant; Cyd-lywiawdwŷr yr un teulu, Cyd-gyfrannogion or unrhyw dda (o ran yr arfer o honynt) A Chydetifeddion grâs y bywyd, (os ydynt dduwiol) megis ac y mae Petr yr Apostol yn llefaru, 1 Pet. 3. 7.
2. Drwy ymhyfrydu ynddi. Hyn y mae 'r Gŵr doeth yn ei orchymmyn, yn Dih. 5. 19. Bydded fel ewig gariadus, ac fel iwrch hawddgar; gâd iw bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn oestadol, hynny yw, dyro dy serch arni, gan ei hoffi hi. Ac yn ddiammau, trwy nad elo gŵr tu hwnt i derfynau gweddeidd-dra a sobrwydd, ni ddichon bôd ei serch ef tu ag at ei Wraig yn rhŷ ormod. Nid yw dy Wraig di ysgatfydd mor lândeg, nac mor dirion ynddi ei hun, ac yw rhai gwragedd eraill. Er hynny megis ac y mae Rhieni yn caru ac yn hoffi eu plant eu hunain, nid cymmaint oblegid eu bôd hwy yn dêg yr olwg, yn synhwyrol, neu 'r cyffelyb, eithr or herwydd mai eu plant hwy ydynt; felly y dylit titheu hoffi dy Wraig, nid cymmaint oblegit ei bôd hi yn lân o brŷd, yn ddoeth, neu 'r cyffelyb: eithr o herwydd mai dy Wraig yw hi, sef y Wraig a appwyntiodd yr Arglwydd i ti, gan goelio mai hi yw 'r Wraig gymmhwysaf i ti â'r yr hon y dylit ymfodloni.
3. Drwy ei thrin hi yn addfwyn. Rhaid yw ir Gŵr ym∣ddwyn yn addfwyn ac yn dirion ym mhob peth tu ac at ei Wraig. Yr addfwynder ymma a annogir gan yr
Page 147
Apostol dan y Bai gwrthwyneb iddo, sef, Chwerwedd; canys medd efe, Y Gwŷr, cerwch eich Gwragedd, ac na fy∣ddwch chwerwon wrthynt, Col. 3. 19. Lle y gosodir Chwer∣wedd yn wrthwyneb i addfwynder, tirionder, cyfeillga∣rwch, a'r cyffelyb. Y mae 'n rhaid gan hynny i ymadrodd ac ymddygiad y Gŵr tu ag at ei Wraig fôd mewn mawr laryeidd-dra ac addfwynder; os addysga efe hi, rhaid i hynny fôd gyd â phôb addfwynder a llaryeidd-dra; os gorchymyn ef ddim iw wneuthur, hynny a ddylei fôd drwy fath ar ddymuno; ni ddylei efe mor bôd yn rhŷ brysur yn gorchymmyn; os argyoedda efe hi, rhaid bôd hynny gŷd â chymmaint oll o addfwynder â llaryeidd∣dra ac a ddichon fod.
Cwest. A ydyw 'n gyfreithlon i Wr daro, neu guro 'r Wraig?
Atteb. Er bod ir Gŵr beth Awdurdod ar ei Wraig▪ etto nid oes dim yn dangos fod ganddo ef allu neu rydd∣did ar hynny iw churo hi.
1. Canys yn gyntaf, nid ydym ni yn cael mo hynny nac yn orchymynnedig nac yn ganmoledig i ni yn yr Scrythyrau.
2. Pa ffrwyth a ellir ei ddisgwyl oddiwrth fôd Gŵr yn curo ei Wraig? ond talu yn ôl ddyrnodiau a chrippia∣dau, hyd eithaf ei nerth hi. Canys hyn sydd ddigon siccr, os gŵr nid oes ganddo ddim awdurdod ar un arall, a deru un, hwnnw a drû yn ei erbyn ef, ac a wnaiffiddo bob drwg ar a allo. Weithian gan hynny gan nad oes un rheswm i beri i Wragedd goelio, fôd gan eu Gwŷr mor fâth awdurdod arnynt hwy, ac iw curo am eu bei∣au; pa obaith sydd y cyd-ddygant, hwy a hynny yn o∣ddefgar, ac y gwelleir hwynt drwyddo? neu yn hyttrach▪ onid ydyw yn fwy tybygol y bŷdd iddynt hwy nid yn unic godi yn eu herbyn hwynt, eithr os gallant, hwy a feistrolant ar eu Gwŷr, a bŷth o hynny allan hwy a daflant ymmaith bob ymostyngiad iddynt?
Page 146
Page 147
Page 148
PEN. XXIV. Am Ddyledswyddan Gwragedd.
WEdi dangos Dyledswyddau Gwŷr tu ag at eu Gwra∣gedd, yn awr y deuaf i ddangos Dyledswyddau Gwragedd tu ag at eu Gwyr.
Megis ac mai 'r pen dyledswydd o ran y Gwr ydoedd Cariad, felly y ddyledswydd bennaf o ran y Wraig yw ymostyngiad; tan yr hyn y mae bagad o bethau neilltuol yn gynnwysedig, Eph. 5. 22.
Ymostyngiad Gwraig ir Gwr sy yn arwyddocau dau beth.
1. Ar iddi gydnabod â Goruchafiaeth yn ei Gŵr.
2. Ar iddi arfer y cyfryw ddyledswyddau ar sydd yn tarddu oddiwrth y cydnabod â'r goruchafiaeth hwnnw.
1. Y cyntaf nid yw yn unic yn ddyledswydd, ond yn sail yr holl ddyledswyddau eraill pa rai bynnac; canys nes cael or Wraig gyflawn fodlondeb ynghylch gorucha∣fiaeth ei Gŵr priod, ni chyflawna hi un ddyledswydd megis ac y dylei. Am hynny y dylei Wragedd ddyscu y pwngc ymma yn y man cyntaf, sef, fod eu Gwŷr yn oru∣chaf arnynt; yr hyn sy yn eglur yn ymddangos,
1. Wrth drefn y Greadigaeth. Y gŵr a greuwyd yn gyn∣taf, ac ar hynny a gafodd yr Anedigaeth-fraint.
2. Wrth Ordinhâd Duw, yr hwn a ddywedodd wrth y Wraig, dy ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti, Gen. 3. 16.
3. Wrth yr enwau a'r titlau a roddir ir gŵr yn yr Scry∣thur, y rhai sy yn arwyddocau goruchafiaeth ynddo ef, megis Arglwydd, 1 Pet. 3. 6. Lbywodraethŵr, Dih. 2. 17. Pen, 1 Cor. 11. 3. ar cyffelyb. Caniattau yr ydwyf yn wîr nad oes ond ychydig iawn o anghydweddwch, ac anghyffe∣lybrwydd bychan rhwng Gŵr a Gwraig, a nhwythau ill dau yn llywodraethwŷr yr unrhyw Deulu, yn Rhieni ir un Plant, a chydetifeddion grâs y bywyd, etto gan ddar∣fod
Page 149
i Dduw ordeinio ymddarostyngiad o dû'r Wraig mor eglur, fe ddylid ei gydnabod.
II. Megis ac y dylei'r Wraig gydnabod â goruchafi∣aeth yn ei Gŵr a'i roddi iddo, felly y dylei hi arfer y cyfryw ddyledswyddau ar sy yn tarddu ac yn goferu oddiwrth y cydnabod âg ef, y rhai a ellir eu dwyn ir tair hyn o geingciau neilltuol.
1. Anrhydedd. Hyn y mae yr Arglwydd yn ei ofyn gan bob rhai iselrâdd tu ag at y rhai Uchelrâdd, yn y pum∣med Gorchymmyn, ac am hynny dyledswydd yw hi yn perthyn i bob rhyw Wragedd o ran eu Gwŷr priod, y rhai ydynt oruchaf arnynt, megis eu Harglwyddi, eu Lly∣wodraethwŷr, a'u Pennau. Yr Anrhydedd hwn a ddylei Wragedd ei ddangos,
1. Drwy eu gwaith yn gwneuther cyfrif oddifewn o'u Gwŷr priod, gan eu barnu yn deilwng o anrhydedd er mwyn eu lle, am eu bod yn VVŷr iddynt, pa un bynnac fyddont ai cyfoethoccach a'i tlottach: ai hynach ai ievangach nâ hwy eu hunain.
2. Drwy eu parch iddynt oddiallan, yr hwn a ddylent eu eglurhau drwy eu parchedig ymddygiad, a'u hymadrodd, gan roddi iddynt y cyfryw enwau ar sy yn arwyddocau goruchafiaeth, ac arnynt flâs o barchedigaeth.
2. Caingc arall o ymddarostyngiad y Wraig, yw Add∣fwynder, yr hyn a ddylei hi ei ddangos. Megis drwy gym∣meryd ei hargyoeddi gan ei Gwr yn llonyddaidd, Felly hefyd drwy fod yn ewyllysgar i gymmeryd ei chynghori gan ei Gŵr, gan fod yn barod i ddilyn ei gyngor da ef: etto os oes gan y Wraig olwg craffach, a'i bod yn canfod yn well nâ'i Gŵr yr hyn a orchymmynnodd Duw, er nas gall hi mor Ymawdurdodi ar ei Gŵr, 1 Tim. 2. 12. etto hi a all, a rhaid yw iddi mewn pob gostyngeiddrwydd ei berswadio a'i gynghori ef ir hyn sydd dda. A dedwydd yw 'r Gŵr hwnnw (os medr ef ganfod ei ddedwyddwch ei hun) ym mynwes yr hwn y rhoddes yr Arglwydd gyn∣ghorwraig mor ddaionus.
3. Caingc arall o ymddarostyngiad y Wraig, yw Ʋ∣fudd dod; ac mewn gwirionedd dymma y rhan bennaf o'r ymostyngiad hwnnw, y mae yr Apostol yn ei ofyn gan
Page 150
Wragedd iŵ Gwŷr, Y gwragedd ymostyngwch i'ch Gwŷr priod, Ephes. 5. 22. A'r Apostol Petr sy yn gorchymmyn y ddyledswydd hon i Wragedd, drwy siampl Sara, yr hon a ufuddhaodd i Abraham, 1 Pet. 3. 6.
Fe ddylei Wragedd eglurhau eu hufudd-dod iw Gwŷr priod.
1. Drwy fôd yn barod ac yn ewyllysgar i wneuthur yr hyn a ofynno eu Gwŷr ganddynt, ac a fo cyfreith∣lon a rhesymol.
2. Drwy ymattal rhag gwneuthur dim ar sy yn per∣thyn i awdurdod eu Gwŷr, heb gael eu cennad hwy yn neillduol, neu or lleiaf yn gyffredinol.
Am fâth yr ufydd-dod sydd ir Wraig iw roddi ir Gŵr, mae'r Apostol yn ei osod ef ar lawr mewn dau o yma∣droddion, Megis i'r Arglwydd, ac yn yr Arglwydd, Ephes. 5. 22. Col. 3. 18.
Mae'r cyntaf yn dwyn ar ddeall i ni, mai rhaid yw i ufudd-dod Gwragedd fod yn ufudd-dod cydwybodus, hynny yw, mewn ufudd-dod i Dduw, iw Ordinhâd ai Orchym∣myn ef, yr hwn sydd yn ei gofyn hi ganddynt; ac fel hyn y bydd eu hufudd-dod hwynt iw Gwŷr yn wasa∣naeth cymmeradwy gan Dduw.
Yr ymadrodd olaf, yn yr Arglwydd, sy yn dwyn ar ddeall i ni, mai rhaid yw i ufudd-dod y Gwragedd fod ym mhôb gorchymynnion cyfreithlon, sef, y rhai nî bônt yn cyrrhaeddyd at ddim yn erbyn Ewyllys Duw; yn gym∣maint ac os gorehymmyn Gwŷr ddim yn erbyn datcu∣ddiedig Ewyllys Duw, nid yw eu Gwragedd hwynt rwym i ufuddhau iddynt: Am fôd awdurdod eu Gwŷr yn dda∣rostyngedig i awdurdod Duw, ac y mae yn rhaid ir aw∣durdod ddarostyngedig bob amser roddi lle ir awdurdod goruchaf. Ac am hynny os o ran parch iw Gwŷr, neu rhag eu hofn hwynt yr ufyddhâ'r Gwragedd i un gor∣chymmyn anghyfreithlon, gan wneuthur▪ yr hyn sydd ddrwg, ni bydd gorchymmyn eu Gwŷr yn ddadl dda yn y bŷd, llai o lawer yn escus digonol iw roddi trostynt.
Page 151
PEN. XXV. Am Ddyledswyddau Rhieni.
WEdi dangos Dyledswyddau Gwŷr a Gwragedd yn awr y deuaf i ddangos Dyledswyddau Rhieni a Phlant.
Dyledswyddau a berthynant i Rieni o ran eu Plant, yw y rhai hyn.
I. Edrych am gael o honynt eu derbyn i mewn ir Eglwys drwy Fedydd mewn amser cyfaddas, sef, ar ben ychydig ddy∣ddiau ar ôl eu geni. Gorchymynnwyd ir Iddewon enwaedu eu plant ar yr wythfed dydd, Gen. 17. 12. Eithr er dyfod o'r Bedydd yn lle yr Enwaediad, fel y mae'r Apostol yn ar∣wyddocau, Col. 2. 11, 12. etto nid ydym ni yn awr dan yr Efengyl yn rhwym gyfyng-gaeth ir dydd hwnnw; ac er hynny oddiwrth y gorchymmyn hwnnw a roes Duw ir Iddewon, ni a allwn gasglu yn ddiammeu, y gellir ac y dylid bedyddio Plant Cristianogion ar ben ychydig ddy∣ddiau ar ôl eu geni.
II. Eu dwyn hwynt i fynu yn ofn ac addysc yr Arglwydd; y ddyledswydd hon yn enwedigol y mae 'r Apostol Paul yn ei hyrddu ar dadau a Mammau, A chwithau dadau, medd efe, maethwch eich plant yn addysc ac athrawiaeth yr Arglw∣ydd, Ephes. 6. 4. Gedwch i'ch gofal pennaf fôd, nid pa fôdd iw gwneuthur hwynt yn gyfoethogion, ond yn grefy∣ddol, pa fôdd i weithio pur ofn Duw yn eu heneidiau hwynt. fal megis ac y darfu i Dduw o'i anfeidrol ddai∣oni eu gwneuthur hwy yn blant i chwi drwy Genhed∣liad naturiol, felly y dylech chwithau ymegnio a gw∣neuthur eich goreu ar eu gwneuthur hwynt yn Blant iddo ef, trwy dduwiol a chrefyddol ddygiad i fynu. Awstin yn ei bummed Llyfr o Gyffession, wrth lefaru am ei fam Monica, sy yn dywedyd, Ddarfod iddi escor o ran ei anedi∣gaeth yfprydol ef mewn mwy gofid a gofal, nag o ran ei ane∣digaeth naturiol. Ac mewn gwirionedd y cyffelyb ofal a
Page 152
gofid a ddylei fôd ym mhob Rhieni tu ag at eu Plant. Heb dybied mai digon iddynt eu dwyn hwynt i fynu i ryw Gelfyddyd dda, drwy yr hyn y gallont fyw ddŷdd a ddaw: Eithr rhaid yw iddynt hefyd eu dwyn hwynt i fynu yn ofn Duw, gan ddyscu iddynt ei wasanaethu ef ymma felly, fel y gallont fyw gydag ef yn y Nefoedd yn dragwyddol.
O ran eich cymmorth yn hyn yn well cymmerwch yr ychydig Hyfforddiadau ymma.
1. Addyscwch hwynt ym Mhrifbyngciau Crefydd, drwy ddy∣scu iddynt ryw Gatechism da, yr hyn a ddylid ei gyflawni yn fynych oni wneir beunydd, pe rhôn na wnelir ond ychydig ar unwaith, i ragflaenu blinder yn eich plant.
Cwest. Pa cyn gynted y dylem ni ddechreu dyscu ein plant?
Atteb. Pan allont ac y medront ddyscu dim ar sydd ddrwg, mae hi yn llawn amser i ddyscu iddynt ryw beth ar sydd dda. Solomon a ddywaid, Pan oedd ef yn ievangc ac yn dyner, ei dad ai dyscei. Dih. 4. 3, 4. A gwneuthur o'i fam ef felly hefyd, chwi a ellwch ddarllen yn y bennod olaf o lyfr y Diharebion.
2, Dyscwch hwynt mewn prŷd yn y rhan weithredawl o Gristianogaeth, drwy alw arnynt yn fynych i ddarllen yr Scrythyrau; beunydd i offrwn i fynu Aberth boreuol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw; yn wastadol i roddi diolch o flaen prydau bwyd, ac ar eu hôl, yn ofa∣lus i ochelyd pob pechodau adnabyddus, ac yn ddiwyd i gyflawni pob dyledswydd wybyddus, a hynny o ran cydwybod. Hyn a ganmolodd yr Arglwydd yn Abraham, Mi a'i hadwaen ef, medd Duw, y gorchymmyn efe iw Blant, ac iw dylwyth âr ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder a barn, Gen. 18. 19.
3, Dygwch hwynt gydâ chwi ir Ordinhadau cyhoeddus, cyn gynted ac y medront gofio dim ar a glywant. Pan ddarllen∣nodd Josuah eiriau'r Gyfraith ger bron Cynnulleidfa Israel, fe ddywedir yn eglur, fod y gwragedd a'r plant ym mhlith y gwŷr, Jos. 8. 35.
4. Holwch eich plant gartref ynghylch yr hyn a glywsant hwy yn y Cynnulleidfa gyffredin, a rhowch gais ar ci wneu∣thur
Page 153
ef yn amlyccach ac yn eglurach iw deallwriaeth hwynt.
5. Byddwch yn fynych yn llefaru ger eu bronnau hwynt am y pethau mowrion a wnaeth yr Arglwydd er mwyn ei Eglwys ai bobl, gynt ac yn eich dyddiau chwithau. Hyn a orchy∣mynnodd yr Arglwydd i Rieni yr Israeliaid ei wneuthur iw plant, a'r hyn y cawn ni eu bôd hwy felly yn arfer o'i wneuthur, Jos. 4. 6. Psal. 78. 4, 5, 6. Megis ac y mae coffadwriaethau da gan blant yn gyffredinol, felly y ma∣ent hwy yn rhagorol i gofio historiau.
6. Byddwch siamplau o radlonrwydd a duwioldeb i'ch plant. Canys y gwirionedd yw, y mae grym mawr mewn Ec∣samplau i dynnu eraill naill a'i at dda ai at ddrwg. Ac yn arferol, naturiaeth Plant yw dilyn eu Rhieni; Ac am hynny pa fodd y mae 'n perthyn i Rieni edrych ar eu ffŷrdd a'u helyntiau, yn enwedigol pa fodd yr ymddy∣gont ger bron eu Plant y rhai ydynt dueddol iawn i ddilyn eu siamplau hwy? Oh na feddyliai Rieni yn ddi∣frifol am hyn, fel y gallei yr ystyriaeth o hyn eu galw hwy yn ôl oddiwrth bob helyntiau gorwag ac annuwiol▪ rhag iddynt drwy eu drwg eu drwg siampl wneuthur eu plant yn blant uffern y dau cymmaint mwy, nac a oeddynt wrth naturiaeth.
7. Byddwch siccr nad anghofioch weddio ar Dduw beunydd drostynt hwy, yn enwedigol ar iddo ef eu cynnyscaeddu hwynt ag iachusawl a sancteiddrym radau, fal megis ac y cynnyddant mewn oedran, y gallont hwy felly gynny∣ddu mewn grâs, ac yngwybodaeth ein Harglwydd a'n ia∣chawdwr Jesu Grist. Ac o ran eich annogaeth gwyby∣ddwch, Mai anfynych y mae Plant o lawer o weddiau yn pallu, neu yn prifio yn ddrwg. Mae rhieni yn ofalus yn gyffre∣dinol am drysori cyfoeth a golud iw plant, oh na by∣ddent hwy mor ofalus a thrysori trysor o weddiau dro∣ftynt yn y Nefoedd, yr hyn yn ddiammeu a ddigwydd i fôd yn gynnyscaeth oreu i'w plant hwy.
Oh na byddei i bob Rhieni fel hyn wneuthur eu goreu ar ddwyn eu plant i fynu yn ofn ac addysc yr Arglwydd, fel megis ac yr oeddynt hwy yn offerau iw cenhedlu hw∣ynt yn y cnawd, y gallant hwy felly fôd yn offerau iw
Page 154
cenhedlu hwynt yn y ffŷdd! Yr hon yw 'r ddyledswydd bennaf ar sy yn sefyll ar Rieni tuagat eu plant.
III. Dyledswydd arall yw, Darparu dros gyrph eu plant, yn gystal a thros eu heneidiau. Hyn y mae 'r Apostol yn ei ar∣wyddocau, 1 Tim. 5. 8. lle y mae ef yn dywedyd, Od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw nâ'r di-ffŷdd, sef, yn hyn o ran, o herwydd ei fôd ef wrth oleuni nattur yn gwy∣bod fod hon yn ddyledswydd. Ond etto cymmer ofal rhag attal dy law oddiwrth weithredoedd o gariad, o herwydd bod llawer o blant, nagê yn hytrach po mwyaf fo gennit o blant, haelach y dylit ti fôd, fel y gallo yr Arglwydd felly ddyblu ei fendithion arnat ti a'r eiddot; Hâd y trugarog, medd y Psalmydd, a fendithir; Ac medd yr Apostol, yr hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd yn helaeth, Psal. 37. 26. 2 Cor. 9. 6.
IV. Dyledswydd Rhieni yw, Argyoeddi eu plant pan une∣lont ar fai, drwy yr hyn y gellwch chwi eich gwaredu eich hunain oddiwrth euogrwydd pechod eich plant, a rhagflaenu llawer o ddrwg yn eich plant. Canys yn ddi∣ddadl y ddifyg o hyn sydd un achos enwedigol o gym∣maint annuwioldeb a halogrwydd mewn bagad o blant.
V. Prŷd na thyccio argyoeddiad, chwi a ddylech eu cery∣ddu a'u cospi hwynt am eu beiau. Y ddyledswydd ymma y mae 'r Scrythur yn fynych yn ei dirio ar Rieni; Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef iw ddi∣fetha; neu fal y darllen rhai y Gair, er iddo weiddi, Dih. 19. 8. Gan arwyddocau, y dichon gwaith y Tâd yn arbed ei blentyn, dueddu at ei ddinistr ef, neu fel yr arferwn o ddywedyd, ei ddwyn ef ir Crôcbren, yn gym∣maint ac y dichon gormod o dynerwch fod yn greulon∣der o'r mwyaf yn y diwedd. Hên Dâd yn yr Eglwys sydd yn adrodd histori arw am ŵr ieuangc, arfer gynnefinol yr hwn pan ddigwyddei i ddim ei groesi ef, ydoedd regu a chablu, ac heb gael cerydd dyledus am hynny, efe a barhaodd yn yr ystod ddrygionus honno hyd ddydd ei farwolaeth; ac fel y mae 'r histori yn dangos, y cythrael a welwyd yn myned ag ef ymmaith. Eithr yn hyn y mae dau fai rhŷ anafus iw gochelyd yn ofalus, ses, Tynerwch, a
Page 155
Thostrwydd. Megis na ddylei Rieni fôd yn rhŷ-esmwyth tu ag at eu plant, yr hyn oedd fai Eli, am yr hyn y dig∣wyddodd barnedigaethau tost iddo ef a'i blant, 1 Sam. 2. 31, 32. Felly hefyd ni ddylent hwy mor bôd yn rhŷ-dôst yn ceryddu eu plant, fel y mae rhai, heb ystyried na 'r bai, nac oedran, neu naturiaeth eu plant. Am hynny yr Apostol sydd yn rhoddi y cyngor ymma i Rieni, Na yrrwch eich plant i ddigio, ac na chyffrowch hwynt, Eph. 6. 4. Col. 3. 21.
VI. Dyledswydd arall yw, Dwyn eu plant i fynu mewn thyw alwedigaeth onest, gan fod hynny yn fôdd cyffredi∣nol, megis i ragflaenu seguryd, yr hwn yw gwenwyn ieu∣eagctid, felly hefyd i wneuthur iddynt allu byw yn y bŷd, a bod yn wasaneuthgar ir deyrnas y bônt byw ynddi. Yn dewis galwedigaeth, rhaid fyddei ystyried, megis ga∣llu a chymmhwysder y plant, felly hefyd naturiaeth a thueddfryd plant, gan ddalsulw yn ofalus at ba Alwedi∣gaethau y mae eu tuedd hwynt yn fwyaf.
VII. Darparu Dyweddion a Phriodasau cymmwys iw plant, yr hyn yw 'r môdd a sancteiddiodd yr Arglwydd o ran cadw eu cyrph hwynt yn ddiwair ac yn ddihalog. Hyn a roddes yr Arglwydd yn Orchymmyn iw bobl gynt, drwy ei Brophwyd Jeremi, Pen. 29. 6. gan ddywedyd, Cymmerwch wragedd i'ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr. Yn dewis Gŵr neu Wraig, fe ddylei Rieni wneuthur mwy cyfrif o dduwioldeb a doethineb, nac o olud a chy∣foeth, canys drwy hynny y parant hwy ddedwyddwch mawr iw plant yn eu priodasau.
PEN. XXVI. Am Ddyledswyddau Plant.
WEdi dangos Dyledswyddau Rhieni tu ag at eu Plant, yn awr y deuaf i ddangos Dyledswyddau Plant tu ••g at eu Rhieni, yr hyn a ellir ei ddwyn i dri o bennau, ef, 1, Ʋfudd-dod. 2. Anrhydedd. 3. Diolchgarwch.
Page 156
I. Ʋfudd-dod, hyn a ddwys annogir yn fynych yn yr Scrythur megis y ddyledswydd bennaf a berthyn i Blant tu ag at eu Rhieni. Eu Hufudd-dod hwy a ddylid ei ddangos allan,
1. Drwy ymroddi yn llawen iw Heirchion a'u Gorchym∣mynnion hwy, gan fôd yn barod i wneuthur yr hyn a o∣fynnont ganddynt, a hynny er mwyn cydwybod, ie i or∣chymmyn Duw, yr hwn sydd yn gofyn y ddyledswydd hon oddiar eu dwylo hwynt; canys medd yr Apostol, Col. 3. 20. Y Plant, ufyddhewch i'ch rhieni ym mhôb peth; ca∣nys hyn sydd yn rhyngu bôdd ir Arglwydd yn dda. A thra∣chefn, Ephes. 6. 1. Y Plant ufyddhewch i'ch rhieni yn yr Ar∣glwydd, canys hyn sydd gyfiawn. Yn y man cyntaf, y mae ym mhôb peth. Yn yr olaf, y mae yn yr Arglwydd; wrth yr hyn yr arwyddoceir, mai rhaid iw i Ufydd-dod Plant fôd ym mhôb peth onest a chyfreithlon, a fo 'n cyttuno â Gair Duw; yn gymmaint a phe gorchymmynnei eu Rhieni iddynt wneuthur dim yngwrthwyneb i Air Duw; yn hynny y mae 'n rhaid iddynt ufuddhau i Dduw, ac nid iw Rhieni. Canys nid yw Plant rwym i ufyddhau iw Rhieni daiarol ddim pellach, nag y gallo gŷdsefyll gŷd ag ufydd-dod i Dduw eu Tâd nefol.
2. Plant a ddylent eglurhau eu Hufydd-dod iw Rhieni, drwy wrando ar eu haddysc dda hwynt. A hitheu yn ddy∣ledswydd Rhieni fôd yn dyscu eu plant, mae yn rhaid bôd yn ddyledswydd plant fod yn gwrando arnynt, ac ufyddhau iw hathrawiaethau da hwynt, yr hyn y mae Solomon yn ei ddirio ar blant, Dih. 1. 8. Fy mab, medd ef, gwrando addysc dy Dâd, ac nac ymado â chyfraith dy fam. Megis ac y dylei blant wrando ar addysc dda eu Rhieni ym mhôb peth, felly yn fwy enwedigol mewn dau beth,
1. Yn dewis eu Galwedigaethau.
2. Yn dewis eu Dyweddio••.
1. Y cyntaf sydd ganmoledig yn yr Scrythur drwy ar∣fer profedic plant duwiol, megis Jacob, Samuel, Dafydd, ac eraill. Gen. 28. 2. 1 Sam. 1. 28. 1 Sam. 17. 15. Ac yn ddiammeu, gan fôd Rhieni yn foddion o ddwyn eu plant i fynu yn y bŷd, nes eu bôd yn gymmwys i Alwedigae∣thau, a hynny nid heb ofal a thraul mawr, onid yw o'r
Page 157
fath gymmhwysaf a chyfiawnaf iw gair a'u cyngor hwy gael eu cymmeryd, yn dewis eu Galwedigaeth a'u helynt o fywyd?
2. Ac megis yn eu Galwedigaethau, felly hefyd yn eu Priodasau, ac nid i briodi heb eu cydsynniad hwy, yr hyn y mae hyd yn oed goleuni nattur yn ei ddyscu, a Duw ei hun yn ei orchymmyn, pan yw ef yn rhoddi siars ar Rieni, I roddi eu merched i wŷr, ac i gymmeryd gwragedd iw meibion, Deut. 7. 3. Yr hyn sydd o anghenrhaid yn ar∣wyddocau, na ddylei blant gymmeryd Gwragedd neu Wŷr iddynt eu hunain heb, (yn enwedic yngwrthwyneb i) gydsynnied eu Rhieni. Ac am hynny y cyfryw blant ar a anturiant ymgyssylltu mewn Priodas heb gydsynniad eu Rhieni, pa fôdd y gallant hwy ddisgwyl ddim bendith oddiwrth Dduw? ie mae iddynt achos yn hytrach i ofni melltith Dduw arnynt hwy a'u hiliogaeth. Pa fôdd y syrthiodd melltith Dduw ar Esau, a'i hiliogaeth, oblegit ••ddo briodi yn erbyn cydsynniad ei Rieni, gan gymmeryd ••ddo ei hun Wragedd, y rhai oeddynt chwerwder yspryd i Isaac ••c i Rebecca? Gen. 26. 34, 35.
II. Dyledswydd arall ar y mae plant yn ei dylu iw ••hieni, yw Anrhydedd a Pharch. Hyn y mae 'r Arglwydd ••n ei ofyn mewn ymadroddion eglur gan bob plant yn y ••ummed Gorchymmyn, Anrhydedda dy Dâd ath fam. Yr ••nrhydedd a'r Parch ymma sydd raid i Blant ei egluro,
1. Drwy ddistawrwydd gwyledd ger bron eu Rhieni, heb ••od yn brysur i lefaru yn ei gŵydd hwynt nes cael cen∣••••d genthynt.
2. Drwy eu hymadroddion gostyngedig, gan lefaru wrthynt ••ewn gostyngeiddrwydd a pharch, gan roddi iddynt en∣••au cymmwys, megis Tâd, Syr, a'r cyffelyb.
3. Drwy ymddygiad parchedig, yr hwn a ddylent hwy ei dangos drwy ymbennoethi, ymgrymmu eu corph, sefyll ••r eu bronnau, a'r cyffelyb. Joseph, er ei fod wedi ei ••derchafu yn uchel, etto pan ymddangosodd ger bron ei Dâd, a'i ddau fâb gŷd ag ef, yr Scrythur a ddywaid, efe •• ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb, Gen. 48. 12. Ie er bôd ei Dâd yn ddall drwy henaint, ac am hynny ni allai ganfod •• barch a ddangosodd ei fab iddo ef, etto er hyn oll
Page 158
efe a ymgrymmodd i lawr. A phan glybu Solomon am ddyfodiad ei fam, yr Scrythur sy yn dywedyd, Efe a go∣dodd oddiar yr Orseddfaingc iw chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef, a hyn oll yn ar∣wydd o'i barch ef iddi, ac i roddi siampl dda i eraill. 1 Bren. 2. 19.
III. Dyledswydd arall y mae Plant yn ei dylu iw Rhi∣eni, yw Diolchgarwch, sef, diolchgar dalu eu cariad a'u gofal hwynt yn ôl, yr hyn y mae yr Apostol yn ei ofyn gan bob plant mewn ymadroddion eglur, sef, Talu'r pw∣yth iw rhieni; canys hynny, medd efe, sydd dda a chymmerad∣wy ger bron Duw, 1 Tim. 5. 4. Y talu 'r pwyth ymma a ellir ac a ddylid ei eglurhau amryw ffyrdd. Megis,
1. Drwy eu porthi hwynt yn ôl eu heisiau, os Duw a ddy∣ru'r Gallu. Ymarfer Joseph yn hyn a osodir ger ein bron∣nau megis Portreiad, yr hwn ac yntef mewn hawddfŷd, a'i Dâd mewn diffyg, yn gyntaf a anfonodd ŷd iddo yn rhâd allan o'r Aipht, ac ar ôl hynny a ddanfonodd am¦dano ef ir Aipht, ac yno y cyfrannodd efe iddo ŷd yn helaethlawn a phôb peth angenrheidiol arall; canys y mae'r text yn dywedyd, Joseph hefyd â gynhaliodd ei dâd a'i frodyr, a holl dylwyth ei dâd â bara, yn ôl eu teuluoedd, Gen. 47. 12. Ac fe gofir am Ruth, na ddarfu iddi hi yn unic loffa i Naomi ei Chwegr, eithr â chenthi fwyd a roddesid iddi gan weision Boaz o ran ei llonnychu, hi a roddodd iw mam yr hyn a weddillasei hi, wedi cael digon, Ruth. 2. 18. Mi a ddarllennais am ferch, yr hon yr oedd ei Thâd wedi ei farnu iw newynu i farwolaeth, ac a•• hynny ni oddefid i nêb ddwyn bwyd iddo, hi a roddes ei bronnau ei hun iddo ef iw sugno. Mor feius gan hyn∣ny, ie mor annatturiol ydyw'r cyfryw Blant, y rhai y mae eu Rhieni yn Dlodion, a nhwythau yn gallu eu porth•• hwynt, er hynny a oddefant iddynt fôd mewn eisiau o bethau angenrheidiol? Sanct Joan a ddywaid, Nâd oe•• mo gariad Duw yn aros ynddo ef, yr hwn sydd yn cae ei dostur•• oddiwrth ei frawd, 1 Joan 3. 17. Pa fodd gan hynny y gall ef aros yn y Plentyn hwnnw, yr hwn a gaeo ei dostur•• yn erbyn ei Dâd neu ei fam ei hun? Yr hwn a chanddo nid yn unic ddigonolrwydd, ond hefyd helaethrwydd o
Page 159
bethau 'r bŷd, sy yn goddef iw Rieni fôd mewn diffyg o bethau angenrheidiol?
2. Drwy garu eu Rhieni; Ac mewn gwirionedd y cariad yr hwn sydd gan Rieni iw Plant, ac a eglurhasant yn eu dwyn hwy i fynu yn y bŷd, a ddylei drwy gyfraith o uniondeb gynnhyrfu mewn Plant gariad iw Rhieni; Am fod cariad yn haeddu cariad.
3. Drwy guddio a chelu eu gwendidau hwynt, yr hyn a eglurhâ wirionedd eu cariad hwy iw Rhieni, ac a bair fendith Dduw arnynt. Darllen yr ydym ni fendithio Sem a Japheth am hyn, o herwydd na fynnent hwy weled no∣ethni eu Tâd, pan ydoedd ef yn feddw yn gorwedd wedi ymnoethi ynghanol ei Babell. A Cham, am ddatcuddio a mynegi noethni ei Dâd, a felltithiwyd gan Dduw. Megis gan hynny ac y mynnei Blant ochelyd melltith Cham, by∣dded iddynt yn ofalus ymochelyd rhag pechod Cham, gan ymattal rhag tanu âr lêd wendid eu Tâd, Gen, 9. 22, 23, 24, &c.
PEN. XXVII. Am Ddyledswyddáu Meistriaid.
Y Pen olaf o berthynasau Teulu yw Meistr a Gweision. Dyledswyddau a berthynant i feistreid tu agat eu Gweision a ellir eu dwyn dan ddau o Bennau.
1. Y cyfryw ar a berthynant i Gyrph eu Gweision.
2. Y cyfryw ar a berthynant i Eneidiau eu Gweision.
Dyledswyddau Meistreid tu ag at Gyrph eu Gweision, ydynt
1. Darparu dillad cymmwys iddynt, y cyfryw ac a'u clydháo bwynt yn erbyn tostrwydd yr hîn. Fy meddwl yw, od oes ar∣nynt rwym i geisio dillad iddynt, fel y mae cyflwr bagad o Brentisiaid.
2. Rhoddi iddynt ymborth iachus a digonol. Megis ac y mae yn rhaid iw hymborth hwy fôd yn iachus o ran cynnal eu hiechyd, felly yn ddigonol o ran chwanegu eu cryfder, fel y gallont hwy fôd yn gyfnerthach i wneu∣thur
Page 160
gwafanaeth eu Meistreid mewn llawenydd.
3. Rhoddi Physygwriaeth iddynt pan ydynt gleifion. Canys gorchymmynnir i feistreid wneuthur iw gweision yr hyn sydd gyfiawn ac uniawn, Col. 4. 1. Ac onid yw gyfiawn ac uni∣awn ir gweision hynny ar sy yn llafurio dros eu Meistred yn amser eu hiechyd, gael gan eu Meistreid ofalu dro∣stynt yn amser eu clefyd? Gofal y Canwriad dros ei wâs oedd glâf a adawyd mewn coffadwriaeth er mwyn i ni wneuthur ar ei ôl, yr hwn a arferodd y moddion goreu a wyddei i gael o'i wâs ef ei iechyd; yr hyn oedd dyfod at Grist. Mat. 8. 6. Cyweithasrwydd y Canwriad ymma ac yntef yn un o'r Cenhedloedd, a eill fôd yn dystiolaeth yn erbyn Anghyweithasrwydd bagad o Gristianogion y rhai ni ofalant ond ychydig am eu gweision a'u morwy∣nion cleifion.
4. Bod heb eu gorthrymmu hwynt â gwaith, drwy eu gorch∣fygu â gormod o orchwyl, gan ofyn ganddynt fwy nag y allant yn dda ddyfod o ben a'i wneuthur. Hyn a fyddei yn greulonder mewn dŷn tu agat ei Anifail, mwy o lawer mewn meistr tu ag at ei Wâs. Yn siccr yr Aiphtiaid a driniasant yr Israeliaid mor greulon, a griddfannu o ho∣nynt tan eu beichiau, y rhai yr escynnodd eu griddfannau i glustiau Duw, yr hwn ar hynny a ddescynnodd iw gwa∣redu hwynt allan o'u caethiwed, Exod. 3. 7, 8. A bydded i waith Duw yn gwrando ar waedd y gweision gorthrym∣medig hynny, ac yn eu dial hwynt ar eu Gorthrymmwŷr, beri i bob Meistred ochelyd rhag gosod beichiau trym∣mion ar eu gweision, gan ofyn ychwaneg ganddynt nag a allont hwy yn dda ei▪ gyflowni, rhag iw griddfannau escyn i fynu at Dduw.
5. Talu iddynt eu cyflogau pan yw yn ddyledus, heb ei ho∣edi, neu eu twyllo hwynt am un rhan o honynt▪ Fe a'i cyfri∣fir yn yr Scrythur, megis Pechod sy yn llefain, bôd yn attal ac yn dal yn ôl gyflogau Llafurwŷr neu Weision; pechod ar sy yn llefain ar Dduw am ddial, yr hwn yw Dialwr y Tlawd; ac megis ac y mae ef yn dalsulw ar eu Cammau a'u Gorthrymderau hwynt mewn modd en∣wedigol, felly y cymmer ef ofal am eu dialu hwynt Deut. 24. 14. Lev. 19. 13. Jac. 5. 4.
Page 161
II. Dyledswyddau Meistred tu ag at Eneidiau eu Gwa∣sanaeth ddynion ydynt,
1. Dyscu a Chatechisio eu Gweision a'u morwynion ym Mhrif-byngciau crefydd. Canys os yw yn ddyledswydd ar bob Penteulu i ddarparu ymborth i gyrph eu Gweision, pa faint mwy y dylent hwy ofalu am borthiant eu he∣neidiau hwynt? ie gwybydded pob Meistreid▪ Teuluoedd, y gorchymynnir iddynt yn eglur ddyscu a Chatechisio eu Gweision, fel y mae'r Gweinidog i ddyscu ei Braidd; fal y tystia gorchymmyn Duw ir Israeliaid, Deut. 6, 7. Crybwyll am fy Nghyfreithiau pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfo∣dych i fynu. A Duw a eglurháodd mor gymmeradwy yw hynny ganddo ef, wrth ganmol Abrabam am ei arfer yn hynny, Gen. 18. 19.
2. Peri darllen yr Scrythyrau yn fynych yn y Teulu. Yr ydym ni yn darllen ddarfod gorchymmyn i bobl Israel dan y Gyfraith scrifennu geiriau yr Arglwydd âr bŷst eu Tai, fel y gellid eu darllen hwy yn fynych gan bawb o fewn y Tŷ. Deut. 6. 6, 9. Ar Apostol Paul a ddywaid, Preswylied Gair Crist ynoch. Col. 3. 16. Wrth Air Crist y mae'r Apostol yn meddwl Athrawiaeth yr Efengyl, yr hon a gyhoeddwyd gan Grist, ac sy yn gynnwysedig yn y Testament Hên a'r Newydd. Preswylied yr gair hwn, medd yr Apostol, ynoch, hynny yw, bod yn ymarfer llawer yn darllen y gair, megis yn eich Stefyll, felly yn eich Teu∣luoedd; neu megis ac y mae Calvin▪ yn ei ddeongli, Gw∣newch y Gair yn gydnabyddus â chwi, drwy roddi a gwneuthur iddo groeso yn eich teulu. Ond ysywaeth! pa ddieithrad yw'r Gair ir rhan fwyaf o Deuluoedd? pa mor anfynych y darllennir ef yn ei plith hwynt? Os uffern a fydd y tŷ lle ni ddarllenner yr Scrythyrau, Megis ac y dywaid Luther, Och pa nifer o deiau sydd megis cyn∣nifer o uffernau, o ddiffyg darllen yr Scrythyrau?
3. Gweddio beunydd yn â chydâ'u Teulu. Offrymmu A∣berth foreuol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw yn eu Teulu. O ran eich cynnhyrfu chwi yn well ir ddy∣ledswydd hon o Weddi deuluaidd, yr hon a esceulufir yn dramawr, myfi a orchymynnaf i chwi ychydig Resymmau,
Page 162
1. Y cyntaf a gymmerir oddiwrth arfer y ffyddloniaid ym mhôb oes. Yr ydym ni yn darllen mai arfer Abraham 1 ba le bynnag y deuai, ydoedd adeiladu allor i Dduw, lle y galwei efe gyd â'i deulu ar Dduw. Gen. 12. 8. a'r 13. 4. a'r 21. 33. Darllen hefyd yr ydym mai arfer Job ydoedd, fel y gellwch ei gael, Job 1. 5. Ac arfer Josua, fel yr ym∣ddengus yn ei dystiolaethiad ef, Ond myf••, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd. Jos. 24. 15. Yn y Testament Newydd mae coffadwriaeth am Cornelius, Ei fod ef yn ŵr defosionol, ac yn ofni Duw, ynghŷd â'i holl dŷ, ac yn gwe∣ddio Duw yn wastadol. Act. 10 2. Yr hyn sydd yn arwy∣ddocau ei fod ef yn cynnal trefn wastadol mewn gweddi Yn awr y mae tystiolaeth o'r pethau hyn er addyfc i ni, fel y gallem ni felly scrifennu ar ol eu Copi hwy, drwy ddilyn eu siampl hwy mewn dyledswydd mor rhagorol.
2. Pob Meistr yn ei Deulu sydd Frenin, Prophwyd, ac Offeiriad. Mae ef yn Frenin i lywodraethu ei Deulu, yn Brophwyd i ddyscu ac athrawiaethu ei Deulu, ac yn Offeiriad i offrwm Aberth o Weddi a diolch, nid yn unic drosto ei hun, ond hefyd dros bawb ar a orchymynnwyd iw lywodraeth ef▪ Gan hynny gwybydded pob Meistred Teuluoedd, mai eu dyledswydd hwy, yr hon a ofyn Duw ganddynt, yw nid yn unic gweddio ar eu pennau eu hu∣nain (ac etto mi a fynnwn pe gwnai bawb hynny) eithr hefyd galw ynghŷd eu holl deulu, a bôd yn enau iddynt at Dduw mewn gweddi, ir hyn y gellir eu hannog drwy rasol addewid Duw, Mai lle mae dau neu dri wedi ymgyn∣null yn enw Crist, yno y bydd efe yn eu canol hwynt, Mat. 18. 20.
3. Meistr Teulu, drwy ei offrymmiad beunyddiol o fo∣reuol a phrydnawnol Aberth o weddi a moliant, a wnaiff ei dŷ yn dŷ gweddi, neu yn Deml fechan, yr hon a leinw Duw â'i bresennoldeb. Ie Tŷ y Cristion a wneir drwy hyn yn Eglwys Dduw, wrth wastadol gyflawni dyled∣swyddau sanctaidd, yr hyn sydd yn anrhydedd mawr i deulu.
4. Gweddiau Teulu ydynt foddion enwedigol i ddwyn ben∣dith Dduw ar yr holl deulu, ac ar eu holl orchwylion cy∣freithlon a gymmeront mewn llaw. Megis ac y bendi∣thiodd
Page 163
Duw dŷ Obed-Edom er mwyn yr Arch: felly y bendithia Duw y teuluoedd hynny yn yr rhai y gelwir ar enw Duw, 2 Sam. 6. 11. Canys Duwioldeb sydd yn fu∣ddiol i bôb dim, yn gystal mewn teuluoedd, ac mewn un gymdeithas arall.
5. Rheswm arall a ellir ei gymmeryd oddiwrth y pe∣rigl sydd o esceulufo y ddyledswydd hon o Weddi mewn Teulu, am fod y cyfryw rai yn syrthio mewn perygl o lid a digofaint Duw, Tywallt dy lîd âr y Cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw, medd y Prophwyd Ieremi. Pen. 10. 25. Y rhai 'n ei∣riau ydynt yn cynnwys rhegfen ofnadwy yn erbyn pob teuluoedd-diweddi. Ac y mae iw nodi, fôd y cyfryw rai ar sy yn esceuluso y ddyledswydd hon o weddi yn eu teulu, wedi eu cyssylltu â'r Cenhedloedd; a diammeu mai cymmwys iawn, canys ym mhâ beth y maent hwy yn rhagori ar y Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt gymmaint a ffurf Duwioldeb yn eu teuluoedd, ar y sawl y tywallta Duw ei lîd? Oh meddyliwch am hyn chwy∣chwi bawb ar sydd heb wneuthur dim cydwybod o we∣ddio beunydd gyd âch teuluoedd, ystyriwch hyn yn dda, a gosodwch y peth at eich calonnau. Onid ydych chwi tan y felltith Brophwydol honno, ac yn hyrwym o gael tywallt llîd a digofaint Duw, arnoch eich hunain, ac ar bawb ar sydd yn perthyn i chwi? sef eich Gwragedd, eich Plant, eich Gweision, ie eich marsiandiaeth oll a'ch golud hefyd? Da y gellir scrifennu ar ddrysau 'r cyfryw dai, fal y dywaid ûn, Arglwydd trugarhâ wrthym; am fod yn siccr nad yw plâ Duw chwaith neppell oddiwrthynt, ond yn agos attynt.
Gwrthddwediad. Yn fy nhybygoliaeth mi a glywaf ryw rai yn dywedyd, eu bod hwy yn cwbl goelio fod y ddyledswydd yn angenrheidiol, ac a fynnent eu bod yn ei gwneuthur hi, eithr och! ni fedrant, ac nis gwyddant pa fodd i weddio.
Atteb. Myfi a gynghorwn y cyfryw rai i ddarllen rhyw weddi dda, yn hytrach nac esceuluso y ddyledswydd yn hollawl; canys llawer o Feistred Teuluoedd, y sawl ni fedrant ddychymmygu gweddi o honynt eu hunain, etto os cyfarsyddant â ffûrf o weddi cyfattebol iw hachosi
Page 164
on, a fedrant weddio yn galonnog ac yn ddifrifol. Er hynny ni fynnwn i iddynt hwy mor ymfodloni yn wa∣stad ar ddarllen ffurf gweddi, ond rhoddi cais ar we∣ddio o honynt eu hunain heb lyfr. Ac o ran eich cym∣morth yn hyn, cymmerwch y ddwy Hyfforddiad ymma,
1. Deliwch sulw yn ofalus ar weddiau rhai eraill, eu trefn, a'u ffordd.
2. Deliwch sulw ar eich pechodau eich hunain yn neilltuol, ac ar eich diffygion neilltuol, pa radau sydd arnoch eu heisiau, ac yr ydych iw chwennych. A hefyd deliwch sulw ar fendithion neilltuol Duw a gyfrannwyd i chwi, a thrwy hynny y deuwch i allu gweddio eich hunain mewn rhyw fesur, drwy gyfaddef eich pechodau wrth Dduw, ac erfyn, megis am gael pardwn o honynt yn a thrwy haeddedigaethau Jesu Grist, felly am y cyfryw radau y byddo arnoch eu heisiau. A phan fedroch chwi unwaith mewn dim mesur gweddol weddio drosoch eich hunain, yna o fesur ychydig ac ychydig chwi â ellwch ddyfod i weddio gŷd âch Teulu.
PEN XXVIII. Am Ddyledswyddau Gweision iw Meistreid.
WEdi dangos Dyledswyddau Meistreid tu ag at eu Gweision, yn awr y deuwn at Ddyledswyddau Gweision tu ag at eu Meistreid; y rhai a ellir eu dwyn i dri o bennau, hynny yw▪ 1. Ʋfydd-dod. 2. Diwydrwydd. 3. Ffyddlond▪ b.
I. Ʋfydd-dod yw yr hyn y mae 'r Apostol St Paul yn ei fynych ddirio ar Weision, megis Pen a phrif ddyled∣swydd. Ephes. 6. 5. 6. Cal. 3. 22. Ac mewn gwirionedd nid oes neb or rhai Iselrâdd yn fwy rhwym i ufudd-dod nâ Gweision. Eich ufudd-dod chwi (Weision) sydd raid ei egluro mewn dau beth.
1. Drwy ufyddhau yn brysur i orchymmyn eich Meistred, Canys mewn gwirionedd priodol waith gwâs ydyw gw∣rando ar eirchion ei feistr, ac ufyddhau yn brysur idd∣ynt.
Page 165
2. Drwy ddiodilef argyoeddion a cheryddon yn oddefgar, ie er gwneuthur y cerydd ar gam, heh achos gyfiawn, yr hyn y mae 'r Apostol Petr yn ei ofyn yn eglur gan Weision, canys medd efe, 1 Pet. 2. 18, 19, 20. Y gweision byddwch ddarostyngedig gyd â phôb ofn, i'ch Meistred, nid yn unic ir rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas befyd; ca∣nys hyn sydd rasol os yw nêb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glôd yw, os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os a chwi yn gwncuthur yn dda, ac yn dio∣ddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw. Ac os dylid dwyn yn oddefgar geryddon neu gos∣pedigaethau anghyfion, yna yn fwy o lawer argyoeddion ang∣hyfion. Eithr os bydd yr argyoeddiad neu 'r cerydd yn gyfion, yna y dylech chwi yn brysur wellhau a diwygio y pethau am y rhai ich argyoedder neu ich cerydder chwi yn gyfiawn. O ran y Môdd y mae i Ʋfudd-dod Gwei∣sion fôd, yr Apostol a'i gesyd ar lawr mewn amryw ymadro∣ddion: Megis,
1. Rhaid yw iddo fôd yn Ʋfydd-dod pûr. Hyn y mae yr Apostol yn ei osod ar lawr mewn dau o ymadroddi∣on yn yr ûn wers, Col. 3. 22.
1. Drwy ymwâd, Nid â llygad-wasanaeth.
2. Drwy Haeriad, Mewn symlrwydd calon.
Nid â llygad-wasanaeth, yr hyn sydd yn arwyddocau gwasanaeth noeth oddiallan yn unic, i ryngu bodd i ly∣gad dŷn, Eithr mewn symlrwydd calon, megis pe dyweda∣fei, Na fydded eich Ufydd-dod yn rhagrithiol, yn unic er mwyn cael ei weled gan eich Meistred, eithr bydded mewn gwirionedd ac uniondeb calon, gan wneuthur gwasa∣naeth i'ch Meistreid ym mhurdeb eich calonnau, heb na ffûg na rhagrith, gan lafurio a gweithio yn absennol∣deb eich Meistr yn gystal ac yn ei bresennoldeb ef, gan gofio fod llygad Duw arnoch chwi yn wastadol.
2. Rhaid ich ufydd-dod chwi fôd yn gydwybodus, er mwyn cydwybod, am fod yr Arglwydd yn ei ofyn oddiar eich dwylo chwi; cymmaint a hynny y mae yr Apostol yn ei adrodd, Col. 3. 23. canys wrth lefaru wrth Wei∣sion, y mae ef yn dywedyd, Pa beth bynnag a wneloch,
Page 166
gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, fel pe dywedasei, Pa wasanaeth bynnag a wneloch i'ch Meistred, gwnewch▪ ef er mwyn yr Arglwydd, oblegit darfod iddo ef ei or∣chymmyn, ac am hynny gwnewch ef o ran cydwybod i Air a gorchymyn Duw, yr hwn sy yn gofyn gennych wneuthur gwasanaeth ac ufydd-dod pûr i'ch Meistred, canys hyn a'ch cynnhyrfa iw wneuthur ef yn y modd gorau y medroch, fel y byddo ef felly yn gymmeradwy gan Dduw, ac y gobrwyo ef chwithau am dano.
3. Rhaid ich ufydd-dod fôd yn hollawl i bôb peth ar a ofynnant gennych; a hynny y mae 'r Apostol yn ei adrodd, Col. 3. 22. Y Gweision, medd ef, ufyddhewch ym mhob peth i'ch Meistreid, hynny yw, nid yn unic yn y cyfryw be∣thau ar sy yn ymddangos yn hawdd▪ ac yn rhyngu bódd i'ch meddwl chwi yn fwyaf, ond pa beth bynnag a or∣chymmynant i chwi, a hynny heb fôd yngwrthwyneb i Air Duw, ond sy ynddo ei hun yn onest ac yn gyfreith∣lon; canys os gorchymynnant i chwi ddywedyd celwydd, tyngu, neu arfer pwysau a mesurau anghywir, y rhai ydynt bethau y mae Duw yn ei gwarafun, ni ddylech chwi yn hynny mor ufyddhau iw gorchymynion hwynt, ond dywedyd wrthynt, fal y dywedodd Ioseph wrth ei Feistres; Pa fodd y gallaf wneuthur y mawrddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw? Er bôd Ioseph yn wâs iw Feistr, er hynny ni fyddei ef yn wâs i drachwantau ei Feistres.
II. Dyledswydd arall sy yn perthyn i Weision yw, Di∣wydrwydd yn dwyn gwaith a gorchwyl eu Meistreid i ben, heb ddim godechial, neu feddwl am eu hesmwythdra a'u pleser eu hunain; eithr megis ac y mae eu cryfder hwy a'u hamser yn eiddo eu Meistreid, felly y dylent hwy osod allan eu cryfder a gwneuthur defnydd o'u holl am∣ser yn-gwasanaeth eu Meistred; eu holl amser, meddaf, oddieithr rhyw gyfran o hono o ran eu dirgel ddefosi∣onau, yn enwedigol eu Boreuol a'u Prydnawnol Weddi∣au at Dduw; canys rhaid yw i Weision edrych am waith eu Meistr nefol, yn gystal ac am waith eu Meistr daiarol, a gwneuthur cymmaint cydwybod o gyflawni eu dyledswydd iddo ef, ac iw Meistr yn ôl y cnawd; canys mewn gwirionedd, yr Arglwydd yw 'r Meistr goreu, yr
Page 167
hwn sydd yn rhoddi y cyflogau goreu, ar gwobrwyon he∣laethaf.
III. Dyledswydd arall yw Ffyddlondeb. Mae yn rhaid i Weision ddangos pob ffyddlondeb iw Meistred, fel y mae'r Apostol yn adrodd▪ Tit. 2. 10. Yr ymddiried hwnnw a ro∣ddir mewn Gweifion, ar cyfrif a ofynnir ganddynt sydd yn gofyn ffyddlondeb. Onid côf gennych beth a ddy∣wedodd yr Arglwydd wrth ei Oruchwiliwr, Dyro gyfrif o'th oruchwiliaeth? Luc. 16. 2. Ac oni alwyd y gweision y rhoddwyd y talentau iddynt i gyfrif am danynt? Mat▪ 25. 19. Pa fodd gan hynny y mae yn perthyn i bob Gweision fod yn ffyddlon iw Meistred, yr hyn a ddylent hwy ei ddangos yn eu geiriau a'u gweithredoedd.
1. Mewn geiriau, heb lefasu escusodi un weithred an∣arddelus drwy ddywedyd celwydd, yr hyn yw chwanegu pechod at bechod; ystyried pob Gweision celwyddog y farnedigaeth ofnadwy a wnaethpwyd ar Gehezi, yr hwn pan ofynnodd ei feistr iddo pa le y buasei, yn ebrwydd efe a'i hattebodd ef â chelwydd, gan ddywedyd, Nid aeth dy wâs nac ymma na thraw; ar yr hyn yr aeth ef allan o'i ŵydd ef, yn wahanglwyfus cyn wynned ar eira, 2 Bren. 5. 25, 27.
2. Mewn gweithredoedd, a hynny amryw ffyrdd,
1. Heb fod yn cyfrannu da eu Meistred yn ôl eu hew∣yllys eu hunain, naill ai iddynt eu hunain, drwy gym∣meryd mwy nag a ganiadheir iddynt, neu i eraill, drwy roddi ymmaith un rhan o honynt. Mae bagad o Weision yn tybied y gallant hwy yn gyfreithlon roddi bwydydd, neu ryw bethau eraill o'r eiddo eu Meistreid i'r tlodion; eithr er gallu o honynt ddwyn ar ddeallt iw Meistred neu eu Meistresau fôd y cyfryw bethau yn y tŷ ar sydd yn gymmwys iw rhoddi, a hefyd Pwy yw y sawl sydd gymmwys i dderbyn y cyfryw elusenau; er hynny nid oes ganddynt ddim awdurdod o honynt eu hunain i ro∣ddi dim o eiddo eu Meistred; ac nid yw lliw o Gariad escus da yn y byd tros Ladrad.
2. Heb fôd yn dirgel ysgyflio neu chwiwo a darngu∣ddio dim o dda eu Meistred iw rhaid neilltuol eu hu∣nain, yr hyn y mae 'r Apostol yn eglur yn ei gondem∣nio
Page 168
mewn gweision, Tit. 2. 10. Gwybydded pob gweision yspeilgar, fod llyfr yn llawn Melltithion a Phláau yn erbyn pob un a ledratto, neu a dyngo, yr hwn sydd Lyfr ehelaeth, a'i hŷd yn ugain cufydd, a'i lêd yn ddeg cufydd, ac er hynny yn llawn Melltithion y rhai a ddeuant yn brysur arnynt hwy, megis ac y llefara'r Prophwyd Zachariah, Pen. 5. 2, 3, 4.
3. Eithr yn hytrach rhoddi cais a'r gadw, a chynny∣ddu golud eu Meistred drwy bob moddion da a chy∣freithlon. Fal hyn y mae 'r Apostol Paul yn adrodd dy∣ledsw ddau Gweision, Tit. 2. 10. Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; sef, iw Meistred, yn chwanegu eu golud hwynt, yr hyn a ganmolir yn fawr yn y Gwas hwnnw yn y Ddammeg, am yr hyn y derbyniodd ef gan ei Arglwydd a'i feistr, nid yn unig glôd rasusol, yn y gei∣riau hyn, Da, wâs da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig, eithr hefyd wobrwyad helaethlawn, yn y geiriau nessaf, Mi a'th osodaf a'r lawer; dôs i mewn i lawenydd dy Arglwydd. Mat. 25. 21. Yr hwn gan hynny sydd ffyddlon ar ychydig, sy yn cymmeryd y ffordd oreu mewn llaw i ddyfod i gael ei osod ar lawer, os gwel yr Arglwydd hynny yn dda iddo ef.